Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
08/11/06
Hogiau Ifanc yn creu argraff / Young boys impress

Datgelodd Osian Roberts fod dau o chwaraewyr ifanc y clwb wedi’u cynnwys yng ngharfan Cymdeithas Arfordir y Gogledd i chwarae yn erbyn tîm y Gogledd Ddwyrain nos Iau yn Airbus. Er mae ond dau sydd wedi’u dewis y tro yma mae Roberts yn obeithiol am weld dau neu dri arall yn derbyn y cyfle a chreu argraff dros y misoedd nesaf. Y tro yma dewiswyd Mark Cook y blaenwyr ifanc sydd yn cael ei adnabod yn lleol fel “Scows” – mae’n raddol yn gwthio’i hyn i’r tîm cyntaf ar ôl creu argraff wrth chwarae i’r ail dîm.
Dywedodd Roberts fod Cook wedi ymateb yn dda o’i gyflwyno i’r Uwch Gynghrair ac mae yn sicr yn un at y dyfodol. Roedd ei berfformiadau ar Y Traeth yn erbyn Rhyl a ffwrdd yn TNS yn dangos fod ganddo’r talent i ddatblygu’n bellach. “ Mae Scows yn gryf yn yr awyr, yn ymdrechu’n galed ac yn ddewr. Mae ei dechneg yn gwella’n gyflym gan ddysgu wrth flaenwyr eraill yn y clwb Jason (Sadler), Carl (Owen) a Les (Davies)” Mae Roberts wedi’i blesio’n fawr gydag agwedd Cook a’i awydd i lwyddo. “ Mae ganddo’r awydd i wella ac mae hynny’n bwysig. Mae ei gyflymder yn gwella wrth iddo weithio ar ei ffitrwydd ond rhaid iddo ddal ati.
Y dewis arall ydy Iestyn Woollway. Mae Woolway yn gyflym, sgilgar ac croesi’r bêl yn dda ac hefyd yn sgorio goliau. Gweithiodd Roberts gyda’r chwaraewr llynedd yn y Coleg ac mae’n edmygu ei dalent.
“ Bu Iestyn yn anlwcus hyd yma i beidio cael fwy o gyfleoedd ond mae’n rhaid dod ac o i fewn ar yr amser iawn. Mae’n ymarfer gyda’r tîm cyntaf bob wythnos ac mae’n datblygu’n dda. Fe ddaw ei gyfle a pan y daw rwy’n siwr y bydd yn ei gymryd.”

Osian Roberts revealed that two of Port’s young standouts have been selected to play for the North Wales Coast FA against their North East counterparts on Thursday night at Airbus UK. Although only two have been selected this time, Roberts is hopeful that 2 or 3 others will get a chance to impress over the next few months. Selected this time around is young striker Mark Cooke – known locally as ‘Scouse’ – who has steadily been breaking into the first team after impressing with the Reserves.
Roberts said that Cooke had responded well to his baptism in the Welsh Premier thus far, and has high hopes for him. His performances, especially at home against Rhyl, and away versus TNS demonstrate he can progress further. “Scouse is strong in the air, very willing and brave, and his technique is improving rapidly. He is learning quickly off our other three strikers Json (Sadler), Carl ( Owen) and Les ( Davies).”
Roberts is more than pleased with Cooke’s attitude and eagerness to do well. “He’s got this inner drive to improve, and that’s important. His times are coming down on the fitness work as well, but he still needs to work hard.”
The other selection is young striker / midfielder Iestyn Woollway. Woollway is quick, skilful, is a very good crosser of the ball and can score goals. Roberts worked with the youngster last year at his College and is a big admirer of his talents.
“Iestyn has been a bit unlucky not to get more opportunities so far this season, but it’s been difficult bringing him in at the right times. He trains with the first team every week and is coming along nicely. I think his chance will come though, and when it does I’ll be very surprised if he doesn’t take it.”
08/11/06
Wythnos grêt i Port! / Great week for Port

