|
![]() |
|
|
|
|||
|
06/04/12 Dim gêm dros y penwythnos /No game this weekend Atgoffir cefnogwyr na fydd gêm gan Port dros benwythnos y Pasg. Y gêm nesaf fydd honno ar y Traeth ddydd Sadwrn 14 Ebrill yn erbyn y Fflint. Bydd gêm olaf y tymor yn Rhuthun ar Sadwrn, 21 Ebrill. Supporters are reminded that Port are not playing over the Easter weekend. The next game is at the Traeth on Saturday, 14 April. The final game of the season will be at Ruthin on Saturday, 21 April. 07/04/12 Cystadleuaeth newydd i glybiau HGA? / New competition for HGA clubs? Mae clybiau’r HGA i dderbyn gwahoddiad i ymuno a chystadleuaeth Cwpan Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru mewn cystadleuaeth wedi’i hail wampio. Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i wahodd pedwar o glybiau’r HGA i ymuno. Mae’r HGA wedi gofyn i glybiau am eu hymateb, ac yn ôl swyddogion roedd yr ymateb yn gadarnhaol. Rhoddwyd gwahoddiad hefyd i bedwar clwb o Gynghrair y De. Bydd y newydd yn rhoi cymhelliant pellach i glybiau wthio ymlaen a gorffen mor uchel a phosib yn y tabl. Gyda Cei Conna yn debygol iawn o ennill dyrchafiad mae’n ymddangos felly bydd y clybiau yn gorffen rhwng yr ail a’r pumed safle yn cael eu dewis i fod yn rhan o’r gystadleuaeth o dan y llif oleuadau. Huws Gray Alliance clubs have been invited to join a revamped Welsh Premier League Cup. Consideration will be given for four HGA clubs to enter the new competition. The HGA has asked its member clubs for their responses to the proposal and officials report that these have been very positive. Four clubs will also be invited from the Welsh League South. This gives clubs an extra incentive to make a final push to finish as high as possible in the table. With Connah’s Quay very likely to be promoted it would appear that clubs finishing 2nd to 5th will be selected to enter the proposed floodlit competition. 05/04/12 Gareth Parry yn hedfan allan i Torino / Gareth Parry off to Turin
Bydd Gareth Parry yn hedfan allan i Torino yn yr Eidal ddydd Mawrth nesaf yn un o grwp o hyfforddwyr ifanc sydd wedi’u dewis i ymweld ag un o glybiau mwyaf Ewrop, a gweld dros eu hunain y math o drefn hyfforddi a threfniant dydd i ddydd sydd gan y mawrion.Trefnir y cyfle gwych hwn gan yr Ymddiriedolaeth Pêl-droed a bydd yr hyfforddwyr yn ymweld ag un o dri chlwb mawr - Porto, PSV Eindhoven neu Juventus. Tu ôl i’r cynllun mae cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Osian Roberts ac un o'r hyfforddwyr eraill sy’n rhan o’r ymweliad ydy cyn amddiffynnwr Cymru, Robert Page. Un o’r rhai sy’n ymweld â Juventus, cyn glwb John Charles, ydy Gareth lle bydd yn gweld sut y datblygir chwaraewyr ifanc yn yr Academi i fyny at y dulliau hyfforddi a ddefnyddir gan y brif garfan. Bonws hefyd bydd y cyfle i weld Juve yn chwarae Lazio yn Serie A! Gareth Parry will fly out to Turin on Tuesday as one of a group of young coaches given the wonderful opportunity of visiting one of Europe’s premier clubs and see first hand their coaching set-up and the day to day organisation. The opportunity is being provided for the Welsh coaches through the Welsh Football Trust and they will visit one of three leading European clubs –Porto, PSV Eindhoven or Juventus. The scheme is being organised by the Trust Director Osian Roberts and amongst the other coaches taking part in the visits is the former Wales defender Robert Page. Gareth will be amongst the coaches visiting Juventus, the former club of john Charles, where he will see how the young players at the academy are developed through to coaching methods used with the first team squad. He will also be there for the Serie A game between Juve and Lazio –quite a bonus! 04/04/12 Grahame a Darren yn arwyddo /Grahame and Darren sign up
Gyda thymor 2011/12 yn tynnu at y terfyn â Port yn dal ar rhediad o 5 buddugoliaeth yn olynol mae’r rheolwr Gareth Parry yn barod a’i olygon ymlaen ac yn cynllunio at y tymor nesaf. Mae wedi symud i roi Grahame Austin a Darren Thomas, dau sydd wedi serennu yn ystod y tymor hwn, ar gontractau at y tymor nesaf. Mae’n benderfyniad doeth ac yn osgoi llawer o’r sbecian a dyfalu sydd yn dod yn ystod yr haf ac hefyd yn tawelu meddyliau cefnogwyr fod cynllunio at y tymor newydd yn barod yn mynd yn ei flaen. Mae Gareth hefyd yn cadarnhau bydd mwy o enwau yn dilyn yn fuan, gan fod yr ysbryd yn y garfan yn uchel iawn.As the 2011/12 season draws to a close with Port on a league run of five straight wins, manager Gareth Parry is thinking ahead and planning for next season. He has moved swiftly and has already put Grahame Austin and Darren Thomas, two outstanding performers during this season, on contracts for next season. This is a wise move as it avoids much of the speculation which usually comes during the summer break and reassures supporters that planning for the new season is well in hand. Gareth also assures followers that other names will follow shortly as the spirit in the squad is high. 04/04/12 Chwaraewr y Mis –Mawrth / March Player