|
![]() |
|
|
|
|||
|
01/05/12 Dyddiad Cwpan Academi Cymru / Welsh Academies Cup Semi Final date Bydd rownd cynderfynol, Cwpan Academi Cymru Dan 14, yn cael ei chwarae ar gae CPD Dinbych ar bnawn Sul, 6 Mai. Bydd y gic gyntaf am 2 o’r gloch. Cewch fwy o fanylion a dilyn newyddion Academi Port ar eu gwefan newydd drwy glicio ar ‘Academi’ yn y fwydlen. Cewch hefyd gyfeiriad y wefan newydd yn yr adran ‘Cysylltiadau’. The Welsh Academies Cup, Under 14 semi final against Airbus is set to be played on Sunday 6th May. The game will be played at the Denbigh Town FC ground. The kick off will be at 2pm. You can find further details and follow events at the Porthmadog Academy on their new website by clicking on ‘Academy’ in the menu on the left. You can also find the new Porthmadog Academy website address in the ‘Links’ section of this website. 30/04/12 Tote mis Ebrill / April Tote Y rhifau lwcus yn tote mis Ebrill ydy 25 a 29. Nid oedd enillydd –hyn i’w gadarnhau. Bydd y wobr o £612 yn mynd drosodd i fis Mai. Bydd tote Mai yn cael ei dynnu ar nos Wener, 25 Mai, yn ystod y noson Bingo yn y Ganolfan. Rhaid gwneud unrhyw gais cyn 8 o’r gloch, nos Wener, 4 Mai. The winning numbers in the April Monthly Tote were 25 and 29, subject to confirmation. There were No Winners, therefore the prize £612 will be carried over to the May Monthly Tote, which will be drawn on Friday 25th May at the weekly Bingo at Y Ganolfan. Any claims must be made before 8pm on Friday 4th May. 28/04/12 Pwy ddaw fyny? / Who comes up?
Pwy sy’n dod i fyny? Heb ei setlo eto ond mae buddugoliaeth Caergybi dros Treffynnon yn eu gwneud nhw yn ffefrynnau pendant. Mae gan Caergybi a fantais o dri phwynt ar y brig. Dwy gêm sydd gan Treffynnon ar ôl, tra fydd Caergybi yn gorffen eu tymor gyda gêm yn erbyn Llanrug ddydd Sadwrn.Rhayader ydy’r ffefrynnau i ddychwelyd o’r canolbarth. Mae angen o leiaf pwynt arnynt nos Wener yn erbyn Llanidloes. Rhydymwyn sydd ar y blaen yn ardal Wrecsam ar ôl curo Llangollen heddiw ond mae llawer o gemau yn dal i’w chwarae yn y gynghrair hon. None of the promotion matters are yet finally settled, but Holyhead’s 3-1 win over rivals Holywell now makes them firm favourites. They have opened a 4 point gap at the top. Holywell have two games remaining while Holyhead end the season at home to Llanrug on Saturday. Rhayader look favourites to return to the HGA from mid-Wales. They need at least a point from next Friday’s home game with Llanidloes on Friday. While Rhydymwyn, winning today against Llangollen, are favourites to gain promotion from the Wrexham area but there are a many fixtures still to play in this league. 27/04/12 Canlyniadau apêl y trwyddedu/ Effects of the Licence Appeals
Gall penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu heddiw, i wrthod y Drwydded Ddomestig i Gastell Nedd gael effaith ar Gynghrair Huws Gray. Bydd Castell Nedd yn disgyn i Gynghrair Cymru (y de). Bydd hyn yn golygu fod Caerfyrddin yn aros i fyny tra fod dyfodol y Drenewydd, yn yr Uwch Gynghrair, yn dibynnu ar Ffynnon Taf sydd â dwy gêm yn weddill a phedwar pwynt tu ôl i Hwlffordd. Mae Hwlffordd eisoes wedi gorffen eu gemau. Os bydd y Drenewydd yn osgoi’r cwymp, yna bydd Llanrhaeadr ym Mochnant yn cael tymor arall yng Nghynghrair Huws Gray.Gan fod Castell Nedd yn disgyn, bydd cyn rheolwr Port, Tomi Morgan, sydd newydd ennill y frwydr gyda Aberystwyth i aros i fyny, rwan yn rhan o’r gemau ail gyfle am le yn Ewrop! Mae’r Rhyl wedi ennill eu apêl am drwydded ond ni apeliodd Port ond maent yn hyderus o ennill trwydded at ddiwedd y tymor nesaf. Today’s decision of the Licensing Appeals Committee refusing Neath a Domestic Licence could have repercussions for the HGA. Neath will now be demoted to the Welsh League (south). This gives Carmarthen Town a reprieve and Newtown’s future in the WPL now depends on whether Taff’s Well can overtake 2nd placed Haverfordwest in the Welsh League (south). Haverfordwest have completed their fixtures while Taff’s Well, who are 4 points adrift, have two games left. Should Newtown be reprieved then Llanrhaeadr ym Mochnant will enjoy a second season in the HGA. Neath’s demotion means that former Port manager Tomi Morgan, fresh from surviving a relegation battle with Aberystwyth, will now be involved in play-offs for a place in Europe! Rhyl have won their licence on appeal but Port decided not to appeal but are confident of achieving their licence next season. 