TNS 2 - 1 Porthmadog (www.welsh-premier.com)Roedd y cyd Rheolwr Osian Roberts yn hael ei ganmoliaeth i’r garfan yn dilyn eu buddugoliaeth anhygoel yn erbyn y Seintiau Newydd. Pwysleisiodd mai llwyddiant CARFAN oedd hwn gan ei fod o a Viv Williams wedi gwneud pump o newidiadau i’r tîm a ymddangosodd yn y fuddugoliaeth dda dros Dinas Bangor ar Y Traeth ddydd Sadwrn.
Eglurodd Roberts fod gan y cyd rheolwyr ddilema dros y dyddiau nesaf i ddewis y garfan a’r tîm i gychwyn ar gyfer y gêm ar Y Traeth ddydd Sadwrn –cur pen i’w groesawu!
Roedd Roberts wedi’i blesio â’r canlyniad yn TNS gan ddweud ei fod yn sicr yn galondid ar ôl colli adref yn y gynghrair yn ddiweddar.
“Er hynny dydy o ddim yn gwneud yn iawn am y golled yn y gynghrair, gêm y teimlais ein bod yn anlwcus iawn i orffen â dim i ddangos am ein hymdrechion. Ond y tro yma gwnaethom baratoi ychydig yn wahanol o ran tactegau ac ar ôl i Viv a minnau benderfynu ar gynllun ymatebodd yr hogiau’n wych”
Pan ofynnwyd iddo wneud sylw ar y ffaith fod TNS wedi cael gymaint o’r bêl yn ystod y gêm dywedodd ‘Mae rhai timau yn cadw’r bêl tra fo eraill yn sicrhau’r canlyniad. Mae yna gelfyddyd i amddiffyn a gwnaeth y chwaraewyr yn wych heno. Mae o hefyd i wneud efo’r hyn sy’n digwydd pan fo’r bêl gynnoch chi –rhaid ichi frifo’r gwrthwynebwyr.’
Er hyn, roedd Roberts yn awyddus i bwysleisio mai gêm dydd Sadwrn yw'r un bwysig gan fod pwyntiau cynghrair yn y fantol. O edrych ymlaen at ddydd Sadrwn roedd Roberts yn teimlo y byddai Bangor yn siwr o geisio talu'r pwyth yn ôl a dangos sut fath o dîm ydynt go iawn.
"Rwy'n disgwyl gêm llawer anoddach dydd Sadwrn. Mae gan Bangor chwaraewyr o safon yn eu tîm, a dydyn nhw ddim yn troi'n chwaraewyr sal dros nos. Rwyn disgwyl iddynt ymateb. Ond hon ydy'r gêm sy'n cyfri i ni - 'da ni angen y pwyntiau."

Following the astounding 2-1 win at The New Saints, joint Manager Osian Roberts was full of praise for the Porthmadog squad of players. He emphasised SQUAD since he and Viv Williams made no less than 5 changes to the starting line-up from Saturdays’ fine home win against Gwynedd rivals Bangor City.
Roberts explained that the joint Managers have the dilemma over the next few days of selecting the squad and starting line-up for the home match on Saturday – a welcome dilemma at that!
Commenting on the TNS victory, Roberts was pleased with the outcome, which makes up somewhat for the home League defeat Port suffered recently.
“It doesn’t make up for the League defeat, however I felt we were extremely unlucky not to get anything out of that match. This time we approached it slightly differently tactically, Viv and I decided on a game plan, and the players were fantastic.”
When drawn on the fact TNS had the majority of the ball Roberts responded that “some teams keep the ball, other teams keep up the result. Defending is an art, and our players did it impeccably tonight. It’s also to do with what you do with the ball when you’ve got it – you’ve got to hurt the opposition.”
However, Roberts was keen to stress that this Saturday’s match is the most important, because it’s League points at stake. He also felt that Bangor will be like a wounded animal on Saturday, looking to strike back, retain their pride, and show what they’re truly made of.
“I expect a far tougher game this saturday. Bangor have got quality players in their side, and they don’t become bad players overnight. I expect a reaction from them. But this is the one that matters to us as well, we need the points.”
08/11/06
Rownd cyn-derfynol Cwpan Loosemore / Loosemore Cup Semi-final

Cwpan Loosemore CupBu nifer yn holi am y drefn ar gyfer y rownd cynderfynol. Dyma ddywed y rheolau:-
Rheol 13
Bydd gemau’r rownd cynderfynol yn rhai agored. Byddant yn cael eu penderfynu dros ddau gymal –adre a ffwrdd gyda’r gêm gyntaf i’w chwarae ar gae y clwb sydd yn dod allan o’r het yn gyntaf. Os bydd y sgôr yn gyfartal ar ôl yr ail gymal, bydd goliau i ffwrdd yn cael eu dyblu. Gall amser ychwanegol neu giciau o’r smotyn benderfynu’r canlyniad os fyddant yn dal yn gyfartal.
Dyddiadau’r Rownd Cynderfynol yn wreiddiol –
Cymal Cyntaf : Mawrth/Mercher 21/22 Tachwedd 2006
Ail Gymal: Mawrth/Mercher 5/6 Rhagfyr
Sylwer fod y Gwpan Genedlaethol yn erbyn Llanelli wedi’i drefnu ar gyfer 21 Tachwedd, felly mae'n debyg y bydd rhaid ail drefnu'r gêm yn nghwpan Loosemore.