of the Month Llongyfarchiadau i Darren Thomas ar ei ennill gwobr Chwaraewr y Mis Tlysau Charisma am fis Mawrth yng Nghynghrair Undebol Huws Gray. Mae Darren wedi chwarae’n ardderchog drwy gydol y mis. Yn y gêm gyntaf arweiniodd ei groesiad gwych at gôl Marc Jones a seliodd y fuddugoliaeth dros y Rhyl. Dilynodd hyn gyda dwy gôl yr erbyn Rhos a dwy arall yn erbyn Caersws. Daeth ei bumed o’r mis yn y fuddugoliaeth o 4-0 dros Penycae ac yn goron ar y cyfan yn y gêm olaf yn erbyn Llanrhaeadr arweiniodd ei gic gornel at gôl Grahame Austin ac wedyn torrodd i fewn i’r blwch a saethu a Graham Boylan yn troi’r ergyd i’r rhwyd i ennill y gêm. Tipyn o gyfraniad! Derbyniodd y wobr wrth ei reolwr Gareth Parry cyn y gêm yn Maesdu, Llandudno cyn gêm nos Fawrth. Congratulations to Darren Thomas on his well deserved recognition as Charisma Trophies Player of the Month for March in the Huws Gray Alliance. Darren has been in great form throughout the month. In the first game of the month his excellent cross for Mark Jones sealed the win over Rhyl. He followed this up with doubles against Rhos Aelwyd and Caersws. He scored his fifth goal of the month in the 4-0 win over Penycae, and to cap things, in the final game of the month against Llanrhaeadr, his corner resulted in a headed goal for Grahame Austin and he followed this with a break into the box and his shot goalwards was diverted into the net by Graham Boylan for the match winner. All in all quite a month! He was presented with his trophy by manager Gareth Parry before kick off at Maesdu Park, Llandudno. 01/04/12 Rhagolwg: Cwpan y Gynghrair / Preview: League Cup
Er fod Port wedi cyrraedd rownd cynderfynol Cwpan y Gynghrair drwy’r drws cefn, mae unrhyw beth sy’n ymdebygu i lwc yn beth i afael ynddo’n ddiolchgar mewn tymor lle mae anlwc wedi taro mor gyson.Llai lwcus efallai ydy’r ffaith mai y Rhyl fydd ein gwrthwynebwyr nos Fawrth. Mae’r Rhyl fel Port wedi methu’r cyfle i sicrhau pencampwriaeth yr HGA ac felly yn edrych at Gwpan y Gynghrair i gael rhywbeth i anelu ato ar ddiwedd tymor 2011/12. Eisoes mae’r ddau glwb wedi chwarae eu gilydd dair gwaith y tymor hwn gyda Port yn sicrhau 4 pwynt o’r ddwy gêm gynghrair tra’r Rhyl enillodd y frwydr yng Nghwpan Cymru yn ôl ar ddechrau Tachwedd. Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod oedd mis yn ôl pan sicrhaodd Port y fuddugoliaeth o 2-0 ar y Traeth. Gyda’r Rhyl yn ennill o 2-0 ym Mhenycae heddiw (01/04) bydd hon yn gêm rhwng yr ail a’r trydydd yn nhabl Huws Gray. Gobeithio y cawn weld mwy o’r pêl-droed safon uchel a welwyd rhwng y ddau yn ôl yng nghanol Tachwedd ar y Belle Vue. Gobeithio hefyd am noson heb wynt uchel ym Maesdu gan mae hyn sy’n dueddol o ddigwydd pan fydd Port yn ymweld â’r cae! Port may have entered Tuesday’s League Cup semi through the back door but in a season when Lady Luck has turned her face firmly against the club, anything remotely resembling good luck is to be seized and gratefully accepted. Lady Luck did not however select the opponents for Tuesday’s clash! Rhyl like Port have missed out in the HGA title stakes so will also look to the League Cup to provide a crumb of comfort at the tail end of season 2011/12. The two clubs have played each other three times this season with Port picking up four points from the two league encounters but Rhyl ran out winners in their Welsh Cup clash back in November. When the two last met at the Traeth a month ago Port were 2-0 winners. With Rhyl winning 2-0 at Penycae today (01/04), it will be a game between second and third in the current HGA table. Let’s hope for some high quality football of the type which made the game at Belle Vue in mid November such a pleasure to watch. Let’s also hope for a night at Maesdu without the gale force winds which so often blow there when Port are visiting! 01/04/12 Tote mis Mawrth / March Tote Draw Y rhifau lwcus yn Tote Mis Mawrth oedd 35 a 27. Roedd yna ddim enillydd a bydd 'Rollover' gyda’r wobr o £300 yn cario drosodd i fis nesaf. Tynnir Tote Mis Ebrill ar nos Wener, 27 Ebrill yn ystod noson Bingo y Clwb yn Y Ganolfan. The winning numbers in the March Tote were 35 and 27. There were however no winners. The prize of £300 will roll over to next month. The April Tote will be drawn on Friday, 27 April during the weekly Bingo at the Ganolfan. 01/04/12 Dim gêm i Port dros y penwythnos nesaf / Weekend off for Port Mae’r gêm rhwng Port a Rhuthun a oedd i’w chwarae ar y 7 Ebrill wedi’i gohirio. Ar y diwrnod hynny bydd Rhuthun yn chwarae Penycae yng Nghwpan y Gogledd Ddwyrain. Bydd y gêm rhwng y ddau glwb yn cael eu chwarae yn Rhuthun ar Sadwrn 21 Ebrill. Hon fydd y gêm gynghrair olaf o’r tymor. There is a change to the fixtures which means that Port will not be in action next weekend. They were due to visit Ruthin, but Ruthin are playing Penycae in a NEWFA Cup tie on 7 April. Port will now visit Ruthin on 21 April for what will be the final league fixture of the season. 31/03/12 Da iawn Derwyddon! / Well done Druids!