27/04/12 Gwneud gwaith Dave Jones yn anodd / Making the job harder for Dave Jones Yn ei flog ar wefan y Daily Post mae Dave Jones yn dweud ei fod ei ymdrechion “ ... i roi mwy o sylw i bêl-droed lleol ar y Llun yn y Post” yn cael ei wneud yn anodd, a hynny yn ddiangen. Mae’n dweud “Rwy’n treulio oriau hir ar y Sadwrn a’r Sul yn ceisio sicrhau fod y sylw i bêl-droed yn y Gogledd mor gynhwysfawr a phosib. Oriau heb dâl ydy rhain –rwy’n gwneud hyn yn ychwanegol allan o gariad at y gêm.” Mae’n enwi Cynghrair Huws Gray yn un arbennig o anodd, “Rwy’n brwydro’n gyson i gael gwybodaeth o’r clybiau. Hyn er waethaf y ffaith fod yr ail rheng o bêl-droed Cymru yn cael fwy o ofod yn y Daily Post na gafodd erioed o’r blaen...” Nid yw Port ymysg yr euog rai, gan fod Dave Jones yn dweud amdanynt, “Mae yna eithriadau. Porthmadog sy’n ymateb orau –adroddiad llawn bob tro ar eu gwefan ar nos Sadwrn , ennill neu cholli, gan gynnwys sgorwyr y gwrthwynebwyr.” Enwi’r Fflint hefyd am “ymateb yn dda” ac mae “Llandudno wedi bod yn gefnogol hefyd ..... tra fod Rhyl fel arfer yn rhoi adroddiad i fyny ar nos Sadwrn neu yn gynnar ar y Sul.” Ond profiad cyffredinol Dave Jones ydy fod “ .... nifer o glybiau yn poeni dim.” Ymysg y rhai mwyaf siomedig mae’n enwi rhai o geffylau blaen yr adran. “Cyfnod anodd i’r diwydiant papurau newydd ydy hwn” meddai gan alw am fwy o gefnogaeth o’r clybiau os ydynt am weld sylw digonol. Mae un o gas bethau Dave Jones yn canu cloch, “... y sylwebyddion tywydd teg sy’n gyrru adroddiad pan fod y clwb yn ennill ond dim siw na miw o’u cyfeiriad pan fod y clwb yn colli.”!!! Dave Jones, in his Daily Post blog, says that he finds his efforts, “.... spearheading the local football coverage in Monday's Post Match pullout” is being made unnecessarily difficult. He says “I spend many long hours on a Saturday and Sunday trying to make the Daily Post's coverage of North Wales’ football as comprehensive as it can be. These are unpaid hours - I do it as an ‘extra’ for the love of the game.” He singles out the Huws Gray Alliance as an especially difficult problem where he says, “..... I continually struggle getting information from ...... clubs. This despite the fact that, “This second-tier league gets more space in the Daily Post than it’s ever done... “ Port are not however named amongst the guilty parties. Dave Jones says, “There are exceptions. Porthmadog are the best responders - always a good length report, win or lose, on their website on a Saturday including opposition goalscorers.” Flint Town United are also described as “excellent correspondents” and “Llandudno have also been very supportive ...... while Rhyl generally put up a report on a Saturday or early on a Sunday.” But Dave Jones’ experience is that, “... some clubs don’t bother at all.” Among the most disappointing he names some of the league’s front runners. In “difficult times for the newspaper industry” more support from some clubs will be required. One group Dave Jones mentions will ring a bell with many “....the fair weather brigade - send a report if we win and don't give it a second thought if we lose.”!!!! 24/04/12 Llongyfarchiadau a Diolch / Congratulations and Thanks Yn y lluniau gwelir Chwaraewr y Flwyddyn y cefnogwyr, sef Darren Thomas, a Chwaraewr y Flwyddyn y chwaraewyr, sef Grahame Austin gyda’u tlysau i gydnabod eu llwyddiant yn 2011/12. Hoffai swyddogion CPD Porthmadog ddiolch o galon i Aled a Helen Ellis, Minffordd, a’r teulu am eu haelioni unwaith eto eleni, yn rhoi’r tlysau a gyflwynwyd i’r ddau chwaraewr. Hefyd diolchir i’n prif noddwyr yn 2011/12 sef Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri. Braf iawn ar rhan y clwb ydy cysylltu a chwmni’r Trên Bach mewn cyfnod tra gyffrous pan agorwyd y lein drwy Eryri o Gaernarfon i Borthmadog ac ymlaen i Flaenau Ffestiniog. Gwelir y chwaraewyr a’r crysau sy’n arddangos enw’r noddwyr. The photos show Supporters Player of the Year Darren Thomas, and Players Player of the year Grahame Austin are shown with the mementoes of their 2011/12 awards. Porthmadog FC officials would also like to express their appreciation, and to thank Aled and Helen Ellis, Minffordd, and family for their generosity in once again donating the awards presented to the two players. Thanks also to the Ffestiniog and Welsh Highland Railway who are our main sponsors for 2011/12. It has been especially exciting time to link up with the company of the most famous of the ‘Little Trains of Wales’ with the line being opened all the way through Snowdonia from Caernarfon to Porthmadog and on to Blaenau Ffestiniog. The players are wearing the kit which has the sponsor’s name. 24/04/12 Saith perffaith Port / The Magnificent Seven