Many have asked how the draw will be made for the semi-final of the League Cup. This is what the rules tell us:-
Rule 13
The draw for the semi-finals will be open. The ties will be decided over 2 legs on a home and away basis, the first match to be played on the ground of the Club to be drawn first. In the event of the scores being level at the end of the second leg then away goals will count double. Extra time and penalties could decide the outcome if the scores remain tied. Semi finals scheduled originally for:–
First leg: Tue/Wed 21/22 November 2006
Second leg: Tue/Wed 5/6 December 2006
Note that the Premier Cup tie against Llanelli is on November 21st, therefore it is likely that the Loosemore Cup tie will have to be re-arranged.
04/11/06
Rownd 4 Cwpan Cymru - TNS unwaith eto!! / Welsh Cup Round 4 - TNS again!!

TNSHeno daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rownd 4 o Gwpan Cymru. Gwobr Port am guro'r hen elyn Bangor yw gêm gartref yn erbyn y pencampwyr TNS! Fydd y gêm ddim yn cael ei chwarae tan y 3ydd o Chwefror blwyddyn nesaf. Wythnos nesaf TNS fydd y gwrthwynebwyr unwaith eto, y tro hwn yng nghwpan Loosemore - oddi cartref ar nos Fawrth 7fed Tachwedd.

The names came out of the hat for the Welsh Cup 4th round tonight. Port's prize for beating the old rivals Bangor will be a home game against current champions TNS! The game won't be played until the 3rd February next year. Next week TNS will be the oponents once again, this time in the Loosemore Cup - away from home on the evening of Tuesday 7th November.
01/11/06
Datganiad ynglŷn â gêm Bangor / Statement on the Bangor game

BangorBydd gêm trydedd rownd Cwpan Cymru Porthmadog a Dinas Bangor yn cychwyn am 12.30pm dydd Sadwrn yn hytrach na’r amser arferol, sef 2.30pm.
Wrth gyhoeddi’r newyddion dywedodd Cadeirydd Port Phil Jones iddynt gymeryd y penderfyniad am ddau reswm. "Mae gêm arall ddiddorol yn cael ei chwarae yn Ne Gwynedd dydd Sadwrn, sef Pwllheli o Gynghrair y Welsh Alliance yn erbyn pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Prinicipality Cymru y Seintiau Newydd. O bosibl dyma gêm bwysicaf Pwllheli ers degawdau a gan bod gan Porthmadog nifer o gefnogwyr ar Benrhyn Llyn yn ogystal ac Eifionydd gwnaethom ymdrech i beidio a mynd ar draws y gêm honno sydd yn cychwyn yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn.
Mae gêm rygbi rhyngwladol Cymru yn erbyn Awstralia hefyd yn fyw ar y teledu yn ystod y prynhawn, ac felly penderfynwyd dod a gêm Port a Bangor ymlaen i 12,30pm.”
Dros y blynyddoedd chwaraewyd 15 o gemau rhwng Porthmadog a Bangor yng Nghwpan Cymru ond nid yw Port wedi ennill yr un ohonynt eto.

Porthmadog FC’s high profile 3rd. round Welsh Cup tie against Gwynedd rivals Bangor City to be played at the Traeth this Saturday will be a 12.30pm kick off. Announcing this decision Port Chairman Phil Jones said there were two main reasons for the re-scheduled kick off, one being the fact that South Gwynedd will host another mouth watering tie on Saturday, Welsh Alliance side Pwllheli against current Principality Welsh Premier League Champions the New Saints. This is probably Pwllheli’s biggest match in several decades and as Porthmadog do have a strong following along the Llyn Peninsula as well as Eifionydd we have made an effort not to clash with their tie which kicks off later on in the afternoon.
The Wales versus Australia rugby international is also live on television during the afternoon and, therefore, we have brought our kick off against Bangor back to 12,30pm.”
Porthmadog have played Bangor 15 times in the Welsh Cup over the years but have never won a tie.
01/11/06
Calendr 2007 / 2007 Calendar