Llongyfarchiadau i Huw Griffiths a’i dîm am gyrraedd Ffeinal Cwpan Cymru gyda buddugoliaeth hollol bendant o 4-1 dros Airbus yn y rownd gynderfynol ar y Belle Vue, Rhyl heddiw. Aeth dwy gôl yr un gan Andrew Swarbrick a Tony Cann â’r Derwyddon drwodd i’r ffeinal fydd yn cael eu chwarae ar Sadwrn 5 Mai ar gae Nantporth cartref newydd Bangor. Ynghynt yn y gystadleuaeth curodd y Derwyddon dau glwb arall o UGC, sef Prestatyn ac Aberystwyth.Efallai fydd y fuddugoliaeth yn synnu rhai o bwysigion pêl-droed yng Nghymru ond i’r rhai sy’n gyfarwydd â Chynghrair Huws Gray mae ond yn gadarnhad o’r safon a welwyd yno dros y tymor hwn. Congratulations to Huw Griffiths and his team on reaching the Welsh Cup Final with a convincing 4-1 victory over WPL club Airbus in today’s semi-final at Rhyl’s Belle Vue ground. Two goals each for Andrew Swarbrick and Tony Cann take Druids through to a final which will be played at Bangor’s new Nantporth home on Saturday, 5 May. Druids have previously claimed two other WPL scalps –Prestatyn and Aberystwyth- in earlier rounds. The Druids victory might surprise some of the bigwigs of Welsh football but those familiar with the Huws Gray Alliance will see this as confirmation of the quality of play seen there this season. 30/03/12 Gruffydd John yn ail ymuno â Llanrug / Gruffydd John returns to Llanrug Wedi iddo chwarae pump o gemau HGA yn safle’r cefnwr de i Borthmadog , mae Gruffydd John Williams wedi penderfynu dychwelyd at ei glwb blaenorol CPD Llanrug. After making five HGA appearances at right back for Porthmadog, Gruffydd John Williams has made the decision to return to his former club Llanrug United. 30/03/12 Bwriad yr FAW yn dod ag atgofion / FAW action brings back memories Mae’r Gymdeithas Bêl-droed (yn ôl gwefan ‘Inside World Football’) yn ystyried mynd â UEFA i lys uchaf chwaraeon y Llys Cymodu Chwaraeon am iddynt rwystro eu clybiau, gan gynnwys Abertawe o Uwch Gynghrair Lloegr, i chwarae yng Nghwpan Cymru a ceisio am le yng Nghynghrair Ewropa. Dywedodd Llywydd y Gymdeithas wrth gwefan ‘Inside World Football’, “Byddwn yn ystyried apelio i’r Llys. Mae’n fater eithaf difrifol. Byddwn yn manteisio ar y cyfle gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael inni. Rhaid inni wneud hynny ar ran ein clybiau.” Tybed a fydd hyn yn dod ac atgofion, i Phil Pritchard a gweddill uwch swyddogion y Gymdeithas, am y tro pan bu’n rhaid i’r Gymdeithas Bêl-droed ei hun fynd o flaen y Llys hwnnw gyda neb llai na CPD Porthmadog yn mynd a hwy yno. Dyna fydd llawer yn Porthmadog yn ei ofyn wrth gofio i’r Llys benderfynu fod y Gymdeithas wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at eu clwb. The Football Association of Wales ( according to the ‘Inside World Football’ website) are considering taking UEFA to Europe's highest sporting court, the Court of Arbitration for Sport (CAS), for barring their clubs, including Premier League Swansea City, from playing in the Welsh Cup in order to try and gain a place in the Europa League. FAW President Phil Pritchard told ‘Inside World Football’, "We will now be considering making an appeal to CAS. It's quite serious in our opinion. We have the opportunity to exhaust every avenue in football and we will do that. We must do that, in fact, on behalf of our clubs." On reading this, many at Porthmadog will wonder if it brings back memories for Phil Pritchard and other high ranking FAW officials of the time when the FAW itself was taken to the Court of Arbitration for Sport by none other than Porthmadog FC and found to have acted in an improper manner towards the club. 29/03/12 Rhagolwg: v Llanrhaeadr / Preview: v Llanrhaeadr
Noddwyr y gêm: Gwasg EryriEstynnwn groeso cynnes i’n cyfeillion o Llanrhaeadr ym Mochnant i’r Traeth ddydd Sadwrn a hynny am y tro cyntaf. Yn ei rhagolwg yn y rhaglen mae Gerallt Owen yn dweud, “Dyma fydd eu hymweliad cyntaf â’r Traeth am gêm yn y Gynghrair Undebol ac yn debygol hefyd o fod y tro gyntaf mewn cof -os nad oes rhywun am fy ngoleuo yn wahanol.” O’u pedair gêm ddiweddaraf gorffennodd tair yn gyfartal ond mae’r clwb o’r canolbarth wedi rhoi sawl perfformiad i’w gofio yn ystod eu tymor cyntaf yn yr HGA gan gynnwys creu dipyn o drafferthion i Port yn ail hanner y gêm gynghrair gyfatebol a orffennodd yn gyfartal. Ond yn gyffredinol maent wedi cael hi’n anodd ar y lefel uwch ac ar hyn o bryd maent yn y safle uchaf o’r tri sy’n gostwng a bwlch o bedwar pwynt rhyngddynt a Penycae. Ond drwy gydol y tymor cadwyd at yr egwyddor o gynnig y cyfle i chwaraewyr lleol a ni bydd angen atgoffa neb yn Port am y peryg a ddaw o’r prif sgorwyr Alun Jones a Jamie Evans. Ond canolbwyntio ar eu gêm eu hun fydd Port gan geisio ymestyn eu rhediad i 5 buddugoliaeth yn olynol. Mae gorffen yn y drydydd safle yn dal yn bosib a, gyda Bwcle yn colli eu gêm mewn llaw yn erbyn Caersws nos Fawrth, mae’r gobeithion yna wedi cynyddu. Diweddglo sy’n edrych yn lled gyfforddus sydd gan y Rhyl a nhw sy’n debygol o orffen yn yr ail safle. Mae perfformiadau Darren Thomas gyda 5 gôl yn y tair gêm ddiwethaf yn cryfhau sialens Port ond yn anffodus nid yw Graham Boylan ar gael ddydd Sadwrn, a fo wedi rhwydo tair gwaith yn y bedair gêm gynghrair ddiwethaf. Dewch i’r Traeth ddydd Sadwrn a cefnogwch yr hogiau! Match Sponsors: Snowdonia Press We