Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
18/10/11
Port yn arwain y Tabl Chwarae Teg / Port top Fair Play table.

Chwarae Teg / Fair PlayMae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi eu tabl Chwarae Teg ar gyfer Awst/Medi gyda Porthmadog a’r record Chwarae Teg orau yn yr Huws Gray gyda 44 o bwyntiau ar ôl casglu 11 cerdyn melyn yn ystod y cyfnod ond yr un cerdyn coch. Maent yn un o dri clwb sydd heb gael chwaraewr wedi’i yrru o’r cae. Y ddau glwb arall ydy Conwy a Fflint. Rhuthun a Chaersws sy’n dod nesaf yn y tabl. Y clybiau gyda’r record ddisgyblaeth waethaf ydy Penycae gyda 4 cerdyn coch a 25 cerdyn melyn ac uwch eu pennau mae Penrhyn-coch â 3 cerdyn coch ac 18 melyn a Llandudno gyda 2 gerdyn coch ac 20 melyn.
Gan eu bod yn gweithredu efo carfan fechan mae’n bwysig i Port osgoi gwaharddiadau wrth i’r cardiau melyn gynyddu. Ond fel pob clwb arall yn cael hi’n anodd weithiau am fod anghysondeb ambell swyddog yn creu ychydig o loteri disgyblu.

The FAW have published their Fair Play tables for August/September with Porthmadog currently topping the Huws Gray Alliance Fair Play table with 44 points having picked up 11 cautions but no red cards so far this season. They are one of only three clubs who have not had a player sent off the others are Conwy United and Flint. Ruthin a Caersws are next in line in the table. The clubs with the worst disciplinary records are Penycae having already picked up 25 cautions and 4 red cards and above them Penrhyn-coch with 3 reds and 18 yellows and Llandudno 2 reds and 20 yellows.
Operating with a small squad makes it important for Port to avoid suspensions through the build up of yellow cards but like all other clubs inconsistent decision making by some officials sometimes makes this something of a lottery.
18/10/11
Ydy cychwyn am 3 o’r gloch yn gwneud mwy o synnwyr? / Does a 3 pm kick off make more sense?

3 o'r gloch /  3 o'clock Mae’n ddiddorol sylwi fod gêm Y Rhyl a Chegidfa yng Nghwpan Huws Gray wedi cychwyn am 3 o’r gloch. Esboniodd gwefan clwb Y Rhyl, cyn gêm ddydd Sadwrn, “Y penwythnos hwn mae’r Rhyl yn chwarae Cegidfa ac mae’r amser cychwyn wedi’i newid i 3 pm oherwydd fod y gêm rhwng Man Utd a Lerpwl ar Deledu Sky ynghynt yn y prynhawn.”
Mae’n benderfyniad diddorol. Tybed a fydd Rhyl yn ail adrodd yr arbrawf mewn gemau cynghrair? Ac os y byddant a wnaiff clybiau eraill ddilyn eu hesiampl?
Mae’n bosib fod niferoedd y cefnogwyr mewn gemau HGA yn dioddef mewn rhai clybiau oherwydd fod gemau Uwch Gynghrair yn cael eu dangos yn gynnar yr un prynhawn. Mae amseriad y gemau teledu wedi’u trefnu i gyd-fynd a gemau eraill sy’n cychwyn am 3 o’r gloch. Mae hyn yn gadael i rhai o’r cefnogwyr ofyn os oes rhaid i gemau gychwyn am 2.30 pm a thrwy hynny achosi i rhai cefnogwyr gadw draw o gemau’r HGA. Gyda’r mwyafrif o glybiau â goleuadau ydy o ddim yn gwneud synnwyr i fwy o glybiau ystyried newid yr amser cychwyn i 3 o’r gloch? Wrth wneud hyn byddai’n bosib i gefnogwyr weld y gêm ar y teledu a hefyd ymweld a’u cae lleol. Dros y tri Sadwrn sy’n dod bydd Sky yn dangos, Wolves v Abertawe, Chelsea v Arsenal a Newcastle v Everton. Beth yw eich barn? Ewch ar y fforwm i ddweud eich dweud.

Interesting to note that Rhyl FC’s Huws Gray Cup game on Saturday against Guilsfield kicked off at 3pm. The Rhyl website explained prior to Saturday’s game, “This weekend Rhyl play Guilsfield in the Huws Gray Alliance League Cup, Kick Off has been altered to 3pm due to the big attraction of Manchester United v Liverpool that is on Sky TV earlier that afternoon.”
It is an interesting move. Could it be repeated again by Rhyl during league games? If they do will other clubs follow suit?
Gates at some clubs could well have been affected by Sky’s lunchtime screening of Premier League games. The timing of the TV showings is geared to fit in with matches kicking off at 3 pm. This has left some supporters asking whether games need to kick off at 2.30 pm and so producing a clash which keeps some supporters away from HGA matches. With most clubs now possessing floodlights does it not make sense for more clubs to consider a switch to 3 pm kick offs? In this way home supporters could watch the televised match and visit their local ground. Over the next three Saturdays, ko 12.45pm, Sky will show Wolves v Swansea, Chelsea v Arsenal and Newcastle v Everton. What do you think? You can give your views on the forum.
15/10/11
Port adref yn Rownd 2 / Port at home in Round 2

Cei Connah's Quay Gwobr Port am y fuddugoliaeth o 7-0 yn Llanrhaeadr yng Nghwpan Huws Gray ydy gêm gartref yn yr Ail Rownd yn erbyn pencampwyr 2010/11 Gap Cei Conna. Nid yw dyddiadau’r gemau wedi'u cadarnhau. Dyma weddill y gemau yn Rownd 2.
Penrhyncoch v Penycae
Rhyl v Bwcle
Caersws v Derwyddon Cefn.

