|
![]() |
|
|
|
|||
|
13/12/11 Mwy o wynebau newydd? / More new faces? Mae’n bosib na fydd dyfodiad Ryan Connolly o Fae Colwyn yn ddiwedd ar fwriadau Gareth Parry i ddod o hyd i chwaraewyr all gyfrannu at ei garfan. Yn ei nodiadau yn y rhaglen ddydd Sadwrn dywedodd, “Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu Campbell a mi yn siarad gyda chwaraewyr eraill er mwyn adeiladu ar gryfder y garfan bresennol ac efallai bydd yna wynebau newydd/cyfarwydd i’w gweld ar y Traeth yn ystod y mis nesaf.” Y gêm yn Penycae “... oedd y tro cyntaf am saith wythnos imi fedru dewis allan o garfan lawn.” Ychwanegodd, “Mae’n anodd gyda charfan fechan i gadw’r un tîm yn rheolaidd ac mae’r gallu a pharodrwydd yr hogiau i chwarae mewn gwahanol safleoedd yn hollbwysig.” The signing of Ryan Connolly from Colwyn Bay may not be the end of Gareth Parry’s search for players who might add something to his squad. In his programme notes for Saturday he says, “Campbell and I have been in talks with other players over the past few weeks to build on the strength of the current squad and there may be a few new/familiar faces at the Traeth during the coming month.” He notes that the game at Penycae “.... was the first in seven weeks where I was able to select from a full squad.” Adding, “It is difficult with a small squad to keep the same side consistently and the ability and willingness of the lads to play in other positions is crucial.” 12/12/11 Y Broses Drwyddedu wedi cychwyn / Licensing process commences Ar ddydd Iau, 1 Rhagfyr cafodd y clwb awdit sy’n rhan o’r broses i sicrhau Trwydded Ddomestig ar gyfer tymor 2012/13. Mae’r awdit yn bwrw golwg dros y gwaith papur ac hefyd yn cynnwys adolygiad o’r cyfleusterau ar y Traeth. Gan fod y clwb wedi derbyn trwydded yn 2009/10 mae llawer o’r gwaith papur yn dal yn berthnasol ac mae’r Swyddog Trwyddedu presennol, Eddie Blackburn, wedi bod yn brysur yn diweddaru’r rhannau sydd angen sylw. Bellach bydd angen mwy o ddiweddaru ac, yn dilyn agor y ffordd osgoi, bydd rhaid cau rhai o’r ffensys o gwmpas y Traeth. Bydd rhaid i bob chwaraewr gael archwiliad meddygol ac i’r stadiwm gael ei thrwyddedu. Ond mae’r clwb yn hyderus fod y gwaith yn mynd i gael eu gwblhau mewn pryd ac y byddant unwaith eto yn derbyn Trwydded Ddomestig. On Thursday, 1 December the club was audited as a part of the ongoing work to achieve a Domestic Licence for season 2012/13. The audit reviews current paperwork and includes a review of facilities at the ground. Having obtained a licence in 2009/10 much of the paperwork remains relevant and the new Domestic Licence Officer, Eddie Blackburn, has been busy updating the parts that required an update. Some further updating will now be required. Also, following the opening of the by-pass, some work, primarily to do with enclosing the ground, will be required. The players will all need medicals again and a stadium certificate will be needed. However the club is confident that the work will be completed in time and that they will again receive the Domestic Licence. 11/12/11 Newidiadau i rhestr gemau Ionawr / January fixture changes Bydd yna rhai newidiadau i’r rhestr gemau ar gyfer Ionawr oherwydd fod gan rhai clybiau gemau yng Nghwpan Cymru a Chwpanau Rhanbarthol. Roedd Port i chwarae Llanrhaeadr-y-Mochnant ar y 7 Ionawr ond mae gan y clwb o’r canolbarth gêm yn erbyn Penparcau yng Nghwpan y Canolbarth ar y diwrnod hwnnw. Gwrthwynebwyr Port ar 7 Ionawr ar y Traeth fydd Penrhyn-coch. HGA fixtures for January are subject to change resulting from the involvement of clubs in the Welsh Cup and in Regional Cup competitions. Port were due to play Llanrhaeadr-y-Mochnant on 7 January but the mid Wales club have a Central Wales Cup-tie on that date against Penparcau. Port’s 7 January league opponents will now be Penrhyn-coch at the Traeth. 10/12/11 Port yn arwyddo chwaraewr / Port make new signing Mae Porthmadog wedi cwblhau trosglwyddiad y chwaraewr ganol cae Ryan Connolly o glwb Bae Colwyn. Arwyddwyd Connolly gan Dave Challinor, cyn rheolwr y Bae, ar ôl i’r chwaraewr dreulio cyfnod gyda Ornsoldsvik yn Sweden. Mae Connolly hefyd wedi chwarae i glwb Port Vale. Porthmadog have completed the signing of Ryan Connolly from Colwyn Bay. He plays in midfield. The former Port Vale player was signed for the Bay by that club’s previous manager Dave Challinor. Connolly also spent a spell with Swedish club Ornsoldsvik. 