extend a warm welcome to our friends from Llanrhaeadr ym Mochnant to the Traeth on Saturday for what appears to be the club’s first ever visit. Gerallt Owen says in his programme notes, “This will be their first visit to Y Traeth in the Alliance and may well be their first visit in living memory unless someone can enlighten me as to a previous meeting down memory lane.” The mid Wales club, who have drawn three of their last four games, have had some notable successes in their first HGA season including putting Port very much to the sword in the second half of the corresponding drawn league fixture. Generally however they have found life difficult at the higher level and currently occupy the third relegation spot, four points adrift of Penycae. But throughout they have stuck to their principles of giving local players their opportunity and Port will not need reminding of the danger leading scorers Alun Jones and Jamie Evans can pose. But Port will concentrate on their own game and look to extend their winning run to five games. A third place finish remains a possibility and with Buckley losing their game in hand to Caersws on Tuesday those chances have improved further. Rhyl have a comfortable run in and look certain to clinch second spot. The fact that Darren Thomas is in fine form netting five times in the last three games is a big plus at the moment but unfortunately Graham Boylan, who has three goals in four league games, is not available on Saturday. See you Saturday, support the lads! 24/03/12 Ryan Connolly ar ei ffordd i Sweden / Back to Sweden for Ryan Connolly
Chwaraeodd Ryan Connolly ei gêm olaf dros Borthmadog ddydd Sadwrn –am y tro beth bynnag. Wythnos nesaf bydd yn hedfan i Sweden i ymuno â’i gyd chwaraewyr i baratoi at y tymor newydd. Ymunodd Ryan â Port ym mis Rhagfyr wedi iddo ddychwelyd o Ornskoldvik ar ôl treulio tymor yno. Chwaraeodd Ryan 5(+5) o gemau dros Port gan greu argraff ar gefnogwyr gyda’i chwarae cadarn, penderfynol. Dywedodd Gareth Parry wrth iddo ymadael, “Carwn ddiolch i Ryan am ei ymdrechion dros Port a dymunaf y gorau iddo wrth geisio sicrhau lle mewn pêl-droed llawn amser.”Ryan Connolly has played his last game for Porthmadog –for the time being anyhow. Next week he flies out to Sweden to join his team mates for their pre-season training. Ryan joined Porthmadog in December after returning from a season at Ornskoldsvik. Ryan made 5 (+5) appearances for Port impressing supporters with his strong determined style of play. Gareth Parry commenting on his departure said, “I would like to thank Ryan for all his efforts and wish him all the best in his quest for full-time football.” 24/03/12 Gethin yn arwain Cymru / Gethin captains Wales
Llongyfarchiadau i Gethin Jones y pêl-droediwr ifanc o Borthmadog. Mae gyrfa Gethin wedi cymryd cam pellach ymlaen wrth iddo gael ei ddewis yn gapten ar dîm Cymru Dan17 ar gyfer y gemau yng Ngrwp 7 Rowndiau Rhagbrofol Elît UEFA sydd yn cael eu chwarae yn Hwngari. Yn amlwg mae Gethin yn chwaraewr ifanc sydd â sgiliau arweinydd, gan iddo hefyd arwain tîm Cymru Dan16 yn ystod gemau Tarian y Fuddugoliaeth yn 2010.Mae Gethin yn chwaraewr proffesiynol ifanc gyda chlwb Everton. Collwyd y gêm grwp gyntaf o 2-1 yn erbyn Rwsia. Y tîm cartref Hwngari fydd y gwrthwynebwyr nesaf a hyn yn cael ei dilyn gyda’r gêm olaf yn erbyn Gwlad Belg. Pob lwc Gethin. Congratulations to Gethin Jones, the young Porthmadog footballer whose blossoming career took another step forward when he was named captain of Wales U17 for the games in Group 7 of UEFA Elite Round of Qualifiers in Hungary. Gethin has obviously been noted as a young player with leadership skills as he was also captain of Wales U16s in the 2010 Victory Shield. Gethin is a young professional with Everton. The opening Group 7 game against Russia ended in a narrow 2-1 defeat. Their next group game will be against hosts Hungary followed by a game against Belgium. Best of luck Gethin. 22/03/12 Rhagolwg: v Penycae / Preview: v Penycae
Noddwr y gêm: PortmeirionBydd Porthmadog yn croesawu Penycae i’r Traeth ddydd Sadwrn. Port enillodd o 2-1 yn y gêm gyfatebol, diolch i goliau gan Rhys Roberts a Darren Thomas. Er fod mewn rheolaeth lwyr o’r meddiant yn erbyn 10 dyn Penycae, methwyd a manteisio ar y cyfleoedd a grëwyd a wedi i’r clwb o Wrecsam sgorio gôl hwyr cafwyd diweddglo cyffrous diangen. Un lle uwchben safleoedd y cwymp ydy Penycae ac yn wynebu tipyn o frwydr i sicrhau ail dymor yn yr HGA. Yn eu gêm ddiwethaf colli o 4-0 yn erbyn Conwy oedd yr hanes ond dros y pum gêm ddiwethaf sicrhawyd dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal. Anelu bydd Port i ymestyn eu rhediad da er mwyn gorffen mor uchel a phosib, ac nid yw’r trydydd safle’n amhosib. I wneud hynny bydd rhaid i ganlyniadau eraill fynd o’u plaid ond mae gan rhai o’u gwrthwynebwyr cyfres o gemau ddigon anodd. Mae Darren Thomas wedi taro ar gyfnod arbennig o dda, yn sgorio ddwywaith yn y ddwy gêm ddiwethaf ac mae Graham Boylan hefyd wedi gwneud gwahaniaeth yn y blaen. Bydd anafiadau a gwaharddiad yn chwarae rhan eto ddydd Sadwrn, gyda’r ‘jinx’ yn dal i daro. Ddydd Sadwrn felly bydd prawf arall o gymeriad yn aros yr hogiau. Match Sponsor: Portmeirion Porthmadog welcome Penycae to the Traeth on Saturday. Port were 2-1 winners