Porthmadog’s reward for a 7-0 victory at Llanrhaeadr in the Huws Gray Cup is a home game in Round 2 against current 2010/11 champions Gap Connah’s Quay. The games will be played on dates yet to be confirmed. The remainder of the draw is:
Penrhyncoch v Penycae
Rhyl v Buckley Town
Caersws v Cefn Druids.
14/10/11
Jamie yn rhwydo i hogiau’r Arfordir / Jamie strikes for North Wales Coast

Jamie McDaid Llongyfarchiadau i Jamie McDaid a serennodd i dîm Dan-19 Arfordir y Gogledd yn eu buddugoliaeth o 4-1 dros Ganolbarth Cymru dan-19 yn y Drenewydd nos Fercher. Wedi hanner cyntaf di-sgôr sgoriodd Jamie ddwywaith yn gynnar yn yr ail hanner. Y gyntaf wedi 48 munud yn torri o’r asgell a’i ergyd ar ongl yn mynd ar draws y gol i’r cornel bellaf. Ychydig yn ddiweddarach ychwanegodd yr ail gydag ergyd o ymyl y blwch yn dilyn symudiad da. Sgoriodd y Canolbarth wedyn ond ychwanegodd yr Arfordir ddwy gôl arall i ennill yn gyfforddus.

Well done to Jamie McDaid who gave a star performance for the North Wales Coast U-19 in their 4-1 victory over Central Wales U-19 at Newtown on Wednesday. After a goalless first half Jamie scored twice early in the second half. The first came after 48 minutes when he cut inside from the wing and fired an angled shot into the far corner. Soon after this he added a second scoring with a shot from the edge of the box following a good build up. Central Wales pulled one back but the Coast added two more to run out comfortable winners.
13/10/11
Gêm ddydd Sadwrn yn dechrau am 2pm / 2pm kick off on Saturday

Bydd y gêm yng Nghwpan y Gynghrair yn Llanrhaeadr ddydd Sadwrn yn dechrau am 2 o’r gloch. Bydd yna benderfyniad ar y dydd gydag amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn os bydd angen.

Supporters should not that Saturday’s League Cup tie at Llanrhaeadr kicks off at 2pm. The game will be decided on the day with extra time and penalties if necessary.
13/10/11
Rhagolwg: v Llanrhaeadr / Preview: v Llanrhaeadr

Llanrhaeard-ym-Mochnant Bydd Port ymweld am yr ail waith â Llanrhaeadr ddydd Sadwrn i chwarae gêm yn rownd gyntaf Cwpan Huws Gray. Cafodd Port dipyn o sioc ar eu hymweliad diwethaf wrth i’r tîm cartref ddod yn ôl ddwywaith i rhannu’r pwyntiau diolch i berfformiad llawn egni a brwdfrydedd yn yr ail hanner gyda’r blaenwyr Alan Jones a Jamie Evans yn creu argraff.
Mae gan Llanrhaeadr wefan sydd, yn wahanol i lawer, yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae’n ddiddorol darllen adroddiad am ein ymweliad diweddar lle mae o’n dweud, “Daeth y ffefrynnau i ennill y gynghrair ac yn glwb sydd yn gwario’n fawr i ymweld a’r Llan am y tro cyntaf yn eu hanes. Wrth siarad gyda’u cefnogwyr cyn y gêm, roeddent yn hyderus o ennill.”
Gwario mawr? Yn wir stwff diddorol iawn! Wedyn mae’r adroddiad yn ychwanegu, “Ar ddiwedd y gêm hon roedd Porthmadog yn hapus i glywed y chwiban olaf a theithio adref gyda phwynt.” Yn hapus tybed? Na ddim yn hollol. Hapus ydy’r gair i ddisgrifio’r daith adref o Benrhyn-coch ar ôl sicrhau’r bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol a wedi cael perfformiad da fel tîm ar gae anodd. Byddai mwy o’r un fath ddydd Sadwrn yn plesio’r tîm rheoli a’r cefnogwyr fel ei gilydd.

We have another break from league action on Saturday with Port making their second visit of the season to Llanrhaeadr y Mochnant, this time for the first round of the Huws Gray Cup. Port received a nasty shock on their previous visit with the home side twice coming from behind to share the points thanks to a rousing second half performance with forwards Jamie Evans and Alan Jones making quite an impression.
Llanrhaeadr have a website which, unlike some, is regularly updated. Interesting to read the match report of our last visit where it says, “The League favourites and big spenders of the Huws Gray Alliance visited Llan for the first time in their history. Upon speaking to their supporters prior to the match they were confident that they could obtain a win on the Recreation Field.”
Big spenders? Indeed very interesting stuff! They then add, “At the end of this match Porthmadog were very happy to hear the whistle and travel home with a point.” Happy? No not really. Happy describes the return from Penrhyncoch after a fourth consecutive victory and a good team performance in difficult conditions. A repeat performance on Saturday would please management and supporters alike.
12/10/11
Pan fydd y ffordd osgoi yn agor ddydd Llun / When the bypass opens on Monday

