Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
12/01/12
Newyddion diweddaraf am y tîm / Latest team news

Graham Austin Newyddion drwg i Port cyn ymweld â Cefn ddydd Sadwrn gyda’r amddiffynnwr canol Grahame Austin yn methu’r gêm wedi iddo dorri ei drwyn yn erbyn Penrhyncoch wythnos ddiwethaf. “Mae’n newyddion siomedig mewn dwy ffordd,” meddal Gareth Parry, “byddwn yn methu presenoldeb Grahame mewn gêm fydd yn brawf corfforol a mae’n golygu hefyd y byddwn yn colli Rhys yn blaen gan fydd rhaid iddo unwaith eto symud yn ôl i ganol yr amddiffyn.” Mae Grahame yn gobeithio, gyda chymorth mwgwd amddiffyn, chwarae wythnos nesaf yn erbyn Conwy.
Hefyd penderfynodd Jamie McDaid adael y clwb gan ddweud ei fod yn dymuno dechrau gêmau yn rheolaidd bob wythnos. Mae wedi cychwyn 16 o gemau y tymor hwn gan ddod o’r fainc yn ystod y dair gêm ddiwethaf. Disgwylir i Jamie ymuno a Chaernarfon wythnos hon, a gallai fod ar gael i’w glwb newydd dros y penwythnos gan mae’n debygol na fydd Port yn mynnu cadw at y 7 diwrnod o rybudd. Treuliodd staff hyfforddi Port llawer o amser yn datblygu’r chwaraewr ifanc 17 oed ac mae wedi bod yn rhan o’r garfan tîm cyntaf yn ystod y ddau dymor diwethaf.Dymuna'r clwb yn dda iddo yn y dyfodol

Bad news for Port ahead of the visit to Cefn on Saturday is that key central defender Grahame Austin will miss the game having suffered a broken nose in last week’s game against Penrhyncoch. “It is unfortunate on two counts,” said Gareth Parry, “Grahame’s presence will be missed in what will be a hard physical game and also we will miss Rhys at the front, as he will have to drop back into defence again.” Grahame hopes that, with the aid of a protective mask, he will be available for the home match against Conwy.
Jamie McDaid has decided to leave the club. He cites his desire to be in the starting line-up regularly as the reason for this decision. He has in fact made 16 starts this season but has come off the bench for the last three games. Jamie is expected to join Caernarfon this week and could be available for his new club at the weekend as Port are likely to waive the 7 days notice. The coaching staff at Port have invested much time in the player’s development and the 17 year old has been a member of the first team squad for the past two seasons. The club wishes him well in the future.
12/01/12
Rhagolwg: v Derwyddon Cefn / Preview: v Cefn Druids

Derwyddon Cefn Druids Y ffordd orau i ymateb i golli gêm ydy taro ’nol yn syth ac ennill. Dyna fydd Port yn anelu i wneud ddydd Sadwrn er byddent wedi dymuno gem haws i wneud hyn nac ymweliad â’r Graig yn Cefn Mawr. Yn y pumed safle mae’r clwb o ardal Wrecsam ac effaith colli ddydd Sadwrn yn golygu mai ond tri phwynt sydd bellach yn rhannu’r ddau glwb. Mae hyn yn dangos mor gystadleuol ydy’r gynghrair hon.
Colli eu dwy gêm adref ddiwethaf wnaeth Cefn –yn erbyn Caersws a Llandudno – ond oddi cartref yn eu tair gêm ddiwethaf ennill oedd yr hanes. O blaid Port mae eu record hwy oddi cartref dros y tymor cyfan wedi bod yn dda iawn, yn colli ond unwaith mewn 10 gêm ac yn ennill saith.
Y tro diwethaf i’r ddau chwarae eu gilydd oedd yn gynnar yn y tymor ar y Traeth, gyda gôl gan Rhys Roberts yn ateb un gan Paul Hopkins i’r Derwyddon. Unwaith eto gall Port ddisgwyl sialens gorfforol a steil uniongyrchol o bêl-droed gyda tafliadau Adam Hesp yn cael eu defnyddio i rhoi mwy o bwysau yn y bocs. Bydd gan y Derwyddon Swarbrick a Cann yn y blaen gyda McElmeel a Duckett yn dod a sgil a profiad i ganol cae. Gyda phob gêm mor bwysig mae’r ceffylau blaen i gyd yn sylweddoli na allant fforddio golli pwyntiau.

The best way to respond to a defeat is to bounce back immediately to winning ways. This will be Port’s aim on Saturday though they might have preferred an easier game to achieve this than a visit to the Rock, to play Cefn Druids. The Wrexham area club are in 5th place in the table with last Saturday’s defeat for Port making it just three points separating the two clubs, stressing the competitive nature of this league.
The Druids have lost their last two home games -to Caersws and Llandudno- but come to Saturday’s game on the back of three consecutive wins away from home. It is however in Port’s favour that they also have an excellent record on the road losing only once in their 10 games this season and recording seven victories.
The last time the two clubs met was at the Traeth early in the season when it ended all square with a Rhys Roberts goal cancelling out an earlier one by Paul Hopkins for the Druids. Once again it will be a strong physical challenge from a team who play a direct style of football and use the long throws of Adam Hesp to apply even more goalmouth pressure. They are well served up front by Swarbrick and Cann while McElmeel and Duckett provide skill and experience in midfield. Every game is now vital as the promotion chasers realise that no club can afford to slip-up.
10/01/12
Anafiadau y diweddaraf / Injury update