08/12/11 Rhagolwg: v Llangefni / Preview: v Llangefni Noddwyr: Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri Bydd ail rhan y tymor yn cychwyn ddydd Sadwrn yn erbyn Llangefni ein gwrthwynebwyr yn ngêm cyntaf y tymor. Tro Llangefni fydd hi i ymweld â’r Traeth. Ers ein buddugoliaeth o 5-1 gwelwyd newidiadau ar Gae Bob Parry gyda’r cyn rheolwr Adie Jones yn dychwelyd i gymryd yr awenau. Ers iddo ddychwelyd bu gwelliant pendant ar y cae, gyda dwy o’u tair buddugoliaeth y tymor hwn yn dod yn y cyfnod yma o bedair gêm. Sadwrn diwethaf mewn gêm agos collwyd o drwch blewyn yn erbyn Penrhyn-coch –lle anodd i sicrhau pwyntiau. Maent hefyd wedi tynhau yn y cefn ar ôl sawl colled drom ynghyn t yn y tymor. Mae Adie Jones yn rheolwr profiadol uchel ei barch, felly bydd yn rhaid cymryd y sylw hwn ar wefan Llangefni o ddifri – “Mae Port ein gwrthwynebwyr nesaf yn hedfan yn uchel ond os wnawn chwarae fel rym yn gwybod y medrwn rhown brawf iawn iddynt.” Daeth Adie Jones a’r ymosodwr profiadol Kevin Garland efo fo o Rhuthun a gyda’r ymosodwr ar fenthyg John Owen hefyd ymysg y goliau mae ganddynt y potensial i rhoi prawf ar sawl amddiffyn yn yr HGA. Roedd y tri phwynt a sicrhawyd ddydd Sadwrn diwethaf yn ddigon i symud Port i’r trydydd safle ac y gyfartal ar bwyntiau â Cei Conna sydd yn ail. Y poen mwyaf i gefnogwyr yn ddiweddar ydy’r methiant troi cyfleoedd i yn goliau Yn ystod y tair gem ddiwethaf crëwyd digon o gyfleoedd i ennill dwsin o gemau. Os wnaiff y cyfleoedd ddal i ddod mae’n siwr y wnaiff y goliau lifo unwaith eto. Byddai’r boen y fwy o gryn dipyn pe na byddai’r cyfleoedd yn cael eu creu. Roedd yn dda cael Chris a Clive Williams yn ôl wythnos diwethaf ond siom fod anlwc Marcus yn parhau. Match Sponsors: Ffestiniog and Welsh Highland Railway Saturday sees the commencement of the second half of the season and Llangefni, the place where we started our season in August, provide the opposition. This time it is the turn of the Anglesey club to visit the Traeth. Since our 5-1 win, there have been changes at Talwrn Road with former manager Adie Jones returning to take charge of the club. Since his return there has been a distinct improvement with two of their three league wins coming during this period of four games and last Saturday the defeat at Penrhyn-coch -never an easy place to visit- was a narrow one. They have also tightened up at the back after going down to some heavy defeats earlier in the season. Adie Jones is an experienced and highly respected manager so Port will need to heed this comment on the Llangefni website -“High flying Port away up next, if we play like we know we can we will give them run for their money.” Adie Jones has brought the experienced striker Kevin Garland with him from Ruthin and with on-loan striker John Owen also among the goals they now have the potential to test many HGA defences. Three points on the road last Saturday has moved Port into third place and level on points with second placed Connah’s Quay. The recent concern for spectators has been the failure to turn chances into goals. They have created enough chances in the last three games to win a dozen matches. The law of averages dictates that if Port go on creating them the goals must surely flow again. It would be far more of a concern if chances were not being created. It was good to see Chris and Clive Williams back last week but Marcus Orlik’s injury jinx continues. 06/12/11 Gêm gynghrair allweddol / Tonight’s key league match
Yn y gêm gynghrair allweddol Rhyl oedd yn fuddugol heno o 1-0 dros Cei Conna, diolch i gôl hwyr Mooney, o flaen torf o 311 ar y Belle Vue.Yn y gêm ddarbi Llandudno, sydd ar rhediad da, enillodd o 4-2 dros y cymdogion Conwy. In tonight’s key league match a late Mooney goal was enough to secure the three points for Rhyl at home to Connah’s Quay in front of a crowd of 311. In the local derby in-form Llandudno defeated Conwy United by 4-2. 06/12/11 Tomi yn colli ei swydd / Tomi loses manager’s job
Mae Tomi Morgan, cyn-reolwr Port, wedi colli ei swydd fel rheolwr yng Nghaerfyrddin. Bu Tomi yn rheolwr ar y Traeth o Ionawr 2009 tan haf 2010 cyn gadael am ail gyfnod gyda Chaerfyrddin. Y tymor diwethaf, wedi brwydr galed, llwyddodd i gadw clwb y Waundew yn yr Uwch Gynghrair ond y tymor yma, a’r clwb ar waelod y tabl, disgynnodd y fwyell a hynny’n ddigon eironig yn dilyn buddugoliaeth yng Nghwpan Cymru dros Pen-y-bont.Former Port manager Tomi Morgan has lost his position as manager of Carmarthen Town. Tomi was manager at Porthmadog from January 2009 until the summer of 2010 when he left for a second term with Carmarthen. Last season after a tough battle he kept the Richmond Road club in the Welsh Premier but this season the club have struggled and the axe dropped ironically following the club’s