Gyda ffordd osgoi Porthmadog yn agor ddydd Llun atgoffir y rhai sy’n ymweld â’r Traeth ar gyfer gemau neu ddigwyddiadau eraill yng Nghlwb y Traeth na fydd wedyn yn bosibl ddod i’r Traeth mewn car ar hyd Heol yr Wyddfa. Bydd ceir a bysiau ond yn medru cyrraedd y Traeth ar hyd y ffordd osgoi. Bydd ceir yn medru ymuno â'r ffordd osgoi ar Gylchfan Bodawen neu o gyfeiriad Penrhyndeudraeth o Gylchfan Minffordd.
Atgoffir y rhai fydd yn mynd i’r Bingo yng Nghlwb y Traeth nos Lun nesaf neu i sesiwn y Slimmimg World o’r wythnos nesaf, os ydynt yn teithio mewn car y dylent wneud hynny ar hyd y ffordd osgoi gan ddilyn arwyddion i’r Traeth.
Bellach dim ond ar droed neu ar feic bydd modd cyrraedd y Traeth gan ddefnyddio Heol yr Wyddfa. Unwaith yr agorir y ffordd osgoi deallwn y bydd rhwystrau wedi’u gosod fel na ellir teithio mewn car i’r Traeth ar hyd Heol yr Wyddfa.

Highslide JS
www.porthmadogbypass.com


When the bypass opens on Monday visitors to the Traeth on match days or for events and activities at the Traeth Clubhouse are reminded that they will not then be able to drive to the ground via Snowdon Street. Vehicles will only be able to access the Traeth via the new Porthmadog bypass. Vehicles will be able to reach the bypass via the Bodawen Roundabout or from the Penrhyndeudraeth direction via the Minffordd Roundabout.
Those attending the Bingo at the Clubhouse next Monday or the Slimming World session from next week are reminded that if they are travelling there by car that they should do so along the bypass and look out for signs to the Traeth.
It will only be possible to reach the Traeth along Snowdon Street on foot or by bicycle. It is understood that once the bypass opens barriers will be in place to prevent vehicular access to the Traeth via Snowdon Street. The club wishes to thank everyone for their understanding during the change over period.
12/10/11
Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Show Racism the Red Card

Bydd Pythefnos o Weithgarwch Gwrth Hiliaeth yn digwydd yng Nghymru o’r 12-25 Hydref ac felly'n weithredol yn ystod dwy gêm nesaf Porthmadog, oddi cartref yn Llanrhaeadr ym Mochnant ddydd Sadwrn nesaf ac ar y Traeth ar y Sadwrn canlynol yn erbyn Cei Conna.
Bydd y Pythefnos o Weithgarwch yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr yng Nghymru ddangos eu cefnogaeth i achos gwrth-hiliaeth. Gallai'r gweithgarwch ar lefel clwb gynnwys gwisgo crysau-T, dangos cerdyn coch gwrth-hiliaeth, gwneud cyhoeddiad dros yr uchelseinydd neu gynnwys erthyglau yn y rhaglen. Bydd y cyfnod hwn o weithredu dwys yn annog cefnogaeth pob sector o’r gymuned ac yn dathlu gwahaniaethau er mwyn rhwystro hiliaeth.
Mae gwaith Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cael ei noddi gan y Gymdeithas Bêl-droed a dywedodd Andrew Howard ar eu rhan, “Mae’r Pythefnos o Weithgarwch yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr pêl-droed. Mae'r Gymdeithas yn credu fod cefnogaeth y clybiau yn helpu addysgu ac ail-addysgu cefnogwyr pêl-droed o bob oed er mwyn cael gwared ar hiliaeth o’r terasau ac o’r caeau yng Nghymru.”

Highslide JS
© Angela Roberts


Show Racism the Red Card’s annual Fortnight of Action takes place in Wales from 12-25 October and will therefore cover Porthmadog’s next two matches, away next Saturday at Llanrhaeadr y Mochnant and at home the following week against Gap Connah’s Quay.
The Fortnight of Action will give players the opportunity for players in Wales to show their support for the anti-racist cause. Actions at club level may include the wearing of SRRC T-shirts, showing the anti-racist red card, tannoy announcements or articles in match programmes. This period of concerted action encourages participation from all sections of the community to celebrate diversity and tackle racism.
The SSRtC’s work is sponsored by he FAW and Andrew Howard said on their behalf, “The fortnight of action is a hugely important event in the football calendar. The FAW believes that the support from its clubs will educate and re-educate football fans of all ages in order to stamp out the threat of racism on the terraces and the football pitches of Wales.”
09/10/11
Canlyniadau annisgwyl a Port yn drydydd / Port up to third in a weekend of surprises

Cei Connah's Quay Mae’r frwydr ar frig yr HGA yn poethi gyda’r canlyniadau dros y penwythnos yn ychwanegu at y cymhlethdod. Dal ati'n gyson mae’r Rhyl gyda nhw a Port ar rediad o bedair buddugoliaeth yn olynol. Mae hyn wedi galluogi Port i godi i’r trydydd safle.
Ond roedd yna nifer o ganlyniadau annisgwyl a’r mwyaf o'r rhain efallai oedd Conwy'n brwydro ‘nol i rannu’r pwyntiau gyda Chei Conna diolch i gôl yn yr amser ychwanegol. Y newyddion gwaeth i’r pencampwyr oedd i’w prif sgoriwr Gary O’Toole dderbyn cerdyn coch – ei ail o’r tymor - a allai olygu o leiaf tair gêm o waharddiad. Cafodd Bwcle ganlyniad arbennig gan guro Derwyddon Cefn - a oedd ar frig y tabl yn gynnar - o 4-1. Bydd Bwcle, sydd wedi colli ond unwaith y tymor hwn o 3-2 yn erbyn Y Rhyl, yn codi i’r pedwerydd safle wrth i'r Fflint gael eu dal i gêm gyfartal gan Rhos Aelwyd.
Yn y cylch nesaf o gemau yn y gynghrair bydd Rhyl yn chwarae Derwyddon Cefn a Port yn croesawu Cei Conna i’r Traeth a bellach ond un pwynt rhyngddynt.

