Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Ail Dîm / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
| Tim Hyfforddi / Managment Team | Golgeidwad / Goalkeeper | Amddiffynwyr / Defenders |
| Canol Cae / Midfield | Ymosodwyr / Strikers |

Llun o'r garfan / Picture of SquadLlun o'r garfan / Squad photo


Tim Hyfforddi / Managment Team
Top^^

IS-RHEOLWR / ASSISTANT-MANAGER:
ALAN BICKERSTAFF



Ymunodd â Phorthmadog yn Hydref 2007. Cynt bu yn cynorthwyo Gareth Owen yn Airbus Brychdyn ers i gyn chwaraewr Wrecsam gymryd yr awenau ar Y Maes Awyr ym Mehefin 2005. Mae ganddo fathodyn ‘A’ hyfforddi UEFA ac mae’n hyfforddwr gyda Ymddiriedolaeth y Gymdeithas Bêl Droed. Mae cyn chwaraewr Y Rhyl ar hyn o bryd yn Swyddog Datblygu yn Sir Ddinbych. Gwnaeth argraff yn barod ar Y Traeth gyda Viv Williams yn dweud “Creodd argraff yn syth ar y chwaraewyr ac mae gan Alan gefndir ardderchog yn y gêm. Daeth â syniadau da efo fo, syniadau a fydd yn ein helpu dros weddill y tymor.”
Joined Porthmadog in October 2007 as assistant to Viv Williams. Previously he was number two to player/manager Gareth Owen at Airbus Broughton since the ex-Wrexham midfielder took over at The Airfield in June 2005. He holds an UEFA ‘A’ coaching badge and is employed by the FAW Trust. The former Rhyl player is currently a Development Officer for Denbighshire. He has already made an impact at the Traeth with Viv Williams commenting “He has made an immediate impression on the players and has an excellent pedigree bringing some good ideas with him which will only benefit us over the rest of the season.”


Golgeidwad / Goalkeeper
Top^^

RICHARD HARVEY


DG / DOB: 25/7/1982
Tymor arall llwyddiannus iawn rhwng y pyst i Richard yn 2006/07. Unwaith eto, nodwedd fawr ei gêm oedd cysondeb. Collodd ond un gêm gynghrair drwy’r tymor a chwaraeodd ym mhob un o’r gêmau cwpan niferus. Mae hyn yn arwydd o’i ffitrwydd a’i ddyfalbarhad. Dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr ifanc ar Y Traeth ac ail ymunodd â Phorthmadog o glwb Llangefni ar ddechrau tymor 2005/06. Bu gyda Port hefyd am gyfnod byr yn ystod 2002-03 yn y Cymru Alliance. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
Richard enjoyed another highly successful season between the sticks in 2006/07. Consistency was again a significant feature of his game. He missed only one league game throughout the season and played in all of Port’s many Cup games -a sure sign of his fitness and determination. He started his career as a youngster on the Traeth re-joining from Llangefni at the start of the 2005/06 season. He also appeared briefly for Port in 2002-03 when in the Cymru Alliance. Has already signed for season 2007/08.

MATTHEW PARRY


DG / DOB: 30/3/1983
Ymunodd â Phorthmadog yn Ionawr 2008. Bu gyda Lerpwl fel chwaraewr ifanc cyn trosglwyddo i Northwich Victoria. Chwaraeodd 3 gêm i Fangor yn 2002/03 cyn ymuno â Bae Colwyn yn haf 2003. Mae wedi cynrychioli Cymru dan 18.
Joined Porthmadog in January 2008. He was with Liverpool as a youngster before joining Conference club Northwich Victoria. He played 3 times for Bangor City in 2002/03 before joining Colwyn Bay in the summer of 2003. He has represented Wales at Under-18 level.


Amddiffynwyr / Defenders
Top^^

MIKE FOSTER


DG / DOB:
24/9/1973
Cefnwr chwith/Amddiffynnwr canol. Yn ystod tymor 2005-06 ymunodd â’r grwp dethol sydd wedi chwarae mwy na 300 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru. Fel arwydd o’i deyrngarwch, cafodd gêm dysteb yn erbyn Tranmere Rovers, y clwb lle buodd yn hyfforddai. Bachgen lleol sydd wedi codi drwy'r timau ieuenctid gan hefyd ymddangos i glybiau Aberystwyth a Dinas Bangor. Ail ymunodd â'r clwb yn ystod tymor 2001/02 o Fangor. Mae ganddo droed chwith ardderchog a’r gallu i groesi peli gwych o'r asgell. Daeth llawer o goliau fel canlyniad i'w groesiadau a hefyd o'i giciau rhydd a chiciau cornel. Enillodd gap dan-21 i Gymru tra ‘roedd yn chwaraewr ifanc gyda Tranmere.
Left back/Central defender. During the 2005-06 season he joined the select band of players who have made over 300 WPL appearances. Awarded a testimonial with a match against Tranmere Rovers, the club where he played as a trainee. A local boy who has come through the youth ranks also appearing for Aberystwyth Town and Bangor City. Rejoined Porthmadog from Bangor City midway through the 2001/02 season. He has an excellent left foot and is a marvellous crosser of the ball. Many goals come as a result of these crosses and also his deadly dead ball kicks. Gained a Welsh under-21 cap whilst with Tranmere

