|
![]() |
|
|
|
|||
|
04/03/12 Gruffydd John yng ngharfan Cymru / Gruffydd John in Wales squad
Llongyfarchiadau i Gruffydd John Williams ar ei ran yng ngharfan Ysgolion Cymru Dan-18 a gafodd fuddugoliaeth ardderchog o 1-0 dros Loegr yn Hwlffordd nos Wener (2 Mawrth). Ar y fainc cychwynnodd Gruffydd John ond daeth i’r cae ar ôl 65 munud. Roedd Gruff wedi ymuno â Port ynghynt yn yr wythnos o CPD Llanrug.Congratulations are due to Gruffydd John Williams for his part in the Wales Schools U-18 squad who gained an outstanding win over England in the international played on Friday (2 March) at Haverfordwest. Gruffydd John started on the bench coming on after 65 minutes. Gruff signed for Port earlier in the week from CPD Llanrug. 04/03/12 Craig yn taro deg / Craig has bagged ten
Ymddiheuriadau i Craig Roberts. Medrwn gadarnhau fod Craig wedi cyrraedd y deg gôl am y tymor hyd yma. Mae’r wefan wedi dangos un gôl yn llai na’r ffigwr dwbl a gwyddwn yn dda fod ystadegau cysylltiedig a goliau yn holl bwysig i flaenwyr! Medrwn hefyd gadarnhau mai Craig oedd y cyntaf o chwaraewyr Port i daro deg am y tymor. Cyrhaeddodd y marc gyda’i gôl ar ôl chwe munud yn erbyn Cei Conna yn y gwpan a 42 munud yn ddiweddarach sgoriodd Darren Thomas ei ddegfed hefyd.Apologies are due to Craig Roberts. We can definitely confirm that Craig has scored ten goals so far this season. The website has been showing him one short of double figures and we know that scoring stats are very important to forwards! We can also confirm that Craig was the first Port player to reach double figures this season. He did so with his goal after 6 minutes in the League Cup tie against Connah’s Quay and 42 minutes later Darren Thomas joined him on 10. 02/03/12 Tymor yr Academi wedi ail gychwyn / Academy season has restarted
Mae ail hanner rhaglen yr Academi wedi cychwyn gyda phob un o’r tri grwp oed yn chwarae ddwywaith yn ystod Chwefror. Ymwelodd Academi Airbus â’r Traeth ar fore Sul, 12 Chwefror a nhw oedd yn fuddugol mewn tair gêm gweddol agos.Fore Sul diwethaf ieuenctid Port oedd yn teithio i’r Bala. Colli’n drwm oedd hanes y tîm Dan-12 ond roedd y tîm Dan-14 yn fuddugol o 4-1 ac mewn gêm glos tîm Dan-16 Port enillodd o 1-0. Y penwythnos yma bydd yr Academi adref yn erbyn Academi Bangor. The second half of the academy programme has commenced with all three age groups in action on two occasions during February. The Airbus Academy visited the Traeth on Sunday, 12 February and ran out winners in relatively close results in all three age groups. Last Sunday the Porthmadog youngsters visited Bala. Though the U-12s went down heavily the U-14s won their game by a 4-1 margin and a close result saw the U-16s win 1-0. The Academy teams will be in action this weekend at home to the Bangor Academy. 02/03/12 Cyn rheolwyr yn y newyddion / Former managers in the news
Llongyfarchiadau i gyn reolwr Port, Osian Roberts sydd yn dal i ddringo tu mewn i’r drefn hyfforddi genedlaethol. Yn barod mae wedi ei benodi yn rhan o dîm hyfforddi Chris Coleman y rheolwr cenedlaethol newydd. Osian oedd yn gyfrifol am y tîm ar gyfer Gêm Goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica nos Fercher. Er na aeth y canlyniad o blaid Cymru ar y noson roedd y deyrnged yn un deimladwy iawn i’r diweddar Gary Speed ac yn arwydd o’r golled sydd ar ei ôl.Disgrifiodd Viv Williams ei benderfyniad i arwyddo Osian fel “fy mhenderfyniad gorau fel rheolwr” ond ar ddiwedd 2006/07 gadawodd Osian a chymryd swydd Cyfarwyddwr Technegol gyda’r Ymddiriedolaeth Bêl-droed lle cyflwynodd newidiadau sylfaenol gan chwyldroi ‘r ffordd mae chwaraewyr yn cael eu datblygu gan Gymru. