|
![]() |
|
|
|
|||
|
12/02/12 Tair gêm yn unig / Three games only go ahead Oherwydd y tywydd dim ond tair gêm chwaraewyd yn yr HGA dros y penwythnos. Llwyddodd Cei Conna, ein gwrthwynebwyr nesaf, chwarae eu gêm nos Wener ond am yr ail gêm yn olynol cawsant eu dal i gêm gyfartal. Golyga hyn nad ydynt wedi manteisio’n llawn a chadarnhau’r fantais ar ben y tabl. Ddoe dwy gêm chwaraewyd. Cymrodd y Derwyddon fantais wrth sicrhau’r fuddugoliaeth yng Nghegidfa a symud uwchben Porthmadog i’r 3ydd safle. Tra ar pen arall y tabl, er fod Llangefni wedi medru croesawu Caersws nid oedd yn fawr o help i’w hachos. Mae’r clwb a Fôn ac Aelwyd y Rhos ar y gwaelod ac yn colli cysylltiad efo’r gweddill. Bydd angen dipyn o adfywiad iddynt osgoi’r cwymp. Gyda gêm Rhyl hefyd wedi’i gohirio mae’r ffefrynnau wedi chwarae nifer o gemau yn llai na phawb arall ac wedi chwarae pedair gêm yn llai na Chei Conna ar y brig. The weather again restricted the HGA programme this weekend. Our opponents next Saturday, Connah’s Quay, got their game in on Friday evening and were held to a second successive draw which means that they have not been able to take full advantage and consolidate their position at the top of the table. Yesterday two games were played. Cefn Druids took advantage of a playable pitch at Guilsfield winning 2-1 and moving into third place at the expense of Porthmadog. While at the other end of the table Llangefni were in action but a home defeat to Caersws did not help their cause. The Anglesey club and Rhos Aelwyd are becoming increasingly isolated at the foot of the table and it will take a major revival if either are to evade the drop. With Rhyl unable to play again the favourites have a greater fixture problem than any other club and have played four fewer games than leaders Connah’s Quay. 11/02/12 Gêm ffwrdd yn Rhos / Game off at Rhos Gohiriwyd y gêm yn erbyn Aelwyd y Rhos a oedd i’w chwarae heddiw gan fod Parc Ponciau wedi rhewi. Today’s game against Rhos Aelwyd has been postponed as Ponciau Park is frozen. 10/02/12 Gem gyfartal i Cei Conna / Connahs Quay held at home 1-1 oedd hi heno rhwng Cei Conna a Conwy. Gol yn amser ychwanegol i Gei Conna. An added time goal gave Connah's Quay a 1-1 draw at home tonight against Conwy. 10/02/12 Croeso cynnes i Lili-Ela / A warm welcome to Lili-Ela Llongyfarchiadau i Gareth a Louisa ar enedigaeth eu hail blentyn Lili-Ela chwaer a ffrind i Cara-Lou. Erbyn yr ymweliad â Chei Conna roedd Lili-Ela fod i gwneud ei hymddangosiad ond penderfynodd mai Rhosllanerchrugog oedd ei dewis hi! Dymuniadau gorau wrth bawb yn y clwb. Congratulations to our manager Gareth and his wife Louisa on the birth of their second child Lili-Ela and a sister and playmate for Cara-Lou. Lili-Ela was due to put in an appearance in time for the visit to Connah’s Quay but in the event she showed a distinct preference for Rhosllanerchrugog! Best wishes from all at Porthmadog FC. 09/02/12 Rhagolwg: v Aelwyd y Rhos / Preview: v Rhos Aelwyd
Os bydd y tywydd yn caniatáu, ymweld â’r Rhos fydd Port ddydd Sadwrn. Roedd y gêm hon fod i gael ei chwarae ar 17 Rhagfyr ond cafodd ei gohirio oherwydd y tywydd rhewllyd yn ardal Wrecsam. Yn y gêm gyfatebol ar y Traeth Port enillodd o 4-1 gyda Darren Thomas, Craig Roberts, Marcus Orlik a Marc Evans yn sgorio.Wedi iddynt orffen yn y pump uchaf y tymor diwethaf mae Aelwyd y Rhos wedi’i chael hi’n anodd y tymor hwn. Nhw sydd ar waelod y tabl gyda dim ond 8 pwynt. Dim ond unwaith y llwyddon nhw i ennill y tymor hwn a hynny yn ôl ym mis Awst yn erbyn Rhuthun. Ond yn ddiweddar mae pethau wedi tynhau a’r clwb yn sicrhau tair gêm gyfartal o’u chwe gêm ddiwethaf. Bydd Port yn ymwybodol na ellir cymryd dim yn ganiataol mewn cynghrair mor gystadleuol. Mae’r toriad o ganlyniad i’r tywydd gwael wedi rhoi amser ychwanegol i rai fel Rhys Roberts, Aaron Richmond a Steve Kehoe , wella o’u hanafiadau. Er nad oes gan Marcus Orlik doriad fel yr ofnwyd yn wreiddiol, mae rhwyg i’w ligament yn dal i olygu ei fod allan am weddill y tymor. Gan fod y gêm yn Rhuthun wedi’i gohirio nid yw gwaharddiad tair gêm Mark Jones wedi dechrau eto. I’r Rhos mae’r amddiffynnwr allweddol Mike Sharples, a fu ar fenthyg o’r Bala, wedi trosglwyddo’n barhaol. Weather permitting Port will visit Ponciau Park, Rhos on Saturday. This fixture was originally due to