Carl Owen Dal i wella o’i anaf mae Carl Owen. Torrodd ei goes yng Nghaergybi cyn i’r tymor presennol gychwyn ond bellach mae’n debygol y bydd yn colli’r tymor cyfan. Gwelwyd Carl ar y Traeth yn rheolaidd ond mae’n siwr ei fod yn teimlo’n rwystredig iawn yn eistedd ar yr ymylon yn lle chwarae rhan allweddol yn y frwydr am ddyrchafiad
. Meddai Gareth Parry yn siomedig, “Mae Carl yn gwella’n dda wedi iddo dorri’i goes ond mae’n annhebygol y byddwn yn ei weld yn ôl o gwbl y tymor hwn.” Roedd gan Carl ran bwysig yng nghynlluniau Gareth ac mae’n anodd dod o hyd i unrhyw un arall i lenwi ei sgidiau. Dangosodd y math o gyfraniad y byddai wedi ei wneud gyda 6 gôl mewn 10 gêm at ddiwedd y tymor diwethaf.
Yn ffodus i ‘r clwb mae Rhys Roberts wedi dangos arweiniad fel capten a chyfrannu’n fawr yn y blaen. Meddai Gerallt Owen golygydd y rhaglen, “Dangosodd Rhys pa mor hyblyg ydy o fel chwaraewr yn chwarae yn y blaen ac yn cyfrannu 9 o goliau.”
Ar fater anafiadau hefyd bydd cefnogwyr wedi sylwi fod Gareth Jones Evans, a wnaeth argraff fawr pan ymunodd o Bwllheli y tymor diwethaf, yn cario anaf sydd yn golygu nad yw wedi gallu cwblhau’r 90 munud bob tro y tymor hwn. Dywedodd Gareth Parry, “Gobeithio bydd y broblem mae Gareth yn cael efo'i droed yn cael ei setlo'n derfynol pan gaiff driniaeth ymchwiliol –ar ddyddiad sydd heb ei gadarnhau hyd yma.”

Carl Owen continues his recovery from the broken leg suffered at Holyhead in pre-season but now looks increasingly likely to miss out on an entire season. He has been a regular presence at the Traeth but must find it very frustrating to sit on the sidelines when he could be making a vital contribution in the promotion race.
What must be an extremely disappointed Gareth Parry says, “Carl Owen is recovering well from his broken leg but is unlikely to feature again this season.” Carl was such an important part his plan for the season and so difficult to replace. He had shown what he would have been able to contribute with 6 goals in 10 appearances at the end of last season.
The club has been fortunate that Rhys Roberts has played a captain’s part upfront. Programme editor Gerallt Owen commented, “Rhys Roberts has proved his versatility playing up front and has scored 9 goals.”
Continuing on the injury front supporters will have realised that Gareth Jones Evans, who made such a huge impact when he joined last season from Pwllheli, has been carrying an injury which has meant that he has not always been able to play a full 90 minutes this season. Gareth Parry says, “Gareth’s troublesome foot will hopefully be sorted once and for all when he has explorative surgery –date not yet confirmed.”
10/01/12
Enillwyr Tote Rhagfyr / December Tote Winners

Y rhifau lwcus yn Tote Misol mis Rhagfyr 2011 oedd 12 a 27. Roedd 2 enillydd, C. Piercy, Isgraig, Tremadog a A. Dwyer, Tai'r Felin, Porthmadog yn ennill £165 yr un. Bydd rhaid i unrhyw hawliad arall gael ei wneud erbyn 8pm Nos Wener 13eg Ionawr.

The winning numbers in the December Monthly Tote were 12 and 27. Subject to confirmation there were 2 winners who each win £165, C. Piercy, Isgraig, Tremadog and A. Dwyer, Tai'r Felin, Porthmadog. Any claims must be made by 8pm on Friday 13th January.
08/01/12
Enillwyr y Draw Wythnosol / Weekly Draw Winners

Enillwyr am y dair wythnos olaf yn 2011.
Wythnos 50: Rhif 95 - Sophie Roberts, Minffordd.
Wythnos 51: Rhif 169 - Kevin Edwards, Trawsfynydd.
Wythnos 52: Rhif 55 – Winifred Jones, Chwilog.
Mae’r tri enillydd yn derbyn gwobr o £100 yr un. Mae ymuno â’r draw wythnosol yn ddull da o gefnogi’r clwb. Beth am wneud yn un o’ch addewidion ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Winners for the final three weeks of 2011.
Week 50: No. 95 - Sophie Roberts, Minffordd.
Week 51: No. 169 - Kevin Edwards, Trawsfynydd.
Week 52: No. 55 Winifred Jones, Chwilog.
All three winners received a prize of £100 each. Joining the weekly draw is a good way of supporting the club and could be a worthwhile New Year’s resolution.
05/01/12
Cyfle mawr Tomos Owen / Tomos Owen’s great opportunity

