![]() |
![]() |
![]() |
|
|||
23/09/11 Cwpan Ieuenctid Cymru / FAW Youth Cup Bydd Porthmadog yn wynebu Bangor bnawn Sul, 25 Medi yn rownd gyntaf Cwpan Ieuenctid Cymru. Chwaraeir y gêm ar y Traeth gyda'r gic gyntaf am 2.30 pm. Porthmadog will play Bangor in the First Round of the FAW Youth Cup next Sunday, 25 September. The game will be played on the Traeth with a 2.30 pm kick off. 21/09/11 Rhagolwg: v Rhuthun / Preview: v Ruthin Town ![]() Rhuthun ydy’r ymwelwyr â’r Traeth ddydd Sadwrn. Chwaraeodd y ddau glwb ei gilydd dair gwaith y llynedd. Port enillodd y gêm yng Nghwpan y Gynghrair, gêm a ohiriwyd nifer o weithiau, tra mai buddugoliaeth yr un yn eu gemau oddi cartref oedd yr hanes yn y gemau cynghrair. Yn y gêm rhyngddynt ar y Traeth roedd un gôl gan Kevin Garland yn ddigon, a chefnogwyd hyn gan amddiffyn cadarn gyda Jack Jones a Shaun Williams yn arbennig yn y cefn. Diddorol yw nodi mai Shaun Williams oedd Chwaraewr y Mis Charisma fis Awst. Cymysg fu tymor Rhuthun hyd yma - ennill tair a cholli tair o’u saith gêm. Cawsant - fel Port - sioc yn erbyn Llanrhaeadr ond gan fynd un cam yn waeth a cholli gartref o 5-2. Ymunodd y profiadol Tommy Mutton yn ystod yr haf ac mae’n ffurfio partneriaeth beryglus yn y blaen gyda Kevin Garland. Bydd rhaid cymryd tîm sy’n cael ei reoli gan Adie Jones o ddifri, a bydd angen i Port fod ar eu gorau i barhau â’i rhediad diguro. Brwydrodd Port yn ôl yn llwyddiannus yn yr ail hanner yng Nghegidfa ddydd Sadwrn ond methwyd sgorio yn yr hanner cyntaf. Yr un oedd yr hanes mewn pedair o’r pum gêm ddiwethaf. Mewn tair o’r gemau yna, Llandudno, Derwyddon Cefn a Chegidfa, roedd rhaid dod yn ôl i sicrhau’r canlyniad. Byw mewn gobaith am gôl gynnar ddydd Sadwrn! Ruthin Town are the visitors to the Traeth on Saturday. The two clubs met three times last season. Port won the much postponed League Cup tie while both clubs gained an away victory in the League. The Ruthin win at the Traeth came as a result of a single Kevin Garland goal backed up by excellent defence, with Jack Jones and Shaun Williams outstanding -interesting to note that Shaun Williams was the Charisma Player of the Month for August. Ruthin have had a mixed season winning three and losing three of their seven games. Like Port they came unstuck against Llanrhaeadr but went a step further losing 5-2 -on their own ground. Experienced forward Tommy Mutton joined the club in the summer and with Kevin Garland forms a potentially dangerous attacking force. Any team managed by Adie Jones cannot be taken lightly and Port will need to be at their best to continue their unbeaten run. A great second half fight back secured the three points at Guilsfield last Saturday and as in four of the last five games Port did all their scoring in the second half. In three of those games, against Llandudno, Cefn Druids and Guilsfield, they had to come from behind to get a result. We must hope for an early goal on Saturday! 21/09/11 Academi yn chwarae er gwaethaf y tywydd / Academy play despite weather Er gwaetha’r glaw monswn fore Sul, llwyddwyd i gwblhau’r dair gêm Academi yn erbyn Academi’r Fflint ar gaeau’r Clwb Chwaraeon. Ond bu’n rhaid symud y goliau i gae arall er mwyn i’r gêm Dan-12 gael ei chwarae, a diolch i’r cyfeillion o’r Fflint am eu cymorth. Chwaraewyd y gêm Dan-16 mewn glaw trwm iawn gyda dŵr yn sefyll ar hyd ochrau’r cae. Mae’r ddau dîm yn haeddu clod am eu hymdrechion. Fflint enillodd y gêm Dan-12 o 3-1 ond Port oedd enillwyr y gemau Dan-14 a Dan-16. Port 5 Fflint 2 oedd y sgôr Dan-14 a Port 2 