have been played on 17 December but fell foul of the freezing conditions in the Wrexham area. In the corresponding game at the Traeth, Port ran out winners by 4-1 with goals from Darren Thomas, Craig Roberts, Marcus Orlik and Marc Evans. After a top five finish last season Rhos Aelwyd have struggled this time, finding themselves at the foot of the table with only 8 pts. They have only one league win and that solitary victory was over Ruthin, and gained way back on 27 August. But they have recently tightened up to the extent that they have drawn three of their last six games. Port will therefore be aware that in the increasingly competitive HGA nothing can be taken for granted. The enforced break means that those who have been carrying knocks like Rhys Roberts, Aaron Richmond and Steve Kehoe have been given an extra week for recovery. Though Marcus Orlik has not suffered a fracture as originally feared, the torn ligaments mean the same -he will be out for the remainder of the season. Last week’s cancellation means that Mark Jones is yet to start his three match suspension. For Rhos key defender Mike Sharples, who had previously been on loan from Bala. has now made a permanent move. 08/02/12 Siom Anthony / Anthony's disappointment Os oeddech yn bwriadau teithio i Rhuthun ddydd Sadwrn diwethaf a cael eich cynlluniau wedi effeithio gan y tywydd ystyriwch sefyllfa Anthony Gosnay a yrrodd 200 milltir o Fryste nos Wener yn un swydd i weld y gêm rhwng Port a Rhuthun. Ond wedyn canfod fod y gêm yn cael ei gohirio bore Sadwrn am 10 am. Er fod amheuon nos Wener roedd rhaid i glwb Rhuthun aros tan y bore cyn penderfynu, gan fod adroddiadau tywydd yn darogan i’r tymheredd godi rhywbryd ddydd Sadwrn. Ond rhy hwyr oedd y newid, a gohiriwyd pob gêm yn yr HGA. Er waetha’i siom cwestiwn Anthony ar Facebook oedd “Ydy’r gêm wedi’u hadrefnu eto?” Gyda’r tywydd yn bygwth eto y penwythnos yma bydd y newyddion diweddaraf yn cael ei osod ar y wefan ac ar facebook cyn gynted a fydd yna benderfyniad. If you were intending to travel to Ruthin on Saturday and had your plans affected then spare a thought for Anthony Gosnay who drove 200 miles on Friday night from Bristol especially to see the Ruthin v Port game only to find that the game was cancelled on Saturday morning at 10 am. Anthony says on Facebook “I am gutted,” and no wonder. Though there must have been very serious doubt on Friday the Ruthin club had to wait until Saturday morning to decide in view of weather reports of a rise in temperatures by Saturday. In the event that change came too late to save any of the HGA fixtures. Despite his experience Anthony still asks “When is it re-scheduled for?” With the weather looking to be a problem again this weekend news of the game at Rhos will be posted here and on Facebook as soon as it is available. 06/02/12 Mike Smith yn cymryd golwg ar Port / Mike Smith takes a look at Port Mae gan Mike Smith ar ei wefan ardderchog, ‘Citizens Choice’, bersbectif diddorol ar dymor Port. Bu peth newid ers i Mike sgwennu –colli tair gêm yn olynol yn gwneud bywyd yn anodd i’r rheolwr Gareth Parry, a’r addawol Jamie McDaid yn synnu nifer wrth ddewis mynd i chwarae ar lefel Welsh Alliance. Hefyd ymddiheuriadau rhag blaen i’r ‘bythol wyrdd Richard Harvey’!! Mae'r erthygl lawn i'w gweld yn: http://www.the-citizens-choice.co.uk/cymru.html Mike Smith, on his excellent Citizens Choice website, has an interesting perspective on Porthmadog’s season. Some things have changed since Mike penned his article –the loss of three consecutive matches has made life more difficult for manager Gareth Parry and Jamie McDaid made his surprising move, for a young player of potential, to play his football at Welsh Alliance level. Also apologies in advance to “evergreen Richard Harvey”!! The full article can be seen at: http://www.the-citizens-choice.co.uk/cymru.html 04/02/12 Pob gêm wedi gohirio / All games postponed Wnaeth hi ddim dadmer mewn pryd i achub unrhyw gêm HGA heddiw. Gohiriwyd pob un o’r gemau. Golyga hyn fod 17 o gemau’r tymor hwn wedi’u gohirio yn barod.Mae swyddogion yr HGA wedi cyhoeddi fod ganddynt hyd at ddiwedd Mai cyn fydd angen iddynt wneud cais am estyniad i’r tymor. Gyda’r tymor HGA fod i orffen ar 24 Mawrth mae gan swyddogion ddigon o amser i adrefnu gemau ar ddiwedd y tymor. Dywedodd