Daeth tymor 2011/12 i ben ar nodyn uchel iawn wrth i’r clwb sicrhau y ‘saith perffaith’ o fuddugoliaethau cynghrair, a hynny’n olynol. Yn ogystal a gadael inni feddwl am beth allai fod wedi digwydd y tymor hwn, mae’n dipyn o gamp ynddo’i hun, ac yn codi’r ysbryd wrth edrych at y tymor nesaf.Mae’r ystadegau yn creu argraff hefyd. Sgoriwyd 19 o goliau yn ystod y rhediad gan adael ond 5 i fewn. Hefyd roedd yna dair gêm lle na adawyd yr un gôl i fewn. Sgoriodd chwaraewr y flwyddyn, Darren Thomas, 7 gôl yn y 7 gêm a’r newydd ddyfodiad, Graham Boylan yn sgorio 4 yn y 7 gêm. Mae dyfodiad Graham wedi bod yn ffactor bwysig gan ei fod wedi arwain y llinell yn rhagorol ers ymuno o Congleton ac wedi profi buddugoliaethau yn unig mewn gemau cynghrair ers ymuno. Medrwch ychwanegu i’w 4 gôl eu gyfraniadau pwysig i nifer o’r goliau eraill a sgoriwyd. Mae ei bresenoldeb hefyd wedi golygu fod Rhys Roberts yn symud yn ôl i’w safle gorau yng nghanol yr amddiffyn gyda Ryan Davies yn mynd yn gefnwr i gwblhau pedwar cefn effeithiol iawn. Mae hyn yn fwy na digon o rheswm inni gyd fod yn edrych ymlaen yn barod at dymor 2012/13! Port ended their league programme for 2011/12 on a high note achieving a perfect seven consecutive wins. As well as making us wonder what might have been, it is a morale booster and an achievement in itself. The stats are impressive as well. Goals scored during the run, 19 with only 5 conceded and there have also been 3 clean sheets. 7 goals have been scored in 7 games by player of the season Darren Thomas, and 4 goals in 7 games by new signing Graham Boylan. Graham’s arrival at the Traeth has been a significant factor as he has lead the line impressively and since his arrival from Congleton Town has yet to be on anything but the winning side in a league match. You can add to his goal tally several well judged assists. His arrival has allowed Rhys Roberts to drop back to his best position at the centre of the defence with Ryan Davies switching to right back in a highly effective back four. All of this is more than sufficient reason to have us already eagerly looking forward to season 2012/13! 19/04/12 Gareth Parry yn ymweld â Juve / Gareth Parry visits Juve Fe fyddai cefnogwyr wedi sylwi mai Campbell Harrison oedd yn gyfrifol am y tîm yn ystod buddugoliaeth Sadwrn diwethaf yn erbyn Fflint. Y rheswm: roedd y rheolwr Gareth Parry allan yn yr Eidal fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed. Gobeithio y bydd rhai o'r tips mae Gareth wedi eu dysgu yn ddigon i ysbrydoli'r tîm yn barod at tymor 2012-13! Supporters will have noticed that Campbell Harrison was in charge of the team during last Saturday's victory over Flint. The reason: manager Gareth Parry was out in Italy on a visit arranged through the Welsh Football Trust. Lets hope that some of the tips that Gareth learns out there will be enough to inspire the team to great things during the 2012-13 season! 19/04/12 Cic gyntaf 2 o’r gloch yn Rhuthun / 2 pm kick off at Ruthin Dylai cefnogwyr sy’n bwriadu teithio i Rhuthun ddydd Sadwrn sylwi fod y gic gyntaf am 2 o’r gloch. Supporters should note that the final game of the 2011/12 season at Ruthin on Saturday will kick off at 2 pm. 18/04/12 Gwefan newydd yr Academi / New website for academy Mae Academi lwyddiannus CPD Porthmadog wedi sefydlu gwefan newydd sbon a fydd yn rhoi’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am eu timau dan-12, dan-14 a dan-16. Cyfeiriad y wefan newydd yw www.pitchero.com/clubs/cpdporthmadogacademi/ neu gallwch fynd ati drwy glicio ar Academi ar y fwydlen ar ochr chwith y wefan hon. Porthmadog FC’s successful Academy have set up a brand new website that will provide the latest news and information on their under-12, under-14 and under-16 teams. The new website’s address is www.pitchero.com/clubs/cpdporthmadogacademi/ or you can access it by clicking on Academy on the menu on the left hand side of this website. 