when the two clubs last met thanks to goals by Rhys Roberts and Darren Thomas. Despite totally dominating possession and territory against 10 man Penycae, failure to make the most of the chances created and a late goal by Penycae meant an unnecessarily tense finish. Penycae are one place above the relegation spots and so are battling to ensure a second season in the HGA. Last time out they went down by 4 clear goals to Conwy but they have won twice and drawn one of their last five games. Port will aim to stretch their winning run as they go for the highest possible finish and could still achieve a top three finish. Results will need to go in their favour but some of their rivals have a more difficult run in. Darren Thomas has struck a purple patch with 2 goals in each of the last two games and Graham Boylan has made a significant difference at the front. Injuries and suspensions are set to play a part again on Saturday as the jinx continues unabated so it will be another real test of character for the players. 20/03/12 Rhowch eich barn ar UGC / Have your say on WPL
Mae dilynwyr pêl-droed yng Nghymru, ffans a cyn ffans Uwch Gynghrair Cymru (UGC) yn cael eu hannog i gyfrannu at ymchwiliad i’r Gynghrair gan bwyllgor o’r Cynulliad. Meddai Cadeirydd y pwyllgor, Ann Jones AC, “ Dydy cefnogwyr pêl –droed Cymru ddim yn brin o farn am y gamp, ac rwy’n gobeithio eu gweld yn rhannu’r farn honno efo ni.”Mae gan glybiau ac unigolion gyfle felly i ymateb i bwyllgor sydd â’r gallu i gynnal ymchwiliad pell gyrhaeddol ar 20 mlynedd o fodolaeth UGC ac yn pwysicach ar yr adrefnu dadleuol a welodd maint y gynghrair yn gostwng i 12 clwb. Wrth i’r adrefnu gwreiddiol gymryd lle ni ofynnwyd i gefnogwyr am eu barn. Gofynnir i ymatebwyr wneud eu sylwadau ar faterion penodol a bydd angen gosod dadleuon cryf wedi’u ystyried yn ofalus. Un o’r materion mwyaf dadleuol ydy’r fformat a grëwyd ar frys mawr ar ôl mynd efo 12 clwb yn lle’r 10 gwreiddiol. Ymysg y cwynion mae’r nifer fawr o gemau ail adroddus rhwng yr un clybiau yn arwain at ddiflastod. Cwyn arall ydy trefn y gemau gan chwarae ar nos Wener, pnawn Sadwrn a dydd Sul. Tydi’r adrefnu ddim wedi arwain at well cefnogaeth drwy’r gatiau a pe na byddai’r adrefnu wedi cyd daro a llwyddiant i glwb Bangor byddai cyfartaledd y torfeydd wedi disgyn yn arw. Wedyn datblygiad chwaraewyr, dyna ichi bwnc sydd yn poeni clwb Porthmadog. Mae’r 12 clwb yn derbyn mwy na £20,000 yr un ar gyfer datblygu chwaraewyr yn yr Academi , tra fod clybiau fel Port ,sydd ac Academi llwyddiannus iawn, yn derbyn yr un dimau goch. Pwnc arall sy’n codi’r tymheredd ydy’r drwydded ddomestig, gyda’r teimlad fod ‘ambell glwb yn fwy cyfartal na’r gweddill’ yn gwrthod mynd i ffwrdd. Mae cynnwys y drwydded hefyd yn codi cwestiynau. Er fod y mwyafrif o gaeau prin yn gweld torf o fwy na 300, rhoi’r blaenoriaeth i’r nifer o seddau a manylion dibwys eraill cyn safon y cae chwarae ei hun sydd yn rhyfeddol heb fod yn rhan o’r drwydded. Dywedodd John Deakin wrth gyflwyno’r drefn newydd fod dim wedi’i osod mewn carreg ac roedd modd newid pe na byddai’r drefn newydd yn gweithio. Ym marn nifer fawr dydi’r cynllun heb weithio. Os ydych yn un o rhain dyma eich cyfle i ddweud eich dweud. Cewch e-bostio eich ymateb at pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk Neu gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA. Welsh football followers, fans and former fans of the WPL are being urged to contribute to an inquiry into the League. Committee Chairman, Ann Jones AM, says, “Welsh football fans are never short of an opinion about the game and I hope they will choose to share some of those opinions with us.” This presents clubs and individuals with an opportunity to respond to a committee which has the means to conduct a far reaching look at the 20 year existence of the WPL and more importantly, for many, the controversial reorganisation of the league, reducing the number of clubs to just 12. When the original reorganisation took place the views of supporters was never sought. Respondents are being asked to comment on specific matters and will need to put forward serious arguments. One of the most controversial matters is the format which was hastily put together at reorganisation when the overall number of clubs was reduced to 12 instead of the original 10. Amongst the concerns are the number of times clubs have to play each other with the resulting boredom produced. The fixture arrangements are another bone of contention, with games being played on Fridays, Saturdays and Sundays. The reorganisation has not lead to an increase in attendances and if the introduction of the new format had not coincided with the return of Bangor City to the top of the table then the average attendances would have slumped seriously. Player development is a matter of particular concern for Porthmadog FC. The twelve WPL clubs receive in excess of £20,000 each for their Academies while clubs like Porthmadog who run a highly successful Academy they get absolutely nothing. The Domestic Licence is another matter which raises debate. The feeling that some clubs are ‘more equal than others’ stubbornly refuses to go away. The Licence content is itself a matter of concern. Unnecessary stipulations for grounds which rarely have 300 spectators take priority over playing pitch standards which have amazingly never been part of the licence. John Deakin when introducing the reorganisation said that it was not set in stone and could be reversed if it did not work. In the opinion of many it has failed if you think so too then make your feelings known. Submit your views by e-mailing the committee by Friday 13 April 2012 to celg.committee@wales.gov.uk Or you can write to Committee Clerk, Communities, Equality and Local Government Committee National Assembly for Wales, Cardiff Bay, CF99 1NA. 18/03/12 Tymor Richard drosodd / Season over for Richard