Fflint 1 yn y gêm Dan-16. Mae’r hyfforddwyr wedi’u plesio gyda’r tair carfan gan iddynt ddangos arwyddion da o gyd chwarae fel unedau, gyda’r hogiau Dan-12 yn dangos llawer o benderfyniad yn eu chwarae, a hefyd cynnydd yn lefelau eu sgiliau. Despite the monsoon type rains of early morning the Academy managed to get all three games against the Flint Academy played at Clwb Chwaraeon on Sunday. Goalposts however had to be moved to another pitch for U-12s game to be played. This was done thanks to considerable help from Flint! The U-16 game was played in dreadful conditions with standing water along the wings. Both sides deserve congratulations for their efforts. Flint won the U-12 game by a 3-1 margin while Port were winners at U-14 and U-16 level. At U-14 it was Port 5 Flint 2 and U-16: Port 2 Flint 1. The coaches report that all three squads showed encouraging signs of coming together as units and the U12s in particular pleased their coaches, showing great determination and an increasing skill level. 20/09/11 Tîm Dan-18 Arfordir y Gogledd / NorthWales Coast U-18 ![]() “Rwyf wedi cael ymateb da gan chwaraewyr ac maent yn awyddus i gynrychioli’r Arfordir,” meddai Chris Morrell. “Hefyd rwy’n gobeithio ei fod yn cael ei ystyried yn anrhydedd gan y chwaraewyr a’r clybiau.” I gael eu dewis rhaid i’r chwaraewyr gael eu geni ar neu chyn 1 Medi 1993. Bydd yna gêm ddewis yn cael ei chynnal ar Y Morfa, cae clwb Conwy, ar ddydd Sul 9 Hydref am 10am. Llynedd chwaraeodd Jamie McDaid a Cai Jones i dîm Dan-18 yr Arfordir. Mae Jamie yn yr oed cywir ar gyfer gêm eleni eto. Chris Morrell, the NWCFA U-18 team manager, has started the selection process for this season’s North Wales Coast U-18 representative team. The team each year play in a round-robin tournament with North East & Central Wales associations. Chris Morrell says, “I have had a great response from players wanting to represent the Coast which of course we hope it is looked on as an honour for both player and club.” To meet the criteria players will need to be born on or after Sept 1st 1993. A selection/trial game will be held on Sunday Oct 9th at 10am at Conwy Utd FC ground. Last season Port players Jamie McDaid and Cai Jones both played for the Coast U-18s. Jamie meets the age criteria to play again this season. 19/09/11 Adam yn ymuno â Phwllheli / Adam goes to Pwllheli ![]() Meddai Gareth Parry am y trefniant, “Mae Adam angen gemau i gael ffitrwydd gêm ac ar hun o bryd nid yw’n cael y cyfle yna gyda ni. Mae’n gweithio allan yn dda i bawb. Mae Adam am gael gemau llawn ac mae Pwllheli'n cael chwaraewr da a pan bo’r angen cawn alw ar Adam yn ôl ac yntau wedi cael ffitrwydd gêm. Rwyf yn dal i ystyried Adam yn rhan o’r garfan ac yn edrych ymlaen i’w weld yn ôl gyda ni yn ystod y tymor. Adam Hall, who joined Porthmadog from Welsh Alliance leaders Pwllheli during August, is to rejoin his former club. The central midfielder who appeared for Aberystwyth in 2008/09 made three sub appearances for Port. He was due to play for Pwllheli in Saturday’s Welsh Trophy match against CPD Machynlleth which the Llyn club won by 5-0. Pwllheli have also won all of their seven league games this season. Gareth Parry commented, “Adam needs games to get him match fit but at the moment he is not getting this with us. It works out well for everyone. Adam gets regular games and Pwllheli get a good player and then when the need arises we can recall Adam and we get a player who is match fit. I regard Adam as a member of our squad and look forward to see him back with us during the season.” 