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i’r dyfodol Osian. Mae Tomi Morgan, a oedd yn reolwr ar Port yn ystod 2009/10, yn ôl yn rheoli clwb UGC. Ynghynt yn y tymor collodd ei swydd yn rheoli Caerfyrddin. Ond bellach mae wedi olynu Alan Morgan yn Aberystwyth, clwb sy’n wynebu brwydr galed i osgoi’r cwymp. Mae Tomi yn dychwelyd i’w glwb lleol, a chlwb a serennodd iddo fel chwaraewr. Dyma’r ail dro iddo reoli Aber gan iddo wneud y swydd yn nyddiau cynnar UGC.Pob lwc Tomi. Our congratulations go to former Port manager Osian Roberts, who continues his rise within the Welsh international set-up. Already set to continue as part of the national senior squad coaching team under new manager Chris Coleman, he was in charge of the team for the Gary Speed Memorial international against Costa Rica on Wednesday. Though the result did not favour Wales on the night it proved to be a moving tribute to the late and lamented national manager. Osian, described by Viv Williams as his “best signing”, left Porthmadog at the end of season 2006/07 to take up the post of Technical Director at the Welsh Football Trust where he has overseen a fundamental change of approach as he revolutionised the development of young players within the Wales coaching system. Congratulations Osian and best of luck for the future. Tomi Morgan, who managed Port in 2009/10, is back in WPL management. Earlier in the season his spell at Carmarthen came to an end. He now succeeds Alan Morgan at Aberystwyth who face a tough battle to avoid the drop. Tomi returns to his hometown club where he starred as a player and also occupied the manager’s seat in the early days of the WPL.Best of luck Tomi 01/03/12 Rhagolwg: v Y Rhyl / Preview: v Rhyl FC
Wedi rhediad anghredadwy o anlwc diweddar nid ymweliad gan y Rhyl byddai dewis gêm Gareth Parry ar gyfer ddydd Sadwrn. Ar y llaw arall dyma’r math o gêm sy’n cynnig y cyfle i Port godi ei gêm yn ôl i’r safon a welwyd cyn i’r holl ddigwyddiadau anffodus daro a bygwth holl waith da y chwaraewyr a’r rheolwyr.Ymateb Gareth Parry i’r problemau ydy dal ati i adeiladu’r tîm. Wrth ddod a Gruffydd John Williams, chwaraewr ifanc arall addawol i fewn, mae’n dal at y polisi o ddenu’r gorau o chwaraewyr lleol i’r Traeth. Mae hefyd wedi arwyddo Graham Boylan, blaenwr profiadol. Erbyn hyn mae’r Rhyl wedi gadael tu ôl iddynt rhediad gwael lle cafwyd dim ond un buddugoliaeth mewn pedair gêm gan golli ddwywaith ac un gêm gyfartal. Rwan cafwyd dwy fuddugoliaeth ar y ffordd a byddant yn chwilio i gwblhau’r hat tric ddydd Sadwrn. Os wnaiff Rhyl ennill eu gemau mewn llaw byddant yn mynd ar y blaen i Gei Conna, felly ni fyddant mewn unrhyw hwyl i ollwng pwyntiau ddydd Sadwrn. Gobeithio, o ran Port, y welwn ddychwelyd at y math o chwarae a gafwyd ar y Belle Vue ynghynt yn y tymor. After the incredible run of recent misfortunes a visit from title favourites Rhyl is hardly the fixture Gareth Parry would have chosen for next Saturday. On the other hand this is the kind of fixture which provides Port with the opportunity to raise their game back to a level where it stood at prior to the series of mishaps which threaten all the hard work put in by the management and players. To his credit Gareth Parry’s response has been to continue team building. By bringing in Gruffydd John Williams he continues his policy of attracting the best of young local players to the club. He has brought Graham Boylan to fill the striker’s role. Rhyl have come out of a lean spell where they had a run of four games winning once drawing once and losing twice. They have won their last two games, both on the road, and will be looking to make it a hat track of away wins on Saturday. They can overtake Connah’s Quay if they win all the games they have in hand so will be in no mood to drop points on Saturday. Let’s hope for a return to the kind of play shown in the game at the Belle Vue which ended all square. 27/02/12 Gareth Parry yn arwyddo dau / Gareth Parry brings in two new players