The HGA title race is hotting up and results over this weekend have raised the bar a couple of notches. League leaders Rhyl continue to progress and like Porthmadog are on a run of four straight wins. This run has lifted Port into third place.
But there were some surprises this weekend and none more so than Conwy’s fight back from being two goals behind to share the points with Connah’s Quay with an injury time equaliser. Even worse for the champions was the straight red card received by leading scorer Gary O’Toole –his second of the season- which means that he will miss out on at least the next three games. Another impressive result was Buckley Town’s 4-1 win over early league leaders Cefn Druids. Buckley who have only been beaten once this season -3-2 at the Belle Vue- now move into fourth place ahead of Flint who were held to a draw at home to Rhos Aelwyd.
In the next round of matches Rhyl take on Cefn Druids and Port welcome Connah’s Quay to the Traeth for a meeting between two clubs now only separated by a single point.
09/10/11
Enillydd Tote Mis Medi / September Tote Winner

Y rhifau lwcus yn y Tote ym mis Medi oedd rhifau 21 a 22. Un enillydd oedd sef, Shirley Wyatt, Blaenau Ffestiniog, yn ennill £600. Bydd Tote mis Hydref yn cael ei dynnu ar nos Wener 28 Hydref, yn noson Bingo’r clwb yn Y Ganolfan.
Enillwyr diweddaraf y Lotri Wythnosol ydy: Wythnos 38: Rhif 247 Y. Williams, Wythnos 39: Rhif 325 C.Davies, Wythnos 40 Rhif 17: Alwena Jones.

The lucky numbers in the September Monthly Tote were 21 and 22. There was only one winner Shirley Wyatt, Blaenau Ffestiniog with a prize of £600. The September Tote will be drawn at the Bingo Night at the Ganolfan on Friday, 28 October.
The latest winners of the Weekly Draw are: Week 38 No. 247: Y. Williams, Week 39 No. 325: C. Davies, Week 40 No. 17 Alwena Jones.
05/10/11
Port ym Mhenrhyn-coch ddydd Sadwrn / Port visit Penrhyn-coch on Saturday

Penrhyn-coch Bydd Port yn teithio i Benrhyn-coch ddydd Sadwrn ar gyfer gêm gynghrair. Mae’r clwb o’r canolbarth yn yr wythfed safle wedi ennill pedair a cholli dwy o’u wyth gêm. Hefyd colli fu’r hanes yng Nghwpan Cymru bnawn Sadwrn o 4-0 ym Mwcle. Ond er gwaetha’r anghysondeb mae Penrhyn-coch yn aml yn rhoi amser caled i’r clybiau yn rhan uchaf y tabl. Maent wedi curo'r Derwyddon – y gêm gyntaf iddynt golli - yn barod y tymor hwn ac mae gan y Rhyl, ar ôl y tymor diwethaf, ddigon o rheswm i beidio edrych ymlaen at ymweld â Chae Baker.
Y tymor diwethaf rhannodd Port a’r Penrhyn y pwyntiau, yn y ddwy gêm, ac mae’n deg dweud eu bod yn gemau cystadleuol. Wyneb cyfarwydd yn nhîm Penrhyn ydy cyn amddiffynnwr Port sef Mark Gornall. Newydd ddyfodiad i Gae Baker ydy Richard Evans a ymunodd o Gaersws. Sgoriodd yn erbyn Port, a chwaraeodd ran amlwg wrth i Gaersws wneud y dwbl y tymor diwethaf. Wyneb newydd arall, ers i’r ddau glwb gyfarfod ddiwethaf, ydy Glyndwr Hughes, cyn flaenwr profiadol Aberystwyth.
Bydd Clive Williams yn ôl i Port ar ôl iddo fethu wythnos diwethaf am nad oedd Bangor am iddo chwarae yng Nghwpan Cymru. Bydd Port yn awyddus i gael cychwyn da ar ôl gorfod brwydro yn ôl yn yr ail hanner yn erbyn Cegidfa a Bethesda yn ddiweddar. Bydd Penrhyn-coch yn gosod sialens gorfforol gref ac mae’n werth nodi eu bod wedi ennill tair gêm gartref o 1-0 felly mae’n rhaid manteisio ar bob cyfle os ydy’r rhediad diguro i barhau.

Port travel to Penrhyn-coch on Saturday returning to league action. The mid-Wales club are in eighth place in the table having won four and lost two of their eight games. They also went out of the Welsh Cup last Saturday by a convincing 4-0 at Buckley. But despite their inconsistency they have made a habit of upsetting top sides. Earlier in the season they inflicted a first defeat of the season on Cefn Druids. Rhyl, last season, also had good reason for being wary of a visit to Cae Baker.
Last season Port and Penrhyn-coch shared the points in both league games and it is fair to say they were competitive affairs. A familiar face in the Penrhyn line-up is former Port defender Mark Gornall. A recent arrival at Cae Baker is forward Richard Evans who has joined from Caersws. He scored and played a prominent part in a Caersws double over Port last season. Another new face since the clubs last met is experienced former Aberystwyth forward Glyndwr Hughes.
Port have Clive Williams back in the squad after missing out last week as parent club Bangor did not want him cup-tied. They will know that a good start is essential after needing second half come backs against both Guilsfield and Bethesda in recent weeks. Penrhyn-coch will present a strong physical challenge and it is worth noting that their three home wins have all been achieved with single goal so chances need to be taken if the unbeaten run is to continue.
04/10/11
Port v Rhyl. Bloedd o’r gorffennol / Port v Rhyl A blast from the past.

