Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
15/09/24
TÎM DATBLYGU / DEVELOPMENT TEAM v CONWY Nos Fawrth / Tuesday: Y Traeth 7.30pm


CPD Porthmadog Bydd y Tîm Datblygu adra Nos Fawrth (17 Medi) yn erbyn Ail-dim Conwy ar Y Traeth
Bydd y gic gynta am 7.30pm
Cefnogwch yr hogia’
C’mon Port!!

The Development Team will play Conwy Res on Tuesday (17 Sept) at the Traeth.
Kick off is at 7.30pm
Support the lads!
C’mon Port!!
12/09/24
CORWEN: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2.30pm HEDDIW / TODAY


Noddwr y Gêm / Match Sponsor: LAUD MEREDITH & CO: Cyfrifwyr Siartredig / Chartered Accountants
Noddwr y Bêl / Match Ball Sponsor: Baavet: Wool Duvets & Pillows,

Bara menyn y gynghrair pnawn Sadwrn pan fydd CPD Corwen yn ymweld â’r Traeth a bydd y gic gynta’ am 2.30pm.
Sicrhaodd yr ymwelwyr ddyrchafiad o brif adran Cynghrair y Gogledd Ddwyrain llynedd ac eu record hyd yma y tymor hwn i’w ennill un a dwy yn gyfartal o’u 5 gêm gynghrair. Ond mae werth nodi fod y gemau a gollwyd wedi bod yn gemau agos iawn a cawsant hefyd fuddugoliaeth dda yn Llangefni, y tîm sy’n ail yn y tabl.. O ddiddordeb hefyd, ar ôl 77 munud, roedd Corwen yn dal Caergybi i sgôr o 0-0 cyn i’r gêm gael ei gohirio.
Bydd Port yn falch o’r cyfle i gael blerwch y Sadwrn dowetha’ allan o’r system a symud yn ôl i’r math o berfformiad sydd wedi plesio pawb ar Y Traeth. Bydd angen hefyd sicrhau gwell perffomiad amddiffynnol.
Y tro diwetha’i ‘r ddau glwb gyfarfod ar y Traeth oedd yn y Cymru North oedd ar 21 Tachwedd 2019 gyda Corwen yn fuddugol o 2-1. Ni chwaraewyd y gêm draw yng Ngorwen gan mae 2019/20 oedd tymor y Covid pan na chwbwlhawyd y gemau i gyd ac, ar y diwedd, disgynnodd Port a Chorwen i’r Ardal Northern.
Amdani pnawn Sadwrn hogia’.
C’mon Port!!

Back to the Ardal NW League on Saturday when Corwen FC will be the visitors to the Traeth for a 2.30pm kick off.
The visitors were promoted at the end of last season from the N.E.W. Premier Division and have won one and drawn 2 of their 5 league fixtures this season. The defeats have been tight affairs, and they gained an excellent win at, currently 2nd placed, Llangefni. Significantly also the score stood at 0-0 after 77 minutes when their League Cup tie with Holyhead Hotspur had to be abandoend.
Port will certainly be looking to wipe out the memory of last Saturday’s debacle and get back to the sort of performances which have pleased all at the Traeth. A far better defensive performance will be needed and expected.
Corwen’s last visit to the Traeth came when both clubs were in the Cymru North. It was on the 21st Nov 2019, a game which Corwen won by 2-1. The return fixture was not played in that unfinished Covid season, a season which saw in both Port and Corwen relegated from the Cymru North.
Back on track for Saturday!
C’mon Port!!
Llun / Photo: Iddon Price: Arbed cic o’r smotyn yn ei rôl fel golwr! / Penalty save in his role as stand-in keeper.!
10/09/24
Datblygiad chwaraewyr ifanc / Development of young players


CPD Porthmadog Roedd yn dda gweld datganiad Trystan Davies, rheolwr y Tîm Datblygol ar ei gyfri Trydar, ynglyn â’r cynnydd a wnaed i’r strategaeth integreiddio y Porthmadog Juniors yn rhan o’r clwb. Meddai:

“O’r diwedd mae gennym dîm ym mhob oed. Bu’n waith caled ond o’r diwedd ry’m yna. Yn dal mae gennym llawer i’w wneud. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair ac rwy’n methu aros i fod yn rhan ohono.”

Mae hwn yn rhan o gynllun tymor hir i drasnewid datblygiad chwaraewyr ifanc o fewn y clwb.
Yn ogystal a thrawsnewid yr Ail-dim i fod yn Garfan Ddatblygol, sydd eisoes wedi digwydd, roedd yn fwriad i greu llwybr i chwaraewyr ifanc drwodd i’r Tím Cyntaf.
Diolch i Trystan am ei waith caled yn ail sefydlu yr Ail-dîm y tymor diwethaf a rwan a da gweld y cynnydd yn parhau a’r holl cynlluniau yn mynd yn eu blaen.


It was good to read the statement by Development Team Head coach Trystan Davies on his Twitter account, of the progress being made to integrate the Porthmadog Juniors into the club structure. He says:

“Finally, We have a team In all ages. it's been a lot of hard work , but we're finally there , We still have a lot of work to do, but we are ready. The future is bright, and I can't wait to be a part of it!

This is part of a wider plan to change the way young players develop within the club.
As well as changing the Reserves to become a Development Team, which has already taken place, the intention is to create a clear pathway for young players right through to the firat team.
Thanks to Trystan for his hard work re-establishing the Reserves last season and for ensuring that progress is being maintained and further developed.
10/09/24
Sion Trefor Jones: yn gadael / leaves the club


Mae yr amddiffynnwr Sion Trefor Jones, a ymunodd a Port dros yr haf, wedi penderfynu gadael Y Traeth. Mae wedi ymuno gyda CPD Llangfni lle bydd yn ail gysylltu gyda’i gyn rheolwr Sion Eifion.
Pob dymuniad da Sion.

. The defender, Sion Trefor Jones, who joined Port over the summer, has decided to leave the club. He will join his former manager Sion Eifion at Llangefni Town FC.
Best of luck Sion
07/09/24
TOM HILDITCH: Chwaraewr y Mis / Player of the Month


Pleidleiswyd Tom Hilditch yn Chwaraewr y Mis am Gorffennaf / Awst
Gwnaeth gyfraniad arbennig wrth sgorio y goliau a oedd braidd yn brin yn ystod y tymor diwethaf.
Mae wedi rhwydo 9 o goliau mewn 7 gêm gyda’r ystadegau yma yn cynnwys hatric yn erbyn Llanrwst a dwy gôl ar ddau achlysur hefyd, yn erbyn Y Felinheli ac Amlwch.
I nodi’r llwyddiant bydd yn derbyn boteli cwrw Bragdy Mws Piws a phlac gan Teledu Port TV.
Llongyfarchiadau Tom!!

Tom Hilditch has been voted Player of the Month for July / August.
He has made an outstanding contribution, supplying the goals that have previously been lacking.
He has netted 9 goals in just 7 games. These stats include a hat-trick against Llanrwst as well as a brace against Y Felinheli and another in the Welsh Cup tie at Amlwch.
To mark this success he will receive bottles of Purple Moose beers and a plaque from Teledu Port TV.
Congratulations Tom!!
07/09/24
Chris yn yamteb i’r golled / Chris responds to the defeat


Yn siarad gyda Cymru Sport, yn dilyn y golled drom i Hotspyrs Caergybi pnawn Sadwrn yn Tlws CBDC, dywedodd Chris Jones fod y perfformiad wedi bod yn sioc llwyr iddo, nad oedd wedi rhagweld o gwbl.
“Roedd Port ddim yn y râs o gwbl heddiw,” oedd ei sylw gan ychwanegu fod y gwrthwynebwyr am y fuddugoliaeth yn fwy ar y dydd,
“Mae’r chwaraewyr yn cymryd y cyfrifoldeb am y canlyniad”, meddai gan ychwanegu “..bydd raid gweithio’n galed nos Fercher gan edrych i wneud yn iawn pnawn Sadwrn.”
Bydd meddyliau bellach yn troi ‘nol at y gynghrair ac ymwelaid Corwen â’r Traeth.

Chris Jones, speaking to Cymru Sport following the heavy defeat in the FAW Trophy tie to Holyhead Hotspur, admitted that it was a performance that came as “....a complete surprise ...and didn’t see it coming.”
“We wern’t at the races today,” he added, “they wanted it more than us.”
He further added that the players took responsibility for the performance and that the task now was to “.. work hard in midweek and put it right for Saturday.”
Minds will now turn back to the league and the visit of Corwen following on from the two cup-ties.
07/09/24
Cerdyn Coch Tom / Tom’s Red Card


Derbyniodd Tom Hilditch gerdyn coch yn Rownd 1 Cwpan y Gynghrair yn Y Rhyl ar 31 Awst ond eto roedd yn chwarae y Sadwrn yma 7 Medi .
Os oes rhwyun yn holi’r cwestiwn sut ddaeth hyn i fod, wel, mae’r ateb gyda’r ysgrifennydd Chris Blanchard yn ei golofn yn y Rhaglen.
Bydd y gosb yn cael ei gweithredu yn Rownd 2 o’r Gwpan.
Beth felly am Ollie Farebrother heddiw yn derbyn coch a ninnau allan o'r TlwsCBDC? Rhaid edrych ar golofn nesa yr Ysgrifennydd!!

Tom Hilditch was red carded at Rhyl in the League Cup tie on the Aug 31 but still appeared in the FAW Trophy tie with Holyhead Hotspurs today 7th Sept
If anybody is wondering how this came about, then Club Secretary Chris Blancahrd has the answer in his match programme column.
The suspension will only come into force when Port appear in the 2nd Round of the League Cup.
What then of Ollie Farebrother's red today with us being out of the FAW Trophy? Over to you again Mr Secretary!!
06/09/24
Tîm Datblygu yn curo / Win for Development Team


Buddugoliaeth o 3-1 i’r Tîm Datblygu heno ar Cae Marian yn erbyn Ail Dîm Dolgellau.
Noson dda i Zac Pike yn rhwydo dwywaith yn y 10 munud cynta’ a wedyn Aaron Jones yn ychwanegu’r 3ydd cyn yr hanner.
Da iawn Hogia’


A 3-1 win for the Dev. Team tonight at Cae Marian against Dolgellau Res.
A good evening for Zac Pike with two goals inside the first 10 minutes with Aaron Jones adding a 3rd just before the interval.
Well done lads!!
05/09/24
KURTIS PEARSON yn ymuno gyda Port / KURTIS PEARSON joins Port


Mae Chris Jones wedi ychwanegu at ei garfan gyda'r cyhoeddiad heno am arwyddo y chwaraewr canol cae 24 oed, Kurtis Pearson.
Mae Kurtis yn ymuno o Prestatyn Town. Treuliodd dau gyfnod gyda’r clwb hwnnw a cafodd ei enwi yn chwaraewr y tymor yna yn 2022/23.
Bu hefyd am gyfnod gyda Rhuthun a cynt bu gyda Chris Jones yn AFC Knowsley yn ogystal a Prestatyn.
Trydarodd Chris Jones amdano fod wedi dymuno ei arwyddo yn yr haf. Bu’n gweithio gyda ‘Peo’ am 5/6 mlynedd gan sicrhau dyrchfiad a theitlau gyda fo. Ar ei ddydd meddai, “Mae’n anodd ei rhwystro ac yn bleser ei wylio.”
Croeso Kurtis

Chris Jones has added to his squad tonight with the announcement of the signing of 24 year-old attacking midfielder Kurtis Pearson.
Kurtis joins from Prestatyn Town. He spent two periods with the Seasiders and was named player of the season there in 2022/23.
He also spent a period with Ruthin Town. Previuosly worked with manager Chris Jones at AFC Knowsley as well as Prestatyn.
Manager Chris Jones twittered, “Wanted to bring ‘Peo’ to Port in the summer but just missed out. He’s a lad I have worked with for 5/6 years now, had promotions and won a league together before. Unplayable on his day and a real joy to watch.”
Welcome to the Traeth Kurtis!
05/09/24
Hotspyrs Caergybi / Holyhead Hotspurs: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2.00pm


Noddwr y Gêm / Match Sponsor: CARIAD CARE HOMES
Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsor: I J PLASTERING

Gêm gwpan y penwythnos hwn eto i Port, pan fydd Hotspyrs Caergybi yn ymweld â’r Traeth ar gyfer Rownd 1 Tlws Amatur CBDC.Cic gynta' 2 o'r gloch
Yn dilyn yr ymweliad â’r Rhyl, bydd Port unwaith eto yn wynebu un o’r ffefrynnau am ddyrchfiad. Gorffenodd y Monwysion y tymor diwetha’ wrth ennill Cwpan Cyngyhrair yr Ardal Northern a hefyd mynd ar rhediad o 15 gêm gynghrair yn ddiguro.
Bu’n rhaid dod a gêm yr Hotspyrs yng Nghorwen i ben ar ôl 78 munud y Sadwrn diwetha’. Hyn yn dilyn anaf drwg i Cai Parry, cyn amddiffynnwr Port. Dymunwn y gorau i Cai a gwellhad llwyr a buan iddo.
Dangoswyd ochr arall i gymeriad carfan Port yn y Belle Vue y Sadwrn diwetha’, gyda perfformiad gwych, penderfynol llawn dyfalbarhad. Pwyntiodd y rheolwr Chris Jones at yr ysbryd unol o chyd dynnu a welwyd.
Capiwyd wythnos wych i’r golwr Ollie Farebrother wrth iddo wneud arbediad holl bwysig yn y gystadleuaeth ciciau o‘r smotyn ar ddiwedd y gêm yn y Rhyl. A hyn yn dilyn arbed cic arall o’r smotyn yn erbyn Llanrwst ar y nos Fawrth. Gwych Ollie.
Mwy o’r un fath plîs hogia’!
C’mon Port!!

It will be another Cup-tie for Port on Saturday, this time the FAW Amateur Trophy, when the visitors to the Traeth will be Holyhead Hotspurs. Kick off 2.00pm.
Like last Saturday it will put Port up against one of the promotion favourites. The Anglesey club finished last season in great form winning the Ardal Northern League Cup as well as going on an unbeaten 15 match league run.
Hotspurs’ game last weekend was abandoned after 78 mins following the injury to former Port defender Cai Parry and all at Port wish Cai a full and speedy recovery.
Last Saturday’s Port visit to the Belle Vue showed another side of their development as a squad, a real display of character and determination with manager Chris Jones pointing to the “Team spirit and togetherness of (the) group”.
The game at Rhyl also capped a great week for keeper Ollie Farebrother when he followed his penalty save on Tuesday against Llanrwst, with a crucial save in the penalty shoot-out.
More of the same lads!
C’mon Port!!
05/09/24
Ail-dîm DOLGELLAU Res Nos Wener / Friday: CAE MARIAN LL40 !UU 6.30pm.


Bydd y Tîm Datblygol oddi cartref ar Cae Marian Dolgellau nos Wener.
Bydd y gic gynta’ am 6.30pm.

The Development Team will be away at Dolgellau on Friday evening
Kick off 6.30pm
03/09/24
Tîm Datblygu / Development Team v LLANUWCHLLYN


CPD Porthmadog CANLYNIAD / RESULT: Ail Dîm Llanuwchlyn Res 7-2 Tîm Datblygu Port Development Team

Sgorwyr Port / Port Scorers: Mabon Owen, Zac Pike.

Bydd Tîm Datblygu Port yn teithio i Llanuwchllyn Nos Fawrth (03/09) i chwarae Ail Dîm Llanuwchllyn mewn gêm gynghrair.
Bydd y gic gynta’ am 6.30pm.

Port Development Team resume their Reserve League fixtures on Tuesday evening (03/09) when they travel to Llanuwchllyn to play the Llanuwchllyn Res.
Kick off 6.30pm
29/08/24
Cofio Paul / Remembering Paul


Cynhaliwyd munud o dawelwch cyn y gêm yn erbyn Llanrwst i gofio Paul Evans a fu farw yn sydyn iawn dros y penwythnos diwethaf.
Roedd Paul yn bartner i Jade Collins. Mae Jade yn gefnogwr oes o’r clwb ac ar ddyddiau gêm fe’i gwelir yn cynorthwyo yn y cantîn ar y Traeth. Mae’r teulu yn ein meddyliau mewn cyfnod anodd tu hwnt.

The sudden death of Paul Evans last weekend was marked by a minute’s silence ahead of last Tuesday game with Llanrwst.
Paul was partner of lifelong Port supporter Jade Collins. Jade assists in the club’s canteen on matchdays. Our thoughts are with the family at such a difficult time.
29/08/24
CPD Y RHYL 1879: Sadwrn / Saturday: Cwpan y Gynghrair / League Cup: Belle Vue:LL18 4BY 2.30pm


Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i'r Rhyl am gêm yng Nghwpan y Gynghrair ar Y Belle Vue. Bydd yn dda ymweld â'r cae enwog hwn unwaith eto.
Mae Y Rhyl ymysg y ffefrynnau i sicrhau dyrchafiad y tymor hwn yn dilyn methu allan o drwch blewyn llynedd. Ond ni fydd pwyntiau ar gael pnawn Sadwrn ond bydd yn gyfle i'r ddau glwb gymryd golwg ar y math o broblemau fydd yn codi pan ddaw'r ddau i wynebu eu gilydd mewn gemau cynghrair bellach 'mlaen yn y tymor.
Mae'r Rhyl wedi cael cychwyn da i'w tymor, yn ennill pedair o'u pump gêm, yr unig golled yn dod yn erbyn cyd ffefrynnau, Hotspyrs Caergybi, y clwb fydd Port yn wynebu yn ei gêm cartref nesa.
Yn ei sylwadau cyn y gêm yn erbyn Llanrwst diolchodd Chris Jones i Trystan Davies a Craig Hacking am edrych ar ôl y tîm yn ei absenoldeb ac hefyd i'r chwaraewyr am ddangos eu gallu yn sicrhau dau berfformiad cadarn. Cafwyd barhad pellach yn erbyn tîm da Llanrwst a bydd y cefnogwyr yn fwy na hapus i weld parhad o'r goliau a chwarae cyffrous.
C'mon Port!!

On Saturday Port will travel to Rhyl for a Ardal NW Cup-tie at the Belle Vue. Some time has now passed since our last visit to the ground and it will be good to make a return to this famed ground.
Rhyl are amongst the favorites to gain promotion this season, having narrowly missed out last season. Saturday however, league points will not be at stake but will provide an opportunity for both clubs to size up the strength of the opposition ahead of league clashes later in the season.
Rhyl have made a good start to the season, having won four of their five games, losing just the once, away at Holyhead, another one of the favoured clubs and will be Port's next opponents at the Traeth, also in a Cup competition.
In his pre-match comments ahead of the visit of Llanrwst, manager Chris Jones expressed his thanks to Trystan Davies and Craig Hacking for looking after the team in his absence and to the players for showing what they are capable of and turning in two solid performances. This form carried on against a good Llanrwst outfit and supporters will be more than happy to see this form continuing..
C'mon Port!!
Llun / Photo: Nathan Williams: rheolaidd yn amddiffyn Port / regular in the Port defence.
28/08/24
Cwpan JD Cymru Rownd 1 / JD Welsh Cup Round 1


CBDC / FAW Taith i Wrecsam fydd i Port yn Rownd 1 Cwpan JD Cymru a’u gwrthwynebwyr fydd CPD Queen’s Park.
Daeth Quenn’s Park drwy’r Rownd Rhagbrofol gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Blaenau Ffestiniog.
Chwareir y gêm ar benwythnos 21/08/2024

A journey to Wrexhan for Port in the 1st Round of the JD Welsh Cup where their opponents will be FC Queen’s Park.
In the Qualifying Round Queen’s Park defeated Blaenau Ffestiniog by 3-1.
The game will be played on the weekend of 21/08/2024
28/08/24
HATRIC HILDITCH / TOM’S HAT-TRICK


Gyda ‘chydig o ddryswch am y gôl gynta’ ar ôl 3 munud ac o ganlyniad ni chafodd hatric Tom Hilditch y sylw haeddiannol neithiwr ar Y Traeth.
Yn wreiddiol rhoddodd y cyhoeddiad ar y tannoy a’r app Cymru Football y gôl i Tom ond yn hwyrach newidiwyd hyn gan roi y gôl i Ryan Williams. Y gwirionedd oedd mai dilyn pêl gan Ryan wnaeth Tom a, fel pob blaenwr werth ei halen roedd yn y lle iawn i daro’r ergyd ola i’r rhwyd.
Aeth Tom ymlaen i rhwydo dwy gôl arall . Roedd ei ail yn beniad gwych ar y postyn cefn i rhwydo croesiad ardderchog Caio Evans a wedyn clasur o lob dros y golgeidwad i gornel pella’r rhwyd i gwblhau’r hatric.
Daw hyn a chyfanswm goliau cynghrair a chwpan Tom i 9, a ninnau heb gyrraedd diwedd Awst eto!!
I gwblhau noson dda, arbedodd Ollie Farebrother cic o’r smotyn gan Julian Williams. Arbediad gwych ac yn un o nifer o rhai ardderchog a wnaeth Ollie yn ystod y gêm hon.

With confusion over the first goal after just 3 minutes Tom Hilditch did not receive the full attention his achievement deserved last night at the Traeth.
The tannoy announceent and the app gave the goal to Tom but later this was changed to give the goal to Ryan williams. The truth now is that the Ryan’s through ball was chased, in good striker style, by Tom to put in the final touch.
Tom went on to score two more goals. His second was a fine back post header to convert Caio Evans’ super cross. Then cam a classic lob over a stranded keeper into the far corner of the net to complete the hat-trick.
This brings Tom’s tally to 9 league and cup goals already, and August is not over yet!!
To cap a fine night for Port, Ollie Farebrother pulled off a great save to deny Julian Williams his goal from the penalty spot. This fine save was in addition to several other top saves when Port came under pressure from set pieces.
26/08/24
CPD PORTHMADOG: CYFARFOD BLYNYDDOL / ANNUAL GENERAL MEETING


CPD Porthmadog Bydd Cyfarfod Blynyddol y clwb yn cael ei gynnal nos WENER 13eg MEDI am 6.30yh yng Nghlwb Pêl-Droed Porthmadog, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda'r Bwrdd a'r Rheolwr.
Croeso i bawb!!


Porthmadog Football Club hereby give notice that the club's Annual General Meeting will be held on Friday 13th September at 6.30pm in the clubhouse at Y Traeth, followed by a question and answer session with the Board and Manager.
Everyone welcome
25/08/24
LLANRWST UNITED: Nos Fawrth / Tuesday: Y Traeth: 7.45pm

Noddwr y Gêm / Match Sponsor: TANRONNEN INN, BEDDGELERT

Yn ôl i’r gynghrair Nos Fawrth gyda Chris Jones a Marc Seddon yn ôl mewn gofal ac yn edrych i adeiladu ar gychwyn da.
Nos Fawrth gwelwn dau o’r tri clwb yn yr Ardal NW sydd yn dal yn ddiguro yn wynebu eu gilydd ac, er ein bod ond 5 gêm i fewn i’r tymor, mae’n teimlo fel gêm o bwys mawr i’r ddau glwb yn y râs am ddyrchafiad.
Eisoes mae dychwelaid Julian Williams i’w glwb cartref wedi profi yn symudiad dylanwadol gyda cyn chwaraewr Port yn canfod y rhwyd yn gyson.
Bydd y ddau glwb yn dod i’r gem hon ar gefn buddugoliaethau yn Rownd Rhagbrofol Cwpan Cymru.
Cefnogwch yr hogia’ Nos Fawrth.
C’mon Port!!

Back to the league for Port on Tuesday night with Chris Jones and Marc Seddon back in the dugout and looking to build on a good start.
On Tuesday it will be a case of two of only three unbeaten Ardal NW clubs facing each other and, though its only five games into the season, it already feels like a fixture of significant importance for both clubs in the search for promotion.
The return of Julian Williams to his home town club has proved influential, with the former Port player finding the net on a regular basis.
Both teams come to this game following Welsh Cup Qualifying Round wins last Saturday.
Good support on Tuesday will be important. See you there!!
C’mon Port!!

Llun / Photo: Caio Evans Canol cae dylanwadol / midfield dynamo.
24/08/24
Wythnos yn gyfnod hir.... / A week is a long time in.....


Yn union saith niwrnod ar ôl iddo ymadael â’r Traeth mae Chris Jones yn ôl yn sedd y rheolwr. Roedd ei ymadawiad yn sioc enfawr i’r bwrdd, y chwaraewyr a’r cefnogwyr ac, yn y dyddiau prysur a ddilynodd, bu Chris yn rheoli Runcorn Town am ddwy gêm, bu Port yn hysbysbu am rheolwr newydd a wedyn dyma fo yn ôl ar Y Traeth, gyda’i gynorthwyydd Marc Seddon, i barhau â’r gwaith da a oedd eisoes wedi’i gychwyn.
Isod mae Chris yn dweud y cyfan sydd angen i ni fel cefnogwyr i wybod, a bellach gall y frwydr am ddyrchafiad barhau.

Exactly 7 days after his departure from Porthmadog, Chris Jones is back in the manager’s seat at the Traeth. His leaving proved a huge shock to the board, players and supporters and the hectic days which followed saw Chris take charge of two games at his new club Runcorn Town, saw Port seek applications for a new manager and then, a week after leaving, he and his assistant Marc Seddon are back at the Traeth to continue the good work they had already started.
. Below Chris (Twitter account) tells all we as supporters need to know and it’s a case of let the battle for promotion continue.

.”I don’t think this is the platform to try and explain the reasons behind the last week, those who need to know have had the full facts all the way through and have been brilliant with us
All I do want to say it’s not lost on us how lucky we are to be back at an amazing club in Porthmadog with a squad of players we love working with and it’s important now we get back to work and build on the good start to the season so far.”

23/08/24
RHEOLWR TÎM CYNTAF / FIRST TEAM MANAGER


Chris jones a Marc Seddon yn ôl wrth y llyw!!
Isod gweler datganiad y Bwrdd

Oherwydd amgylchiadau eithriadol mae'r broses o ddewis rheolwr newydd ar gyfer y tîm 1af wedi ei atal.
Gadawodd Chris Jones ei swydd fel rheolwr oherwydd ymrwymiadau gwaith. Fodd bynnag, mae newid wedi bod yn ei amgylchiadau ac mae’r clwb yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cael ei ail-sefydlu fel Rheolwr Tîm 1af ochr yn ochr â’r Is Reolwr Marc Seddon.
Hoffai’r clwb ddiolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb yn y swydd.
Hoffai'r cyfarwyddwyr hefyd ddiolch i Trystan Davies am ei waith caled a'i ymrwymiad fel rheolwr dros dro.



Management duo back in charge.
Below is a statement released by the Board

Due to exceptional circumstances the process of selecting a new manager for the 1st team has been halted.
Chris Jones left his position as manager because of work commitments. However, there has been a change in his circumstances and the club are pleased to announce that he has been reinstated as 1st Team Manager alongside Assistant Manager Marc Seddon.
The club would like to thank everybody who has shown an interest in the position.
The directors would also like to thank Trystan Davies for his hard work and commitment as interim manager.

18/08/24
SWYDD: RHEOLWR TÎM CYNTAF / VACANY: FIRST TEAM MANAGER


CPD Porthmadog Mae Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn chwarae yng Nghynghrair Ardal Lock Stock Gogledd Orllewin (Haen 3).
Mae Swyddogion CPD Porthmadog yn gwahodd ceisiadau am swydd Rheolwr Tîm Cyntaf.
Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded 'UEFA B' neu weithio tuag at drwydded 'UEFA B'.
Meddu ar wybodaeth am system bêl-droed Cymru, bod yn uchelgeisiol, deinamig, gyda chysylltiadau da, gweithio gyda'r Tîm Datblygu a meddu ar feddylfryd buddugol.
Bydd pob cais yn cael ei wneud yn gwbl gyfrinachol.
Dyddiad cau ar gyfer pob cais yw dydd MERCHER 28 AWST 2024 - 5pm.
Cyflwynwch eich CV pêl-droed i Ysgrifennydd y Clwb, Mr Chris Blanchard:
crb.58@hotmail.com



Porthmadog Football Club play in the Lock Stock Ardal North West League (Tier 3).
Porthmadog FC are inviting applications for the post of First Team Manager.
The successful applicant needs to hold an UEFA B licence or working towards an UEFA B Licence
. Have knowledge of the Welsh football system, be ambitious, dynamic, with good contacts, working with the Development Team and have a winning mentality.
All applications will be made in the strictest confidence.
The deadline for all applications is WEDNESDAY 28th AUGUST 2024 - 5pm.
Please submit your footballing CV to the Club Secretary, Mr Chris Blanchard
crb.58@hotmail.com


22/08/24
CPD TREF AMLWCH TOWN: Sadwrn / Saturday: Cae Lôn Bach: 2.00pmLL68 9BL


CBDC / FAW Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Amlwch ar gyfer ail rownd rhagbrofol Cwpan JD Cymru gyda’r gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Mae’r clwb o Ynys Môn yn chwarae yn Adran Gynta’ Cynghrair y Gog Orllewin. Hyd yma dim ond wedi chwarae un gêm a honno yn gyfartal 1-1 yn erbyn CPD Deiniolen. I gyrraedd y rownd Rhagbrofol 2 cawsant fuddugoliaeth o 3-1 dros Bethesda Rovers ond yn y Tlws CBDC colli oedd yr hanes yn erbyn Nantlle Fêl.
Hon fydd ymweliad cynta Port ag Amlwch ers tymor 2003/04 pan oedd y ddau yn y Cymru Alliance. Pnawn Sadwrn bydd Port yn edrych am fwy o’r math o chwarae a gafwyd yn erbyn tîm addawol a thalentog NFA; gyda’r fuddugoliaeth yn symud Port i’r brig ar wahaniaeth goliau ond, gyda 3 o’r bedair gêm nesa yn gemau cwpan, yn anffodus bydd y gynghrair yn y sedd gefn. Gyda Port yn dal i chwilio am reolwr, yn dilyn ymadawiad sydyn Chris Jones, bydd yn benwythnos arall mewn gofal i Trystan Davies.
C’mon Port!!

On Saturday Port will travel to Amlwch for a JD Welsh Cup 2nd Qualifying Round tie with a 2pm kick off.
The Anglesey club play in North Wales Coast West Div. 1. They have only played one league game this term, a draw with CPD Deiniolen. To reach this round Amlwch won their Welsh Cup 1st Qualifying Round tie with a 3-1 home victory over Bethesda Rovers but in the FAW Trophy they suffered a 5-1 defeat to Nantlle Vale.

This will be Port’s first visit to Amlwch since the 2003/04 season when both clubs were in the Cymru Alliance. On Saturday they will be looking to continue the good form shown in the victory, last Saturday, over a skilful NFA side; a win which puts them in top spot on goal difference but with 3 of the next 4 fixtures being cup-ties, the league takes something of a back seat. Still looking for a replacement for Chris Jones whose sudden departure means another weekend in charge for Trystan Davies.
C’mon Port!!

Llun / Phloto: Rhys Alun dwy gôl yn erbyn NFA / brace v NFA
18/08/24
Diolch Kate a Rob / Thanks to Kate and Rob


CPD Porthmadog Hoffai swyddogion y clwb ddiolch i Kate a Rob Bennett am ddarparu hysbysfwrdd ar gyfer hyrwyddo gemau Tîm Datblygu.
Maent hefyd wedi rhoi rhodd hael i helpu at gostau rhedeg y Tîm Datblygu ar gyfer y tymor hwn. Diolch yn fawr.

Club officials would like to thank Kate and Rob Bennett for generously providing the board in the turnstile area which promotes future Development Team matches.
They have also given a generous donation to help cover the costs of the Development Team for this season.
Many thanks.
18/08/24
AMLWCH TOWN: Pryd oedd y tro diwetha’? When was the last time?


Bydd Port yn chwarae Amlwch yn Rownd Rhagbrofol 2 Cwpan JD Cymru pnawn Sadwrn. Y tro diwetha i’r ddau gyfarfod ar Gae Lôn Bach, oedd gyda’r ddau yn y Cyrmu Alliance a Viv ac Osian yn rhedeg y sioe ar Y Traeth.
Y dyddiad oedd Awst 17eg 2002 a Port oedd yr enillwyr diolch i unig gôl y gêm yn cael ei sgorio gan Gareth Parry, a fo yn chwarae ei gêm gynta’ i Port!! A pwy oedd yn y gol yn cadw llechen lân? Ia Richard Harvey!!
Dyna’r tymor y sicrhaodd Port ddyrchfaid i Gynghrair Cymru wrth ennill y Cymru Alliance o hyd cae. O gofio hynny, roedd y canlyniad yn Amlwch yn dipyn agosach na oedd neb yn ei ddisgwyl. (Rhybudd bach efallai!!)
Gorffenodd Amlwch y tymo4 yn yr 8fed safle ond ar eu hymweliad â’r Traeth colli o 6-0 oedd yr hanes gyda Steve Pugh a Gareth Caughter yn sgorio dwy yr un, gyda Carl Owen a Dafydd Evans(pen) yn rhwydo hefyd.
Dyddiau da ac atgofion gwych am dymor rhyfeddol.

Port have been drawn to play Amlwch Town in Qualifying Round 2 of the JD Welsh Cup on Saturday. On the last occasion the two clubs met at Amlwch’s Lôn Bach Ground, both clubs were in the Cymru Alliance and Viv and Osian were in charge at the Traeth.
The date was August 17th 2002. Port won by the only goal of the game and it was scored by Gareth Parry who was making his Port debut on that day!! And who was in goal completing a clean slate? Yes it was Richard Harvey!!
That was the season Port won the Cymru Alliance by a country mile to gain promotion to the Welsh Prem. With that in mind the result on the day was far tighter than most anticipated. (A little reminder perhaps!!)
Amlwch ended the season in 8th place but when they visited the Traeth on February 3rd 2003 they suffered a 6-0 defeat with Steve Pugh and Gareth Caughter scoring two each and Carl Owen and Dafydd Evans(pen0 also finding the net.
Happy days and great memories of an outstanding season.

Y timau ar y diwrnod / The teams on tha day
Amlwch : Tony Roberts, Ben Jones(capt), Stewart Williams, Andy Macbeth,Ritchie Jones, Tony Jackson, Adrian Jones, Dylan Roberts, Kyle Hazelaar, Andy Roberts, Darren Thomas. Subs: Mervyn Williams, Alan Roberts, Andrew Stewart.
Port: Richard Harvey, John G. Jones, Danny Hughes, Lee Webber, Mike Foster(capt), Dafydd Evans, Gareth Parry, Ritchie Owen, Iwan Roberts, Matthew Hughes( Steve Pugh), Tony Williams( Jason Jones). Subnot used: Campbell Harrison.
15/08/24
Rheolwr yn gadael / Manager to leave


CPD Porthmadog Mae y rheolwr Chris Jones a’i is-reolwr Marc Seddon i adael y clwb.
Mynegodd swyddogion y clwb eu sioc a’u siom at y newyddion. Derbyniwyd y newydd yn gwbl ddi-rybudd gan adael y clwb â phenderfyniadau mawr a cwbl annisgwyl i’w gwneud.
Er hyn dymuna’r swyddogion wneud yn glir eu bod yn ddiolchgar i Chris a Marc am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod cyn-dymor ac yn rhoi carfan gre’ at ei gilydd.
Mae Chris Jones wedi derbyn cynnig swydd yn ardal Lerpwl sydd yn cysylltiedig â’i swydd bob dydd fel hyfforddwr pêl-droed.
Er yn siomedig, ni wnaiff y digwyddiad yma rwystro’r clwb yn y brif amcan o sicrhau dyrchafiad ac, yng ngeiriau’r cadeirydd Phil Jones, “Does neb yn fwy na’r clwb a bydd y bwrdd yn symud i apwyntio rheolwr newydd mor fuan â phosib. Bydd y dasg i’r garfan yn aros yr un fath: sicrhau triphwynt pnawn Sadwrn.”
Anelir i sicrhau'r pwyntiau yma gyda Trystan Davies, rheolwr y Tîm Datblygu ac hyfforddwr Trwydded ‘B’, mewn gofal. Pob lwc Trystan
Cefnogwch yr hogia’. Gwelwn ni chi pnawn Sadwrn”!!

Manager Chris Jones and his assistant Marc Seddon are to leave the club.
Club officials expressed their deep shock and disappointment on recieving the news. The news was totally unexpected, leaving the board with huge decisions to make.
They would however like to place on record their appreciation of the hard work put in during pre-season, in the build-up and putting the squad together.
Chris Jones has accepted an offer in his home area which is connected to his daily work in football coaching.
Events, though disappointing, will not deter the club in its aim to go all out for promotion and, in the words of the chairman, Phil Jones, “No individual is bigger than the club and the board will move to appoint a new manager as soon as possible. The immediate aim of the club is unchanged, seeking three points on Saturday.”
This will be done with the Development Team manager and ‘B’ Licence coach, Trystan Davies in charge. Best of luck Trystan.
Support the lads! See you Saturday!
15/08/24
NFA F.C.: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2.30pm


Noddwr y Gêm / Match Sponsor: EDDIE BLACKBURN
Pnawn Sadwrn bydd clwb NFA o’r Rhyl yn ymweld â’r Traeth a hynny am y tro cynta’ yn eu hanes byr. Bydd y gic gynta am 2.30pm. Y mater sy’n denu sylw ydy’r enw: a deallwn fod NFA yn sefyll am National Football Advance. Ffurfiwyd y clwb yn 2018 i gynnig cyfleoedd pêl-droed i bob oed o fechgyn a merched.
Mae’r prif garfan wedi symud yn gyflym drwy’r haenau gan gyrraedd Haen 3 mewn dim ond 3 tymor. Dyrchafywd y clwb i Haen 3 yn bencampwyr Cynghrair Arfordir y Dwyrain. Bellach maent wedi gweud cychwyn da yn y tymor presennol gan ennill dwy o’u tair gem gynghrair. Byddant yn teithio i’r Traeth ar gefn buddugoliaeth o 2-1 dros Llannefydd.
Daw Port hefyd i’r gêm hon yn dilyn buddugoliaeth a perfformiad da, gan ddarganfod eu cyffyrdddiad o flaen gôl. Rhwydodd Tom Hilditch ddwywaith a sgoriwyd tair gôl mewn dim on 3 munud. Perffromiad da a safon uchel o gywirdeb pasio.. Gobeithiwn am fwy o’r ‘run fath.
C’mon Port!!