Unwaith eto mae Clwb Peldroed Porthmadog wedi cyhoeddi calendr hanesyddol ar gyfer 2007, y chweched yn y gyfres ers lansio’r cyntaf yn 2002. Bellach mae cannoedd o bobl yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi’r calendr sydd yn cynnwys nifer o luniau hanesyddol o olygfeydd a phobl y dref. “Heblaw y trigolion lleol sydd yn ei brynu mae nifer cynyddol o bobl o bob ban byd yn ei archebu ganddom, y mwyafrif ohonynt wedi symud o’r ardal i fyw unai i Loegr neu gwledydd tramor fel Awstralia, Canada, yr Unol Daliaethau a Ewrop,” medd Gerallt Owen, ysgrifennydd y clwb. “Eleni, eto, ‘rydym yn bles ar y lluniau unigryw a dderbyniwyd gan rhai o drigolion y dref. Bu y clwb peldroed yn rhan anatod o fywyd cymdeithasol a chymunedol Porthmadog ers ei sefydlwyd yn 1884 ac ‘rydym yn falch o’r traddodiad hwnnw. Mae’r calendr wastad yn gwerthu cannoedd o gopiiau ac, heblaw cyfranu tuag at redeg y clwb, mae’n gofnod pwysig o hanes a thraddodiad y dref sydd yn dod ag atgofion melys yn ol i lawer ac yn gyfle i’r ifanc a newydd ddyfodiad i’r ardal cael blas ar y gorffennol. ‘Rydym ar hyn o bryd yn paratoi y calendr ar gyfer 2008 ac yn awyddus i dderbyn lluniau gan bobl leol oherwydd ein bod yn chael hi’n anodd o flwyddyn i flwyddyn i sicrhau digon i gynnig arlwy unigryw a diddorol. Byddem yn ofalus iawn gyda’r lluniau ac ar ol gwneud copiiau ohonynt yn ei dychwelyd rhagblaen i’r perchnogion.” ategodd.
Mae’r calendr ar gael am bris o £3.50 o'r siop arlein neu mewn siopau lleol gan gynnwys siop Kaleidoscope, Heol Fadog (01766-514343) ac Argraffwyr Madog, Stryd Fawr (01766-513053).

Porthmadog Football Club has published its annual calendar for 2007 which is now available in local shops. This is the sixth consecutive version in a series which started in 2002, featuring historical photographs of local scenes, views and personalities. According to the club’s secretary, Gerallt Owen, the calendar has proved very popular since it was first published and its release is always eagerly awaited by many local people. “We are now selling copies to people from all over the world and regularly receive orders from Australia, Canada, the United States and other countries in Europe. They are mostly ex-patriates who have left the area to live abroad. As usual we are pleased with the quality and uniqueness of the calendar and are thankful to those local people who have lent us their valuable photographs every year. We are now working on the 2008 calendar and would be pleased to hear from any local residents who have some historical photographs and would be willing to allow us to copy them. We can guarantee that they will be looked after and returned safely as soon as we have copied them. The calendar brings back many fond memories for hundreds of people but it also gives the younger ones and those who have only recently moved into the area an opportunity to learn more about the town’s wonderful and unique history and traditions”
Copies of the calendar are available in the online shop or in local shops including Kaleidoscope, Madog Street West (01766-514343) and Madog Printers, High Street (01766-513053) and cost £3.50 each.
27/10/06
Gêm Bangor i ddechrau am 12.30 / Bangor match to start at 12.30

BangorMae CPD Porthmadog wedi cadarnhau y bydd eu gêm yn erbyn Bangor yng Nghwpan Cymru ar 4 Tachwedd yn dechrau am 12.30. Ar ôl cael trafodaethau efo Heddlu lleol a Chymdeithas Bêl-droed Cymru mynegwyd pryderon ynglyn â’r posibilrwydd y byddai trafferthion oddi ar y cae yn effeithio ar y gêm. Roedd Bangor yn gyndyn i’r gêm ddechrau yn ystod amser cinio gan ddweud y byddai hyn yn achosi problemau teithio i rai o’i chwaraewyr sy’n byw yn ardal Manceinion, ond maent bellach wedi cytuno i ddechrau’r gêm am 12.30.