15/09/11 Saith o’r HGA yn mynd am Drwydded ddomestig / HGA 7 go for Domestic Licence ![]() Meddai Andrew Howard, Swyddog Trwyddedu’r Gymdeithas, “Rwy’n falch iawn o ymateb clybiau Cynghrair Huws Gray. Mae’r gynghrair honno yn datblygu’n fwyfwy cystadleuol gyda safonau’n codi ar, ac oddi ar, y cae.” Mae 21 o clybiau wedi gwneud cais. Yn ogystal â’r saith o’r HGA mae 12 clwb yr Uwch Gynghrair bresennol a hefyd Pen-y-bont a Hwlffordd o Gynghrair Cymru (y De). Bydd clybiau'n cael eu hasesu ar eu hisadeiledd(stadiwm), datblygu ieuenctid, materion cyfreithiol, ariannol a chymwysterau’r hyfforddwr, personél a siarteri clwb. Mae’r drwydded yn hanfodol i glybiau fedru cymryd rhan yn Uwch Gynghrair Cymru. Seven Huws Gray Alliance clubs have applied for a FAW Domestic Licence in 2012/13. They are CPD Porthmadog, Buckley Town, Cefn Druids, Connah’s Quay, Flint T U, Llandudno Town and Rhyl. FAW Licensing Officer, Andrew Howard, commented, “I am delighted with the response of those clubs in the Huws Gray Alliance. The league is getting more and more competitive and standards are increasing both on and off the field.” In all 21 clubs have applied. In addition to the HGA Seven the 12 current WPL clubs plus Bridgend and Haverfordwest from the Welsh league (South) have all applied. Clubs will be assessed on infrastructure (stadium), youth development, legal and financial matters and coach qualifications, personnel and club charters. The licence is a pre-requisite for participating in the WPL. 15/09/11 Rhagolwg: v Cegidfa / Preview: v Guilsfield ![]() Mae Cegidfa wedi cael dechrau digon anodd i’r tymor hwn, a hyd yma wedi sicrhau ond un pwynt -o gêm gyfartal yn erbyn Llanrhaeadr. Ond gair o rybudd, er iddynt golli o 5-0 yn y ddarbi yn erbyn Caersws bu dwy arall o’r gemau a gollwyd yn erbyn Y Fflint ac yn erbyn Conwy –dau glwb cymharol gryf- yn agos iawn. Ers y tymor diwethaf mae Russ Cadwallader wedi colli'r ymosodwr addawol Ross Frame ond wedi dod a dau ymosodwr arall fewn yn ei le –y profiadol Danny Barton a hefyd Will Thomas o Aberriw. Ddydd Sadwrn bydd heb Rob Cookson, y chwaraewr ochr chwith profiadol, a gafodd ddwy garden felen ddydd Sadwrn. Wedi’r holl goliau yn yr HGA ym mis Awst mae pethau wedi sobri ychydig erbyn hyn â’r mwyafrif o gemau wedi bod yn llawer tynnach nac oedd y bwrlwm dechreuol yn awgrymu. Peth da i’r gynghrair ydy hyn ac yn debyg o arwain at gystadleuaeth frwd ym mhen uchaf y tabl, lle na fydd yn bosibl i unrhyw glwb gymryd unrhyw ganlyniad yn ganiataol. Port take on Montgomeryshire club Guilsfield on Saturday. The last time the two clubs met was in the League Cup Final when a determined Guilsfield ran out clear winners on the day by 3-0. Previously, in the league, Port had gained a double over the mid-Wales club winning both games without conceding a goal. Guilsfield have had a difficult start to the current season picking only one point so far from a home draw with Llanrhaeadr. But a word of caution, despite going down by 5-0 in the mid-Wales derby against Caersws last Saturday, two of their other defeats were by the odd goal suggest that they were far from outplayed by the relatively strong opposition of Flint and Conwy. Manager Russ Cadwallader has lost his excellent young striker Ross Frame from last season and has brought in experienced striker Danny Barton and also Will Thomas from Berriew as replacements. On Saturday he will be without experienced left sided player Rob Cookson who picked up two yellow cards last week. After an avalanche of goals in August recent HGA results show that things might have tightened up generally with more of the recent results having been a great deal closer than the early runaway victories might have suggested. This can only be good for the league and will hopefully lead to an interesting competition at the top of the table where clubs are unable to take results for granted. 