On Saturday the NFA FC of Rhyl will be the visitors to the Traeth for a Ardal NW fixture. Kick off will be at 2.30pm.
One of the intruiging things is the name, and we understand that NFA stands for National Footbal Advance. The club was formed in 2018 to provide opportunities for Girls and Boys to play age group football games.
The senior squad has made rapid progress to Tier 3 which they have reached in just 3 seasons. They were promoted as champions of the NW Coast East Premier last season. Further, they have made a good start to the current season winning two of their first 3 fixtures and they will travel to the Traeth on the back of a 2-1 win over Llannefydd.
Port also come on the back of a good win, finding their shooting touch at Cae Seilo. Tom Hilditch netted twice and three goals came in the space of just 2 minutes. It was a good all round performance and some quality passing football on view. Let’s hope for more this coming Saturday
C’mon Port!!
13/08/24
Ail-dîm Llanrwst yn ennill ar Y Traeth / Llanrwst Res win at the Traeth


Ail-dîm Llanrwst oedd yn fuddugol ar Y Traeth heno gyda sgôr o 5-1.
Zac Pike rhwydodd i Port

Llanrwst Res were winners at the Traeth tonight recording a 5-1 scoreline.
Zac Pike netted for Port.
12/08/24
CPD Y FELINHELI: Nos Fercher / Wednesday: Cae Seilo: 6.30pm.


Yn Y Felinheli ar y llethr yn Cae Seilo fydd Port Nos Fercher. Y tro diwetha i’r ddau glwb gyfarfod, a hynny o flaen torf fawr, roedd Port angen y pwyntiau i sicrhau’r cyfle i ennill dyrchafiad yn ôl i’r Cymru North.
Mae’r Felinheli, fel Port wedi chwarae dwy gêm, yn colli yng Nghonwy ac yn curo Teigrod Porthaethwy ar Gae Seilo. Werth cofio hefyd y rhediad gwych a gafodd y clwb at ddiwedd tymor 2023/24, er mwyn cadw eu lle yn yr Ardal NW.
Siom i Port yn Cei Connah, yn rhannu’r pwyntiau ar ôl bod dwy gôl ar y blaen. Ond y rhyfeddod mawr, ar ôl dim ond dwy gêm gynghrair, un clwb, sef Y Rhyl, sydd â record 100 y 100. Hyn yn awgrymu y bydd y gynghrair hon yn un gystadleuol, gyda nifer o’r ffefrynnau yn barod wedi colli gêm. Cawn weld!!
C’mon Port!!

Port will be away to Y Felinheli on Wednesday evening with a 6.30 kick off.
The last time the two clubs met was, in front of a large crowd at Cae Seilo with Port looking for points to reach the play-offs.
Y Felinheli, like Port, have played two league games, losing at Conwy and then beating Menai Bridge Tigers at Cae Seilo Worth also recalling Felin’s great run at the end of last season to retain their place in the Ardal NW.
There was disappointment for Port, sharing the points at Connah’s Quay, after going two goals ahead. The big surprise so far, however, is that Rhyl are the only club with a 100% record, and that after just two games!! This suggests it will be a competitive league this season, with a number of potential front runners already having suffered defeat. We shall see!!
C’mon Port!!
Llun / Photo: Danny Brookwell sgorio’r gynta pnawn Sadwrn / netted his first on Saturday.
11/08/24
Cynghrair Ail Dimau Gogledd Orllewin / Reserve League North West: Nos Fawrth / Tuesday 7.30pm


CPD Porthmadog Nos FAWRTH bydd y Tîm Datblygol yn chwarae eu hail gêm o’r tymor newydd. Bydd y gêm ar Y Traeth gyda’r gic gynta’ am 7.30pm.
Bydd y rheolwr Trystan Davies yn edrych i adeialdu ar y fuddugoliaeth o 3-2 dros Ail-dîm Dolgellau.
Ail-dîm Llanrwst bydd yr ymwelwyr. Bydd y tîm o Ddyffryn Conwy hefyd yn chwarae eu hail gêm yn dilyn colled o 4-3 yn erbyn Tîm Dan19 Bae Colwyn.
Pob lwc hogia’!!

The Development Team play their 2nd league fixture of the new season on Tuesday evening at the Traeth with a 7.30pm kick off. They will be looking to build on their 3-2 win over Dolgellau Res.
The visitors will be Llanrwst Res who will also be playing their second fixture having suffered a narrow 4-3 defeat to Colwyn Bay U19s.
Best of luck to Trystan Davies' team.
Support the lads!
09/08/24
Buddugoliaeth i'r Tîm Datblygol / Win for Development Team


CPD Porthmadog Agorodd y Tîm Datblygol eu tymor ar Y Traeth heno gyda gêm yn erbyn Ail Dîm Dolgellau. Buddugoliaeth agos o 3-2 i Port. Mabon Owen yn agor y sgorio i Port ar 38’ ond Dolgellau yn dod a’r sgôr yn gyfartal cyn yr hanner.
Zak Pike yn rhoi Port yn ôl ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner ond Dolgellau yn unioni’r sgôr yn reit fuan eto. Ar 63’ cerdyn coch yn golygu fod Dolgellau lawr i 10 dyn. Rhwydodd Elis Puw o’r smotyn i Port a’r sgôr yn aros yn 3-2 hyd y diwedd. Braf cychwyn efo buddugoliaeth!!

The Development Team opened their season tonight, welcoming Dolgellau Res to the Traeth. Port edged a 3-2 victory. Mabon Owen put Port ahead on 38’ but Dolgellau got the equaliser to go in at half-time at 1-1.
Zak Pike restored the lead soon after the interval but it did not last long before another equaliser. On 63’ Dolgellau were reduced to 10 men and this proved significant as Elis Puw converted the penalty to make it 3-2 and that’s how it remained, A win to set the season rolling!
08/08/24
CONNAH’S QUAY TOWN: Sadwrn / Saturday: Stadiwm Glannau Dyfrdwy / Deeside Stadium CH5 4BR 2.30pm


Bydd Port yn teithio i Gei Connah pnawn Sadwrn ar gyfer eu hail gêm gystadleuol o’r tymor Yn wahanol iawn mae ein gwrthwynebwyr yn barod wedi chwarae 3 gêm gystadleuol, gan ennill y dair, un gêm gynghrair a dwy gêm gwpan.
Roedd trefnu gemau cwpan ar ddau Sadwrn yn olynnol ar gychwyn y tymor ddim o fudd i Port. Ar y llaw arall mae Tref Cei Connah wedi elwa ac ei blaenwr Sam Reynolds wedi bod yn tanio. Eisoes mae wedi rhwydo 7 gôl yn y 3 gêm, gan gynnwys hatric yn y Tlws dros y penwythnos diwetha’. Un i gadw llygad arno felly!! Hefyd, wythnos hon, maent wedi arwyddo’r blaenwr adnabyddus, profiadol, Jamie Reed
Ond roedd pob rheswm hefyd i Chris Jones deimlo’n hapus gyda perfformiad ei dîm. Yn ei gyfweliad gyda Dylan Elis yn dilyn y gêm gyda Pwllheli, ei unig feirniadaeth oedd bod angen i’w dîm fod yn fwy clinigol er yn dda hefyd gweld Tom Hilditch yn canfod y rhwyd yn ei gêm gynta’ dros y clwb.
Fel arfer byddai cyflwyno 3 eilydd i’r maes ar 78 munud, fel wnaeth Chris, yn achosi cryn nerfusrwydd i gefnogwyr ond, nos Fawrth, cyflwynwyd y coesau fresh heb wanhau dim ar y tîm. Arwydd o gryfder y garfan sy’n dod at eu gilydd?
Cawn bwyso a mesur eto pnawn Sadwrn.
C’mon Port!!

Port travel to Connah’s Quay on Saturday for their 2nd compettitve fixture whereas their opponents have already completed three competitive fixtures, winning all three, two cup ties and one league fixture.
This rather odd arrangemant of consecutive Saturday cup ties at the very start of the season has hardly suited Port. One who has taken full advantage,however, with a flying start to the season is Connah’s Quay Town‘s striker Sam Reynolds. He has already netted 7 times in the 3 games with a hat-trick last weekend in the FAW Trophy.. One to keep an eye on perhaps!! This week Town have also signed the experienced striker, Jamie Reed
Chris Jones however had every reason to be pleased with his team’s start. In his post match interview with Dylan Elis he pointed to the need to be more clinical in front of goal though it was good to see Tom Hilditch score on debut.
The introduction of 3 subs on 78 mins, as Chris did on Tuesday, would usually cause trepidation for supporters but, on Tuesday, it was done with no loss of quality which points to the strength of the squad being built.
We shall watch for further developments on Saturday.
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Tom Hilditch & Rhys Alun. Sgorwyr / Scorers v Pwllheli
07/08/24
NOS WENER / FRIDAY 7.30pm: Tîm Datblygu / Development team v Ail-dîm DOLGELLAU Res


CPD Porthmadog Bydd y Tîm Datblygu yn cychwyn eu tymor yng Nghynghrair Ail-dimau Gogledd Orllewin Cymru gyda gêm ar Y Traeth yn erbyn DOLGELLAU.
Chwaraeir y gêm Nos Wener gyda’r gic gynta’ am 7.30pm
Pob lwc hogia’


The Development Squad start their season in the FAW Reserve League North West with a home fixture against Dolgellau Res
They will be at the Traeth on Friday with a 7.30pm kick off.
Good luck lads.
08/08/24
TLWS CBDC / FAW TROPHY


Tynnwyd yr enwau ar gyfer Rownd 1 Tlws CBDC
Bydd Port adra’ yn erbyn Hotspyrs Caergybi.
Chwaraeir y gêm ar Sadwrn 7fed Medi.

The draw has been made for Round 1 of the FAW Trophy.
Port have been drawn at home to HOLYHEAD HOTSPUR
The game will be played on Saturday 7th September.
03/08/24
Cynghrair Ail Dimau y Gogledd Orllewin / Reserve League North West


CPD Porthmadog Isod gweler y rhestr o gemau y Tîm Datblygol sydd wedi eu trefnu
Cywir ar y dyddiad uchod ond bosib’ i hynny newid!!!!

Rd 1. 09/08 Port v Dolgellau 7.30pm
Rd 2. 13/08 Port v Llanrwst 7.30pm
Rd 3. 16/08 Conwy v Port 7.30pm OFF
Rd. 4. 03/09 Llanuwchllyn v Port 6.45pm

The above fixtures have been currently scheduled for the Port Development Squad.
Could well be liable to change!!!!!!
31/07/24
CWPAN JD CYMRU: Rownd Gymhwyso 2 / JD WELSH CUP: Qualifying Round 2


CBDC / FAW Bydd Port oddi cartref yn yr 2ail Rownd Gymhwyso Cwpan JD Cymru yn TREF AMLWCH.
Chwaraeir y gêm ar benwythnos Awst 23 /24


Port have been drawn away at AMLWCH TOWN in the 2nd Qualifying Round of the JD Welsh Cup.
The game will be played on the weekend of August 23/24
31/07/24
Cychwyn efo buddugoliaeth / Good start for Chris


I Chris Jones roedd y profiad o fod nol wrth ymyl y cae ar ôl cyfnod i ffwrdd, yn un hynod bleserus i’r rheolwr newydd. Gwelodd ei dîm yn sicrhau buddugoliaeth yng ngêm gynta’r tymor, a hynny mewn darbi lleol yn erbyn Pwllheli, ac o flaen torf sylweddol o 573. Roedd dwy gôl, un i’r blaenwr newydd Tom Hilditch ac un arall i Rhys Alun, yn ddigon gan i’r amddiffyn hefyd gadw llechen lân.
Isod gweler sylw Chris ar diwedd y 90 munud.

Back in the dugout after a while away proved a highly satisfying experience for new boss Chris Jones as he saw his team pull off an opening night victory against local rivals Pwllheli in front of a crowd of 573.. Two goals, an opener for new striker Tom Hilditch and another from Rhys Alun were enough, as the defence kept a clean sheet.
Commenting afterwards a pleased Chris Jones said:-
“That winning feeling, -haven’t half missed it -on a personal level it’s been a long 10 months without a competitive game.
Great start to our season, lads kept their heads early on and allowed their quality to take over. Next one can’t come quick enough

31/07/24
CARREG FILLTIR JOSH BANKS / A MILESTONE FOR JOSH


Llongyfarchiadau enfawr i Josh Banks a gyrhaeddodd garreg filltir arwyddocaol neithiwr yn chwarae ei 300fed gêm drosPort.
Yn ddigon eironig daeth y garreg filltir mewn gêm yn erbyn Pwllheli ei dref cartref.
I nodi'r achlysur croesawyd Josh i'r cae ar gychwyn y gêm gan ei gyd chwaraewyr a rhai o ieuenctid y clwb.
Arwyddodd Josh i Port am y tro cyntaf yn 2012 ac mae wedi cynrychioli’r clwb am y 12 tymor a ddilynodd (colli blwyddyn Covid). Bu’r clwb yn ddyledus iawn iddo dros y blynyddoedd am ei deyrngarwch, safon ei chwarae a’i gysondeb dros y blynyddoedd yma.
Yn safle’r cefnwr chwith y cysylltwn Josh fwyaf dros y cyfnod ond yn y tymhorau diweddar cyfranodd hefyd yng nghanol yr amddiffyn.
Diolch a llongyfarchiadau Josh a dal ati i gynrychioli Port am flynyddoedd eto!.

.
Highslide JS

Huge congratulations to Josh Banks who reached a significant milestone last night making his 300th appearance for Port.
Ironically enough the milestone was reached in a game against his hometown club, Pwllheli.
A guard of honour of his team mates and club youngsters welcomed Josh on to the pitch at the start of the game. Josh first signed for Port back in 2012 and has represented the club in the 12 seasons that followed. (One season missed for Covid) The club has been greatly indebted to him for his loyalty, the quality of his play and consistency over these years.
He has played mainly in the left back position but in recent seasons has also played in central defence.
Congratulations and thanks Josh and carry on serving the club.
28/07/24
CPD PWLLHELI: Nos Fawrth / Tuesday; Y Traeth 7.45pm

Noddwyr / Match Sponsors: Q WILLIAMS CONSTRUTCION
Noddwyr v Bêl / Match Ball Sponsors: EMRYS GRIFFITH & GARY FALCONER ELECTRICALS

Nos Fawrth bydd tymor yr Ardal NW yn cychwyn gyda Port yn croesawu y cymdogion CPD Pwllheli i’r Traeth, gyda’r gic gynta’ am 7.45pm.
Y tymor diwetha’ gorffennodd Pwllehli yn 11eg yn y tabl ac byddant yn edrych i wella ar hyn y tymor hwn. Tra roedd Port heb gêm dros y penwythnos, roedd Pwllheli yn chwarae eu gêm yng Nghwpan JD Cymru lle, diolch i goliau hwyr, curwyd Kerry o 3-1. Bydd balchder lleol yn ychwanegu at y sialens nos Fawrth gyda carfan Pwllheli yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd i gefnogwyr Port.
Aeth dau dymor heibio ers i Port fod yn yr Ardal NW, ac mae’n ddigon o syndod i weld gymaint o newid a fu ers hynny. Dim ond pedwar clwb o 2021/22, Llanrwst, Dyffryn Nantlle, Dinas Llanelwy a’r Felinheli sy’n dal yna.
Bydd pob clwb yn chwilio am gychwyn da ac mae hyn yn arbennig o wir am Port, gyda Chris Jones yn rheolwr newydd a nifer o wynebau newydd yn y garfan.
C’mon Port!!

Tuesday night sees the opening of the Ardal North West season, with Port welcoming neighbours Pwllheli to the Traeth for a 7.45pm kick off.
Last season Pwllheli finished in 11th spot in the table and will be looking to improve on that result this season. While Port sat out last weekend, Pwllheli were involved in the JD Welsh Cup qualifying tie where thanks to a flurry of late goals defeated mid-Wales club Kerrry 3-1. Local rivalry will add to the challenge on Tuesday with the Pwllheli squad likely to contain many faces familiar to Port supporters
Two seasons have passed by since Port played in this Ardal NW and it is surprising to note the changeover of clubs there has been since then. Only four of the clubs from 2021/22 remain; Llanrwst, Nantlle Vale, St Asaph City and Y Felinheli.
All clubs will be looking to make a good start, and this will be especially true of Port with new manager Chris Jones in charge, and several new faces in the squad
C’mon Port!!
25/07/24
Cyffordd LLANDUDNO Junction FC: Sadwrn / Saturday: Flyover Ground OFF


Yn anffodus mae'r gêm dydd Sadwrn yn Cyffordd Llandudno wedi'i chanslo gan y clwb cartref, oherwydd prinder chwaraewyr ar gael.
Gweld chi gyd ar Y Traeth nos Fawrth erbyn Pwllheli, cic gyntaf am 7.45yh.

Unfortunately Saturday's match at Llandudno Junction has been cancelled by the home club, due to lack of players available.
See you all on Tuesday evening Port v Pwllheli k.o. 7.45pm

24/07/24
SION TREFOR JONES yn ymuno / SION TREFOR JONES signs


Heno daeth y cyhoeddiad mai SION TREFOR JONES oedd y diweddara’ i symud o glwb Dyffryn Nantlle i’r Traeth.
Roedd yr amddiffynwr canol 25 oed yn aelod rheolaidd o garfan y Fêl o dan Sion Eifion yn yr Ardal NW llynedd. Cynt fu gyda Met Caerdydd.
Croeso i’r Traeth Siôn

Tonight the announcement was made that SION TREFOR JONES is the latest to make the move from neighbours Nantlle Vale to the Traeth;
A 25 year-old central defender who was a regular performer in the Vale defence under Sion Eifion in the Ardal NW last season. He was previously with Cardiff Met FC.
Welcome to the Traeth Siôn
24/07/24
Cynghrair Ail-dimau y Gogledd Orllewin 2024/25 / FAW Reserve League North West 2024-25


Mae’r penderfyniad wedi’i gymryd i rannu Cynghrair Ail-dimoedd y gogledd yn ddwy gynghrair. Felly yn 2024/25 bydd ‘Tîm Datblygu Porthmadog’ yn chwarae yng Nghynghrair Ail-dimau’r Gogledd Orllewin.
Dim ond 9 clwb fydd yn y gynghrair a felly penderfynwyd y bydd pob clwb yn chwarae ei gilydd ddwy waith, cartref ac oddi-cartref, a wedyn byddant yn chwarae 3ydd gêm gyda’r tîm cartref yn cael ei amrywio.
Isod gweler rhestr y clybiau fydd yn chwarae yn Nghynghrair y Gogledd Orllewin.

Bangor 1876
Bae Colwyn Bay
Conwy
Dolgellau
Llandudno
Llanrwst
Llanuwchllyn
Nantlle Vale
Porthmadog

The decision has been taken to split the North Wales Reserve League geographically which means that the ‘Port Development Team’ will play in the North West Reserve League in the 2024/24 season..
As there will only be 9 clubs in the league the fformat will be:
Triple Round Robin – each team plays each other home and away, and will play for a third time with the home team randomised
Above is the composition of the FAW Reserve League North West:
23/07/24
Tîm Datblygu / Development Team




CANLYNIAD / RESULT: PORT 8--3 AMLWCH TOWN



Sgorwyr / Scorers:

Zac Pike {3} Elis Puw {3}, John Littlemore, Jakub Romanowicz.

Da iawn hogia'!!!
23/07/24
DIWRNOD GWAITH / WORKDAY


CPD Porthmadog Mae diwrnod o chwynnu, tacluso, peintio a chynnal a chadw wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn rhwng 10yb a 1yp ar Y Traeth.
Os oes gennych ychydig o oriau'n sbâr byddai'n cael ei werthfawrogi.
Diolch.


A day of tidying up, weeding, strimming, painting and general maintainence has been organised for this Saturday, between 10am - 1pm at Y Traeth, and if you have an angle grinder, we need to remove some seats from the Quarry End stand.
If you have a few hours to spare it would be appreciated.
Thank you.
21/07/24
Gemau cyfeillgar / Friendly fixtures


CPD Porthmadog Mae dwy gém gyfeillgar ychwanegol wedi’u trefnu ar gyfer yr wythnos hon, un i’r Tím Cynta’ ac un i’r Tím Datblygol
Nos Fawrth 23/07 Tím Datblygol v AMLWCH Y Traeth 7.30pm.
Sadwrn 27/07 CYFFORDD LLANDUDNO v Port 2.00pm The Flyover Ground, Cyffordd Llandudno, LL31 9NU

Two more friendly fixtures have been arranged for the coming week, one for each squad.
Tuesday 23/07 Development Team v AMLWCH TOWN
Saturday 27/07 LLANDUDNO JUNCTION v Port 2.00pm The Flyover Ground, Llandudno Junction, LL31 9NU
21/07/24
Rowndiau Cymhwyso CWPAN JD CYMRU / JD WELSH CUP Qualifying Rounds.


CBDC / FAW Bydd y Rownd Gymhwyso 1af Cwpan JD Cymru yn cael ei chwarae ar benwythnos 26ain / 27ain Gorffennaf.
NI FYDD Port yn chwarae yn y rownd yma.
Bydd yr 2ail Rownd Gymhwyso yn cymryd lle ar benwythnos y 23ain / 24ain Awst.
Bydd Port yn yr het ar gyfer y Rownd yma.

The 1st Qualifying round of the JD Welsh Cup will be played on the weekend of 26th/27th July.
Port will NOT be involved in this round.
The 2nd Qualifying Round of the competition will be played on the weekend of 23rd / 24th August with Port in the draw for this round.
21/07/24
TLWS CBDC Rowndiau cymhwyso / FAW TROPHY Qualifying Rounds


CBDC / FAW Ni fydd Port yn chwarae yn y Rownd Gymhwyso 1af TLWS CBDC
Bydd Rownd 1 cael ei chwarae ar benwythnos y 2/3 Awst.
Daw Port i’r gystadleuaeth yn yr 2ail Rownd Gymhwyso fydd yn cael eu chwarae ar benwythnos 6 /7 Medi.

Port will NOT be involved in Qualifying Round 1 of the FAW TROPHY.
Qualifying Round 1 will be played on the weekend 2/3 August
Port will be in the draw for Qualifying Round 2 with the games played on the weekend of 6/7/September.
19/07/24
TOM HILDITCH yn ymuno / TOM HILDITCH signs


Mae’r rheolwr Chris Jones wedi ychwanegu at ei opsiynau yn y blaen wrth iddo gyhoeddi fod Tom Hilditch wedi ymuno gyda Port. Y tymor d iwetha’ roedd yn chwarae gyda Burscough FC, clwb yn Mhrif Adran y North West Counties. Chwaraeodd i glwb Prestatyn hefyd yn ystod 2022/23 lle roedd ganddo record dda fel sgoriwr, yn rhwydo 20 gôl mewn 27 gêm a cael ei enwi yn nhîm y tymor Cymru North. Y mae Fflint hefyd ymysg ei gyn glybiau.
Croeso i’r Traeth Tom.

Manager Chris Jones has added to his striking options with the signing of Tom Hilditch. The 23 year-old played last season for North Wales Counties Premier club Burscough FC. He also played for Prestatyn Town in 2022/23 scoring 20 goals in 27 appearances and was named in the Cymru North team of the season. His former clubs also include Flint Town Utd.
Welcome to the Traeth Tom.

The manager said of the signing “Great to be back workng with Tom Hilditch. Always done well for me and guarantees goals as well as being a character around the club. Squad’s come together nicely over the last few weeks and we can’t wait for the season to start.”
18/07/24
AFC LIVERPOOL: Sadwrn / Saturday: Y Traeth. 2.30pm.


Pnawn Sadwrn bydd Port yn croesawu AFC – Affordable Football Club- Liverpool i’r Traeth. Ffurfiwyd y clwb yn 2008 gan 1000 o gefnogwyr y Cochion, Mae’r clwb yn chwarae ym mhrif adran y North West Counties. Y tymor diwetha’ gorffen yn 14eg allan o 24 clwb oedd eu hanes.
Bydd hon yn brawf anodd arall i Port, a gyda cychwyn y tymor yn agosáu bydd cefnogwyr yn edrych am berfformiad da gan garfan Chris Jones.
C’mon Port!!

On Saturday Port will welcome AFC – the Affordable Football Club- Liverpool to the Traeth. The club was formed in 2008 by 1,000 Liverpool supporters. They play in the North West Counties Premier Division and last season finished 14th place in a league of 24 clubs.
This will be another real test for Chris Jones’ squad and, with the official season getting ever nearer, supporters will be eager to see a good performance.
C’mon Port!!
17/07/24
Tîm Datblygu / Development Team: Nos Fawrth / Tuesday: Y Traeth


CANLYNIAD / RESULT: Port 3 : CPD Talysarn Celts 7

Da iawn Zac Pike y blaenwr ifanc a gwblhaodd ei hatric.

Well done to young Port striker Zac Pike on scoring his hat-trick.
15/07/24
Jack Gibney yn arwyddo / Jack Gibney signs


Mae Chris Jones wedi arwyddo yr asgellwr cyflym JACK GIBNEY sydd yn y gorffennol wedi chwarae o dan Chris ac mae ei gyn glybiau yn cynnwys AFC Knowsley a Pilkington FC., Hefyd mae wedi cael profiad yn y Cymru North gyda Prestatyn.
Mae ganddo lygad am gôl fel mae Port eisoes yn gwyybod i’w cost.Rhwydodd gôl yn yr amser ychwanegol i sicrhau buddugoliaeth i Prestatyn dros Port yn ôl ym mis Chwefror 2023. Yn y gem hon cafodd golwr Port Morgan Jones gerdyn coch a disgrifiodd Dylan Rees yn ei adroddiad “yn ddiweddglo creulon i gêm”.
Dyna ni dwr dan y bont a chroesawn Jack i’r Traeth ac edrychwn ymlaen i'w weldyn rhwydo yn y coch a du!

Chris Jones has brought in pacy winger JACK GIBNEY, a player who has been part of previous squads under Chris. The winger’s former clubs include AFC Knowsley and Pilkington FC. and he also has Cymru North experience at Prestatyn Town.
He has an eye for goal as Port learned to their cost when Jack netted an added time winner for Prestatyn against Port back in February 2023. This was a game where Port keeper Morgan Jones saw red and our match reporter, Dylan Rees described it as “ ..a cruel end to a match”.
Water under the bridge now and we welcome Jack to the Traeth and look forward to his goals in the red and black!
14/07/24
Port yn arwyddo Dau / Two more signings announced


Ychwanegwyd dau enw arall i’r garfan ar gyfer 2024/25.
Croesawn Ashley Owen blaenwr a record dda fel sgoriwr sy’n ymuno o Nantlle Fêl.
Hefyd croesawn John Littlemore yn ôl i’r Traeth. Ers gadael Port bu'n chwarae gyda Conwy a Llangefni. Daw a digonedd o brofiad i’r garfan. Bydd cefnogwyr yn dwyn i gof ei gôl yn y y ffeinal ail gyfle yn Y Bermo.
Croeso i'r Traeth Ashley a croeso ‘nol John.

Two new names have been added to the squad for 2024/25.
Ashley Owen a forward who joins from Nantlle Vale FC, where he had an excellent goal-scoring record.
John Littlemore returns to the club. Since leaving Port he has been with Conwy Borough and Llangefni Town. He will bring a great deal of experience to the squad. Supporters will recall his excellent finish in the play-off at Barmouth.
Welcome to the club Ashley and welcome back John.
14/07/24
Tîm Datblygu / Development Team: Nos Fawrth / Tuesday: Y Traeth 7pm.


CPD Porthmadog Bydd y Tîm Datblygu yn croesawu CPD TALYSARN CELTS i’r Traeth Nos Fawrth (16/07) am gêm gyfeillgar gda’r gic gynta’ am 7 o’r gloch.



The Development Team will play a friendly fixture at the Traeth with CPD TALYSARN CELTS on Tuesday evening (16/07) . The kick off is at 7pm.
13/07/24
Fflint yn curo / Defeat for Port


Colled o 7-1 i Port yn y gêm gyfeillgar gyda Fflint, clwb sy’n paratoi at ddychwelyd i’r Cymru Premier. Roedd carfan Fflint wedi bod yn Morfa Bychan ar wersyll ymarfer yn paratoi. Erbyn hanner amser roedd Fflint 5-0 ar y blaen ac eri’r rheolwr Lee Fowler wneud newidiadau sylweddol at yr ail hanner ychwanegwyd dwy gôl arall i’w sgôr.
Roedd nifer o wynebau newydd yng ngharfan Port ond sawl chwaraewr allweddol ddim ar gael. Er waetha'r sgôr, ar yr ochr gadarnhaol, cychwynodd Port ddigon addawol a hefyd yn gystadleuol yn yr ail hanner. Y blaenwr ifanc Elis Puw rhwydodd y gôl gysur i Port.
Y Sadwrn nesa bydd Port yn croesawu AFC Liverpool i'r Traeth gyda'r gic gynta am 2.30pm

A 7-1 defeat for Port in the friendly fixture at home to Flint, a club gearing itself up for the return to the Cymru Premier. The Silkmen, who had been on a training camp at Morfa Bychan, were 5-0 up by the interval and, despite manager Lee Fowler’s wholesale changes for the second half, added two more to their tally.
For Port there were some new faces on view but also several key players were missing. Despite the scoreline on the positive side Port started brightly enough and were competitive in the second period. Young striker Elis Puw netted well a consolation goal for Port.
next Saturday Port will welcome AFC Liverpool to the Traeth for another friendly fixture. Kick off will be at 2.30pm
11/07/24
Y FFLINT: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2.00pm


Yn dilyn gemau cyn-dymor yn erbyn clwb o Ardal NE a dwy gêm gyda gwrthwynebwyr o’r Cymru North bydd Port yn croesawu Y Fflint pnawn Sadwrn, clwb fydd yn chwarae yn y Cymru Premier y tymor nesa’.
Bu’n haf prysur i Fflint a’i rheolwr Lee Fowler, gyda newidiadau mawr yn eu carfan. Yn ôl y ‘Transfer Tracker’ bydd 7 wyneb newydd yn eu carfan tra fod 10 o garfan llynedd wedi symud, chwech o rhain yn ymuno gyda Bae Colwyn.
Heb amheuaeth prawf anodd iawn i Port. Er y golled yn Caersws roedd yn dda gweld Rhys Alun yn canfod y rhwydd dwywaith.

Port haven’t looked for an easy life in the pre-season. Following on from games against Adran NE and Cymru North opposition they will welcome Flint to the Traeth with that club preparing for a return to the Cymru Premier.
The Flintshire club and manager Lee Fowler have had a very busy summer with a huge turn over of players. According to the Transfer Tracker, 7 new faces have joined the squad, while a total of 10 players have moved on with six of those signing for Colwyn Bay.
No doubt a really difficult test for Port. One big plus of the defeat last weekend was Rhys Alun netting twice.
10/07/24
Tîm Datblygu yn ennill / Win for Development Squad


CPD Porthmadog Buddugoliaeth o 3-2 i’r Tîm Datblygu neithiwr dros Blaenau Ffestiniog yn Cae Clyd.
Eu hail fuddugoliaeth o’r cyn dymor gyda’r blaenwyr addawol Elis Puw (2) a Zak Pike yn rhwydo i Port.

The Development Team recorded their 2nd pre=season victory over Balaenau Ffestiniog at Cae Clyd last night.
A 3-2 result with the Port goals coming from the promising strike pairing of Elis Puw (2) and Zak Pike providing the goals.
07/07/24
BANGOR 1876: GOHIRWYD / POSTPONED


Nos Fawrth, bydd Port yn parhau a’u paratoadau at y tymor newydd gyda’u 3ydd gêm yn erbyn clwb o’r Cymru North.
Bydd yn sialens go-iawn unawith eto, yn erbyn clwb fydd yn mynd am ddyrchafiad i’r Cymru Premier ar ôl gorffen yn y 5ed safle y tymor diwetha’. Clwb hefyd a wnaeth y dwbl dros Port.
Bydd y gêm yn cael eu chwarae ar faes TREBORTH gyda’r gic gynta’ am 7.30pm.

Port will continue their build-up for the new season when they play their 3rd consecutive pre-season friendly against Cymru North opposition on Tuesday evening.
The game presents another real test, as Bangor will be aiming for promotion to the Cymru Premier this season, having finished in 5th spot last season. They also did a holiday double over Port last season.
The game is to be played at TREBORTH and kick of is at 7.30pm.
06/07/24
NEWIDIADAU i’r RHESTR GEMAU / CHANGES to the FIXTURE LIST


Mae yna newidiadau i’r RHESTR GEMAU!!
Bydd Rowndiau Cymhwyso 1 & 2 Cwpan Cymru yn cael eu chwarae ar benwythnosau Gorffennaf 26/27 ac Awst 2/3. Felly NI FYDD gemau cynghrair yr ANW ar y dyddiadau yma.
Bydd tymor 2024/25, felly, yn cychwyn wrth inni groesawu CPD Pwllheli i’r Traeth arNOS FAWRTH, 20fed GORFFENNAF am 7.45pm.
Cewch rhestr gemau yr Ardal North West fel ma'e sefyll - yma: gemau

The FIXTURE LIST has already been subject to change!!
The Welsh Cup Qualifying Rounds 1 & 2 are being played on the weekends of July 26/27 and August 2/3 so ANW fixtures will NOT be played on these dates.
This means that the 2024/25 season will commence on Tuesday, 20th July when we entertain CPD Pwllheli at the Traeth. Kick off 7.45pm.
You can find the Ardal North West fixture list as it currently stands here:gemau

05/07/24
TACLUSO'R TRAETH / TIDYING UP OFF


WEDI GOHIRIO / OFF

Oherwydd Rhagolygon Tywydd gwael at bore Sadwrn / Due to the weather forecast for Saturday morning.
04/07/24
Rhestr gemau 2024/25 / Fixtures 2024/25


Cewch rhestr gemau yr Ardal North West ar y wefan - yma: gemau
Sylwch mae dros dro ydy’r rhestr ac mae'n bosib bydd yna newidiadau.
Ar hyn o bryd y 15 gêm gynta’ o'r tymor yn unig sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr gemau cynghrair.

You can find the Ardal North West fixture list here:gemau
Note that the league states that this is a provisional list and therefore could be subject to change.
At present the list is for the first 15 league matches only.
04/07/24
CAERSWS: Sadwrn / Saturday: Rec: Caersws 3.00pm


Yn dilyn colli o 4-1 i Llandudno bydd Port yn tieithio i chwarae Caersws, clwb arall o’r Cymru North, pnawn Sadwrn gyda’r gic gynta’ am 3 or gloch.
Y tymor diwetha’ cafodd Port 4 pwynt o’u gemau gyda’r clwb o’r canolbarth ond y tro yma bydd y ddau glwb a’u llygaid, nid ar bwysau ennill pwyntiau ond, at baratoi am y tymor newydd. Bydd yn gyfle arall i Chris jones fwrw golwg ar ei garfan.
Ar yr ymwelad diwetha â’r Rec rhwydodd Danny Brookwell ddwywaith ac mor dda ydy ei weld yn rhan o garfan Chris Jones. Yn ôl gwefan’ Y Clwb Pêl Droed ‘ mae Caersws wedi arwyddo dau sef Max McLaughlin o’r Waun a Max Williams o Shawbury, tra fod y profiadol Neil Mitchell wedi gadael.

Following the 4-1 defeat at Llandudno, Port take on more Cymru North opposition when they travel to the Rec in Caersws for a 3pm kick off.
Last season Port picked up 4pts from their league encounters with the mid-Wales club. Next Saturday both sides will be preparing for the coming season without points pressure and it will provide manager Chris Jones with a further opportunity to asses his current squad.
On the last visit to the Rec, Danny Brookwell netted twice for Port and good to see him back as part of Chris Jones’ squad. According to the ‘Clwb Pêl-droed’ transfer tracker, Caersws have signed Max McLaughlin from Chirk AAA and Max Willams from Shawbury, while the experienced Neil Mitchell has left the club.
03/07/24
Port v AFC LIVERPOOL

Mae gêm ar y Traeth gyda AFC Liverpool wedi’i hychwanegu at rhestr y gemau cyn-dymor.
Chwareir y gêm ar Sadwrn, 20fed Gorffennaf gyda’r gic gynta am 2.30pm.

A home fixture with AFC Liverpool had been added to the list of pre-seasom games.
The game will be played on Saturday, July 20th with a 2.30pm kick off.
03/07/24
TACLUSO'R TRAETH / TIDYING UP /

Mae diwrnod o chwynnu, tacluso a chynnal a chadw wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn rhwng 10yb a 12yp ar Y Traeth.
Os oes gennych ychydig o oriau'n sbâr byddai'n cael ei werthfawrogi.