Mae Gerallt Owen, hanesydd y clwb –ymysg pethau eraill! - wedi bod yn edrych yn ôl dros gemau cwpan o’r gorffennol rhwng Porthmadog a’r Rhyl - wedi i’r ddau ddod allan o’r het i gyfarfod yn Ail Rownd Cwpan Cymru. Nid yw’r ddau wedi cyfarfod yng Nghwpan Cymru ers dros deng mlynedd ar hugain.
Mae wedi darganfod fod y ddau wedi cyfarfod dair gwaith o’r blaen yng Nghwpan Cymru yr un fath a Port a Bethesda y gwrthwynebwyr yn y rownd gyntaf. Y tro diwethaf oedd yn nhymor 1975/76 gyda Port yn teithio i’r Rhyl yn rownd 4. Port enillodd ar y diwrnod hwnnw o 2-0 diolch i goliau Ted Turner a Steve Woodin.
Y tro cynt oedd yn nhymor 1965/66, y flwyddyn y cyrhaeddodd Port rownd yr wyth olaf a’r gêm gofiadwy yn erbyn Abertawe. Port enillodd unwaith eto o 2-0 yn y 5ed rownd ar ‘Y Traeth’ gyda Colin Gwinneth a Clive Lloyd yn sgorio. Ond y tro cyntaf i’r ddau gyfarfod yn y gystadleuaeth oedd yn 1961/62 pan gyfarfu’r ddau yn rownd 4 ar ‘Y Traeth’ ac unwaith eto Port oedd yr enillwyr a hynny diolch i gôl i rhwyd ei hun gan Ian Hillsdon.
“Felly record cant y cant i Port mewn gemau yng Nghwpan Cymru yn erbyn Y Rhyl ac heb ildio gôl. Gobeithio y bydd y record ardderchog hon yn parhau!” oedd sylw Gerallt.

Club Historian –amongst other things! – Gerallt Owen has been looking back at previous encounters between Porthmadog and Rhyl who came out of the hat together in yesterday’s Welsh Cup Round 2 draw. The two have not previously met in the competition for over thirty years.
He has found that, just as was the case with Bethesda, Porthmadog have met Rhyl on three previous occasions in the Welsh Cup. The last meeting was way back in the 1975/76 season when Port travelled to Rhyl in round 4. Port won that day by 2 goals to nil thanks to goals from Ted Turner and Steve Woodin.
Before then it was season 1965/66 when Port eventually reached the quarter finals and the famous tie against Swansea. Again Port won 2-0 in the fifth round tie at ‘Y Traeth’, the goals coming from Colin Gwinneth and Clive Lloyd. The first meeting of the two sides in the competition was in 1961/62 when the sides met in round 4 at ‘Y Traeth’ and again Port ran out winners thanks to an own goal by Ian Hillsdon.
“So a 100 percent record for Porthmadog in Welsh Cup matches against Rhyl, and without conceding a goal, let's hope that excellent record can continue!” adds Gerallt.
03/10/11
Port v Rhyl yng Nghwpan Cymru / Port v Rhyl in the Welsh Cup.

Rhyl Mae’r enwau wedi cael eu tynnu o’r het ar gyfer ail rownd Cwpan Cymru ar Twitter (#FAWWelshCupDraw). Bydd Port yn chwarae yn erbyn y Rhyl ar y Traeth, ac er na fydd hon yn gêm hawdd, o leiaf ei bod yn gêm gartref ac yn debygol o ddenu torf dda. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar ddydd Sadwrn, 5 Tachwedd - wythnos cyn i’r ddau dîm gyfarfod ar y Traeth yng Nghynghrair Huws Gray.
Yr unig glwb arall o Wynedd i gyrraedd yr Ail Rownd oedd Y Bermo yn dilyn buddugoliaeth arbennig dros Rhuthun. Gwobr Bermo ydy ymweliad â Chaersws.
Gwobrau Ariannol Cwpan Cymru
Rownd 2 –Collwyr 36 olaf -£750
Rownd 3 –Collwyr 32 olaf - £1,500
Rownd 4 –Collwyr 16 olaf -£2,500
Collwyr 8 olaf -£6,000
Collwyr Rownd Cynderfynol -£12,500
Enillwyr -£30,000
Cyfanswm y Gwobrau Ariannol -£156,500

The draw has been made for the Welsh Cup second round on Twitter (#FAWWelshCupDraw). Port face Rhyl on the Traeth, and although this won’t be an easy match, at least it is a home tie, and likely to attract a decent crowd. The game will be played on Saturday, 5 November – a week before both clubs meet on the Traeth in the Huws Gray Alliance.
The only other Gwynedd club to reach the 2nd Round was Barmouth who gained a convincing 4-1 win over Ruthin Town. Their reward is a visit to Caersws.
Welsh Cup Prize Money
Round 2 – Losing Last 36 -£750
Round 3 –Losing Last 32 -£1,500
Round 4 –Losing Last 16 -£2,500
Losing quarter-finalists -£6,000
Losing semi-finalists -£12,500
Runners-up £20,000
Winners -£30,000
Total Prize Money -£156,500
03/10/11
Cwpan Cymru enwau o’r het heno / Draw for Welsh Cup tonight

Tynnir yr enwau o’r het ar gyfer Ail Rownd Cwpan Cymru yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd gan aelodau carfan rhyngwladol Cymru.
Caiff yr enwau eu cyhoeddi heno (3 Hydref) ar Twitter yn fyw@FA Wales o 7.15 pm ymlaen a hefyd cewch weld pwy fydd gwrthwynebwyr Port ar y wefan hon a’r gemau i gyd i ddilyn ar wefan swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