19/04/12 Gêm olaf y tymor / The Final game Gêm olaf y tymor gyda’r ymweliad â Rhuthun yn dod a tymor 2011/12 i ben. Mae’n amser da i fwrw golwg yn ôl. Byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn golygu fod Port yn gorffen yn 3ydd ar y cae ac yn 4ydd yn yr ystafell bwyllgor. Bwcle, sydd wedi gorffen eu gemau, fydd y 3ydd swyddogol tra fydd Rhyl yn ail os fyddan, yn ôl y disgwyl, yn curo Aelwyd y Rhos. Mae gan Port a’r Rhyl ganlyniadau sy’n union yr un fath wedi ennill 18 o gemau, 5 yn gyfartal a cholli 6. Yr unig bethau sy’n eu gwahanu ydy gwahaniaeth goliau gwell y Rhyl a’r tri phwynt a ddiflannodd ar lawr yr ystafell bwyllgor. O edrych yn ôl dros y tymor, un o’r uchafbwyntiau ydy’r rhediad diguro tan ddiwedd Hydref. Hefyd y rhediad o fuddugoliaethau i orffen y tymor. Hyn yn adlewyrchu’n dda iawn ar y chwaraewyr gan y gallai colli tri phwynt ar amser tyngedfennol fod wedi difetha’r tymor yn llwyr. Roedd sicrhau 4 pwynt yn y gemau cynghrair yn erbyn Cei Conna a’r Rhyl hefyd yn uchafbwynt. Efallai mai y peth gorau un am y tymor, ydy’r safon a’r steil o bêl-droed a chwaraewyd. Gwnaed hyn i gyd er waethaf y rhestr hir o anafiadau a gychwynnodd cyn i’r tymor ddechrau gan arwain at golli Carl Owen, blaenwr allweddol, am y tymor cyfan. Dilynwyd hyn gydag anafiadau drwg i Marcus Orlik, Gareth Jones Evans, Richard Harvey ac Aran Richmond. Mae wedi bod yn dipyn o gamp i orffen mor agos at y brig gyda charfan fechan a honno wedi’i chwtogi’n fawr gan anafiadau. Y cyfan yn ein gadael i ddychmygu beth fyddai’r canlyniad gyda charfan lawn ac hefyd heb golli tair gêm allweddol ym mis Ionawr. The last game of the season and a visit to Ruthin will bring down the curtain on the 2011/12 season. It is a good time perhaps to take stock. A win on Saturday and Port will end the season in 3rd place on the pitch but only 4th in the committee room. Buckley, who have now completed their fixtures, will achieve an official third place while Rhyl will be second, if as expected they defeat Rhos Aelwyd. Both Rhyl and ourselves approach the final game with identical playing records having won 18 games, drawn 5 and lost 6 and are separated in the table only by Rhyl’s considerably better goal difference -as well of course as those three points which were lopped off in the committee cutting room. Looking back over the season amongst the best of the highlights was the early season run which saw us remain unbeaten until the end of October. The run of straight wins to close the season reflects well on the players as the deduction of three points at a crucial time could have totally destroyed the season. Picking up four league points against both champions Connah’s Quay and Rhyl was a big plus. Perhaps the biggest plus of all has been the style and quality of the football played. All this has been achieved against a background of an unprecedented injury list which started in pre-season robbing us of key forward Carl Owen with Marcus Orlik, Gareth Jones Evans, Richard Harvey and Arran Richmond following with further serious injuries. It has been a considerable achievement to end the season so close to the top with a small squad ravaged by injuries. We are left to wonder what would have happened with a fully fit squad and had we also avoided that bad run of three defeats in January. 17/04/12 Campbell yn llongyfarch Cei Conna / Campbell says well done to the Nomads
Yn y golofn ‘View from the Bench’ yn rhaglen ddydd Sadwrn, mae Campbell Harrison yn llongyfarch yn gynnes y clwb o Lannau Dyfrdwy ar eu tymor arbennig o lwyddiannus.Meddai Campbell, “Rwy’n siwr ein bod i gyd yn llongyfarch Cei Conna am ddal eu gafael ar bencampwriaeth y gynghrair ac hefyd am hawlio eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru wedi’r ffars o wrthod Trwydded Ddomestig y llynedd. Da iawn Mark McGregor a’i chwaraewyr. Dydi'r tabl ddim yn dweud celwydd ac maent yn llawn haeddu’r ganmoliaeth sy’ n dilyn eu llwyddiant eleni eto. Gobeithio y byddant yn mwynhau eu hunain yng ngwlad yr addewid!” Y tebygrwydd ydy na fydd clwb o’r de yn ennill dyrchafiad eleni eto sy’n golygu mai dim ond un clwb fydd yn colli eu lle yn UGC. Caerfyrddin, Aberystwyth a’r Drenewydd sydd wedi bod yn y frwydr. Os ddaw’r Drenewydd i lawr fydd yna ychwanegiad cryf arall i’r Gynghrair Undebol.