A day of tidying up, weeding and general maintainence has been organised for this Saturday, between 10am - 12pm at Y Traeth.
If you have a couple of hours to spare it would be appreciated.
01/07/24
CYNEFIN ar y Traeth

Phil Jones Welsoch chi ‘Cynefin’ o Port ar S4C neithiwr? Da oedd gweld a chlywed rhai o selogion y clwb yn egluro i Siôn Tomos Owen peth o hanes y clwb a lle’r clwb yn y gymuned yn Porthmadog.
Gerallt Owen, hanesydd y clwb gyda’i ffeil swmpus, oedd y dyn i fynd a Siôn yn ôl i 1872 a cychwyn un o glybiau hynaf Cymru tra, Angela Roberts a gafodd y dasg o ymweld a Siop y Clwb at Hywel, i sicrhau fod Siôn wedi ei wisgo’n addas ar gyfer cefnogi’r coch a du mewn gêm ar y Traeth.
Treflyn Jones, ein prif riportar a chefnogwr ers y ‘60au, yn atgoffa pawb o’r ‘oes aur’ pan oedd Mel Charles ar Y Traeth.
Y tirmon / gadeirydd Phil Jones, gyda’r fforc gyfarwydd yn ei law, a ddangosodd i Siôn Tomos Owen sut oedd gofalu am gae wedi ei sefydlu ar dywod.
Rhaglen dda iawn â sylw dyledus i’r Clwb Pêl-droed.

This is a piece about last night’s S4C TV programme ‘Cynefin’ which gave viewers a picture of Porthmadog, its establishment, history and present. This included a visit to the Traeth with Geralt Owen, Angela Roberts, Treflyn Jones and chairman / groundsman Phil jones giving viewers an idea of the part the club plays within the community.
30/06/24
PRIF NODDWYR 2024/25 / MAIN SPONSORS 2024/25








. Mae swyddogion y clwb yn hapus i gyhoeddi mai COLIN JONES (ROCK ENGINEERING), AGWEDDAU ERYRI, RHEILFFYRDD FFESTINIOG AC ERYRI a REGENT GARAGE yw ein prif noddwyr ar gyfer tymor 2024/25.
Hoffai'r clwb ddiolch i David Jones / Richard Owen, Andrew Kime, Clare Britton / Osian Hughes a Peter Evans am eu cefnogaeth parod unwaith eto.
Mae hyn yn newyddion gwych gweld 4 busnes amlwg lleol yn cefnogi'r clwb, mae hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn.








The club is happy to announce that COLIN JONES (ROCK ENGINEERING, ASPECTS OF SNOWDONIA, FFESTINIOG AND WELSH HIGHLAND RAILWAYS and REGENT GARAGE are our main sponsors for season 2024/25.
Club officials would like to thank David Jones / Richard Owen, Andrew Kime, Clare Britton / Osian Hughes and Peter Evans for their continued support.
It is a vote of confidence in the club by 4 prominent local businesses, which we very much appreciate.
30/06/24
Agweddau yn dal ati / Aspects of Snowdonia to continue

Mae swyddogion y Clwb yn hapus i gyhoeddi bydd Agweddau Eryri yn parhau i fod yn un o'n prif noddwyr ar gyfer tymor 2024/25. Cyhoeddiad llawn am ein prif noddwyr i ddilyn.

Club officials are happy to announce that Aspects of Snowdonia will remain one of our main sponsors for season 2024/25. Announcements regarding all our main sponsors to follow.
29/06/24
Colli yn Llandudno / Defeat at Maesdu Park

Colli oedd hanes Port yn yr ail gêm cyn dymor ar Barc Maesdu Llandudno. Y tîm cartref yn ennill o 4-1 gyda Cai jones yn rhwydo i Port yn yr hanner cyntaf

Port suffered a 4-1 defeat to Llandudno in their 2nd pre-season fixture. Cai Jones netted for Port in the first half.
28/06/24
CANLYNIAD Y TÎM DATBLYGOL / DEVELOPMENT SQUAD RESULT

Y TRAETH 28/06/24


PORT 2-0 LLANYSTUMDWY



Sgorwyr / Scorers: ELIS PUW & SION ROBERTS



27/06/24
LLANDUDNO: CROESO i GEFNOGWYR / SUPPORTERS WELCOMED


Newid y penderfyniad gwreiddiol.
Bydd yna groeso i gefnogwyr yn Parc Maesdu Llandudno pnawn Sadwrn cic gynta’ am 11.45pm

The original decision has now been changed
Supporters will be welcome at Maesdu Park, Llandudno FC on Saturday, kick off 11.45am.
26/06/24
GEMAU’R PENWYTHNOS / WEEKEND FIXTURES


Bydd y ddau dîm yn chwarae dros y penwythnos

Nos Wener: Tîm Datblygol v LLANYSTUMDWY cic gynta 7pm.
Dydd Sadwrn: Tîm Cyntaf v LLANDUDNO Parc Maesdu cic gynta 11.45am

Atgoffir cefnogwyr bydd y gêm yn LLANDUDNO yn cael ei chwarae TU ÔL I DDRYSAU CAE-EDIG


Both teams will be in action over the weekend

Friday: Development Squad v LLANYSTUMDWY at the Traeth. Kick off 7pm
Saturday: Port 1st Team v LLANDUDNO at Maesdu Park Kick off 11.45am


Supporters are reminded that this game at Maesdu will be played BEHIND CLOSED DOORS
25/06/24
NEWYDDION GWYCH / THE BIG NEWS


“Dyma’r un mawr” meddai Chris Jones hapus iawn wrth gyhoeddi fod Danny Brookwell wedi arwyddo unwaith eto i Port.
Bydd y geiriau yn llonni pob cefnogwr Port wrth i’r newyddion dorri fod y math o chwarae cyffrous a chyflym mae Danny yn arddangos wythnos yn dilyn wythnos yn mynd i fod yn rhan o’r arlwy unwaith eto..
Yn brif sgoriwr yn 2023/24 ac yn Chwaraewr y Tymor ar y cyd efo Caio Evans, a bydd y ddau yna yn perfformio dros Port unwaith eto y tymor nesa’.
Croeso eto Danny!!

“Delighted to say the least”, said Chris Jones, “ .. it’s the big one, Danny Brookwell has committed for the season."
Words which will be echoed by every Port supporter as the news breaks that they will be able to turn up at thr Traeth and enjoy the exciting, thrilling football which Danny serves up week in week out.
The club’s leading scorer in 2023/24 and joint player of the season with Caio Evans and we can now look forward to seeing both perform again for Port in 2024/25.
Welcome Danny.
25/06/24
Dau Nantlle yn Arwyddo / Vale duo join Port


Heddiw cyhoeddodd Chris Jones fod dau chwaraewr newydd wedi ymuno a’i garfan. Y ddau ydy Jamie Jones a Sion Williams a’r ddau wedi creu argraff yn y gêm cyn-dymor gyda Llanuwchllyn. Mae’r ddau yn ymuno o CPD Nantlle Fêl.
Chwaraewr canol cae ydy Jamie jones, yn 19 oed a cynt bu’n rhan o academi Caernarfon. Mae ei gyd-chwaraewr Sion Williams yn chwaraewr canol cae amddiffynnol ac yn 24 oed.
Croeso i’r Traeth hogia’

Chris Jones announced his first new signings today. Jamie Jones and Sion Williams, who both created quite an impression in the Llanuwchllyn pre-season fixture, join from Nantlle Vale.
Jamie Jones is a 19 year-old creative midfielder who was previously part of the youth set-up at Caernarfon while his teamate Sion Williams is a 24 year-old defensive midfielder.
Of Jamie manager Chris Jones said, "Buzzing to get this one over the line, always been impressed when watching him he brings real quality in the final third that he demonstrated with an immediate impact Friday and I’m sure plenty more to come.he brings real quality in the final third that he demonstrated with an immediate impact Friday and I’m sure plenty more to come."
Welcome to the Traeth lads !!
25/06/24
Port yn cychwyn yn Llangefni / League season starts at Llangefni


Bydd Port yn cychwyn y tymor oddi cartre ar Gae Bob Parry yn Llangefni
Dyma gemau Gorffennaf / Awst yr Ardal NW

27 Gorff Llangefni v Port
30 Gorff Port v Pwllheli
3 Awst Port v Llannefydd
10 Awst Tref Cei Connah v Port
13 Awst Y Felinheli v Port
17 Awst Port v NFA
24 Awst Menai Bridge v Port
27 Awst Port v Llanrwst
Bydd gemau PORT yng nghanol wythnos yn cael eu chwarae ar Nos Fawrth.

The 2024/25 season commences with an away fixture at Cae Bob Parry Llangefni.
Here are the July / August League fixtures

27th July. Llangefni v Port
30th July Port v Pwllheli
3rd August Port v Llannefydd
10th August Connah’s Quay Town v Port
13th August Y Felinheli v Port
17th August Port v NFA
24th August Menai bride v Port
27th August Port v Llanrwst

All of Port’s midweek fixtures will be played on Tuesday evening
24/06/24
Port oddi cartref / Away draw for Port


Tynnwyd yr enwau ar gyfer Cwpan y Gynghrair pnawn Sadwrn yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn y Bala. Bydd Port yn teithio i’r Belle Vue i chwarae CPD Y Rhyl 1879 yn Rownd 1 y gystadleaeth.
Dyddiad 31/08/2024.

The draw for the 202425 League Cup was made at the League AGM hels at Bala on Saturday.
Port will travel to the Belle Vue ground to take on CPD Y Rhyl 1879 in the 1st Round match
Date 31/08/2024.
23/06/24
AGWEDDAU ERYRI - Diwedd Cyfnod / ASPECTS OF SNOWDONIA- End of an Era


Hoffai Swyddogion y Clwb ddiolch i Agweddau Eryri am eu cefnogaeth gwych dros y deuddeg mlynedd diwetha, wrth eu cyfnod fel un o'n prif noddwyr ddod i ben. Pob lwc yn y dyfodol i Agweddau Eryri a diolch arbennig i Andrew Kime am ei gefnogaeth parod.
Gobeithio eich gweld ar Y Traeth yn ystod y tymor Andy.

Club Officials would like to thank Aspects of Snowdonia for their excellent support of the club over the past twelve years as their main sponsorship of the club comes to an end. We wish Aspects of Snowdonia all the best in the future and a big thank you goes to Andrew Kime for his excellent support.
Hope to see you at Y Traeth this season Andy
Newidiadau i'r hestr gemau / Changes to fixtures & venues

Mae yna newidiadau i leoliadau a dyddiadau rhai gemau cyn-dymor.
Bydd y gêm yn erbyn LLANDUDNO, y Sadwrn nesa’, yn newid i Parc Maesdu a dylai cefnogwyr nodi mai gêm
TU ÔLi DDRYSAU CAE-EDIG fydd hon . Bydd y gic gynta am 11.45am
Ar Sadwrn 13 Gorffennaf bydd Port yn croesawu clwb Y FFLINT i’r Traeth. Bydd y gic gynta’ yn y gêm hon am 2pm.
Bydd Port felly ddim yn chwarae Y Waun ar y 13 Gorffennaf

There have been changes to the dates and venues of pre-season fixtures.
Next Saturday’s fixture with LLANDUDNO will now be played away at the Maesdu Stadium.
Supporters should note that the game will be played BEHIND CLOSED DOORS kick off 11.45am
On Saturday, July 13th Port will be at home to the newly promoted Cymru Premier club, FFLINT TOWN UNITED. Kick off at 2pm.
Port will therefore not be playing Chirk AAA on the 13th July.
21/06/24
Port v Llanuwchllyn: Gêm Cyn-dymor / Pre Season


Port a Llanuwchllyn yn paratoi at y tymor newydd gyda gêm gyfeillgar ar y Traeth heno. Cai Jones yn rhwydo unig gôl y gêm i Port
Noson foddhaol iawn i Chris jones yn ei gêm gynta yng ngofal y tîm gan gael ei gynorthwyo gan Marc Seddon sydd wedi cydweithio gyda Chris yn y gorffennol. Roedd yn a ddigon o chwarae adeiladol gyda phasio da. Yn ogystal â’r chwaraewyr sy’n aros yn y garfan roedd nifer o berfformiadau addawol gan chwaraewyr ar dreial.
Port 1-0 Llanuwchllyn.

Port and Llanuwchllyn continued with their pre-season preparations with a friendly fixture at the Traeth tonight
Cai Jones netted the only goal of the evening for Port.
Cai Jones netted the only goal of the evening for Port.
A good work out in Chris Jones’ first game in charge and assisted in the dugout by Marc Seddon who has worked previously with him. There was some good build-up play on view and as well as the retained players from last season there were several good performances from trialists.
Port 1-0 Llanuwchllyn

Manager Chris Jones commented:"Pleasing performance against a good side last night. Controlled the game and eventually broke a really solid defence down. Only early days but couldn’t be happier with how the first few weeks have gone."
20/06/24
Adeiladu’r garfan yn symud ymlaen / Building the squad continues


Mae Chris Jones wedi ychwanegu pedwar enw arall i’w garfan wrth iddo baratoi at y tymor newydd. Hyn yn golygu fod 12 wedi ail-arwyddo yn barod
Arwyddodd RHYS ALUN am y tro cynta’ yn 2019 a bu yn flaenwr allweddol ers hynny. Cafodd ei dymor sgorio gorau yn 2021/22 gan rhwydo 23 o goliau a oedd yn cynnwys hatric cofiadwy yn ffeinal yr ail gyfle yn Y Bermo.
Cafodd Caio Evans dymor cynta’ arbennig i’r clwb a hynny er waetha’r problemau a gafodd y clwb y tymor diwethaf. Roedd ei berfformiadau yng nghanol cae yn hynod o gyson ar hyd yr amser. Rhannodd y teitl Chwaraewr y Tymor gyda Danny Brookwell.
Mae Gethin Thomas wedi arwyddo eto yn a bydd yn cynnig cyfraniad cyson a chadarn yng nghanol y cae. Daeth yn ôl i’r clwb ym mis Ionawr.
Da ydy gweld Will Owen Ford yn arwyddo eto chwaraewr ifanc addawol iawn a greodd argraff ddawedi iddo ymuno ym mis Ionawr.


Chris Jones has added four more players to his squad as he prepares for the new season making it a total, so far, of 12 players who have re-signed for the club.
Gethin Thomas - CPD Porthmadog Caio Evans had an outstanding first season at the club and, despite the problems suffered by the club, he turned in some remarkably consistent performances throughout.Shared Player of the Season award with Danny Brookwell for 2023/24.
Gethin Thomas also signs again having put in some sterling work in midfield since returning to the club last January.
Good to see Will Owen-Ford back . The teenage midfielder is certainly one for the future at the club. Created a very positive impression since signing on in January.
19/06/24
TOCYN TYMOR 2024/25 / SEASON TICKETS 2024/25


CPD Porthmadog Mae TOCYNNAU TYMOR ar gael nawr!!
Byddant ar gael yn y gemau cyn dymor.
OEDOLION £84
DINESYDD HYN £60

Am fwy o fanylion cysylltwch â Dylan:
cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com

SEASONTICKETS are available now!!
They will be available at all our home pre season friendlies.
ADULTS £84
SENIOR CITIZENS £60

cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com


19/06/24
CPD LLANUWCHLLYN: Nos Wener / Friday - Y Traeth 7.45pm.


CPD Porthmadog Bydd Port yn chwarae y cyntaf o’u gêmau cyn-dymor ar Y Traeth nos Wener gan groesawu CPD Llanuwchllyn.
Bydd y gêm yn gyfle da i’r rheolwr newydd Chris Jones fwrw golwg ar y garfan mae’n brysur adeiladu a hynny mewn gêm fydd yn cynnig prawf cynnar gwerthfawr.
Clwb sy’n chwarae yn yr Ardal North East ydy’r ymwelwyr. Cafodd y clwb dymor ardderchog yn 2023/24 gan ddod yn agos at sicrhau dyrchafiad i’r Cymru North; yn methu allan ar giciau o’r smotyn mewn gêm ail gyfle gyda Llai.
Bydd y gic gynta am 7.45pm

Port play their first pre-season fixture on Friday evening when they welcome CPD Llanuwchllyn to the Traeth. It will provide new manager Chris Jones with an opportunity to take a look at some of the squad he is busy assembling and that in a game which will provide a valuable early test.
The visitors play in the Ardal North East and enjoyed an excellent season in 2023/24 only narrowly missing out on promotion to the Cymru North after a tense play-off against Llay Welfare which went to a penalty shoot-out.
The kick of is at 7.45pm.
17/06/24
Pedwar arall yn arwyddo / Four more sign up


Yn dilyn y newyddion da ynghynt fod 4 chwaraewr profiadol wedi arwyddo ar gyfer y tymor nesa’ daw mwy o newyddion cadarnhaol wrth i 4 arall gyhoeddi eu bod am fod yn rhan o garfan Chris Jones ar gyfer y tymor newydd.
Gwych i gael Ryan Williams yn ôl. Yn chwaraewr allweddol ers ymuno o Llandudno y tymor diwetha’ ond yn anffodus methwyd ei gyfraniad mewn cyfnod allweddol oherwydd anaf.
Gruff Elllis yr amddiffynwr ifanc addawol a fydd yn edrych ymlaen at wneud ei farc y tymor nesa ar ôl colli dipyn o’r diweddglo oherwydd anaf.
Creodd Ollie Farebrother dipyn o argraff ar ôl ymuno ym mis Ionawr ac er waethaf y canlyniadau siomedig roedd ei berfformiadau yn y gôl yn rhai safonol.
. Mae Jake Jones yn un arall agreodd argraff dda ar ôl ymuno â’r clwb ym mis Ionawr. Cefnwr de cadarn a fydd unwaith eto yn ychwanegu ei gryfder a chreadigrwydd i’r garfan.
Croeso ‘nol i’r pedwar.

Following the good news that four of their most experienced players had re-signed for the club.comes more highly pleasing news that four more of last season’s squad will be part of Chris Jones’ squad for the up coming season.
Great to have Ryan Williams back. The versatile defender, who arrived at the Traeth last season from Llandudno, was a key player, badly missed at a vital period last season due to injury.
Gruff Ellis, a highly promising young defender, can look forward to making his mark when he starts a 3rd season at the Traeth. He is another who missed the vital closing stages of last season through injury.
Ollie Farebrother created quite an impression after joining Port in January and despite the poor run of results his performances in goal were always quality.
Jake Jones is another who impressed after re-joining Port in January and his presence will add strength at right back as well as creativity to the squad.
Welcome back lads!
15/06/24
Rhaglen Orau yn Haen 2 / Best Programme in Tier 2


Enwyd Rhaglen CPD Porthmadog YR ORAU yn HAEN 2 gan y Welsh Football Magazine yn eu Gwobrau Blynyddol Rhaglenni Pêl-droed Cymru am 2023/24. Llongyfarchiadau gwresog felly i’r golygydd Rhydian Morgan sydd yn sicrhau rhaglenni o safon llawn gwybodaeth ar gyfer pob gêm drwy gydol y tymor. Hawdd iawn ydy cymryd ein rhaglen yn ganiataol heb sylweddoli y pwysau gwaith sydd yn mynd i’w gynyrchu’n rheolaidd gan gadw at amserlen dynn.
Tynnodd y beirniad David Collins, sef golygydd y cylachgrawn, sylw at amryweieth, steil a swmp y cynnwys ac heyd at y clawr lliwgar a llun ardderchog o’r Traeth.
Roedd y tair rhaglen arall, sef clybiau Rhydaman, Y Fenni a Cwmbrân, i gyd o’r Cymru South.

The Porthmadog Match Programme has been named the BEST in TIER 2 by the Welsh Football Magazine in its annual Welsh Football programme awards for season 2023/24.. Congratualtions therefore to the programme editor Rhydian Morgan who turns out quality and informative programmes for every matchday throughout the season. It is easy to take our programme for granted without realising fully the amount of work involved and the need to keep to deadlines.
David Collins the Welsh Football Magazine editor drew attention to the variety, style and quantity of material contained in the programme and also to the colourful cover with its excellent view of the Traeth.
The other three programmes mentioned in the review, Ammanford Town, Abergavenny and Cwmbran Celtic are all from the Cymru South.
14/06/24
Pedwar yn ól i Port / Four back for 2024/25


Newyddion da i’ Chris Jones, y rheolwr newydd ac i bob cefnogwr Port. fod pedwar o’u chwaraewyr mwyaf profiadol yn arwyddo am y tymor newydd i fod yn rhan o’r sialens i sicrhau dyrchafiad yn ól i’r Cymru North/
Mae’r chwaraewr canol cae Cai Jones, a chwaraeodd ei gém gynta’ i’r clwb yn chwaraerw ifanc 17 oed, yn dychwelyd am dymor arall gan ddod a phrofiad sylweddol i’r achos, profiad a gafodd gyda Port a Chaernarfon yn y Cymru Premier a’r Cymru North;
Yn ymuno a Cai mae Josh Banks sydd a’i wasanaeth diflino dros y clwb yn ymestyn yn ól i Hydref 2012 pan chwaraeodd ei gém gynta dros y clwb gan fynd ymlaen i gyfrannu perffomiadau cyson i’r clwb ers hynny. Yn gefnwr chwith a wedyn yn ddiweddar yn amddiffynwr canol
Croeso ‘nol hefyd i Iddon Price, un arall a gychwynnodd ar y Traeth yn chwaraewr ifanc a bydd yn ymuno eto gyda Josh yng nghanol yr amddiffyn gan ddod a phrofiad mawr. Hogyn lleol sydd yn ymfalchïo wrth wisgo’r coch a du. .
Y 4ydd i arwyddo ydy Nathan Williams a fuodd yn aelod rheolaidd o’r tím cynta ers ymuno o Gonwy yn haf 2022 gan bellach gychwyn ar ei drydydd tymor ar y Traeth.

Good news for new manager Chris Jones and for all Port supporters that four of their most experienced players will be signing up for the new season and joining the battle for a speedy return to the Cymru North.
Influential midfielder Cai Jones, who made his first his first appearance as a 17 year-old, returns for another season bringing a wealth of experience at Cymru Premier level; as well as the Cymru North
. He will be joined by Josh Banks, the long serving defender, whose huge contribution stretches back to October 2012 when he made his Port debut and has gone on to produce a remarkable level of consistency season after season at full back and in more recent seasons in central defence
. Welcome back also to Iddon Price who willl join Josh in central defence. Another whose loyal consistent service goes back to his days as a youngster at the Traeth,a local boy who is red and black through and through.
The 4th re-signing is another solid defender, Nathan Williams, who has been a regular first team player, starting a 3rd season at the Traeth since joining from Conwy Borough in the summer of 2022. Welcome back lads!!
10/06/24
‘STORMY STAN CUP’ – diwrnod o hwyl ar Y Traeth / a fun day at the Traeth


CPD Porthmadog Bydd yna ddiwrnod o hwyl ar Y Traeth pnawn Sadwrn nesaf 15fed Mehefin
Bydd y pnawn yn cynnwys:-
Gêm rhwng Perchnogion Haven ac Aelodau Haven gyda’r gic gynta am 3o’r gloch.
Curwch Stormy Stan gyda chic o’r smotyn i blant
Gemau hwyl a sbri i blant
Bydd y Bar a’r Cantîn yn agored
Gatiau yn agor am 1 o’r gloch a’r elw i’w rhannu rhwng Mudiad y Badau Achub a CPD Port.

A funday for the family will be held at the Traeth next Saturday 15th June.
The afternoon will include:
a game between Haven Owners and Haven Team Members ko 3pm
a beat Stormy Stan penalty shoot for children
fun and games for children from 1pm.
The Bar and Canteen will be open
Gates open from 1pm and all proceeds will be shared between the RNLI and Port FC
07/06/24
Teithiau Tymor 2024/25 / Journeys for Travelling Supporters


Wrth edrych ar gynnwys yr Ardal North West sylwn fod yna dipyn o newid wedi bod ers y tro diwetha inni chwarae yn y gynghrair hon. Bydd yna lai o deithiau i Sir Y Fflint a Wrecsam gyda chlwb tref Cei Conna, sydd wedi sicrhau dyrchafaid o brif gynghrair y Gogledd Ddwyrain, yr unig un o’r ardal.
Bydd yna 4 ymweliad ac Ynys Môn gyda gwrthwynebwyr cyfarwydd Hotspyrs Cargybi a Llangefni a dau o newydd ddyfodiaid, Trearddur a Theigrod Porthaethwy, y ddau wedi ennill dyrchafiad o Gynghrair Arfordir y Gogledd Orllewin. Ond dros y bont yn Treborth mae cae cartre'r Teigrod!
Ar ein tir cartref yng Ngwynedd, cawn Nantlle Fêl, Y Felinheli a Pwllheli tra yn Nyffryn Conwy mae Llanrwst a Conwy Boro.
Ychydig ymhellach eto bydd yna ddau drip Ysgol Sul i’r Rhyl i chwarae CPD Rhyl 1879 ar gae cyfarwydd y Belle Vue a hefyd clwb newydd NFA sydd wedi eu dyrchafu o Gynghrair Arfordir y Dwyrain. Yn yr un ardal hefyd mae clwb Dinas Llanelwy. O Sir Ddinbych hefyd cawn y ddau glwb sy’n weddill sef Llannefydd a Corwen, clwb a sicrhaodd ddyrchafiad o brif gynghrair y Gogledd Ddwyrain.


Looking at the composition of the Ardal North West, there has been much change since we were last in this league. There are fewer visits over to Flintshire and the Wrexham area with Connahs Quay Town, promoted from the the North East Wales Premier Division, now the only club from that area.
There are however four visits to our friends from Anglesey with familiar opponents -Holyhead Hotspur and Llangefni- and newcomers Trearddur Bay and Menai Bridge Tigers, both promoted from the North Wales Coast West League.Though the Tigers home ground is over the Bridge at Treborth!
On home territsory in Gwynedd we have Nantlle Vale, Y Felinheli and Pwllheli while in the Conwy Valley we have previous opponents, Llanrwst and Conwy Borough.
Slightly further afield we will have two visits to Sunny Rhyl to play CPD Rhyl 1879 at the once familiar Belle Vue and another newcomer NFA promoted from the North Wales Coast East Premier Division. In the Rhyl area we also have St Asaph City. From the same county, Denbighshire, are the remaining two clubs Llannefydd and Corwen, the latter another promoted club from the North East Wales Premier.
07/06/24
ARDAL NORTH WEST Clybiau / Composition 2024/25


Yn ôl y disgwyl yn yr Ardal North West bydd Port yn chwarae y tymor nesaf. Cadarnhawyd cynnwys yr Ardal NW a’r Ardal NE gan y Gymdeithas Bêl-droed heddiw. Isod gweler y rhestr o 16 o glybiau:-

CORWEN, CONNAH’S QUAY TOWN, CONWY BOROUGH, Y FELINHELI, CAERGYBI/HOLYHEAD HOTSPUR, LLANGEFNI, LLANNEFYDD, LLANRWST, MENAI BRIDGE TIGERS, NANTLLE VALE, NFA (Rhyl), PORT, PWLLHELI, RHYL1879, TREARDDUR.

As expected in the coming season, Port will be playing in the Ardal North West. Today the FAW have confirmed the make-up of the Ardal NW and Ardal NE. Above is the list of 16 clubs.
03/06/24
Sesiwn Agored Tîm Datblygu / Development Squad Open Session


CPD Porthmadog Ydych chi rhwng 16 a 21 mlwydd oed ac eisiau cael eich datblygu i'r lefel nesaf o bêl-droed? Bydd Sesiwn Agored Tîm Datblygu CPD Porthmadog yn cael ei gynnal efo Haydn a Trystan ar Nos Lun, Mehefin 17 rhwng 7yh a 9yh yng Nghlwb Chwaraeon Madog
Am fwy o fanylion:
Cysylltwch â Haydn: haydnwynjones@gmail.com neu Trystan: trystan84@hotmail.co.uk

Are you between the age of 16 & 21 & would like the chance to be developed to the next level of your footballing journey? There will be a Porthmadog FC Development Squad Open Session with Haydn & Trystan held at the Madog Sports Club on Monday June 17th between 7pm and 9pm.
For more details:
Contact Haydn: haydnwynjones@gmail.com or Trystan: trystan84@hotmail.co.uk

Ffurflenni ar gael / FORMS available: https://forms.office.com/r/GAVmGDAdMT

03/06/24
HAYDN WYN JONES: RÓL NEWYDD / A NEW ROLE


Haydn Jones - CPD Porthmadog Yn ddiweddar apwyntiwyd Chris Jones yn rheolwr gyda’r amcan i ddychwelyd mor fuan a phosib i’r Cymru Nort. Bellach mae’r clwb hefyd yn datblygu strategaeth tymor canolig a hir gyda apwyntiad arall newydd.
Mae Hatdn Wyn Jones wedi’i apwyntio i ról newydd y Cyfarwyddwr Datblygu Chwaraewyr. Pwyslais Haydn yn y ról newydd fydd sicrhau llwybr i chwaraewyr ifanc i’r Tím Cyntaf. Y bwriad hefyd fydd dod a’r gymuned gyfan o gwmpas CPD Porthmadog gan fanteisio ar y strwythur ardderchog sydd eisoes gan y clwb.
Bydd hwn yn gynllun tymor hir gyda chynllun 5-mlynedd yn barod mewn lle gyda’r camau cyntaf i integreiddio y Porthmadog Juniors yn rhan o’r clwb a mae swyddogion y Juniors yn gefnogol a bydd cyfarfod gyda rhieni’r ieuenctid yn fuan. Hefyd drawsnewid yr Ail-dim i fod yn Garfan Ddatblygol er mwyn creu hunaniaeth clwb gyda’r chwarawyr ifanc yn ymarfer yn rheolaidd gyda’r chwaraewyr tim cynta’.
Maes fydd angen gwella’n lleol fydd y cyfleusterau ymarfer. i’r chwaraewyr ifanc gyda statws Academi yr amcan tymor hir.
Yn sicr mae gan Haydn y profiad at y swydd allweddol hon. Treuliodd 10 mlynedd gyda chlwb Caernafon yn chwarae rhan bwysig wrth sefydlu a datblygu’r academi, fel Cyfarwyddwr Academi ac yn fwy diweddar yn hyfforddi ac arwain grwpiau oedran.
Gweler cyfweliad llawn Dylan Elis gyda Haydn Wyn Jones ar Teledu Port TV https://youtu.be/W_35_fPgnc8?si=z0tPA0ueVyIazVsc

Following the appointment of Chris Jones with the aim of pushing for a return to the Cymru North as soon as possible the club, with another new appointment, will be looking also to develop a medium and long term strategy.
Haydn Wyn Jones has been appointed to the new role within the club, that of Director of Player Development. Haydn sees this role as one aiming to “create a pathway for youth players into the first team.” He also sees the challenge being one of bringing the whole community around Porthmadog FC to capitalise on the excellent infrastructure the club alrady possesses.
He says that a 5-year plan is already in place with the the more immediate developments being to integrate the Porthmadog Juniors into the club structure and to retitle the Reserve team into a Development Team producing a strong club identity with younger players feeling the continuity coming from training with the first team squad.
He identified the improvement of training facilities locally as vital and an area where there is work to do. For the Juniors he looks to the long term future with Academy status the aim. He will meet up with parents and has the full support of current Porthmadog Juniors officials
Haydn certainly has the experience for this role having spent 10 years at Caernarfon Town FC playing an instrumental role in establishing and developing the academy initially as Academy Director and more recently as an age group lead coach.
View the full interview with Dylan Elis on Teledu Port TV
https://youtu.be/iXTwQmVTlHU?si=3KJEewYkU3WLdlfG

29/05/24
GEMAU CYN-DYMOR 2024/25 / PRE-SEASON FIXTURES 2024/25


Mae’r rheolwr CHRIS JONES wedi cyhoeddi y rhestr isod o gemau paratoi ar gyfer y tymor newydd.


Gwener / Friday 21/06: Port v Llanuwchllyn 7.45pm
Sadwrn/ Sat 29/06: Port v Llandudno 2.00pm
Sadwrn / Sat 06/07 Caersws v Port 3.00pm
Mawrth / Tues 09/07 Bangor 1876 v Port -TREBORTH 3G Pitch 7.30pm
Sadwrn/ Sat 13/07 Port v FFLINT 2.00pm



Manager CHRIS JONES has released the above list of preparatory games for the new season
26/05/24
Angen Cymorth / Help Needed


CPD Porthmadog Mae swyddogion y clwb angen eich cymorth. Mae'r clwb wedi cael sawl tunnell o bridd sydd angen ei wasgaru ar y cae ymarfer. Os oes gennych gwpl o oriau rhydd rhwng 10yb a 2yp dydd Sadwrn nesaf Mehefin 1af dewch lawr a rhoi help llaw.,br> Mae gennym rhawiau, berfâu a chribiniau ond mae croeso i chi ddod â rhai eich hun os yw'n well gennych. Os na allwch wneud dydd Sadwrn ond yr hoffech helpu ar ddiwrnod arall cysylltwch â Gerallt ar 07920025338 i drafod diwrnod ac amser amgen i wneud awr neu ddwy.
Diolch yn fawr am pob cefnogaeth

Porthmadog FC officials need your help. The club have obtained several tonnes of top soil which needs to be spread on the practice pitch. If you have a couple of free hours between 10am and 2pm next Saturday June 1st come down and lend a hand.
Porthmadog FC officials need your help. The club have obtained several tonnes of top soil which needs to be spread on the practice pitch. If you have a couple of free hours between 10am and 2pm next Saturday June 1st come down and lend a hand.
Thanks for your support
25/05/24
Glawio goliau / Goals Galore


Canlyniad / Result: Ail-dim / Reserves: Gresffordd 9-5 Port


Cwblhaodd yr Ail-dîm eu tymor mewn gêm arall a digonedd o goliau.
Will Owen-Ford (llun) (2 gôl + 3 assist), Mabon Owen (2 gôl + 2 assist), Aaron Jones (1 gôl).


The Reserves completed their season in a high scorng game at The Rock today.
Will Owen-Ford (photo) (2 goals + 3 assists), Mabon Owen (2 goals + 2 assists) Aaron Jones (1 goal)

23/05/24
Colli Robin / Passing of Robin Roberts


Gyda chryn dristwch derbyniodd y clwb y newyddion am farwolaeth Robin Roberts.
Dros nifer fawr o flynyddoedd, gyda’i wraig Jane, bu Robin yn un o wirfoddolwyr ffyddlon y clwb, yn gefnogwr brwd ac yn teithio i bob man yn dilyn Port. Yn gyn aelod o'r Pwyllgor roedd yn wyneb cyfarwydd ar ddiwrnod gemau yn gwerthu rhaglenni. Byddwn i gyd yn gweld ei golli.
Cydymdeimlwn â Jane a'r Teulu oll ar yr adeg drist hon.


It is with great sadness that the club received the news of the passing of Robin Roberts.
With his wife Jane, he was one of the club’s faithful and committed volunteers as well as being a loyal supporter both home and away. A former Committee member and a familiar face around Y Traeth on matchdays, selling match programmes. He will be sadly missed.
Our thoughts are with Jane and the Family at this sad time.
21/05/24
AIL-Dîm / Reserves Airbus v Port


Digonedd o goliau draw yn Brychdyn heno.
Sgôr terfynnol: Airbus 13 – 3 Port
Elis Puw (2) a Zac Pike yn sgorio i Port

Goals galore at Broughton tonight
Final score: Airbus 13-3 Port
Elis Puw (2) & Zac Pike scored for Port
21/05/24
Paratoi at y tymor newydd / Preparing for a new season


CPD Porthmadog Mae’r clwb yn edrych at y dyfodol ar, ac oddi ar, y cae:
CYFLEOEDD NODDI a HYSBYSEBU - Tymor 2024/2025. Mae cyfleoedd ar gael i hysbysebu yn y Rhaglen, Hysbysfwrdd ar ochor y cae, Noddi'r Rhaglen, Noddi Chwaraewr, Noddi Pêl, Noddi Gêm a llawer mwy... Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dylan: cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com

The club are looking to the future on and off the pitch:
SPONSORSHIP and ADVERTISING OPPORTUNITIES - Season 2024/2025. Opportunities are now available to advertise in the Programme, Advertising Boards, Player sponsorship, Match and Match Ball sponsorship etc For more information contact Dylan: cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com
18/05/24
AIL-Dîm / Reserves Bwcle / Buckley v Port


Teithiodd Yr Ail draw i Sir Fflint heddiw i chwarae Bwcle

The Reserves travelled over to Flintshire today to play Buckley Town Res.

Canlyniad / Result: Bwcle / Buckley 6-0 Port
15/05/24
Cofio Aimee Addison / To Remember Aimee Addison


Trefnwyd diwrnod hynod llwyddianus o godi arian ar Sul, 5ed Mai, ar gae Clwb Pêl-droed Porthmadog i gofio am Aimee Addison.
Cafwyd nifer o weithgareddau yn ystod y dydd a llwyddwyd hyd yma i godi £2,810. Bydd y cyfanswm terfynol yn cael ei gyflwyno i WARD ALAW yn YSBYTY GWYNEDD.
. Yn ystod y diwrnod, gwelwyd gêm bêl-droed rhwng Tîm Aimee a Tîm o Walis ac er y tywydd poeth, fe gafwyd prynhawn o bêl-droed safonol gydag ambell i ‘hen chwaraewr’ wedi dod o hyd i sgidiau gyda styds o dan y grisiau, o bosib!!
Wedi’r holl redeg a chwysu ar y cae, mae’n bosib bod y dyddiau yn dilyn wedi bod yn rhai anodd i nifer wrth symud o gwmpas y lle. Da iawn bawb.
Diwrnod gwerth chweil ac yn sgîl hynny wedi codi arian sylweddol ar gyfer achos sydd yn agos iawn at galon pawb.
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm trefnu.


A highly successful fundraising day was held at the Traeth in memory of Aimee Addison on Sunday, 5th May. The day included a variety of activities and to date a sum of £2,810 has been raised. The closing total will be presented to the ALAW WARD at YSBYTY GWYNEDD.
During the day a match was played betwwen Aimee’s Team and a Team of Wallis and, on a hot day a good standard of football was seen, with one or two of the “oldish players” having possibly come across their studded boots under the stairs!!
A session of running around and sweating must have meant problems in the days that followed but a big well done to everyone.
A great day out and a substantial sum raised for a cause which is close to all our hearts.
Huge congratulations to the organising team.

