Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
24/05/12
Yr Academïau a Jonathan Ford / Jonathan Ford talks about the Academies

Wrth ymateb i gwestiynau gan aelodau o Bwyllgor Cymunedau a Chydraddoldeb ynglyn ac Academïau, dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford fod, “.... academïau yn gwbl hanfodol i lwyddiant pêl-droed wrth inni fynd ymlaen.”
Ond wedyn aeth ymlaen i ddatgelu’r hyn mae llawer wedi amau, “... byddwn mae’n debyg yn awgrymu fod yr arian sydd wedi’i fwriadu i’w wario yn uniongyrchol ar yr academïau ddim o anghenraid yn gorffen cant y cant yn cael ei wario dim ond ar hynny.”
I glybiau tu allan i’r WPL, sydd yn brwydro i gynnal Academïau, bydd y sylw yma yn rhoi halen ar y briw . Mae’n dangos fod yr £20,000 mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru (UGC) yn eu dderbyn ar gyfer academïau yn fwy na’r galw ac eu bod yn medru fforddio cyfeirio rhan o’r arian at bwrpas arall.
Mae’n ddiddorol nodi fod pedair o’r chwech academi a chwaraeodd yn y gemau terfynol yn y Drenewydd, sef Porthmadog , Rhyl ,Merthyr a Hwlffordd, tu allan i UGC a ddim yn derbyn £20,000 gan y Gymdeithas Bêl-droed. Os edrychwn yn ôl i rownd yr wyth olaf gwelwn fod 7 o’r 12 academi i gyrraedd y rownd honno ddim yn cael eu hariannu. Os ydy academïau yn “hanfodol i lwyddiant” bydd yn rhaid i’r Academïau llwyddiannus yma barhau ac maent yn llawn haeddu derbyn cefnogaeth ariannol.
Dywedodd Iolo Owen arweinydd Academi Porthmadog, “Mae gan academi Porthmadog o bosib y record orau o’r holl sefydliadau yng Nghymru. Er hyn 'rydym yn teimlo annhegwch, gan nad oes ceiniog o grant gan y Gymdeithas Bêl Droed yn cyrraedd y clwb, ac mae cynnal academi o fewn y fath amgylchiadau, ac mewn ardal wledig, yn anodd iawn.Rhaid gofyn y cwestiwn os oes gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru agenda wirioneddol i hybu a datblygu’r gêm yng Nghymru.”

When responding to questions, by members of the Community and Equalities Committee concerning Club Academies, FAW Chief Executive Jonathan Ford said. “Academies are absolutely fundamental to the success of football going forward.”
But then goes on to reveal what many have suspected, “... I would probably suggest that money intended to be spent directly on academies doesn’t necessarily 100% end up being spent just on that.”
For clubs outside the WPL struggling to maintain successful Academies this statement will only rub salt in the wound. It clearly means that the £20,000 WPL clubs receive for their Academies is more than is needed and that they can afford to direct part of the money to other uses within their clubs.
It is interesting to notice therefore, of the six Academies playing on finals day at Newtown four–Porthmadog, Rhyl, Merthyr and Haverfordwest- are not WPL clubs and not being funded to the tune of £20,000 by the FAW. If we look back to the quarter final stage then, of the twelve Academies represented at that stage, seven were not among the funded elite. If Academies are “fundamental to success” then these successful Academies must continue and deserve to be properly funded.
Port Academy leader Iolo Owen remarked “Port Academy has possibly the best record of all the Academies in Wales. But we feel a sense of unfairness that not a penny of grant support reaches the club from the FAW and maintaining an Academy in such circumstances in a rural area is very difficult. It must be asked if the FAW genuinely has an agenda to promote and develop the game in Wales.”
22/05/12
Newyddion o'r Gynghrair / Alliance News