In the ‘View from the Bench’ in Saturday’s programme Campbell Harrison pays a warm tribute to the Deeside club on their outstanding and successful season.He says, “I am sure we would all like to congratulate Connah’s Quay Nomads on retaining their league title and taking their rightful place in the Welsh Premier next season after last season’s failed Domestic Licence farce. Well done to Mark McGregor and his players. The league table doesn’t lie and they fully deserve the plaudits again this year. I hope they enjoy their time in the promised land!” It looks like no southern team will be promoted again which means that only one team will be relegated from the WPL. Carmarthen, Aberystwyth and Newtown have been in the frame for relegation. If the latter come down it will mean another strong addition to the Cymru Alliance.” 15/04/12 Dan-14 drwodd / U-14s go through
Am yr ail dro y penwythnos hwn chwaraewyd gêm rhwng Porthmadog a’r Fflint ar y Traeth. Ynghynt heddiw (15 Ebrill) llwyddodd y tîm Dan-14 ail adrodd llwyddiant y prif dîm a churo’r Fflint, y tro yma yn Rownd 8-olaf Cwpan Academi Cymru. Roedd angen amser ychwanegol cyn sicrhau’r fuddugoliaeth o 3-2 wedi i’r sgôr fod ynghlwm ar 2-2 ar ddiwedd yr amser llawn. Gôl ym munud olaf amser ychwanegol sicrhaodd lle Port yn y rownd cynderfynol.Yn y gêm arall yn y gogledd cafodd Airbus fuddugoliaeth o 3-2 dros TNS. Draw agored fydd yn y rownd gynderfynol gyda’r gemau yn cael eu chwarae ar gae niwtral. For a second time this weekend Porthmadog played Flint at the Traeth. Earlier today (15 April) the U-14s repeated the league success of their seniors, beating Flint this time in the Welsh Academies Cup Quarter Final. They needed extra time to secure a 3-2 win after the scores had been level on 2-2 at full time. A last minute extra time winner secured the semi-final place for Port. The other northern U-14 quarter final resulted in a 3-2 win for Airbus over TNS. The semi-final draw will be open with the matches played on a neutral ground. 14/04/12 Chwaraewyr y Tymor / Players of the Season
Darren Thomas ydy dewis y cefnogwyr yn Chwaraewr y Flwyddyn 2011/12. Bu’r cefnogwyr yn pleidleisio yn ystod y gêm bnawn Sadwrn yn erbyn y Fflint. Mewn tymor llwyddiannus gwnaeth nifer o chwaraewyr eraill ddenu pleidleisiau ond nid yw’n syndod efallai fod chwarae ymosodol Darren wedi denu llygad y cefnogwyr. Mae ei rediadau a’i rheolaeth o’r bêl wedi dod a chyffro i’r Traeth.I Grahame Austin aeth pleidlais y chwaraewyr fel Chwaraewr y Tymor 2011/12. Felly i ben arall y cae mae’r chwaraewyr wedi edrych, at y trefnydd yn y cefn, ac erbyn hyn mae pawb yn ymwybodol o’r hyn a olygai Gareth Parry pan ddywedodd amdano, “Fo ydy’r chwaraewr uchaf ei gloch imi gyfarfod erioed!”. Mae bob amser yn anrhydedd i gael eich dewis gan eich cyd chwaraewyr. Darren hefyd dderbyniodd wobr y Prif Sgoriwr gydag 16 o goliau yn y gynghrair a’r cwpanau yn ystod ei dymor cyntaf ar y Traeth. Wrth gwrs fe allai fod hat tric yn y gêm olaf! Wrth gyflwyno’r gwobrau diolchodd Campbell Harrison i’r chwaraewyr am eu hymroddiad drwy’r tymor. Diolchodd hefyd i Phil, Ian a Tudor am baratoi cae a oedd y gorau yn y gynghrair. Diolch i deulu Dylan Ellis, Minffordd am unwaith eto noddi'r gwobrau.