Tomos Owen Pan fydd Tomos Owen (CPD Porthmadog) yn ymuno a charfan ddatblygu Cymru Dan-16 dyma fydd y tro cyntaf i’r hogiau ddod at ei gilydd i baratoi at gemau 2012 lle byddant yn chwarae Gwlad Belg, Swistir, Gwlad Pwyl a Ffrainc cyn y gemau Tarian y Fuddugoliaeth sy’n flynyddol ar Sky Sports. Bydd rhain yn cymryd lle ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio gyda hyfforddwyr rhanbarthol ers tri thymor. Mae’r cynllun rhanbarthol wedi mynd o nerth i nerth gyda’r chwaraewyr yn dod at eu gilydd nifer o weithiau yn ystod y flwyddyn yn ogystal a chwarae gemau rheolaidd yn y rhanbarthau gan anelu at eu blwyddyn yn y Garfan Genedlaethol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Cymru wedi gorffen yn yr ail safle tu ôl i Loegr yn Nharian y Fuddugoliaeth.
Dywedodd Osian Roberts “O’r hyn rwy wedi weld hyd yma mae’r grwp yn llawn potensial ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda nhw. Hwn fydd eu blas cyntaf o bêl-droed rhyngwladol ac rwyf eisoes wedi fy mhlesio gyda’r hyn rwyf wedi’i weld ac rwy’n sicr fod yna ddyfodol disglair i nifer ohonynt. Byddant yn cael ysbrydoliaeth o weld sut mae Adam Matthews , cyn gapten Dan-16, yn gwneud gyda Celtic, Jonathan Williams gyda Crystal Palace ac Adam Henley, 17 oed, yn chwarae i dîm cyntaf Blackburn Rovers.”
Da oedd gweld enw CPD Porthmadog tu ôl i enw Tomos mewn rhestr yn cynnwys clybiau fel Abertawe, Caerdydd, Lerpwl ac Everton. http://news.welshfootballtrust.co.uk/news/?p=101

When Tomos Owen (Porthmadog FC) joins the Wales U-16 Development Squad this will be the boys’ first time together to prepare for the 2012 campaign, a campaign that includes fixtures with Belgium, Switzerland, Poland and France before the annual Sky Sports Victory Shield Tournament that takes place in October and November.
The players have all been working with the regional coaches for the past three seasons. The regional programme has gone from strength to strength with the players coming together several times during the year as well as playing regular fixtures on a regional basis building towards their National Squad year. For the past two seasons Wales have finished runners up to England in the Victory Shield Tournament.
Osian Roberts commented “From what I’ve seen thus far this group seems full of potential and I’m excited about working with them. This will be their first taste of International football and I’ve already been impressed with what I’ve seen and am sure many have a bright future ahead of them. They will get great inspiration from seeing how former U16 captain Adam Matthews is doing at Celtic FC, Jonathan Williams at Crystal Palace and young Adam Henley who’s in Blackburn Rovers’ first Team at 17 years of age.”
It was great to see Tomos’ name followed by Porthmadog FC in a list containing clubs like Swansea, Cardiff, Liverpool and Everton. http://news.welshfootballtrust.co.uk/news/?p=101
05/01/12
Rhagolwg: v Penrhyn-coch / Preview: v Penrhyn-coch

Penrhyn-coch Bydd Port yn ôl ar y Traeth wedi iddynt sicrhau tri phwynt mewn gêm anodd ddydd Llun yn Llandudno. Mae gan Gareth Parry ddigon o rheswm i deimlo’n hapus am y perfformiad a’r canlyniad, gan fydd y mwyafrif o glybiau yn cael hi’n anodd yn erbyn Llandudno yn enwedig ar Maesdu. Ond roedd gweld Ryan Davies yn cael ei yrru o’r cae yn siom, gan fydd yn golygu symud y prif sgoriwr Rhys Roberts yn ôl i’r amddiffyn.
Gallwn ddisgwyl brwydr gorfforol arall ddydd Sadwrn pan Penrhyn-coch fydd yr ymwelwyr. Fel yn achos Llandudno bydd y clwb o’r canolbarth yn chwarae i’w cryfderau, cau lawr yn sydyn gan edrych i wrth ymosod yn gyflym. Yn Josh Shaw a Stuart Fraser mae ganddynt ddau sgoriwr rheolaidd sy’n medru cymryd mantais o’r sefyllfaoedd yma. Wythnos ddiwethaf cafodd Penrhyn gêm gyfartal yn Caersws sydd wedi bod ar rhediad da. Cawn gymhariaeth uniongyrchol wrth edrych yn ôl bythefnos pan gollodd Penrhyn-coch o 3-2 i gôl hwyr Llandudno ym Maesdu.
Mae Penrhyn-coch wedi gwneud enw allan o roi sioc i glybiau sy’n mynd am ddyrchafiad fel mae’r Rhyl yn sylweddoli. Cafodd Port fuddugoliaeth dda o 3-1 yno ym mis Hydref ond bu’n rhaid brwydro’n galed i lwyddo. Bydd yn gêm anodd eto ddydd Sadwrn ond, gyda’r Rhyl yn chwarae yn Nyffryn Nantlle yng Nghwpan yr Arfordir mae angen y tri phwynt mewn gêm adref i gadw’r sialens am ddyrchafiad symud yn ei blaen.