Mae Cynghrair Huws Gray wedi cyhoeddi enwau’r noddwyr at 2012/13. Gyda'r prif noddwyr Huws Gray yn parhau gyda’u cefnogaeth a hefyd Teejac a Tlysau Charisma yn dal i noddi gwobrau Rheolwr y Mis a Chwaraewr y Mis, dim ond un enw newydd sydd, gyda cwmni Trafnidiaeth S M Davies, cwmni cludiant o’r Trallwng, yn noddi gwobr Clwb y Tymor.
Mae Pwyllgor Cyswllt Cynghrair Huws Gray a’r cynghreiriau bwydo wedi cytuno ar faterion dyrchafiad a gostwng. Caergybi (Welsh Alliance), Rhaeadr Gwy (Canolbarth) a Rhydymwyn (ardal Wrecsam). Llangefni yn gostwng i’r Welsh Alliance ac Aelwyd y Rhos i Gynghrair Ardal Wrecsam.
Bydd rhaid i’r penderfyniadau gael eu cadarnhau yn y Cyfarfod Blynyddol i’w gynnal yng Nghaersws ar 16 Mehefin.

Huws Gray Alliance has announced sponsorship details for 2012/13. With the main sponsors Huws Gray continuing, and both Teejac Sport and Charisma Trophies also agreeing to continue their sponsorships of the Manager and Player of the Month awards respectively, there is only one new name for next season and sponsoring the Club of the Season award will be the Welshpool based haulage company S M Davies Transport.
The Liaison Committee of the HGA and the feeder leagues have agreed promotion and relegation issues. Holyhead Hotspur (Welsh Alliance), Rhayader Town (Mid Wales) and Rhydymwyn (Welsh National) would be promoted to the Huws Gray Alliance. Llangefni Town are to be relegated to the Welsh Alliance and Rhos Aelwyd to the Wrexham Area League.
These decisions will have to be confirmed at the AGM to be held on 16 June at Caersws.
20/05/12
Merthyr yn curo Port yn y ffeinal /Port Academy go down in final

Siom i’r tîm Academi Dan-14 yn y Drenewydd heddiw. Merthyr oedd yn llwyddiannus o 5-1. Ond llongyfarchiadau i bawb yn yr Academi gan fod cyrraedd y ffeinal yn gryn gamp. Bydd adroddiad yn dilyn ar wefan yr Academi sydd i’w ganfod drwy glicio ar ‘Academi’ yn y fwydlen ar y chwith.

Disappointment for the U-14s in today’s final at Newtown. The strong Merthyr team were 5-1 winners. But congratulations to all at the Academy, for reaching this stage was a real achievement. A report will appear later on the Academy website which you can reach by pressing ‘Academy’ in the menu.
18/05/12
Siop CPD Porthmadog yn agor / Porthmadog FC Shop opens

Bydd Siop CPD Porthmadog yn agor yn swyddogol bore yfory (ddydd Sadwrn) am 10 o’r gloch. Lleolir y siop yn Bank Place, Porthmadog ac yr oriau agor ar hyn o bryd fydd o Llun i Sadwrn rhwng 10 y bore a 4 y pnawn.
Mae’r eitemau fydd ar werth yn cynnwys amrywiaeth o anrhegion, bric a brac, cardiau at bob achlysur a dillad newydd ac ail law o safon dda.
Bydd y clwb yn ddiolchgar am fwy o gyfraniadau gan ffrindiau a chefnogwyr , eitemau y gellir eu gwerthu yn y siop. Byddai’n dda hefyd glywed wrth unigolion sy’n barod i gynorthwyo yn y siop.

The Porthmadog FC Shop will officially open tomorrow morning (Saturday) at 10 am. The shop is located in Bank Place, Porthmadog and will at present be open from Monday to Saturday from 10 am to 4 pm.
Items on sale will include a variety of gifts, bric a brac, cards for all occasions and good quality new and second hand clothing.
The club would be grateful for more suitable donations of saleable items from friends and supporters. They would also be glad to hear from individuals who are willing to assist in the shop.
18/05/12
Llwyddiant i chwaraewyr Academi / Success for Academy players

