|
![]() |
|
|
|
|||
|
English Cymraeg / Welsh Ffurfiwyd CPD Porthmadog, un o glybiau hynaf Cymru, yn 1884. Enillodd y clwb Gynghrair Gogledd Cymru yn 1902/03 ond ni enillwyd y Gynghrair eto tan 1937-38. Hefyd yn 1905-06, cyrhaeddodd y clwb rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru. Roedd y '50au, '60au a'r '70au yn ddegawdau llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Daeth mwy o lwyddiant i'r Traeth yn y chwedegau wrth i’r clwb arwyddo Mel Charles. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) tri thymor yn olynol rhwng 1966 ac 1969. Hefyd yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ar y Vetch o flaen torf o 10,941. Yn y saithdegau, sicrhawyd dwy bencampwriaeth arall. Yna bu'n rhaid aros nes 1989/90 am lwyddiant nesaf Port pan enillwyd y Welsh Alliance. Yn 1990, ymunodd Port â chynghrair newydd y Cymru Alliance, ac yna yn 1992 daeth Port yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Pêl-droed Cymru. Gyda gwaith caled yn sicrhau fod y stadiwm yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, gorffennodd Port eu tymor cyntaf yn 9fed ddigon parchus. Roedd llawer o'r diolch, am y llwyddiant yn ganlyniad i arwyddo Dave Taylor gan iddo rwydo'n rheolaidd. Aeth Dave ymlaen, yn ei ail dymor, i fod yn brif sgoriwr y Gynghrair ac hefyd Ewrop. Yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb, sgoriodd 62 o goliau mewn 66 gêm. Er i Marc Lloyd Williams a Dave Taylor rwydo 70 o goliau rhyngddynt yn nhymor 1993/4, unfed ar ddeg oedd Port. Llwyddwyd, serch hynny, i dorri record arall sef torf uchaf' y Gynghrair Genedlaethol. Sicrhaodd Bangor y bencampwriaeth o flaen torf o 2,500 ar Y Traeth. Dechreuwyd y trydydd tymor gyda rheolwr newydd. Synnwyd llawer gyda’r penderfyniad i ddiswyddo Meilir Owen fel rheolwr y clwb. Daeth cyn chwaraewr Cymru, Ian Edwards i gymryd yr awenau ond, ar ôl dechrau da, yr un oedd ei dynged. Ond aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl i Mickey Thomas, cyn chwaraewr Man. U., Wrecsam a Chymru, gymryd drosodd. Bu bron i'r tîm fynd i lawr ond, gyda chymorth Colin Hawkins, a ymunodd fel is-reolwr, fe lwyddwyd i aros i fyny o drwch blewyn. Apwyntiwyd Colin Hawkins i swydd y rheolwr yn 1995/96. Digwyddiadau oddi ar y cae hawliodd y sylw. Bu bron i drafferthion ariannol ddod â’r clwb i ben ond, diolch i waith caled y cyfarwyddwyr, ail lansiwyd y clwb fel cwmni cyfyngedig ac achubwyd y clwb pan godwyd £10,000 o bunnoedd drwy werthu cyfranddaliadau. Yn 1996/97, gyda'r sefyllfa ariannol yn llawer gwell, cafodd y tîm ddechrau anhygoel i'r tymor. Ni gollwyd gêm gartref tan y flwyddyn newydd a, phan ddaeth Y Barri i'r Traeth, roedd yn gêm rhwng ail a phedwerydd, gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn eu gwahanu. Un o'r chwaraewyr, a gyfrannodd fwyaf at y cychwyn hwn, cyn iddo adael y clwb i ymuno â Wrecsam am £10,000, oedd Paul Roberts. Ar ôl ymadawiad Paul, llithrodd y clwb i orffen y tymor yn y degfed safle ond enillwyd Cwpan Her Arfordir y Gogledd. Yn 1997/98, daeth diwedd i gyfnod Port yng Nghynghrair Cymru yn dilyn rhediad gwael at ddiwedd y tymor. Yn rhyfeddol, wrth ystyried rhai o’r penderfyniadau a gymerwyd ers hynny, collodd Port eu safle er iddynt orffen yn 4ydd o’r gwaelod. Yn 1998/99, yn ôl yn y Cymru Alliance, aeth y tymor ar chwâl yn dilyn y penderfyniad na fyddai Port yn cael eu dyrchafu oherwydd diffyg cyfleusterau. Gorffennodd Port yng nghanol y tabl ond llwyddwyd i gipio Cwpan y Gynghrair. Diolch i rediad o fuddugoliaethau ar ôl i Viv Williams godi'r awenau, yn dilyn ymadawiad Colin Hawkins, gorffennodd y clwb yn bumed yn 1999-2000. Wrth