Mae Gareth Parry wedi arwyddo dau chwaraewr newydd. Blaenwr o Congleton ydy Graham Boylan a Gruffydd John Williams amddiffynnwr o Llanrug. Mae Graham Boylan yn ymuno â Port glwb Congleton sydd yn chwarae yng Nghynghrair Siroedd y Gogledd Orllewin.Ymysg ei glybiau blaenorol mae Pilkingtons a St Helens Town. Bydd yn ymuno wedi iddo dderbyn caniatâd rhyngwladol.Mae Gruffydd John Williams yn chwaraewr addawol, cyffrous sy’n 17 oed ac eisoes wedi chwarae 53 o gemau i CPD Llanrug gan sgorio 14 o goliau. Roedd yn aelod o garfan Dan-18 Lled broffesiynol Cymru o dan Terry Boyle a gurodd yr Iwerddon o 2-1 yn Wexford yn ddiweddar. Gruff hefyd ydy capten tîm Dan-18 Arfordir y Gogledd eleni. Newyddion ddim mor foddhaol yn anffodus ydy fod Gareth Jones Evans, un arall o chwaraewyr ifanc talentog Port, wedi derbyn y newyddion fod rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei ffêr, er mwyn gosod gwifren i ddal y toriad a gafodd yn Cei Conna. Pob dymuniad da Gareth.
Gareth Parry has brought in two new players. Graham Boylan a forward from Congleton and Gruffydd John Williams a defender from Llanrug FC. Graham Boylan is a striker who joins from from North West Counties club Congleton Town. Amongst his previous clubs are Pilkingtons FC and St Helens Town. He joins Port subject to receiving international clearance.Gruffydd John Williams is an exciting 17 year old prospect who has made 53 appearances and scored 14 goals for Llanrug. He was a member of Terry Boyle’s Wales Semi-Pro U-18 team that defeated Ireland by2-1 recently in Wexford. He is also captain of this season’s North Wales Coast U-18 side. The news unfortunately on Gareth Jones Evans, another outstanding prospect, is not so good. He has learned that he has to undergo an operation to his broken ankle in order to insert wire to hold the break. Best wishes Gareth from all at the club. 26/02/12 Tynnu tri Phwynt / Three Points Deduction
Mae pwyllgor Cynghrair Huws Gray wedi penderfynu tynnu tri phwynt oddi ar Porthmadog am ddefnyddio chwaraewr anghymwys yn y gêm yn erbyn Fflint. Ond ni hysbyswyd clwb Port fod y chwaraewr wedi cyrraedd y 5ed cerdyn ac felly wedi’i wahardd.Mewn gwrandawiad blaenorol roedd y Gymdeithas Bêl-droed wedi rhoi cosb o £50, gan dderbyn mai nhw (Y Gymdeithas Bêl-droed) oedd yn bennaf gyfrifol gan nad oedd y wybodaeth am y gwaharddiad wedi’i hanfon mewn pryd. Derbyniwyd y llythyr bedwar diwrnod ar ôl y dyddiad pan roedd y gwaharddiad i fod i ddechrau. Collodd y chwaraewr y gêm yn erbyn Caersws yn dilyn derbyn y llythyr. Ond mae’r gynghrair wedi penderfynu mynd yn llawer pellach na’r Gymdeithas Bêl-droed a thynnu tri phwynt, ac felly wedi rhoi cosb dipyn llymach nac mae Uwch Gynghrair Cymru wedi gosod am drosedd debyg. The Huws Gray Alliance have decided to deduct 3 points from Porthmadog for fielding an ineligible player in a match at Flint earlier in the season. However the FAW had not informed the Porthmadog club that the player had reached the five bookings and that he was suspended. At an earlier hearing the FAW had decided on a £50 fine accepting that they (the FAW) were primarily at fault as the notification of suspension had not been issued in time. It actually arrived at the club four days after the suspension was due to start. The player did in fact miss the game following the receipt of the notification. The league has inexplicably decided to go much further than the FAW and impose a three point deduction, a much more severe punishment than the Welsh Premier have imposed for a similar breach. 26/02/12 Rhagolwg: v Cei Conna / Preview: v Connah's Quay