'Roedd pedwar o chwaraewyr Academi Port a anwyd yn 1998 yn chwarae i dim y Canolbarth yng nghystadleuaeth y ‘Cymru Cup.
Sion Bradley (Blaenau Ffest), Ian Brown( Borth y Gest), Callum Morris (Bermo), Ifan Jones. (Llanrug)
Dechreuodd y pedwar yn y gêm gyntaf yn erbyn Gogledd Cymru gan ennill o 5-1: Ian Brown a Sion Bradley yn sgorio gol yr un yn yr hanner cyntaf. Yn yr ail gem enillodd y tîm o 2-0 yn erbyn De Cymru. Dwy ganlyniad ardderchog gyda ein chwaraewyr yn perfformio i safon uchel.
'Roedd y bechgyn yn chwarae y trydedd gem yn erbyn sgwad Cymru, a oedd eisoes wedi ymarfer gyda'i gilydd ac wedi mynd trwy dreialon dewis. Gyda tîm Cymru yn cynnwys chwaraewyr a oedd wedi arwyddo i dimau o'r Premier 'roedd yn amlwg fod sgwad y canolbarth yn wynebu sialens gwirioneddol. Colli o 2-0 oedd y canlyniad ond braf oedd gweld y bechgyn yn cystadlu a'r sgwad cenedlaethol; 'roedd wedi profi yn gem galed a chystadleuol yn erbyn chwaraewyr corfforol gryfach.
Fel arwydd o safon chwarae sgwad y canolbarth cafodd y bechgyn wahoddiad i dreulio dau ddiwrnod yng Nghaerdydd a chymryd rhan yn sesiynau Trwydded A. 'Roedd llawer o enwogion proffesiynol y byd pêl droed yn mynychu y cwrs.
Bydd y pedwar bachgen yn chwarae i dîm dan 14eg Academi Porthmadog a gallwch eu gweld yn chwarae yn erbyn Merthyr yn y Drenewydd am 11.30 dydd Sul.(20/5/12)
Diolch i Iolo Owen am yr erthygl hwn.

Four Port Academy players born in 1998 played for Central Wales in the Cymru Cup
Sion Bradley (Blaenau Ffest), Ian Brown( Borth y Gest), Callum Morris (Barmouth), Ifan Jones. (Llanrug).
All four started the opening match against North Wales which was won by 5-1 with both Sion Bradley and Ian Brown firing goals during the opening half. The second game was also won this time by 2-0 against South Wales. Two excellent results and the performances were of a very high standard.
The third match was against the Wales squad a team which had been through selection trials and had played with each other previously and included players with Premier League Academies. So they faced a real challenge. They went down by 2-0 but it was good to see the boys competing with what was the national squad. It proved to be a competitive game against physically strong players.
A mark of the standard reached by the Central Wales squad was the invitation to spend two days in Cardiff to be part of the ‘A’ License Coaching sessions. Present at the course also were a number of well known professional players.
All four boys can be seen playing for Port Academy U-14s against Merthyr at Newtown on Sunday (20 May) at 11.30.
Thanks to Iolo Owen for this information.
18/05/12
Treialon Academi /Academy Trials

Mae'r gwaith o ddewis chwaraewyr i dymor 2012 - 2013 yn dechrau ar y Traeth nos Lun am 6.30 Mae croeso i unrhyw chwaraewr ymuno yn y treialon. Bydd Neil Roberts (Llanrug) yn hyfforddi y tîm dan 16 ac Aled Owen (Blaenau Ffestiniog) yn gweithio gyda y bechgyn dan 14.
Mae y broses o ddewis sgwad dan 11eg,12eg eisoes wedi dechrau gyda Mel Jones yng ngofal y timau.
Bydd un newid i staff yr academi yn nhymor 2012 - 2013 gyda Iolo Owen yn gorffen yn ei rôl fel hyfforddwr ac arweinydd yr academi (12-16 oed) ar ôl cyfnod o bedair blynedd, cyfnod a welwyd y timau o wahanol oedrannau yn chwarae mewn chwech rownd derfynol Cymru. Diolch i Iolo am ei gyfraniad mewn cyfnod mor llwyddiannus. Bydd yn ergyd i golli hyfforddwr a phrofiad o weithio ar lefel genedlaethol gyda Chymru.
Cewch y newyddion yn syth o’r Academi ar eu gwefan newydd drwy ddewis Academi o’r fwydlen ar y chwith.