Chas Rowlands, ysgrifennydd y gynghrair fod rhai o’r gemau a ohiriwyd eisoes wedi’u hadrefnu a bydd yna gyhoeddiad ynglyn â hyn ar ôl i’r gemau yn y cwpanau rhanbarthol gael eu chwarae ar 11 Chwefror. The thaw did not arrive in time to save any of today’s HGA programme. All games have been postponed. This makes the total number of HGA games postponed so far this season to 17. HGA officials have stated that they have until the end of May to complete fixtures before they have to request an extension to the season. With the season currently scheduled to be completed on the 24 March there is considerable room for manoeuvre. The HGA secretary Chas Rowlands has said that some postponed fixtures have already been rescheduled and will be published after the regional games of 11 February. 04/02/12 Gêm ffwrdd yn Rhuthun / Game off at Ruthin Mae’r gêm heddiw yn Rhuthun wedi’i gohirio am fod y Cae Coffa wedi rhewi. Today’s game at Ruthin has been postponed as the Memorial Fields pitch is frozen. 03/02/12 Archwiliad o’r cae bore Sadwrn / Ground inspection Saturday morning Bydd yna archwiliad o’r cae bore Sadwrn am 10.30 am. Er fod y tywydd fod i newid mae’n amheus a wnaiff ddigwydd mewn pryd i’r gêm fynd yn ei blaen. Ond bydd canlyniad yr archwiliad yn cael ei osod ar y wefan yn syth fydd i law. There will be a Saturday morning ground inspection at 10.30 am. The weather is set to change tomorrow though questionable whether it will happen in time for the game to go ahead. The result of the inspection will be posted as soon as it is available. 02/02/12 Rhagolwg: v Rhuthun / Preview: v Ruthin
Mae’r HGA wedi datblygu’n gynghrair gystadleuol iawn ac, ar wahân i bresenoldeb nifer o glybiau cryf sy’n brwydro yn rhan uchaf y gynghrair, un o’r prif rhesymau am hyn ydy datblygiad nifer o glybiau yn y canol sydd wedi’u trefnu’n dda, yn amddiffyn mewn niferoedd a gwrth ymosod yn sydyn. Dangoswyd yn barod fod y clybiau yma yn medru cymryd pwyntiau oddi ar y ceffylau blaen.Mae hyn wedi digwydd i Port mewn tair gem ddiweddar ar y Traeth. Mae Penrhyncoch, Cegidfa a Chonwy yn dod i’r categori yma. Dros yr wythnosau diwethaf mae Rhuthun, ein gwrthwynebwyr nesaf, wedi bod yn dynn iawn yn y cefn ac yn anodd i’w curo. Ers colli o 5-0 yn erbyn Fflint ar ddiwedd mis Tachwedd buont ar rhediad o chwe gêm heb golli –pedair gêm yn gyfartal -dwy yn ddi-sgôr a dwy yn 1-1. Dim ond tair gôl sgoriwyd yn eu herbyn yn y chwe gêm. Daeth y ddwy fuddugoliaeth yn erbyn Llangefni a Llanrhaeadr a werth ei nodi hefyd ydy’r gêm gyfartal yn erbyn y Derwyddon. Yn y gêm gyfatebol ar y Traeth Port enillodd o 2-1. Ers hynny mae Rhuthun wedi newid eu rheolwr gyda Adie Jones yn gadael a Steve Crampton yn cymryd ei le. Mae newidiadau personél wedi bod gyda Kevin Garland a Joe Garner yn dilyn Adie Jones i Langefni. Newydd ddyfodiad ifanc i’r clwb ydy Josh Davies sydd wedi creu argraff ers ymuno o Llandyrnog. Torrwyd ar rhediad gwael o ganlyniadau gyda’r fuddugoliaeth dros Cegidfa mewn gêm galed, diolch i ddwy gôl dda. Yn anffodus i Mark Jones, a gafodd hanner awr dda ddydd Sadwrn, bydd yn methu allan ar ôl derbyn cerdyn coch. One of the main reasons for the competitiveness of the HGA this season, apart from the presence of several strong teams who are battling it out at the top, has been the development of mid table sides who are well organised, defend in numbers and hit on the break. These clubs have shown themselves capable of taking points off the leading teams. Port have found this out during their last three games at the Traeth. Penrhyncoch, Guilsfield and Conwy are three teams who come into this category. Over recent weeks Saturday’s opponents Ruthin Town have been very tight at the back and capable of grinding out results. Since their 5-0 defeat to Flint at the end of November they have gone six games without defeat but significantly four of those have been draws, two goalless and two 1-1. They have only conceded 3 goals in the six games. The victories came over Llangefni and Llanrhaeadr and worth noting is a good home draw against Cefn Druids. In the corresponding match at the Traeth, Port were the winners by 2-1. Since then there has been a change of manager at Ruthin with Adie Jones leaving and Steve Crampton taking over. There have been comings and goings at the club with Kevin Garland and Joe Garner joining Adie Jones at Llangefni. A young newcomer who has made an impression since joining from Llandyrnog has been Josh Davies. Port broke a poor sequence of results on Saturday in a hard physical game thanks to two well worked goals. It is unfortunate that Mark Jones will now miss out following the sending off, as he showed up well in his 30 minutes on Saturday. 01/02/12 Tymheredd isel yn arwain at ohirio / Low temperatures take their toll