Mae’r rhediad o anafiadau yn parhau gyda’r golwr Richard Harvey y diweddaraf i ddioddef. Bu’n rhaid i Richard adael y cae yng Nghaersws ddydd Sadwrn. Amheuwyd ar y pryd ei fod wedi datgymalu ei fys ond mae’r newyddion yn waeth na’r disgwyl gan bydd yn rhaid iddo dderbyn llaw driniaeth i osod pin yn y bys sydd wedi’i dorri mewn pum lle.Tan iddo fethu’r gêm gynghrair ddiweddar yn erbyn Bwcle ar y Traeth oherwydd gwaharddiad, roedd gan Richard record wych o chwarae 64 o gemau cystadleuol a hynny yn olynol. Dymunwn y dda iddo gan edrych ymlaen i’w weld yn ôl y tymor nesaf. Iwan Williams Dioddefodd Iwan Williams anaf poenus ddydd Sadwrn o ganlyniad i ergyd galed i’w benelin. Bu’n rhaid draenio’r benelin ac wedyn rhoi pigiad cortison. Roedd Iwan hefyd yn anlwcus i dderbyn cerdyn coch wedi iddo gael dau gerdyn melyn gyda’r cyntaf o rhain am ddigwyddiad bychan iawn. Mae’n siwr o gael ei wahardd am y gêm nesaf ond gobeithio y bydd wedi gwella erbyn yr wythnos ganlynol. The Port injury jinx continues unabated with keeper Richard Harvey the latest victim. Richard was forced to leave the field after 78 minutes at Caersws on Saturday with what was thought at the time to be a dislocated finger. That was bad enough, but the latest news typifies what has been something of an injury nightmare. Richard now awaits an operation to put in a pin in his injured finger which it turns out has suffered breaks in five places. Until missing the league match against Buckley at the Traeth through suspension, Richard had the remarkable record of 64 consecutive games for Port. We wish him well for good recovery and look forward to seeing him back next season. Iwan Williams Iwan Williams suffered a nasty injury on Saturday resulting from a hard blow to the elbow. This has necessitated the elbow being drained and injected. Iwan was also very unlucky to be red carded for two yellow card offences with the first of these being really trivial. He is probably set to miss the next game but let’s hope that he will have recovered for the following week. 13/03/12 Dechrau am 12.30pm yn Caersws / 12.30pm start at Caersws Bydd y gêm yn Caersws ddydd Sadwrn (17 Mawrth) yn cychwyn am 12.30pm. Mae’r dechrau cynnar er mwyn osgoi cyd daro gyda’r gêm rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd a fydd yn fyw ar y teledu. Saturday’s game (17 March) at Caersws will kick off at 12.30pm. The lunchtime kick off is to avoid a clash with the televising of the Six Nations clash in Cardiff. 16/03/12 Port yn ôl yng Nghwpan y Gynghrair / Port back in League Cup Mae Port yn ôl yng Nghwpan Huws Gray wedi i’r Gynghrair ganfod fod Cei Conna wedi defnyddio chwaraewr anghymwys yn rownd yr wyth olaf ar y Traeth. Dyma mae’r rheol yn ddweud: “Bydd chwaraewr sydd wedi cymryd rhan mewn gêm Cwpan Cynghrair i dîm sy’n chwarae mewn ‘cynghrair uwch’ ddim yn gymwys i chwarae mewn gemau Cwpan Cynghrair y Cymru Alliance.” Deallwn fod Ricky Evans eisoes wedi chwarae yng Nghwpan Uwch Gynghrair Cymru i’w gyn glwb, Aberystwyth a hyn felly yn ei wneud yn anghymwys i chwarae yng Nghwpan Huws Gray. Bydd Port yn chwarae’r Rhyl yn y rownd gynderfynol yn Llandudno ar nos Fawrth 3 Ebrill. Mae gan Cei Conna yr hawl i apelio i’r Gymdeithas Bêl-droed. Port have been reinstated into the Huws Gray League Cup after the League found that Connah’s Quay had used an ineligible player in the quarter final at the Traeth. The League rule states: “A player who has taken part in a League Cup tie for a team operating in a ‘higher league’ system shall not be eligible for the League Cup ties in the Cymru Alliance.” It is understood that Ricky Evans had already played in the Welsh Premier League Cup for his former club Aberystwyth Town and this made him ineligible for the corresponding competition in the HGA. Port will now face Rhyl in the semi-final on Tuesday, 3 April in Llandudno. Connah’s Quay have the right of appeal to the FAW. 15/03/12 Rhagolwg: v Caersws / Preview: v Caersws