Darren Thomas is the supporters Player of the Season for 2011/12. Voting took place during Saturday’s home game against Flint Town United. In what has been a good season several other players attracted support but unsurprisingly perhaps Darren’s skilful attacking play has taken the eye of supporters. His mazy runs and close control have brought excitement to the Traeth.The players have voted Grahame Austin as the players Player of the Season 2011/12. The players have therefore looked to the opposite end of the pitch to the defensive organiser, and all of us now know what Gareth Parry meant when he described Grahame as, “The most vocal player I’ve ever met!” There is always kudos to be taken from being named by your own fellow players. Darren also took the Top Scorer award for his 16 goals in league and cup games, in his first season at the Traeth. There is always time for a final day of the season hat trick! When presenting the awards Campbell Harrison paid tribute to the players for their dedication throughout the season. He also thanked Phil, Ian and Tudor for preparing the best playing surface in the league. The club is grateful to Dylan Ellis Minffordd and family for sponsoring the awards again this season 13/04/12 Dan-14 yn Rownd 8 olaf bore Sul /U-14s play Q-final Sunday Bydd tîm Dan 14 Academi Porthmadog yn chwarae yn Rownd Wyth Olaf Cwpan Academi Cymru bore Sul nesaf 15 Ebrill. Bydd y gêm ar y Traeth â’r gic gyntaf am 11 am. Y gwrthwynebwyr fydd y Fflint. Dewch i gefnogi’r hogiau yma sydd wedi chwarae pêl-droed ardderchog drwy’r tymor. Y tîm Dan14 enillodd y gynghrair o 12 clwb, gyda record dda o ennill 8 gêm gyda un yn gyfartal o’u 11 gêm. Daeth tair Academi arall –Airbus, TNS a’r Fflint- yn gyfartal ar y brig gyda 25 o bwyntiau ond roedd gan Port dipyn gwell gwahaniaeth goliau o 51 gôl wedi iddynt sgorio 66 gôl a colli ond 15 gôl. Dim ond dau bwynt tu ôl i Llandudno yn y 4ydd safle oedd y tîm Dan 16, a felly yn dod o fewn trwch blewyn i sicrhau eu lle yn yr wyth olaf. Roedd ganddynt record o 6 buddugoliaeth ac un gêm gyfartal allan o’u 11 gêm. Mae Eddie Blackburn yn ychwanegu “Rhaid hefyd canmol y tîm Dan 12 a frwydrodd yn galed drwy’r tymor a hyn er waethaf colli pedwar o chwaraewyr da i Academi arall ar ddechrau’r tymor. Mae’r Academi yn ddiolchgar am gael chwarae nifer o gemau ar y brif gae ar y Traeth a hefyd am y cae ymarfer newydd ardderchog sydd wedi ei osod ac wedi arbed llawer o arian i’r Academi. The Porthmadog Academy U-14s play their Quarter Final game in the Welsh Academies Cup next Sunday morning, 15 April. The game will kick off at 11 am and their opponents will be the Flint Academy. Come and support the lads who have played outstandingly well this season. The U14s topped their league of 12 club academies, winning 8 and drawing one of their 11 fixtures. Three other academies –Airbus TNS and Flint- all ended on 25 points, but top spot went to the Porthmadog U14s who had a much superior goal difference of 51 having scored 66 goals and conceded only 15. The U16s missed out on quarter final qualification losing out to Llandudno for 4th place by 2 points. They had a playing record of 6 wins and a draw in their 11 matches. Eddie Blackburn adds, “A special mention must be made of the U12s who battled manfully all season despite losing four very good players to poaching at the start of the season.” The Academy are grateful that they have been allowed to play some of their games on the main Traeth pitch and also for the provision of a super new training facility which has saved the Academy a considerable amount of money. 12/04/12 Rhagolwg: v Fflint / Preview: v Flint
Bydd Port adref am y tro olaf y tymor hwn ddydd Sadwrn. Eu gwrthwynebwyr fydd y Fflint. Mae tymor yr ymwelwyr wedi colli dipyn o’i awch dros y ddau fis ddiwethaf ar ôl bod i fyny efo’r ceffylau blaen. I gael hyd i’w buddugoliaeth ddiwethaf yn y gynghrair rhaid mynd yn ôl i’r gêm yn erbyn Llanrhaeadr ar y 18 Chwefror. Yn dilyn hyn maent wedi colli dwy gêm gyda phump yn gyfartal.Ond mae ein gemau blaenorol gyda’r Fflint yn profi nad ydynt yn dîm i’w gymryd yn ysgafn. Yn y gêm gyfatebol ar Gae y Castell roedd angen gôl dwy funud o’r diwedd gan Marcus Orlik i sicrhau tri phwynt, pwyntiau a ddiflannodd wedyn mewn ystafell bwyllgor. Y penwythnos diwethaf cyfartal oedd hi rhwng y Fflint a Rhos Aelwyd, clwb sy’n brwydro yn y gwaelodion. Pedwar