Mae’r tymheredd isel wedi arwain at ohirio’r gêm gynghrair rhwng Bwcle a Chegidfa a oedd i’w chwarae heno (nos Fercher). Hyn yn dilyn gohirio’r gêm yn Llangefni neithiwr. Chwaraewyd y gêm ar Maesdu, Llandudno neithiwr a Fflint oedd yr enillwyr o 3-2.The low temperatures are taking their toll with the Buckley v Guilsfield fixture scheduled for this evening (Wednesday) being postponed. This follows last night’s match at Llangefni. The Llandudno v Flint game escaped the fall in temperatures and at Maesdu Flint were the winners by a 3-2 margin. 31/01/12 Enillwyr Tote Ionawr / January Tote Winners Y rhifau lwcus yn y Tote am fis Ionawr oedd 08 a 16, roedd 2 enillydd, K. Roberts, Tai'r Felin, Porthmadog a Lona Williams, East Avenue, Porthmadog yn ennill £135 yr un. Bydd Tote Mis Chwefror yn cael ei dynnu Nos Wener 24ain Chwefror yn ystod noson Bingo y Clwb yn y Ganolfan. The winning numbers in the January Monthly Tote were 08 and 16; there were 2 winners, K. Roberts, Tai'r Felin, Porthmadog and Lona Williams, East Avenue, Porthmadog, winning £135 each. The February Tote will be drawn on Friday, 24th February at the weekly Bingo at Y Ganolfan. 31/01/12 Gemau pwysig canol wythnos / Important mid-week games Roedd dwy gêm gynghrair bwysig i’w chwarae heno (nos Fawrth) ond mae un sef ymweliad y Rhyl a Llangefni wedi’i gohirio am fod Cae bob Parry wedi rhewi. Y gêm arall ydy’r un rhwng Llandudno a’r Fflint yn Maesdu. Nos yfory (nos Fercher) bydd Bwcle, y clwb yn yr ail safle, yn croesawu Cegidfa, y clwb a gollodd 2-1 i Port ddydd Sadwrn diwethaf. Two important league games were scheduled for this evening (Tuesday) but the game at Llangefni, where Rhyl were the visitors, has been postponed due to a frozen pitch. In the other game Llandudno entertain Flint at Maesdu. Tomorrow evening (Wednesday) sees 2nd placed Buckley at home to Guilsfield the club that lost 2-1 at the Traeth last Saturday. 31/01/12 Gareth yn gosod y broblem / Gareth poses a problem
Dros yr wythnosau diwethaf mae’r rheolwr Gareth Parry wedi bod yn tynnu sylw -yn y rhaglen- at y math o broblemau sy’n wynebu rheolwr yn ystod y tymor. Amhosib i rheolwr blesio pob cefnogwr drwy’r amser ac yn wir gall fod yn dipyn o gamp i blesio ambell un hyd yn oed am ychydig o’r amser!Yn rhaglen ddydd Sadwrn cyfeiriodd at sefyllfa sy’n ei wynebu ar y funud. I arwyddo neu peidio arwyddo dyna’r cwestiwn. Dyma sut osodwyd y broblem gan Gareth: “Heb ail dîm, a gyda nifer yr anafiadau yn codi’n wythnosol a fyddech yn arwyddo chwaraewyr newydd i fod wrth gefn gan gadw’r garfan yn gryf? Ond wrth wneud hyn wynebu’r risg o gael 17/18 o chwaraewyr ffit i gadw’n hapus erbyn yr wythnos ganlynol? Neu fyddech yn dal ati gyda ond 13 o chwaraewr am wythnos a chadw’r garfan yn sefydlog at yr wythnos ganlynol? Beth yw eich ymateb? Anodd ennill mewn sefyllfa o’r fath. Beth am roi eich barn ar fforwm y clwb? Over recent weeks manager Gareth Parry has highlighted, in the match programme, the kind of decisions which a manager has to make during the season. No manager can please all supporters all of the time and in fact it can be something of an achievement to please some for even a very small period of time! Saturday’s programme put forward a scenario which the manager is facing right now. To sign or not to sign that is the question. This is how Gareth poses the question: “With no reserve side and an injury list growing by the week would you sign new players as back-up for the injured players to ensure strength in depth in the side but risking that you have the 17/18 players to keep happy? Or would you continue with 13 players for a week, maintaining the status quo the week after?” How would you respond? It is another potential no win situation. Why not give your views on the website forum? 