Welsh Cup win over Bridgend Town. 04/12/11 Croeso i Oscar / Welcome Oscar Mae pawb yn CPD Porthmadog yn estyn eu llongyfarchiadau calonnog i Ryan Davies, ein amddiffynnwr canol poblogaidd, ac i’w bartner Scarlett ar enedigaeth eu mab Oscar yn ystod yr wythnos. Croeso cynnes iawn i Oscar. Amddiffynnwr canol at y dyfodol neu efallai blaenwr yr un fath ac Yncl Les! All at Porthmadog FC extend their warmest congratulations to our popular central defender Ryan Davies and his partner Scarlett on the birth of their son Oscar during the week. A warm welcome is extended to future central defender Oscar or alternatively a striker like his Uncle Les! 01/12/11 Rhagolwg: v Penycae / Preview: v Penycae
Byddwn hanner ffordd drwy’r tymor wrth inni chwarae’r 15fed gêm allan o’r 30 o gemau. Bydd ysgrifennydd y gynghrair, Chas Rowlands , yn hapus iawn i gyrraedd y pwynt yma heb unrhyw sôn am gae wedi rhewi na un dan ddwr chwaith!Collodd y newydd ddyfodiad o Benycae eu wyth gêm gyntaf o’r tymor ond ers hynny cafwyd tipyn o adfywiad. Yn ddiweddar cafwyd buddugoliaethau dros Llandudno, Llangefni, Llanrhaeadr a Rhos gan golli ond yn erbyn Cefn a wedyn dydd Sadwrn diwethaf sicrhau gêm gyfartal yng Nghonwy. Yn amlwg mae apwyntio Steve Sedgwick wedi gwneud cryn wahaniaeth. Llwyddiant pennaf y clwb a ffurfiwyd yn 1982 oedd ennill Tlws y Gymdeithas Bêl-droed yn 2004. Hefyd aethant i ffeinal Cwpan Cynghrair y Cymru Alliance yn 1996/97. Byddai ennill ddydd Sadwrn yn codi Port i’r trydydd safle uwchben Bwcle ond ni ddylem gymryd dim yn ganiataol. Gyda’r chwaraewyr a fethodd y gêm yn erbyn Caersws yn dychwelyd i godi’r ysbryd a gobeithio hefyd byddant yn sbardun i fwy o goliau. Ar ôl sgorio ond tair gwaith yn y bedair gêm ddiwethaf bydd y rheolwr yn edrych i’r gwaith yn y bocs fod cystal a gweddill y chwarae.Cofiwch cic gyntaf am 2 o'r gloch. Saturday’s game marks the half way point in the league season the 15th game of a 30 game league programme. League secretary Chas Rowlands will be delighted that this point has been reached without a frozen or waterlogged pitch in sight! Newly promoted Penycae lost all of their first eight HGA league games but since then have enjoyed something of a revival. In recent weeks they have recorded wins over Llandudno, Llangefni, Llanrhaeadr and Rhos losing only to Cefn Druids while drawing last Saturday at Conwy. The appointment of Simon Sedgwick has clearly made them far sterner opposition. The most notable achievement of the club, founded in 1982, is winning the FAW Trophy in 2004. They were also Cymru Alliance League Cup finalists in 1996/97. A win on Saturday will lift Port into third place above Buckley but nothing can be taken for granted. With players who missed out last week returning to give the squad a boost and hopefully a boost also to the recent disappointing return of three goals in four games. The manager will be looking for work in the opposition box to match the rest of their play.Don't forget 2 pm ko. 30/11/11 Pwysigrwydd bod yn hyblyg / The importance of being versatile
Nid yw rheoli carfan fechan tra yn ceisio cadw’n agos at frig y tabl heb eu phroblemau. Wrth gyfeirio yn eu nodiadau yn y rhaglen at berfformiad cadarn Iwan Williams yn gefnwr chwith yn y Fflint, mae Gareth Parry yn gwneud sylwadau diddorol ynglyn â phwysigrwydd medru addasu a chwarae mewn amrywiaeth o safleoedd yn ôl y galw.“Mae hyblygrwydd y garfan wedi bod yn nodwedd o’n tymor gyda nifer yn amrywio eu safleoedd o wythnos i wythnos pan fod anafiadau a gwaharddiadau ac yn y blaen. O safbwynt rheolwr mae’n rhaid dweud fod parodrwydd y chwaraewyr i wneud hyn yn rheolaidd, gan rhoi pob dim i’r tîm, wedi bod yn wych a neb fwy felly na ein capten Rhys Roberts, sydd byth yn osgoi ei gyfrifoldeb i’r tîm ac wedi chwarae ym mhob safle bron, heblaw am yn y gôl!” Yn eironig iawn gwnaed y sylwadau yma mewn wythnos pan gollwyd Gary Speed, un a oedd yn esiampl berffaith o roi y tîm yn gyntaf bob amser. Managing a small squad, while trying to maintain a place close to the top of the table, is not without its problems. When referring in his match programme notes to Iwan Williams’ ‘impressive game’ at left back in Flint, Gareth Parry makes some interesting comments on the importance of being able to adapt to a variety of positions as needs dictate. “The versatility of our squad has been a feature of our season with many players rotating from week to week to cover injuries, suspensions and the like and from a manager’s perspective I have to say that the willingness of players to do this week-in, week-out and give everything for the team has been excellent and none more so than our captain Rhys Roberts who has played in almost every position apart from in goal and never shirks away from his responsibility to the team.” There is a certain irony in the fact that these comments come in a week when we have lost Gary Speed the man who exemplified the spirit of ‘I’ll play anywhere for the team’ better than anyone. 