RYAN DAVIES


DG / DOB:
31/12/1978
Ymunodd Ryan â Port am yr ail waith yn ystod tymor 2003/04 o glwb Glantraeth, Ynys Môn. Cryfhawyd amddiffyn Port yn fawr gan ei bresenoldeb. Ar ôl methu llawer o dymor 2005/06 oherwydd anaf, cafodd dymor ardderchog yn 2006-07 yn rhan o bartneriaeth arbennig yng nghanol yr amddiffyn. Fel capten y clwb, arweiniodd drwy esiampl gan sgorio nifer o goliau allweddol o giciau rhydd a chiciau cornel. Pleidleisiwyd yn chwaraewr y tymor gan ei gyd chwaraewyr yn 2006/07. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
Ryan joined Port for the second time during the 2003/04 season from Anglesey side Glantraeth. Port’s defence was greatly strengthened by his presence. After missing much of season 2005/06 through injury, he returned to full fitness and enjoyed an outstanding season in 2006/07 as part of an excellent central defensive partnership. Appointed club captain last season, he led by example scoring several vital goals from set pieces and was voted players’ player of the year for 2006/07. Has already signed for season 2007/08.

RHYS ROBERTS


DG: / DOB:
17/7/85
Erbyn hyn wedi cwblhau ei ail dymor yn UGC ac wedi cadarnhau ei fod yn un o amddiffynwyr ifanc mwyaf addawol y gynghrair. Rhys ydy hanner arall y bartneriaeth gadarn yng nghanol yr amddiffyn. Ymunodd â Phorthmadog ar gyfer tymor 2005-06 o glwb Llangefni, a oedd ar y pryd, yn y Gynghrair Undebol. Creodd y chwaraewr ugain oed argraff fawr ar bawb gyda’i allu yn yr awyr a’i ddawn wrth ddosbarthu’r bêl. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
Having completed his second season for Port in the WPL, he has confirmed a growing reputation as one of the best young defenders in the league. He is the other half of an excellent central defensive partnership. Rhys joined Porthmadog from the then Cymru Alliance club Llangefni for season 2005-06. This young defender has made quite an impression with his aerial ability and excellent distribution. Has already signed for season 2007/08

BARI EVANS



Mae’r amddiffynnwr / chwaraewr canol cae ifanc wedi ail ymuno a Porthmadog ar ôl cwblhau ei gyfnod yn y brifysgol yn Aberystwyth a bu’n chwarae tymor diwethaf i Penrhyncoch, clwb sydd yn chwarae yn y Cymru Alliance. Bu Bari yn chwarae i Port o'r blaen pan oedd y clwb yn y Cymru Alliance.
The young defender/midfielder has rejoined Porthmadog after completing his studies at U.C. Aberystwyth where last season he played for Cymru Alliance club Penrhyncoch. Bari previously played for Port in their Cymru Alliance days.

ARWEL EVANS



Amddiffynnwr i’r ail dîm a ymddangosodd am y tro cyntaf yn UGC at ddiwedd tymor 2006/7 fel eilydd yn erbyn Caerfyrddin.
Reserve team defender who made his WPL debut towards the end of season 2006/07 coming on as sub against Carmarthen Town.


Canol Cae / Midfield
Top^^

DANNY HUGHES


DG / DOB:
13/2/1980
Ymunodd â’r clwb ar ddechrau 2000/1. Bu’n hyfforddai gyda Wolves cyn ymuno â Hartlepools gan wneud wyth ymddangosiad i’r tîm cyntaf cyn i anaf ei orfodi i roi’r gorau i’w yrfa fel chwaraewr proffesiynol llawn amser. Chwaraewr allweddol yng nghanol cae i Port gyda’i ddosbarthu cywir a’i weledigaeth. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
Joined the club at the start of 2000/1. He was a trainee with Wolves before joining Hartlepools where he made eight first team appearances before he was struck down by injury which forced him to give up his career as a full-time professional. Danny has been a key player in the Port midfield with his accurate, thoughtful distribution. Has already signed for season 2007/08.