29/01/12 Sadwrn da i’r HGA / Good Day for HGA Llongyfarchiadau i’r pum clwb o’r HGA am eu perfformiadau yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn. I Derwyddon Cefn mae’r lle blaenaf am eu buddugoliaeth ardderchog yng Ngherddi Bastion o 2-0 dros Brestatyn, clwb sydd wedi gorffen hanner cyntaf y tymor yn chwech uchaf UGC. Yn Aberystwyth bydd y Derwyddon yn y rownd nesaf i geisio mynd un yn well na Llandudno ac aeth a’r clwb o Goedlan y Parc i amser ychwanegol a ciciau o’r smotyn cyn ildio. Er iddynt chwarae a dim ond 10 dyn am fwy neu lai y gêm gyfan roedd angen amser ychwanegol a ciciau o’r smotyn ar Lanelli, deiliad y gwpan, cyn iddynt gael mynediad i’r rownd nesaf. Roedd angen amser ychwanegol ar y Bala, un arall o’r chwech uchaf, cyn curo Bwcle a ddaeth yn ôl o fod ddwy gôl ar ei hol hi i fod yn gyfartal ar ddiwedd naw deg munud. Bu’n rhaid i glwb llawn amser Castell Nedd frwydro galed cyn curo’r Fflint. Hyn i gyd yn cadarnhau yr hyn mae nifer wedi teimlo, fod cynghrair Huws Gray yn un safonol iawn, arwydd pendant o gryfder pêl-droed yn y gogledd. Mae hefyd yn pwysleisio’r pwysigrwydd i glybiau symud i fyny ac i lawr yn flynyddol rhwng yr HGA ac UGC. Ni ddylid ail adrodd yr hyn ddigwyddodd i Gei Conna llynedd a hynny mewn amgylchiadau braidd yn amheus. Mae’r gwahaniaeth rhwng UGC a’r HGA yn llai na hoffai rhai gredu, ac ni ddylid byth ganiatáu i’r freuddwyd sydd gan rhai o droi’r Uwch Gynghrair yn siop gaeedig i’r ychydig dethol ddod yn wir. A big well done to the five HGA clubs for their performances in the Welsh Cup on Saturday. Pride of place must go to Cefn Druids who gained an excellent 2-0 win at Bastion Gardens over Prestatyn a club who have completed the first half of the WPL season in the top six. The quarter final draw takes them to Aberystwyth to see if they can go one better than Llandudno who took the mid-Wales club to extra-time and penalties before bowing out. Rhyl, despite playing with ten men for almost the whole game, took the cup holders Llanelli to extra time before going out on penalties. Bala, another top six finisher, needed extra time before putting out Buckley who came from two down to level the game at 90 minutes. The fifth HGA club Flint made the full timers of Neath work hard for their win. All of this confirms what many have believed that this is a very strong Huws Gray Alliance and a sign of the strength of north Wales football. It also stresses the importance of annual promotion and relegation and that what happened to Connah’s Quay last season in questionable circumstances should not be repeated. The gap between the WPL and HGA is smaller than some would have us believe and the dream of turning the WPL into a closed shop for the select few -which some would no doubt like- must never be allowed to come about. 26/01/12 Rhagolwg: v Cegidfa / Preview: v Guilsfield
Noddwyr y Gêm: Trydanwyr FaulknerCegidfa fydd yn ymweld â’r Traeth ddydd Sadwrn ac er eu safle yn 11eg yn y tabl nid ydynt yn glwb i’w cymryd yn ysgafn fel mae eu rhediad diweddar yn dangos. Dim ond unwaith maent wedi colli yn eu wyth gêm ddiwethaf a hynny oddi cartref yng Nghonwy –yr enillwyr ar y Traeth y Sadwrn diwethaf. Mae’r rhediad yn cynnwys buddugoliaethau da dros Cei Conna a Bwcle a gêm gyfartal gyda’r Rhyl. Fel Penrhyn coch - ymwelwyr diweddar â’r Traeth - maent wrth eu boddau yn curo’r ceffylau blaen. Wythnos diweddaf cafodd Cegidfa fuddugoliaeth dros Gaersws gyda Gareth Jones yn sgorio’r unig gôl. Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod Port enillodd o 3-2 mewn gêm lle roedd Port yn colli o 2-0 ar yr hanner. Sgoriwr dwy gôl Cegidfa oedd Will Thomas sydd bellach gyda’r Rhyl. Ond mae’n rhy fuan eto i asesu’r effaith gaiff colli eu prif sgoriwr ar Cegidfa. Ychwanegwyd at bwysigrwydd gêm dydd Sadwrn wedi’i Port golli tair gêm yn olynol a hynny mewn gemau y byddent wedi disgwyl sicrhau o leiaf 7 pwynt. Er eu bod wedi dioddef nifer o anafiadau yn ddiweddar nid yw Gareth Parry yn barod i weld hyn yn esgus ac yn dweud, “Di hyn ddim yn esgus am ein perfformiad ddydd Sadwrn chwaith, gan fod hyn yn bell o fod yn ddigon da ac roedd Conwy eisiau’r gêm yn fwy na ni.” Ei ymateb i golli oedd addo, “Fydda i a Campbell yn gweithio’n galed i wneud yn siwr fod pethau “back on track” erbyn y penwythnos yn erbyn Cegidfa.” Mae gan y ddau glwb anafiadau gyda Cegidfa yn dweud fod marc cwestiwn am ffitrwydd Nathan Leonard