29/11/11 Arwydd o barch / A mark of respect Yn arwydd o barch at Gary Speed, hyfforddwr cenedlaethol Cymru a fu farw ddydd Sul, cynhelir munud o dawelwch er cof amdano cyn pob gêm bêl-droed a chwaraeir yng Nghymru yn ystod yr wythnos hon, gan gynnwys y rhaglen o gemau Huws Gray ddydd Sadwrn. As a mark of respect for the Wales national coach Gary Speed, who died on Sunday, there will be a minute’s silence in remembrance of the inspirational coach and footballer ahead of all football matches played in Wales this week, including the HGA programme of games on Saturday. 29/11/11 Cychwyn cynnar ym Mhenycae / Early kick off at Penycae
Dylai cefnogwyr nodi fod y gêm ddydd Sadwrn rhwng Penycae a Porthmadog yn cychwyn am 2 o’r gloch. Hyn oherwydd y diffyg llif oleuadau ar y cae ar Ffordd Afoneitha.I ddefnyddwyr Sat Nav y Cod Post ydy LL14 2PF. Y ffordd orau i deithio yno o bosib ydy ar hyd yr A5 i Llangollen cyn troi i’r chwith dros y bont a wedyn i’r dde ar y A539. Ewch yn eich blaen drwy Trefor ac Acrefair a cymryd Ffordd Plas Bennion i’r chwith i gyfeiriad Penycae. Wedi cyrraedd pentref Penycae bydd Ffordd Afoneitha ar y dde. I’r rhai a deithiodd i Rhos Aelwyd y tymor diwethaf Penycae ydy’r pentref agosaf at Rhosllanerchrugog.Cofiwch wirio dros eich hun! Travelling supporters should note that Saturday’s match between Penycae and Porthmadog will kick off at 2 pm. Penycae’s ground at Afoneitha Road has no floodlights. For Sat Nav users travelling to Penycae on Saturday, the relevant postcode is LL14 2PF. The best route would appear to be along the A5 to Llangollen where you turn left over the bridge then right on to the A539. Continue through Trevor and Acrefair taking Plas Bennion Road on your left towards Penycae. The ground is in Afoneitha Road which is a right turning once you reach the village. For those who travelled to Rhos Aelwyd last season, Penycae is the adjoining village to Rhos. Please check route for yourself! 27/11/11 Marwolaeth annhymig Gary Speed / Tragic death of Gary Speed
Mae pêl-droed yng Nghymru wedi’i syfrdanu gan y newyddion trist am farwolaeth y rheolwr cenedlaethol Gary Speed. Cyhoeddwyd y newyddion y bore yma gan y Gymdeithas Bêl-droed:“Gyda thristwch mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn cyhoeddi marwolaeth y rheolwr cenedlaethol Gary Speed . Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â’r teulu a gofynnwn i bawb i barchu eu preifatrwydd ar adeg mor anodd a thrist.” Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r teulu. Roedd Gary Speed i ymweld â’r Traeth ar gyfer y gêm rhyngwladol Dan-16 ddiweddar rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, ymweliad, oherwydd ei swydd brysur, na lwyddodd ei gyflawni. The whole of Welsh football has been plunged into sadness by the news of the tragic death of the Wales national team manager Gary Speed. The FAW announced his death in a statement this morning: "The FAW is sad to announce the death of national team manager Gary Speed. We extend our sympathies and condolences to the family and we ask everyone to respect the privacy of the family at this very sad and difficult time." Our thoughts and prayers are now with the family of Gary Speed. He was to have visited the Traeth for the U-16 international between Wales and Northern Ireland, a visit which he was unable to fulfil because of his heavy workload. 27/11/11 Un enillydd tote / One tote winner Y rhifau lwcus yn y Tote am fis Tachwedd ydy 13 a 30 Un enillydd sydd sef G. Jones Glan Llyn Penrhyndeudraeth. Bydd rhaid i unrhyw hawliad arall gael ei wneud erbyn 8 pm ar nos Wener, 2 Rhagfyr. The winning numbers in the November Tote were 13 and 30. Subject to confirmation there is only one winner: G. Jones, Glan Llyn, Penrhyndeudraeth, who wins £606. Any claims must be made by 8 pm on Friday 2 December. 