Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
15/11/11
Carfan Cymru at nos Fercher/ Wales Squad for Wednesday

Carfan Cymru i wynebu Gogledd Iwerddon ar y Traeth fydd:
Ross White (Wrecsam, Ysgol Rhosesni), Kyle Copp (Abertawe, Ysgol Pentrehafod ), Corey Francis (Abertawe, Ysgol Penyrheol ), Thomas Atyeo (Abertawe, Ysgol Cymmer Afan ), Liam Walsh (Abertawe, Ysgol Pontarddulais), Abdifatah Noor (Caerdydd, Ysgol St Cyres), Cameron Clarke (Caerdydd, Ysgol Hawthorn), Sam Jones (Caerdydd, Ysgol Stanwell ), Jake Charles (Huddersfield, Ysgol Garforth), Tomos Clarke (Oldham, Ysgol Friars), Gareth Owen (Llanelli,Ysgol Tregwyr), Alex Penny (Hull, Ysgol Withensea), Peter Smith (Wolves, Ysgol Stourport ), Joseph Jones (Caerdydd, Ysgol St Joseph ), Fraser Sturgess (Peterborough, Ysgol Thomas Deacon ), Cian Harries Coventry, Ysgol Arden), Joseph Morrell (Bristol City, The Castle), Harry Wilson (Lerpwl, Ysgol Dinas Brân), Wesley Hopwood (Port Vale, Ysgol Thomas Alleynes ).
Rheolwr Cymru fydd cyn rheolwr Porthmadog Osian Roberts a chroeso cynnes yn ôl i’r Traeth i Osian.
Gwestai arbennig yn y gem fydd Gethin Jones, hogyn o Port, a oedd yn gapten tim llynedd. Mae'r cof yn dal yn fyw o'i ran yn y fuddugoliaeth gofiadwy o 4-0 dros Lloegr.
Yn eu gemau blaenorol cafodd Cymru gêm gyfartal gyda’r Alban yn Brychdyn cyn colli i Loegr. Y gêm hon fellyfydd y cyfle olaf i sicrhau buddugoliaeth ac o bosib ail safle yn y tabl tu ôl i Lloegr.

Highslide JS

The Welsh squad to face Northern Ireland at the Traeth is:
Ross White (Wrexham, Ysgol Rhosesni), Kyle Copp (Swansea, Pentrehafod High), Corey Francis Swansea, Penyrheol Comp), Thomas Atyeo (Swansea, Cymmer Afan Comp), Liam Walsh (Swansea, Pontarddulais Comp), Abdifatah Noor (Cardiff, St Cyres High), Cameron Clarke (Cardiff, Hawthorn High), Sam Jones (Cardiff, Stanwell High), Jake Charles (Huddersfield, Garforth Community), Tomos Clarke (Oldham, Ysgol Friars), Gareth Owen (Llanelli, Gowerton Comp), Alex Penny (Hull, Withensea High), Peter Smith (Wolves Stourport High), Joseph Jones (Cardiff, St Joseph RC), Fraser Sturgess (Peterborough, Thomas Deacon School), Cian Harries Coventry, Arden High), Joseph Morrell (Bristol City, The Castle School), Harry Wilson (Liverpool, Ysgol Dinas Brân), Wesley Hopwood (Poert vale Thomas Alleynes School).
The Wales team will be managed by former Porthmadog manager Osian Roberts and we extend a warm welcome to Osian on his return to the Traeth.
Special guest at the game will be Gethin Jones of Porthmadog who led last year's Wales U-16s.His part in the 4-0 win over England is still a special memory of last season.
Having drawn against Scotland at the Airbus Ground before losing to England, the game against Northern Ireland represents the last opportunity to secure a win in this year’s Victory shield and perhaps a joint second spot in the table.
14/11/11
Gary Speed ar y Traeth nos Fercher/ Gary Speed at the Traeth for international

Garry SpeedMae’r cloc yn tician i’r gem Tarian y Fuddugoliaeth Dan-16, nos Fercher ar Y Traeth. Gêm fydd hefyd yn fyw ar deledu Sky. Mae amserlen y noson wedi’i dderbyn gyda’r newyddion da hefyd fod y rheolwr cenedlaethol, Gary Speed yn mynd i fod yn bresennol, a fo yn dathlu buddugoliaeth dda arall dros y penwythnos.
Mae’r diddordeb yn y gêm ar gynnydd mawr a disgwylir torf fawr iawn nos Fercher. Unwaith eto mae’r clwb yn apelio am gydweithrediad cefnogwyr ynglyn a pharcio. Mae’r clwb yn annog cefnogwyr i barcio ym mhrif Maes Parcio’r Dref a cherdded y daith fer i’r cae. Bydd y parcio am ddim ar ôl 6 pm. Wrth wneud y dewis yma bydd cefnogwyr yn osgoi trafferthion parcio wrth y cae ar achlysur poblogaidd fel hwn. Bydd parcio ym Maes Parcio’r Dref hefyd yn golygu y bydd cefnogwyr yn medru gyrru o Borthmadog yn haws ar derfyn y gêm.
Gwerthfawrogir eich cydweithrediad a bydd hefyd yn gwneud y profiad yn fwy pleserus i bob un ohonoch. Mae pawb yn cysylltiedig a CPD Porthmadog yn edrych ymlaen i’ch gweld ar y Traeth nos Fercher.

The countdown is now on for Wednesday’s U-16 Victory Shield International at the Traeth, the game to be broadcast live on Sky. The programme for the evening has been received and good news for players and spectators alike is that national team manager Gary Speed, fresh from another good Welsh victory, will be present at the Traeth for the match.
With interest in the game mounting and a very big crowd anticipated the club once again appeals to supporters to park in the main Town Car Park and take the short walk to the ground. Parking will be free in this car park after 6 pm. By parking here spectators will avoid possible congestion at the Traeth Car Park where parking will be limited for such a popular occasion. Parking at the Main Town Car Park will also mean a relatively trouble free departure at the end of the match.
Your co-operation is much appreciated and will also make it a more enjoyable experience for each one of you. All at Porthmadog FC look forward to seeing you at the game on Wednesday evening.
14/11/11
Cwpan Cymru yn ymweld â'r Traeth / The Welsh Cup visits the Traeth