The draw for Round 2 of the FAW Welsh Cup will take place at St David’ Hotel in Cardiff Bay and made by members of the Welsh International squad.
It will be announced this evening (3 October) on Live Twitter Feed@FA Wales from 7.15 pm. Port’s opponents will be on this website soon after the announcement and full draw will followon Official FAW website.
01/10/11
Cymru yn chwarae ar y Maes Awyr / Victory Shield gets underway at the Airfield

Cymru Dechreuodd y gystadleuaeth ryngwladol Dan-16 nos Wener gyda Chymru’n croesawu’r Alban i’r Maes Awyr ym Mrychdyn. Roedd y gêm gyfartal ddi-sgôr o ddiddordeb arbennig i gefnogwyr Porthmadog gan y bydd y Traeth yn dod o dan lygad barcud camerâu Sky Sports ym mis Tachwedd pan fydd Cymru'n wynebu Gogledd Iwerddon.
Roedd stadiwm y Maes Awyr yn edrych yn dda a’r achlysur i gyd i’w weld yn mynd yn dda iawn ac yn achos balchder i’n cyfeillion o glwb Airbus. Hefyd roedd yna dorf dda o 1,006. Gobeithio y caiff Porthmadog yr un llwyddiant pan ddaw eu tro hwy!
Hefyd o ddiddordeb arbennig i gefnogwyr Port oedd fod un o gyn chwaraewr Academi Porthmadog, Nathan Palmer, yn aelod o garfan Cymru. Mae Nathan wedi gwneud yn eithriadol o dda a bellach wedi derbyn gwahoddiad i ymuno ac Academi Manchester United. Dyma bluen fawr yn het Nathan a hefyd Academi Porthmadog, y Cyfarwyddwr Mel Jones a’r hyfforddwyr. I gwblhau’r cysylltiad â chlwb Porthmadog, Osian Roberts, cyn-reolwr Port, oedd yn rheoli tîm Cymru.

The Victory Shield U-16 Tournament commenced on Friday evening with a game between Wales and Scotland at The Airfield, Broughton. The game which ended in a goalless draw was of special interest to all at Porthmadog who themselves will come under the scrutiny of the Sky Sports cameras in November when Northern Ireland will be Wales’ opponents.
The Airfield Ground was looking good on the night and the whole occasion appeared to go very well and was a credit to our friends at the Airbus club. There was also a good crowd of 1,006 in attendance. Let’s hope that Porthmadog can do equally well when it is their turn!
Also of special interest to Port followers was that former Porthmadog Academy player, Nathan Palmer, was a member of the Welsh squad. Nathan has done extremely well and has now taken up the invitation to join the Manchester United Academy. This is a real feather in the cap of the player and also the Porthmadog Academy, its Director Mel Jones and the Academy coaches. To complete the Porthmadog connection in charge of the WelshU-16 Squad was former Porthmadog manager Osian Roberts.
30/09/11
Gareth Parry yn ychwanegu at y garfan / Gareth Parry bolsters depleted squad

Mike Foster nol eto / back again Mae Gareth Parry wedi bod yn brysur iawn dros y dyddiau diwethaf yn ceisio ychwanegu at garfan fechan sydd wedi‘i gwanhau oherwydd anafiadau, a chwaraewyr ddim ar gael at ddydd Sadwrn –gweler y manylion ar ‘Rhagolwg Bethesda’.
“Rwyf wedi llwyddo i sicrhau chwaraewyr wrth gefn at y gêm yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn,” meddai Gareth Parry heddiw, “drwy ail arwyddo Mike Foster, sy’n amddiffynnwr profiadol iawn, a hefyd Mason Palmirie sy'n dod o Awstralia ac a fuodd gyda Sheffield Wednesday yr un adeg roedd Marcus Orlik gyda’r clwb o Swydd Efrog.”
Er nad yw wedi chwarae’r tymor hwn eto, bydd Gareth Parry ei hun hefyd ar gael fel yr oedd ddydd Sadwrn diwethaf at y gêm ar y Traeth yn erbyn Rhuthun.
Mae Gareth hefyd wedi symud i lenwi’r bwlch a adawyd gyda ymadawiad Dean Garmey, sydd fel yr adroddwyd yn flaenorol wedi derbyn swydd yn Portsmouth, drwy arwyddo Phil Williams, amddiffynnwr o Lanfairpwll. Cafodd Phil nifer o berfformiadau cadarn i Port yn ystod y gemau cyn dymor a rŵan mae wedi arwyddo am y tymor.

Gareth Parry has been busy over the last few days bolstering his squad depleted by injury and unavailability –see Bethesda preview.
“I have been able to provide cover for Saturday’s Welsh Cup tie,” said Gareth Parry today, “by re-signing the experienced Mike Foster and I have also signed Mason Palmirie who hails from Australia and was at Sheffield Wednesday at the same period as Marcus Orlik was at the Yorkshire club.” Though he has not played this season the manager is also able to include himself on the bench as he did for last week’s home game.
He has also moved to sign a replacement for the Dean Garmey who, as reported, has found employment in Portsmouth. He has signed Llanfairpwll defender Phil Williams who put in some strong performances for Port in pre-season and now has signed up for the remainder of the season.
30/09/11
Gareth Parry yn diolch i’r tîm Ieuenctid / Gareth Parry thanks Youth squad

Roedd Gareth Parry wedi’i blesio gan ymdrechion ac ymroddiad y garfan ieuenctid a gasglwyd ar gyfer y gêm yn Nghwpan Ieuenctid Cymru ddydd Sul. Meddai Gareth, “Rwy am i’r chwaraewr ifanc yma sylweddoli ein bod yn gwerthfawrogi eu ymdrechion ac fod gan chwaraewyr ifanc rôl bwysig yn nyfodol y clwb hwn.”
Yn arwain o’r gêm ddydd Sul mae dau o chwaraewyr ifanc y clwb wedi derbyn gwahoddiad i weithio gyda’r brif garfan. Y ddau ydy Iwan Parry a Dan McCormack. Edrychwn ymlaen i glywed mwy am yr hogiau yma yn y dyfodol.