Mae Port yn Caersws ddydd Sadwrn lle fydd y gic gyntaf am 12.30pm. Bydd yn gêm anodd iawn gan fod y clwb o’r canolbarth ar rhediad da iawn gan ennill eu pedair gêm ddiwethaf. Heblaw’r ffaith am eu rhediad gwael ar ddechrau’r tymor, yn colli pedair o’u pum gêm gyntaf, byddent rwan yn mynd am ddyrchafiad. Mae yna debygrwydd rhwng sefyllfa’r ddau glwb. Mae’r ddau wedi dioddef effeithiau rhediadau gwael sydd yn y diwedd wedi difetha eu siawns am ddyrchafiad. Ac nid dyna’r cwbl, mae’r ddau hefyd wedi dioddef cosb llawdrwm a thynnu pwyntiau. Mae Port rwan, wedi nifer o broblemau, hefyd yn adeiladu rhediad da gan ennill tair ac un yn gyfartal yn eu pum gêm ddiwethaf.Ar eu ymweliad diwethaf â Chaersws collodd Port yn drwm a byddant yn awyddus i wneud yn iawn am hynny ddydd Sadwrn. Pan enillodd Caersws ar y Traeth o 2-1, ynghynt yn y tymor, roedd yn drydydd buddugoliaeth yn olynol iddynt dros Port. Medrwn ddisgwyl gêm agos arall ddydd Sadwrn gyda balchder yn chwarae rhan bwysig. Port are at Caersws on Saturday where there will be a 12.30pm kick off. They face a difficult game, for the mid-Wales club are one of the HGA’s form teams. They are on a run of four straight wins. If they had not started their season so badly, losing four of their first five games, they would now be challenging for promotion. There are similarities between the two clubs. Both Port and Caersws have had to suffer the effects of a poor run of form one which ultimately put them out of the promotion mix. The similarities do not end there for both clubs have also suffered from heavy handed point deductions. Port, after a series of setbacks, are building a good recent run, winning three and drawing one of their last five games On their last visit to the Recreation Ground it proved to be a bit of a disaster for Port and they will be eager to erase that particular defeat from the memory when they visit on Saturday. A 2-1 win earlier in the season gave Caersws a third consecutive league win over Port. We can expect another close game on Saturday, with pride playing an important part. 11/03/12 Archwiliad y Cynulliad i drefn UGC/ Assembly enquiry into running of WPL
Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn mynd i edrych ar ddyfodol Uwch Gynghrair Cymru. Y bwriad ydy edrych ar nifer o agweddau ar y Gynghrair gan gynnwys y fformat, datblygiad chwaraewyr a’r sylw a geir yn y cyfryngau.Anogir cefnogwyr, gan gadeirydd y pwyllgor yr AC Llafur Ann Jones, i gyfrannu at yr archwiliad. Mae Ann Jones yn gefnogwr brwd o glwb Y Rhyl –clwb a gafodd eu trwydded ddomestig wedi diddymu yn 2010. Bydd cefnogwyr Port yn cofio i Ann Jones, tra yn Aelod Cabinet, arwyddo’r ddeiseb yn 2007 yn condemnio’r Gymdeithas Bêl-droed am ddwyn anfri ar glwb Porthmadog gyda’r cyhuddiad cwbl afresymol o hiliaeth. Sylw yr AC ar y pryd oedd, “Dyma enghraifft arall o’r angen dybryd am weld newid yn y Gymdeithas Bêl-droed.” Maes gorchwyl y Pwyllgor ydy ystyried materion sy’n ymwneud ag Uwch Gynghrair Cymru gan gynnwys: -Y graddau y mae safonau pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf; -Fformat y gystadleuaeth, ac edrych ar opsiynau posibl eraill, fel newid i gael tymor dros yr haf; -Datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd lefelau eraill yn y gêm; -Sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at ddatblygu chwaraewyr ac at gymryd rhan yn y gêm ar lefelau is, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chyfleoedd cyfartal; -Safle Uwch Gynghrair Cymru yn y byd chwaraeon yng Nghymru a pha mor weladwy yw yn y cyfryngau yng Nghymru; -Y clybiau sy’n aelodau o’r Gynghrair, eu seilwaith a’u hadnoddau; -Sut y bydd Cynllun Strategol 2012 diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfrannu at gryfhau Uwch Gynghrair Cymru, a sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Strategol. Gall unigolion, clybiau a chymdeithasau ymateb yn Gymraeg neu Saesneg. Cewch e-bostio eich ymateb at pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk Neu gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA. The Communities, Equality and Local Government Committee of the Assembly has announced it is launching an inquiry into the future of the WPL. It is to look at many aspects of the League including its format, the development of players and media coverage. Fans have been urged to contribute to the inquiry by the chairman Labour AM, Ann Jones, who is a keen supporter of Rhyl FC – a club who had their FAW domestic licence revoked in 2010. Port fans will recall that Ann Jones, while an Assembly Cabinet minister, signed the petition condemning the racist slur made against the Porthmadog club by the FAW in2007. At the time she noted it as “Yet another example of the urgent need for change within the FAW.” The Committee's terms of reference are to look at issues around the Welsh Premier League including: -the extent to which the standards of football in the WPL have developed during the past 20 years; -the competition format, looking at possible alternative models such as a move to a summer season; -the development and progression of players, coaches and managers from the WPL to other levels of the game; -how the WPL contributes towards player development and participation at lower levels, including issues of equality of opportunity; -the WPL’s standing within the Welsh sporting landscape and its visibility in Welsh media outlets; -the member clubs, their infrastructure and resources; -how the FAW’s recent Strategic Plan 2012 will contribute towards strengthening the WPL, and how the WPL will contribute towards the Strategic Plan’s aims. Individuals and organisations can respond in either Welsh or English. Submit your views by e-mailing the committee to celg.committee@wales.gov.uk Or you can write to Committee Clerk, Communities, Equality and Local Government Committee National Assembly for Wales, Cardiff Bay, CF99 1NA. 11/03/12 Cwpan Rhanbarthau UEFA / UEFA Regions Cup semi final