ALED ROWLANDS


DG / DOB:
09/06/1978
Ail ymunodd â’r clwb yn 2007ar ôl dioddef anaf tymor hir. Chwaraeodd Aled i Fangor rhwng 1999 a 2004 ond, ar ôl ymuno â Phorthmadog yn 2004, dechreuodd ond 5 gêm oherwydd yr anaf. Fel rhan o’i gynllun gwellhad, chwaraeodd i Lanfairpwll yn y Cymru Alliance. Chwaraewr dawnus canol cae gyda throed chwith dda enillodd Aled gapiau Dan 21 i Gymru tra oedd gyda Man City ac hefyd cynrychiolodd Sligo Rovers yng Nghynghrair Iwerddon.
Rejoined the club in 2007after suffering a long term injury. Aled played for Bangor City between 1999 and 2004 but, after joining Porthmadog in 2004, he started in only five games because of the injury. As part of his rehabilitation, he played for Llanfairpwll in the Cymru Alliance. A skilful midfield player with an excellent left foot, he gained Welsh U 21 caps whilst with Manchester City and also played in the League of Ireland for Sligo Rovers.

CARL JONES


DG/DOB:
30/06/1989
Ymunodd â Phorthmadog o Fangor ym mis Ionawr2007. Creodd Carl argraff fawr pan ymddangosodd i Ysgolion Cymru (dan 16) yn y twrnamaint rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig (2004-05). Arweiniodd hyn iddo gael ei dderbyn fel hyfforddai gan Gaerdydd ond, yn ddiweddarach, symudodd yr hogyn 18 oed o Lanbedrog yn ôl i Ogledd Cymru gan chwarae i Fangor. Asgellwr cyflym a sgiliau trin pêl arbennig o dda.
Carl joined Porthmadog from Bangor City in January this year. He created a huge impression when he appeared for the Welsh Schools in the Victory Shield tournament (2004-05) which led to him being taken on as a trainee by Cardiff City. The 18 year-old Llanbedrog youngster later returned to North Wales and last season appeared for Bangor City. A quick, clever wingman with outstanding dribbling skills.

IWAN WILLIAMS



DG/DOB:
28/03/1985
Chwaraewr canol cae ifanc gyda’r ail dîm sydd wedi dechrau unwaith i’r tîm cyntaf yn 2006/07 ac ymddangos tair gwaith fel eilydd. Cwblhaodd Marathon Llundain yn 2007 mewn amser o 3 awr 19 munud 13 eiliad gan godi dros £3000 at elusennau.
A young reserve team player who has made one first team start in 2006/07 together with three sub appearances. Completed the London Marathon in 2007 in a time of 3hours 19 minutes 13 seconds and raised in excess of £3000 for charity.

RICHARD SMART


DG/DOB:
16/3/1982
Ymunodd â Porthmadog dros haf 2007. Dechreuodd y chwaraewr canol cae ochr chwith hyblyg, 27 oed, 30 gwaith i Airbus yn ystod tymor 2004/05 gan sgorio tair gwaith. Ymunodd ag Airbus o'r clwb o Orllewin Caer, Christleton tra oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Caer gan symud yn 2006 i Bwcle yn y Cymru Alliance.
He joined Porthmadog over the summer of 2007. The 27 year old versatile left sided midfield player made 30 WPL starts for Airbus in the 2004-05 season scoring three times. He joined Airbus whilst a student at Chester College from West Cheshire club Christelton FC and later signing in 2006 for Cymru Alliance club Buckley Town.

IWAN THOMAS
Iwan Thomas

DG/DOB:
05/03/1987
Chwaraewr ifanc addawol a gollodd rhan fawr o dymor 2006/07 oherwydd llaw driniaeth i anaf ar ei benglin. Ni chwaraeodd i’r tîm cyntaf gan adfer ei ffitrwydd yn yr ail dîm. Dechreuodd mewn 7 gêm gynghrair yn 2005-06 Cafodd ddyrchafiad ar ôl creu argraff gyda’i berfformiadau yn yr ail dîm ac yn y tîm Dan 21. Yn 2004-05, chwaraeodd i Flaenau Ffestiniog yng Nghynghrair Gwynedd.
A promising young player who missed most of season 2006/07 as a result of an operation for a knee injury. He did not appear for the first team but regained fitness with the reserves. He made seven WPL starts in the 2005/06 season. He earned his promotion after impressive performances for the reserves and Under 21’s. In 2004-05, he played for Blaenau Ffestiniog in the Gwynedd League.