diwrnod ynghynt rhannodd y Fflint wyth gôl gyda ‘r Derwyddon sydd wedi ennill eu lle yn ffeinal Cwpan Cymru. Wedi iddynt fod ar ei hol hi o 3-1 daethant yn ôl i fod yn 4-3 ar y blaen, cyn i gôl yn yr amser ychwanegol ddwyn y fuddugoliaeth oddi wrthynt. Bydd Port, wedi’u penwythnos ffwrdd, yn awyddus i barhau â’r rhediad ardderchog o bum buddugoliaeth yn olynol ym mis Mawrth. Rhediad sydd wedi codi’r clwb ar adeg pan oedd eu tymor yn colli momentwm. Rhaid llongyfarch y tîm rheoli am adfywio tymor a allai fod wedi llusgo’n ddibwrpas. Port take on Flint at the Traeth on Saturday, in the final home match of the season. Saturday’s visitors have seen their season tail off over the past two months after previously being in the promotion mix. For their last league win we have to look back to the 18 February when they defeated Llanrhaeadr. Their record since consists of five draws and two defeats. But our previous meetings with Flint show that they are not a side to be taken lightly. In the corresponding game at Cae y Castell it needed an 88th minute Marcus Orlik goal to secure the three points, points which were subsequently taken from us in a committee room. Last weekend Flint were held to a draw by strugglers Rhos Aelwyd, but four days earlier they were involved in a free scoring 4-4 draw with Welsh Cup finalists Cefn Druids. They came back from being 3-1 down to lead 4-3 only to see the win taken from them by an added time goal. Port after their weekend off will be looking to continue the excellent run of five straight March wins which lifted a season that was threatening to lose momentum. The management team are to be congratulated for reviving a season which could easily have gone into a meaningless drift. 10/04/12 Wali Tomos yng Nghlwb y Traeth / Wali Tomos at the Traeth Clubhouse
Bydd Wali Tomos (Mei Jones) yn dod a’i bersbectif unigryw am y byd pêl-droed a bywyd yn gyffredinol i Glwb y Traeth nos WENER, 20 EBRILL mewn noson o adloniant, o hwyl a chân. Yno hefyd bydd y Glaslanciau a Lleisiau Lliwedd. Bydd y drysau yn agor am 7 o’r gloch.Pris y tocyn ydy £6. Tocynnau ar gael o Kaleidoscope, Pikes neu Siop Eifionydd. Wali Tomos (Mei Jones) will bring his unique perspective on the world of football and life in general in an evening of Welsh language entertainment and song to the Traeth Clubhouse on FRIDAY, 20 APRIL. The songs will be provided by the ‘Glaslanciau’ and ‘Lleisiau Lliwedd’. Doors will open at 7 pm. The tickets are £6 and available at Kaleidoscope, Pikes or Siop Eifionydd. 10/04/12 Penderfyniad rhyfedd reolwr y mis / Strange choice of manager of the month
Penderfyniad Cynghrair Huws Gray ydy mai Mark McGregor, rheolwr Cei Conna, ydy Rheolwr y Mis ym mis Mawrth.Mae McGregor a Cei Conna bellach wedi ennill y Gynghrair yn dilyn y fuddugoliaeth dros Dderwyddon Cefn, ddydd Sadwrn. Mae clwb Porthmadog yn estyn eu llongyfarchiadau i Gei Conna wedi eu llwyddiant eithriadol yn ennill ail bencampwriaeth yn olynol a’r tro yma hefyd yn cael eu dyrchafu. Bydd McGregor felly yn siwr o gael ei enwi yn Reolwr y Tymor am ei lwyddiant. Ond yn ystod mis Mawrth tair buddugoliaeth a gafodd Cei Conna ac un gêm gyfartal, tra fod Port a’u rheolwr Gareth Parry wedi sicrhau y pump perffaith allan o bump. Mae'n siwr mai hon ydi’r record orau, a Gareth ddylai fod wedi casglu’r wobr. Nid dyma’r tro cyntaf i Gynghrair Huws Gray anwybyddu rheolwr Port pan fod pethau’n agos iawn. Ond y mis yma tydi hi ddim yn agos o gwbl gan fod pump allan o bump yn amlwg yn rhagori ar dair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal! Tybed beth sy’n rhaid i Gareth wneud cyn y caiff ei gydnabod am ei lwyddiannau gyda Port? Sut bynnag mae system fewnol y gwobrwyo yn gweithio, mae swyddogion a chefnogwyr Porthmadog yn estyn eu llongyfarchiadau cynnes i Gareth am record ardderchog y clwb ym mis Mawrth a hynny er waetha’r holl anafiadau. The Huws Gray Alliance League has decided that Connah’s Quay manager Mark McGregor should be awarded the Manager of the Month for March. McGregor and Connah’s Quay have now won the League following their home win against Cefn Druids on Saturday. Porthmadog extend their congratulations to the club for their exceptional back to back titles and are pleased to see that the reward this time round will be promotion. McGregor will surely be made the Manager of the Season for his achievement. However during March, Connah’s