12/09/11 Academi yn cychwyn eu tymor / Academy open their season ![]() Sylw Mel Jones, Cyfarwyddwr yr Academi, oedd fod y dair gêm yn dipyn agosach nac oedd y sgoriau yn awgrymu. Dywedodd ei fod yn hapus gyda’r perfformiadau a oedd yn dangos llawer o addewid. The Porthmadog Academy opened their season with games at U-12, U-14 and U-16 at Connah’s Quay on Sunday (11 September). Port were winners at U-14 level by 6-1 while Connah’s Quay came out on top in the other two age group games. The U-12 game ended 5-0 in Connah’s Quay’s favour while at U-16 they ran out winners by 4-1. Academy Director Mel Jones commented that all three games were much tighter than the score lines suggest. He declared himself pleased with the performances which showed much promise. 12/09/11 Ymarfer heno / Training tonight Ymarfer i’r tair carfan heno fel arfer am 6.30pm -12 Medi. Training as as usual Monday evening, 6.30 pm for all three squads -12 September. 12/09/11 Ysgrifennydd newydd Cymdeithas yr Arfordir / New secretary for NWCFA ![]() Gwnaed y cyhoeddiad ar eu gwefan sydd ar ei newydd wedd ac wedi’i wella’n sylweddol. Mae Alun Foulkes yn apelio ar glybiau ac unigolion - “gweithiwch efo mi ac nid yn fy erbyn.” Aeth ymlaen, “... mae’r gymdeithas hon yn wynebu nifer o sialensiau wrth anelu am sefydlogrwydd a byddaf yn bendant yn ddibynnol ar eich cydweithrediad llawn a’ch dealltwriaeth er mwyn i ni gyd fedru symud ymlaen. Yn ystod y tri mis nesaf bydd pwyllgor gwaith newydd yn cael ei ffurfio ac ni fyddwn am weld eto y math o drafferthion a welwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.” Mae Alun Foulkes yn annog clybiau ac unigolion “i beidio ail gychwyn y mân ddadleuon neu hen elyniaethau’r gorffennol" ac mae’n addo “bod mor dryloyw a phosibl” yn y modd mae’n ymwneud â’r clybiau. The North Wales Coast Football Association has announced the appointment of a new General Secretary and that with immediate effect. He is Alun Foulkes an experienced football administrator and former secretary of the Cymru Alliance. The Coast Association will now hope that they can begin to put behind them a turbulent period in their history. The announcement is made on their revamped and much improved website. The new secretary makes a “please work with me and not against me” appeal to clubs in the area. He says, “... this Association continues to face many challenges in its ultimate goal of achieving stability and no doubt I will be relying on your full co-operation and understanding to enable us all to move forward. The next 3 months will see a new Executive Council formed and we cannot revisit the scenes that have been witnessed during the last 12 months.” He urges clubs and individuals “not get carried away with petty squabbling and vendettas” and promises “to be as transparent as possible” in his dealings with clubs. 