Port will be back at the Traeth after gaining a hard earned three points on Monday at Llandudno. Gareth Parry has good reason to feel pleased with the performance and the result as most teams will struggle against Llandudno, especially at Maesdu. Having Ryan Davies sent off is something of a downer however, as it means that leading scorer Rhys Roberts will have to drop back into defence.
A similar physical challenge will be faced on Saturday when Penrhyn-coch are the visitors. Like Llandudno the mid-Wales club will play to their strengths, close down quickly and look to hit Port on the break. In Josh Shaw and Stuart Fraser they have regular scorers who can take advantage of these situations. Last week Penrhyn-coch drew at in-form Caersws and as a direct form comparison they only went down to a late Llandudno goal, 3-2, at Maesdu a fortnight ago.
Penrhyn-coch have made a habit of upsetting the form book when they tackle promotion candidates, as Rhyl know only too well. Port gained a good 3-1 victory there in October but they were made to work hard for it. It will be another tough one on Saturday but, with Rhyl involved in the Coast Cup at Nantlle Vale, three points from a home game is required to keep the promotion challenge on course.
04/01/12
Lle yng ngharfan Cymru i Tomos / Wales squad place for Tomos

Mae Tomos Owen, aelod o Academi Porthmadog , wedi’i ddewis i gymryd rhan yn sesiwn gychwynnol Carfan Ddatblygu Dan-16 Cymru. Bydd y sesiwn ymarfer yn cymryd lle rhwng Sul, 8 Ionawr a Mercher, 11 Ionawr.
“Mae hyn yn destun balchder mawr i Tomos ac i’r Academi ac rym yn estyn ein llongyfarchion diffuant ac yn dymuno’n dda iddo yn ystod y sesiynau ymarfer ac hefyd i’r dyfodol,” meddai cyn weinyddwr yr Academi, Eddie Blackburn.
Bydd cefnogwyr Port wedi’i plesio’n arw gyda’r newyddion am lwyddiant Tomos, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Syr Huw Owen, ac yn gweld hyn yn brawf o’r talent sy’n bodoli yn yr ardal ac o’r gwaith arbennig sy’n cael ei gwneud gan hyfforddwyr yr academi.
Bydd bob un o’r chwaraewyr yn y garfan a chysylltiad efo clwb proffesiynol heblaw am Tomos a Ross Lavender (Airbus). Cyfarwyddwr Technegol y garfan fydd cyn rheolwr Port, Osian Roberts. Dau gyfenw cyfarwydd yn y garfan fydd Edward Speed mab y diweddar Gary Speed ac Ellis Bellamy mab Craig. Hefyd yn y garfan fydd Harry Wilson a greodd gryn argraff yn y gêm rhyngwladol Dan-16 ar y Traeth yn ddiweddar.

Tomos Owen, Porthmadog Academy U-16s player, has been invited to join the initial training session for the Wales U-16 Development Squad. This training session will be take place from Sunday, 8 January to Wednesday, 11 January.
Former Academy Administrator Eddie Blackburn who was delighted with the news said,”This is a very proud moment for Tomos and the Academy and we send him our sincere congratulations and all best wishes for the training sessions and for the future.”
Tomos, a pupil at Ysgol Syr Huw Owen, will delight Port supporters with his achievement, and is further proof of the talent which exists in the area and the excellent work being done by the academy coaches to develop it.
All the players in the squad, apart from Tomos and Ross Lavender (Airbus), are attached to professional clubs. The squad’s Technical Director is, former Port manager, Osian Roberts. Two familiar surnames in the squad are those of Edward Speed, son of the late Gary Speed, and Ellis Bellamy son of Craig. Also included in the squad is Harry Wilson who created such an impression in the recent U-16 international at the Traeth.
04/01/12
Ceisiadau am ddyrchafiad i’r HGA / HGA Promotion Applications

Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance Mae’r dyddiad cau i glybiau sydd am wneud cais i’w hystyried am ddyrchafiad i’r HGA wedi mynd heibio. Mae 13 o glybiau o’r dair gynghrair is wedi rhoi eu henwau ymlaen. O’r Welsh Alliance mae’r clybiau cryfaf yn dod a’r rhai sydd hefyd â’r cyfleusterau gorau. Mae’r rhestr yn cynnwys Treffynnon, Caernarfon a Pwllheli sydd i gyd yn y ras ar ben y tabl ond y ffefrynnau i ennill eu lle yn ôl yn yr HGA ydy Caergybi.
Yn ardal Wrecsam mae Rhydymwyn, a gollodd eu lle yn yr HGA, ar ben yr adran gyda’r Wyddgrug a Venture yn ail a thrydydd i gyd wedi gwneud cais. Mae Y Waun a Chorwen hefyd yn gwneud cais.
Yn y canolbarth mae clwb arall, sef Rhaeadr, a gollodd eu lle yn yr HGA yn gwneud cais i ddychwelyd yn ogystal a Threfaldwyn y clwb sydd yn arwain yr adran ar hyn o bryd. Mae Pontnewydd ar Wy ac Aberriw hefyd wedi gwneud cais.

The closing date for applications to be considered for promotion to the HGA has now passed. Thirteen clubs from the three feeder leagues have put their names forward. The strongest clubs with the best facilities come from the Welsh Alliance with promotion contenders Holywell, Caernarfon and Pwllheli putting their names forward together with the favourites to regain their HGA place Holyhead Hotspur.
The current top three in the Wrexham area league, last season’s demoted club Rhydymwyn who occupy top spot and Mold and Venture, who are in second and third place, have all applied. Chirk and Corwen from the Wrexham area have also applied.
Last season’s demoted club Rhayader are one of the candidates from the Spar Mid Wales League together with current leaders Montgomery. Newbridge on Wye and Berriew have also applied.
01/01/12
Heddlu yn gofyn am wybodaeth / Police seeking break-in information