The process of selecting players for the Academy for season 2012-13 will commence at the Traeth on Monday at 6.30. All young players are welcomed to join the trials. Neil Roberts (Llanrug) will coach the U-16s while Aled Owen (Blaenau Ffestiniog) will be working with the U-14s. The selection process for the 11 and 12 age group has already started with Mel Jones in charge.
Next season will see one change to the Academy staff with Iolo Owen deciding to end his four period as coach and leader of the academy (12-16). He has been part of the academy during a period which has seen the Port Academy involved in six Welsh Academy Finals. Thanks Iolo for your contribution in a period of remarkable success. It will be a blow to lose a coach who has had experience of working at a national level with Welsh teams.
You can keep up with all Academy news on their new website which you can find by selecting Academy in the menu on the left.
16/05/12
Trydydd ffeinal ar y Traeth / Third final at the Traeth

Bydd CPD Llanystumdwy yn chwarae clwb Trearddur o Ynys Môn yn ffeinal Cwpan Meditel Gwynedd ar y Traeth nos Wener (18 Mai). Dyma’r drydedd ffeinal i’w chwarae ar y Traeth yn ystod yr 8 niwrnod diwethaf. Bydd y gic gyntaf am 7.30 o’r gloch.
Trearddur oedd yn fuddugol o 2-0 gyda Asa Thomas yn sgorio ddwywaith.

CPD Llanystumdwy play Anglesey club, Trearddur in the Gwynedd Meditel Cup Final at the Traeth on Friday (18 May). This will be the third final held at the Traeth within 8 days. The game will kick off at 7.30 pm.
Trearddur lifted the trophy with a 2-0 victory. Asa Thomas scoring both.
16/05/12
Pob lwc i hogiau’r Academi / Best of luck to the Port Academy

Merthyr Tudful Bydd goreuon Academïau Cymru yn ymddangos yn y Drenewydd ddydd Sul nesaf, 20 Mai. Ac eleni eto bydd Academi Porthmadog yno ymysg y goreuon. Bydd Academi Port yn herio Academi Merthyr yn ffeinal Cwpan Academi Cymru Dan-14. Bydd y gic gyntaf yn y gêm hon am 11.30 am.
Mae na wledd o bêl-droed yn aros pawb gyda dwy ffeinal arall hefyd yn cael eu chwarae yn y Drenewydd, ddydd Sul. Bydd y ffeinal Dan-12 rhwng Rhyl a Hwlffordd yn cychwyn am 1.15 pm a’r ffeinal Dan-16 am 3.00 o’r gloch rhwng Airbus a Chastell Nedd. Bydd Sgorio yn ffilmio’r gemau.
Meddai Eddie Blackburn ar ran yr Academi, “Yn anffodus bydd rhaid i bawb deithio i’r ffeinal ar eu liwt eu hunain ond rym yn annog gymaint a phosib o gefnogwyr i deithio i’r Drenewydd i ddangos eu cefnogaeth.”
Os byddwch yn defnyddio Sat Nav y cyfeiriad ydy Parc Latham, Y Drenewydd, Powys SY16 1EN.

Top Academy players from all over Wales will be on view at Newtown next Sunday, 20 May and once more the Porthmadog Academy will be represented amongst the best. The Porthmadog Academy will take on the Merthyr Academy in the Wales Academies Cup U-14s final. The kick off is at 11.30 am.
A feast of football awaits, with the two other finals also being played at Newtown on Sunday. The U-12 final will be played at 1.15 pm between Rhyl and Haverfordwest County and the U-16 final at 3.00 pm between Airbus and Neath. The matches are will be filmed for Sgorio.
Eddie Blackburn on behalf of the Academy said, “Unfortunately travel to the final is under your own steam but we would welcome as many supporters as possible to support the lads.”
For Sat Nav users the game is at Latham Park, Newtown, Powys. SY16 1EN
17/05/12
Pedwar clwb HGA yng Nghwpan UGC / Four HGA clubs in WPL Cup