26/11/11 Rhybudd i Glybiau a Rhieni / A warning for Clubs and Parents Cyhoeddwyd cyngor pwysig i glybiau a rhieni plant a pobl ifanc sydd mewn oed ymuno ag Academi. Derbyniwyd y neges hon wrth Andrew Howard, Pennaeth Cystadlaethau’r Gymdeithas Bêl-droed, gan Weinyddwyr Academïau. “Daeth i’m sylw fod yna unigolyn sy’n mynd o dan yr enw David Williams, o ardal Caer, yn cysylltu â chlybiau a rhieni yn ardal Gwynedd a Môn gan honni ei fod yn gweithio i’r Gymdeithas Bêl-droed ac i John Deakin ac yn trefnu treialon mewn Academïau’r Gymdeithas. Mae’n gofyn am ffi oddi wrth y clybiau neu’r rhieni er mwyn gwneud hyn. Sylwer NID yw’r unigolyn yma yn gweithio i’r Gymdeithas Bêl-droed nac i Uwch Gynghrair Cymru. Os byddwch yn derbyn ymholiadau o’r math yma byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn barod i gadarnhau hyn yn ogystal ac unrhyw wybodaeth pellach sydd gennych. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn trosglwyddo’r wybodaeth imi.” Important advice to clubs and parents of Academy aged youngsters has been issued by the FAW’s Head of Competitions Andrew Howard. He has sent the following message to Academy Administrators. “It has been brought to my attention that an individual going by the name of David Williams from the Chester area is contacting clubs and parents in the Anglesey and Gwynedd area stating that he is working for the FAW and John Deakin to provide trials in FAW Academies. He is asking for a fee from the parents/clubs to set this up. Please note that this individual is NOT working for the FAW or for the WPL. If you receive any enquiries of this nature, I would be grateful if you could confirm this fact and if you have any further information, I would again be grateful if you would forward this to me.” 25/11/11 Digonedd o goliau yn y gemau Academi / High scoring Academy games
Roedd yna ddigonedd o goliau yn y gemau Academi rhwng Porthmadog a’r Rhyl dros y penwythnos diwethaf. Rhyl enillodd y gêm Dan-12 a hynny o 12-0 ond wrth gynnal eu record diguro Porthmadog oedd yr enillwyr Dan-14 o 20-0. Roedd yn dipyn agosach wrth i’r timau Dan-16 gyfarfod lle Porthmadog oedd yr enillwyr o 3-2.Bore Sul bydd Academi Porthmadog yn chwarae Prestatyn gartref. There were goals galore in last weekend’s Academy matches between Porthmadog and Rhyl. Rhyl were 12-0 winners at U-12 while the Porthmadog U-14s maintained their unbeaten record winning by a 20-0 margin. It was a much closer contest at U-16 level with Porthmadog the winners by 3 goals to two. This Sunday the Porthmadog Academy will be at home to Prestatyn. 25/11/11 Newyddion am chwaraewyr / Player news
Mae’r amddiffynnwr Dean Garmey, a ymunodd â Port yn yr haf o Gaergybi cyn yn ddiweddarach symud i weithio yn Portsmouth, bellach wedi ymuno â Bae Trearddur.Bydd Steve Kehoe yn methu’r gêm yn erbyn Caersws yfory oherwydd gwaharddiad o un gêm wedi iddo gyrraedd cyfanswm o 6 cerdyn melyn. Defender Dean Garmey, who joined Port from Holyhead Hotspur in the summer before later leaving the club taking up employment in Portsmouth, has now joined Gwynedd League club, Trearddur Bay. Steve Kehoe will miss tomorrow’s game at home to Caersws due to a one match suspension resulting from the totting up process. 24/11/11 Rhagolwg: v Caersws / Preview v Caersws
Noddwyr y Gêm: Tan yr Onnen, BeddgelertBydd y rhediad anodd o gemau yn parhau gyda ymweliad Caersws â’r Traeth. Mae ein gwrthwynebwyr ar rhediad gwych o wyth buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair a hyn yn eu codi i’r chweched safle pedwar pwynt tu ôl i Port. Yn ystod y rhediad, y Derwyddon ydy’r unig glwb yn y pump uchaf iddynt chwarae ond wedi dweud hynny anodd ydy rhoi rhediad o wyth gêm diguro at ei gilydd ar unrhyw lefel. Yn wahanol iawn oedd eu cychwyn i’r tymor wrth wynebu Cei Conna, Rhyl, Bwcle a Fflint, pedwar o’r ceffylau blaen. Colli’r bedair oedd yr hanes gan adael 20 o goliau i fewn. Yn y rhediad diweddar dim ond 9 gôl a sgoriwyd yn eu herbyn mewn wyth gêm. Hefyd maent wedi sgorio’n gyson gyda Mark Griffiths yn brif sgoriwr y gynghrair gyda 13 o goliau. Y tymor diwethaf sicrhaodd Caersws y dwbl dros Port gyda dau berfformiad da yn cynnwys pedair gôl yn yr hanner awr gyntaf o’r gêm ar y Rec, â Neil Mitchell yn cael gêm rhagorol. Unwaith eto bydd Port heb Chris Williams sy’n dal heb wella o’i anaf, tra fod Clive Williams yn methu oherwydd profedigaeth deuluol. Felly bydd yna newid unwaith eto i amddiffyn sydd ond wedi gadael un gôl heibio yn ystod y pedair gêm gynghrair ddiwethaf. Golyga hyn fod disgwyl i chwaraewyr gymryd safleoedd anghyfarwydd fel y gwnaeth Iwan Williams yn Fflint. Ond â’r ysbryd yn y garfan mor uchel mae pob un yn barod i roi cant y cant lle bynnag y gofynnir iddynt chwarae. Match Sponsors: Tan yr Onnen Inn Beddgelert Porthmadog continue their run of difficult games when Caersws visit the Traeth. Saturday’s opponents are on a tremendous run of eight straight league wins which has lifted them into sixth place, four points behind Port. During these eight