Heddlu / Police Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog aelodau o’r cyhoedd sydd ag unrhyw wybodaeth ynglyn â lladrad ar y Traeth ar Nos Galan i ddod ymlaen. Medrau hyn gynnig cymorth pwysig er mwyn dod o hyd i’r drwg weithredwyr. Mae’r adran ymholiadau i droseddau wedi casglu gwybodaeth bwysig yng Nghlwb y Traeth, y Cantîn a Siop y Clwb.
Roedd yn siom i swyddogion y clwb wrth ymweld â’r Traeth a gweld y difrod mawr a achoswyd i’r lle wrth i’r lladron dorri drysau a ffenestri i gael mynediad. Roedd hyn yn ychwanegol at yr arian a gymerwyd a hefyd gwinoedd a gwirodydd yn ogystal a stoc o’r cantîn. Bydd rhaid i’r clwb wynebu’r gost a thrafferth o ail stocio cyn y gêm adref nesaf ar 7 Ionawr a chyn y digwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn Nghlwb y Traeth.
Prin ei bod yn Flwyddyn Newydd hapus i’r grwp bychan o wirfoddolwyr sydd a’u hunig amcan i rhoi i’r dref glwb all gystadlu ar y lefel uchaf o bêl-droed yng Nghymru. Mae’r hyn a ddigwyddodd yn gosod mwy o faich ar y gwirfoddolwyr ac wedi achosi difrod i adnodd sydd o fudd i’r holl gymuned.
Os oes gennych wybodaeth a allai fod o defnydd i’r heddlu cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru yn lleol neu yn y bencadlys ym Mae Colwyn neu gyda swyddogion y clwb.

North Wales Police are urging members of the public who have any information regarding a New Year’s Eve break-in at the Traeth to come forward as they could provide the vital assistance needed to make an arrest. Scenes of Crime Investigators have been able to gather important evidence at the Clubhouse, Canteen and Club Shop.
Club officials visiting the Traeth were dismayed to find the serious damage caused to the property during the forced entry and this in addition to the loss of money, wines and spirits and canteen stock all of which will need replacing before the next home match on 7 January and ahead of events planned at the clubhouse.
It is a anything but a happy New Year for the small group of volunteers whose sole aim is to provide the town with a team that can compete at the highest level of football within Wales. The events of New Year’s Eve place an extra burden on club volunteers and have caused serious damage to a facility which is there for the benefit of the whole community.
If you have any information which could be of value to the police in their detection work please contact the North Wales Police locally or at their Colwyn Bay HQ or speak to club officials.
30/12/11
Rhagolwg: v Llandudno / Preview: v Llandudno

Llandudno Bydd Port, sydd heb chwarae ers y fuddugoliaeth o 6-2 dros Llangefni ar 10 Rhagfyr, yn teithio i Maesdu ddydd Llun i wynebu Llandudno sydd ar rhediad da iawn. Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod, yn ôl ym mis Awst, roedd angen goliau gan Craig Roberts a Darren Thomas yn yr wyth munud olaf er mwyn sicrhau gêm gyfartal.
Ar ôl dechrau digon cymysg i’r tymor apwyntiwyd Deiniol Graham i olynu Allan Bickertstaff yn sedd y rheolwr ar y Maesdu. Daeth hyn a rhediad da i’r clwb gan fynd wyth gêm gynghrair yn ddiguro a phum buddugoliaeth yn olynol ar y Maesdu. Mae’r ymosodwr ifanc Dean Seager a cyn asgellwr Porthmadog Darren Gowans wedi cyfrannu’n gyson i’w llwyddiant ond maent wedi colli chwaraewr allweddol wrth i Danny Hughes arwyddo i’r Rhyl. Mae Llandudno hefyd yn un o ond dau glwb sydd wedi llwyddo i guro’r Rhyl y tymor hwn.
Bydd Port yn teimlo’r angen i dalu’r pwyth wedi iddynt golli o 5-0 mewn corwynt yn y gêm gyfatebol y llynedd. Gallai’r ffaith eu bod heb chwarae ers tair wythnos fod yn fendith ar un olwg gan rhoi cyfle i rhai fel Marcus Orlik, Chris Williams a Gareth Jones Evans, sydd wedi cario anafiadau, i wella. Byddai’n dda gweld eto ddydd Llun ychydig o’r pendantrwydd o flaen gôl a ddangoswyd yn erbyn Llangefni. Gyda Cei Conna yn curo’r Fflint ar wyl San Steffan mae angen y tri phwynt er mwyn cadw’r pwysau ar y brig.

Porthmadog, who have not played since their 6-2 victory over Llangefni on the 10 December, will be at Maesdu Park on Monday to take on in-form Llandudno Town. These two clubs last met back in August when goals by Craig Roberts and Darren Thomas were required in the last 8 minutes to give Porthmadog a share of the points.
Having had a mixed early season the Maesdu club replaced their manager Allan Bickerstaff appointing Deiniol Graham in his place. This has signalled a good run of results and they are unbeaten in their last 8 league games with five straight wins at Maesdu. Promising young striker Dean Seager and former Port winger Darren Gowans have played a prominent part in this successful run but they have lost a key player in Danny Hughes who has signed for Rhyl. Llandudno are one of only two clubs to inflict a defeat on Rhyl this season.
Port will feel they have a score to settle from the corresponding game of last season when in a howling gale they went down by five clear goals. The fact that they have not played for 3 weeks could be a mixed blessing but it means that some in the small squad like Marcus Orlik, Chris Williams and Gareth Jones Evans who have been carrying injuries have been allowed time to recover. Some of the goal power shown in the second half against Llangefni wouldn’t go amiss on Monday. With Connah’s Quay recording a Boxing Day win over Flint, three points are needed to keep up the pressure at the top of the table.
27/12/11
Ffarwel i Ffordd Ffarar / Farewell to Farrar