08/09/11 Rhagolwg: v Conwy / Preview: v Conwy ![]() Y tro diwethaf i Port ymweld â’r Morfa oedd y tymor diwethaf yn ail rownd Cwpan Gymru, gêm a enillwyd gan Port o 4-1 gyda thair o’r goliau'n dod yn chwarter awr ola'r gêm. Y sgorwyr oedd Rhys Roberts, Paul Roberts, Iwan Williams a Marcus Orlik. Yn ogystal â newid rheolwr mae Conwy wedi cryfhau eu carfan ers y llynedd gyda Rob Marshall-Jones yn dychwelyd o Langefni a Liam Jones, amddiffynnwr arall profiadol, yn ymuno o Fwcle. Hefyd arwyddwyd golwr newydd o'r enw Gary Higham. Un sydd wedi gadael y clwb ydy’r ymosodwr Toby Jones a drosglwyddodd i Gastell Nedd. Un i gadw golwg arno fydd Michael Lundstram, prif sgoriwr y gynghrair gydag wyth gôl, sef yn union hanner cyfanswm goliau ei glwb hyd yma. Er y perfformiad da a gafwyd fel tîm ddydd Sadwrn mae Gareth Parry'n ymwybodol o’r angen chwilio am bwyntiau llawn cyn y gemau anodd yn erbyn Rhyl, Cei Conna, Bwcle a Chaersws fydd yn dilyn. Roedd safon y chwarae ddydd Sadwrn yn haeddu’r tri phwynt a dyna fyddai wedi digwydd pe bai’r cyfleoedd da yn yr hanner cyntaf wedi eu cymryd. Gobeithio bydd y pêl-droed gorau a welwyd ar y Traeth ers sawl blwyddyn bellach yn cael ei wobrwyo gyda chanlyniad da ddydd Sadwrn. On Saturday Port visit the Morfa, home of the new season’s surprise packets Conwy United. The promoted club under new management team of Steve Jones and Dean Martin have got off to a flying start winning four of their five games with their only defeat coming against Cefn Druids. Port’s last visit to the Morfa was for last season’s Welsh Cup 2nd round tie which Port won by 4-1 with three goals coming in the last 15 minutes of the match. The goalscorers were Rhys Roberts, Paul Roberts, Iwan Williams and Marcus Orlik. Since then as well as a change of management, Conwy have strengthened their squad since l with the return of Rob Marshall-Jones from Llangefni and the signing of another experienced defender in Liam Jones from Buckley and also a new keeper in Gary Higham. One player who has left since last season is striker Toby Jones, transferring to WPL club Neath. One to watch will be Michael Lundstram the league’s leading scorer with 8 goals –exactly half of his club’s goals so far. Gareth Parry, despite another good team performance last Saturday, is well aware of the need to look for maximums before they begin a series of difficult encounters against Rhyl, Connah’s Quay, Buckley and Caersws. The quality of the play on Saturday deserved to be rewarded with three points and would have been had first half opportunities been taken. Let’s hope that some of the best football we have seen for years at the Traeth will matched by a good result on Saturday. ![]() Port adref yng Nghwpan Ieuenctid Cymru / Port at home in FAW Youth Cup Gartref yn erbyn Bangor fydd Porthmadog yn Rownd 1 Cwpan Ieuenctid Cymru. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar y Traeth ar ddydd Sul, 25 Medi. Porthmadog have been drawn at home to Bangor in Round 1 of the FAW Youth Cup. The game will be played at the Traeth on Sunday, 25 September. 06/09/11 Cofio OG / OG a tribute Gyda thristwch y cofnodwn golli Geraint Jones, ‘OG’ cefnogwr oes i’r clwb ac yn un o ymddiriedolwyr y Traeth. Estynnwn ein cydymdeimlad â Margaret a’r teulu ar ran y clwb. Yma cawn deyrnged haeddiannol i ‘OG’ gan Dafydd Wyn Jones un arall o gefnogwyr oes y clwb. “Fy nghof cyntaf o OG oedd mynd gyda fy modryb ag ewythr, Bet ac Evie Morris Williams ar y trên i Fangor i gefnogi Port mewn un o amryw rowndiau terfynol y gwahanol gwpanau yn y 1950egau. ‘Roedd yr un oed a mi ac ‘roedd yr oedolion oedd gydag ef yn rhannu ‘compartment’ gyda mi a Bet ac Evie. Pêl-droed oedd y sgwrs o Port i Fangor ac nid am Man U, Newcastle a Chelsea (doedd Lerpwl yn neb adeg hynny!) ond Port a’n arwyr fel Glyn Owen, Robin Dachan, Y Brodyr Griffiths o