GARETH PARRY
Gareth Parry

DG/DOB:
04/02/1981
Arwyddwyd am y tro cyntaf yn ystod haf 2002 o Lanfairpwll. Chwaraewr canol cae dawnus a dylanwadol sydd hefyd yn gallu rhoi’r bêl yn y rhwyd. Dioddefodd lawer o anafiadau yn ystod 2005-06 a 2006-07. Ymunodd â chlwb Bangor yn ystod haf 2007 ond, ar ôl cyfnod byr iawn, mae wedi dychwelyd i’r Traeth ym Medi 2007 cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.
Signed for Port for the first time during the 2002 close season from Llanfairpwll. He is an influential and skillful midfielder who can score goals as well. He was however plagued by injury during 2005-06 and 2006-07. Joined Bangor City during the summer of 2007 but, after a very short stay, returned to the Traeth before the transfer window closed in September 2007.

MARK THOMAS
Mark Thomas

DG/DOB:
21/08/1978
Ymunodd â Phorthmadog o Gaernarfon yn Ionawr 2008. Mae wedi chwarae bron bob gêm yn ystod 2007/2008 i Gaernarfon cyn ei drosglwyddiad -gan sgorio 3 gôl. Ymunodd â Chaernarfon o glwb Glantraeth yn 2006. Yn 2005/06 roedd yn chwaraewr y tymor a phrif sgoriwr i’r clwb o’r Cymru Alliance. Mae hefyd wedi chwarae i Bangor a Rhaeadr yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn gyfan gwbl wedi chwarae 53(+13) o weithiau yn yr Uwch Gynghrair i’w dri cyn glwb.
Joined Porthmadog in January 2008 from Caernarfon for whom he appeared in virtually every game in 2007/08 prior to his transfer -scoring 3 goals. He joined Caernarfon from Glantraeth in 2006 . He was player of the season and leading scorer for the Cymru Alliance club in 2005/06. He also previously played for both Bangor City and Rhayader Town in the WPL. Altogether he has made 53 (+13) WPL appearances for his three former clubs.

RICHARD HUGHES
Richard Hughes

DG/DOB:
30/09/1975
Bonws mawr i Borthmadog oedd fod chwaraewr, a roddodd wasanaeth arbennig yn y gorffennol, yn rhydd o alwadau gwaith ac ar gael yn rheolaidd am dymor 2006/07. Dechreuodd 18 gwaith yn 2006/07 gan sgorio dwy gôl. Chwaraewr canol cae cadarn sydd hefyd yn gallu chwarae mewn unrhyw safle. Ymunodd â Llangefni yn haf 2007 ond dychwelodd i Borthmadog yn Ionawr 2008.
It proved a great bonus for Porthmadog that a player who had served them so well in the past was no longer restricted by work commitments and was available in 2006/07 . He started 18 times in 2006/07 scoring twice. A powerful midfield player who is also a true utility player who can play anywhere. He joined Llangefni in the summer of 2007 but returned to Porthmadog in January 2008.

DAVID HUGHES
David Hughes

DG/DOB:
08/04/1982
Ymunodd yr asgellwr chwim â Phorthmadog yn Ionawr 2008 o Airbus Brychdyn. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Airbus yn nhymor 2005/06 gan sgorio 7 gôl mewn 32(+2) o gêmau. Ar ôl chwarae’n rheolaidd am ddau dymor, ychydig o gêmau a chwaraeodd eleni 4(+5) oherwydd paratoadau at arholiadau. Chwaraeodd hefyd i Brifysgol Coventry.
David Hughes is a pacy winger who joined Porthmadog from Airbus Broughton in January 2008. He made his début for Airbus in season 2005-06 scoring seven times in his first season in 32(+2) appearances. Having been a regular for two seasons, his appearances have been limited to 4(+5) this season mainly due to the need to prepare for examinations. He also previously played for Coventry University.


Ymosodwyr/ Strikers
Top^^

CARL OWEN


DG / DOB:
9/4/1980
Ymosodwr talentog iawn a ymunodd â’r clwb o Fangor yn Nhachwedd 2000. Yn gyflym a siarp yn y cwrt cosbi, ond hefyd yn weithiwr caled sy’n dal y bêl i fyny a chreu i eraill. Carl oedd y prif sgoriwr yn ystod ei 5 tymor cyntaf gyda'r clwb, gan rwydo 17 o goliau yn 2005/06. Y llynedd, sgoriodd 10 o weithiau. Wedi cynrychioli tîm lled-broffesiynol Cymru yn ystod haf 2004. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
A very talented striker, who joined the club from Bangor City in November 2000. Quick and sharp in the box, but also works hard to hold the ball up and set up others. He was the club's top scorer in each of his first 5 seasons with the club netting17goals in 2005-06. Last season he scored 10 goals. He represented the Welsh semi-professional team in the summer of 2004. Has already signed for season 2007/08.