a’r ymosodwr profiadol Danny Barton. Welwn chi ar y Traeth ddydd Sadwrn. Match Sponsors: Falconer’s Electricals Guilsfield are the visitors to the Traeth on Saturday and though they are down in 11th place they are not a club to be taken lightly as their current run of form shows. They have lost only once in their last eight games and that away to Conwy -last Saturday’s winners at the Traeth. That run includes convincing wins over Connah’s Quay and Buckley and a share of the spoils with Rhyl. Like Penrhyncoch, recent visitors to the Traeth, they take much delight in upsetting the odds. Last week Guilsfield beat Caersws by a Gareth Jones goal to nil. When the two clubs last met it ended in a narrow 3-2 win for Port who recovered from being 2-0 down at the interval. Those two goals were scored by Will Thomas who has now transferred to Rhyl but it is too early to assess the effect of losing their leading scorer will have on the mid-Wales club. Three straight defeats for Port in games where they would have expected to take a minimum of 7 points has given this match even greater significance. Though they have suffered a spate of injuries Gareth Parry is not prepared to use this as an excuse saying “.... our performance on Saturday was far from being good enough, with Conwy wanting the points more than we did.” His response to defeat was a promise that he “...... will be working along with Campbell to make sure that we are back on track by the weekend and the visit of Guilsfield.” Both sides have injury concerns with Guilsfield reporting that Nathan Leonard and experienced forward Danny Barton are considered doubtful. See you at the Traeth on Saturday. 25/01/12 Cyfleusterau chwech yn pasio / Six succeed in ground inspection
Mae cyfleusterau yr 13 chlwb a wnaeth gais am ddyrchafiad i’r HGA bellach wedi’u archwilio. 6 clwb sydd wedi bod yn llwyddiannus -Caernarfon, Caergybi a Threffynnon o’r Welsh Alliance, Rhydymwyn o ardal Wrecsam ac Aberriw a Rhaeadr Gwy o’r Canolbarth. Dim ond lwyddiant ar y cae sydd angen rwan!Mae clwb Venture o Wrecsan rwan wedi gwneud cais i gae Queensway gael ei archwilio. Y clybiau aflwyddiannus oedd Pwllheli, Y Waun, Y Wyddgrug, Corwen, Trefaldwyn a Penybont-ar-Wy. All 13 clubs who have made a promotion application have now been inspected and six have successfully negotiated this hurdle, -Caernarfon, Holyhead and Holywell of the Welsh Alliance, Rhydymwyn of the Wrexham area and Berriew and Rhayader from mid-Wales. All they do now is succeed on the field! Venture of Wrexham have requested that the Queensway Ground be inspected. The unsuccessful clubs were Pwllheli, Chirk AAA, Mold Alex, Corwen, Montgomery, and Newbridge on Wye. 24/01/12 Anafiadau yn taro ond ddim yn esgus / Injuries strike but not an excuse
Mae gwell newyddion am Aaron Richmond a adawodd y cae ddydd Sadwrn gydag ofnau, ei fod wedi torri ei ffêr. Ond er fod y ffêr yn dal wedi chwyddo mae’n gwella ac mae Aaron yn obeithiol fydd o’n iawn erbyn y penwythnos. Mae hyn yn newyddion da gan fod y chwaraewr ifanc llawn sgil wedi creu argraff fawr ers ymuno â Port.Y capten Rhys Roberts ydy’r consyrn mwyaf erbyn hyn gyda’r rheolwr Gareth Parry yn dweud fod yr anaf a gafodd Rhys ddydd Sadwrn yn un drwg wrth iddo dynnu cyhyr yn ei goes ac yn cael ei eilyddio ar ôl 65 munud. Gwnaeth Rhys gyfraniad mawr iawn y tymor hwn yn chwarae mewn amryw safle ar y cae yn ôl y galw ac yn ddiweddar yn ychwanegu ei daldra yn y blaen. Dywedodd Gareth Parry, “Roedd cyfnod yn y tymor am ddod lle 'roedd anafiadau ac ati am gostio inni, ac heb yr ail dîm mae’n anodd dod a chwaraewyr i mewn. Chwarae teg i rai o’r hogia sydd wedi chwarae gydag anafiadau.” Er ei fod yn poeni am yr anafiadau ychwanegodd Gareth, “Di hyn ddim yn esgus am ein perfformiad ddydd Sadwrn chwaith, gan ei bod yn bell o fod yn ddigon da ac roedd Conwy eisiau’r gêm yn fwy na ni. Fydda i a Campbell yn gweithio’n galed eto nos Fercher i wneud yn siwr fod pethau “back on track” erbyn y penwythnos yn erbyn Cegidfa.” News of Aaron Richmond is much better after there was some concern, when he was withdrawn on Saturday, that he might have suffered a fracture. Though his ankle remains swollen this is not the case and if he continues to make progress he could be fit for Saturday. This is good news as the skilful, tricky winger has