Cwpan UGC / WPL Cup Mae wyth o glybiau o’r cynghreiriau bwydo i gael eu gwahodd i gymryd rhan yn Nghwpan Uwch Gynghrair Cymru yn ôl gwefan Welsh-Premier. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei hailwampio. Mae hyn wedi’i grybwyll ar y wefan Port eisoes. Golyga hyn y bydd Port yn ogystal a’r tri clwb arall oedd yn safleoedd 2 -5 yn yr HGA -sef Rhyl, Bwcle a Penrhyncoch- yn cynrychioli'r gogledd.
Cambrian a Clydach, Ffynnon Taf, Hwlffordd a Bryntirion ydy’r pedwar uchaf Yng Nghynghrair Cymru (y de). Er nad yw’r fformat yn bendant eto mae’n debygol o fod yn gystadleuaeth o dan y llifoleuadau ar ffurf ‘knock-out’.
Gair o rybudd mae'r HGA yn dweud, "Dydy'r gynghrair ddim yn cyhoeddi dim tan fod yn deall ac yn cytuno ag unrhyw gynnig."

Eight feeder league clubs are to be invited to participate in a new-look Welsh Premier League Cup according to the Welsh-Premier website. This possibility has been previously floated on the Port website. It would mean that Port along with the other three clubs –Rhyl,Buckley and Penrhyncoch- who were placed 2-5 in the HGA could be the northern representatives.
Cambrian & Clydach, Taff’s Well, Haverfordwest County and Bryntirion Athletic are the top four in the Welsh League (South). Though the exact format is not yet known it is likely to be a floodlight competition, played on a knock out basis.
A note of caution however the HGA says,"The league does not announce anything until it fully understands and agrees with any proposal."
15/05/12
Penrhyn yn ennill ar y Traeth / Penrhyn win at the Traeth

Ychwanegodd CPD Penrhyndeudraeth Tarian Goffa Bob Owen, at bencampwriaeth Cynghrair Gwynedd a’r Cwpan Safelue, gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Llanllyfni ar y Traeth heno. Tom Hughes a Mathew Hughes (2) oedd y sgorwyr.

Penrhyndeudraeth FC completed a treble when they added the Bob Owen Memorial Shield to the Gwynedd League title and the Safelue Cup at the Traeth tonight. They defeated Llanllyfni by 3-1 with Tom Hughes and Mathew Hughes (2) the scores.
12/05/12
Ffeinal ar y Traeth / Final at the Traeth

Nos Fawrth nesaf bydd ffeinal cystadleuaeth Tarian Goffa Bob Owen yn cael ei chwarae ar y Traeth rhwng clybiau Penrhyndeudraeth a Llanllyfni. Bydd y gic gyntaf am 7 o’r gloch.
Llongyfarchiadau i Penrhyn am dymor rhagorol yn ennill pencampwriaeth Cynghrair Gwynedd a hefyd Cwpan Safelue Gwynedd ar y Traeth nos Wener ddiwethaf. Ei gwrthwynebwyr y tro yma hefyd oedd Llanllyfni gyda Penrhyn yn ennill o 5-3 ar ôl amser ychwanegol.

Next Tuesday evening the final of the Bob Owen Memorial Shield will be played at the Traeth between Penrhyndeudraeth and Llanllyfni. The kick off is at 7 pm.
Congratulations to Penrhyn for their excellent Gwynedd League title winning season and on winning the Gwynedd Safeflue Cup at the Traeth last Friday. Their opponents on this occasion too were Llanllyfni and Penrhyn were the winners by 5-3 after extra time.
11/05/12
Darren yn Tîm y Tymor / Darren in Team of the Season

Darren Thomas Mae Darren Thomas, dewis cefnogwyr Port yn Chwaraewr y Tymor, hefyd wedi’i ddewis yn ‘Tîm y Tymor’ y Gynghrair. Casglwyd y dystiolaeth o’r wybodaeth am chwaraewyr y gêm sydd yn cael ei hel yn rheolaidd. Gosodwyd y tîm yn ôl patrwm 4-3-3.:
Mike Platt (Penycae): Mark McGregor (Cei Conna), Lee Atherton (Bwcle), Mike Parry (Cegidfa), Shaun Dowling (Rhyl): Mark Entwhistle (Rhuthun), Graham Evans (Caersws), Ryan Williams (Rhyl): Will Thomas (Cegidfa), Mike Burke (Derwyddon Cefn), Darren Thomas (Porthmadog).
Wrth Gefn: Chris Mullock (Derwyddon Cefn), Sean Eardley (Llandudno), Gary O’Toole (Cei Conna), Craig Jones (Cei Conna), Mark Gornall (Penrhyncoch).
Mae’r math yma o ddewis bob amser yn creu ambell sioc ac mae’r ffaith fod Cegidfa â dau o chwaraewyr yn yr un ar ddeg, tra fod y pencampwyr Cei Conna a’r Derwyddon a aeth i ffeinal Cwpan Cymru ond ag un, yn un o rhain. Yr unig dîm arall a dau ydy’r Rhyl a orffennodd yn ail.