i Viv ac Osian Roberts adeiladu tîm newydd, codwyd gobeithion y cefnogwyr fod y dyddiau da ar fin dychwelyd i'r Traeth. A dyna sut y bu, wrth i Port gael un o’r tymhorau gorau yn eu hanes yn 2002-03. Enillwyd pob gêm gartref trwy gydol y tymor, gyda’r unig ddwy gêm iddynt golli yn dod ar ôl iddynt sicrhau dyrchafiad. Dyrchafwyd Port i Uwch Gynghrair Cymru gyda mantais o 19 pwynt ar frig y Gynghrair Undebol. Aeth Port ymlaen i ychwanegu dwy gwpan (Cwpan Her y Gogledd a Chwpan y Gynghrair) at eu llwyddiannau. Gyda Viv Williams ac Osian Roberts yn ffurfio’r bartneriaeth rheoli a hyfforddi, camodd Porthmadog yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru gan orffen yn 12fed ddigon parchus yn 2003-04. Yn y tri tymor canlynol, gorffen yn yr 11eg oedd yr hanes ac yn 2006-07, hefyd, cafwyd buddugoliaethau nodedig mewn tri chwpan gan gyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Gynghrair. Osian Roberts erbyn hyn oedd y rheolwr gyda Viv Williams yn is-reolwr. Am y rhan fwyaf o’r tymor, roedd cwmwl du cosb drom ac annheg y Gymdeithas Bêl Droed, am sylwadau hiliol gan un unigolyn, yn hongian uwchben y clwb. Ni ddaeth y saga hwn i ben tan Fehefin 2007 wedi’r clwb fynd â’r achos at dribiwnlys annibynnol ac o’r diwedd sicrhawyd tegwch a chyfiawnder. Ond ar ôl tymhorau llwyddiannus, daeth cyfnod Viv ac Osian wrth y llyw i ben yn ddisymwth ar ddiwedd 2006-07 gyda ymadawiad Osian i swydd Cyfarwyddwr Hyfforddi gyda’r Gymdeithas Bêl Droed ac ymddiswyddodd Viv yr un pryd ar ôl 7 mlynedd gyda’r clwb. Penodwyd cyn chwaraewr Manchester United, Clayton Blackmore, yn rheolwr ar gyfer 2007-08. Ond byr bu arhosiad Blackmore ar ôl cychwyn trychinebus i’r tymor. Troi at Viv Williams unwaith eto wnaeth y clwb a gyda chymorth Alan Bickerstaff llwyddwyd i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf y tymor. Ym mis Mai 2008, apwyntiwyd Paul Whelan yn rheolwr i olynu Viv Williams. Saesneg / English Porthmadog Football Club, one of the oldest in Wales, was founded in 1884. They were North Wales League champions in 1902/03 and reached the final of the Welsh Amateur Cup in 1905 -06 but had to wait until 1937-38 before they gained another championship. The '50s, '60s and '70s were highly successful decades for Port. The Welsh Amateur Cup was won in 1955/56 and 1956/57. The arrival of Mel Charles heralded more success. Port were league champions in three successive seasons between 1966 and 1969. Also in 1966, they played against Swansea in the Welsh Cup at the Vetch, before a crowd of 10,941. In the seventies, they were twice champions and topped the Welsh Alliance in1989/90. This secured Port a place in the newly formed Cymru Alliance (1990). In 1992, Port became inaugural members of the League of Wales. Hard work had ensured that the stadium reached the league's criteria and, thanks to a late surge, the team finished in a creditable 9th place. This was largely thanks to free scoring striker Dave Taylor. Dave went on, in his second season, to become the league's top scorer as well as Europe’s highest. During his spell at the club, he scored 62 goals in 66 games. Despite the 70 goals netted by Dave Taylor and Marc Lloyd-Williams, in the 1993-4 season they finished in 11th spot. Port did, however, break another record - the highest League of Wales attendance. A crowd of 2,500 came to see Bangor clinch the league title. The 1994/95 season started with a new manager, following the surprise decision to replace Meilir Owen. Ex-Wales International, Ian Edwards became manager but, after a good start, the team slipped down the table and he was also replaced. Things