Photos / Lluniau: Dylan Elis
14/05/24
AIL-Dîm / Reserves Y Waun / Chirk v Port


CPD Porthmadog Canlyniad / Result: Y Waun / Chirk 3-0 Port
Er i Port gadw’r cyfan yn gyfartal 0-0 tan yr hanner, colli oedd yr hanes yn y diwedd. Rhwydodd y Waun ddwy gôl mewn tri munud yn gynnar ynyr ail hanner gan ychwanegu un arall ar ôl 67 munud.

Despite keeping the scores level 0-0 at the interval, Port conceded two goals early in the second period with the home side adding a 3rd on 67 minutes.

Carfan / Squad / : Liam Hughes, Evan Burgess, Malcolm Humphreys, Kieran Fitzjohn, Trystan Davies, Mason Lloyd, Mabon Owen, Will Owen-Ford, Aaron Jones, Luke Hill, Zac Pike Sub: Iwan Havelock.
11/05/24
Y Clwb yn diolch / The Club gives thanks


Mae'r clwb wedi bod yn llwyddiannus gyda'i cais am Drwydded Haen 2 ar gyfer tymor 2024/25.
Hoffai swyddogion y clwb ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gael y Drwydded ac yn enwedig y Swyddog Trwyddedu, ANGELA ROBERTS.

The club has been successful with it's application for tier 2 licence for season 2024/25.
Club officials would like to thank everyone who helped get the Licence and in particular the Licensing Officer, ANGELA ROBERTS.
11/05/24
Pêl-droed Merched ar Y Traeth / Girls Finals at the Traeth


Mae yna wledd o benwythnos bêl droed merched ar Y Traeth Mai 11 ac 12.
Diwrnod Ffeinals Merched Gogledd Cymru. 3 Ffeinal i gyd.
Gweler yr amserlen isod.

Sad /Sat
10 am: Ffeinal 13 / Under 13s Final
12pm: Ffeinal Dan 15 / Under 15 Final
3pm: Ffeinal Dan17 / Under 17s Final
Sul /Sunday
9am -12pm Dan 7 / U7s Round Robin.
1pm-5pm: Dan 11 /U 11 Round Robin

There will be a weekend feast of Girls’ football at the Traeth May 11th & 12th.
It will be the NWGFL Finals Day on Saturday with three finals being played.Above is the time-table.
08/05/24
Port yn sicrhau Trwydded Haen 2 / Port awarded their Tier 2 Licence


CBDC / FAW Roedd Port yn llwyddianus yn eu cais am Drwydded Haen 2 pan gyhoeddwyd penderfyniadau y Corff Cyntaf heddiw.
Llwyddodd 13 o glybiau a oedd yn y Cymru North llynedd yn eu ceisiadau yn ogystal a 6 o’r Ardal NW a 2 o’r Ardal NE.
Bydd gan glybiau sydd wedi methu yn eu cais yr hawl i apelio o fewn 10 niwrnod.

Cymru North:
Airbus UK Broughton, Bangor 1876, Buckley Town, Caersws, Denbigh Town, Flint Town United, Gresford Athletic,, Guilsfield, Llandudno, Mold Alexandra, Porthmadog,, Prestatyn Town, Ruthin Town.
Ardal:
Brickfield Rangers, Conwy Borough, CPD Y Rhyl 1879, Flint Mountain, Holyhead Hotspur, Llanuwchllyn, Nantlle Vale, Penrhyncoch.
Gwrthod / Refused:
Holywell Town, Llanidloes Town, Llangefni Town, Llay Miners Welfare

Port have been successful in their Tier 2 Licence application for 2024/25 in the decisions of the First Instance Body announced today.
13 of last season’s Cymru North clubs have been successful together with 6 Ardal NW clubs and 2 from the Ardal NE.
Clubs currently refused their licence will have the right of appeal within 10 days.
07/05/24
Ail-dím / Reserves: Port v Airbus 07/05/24


CPD Porthmadog Canlyniad / Result: Port 0-5 Airbus

Ar ól dal clwb Y Maes Awyr i 0-0 ar yr hanner, rhwydood Airbus eu 5 gól yn yr ail-hanner.
Bydd y ddau clwb yn chwarae eu gilydd eto pnawn Sadwrn yn Brychdyn. Cic gynta’ 2 o’r gloch.

After holding Airbus to a goalless first half the Broughton club struck in the second period netting 5 times.
The two clubs meet again on Saturday at Broughton Kck ff 2pm.

Port squad / Carfan: Liam Hughes , Aron Catlin Roberts, Iwan Havelock. Kieran Fitzjohn, Mason Lloyd, Mabon Owen, Will Owen-Ford, Aron Jones, , Elis Puw, Aaron Jones, Zac Pike
Eilyddion / Subs: Luke Hill, Charlie Wood, Jakub Romanowicz, Morgan Pollet-Thollier Evan Burgess.
06/05/24
Gyda Thristwch / With Sadness


Gyda chryn dristwch derbyniodd y clwb y newyddion am farwolaeth sydyn Dewi Piercy yn 84 mlwydd oed.
Roedd Dewi yn gyn aelod o'r Pwyllgor, Trysorydd ac Is-Lywydd Oes y Clwb.
Cydymdeimlwn á'r Teulu oll ar yr adeg drist hon.

It is with great sadness that the club received the news of the passing of Dewi Piercy at the age of 84.
Dewi was a former Committee Member, Treasurer and Life Vice President of the Club.
Our thoughts are with the Family at this sad time.
05/05/24
TNS RES v Port 04/05/24


Canlyniad / Result: Ail-dîm TNS Res 4-1 Ail-dîm Port Res
Colli oedd hanes yr Ail-dîm draw yn Croeoswallt. Dau glwb y Cymru Premier sydd wedi dominyddu’r gynghrair drwy’r tymor.
Ond nid yw’r sgôr terfynol yn dweud y cyfan. Ar 89 munud 2-1 oedd y sgôr ond y Seintiau yn rhwydo ddwywaith yn yr amser ychwanegol i greu sgôr ar y diwedd sydd braidd yn annheg i’ hogia Port.
Sgoriwyd gôl Port gan Mabon Owen. Mae’r chwaraewr 16 oed wedi sgorio yn y tair gêm ddiwetha’
Nos Fawrh 7fed Mai bydd Ail-dîm Airbus yn ymweld â'r Traeth

Defeat for the Reserves at TNS. The league throughout the season has been dominated by the two strong Cymru Premier Reserve Teams.
However this scoreline does not tell the whole story. The score at 89 mins was 2-1 to TNS but two added time goals slanted the result in favour of the Oswestry club.
The Port goal was scored by Mabon Owen. The 16 year old has netted in each of the last 3 games.

On TUESDAY 7th May Airbus Res will be Res. next fixture at the Traeth

Carfan / Port squad: Meilyr Ellis , Evan Burgess, Luke Hill, Aron Catlin Roberts, Kieran Fitzjohn, Mabon Owen, Aron Jones, Deion Hughes, Elis Puw, , Jakub Romanowicz, Morgan Pollet-Thollier Eilyddiom / Subs: Liam Hughes, Trystan Davies.
01/05/24
Tymor yr AIL-DÎM yn dal i fynd / RESERVES season goes on


CPD Porthmadog Mae’r Ail-dîm ifanc wedi rhoi tipyn o ysbrydoliaeth i’w hunain yn dilyn tymor caled, drwy ennill eu dwy gêm ddiweddara’. Mae hyn wedi ei codi i’r 9fed safle yn nhabl yr Ail-dîmau.
Ond oherwydd nifer fawr o ohiriadau mae ganddynt 6 gêm yn dall ar ôl i’w chwarae a fydd eu tymor ddim yn gorffen tan 25ain Mai.
Isod gwelir trefn y gemau sydd yn wedill fel ma’en sefyll ar hyn o bryd.

04/05 TNS (a)
07/05 Airbus (h)
11/05 Airbus (a)
14/05 Y Waun / Chirk (a)
18/05 Bwcle / Buckley (a)
25/05 Gresffordd (a)

The young Reserves squad, after what has been a hard season, have given themselves quite a boost by winning the last two fixtures lifting themselves into 9th spot in the table.
But as a result of the many postponements they still have 6 games remaining and their season is not scheduled to finish until the 25th May.
Above are the list of the remaining games as scheduled as things stand.
30/04/24
Ail-dîm / Reserves: Treffynnon/Holywell 0-3 Port


Ail fuddugoliaeth mewn 4 diwrnod i’r Ail-dîm y tro yma oddi cartref yn Treffynnon. Y tair gôl i Mabon Owen (61’), Zak Pike (llun) (68’) ac un hwyr i Elis Puw (88’). Ac i gwblhau noson dda llechen lân i Meilyr Ellis.
Da iawn hogia’

A second win in 4 days for the Reserves, this time away at Holywell. Three goals scored Mabon Owen (61’), Zak Pike (photo) (68’) and a late one forElis Puw (88’). To complete a good night there was a clean sheet for Meilyr Ellis.
Well done lads!!

Port squad / Carfan: Meilyr Ellis, Evan Burgess, A Catlin Roberts, N/A, Deion Hughes Mason Lloyd, Mabon Owen, Aaron Jones, Zak Pike, Elis Puw, Jakub Romanowicz Eilyddiom / Subs, Liam Hughes, Malcolm Humphreys
26/04/24
AIL-DÎM / RESERVES v GRESFFORDD: Y Traeth Sadwrn / Saturday 2pm


CANLYNIAD /RESULT Ail-dim Port Res 3-2 Ail-dîm GresfforddRes

Buddugoliaeth i’r Ail-dîm ifanc dros Gresffordd ar Y Traeth. Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 2 funud ond rhwydodd Mabon Owen, 16 oed, i ddod a’r sgôr yn gyfartal. Ond llwyddodd Gresfordd i ad-ennil y fantais a’i cadw tan 75 munud. Yna rhwydodd Elis Puw (llun) o’r smotyn i ddod a Port yn gyfartal. Wedyn yn ddwfn fewn i amser ychwanaegol, sicrhadd Elis Puw y fuddugoliaeth i Port ac unwaith eto gyda cic o’r smotyn 3-2 i Port.

A win for the young reserves over Gresford at the Traeth. The vistors went ahead after only 2 mins but 16 yesr old Mabon Owen equalised but Greford regained the lead and held until 75th minute when Elis Puw (photo) equalised from the spot. In injury time the 18 year-old netted a second penalty deep into injury time to seal the win for Port. 3-2 to Port Res.

Port squad / Carfan: Meilyr Ellis, Catlin Roberts, N/A, Deion Hughes , jake Jones, Mabon Owen, John Williams, Caio Evans, Zak Pike, Will Owen-Ford, Elis Puw. Eilyddiom / Subs Aaron Jones, Mason Lloyd, Keiron Fitzjohn, Evan Burgess
24/04/24
CHRIS JONES yw’r rheolwr newydd / CHRIS JONES appointed manager


Mae’r Bwrdd wedi apwyntio Chris Jones, cyn rheolwr Prestatyn ac AFC Knowsley, yn rheolwr newydd y clwb.
Estynnwn groeso cynnes i’r Traeth i’r hyfforddwr profiadol hwn gan edrych ymlaen i’w weld yn arwain rhaglen ail adeiladu’r clwb.
Tra yn rheolwr Prestatyn arweiniodd y clwb i’r 6ed safle, canlyniad da iawn o gofio fod y clwb ond wedi osgoi disgyn y tymor blaenorol am fod Dinas Bangor wedi tynnu allan. Yn yr un tymor cyrhaeddodd Prestatyn 4ydd Rownd Cwpan JD Cymru.
Cynt, treuliodd 3 mlynedd yn rheoli AFC Knowsley yng Nghynghrair Sir Gaer, gan ennill teitl yr Adran 1af yn ei ail dymor. Uchafbwynt ei gyfnod gyda AFC Knowsley oedd rhediad o 14 mis yn ddi-guro.
Mae ei brofiad hefyd yn cynnwys: Prif Hyfforddwr gyda Active Soccer, hyfforddi Dan 21 Bootle a gyda academi Burnley.
Mae’n ddeiliad Trwydded Hyfforddi ‘B’UEFA ac mae ganddo Radd Hyfforddi a Rheoli yr Universal Centre of Sport.
Croeso Chris.

The Board have moved to appoint Chris Jones, former manager at Prestatyn and AFC Knowsley, to take up the position of club manager.
We extend a warm welcome to the Traeth to this experienced coach and look forward to seeing him leading the club’s re-building programme.
Whilst at Prestatyn he guided the club to a very creditable 6th place in the 2022/23 season, having taken the reins following a season where the club had only avoided relegation when Bangor City withdrew. In the same season Prestatyn also reached the 4th round of the JD Welsh Cup.
Previous to this he spent a 3 year spell as manager of Cheshire Football League club AFC Knowsley where, in only his second season, the club won the Division 1 title. A highlight of his time with AFC Knowsley was a 14 month unbeaten run.
His previous experience also includes being Head Coach with Active Soccer, U-21 Coach at Bootle and academy coach with Burnley.
His coaching qualifications include the UEFA ‘B’ Licence and a Coaching & Management Degree from the Universal Centre of Sport.
Welcome Chris
C’mon Port!!
22/04/24
Gwobrau'r tymor / Season's awards


Cynhaliwyd seremoni wobrwyo y tymor nos Wener ddiweddaf
Er waetha’r tymor siomedig mae yna bob amser berfformiadau i’w edmygu ac roedd hyn yn wir am 2023/24. Dyma oedd y dewisiadau:-

Tlws Evie ac Eluned Morgan / Tlws y Cefnogwyr::: Rhannwyd rhwng CAIO EVANS a DANNY BROOKWELL.

. Tlws Morgan a Llewelyn Ellis / Tlws y Chwaraewyr:: DANNY BROOKWELL

Tlws Y Rheolwr: CAIO EVANS

Tlws Teulu Morgan / Tlws y Prif Sgoriwr: DANNY BROOKWELL

Llongyfarchiadau Danny a Caio

Diolch i’r Teulu Morgan ac i’r Noddwyr TELEDU PORT TV
Cefnogir y gwobrau yn flynyddol gan y TEULU MORGAN ac yn y llun mae Morgan Ellis a gyflwydodd y gwobrau ar ran y teulu.


This season's awards were presented post match on Friday
Even in a disappointing season there were performances to admire and 2023/24 was no different.Here are the choices:-

. Evie & Eluned Morgan Award / Supporters Award Shared between CAIO EVANS and DANNY BROOKWELL

Morgan & Llewelyn Ellis Award / Players Award: DANNY BROOKWELL

Manager’s Award : CAIO EVANS

Morgan Family Award / Top Scorer Award: DANNY BROOKWELL.

Congrats Caio and Danny.
Thanks to the Morgan Family and to the sponsors TELEDU PORT TV
The awards are supported once again by the MORGAN FAMILY and Morgan Ellis is photographed making the presentation representing the family.
Llun / Photo: Dylan Elis
22/04/24
Gareth Lloyd Parry


Gyda thristwch clywsom y newyddion am golli Gareth Lloyd Parry sef tad ein cyn rheolwr a chwaraewr Gareth Parry. Bu Gareth, y mab, yn un o sêr Port ac yn un a gyfranodd yn fawr i’r clwb yma mewn cyfnod llewyrchus iawn.
Bu Gareth, y tad, yn ddilynwr ffyddlon ac yn gyfaill mawr i gymaint ohonom ar Y Traeth. Roedd yn bresonoldeb cyfarwydd yn helpu allan ar ddiwrnod y gêm a gallwn weld darlun clir ohono yn cynorthwyo Phil yn ystod hanner amser yn forcio’r cae yn ôl y galw.
Coffa da amdano a chydymdeimlwn yn fawr gyda Gareth, y mab, a hefyd y teulu i gyd.
Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll ar Sadwrn 27 Ebrill am 11 o’r gloch. Fe’ch anogir i ddod yno yn gwisgo lliwiau Cymru neu unrhyw glwb pêl-droed.


It is with sadness that we received the news of the passing of Gareth Lloyd Parry, the father of our former manager and player Gareth Parry. Gareth, the son, was a star performer for the club in a very successful periiod.
Gareth, senior, was an ardent Port supporter and was a valued friend to so many of us at the Traeth. He was a familiar figure helping out at the ground on match days and we still have a clear picture of him assisting Phil forking the pitch during the half-time interval.
We have many fond memories and extend our sincere sympathy to Gareth, the son, and his family at this difficult time.
A public service will be held at St Mary’s Church Llanfairpwll at 11 am, April 27th when you are urged to wear the Wales colours or those of any football club.
22/04/24
Goleuo’r Traeth / Lighting up the Traeth


CPD Porthmadog Daeth cyfnod yr hen lifoleuadau i ben gyda’r llifoleuadau LED newydd yn cael eu gosod.Agorwyd yr hen oleuadau gan John a Mel Charles yn ôl yn Hydref 1992 a'n gwrthwynebwyr ar y noson oedd CPD Dinas Caerdydd.
Cwblhawyd y gwaith yn ystod yr wythnosau diwetha’ mewn pryd iddynt oleuo gêm ola’r tymor gyda Treffynnon.
Cam arall gan y Bwrdd ydy hwn ac yn rhan o broses barhaus o uwchraddio a gwella cyfleusterau ar Y Traeth.
Er yn arwydd o ddatblygiad a llwyddiant roedd hefyd yn siom fod y defnydd cynta’ o’r goleuadau yn digwydd ar y noson y collodd y clwb eu le yn y Ail Haen.
Ond medrwn fod yn sicr fod y Bwrdd eisoes yn edrych i ail adeildau gan anelu i ail sefydlu yn yr Ail Haen. Gobeithio yn wir fod y goleuadau yn arwydd o ddyddiau gwell i ddod.
Diolch i swm sylweddol pum ffigwr a dderbyniwyd gan y Gronfa Ffyniant Bro bu’n bosib symud ymlaen gyda’r gwaith. Yn ogystal a’r goleuadau roedd cais llwyddianus y clwb yn cynnwys costau giatiau newydd ac adnewyddu ffensiau.
Aeth y gwaith ar y goleuadau yn ei flaen yn ystod Chwefror a Mawrth cyn cael eu gomisynu ar 4ydd Ebrill.
Bydd y goleuadau newydd yn dipyn fwy ynni effeithlon ac felly yn golygu biliau ynni llai.
Gobeithio yn wir fod y goleuadau newydd yn arwydd o ddyddiau fwy llachar ar y ffordd.
C’mon Port!!


It was the end of the line for the old floodligts as new LED lights were installed. The original floodlights at the Traeth were opened by John and Mel Charles back in October 1992, when Cardiff City were our opponents on the night. Their lifespan came to an end with the installation of the new LED lights.
Work has been carried out over recent weeks to complete the installation with the switch on coming for the last game of the season against Holywell Town.
It is a further step by the Board in the on-going process of updating and improving the facilities at the Traeth.
Sad perhaps that the switch-on coincided with the club dropping into the 3rd Tier of football in Wales.
But we can all rest assured that the Board are already looking to re-bulld and aiming to re-establish the club at Tier 2 level. The lighting up of the Traeth will hopefully be a symbol of better days ahead.
The work on the lights was enabled by a substantial five figure grant from the Levelling up Fund which the club successfully applied for and building new gates and changing the fences was included in the application.
Work on the lights was carried out through February and March and finally commissioned on April 4th.
The new lights will be more energy effecient and lead to a considerable reduction in the club’s energy bills.
Let’s hope that they are indeed a symbol of brighter days o come on the pitch.
C’mon Port!!
21/04/24
Steve Williams: datganiad personol / a personal statement


Wrth iddo adael swydd y rheolwr mae Steve Williams wedi rhyddhau y datganiad canlynol:-

As he leaves the manager’s post, Steve Williams has released the following statement:-

Regardless of what happens in football, there is only one thing that remains, and that is the club and its supporters. And that is all that matters at this moment.
I cannot thank Paps enough for bringing me back into my boyhood club and for Phil for the opportunity to lead the team since January.
Unfortunately it did not work out as any of us wanted. There is no doubt that this is a massive club, a sleeping giant with huge potential.
I’d like to thank the volunteers that put end;ess hours into making the whole thing happen, the amazing supporters that followed us everywhere, my management team for their work throughout the week and on match days and also my players that gave me everything but just fell short.
I’m proud to say that I played my part in re-establishing the reserve team and excited to see how it develops and also the work that’s been done to re-establish links with the town’s junior teams. They really are our future both on and off the field.
I just hope now that the new direction will work and get’s the club back to where they belong.
I need to now rest and reflect before deciding where my next football adventure takes me.

Diolch a C’mon Port.
20/04/24
Steve 'Midge' Williams

Gyda’r tymor yn dod at y terfyn, gwnaeth y Bwrdd a’r rheolwr, Stephen Williams, gytuno i ddod â’i gyfnod fel rheolwr y clwb i ben.
Dymuna’r Bwrdd fynegi eu diolch i Stephen am ei ymdrechion mewn cyfnod anodd i’r clwb gan hefyd ddymuno’n dda iddo ym mha bynnag rôl ym myd hyfforddi pêl-droed y bydd yn ei ddilyn yn y dyfodol.
Bydd y Bwrdd yn symud yn ystod y cyfnod nesa’ i apwyntio rheolwr newydd.

Today the Board and the manager, Stephen Williams have agreed, by mutual consent. that his period as manager will come to an end as the season now reaches its conclusion.
The Board wishes to place on record its thanks to Stephen for his efforts in what has been a difficult period for the club and wishes him well in any future roll he takes up in the football coaching field.
The Board will now seek to move during the next period to appoint a new manager.
20/04/24
AIL-Dîm / Reserves: Heddiw / Today: 2.00pm: Y Traeth


Canlyniad / Result: Port 0-11 Cei Connah / Connah's Quay U 23
Bydd yr AIL-Dîm yn chwarae tîm Dan 21 Cei Connah ar Y Traeth heddiw, Ebrill 20.
Bydd y gic gynta am 2 o’r gloch.

The Reserves will play Connah’s Quay U 21s at home today, April 20th.
The kick off will be at 2pm.
18/04/24
Pleidlais Chwaraewr y Tymor / Player of the Season Vote

Bydd cyfle i chi ddewis eich 'Chwaraewr y Tymor' cyn y gêm nos yfory.

There will be an opportunity for you to vote for your 'Player of the Season' prior to tomorrow evening's match.
17/04/24
Cydymdeimlad / Condolences


Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Colin Oliver yn dilyn y newyddion trist a ddaeth o glwb Treffynnon, newyddion sydd yn gosod y cyfan arall mewn perspectif.
Cydymdeimlwn yn llwyr hefyd gyda theulu y cyn chwaraewr Will Humphreys a ein cyn rheolwr a chwaraewr Gareth Parry sydd wedi colli ei dad.

We extend our sincere condolences to the family of Colin Oliver following the extremely sad news from last Tuesaay's match at Holywell which gives everything else its true perspective.
Our sincere sympathy is also extended.to the family of former player Will Humphreys and to our former manager and player Gareth Parry on the loss of his father, Gareth Parry senior.
17/04/24
TREFFYNNON / HOLYWELL TOWN: Nos Wener / Friday: Y Traeth: 7.30pm

Noddwyr y gêm / Match Sponsors: Children’s Farm Park / Slate Caverns Llanfair
Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsors:THE GRASSROOTS FOOTBALL SUPPORTERS - BCJJ

“Events, dear boy, events”, oedd ymateb Harold MacMillan pan ofynwyd iddo am y sialensau mwya’ yn wynebu Prif Weinidog, a digwyddiadau hefyd benderfynodd fod Port wedi cyrraedd gêm rhif 30, sef gêm ola’r tymor, yn dal â chyfle i oroesi.
Bydd tynged Port bellach yn ddibynnol ar ddwy gêm, un yn cael ei chwarae ar Y Graig a’r llall ar Y Traeth.
Bydd Port yn hollol ymwybodol o maint y dasg sydd yn eu hwynebu. Daw Treffynnon i’r Traeth ar gefn tymor arbennig arall. Erbyn hyn mae carfan John Haseldin heb golli yr un gêm ar eu trafaels, yn ennill 11 ac yn gorfod rhannu’r ysbail ar ond tri achlysur.
I Port, er yn dymor siomedig tu hwnt, mae’r cyfan bellach yn ddibynnol ar 90 munud o bêl-droed. Bydd llawer o gefnogwyr, er yn gwybod nad yw’r tabl byth yn dweud celwydd, yn cytuno fod y garfan yn llawer gwell na’r safle hwn.
Wrth edrych yn ôl at y gêm gynghrair gynta honno yn ôl ym mis Awst, pan oedd disgwyliadau cefnogwyr yn uchel, cafwyd gêm gystadleuol iawn yn Treffynnon cyn i Port ildio o 1-0.
Nos Wener bydd yna un cyfle arall i godi ein gêm. Amdani Hogia’.
Bydd cefnogaeth dda ar y noson yn hwb mawr i’r hogia’. Dewch lawr i’r Traeth a codwch eich llais!
C’mon Port!!

“Events dear boy, events”, was Harold MacMillan’s response to a question about the greatest challenges facing him as Prime Minister and ‘events’ have also deemed that Port enter the 30th and last game of the season with the chance of survival remaining.
To be relegated or not to be relegated hinges on two games, one at The Rock and the other at the Traeth.
Port will be only too aware of the size of the task that awaits them. Holywell Town will come to the Traeth on the back of a another outstanding season. John Haseldin’s team have not lost a single league fixture on the road, winning 11 and having to share the spoils on just three occasions.
For Port, while it has been a very disappointing season, everything now rests on just 90 minutes of football. Many supporters, while realising that the table never lies, are still of the opinion that the squad is capable of far better than the league position tells us.
Looking back to the season’s curtain raiser in August when hopes were high, Port gave the Wellmen a competitive game before going down to a 1-0 defeat.
Friday provides us with a final opportunity to really raise our game. Go for it!!
A good turn out at the Traeth on Friday with plenty of noise could be crucial. Support the lads!
C’mon Port!!

Lluniau / Photos: Ollie Farebrorher & Caio Evans : dau sydd wedi creu cryn argraff y tymor hwn / Two players who have made their mark this season.
17/04/24
Gêm Port yn Fyw ar Red Wall+ / Port game to be streamed live


CBDC / FAW Mae Red Wall+, llwyfan darlledu byw y Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi’r canlynol am gêm ola’r tymor ar Y Traeth:
“ Bydd y gêm Cymru North rhwng Porthmadog a Treffynnon yn cael ei darlledu’r fyw ar Red Wall+ sef llwyfan rhad ac am ddim y Gymdeithas Bêl-droed. “
“Bydd y gic gynta ar Y Traeth am 7.30pm ar nos Wener, Ebrill 19, gêm a fedrai effeitho ddau ben tabl y Cymru North ar ddydd ola’r ymgyrch.”

The Red Wall+ live streaming platform of the FAW have released the following regarding Port’s final game of the season:
“The JD Cymru North fixture between Porthmadog and Holywell Town will be streamed live on RedWall+, the FAW’s free streaming platform.
The game at Y Traeth kicks off at 7:30pm on Friday 19 April and could have key implications at both ends of the JD Cymru North table on the final day of the campaign.”
16/04/24
Ail-dîm yn LLANDUDNO heno / Reserves away at Llandudno tonight


CANLYNIAD / RESULT: LLANDUDNO U23 14-0 Ail-dîm PORT Res

Bydd yr Ail-dim oddi cartre’ heno (Ebrill 16) yn chwarae tîm Dan 23 Llandudno ar gae Maesdu.
Bydd y gic gynta’ am 7.30pm.

The Reserves will be in action tonight (April 16th) playing Llandudno U 23s at Maesdu.
The kick off will be at 7.30pm.
15/04/24
Gêm nos Wener am 7.30pm / Friday’s game ko 7.30pm


Bydd y gic gynta’ yn gemau cynghrair ar gyfer Nos Wener Ebrill 19 am 7.30pm.Hyn yn cynnwys Port v Treffynnon ar y Traeth

All of next Friday’s fixtures, 19th April, will now kick off at 7.30pm. This will include Port v Holywell at the Traeth
10/04/24
UN GÊM AR ÔL: 2007/08 / ONE GAME TO GO: 2007/08


Cofio...Cofio... PORT 1-0 Y RHYL
Honiad yr adroddiad am y gêm oedd fod y rheolwr Viv Williams, ar fore’r gêm, wedi gwneud tri dymuniad a wir ichi diolch i’r Dylwthen Deg gwireddwyd y tri.
I aros yn y Cymru Premier, roedd yn rhaid i dri peth ddigwydd: Caersws yn colli yn erbyn Caernarfon a Llangefni yr un fath yn erbyn Port Talbot ond y mwya’ annhebygol oedd y trydydd; Port i guro Y Rhyl ar Y Traeth. Rhyl, clwb yn y tri ucha, yn cael eu reoli gan yr ardderchog John Hulse ac yn byrlymu o chwaraewyr talentog.
Wel do gwireddwyd y tri peth a trodd yr amhosib yn bosib. Codwyd Port allan o safleoedd y disgyn wisg eu tînau a hynny ar ôl treuilio y misoedd blaenorol yno, ac i fyny â nhw i’r lle a elwir diogelwch.
Richard Hughes, newydd gyrraedd adra o’i fis mêl, rwydodd ar ôl 53 o funudau, cyffyrddiad bach i groesiad Aled Rowlands ond digon i yrru’r Traeth i’r seithfed nef.
Llechen lân arwrol i RICHARD HARVEY (llun) ond digon o gyfnodau poenus ar y ffordd gan gynnwys arbediad arbennig ganddo ar 90 munud pan oedd Lee Hunt yn siwr o rwydo. Ond wnaeth o ddim!
Port 1-0 Y Rhyl
Tymor arall yn y Cymru Premier wedi’i sicrhau.
Am bnawn!! Sylwch y dyddiad EBRILL 19 2008. Ydy’r Dylwythen na’n dal o gwmpas?

Welwn ni chi i gyd ar Y Traeth ar EBRILL 19 2024.


Memories of Port 1-0 Rhyl FC
The match report claims that on the morning of this key contest with Rhyl FC; manager Viv Williams made three wishes and each one was granted by the Good Fairy.
In order to stay up three things needed to happen: Caersws had to lose at Caernarfon and similarly Llangefni at Port Talbot but perhaps the least likely; Port had to take three points from Rhyl at the Traeth. Now Rhyl were a top three club managed by the great John Hulse, full of highly talented players .
Well yes all three things really did happen and a club which had spent months in the relegation spots hauled itself up by the seat of its pants to a place marked safety.
Richard Hughes, just back from his honeymoon, netted the winner after 53 mins an ugly beautiful goal getting the touch to Aled Rowlands’ cross.
RICHARD HARVEY (photo) kept a heroic clean sheet but there were many hairy moments none more so than when Richard pulled off a remarkable 90th minute save when it seemed that Lee Hunt must score.
Port 1-0 Rhyl FC was the final score and another season in the Welsh Prem was ensured.
What a day and note the date APRIL 19th, 2008. Now is that Good Fairy still around these days?

See you all at the Traeth on APRIL 19th 2024.

Dyma’r timau / Here are the teams:-
Port; Richard Harvey, John G Jones, Ryan Davies, Richard Hughes, Mike Foster: Marcus Orlik, Gareth Parry (Mark Thomas 73'), Paul Roberts, Aled Rowlands (Barry Evans 82'); Matthew Hughes (Carl Jones 76'), Carl Owen. Yellow: Ryan Davies 31', Mike Foster 66', John G Jones 88'
Rhyl: Gann, Holt (Brewerton 74'), Graves (White 38'), Connolly, Horan, O'Neill, Craig Jones M Lloyd Williams 70'), Wilson, Hunt, Sharp, Chris Roberts
Yellow: Horan 62', Connolly 84'
Referee; Kerry Morgan Attendance: 357
07/04/24
UN GÊM AR ÔL !! / ONE GAME TO GO !!


Haydn Jones - CPD Porthmadog “Un siawns arall, un gêm arall a mynd amdani!”
Dyna oedd ymateb cadarnhaol yr is reolwr, Haydn Wyn Jones i sefyllfa Port wrth iddo sgwrsio gyda Dylan Elis ar TELEDU/PORT/TV yn dilyn y pwynt a godwyd yn Y Waun.
Er iddo siomi wrth i’r tîm fethu casglu y triphwynt mae’n pwysleisio fod yna “... ddigon i adeiladu arno cyn y gêm derfynnol.”
Mae hefyd yn pwyntio at yr amser sydd i gael i baratoi, dim yn gyfnod i eiste’ ‘nol ond yn gyfle i baratoi a gweithio eto ar y strwythur a'r siâp.
Pwysleisiodd yr angen i fod yn gadarnhaol wrth inni ddod at y gêm ola’ hon ac er waetha’ popeth yn dal yn y râs.
Mae’n dweud fod rhaid bod yn optimistaidd mewn pêl-droed gyda phawb, wrth i fynd at gêm ola’r tymor, yn tynnu gyda’u gilydd, y garfan, y cefnogwyr pawb.

“One more chance, one more game we will go for it!”
This was assistant manager, Haydn Wyn Jones’ positive response to Port’s situation when talking to Dylan Elis on TeleduPortTV following the point picked up at Chirk.>br> Though disappointed at failing to pick up all 3 points it is “..enough to build on for the final game,” he stressed.
He also pointed to the time available to prepare -almost 3 weeks- not a time to sit back but an opportunity to prepare and work again on the structure and shape.
He emphasised the need to be positive as “we go to the final game and still in the race.”
He also stressed the need to be optimistic in football with all pulling together, the squad and the supporters, everybody as we go again into the final game of the season.
06/04/24
CAIO EVANS: Chwaraewr y Mis / Player of the Month


Llongyfarchiadau i’r chwaraewr canol cae 19 oed, CAIO EVANS, sydd yn ddewis y cefnogwyr yn Chwaraewr y Mis am fis Mawrth.
Ymunodd â Port o Gaernarfon yn ystod haf 2023 ac mae’r chwaraewr ifanc deynamig wedi perfformio’n gyson ar hyd y tymor anodd hwn.
Caio hefyd oedd dewis y cefnogwyr ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Congratulations to the midfield dynamo CAIO EVANS who has been voted Supporters Player of the Month for March.
He joined Port from Caernarfon back in the summer and his non-stop action play has made him a fans favourite during what has been a difficult season.
Caio was also named player of the month in November and December.

Noddwyd y wobr gan / Award sponsored by: TELEDU PORT TV
03/04/24
Steve yn cael ei gyfweld gan Cymru Sport /Steve speaks to Cymru Sport


Pan gafodd Steve Williams gwestiwn gan wefan Cymru Sports ynglyn ac effaith posib yr achos gan CPDC yn erbyn Prestatyn, ymatebodd gan ddweud nad oedd yn ddymuniad ganddo i sôn am glybiau eraill gan fyddai hynny yn dangos diffyg parch.
Roedd yn well ganddo, tra fod yn fathemategol bosib i Port aros fyny, i ganolbwyntio ar y gêm ola’ gyda Treffynnon. Nid oedd o’r farn fod toriad o 18 niwrnod cyn y gêm honno yn fendythiol i Port gan fod Treffynnon yn mynd i chwarae 3 gêm yn y cyfamser i fod yn barod ac yn siarp. Ei fwriad oedd gwneud fyny am hyn drwy drefnu gêm gyfeillgar a bwrw ‘mlaen efo’r sesiynau ymarfer.
Am y gêm yn erbyn Y Waun cytunodd eu bod yn haeddu bod ar y blaen ar yr hanner ond cafodd Port, yn yr ail hanner, siawns ar ôl siawns a gallent yn iawn fod wedi rhwydo 5 neu 6. Rhoddodd canmoliaeth i Jack Edwards yn y gôl i’r Waun a chwaraeodd rhan fawr iawn yn cadw Port i un gôl “ roedd yr hogyn ar fenthyg o TNS yn arbennig, “ meddai.