Port supporters’ Player of the Season, Darren Thomas has been included in the HGA ‘Team of the Season’. The regular man of the match information has been used to produce the team selection. It has been made using a 4-3-3 formation:
Mike Platt (Penycae): Mark McGregor (Connah’s Quay), Lee Atherton (Buckley), Mike Parry (Guilsfield), Shaun Dowling (Rhyl): Mark Entwhistle (Ruthin), Graham Evans (Caersws), Ryan Williams (Rhyl: Will Thomas (Guilsfield), Mike Burke (Cefn Druids), Darren Thomas (Porthmadog).
Subs: Chris Mullock (Cefn Druids), Sean Eardley (Llandudno), Gary O’Toole (Connah’s Quay), Craig Jones (Connah’s Quay). This kind of selection will always produce surprises and, the fact that Guilsfield have two representatives in the eleven while champions Connah’s Quay and Welsh Cup Finalists Cefn Druids having one each, is one of these. The only other club with two are the runners-up, Rhyl.
09/05/12
Lle olaf i Rhydymwyn / Final promotion spot for Rhydymwyn

Rhydymwyn Roedd y fuddugoliaeth o 2-1 dros Gresffordd neithiwr yn sicrhau na all Rhydymwyn orffen yn is nag ail yng Nghynghrair Ardal Wrecsam a dylent felly ennill eu lle yn ôl yn yr HGA. FC Cefn sy’n debygol o orffen ar y brig ond nid ydynt wneud cais am ddyrchafiad.
Felly mae’n edrych yn debyg fod materion y timau sy'n mynd i lawr ac yn cael eu dyrchafu wedi’u cwblhau.
Dyrchafu: Welsh Alliance: Hotspyrs Caergybi. Spar y Canolbarth: Rhayader. Ardal Wrecsam: Rhydymwyn.
I lawr: Aelwyd y Rhos a Llangefni.

A 2-1 win at Gresford last night makes it certain that Rhydymwyn can finish no lower than 2nd place in the Wrexham area league and should therefore secure the final promotion spot to the HGA. FC Cefn though the likely champions have not applied for promotion.
This would appear to complete the promotion and relegation of clubs to and from the HGA.
Promoted: Welsh Alliance: Holyhead Hotspurs. Spar Mid Wales: Rhayader. Wrexham area: Rhydymwyn.
Relegated: Rhos Aelwyd and Llangefni Town.
08/05/12
Profwch eich cryfder/ Test your strength

Ydych chi’n teimlo’n gryf a fawr o ddim i wneud wedi i’r tymor pêl-droed ddod i ben? Efallai byddai gennych ddiddordeb mewn rhoi prawf ar eich cryfder. Ym mis Mehefin bydd hen arfer yn cael ei adfer yng Nghricieth.
Y gamp fydd codi’r garreg fawr “Y Garreg Orchest” sydd tu allan i Neuadd Goffa Cricieth. Mae yna dair gwahanol math o fesur -symud y garreg o’r tir, codi hi at eich canol neu ei chodi at yr ysgwydd.
Dim ond hanes am chwe maen o’r fath sydd yng Nghymru ond mae’r traddodiad a elwir ‘Y Maen Camp’ yn raddol cael ei adfywio wrth i’r wlad ail ddarganfod un o’i hen arferion.
Bydd ‘Sialens y Garreg Cryfder’ lle geisir godi’r “Garreg Orchest” yn cael ei chynnal ar 16 Mehefin.
Bydd y gamp yn rhan o Wyl Flynyddol Cricieth gyda’r noddwyr Agri-trader yn cynnig gwobr o £1,000 i’r cyntaf i godi’r Garreg Orchest i uchder yr ysgwydd.
Cewch mwy o wybodaeth am y digwyddiad Cricieth Stone of Strength, 2, Glyn Terrace Penmorfa, Gwynedd LL49 9SA neu Newsday, Cricieth neu arlein www.cricciethmemorialhall.com