Quay managed only 3 wins and one draw, while Porthmadog under manager Gareth Parry managed a perfect five wins out of five. Surely that is the better record during the month and therefore it should have been Gareth who picked up the award. This is not the first time that the Huws Gray Alliance has overlooked the Porthmadog manager in a tight race for the manager’s award. However there was nothing tight about this month’s record five out of five is a much better record than three wins and 1 draw! It makes one wonder exactly what Gareth has to do to get some recognition for his achievements at Porthmadog. Whatever the internal workings of the award system, Porthmadog officials and supporters extend their warmest congratulations to Gareth on the club’s performances in the month of March and that despite the lengthy injury list. 07/04/12 Torri gwynt! / Gone with the wind! Yn dilyn gêm wallgof nos Fawrth diwethaf, fydd hi'n fawr o syndod i'r cefnogwyr a oedd yn Llandudno glywed am y difrod a achoswyd i Barc Maes Du yn hwyrach y noson honno. Gyda'r gwynt cryf yn ei gwneud hi'n amhosib i chwarae pêl-droed, roedd hi'n syndod mawr i'r mwyafrif na ohiriwyd y gêm - yn arbennig gyda un o'r hysbysebion tu ôl y gôl yn bygwth cael ei chwythu i'r cae chwarae. Mae'r llun isod yn dangos y difrod a achoswyd i'r eisteddle. Diolch byth mai ar ôl i'r cefnogwyr fynd adref y digwyddodd hyn. Following last Tuesday's farcical match, it won't come as any huge surprise for supporters who were at Llandudno to hear about the damage caused to Maes Du Park later that night. With the strong wind making it impossible to play football, it was a huge surprise to most that the game wasn't postponed - particularly with the wind threatening to blow one of the pitch-side advertisements onto the field of play. The photo below shows the damage caused to the stand. Thank goodness that this happened after supporters had gone home. 09/04/12 Mwy am weld Cwpan Huws Gray /More see Huws Gray semi Roedd 285 o gefnogwyr ym Maesdu, Llandudno nos Fawrth ar gyfer rownd gyn derfynol Cwpan Huws Gray, hyn yn fwy o dri na’r 282 oedd ar Goedlan y Parc i weld TNS a’r Bala yn chwarae rownd cynderfynol Cwpan Cymru. Roedd hefyd yn fwy na’r 252 a welodd y rownd cynderfynol arall rhwng Airbus a Derwyddon Cefn. Bydd cefnogwyr y gêm yng Nghymru yn dod i’w casgliadau eu hunain am y fath sefyllfa, lle mae rownd cynderfynol Cwpan sydd a fawr o ffrindiau yn denu fwy o gefnogwyr, a hynny ar noson stormus eithriadol ar arfordir Gogledd Cymru, na rowndiau cyn derfynol y brif gystadleuaeth Gwpan yng Nghymru. 285 spectators watched the Huws Gray League Cup semi final between Port and Rhyl last Tuesday at Maesdu Park, Llandudno. This pips the Welsh Cup semi final at Park Avenue, Aberystwyth between TNS and Bala which attracted 282 supporters. It was also more than the 252 spectators at the other semi final between Airbus and Cefn Druids. Followers of Welsh football will draw their own conclusions that a League Cup semi final in an unloved competition can draw more supporters, on a night where a howling gale blew along the North Wales coast, than both semi finals in the main Cup competition in Wales. 07/04/12 Dryswch y drwydded / Confusion over Licence Mae cefnogwyr yn cael eu drysu gan adroddiadau sydd yn croes ddweud ei gilydd ynglyn a’r Drwydded Ddomestig. Mae’n ddibynnol ar pa wefannau neu bapurau rych yn ei darllen. Dydy swyddogion Port chwaith yn medru ein goleuo gan nad ydynt wedi clywed dim swyddogol am benderfyniad y pwyllgor trwyddedu! Gan fod gwefan y Gymdeithas Bêl-droed yn cynnwys enw Port ymysg y clybiau sydd heb sicrhau trwydded, rhaid inni gymryd fod hyn yn iawn. Pe byddai’r Gymdeithas yn hysbysu’r clybiau cyn gwneud y canlyniad yn gyhoeddus byddai modd osgoi’r dryswch hwn. Supporters are confused by conflicting reports as to whether Port have been awarded a Domestic Licence. It all comes down to which websites or newspapers you read. Club officials are not able to throw any light on the mystery as Port have not yet been officially informed of the result of the Licensing Committee’s deliberations! Since the FAW’s website includes Port amongst the clubs who have not been awarded a licence we must assume that this is the case. The confusion however would have been avoided if the FAW informed clubs of the decision prior to going public with their decision. |
|||
|
|
|||