When invited by Cymru Sports website to speculate about the possible effect of the FAW charge against Prestatyn. Steve Williams would not be drawn saying that he did not like to speak about another club as that, he said, “...would be disespectful.”
He preferred to look, while it was mathematically possible to survive, to the final game of the season against Holywell. He responded to the question regarding possible benefits from the break of 18 days without a fixture brought about by the extension to the season, saying it would not be helpful as it would mean a long stretch without a game while Holywell, with three games to play, would be ready and sharp for the game. He said he would hope to compensate for this by arranging a friendly and Port would also need to continue with training sessions.
On the Chirk game he reflected that while Chirk had deserved their interval lead, Port in the second period had chance after chance and could have come off the pitch having scored five or six. He heaped praise on, Jack Edwards, In goal for Chirk, who pllayed a major part in restricting Port to a single goal, “ ..the young lad on loan from TNS, was outstanding” he said.
02/04/24
NEWID DYDDIAD GÊM TREFYNNON / HOLYWELL FIXTURE CHANGE

Bydd gêm ola’r tymor gyda Treffynnon, bellach yn cael ei chwarae ar Nos Wener, 19 Ebrill gyda’r gic gynta’ am 7.45pm.
Bydd yna 6 o gemau yn cael eu chwarae ar y noson yma gyda dwy gêm yn dal i'w chwarae ar y 13eg Ebrill am fod y clybiau yma yn dal yn Cwpan Gwasanaeth Gwaed y Gynghrair

The final Cymru North fixture with Holywell Town will now be played on Friday, 19 April with a 7.45 pm kick off.
Six clubs will now play their final fixture of the season on this date but two other games remain on 13th April as those clubs are still involved in the WBS League Cup.
31/03/24
Y WAUN / CHIRK AAA: LLUN / MONDAY:Holyhead Road 2.30pm Ll14 5NA

Jake Jones - CPD Porthmadog Bydd Port yn teithio i’r Waun ddydd Llun ar gyfer gêm oddi cartref ola tymor 2023/24.
Mae lle clwb y ffîn yn y Cymru North wedi’u golli ers dipyn ond mae Y Waun wedi penderfynu fod mynd allan efo rhediad gorau’r tymor yn well na chropian i Haen 3 yn ddisylw. Heb golli yn eu 3 gêm ddiwetha’, curo Llanidloes a Llandudno a cyfartal gyda Chaersws, yn golygu y byddant yn hyderus o gael buddugoliaeth arall ddydd Llun.
Yn ei golofn yn y Rhaglen mae Chris Blanchard, ysgrifennydd y clwb, yn ein atgoffa bod ymweliad a’r Waun wedi bod yn un anodd yn y gorffennol, gan ychwanegu fod Port wedi sicrhau’r fuddugoliaeth Cwpan Cymru ynghynt yn y tymor, diolch i 5 cic gywir o’r smotyn, a hyn ond yn dilyn gôl hwyr i ddod â’r sgôr yn gyfartal.
Ar yr ochr gadarnhaol, er iddynt golli 3-0 ddydd Gwener, roedd gymaint i’w ganmol am berfformiad Port. Tan y gôl a ddaeth o gamddealtwriaeth ar 54 munud, roedd Port wedi edrych yn hynod o drefnus yn y cefn gyda Ollie Farebrother yn cael amser tawelach na’r arfer rhwng y pyst. Hefyd roedd Danny a Rhys yn ôl yn y tîm ac yn fygythiad ar ben arall y cae a’r cyfan yn gwneud y sgôr terfynnol, yn erbyn un o’r ceffylau blaen, yn dipyn gwaeth nac oedd y perfformiad yn haeddu.
Dal ati i’r diwedd.
C’mon Port!!

Port travel to Chirk on Monday for the final away fixture of the 2023/24 season.
The border club have been relegated for a little while now but they appear to have decided to go down to Tier 3 with a bang rather than a whimper. Unbeaten in their last 3 games, recording wins over Llandudno and Llanidloes and a draw with Caersws, they will now be looking for another win on Monday.
Club secretary Chris Blanchard, in his programme column, reminds us that a visit to Chirk “.... has proved to be difficult in the past,” adding “... you will remember our recent Welsh Cup trip where we got through on 5 well taken penalties after equalising late on.”
On the positive side, despite a 3-0 defeat on Friday, there was so much that was positive to note. Up until that 54th minute misunderstanding ‘gifted’ a goal, Port had looked well organised at the back with Ollie Farebrother having a quieter time than usual in goal. The returning Danny Brookwell and Rhys Alun were also posing a threat at the other end, making the final scoreline less than Port deserved against one of the league’s front runners.
Keep going to the end.
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Jake Jones: perfformiad da eto yn yr amddiffyn / another good performance at the back.
Ryan Williams: da cael Ryan yn ôl / good to have his experience back
30/03/24
BUDDUGOLIAETH I’R AIL-DÎM / VICTORY FOR RESERVES

Buddugoliaeth o 4-0 i’r Ail-dîm dros Ail-dim Bwcle pnawn yma ar Y Traeth. Yn dilyn hanner cynta’ di-sgôr rhwydodd ZAK PIKE y gynta’ ar ôl 64 munud gyda JAC BEE yn ychwanegu’r ail 7 munud yn ddiweddarach. Daeth y siwparsyb JAKUB ROMANOWICZ i’r cae ar ôl 69 munud a sgorio ddwywaith 73 munud a 82 munud.
Da iawn hogia a'r hyfforddwr TRYSTAN DAVIES, wedi tymor anodd, yn dal ati i sicrhaau buddugoliaeth gynta’r tymor. Ymlaen at y nesa’!!

A 4-0 victory for the Reserves over Buckley Town Res this afternoon at the Traeth. Following a goalless first half ZAK PIKE (photo) put Port ahead on 64 mins. JAC BEE then doubled the advantage on 71 mins followed by two goals by supersub JAKUB ROMANOWICZ who netted twice 73 mins and 82 mins after coming on on 69mins.
Well done to the young reserves and coach TRYSTAN DAVIES who have stuck to their task in a difficult season to notch their first win. On to the next lads.

Port squad / Carfan: Liam Hughes, Aron Catlin Roberts, Iwan Havelock, Jac Bee, John Williams, Aaron Jones, Mabon Owen, Aron Jones, Deion Hughes, Elis Puw, Zak Pike Eilyddiom / Subs:, Jakub Romanowicz . Mason Lloyd
27/03/24
AIRBUS UK FC BROUGHTON: Gwener / Friday: Y Traeth: 2.30pm.

Noddwr y Gêm / Match Sponsor Sponsor: GALERI HARLECH
Noddwr y Bêl / Match Ball Sponsor: Belyn Financial services
Mascots:Tim Dan 11eg Clwb Pêl-Droed Ieuenctid Port / Port Juniors U 11s


Gyda’r tymor yn tynnu tua’r terfyn croesawn Airbus i’r Traeth ar Gwener y Groglith a nhw yn dal yn y râs am y teitl. Sylwch fydd y gic gynta’ am 2.30pm.
Tair gêm yn weddill bellach, dim ond 9 pwynt ar gael a Port yn dal 4 pwynt y tu ôl i Prestatyn. Dim lle bellach i gamgymeriad gyda’r gwrthwynebwyr yn un o’r anodda’ yn yr adran.
Yn yr ail safle mae Airbus, pwynt y tu ôl i Treffynnon ac ar rhediad o 7 buddugoliaeth yn olynol. Mae clwb y Maes Awyr ond wedi colli ddwywaith y tymor hwn -yn erbyn Fflint a Dinbych. Maent wedi ennill 21 o’u gemau a cael eu dal i 4 gêm gyfartal. Cafodd Caersws dwy gêm gyfartal yn eu herbyn ac yn ddigon eironig ildiodd y clwb o’r canolbarth 4 pwynt i Port!
Pan gyfarfu’r ddau glwb ar y Maes Awyr yn ôl ym mis Awst nid brwydro i osgoi cwymp oedd ar feddyliau Port. Yn wir gyda charfan dda ar gael, gorffen yn y 6 ucha oedd y gobaith. Cafwyd gêm gystadleuol gyda Treflyn yn adrodd ar y diwedd “Gôl 9 munud o’r diwedd penderfynodd y canlyniad gyda Port yn mynd am gêm gyfartal haeddiannol ...”
Er mor gry ydy’r gwrthwynrbwyr pan mae’r gemau yn rhedeg allan does yna ddim dewis ond sefyll fyny a brwydro can obeithio am ychydig o lwc.
Cofiwch, cofiwch dihangfa fawr Ebrill 19eg 2008 Port1-0 Rhyl!!!
C’mon Port!!

With time running out for Port, we welcome title challengers Airbus to the Traeth for a Good Friday fixture with a 2.30pm kick off.
Three games now left to play, with 9 points only available, while remaining 4 points adrift of the other relegation battlers, Prestatyn. The margin for error is now limited in the extreme and the opposition amongst the most difficult in the division.
Airbus are in 2nd spot, a point behind Holywell, and curently on a run of 7 straight wins. This season they have only lost two games, beaten only by Flint and Denbigh. They have won 21 of their games and held to draws on 4 occasions. Two of those 4 draws came against Caersws, a club that, ironically, have yielded 4 points in their games against Port!
When the two clubs met at the Airfield back in August, battling relegation was not on Port’s agenda. Indeed, with a good looking squad available, a top six finish was hoped for. It turned out to be a close contest with Treflyn summing up in his match report.: “ A goal just 9 minutes from the end settled this match, as Port were heading for a deserved draw .......”.
However difficult the opposition, when you are in the last chance saloon, you have no alternative but to stand up and fight and hope for a stroke of good fortune.
Remember, remember the great escape of April 19 2008: Port 1-0 Rhyl!!!!
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Josh Banks: cwblhau 12 tymor ar y Traeth / completing his 12th season at the heart of the Port defence.
Nathan Williams: yn wynebu brwydr arall yng nganol yr amddiffyn / faces a tough defensive battle.
22/03/24
AIL-Dîm / Reserves: Rhuthun v Port Heno / Tonight 22/03/24


CANLYNIAD / RESULT: RHUTHUN 5-0 PORT

Port:Carfan / Squaad: Liam Hughes, , Aron Catlin Roberts, Iwan Havelock, Jac Bee, John Williams, Mason Lloyd, Mabon Owen, Aron Jones, Deion Hughes, Elis Puw, Zak Pike. Eilyddiom / Subs: Aaron Jones, evan Burgess, Malcolm Humphreys, Jakub Romanowicz. Rheolwr / Team Manager:Trystan Davies.
20/03/24
TAIR GÊM AR ÔL / THREE GAMES LEFT


Tair gêm sy'n weddill bellach ond DIM GÊM y penwythnos yma.
Dros benwythnos y Pasg bydd Port yn chwarae nesa’ gyda AIRBUS yn ymweld â’r Traeth ar Ddydd Gwener y Groglith (29/03/24) ac ar Llun y Pasg bydd Port yn teithio i’r WAUN (01/04/24).
Yn dilyn hyn fydd yna ddim gêm tan 13 Ebrill pan fydd TREFFYNNON ar Y Traeth ar gyfer gêm ola’r tymor.
Felly mae yna 9 pwynt yn dal ar gael ond mae dwy o’r tair yn erbyn ceffylau blaen y tabl, y clybiau sydd yn y safleoedd 1af ac Ail yn y tabl.
Ichi cael penderfynu os oes gan Port siawns i achub eu hunain dyma’r sefyllfa.
. Mae Port a Prestatyn bellach wedi chwarae 27 o gemau. Hyn yn dilyn colled Prestatyn neithiwr yn erbyn Treffynnon.
Dyma’r 3 gem sydd ar ôl gan Prestatyn
Fflint(adre), Rhuthun (oddi cartre’), Gresffordd (adre).
Yn wyneb hyn i gyd Port ydy’r ffefrynnau i ddisgyn ac yn dal 4 pwynt tu ôl i Prestatyn.
Mae gan Port fantais bychan o 2 gôl ar wahaniaeth goliau.
Dyddiau digon tywyll ac anodd ar Y Traeth ond cefnogi’r hogia’ ydy’r unig ffordd ymlaen.

Cofiwch Ebrill 19 2008 Port 1-0 Rhyl!!!
C’mon Port!!

CPD Porthmadog Port have three games left but there will not be a game this coming weekend.
Port’s next games will be over the Easter weekend. AIRBUS UK will be the visitors on Good Friday (29/03/24) with Port travelling to CHIRK on Easter Monday (01/04/24).
There will not be a game on the 6th of April which leaves the final game of the season for the 13th April when HOLYWELL TOWN are the visitors.
So 9pts still to play for but two of those games are against the front runners placed 1st and 2nd in the table.
We are favourites for the drop 4pts adrift of Prestatyn.
So that you can judge our outside chance of survival here are Prestatyn’s position:-
Both Port and Prestatyn have played 27 games after Prestatyn’s loss to Holywell last night. Their remaining 3 fixtures are:- Flint (h), Ruthin (a) Gresford (h).
Port hold a small 2 goal advantage on goal difference.
Difficult days; but giving your fullest support is the only way forward.

Don’t forget April 19 2008: Port 1-0 Rhyl!!!!
C’mon Port!!
18/03/24
MICHAEL HOLT 1969-2024


The support from family, friends and followers of Mike, has been overwhelming. With your help, we were able to repatriate him to the UK. Thank you so much.

We would now like to invite you to join us for the funeral service. .

The service will be held at 12 noon on Wednesday the 3rd April at Landican Crematorium, Arrowe Park Road, CH49 5LW. It will be followed by an opportunity to share stories and memories of Mike at The Neston Club, Station Road, Parkgate. CH64 6TZ. .

Due to the circumstances we are uncertain of the numbers of people that will be attending, so please let us know if you are planning to attend by e-mailing djholt3@outlook.com - If you are coming along, please don't feel the need to wear black. .

Family flowers only please, however there will be a collection at the wake for Mike's beloved Porthmadog Football Club, if you would like to donate. .

Please note; The Neston Club is cashles.

Thank you once again to every one that has supported the family in this time. .


Y neges uchod gan deulu Micael Holt

A message from the family of Michael Holt.
14/03/24
CEGIDFA / GUILSFIELD: Sadwrn / Saturday: Clos Mytton, SY21 9PF


GÊM YMLAEN / GAME ON


Gyda 4 gém yn unig yn weddill mae amser yn brin iawn yn y frwydr i aros fyny. Pnawn Sadwrn bydd Port yn parhau gyda’r ymdrech gyda taith i Cegidfa.
Dros nifer o dymhorau mae’r clwb o’r canolbarth wedi bod yn esiampl, gan ddangos i glybiau llai fod yn gystadleuol ar y lefel yma. Tymor ar ôl tymor mae’r rheolwr Nathan Leonard wedi adeiladu carfannau cry’ gyda enwau fel Bromley, Cathrall a Cook yn ymddangos yn rheolaidd. Mae Cegidfa yn gyfforddus yn y 7fed safle, sefyllfa sy’ ond yn freuddwyd i nifer o glybiau.
Pnawn Sadwrn gall Port ddim edrych ymhellach na gwneud ymdrech fawr i ennill y triphwynt yn erbyn gwrthwynebwyr cryf. Bu y Sadwrn diwetha’ yn siom ar ôl mynd ar y blaen yn gynnar,.ac yn siom eto i weld Danny Brookwell yn tynnu fyny a gorfod gadael y cae. Mae Danny, nid yn unig wedi bod yn creu cyfleoedd ond, yn y 9 gêm ddiwetha’ wedi rhwydo 7 gôl. Ymdrech enfawr gan rhedeg yn ddibaid.
Mae’r sefyllfa yn galw am frwydro mlaen a ... pe byddai canlyniadau eraill yn mynd o’n plaid pwy a wyr?
C’mon Port!!

.With only 4 games remaining time is running out in the fight for survival, On Saturday Port will continue the struggle with a visit to Guilsfield,.
Over many seasons the mid-Wales club has been a model for smaller clubs, showing the way to be competitive at this level. Manager Nathan Leonard has built a strong squad season after season, with names like Bromley, Cathrall and Cook featuring regularly in those squads. The Guils are comfortably placed in 7th spot. Now only a dream for many others.
On Saturday Port can look no further than putting in maximum effort to pull off a win against, strong opposition. After taking such an early lead, last Saturday it turnred into a disappointment for Port, It was also a huge disappointment to see Danny Brookwell pull-up and leave the pitch.. Danny, not only has he been key to opening up defences and set up chances, but has netted 7 goals in the last 9 games, making him joint top scorer. Truly a massive effort of non-stop action..
It is now a case of keep on battling and, if other results go in your favour, ... who knows?
. C;mon Port!!.
Lluniau / Photos: DANNY BROOKWELL & CAIO EVANS: cyfranwyr cyson mewn tymor anodd / consistent contributors in a difficult season.
. . 12/03/24
Clwb yn ennill mwy o Nawdd / Club wins more sponsorship


CPD Porthmadog Fel yr adroddwyd yn barod ar Facebook ac X, sicrhawyd mwy o nawdd gan y clwb. Yn barod mae Rob a Gerallt wedi gosod byrddau hysbysebu i ddau gwmni mawr sef SQUEAKY CLEAN CLEANING SERVICES and OIL4WALES.
Atgoffir ni gan ysgrifennydd y clwb, Chris Blanchard, yn ei golofn yn y rhaglen fod y clwb bob amser yn ddiolchgar i’r noddwyr hael ac hebddynt ni fyddai’n bosib symud ymlaen efo’n cynlluniau a gwella’r cyfleusterau ar Y Traeth.
Mae hyn eto yn cadarnhau y datblygiad sydd yn cael ei wneud oddi ar y cae, gan osod seiliau pellach at y dyfodol. Mae ein diolch yn fawr i’r Swyddog Marchnata, Dylan Rees am ei holl waith ac am sicrhau cefnogaeth y ddau gwmni yma.

As has already been reported on the club’s social media accounts, Port have won further frexh sponsorship. Rob and Gerallt have already put up advertising boards for two major companies, SQUEAKY CLEAN CLEANING SERVICES and OIL4WALES.
Club Secretary Chris Blanchard reminds us in his match programme column that the club is always very grateful to all our generous sponsors, without whom we couldn’t always push on with plans to improve favilities at our ground.
This further confirms that off field progress continues, laying further foundations for the future. Many thanks to our Marketing Officer, Dylan Rees for all his dedicated work and for ensuring the backing of these two companies.
07/03/24
Colli John Williams / Passing of John Williams


Gyda chryn dristwch derbyniodd y clwb y newyddion am farwolaeth ein cyn-reolwr John Williams yn 89 mlwydd oed.
Roedd John yn rheolwr rhwng Tachwedd 1972 a Mai 1976.
Yn ystod ei amser yma enillodd Cynghrair Cymru (Gogledd) ddwywaith yn 74/75 a 75/76, Cwpan Her Arfordir Gogledd Cymru a Chwpan Alves yn 73/74 a Chwpan Cookson yn 75/76.
Mae'r Clwb yn anfon eu cydymdeimlad dwys i'r Teulu.
Bydd munud o dawelwch cyn y gêm ddydd Sadwrn erbyn Bwcle.


It is with the greatest regret that the club received the news of the passing of our former manager John Williams aged 89.
John was manager between November 1972 and May 1976.
During his time here, he won two Welsh League (North) titles in 74/75 and 75/76, the North Wales Coast Challenge Cup and Alves Cup in 73/74 and Cookson Cup in 75/76.
The Club send their condolences to the Family.
A minute's silence will be held before Saturday's match against Buckley Town.
09/03/24
AIL-Dîm / Reserves: Sadwrn / Saturday Y WAUN/CHIRK v Port 2.30pm LL14 5NA

GOHIRIWYD / CANCELLED

Bydd Ail-dîm Port yn teithio i chwarae Ail-dîm Y Waun pnawn Sadwrn. (09/03/24)
Bydd y gic gynta am 2.30 o’r gloch.
Pob lwc hogia’

The Reserves will be away to the Chirk AAA Res on Saturday. (09/03/24)
Kick of is at 2.30 pm
Best of luck lads.
07/03/24
BWCLE / BUCKLEY TOWN: Sadwrn / Saturday: Y Traeth: 2pm

Noddwyr / Sponsors: Toyota Harlech
Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsors: THE GRASSROOTS FOOTBALL SUPPORTERS - BCJJ

5 Ffeinal Cwpan rhwng rwan a diwedd y tymor meddai Steve Williams gyda’r cynta o rhain yn dod pnawn Sadwrn pan fydd Bwcle yn ymweld â’r Traeth.
Mae Bwcle yn 11eg yn y tabl 4 pwynt ar y blaen i Port a bellach wedi chwarae un gêm yn llai. Nos Fawrth roedd Bwcle yn chwarae Treffynnon, un o geffylau blaen y gynghrair ac, er iddynt golli, mae’n werth nodi fod y sgôr yn gyfartal tan i 80 munud basio. Hyn yn awgrymu fod y clwb o Sir y Fflint yn barod i gwffio am y pwyntiau, yn union beth fyddech yn disgwyl gan glwb yn cael ei reoli gan Asa Hamilton.
Mae’r ddau glwb eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn. Cyfartal 1-1 oedd hi yn y gêm gynghrair ar Globe Way gyda Telor Williams yn rhwydo i Port. Bwcle aeth a hi yn y gêm 4ydd rownd Cwpan JD Cymru i sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.
Colli cyfle am bwynt oedd hanes Port y Sadwrn diwetha’ yn erbyn Gresford a hyn diolch i gôl hwyr arall. Ie hynny eto! Sawl gwaith? Ond cadwch y ffydd mae Steve Wulliams yn mynnu fod yna ddigon o bwyntiau yn dal ar gael i sicrhau diogelwch.
Bydd y ddau glwb yn barod am y sialens pnawn Sadwrn. Gobaith eto’n fyw!
Cefnogwch yr hogia’!
C’mon Port!!

Buckley Town will be the visitors to the Traeth on Saturday for what manager Steve Williams has described as the first of five Cup Finals between now and the end of the season.
Buckley are in 11th place 4pts ahead of Port with one game in hand. Last time out in midweek they went down 3-0 to front runners Holywell Town. It is worth noting, however, that up until the 80th minute the scores were level which suggests that the Bucks will provide tough, battling opposition as you would expect from a team managed by Asa Hamilton.
The two clubs have played each other twice this season. The league fixture at Globe Way ended in a 1-1 draw with Telor Williams netting for Port. Buckley were 2-0 winners in the 4th round Welsh Cup tie to reach the last 8 of the competition.
. Port missed out on a point last time out when Gresford netted a late winner. How often have we said that this season? Manager Steve insists there are enough points left to keep Port in the Cymru North. Both sides will certainly be up for it on Saturday and where there’s life there’s hope.
Support the lads!
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Will Owen-Ford: gêm gynta ardderchog yn erbyn Gresffordd / the teenager made an excellent debut performance.
Telor Williams ; sgoriwr draw ym Mwcle / who netted at Globe Way.
05/03/24
Cymru NORTH: Gemau heno / Tonight’s games


Dyma ganlyniadau’r gemau allweddol a chwaraewyd heno. Mae’r TABL wedi’i diweddaru

Treffynnon/Holywell 3-0 Bwcle / Buckley
Prestatyn 1-1 Y Wyddgrug / Mold Ales
Cegidfa / Guilsfield v Caersws (Gohiriwyd / Postponed)

Above are the results of tonifgt’s key fixtures. The TABLE has been updated.
05/03/24
Gwaith ar Y Traeth / Work at the Traeth


Dywed Chris Blanchard, yn ei golofn yn y rhaglen, fod y gwaith ar y llifoleuadau LED i’w cwblhau yr wythnos hon. Y gwaith i’w wneud ar y prif faes a hefyd ar y maes hyfforddi.
Roedd Chris hefyd yn ychwanegu ‘Diolch y Fawr’ i Rob Bennett am y gwaith a wnaeth yn ail osod llawr toiled y dynion ac ardal y bar yn y clwb. Meddai Chris fod Rob yn un o’r arwyr tawel y clwb pêl-droed ac hebddynt byddem llawer yn dlotach.
Fel gwefan ychwanegwn ein diolch ni i Rob. O gwmpas y maes ym mhobman mae tystiolaeth o’i waith ymarferol. Un arall o brosiectau diweddar Rob oedd trosglwyddo’r offer cyhoeddi i’r brif Eisteddle. Gwnaed hyn er mwyn galluogi cefnogwyr ar ochr yr Eisteddle o’r cae glywed y cyhoeddiadau yn dipyn gwell.

Club secretary Chris Blanchard, in his programme column, tells us that work on the new LED floodlights is to be carried out this week. These are to cover both the main pich and the training pitch.
Chris also extends a big ‘Diolch yn Fawr’ to Rob Bennett for the work done on the flooring of the Gents toilet and the bar area in the clubhouse. Rob, he adds, is one of the many unsung heroes at the football club and it would be a poorer place without him.
As a website we add our thanks to Rob. All around the ground there is plenty of evidence of his practical work on behalf of the club. Another of Rob’s recent projects has been the transfer of the tannoy equipment to the main stand with all that has entailed. It enables supporters on the Main Stand side of the pitch to better hear what is being announced.
04/03/24
TELEDU PORTTV: Yn holi / Talks to: STEVE WILLIAMS


Aeth pennau lawr yn yr eisteddle ac o gwmpas y Traeth tua chwarter i bedwar pnawn Sadwrn wrth i gic rhydd Charley Edge droelli fewn i gornel y rhwyd ond mae un yn dal yn amharod i ildio sef ein rheolwr Steve Williams. Tra fod yna ddigon o bwyntiau yn dal ar gael mae’n ei gweld fel hyn-
“5 Cup Ffeinal arall i fynd, dal digon o bwyntiau i’n cadw yn y lîg ‘ma, a mae fyny inni gal y pwyntiau i fynd a ni dros y lein.”
Ond wnaeth o ddim cuddio ei siom am y canlyniad, “Rili yn siomedig heddiw ‘ma.” “Hanner cynta neud yn rili da. Ail hanner ddim yn trio chwarae o gwbl. Dim yn ddigon dewr i gal ar y bêl a chwarae.”
Byddai wedi’i fodloni efo pwynt gan ychwanegu “Dwi’n meddwl y bysa nhw (Gresffordd) yn hapus i fynd adra efo pwynt.”
Gwelodd y gêm fel adlewyrchiad o’r Cymru North, “Mae’r lîg i gyd yn agos heblaw am y tri ar y top,” a fawr felly i ddewis rhyngddynt pan y chwarae gilydd.
Yn wahanol i’r gweddill ohonom di Steve ddim yn edrych ar ganlyniadau eraill. “Dim interest yn risylts erill” meddai. “Di rheini ddim yn mynd i’n cadw yn y lîg. Perfformiadau a pigo pwyntiau fyny sy’n mynd i’n cadw yn y líîg”
Am ein diffyg canlyniadau adra’ meddai, “Dylsach chi enjoio chwara ar y Traeth roedd y syrffes heddiw ‘ma yn fendigedig”
Eironi y diffyg pwyntiau adra oedd fod “.... rhai o’n perfformiadau adra ni wedi bod yn well na’r rhai ffwrdd lle da ni wedi pigo pwyntiau fyny.”
Mae’n siwr bod y rhan fwyaf ohonom yn croesi bysedd am chydig o lwc fynd ein ffordd ond go brin fod lwc yn rhan o rhaglen hyfforddi Steve!!

Heads went down in the stand and around the Traeth at 3.45pm on Saturday when Charley Edge’s free kick curled inside Port’s back post but one who is still not prepared to give up is manager Steve Williams.
Whilst there ar sufficiaent points to play for he sees it as :
“Five more Cup Finals left to play, still enough points to keep us in the league. It is up to us to get these points to take us over the line.”
He did not conceal his disappointmnt at the result “We played really well in the first half but second half we did not try to play and were not brave enough”
He would have accepted a point saying, “ I think they would have been happy to take a point home with them.”
The game he saw as a reflection of the Cymru North where the whole of the league is so tight apart from the top three. Unlke most of the rest of us Steve is not looking to other results “They will not keep us in this league, only performances and picking up ponts.”
As for lack of homes wins he says “You should enjoy playing at the Traeth, the surface was really magnificent today.”
Ironically he saw many of our home performances as being better than those on the road which have brought points.
The rest of us might welcome a slice of luck for a change but I doubt Steve sees ‘luck’ as a part of his rescue programme!!
02/03/24
Michael Holt: Casgliad / Collectiom


Hoffai swyddogion y clwb ddiolch i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr / tîm rheoli am godi swm anrhydeddus o £418 er cof am Michael Holt yn y gêm prynhawn 'ma.

Club officials would like to thank all the supporters and players / management team on raising an honourable sum of £418 in memory of Michael Holt at today's match against Gresford Athletic FC
02/03/24
Cofio Michael Holt / Remembering Michael Holt


Mae’n anodd rhoi geiriau at ei gilydd mewn sefyllfa fel hyn. ‘Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi eistedd o flaen cyfrifiadur o’r blaen a cheisio trosglwyddo fy meddyliau, fel ar hyn o bryd. Mae defnyddio y gair ’roedd’ yn hytrach na ‘mae’ yn chwithig, yn sicr. Mae edrych yn ôl ar yrfa hogyn ifanc oedd newydd gropian dros yr hanner cant hefyd yn anodd.
Yn sicr, fe fydd y prynhawn Sul diwethaf hwnnw yn aros yn y cof tra byddaf ar y ddaear yma. Wedi setlo o flaen y teledu i wylio ffeinal fawr Cwpan Carabao gyda Lerpwl yn herio Chelsea oeddwn a’r gêm yn ei hanterth a’r meddwl yn troi o gwmpas fel dilledyn yn y peiriant golchi.
Ond, ac mae hwn yn ond MAWR, fe ddaeth llonyddwch go iawn wedi’r glec o dderbyn y neges ar y ffôn fach. Aeth y meddwl yn dywyll a’r llygaid ynghau wrth i mi ddarllen yr ychydig eiriau. Roedd y geiriau yma yn deud cyfrolau. ’Doedd y gêm ddim yn bwysig bellach. Do, fe sgoriodd Van Dijk ond nid dyna pam y cofiaf y prynhawn du yma – y neges honno am Michael Holt sydd wedi ei ysgythru ar y meddwl o hynny ‘mlaen.
‘Roedd nerth Michael yn anhygoel, o ystyried iddo gael ei lethu gan glefyd siwgr am flynyddoedd. ‘Roedd yr hyn oedd o’i flaen yn her a hanner, ond ‘doedd hynny ddim am ei rwystro, yn sicr. ‘Roedd ei ddyfalbarhâd i gwblhau’r sialens yn amlwg. ‘Roedd ei gymhelliant i gasglu arian er budd ei achosion da yn uchel a ‘doedd dim a ddywedai unrhyw un yn mynd i’w rwystro rhag cwblhau y dasg.
Bu ei baratoi yn drwyadl i’r eithaf, a hynny dros gyfnod hir iawn, o ymarfer ar y môr, yn y gampfa, ac mewn ystafell yn y ty. Ni welais unrhyw un gyda’r ffocws pendant yma o’r blaen. ‘Doedd dim troi’n ôl. Uchelgais bywyd iddo, er mwyn talu ‘nôl am y cymorth gafodd gyda’r afiechyd creulon yma.
Roedd ei gariad at Glwb Pêl-droed Porthmadog yn eithafol. Byddai’n cefnogi ar hyd y glannau a phellach. ‘Doedd Michael ddim am golli gemau, er ei fod yn byw bellach ymhell o’r Traeth. Cwblhawyd teithiau i’r Iwerddon ganddo er mwyn codi arian i’r Clwb. Cododd £1916 wrth rwyfo o Port i Wiclow yn yr Iwerddon llynedd. ‘Doedd dim stop arno. Hogyn llawn calon.
Mae’n anodd amgyffred yr hyn ddigwyddodd ar ei daith olaf. ‘Dwi ddim eisiau meddwl am hynny, ond byddaf yn cofio am Michael am amser hir. Gobeithio bydd nifer yn codi gwydryn iddo ar y Traeth wrth ddathlu bywyd a ddaeth i ben mor annisgwyl, allan ar y môr mawr.
Bydd colled enfawr ar dy ôl yn sicr gyfaill. Lejand Port. Cwsg yn dawel, Michael.


It's hard to put words together in a situation like this. I don't think I've sat in front of a computer before and tried to put down what is in my mind right now. Using the word 'was' rather than 'is,' is certainly difficult. Looking back at the life of this young man who had only just crawled over fifty, is also surreal.
That last Sunday afternoon will certainly remain in the memory while I am on this earth. Settled in front of the TV to watch the Carabao Cup final, with Liverpool taking on Chelsea and the mind was swimming around like a garment in the washing machine.
But and this is a BIG, ‘but’ a real stillness came after the click of a message reaching the mobile phone. My mind went blank, and my eyes closed as I read the few words. These words were difficult to take in. The game didn't matter anymore. Yes, Van Dijk scored but that's not why I will remember that afternoon – it's that message about Michael Holt that will be etched in the mind from now on.
Michael's strength was incredible, knowing he had suffered with diabetes for years but, the challenge ahead of him was certainly not going to overwhelm him. His determination to complete the trip was evident. His motivation for collecting money towards his special causes was high and he wouldn’t listen to anyone suggesting he would fail in his challenge. His preparation had been rigorous to the fullest over a very long period. He had practised at sea, in the gym and in a room at his home. I haven't seen anyone with this so much focus before a challenge. There was no turning back. A lifetime’s ambition to pay back for the help he received with his cruel disease. In one word, he was indestructible!
His love for Porthmadog Football Club was extreme. He would show his support all over the country. He didn't want to miss games even though he now lived quite a distance from the Traeth.
A rowing trip to Ireland was completed by him in order to raise money for the Club. He raised £1,916 by rowing from Porthmadog to Wicklow in Ireland last year. There was no stopping him.
It's hard to grasp what happened on his last trip. I don't want to think about that, but I will remember Michael for a long time. I hope many will raise a glass to him at the Traeth, while celebrating his life, after it ended so unexpectedly out at sea.
You will certainly be sorely missed my friend. Port Legend. Rest in Peace, Michael.

Dylan Elis: Teyrnged Bersonol / A Personal Tribute
01/03/24
OLIVER FAREBROTHER: Chwaraewr y Mis / Player of the Month


Llongyfarchiadau i’r golwr Ollie Farebrother a enwyd yn Chwaraewr Mis Chwefror y cefnogwyr.
Ymunodd Ollie o glwb Y Waun yn ystod ffenest drosglwyddo mis Ionawr gan helpu gryfhau yr amddiffyn ar gyfer y frwydr i oroesi. Gwelwyd nifer o berfformiadau llawn cadernid ganddo gan adeiladu dealltwriaeth yn syth gyda’i gyd amddiffynwyr.
Chwaraeodd rhan allweddol wrth i Port ennill y 3 phwynt yn Llanidloes, yn arbed cic o’r smotyn a gwneud nifer o arbediadau arbennig mewn diweddglo llawn tensiwn.
Ardderchog Ollie!!

Congratulations to keeper Ollie Farebrother who has been voted supporters player of the month for February.
Ollie, who joined Port from Chirk AAA in the January transfer window, has helped solidify the defence in the battle for survival. He has put in some sterling performances, building an immediate understanding with his fellow defenders.
Played a key role in securing 3pts at Llanidloes, saving a penalty and making some vital saves in the closing stahges of a tense finish.
Well done Ollie!!
Noddir gan / Sponsored by: TELEDUPORTTV
27/02/24
CASGLIAD / COLLECTION: Sadwrn / Saturday


Bydd yna gasgliad yn cael ei wneud er cof am Michael Holt yn y gêm rhwng Port a Gresffordd ar Y Traeth pnawn Sadwrn.

Sylwer hefyd fod yna gasgliad yn cael ei drefnu ar GOFUND ME.COM gan Barry Hayes i ddod â Michael yn ôl.
I gyfrannu ewch i https://gofund.me/d7308f8a


There will be a collection in memory of Michael Holt at Saturday’s game at the Traeth between Port and Gresford.

A fund has also been opened by Barry Hayes to bring Michael home. This is on GOFUND ME.COM
To contribute go to https://gofund.me/d7308f8a
29/02/24
GRESFFORDD: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2pm.

Noddwr / Sponsor: GARY FALCONER ELECTRICALS

. Pnawn Sadwrn bydd Port yn croesawu Gresffordd i’r Traeth gyda’r gic gynta am 2 o’r gloch. Gyda’r cyfri i lawr at ddiwedd y tymor bellach ymlaen mae 6 gêm yn weddill i Port ac 18 pwynt yn dal ar gael.
Yn ei gêm ddiwetha’ cyfartal oedd Gresffordd gyda Chaersws ac o’u 6 gêm ddiwetha’ maent wedi ennill 2 ac un yn gyfartal.
Yn y gêm gyfatebol ar Y Graig, sicrhaodd Port fuddugoliaeth hwyr, 3-2, diolch i ddwy gic o’r smotyn gan Shaun Cavanagh a gôl gan Ifan Emlyn yn yr amser ychwanegol. Er, ddim yn hollol rhydd o ofnau disgyn, mae’r clwb o ardal Wrecsam yng nghanol y tabl gyda 5 pwynt a dwy gêm mewn llaw dros Port. Ond gyda gymaint o’r gemau bellach yn rhai 6 phwynt gall pethau newid yn sydyn.
Sadwrn arall o frathu ewynedd yn y Cymru North. Bydd pob un o’r 16 clwb yn chwarae pnawn Sadwrn. Hyn yn cynnwys y ddau glwb sydd yn syth uwch eu pennau, gyda Caersws adra’ i’r Fflint a Prestatyn yn Treffynnon.
Mae buddugoliaethau gefn wrth gefn wedi rhoi gobaith i Port ond ni fydd amser i ymlacio gyda’r pwysau ymlaen tan y diwedd.
C’mon Port!!

On Saturday Port will welcome Gresford Athletic to the Traeth for a 2pm kick off. The countdown is now very much on and Port now have 6 games left -still 18 points to play for.
Last time out Gresford drew 1-1 with Caersws and they have won 2 and drawn one of their last 6 matches.
In the corresponding fixture at the Rock, Port gained a narrow 3-2 win thanks to two spot kicks by Shaun Cavanagh and a late, late winner from Ifan Emlyn. The Wrexham area club, though not entirely free of relegation worries, do hold a mid-table spot with 5 points advantage and 2 games in hand over Port. But things can change quickly with so many 6 pointers being played at this stage of the season.
It will again be a nerve wracking Saturday in the Cymru North. All 16 clubs will be in action this Saturday. These include the two clubs immediately above Port in the table, with Caersws at home to Flint and Prestatyn at Holywell.
Back to back wins have given Port a chance of survival but no time to relax as the pressure will be on to the very end.
C’mon Port!!
Lluniau /Photos: Rhys Alun: gôl bwysig / back on the scoresheet
Caio Evans: amseru ei gôl gynta’ yn berffaith / a well-timed first goal
27/02/24
Neges wrth David Holt / A message from David Holt


We have been working tirelessly to get help to Michael over the past four days but have found it incredibly difficult to do so. Last night the fishing vessel Noruego accepted a tasking from Cape Verde Joint Rescue Coordination Centre and made directly for Michael's coordinates.
Very sadly, upon arrival, Michael was found dead inside his cabin.
Of course this was not the ultimate conclusion we were looking for, but I am somewhat comforted knowing he died doing something he absolutely wanted to do with a passion and managed to row in excess of 700 miles in the process. An achievement in itself.
This is a huge shock to myself, his wife Lynne & daughter Scarlett and my parents, not to mention wider family and friends. Many thanks for the kind words & wishes that you have already sent us during the past few days. They mean a great deal to all the family.
Regards David.
27/02/24
Michael Holt: Cwsg yn Dawel / Rest in Peace


Mae’r clwb a’r dref yn drist iawn i glywed am farwolaeth Michael Holt tra yn rhwyfo ar ei ben ei hun ar draws Yr Iwerydd o Gran Canaria i Barbados yn ei gwch MYNADD. Bwriad Michael oedd codi arian at achos Mind a Gwasanaethau Gwirfoddol Lerpwl. Roedd o ei hun wedi dioddef o Diabetes Teip1 a tua 700 milltir i fewn i’r daith dioddefodd salwch ac yn anffodus iawn fe’i darganfuwyd yn farw yn caban ei gwch gan griw cwch pysgota a aeth i’w gynorthwyo.
Mae’r clwb yn ddyledus i Michael am y swm sylweddol a godwyd ganddo tuag at bêl-droed yn yr ardal tra ar daith noddedig o Borthmadog i Wiclo.
Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf a theulu a ffrindiau Michael.