Nos Fawrth bydd Cei Conna yn ymweld â’r Traeth ar gyfer gêm yng Nghwpan y Gynghrair gan rhoi inni gêm ganol wythnos brin. Mae’r ddau glwb wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair gyda’r gêm ar y Traeth rhyngddynt yn un o berfformiadau gorau’r tymor o ran y safon a’r chanlyniad. Yn yr ail gêm , Sadwrn diwethaf, sicrhawyd pwynt da ar Lannau Dyfrdwy mewn amgylchiadau anodd.Bydd chwaraewyr Port yn teimlo fod ganddynt bwynt i’w brofi ar ôl colli’n drwm ddydd Sadwrn. Er waetha’r holl anawsterau gydag anafiadau tymor hir, gwaharddiadau, tynnu pwyntiau a chwaraewr ar fenthyg yn cael ei alw ‘nol, doedd dim i’n paratoi ni at ganlyniad ddydd Sadwrn. Mae Gareth Parry yn ei nodiadau yn y rhaglen yn addo at nos Fawrth ”... ychydig o hen stejars yn ymddangos ac hefyd ychydig o chwaraewyr newydd cyffrous.” Ddydd Sadwrn cafodd Cei Conna fuddugoliaeth dda o 3-0 yn Rhuthun i dorri’r rhediad o dair gêm gyfartal. Bydd enillwyr gêm nos Fawrth yn chwarae enillwyr y gêm rhwng y Rhyl a Bwcle. On Tuesday night Connah’s Quay visit the Traeth for a League Cup tie, providing a rare midweek fixture. The two clubs have met twice in the league and the game at the Traeth was probably Port’s best performance of the season both in quality and result. The return game, only a week ago, was a good point gained in difficult circumstances. Port players will feel they have something to prove after Saturday’s defeat. Even all the difficulties encountered with long term injuries, suspensions, point deductions and a loan recall could hardly have prepared any of us for Saturday’s result. Gareth Parry in his programme notes prepare us for “... a few ‘old stagers’ making an appearance (on Tuesday) together with a few exciting new signings.” The Nomads on Saturday snapped out of their three match run of draws with a comfortable 3-0 win at Ruthin. The winners of Tuesday’s game will meet Rhyl or Buckley in the semi-final. 26/02/12 Enillwyr Tote Chwefror / February Tote Winners Y rhifau lwcus yn y Tote am fis Chwefror oedd 6 a 31. Un enillydd oedd sef Kevin Edwards, Trawsfynydd. Bydd Tote mis Mawrth yn cael ei dynnu Nos Wener 30 Mawrth yn ystod noson Bingo’r Clwb yn y Ganolfan. The winning numbers in the February Monthly Tote were 6 and 31. There was only one winner, Kevin Edwards, Trawsfynydd. The March Tote will be drawn on Friday, 30 March at the weekly Bingo at Y Ganolfan. 25/02/12 Jason yn ymuno / Jason signs Mae Porthmadog wedi arwyddo Jason Harvey chwaraewr canol cae o glwb Llanfairpwll. Chwaraeodd 5 o gemau fel eilydd dros Port yn UGC yn 2005/06. Porthmadog have signed Jason Harvey a midfielder from Welsh Alliance club Llanfairpwll. He previously made 5 sub appearances in the WPL for Port in 2005/06. 24/02/12 Gwaharddiad am un gêm / One match suspension Mae’r rhestr gwaharddiadau ar wefan y Gymdeithas Bêl-droed yn dangos fod Richard Harvey wedi’i wahardd am un gêm ôl iddo gael ei yrru o’r cae ddydd Sadwrn diwethaf. The FAW’s suspension list on their website shows that Richard Harvey, who was sent off last Saturday, has received a one match ban. 23/02/12 Gêm Sadwrn am 2pm / 2pm kick off Saturday Atgoffir cefnogwyr fod gêm ddydd Sadwrn yn cychwyn am 2 o’r gloch. Supporters are reminded that Saturday’s home game will kick off at 2 pm. 23/02/12 Golwr ar fenthyg yn arwyddo / Loan keeper signs.