Gareth Parry was impressed with the effort and commitment shown by the hastily assembled youth squad who played in the first round of the Welsh Youth Cup last Sunday. He said “I want these young players to realise that we appreciate their efforts and that young players have an important part to play in the future of the club.”
Resulting from last Sunday’s game two of the club’s youth players who caught the eye have been invited to work with the senior squad. They are Iwan Parry and Dan McCormack. Well done lads we look forward to hearing more of these young players.
29/09/11
Eddie Blackburn yn rhoi’r ffidil yn y to / Eddie Blackburn calls it a day

Academi / Academy Rŵan ei fod wedi roi cychwyn ar bethau am dymor arall yn yr Academi, mae un o arwyr y stafell gefn yn rhoi’r gorau i’w swydd bresennol. Am y dair blynedd ddiwethaf Eddie Blackburn oedd Gweinyddwr yr Academi, swydd eithriadol o bwysig ac un sy’n cymryd llawer o amser.
Bydd y dyletswyddau pwysig yma rŵan yn cael eu gwneud gan Siân Thomas a dymunwn yn dda iddi yn y rôl bwysig hon. Ychwanegodd Eddie, “Byddaf o gwmpas am dipyn os bydd Sian angen cymorth ond nid wyf bellach yn Weinyddwr i’r Academi.”
Darllenwch fwy

Now that he has set things in motion for another Academy season, one of this club’s unsung heroes will be calling it a day in his current responsibility. Eddie Blackburn has for the past three years served as Academy Administrator, one of the most important yet time consuming roles in the club.
These important duties will now be carried out by Sian Thomas and we wish her well in this important role. Eddie adds, “I shall still be around for a while if Sian needs me though I am no longer officially the Administrator at the Academy.”
Read more
29/09/11
Rhagolwg: v Bethesda / Preview: v Bethesda

Cwpan Cymru Noddwyr: Toyota Harlech
Bethesda sy’n ymweld â’r Traeth ddydd Sadwrn yn Rownd Gyntaf Cwpan Cymru. Hwn fydd y 4ydd tro i’r ddau gyfarfod yn y gystadleuaeth, ond am y tro cyntaf ar y Traeth! Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod oedd yn Hydref 1999 pan enillodd Port o 3-0 ym Methesda.
Eleni mae Bethesda yn y pumed safle yn Adran 1 y Welsh Alliance ac wedi ennill pedair a cholli pedair o’u 8 gêm gynghrair. Cyrhaeddodd Bethesda rownd gyntaf y gwpan ar ôl curo Caernarfon Wanderers o 4-1. Mae sawl cyn chwaraewr Port yng ngharfan Bethesda. Y mwyaf amlwg ydy Nigel Barry a chwaraeodd 91(+2) o gemau UGC dros Port rhwng 1995 a 1998. Mae’r blaenwr Kevin Roberts yn un arall ac ymddangosodd y golwr Liam Shanahan ychydig o weithiau dros Port yn ystod 2008/09. Symudodd Darren Jones, a ddechreuodd y tymor ar y Traeth, rhwng y ddau glwb yn ddiweddar iawn. Yn ystod yr haf collodd Bethesda eu rheolwr Mark Poole i Langefni a phenodwyd Warren Gibbs, cyn amddiffynnwr Port, i’r swydd.
Bydd Gareth Parry yn wynebu problemau mawr cyn y gêm ddydd Sadwrn. Mae’r garfan eisoes yn fychan ond bydd i lawr i’r asgwrn ddydd Sadwrn. Ni fydd yr amddiffynnwr ar fenthyg, Clive Williams, ar gael rhag ofn y bydd Bangor ei angen yn nes ymlaen. Ni fydd Marc Evans chwaith ar gael y penwythnos hwn a mae Dean Garmey yn gadael yr ardal i gymryd swydd barhaol yn Portsmouth. Gyda Marcus Orlik heb wella’n llwyr o’r anaf a gafodd yng Nghegidfa mae’r garfan o 15 lawr i 11.