went from bad to worse after Mickey Thomas, ex-Man. U., Wrexham and Wales, took charge. The team came close to being relegated. Only with the arrival of Colin Hawkins as assistant manger, did the team escape the drop. For the1995/96 season Colin Hawkins was promoted to the manager's job. The club nearly folded because of serious financial trouble and a disaster was averted thanks to the hard work of the directors who re-launched the club as a limited company and £10,000 was raised through the sale of shares. In 1996/97, with the financial situation much improved, the team had a fine start to the season. No home game was lost until the New Year and, when champions Barry came to the Traeth, it was second against fourth, with only goal difference separating the two clubs. One of Port's most influential players was Paul Roberts. Before leaving the club to join Wrexham for £10,000, he had played for Wales Under-21 and was the league's leading scorer. After Paul's departure Port slipped to tenth place but still lifted the North Wales Coast Challenge Cup. In the 1997/98 season, Port's time in the League of Wales came to an end following a poor run of form towards the end of the season. Knowing what has happened since in this league, it is a cause for amazement that Porthmadog lost their WPL status despite ending the season in 4th place from the bottom. Back in the Cymru Alliance, things went down hill after a good start following the news that Port would not be promoted due to a lack of facilities. This was a big blow but some pride was restored as they won the League Cup. They could only manage 5th spot in 1999-2000 despite a run of victories after Viv Williams had succeeded Colin Hawkins. Viv, together with assistant-manager Osian Roberts, re-built the team and 2002-03 proved to be one of the most successful in the history of the club. Every home game throughout the season was won and the only two defeats came after Port had already gained promotion. They returned to the WPL with a 19 points advantage over their nearest rivals. Port also lifted the League Cup and North Wales Coast Challenge Cup. Under the management of Viv Williams and Osian Roberts, the club took the step back into the WPL and finished season 2003/04 in a respectable 12th position. In the following three seasons, they finished in 11th place without any relegation worries. In 2006/07, the club gained some notable cup victories in all three competitions and reached the semi-final of the League Cup. By this time, Osian Roberts had become the manager with Viv Williams assisting. For the greater part of the season, the dark cloud of the FAW’s unreasonable punishment, for racist remarks by one individual, cast its shadow over the club. A satisfactory conclusion to this saga was not achieved until the club had taken the matter to an independent sports tribunal and this provided a fair hearing and, at last, justice. After a successful period in charge, the Viv and Osian era came to a sudden close at the end of 2006/07 with the departure of Osian to a senior coaching position at the FAW and Viv deciding to call it a day after 7 years at the helm. Clayton Blackmore, the former Manchester United and Wales player, was appointed manager for 2007/08. But his period in charge was a short one, following a disastrous start to the season. The club looked once more to Viv Williams to save them from relegation and Alan Bickerstaff was appointed to assist him. This was achieved with a dramatic final day victory. In May 2008, Paul Whelan was appointed to the vacant manager’s chair. |
|
||
|
|
|||