Er gwaethaf y golled o drwch blewyn yn erbyn Rhyl, cafodd y cefnogwyr a ddaeth i'r gêm wythnos diwethaf y cyfle i weld a hyd yn oed cyffwrdd â Chwpan Cymru. Roedd hi'n fraint i'r clwb gael y cyfle i arddangos y gwpan hanesyddol yn ystod y gêm yn ogystal a chael mynd â'r gwpan i ysgolion lleol. Mae'r lluniau isod yn dangos y gwpan ar ymweliad ag Ysgol y Gorlan yn Nhremadog - lle cafodd y plant hyfforddiant gan Gareth Parry a rhai o chwaraewyr Port.
Highslide JS    Highslide JS

Highslide JS
Despite the narrow loss against Rhyl, supporters who attended last week's game had the opportunity to see and even touch the Welsh Cup. It was an honour for the club to get the opportunity to display the historic cup during the game as well as taking the cup to local schools. The photos above show the cup on a visit to Ysgol y Gorland in Tremadog where the children took part in a training session with Gareth Parry and some of the Port players.
13/11/11
Tote Misol a Draw Wythnosol / Monthly Tote and Weekly Draw

Rhifau Tote Misol am fis Hydref oedd 12 a 35. Nid oedd yna unrhyw enillwyr. Bydd y wobr o £300 yn cario drosodd i’r Tote ym mis Tachwedd a fydd yn cael ei dynnu yn y Noson Bingo yn y Ganolfan ar 25 Tachwedd.
Draw Wythnosol y rhestr enillwyr diweddar. Wythnos 40: Rhif 17 Alwena Jones, Wythnos 41: Rhif 146 Elaine Brierley, Wythnos 42: Rhif 254: Dylan Rees, Wythnos 43 Rhif 123 Megan Owen, Wythnos 44 Rhif 157 Gareth Parry Snr.
Bydd Noson Goffi yn y Ganolfan Porthmadog, Nos Wener, 18 Tachwedd 6pm i 8 pm. Croeso cynnes i bawb.

Tote Numbers for October were 12 and 35. There were no winners. There will be a rollover in November when the prize of £300 will be carried over. The next Tote will be drawn on Friday, 25 November at the Ganolfan.
Weekly Draw recent winners: Week 40: No. 17 Alwena Jones, Week 41: No. 146 Elaine Brierley, Week 42 No. 254 Dylan Rees, Week 43 No. 123 Megan Owen, Week 44 No. 157 Gareth Parry Snr.
A Coffee Evening will be held at the Ganolfan Porthmadog on Friday, 18 November 6 pm to 8 pm. A warm wecome to all.
09/11/11
Angen help cyn gêm rhyngwladol / Help needed ahead of International

Cymru Mae yna waith i'w wneud ar y cae yn y Traeth cyn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon nos Fercher nesaf, 16 Tachwedd. Mae’r clwb yn gwneud apêl i gefnogwyr ddod ymlaen a chynnig help llaw. Os ydych yn medru cynnig awr neu ddwy o’ch amser bydd y clwb yn gwerthfawrogi eich cymorth ar y Traeth yn enwedig nos Wener neu fore Sadwrn pan fydd ymdrech arbennig yn cael ei gwneud i sicrhau fod y cae a’r ardaloedd o gwmpas yn y cyflwr gorau posibl.
Mae yna apêl hefyd am stiwardiaid ar y noson. Os ydych yn medru helpu bydd y clwb eto yn ddiolchgar. Mae nifer yn barod wedi dod ymlaen ond bydd angen mwy. Os fedrwch chi gynnig help dewch i’r Traeth erbyn 6 o’r gloch nos Fercher.

There is work to be done on the Traeth pitch ahead of the international between Wales and Northern Ireland next Wednesday, 16 November. The club have issued an appeal to supporters to come forward and lend a hand. If you are able to give a couple of hours of your time then the club would appreciate your support at the Traeth especially Friday evening or Saturday morning when a special effort will be made to ensure that the pitch and surrounds are in the best condition possible.
There is also an appeal for supporters who would be prepared to help out as stewards on the evening of the match. A number have come forward already but more are needed. If you can help in this way you should come down to theTraeth by 6 pm on the Wednesday evening of the match.
10/11/11
Rhagolwg: v Rhyl / Preview: v Rhyl

Gallwn ddisgwyl gêm arall ddeniadol pan fydd Port a Rhyl yn cyfarfod ddydd Sul. Y tro yma ar y Belle Vue. Roedd y ddau glwb yn awyddus i ennill eu lle yn y 3ydd rownd Cwpan Cymru ond y ddau hefyd yn ystyried y gêm gynghrair ddydd Sul yn bwysicach.
Bydd Port yn awyddus i gymryd mantais o’r cyfle buan hwn i wneud yn iawn am golli yn y gwpan ond yn ymwybodol o’r sialens sy’n eu haros. Byddant hefyd yn sylweddoli’r math o fygythiad mae chwaraewyr fel Oswell, Pritchard a Ryan Williams yn rhoi ar ôl iddynt ddisgleirio ar y Traeth. Ond bydd y Rhyl yn ymwybodol hefyd o’r potensial ymosodol sydd gan Port. Bydd rhaid i Port wella o’r ffordd y collwyd cyfeiriad ar ddechrau’r ail hanner ond eto dangoswyd digon ar ddechrau a tua diwedd y gêm eu bod yn medru roi sialens go iawn i unrhyw glwb yn yr adran.
Bydd Port yn edrych at y chwaraewyr sy’n dychwelyd wedi anaf, neu yn anghymwys ddydd Sadwrn diwethaf, i gryfhau’r garfan. Bydd presenoldeb Iwan Williams ac Aaron Richmond yn y blaen a Chris Williams a Clive Williams yn y cefn yn cynyddu opsiynau Gareth Parry at ddydd Sul.
Bydd hunan gred yn bwysig gan peidio dangos gormod o barch at y gwrthwynebwyr. Edrychwn ymlaen am gêm werth chweil arall ddydd Sul –gyda’r canlyniad iawn?