Porthmadog FC have confirmed that the the kick-off time for their Welsh Cup tie against Bangor City on Saturday November 4th has been brought forward to 12.30. Having had discussions with the local police and the FAW concerns were expressed that the match might be affected by crowd trouble. As a result the game was brought forward to a lunch time kick-off which will reduce the time spectators will have to drink prior to the game. Bangor were reluctant to change the kick off time citing traveling problems from the Manchester area for some of their players, but they have now agreed to the 12.30 kick-off time.
24/10/06
Dyddiad gêm TNS wedi cadarnhau / Date of TNS game confirmed

TNSCadarnhawyd y bydd gêm Porthmadog yng Nghwpan Loosemores yn erbyn TNS i'w chwarae ar Dachwedd 7fed. Bydd y gêm, sydd i'w chwarae ar faes y Dreflan yn Llansantffraid, yn cael ei chwarae ond dridiau ar ôl gêm gwpan bwysig arall - gêm Bangor yng Nghwpan Cymru ar y 4ydd. Bydd Port yn gobeithio am well canlyniad nac ar eu ymweliad diwethaf â Llansantffraid, pan eu chwalwyd o 7-0 yn ôl ym Mis Ionawr!

I's been confirmed that Porthmadog's Loosemores Cup clash against TNS will be played on November 7th. The game, which is to be played at the Treflan ground in Llansantffraid, will be played only 3 days after another important cup game - the Welsh Cup tie against Bangor on the 4th. Port will hope for a better result than on their last visit to Llansantffraid, when they were demolished 7-0 back in January!
20/10/06
McKenna'n disgwyl sialens / McKenna expects a challenge

Ken McKennaMae TNS, sydd ar hyn o bryd yn geffylau blaen y gynghrair, yn disgwyl gêm anodd yn erbyn Port dydd Sadwrn. Sicrhaodd gôl agoriadol Carl Owen ac ymdrech wych Les Davies gêm gyfartal haeddiannol yn erbyn y tîm proffesiynol ar y Traeth y tymor diwethaf. Dywedodd rheolwr TNS Ken McKenna, sy’n disgwyl sialens anodd arall “Mae Porthmadog bod amser yn le anodd i ymweld â, ac rydym wedi gorfod gweithio’n galed i gael unrhyw beth yno, ond ‘dwi wedi bod yn hapus iawn efo sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd a ‘dwi’n siŵr y gwnaiff ein ymosodwyr sgorio yn helaeth y tymor yma.”

Top of the table TNS are expecting a tough challenge from Port in Saturday’s game. In last year’s match on the Traeth goals from Carl Owen and a fantastic Les Davies effort was enough to give Port a deserved draw against the full-time pros. Ken McKenna, who is expecting more of the same this year, said "Porthmadog is always a tough place to go for us, we've had to work hard for whatever we get there, but I've been pleased with the way things are going, there's a lot of goals in our forwards this season."
19/10/06
Bydd y chwaraewyr ifanc yn cael cyfle / Youngsters to get their chance

Osian RobertsMae’r cydreolwr Osian Roberts wedi trefnu gêm gyfeillgar ddiddorol ar gyfer tîm Dan 21 Port yn erbyn tîm Dan 21 Market Drayton o Sir Amwythig. Mae Roberts wedi trefnu’r gêm yn dilyn ymweliad i’r Clwb fel rhan o’i waith o Asesu Hyfforddwyr ar eu cymhwysterau UEFA.
“Nes i ymweld â’r Clwb ac, o ganlyniad, rydym wedi trefnu’r gêm hon ac hefyd gemau i’n chwaraewyr ifan yn yr Academi. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig i’n chwaraewyr ifanc yn yr Ail Dîm gael cyfle i chwarae yn erbyn chwaraewyr o safon uwch na’r rhai sy’n chwarae yng Nghynghrair Gwynedd os ydynt yn mynd i godi i’r Tîm Cyntaf.”
Nid yw dyddiad y gêm wedi cael ei gadarnhau, ond bydd y Cydreolwyr yn trafod efo aelodau’r pwyllgor yn fuan gan geisio cael lle i’r gêm rhwng gemau eraill pwysig yn y Cwpanau.
Pwysleisiodd Roberts bod yr Ail Dîm yn hanfodol i lwyddiant y clwb yn y dyfodol. “ Yr unig ffordd y gallwn ni oroesi yn yr Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd nesaf yw dyrchafu chwaraewyr tu mewn y clwb. Roedd 5 o’r chwaraewyr a chwaraeodd neithiwr yn erbyn Caernarfon wedi codi drwy’r system, a bydd y cyflenwad hwnnw yn parhau. Mae Viv a mi wedi’n plesio’n fawr efo dau neu dri o’r chwaraewyr ifanc yn ystod yr ymarfer a byddant yn sicr o gael cyfle yn eithaf buan.”