PAUL ROBERTS


DG / DOB:
29/7/1977
Mae Paul yn dychwelyd i’r clwb am ei drydydd cyfnod yn dilyn cyfnodau gyda Wrecsam, Bangor a cyfnod byr, diweddar, gyda’r Rhyl. Mae Paul, ar hyd ei yrfa, wedi profi ei allu i ganfod y rhwyd gan sgorio 112 o goliau mewn 196 o gêmau yn UGC. Ei ddau dymor gorau i Fangor oedd 2004-05 pan sgoriodd 24 o goliau a 2005-06 pan rhwydodd 22 o weithiau. Bydd llawer efallai sydd yn ei gofio yn ei gyfnod cyntaf gyda’r clwb yn synnu deall mai dim ond 12 gwaith y dechreuodd i’r clwb yn UGC! Er hynny, cafodd yr 11eg gôl a sgoriodd mewn 12 gêm, yn ystod hydref 1996, effaith rhyfeddol, gan roi’r clwb ymysg ceffylau blaen y gynghrair a Paul ei hun ar y ffordd i gontract proffesiynol gyda Wrecsam. Wedi arwyddo ar gyfer tymor 2007/08.
Paul returns to the club for his third stint following spells with Wrexham, Bangor and most recently Rhyl. Paul is a proven goal scorer having scored 112 goals in 196 WPL appearances. In his best seasons at Bangor, he scored 24 goals in 2004-05 and 22 goals in 2005-06. Many who remember well his first spell with Porthmadog will be surprised to realise that he has only made 12 WPL starts for the club. However 11 goals in 12 appearances scored during the autumn of 1996 made a mighty impact at the time putting Port amongst the league’s front runners and setting Paul on his way to full time professional football with Wrexham. Has already signed for season 2007/08.

MARCUS ORLIK


DG / DOB:
11/02/1985
Wedi trosglwyddo o’r Rhyl ym mis Ionawr 2007 ac wedi creu argraff dda gan sgorio 3 gwaith mewn 5 ymddangosiad llawn. Gall chwarae yng nghanol y cae neu yn y blaen. Symudodd y chwaraewr 22 oed o Gaernarfon i’r Rhyl yn ystod haf 2006 ar ôl treulio dau dymor gyda chlwb yr Ofal. Sgoriodd 12 gôl i’r Cofis gan gynnwys un gofiadwy yn erbyn Porthmadog! . Ychydig o gyfle a gafodd yn Y Rhyl ond yn cychwyn un gêm gwpan yn ogystal â nifer o gêmau fel eilydd. Wedi arwyddo ar gyfer 2007/08.
Joined from Rhyl in January 2007 making an excellent early impression scoring 3 times in 5 starts for Port. Marcus can play in midfield or up front. He switched from Caernarfon to Rhyl in the summer of 2006 after spending two seasons with the Oval club scoring 12 goals for the Canaries including a memorable one against Porthmadog! His opportunities at Rhyl were limited making only one start in a League Cup game together with several substitute appearances. Has already signed for 2007/08.

DYLAN JONES


DG / DOB:
01/02/1986
Ymosodwr ifanc a wnaeth argraff fawr yn ystod y gêmau cyn dymor. Gwthiodd ei hun i garfan y tîm cyntaf gyda’i berfformiadau cant y cant. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Port yn 17 oed yn nhymor 2002/03 pan enillodd y clwb ddyrchafiad o’r Cymru Alliance gan sgorio gôl yn yr amser ychwanegol i sicrhau buddugoliaeth yng Nghwpan y Gynghrair dros Bwcle. Bu wedyn yn y coleg yn Lerpwl gan chwarae i’r ail dîm yn ystod y gwyliau.
A young striker who made a favourable impression during pre-season matches, he has forced his way into the first team squad with his 100% commitment. He made his debut for Porthmadog as a 17 year old in 2002/03 when the club gained promotion from the Cymru Alliance, scoring the winning goal against Buckley Town in extra-time in the League Cup final. He then went away to college in Liverpool and played for the reserves during holiday periods.

MARK COOK


DG / DOB:
21/10/1987
Ymosodwr ifanc yr ail dîm sydd wedi dechrau unwaith i’r tîm cyntaf yn ogystal ag ymddangos chwe gwaith fel eilydd gan sgorio unwaith.
Reserve team striker who has made 1 first team start and 6 sub appearances in 2006/7, scoring once.



Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us