Mae Gareth Parry wedi arwyddo Meilir Huws golwr o Fangor. Arwyddo am gyfnod byr fydd Meilir a disgwylir iddo fod efo Port am bythefnos tra fod y golwr rheolaidd Richard Harvey yn cwblhau ei waharddiad o dair gêm. Ymunodd Meilir Huws a Bangor o glwb Dyffryn Nantlle, ac mae’n chwarae i’r ail dîm ond hefyd wedi bod ar y fainc i’r tîm cyntaf.Y gêm yn erbyn Bwcle fydd y gyntaf i Richard Harvey fethu yn ystod y ddau dymor diwethaf. Ers Awst 2010 mae wedi chwarae 63 o gemau’n olynol sy’n deyrnged i’w gysondeb a’i ffitrwydd. Manager Gareth Parry has announced the short term signing of young goalkeeper Meilir Huws from Bangor City. Meilir is expected to be with Port for the next fortnight while regular keeper Richard Harvey serves his three match suspension. Meilir Huws, who joined from Nantlle Vale, is a reserve keeper at Bangor but has also been on the bench for the first team. The game against Buckley will be the first for Richard Harvey to miss during the past two seasons. Since August 2010 he has played 63 consecutive first team games, a tribute to both his form and fitness. 23/02/12 Rhagolwg: v Bwcle / Preview: v Buckley
Mae Bwcle wedi gwthio’r cwch i’r dwr mewn ymdrech i ennill y gynghrair. Mae’r clwb sy’n drydydd wedi arwyddo pump o chwaraewyr newydd yn ystod y dyddiau diwethaf a gyda dau arall yn gadael mae yna dipyn o newid personél wedi bod ar adeg hwyr yn y tymor.Y ddau enw cyfarwydd o’r pump newydd ydy Mark Allen amddiffynnwr profiadol o Airbus a Carl Lamb ymosodwr a gafodd brofiad o chwarae yn UGC gyda Bangor a TNS. Y tri arall ydy Khalid Al Samaarie golwr o West Kirby, y chwaraewr ochr chwith Adam Strode a’r blaenwr Jacques Bonfrer a oedd gyda Everton yn chwaraewr ifanc. Ond mae Mike Burke, un o’r blaenwyr gorau’r HGA, wedi ymuno â Derwyddon Cefn. Y chwaraewr arall i adael ydy’r chwaraewr ganol cae Ben Smith. Bu’n rhaid gohirio gêm ganol wythnos Bwcle yn erbyn Cegidfa. Colli bu eu hanes y penwythnos diwethaf yn erbyn Conwy wedi iddynt ennill eu tair gêm flaenorol. Yn wahanol iawn i’r digonedd o chwaraewyr sydd ar gael i Gareth Thomas, rheolwr Bwcle, mae yna brinder garw yn wynebu Gareth Parry yn dilyn anafiadau drwg a’r gwaharddiadau a nodwyd eisoes ar y wefan. Sicrhaodd Bwcle y dwbl dros Port y tymor diwethaf a hefyd y gêm flaenorol eleni, felly mae’n hen bryd i weld Port yn ennill! Dangoswyd digonedd o ysbryd a threfn yn Cei Conna, dwy rinwedd fydd eu hangen eto ddydd Sadwrn. Buckley Town have seriously pushed the boat out for a final title push. The third placed club have brought in no fewer than five new players during the past few days and with two also leaving that represents quite a turnover of players at this stage of the season. The two familiar names amongst the five are Mark Allen the experienced central defender from Airbus and Carl Lamb a striker who has had WPL experience with Bangor and TNS. The others are goalkeeper Khalid Al Samaarie from West Kirby, left sided player Adam Strode and former Everton youth, forward Jacques Bonfrer. Mike Burke, one of the best strikers in the league, has left the club and switched to promotion rivals Cefn Druids. The other player to leave is midfielder Ben Smith. Buckley had their midweek fixture with Guilsfield postponed. Last time out they lost at home to improving Conwy but won their previous three. In contrast to the abundance of players available to manager Gareth Thomas at the Globe Way club, the scarcity of players, following serious injuries and suspensions, available to Gareth Parry have already been noted on the website. Buckley did the double over Port last season and won this season’s previous clash so it’s time for a Port win! They showed excellent spirit and organisation at Connah’s Quay, two things that will be needed again this Saturday. 