There could be another treat in store on Sunday when the second game of the double header between Port and Rhyl takes place at the Belle Vue. Both clubs, although keen to progress in the Welsh Cup, will consider Sunday’s league clash as the more important of the two games.
Port will be keen to take advantage of this early opportunity to avenge the cup defeat but realise that it will prove to be another huge challenge. They will be well aware of the threat posed by players like Oswell, Pritchard and Ryan Williams who impressed at the Traeth. But Rhyl will also be aware of the attacking potential which Port can pose. Port will look for an improved performance especially from the way they lost direction after half time. But they showed enough at both ends of the game that they are capable of mounting a serious challenge.
Port will be looking to the return of injured, unavailable and ineligible players to bolster their squad. The presence of forwards Iwan Williams and Aaron Richmond as well as full backs Chris Williams and Clive Williams will increase manager Gareth Parry’s options on Sunday.
Self-belief will be all important on Sunday and neither must they show their opponents too much respect. We look for another entertaining encounter -but one with the right result this time?
09/11/11
Rhan i’r Academi yn y gêm rhyngwladol / Role for Academy at international

Academi / Academy Bydd gan Academi Porthmadog ran bwysig yn y gêm rhyngwladol Dan-16 rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon nos Fercher nesaf. Nhw fydd y masgotiaid i’r ddau dîm ac hefyd yn cario’r baneri wrth i’r ddau dîm dod i’r cae. Cenir yr anthemau cenedlaethol cyn y gêm gan Gôr Meibion y Brythoniaid. Yn ystod y gêm chwaraewyr ifanc o’r Academi fydd o gwmpas y cae yn gofalu fod y peli yn cael eu dychwelyd. Bydd chwaraewyr prif garfan Port yn gweithredu fel stiwardiaid.

Porthmadog Academy will have an important role in Wednesday’s U-16 international between Wales and Northern Ireland. They will be mascots for the teams and also as flag bearers as the teams enter the field of play. The national anthems of the two countries will then be sung by the Brythoniaid Male Voice Choir. During the game Academy members will serve as ball boys around the ground perimeter. Members of the Porthmadog FC first team squad will stewards.
09/11/11
Cyfeiriadau newydd i’r Traeth / New directions to Traeth

O’r Gogledd
Wrth deithio o gyfeiriad Caernarfon ymunwch â’r ffordd osgoi ar y gylchfan wrth gyrraedd Tremadog. Ewch ar draws ail gylchfan gan gadw ar y ffordd osgoi. Cymerwch y droad gyntaf i'r chwith. Bydd yna arwydd ‘Clwb Pêl-Droed’. Mae ffordd newydd yn dilyn o gwmpas y cae ac i'r maes parcio.
O’r Gorllewin
Wrth deithio o gyfeiriad Pwllheli cyn cyrraedd Porthmadog trowch i’r chwith i gyfeiriad Tremadog. Ymunwch â’r ffordd osgoi ar y gylchfan. Ewch ar draws ail gylchfan gan gadw ar y ffordd osgoi. Cymerwch y droad gyntaf i'r chwith. Bydd yna arwydd ‘Clwb Pêl-Droed’. Mae ffordd newydd yn dilyn o gwmpas y cae ac i'r maes parcio.
O’r Dwyrain/De
Wrth deithio o gyfeiriad Blaenau Ffestiniog/Dolgellau ymunwch â’r ffordd osgoi ar y gylchfan ar ôl gadael Penrhyndeudraeth. Ewch heibio’r chwarel ar y dde a trowch i’r dde i gyrraedd y Traeth. Bydd yna arwydd ‘Clwb Pêl-droed’. Mae ffordd newydd yn dilyn o gwmpas y cae ac i'r maes parcio.

From the North
When travelling from the Caernarfon direction join the bypass on the roundabout as you reach Tremadog. Cross a second roundabout remaining on the bypass. Take the first turning to the left. It will be sign posted ‘Football Club’. A new road will take you round the ground to the Car Park.
From the West
When travelling from the Pwllheli direction and approaching Porthmadog turn left towards Tremadog. Join the bypass on the roundabout. Cross a second roundabout remaining on the bypass. Take the first turning to the left. It will be sign posted ‘Football Club’. A new road will take you round the ground to the Car Park.
From the East/South
When travelling from the Blaenau Ffestiniog/Dolgellau join the bypass on the roundabout after leaving Penrhyndeudraeth. Go past a quarry on your right and take the next turning on the right. It will be sign posted ‘Football Club’. A new road will take you round the ground to the Car Park.
09/11/11
Cymru/ Gogledd Iwerddon tocynnau am ddim / Wales/Northern Ireland free tickets

Cymru Bydd tocynnau am ddim ar gael i’r rhai o dan 16 oed ar gyfer gêm Cymru a Gogledd Iwerddon a gynhelir ar y Traeth, Porthmadog ar nos Fercher 16 Tachwedd cic gyntaf 7.40pm. Darlledir y gem yn fyw gan gwmni Sky ac bydd yn gyfle i hyrwyddo tref Porthmadog a’r ardal ehangach dros bedwar ban byd.
Mae tocynnau rhad ac am ddim i bobl ifanc o dan 16 oed ar gael trwy ysgolion lleol neu drwy ffonio Nicola Anderson (Dwyfor ac Arfon) ar 07500865587 neu Nicola@welshfootballtrust.org.uk a Dafydd Wyn Jones (Meirionnydd) ar 07810057444 neu dafyddwynjones@tiscali.co.uk

Free tickets will be available to all young people under 16 years of age for the prestigious Wales v Northern Ireland Sky Victory Shield under 16’s match which will be played at the Traeth, Porthmadog on Wednesday 16th. of November kick off 7.40pm. The match will be broadcasted live by Sky on the night reaching all four corners of the globe and putting the town of Porthmadog and the surrounding area firmly on the map.
For free under 16 tickets contact your local school or Nicola Anderson on 07500865587 or Nicola@welshfootballtrust.org.uk. In Meirionnydd contact your local school or Dafydd Wyn Jones on 07810057444 / dafyddwynjones@tiscali.co.uk
09/11/11
Clybiau’r HGA i drafod cynlluniau trwyddedu / Licensing Talks for HGA clubs

Daeth y Drwydded Ddomestig gam yn nes i glybiau’r HGA wrth iddynt dderbyn gwahoddiad i gyfarfod Andrew Howard Swyddog Trwyddedu’r Gymdeithas Bêl-droed. Bydd y clybiau yn clywed am y safonau disgwyliedig sy’n ffurfio’n rhan o’r cynigion ar gyfer drwydded ddomestig i’r Ail Haen.
Bydd y newydd hwn yn cael ei groesawu gan glybiau sydd wedi gweithio’n galed i wella cyfleusterau a safonau gweinyddol ac yn ei weld yn fodd i godi safonau yn yr HGA. Bydd yn ychwanegu at enw da y gynghrair gan helpu clybiau i bontio rhwng yr Ail Haen a’r UGC.