The town and the club were deeply saddened to hear of the death of Michael Holt whilst on his single handed charity row across the Atlantic Ocean from Gran Canaria to Barbados in his boat MYNADD. He was raising money in aid of the charity Mind and Liverpool Charity and Voluntary Services. Suffering from type 1 Diabetes Michael fell ill some 700 miles into his journey. Unfortunately he was found dead in his cabin by the crew of a fishing vessel which went to his aid.
The club is indebted to Michael for the substantial sum which he raised for football in the area whilst on a sponsored row from Porthmadog to Wicklow.
We extend our sincere and deepest sympathy to Michael’s family and friends.
CANLYNIAD / RESULT: PORT 0-6 YSN / TNS

22/02/24
AIL-Dîm / Reserves: Sadwrn / Saturday 1.00pm: Traeth: v TNS (Res)


CANLYNIAD / RESULT: PORT 0-6 YSN / TNS

Bydd yr AIL-Dîm yn chwarae Ail Dîm YSN, y clwb ar ben yr adran.
Pnawn Sadwrn nesa 24 / 02 / 24.
Os nad ydych yn teithio i Llanidloes dyma’r gêm ichi.
Cefnogwch yr hogia’ ifanc
Sylwer cic gynta’ 1.00pm.

The Rezzies take on TNS Res the top side in the division.
Next Saturday 24/12/24
If you are not travelling to Llanidloes this the game or you.
Support the young lads!!
Note the kick off time 1.00 pm.
21/02/24
LLANIDLOES TOWN: Sadwrn / Saturday: Parc Victoria: 2pm SY18 6AS


Jake Jones - CPD Porthmadog Teithio eto fydd Port pnawn Sadwrn i chwarae gêm anferth arall a hynny ar Barc Victoria Llanidloes gyda’r frwydr am ddiogelwch yn parhau.
Cyfarfu’r ddau 3 wythnos yn ôl pan gafwyd perfformiad cadarn gan y clwb o’r canolbarth a welodd hwy yn gadael y Traeth gyda’r 3 phwynt diolch i gôl hwyr Connor Bird. Roedd yn enghraiff arall o methiant Port i gymryd eu cyfleoedd a’u bod wedi dibynnu gymaint ar Danny Blockwell i sgorio goliau. Ond daeth tro ar fyd y Sadwrn diwetha ar Barc Latham ac, er iddi fod yn esiampl arall o Danny Brockwell yn canfod y rhwyd, cawn obeithio am berffomriad arall llawn cymeriad a phenderfyniad fydd yn arwydd o newid go iawn i’r clwb.
Roedd buddugoliaeth Y Daffs ar y Traeth yn lechen lân brin ac ond yr ail fuddugoliaeth iddynt sicrhau y tymor hwn. Wythnos diwetha’ colli oedd eu hanes o 5-1 adra i’r Wyddgrug.
Pnawn Sadwrn bydd angen perfformiad arall gyda’r un ysbryd a phenderfyniad a sicrhaodd y fuddugoliaeth y Sadwrn diwetha’. Wrth inni fynd at y 7 gêm sy’n weddil,l a felly 21 pwynt yn dal ar gael, bydd un lygad eto ar rhai o’r gemau eraill perthnasol.
Amdani. Cefnogwch yr hogia’
C’mon Port!!l

Gethin Thomas - CPD Porthmadog On the road again for Port on Saturday when they travel to Llanidloes for another huge one in the battle for safety.
The two clubs last met just 3 weeks ago when a fighting performance by the mid-Wales club saw them depart the Traeth with all three points thanks to a late winner by Connor Bird. That was another case of Port failing to convert their chances as they have depended to such an extent on Danny Brookwell for their goals. But the break through came last Saturday at Latham Park and, though it was another case of Danny Brookwell providing the goals, let’s hope that this show of character and determination will mark a real turning point in the club’s fortunes.
Last time out The Daffs suffered a 5-1 home defeat to Mold Alex but the win at the Traeth provided a rare clean sheet and only their 2nd league win of the season.
Saturday, it will be a case of going for it with the same spirit and determination which provded last Saturday’s win and, at the same time, eyeing other games as we enter the last 7 games with 21 points still to play for.
Go for it!! Support the lads!!
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Jake Jones & Gethin Thomas: dau o’r chwaraewyr newydd sydd wedi creu argraff. / two of the new signings who are making an impact.
19/02/24
DANNY BROOKWELL: JD CYMRU LEAGUES : TÎM YR WYTHNOS / TEAM of the WEEK


Llongyfarchiadau i Danny Brookwell a enwyd yn Tîm yr Wythnos y JD Cymru Leagues yn dilyn perfformiad arbennig ar Barc Latham yn erbyn Caersws y Sadwrn diwetha’. Perfformiad a oedd yn allwedol wrth helpu Port sicrhau y fuddugoliaeth.

GK - Alex Swindell (Y Wyddgrug / Mold Alexandra) DF - Taylor Jones (Cambrian & Clydach Vale) DF - Tom Kemp (Prestatyn Town) DF - Nic Arnold (Rhydaman / Ammanford) DF - Ellis Williams (Rhydaman / Ammanford) MF - Tyler Aylward (Pontardawe Town) MF - Kurtis Rees (Llanelli Town) MF - Ethan Davies (Ruthun) FW - Danny Brookwell (Porthmadog) FW - Jordan Edwards (Goytre United) FW - Alex Bonthron (Cwmbran Celtic) Manager - Gruff Harrison (Rhydaman / Ammanford)

Congratulations to Danny Brookwell named in the JD Cymru Leagues Team of the Week. This follows his match winning performance for Port at Latham Park last Saturday against Caersws.
19/02/24
TELEDU PORTTV: Yn holi / Talks to: STEVE WILLIAMS


“Hwyrach na’i gysgu heno” oedd ymateb Steve Williams i gwestiwn Dylan Elis yn syth ar ôl y fuddgoliaeth gynghrair hir ddisgwyliedig dros Caersws pnawn Sadwrn.
Roedd yn hapus i estyn y clod i gyd i’r chwaraewyr, “Hogia wedi gwneud yn rili da heddiw ‘ma. Dwi ‘di bod fel record wedi sticio (yn dweud) ‘ma hyn yn dod.Dyna’r bilif sy’ gan yr hogia’ ar ôl wythnos dwitha a mor dorcalonnus oedd hi”
“Dwi mor falch drostyn nhw. Ma nhw’n gweithio mor galed yn y training ac ar y cae ond heb cael y rewards -TAN HEDDIW.
Wrth edrych ymlaen meddai Steve “Saith gêm anferth ar ôl.
“Rhaid gwneud yn siwr bod ni’n paratoi at y nesa’, dim sbio at beth sy’n dod wedyn. Cymryd nhw un ar ôl y llall.”
A dyna mae pob cefnogwr yn dymuno, gan ddechrau yn Llanidloes y Sadwrn nesa.

“Perhaps I might sleep tonight” was a smiling Steve Williams’ comment, to Dylan Eis immediately following last Saturday’s nail biting finish at Latham Park.
He was happy to heap all the praise on his players whom he said had worked so hard in training and on the pitch. Though he must have sounded like that stuck record, he had kept saying that this was coming.
“I am so pleased for the players. They’ve worked so hard without getting the rewards -until today.
Looking ahead to the rest of the season he pointed to the seven huge games which remain.
“We must make sure we prepare well for the next game and not look towards what is coming after that”
Yes it’s time for the old adage ‘one game a t a time.’
That is the sentiment echoed by all suppoerters -starting at Llanidloes next Saturday.
17/02/24
O’r Diwedd -BUDDUGOLIAETH!! / At last -A WIN!!!


Caersws 1-2 Port
Dyna ichi ganlyniad i gynhesu eich calon gan ddod a rhediad o golli 9 gêm gynghrair yn olynol i ben.
Diweddariad Dylan Rees o Barc Latham oedd,: “Canlyniad a perfformiad gwych gan yr hogia, a buddugoliaeth gynta ers mis Hydref. Ymlaen i Llanidloes!! Dwy gôl wych gan Brookwell ac Ollie yn y gol yn arbennig.”
Ia dwy gôl gan Danny Brookwell i fynd a’i gyfanswm am y tymor i 11. Gyda’r cyfan sydd wedi mynd ymlaen mae Danny wedi rhwydo 6 gôl mewn yn y 7 gem ddiwetha’. Tipyn o record.
Diolch Danny a gwych hogia’.
Pleser i Treflyn heno yn disgrifio buddugoliaeth. Darllenwch yr adroddiad yn disgrifio'r frwydr gyffrous.https://www.porthmadogfc.com/adroddiad.htm#caerswsa



Caersws 1-2 Port
It’s a result which comes as music to our ears, bringing to an end a run of 9 straight league defeats.
Dylan Rees updates from Latham Park: “Fantastic result and performance from the lads. 2 great goals from Brookwell, Ollie outstanding in goal and all round team performance.”
Yes two goals from Danny Brookwell taking his season’s tally into double figures with 11 goals. With all tha thas been going on around him Danny has netted 6 times in the last 7 games.
Thanks Danny and well done lads!!
Quite a change for Treflyn tonight, describimg a victory! Read all about the exciting victory.https://www.porthmadogfc.com/adroddiad.htm#caerswsa


17/02/24
Noson dda ar Y Traeth / Successful Evening at the Traeth

Profodd y noson Holi ac Ateb ddwyieithog yng Nglwb y Traeth yn ymarferiad gwerthchweil. Mae’r Bwrdd yn haeddu ein diolch am drefnu’r noson a’r tîm rheoli am eu atebion gonest.
CPD Porthmadog Roedd yna nfer dda o gefnogwyr yn bresennol ac roedd yr ymateb positif yn sail i drafodaeth amrywiol ac eang o bynciau perthnasol. Mynegwyd consyrn gan Steve Williams a Haydn Jones, gyda’r clwb yn symud i ymarfer ddwy waith yr wythnos, am y diffyg cyfleusterau yn ardal Port gan fod hyn yn allweddol wrth edrych at y dyfodol. Dywedodd Haydn Jones for cae 3G maint llawn yn anghenrheidiol.
Wrth ymateb i gwestiynnau am the ffenest drosglwyddo disgrifiodd Steve yr un mis Ionawr yn un arbennig o anodd gyda ar gaeledd chwaraewyr, gofynion cyflog a sefyllfa daearyddol Port i gyd yn ychwanegu at y broblem. Dywedodd fod pob ymdrech wedi’i wneud u arwyddo Rhif 9 ac er fod sawl ymgais wedi dod yn agos, yn y diwedd ni ddaeth pethau i fwcwl.
Bu trafod am weledigaeth o greu a datblygu clwb cymunedol gyda’r Ail-dîm yn rhan bwysig. Pwysleiswyd yr angen i’r tîm gael rhestr gemau fwy rheolaidd. Pwysleiswyd hefyd cynnwys, o dan ymbarel y clwb, yr adran merched brysur a llwyddianus sydd yn chwarae eu gemau adra’ yn Harlech oherwydd y diffyg cae 3G yn ardal Port. O dan yr ymbarel hefyd y Porthmadog Juniors -adran brysul arall.
Soniwyd am ddatblygiadau oddi ar y cae gan yr is-gadeirydd Craig Hacking a rhaid dweud fod rhain yna i pawb eu gweld.
Diolch i bawb am eu presenoldeb ac am y cyfraniadau. Dyna’r oll sydd angen rwan ydy pwyntiau yn y bag.!!!

The Ouestion and Answer session at the Traeth Clubhouse proved a valuable exercise for the club. The Board deserve thanks and praise for organising the event and the management team for their honest responses.
There was a good turn out of supporters whose positive approach to the meeting led to a wide ranging number of related subjects being discussed. Concern was expressed by both Steve Williams and Haydn Jones at the lack of training facilities in the Porthmadog area and with the club already moving to training on two nights a week this was key looking towards the future. Haydn Jones stated that a full size 3G pitch was required.
Responding to questions on the Transfer Window, Steve described the January wndow as a particularly difficult one with availabity, money demands and geographical reasons all adding to the problem. Highlighting one problem he said that every effort was made to add a No 9 and though several attempts came very close, ultimately it proved fruitless.
A vision for the future as a community club was set out. The Reserves werea vital part of their one club vision and they clearly require a more regular fixture list. It should also include umbrella coverage of the thriving girls section and also the Porthmadog Junior set-up. It was pointed out that the Girls had to play home games in Harlech further emphasising the need for 3G facilities locally.
Club vice-chairman Craig Hacking outlined the off the pitch developments and this, it must be said, is clear for all to see.
Thanks to all present and all who contributed. All we need now is a few points in the bag!!
16/02/24
**NEWID LLEOLIAD / CHANGE of VENUE**

CAERSWS v PORT: PARC LATHAM PARK Y Drenewydd / Newtown SY16 1EN

Mae'r gêm gynghrair rhwng Caersws a Porthmadog yfory wedi cael ei symud i PARC LATHAM, Clwb Pêl-Droed Y DRENEWYDD oherwydd problemau â'r cae yng Nghaersws yn dilyn y tywydd gwlyb diweddar.
Dechrau am 2yp!!

Tomorrow's JD Cymru North league match between Caersws and Porthmadog has been moved to LATHAM PARK, NEWTOWN Football Club, due to ongoing problems with the pitch at Caersws, following recent heavy rain.
K.O.2pm!!
Parc Latham Park, SY16 1EN
15/02/24
NOSON o HOLI ac ATEB / QUESTION & ANSWER EVENING

CPD Porthmadog Mae NOSON o HOLI ac ATEB gyda'r Bwrdd a'r Rheolwr wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener yma, Chwefror 16eg am 7.30yh yng Nghlwb Pêl-Droed Porthmadog.
Croeso i bawb!!

A QUESTION & ANSWER EVENING with the Board and Manager has been organised for this Friday evening 16th February at 7.30pm at Porthmadog Football Club.
All welcome!!
15/02/24
CAERSWS: Sadwrn / Saturday: PARC LATHAM PARK, Y Drenewydd / Newtown 2pm SY16 1EN

Bydd Port yn chwarae Caersws pnawn Sadwrn gan wneud ymgais arall i dorri ar rhediad o ganlyniadau sydd wedi arwain at yr argyfwng.
Y Sadwrn diwetha’ cafwyd newid tactegau, gan chwarae’n fwy uniongyrchol, a hyn yn gweithio. Hyd at 80 munud roedd Port yn edrych i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol. Wedyn, o flaen ein llygaid aeth y cyfan yn llanast. Bellach 8 gêm sy’n weddill ond 24 pwynt yn dal ar gael. Amser am weddi dawel a bysedd wedi’i croesi gan edrych dros yr ysgwydd am ganlyniadau eraill.
Mae Caersws wedi cael tymor da yn ôl yn y Cymru North ac, er iddynt golli y tair gêm ddiwetha’ mae mantais o 8 pwynt ganddynt dros Port. Maent wedi elwa ar brofiad chwaraewyr fel Craig Williams a Neil Mitchell i wneud y naid o’r Ardal NE.
Gall chwaraewyr profiadol Port hefyd chwarae rhan bwysig dros yr wythnosau nesa’: Josh Banks -er wedi’i wahardd am y nesa’-ac Iddon Price yn y cefn gyda Gareth Jones Evans yn gyrru o ganol y cae --grêt i’w weld yn ôl- tra yn y blaen mae gan Danny Brookwell yn dod a digonedd o sgil a phenderfyniad. Gobeithio fydd Rob Jones -un arall profiadol- yn ôl a hefyd yr ifanc/profiadol Telor Williams.
Ond un ffordd i fynd rwan CEFNOGWCH yr HOGIA’.
C’mon Port!!

Port will play Caersws on Saturday making a further attempt to break the seqence of results which has blighted the club over recent months.
Gethin Thomas - CPD Porthmadog Last Saturday, a change of tactics, with a more direct approach, seemed to have worked a treat and even with the 80 minute mark having come and gone, Port looked set for a deserved win. Then before our eyes all went haywire. Now 8 games remain but 24 points still to play for. It’s hope and pray time now with an eye over the shoulder for the other results.
Caersws have had a good season back in the Cymru North and though slipping to 3 straight defeats recently, a gap of 8 points remains between them and Port. They have relied on the experience of players like Neil Mitchell and Craig Williams to assist that leap up from the Ardal NE.
Experienced players can also play a part in Port’s relegation struggle: Josh Banks-though missimg Saturday through suspension- and Iddon Price at the back with Gareth Jones Evans -great to see him back- driving from midfield, while up front Danny Brookwell brings a wealth of skill and determination. Another experienced performer Rob Jones will hopefully be back on Saturday together with the young experienced Telor Williams.
Only one way to go now-SUPPORT the LADS!!!!
C’mon Port!!!
LLUNIAU/PHOTOS: Gareth Jones Evans: croeso 'nol /welcome back.
Gethin Thomas: sgoriwr Sadwrn ar Y Traeth / scorer last Saturday
12/02/24
TELEDU PORTTV: Yn holi / Talks to: STEVE WILLIAMS

Diweddglo digalon pnawn Sadwrn ar ôl edrych ar y fin sicrhau buddugoliaeth ond, ar waetha hyn, allan daeth Steve Williams i ymateb i gwestiynnui Dylan Elis.
Beth aeth o’i le? Mae Steve yn cynnig tri peth, “Mae o gyd am rheoli’r gêm yn yr ail hanner.
Wedyn gan ganmol Llandudno, “Ma’ nhw’n dîm ffit, ifanc, willing. Ma’ nhw wedi dangos hynny y season yma lle ma’ nhw wedi dod yn ôl, ma honno y 4ydd, 5ed gêm ma nhw wedi curo yn y 10 munud ola, neu ar ôl 90 munud.
Yn drydydd, “Mae’n benalti i Danny pan mae’n 2-0 i ni. Mae’n reit o’n blaenau ni, ti’n clywed y glec heb y bêl. Os ydy hi’n mynd yn 3-0 fyny mae hi’n fynydd iddyn nhw gleimio.
Ychwanodd pe byddai wedi dod yn gyfartal, “Ti’n cymryd y pwynt ac yn bildio ar y pwynt yna. I gonsidio dau yn injury time ar ôl y shifft mae’r hogia di roi fewn heddiw, mae o’n un anodd i gymryd.
Edrychodd ymlaen at weddill y tymor, “Wyth gêm ar ôl a mae (pob un) o rheini yn medru rhoi 3 phywnt iti.
“Mae’n gêm newydd yn Caersws. Cathon ni gêm dda, gystadleuol yn erbyn nhw ar Y Traeth.
Am anafiadau a gohiriadau meddai “Rhain yn rhan o ffwtbol. Bydd Tel yn ôl yr wyrhnos nesa a gobeithio fydd Rob yn ôl’
Cloiodd Steve drwy ddymuno, “Siwrnai well adra wsnos nesa gobeithio.”

Though the depressing run continued on Saturday, with a defeat snatched from the jaws of victory, Steve Williams stepped up again to respond to a Dylan Elis’s questioning.
Asked what went wrong he highlights three matters “It was all about game management in the second half” he says. Secondly he praises Llandudno “They are a fit team, young ,willing who have proved that this season coming back 4 or 5 times to win in the last 10 minutes or after the 90 minutes.
Thirdly he is convinced that it was a penalty for the foul on Danny. He says “It happened right in front os us and we heard the sound of the tackle. If it had gone 3-0 it would have been a mountain to climb.
He adds saying even if it ended as a draw, You take a point and then move on but, considering that two goals come in injury time after such a shift put in by the lads, it is hard to take.
Looking ahead he says, “Eight games left, each one able to give 3pts. A new game against Caersws. a difficult place to go. We had a good, competitive game against them at the Traeth.
On injuries and suspensions he says they are part of the game “Tel will be back next week and hopefully Rob as well.”
He summed the feelings of all hoping for a better homeward journey next week.
12/02/24
Rhaglen y clwb yn cael Adolygiad / Match Programme reviewed

CPD Porthmadog Yn y rhifyn diweddara’ o’r WELSH FOOTBALL MAGAZINE mae eu erthygl ‘Programme Notes’yn cynnwys adolygiad o rhageln CPD Porthmadog ( Golygydd Rhydian Morgan). Isod gweler y sylwadau a gwnaed gan David Collins:

“..... reliable issuers CPD PORTHMADOG are managing to produce a 40-page programme priced at £2.00. A nice aerial shot of the Traeth adorns the cover, with the internal content mostly bi-lingual and including stats, news, match information and a little bit of history in a section highlighting the same week in random past seasons going back over half a century.”

The latest edition of the WALES FOOTBALL MAGAZINE in their Pogramme notes section, contains a review of the CPD Porthmadog match programme (edted by Rhydian Morgan). Above are the observations made by David Collins.
08/02/24
LLANDUDNO: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2.00pm

Noddwr y Gém / Match Sponsor: BELYN FINANCIAL SERVICES
Penwyrhnos eto, a gém holl bwysig arall yn y frwydr ar ben isa’r tabl. Llandudno bydd yn ymweld á’r Traeth, gyda’r gic gynta’ am 2 o’r gloch. Mae’r gemau sy’n weddill bellach i lawr i 9 a gyda’r bwlch rhyngom a’r cyd frwydwyr yn agor yn dilyn buddugoliaethau i Llandudno a Bwcle a pwynt gwerthfawr i Prestatyn y penwythnos diwetha’.
Daw Llandudno i’r Traeth ar gefn buddugoliaeth 6-1 swmpus dros Llanidloes gyda Alex Boss, a chwaraeodd i Port y tymor diwetha’, yn rhwydo hatric mewn 12 munud yn dilyn dod i’r cae fel eilydd. Mae Jordan Haddaway, y rheolwr ieuengaf y gynghrair wedi gwneud gwaith arbennig yn adfywio Llandudno yn dilyn y creisis yn yr haf. Bellach yn ól yn Maesdu, byddant yn barod am gém 6 phwynt pnawn Sadwrn.
I Port ychydig o lwc dda am newid yw’r gobaith, gyda 3 phwynt yn cymryd lle’r colledion un gól. Y sialens fydd troi cyfleoedd yn goliau i ddod a’r rhediad trychinebus hwn i ben.
Cadwch y ffydd a cefnogwch yr hogia’.
C’mon Port!!

Another weekend, another vital fixture in the battle at the wrong end of the table. Llandudno will be the visitors to the Traeth for a 2.00pm kick off. The remaining fixtures now down to 9 with the gap to fellow strugglers widening following wins last weekend for Buckley and Llandudno and a valuable point for Prestatyn.
Llandudno come to the Traeth on the back of a thumping 6-1 victory over Llanidloes with Alex Boss, who played for Port last season, netting a 12 minute hat-trick after coming on as a sub. Jordan Haddaway, the youngest manager in the league, has led a remarkable revival following a summer crisis. Now back at their Maesdu home they will do battle in a 6 pointer on Saturday.
For Port a change of fortune would be welcome, with 3 pts replacing narrow defeats now essentail. Turning opportunities into goals is the challenge to bring an end to this disastrous run which plunged us into the bottom three.
Keep the faith and support the lads.
C’mon Port!!
Llun / Photo: Nathan Williams: sgoriwr yn Dinbych / Scored at Denbigh
06/01/24
Golau LED ar y Traeth / LED lighting at the Traeth

Yn ei golofn yn y Rhaglen mae ysgrifennydd y clwb, Chris Blanchard, yn sgwennu fod datblygiad pellach i’r cyfleusterau ar Y Traeth, Yn dilyn profion cywasgu ar beilonau’r llif oleuadau presennol, dros yr wythnosau nesa,’bydd llifoleuadau LED yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn sicrhau gwell golau a bydd hefyd yn rhatach i’w ddefnyddio. Bydd y gwaith yma yn cymryd lle ar y prif gae a hefyd y maes ymarfer.

Club Secretary Chris Blanchard, in his regular Match Programme Column, reports further off the pitch progress at the Traeth. Following the stress testing of the floodlighting pylons we can expect to see, during the next few weeks, the installation of LED floodlights. This will provide improved lighting which will also be cheaper to use. The new lighting will be introduced to both the main pitch and the training ground.
03/01/24
DANNY BROOKWELL: Chwaraewr Mis Ionawr / January Player of the Month

Mewn mis siomedig iawn i Port mae perfformiadau Danny Brookwell yn sefyll allan. Mae’r chwaraewr chwim creadigol wedi bod yn fygythiad i bob amddiffyn. Mewn mis lle mae goliau wedi bod yn brin iawn Danny ydy’r mwyaf tebygol i ganfod y rhwyd,. Yn ystod y mis sgoriodd mewn tair gêm yn olynnol. Llongyfarchiadau Danny yn sicrhau pleidlais y cefnogwyr yn Chwaraewr Mis Ionawr.

In a very disappointing month for Port Danny Brookwell’s performances have stood out. The pacy, skilful forward has posed a threat to every defence. In a month where goals have been decidedly thin on the ground he has always looked the most likely to find the net. During the month he netted in three consecutive matches. Congratulations Danny on being voted the supporters Player of the Month for January.
Noddwyd y Wobr gan / Award ponsored by: Teledu PortTV
. 03/01/24
AIL-DÎM / RESERVES: Y TRAETH: HEDDIW / TODAY (03/02) 2.00pm

CPD Porthmadog I gwblhau penwythnos siomedig i CPD Porthmadog collodd yr Ail-dîm 1-3 i‘r ymwelwyr o'r Rhuthun. Adeiladwyd mantais o 3 gôl gyda Tom Griffiths yn sgorio gôl gynnar â Gruff Hughes-Owen a Caelan Harms yn rhwydo yn yr ail hanner. Sgoriodd Deio Hughes gôl hwyr i Port.

The Reserves completed a disappointing weekend for CPD Porthmadog going down 1-3 to the visitors from Rhuthin. The visitors built a 3 goal lead with Tom Griffiths scoring and early goal followed by Gruff Hughes-Owen and Caelan Harms netting in the second half. Deio Hughes netted a late goal for Port.

HEDDIW (Pnawn Sadwrn) bydd yr Ail-Dîm yn croesawu Ail-Dîm RHUTHUN i’r Traeth am gêm yn Y Gynghrair Ail-dîmau Haen 1/2.
Bydd y gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Dewch lawr i gefnogi hogia’ ifanc yr Ail-dîm.

TODAY (Saturday) the Reserves will welcome RUTHIN TOWN RES to the Traeth for Reserve League tier 1/2 fixture.
Kick off will be at 2.00pm.
Come down and give your support to the the young reserves.
31/01/24
TRI yn ARWYDDO / THREE NEW ARRIVALS

Gyda’r ffenest trosglwyddo yn cau mae’r rheolwr Steve Williams yn cyhoeddi tri ychwanegiad pellach i’w garfan cyn y gêm bwysig nos Wener yn erbyn Dinbych.

Croeso Will, Gareth a Charley
Rwy’n hapus i gyhoeddi fod tri arall yn ymuno â’r clwb gan gwblhau’r trosglwyddiadau am y ffenest hon.
Yn gynta’ WILL OWEN-FORD sy’n ymuno o Llanrwst. Rwy’n adnabod Will ac wedi dilyn ei ddatblygiad o gyfnod ifanc yn academi Llandudno. Mae wedi datblygu o fod yn chwaraewr ifanc cyffrous gyda ardaloedd Cymru i chwarae gêm rhyngwladol Dan 18 i Gymru. Llynedd roedd yn rhan o garfan llwyddianus Llandudno yn y Cymru North gan chwarae 8 gêm tîm cynta’. Mae ei arwyddo yn dangos lle ‘da ni am fod fel clwb, yn denu y chwaraewyr ifanc lleol i’r clwb.
Mae GARETH JONES EVANS yn ail ymuno gyda'r garfan yn dilyn cyfnod i ffwrdd o bêl-droed ers ddiwedd y tymor diwetha’. Daw Gaz a digonedd o brofiad, gan gynyddu ein opsiynau o rwan tan ddiwedd y tymor a mae’n grêt i’w weld yn ôl. ‘Da ni wedi ei fethu ar y cae ac yn y ‘stafell newid.
Mae CHARLEY MACMILLAN yn ymuno o College 1975 (Gibraltar). Mae’n flaenwr profiadol sydd wedi chwarae i nifer fawr o glybiau yn ystod ei yrfa gan gynnwys cyfnodau gyda Port Vale ac Ebbsfleet United a hefyd clybiau draw yn Albania, Gibraltar ac Estonia. Hefyd mae wedi ennill dau gap rhyngwladol i’r British Virgin Islands.
Rwy’n edrych ymlaen i groesawu’r tri i’r clwb ac i weithio gyda nhw am weddill y tymor. Bydd y tri yn cryfhau’r garfan ac yn cynyddu ein opsiynau wrth symud ymlaen.
C’mon Port!!


With the transfer widow closing manager Steve Williams has announced three more additions to his squad ahead of Friday’s vital clash at Central Park Denbigh:

Welcome Will, Gareth and Charley.
I’m pleased to announce further signings and that will conclude the transfer activity for this window.
Firstly WILL OWEN-FORD joins us from Llanrwst. I’ve known Will and have been tracking his progress from his junior academy days at Llandudno. He’s progressed from an exciting young Wales regional player into an Wales Under 18’s international. Last year he was part of the successful Llandudno Cymru North squad making 8 first team appearances. He also demonstrates where we want to go as a club, by attracting the best local young talent in to the club.
GARETH JONES EVANS rejoins the squad having taken time away from football since the end of last season. Gaz will add a wealth of experience and also to our playing options from now until the end of the season and it’s great to see him back. He has been missed on the field and wthin our changing room.
CHARLEY MACMILLAN joins us from College 1975 (Gibraltar). Charley who’s an experienced forward, has played for a breadth of clubs throughout his career including spells at Port Vale and Ebbsfleet United. He’s also played for clubs over in Albania, Gibraltar and Estonia. Charley has represented the British Virgin Islands and has two international caps.
I’m looking forward to welcoming the lads and working with them this season, they will strengthen the squad and add to our playing options moving forward.
Cmon Port!!
01/02/24
DINBYCH / DENBIGH: Gwener / Friday Central Park: 8.00pm LL16 3EW

Bydd y frwydr am aros yn y Cymru North yn parhau nos Wener draw ar gae Dinbych gyda’r gic gynta’ am 8 o’r gloch.
Deg gêm gynghrair sy’n weddill a felly 30 pwynt yn dal ar gael ond, os ydy Port yn mynd i gasglu eu rhan o rheini, bydd rhaid torri ar y rhediad ofnadwy sydd wedi dwyn eu hyder. Collwyd y 3 gêm ddiwetha o drwch blewyn un gôl a wir mae’n amser i’r lwc droi .
Gellir dychmygu gemau haws i wneud hyn nag ymweld â Dinbych. Ers i’r ddau glwb gyfarfod ar y Traeth mae Dinbych wedi bod ar rhediad ardderchog ond wedi diodde’ colled drom yn erbyn Y Wyddgrug mewn gêm Gwpan y Sadwrn diwetha’. Gyda Nathan Brown a Mark Worrall yn y blaen mae goliau wedi llifo i Ddinbych tra fod Port ddim yn cael yn hawdd i ganfod cefn y rhwyd.
Fel ddywedodd Treflyn yn ei adroddiad, “Credwch neu beidio roedd yna bethau cadarnhaol yn dod o’r gêm gyda’r chwaraewyr cymharol newydd i gyd yn gwneud yn dda. Da hefyd oedd gweld Josh Banks yn ôl yn y gorlan.”
Yn wir roedd yn dda cael Josh yn ôl, bu bob amser yn allweddol yn y cefn Gobeithio y wnaiff ysbrydoli’r garfan a, gyda tri wyneb arall newydd yn ymuno ddoe, ein gyrru ymlaen i godi pwynt neu well fyth pwyntiau.
C’mon Port!!
The battle for Cymru North safety continues on Friday evening when Port travel to Central Park Denbigh for an 8pm kick off.
10 league games remain and still 30 points available but if Port are to collect a share of those, then they will need to break a run of form which seems to have sapped their confidence. The last 3 games have all been lost by the odd goal and surely the run of bad luck must soon end.
There are easier games than a visit to Denbigh to achieve this. Since the two clubs met at the Traeth Denbigh have gone on an excellent run of form though they did suffer heavily in the Cup-tie with Mold Alex last Saturday. With Nathan Brown and Matthew Worrall up front goals have flowed for Denbigh while Port have struggled to find the net.
But as Treflyn says in his match report of last Saturday, “Believe it or not, there were a few positives to take from the match ... all our relatively ‘new boys’ acquitted themselves well. It was also nice to see Josh Banks back in the fold .”
Indeed, it was good to see Josh back, always a dominant figure at the back and, with three more new faces in the squad, let’s hope he can help provide the drive and inspiration needed for lift off.
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Josh Banks & Rob Jones
29/01/24
Tri yn gadael / Three departures

Mae Steve Williams wedi rhyddhau y datganiad isod yn dilyn ymadawiad tri aelod o’r garfan:

Yn anffodus mae Tom Mahoney wedi penderfynu gadael y clwb a symud i Bangor 1876. Rwy’n siomedig i weld Tom yn mynd gan iddo fod yn ffigwr allweddol yn y garfan ar, ac oddi ar, y cae.
Bydd Stuart Rogers yn gadael carfan y brif dîm i chwilio am fwy o gyfleon i chwarae ond, rwy’n falch i gadarnhau y bydd yn parhau a’i rôl yn hyfforddi gyda’r ail-dîm. Mae’n rhan allweddol o’r hyn da ni’n geisio gyflawnu yma wrth symud yn ein blaenau. Gwnaeth Stu gyfraniad ardderchog yn y cyfnod rwy' wedi bod gyda'r clwb ac roedd yn rhan o’r garfan a sicrhaodd guro’r gêm ail gyfle a chael ni yn ôl yn Haen 2.

Penderfynodd Alex Ward hefyd adael er mwyn chwarae pêl-droed tîm cyntaf. Mae hyn yn siom gan iddo fod yn ardderchog ers dod i’r clwb yn dilyn anaf Matty ynghynt yn y tymor.

Er yn siomedig i weld y tri yn mynd, yn y pendraw ry’m angen chwaraewyr sydd am fod yma er mwyn ein helpu i aros yn y gynghrair.
Carwn ddiolch i’r tri am eu hymdrechion yn ystod y tymor a dymuno’r dda iddynt am weddill y tymor.

Steve Williams has released this statement following the departure of three squad members

Unfortunately, Tom Mahoney has decided to leave the club moving to Bangor 1876. I‘m disappointed seeing Tom go as he’s been a key figure within the squad both on and off the field.
Stuart Rogers will be leaving the first team squad to look for more playing opportunities but I’m glad to confirm that he will continue his role as coach within the reserves set up. He’s an integral part to what we want to achieve moving forward as a club. Stu has been excellent in the time I’ve been with the club and was part of the squad that won the play off to get us back into Tier 2.
Alex Ward has also decided to leave to pursue first team football. This is a shame as he’s been excellent since coming into the club and into the team following Matty’s injury early in the season.
Whilst it’s disappointing seeing the three leave, ultimately, we need players that want to be here and want to help the club stay in the league. I’d like to thank the three for their efforts this season and wish them well for the reminder of the season.
Llun / Photo: Stuart Rogers: yn aros yn ei rôl hyfforddi / will remain in coaching role.
29/01/24
POST-MORTEM ar / on TeleduPortTV

Anodd iawn ydy post mortem yn dilyn unrhyw golled ond, yn dilyn colli gêm bwysig fel yr un yn erbyn Llanidloes, gallwn ond edmygu Steve Williams a’i barodrwydd i wynebu cwestiynau Dylan Elis ar Teledu Port TV pnawn Sadwrn.
“Y canlyniad sy’n anodd i’w gymryd .. da ni wedi bod yn bildio’n dda off y cae” meddai.
Wrth droi at y diffyg goliau “...wedi bod yn bryder drwy’r season dyna pam da ni yn y lle ryda ni rwan, ddim yn rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Dechrau heddiw, dau gyfle rili da, y ddau’n mynd i fewn a mae’n gêm wahanol. Lle da ni yn y gynghrair am bod ni ddim yn sgorio. Da ni’n creu digon wsnos ar ôl wsnos.
Canmolodd Steve Llanidloes “Chwarae teg, yn dod efo gêm plan. Smash and grab victory a dim byd i fychanu yn hynny.
Wrth edrych ymlaen at nos Wener meddai “Pob un gêm yn anferth ... Dinbych, gyda carfan gry’ wedi bod ar run o ganlyniadau da ers inni ei curo. Byddai 3 phwynt yn well ond byddai pigo pwynt yn anferth at ddiwedd y tymor. Rhaid inni wneud ein gwaith cartref, paratoi’n dda ac edrych am well perfformiad na heddiw ‘ma.”