Joint Manager Osian Roberts has arranged a fascinating friendly for Port’s Under 21 players against their counterparts from Shropshire side Market Drayton. Roberts has arranged the match following a visit to the Club as part of his work Assessing Coaches on their UEFA qualifications.
“I recently visited the Club and as a result we’ve organised this match and also matches for our youngsters in the Academy. I think it’s important for our young players in the Reserves to get an opportunity to play more quality matches than they get in the Gwynedd League if they are to progress into the first team.”
The date for the match is yet to be confirmed, but the Joint Managers will sit down with the committee members shortly and try and fit the midweek match around other important Cup matches.
Roberts emphasised that the Reserve side are vital to the future success of the Club. “The only way we can survive over the next few years in the WPL is to promote from within. Last night at Caernarfon no less than 5 of the players involved had come through the system, and that supply can’t run out. Viv and I have been quite impressed with two or three other young reserves in training and no doubt their chance will come sooner rather than later.”
19/10/06
Yr Academi Dan 21 yn disgleirio / Academy Under 12 shine

Cafodd Academi Dan 12 Porthmadog ddechrau gwych gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Cei Connah ddydd Sul. Roedd safon y chwarae’n dda, ac fe sgoriodd y ddau dîm goliau gwych. Port oedd yr enillwyr haeddiannol yn y diwedd o 4 gôl I 2, ond roedd yn rhaid iddynt weithio’n galed yn erbyn tîm talentog a gweithgar y Nomadiaid. Llion Williams enillodd y gêm efo dwy gôl, yn dilyn goliau yn gynharach gan Robin Roberts a Cedri Owen.
Er ei fod yn falch bod yr hogiau wedi ennill y gêm, roedd ganddo lawer mwy o ddiddordeb yn y ffordd roedd yr hogia wedi chwarae. “Gan gofio mai hon oedd eu gêm gyntaf ro’n i’n meddwl bod yr hogia yn wych. Nes i fwynhau edrych ar y gêm. Mae canlyniadau yn rhoi hyder i’r hogia y peth pwysig yw eu bod yn mwynhau ac yn datblygu.”
Yn ystod y gêm roedd y chwaraewyr yn gallu newid eu safleoedd a chwarae mewn safleoedd nad oeddynt wedi chwarae ynddynt o’r blaen. “ Mae clybiau rwyf wedi eu hymweld fel Ajax, Juventus a Valencia yn ceisio dysgu’r hogiau ifanc i chwarae mewn nifer o safleoedd pan maent yn ifanc, a dwi’n meddwl bod hwn yn syniad da. Mae’n siwr o helpu’r hogiau yn eu datblygiad wrth iddynt ddechrau dysgu’r gêm.
Tîm: Robbie Bridgewater, Josh Hughes, Liam Davies, John Owen, Leam Hughes, Chris Jones, Llion Williams, Robin Roberts, Cedri Owen

Porthmadog Academy’s Under 12 side got off to an excellent win at home against Connahs Quay Nomads on Sunday. The standard of play was good, and there were some excellent goals by both teams. Port eventually ran out worthy winners by 4 goals to 2, but were made to work very hard by a talented and hard working Nomads. Llion Williams proved to be the matchwinner with two goals, following earlier strikes by Robin Roberts and Cedri Owen.
Although pleased the boys had won the match, Director Osian Roberts was far more interested in the manner the boys played. “Considering this was their first match I thought the boys were excellent. I really enjoyed watching the boys play. Results give confidence to the boys but at this stage it’s the enjoyment and development which I’m looking at.”
During the game all the players were able to change positions and play in positions they had never played in before. “Clubs I’ve visited such as Ajax, Juventus and Valencia all look to teach the young boys about several positions at a young age, and I think it’s a good idea. It can only help the boys in their development as they begin to learn the game.”
Team: Robbie Bridgewater, Josh Hughes, Liam Davies, John Owen, Leam Hughes, Chris Jones, Llion Williams, Robin Roberts, Cedri Owen
19/10/06
Port yn methu arwyddo Jones / Port miss out on Jones