The introduction of a Domestic Licence for clubs in the HGA took a step closer with an invitation extended to clubs to meet FAW licensing officer Andrew Howard. At this meeting clubs will be made aware of the minimum standards which form part of the FAW's proposals for a domestic licence for Tier Two. A meeting between Welsh League (south) representatives and Andrew Howard has already taken place.
Clubs who have worked hard to improve their facilities and administrative standards will welcome this move as an important stepping stone in raising standards in the HGA. This will further enhance the league’s reputation and should also help to bridge the gap between Tier Two and the WPL.
09/11/11
Ieuenctid yr Arfordir yn chwarae nos Fawrth / Coast Youth play on Tuesday

Mae gan Jamie McDaid rhan allweddol mewn llwyddiant tîm Dan-18 Arfordir y Gogledd yng nghystadleuaeth Tlws RAM y tymor hwn. Sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth dros y Canolbarth yn y Drenewydd ac wedyn yn creu gôl i Josh Davies yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros y Gogledd Ddwyrain ym Mae Colwyn.
Bydd ieuenctid yr Arfordir y Gogledd yn chware eu trydydd gêm yn erbyn y Canolbarth nos Fawrth nesaf, 15 Tachwedd yng Ngherddi Bastion, Prestatyn i gychwyn am 7.30 pm. Rheolwr tîm yr Arfordir ydy Chris Morrell.

Jamie McDaid is playing a key role in the success of the Coast U-18s in this season’s RAM Trophy. He scored both goals in the victory over Central Wales at Newtown and then turned supplier in the 2-0 win over North East Wales at Colwyn Bay, laying on a goal for Josh Davies.
The NWCFA U-18s play their third game against Central Wales next Tuesday, 15 November at Bastion Gardens Prestatyn, kick off 7.30 pm. The NWCFA team is managed by Chris Morrell.
07/11/11
Enillwyr Raffl yr Hydref / Autumn Raffle Winners

Isod gwelir y rhestr o enillwyr yn Raffl Hydref clwb Porthmadog. Diolch i bawb a werthodd docynnau ac i’r rhai a’u prynodd.

Below is the list of winners in the Porthmadog FC Autumn Raffle. Thanks to all who sold tickets and also to those who supported by buying tickets.

£200 arian parod / £200 cash – Aled Williams 3545
Tocyn diwrnod Rheilffordd Ffestiniog i’r teulu / Day Family ticket Ffestiniog Railway – Campbell Harrison 2077
Taleb £40 Y Sgwâr / £40 Voucher Y Sgwâr – Alan Wyn 4329
Taleb Spa’r Morforwyn Portmeirion / £35 Voucher Mermaid Spa Portmeirion – Beryl 2843
Taleb £20 Golden Eagle Cricieth / £20 voucher Golden Eagle Cricieth – Les 1313
Cinio Sul i ddau yn Russells / Sunday Lunch for 2 at Russells – Denise 0620
Cist Siocled / Chocolate Hamper – Elen Edwards 0693
Taleb £15 ‘Passage of India’ / Voucher £15 ‘Passage of India’ – E Edwards 0694
Tegan Meddal / Soft Toy– Jane 4097
Wisgi / Whisky – Margeurite Pentrefoelas 1576
02/11/11
/ Cefnogaeth o'r Unol Daleithiau / Support from the USA

Cafodd coffrau Clwb Pêl-droed Porthmadog hwb aruthrol yn ddiweddar pan dderbyniwyd siec o 1,000 o ddoleri (oddeutu £700) o’r Unol Daleithiau.
Daeth y cyfraniad oddi wrth Tom Lyons, Perchennog a Llywydd clwb gwyliau ‘Global Connections’ cwmni sydd yn darparu gwyliau i dros 150,000 o aelodau led led yr Unol Daleithiau ac yn enwedig mewn tair canolfan sydd yn ei berchnogaeth yn Orlando, Daytona Beach a Dunedin/Clearwater, Florida, yn ogystal a rhai yn California, Hawaii a Tennessee. Mae hefyd yn brysur datblygu clybiau bocsio gan canolbwyntio ar wella ffitrwydd trwy’r gamp honno.
Yn niwedd yr 1980egau sefydlodd Tom gwmni pêl-droed a chwaraeon yn ninas Kansas ar y cyd gyda Huw John Williams, brodor o’r Port,. Cwmni yw hwn sydd yn trefnu cystadlaethau a digwyddiadau ledled yr Unol Daleithiau gan gynnwys cystadlaethau uchelgeisiol yng nghanolfan Disney yn Orlando.
Mae Huw, wrth gwrs, yn adnabyddus yn yr ardal fel cyn gapten ar dim llwyddiannus ysgolion Cymru ac a chwaraeodd i Port a Bangor pan yn iau. Mae Huw yn gefnogwr brwd o’r tîm lleol ac yn cadw llygad barcud am y canlyniadau ar y we pob nos Sadwrn. Ei dad, Robin Williams o Heol Fadog yw trysorydd y clwb ar hyn o bryd ac fe fu ef hefyd yn chwarae i dim llwyddiannus y Port yn y 1950egau.
Pan oedd Robin ar ymweliad a Huw yn Kansas yn ddiweddar deallodd bod y ddau yn awyddus i gefnogi’r clwb ac fe gafodd ei synnu pan dderbyniodd siec am 1,000 o ddoleri cyn gadael. Yn wir un o gwestiynau Tom iddo oedd, ‘Faint fyddai’n gostio i brynu’r clwb?’!
Yn ol Phil Jones, Cadeirydd y Clwb “’Rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth hael ac amserol hon. Mae angen pob dimau goch arnom, yn enwedig os am barhau a’r ymdrech i adennill ein safle yn Uwch Gynghrair Cymru”