When you lose any match the post mortem is difficult but becomes even more difficult when you go down to fellow relegation battlers. But Steve Williams did not hide and spoke to Dylan Elis, Teledu Port TV, straight after the game.
“It is the result that is difficult, said Steve, we have been building well off the pitch”. Turning to the lack of goals “.. it has been a concern throughout the season and that is why we are where we are, failing to put the ball in the net. At the start today we had two really good chances; the two go in and it is a different game. Our position in the league comes through a lack of goals. Week in week out we create enough chances.
Steve praised Llanidloes, “They came with a game plan. A smash and grab victory and nothing to belittle in that.
Looking ahead to Friday he said “Every game is huge ... Denbigh have been on a great run of results since we beat them. They have a good squad. Three points would be better but picking up a pont could be huge looking towards the end of the season. We have to do our homework and prepare well and hope for a better performance than today.
28/01/24
Steve i gwrdd â’r cefnogwyr / Steve to meet the fans

CPD Porthmadog Er fod Steve Williams yng nghanol brwydr i aros yn y Cymru North nid yw’n bwriadu cuddio, ac mae’n cynllunio at y dyfodol gan drefnu i gyfarfod cefnogwyr er mwyn ei cadw yn y cylch am ei gynlluniau.
Meddai Steve yn ei ‘View from the Bench.’:-
“Byddwn yn edrych i drefnu digwyddiad ‘CWESTIWN ac ATEB / NOSON AGORED’ ar Y Traeth yn ystod yr wythnosau nesa’, lle fyddwn yn croesawu chi ein cefnogwyr ffyddlon i ymuno gyda staff y clwb a gwirfoddolwyr i drafod datblygiadau a rhannu ein cynlluniau am lle y dymunwn fynd â’r clwb yn ogystal a’r weledigaeth sydd gennym at y dyfodol.”
Cewch fanylion y trefniadau unwaith y byddwn ar gael.

Though Steve Williams finds himself in a battle for survival he does not intend to hide away and is planning for the future and will arrange to meet fans to keep them on board.
Steve said in his ‘View from the Bench:-
“We will be looking at arranging a ‘QUESTION and ANSWER / OPEN EVENING’ event at Y Traeth in the next few weeks, where we would welcome you our loyal fans to join club staff and volunteers to discuss progress and share our plans of where we want to take the club, as well as our vision for the future.”
We will pass on futher details once they are available.
25/01/24
LLANIDLOES TOWN: Sadwrn / Saturday: Y Traeth 2pm

Noddwr y Gêm / Match Sponsor: HARLECH TOYOTA

Llanidloes bydd yn ymweld â’r Traeth pnawn Sadwrn. Disgrifiodd Steve Williams y gêm hon a phob un tan ddiwedd y tymor yn gemau ‘huge’ .
Bydd hon yn gêm rhwng dau glwb sydd yn y 3 isa’ ac yn brwydro i gadw eu lle yn y Cymru North. Mae Port ar rhediad siomedig iawn yn colli chwe gêm yn olynol gan syrthio i drafferthion. Ers cychwyn y tymor mae Llanidloes wedi stryglo gan sicrhau ond un buddugoliaeth yn ystod y tymor. Ond mae Llani wedi chwarae pedair gêm yn llai na Port.
Os fyddwch yn disgwyl rhyw gêm braidd yn ‘despyret’ bu y rhai oedd yn bresennol ar y Traeth y Sadwrn diwetha’ yn dyst i berffomiad o safon gan Port, y gorau efallai ers curo Dinbych yn ôl ym mis Medi. Er colli, gyda ond un gôl eto yn gwahaniaethu’r ddau glwb, y tro yma yn erbyn tîm cry’ Y Wyddgrug cawsom gêm o safon lle roeddem yn haeddu llawer mwy.
Bu’r rheolwr yn prysur gryfhau ei garfan er mwyn cynnig mwy o opsiynau a mwy o ddyfnder wrth i’r frwydr barhau.
Dewch lawr i’r Traeth i gefnogi’r hogia’. Gyda’n Gilydd!
C’mon Port!!

Llanidloes will be the visitors to the Traeth on Saturday. Manager Steve Williams has described every game now as being huge and Saturday’s encounter certainly comes into that category.
This will be a game between two clubs in the bottom 3 and fighting to retain their place in the Cymru North. Port are on a really bad run of six straight defeats which has plunged them into serious trouble. Llanidloes have struggled from the start of the season and have recorded just one league win all season. But Llani have played four fewer games than Port.
An air of desperation might be expected on Saturday but. those present last Saturday, will have seen Port put in what was perhaps their best performance since beating Denbigh at the end of September. Though again beaten by the odd goal, this time against a very strong Mold team, we saw some excellent football which deserved much more.
The manager has added to his squad giving far mor options and greater cover in what is going to be a battle royal to the end of the season.
Be at the Traeth for this six pointer between two clubs with all to play for. Together!
C’mon Port!!
Lluniau /Photos: Danny Brookwell sgorio mewn 3 gêm yn olynol / netted in 3 consecutive games.
Manager Steve Williams: prysur yn cryfhau ei garfan / busy adding to his squad
23/01/24
Pob gêm yn un fawr / Every game’s a big one

Wrth ymateb i gwestiwn Dylan Elis ar Teledu Port TV ynglyn â gem y Sadwrn nesa’ gyda Llanidloes meddai Steve Williams fod pob gêm yn wahanol ac yn brawf gwahanol:
“Mae pob gêm yn ‘huge’ ac yn dest gwahanol.
“Y test yn erbyn Llanidloes, clwb yn cwffio am eu bywydau fel ni, cyn meddwl am gael y bêl i lawr a chwarae, bydd rhaid cwffio am yr hawl i wneud.
“Yn erbyn Wyddgrug, tîm da yn fflio yn y lîg, roedd dim pwynt mynd yn hir ... mae Daf (Griffith) a’r hogia’ yn y cefn yn lapio rheini fyny.
“Fine margins, nhw yn cymryd hanner cyfle a ni ddim yn cymryd siawnsiau gwell
“Yn Prestatyn sut ti’n chwarae yn dibynnu ar syrfes y cae.
“Mae digon o positifs a mae wedi bod yn bildio dros yr wythnosau diwetha’ ‘ma.”
Wrth iddo baratoi at ddydd Sadwrn y sialens iddo fydd troi colledion agos a perfformiadau da yn bwyntiau. Pob lwc.
C’mon Port

Responding to questions from Dylan Elis, on Teledu Port TV, regarding next Satruday’s clash with Llanidloes, manager Steve Williams says that each game requirea a different approach.
“Every game is huge now and every game presents it’s own different kind of test.
“The test against Llanidloes, a club, like us, fighting for their lives and before we even think of getting the ball down and playing we will need match that fight.
“Against Mold Alex, a good team flying in the league, there was no point going long ... Daf (Griffith) and the boys at the back would have lapped that up.
“It was fine margins they took half chances while we failed to take what were probably better chances.
“At Prestatyn how we played was dictated by the surface.
“There were positives today (Mold Alex) its been building over the last few weeks.”
As he prepares for Llanidloes Steve now faces the challenge of turning odd goal defeats and good performances into points. Good luck.
C’mon Port!!
22/01/24
Haydn Jones: A View from the Bench

Haydn Jones - CPD Porthmadog A ni erbyn hyn yn ddwfn mewn brwydr i aros i fyny, da ydy gwybod gymaint mae’n olygu i’r ‘hogia’ lleol’ wrth y llyw. Isod gweler geiriau ysbrydoledig yr is-reolwr Haydn Jones yn rhaglen y Sadwrn diwetha’.

Now that we have to face up to the fact that we are in a relegation dogfight it is good to know that the ‘local boys’ in charge have a deep committment to the cause. Here are the inspiring words of assistant manager Haydn Jones in Saturday’s match programme:

"Returning to my hometown football club is a profoundly emotional experience rekindling cherished memories and a deep connection to a place that shaped my passion for the sport. The familiar sights and cameradarie at the Traeth evoke a sense of nostalgia, making it a truly special journey back to the club dear to my heart."
Wedyn wrth edrych ar y dasg sy’n gwynebu’r tîm rheoli newydd mae hefyd yn sgwennu isod:

Then looking at the task which faces the new management team he also writes

"It’s a challenging phase but maintaining a positive mindset, knowing our purpose, and having a clear shape and style of play, can pave the way for improvement and success in the future. Together let’s stand strong throughout the rest of the season."
C’mon Port!!
20/01/24
Ail dîm yn colli / Defeat at Denbigh for Reserves

Colled drom o 7-2 i’r Ail-dîm yn erbyn Dinbych heddiw. Y nodyn cadarnhaol i Port oedd dwy gôl gan Deion Hughes.

Reserves suffered a heavy 7-2 defeat at Central Park today. The positive for Port was a brace from Deion Hughes

Port squad / Carfan: Liam Hughes, Iwan Havelock, Aron Hughes, Aron Catlin Roberts, John Williams, Dion Williams, Deio Hughes, Mason Lloyd, Deion Hughes, Ekis Puw, Aaron Jones,. Eilyddiom / Subs: Manon Owenn, Trystan Davies.
18/01/24
AIL-DÎM / RESERVES @ Dinbych / Denbigh Sadwrn / Saturday 2pm LL16 3EW


Noddwr Ail-dîm / Reserves Sponsor: O.J JONES & SON HAULAGE PORTHMADOG

GÊM YMLAEN: yn dilyn archwiliad o'r cae
GAME ON: following pitch inspection


Bydd yr Ail-dîm yn teithio i Ddinbych pnawn Sadwrn (20 Ionawr).
Bydd y gic gynta’ am 2 o’r gloch.

The Reserves travel to Denbigh on Saturday (20 January).
Kick off will be at 2pm.
C’mon Port!!
18/01/24
Y WYDDGRUG / MOLD ALEX: Sad / Sat: Y Traeth 2pm.

Noddwr / Match Sponsor: TANRONNEN INN BEDDGELERT

Bydd clwb Y Wyddgrug yn ymweld â’r Traeth pnawn Sadwrn ar gyfer gêm bwysig arall yn y Cymru North.
Bu’n dymor arbennig i’r clwb o Sir Y Fflint, ond ychydig tu ôl i’r 3 sydd wedi dominyddu’r gynghrair dros y tymor. Eisoes mae Port wedi colli’n drwm draw ar Barc Alyn a daw’r Wyddgrug i’r gêm hon yn dilyn 4 buddugoliaeth allan o’u 5 gêm gynghrair ddiwetha’
Hon fydd y gynta’ o ddwy gêm yn olynol ar Y Traeth ac yn un anodd iawn wrth i Port geisio torri ar y rhediad o ganlyniadau gwael. Er yn anlwcus i beidio rhannu’r pwyntiau yn y ddwy gêm ddiwetha’, rhaid gweld y cadarnhaol hefyd ac, ar ôl rhediad o sgorio ond un gôl mewn 4 gêm, daeth 4 gôl mewn dwy gyda Danny Brookwell yn rhwydo yn y ddwy.
Ond mae camgymeriadau yn y cefn wedi costio’n ddrud i Port wrth iddynt ail adrodd yr hyn a alwodd Steve Williams yn ‘5 munud gwallgo’ yn Nantporth. Amser efallai inni gofio’r hen ystrydeb -rhaid i amddiffyn gychwyn yn y blaen.
Mae yna 12 gêm yn weddill i sicrhau diogelwch a rhaid tynnu at ein gilydd ar, ac oddi ar, y cae a thrwy hynny dangos dipyn o’r hyn a soniodd Treflyn amdano yn ei adroddiad PENDERFYNOL / DETERMINED.
Gyda’n gilydd
C’mon Port!!

Mold Alex will be the visitors to the Traeth on Saturday for another vital Cymru North fixture.
The Alex are having an outstanding season lying just outide a top three that have dominated the leaguue this season. Already they have inflicted a heavy defeat on Port over at Parc Alyn and they come to this game on the back of 4 wins in their last 5 league fixtures.
They will provide really difficult opposition in the first of two successive home fixtures as Port attempt to break a sequence of poor results. Unlucky not to take a share of the points in the last two, there are positives to takee as goals have re-appeared following a very lean spell. After netting just once in 4 performances, Port have scored 4 in the last two, with Danny Brookwell netting in both.
Defensive errors have however cost Port dearly as they have gone on to repeat what manager Steve Williams described as the ‘mad 5 minute spell’ at Nantporth. A time perhaps for remembering that old chestnut -defending begins at the front.
There are 12 games left to collect the points needed to secure safety and now is the time to pull together on, and off the pitch, a time to show those qualities Treflyn described in his match report PENDERFYNOL / DETERMINED.
Together Stronger!!!
C’MON PORT!!
Lluniau / Photos: Tom Mahoney & Danny Brookwell: rhwydo yn Prestatyn / scorers at Prestatyn.
13/01/24
Mwy o wynebau Newydd / More new Arrivals – Steffan Gittins & Jacob Barratt


Steve Williams yn dal ati i gryfhau’r garfan a dyma ei ddatganiad:-
Rwy’n hapus i gyhoeddi enwau dau wyneb newydd arall sy’n ymuno yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol.
Un ydy STEFFAN GITTINS sy’n ymuno o glwb Bolton Lads and Girls. Daeth Steffan, sy’n chwaraewr ymosodol asgell chwith, drwy academi Aberystwyth a treuliodd y 3 tymor diwetha’ yn y Cymru North gyda Penrhyncoch a hefyd Gresffordd.
Ymuno o Runcorn Town mae JACOB BARRATT. Daeth drwy academi Cei Connah. Ymosodwr hefyd ydy Jacob gyda digonedd o brofiad yn y gyfundrefn yng Nghymru, wedi iddo chwarae i Ddinbych, Y Wyddgrug a Gresffordd.
Mae’n dda iawn gen i fedri cadarnhau’r trosglwyddiadau gan y buom yn aros am y caniatâd rhyngwladol i'r ddau a fydd yn ychwanegu at ein opsiynau ymosodol. Mae Steve a Jacob yn chwaraewyr creadigol gyda llygad am gôl a sydd hefyd yn adnabod y gynghrair yn dda,
Bydd y ddau yn y garfan ar gyfer Y Wyddgrug pnawn Sadwrn.
Bydd yna gyhoeddiadau pellach yn y dyddiau nesa’.
C’mon Port!!

Steve Williams continues to strengthen his squad. Here is his announcement.
I’m pleased to announce the next new signings of this transfer window.
STEFFAN GITTINS joins the club from Bolton Lads and Girls club. Having come through the academy system at Aberystwyth, Steff who’s a left sided attacker has been playing these last three seasons within the Cymru North with Penrhyncoch and Gresford.
JACOB BARRATT joins the club from Runcorn Town. Having come through the academy system at Connahs Quay Nomads, Jacob who is another attacker that has wealth of experience within the Welsh system having previously played for Denbigh Town, Mold and Gresford.
I’m made up to finally being able to confirm the signings of Steff and Jacob as we’ve been waiting for international clearance for both players these last couple of weeks. Both will bolster the squad and add to our attacking options. Both are creative players with an eye for goal and know the league well.
Both will go straight into the squad against Mold this weekend.
We will have further announcements over the next few days.
Cmon Port!!
Lluniau / Photos: Steffan Gittins (top) & Jacob Barratt.
13/01/24
Ail dîm yn colli / 2-1 defeat for Reserves


Gêm agos ar Y Traeth ond yr Ail-dîm yn colli o 2-1 i’r Waun. Gôl gynnar gan Jack jones i’r Waun gyda Mabon Owen yn ei gwneud yn gyfartal. Dal yn gyfartal ar yr hanner ond Tom Freedman yn sicrhau’r 3 phwynt i’r Waun gyda gôl yn yr ail hanner.
Carfan Port isod.

A narrow 2-1 defeat for the Reserves at the Traeth this afternoon. Jack Jones gave Chirk an early lead with Mabon Owen netting the equaliser. It remained 1-1at half-time but the visitors restored their lead in the second period with Tom Freedman netting.
Below is today’s squad

Liam Hughes, Iwan Havelock, aron ones, Aron Catlin Roberts, John Williams, Dion Williams, Jake Jones, Mason Lloyd, Deio Hughes, Deion Hughes, Mabon Owen Aaron Jones, Jakub Romanowicz,Kieran Fitzjohn, Leon Williams
13/01/24
ROB JONES: yn arwyddo / signs for Port


Mae Steve Williams wedi rhyddhau datganiad arall am arwyddo chwaraewr

Rwy’n hapus iawn i gyhoeddi fod chwaraewr arall wedi arwyddo i’r clwb.
Mae Rob Jones yn ymuno gyda’r clwb a ganddo ddigonedd o brofiad o’r drefn yng Nghymru. Un sydd yn adnabod y gynghrair yn dda a bydd yn dod a'r hyn rwy’n chwilio amdano, ar ac oddi ar y cae, ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gyda Rob.
Dwi wedi sgwrsio yn hir gyda Rob yn ystod yr wythnos a mae’r ddau ohonom yn cytuno am yr hyn ry’m yn ceisio gwneud yn y clwb wrth symud ymlaen. Mae’n gyfarwydd gyda sawl un o’r hogia’ a bydd yn setlo yn syth.
Bydd yn y garfan heddiw yn Prestatyn.
Bydd yna gyhoeddiadau pellach yn y dyddiau nesaf



Steve Williams has released a further statement regarding a new signing.

I’m pleased to announce the next new signing of this transfer window
Rob Jones joins the club with a wealth of experience of the Welsh system. He is someone that knows the league well and someone that I know will deliver what I’m looking for on and off the pitch and I’m really looking forward to working with him.
I’ve had long conversations with him this week and we are both on the same wavelength when it comes to what I want to achieve with the club and wants to be a part of that moving forward. He also knows a few of the lads within the squad so will settle in immediately.
He will go straight into the squad against Prestatyn.
We will have further announcements over the next few days.
C'mon Port!!
12/01/24
OLLIE FAREBROTHER: yn arwyddo / signs for Port


Mae Steve Williams wedi gwneud y datganiad isod ynglyn ag arwyddo golwr sef Oliver Farebrother

Rwy’n hapus i gyhoeddi’r diweddara’ am arwyddo chwaraewr.
Mae Oliver Farebrother wedi ymuno a’r clwb o glwb Y Waun. Buom yn cadw llygad arno ers dipyn a mae’n awyddus i ddatblygu a bydd yn ffit perffaith i’r garfan. Mae’n golwr sicr ac hyderus ac yn ticio’r blychau i gyd. Eisoes yr wythnos hon mae wedi ymarfer yn dda gyda'r garfan.
Mae’n gyfarwydd â’r gynghrair a bydd yn barod amdani yn syth.
Bu Alex yn wych ers dod fewn i’r garfan ond rwy am greu diwylliant cystadleuol yn y garfan ac yn edrych ymlaen i weld y ddau yn gwthio’u gilydd am weddill y tymor
Carwn ddiolch i glwb Y Waun am y trosglwyddiad hwylus.
Dros y dyddiau nesaf bydd gennym gyhoeddiadau pellach
C'mon Port!!


Steve Williams has released the following statement regarding the signing of keeper Oliver Farebrother

I’m pleased to announce the next new signing of this transfer window
Oliver Farebrother joins us from Chirk. He is someone that we have been monitoring for a while and is keen to progress and will fit into the squad perfectly. He is an assured goalkeeper that ticks all the boxes and trained well with the squad this week.
He knows the league well and will hit the ground running.
Young Alex has been unbelievable since coming into the squad but I want to create a culture where competition for places runs across the whole squad and looking forward to seeing both push each on for the reminder of the season.
I’d also like to thank Chirk for the smooth transfer.
We will have further announcements over the next few days.
C'mon Port!!
11/01/24
PRESTATYN: Sad / Sat: Bastion Gardens: 2pm LL19 7LU


Bydd Port yn teithio i Brestatyn pnawn Sadwrn am gêm bwysig yn y Cymru North;
Gyda'r clybiau yn 12fed a 13eg yn y tabl a dim ond un safle uwchben y 3ydd safle disgyn, bydd rhai yn gweld y gêm fel un ‘rhaid ennill’ ond cofiwch mae yna 13 o gemau yn dal yn weddill.
Gwelodd y ddau glwb newidiadau yn ddiweddar, gyda James Benbow, yn Prestatyn, yn cymryd drosodd yn gadeirydd a pherchennog y clwb gan ddilyn Jamie Welsh. Gallwn ddisgwyl mwy o newidiadau i ddilyn. Nos Fawrth collodd Prestatyn y cyfle i symud fyny’r tabl. Ar ôl mynd ar y blaen o 2-0 colli oedd ei hanes o 3-2 gyda Alex Boss yn sgorio yn yr amser ychwanegol i Llandudno.
I Port, mae tim rheoli Steve Williams yn dal i setlo ond eisoes gwelwyd dulliau a chynllun gêm wahanol ar y cae. Mae hyn i ddisgwyl, ond bydd angen ychydig o amynedd wrth i bethau ddatblygu.
Y Sadwrn diwetha’ gall Port ystyried eu bod yn anffodus i beidio codi, beth bynnag, bwynt o’r gêm ond rhaid ceisio torri allan rhai o’r camgymeriadau sy’n costio’n ddrud. Bydd hyn yn flaenoriaeth pnawn Sadwrn mewn gêm allweddol.
C’mon Port!!

Port travel to Prestatyn on Saturday for a vital Cymru North fixture.
With the clubs lying 12th and 13th in the table, just a place above the 3rd relegation spot, this game takes on extra significance and some will look at it as a ‘must win’ fixture though 13 games of the season remain.
Both clubs have seen change recently. At Bastion Gardens, James Benbow has succeeded Jamie Welsh as Chairman and owner of the club with further changes no doubt to be expected. On Tuesday Prestatyn missed an opportunity to move up the table when after going 2-0 up over Llandudno they eventually lost 3-2 thanks to an added time goal by Alex Boss.
For Port, Steve Williams and his new management team are still settling in, though already we have seen signs of a new approach on the pitch. This is to be expected and a new game plan and tactics will need to be given a little time to have the desired effect.
Last Saturday Port can consider themselves unfortunate not to pick up a point at least but ruling out errors will now be a priority as they visit Bastion Gardens in a key contest
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Danny Brookwell & Nathan Williams: sgorwyr y Sadwrn diwetha’ / last Saturday’s scorers.
09/01/24
AIL-DÎM / RESERVES: Y Traeth: Sadwrn / Saturday 2pm


Bydd yr Ail-dîm yn chwarae ei gêm gynta yn 2014 pnawn Sadwrn (13 Ionawr). Yr ymwelwyr fydd Ail-dîm Y WAUN
Bydd y gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Cefnogwch yr Hogia’ C’mon Port!!

The Reserves return to action on Saturday (13 January) when they welcome the CHIRK AAA Res to the Traeth.
Kick off will be at 2pm.
Support the lads. C’mon Port!!
09/01/24
Gethin Jones : Chwarae i Awstralia / Plays for Australia


Llongyfarchiadau i Gethin Jones sydd wedi’i ddewis i chwarae dros Awstralia. Chwaraeodd Gethin ei gêm gynta yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Bahrain ddydd Sadwrn.
Er yn un o hogia’ Port cafodd Gethin ei eni yn Perth, Awstralia ac yno treuliodd ei flynyddoedd cynnar cyn symud yn ôl i Port. Chwaraeodd Gethin i bob grwp oed Cymru a bu’n gapten ar y tîm Dan21. Cafodd ei alw fyny hefyd i’r brif garfan.
Bydd Gethin, amddiffynnwr Bolton Wanderers, yn y garfan pan fydd Awstralia yn cychwyn Cwpan Asia yn Qatar ar 13 Ionawr gyda gêm yn erbyn Yr India.
Pob lwc Gethin

Congratulations to Gethin Jones on his selection for Australia and on making his debut in their 2-0 win over Bahrain last Saturday.
Port boy Gethin qualified as he was born in Perth, Australia and spent his early years there before the family returned to Porthmadog. Gethin played for Wales at all age group levels and captained the U21 team and has been included in the Wales senior squad.
. The Bolton Wanderers defender has been selected for the Asia Cup in Qatar and the opening game takes place on 13 January when they take on India.
Good luck Gethin.
07/01/24
Diolch i YMDDIRIEDOLAETH REBECCA / Thanks to THE REBECCA TRUST


Dymuna swyddogion y clwb ddiolch i Ymddiriedolaeth Rebecca am eu rhodd o £1000.
. Bydd yr arian yn mynd ar gyfer uwchraddio'r llifoleuadau i oleuadau LED.
Gwerthfawrogwn eu haeliondeb a chefnogaeth yn fawr iawn.
Elusen lleol yw Ymddiriedolaeth Rebecca sydd yn cefnogi clybiau a mudiadau lleol yn ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yn flynyddol.

Club officials would like to thank the Rebecca Trust for their generous donation of £1000.
The money will go towards upgrading the floodlights to LED lighting.
The club appreciate their generosity and support.
The Rebecca Trust is a local charity which has annually supported local clubs and organisations in the Porthmadog and Penrhyndeudraeth area.
05/01/24
CAIO EVANS: Chwaraewr Mis Rhagfyr / December Player of the Month




Llongyfarchiadau i CAIO EVANS sydd wedi ei bleidleisio yn Chwaraewr y Mis am Rhagfyr gan y cefnogwyr. Cyfnod llwyddiannus i Caio sydd wedi ei enwi am yr ail fis yn olynol.


Congratulations to Caio Evens who has been voted by supporters their Player of the Month for December. This marks a very successful period for Caio who was also the November player of the month.

Noddwyd y wobr gan / Award sponsored by: TELEDU PORT TV


04/01/24
RHUTHUN: Sadwrn / Saturday: Y Traeth: 2pm.


Pnawn Sadwrn byddwn yn croesawu Rhuthun i’r Traeth am gêm yn y Cymru North gyda’r gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Mae’r ddau glwb wedi cyfarfod ddwywaith yn barod y tymor hwn. Yn y gêm yng Nghwpan y Gynghrair sicrhaodd y clwb o Ddyffryn Clwyd fuddugoliaeth haeddiannol tra, ar y Caeau Coffa, gêm gyfartal 1-1 cafwyd, diolch i gôl Cai Jones yn yr amser a ychwanegwyd.
Daw Rhuthun i’r gêm hon yn dilyn buddugoliaeth ardderchog o 4-0 dros y cymdogion o Ddinbych o flaen torf o 728. Mae’r fuddugoliaeth hon yn codi Rhuthum dau safle a 3 phwynt yn uwch na Port.
Ar ôl ail golled yn erbyn Bangor 1876 dros y gwyliau, bydd y tîm hyfforddi newydd yn ymwybodol for yna waith i wneud, gyda’r 3ydd safle o’r gwaelod yn llawer rhy agos bellach. Ond darn bach o oleuni, llwyddodd Rhys Alun rhwydo gôl gynta’ Port ers tair gêm, felly gobeithio fod mwy i ddilyn.
Croeso a phob lwc i’r ddau wyneb newydd, Gethin Thomas a Jake Jones.
C’mon Port!!

On Saturday we welcome Ruthin Town to the Traeth for a Cymru North league fixture with a 2pm kick off.
The two clubs have faced each other twice already this season. In the League Cup-tie at the Traeth back in early September the Vale of Clwyd club gained a convincing victory whie in the Cymru North fixture at the Memorial Grounds resulted in a hard fought 1-1 draw thanks to an added time Cai Jones equaliser.
Ruthin come to this game on the back of a fine 4-0 win over neighbours Denbigh, in front of a crowd of 728 supporters. This win puts them 3 points and 2 places above Port in the table.
Following a 2nd holiday defeat to Bangor 1876, the new management team at the Traeth will know that they have much work awaits them with the 3rd relegation spot far too close for comfort. Rhys Alun, however, netted Port’s first goal for 3 games so let’s hope that there will be more to follow.
Good luck also to newcomers to the squad, Gethin Thomas and Jake Jones.
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Cai Jones & Rhys Alun
02/01/24
Dau wyneb newydd / New Arrivals – Jake Jones & Gethin Thomas


Jake Jones - CPD Porthmadog Ar nodyn cadarnhaol mae’r rheolwr wedi cyhoeddi enwau dau o wynebau newydd yn ymuno â’r clwb.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi y ddau arwyddiad cynta’ o’r ffenest drosglwyddo hon.
Yn gynta Jake Jones, sy’n ymuno o glwb Y Waun ond sydd wedi bod yn gweithio a theithio yn Seland Newydd dros y misoedd diwetha’. Hogyn lleol ydy Jake sydd eisoes wedi chwarae i Port. Chwaraewr ochr dde ydy Jake a bydd yn ffit perffaith i’r garfan.
Mae Gethin Thomas yn ymuno o glwb Bangor 1876 ac, fel Jake, mae’n gyn chwaraewr i glwb Port. Mae Geth yn chwaraewr canol cae ymosodol gyda llygad am gôl. Mae’n methu aros i gychwyn ac yn chwaraewr rwy’n ‘nabod yn dda ar ôl gweithio efo fo o’r blaen ac mae’n ticio’r blychau i mi. Carwn ddiolch i Johnno a chlwb bangor 1876 am adael i’r trosglwyddiad fynd drwodd mor gyflym.
Rwy’n edrych ymlaen i’w croesawu ac i wetihio gyda’r ddau am weddill y tymor. Maent yn hogiau ifanc ffit a chry’ a byddant yn cryfhau’r garfan, gan ychwanegu at ein opsiynau wrth fynd ymlaen.
Bydd ynagyhoeddiadau pellach dros y dyddiau nesa’

Gethin Thomas - CPD PorthmadogOn a positive note the manager also announces two new arrivals at the club.

I’m pleased to announce the first two new signings of this transfer window.
Firstly, Jake Jones joins us from Chirk, but has been working and travelling in New Zealand these past few months. Jake is a local lad that’s played for the club before. He is a right sided player and will fit into the squad perfectly.
Gethin Thomas joins us from Bangor 1876, and like Jake he has also played for the club previously. Geth is an attacking midfielder with an eye for goal. He’s chomping at the bit to get started and is someone I know well having worked with him previously and ticks all of the boxes for me. I’d like to thank Johnno and Bangor 1876 for allowing the transfer go through quickly.
I’m looking forward to welcoming both and working with them this season, they are strong fit young lads that will strengthen the squad and add to our playing options moving forward.
We will have further announcements over the next few days.
Cmon Port!!
02/01/24
Yn Gadael / Departures – Morgs and Cav


Mae Steve Williams wedi rhyddhau newyddion heno a fydd yn siom i gefnogwyr y clwb:

Yn anffodus mae Morgan Owen a Shaun Cavanagh wedi penderfynu gadael y clwb gan symud i Gaernarfon ac Aberystwyth. Er mod i’n siomedig i weld y ddau yn mynd, mae’n dda eu gweld yn symud i fyny lefel i’r Cymru Premier lle rwy’n gwybod bydd y ddau yn llwyddiannus.
Carwn ddiolch i’r ddau am eu ymdrechion y tymor hwn gan ddymuno dda iddynt gyda’u clybiau newydd am weddill y tymor.

Manager Steve Williams has released news tonight which will be a disappointment to all Port supporters:

Unfortunately both Morgan Owen and Shaun Cavanagh have decided to leave the club, moving to Caernarfon and Aberystwyth. Whilst I‘m disappointed seeing both go it’s good to see them get their moves up a level and into the Cymru Premier league where I know both will do well.
I’d like to thank them both for their efforts this season and wish them well in their new clubs and for the reminder of the season.
Pob lwc ogia!
31/12/23
Steve yn apwyntio Haydn Jones / Steve adds to his Management Team


Haydn Jones - CPD Porthmadog Dyma ddatganiad pellach gan y rheolwr, Steve Williams wrth iddo adeiladu ei dîm rheoli.

Mae’n dda gen i gyhoeddi ychwanegiad arall i’r tîm rheoli. Haydn Jones fydd yr is-rheolwr newydd. Mae’n gyfarwydd iawn â’r clwb, yn gyn chwaraewr a hefyd wedi hyfforddi yn y drefn academi cynt ar Y Traeth. Hefyd mae’n fab i cyn gadeirydd Porthmadog sef Ioan Jones.
Am y 10 mlynedd ddiwetha’ bu Haydn gyda Chaernafon gan chwarae rhan holl bwysig wrth sefydlu a datblygu’r academi, yn y lle cynta’ fel Cyfarwyddwr yr Academi ac yn fwy diweddar yn hyfforddwr yn arwain grwpiau oedran. Bydd yn chwarae rôl allweddol yn y clwb wrth symud ymlaen, yn cynorthwyo gyda datblygiad ieuenctid gan greu llwybr clir i’r talent lleol gorau wneud cynnydd a dod yn eu blaen yn yr ail-dîm a wedyn y tîm cynta. Dyma hogyn lleol arall sydd yn gwybod beth mae’n olygu i wisgo’r crys coch a du.
Yn bersonol rwy’n gyffrous wrth sicrhau’r apwyntaid hwn. I ddod a Hayds fewn, yn ogystal a Fozzy, rwan mae gennyf ddau hogyn lleol i’m cefnogi er mwyn symud y tîm ymlaen.
Bydd yna gyhoeddiadau pellach dros y dyddiau nesaf ynglyn â fwy o wynebau newydd yn cyrraedd.
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, a diolch am eich cefnogaeth.
C’mon Port!!


A further announcement from manager Steve Williams as he builds his management team.

I’m pleased to announce my next addition to the new management team and a new assistant manager, Haydn Jones. Haydn again is no stranger to the club having previously been a player and also coached within the previous academy set up here at Porthmadog FC. He is also the son of previous Porthmadog Chairman, Ioan Jones.
Haydn has spent the last 10 years at Caernarfon Town FC playing an instrumental role in establishing and developing the academy initially as Academy Director and more recently as an age group lead coach. He will play a key role within the club moving forward to help promote youth development and create a clear pathway for the best local talent to thrive and progress through our reserve and first team. He’s also another local lad that knows exactly what it means to wear that famous red and black Port shirt.
Personally, I am made up in getting this appointment done. To bring Hayd’s in along with Fozzy, we now have two local lads supporting me and the team moving forward.
There will be further announcements over the next few days regarding further new arrivals.
Happy New Year everyone and thank you for the continued support!
C’mon Port!!
30/12/23
BANGOR 1876: Dydd Llun / Monday: 01/01/24: Nantporth: 2.00pm LL57 2HQ


Ar Ddydd Calan bydd yr ail rhan o Ddarbi Gwynedd, gyda’r gic gynta’ am 2 o’r gloch. Bydd y gêm hefyd yn fedydd i Steve Williams yn ei rôl newydd fel rheolwr y clwb. Wrth ei ochr fydd Mike Foster a bydd cefnogwyr yn gobeithio am ganlyniad gwahanol wrth i’r ‘hogia’ lleol’ gymryd yr awennau.
Un ystadegyn poenus i Port ydy’r methiant i ganfod cefn y rhwyd yn eu 3 gêm ddiwetha’. Cyfunwch hyn gyda’r camgymeriadau yn y cefn ac mae gennych broblem. Dyma ddwedodd Treflyn yn ei adroddiad o’r gêm:

“... roedd y sgôr terfynol yn filain, yn gamarweiniol iawn a ddim yn adlewyrchiad o’r hyn a ddigwyddodd mewn gêm rhwng dau dîm digon cyfartal. Ond all amddiffynwyr ddim disgwyl ymddwyn fel Siôn Corn a dod i ffwrdd a hi ... hyd yn oed ar Wyl San Steffan!.”

Roedd ein gwrthwynebwyr yn wahanol iawn yn dynn yn y cefn ac yn glinigol wrth gymryd mantais o’r camgymeriadau. Gyda 4 buddugoliaeth yn y 5 gêm ddiwetha’ mae Bangor yn dringo’r tabl a byddant yn sicr yn edrych i gwblhau’r dwbl dros Port.
Bydd y rheolwr newydd yn gwybod yn iawn fod ganddo chwaraewyr da yn ei garfan, a fod yna ddigon o dalent i adeiladu arno a chryfhau safle’r clwb.
Gallwn ddisgwyl torf dda arall yn dilyn y 700+ ar Y Traeth.
Pob lwc Midge a C’mon Port!!

On New Year’s Day we have Part 2 of the Gwynedd Derby kicking off at 2 pm. The game also marks Steve Williams’ first game in charge and, with Mike Foster at his side, carrying Port supporters’ hopes that the local duo can bring about a change of fortunes following the 4-0 Boxing Day defeat.
A worrying stat for Port is that they have failed to find the net in their last 3 fixtures. Combine this with errors at the back and we have a problem. Treflyn in his match report summed it up like this:

“.....the final scoreline was simply savage as it was an extremely misleading reflection of the balance of play between two very evenly matched sides. However, defenders cannot behave like Santa Claus and expect to get away with it …..even on Boxing Day! “

The Boxing Day opponents were, in contrast, tight at the back and clinical when taking advantage of any slip-ups. With 4 wins in their last 5 games they are moving up the table and will be looking to perform a holiday double.
But the new manager will know that he has quality players in his squad and that there is real potential for a change of fortunes.
Another big crowd is expected following the 700+ at the Traeth.
Good luck Midge & C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Steve Williams yn cychwyn ar y sialens / takes up the challenge
Danny Brookwell: bygythiad i unrhyw amddiffyn / poses a threat to any defence
28/12/23
ROLY EVANS: sylw gan gyn chwaraewr / a query from a former player


CPD Porthmadog Gweler isod neges a dderbyniwyd gan un o gyn chwataewyr y clwb sef Roly Evans. Mae yn un o arwyr y clwb o’r 1970au pan wnaeth y clwb fwynhau llwyddiant mawr yn ennill Cynghrair Cymru (Gogledd) yn 1974, a colli dim ond unwaith ar y ffordd i frig y tabl, i ffwrdd i Pwllheli. Buont yn bencampwyr eto y tymor canlynol, ac yn ail yn 1976/77 a 1977/78 ac yn drydydd y tymor wedyn. Roedd arwyr megis Ted Turner, Steve Joel, Jimmy McCarthey, Steve Woodin ac amddiffynwr amlwg Roly Evans yn aelodau blaenllaw o'r timau buddugoliaethus yma.
Byddai dda derbyn ymatebion i’w gwestiwn a wedyn wnawn eu cyhoeddi ar y wefan
Mae bob amser yn dda derbyn un o negeseuon Roly ac fel arfer mae’n gorffen gyda dymuniadau i’r clwb mae’n ei garu.
Good luck always. Roly.