Ffordd Farrar Road Heddiw daeth yr amser i Fangor ffarwelio â Ffordd Ffarar eu cartref am y rhan helaethaf o ganrif a gwnaed hynny gyda buddugoliaeth o 5-3 dros Prestatyn. Buddugoliaeth sy’n eu rhoi ar ben tabl UGC.
Mae gan y cae hefyd atgofion melys i glwb Porthmadog gan mae Ffordd Ffarar oedd lleoliad llwyddiannau nodedig tîm enwog yr 1950au a gafodd buddugoliaethau gefn wrth gefn yno yn ffeinal Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57.
Mae gan Port hefyd gysylltiad â’r cae drwy dri o’r ymosodwyr gorau i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Roedd Marc Lloyd Williams, sgoriwr mwyaf rheolaidd UGC, yn sgoriwr o fri cyn iddo adael y Traeth a symud i Ffordd Ffarar. Yr un fath Paul Roberts a wnaeth ei farc ar y Traeth tra’n dal yn ei arddegau cyn symud i Wrecsam gyntaf a wedyn i Fangor. A Les Davies, sy’n dal i serennu yn UGC, a dreuliodd ddau dymor ar y Traeth lle newidiwyd ef o fod yn asgellwr i fod yn brif sgoriwr gan Viv Williams ac Osian Roberts cyn iddo wedyn ddychwelyd i Ffordd Ffarar.
Yn ogystal roedd dau o reolwyr mwyaf llwyddiannus Porthmadog yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, Meilir Owen a Viv Williams hefyd ymysg yr elît o ymosodwyr Ffordd Ffarar. Dyma ond ychydig o’r cysylltiadau hanesyddol ond, wrth edrych i’r dyfodol ,gobeithio y medrwn weld cyfnod buan pan fydd ymweliadau â Nantporth yn rhan o rhaglen Gareth Parry a Phorthmadog.

This afternoon Bangor bid farewell to Farrar Road their home for the best part of a century. They marked it with a 5-3 win over Prestatyn which puts them on top of the WPL at the turn of the year.
The ground also has sweet memories for the Porthmadog club. Farrar Road was the setting for the landmark Welsh Amateur Cup triumphs of the famous team of the 1950s who recorded back to back wins there in 1955/56 and 1956/57.
Porthmadog also have a very close connection with the ground through three of the best strikers to grace the WPL. Marc Lloyd Williams, the WPL’s record goal scorer, was already a prolific scorer before he left the Traeth for Farrar Road. Similarly Paul Roberts, who made his mark at the Traeth while still a teenager, moved to Farrar Road via Wrexham. Meanwhile Les Davies continues to make his mark as a striker there. He spent two seasons at the Traeth with Viv Williams and Osian Roberts who converted him from a winger to goal scoring central attacker before he returned to Farrar Road.
Two of Port’s most successful managers of the past twenty years Viv Williams and Meilir Owen were also among an elite band of Farrar Road strikers. These are but a few of the historic connections between the two clubs but now we must look forward to a time when hopefully regular visits to Nantporth are on Gareth Parry’s Porthmadog programme.
23/12/11
Ychydig o help i Richard Harvey / A little help for Richard Harvey

Richard Harvey Ar hyn o bryd mae cyfres ‘adnabod y chwaraewyr’ yn ymddangos yn y rhaglen. Richard Harvey oedd yn ateb yn rhaglen gêm Llangefni. Ond cafwyd trafferth gyda un o’r cwestiynau pan ofynnwyd iddo ddisgrifio ei gôl orau! Hyn wedyn yn gwneud i’r golygydd amau efallai y dylai fod wedi gofyn am arbediad gorau Richard.
Gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn ac felly yn amser da i edrych yn ôl gan gynnig cymorth i Richard i ddewis ei arbediad gorau. Does dim angen edrych ymhellach na Stebonheath cartref Llanelli. Os nad hwn ydy hoff gae Richard fe ddylai fod. Mae wedi rhoi sawl perfformiad arbennig yno. Cafwyd un o’i arbedion gorau ar y cae hwn ar 8 Ebrill 2006 yn y gêm gyfartal rhwng Port ac un o’r ffefrynnau am y teitl.
Dyma ddywed yr adroddiad wedi’r gêm, “Ychydig wedi’r hanner awr roedd gôl i Lanelli yn edrych yn anochel pan dorrodd Cortez Belle lawr y chwith gyda’i groesiad yn rhyddhau Ivan Nofuentes yn y blwch ac er i’r Sbaenwr daro’r bêl yn lan,lluchiodd Richard Harvey ei hun i’r chwith gan arbed yn wych a denu cymeradwyaeth wresog cefnogwyr y ddau glwb.” Ar ymweliad arall â Stebonheath ddwy flynedd yn ddiweddarach –a Viv yn ôl yn rheoli Port- cafwyd hanner dwsin arall o arbedion gan Richard i gystadlu am y gorau. Cyfrannodd at y gôl hyd yn oed (a honno’n gôl i Port!)
Dywed yr adroddiad, “ Yn wir diwrnod Richard Harvey oedd hwn ... Ciciodd yn hir i hanner Llanelli ac er fod Wyn Thomas mewn safle i glirio, daeth y bêl o ymyl ei esgid gan fynd dros ben y golwr Gareth Williams ac i’r rhwyd.”
Yn wir rhestr o arbedion Richard ydy llawer o gynnwys gweddill yr adroddiad, gan orffen efo’r arbediad a allai fod y gorau un, “ .... a cadw’r gwin gorau at y diwedd” meddai’r adroddiad, “ gwnaeth arbediad rhyfeddol i gadw allan cic rhydd a drawyd yn berffaith o gwmpas y wal gan Gary Lloyd ond i lawr aeth Richard ac arbed wrth ei bostyn de.” Cafodd y floedd ‘gôl’ ei llyncu heb ynganu.
Wyt ti’n cytuno Richard, mai honno oedd yr un?