Highslide JS
Huw, Robin & Tom Lyons


Porthmadog FC’s finances were given a huge boost recently when a cheque for $1,000 (around £700) was received from the USA. The donation came from Tom Lyons, owner and President of Global Connections which is a large Travel Vacation Club based in Kansas City in the USA. Currently it has over 150,000 members who spend vacation weeks in one of the hundreds of condominiums. It owns its own resorts at Orlando, Daytona Beach and Dunedin/Clearwater in Florida as well as in California, Hawaii and Tennessee.
Tom is also the owner of TITLE Boxing Clubs which focuses on fitness training through boxing and this is a rapidly developing enterprise with clubs in Kansas, Missouri, Ohio and Texas and more are being planned.
In the late 1980’s Tom established a soccer and sports company with Huw John Williams based in Kansas City to organise tournaments and events and this has been very successful including organising tournaments in Disney World in Orlando. Huw, of course, is well known in this area as a former Porthmadog and Bangor player who captained a very successful Wales schoolboys team. Huw is an enthusiastic supporter of his home town club and eagerly looks out for every result on the internet. His father Robin is currently the club’s treasurer and who was a member of Port’s legendary side in the 1950’s.
When on a visit to Kansas to see Huw recently Robin was pleasantly surprised to be told that they were eager to help the club and promptly gave him the $1,000 cheque before leaving. Indeed, according to Robin, one of Tom’s questions was, ‘How much would it cost to buy the club?’!
Port Chairman Phil Jones has warmly welcomed the donation which has come at an opportune and useful time. “We need every penny if we are going to reclaim our Welsh Premier League status and this support is gratefully appreciated.”
01/11/11
Penwythnos yr Academi / The Academy Weekend

Academi / Academy Aeth tymor yr Academi yn ei flaen gyda Rownd 5 o gemau yn cael eu chwarae ym Mhrestatyn ddydd Sul. Parhaodd y garfan Dan-14 a’u rhediad diguro am y tymor gyda buddugoliaeth glir o 5-0 yn erbyn tîm Dan-14 Prestatyn a hyn yn dilyn buddugoliaeth o 9-0 yn erbyn Llandudno yn Rownd 4. Doedd y garfan Dan-12 ddim mor ffodus yn colli o 5-2 ond yn dal i ddangos cynnydd da dros y tymor cyn belled. Dilynodd y garfan Dan-16 y fuddugoliaeth o 7-2 dros Llandudno, yn Rownd 4, gyda buddugoliaeth dda arall y tro yma o 6-1 dros Prestatyn.

The Porthmadog Academy continued their season with Round 5 of matches at Prestatyn on Sunday. The U-14 squad continued their unbeaten run so far this season with a 5-0 win over their Prestatyn counterparts. This came on the back of a 9-0 win over Llandudno in Round 4. Despite their continued good progress the U-12’s were not so fortunate going down by a 5-2 margin. The U-16’s followed up a 7-2 win over Llandudno in Round 4 with another free scoring performance to win again this time by 6-1.
29/10/11
Newidiadau i gêm gynghrair Rhyl / Changes to Rhyl league fixture

Rhyl Yn dilyn trafodaethau rhwng Port a’r Rhyl mae ‘r ddau glwb wedi cytuno i newid y ddwy gêm gynghrair rhyngddynt –golyga hyn fod y gêm Rhyl v Porthmadog bellach yn cael ei chwarae ar Sul, 13 Tachwedd a hynny ar y Belle Vue ac i gychwyn am 2.30 pm. Bydd y gêm gynghrair rhwng y ddau glwb ar y Traeth yn cael ei chwarae ar 3 Mawrth.
Gwnaed y newidiadau i osgoi cyd-daro gyda’r gêm rhyngwladol rhwng Cymru a Norwy ar ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd. Hefyd am fod y gêm rhyngwladol, Dan-16 rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, yn cael eu chwarae ar y Traeth ar 16 Tachwedd ac yn cael eu dangos yn fyw ar Sky Sports. Byddai chwarae ar y Sul mor agos i gêm eithriadol o bwysig i Porthmadog ac i Gynghrair Huws Gray yn medru effeithio cyflwr y cae.
Ni fydd newid i ddyddiad y gêm Ail Rownd Cwpan Cymru ar y Traeth rhwng Porthmadog a’r Rhyl. Bydd y gêm hon yn mynd yn eu blaen ar 5 Tachwedd gyda’r gic gyntaf am 2 o’r gloch gyda amser ychwanegol a ciciau o’r smotyn os bydd angen.

The club have announced that following discussions with Rhyl FC the two clubs have agreed to switch their two League encounters - this means that the Rhyl v Porthmadog match will now take place on Sunday, 13 November with a 2.30 pm kick-off. The return fixture, Porthmadog v Rhyl, will be on Saturday, 3 March.
These changes were made to avoid a clash with the Wales v Norway international on Saturday 12 November and also because Porthmadog are hosting the Sky Sports Victory Shield tie between Wales and Northern Ireland on 16 November. Playing on the Sunday so close to this match could have caused damage to the pitch so close to such a prestigious night for Porthmadog FC and also for the Huws Gray Alliance League.
The Welsh Cup Round 2 tie between Porthmadog and Rhyl goes ahead unchanged on 5 November but with a 2.00 pm kick off, extra time and penalties will be played if required.
28/10/11
Prynwch docynnau Cymru v Gogledd Iwerddon yma / Buy Wales v Northern Ireland tickets here

Mae bellach yn bosibl i chi brynu tocynnau Cymru v Gogledd Iwerddon yng nghystadleuaeth dan-16 Tarian y Fuddugoliaeth ar y wefan hon. Bydd hon, gêm olaf Cymru yng nghystadleuaeth eleni, yn cael ei chynnal ar y Traeth ar nos Fercher 16 Tachwedd gyda’r gic gyntaf am 7.40pm. Bydd Cymru yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth wedi iddynt gael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn yr Alban a cholli’n drwm o 4-0 yn erbyn yr hen elyn Lloegr. I gael tocynnau am y pris rhesymol o £5 (+50c p&p) ewch draw i siop y clwb .
Gellir hefyd brynu tocynnau’n lleol o Siop Kaleidoscope (Porthmadog).Gellir hefyd gysylltu â Dafydd Wyn Jones ar 07810057444 neu dafyddwynjones@tiscali.co.uk Yn ogystal bydd y tocynnau ar gael ar y Traeth pnawn Sadwrn pan fydd Port yn wynebu’r Rhyl yng nghwpan Cymru (cychwyn 2 pm).