We have received a message from former player Roly Evans. He is a club legend from the 1970s when the club enjoyed unparalleled success, winning the Welsh League North in 1974/75, being beaten only once to the title by Pwllheli and District away. They were champions again the following season. They ended up runners up the following two seasons and third in 1978/79. The championship winning sides included players like Ted Turner, Steve Joel, Jimmy McCarthey, Steve Woodin and defensive linchpin Roly Evans.

Here is the query: The reason fo my email: regards tree behind goal at the Traeth. When I played our groundsman Idwal died and I, along with members of Idwal’s family, planted a tree in his memory in that very spot. Does anyone know if it is that tree? Also, due to its close proximity to the pitch, have the club ever considered removing it? I realise I maybe the only one left standing who recalls this.

It would be interesting to receive any responses so that we can include them on the website.
It is always good to receive occasional messages from Roly and as ever he ends his e-mail with his best wishes to the club he lovse so much.
Good luck always. Roly.
27/12/23
MIDGE: Arwyddiad Cynta’ / First signing


Steve Williams: Datganiad / Statement
Rwyn falch i gyhoeddi fy arwyddiad cyntaf; un o arwyr mawr y clwb i fod yn hyfforddwr y tîm cynta’. Mae Mike Foster neu ‘Fozzy’ i’w gyfeillion yn adnabyddus iawn i bawb yn y clwb wedi iddo chwarae mwy na 350 o weithau ac yn gyn capten. Chwaraeodd i gyd dros 400 o gemau Cynghrair Cymru. Daw Fozzy a chyfoeth o brofiad a gwybodaeth o’r gêm a’r hyn sydd angen i berfformio ar y lefel yma. Mae hefyd yn hogyn lleol ac yn ymwybodol o’r hyn a olygyr i wisgo coch a du Port.
Yn bersonol rwyf wrth fy modd i groesawu Fozzy ac yn edrych ymlaen i weithio’n agos gyda fo i ddod a’r tymor yn ôl i drefn gan gychwyn gyda’r Ddarbi Dydd Calan yn erbyn Bangor 1876.
Bydd yna gyhoeddiadau pellach dros y dyddiau nesa ynglyn â’r tîm hyfforddi a chwaraewyr newydd.
C’mon Port!!

.

I’m pleased to announce my first signing for the club in the form of club legend and new first team coach, Michael Foster. Mike or ‘Fozzy’ as he’s known to his friends is no stranger to the club having made over 350 appearances and was also a previous first team captain. He also has over 400 appearances in the then League of Wales. Fozzy will bring a wealth of experience and knowledge of the game and what it takes to perform at the required level. He’s also a local lad and knows exactly what it means to wear that famous red and black Port shirt.
Personally I am made up to bring Fozzy in and looking forward to working closely with him and getting our season back on track starting with the New Years Day clash at Nantporth against Bangor 1876.
There will be further announcements over the next few days regarding the management team and new players.
C’mon Port!!
27/12/23
STEVE ‘MIDGE’ WILLIAMS: y rheolwr newydd / the new manager takes charge


Mae’r clwb yn croesawu Steve i swydd y rheolwr gan ddilyn Craig Papirnyk yn y rôl. Penderfyniad mawr ond, ar lawer ysytyr, penderfyniad hawdd unwaith i’r Bwrdd ddilyn yr un cwrs â llawer tro yn y gorffennol, sef apwyntio o fewn i’r clwb.

Meddai’r cadeirydd, Phil Jones, “ Dyna’r penderfyniad a gymerwyd wrth apwyntio Craig ac a wnaed sawl tro yn y gorffennol hefyd.”

Yn sicr mae Steve Williams yn dilyn y patrwm hwn. Un o ‘hogia Port’ sydd wedi chwarae i’r clwb cyn mynd ymlaen i weithredu fel hyfforddwr ar bob lefel yn y clwb.

Ei brofiad eang a berswadiodd y Bwrdd i estyn gwahoddiad i Steve i sedd y rheolwr ac am fod ganddo’r cymwysterau am y swydd, Trwydded Hyfforddi ‘A’ UEFA a hefyd digonedd o gysylltiadau ym mhêl-droed dosbarth cynta’ a ieuenctid.

Mae ei brofiad hyfforddi yn estyn yn ôl dros ddau ddegawd gan gychwyn tra yn dal yn chwarae i’r clwb. Bu’n hyfforddi Porthmadog Juniors cyn cymryd drosodd fel Cyfarwyddwr yr Academi ar Y Traeth gan sefydlu academi a gymeradwywyd gan y Gymdeithas Bêl-droed.

Treuliodd gyfnod gyda Academi'r Bala a dau gyfnod gydag Academi Caernarfon, yn 2015 am y tro cynta, gan ddychwelyd yno yn 2020 i hyfforddi’r tîm datblygol a’r ail-dîm. Rhwng y ddau gyfnod yma, treuliodd 2-flynedd yn brif hyfforddwr y tîm cynta' yn Llandudno yn ystod y cyfnod llwyddiannus i’r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae ei gariad at hyfforddi yn amlwg gan iddo hefyd hyfforddi ieuenctid Nantlle Fêl yn ogystal â merched canolfan datblygol Porthmadog. Mae'n dal i hyfforddi hogiau Dan 12/13 carfan llwyddianus Ysgolion Gwynedd. Bywyd prysur iawn!!

Mae ei brofiad fel chwaraewr, yn ogystal a gyda’i glwb cartref, yn cynnwys gyda Treffynnon, Llangefni, a Nantlle Fêl, tra yn chwaraewr ifanc bu yn Academi Man Utd am 2-flynedd a cynrychiolodd Ysgolion Gogledd Cymru.

Bu Steve yn gweithio gyda nifer o reolwyr profiadol gan baratoi ei hun at y foment hon pan fydd yn arwain ei glwb cartref. Bydd yn cychwyn ar y dasg yn y gêm ym Mangor ar Ddydd Calan. Bydd angen cefnogaeth pawb arno.
Amdani Midge!!


The club welcomes Steve to the role of club manager succeeding Craig Papirnyk, a very big decision but in many ways an easy one, once it was decided to follow a policy which the club have used over many years, that of promoting from within.

Chairman Phil Jones said, “ It is what we did when we appointed Craig and we have made similar decisions several times in the past.”

Steve Williams certainly fits this pattern, a Port boy, who represented the club as a player before going on to serve as coach at all levels within the club.

His wealth of coaching experience persuaded the board to invite Steve to take over the role stating he is “...well qualified for the job as he has a UEFA "A" coaching licence and an array of contacts in senior and junior football.”

His coaching experience goes back over two decades starting while still a player at the club, coaching the Porthmadog Juniors before taking over as Academy Director at the Traeth in 2003, overseeing the establishment of an FAW accredited academy.

He has spent a period with the Bala Academy and two spells at the Caernarfon Academy, the first in 2015 before returning in 2020. Here he has coached the development squads as well as the Reserves. In between these two spells he gained WPL experience during a 2-year spell coaching Llandudno’s senior team during their successful period at the top level.

His committment and love of coaching is clear as, in addition, he has coached the juniors at Nantlle Vale as well as the girls development centre at Porthmadog.He remains coach to the successful Gwynedd Schools U 12s/13s. A lot to fit in, in what is obviously a busy life!!

His own senior playing experience, in addition to his hometown club, includes Holywell, Llangefni and Nantlle Vale. while at a junior level he spent two seasons at the Man Utd Academy and represented North Wales Schools.

Steve has worked with many experienced managers as he seems to have been preparing for this moment. And now he will be in charge of his hometown club. His stint will start with the return derby fixture with Bangor 1876. We will all need to give hm our fullest support.

Go for it Midge!!
23/12/23
BANGOR !876: Dydd Mawrth / Tuesday: Y Traeth 2.30pm

Noddwr / Sponsor: HAYDN E WILLIAMS Syrfewr Adeiladu Siartredig / Chartered Building Surveyors

Ymunwch gyda ni i ddathlu Gwyl San Steffan yn y Ddarbi Gwynedd gynta’ rhwng Port a Bangor 1876. Am y ddarbi ddiwetha Port/Bangor City rhaid mynd yn ôl i dymor 2019/20.
Bydd y gêm ddarbi hon hefyd yn ddiweddglo addas i gyfnod 9 mlynedd o rheolaeth Craig Papyrnyk ar Y Traeth. Wrth ei ochr fydd Steve ‘Midge’ Williams yn paratoi i gymryd fyny awennau’r rheolwr.
Y gêm hon fydd yr hanner ffordd drwy dymor y Cymru North.
Daw’r ddau glwb i’r gêm bwysig hon yn dilyn colli eu gêm gynghrair ddiwetha’ i’r Fflint, un o geffylau blaen yr adran. Ond, yn dilyn rhediad cynt o 3 buddugoliaeth yn olynnol, mae Bangor 1876 wedi codi i’r 6ed safle yn y tabl.
Yn dilyn rhediad siomedig diweddar o un buddugoliaeth mewn 5 gêm mae Port wedi mynd i lawr i’r 12fed safle a felly angen pwyntiau yn ystod y gemau dros y gwyliau.
Fawr o syndod, mewn gemau darbi, gweld enwau sydd wedi chwarae i’r ddau glwb a byddwn yn croesawu Sion Edwards, Tom Clarke, Iolo Hughes a Gethin Thomas ‘nol i’r Traeth. Hyn yn ychwanegu ychydig mwy o sbeis i’r achlysur.
Edrychwn ymlaen at dorf dda ddydd Mawrth a C’mon Port!!

Join us at the Traeth to celebrate the Boxing Day Holiday at the first ever Gwynedd Derby between Port and Bangor 1876. We have to look back to season 2019/20 for the last Port/BangorCity derby game.
Adding to the significance of the occasion, after 9 years as manager, it will mark Craig Papirnyk’s last day in charge at the Traeth. By his side will be Steve ‘Midge’ Williams getting ready to take over the mantle of manager.
The game also marks the half-way point of the season for both clubs.
Both come to this game on the back of defeats against front runners Flint but a previous run of 3 straight league victories has seen Bangor push up to 6th spot.
Port’s recent form of one win in five matches has seen them drop to 12th place, so points from the holiday fixtures are certainly needed.
The derby fixture will unsurprisingly bring us up against former Port players which include Sion Edwards, Tom Clarke, Iolo Hughes and Gethin Thomas, all of which all adds spice to the occasion.
Let’s hope for a good holiday crowd and C’mon Port

Llun / Photo Craig Papirnyk & Steve ‘Midge’ Williams -cyfnod y trosglwyddo cyfrifoldeb / passing the baton time at the Traeth.
21/12/23
CRAIG PAPIRNYK: diwedd cyfnod arbennig / a special era draws to a close


“Mae yna gyfnod wedi dod i’w therfyn,” meddai’r cadeirydd Phil Jones wrth edrych yn ôl ar yrfa Craig Papirnyk yn sedd y rheolwr ar Y Traeth. “ Yn union fel daeth yr amser a chyfnod llwyddiannus Viv ac Osian wrth y llyw i ben, ry’m wedi dod i ddiwedd cyfnod arwyddocaol arall yn hanes y clwb hwn, gyda phenderfyniad Craig Papirnyk i adael swydd y rheolwr;”
Yn dilyn cyfnodau fel chwaraewr a chwaraewr-hyfforddwr gyda’r clwb daeth yn rheolwr am y tro cynta’ yn nhymor 2014/15. Aeth ymlaen wedyn i wneud y swydd am y rhan helaetha’ o’r ddegawd. Er na lwyddodd yn ei brif uchelgais, sef dychwelyd y clwb i Haen 1 y pyramid, roedd yna gyfnodau pan oedd hyn yn edrych yn fwy na phosib’. Yn nhymor 2018/19 cafwyd y canlyniad gorau, yn gorffen yn y 3ydd safle tu ôl i Airbus.
Fel ym mhob gyrfa, mae na siomedigaethau yn ogystal ag uchafbwyntiau a’r siom i Paps oedd pan gollodd y clwb eu lle yn Haen 2 yn 2019/20. Ond, fel pob rheolwr da, aeth ati i gynllunio bod y clwb yn dychwelyd i’r Haen uwch yn syth. Pwy wnaiff anghofio’r diwrnod braf, heulog yn Y Bermo a’r perfformiad gwych ar Wern Mynach – cynefin Paps ei hun - o flaen 3,000 o gefnogwyr? Atgofion da yn wir ...
“Rwy bob amser wedi edmygu a diolch i Paps am ei onestrwydd,” meddai Phil, “byth yn cuddio tu ôl i esgusodion gwan a bob amser yn barod i gymryd y penderfyniadau anodd”
Dros y cyfnod, daeth enw Paps yn un ag enw’r clwb, gyda Phil ei hun yn cyfaddef fod y Bwrdd yn gallu ymlacio gan wybod, tra roedd Craig wrth y llyw, byddai pob penderfyniad yn cael ei wneud o safbwynt yr hyn oedd yn cynnig y gorau i’r clwb a’i ddyfodol. Roedd hyn yn cynnwys penderfyniadau ar y cae ac oddi arno, gan bob amser ystyried fod rhaid rheoli adnoddau prin yn ofalus.
O ran personoliaeth, cafodd Craig ei eni i arwain, hawdd i fynd ato, ffeind ac yn agored gyda doniau amlwg y cyfarthrebwr. Yn ddyn pêl-droed go-iawn mae wedi cyflawnu’r swydd gydag urddas. Gallwn ond dweud diolch yn fawr am yr amser a’r gofal a roddodd i’r gwaith, gan ddymuno iddo popeth da yn ei yrfa gan hefyd ddymuno pob bendith i’w deulu i’r dyfodol.
Yn syml iawn ...... diolch Paps.

In the words of the chairman Phil Jones “An era draws to a close. Just as we can look back at that highly successful period in the early years of the century when Viv and Osian led the club, now we have again reached the end of a very significant period in our history with Craig Papirnyk relinquishing his role as club manager.”
He first became manager in season 2014-15, having previously been a player and player-coach at the club, and has been in charge for the best part of a decade, Though not achieving what was his greatest ambition to take Port back to the top tier, there were times when it was very much on the cards with his best finish, in what was then the Huws Gray Alliance, coming in 2018/19 with the club 3rd to Airbus UK.
Like in all walks of life there are highs and lows and, the low point for Craig came when the club were relegated to the 3rd Tier in 2019/20, but like all good managers he plotted an immediate return to the 2nd tier. Who will ever forget that beautiful sunny day in Barmouth, and the super performance at Wern Mynach - Craig’s own stamping ground - before 3,000 supporters. Memories indeed...
“I have always appreciated Paps for his honesty,” said Phil “never shirking tough decisions or trying to hide behind lame excuses.”
Over the period Paps’s name has become synonymous with that of the club, with Phil admitting that the board were able to relax knowing, while Craig was in charge, everything would be done in the best interests of the club, both on the pitch and off it, always aware scarce resources had to be managed carefully.
As a person Paps was born to lead, engaging approachable and outgoing, a brilliant communicator and a real football man who has filled his role with dignity. We can only thank him for the time, care and committment he has given to the task and wish him well in his future career and also wish his family all the very best.
Put simply ...... Thanks Craig.
21/12/23
CRAIG PAPIRNYK: Datganiad o ymddiswyddiad / Resignation Statement


Isod gweler ddatganiad Craig Papirnyk wrth iddo gyhoeddi ei fod yn gadael swydd y rheolwr gyda chlwb CPD Porthmadog.

Below is Craig Papirnyk’s statement of resignation from his post as manager of CPD Porthmadog.


It is without regret or disappointment that I have decided to resign from my post as Manager at Porthmadog FC, in fact, it is quite the opposite, I feel honoured & privileged to have represented the club over the years, I have met so many wonderful people who shared the same love & passion towards the club and who all wanted to see Port FC successful, I have put the clubs interest first as I am the type of person who is either all in or not at all. I raised my feelings with the club recently and was as always transparent, open and honest about the situation, I gave my advice and offered to support any decision that they felt was best for the club.

There are so many I would like to thank but I would be here all day doing so, I only hope those who are reading this really do understand how much I have appreciated their support over the years, The club has always been special to me being a Barmouth lad, Port was always the pinnacle of the area and to say I have played a small part in its history makes me extremely proud and grateful for the opportunity.

One thing no one could ever say about me is that I didn’t give it my all, I have sacrificed more than most will ever know and only those who are in similar roles will understand the amount of time, dedication, effort and energy it takes to fulfil being a football Manager.

When I joined in the 2013/14 season as a player I never had any ambition to one day take on the reins and lead from the front, and in fact when that opportunity came I never really did it for myself, those who know me best, understand that I just love football, everything about it but as a Manager the outlook is slightly different, I never wanted any personal accolades or recognition for the hard work, after all being a Manager is a thankless job ! What I enjoyed was seeing a community pull together for the club and of course watching young local talent come through and giving them opportunities, I love nothing more than watching talented players with potential improve and having played a part in their development is what I have always most enjoyed. This is the greatest compliment any Manager can have, and I know all my teams over the years have done that, but it takes seriously hard work to continuously rebuild teams.

I am resigning and stepping aside because as always, I am putting the club first, over the years I have been selfish and sacrificed time away from my family and in truth my personal career which previously allowed me to dedicate more hours to the role as manager, which is what is needed. Over the last 12 months I have been lucky enough to get a new job which involves a lot more work and effort and as I am sure everyone will agree is something I have to take seriously. My main reason is my Son Leo who is coming of age and developing as a talented player who may even one day play for Porthmadog! haha but for now he is aiming his sights a little higher while currently at Wrexham U15s and representing Wales U15s. It is his time now and I want to be fully supportive and enjoy watching him grow, which, while Manager at Port, is something I struggle to do, unfortunately you cannot just switch off after a loss and think ‘ah well, there’s always next week’ a poor performance or loss can affect me for long periods which then affects my mood outside of the game (selfish again I know) but those who are actively doing Management roles in the game will understand fully the passion we carry and the affects it can have on us.

So, my decision comes from the heart, it is for the best of the club, doing it now allows the new Manager time to bring in lads he can believe in and trust, I have left him with an extremely talented group of players, who have shown so much potential already this season, It is a new group and it is taking time, while being affected by injuries, absenteeism and bad luck but with some revived energy and hard work I have no doubt about this current group.

Finally, I would like to thank players old and new who have joined the club to play for me, I take my hat off to you all for the hard work and commitment you have given over the years, I managed with my heart on my sleeve and have made good friends within the game. To the loyal and hard-working volunteers, you are the soul of the club and I urge you to keep striving to improve on & off the pitch. To the supporters, I hope I have given you more highs than lows, entertained you and shown the passion the badge deserves.

That one day in my hometown of Barmouth will live long in the memory, a little bit of history in winning the 1st ever play-off final and in style, what a day, what an occasion, what an achievement. I think the club has evolved on and off the pitch and that is testament to the hard-working volunteers who continually put in the time to improve the facilities, I have no doubt successful times will return to the Traeth one day, I am very proud to say I have left the club in a much better position than when I joined.

Thanks from the bottom of my heart for allowing me to be part of such a great club.
Merry Xmas and a Happy new Year
COME ON PORT
Paps
20/12/23
DATGANIAD gan y CLWB / CLUB STATEMENT


CPD Porthmadog Cytunodd Craig Papirnyk a Bwrdd Cyfarwyddwyr y clwb ar y cyd, i ryddhau Craig o’i rôl fel Rheolwr Tîm Cyntaf CPD PORTHMADOG.
Fel Bwrdd dymunwn yn ddiffuant i ddiolch o galon i Craig am ei holl waith caled a’i ymroddiad ar hyd y naw mlynedd gyda’r clwb.
O ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys ystyriaethau teuluol a gyrfa newydd, cytunwn i gyd mai hwn ydy’r amser iawn i newid.
Bydd hyn yn caniatau i’r rheolwr newydd gael un ffenest drosglwyddo cyflawn yn Ionawr 2024 i gryfhau’r garfan ar gyfer ail hanner y tymor.
Bydd Craig yn gyfrifol am y tîm yn ei gêm adref olaf yn erbyn Bangor 1876 ar Rhagfyr 26 ar Y Traeth.
Yn camu i rôl Rheolwr y Tîm Cyntaf fydd Steve ‘Midge’ Williams. Mae gan Steve y cymwysterau am y swydd gan fod ganddo Drwydded Hyfforddi ‘A’ UEFA a hefyd digonedd o gysylltiadau ym mhêl-droed dosbarth cynta’ a ieuenctid.
Fel clwb, dymunwn iddo bob llwyddiant yn y rôl newydd hon gan ofyn ichi i’w gefnogi wrth iddo baratoi i symud y clwb ymlaen.
Bydd diweddariadau pellach yn dilyn yn y dyddiau nesaf.
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl gefnogwyr ac edrychwn ymlaen i’ch gweld i gyd ar Wyl San Steffan.

Craig Papirnyk and the club’s Board of Directors have jointly agreed to release Craig from his role as First Team Manager of C.P.D. Porthmadog F.C.
As a board we would sincerely and wholeheartedly like to thank Craig for all his hard work and dedication over the past nine years with the club.
Due to a number of factors which include family and new work commitments we all agree now is the right time for a change.
This will allow the new manager a full transfer window in January 2024 to strengthen the squad in preparation for the second half of the season.
Craig will take charge of his final home game against Bangor 1876 on December 26th at Y Traeth.
Stepping into the First Team Managers role is Stephen "Midge" Williams. Stephen is well qualified for the job as he has a UEFA "A" coaching licence and has an array of contacts in senior and junior football.
As a club we wish him every success in his new role and ask you to support him as he prepares to take the club forward.
Further updates will follow in the coming days.
We would like to wish all our supporters Nadolig Llawen and a Blwyddyn Newydd Dda and look forward to seeing you all on Boxing day.
17/12/23
Ail-dîm / Res v Cei Connah / Connah’s Quay Res

Colli’n drwm wnaeth yr Ail-dîm o 12-0 yn erbyn Cei Connah ddoe (Sadwrn). Roeddent yn disgwyl gêm anodd yn erbyn y clwb sydd ar ben y gynghrair. Ychwanegwyd at yr anawsterau gyda gymaint o’r garfan hefyd wedi bod ar ddyletswydd gyda’r tîm cynta yn y Fflint ar y nos Wener. Ymlaen at y nesa'.

A heavy 12-0 defeat for the Reserves away at Connah’s Quay yesterday (Sat.). It was always going to be a difficult game against the Reserve League leaders and made more difficult with so many of the squad having provided cover for the first team at Flint on Friday evening.On to the next.
14/12/23
FFLINT: Nos Wener / Friday: Cymru North: Cae y Castell: 7.30pm CH6 5PJ


Gêm Nos Wener i Port y penwythnos hwn yng Nghae y Castell, sef cartref un o geffylau blaen y Cymru North, a’r gic gynta am 7.30pm.
Byddant yn teithio yno ar gefn perfformiad a ddisgrifiwyd gan y rheolwr, Craig Papirnyk, yn un a oedd ymhell o fod yn ddigon da, wrth golli i Bwcle yng Nghwpan Cymru, a felly yn taflu siawns gwych i gyrraedd rownd yr 8-olaf. Bydd gan y garfan felly bwynt i brofi nos Wener.
Ond bydd ganddynt hefyd dasg anodd yn erbyn clwb a record wych yn y Cymru North eleni. Er iddynt golli yn y Gwpan yn erbyn Cei Connah maent ar rediad cynghrair arbennig gyda 5 buddugoliaeth yn olynol ac yn ddiguro yn dilyn 11 gêm yn y Cymru North.
Mae’r ddau glwb eisoes wedi cyfarfod ar Y Traeth ac, er iddynt golli o 3-1, cafwyd perfformiad da gan Port, gyda’r sgôr o 3-1 ddim yn rho’r clod dyladwy am berfformiad y tîm cartref. Meddai Treflyn yn ei adroddiad o’r gêm “Port yn gweithio’n galed i agor amddiffyn disglybiedig Fflint ..... gyda’r ymwelwyr yn beryg yn gwrth ymosod.” Dyna’r math o gêm a gafwyd.
Gobeithio cawn weld perfformiad o’r math yma nos Wener, gweithgar, llawn ymdrech er mwyn gosod sialens i’r ceffylau blaen.
C’mon Port!!

A Friday evening fixture at the home of one of the Cymru North’s pacesetters awaits Port this weekend with a 7.30pm kick off .
Port travel on the back of a performance, at home to Buckley Town, which manager Craig Papirnyk described as “... well short, not good enough” in the JD Welsh Cup Round 4 tie last Satruday. The squad will feel that they have a point to prove following the way in which they spurned what the manager described as a “...great chance to progress to the quarter final.”
They will however need to do it against an in-form Flint side. Despite the Welsh Cup defeat to Connah’s Quay Nomads, their league record speaks for itself. They are on a run of five straight league victories and remain unbeaten following 11 league games.
The two clubs have already met at the Traeth in a keenly contested game. Flint came out on top with a 3-1 scoreline which slightly flattered them. Treflyn Jones in his match report said that while “....Port kept on trying to breach a disciplined Flint defence .... the visitors were often dangerous on the break.” It was that kind of game.
Port will need to get back to that kind of performance if they are to challenge the high flyers.
C’mon Port!!
09/12/23
CAIO EVANS: Chwaraewr Mis Tachwedd / Player of the Month.


Caio Evans ydy Chwaraewr y Mis am fis Tachwedd yn dilyn pleidlais y cefnogwyr. Sicrhaodd y bleidlais gyda nifer o berfformiadau cadarn a chreadigol yn nghanol y cae, gan hefyd ymddangos ar dro fel cefnwr de pan fod angen. Ymunodd Caio â’r clwb yn ôl yn yr haf o Gaernarfon lle bu yn aelod rheolaidd o’r garfan ddatblygol.
Mae’n un o grwp o chwaraewyr ifanc addawol sydd gan Craig Papirnyk yn y garfan, ac mae’r chwaraewr 18 oed yn dilyn Gruff Ellis (19), Medi, ac Alex Ward-Jones (18) yn enillwyr Chwaraewr y Mis yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau Caio.

Caio Evans has been voted the Supporters Player of the Month for November. He has earned his award with some strong, creative midfield performances, while also featuring at right back when needed. Caio joined the club in the summer from Caernarfon where he was a regular in their Development Squad.
Caio is one of the clutch of promising young players Craig Papirnyk has in his squad, and the 18 year-old follows Gruff Ellis (19), September, and Alex Ward-Jones (18), October, as recent Players of the month.
Congratulations Caio.
07/12/23
BWCLE / BUCKLEY: Sad / Sat: Cwpan JD Cymru / JD Welsh Cup Rd 4 Y Traeth 2 pm.

Noddwr y Gêm / Match Sponsor: CARIAD CARE HOMES
Noddwr y Bêl / Match Ball Sponsor: GROSVENOR BEAUMONT Financial Services Ltd. & TATWS TRADING

Cyffro’r Gwpan pnawn Sadwrn ar Y Traeth pan fydd Bwcle. ein cyfeillion o’r Cymru North, yn ymweld â’r Traeth. Brwydr fydd hon am y le yn rownd 8 ola Cwpan Cymru.
Mae’r ddau wedi cyfarfod unwaith yn barod y tymor hwn mewn gêm gynghrair ar Y Glôb. Cyfartal oedd honno ac, o ystyried pwysigrwydd y gêm hon, medrwn ddisgwyl gêm arall gystadleuol. Erbyn hyn Asa Hamiltpn, cyn chwaraewr i Port, sydd yn sedd y rheolwr yn Bwcle a ganddo mae’n siwr bwynt i’w brofi.
Yn eu gemau diweddara’ cawsant golled ddwbl i CPD Bangor 1876. Y Sadwrn diwetha colli o 3-2 ar ôl bod dwy gôl ar y blaen oedd hanes Bwcle. Er yn cael rhediad siomedig yn ddiweddar mae gêm gwpan yn anifail gwahanol iawn a bydd y ddau glwb yn awyddus i fanteisio ar eu lwc yn osgoi clybiau o’r Cymru Premier. Cyrhaeddodd Bwcle y rownd yma trwy guro Bow Street a Llanuwchllyn.
Y tro diwetha' i Port gyrraedd yr 8-ola' oedd yn 2013/14 cyn colli 2-1 yn Nhreffynnon.
Daw Port i’r gêm hon ar ôl methu allan ar ddwy gêm gynghrair yn ystod y pythefnos ddiwetha, y rhai gyda Llanidloes a Caersws.
C’mon Port!!

It’s Cup Day on Saturday when our Cymru North rivals, Buckley Town, will visit the Traeth to do battle for a place in the Quarter Finals of this year’s competition.
The two clubs have already met once this season, in a league fixture at The Globe which ended in a 1-1 draw and, given the importance of Saturday’s tie, another tight, competitive contest is anticipated. The familiar figure of Asa Hamilton is now in the hot sest at Globe Way and he will have a point to prove.
In their most recent matches Buckley have suffered a double defeat to Bangor 1876. In the latest, going down 3-2 last Saturday, after having taken an early 2-0 lead. Though they have not enjoyed the best run of form in the league recently, form is a commodity that. in the Welsh Cup. goes notoriously out of the window and both clubs will be looking to strike form at the right time. Both clubs will also be very keen to take advantage of what have favourable draws. avoiding Cymru Premier opposition. Buckley reached this stage with wins over Bow Street and Llanuwchllyn.
Port last reached the quarter-finals in 2013/14 before going out by 2-1 at Holywell.
They come into this game on Saturday having missed out on the last two fixtures, with the Llanidloes and Caersws games being postponed.
C’mon Port!!
Lluniau / Photos: Rhys Alun: un o’r sgorwyr yn Rd 3 / who netted in the last round
Alex Ward-Jones : wedi chwarae rhan bwysig yn y rhediad / played a key part in the cup run.
05/12/23
Nadolig wrth ymyl / CHRISTMAS comes closer


Het / Hat Gall Siop Arlein y Clwb gynnig yr ateb
Gall yr holl chwilota am anrhegion orffen YMA.
Cewch ddewis da o ddillad ac eitemau eraill yn y Siop.
Mae’n hawdd ei defnyddio a cewch hyd iddi gyda un clic ar SIOP yn y Fwydlen ar y chwith.
Pob lwc wrth chwilio

Sgarff / Scarf
The Club Online Shop could could be the answer.
Your search for presents this Christmas could well end HERE.
A good selection of items clothing and souvenirs can be found there.
The online store is easy to use and can be accessed with a click on SHOP in the menu on the left of the page.
Good luck in your search
04/12/23
LLANIDLOES: dyddiad newydd / new date


Trefnwyd dyddiad newydd ar gyfer y gêm yn y Cymru North gyda Llanidloes. Chwareir y gêm ar Y Traeth ar Sadwrn, 27 Ionawr.

The postponed Cymru North fixture with Llanidloes Town has been rearranged for Saturday, 27th January at the Traeth.
02/12/23
GOHIRIO / POSTPONED: Caersws v Port & Ail-dîm / Reserves v Rhuthun OFF


Gohiriwyd y ddwy gêm heddiw rhwng Caersws a Port a oedd i’w chwarae ar y Rec a'r gêm rhwng yr Ail-dîm ac Ail dîm Rhuthun ar Y Traeth oherwydd fod y caeau wedi rhewi.

Today's fixture at the Rec between Caersws and Port has been postponed due to a frozen pitch and also the Reserve fixture with Ruthin Town at the Traeth.
30/11/23
CAERSWS: Sadwrn / Saturday: Recreation Ground: GOHIRIWYD / POSTPONED


Bydd Port yn chwarae Caersws eto pnawn Sadwrn gyda’r gic gynta am 2 o’r gloch
. Dyma’r ymweliad cynta â’r Rec ers 2017 a byddai ail adrodd y sgôr o 5-2 ar y diwrnod hwnnw yn dipyn o benawd ond, o nodi perfformiad cry’ y Gleision ar y Traeth yn ddiweddar, yn anhebygol . Er hynny byddai unrhyw fath o fuddugoliaeth yn mwy na derbyniol!
Y sgorwyr i Port nol yn 2017 oedd Cai Jones, Joe Chaplin (3) a Meilir Williams.
Pan gyfarfu’r ddau bythefnos yn ôl roedd yn gêm rhwng y 9fed a 10fed yn y tabl ond yn dilyn y gêm roedd mathemateg canol y tabl yn rhyfedd iawn. Roedd pwynt Caersws yn ddigon i’w symund fyny i 7fed yn y tab,l tra roedd pwynt Port yn fodd iddynt ddisgyn i’r 10fed safle! Yn ychwanegu at y troeon rhyfedd yma, a Port heb gêm y Sadwrn diwetha’, dyma nhw yn CODI un safle yn ôl i 9fed, a hynny diolch i fuddugoliaeth Caersws o 3-1 dros Gresffordd, â Gresffordd yn symud lawr i 10fed ar wahaniaeth goliau.
Y gêm honno oedd buddugoliaeth gynta’ o’r tymor oddi cartref i Gaersws, a hwy bellach yn 6ed ac yn arwain y grwp canol tabl. Hyn i gyd yn awgrymu gêm dynn arall pnawn Sadwrn, gyda mwy efallai o symud o gwmpas yng nghanol y tabl.
C’mon Port!!

It’s Caersws again for Port on Saturday when they travel to the Rec for a 2 pm kick off
This will be the first visit since 2017 and. a repeat of the winning 5-2 scoreline on that day would be a wow, though, given the Bluebirds strong performance at the Traeth, unlikely. Any winning scoreline, however, would be more than acceptable. For the record Port scorers on that day were Cai Jones, Joe Chaplin (3) and Meilir Williams.
When the two clubs met at the Traeth a fortinght ago, it was 9th against 10th but such are the vagiaries of the mid-table battle, the Caersws point saw them move up the table to 7th spot, while Port’s point meant a drop to 10th in the table!! Adding to these strange twists, Port didn’t play last Saturday only to move UP one place in the table, back to 9th and that thanks to Caersws’s 3-1 victory over Gresford, who slip to 10th on goal difference.
It was a first away win of the season for Caersws at Gresford and they now lie in 6th spot, leading the mid-table group. All of which points to another tight contest on Saturday and perhaps more jockeying of positions!!
C’mon Port!!
Llun / Photo: Morgan Owen: sgoriwr yn erbyn Caersws / scorer recently against Caersws
29/11/23
Ail-dîm / Reserves v Rhuthun: Sad / Sat: Traeth: 2pm


Bydd yr Ail-dîm adra pnawn Sadwrn gan groesawu Ail-dîm Rhuthun i’r Traeth.
Nodwch: Bydd y gic gynta am 2 o’r gloch.
Os na fyddwch yn teithio i Gaersws cefnogwch yr hogia ifanc ar Y Traeth.
C’mon Port!!

The Reserves will at home again on Saturday when they welcome Ruthin Town Res to the Traeth.
Note that the game will kick off at 2pm.
If you aren’t travelling to Caersws give your support to the young reserves at the Traeth.
C’mon Port!!
Llun / Photo: Meilir Ellis: dod a’i brofiad ihelpu’r garfan ifanc. / keeper brings experience to young squad.
28/11/23
Colli Huw Trefor Jones / Passing of Huw Trefor Jones


Gyda thristwch mawr y cawsom y newyddion am farwolaeth Huw Trefor Jones.
Chwaraeodd Huw i Port yn ystod y 50au a'r 60au ac roedd yn gyn Ymddiriedolwr ac Is-Lywydd y clwb a chyn athro yn Ysgol Eifionydd.
Cydymdeimlw yn ddiffuant â'r Teulu.

It is with great sadness that we received the news of the passing of Huw Trefor Jones.
Huw played for Port during the 50's and 60's and was a former Trustee and Vice President of the Club and teacher at Ysgol Eifionydd.
Sincere condolences to the Family.
27/11/23
Noddwyr i'r ail-dîm - O J Jones - Sponsors for the Reserves


Mae cwmni cludo O J Jones & Son LTD, Porthmadog wedi noddi hwdis Ail Dîm Porthmadog. Diolch arbennig i Now John a'r teulu am eu cyfraniad.

Haulage company O J JONES & Son Ltd, Porthmadog have sponsored the hoodies for Porthmadog Reserves. Many thanks to Now John and family for their support.
Lluniau / Photos: Dylan Rees
26/11/23
Cynnal a chadw'r maes / Mainenance at Y Traeth


Mae Swyddogion Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn falch o gyhoeddi fod y clwb yn ddiweddar wedi prynu nifer o beiriannau newydd ar gyfer cynnal a chadw y cae yma ar y Traeth. Llwyddwyd i ennill grant sylweddol gan y 'Cymru Football Foundation' drwy gronfa 'Fit-For-Future Equipment Fund' tuag at eu prynu a mae defnydd wedi ei wneud o un wythnos diwethaf. Mi fydd ein cefnogwyr yn siwr o weld gwellhad yng nghyflwr y cae yma ar Y Traeth dros y misoedd nesaf wrth i'r peiriannau newydd ddangos eu gwerth.


Porthmadog Football Club Officials are pleased to announce that they have recently purchased new pitch maintenance equipment thanks to a substantial grant from the Cymru Football Foundation through the 'Fit-For-Future Equipment Fund'. One of the machines has already been in use slitting the surface prior to last weekends visit by Caersws. Supporters will see a marked improvement in the playing surface here at the Traeth Stadium over the coming months as the full benefit of the new machines is seen.
Lluniau / Photos: Dylan Rees

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us