Feeling strong and with nothing to do now that the football season is over? You might be interested in testing your strength when an age old tradition is revived at Cricieth.
The challenge is to lift the large stone "Y Garreg Orchest" outside of the Cricieth Memorial Hall. There are three lifts that can be attempted, Clear the Ground, Waist High and Shoulder High.
Only six old feat stones are known to exist in Wales and this forgotten tradition, known as Y Maen Camp (The Feat Stone), is now slowly returning to Wales as the country rediscovers one of its lost customs.
The Stone of Strength Challenge day to lift ‘Y Garreg Orchest’ at Cricieth takes place on 16th June.
The Feat Stone Challenge Day is to become part of the town’s Annual Cricieth Festival and Sponsors Agri-trader are offering £1,000 to the first person who can lift the Cricieth Feat Stone to shoulder height.
Applications to take part in this event are available from Cricieth Stone of Strength, 2, Glyn Terrace Penmorfa, Gwynedd LL49 9SA, or can be picked up from Newsday, Cricieth, you can also apply online www.cricciethmemorialhall.com
06/05/12
Dim cythraul yn y Gwpan / No semi final shenanigans

Roedd y sylwadau a wnaed ynglyn â’r trefniadau ar gyfer Cwpan yr Academi yn anghywir ac mae Eddie Blackburn wedi gwneud ymddiheuriad diffuant gan obeithio nad yw'r hyn a ddywedwyd yn mynd i suro’r berthynas dda sydd wedi bodoli rhwng y ddau glwb. Dyma ddywedodd Eddie,
“Mae’n ymddangos fod y sylw blaenorol a wnes wedi’i seilio ar wybodaeth anghywir. Wedi i fi gael fy sicrhau nad oedd cyswllt wedi bod oddi wrth Airbus na’r Gymdeithas Bêl-droed nes i ymateb yn ddidwyll pan yn gwneud y sylw. Bellach rwy’n sylweddoli fod y wybodaeth yma yn anghywir a fod Airbus mewn gwirionedd wedi cysylltu gyda swyddogion Academi Porthmadog ac o’r farn eu bod nhw wedi cytuno i leoliad ac amser y gêm. Felly rwyf yn tynnu y sylwadau yn ôl ac yn ymddiheuro i’r Gymdeithas Bêl-droed ac i glwb Airbus am y sylwadau a wnaed, a hefyd i’r wefan am ei chysylltu â phennod anffodus ac yn gobeithio y cawn rhoi’r cyfan tu ôl i ni.”

The comments made about arrangements for the Academies Cup semi-final appear to have been wide of the mark and Eddie Blackburn has issued the following sincere apology trusting that what has been said will not sour the previous good relations between the two clubs. Eddie said earlier today,
“It appears that my previous comment was based on inaccurate information. Having been assured that no contact had been made by Airbus or FAW I acted in good faith when posting my comment. I now find that this information was in fact wrong and Airbus had in fact spoken to Porthmadog Academy officials and was under the impression that they had agreed to both venue and time. Therefore I withdraw my comments and unreservedly apologise to the FAW and Airbus for the comments made and also to the Porthmadog website for involving it in an unpleasant episode which I hope can now be put behind us.”
06/05/12
Academi Dan-14 yn y Ffeinal/ Academy U-14s reach Final

Academi / Academy Llongyfarchiadau i Academi Porthmadog a sicrhaodd eu lle yn Ffeinal Cwpan Academi Cymru gyda buddugoliaeth o 4-2 dros Airbus ar gae Dinbych pnawn yma. Mae adroddiad gwefan Dinbych yn dweud:
“Mewn gêm gyffrous Airbus oedd ar y blaen o 2-1 ar yr hanner ond cafodd y gêm eu throi wyneb i waered mewn 10 munud mawr ar ddechrau’r ail hanner pan newidiwyd y gêm yn llwyr â Port yn ennill o 4-2.”
Ar Ddydd y Ffeinal yn y Drenewydd ar ddydd Sul 20 Mai, bydd Porthmadog yn chwarae enillwyr y gêm rhwng Merthyr a Cambrian a Chlydach.