22/02/12 Gair yng nghlust Gwyn Derfel / Gwyn Derfel: A word in your ear
O’r diwedd mae swyddog blaenllaw wedi dangos anfodlonrwydd â fformat presennol UGC. Mae cadeirydd clwb Port Talbot, Andrew Edwards, wedi dweud yr hyn mae’r cefnogwyr eisoes wedi bod yn ei ddweud a mwy na dweud ond gwneud hefyd. Mae torfeydd UGC o ganlyniad yn siomedig o isel. Darllenwch yr erthygl llawn. At last a senior official has broken rank and cast doubt over the current WPL format. Port Talbot chairman, Andrew Edwards has come out and said what fans have already been saying. Fans have also backed their views and voted with their feet staying away from WPL grounds in numbers. Read the article in full. 22/02/12 Gêm ddydd Sadwrn i gychwyn am 2pm / 2pm kick off Saturday I osgoi cyd daro gyda’r rygbi, bydd y gic gyntaf yn y gêm rhwng Porthmadog a Bwcle ddydd Sadwrn nesaf, am 2 o’r gloch. To avoid a clash with the televised rugby, next Saturday’s game between Porthmadog and Buckley, will kick off at 2pm. 20/02/12 Rownd cynderfynol Huws Gray / Draw made for Huws Gray semi-final
Tynnwyd yr enwau ar gyfer rownd cynderfynol Cwpan y Gynghrair. Bydd enillwyr y gêm yn yr ail rownd rhwng Porthmadog a Cei Conna yn chwarae enillwyr y gêm rhwng Rhyl a Bwcle. Bydd y gêm honno yn cael ei chwarae ar Barc Maesdu yn Llandudno. Chwaraeir y gêm rhwng Port a Chei Conna ar nos Fawrth, 28 Chwefror ar y Traeth.Bydd y rownd cynderfynol arall rhwng Penrhyncoch a Caersws neu Derwyddon Cefn. Chwaraeir y gêm honno yn Cegidfa. The draw has been made for the semi-final of the Huws Gray League Cup. The winners of the 2nd round game between Porthmadog and Connah’s Quay will take on the winners of the game between Rhyl and Buckley. That semi will be played at Maesdu Park, Llandudno. The game between Port and Connah’s quay will be played at the Traeth on Tuesday, 28 February. The other semi final will be between Penrhyncoch and either Caersws or Cefn Druids. That game to be played at Guilsfield. 19/02/12 Mwy o broblemau i Gareth Parry / More problems for Gareth Parry
Mae Port yn mynd i orfod talu’r pris am y pwynt a frwydrwyd mor galed amdano ddydd Sadwrn. Daeth i’r amlwg fod yr anaf i’r chwaraewr canol cae talentog, Gareth Jones Evans, yn waeth na’r hyn a ofnwyd. Mae pelydr-x heddiw wedi datgelu ei fod wedi torri ei ffêr mewn tacl wrth iddo fynd am y gôl ddydd Sadwrn. Mae felly’n dilyn dau arall, sef Carl Owen a Marcus Orlik, sydd hefyd wedi dioddef anafiadau drwg a byddant allan am weddill y tymor.Yn ogystal mae Aaron Richmond ac Iwan Williams, a wnaeth gyfraniadau gwerthfawr i’r frwydr amddiffynnol 10 dyn, hefyd wedi cael eu hanafu. Mae Aaron wedi troi ei ffêr tra fod Iwan wedi dioddef anaf i’w gefn. Problemau i Gareth Parry felly, a dywedodd y rheolwr heddiw “Ni fydd Iwan yn gallu ymarfer yr wythnos hon ond gobeithio’n