Cymru v Gogledd Iwerddon - 16/11/11    Cymru v Gogledd Iwerddon - 16/11/11


It’s now possible for you to buy Wales v Northern Ireland in the Victory Shield under-16 competition on this website. This, Wales’ last match in this year’s competition, will take place on the Traeth on Wednesday 16 November with kick-off at 7.40pm. Wales will be seeking their first victory in the competition having had a 2-2 draw against Scotland and suffering a heave 4-0 defeat at the hands of the old enemy England. To buy tickets for the great price of £5 (+50p p&p) go to the club shop.
Tickets can also be purchased locally at Kaleidoscope (Porthmadog).You can also contact Dafydd Wyn Jones on 07810057444 or dafyddwynjones@tiscali.co.uk They will also be on sale at the Traeth on Saturday before the Welsh Cup tie against Rhyl (k.o. 2pm.)
28/10/11
Iwan yn dychwelyd i’r Traeth / Iwan returns to the Traeth

Iwan Williams Pan adawodd Iwan Williams i ymuno â Llandudno gyda’r bwriad o chwarae’n rheolaidd fel ymosodwr canol dywedodd y rheolwr Gareth Parry, “... mae’n gadael gan wybod bydd y drws yn dal ar agor iddo ar y Traeth yn y dyfodol.”
Mae Iwan wedi penderfynu cerdded drwy’r drws yna ac arwyddo unwaith eto i’r clwb lle cychwynnodd ei yrfa. Yn yr haf ymunodd â Cei Conna ond bellach mae Iwan, un o sgorwyr mwyaf rheolaidd yr HGA wedi penderfynu ychwanegu ei ysbryd i frwydro a’i lygad am gôl at ymgyrch Port i ennill dyrchafiad. Bu’n brif sgoriwr gyda Llandudno a gyda un arall o’i gyn glybiau Llanfairpwll.
Bydd Iwan yn y garfan sy’n ymweld â Bwcle ddydd Sadwrn. Ni fydd yn gymwys i chwarae yn y gêm gwpan yn erbyn Rhyl. Ni fydd un arall o’r wynebau newydd, Mark Jones, yn rhydd i chwarae tan Sadwrn, 5 Tachwedd.

When Iwan Williams left Port to join Llandudno with the intention of gaining a regular place as a striker, manager Gareth Parry wished him well and said, “....he leaves knowing the door will always be open for him at the Traeth in the future.”
Iwan has decided to go through that door and sign once more for the club where he started his career. He moved to Connah’s Quay in the summer but Iwan has now decided to rejoin Porthmadog and will add his never say die attitude and eye for goal to the promotion effort. He has been one of the HGA’s most regular goalscorers both at Llandudno and at another of his former clubs Llanfairpwll.
Iwan will be included in the squad which travels to Buckley on Saturday but he will not be eligible for the cup tie against Rhyl. Mark Jones, another of the new boys, will not be free to play until 5 November.
28/10/11
Siawns olaf Cymru ar y Traeth / Wales’ last chance at the Traeth

Bydd Cymru yn edrych i sicrhau buddugoliaeth dros Gogledd Iwerddon yn eu gêm olaf yng nghystadleuaeth Dan-16 Sky Sports am eleni. Bydd y gêm honno ar y Traeth ar nos Fercher, 16 Tachwedd.
Talodd Lloegr y pwyth yn ôl am golli eu gêm yn erbyn Cymru o bedair gôl i ddim yn Hwlffordd y llynedd gyda buddugoliaeth o’r un sgôr neithiwr yn Cheltenham.
Yn y gêm flaenorol gêm gyfartal 2-2 a gafwyd yn erbyn Yr Alban ar gae Airbus.

Wales will be looking to record a win against Northern Ireland in their final game in this year’s Sky Sports, Victory Shield U-16, tournament. That game will be played at the Traeth on Wednesday 16 November.
They lost last night at Cheltenham as England avenged the 2010 four nil, defeat against Wales at Haverfordwest winning this time by an identical score
Wales, drew their previous game against Scotland at the Airbus Ground.
27/10/11
Rhagolwg: v Bwcle / Preview: v Buckley Town

Bwcle / Buckley v PorthmadogBydd Port yn teithio i Fwcle ddydd Sadwrn ar gyfer gêm gynghrair rhwng dau glwb sydd a bwlch o ddim ond un pwynt rhyngddynt. Am yr ail wythnos yn olynol cawn gêm rhwng ail a thrydydd gyda Port y tro yma yn yr ail safle. Mae record y ddau glwb, y tymor hwn, bron yn union yr un fath ac ond trwch adain gwybedyn rhyngddynt ar goliau a sgoriwyd a goliau yn eu herbyn.
O’u chwe gêm gynghrair diwethaf mae Bwcle wedi ennill pump gan golli ond i’r Rhyl a hynny drwy gôl yn y funud olaf. Daeth eu buddugoliaeth orau yn erbyn Derwyddon Cefn a hynny o 4-1. Hefyd cawsant fuddugoliaethau cyfforddus yng Nghwpan y Gynghrair a Chwpan Cymru. Mae’r rheolwr Gareth Thomas –a oedd ar y Traeth ddydd Sadwrn- wedi cryfhau ei garfan ers y tymor diwethaf. Mae goliau Mike Burke, a drosglwyddodd o Rhos Aelwyd, yn barod wedi cyrraedd ffigurau dwbl ym mhob cystadleuaeth. Un arall llwyddiannus ydy Tony Bigland –arwyddwyd o glwb Ashville yn Sir Caer. Sgoriodd y ddau ymosodwr yn y deg munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn Conwy'r wythnos ddiwethaf.
Gêm ydy hon rhwng dau glwb sydd ar rediadiadau da gyda Port yn curo Cei Conna o 2-0 yr wythnos diwethaf diolch i berfformiad tîm ardderchog. Erbyn hyn mae’r rhediad wedi ymestyn i 7 buddugoliaeth yn olynol. Hon ydy’r ail gymal i Port o chwe wythnos o gemau yn erbyn timau uchaf y gynghrair ac mae pob dim yn awgrymu gêm glos ddydd Sadwrn gyda digonedd o frathu ewinedd!