Congratulations to the Porthmadog Academy U-14s who this afternoon reached the Welsh Academy Cup Final following a 4-2 win at Central Park, Denbigh over Airbus. The Denbigh Town website reported:
“An entertaining encounter saw Airbus go in at half time leading 2-1 only to see the tie turned on its head in a whirlwind ten minute period at the start of the second half which saw Porthmadog overturn the 2-1 deficit and finish the game eventual 4-2 winners.”
On Finals Day at Newtown on Sunday 20 May Porthmadog will play the winners of the tie between Merthyr and Cambrian and Chlydach.
06/05/12
Mwy am y timau sy'n symud i fyny ac i lawr / More on promotion and relegation matters

Y Drenewydd / Newtown Wrth ddychwelyd ar ôl bod i ffwrdd am ychydig o ddyddiau gwelir fod rhai pethau'n gliriach o ran y timau sy'n mynd i fyny ac i lawr ond nid yw pethau wedi eu setlo’n derfynol. Ni fydd y Drenewydd yn dod i lawr gan fod Hwlffordd wedi gorffen yn 3ydd yng Nghynghrair Cymru (y de) ar ôl i Ffynnon Taf ennill eu gêm olaf a gorffen yn ail. Mae Llanrhaeadr yn elwa hefyd o lwc dda y Drenewydd ac yn medru edrych ymlaen at ail dymor yn yr HGA. Ond mae’n gwestiwn os ydy’r sefyllfa lle nad oes neb yn dod i lawr yn un iachus i’r Uwch Gynghrair. Ond un peth sy’n sicr mae angen i’r Gymdeithas Bêl-droed fynd i’r afael a chynghrair lle mae cyn lleied o uchelgais i sicrhau dyrchafiad i’r lefel uchaf.
Mae dau glwb wedi sicrhau dyrchafiad i’r HGA. Cafodd Caergybi fuddugoliaeth gyfforddus yn eu gêm olaf o’r tymor i gael y blaen ar Dreffynnon, er gwaethaf buddugoliaeth o 7-0 dros y Bermo i’r clwb o Sir Fflint. O’r Canolbarth bydd dyrchafiad i Rhaeadr, blwyddyn ar ôl colli eu lle yn yr HGA. Gyda Rhydymwyn o ardal Wrecsam hefyd ar fin adennill eu lle yn yr HGA mae cwestiynau’n codi ynglyn â cryfder cymharol y cynghreiriau bwydo. Mae’n bosib bydd rhaid i Rhydymwyn ddibynnu ar orffen yn yr ail safle gan mai FC Cefn, clwb sydd heb wneud cais am ddyrchafiad, sy’n debygol o orffen ar y brig. Ni fydd y gynghrair hon yn cwblhau eu gemau tan 12 Mai.

Returning after a few days away I find that promotion and relegation matters are now clearer, though not entirely settled. The demotion of Newtown is no more, as Haverfordwest finish in 3rd place in the Welsh League (south) after Taffs Well won their final match to clinch 2nd place. Good fortune for Newtown means that Llanrhaeadr also benefit ad will enjoy another HGA season. Whether it is healthy situation where once again no clubs are demoted from the WPL is very much open to discussion. But one thing is certain the FAW need to intervene in a league where there is so little ambition to gain promotion to the highest level.
Two clubs have been promoted to the HGA. Holyhead Hotspur secured a comfortable win in their final game to pip Holywell who ended their season a point short despite a 7-0 last day win over Barmouth. Rhayader demoted last season, top the Spar Mid Wales League, finishing a point ahead of Montgomery. With Rhydymwyn also set to make a quick return from the Wrexham area, the relative strengths of the three feeder leagues is called into question. Rhydymwyn may have to rely on a 2nd place finish as likely champions FC Cefn have not applied for promotion. This league does not finish until 12 May.
Newyddion cyn 06/05/12
News before 06/05/12

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us