Aflwyddiannus oedd ymgais Porthmadog i arwyddo asgellwr ifanc Caernarfon Chris Jones. Ar ôl rhoi rhybudd 7-niwrnod o ddiddordeb, cysylltwyd efo’r chwaraewr ond mae bellach wedi penderfynu aros gyda’n cymdogion. Mae’r ffaith ei fod bellach wedi sgorio dwywaith yn erbyn Port, ac hefyd wedi ennill un cic o’r smotyn, yn dangos mai colled Port oedd y penderfyniad yma.
Dwedodd y cyd-reolwr Osian Robert “Rwyf wedi siarad â Chris amryw o weithiau ac o safbwynt pêl-droed, roedd yn awyddus iawn i ymuno â ni. Fe wnaethom gynnig telerau gwell na’r rhai oedd o arno yng Nghaernarfon, ond fe gynigiodd Caernarfon delerau gwell fyth a oedd yn bell o’n cyrraedd ni. Yr arian oedd yn bwysig yn y pen draw; pob lwc iddo a dyna ddiwedd y mater.”
Ategodd Viv Williams ei fod yn siomedig i beidio ag arwyddo’r chwaraewr ond fod rhaid symud ymlaen. “Rwy’n credu ei fod yn chwaraewr gwych. Er hyn mae Osh a minnau yn falch ein bod wedi sicrhau ein lle yn y rownd nesaf drwy ddod yn ail yn y Grŵp – a gorffen uwchben y ddau dîm arall o Wynedd, sy’n gamp fawr.”
Sylwodd Williams hefyd ar eironi y sefyllfa bresennol. “Ers i ni ddychwelyd i Uwch-gynghrair Cymru mae’n rhediadau Cwpan wedi bod yn siomedig tra fod ein safle yn y Gynghrair wedi bod yn well na’r disgwyl. Y tymor hwn mae ein perfformiadau Cwpan wedi bod yn dda iawn tra fod angen gwella’r perfformiadau yn y Gynghrair. Cofiwch, dydi ddim yn helpu ein bod ni wedi chwarae 8 ‘gêm darbi’ leol a 3 gêm yn erbyn Rhyl yn ystod 3 mis cyntaf y tymor!”

Chris JonesPorthmadog’s approach for Caernarfon’s flying winger Chris Jones has proved unsuccessful. Following a 7-day notice of approach the player in question was contacted but he has now decided to stay with our near neighbours and rivals. The fact that he has since scored twice against Port and was awarded a penalty at the Traeth shows what Port missed out on.
Joint Manager Osian Roberts said “I spoke to Chris several times and from a footballing viewpoint he was extremely eager to join us. We offered him a better deal than what he was on, but then Caernarfon came back with a counter offer which was well beyond our means. Money talked in the end, good luck to him, and that is the end of the matter for now.”
Viv Williams also commented that although they were disappointed not to get their man, the show must go on. “I think he’s a smashing player. Nevertheless Osh and I are pleased to come out of the Group second placed, and above both Gwynedd rivals Bangor and Caernarfon, which is no mean feat.”
Williams also commented on the irony of our current situation. “Since we’ve been back in the WPL our Cup runs have been disappointing whilst our League form has been more than satisfactory. This year our Cup runs have been very good but our League form needs to improve. Mind you, playing 8 local derbies and 3 games against Rhyl in the first 3 months of the season doesn’t help!”
18/10/06
TNS i ffwrdd yn y rownd nesaf / TNS away in the next round

TNSY wobr am y fuddigoliaeth heno o 2-1 yn erbyn Caernarfon fydd gêm oddi-cartref yn Llansanffraid erbyn y pencampwyr TNS! Sicrhaodd gôl hwyr Jason Sadler fod Port yn gorffen yn ail i Rhyl yn eu grŵp yng nghwpan Loosemore, gan adael Caernarfon a Bangor ar waelod y tabl. Nid yw dyddiad y gêm anodd oddi-cartref wedi ei chadarnhau hyd yn hyn.