games Cefn Druids are the only top five opposition faced, nevertheless an eight game winning streak is not easily achieved at any level. In contrast they had a poor start to the season when four of their opponents were current front runners Connah’s Quay, Rhyl, Buckley and Flint. They lost all four and conceded 20 goals in the process. In stark contrast they have only conceded nine goals during the winning eight match run. In addition they are scoring freely themselves with striker Mark Griffiths the current HGA leading goal scorer with 13 goals. Last season Caersws completed a double over Port with two excellent performances which included four goals in the first half hour at the Recreation Ground with Neil Mitchell outstanding. Port will once again be without the injured Chris Williams while Clive Williams will miss the game because of a family bereavement. Once again a back four which has only conceded one goal in the last four league games will see changes. This means that players have to be prepared to play out of position, as was the case with Iwan Williams at Flint, but such is the spirit within the squad that they are prepared to give a 100% wherever they are asked to play. 22/11/11 Cydymdeimlwn â Clive / Our condolences to Clive Mae clwb Porthmadog yn estyn cydymdeimlad diffuant â Clive Williams ar farwolaeth annhymig ei ewyrth. Mae Clive, o Benygroes, wedi bod yn chwaraewr allweddol i Borthmadog yn ystod y tymor hwn. Cynhelir y cynhebrwng ddydd Sadwrn. The Porthmadog club extends its sincere sympathy to Clive Williams following the most untimely loss of his uncle. Clive, from Penygroes, has been a key player for Porthmadog this season. The funeral will take place on Saturday. 21/11/11 Osian yn diolch / Osian says thanks
Derbyniwyd y neges hon wrth Osian Roberts hyfforddwr tîm Dan-16 Cymru.Gwna i byth anghofio y bore ddaeth Viv Williams i’m swyddfa yn Llangefni a gofyn imi ddod i’w helpu yn CPD Porthmadog. Arweiniodd at 7 mlynedd o bleser pur gyda chlwb pêl-droed gwych a gyda pobl arbennig. Byddaf bob amser yn eu dyled. Yn 2007 gadewais Port gyda chalon drom, ond gan wybod fod rhaid imi symud ymlaen i gyfnod arall yn fy ngyrfa. Felly roedd yn achlysur arbennig, wythnos diwethaf, imi fedru o’r diwedd ddychwelyd i’r Traeth, a hynny gyda’r talentau ifanc gorau yng Nghymru â dod ac achlysur gwych i’r Traeth, un a gafodd ei ddangos yn fyw ar deledu Sky. Rwyf am ddiolch i bob un ohonoch yn CPD Porthmadog am wneud nos Fercher yn noson gofiadwy, ac am rhoi Porthmadog ar y map unwaith eto. Yn ôl y disgwyl roedd Phil wedi sicrhau fod y cae yn berffaith yn union beth oedd ei angen inni fedru cael ein gêm basio i fynd, ac oddi ar y cae roedd pob un arall wedi tynnu eu pwysau i greu sioe wirioneddol wych. I mi’n bersonol roedd yn deimlad arbennig i ddod ‘adre’ a chyfarfod hen ffrindiau. Roedd ennill 3-1 yn erbyn Gogledd Iwerddon, a sicrhau yr ail safle yng nghystadleuaeth Tarian y Fuddugoliaeth yn lwyddiant arbennig ac i’w wneud ar y Traeth roedd yn fwy arbennig fyth. Roedd yn fy atgoffa o rhai o’r canlyniadau gwych a gafodd Viv a minnau gyda’r grwp arbennig yna o chwaraewyr a gasglon ni at eu gilydd. Aeth y noson yn gyflym iawn ac ymddiheuraf i’r ffrindiau yna na welais ac am fethu treulio mwy o amser yn dal i fyny gyda’r newyddion diweddaraf. Ond medraf eich sicrhau fy mod yn falch iawn o bob un ohonoch ar yr achlysur nodedig hwn. Edrychaf ymlaen at ymweld â’r Traeth yn fuan i weld tîm Gareth a Campbell, gan fy mod yn clywed canmol mawr i’r pêl-droed maent yn eu chwarae. Yn ddiffuant Osian. This message was received from Wales U-16 team manager, Osian Roberts I will never forget the morning Viv Williams came to my office in Llangefni and asked me to come and help him out at Porthmadog FC. It resulted in 7 years of pure enjoyment at a wonderful Football Club with wonderful people and I will always be indebted to him. In 2007 I left Port with a heavy heart but also knew I had to move on to another stage of my career. It was therefore a special occasion last week when I was finally able to return to Port with Wales’ finest young talents and bring a wonderful occasion filmed live on Sky Sports TV to the town. I would like to take this opportunity to thank every single one at Porthmadog FC for making Wednesday night such a memorable evening and for putting Porthmadog on the map yet again. As expected Phil had ensured the surface was impeccable, something we needed in order to get our passing game going, and off the pitch every one else had pulled together to put on a truly fantastic display. For me personally it was