wir y bydd ar gael erbyn ddydd Sadwrn.” Gyda Richard Harvey, yn dilyn ei gerdyn coch, yn bendant yn methu’r ddwy gêm gynghrair nesaf ar y Traeth, yn erbyn Bwcle a’r Rhyl, a’r gêm yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn Cei Conna a Mark Jones yn dal a dwy gêm yn weddill o’i waharddiad, mae’n troi yn dipyn o hunllef i’r rheolwr. A battling point on Deeside yesterday has come at a price. The news of the talented young midfielder Gareth Jones Evans is worse even than first feared. Today’s x-ray has revealed that Gareth, who went down in a challenge as he bore down on the Nomads goal, has suffered a broken ankle. He follows Carl Owen and Marcus Orlik, two other Port players who have suffered serious injuries, and will not play again this season. In addition Aaron Richmond and Iwan Williams, who made valuable contributions to Saturday’s 10-man rearguard action, have both reported injuries. Aaron has suffered a sprained ankle while Iwan has picked up a back injury. A concerned Gareth Parry says, “Iwan will be unable to train this week but let’s hope he can make it by Saturday.” With Richard Harvey set to miss the next two home league games against Buckley and Rhyl, together with the League Cup tie against Connah’s Quay, after being red carded on Saturday and Mark Jones still having two games of his three match suspension remaining, it is turning into a manager’s nightmare situation. 17/02/12 Dwy sioc nos Wener / Two surprise Friday results
Mae’r ddwy gêm nos Wener wedi creu sioc. Colli adref oedd hanes y ffefrynnau Rhyl o 2-1 yn erbyn y Derwyddon sydd bellach wedi cwblhau’r dwbl drostynt. Hyn yn golygu fod y Derwyddon wedi codi i’r ail safle. Yn y gêm arall mae Conwy yn dal i wella ac yn curo Bwcle o 3-1.The two Friday evening games have produced surprises. Title favourites Rhyl were beaten 2-1 at home by Cefn Druids which means that the Druids have completed the double over the Belle Vue club. Cefn now move into second place. While in the other game, Conwy continued their change of fortunes defeating Buckley Town at Globe Way by 3-1. 16/02/12 Rhagolwg: v Cei Conna / Preview: v Connah’s Quay
Ar ôl sgwennu dau rhagolwg ar gyfer gemau na chwaraewyd, gobeithio am well lwc gyda’r tywydd ddydd Sadwrn yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy pan y gwrthwynebwyr fydd Cei Conna, y pencampwyr a’r clwb sydd ar ben y tabl presennol. Yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau ar y Traeth, Port oedd yn fuddugol o 2-0 diolch i berfformiad da a goliau gan Darren Thomas a Jamie McDaid. Ennill wnaeth Port y tro diwethaf iddynt ymweld â Glannau Dyfrdwy hefyd, o 2-1 gyda Paul Roberts yn rhwydo ddwywaith.Yn wahanol i Port, llwyddodd Cei Conna osgoi’r tywydd rhewllyd a chwarae eu gêm y penwythnos ddiwethaf. Ond methu cymryd llawn fantais oedd yr hanes ac roedd angen gôl hwyr iawn i sicrhau gêm gyfartal gyda Conwy, clwb sydd wedi gwella’n ddiweddar. Hon oedd eu hail gêm gyfartal yn olynol gan i Llanrhaeadr hefyd eu dal. Nid yw Port wedi bod ar eu gorau yn ddiweddar ac roedd sicrhau buddugoliaeth dros Cegidfa yn rhyddhad wedi cyfnod o ganlyniadau gwael. Bydd y ddau glwb am fod yn ôl ar eu gorau ddydd Sadwrn. Mae Port heb chwarae ers tair wythnos –nid y paratoad gorau – ond bu’n gyfle i rhai chwaraewyr wella o’u