Welsh Cup Match Sponsors: Toyota Harlech
Bethesda sy’n ymweld â’r Traeth ddydd Sadwrn yn Rownd Gyntaf Cwpan Cymru. Hwn fydd y 4ydd tro i’r ddau gyfarfod yn y gystadleuaeth, ond am y tro cyntaf ar y Traeth! Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod oedd yn Hydref 1999 pan enillodd Port o 3-0 ym Methesda.
Eleni mae Bethesda yn y pumed safle yn Adran 1 y Welsh Alliance ac wedi ennill pedair a colli pedair o’u 8 gêm gynghrair. Cyrhaeddodd Bethesda rownd gyntaf y gwpan ar ôl curo Caernarfon Wanderers o 4-1. Mae sawl cyn chwaraewr Port yng ngharfan Bethesda. Y mwyaf amlwg ydy Nigel Barry a chwaraeodd 91(+2) o gemau UGC dros Port rhwng 1995 a 1998. Mae’r blaenwr Kevin Roberts yn un arall tra gwnaeth y golwr Liam Shanahan ymddangos ychydig o weithiau dros Port yn ystod 2008/09. Symudodd Darren Jones, a ddechreuodd y tymor ar y Traeth, rhwng y ddau glwb yn ddiweddar iawn. Yn ystod yr haf collodd Bethesda ei rheolwr Mark Poole i Langefni ac apwyntiwyd Warren Gibbs, cyn amddiffynnwr Port, i’r swydd.
Bydd Gareth Parry yn wynebu problemau mawr cyn y gêm ddydd Sadwrn. Mae’r garfan eisoes yn fychan ond bydd i lawr i’r asgwrn ddydd Sadwrn. Bydd yr amddiffynnwr ar fenthyg, Clive Williams, ddim ar gael rhag ofn bydd Bangor ei angen yn bellach ymlaen. Ni fydd Marc Evans chwaith ar gael y penwythnos hwn a mae Dean Garmey yn gadael yr ardal i gymryd swydd barhaol yn Portsmouth. Gyda Marcus Orlik heb wella’n llwyr o’r anaf a gafodd yng Nghegidfa mae’r garfan o 15 lawr i 11.
27/09/11
Newyddion cadarnhaol am Carl / Positive news of Carl

Carl Owen Roedd yn dda gweld Carl ar y Traeth eto ddydd Sadwrn yn gwylio’r gêm yn erbyn Rhuthun. Mae wedi bod yn gryn golled i fod hebddo ar y cae.
Roedd yn arbennig o dda darllen sylwadau Gareth Parry yn y rhaglen, lle mae o’n dweud, “Credaf y byddwch yn falch o glywed fod Carl wedi cymryd y pwysau ar ei droed wrth gamu am y tro cyntaf ers torri ei goes cyn dechrau’r tymor –hynny gyda chymorth ei ffyn baglau. Bydd yn cychwyn ffisiotherapi wythnos yma ac os aiff y cyfan yn iawn bydd yn dechrau ymarfer tua diwedd mis Tachwedd.”
Mae pob cefnogwr yn dymuno’n dda i Carl wrth i’w frwydr am adferiad fynd yn ei blaen.

It was good to see Carl Owen at the Traeth again on Saturday for the Ruthin game. It has been a great loss not having him on the pitch.
It was especially good to read Gareth Parry’s match programme notes where he says “I think you will be happy to hear that Carl has taken his first ‘weight bearing’ steps –with the aid of his crutches- since breaking his leg in pre-season. He will be starting physiotherapy this week and if all goes well he will be back in training with the squad towards the end of November.”
All Porthmadog fans wish Carl well in his recuperation battle to overcome his injury.
27/09/11
Gwobr Tote yn cario drosodd i fis Medi / Tote Rollover for September

Gan nad oedd enillwyr yn Tote mis Awst bydd y wobr o £295 yn cael ei chario drosodd i Tote Medi a bydd yn cael eu dynnu nos Wener nesaf 30 Medi yn y Ganolfan. Y rhifau a dynnwyd yn Tote Awst oedd 13 a 38.

There will be a Rollover in September when the Tote is drawn next Friday, 30 September at the Ganolfan.. The winning numbers drawn for the August Tote were 13 and 38 but there were no winners. Prize money of £295 will be carried over.
26/09/11
Cwpan Ieuenctid Cymru / FAW Youth Cup

Mynd allan yn rownd 1af Cwpan Ieuenctid Cymru oedd hanes Porthmadog ddydd Sul yn erbyn Bangor a hynny o 4-0. O ystyried yr holl amgylchiadau a, gan ystyried mai tîm newydd oedd hwn yn chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf, rhaid diolch a llongyfarch y chwaraewyr a hefyd Gareth Piercy.

Porthmadog went out in their 1st Round FA Youth Cup tie on Sunday against Bangor by a 4-0 score line. All things considered and bearing in mind that this was a new team playing together for the first time the players deserve our thanks and congratulations as does Gareth Piercy .
25/09/11
Sky Sports yn ymweld â’r Traeth / Sky Sports visit Traeth

Sky Sports Wythnos diwethaf daeth cynrychiolwyr Sky Sports i’r Traeth i edrych dros y cyfleusterau er mwyn paratoi at eu hymweliad i ddangos y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn ’fyw’ o’r Traeth.
Archwiliwyd y gantri a’r lle tu ôl i’r gôl lle byddant yn gosod y camerâu. Edrychwyd hefyd ar y stiwdio a’r pwynt mynediad i’w hoffer gan fynegi eu bod yn fwy na bodlon gyda’r hyn a welwyd.
Bydd y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael ei chwarae ar y Traeth ar nos Fercher, 16 Tachwedd. Ym mhellach ymlaen bydd yn bosibl prynu eich tocynnau drwy’r wefan hon. Pris y tocynnau fydd £5 i oedolion tra bydd mynediad am ddim i blant am ddim.

Last week Sky Sports sent an advance party on a visit to the Traeth to suss out the quality of the facilities ahead of their return visit to show ‘live’ the U-16 Victory Shield International between Wales and Northern Ireland.
They inspected the gantry and the space behind the goal where they will place their cameras. They also looked at the studio facility and the entry points for their equipment and declared themselves very satisfied with what they saw.
The international match between Wales and Northern Ireland will be played at the Traeth on Wednesday, 16 November. Later on it will be possible to purchase tickets for the game via this website. Tickets for adults will be £5 while there will be free entry for children.
Newyddion cyn 25/09/11
News before 25/09/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us