Currently a ‘get to know the players’ spot is being run in the match programme. The home game against Llangefni featured Richard Harvey. One of the regular questions posed something of a problem for Richard –he was asked to recall his best goal! This prompted the editor to suggest that maybe he should have asked Richard to describe his best save.
Seeing it is near the end of 2011 it might be a good time for a bit of nostalgia and offer Richard some help in recalling his best save. He needs to look no further than Stebonheath the home of Llanelli FC. If it’s not Richard’s favourite ground it ought to be. He has turned in several outstanding performances there. A serious contender for his best save must be the one at the ground on 8 April 2006 when Port drew 2-2 with title favourites Llanelli.
The match report says, “Just after the half-hour mark a goal for Llanelli seemed inevitable when Cortez Belle broke wide left and with a low cross freed Ivan Nofuentes in the box and though the Spaniard struck his shot well Richard Harvey dived to his left to pull off a superb save drawing deserved applause from both sets of supporters.”
Another visit to Stebonheath two years later -when Viv had just returned to the manager’s seat- produced half a dozen contenders at least though the perennial title contenders were beaten 2-1. Richard even had a major hand in a goal (a Port one!).
The report says, “This was truly Richard Harvey's day for he even had a hand in Port's opening goal. His long kick into the Llanelli half seemed covered by central defender Wyn Thomas but the attempted clearance was sliced over Gareth Williams, in the home goal, and ended up in the back of the net.”
The match report then becomes a catalogue of Richard’s heroics culminating in the save which is surely amongst his best, “... and keeping the best wine till last he pulled off an astonishing save diving to his right hand post to keep out Gary Lloyd's superbly struck free kick which curled round the wall.” The home supporters shout of ‘goal’ was well and truly stifled in their throats.
Do you agree Richard that the Gary Lloyd save was the one?
17/12/11
Tywydd gwael yn rhwystro gemau / Adverse weather causes cancellations

Wedi inni gyrraedd hanner ffordd drwy’r tymor heb ohiriadau y tywydd cafodd y gair olaf heddiw, gyda ond tair gêm HGA yn goroesi. Ni chwaraeodd yr un o’r chwech uchaf yn y tabl. Ond er waethaf y tywydd drwg yn Sir Ddinbych ddoe, llwyddwyd i chwarae’r gemau yn Rhuthun a Llanrhaeadr. Cafodd Rhuthun fuddugoliaeth o 3-1 dros Llangefni, gwrthwynebwyr Port y Sadwrn diwethaf. Rhannu’r pwyntiau oedd hanes Llanrhaeadr a Chonwy mewn gêm gyfartal 1-1 tra sicrhaodd gôl hwyr Darren Gowans y tri phwynt i Llandudno yn erbyn Penrhyncoch ar gae Maesdu.

Having reached the half-way point of the season without weather interruptions in the first game of the second half the weather took its toll with only three HGA games surviving today. None of the top six managed to play. Despite the inclement weather in Denbighshire yesterday, the matches at Ruthin and Llanrhaeadr survived. Ruthin recorded a 3-1 win over, Port’s opponents of last Saturday, Llangefni. Llanrhaeadr and Conwy shared the points in a 1-1 draw, while Llandudno picked up the three points at home to Penrhyncoch thanks to a late Darren Gowans goal.
17/12/11
Newid dyddiad Tote mis Rhagfyr / Change to December Tote date

Dylai cefnogwyr a ffrindiau CPD Porthmadog nodi bydd Tote Misol Rhagfyr yn cymryd lle ar 7 Ionawr, yn y Ganolfan yn ystod y ‘Noson Bingo’ nos Wener sydd yn cychwyn am 8 o’r gloch.

Supporters and friends of Porthmadog FC should note that, because of the holiday period, the draw for the December Monthly Tote will be made on Friday, 7 January at the Ganolfan during the Friday Night ‘Bingo Evening’ which commences at 8 pm.
17/12/11
Gêm wedi gohirio / Game OFF

Gohiriwyd y gêm yn erbyn Rhos Aelwyd yn dilyn archwiliad o'r cae. Mae Parc Ponciau wedi rhewi.

Today’s game against Rhos Aelwyd has been postponed following a pitch inspection this morning. Ponciau Park is frozen.
16/12/11
Archwiliad o’r cae yn Rhos / Pitch inspection at Rhos

Bydd yna archwiliad o’r cae yn y Rhos bore yfory am 8.30 am. i benderfynu os fydd y gêm rhwng Rhos Aelwyd a Porthmadog yn cael eu chwarae yfory (16 Rhagfyr i gychwyn am 2pm).
Byddwn yn rhoi canlyniad yr archwiliad ar y wefan hon unwaith fydd y wybodaeth i law.