hanafiadau. Mae Cei Conna wedi gwthio’r cwch i’r dwr yn diweddar mewn ymdrech i gryfhau a dal eu gafael yn y teitl. Yr enw mwyaf i’r rheolwr Mark McGregor arwyddo ydy Ricky Evans sydd wedi cyfrannu at bob un o’r nifer fawr o glybiau a gafodd yn y gorffennol. Bydd Port yn anelu i ail adrodd llwyddiant llynedd, ond er mwyn gwneud bydd angen iddynt fod ar eu gorau. Mae Cei Conna wedi sgorio 68 o goliau y tymor hwn ac yn Gary O’Toole mae ganddynt prif sgoriwr y gynghrair. Bydd yn prawf pendant ar unrhyw amddiffyn. After two previews for unplayed games let’s hope for better luck with the weather at the Deeside Stadium on Saturday when Port take on the champions and current league leaders, Connah’s Quay. In the corresponding game between the two clubs at the Traeth an excellent home performance gained Port the three points with a 2-0 win thanks to goals by Darren Thomas and Jamie McDaid. Port were also winners on their last visit to Deeside by 2-1 with Paul Roberts scoring both Port goals. Unlike Port, the Deeside club managed to avoid the freezing conditions and played last weekend. But they failed to take full advantage and were held to a draw by improving Conwy, needing an injury time goal to level the scores. This was their second successive draw as they were also held to a draw at Llanrhaeadr. Their best form has also deserted Port recently and they were glad of a hard fought win over Guilsfield to break their worst sequence of results of the season. Both clubs will look for a return to their best on Saturday. Port have not played for three weeks, hardly the best preparation for a key match, though it has given injured players extra recovery time. The Nomads have pushed the boat out recently, strengthening in a determined effort to retain their title. Manager Mark McGregor’s biggest signing is much travelled Ricky Evans who has always contributed at his many previous clubs. Port will aim to repeat last season’s success but will need to be at their best to do so. Nomads’ free scoring record with 68 goals scored and in Gary O’Toole possess the league’s leading scorer. He will provide a stern test for any defence. 15/02/12 HGA yn ymestyn y Tymor/ HGA season to be extended
Yn ôl y disgwyl mae’r HGA wedi ymateb i’r holl ohiriadau diweddar drwy ymestyn y tymor. Roedd y tymor fod i orffen ar 24 Mawrth ond bellach fydd yna ychwanegiad o dair wythnos i’r tymor fydd bellach yn gorffen ar ddydd Sadwrn, 14 Ebrill.Dyma gemau Porthmadog ar y dyddiadau yma: 31 Mawrth: Porthmadog v Llanrhaeadr YM 7 Ebrill: Rhuthun v Porthmadog 14 Ebrill: Porthmadog v Fflint. Bydd y gêm yn erbyn Aelwyd y Rhos, ar Barc Ponciau ac sydd eisoes wedi’i gohirio ddwywaith, yn cael eu chwarae ar ddydd Sadwrn, 10 Mawrth. As expected the HGA have responded to the fixture cancellations of recent weeks by extending the season. The season was due to end on 24 March but there will be a three week extension which now makes Saturday, 14 April the final day of the season. The rearranged Porthmadog fixtures for these dates are: 31 March: Porthmadog v Llanrhaeadr YM 7 April: Ruthin Town v Porthmadog 14 April: Porthmadog v Flint The Rhos Aelwyd fixture at Ponciau Park which has already fallen foul of the weather on two previous occasions will now be played on Saturday, 10 March. |
|||
|
|
|||