Port will travel to Buckley on Saturday. Globe Way will be the setting for a meeting between two clubs who are only separated by a single point. For a second consecutive week it’s a case of second v third with Port this time in the second spot. The two clubs have almost identical playing records and hardly a whisker between them on goals scored and goals conceded.
Buckley have won five of their last six league matches, losing only against Rhyl when they conceded a last minute winner. Buckley’s best result was probably the 4-1 win over Cefn Druids. They have also recorded comfortable Welsh Cup and League Cup victories. Manager Gareth Thomas, who was a more than interested spectator at the Traeth last Saturday, has strengthened his squad since last season. Mike Burke, signed from Rhos Aelwyd, has been amongst the goals again this season already reaching double figures in all competitions. Another success has been Tony Bigland signed from Cheshire club Ashville. Both strikers were on target at Conwy scoring in the last 10 minutes to secure the victory.
This is a game between two form sides with Port putting in an all-round team performance last week to gain an excellent 2-0 win over Connah’s Quay. They are now on a run of seven straight wins in all competitions. This is the second leg of Port’s six week run of fixtures against top sides and everything points to a tense, close contest.
25/10/11
Viv ar y Traeth yn dod ac atgofion melys / Viv at the Traeth brings back happy memories

Viv Williams yng Nghei Connah yn Awst 2003 / Viv Williams at Connah's Quay in August 2003 Roedd yn bleser gweld y cyn-reolwr Viv Williams yn ôl ar y Traeth yn gwylio’r gêm yn erbyn Cei Conna ddydd Sadwrn. Roedd wedi’i blesio’n fawr gyda pherfformiad Port ac yn llawn canmoliaeth o’u sgiliau a’u chwarae penderfynol.
Gyda Port wedi chwarae 10 gêm (trydedd rhan o’r tymor ) heb golli, daeth presenoldeb Viv ag atgofion yn llifo’n ôl o dymor rhyfeddol 2002/03 pan roedd yn rheolwr. Tymor lle enillwyd dyrchafiad. Yn y tymor yna aeth Port ar rediad o 29 gêm gynghrair diguro cyn colli o 1-0 yn Airbus ar y 26 Mawrth! Mae dipyn o ffordd i fynd felly! Ond rhaid cydnabod fod y gynghrair bresennol yn dipyn fwy cystadleuol.
Ond os wnawn hefyd gynnwys gemau cwpan wedyn mae’r rhediad presennol o 12 gêm diguro yn well na’r hyn a gyflawnwyd yn 2002/03. Pan wnawn ni gynnwys gemau cwpan a chwaraewyd yn 2002/03 roedd yn rhediad diguro o 10 gêm cyn colli’n annisgwyl o 4-3 yn Glantraeth yn Ail Rownd Cwpan Cymru.
Un ffaith arall. Roedd y tîm rheoli –Gareth Parry, Campbell Harrison a Mike Foster – i gyd yn aelodau o garfan 2002/03.

It was good to see former manager Viv Williams at the Traeth for the match against Connah’s Quay on Saturday. He was very impressed with the Port performance and full of praise for their skill and commitment.
With Port now having played 10 league games (a third of the season) without defeat, Viv’s presence brought memories flooding back of the remarkable promotion winning season of 2002/03 when he was manager. That season Port went on a run of 29 unbeaten league games before going down 1-0 to Airbus on 26 March! Some way to go therefore! Of course the current league is a more competitive one.
But if we include cup games then Port’s current unbeaten run of 12 games is in fact better than that achieved by their 2002/03 counterparts. In 2002/3 when cup matches are included the undefeated run was 10 games before they suffered a surprise 4-3 defeat at Glantraeth in the Welsh Cup 2nd Round.
This season’s backroom staff of Gareth Parry, Campbell Harrison and Mike Foster were all members of the record breaking team of 2002/03.
21/10/11
Gareth Parry yn ychwanegu at y garfan / Gareth Parry adds to his squad

Aaron Richmond Fel yr addawodd mae Gareth Parry wedi symud i gynyddu maint ei garfan ar ôl i un neu ddau o’r garfan adael y clwb. Yn Aaron Richmond a Mark Jones mae wedi arwyddo dau chwaraewr yn unol a’i bolisi o ddod a chwaraewyr ifanc, ffit i’r clwb ac sy’n awyddus i brofi eu hunain. Mae Aaron, sy’n flaenwr cyflym, yn arwyddo o Llangefni a bydd yn cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Cei Conna yfory. Er ei fod mewn tîm a gollodd o 5-1 yn erbyn Port yn gêm gyntaf y tymor, creodd argraff ffafriol iawn.
Mae Mark hefyd yn flaenwr ac yn ymuno o Airbus. Gwnaeth argraff gynnar ar y Maes Awyr yn sgorio hat tric mewn gêm cyn dymor yn erbyn Ellesmere. Roedd y chwaraewr deunaw oed hefyd yn sgoriwr rheolaidd i glwb Bodedern. Gan ei fod ar gytundeb, ni fydd yn cael chwarae i Port am 28 niwrnod yn dilyn ei gêm ddiwethaf i Airbus ar 1af Hydref.
Mae’r ddau chwaraewr yn fyfyrwyr ym mhrifysgol Bangor. Aaron ar ei drydedd flwyddyn a Mark wedi cychwyn ei flwyddyn gyntaf.

Gareth Parry, as promised, has moved to add to a squad that was lacking numbers following the departure of one or two squad members. In Aaron Richmond and Mark Jones he has brought in two young players who fit in with his policy of bringing to the club players who are young fit and eager to prove themselves. Aaron, a pacy forward, joins from Llangefni Town and will be in the Porthmadog squad for the visit of Connah’s Quay tomorrow. Though at the wrong end of a 5-1 defeat against Port in the opening game of the season, he still managed to create a positive impression.
Mark, a striker , joins Port from Airbus. He created an early impression at the Airfield club scoring a hat trick in a pre-season against Ellesmere. The 18 year old forward was also a regular scorer for Welsh Alliance club Bodedern. As he was a contracted player Mark will have to wait 28 days from his last appearance for Airbus which was on 1st October.
Both players are currently students at Bangor University. Aaron is in his third year while Mark has started his first year.
21/10/11
Cymru v Norwy gwrthdaro gyda gemau cynghrair / Wales v Norway clashes with league matches