made a big impression since signing for Porthmadog. Captain Rhys Roberts is now the main concern with manager Gareth Parry reporting that Rhys has a badly pulled calf muscle which caused his substitution after 65 minutes on Saturday. Rhys has made a huge contribution this season playing in a variety of positions according to need and especially of late providing height up front. Gareth Parry observed, “There was bound to be a time during the season when injuries would cost us and without a reserve team it is difficult to bring players in. Fair play to the lads they have continued playing when carrying injuries.” Though concerned about the injury situation Gareth Parry was however quick to add, “This was no excuse for our performance on Saturday which was far from being good enough with Conwy wanting the points more than we did. On Wednesday I will be working along with Campbell to make sure that we are back on track by the weekend and the visit of Guilsfield.” 19/01/12 Rhagolwg: v Conwy / Preview: v Conwy Noddwr: Gwasanaethau Eiddo Cricieth Ar ôl colli dwy gêm yn olynol, a hynny am y tro cyntaf y tymor hwn, bydd Port yn awyddus i wneud yn iawn am hyn ddydd Sadwrn. Ond ni fydd colli Marcus Orlik fawr o gymorth wedi iddo ddioddef anaf drwg mewn ail hanner corfforol iawn yn Cefn ddydd Sadwrn. Eto yn Cefn y broblem oedd methu cymryd mantais o’r nifer fawr o gyfleoedd a grëwyd a throi pwysedd yn goliau. Yn anffodus mae hyn wedi digwydd nifer o weithiau yn ystod y tymor hwn er waetha’r ffaith fod yna ddigon o gyfleoedd da wedi dod o ganlyniad i’r chwarae creadigol a gafwyd ym mhob gêm eleni. Yn y gêm gyfatebol ar y Morfa, Port enillodd o 2-0 gyda Ryan Davies a Marc Evans yn sgorio. Ar ôl cychwyn y tymor yn dda llithro nol bu hanes Conwy. Arweiniodd hyn at apwyntio rheolwr newydd o Lannau Merswy. Dewis Geoff Cartwright, gynt gyda Bae Colwyn, yn gadeirydd sbardunodd y newidiadau. Y rheolwr newydd ydy Mike Mcgraa gyda Steve Aspinall yn ei gynorthwyo. Cafodd y bartneriaeth newydd ddechrau da yn ennill yn Llangefni ond wedyn colli o 1-0 mewn gêm glos yn erbyn y Derwyddon. Wedyn ennill eto oedd eu hanes ddydd Sadwrn yn erbyn Cegidfa. Ymunodd Dan Canning a Robbie Williams, dau o gyn chwaraewyr Bae Colwyn, a cafodd Canning ddechrau da yn sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth o 3-1 yn Llangefni. Dau wyneb newydd arall ydy Eddie Jebb a John Owen ar fenthyg o Fangor. Hwn fydd y trydydd tro i Owen wynebu Port y tymor hwn gan iddo chwarae ddwywaith dros Llangefni yn erbyn Port ac, er iddynt golli’r ddwy, llwyddodd Owen i ganfod y rhwyd yn y ddwy gêm. Gobeithio na chaiff gyfle i ychwanegu un arall ddydd Sadwrn! Match Sponsor: Cricieth Property Services Port who, for the first time this season, come to this game on the back of two defeats and will want to put things right on Saturday. They will not be helped by the fact that Marcus Orlik has once more joined the injury list following a bruising second half at the Rock. Once more it was a case of failing to capitalise on the excellent approach play and turn pressure into goals. This has been the story of the season as enough opportunities have been created in every game to record a win. Their previous encounter with Conwy resulted in a 2-0 win with goals by Ryan Davies and Marc Evans. After a bright start the Conwy season had begun to tail off. This led to the appointment of a new manager. These changes have followed the appointment of new chairman, Geoff Cartwright, formerly with Colwyn Bay. Mike Mcgraa is the new manager and he has been in charge for the last 3 games assisted by Steve Aspinall. The new regime started with a win at Llangefni but then went down 1-0 to Cefn Druids in a tight contest. But they were back to winning ways last Saturday at home to Guilsfield. Two former Colwyn Bay players Dan Canning and Robbie Williams have been introduced and Canning got off to a great start with two goals in the 3-1 win at Llangefni. Two other new faces are Eddie Jebb and John Owen loan signings from Bangor. This will be Owen’s third outing of the season against Port as he played against them twice for Llangefni and though he was on the losing side in both games he managed a goal on each occasion. Let’s hope he doesn’t add a third on Saturday! 18/01/12 Dyddiad Cwpan Huws Gray / Huws Gray Cup date.