There will be a pitch inspection at Rhos tomorrow morning at 8.30 am when a decision will be made with regard to the game between Rhos Aelwyd and Porthmadog due to be played tomorrow (16 December k.o. 2 pm).
The result of the inspection will be posted on this website as soon as it is known.
15/12/11
Rhagolwg: v Rhos Aelwyd / Preview: v Rhos Aelwyd

Rhos Aelwyd Ddydd Sadwrn bydd Port yn teithio i ardal Wrecsam am yr ail waith mewn pythefnos a’r tro yma Rhos Aelwyd fydd y gwrthwynebwyr. Cafodd Rhos dymor arbennig yn 2010/11 ond maent wedi methu ail adrodd y llwyddiant eleni. Nhw sydd ar waelod y tabl gyda ond un buddugoliaeth, a honno ar 27 Awst adre i Rhuthun. O edrych ar y sefyllfa ar y wyneb yn unig dylai Port ail adrodd y fuddugoliaeth a gafwyd ynghynt ar y Traeth gan fynd ymlaen a sicrhau’r dwbl yr un fath a’r tymor diwethaf – 2-1 ar y Traeth a 5-2 ar Barc Ponciau pan sgoriodd Paul Roberts hat tric.
Ond bu digon o ganlyniadau annisgwyl yn yr HGA i wneud yn siwr fod yr un clwb yn cymryd dim yn ganiataol. Cyfartal bu dwy gêm ddiwethaf Rhos a Sadwrn diwethaf bu rhaid iddynt frwydro ‘nol i gael gêm gyfartal 4-4 yng Nghonwy, diolch i goliau hwyr Arron Edwards a Mike Pugh.
Bydd Port yn edrych i barhau â’r chwarae a sicrhaodd eu buddugoliaeth fwyaf swmpus o’r tymor yn erbyn Llangefni, lle arweiniodd y capten Rhys Roberts y ffordd â dwy gôl gyda pump chwaraewr arall hefyd yn cael eu henwau ar y rhestr sgorio.

On Saturday Port will be making their second consecutive away visit to the Wrexham area with Rhos Aelwyd this time providing the opposition. Rhos had an outstanding season in 2010/11 but have failed to repeat that standard of performance this term. They are at the bottom of the table with only one win and that was achieved back on 27 August at home to Ruthin. On the face of it Port should follow up the 4-1 win over Rhos at the Traeth with a repeat of last season’s double -winning 2-1 at the Traeth and then by 5-2 at Ponciau Park, a score which included a Paul Roberts hat-trick.
However there have been enough shock results in the HGA to ensure that no club takes anything for granted. Rhos have drawn their last two games and last Saturday they fought back to record a creditable 4-4 draw at Conwy thanks to late goals by Arron Edwards and Mike Pugh .
Port will be looking to continue in the same vein as that which brought them their biggest league win of the season against Llangefni with captain Rhys Roberts leading the way with a brace and five different players also getting their names on the score sheet.
13/12/11
Gary Speed: teyrnged cefnogwr / Gary Speed: a supporter’s tribute

Garry Speed Mae Tommie Collins yn un o gefnogwyr ffyddlon ein tîm rhyngwladol a dyma ei deyrnged bersonol i Gary Speed.
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod gwych i fod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru. Ond ar 27 Tachwedd cafodd y newyddion syfrdanol ei gyhoeddi. Roedd rheolwr tîm Cymru wedi marw. Y peth cyntaf i’w ddweud yw fod ein meddyliau efo’r teulu.
Mae’r teyrngedau a sut mae’r byd pêl-droed wedi dod at eu gilydd, yn dangos y parch oedd i Gary Speed. Cefais y pleser o weld Gary Speed yn chwarae i’w wlad 65 o weithiau. Cafodd 85 o gapiau. Hefyd gwelais ei gêm gyntaf yn erbyn Costa Rica ar Barc Ninian yn 1990. Cofiwch, gwnaeth chwarae’r diwrnod cynt, ym Merthyr, i’r tîm Dan 21! Roedd yn ffyddlon i Gymru drwy ei yrfa ac yn amlwg yn chwaraewr o safon.
Ar y ffordd adre ar yr A470 ar ôl gêm roedd y farn yn wastad fod Gary Speed wedi bod yn gyson. Marciau o ddeg, saith bob tro.
Cefais y fraint hefyd o’i gwrdd ambell waith ar drip Cymru. Roedd wastad yn wr bonheddig a byth yn ein hanwybyddu.”

Tommie Collins is a dedicated follower of our National team and here is his personal tribute to Gary Speed.
“Watching Wales over the last few months has been a pleasure. But on Sunday 27 November the football world was in a state of shock with the sudden death of Gary Speed. All our thoughts I’m sure are with his family.
The tributes and the way all football fans have come together has shown the respect he had within the game. I had the pleasure of seeing him play 65 times for his country out of the 85 caps he achieved. I saw him play his first game for Wales against Costa Rica at Ninian Park in 1990. Remember he also played the previous day in Merthyr for the U 21’s! Not once did he let the team down and on the long journey home from South Wales the conversation would inevitably turn to how well Speed had performed. Mr Consistent that’s what he was.
I also had the privilege of meeting him on quite a few occasions and he was always a gentleman....
Thanks for the memories.”
Newyddion cyn 13/12/11
News before 13/12/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us