Cymru Mae Porthmadog i chwarae gêm bwysig ar y Traeth ar yr un prynhawn ac mae Cymru yn chwarae Norwy mewn gêm rhyngwladol yng Nghaerdydd. Bydd y gêm rhyngwladol yn cychwyn am 3 o’r gloch ac yn cael eu dangos yn fyw ar deledu Sky. Mae gêm Port yn erbyn Rhyl bob amser yn denu torf dda.
Yn y gorffennol mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi penderfynu na ellir chwarae gemau domestig ar yr un diwrnod a gemau rhyngwladol. Ond ar y achlysur hwn mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi na fydd, “Y rheolau sy’n gwahardd pob gêm oedolion ar ddiwrnod gêm rhyngwladol yn cael eu gorfodi y tro yma.” Ond maent yn gwneud amod “fod clybiau sy’n dymuno gohirio’u gêm ar 12 Tachwedd er mwyn mynd i’r gêm rhyngwladol yn cael gwneud, heb gosb, gyda chaniatâd y Gynghrair neu Gymdeithas Rhanbarthol.”
Bydd yn rhaid i’r clybiau wneud cais i’w Cynghrair neu Chymdeithas Rhanbarthol 14 diwrnod cyn 12 Tachwedd 2011.

On the same afternoon as Porthmadog are due to play a very important league fixture at the Traeth, Wales will play Norway in a friendly international against Norway in Cardiff. The game, which kicks off at 3 pm, will be televised live on Sky. Port’s home fixture is against league leaders Rhyl and invariably attracts a good attendance.
In the past the FAW have ruled that no domestic games may be played on the same day as an international fixture. On this occasion the FAW have announced that, “Regulations prohibiting all adult football fixtures on the day of a home international match shall not be enforced.” But they make the condition “that those clubs wishing to postpone their fixture on 12 November so thatthey can attend the international match, be permitted to so by the organising League or Area Association without further sanction.”
Requests must be made by clubs to the organising League or Area Association at least 14 days prior to 12 November 2011.
20/10/11
Rhagolwg: v Cei Conna / Preview: v Connah’s Quay

Cei Connah's Quay Noddwyr y gêm: Kim a Richard Payne, Stourbridge
Ail yn erbyn trydydd fydd hi ar y Traeth ddydd Sadwrn gyda Port yn wynebu Cei Conna, pencampwyr 2010/11, mewn gêm sy’n addo bod yn dipyn o frwydr. Bydd hefyd yn gêm o’r pwys mwyaf i’r ddau glwb wrth iddynt geisio adfer eu lle yn UGC.
Y tymor diwethaf rhannu’r ysbail gwnaethant wrth i’r ddau ennill tri phwynt yn y gêm oddi cartref. Ar y funud un pwynt sy’n gwahanu’r ddau yn nhabl Huws Gray. Mae’r clwb o Lannau Dyfrdwy wedi ennill saith o’u naw gêm gynghrair, a daeth eu hunig golled adref i’r Fflint o 3-0. Yr unig dro arall iddynt fethu sicrhau pwyntiau llawn oedd yng Nghonwy lle rhannwyd y pwyntiau mewn gêm gyfartal 2-2. Yn y gêm honno cafwyd y cerdyn coch sy’n rhwystro Gary O’Toole, prif sgoriwr y gynghrair gyda 12 gôl, rhag chwarae ddydd Sadwrn. Ond mae gan Cei Conna record sgorio ardderchog gyda 39 o goliau ac ond 9 yn eu herbyn.
Mae Port yn parhau’n ddiguro a’r rhediad o dair gêm gyfartal wedi rhoi lle i rhediad o chwech buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth. Dangosodd Gareth Parry’r hyn mae’n fwriadu, wrth wynebu mis a allai siapio gweddill y tymor, gan fynd ati i gryfhau’r garfan. Mae’n bosib inni glywed newyddion da yn fuan. Gobeithio fydd yna gefnogwyr niferus yn teithio ar hyd y ffordd osgoi i weld y gêm ddeniadol hon. Cofiwch dim ond ar droed neu ar feic y cewch deithio ar hyd Heol yr Wyddfa i’r Traeth o hyn ymlaen.

Match Sponsors: Kim and Richard Payne, Stourbridge
It is second against third at the Traeth on Saturday when Port entertain the 2010/11 champions Gap Connah’s Quay in what promises to quite a contest and a game of vital importance for both clubs as they seek a return to the WPL.
Last season the spoils were shared with both clubs picking up three points in the away fixture. At present a single point separates the two clubs in the HGA table. The Deesiders have won seven of their nine league games and their only defeat came at home against Flint by 3-0. The only other time they have failed to secure maximum points was at Conwy in a 2-2 draw. A red card in that game has also robbed them of services of Gary O’Toole, the league’s leading scorer with 12 goals. But they have an excellent scoring record with 39 goals in their nine games whilst conceding only 9.
Port remain unbeaten with a run of three draws giving way to six straight wins in all competitions. Gareth Parry has shown his intent as he approaches a month of season shaping fixtures by pursuing a policy of squad strengthening which could produce some good news shortly. Let’s hope we see supporters turn out in numbers along the new bypass for this attractive fixture. Remember only supporters on foot or cyclists can reach the ground along Snowdon Street from now on.
19/10/11
Marc Evans yn gadael Port / Marc Evans leaves Port

Mae clwb Porthmadog yn cadarnhau fod Marc Evans wedi gadael y clwb i ymuno â Glantraeth sy’n chwarae yn ail adran y Welsh Alliance. Ail ymunodd Marc â Port o Langefni yn ystod yr haf ar ôl chwarae i’r clwb ynghynt yn ystod tymor 2009/10 Y tymor hwn chwaraeodd 7(+3) o gemau a sgorio 4 gôl.
Dywedodd Gareth Parry heddiw, “Rhaid symud ymlaen a bydd yna ddau neu efallai tri o chwaraewyr newydd yn ymuno i gryfhau’r garfan yn ystod yr wythnos nesaf.”

Porthmadog FC can confirm that Marc Evans has left the club to sign for Welsh Alliance Division 2 club Glantraeth. Marc rejoined Port in the summer from Llangefni having previously played for the club during season 2009/10. This season he made 7(+3) starts for the club scoring 4 times.
Gareth Parry accepts the situation saying, “We have to move on now and I hope to announce during the next week that two or possibly three new players will be joining Port to strengthen the squad.”
Newyddion cyn 19/10/11
News before 19/10/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us