special to come ‘home’ and see old friends. Winning 3-1 against Northern Ireland and securing second place in this year’s Victory Shield was a great achievement and to achieve it at The Traeth made it even more special. It reminded me of some wonderful results Viv and I had with that special group of players we brought together. The evening went very quickly and I apologise to those friends I did not see and for not being able to spend more time catching up. However rest assured that I was proud of every one of you on what was a very special occasion, and I will look forward to visiting the Traeth soon to see Gareth and Campbell’s team playing, because I’m hearing some great things about the football being played. Sincerely Osian 21/11/11 Y Daily Post yn esbonio / The Daily Post explains Mae’r Daily Post wedi esbonio eu diffyg sylw i’r gêm rhyngwladol Dan-16 ar y Traeth nos Fercher fel cyfuniad o “broblemau e-bost o’u hochr hwy (wedi iddynt symud i system e-bost newydd) ac hefyd diffyg cyswllt yn arwain at negeseuon ddim yn cael eu trosglwyddo i’r aelod staff priodol. Dywedodd Ben Thorley, Pennaeth Chwaraeon Trinity Mirror “ Medraf ddeall rhwystredigaeth y clwb fel yr oedd i ni hefyd. Credwch fi os byddwn wedi gwybod amdano byddai wedi cael y sylw haeddiannol. Edrychaf ymlaen i gydweithio gyda chi a chlwb Porthmadog yn y dyfodol gan obeithio fydd yna gêm arall ar y Traeth yn fuan gan fod hon yn swnio’n llwyddiant ysgubol.” Mae’r eitem wreiddiol ar y mater wedi’i thynnu o’r wefan mewn ysbryd o gydweithrediad rhwng y clwb a’r papur. The Daily Post have now explained their lack of coverage of the U-16 International played on Wednesday at the Traeth as being a combination of “email problems we've experienced at our end (we've just moved to a new email system)” and a breakdown in communication which led to information contained in e-mails not being passed on to the appropriate member of staff. Ben Thorley, Head of Sport at Trinity Mirror, says, “I can understand it must have been frustrating for the club, it certainly was for us. Trust me if I had been made aware of it I would have given it the coverage it merited. I look forward to working with you and Porthmadog in future, hopefully there will be another game at the Traeth soon as it sounded a resounding success.” The original item on the subject has now been removed from the website in a spirit of co-operation between club and newspaper. 18/11/11 Ymateb cadarnhaol gan y Gymdeithas Bêl-droed / Welsh FA’s positive response Teimlad braf i’r grwp bach o wirfoddolwyr clwb Porthmadog oedd darllen ymateb cadarnhaol iawn ar wefan swyddogol Cymdeithas Pêl-droed Cymru sydd yn dweud: “Daeth ymgyrch Cymru yng Nghystadleuaeth Tarian y fuddugoliaeth i ben ar nodyn cadarnhaol o flaen torf cartref frwdfrydig a greodd awyrgylch wych ar Y Traeth, cartref CPD Porthmadog” Tan y tro nesaf felly!! It is a good feeling after their sterling efforts for Porthmadog’s small band of volunteers to read such a positive response on the Welsh FA’s Official website which says: “Wales ended their 2011 Victory Shield campaign on a positive note with a deserved win in front of an enthusiastic home crowd which created a terrific atmosphere at Y Traeth, home of Porthmadog FC.” So here’s to the next time!! 17/11/11 Rhagolwg: v Fflint / Preview: v Flint
Bydd Port yn teithio i Fflint ddydd Sadwrn ar gefn perfformiad rhagorol yn Rhyl ddydd Sul diwethaf. Ar ôl methu canfod y rhwyd yn y ddwy gêm gynghrair ddiwethaf bydd Port yn chwilio am y cydbwysedd iawn a gwneud yn iawn am hyn ddydd Sadwrn.Ar ôl colli oddi cartref yn Llanrhaeadr ac adref yn erbyn Derwyddon Cefn, tarodd Fflint yn ôl i guro Conwy wythnos ddiwethaf. Cafwyd perfformiad gwell wrth i Fflint fedru dewis eu tîm cryfaf yn enwedig Shaun Beck eu sgoriwr mwyaf cyson. Beck sgoriodd y gôl gyntaf yn Conwy. Y tymor diwethaf chwaraeodd y ddau glwb eu gilydd dair gwaith. Enillodd Port y gêm gynghrair ar y Traeth a hefyd oddi cartref yng Nghwpan y Gynghrair. Brwydrodd Fflint yn ôl i rhannu’r pwyntiau ar Gae y Castell. Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r pedwerydd a’r pumed glwb yn y tabl. Bydd y ddau yn chwilio am y tri phwynt ddydd Sadwrn er mwyn cryfhau eu sialens am ddyrchafiad. Port visit Flint on Saturday on the back of an excellent performance at Rhyl last Sunday. After failing to find the net in the last two league games Port will aim to find the right balance on Saturday and put this right. Flint bounced back to win at Conwy last week after suffering league defeats away at Llanrhaeadr and home to Cefn Druids. Their return to full strength made a difference especially the return of main striker Shaun Beck who scored the first of Flint’s two goals at Conwy. Last season the two clubs met three times. Port won the league game at the Traeth and also the league cup-tie at Cae Castell while Flint fought back to share the points in the home league game. Only two points separate the two clubs who are fourth and fifth in the table. Both clubs need the three points to reinforce their challenge for promotion. 