Bydd rownd cynderfynol Cymru o Gwpan Rhanbarthau UEFA yn cael ei chwarae rhwng tîm hyn Arfordir y Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gae Ffordd Llanelian, Bae Colwyn nos Fercher, 14 Mawrth gyda’r gic gyntaf am 7.30 pm.Trefnir Cwpan Rhyngwladol y Rhanbarthau gan UEFA i rhoi cyfle i chwaraewyr ar lefel gymunedol pêl-droed gael profiad ehangach. Mae chwech rhanbarth Cymru yn rhan o’r gystadleuaeth gyda’r enillwyr i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth derfynol. Mae’r gystadleuaeth hon yn cael eu chwarae dros ddwy flynedd gyda dwy gêm (un adref ac un oddi cartref) yn ystod y tymor. Hon ydy’r gêm gymhwyso olaf. Bydd enillwyr y gêm hon yn chwarae yn ffeinal Cymru i’w chynnal cyn ddiwedd y tymor hwn. The Wales semi-final of the of the UEFA Regions Cup will be played between the North Wales Coast seniors team and their counterparts from Central Wales at Llanelian Road, Colwyn Bay next Wednesday, 14 March with a 7.30 pm kick off. The Regions Cup is a UEFA organised international tournament for representative Grassroots football. The competition is for the six Welsh Area Associations who play each other, with the overall Winners selected to represent Wales in the UEFA tournament. The current Competition is played over a two-year period with two games per Season (One Home / One Away) and this game is the final qualification game. The winners of this match will qualify for the Welsh Final later this season. 06/03/12 Bwrw golwg dros y tynnu pwyntiau / A look at the points deductions Rwan fod y llwch wedi dechrau setlo, gallwn fwrw golwg ar y penderfyniad i dynnu tri phwynt oddi ar Port. Dim ond yn dechnegol euog oedd Port, pam felly benderfynodd yr HGA osod y fath gosb drom? Y rheol ei hun ydy’r broblem. Mae’n dweud, “Bydd clwb sy’n defnyddio chwaraewr anghymwys yn euog o drosedd, a bydd tri phwynt yn cael ei dynnu am bob chwaraewr a phob gêm a chwaraewyd ....” Does dim sôn am unrhyw amgylchiadau lle ellir lleddfu’r gosb, dim ond un dull unffurf llym. Pe byddai’r Drenewydd, a gafodd gosb o dri phwynt hefyd (gan UGC), yn yr HGA byddent wedi derbyn cosb llawer trymach. Roedd y chwaraewyr –tri yn ôl y sibrydion- yn anghymwys ac wedi chwarae dwy gêm yr un. Felly yn yr HGA, 18 pwynt fyddai’r gosb. Anferth a chwbwl hurt! Ond na nid yn yr HGA. Y tymor diwethaf cafodd y Trallwng cosb fawr wedi lluosogi fesul tri phwynt. Cafodd Penrhyncoch yn 1994/95 gosb o 39 pwynt wedi’u tynnu fesul tri phwynt i gyd am yr un drosedd. Ac yn 1991/92 –arhoswch amdano- collodd y Trallwng 66 o bwyntiau wedi’u tynnu am chwarae Billy Morris mewn 22 o gemau tra wedi’i wahardd gan CBD Lloegr! Wedyn yn 2003 bu’n draed moch ynglyn â chaniatâd rhyngwladol Richard Harvey ac roedd yna fygythiad i dynnu hyd at 21 pwynt oddi ar Port. Llwyddwyd i osgoi hyn ar apêl. Disgrifiodd clwb y Drenewydd yr arfer o dynnu pwyntiau ‘yn ddull hen ffasiwn iawn o gosbi clybiau yn yr oes hon.’ Beth tybed fyddai eu disgrifiad o’r cosbau uchod? Yn amlwg rhaid newid y rheol llawdrwm hon gan fod yr effaith ar y clybiau yn ormodol o ystyried y drosedd. Nid yw chwaith yn caniatáu gwahaniaethu rhwng trosedd dechnegol ac un ddifrifol. Cafodd Aberystwyth gosb o un pwynt am drosedd debyg i Port ond cosb tri phwynt ydy’r unig bosibilrwydd o dan reolau’r HGA. Mae ‘Cynllun Strategol’ CPDC yn awgrymu newid er mwyn i’r rheolau ar hyd a lled Cymru fod yr un fath. Dylid cyflwyno hyn mor fuan a phosib. Now that the dust has settled on the three point deduction let’s try to take a sober look at the decision. Port were only found technically guilty but why did HGA apply such a severe sanction? The problem lies with the rule itself which states "A club found playing an ineligible player shall be guilty of an offence and shall have three points deducted per player, per game played ........." There appear to be no extenuating circumstances just a draconian blanket approach. Had Newtown, who like Port had three points deducted (by the WPL), been a HGA club instead they would have found themselves far more severely punished. The players concerned -rumoured three - were ineligible for two matches each. Total punishment in the HGA would have been a colossal 18points!! Clearly that would be ridiculous. Not so in the HGA. Welshpool, last season, had multiple point deductions at three points a go. Penrhyncoch in 1994/95 had 39 points deducted at three points a time for the same offence! Welshpool in 1991/92 -wait for it- had 66 points deducted for playing Billy Morris in 22 matches he was serving a ban by the English FA! Port themselves were threatened a possible 21 point deduction in 2003 for the Richard Harvey international clearance debacle but an appeal saw it overturned. The Newtown club have described point deductions as ‘an archaic method of penalising clubs in the modern era.’ How would they view some of the above punishments? Clearly this draconian rule needs to be changed its impact is way out of proportion with the offence, not allowing for any differentiation between serious and mere technical offences. Aberystwyth suffered the loss of one point for an eligibility offence but it seems the HGA rule only allows a three point deduction. In its ‘Strategic Plan’ the FAW suggests uniform rules throughout Wales. It must introduce this change as soon as possible. |
|||
|
|
|||