Port's prize for tonight's 2-1 win against Caernarfon will be an away game at Llansanffraid against league champions TNS! Jason Sadler's late goal secured Port second place in their Loosemore cup group after Rhyl, and it leaves Caernarfon and Bangor at the bottom of the table. The date of the difficult away game has not yet been confirmed.
17/10/06
Enillwyr Caernarfon v Port i fynd trwodd / Caernarfon v Port winners to go through

CaernarfonYn dilyn buddugoliaeth Rhyl o 4-1 yn erbyn Bangor heno, mae pwysigrwydd mwy i gêm Porthmadog nos fory yn erbyn Caernarfon ar yr Ofal. Bydd y tîm buddugol yn sicrhau lle yn y rownd nesaf o Gwpan Loosemore yn erbyn TNS, ond os mai gêm gyfartal fydd hi bydd Caernarfon yn mynd trwodd. Dewch i gefnogi’r hogia!

Following Rhyl’s 4-1 defeat of Bangor tonight, Porthmadog’s match against Caernarfon tomorrow night on the Oval takes on a huge importance. The winning team will secure a place in the next round of the Loosemore Cup against TNS, but if the game ends in a draw Caernarfon will go through. Come to support the lads!
17/10/06
Uwch Gynghrair Cymru’n cofio Aberfan / Welsh Premier League remembers Aberfan

Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal cyn pob gêm yn Uwch Gynghrair Principality Cymru y Sadwrn hwn er mwyn cofio pedwardeg mlynedd ers trychineb Aberfan lle lladdwyd 144 o bobl – 116 ohonynt yn blant – pan lithrodd tomen lo wastraff ar y pentref yn Ne Cymru gan orchuddio rhan o’r ysgol gynradd. Bydd baneri ym mhob un o feysydd yr Uwch Gynghrair yn chwifio ar hanner mast.
Dywedodd Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Principality Cymru, John Deakin, “er fod yr holl chwaraewyr sy’n chwarae dydd Sadwrn yn rhy ifanc i gofio’r drychineb, dwi’n siŵr y byddai pawb yn cytuno ei bod yn addas i gofio’r drychineb a gafodd effaith mor bellgyrhaeddol ar Gymru dros y pedwardeg mlynedd ddiwethaf.”

There will be a minutes silence prior to all Principality Welsh Premier League games played on Saturday to commemorate the fortieth anniversary of the Aberfan disaster in which 144 people lost their lives, 116 of whom were children when a tip of coal waste slid on to the South Wales village, engulfing the local junior school. Any flags flown at Principality Welsh Premier grounds will be at half mast.
Principality Welsh Premier League Secretary John Deakin said, “although almost all of those participating in Saturday’s matches will be too young to remember the disaster, I’m sure that everyone would agree it appropriate to remember a tragedy that has had a profound affect throughout Wales for the past forty years.”
14/10/06
Llanelli yn y Cwpan Cenedlaethol / Llanelli in the Premier Cup

Premier Cup Mae Porthmadog yn wynebu gêm gartref anodd iawn yn rownd nesaf y Cwpan Cenedlaethol. Bydd Porthmadog yn wynebu Llanelli - y clwb proffesiynol sydd yn 2il yn y gynghrair ar hyn o bryd - ar nos Fawrth, Tachwedd y 21ain 2006. Y gemau eraill yn y rownd hon yw:
Caerfyrddin v Bangor
Casnewydd v NEWI Derwyddon Cefn
Port Talbot v Rhyl


Porthmadog will face a tough home game in the next round of the Premier Cup. Professional outfit Llanelli, who are currently 2nd in the league, will be the opponents on the Traeth on Tuesday, 21st November 2006. The other games in this round are:
Carmarthen Town v Bangor City
Newport County v NEWI Cefn Druids
Port Talbot Town v Rhyl FC

12/10/06
Webber yn arwyddo i Fangor / Webber signs for Bangor

Lee WebberMae wedi'i gadarnhau heddiw fod cyn-gapten Porthmadog, Lee Webber wedi arwyddo i'r gelynion lleol - Bangor. Oherwydd fod gan Webber gytundeb gyda Port, roedd rhaid i Fangor aros 28 diwrnod cyn ei arwyddo - mae hyn yn esbonio pam ei bod wedi cymryd mor hir cyn i'r trosglwyddiad gael ei gadarnhau.

It has been confirmed today that ex Port captain, Lee Webber, has signed for local rivals Bangor City. Since Webber was under contract with Port, Bangor had to wait 28 days before completing the signing - explaining why it has taken so long for the transfer to be confirmed.



Newyddion cyn 12/10/06
News pre 12/10/06

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us