17/11/11 Ennill yn goron ar noson wych / Win crowns a great night Roedd buddugoliaeth Cymru o 3-1 yn goron ar noson arbennig i glwb Porthmadog. Hon oedd y fuddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth Tarian y Fuddugoliaeth eleni ac yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed o dan reolaeth Osian Roberts. Goliau gan Abdi Noor, Harry Wilson a Peter Smith sicrhaodd y fuddugoliaeth, gan eu rhoi ar yr un pwyntiau â Gogledd Iwerddon a sicrhau eu lle yn gydradd ail yn y tabl tu ôl i Loegr. O’r datganiad gan Gôr y Brythoniaid o anthemau y ddwy wlad hyd at y chwiban olaf, roedd yn noson i’w chofio i bawb. Roedd y noson yn llwyddiant oherwydd gwaith caled swyddogion clwb Port a’r grwp bychan o wirfoddolwyr a weithiodd mewn cydweithrediad â swyddogion y Gymdeithas Bêl-droed i’w gwneud yn noson wych i gefnogwyr yng ngogledd Cymru. Mae’r clwb am ddiolch i’r cyhoedd am gefnogi mewn niferoedd mawr gyda dipyn dros 2,000 yn bresennol ar y Traeth neithiwr. Rhaid diolch am yr ymdrech gyhoeddusrwydd a lwyddodd i ddenu’r torfeydd. Diolch i’r ysgolion am gefnogi gan roi cyfle i’r plant gefnogi eu gwlad ar y lefel yma Dan-16.Diolch i’r stiwardiaid yn y cae ac yn y meysydd parcio am eu gwneud yn noson hwylus i bawb. Diolch i Phil a’i dîm am sicrhau maes oedd yn gweddu i’r achlysur. Diolch i’r rhai a oedd ynglyn â darparu bwyd ac i bawb a weithiodd cyn ac yn ystod y noson gan roi oriau o’u hamser wrth gyfrannu at y llwyddiant. Mae Phil Jones, Cadeirydd Port, yn estyn ei ddiolch personol i bawb a gyfranodd at noson lwyddianus iawn. The 3-1 Wales victory crowned an outstanding night for the Porthmadog club. The win was Wales’ first of this Victory Shield campaign and a reflection of the progress made by the team under manger Osian Roberts. Goals by Abdi Noor, Harry Wilson and Peter Smith secured the win which puts Wales level on points with Northern Ireland and ensures them a share of the second spot in the table behind this year’s Shield winners, England. From the rendition of the national anthems by the Brythoniaid Male Voice Choir through to the final whistle, it was a night of great entertainment. The night was a triumph for the hard work put in by Port officials and the small band of volunteers who worked in co-operation with Welsh FA officials to make it a great night for north Wales football fans. The club would like to thank the Welsh public for the way they supported the event, with well in excess of 2000 at the Traeth last night. Credit must go to the publicity initiative which brought in the crowds. Thanks to the schools for their support ensuring that their pupils had the opportunity to support their country at U-16 level. Thanks to the stewards both in the ground and at the car parks for the smooth running of the event. Thanks also to the Phil and his ground staff for the excellent pitch they produced to fit the occasion. Thanks to all those involved in the catering operation and to all those others, both on the night and in the build up, who put in untold hours contributing to the night’s undoubted success.Club chairman, Phil Jones extends his personal thanks to all those who made the evening such a success. 16/11/11 Torf dda ar y Traeth i weld Cymru'n ennill! / Good crowd on the Traeth to see Wales win! Daeth torf dda o dros ddwy fil i'r Traeth heno i weld Cymru dan-16 yn curo'u gwrthwynebwyr o Ogledd Iwerddon. Yn y gêm a ddangoswyd yn fyw ar Sky Sports, sgoriodd Abdi Noor (Caerdydd), Harry Wilson (Lerpwl) a Peter Smith (Wolves) i roi buddugoliaeth o 3-1 i'r tîm cartref. Mae'n anrhydedd fawr i'r clwb allu denu gêm ryngwladol i'r Traeth - gobeithio na fydd hi'n hir cyn y gwelwn ni dîm Cymru yma eto! A great crowd of more than two thousand attended the Traeth to see Wales under-16 beat their Northern Irish opponents. In the game, shown live on Sky Sports, Abdi Noor (Cardiff), Harry Wilson (Liverpool) and Peter Smith (Wolves) all scored to give the home side a 3-1 victory. It was a great honour for the Club to bring an international match to the Traeth - hopefully it won't be too long before we see Wales play here again! |
|||
|
|
|||