Bydd Port yn chwarae Cei Conna yn Rownd 2, Cwpan Huws Gray, ar y Traeth nos Fawrth, 28 Chwefror. Bydd y gic gyntaf am 7.30 pm.Mae Penrhyncoch eisoes drwodd i’r rownd gynderfynol ar ôl curo Penycae yn Rownd 2. Bydd y ddwy gêm arall rhwng Caersws a Derwyddon Cefn a’r Rhyl yn erbyn Bwcle yn cael eu chwarae ar 6 Mawrth. The date of the Huws Gray Cup, Round 2 game against Connah’s Quay has been fixed for Tuesday, 28 February. The game will be played at the Traeth with a 7.30 pm kick off. Penrhyncoch are already through to the semi-final having beaten Penycae in Round 2. The other two games in the round, Caersws v Cefn Druids and Rhyl v Buckley will be played on 6 March. 17/01/12 Dyddiad newydd i gêm Rhos Aelwyd / New date for Rhos fixture
Bydd Port yn ymweld ag Aelwyd y Rhos ar bnawn Sadwrn, 11 Chwefror. Roedd y gêm hon fod i’w chwarae ar 10 Rhagfyr ond bu’n rhaid gohirio oherwydd fod Parc Ponciau wedi rhewi. Bydd y gic gyntaf am 2 pm.Golyga’r ardrefniant yma fod patrwm rhyfedd iawn i rhestr gemau Port yn Chwefror a Mawrth gan y byddant yn chwarae tair gêm oddi cartref yn olynol ym mis Chwefror gan ddechrau gydag ymweliad â Rhuthun a wedyn dwy gêm arall oddi cartref yn Rhos a Chei Conna i ddilyn. Ar ôl hynny bydd yna dair gêm yn olynol ar y Traeth yn erbyn Bwcle, Rhyl a Fflint. Port will now visit Rhos Aelwyd on Saturday, 11 February. This fixture was to have been played on 10 December but was postponed due to Ponciau Park being frozen. The kick off will be at 2 pm. The rearrangement gives the Port fixture list in February and March a strange appearance as they will now play three consecutive away matches in February starting with a visit to Ruthin and followed by further away games at Rhos and Connah’s Quay. This is followed by three consecutive home matches against Buckley, Rhyl and Flint. 15/01/12 Marcus mewn plastr / Marcus in plaster
Roedd yn amlwg i chwaraewyr a chefnogwyr fel eu gilydd fod Marcus Orlik wedi dioddef anaf drwg pan gafodd ei gario oddi o’r y cae yn gynnar yn yr ail hanner, yn dilyn tacl hwyr iawn yn Cefn ddoe.Heddiw, wedi iddo ymweld â’r ysbyty, mae ei droed mewn plastr ac amheuir ei fod wedi cael toriad sy’n golygu na fydd yn chwarae eto am dipyn. Roedd y digwyddiad yn ystod ail hanner gêm a ddatblygodd i fod yn flêr iawn gyda sawl tacl annoeth yn hedfan i fewn ac yn mynd heibio heb dderbyn cosb addas. Bu cefnogwyr yn mynegi eu consyrn ar y pryd ac yn cwestiynu’r ffordd roedd y dyfarnwr yn rheoli’r gêm, yn enwedig yn ystod ail hanner ddigon tanllyd. (Dyma farn un yn bresennol yn y gêm. Ni chysylltwyd â swyddogion y clwb) Roedd yn gêm a ddechreuodd yn dda i Marcus gan iddo rhwydo’n gynnar yn dilyn chwarae da rhyngddo a Rhys Roberts. Dymunwn yn dda iddo gan nad yw wedi cael y lwc orau gydag anafiadau yn ystod y tymhorau diweddar. It was clear to players and supporters alike that Marcus Orlik had suffered a nasty injury when he was carried off having gone down to a very late tackle early in the second half of the game against Cefn Druids yesterday. Today following a visit to hospital his foot is in plaster and he has a suspected green stick fracture. This means that he will be out of action for some time. The injury happened during a second half which developed into something of a free for all with rash tackles going in and not being adequately punished. Many supporters expressed concern at the time calling into question the match official’s handling of the game especially during a fiery second period. (These are the views of an eye-witness; there has been no consultation with club officials). It was a game which started well for Marcus as he scored early in the game following good play between him and Rhys Roberts. We wish him well as he has not enjoyed the best of fortune with injuries over recent seasons. |
|||
|
|
|||