Abersoch, Dafydd Lloyd ac yn y blaen. Y tro nesaf, trên i’r Drenewydd oedd hi, a’r tro yma colli i 55th. RA Tonfannau wrth geisio ennill Cwpan Amatur Cymru am y trydydd tro yn olynol. Cefais gwmni OG bryd hynny hefyd. Wedyn daeth cyfnod llewyrchus y chwedegau, dyddiau Mel Charles. “Yn ystod y saithdegau ‘roedd yn aelod pwyllgor pybyr ac yn gefnogwr brwd. Tan yn ddiweddar ‘roedd yn weithiwr ffyddlon a chaled yn noson y ‘Bingo’ sefydliad sydd wedi cyfrannu miloedd i goffrau’r clwb ers y 70egau cynnar. ‘Roedd OG yn rhan annatod ohono ers y cychwyn hyd at yn ddiweddar. Wrth weithio yng ngorsaf Bwer Trawsfynydd sefydlodd ei hun fel asiant i’r Tôt Misol gan godi miloedd dros y blynyddoedd at goffrau’r clwb. “Un peth yn fwy na dim sy'n aros yn y cof, heblaw am ei gefnogaeth brwd a diflino i’r clwb am hanner cant o flynyddoedd, oedd ei gred ddiffuant nad oes posib ennill yr un gêm heb ‘wingars’ ac o bosib dyna sydd yn tanlinellu mae creadur o’r 50egau oedd ac nid un oedd yn cefnogi egwyddorion hyfforddwyr y presennol. Dyn ei filltir sgwâr, fe fydd colled ar ei ôl, yn y bingo ac yn fwy arwyddocaol, ar y Traeth. Pob cydymdeimlad â Margaret a’r teulu.” It is with regret that we have to report the death of lifelong Port supporter and Traeth trustee, Geraint Jones, ‘OG’ as he was known to one and all. As a club we extend our sincere sympathy to Margaret and the family. Here another lifelong supporter, Dafydd Wyn Jones, remembers OG’s tremendous contribution to the club. “The first time I met OG was on a special train hired to take hundreds of Port fans to the one of very many Cup finals they played at Farrar Road, Bangor in the 1950’s. I was with my Uncle Evie and Auntie Bet and we shared a compartment with OG and his relevant minders. We were the same age and from Port to Bangor the talk was all about football. But not about Man U, Newcastle and Chelsea (Liverpool were small fry in those days!) but Port and our heroes Glyn Owen, Robin Dachan, the Griffiths Brothers from Abersoch, Dafydd Lloyd and so on. The next time we shared a compartment together was on our way to Newtown, this time to see Port failing their bid to win three consecutive Welsh Amateur Cups by losing to 55th. RA Tonfannau. Then came the highly successful Mel Charles era in the 1960’s. Throughout the 70’s OG was a committed committee member and enthusiastic supporter. He was involved in the club’s weekly bingo sessions from its establishment in the early 70’s until very recently playing an integral part in raising thousands of pounds over the period. Working at Trawsfynydd Power station he had established himself as an agent selling the Club’s monthly tote. One thing that remains in one’s memory, as well as his 100% commitment to the Club over 50 years was his obsession with a belief that you cannot win any game without wingers. This emphatically made him a philosophic child of the 1950’s and not a supporter of the ‘wingless’ coaches of modern times. He was Port through and through and he will be missed, in the bingo and, more importantly, down at the Traeth. Our sympathies are with Margaret and the family.” 06/09/11 Port v Bethesda bloedd o’r gorffennol / Port v Bethesda a blast from the past Yn aml mae gemau yng Nghwpan Cymru yn dod ag atgofion am rhai o frwydrau’r gorffennol. Pan ddaeth yr enwau o’r het ddydd Llun ar gyfer Cwpan Cymru eleni gwelwyd mai clwb Bethesda fydd yn ymweld â’r Traeth yn y rownd gyntaf. Hwn fydd y pedwerydd tro i’r ddau glwb gyfarfod yn y gystadleuaeth ond y tro cyntaf ar y Traeth! Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod oedd ar 10 Hydref 1999 gyda Port yn teithio i Bethesda ac yn curo o 3-0 –dwy gôl i’w rhwyd eu hunain gan Bethesda a gôl arall Port gan Gerallt Jones. Y tro cynt, pan gyfarfu’r ddau yn rownd un yn nhymor 1974/75, cafwyd buddugoliaeth swmpus o 5-1 yn Bethesda eto gyda goliau Port yn cael eu sgorio gan Jimmy McCarthy (2), ac un yr un gan Dave Campbell, Frank Gilmour a Geoff Foeshaw. Y tro arall oedd yn ôl yn Tachwedd 1960 gyda gêm gyfartal 1-1 yn Bethesda. Tynnodd Bethesda yn ôl o’r gystadleuaeth cyn yr ail-chwarae oherwydd problemau ariannol. (Diolch i Gerallt Owen am y wybodaeth). When the names are drawn for the Welsh Cup the ties thrown up often bring back memories of past battles. The Welsh Cup draw made on Monday sees Porthmadog host Welsh Alliance League team Bethesda Athletic in round 1. This will be the fourth meeting between the sides in the competition, but the first ever at Y Traeth! Their last meeting was on October 10 1999 when Port travelled to Bethesda and won 3-0 thanks to two own goals and a Geraint Jones strike. Before that the two sides were paired in round one of the 1974/75 season when a convincing 5-1 victory was achieved again at Bethesda with the goals coming from Jimmy McCarthy, with two, and one apiece for Dave Campbell, Frank Gilmour and Geoff Foeshaw. The other meeting was back in November 1960 when a 1-1 draw, again at Bethesda, prompted a replay but Bethesda withdrew from the competition before the replay was played citing financial problems.(Thanks to Gerallt Owen who supplied this information.) 05/09/11 Trefniadau y gêm rhyngwladol Dan-16 / Arrangements for U-16 international ![]() Ychwanegodd Gerallt Owen, ysgrifennydd y clwb, “Yr hyn a ddaeth yn amlwg oedd maint y cymorth sydd angen ar y noson –stiwardiaid, rhai wrth y gatiau, gwerthwyr raffl a gweithwyr cantîn. Bydd y clwb yn ddiolchgar am bob cymorth ac os medrwch chi helpu gydag unrhyw un o’r tasgau angenrheidiol cysylltwch â’r cadeirydd Phil Jones. Arrangements for the prestigious Victory Shield U-16 international between Wales and Northern Ireland to be played at the Traeth on 16 November are moving ahead. During last week a meeting with Welsh Football Trust representatives Gavin Rees and Meirion Appleton was held at the Traeth. Club officials described the meeting as being both ‘very useful and a real eye-opener on what is involved when a game is being shown live on Sky.’ Club secretary Gerallt Owen added, “What really emerged was that a large number of helpers will be required on the night including stewards, gatemen, raffle sellers and canteen staff. The club would be grateful for all support and if you are able to volunteer for any of these essential tasks please contact club chairman Phil Jones. 05/09/11 Port gartref yng Nghwpan Cymru / Port have home draw in Welsh Cup ![]() Dyma'r gemau eraill yn Rownd 1 sy’n cynnwys clybiau o Wynedd a Môn ydy: Bermo v Rhuthun Derwyddon Cefn v Caernarfon Cei Conna v Gwalchmai Llangefni v Dinbych Llanidloes v Glantraeth Bydd gemau'r Rownd Gyntaf yn cael eu chwarae ar 1 neu 2 Hydref. ![]() Other games involving Gwynedd and Anglesey clubs are: Barmouth v Ruthin Cefn Druids v Caernarfon Llandrindod v Llanrug Connah’s Quay v Gwalchmai Llangefni v Denbigh Llanidloes v Glantraeth The Round One Ties will be played on 1 or 2 October. 04/09/11 Angen gwirfoddolwyr i wneud fideo o’r gemau / Volunteers required to video matches ![]() Mae Gareth yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio’r camera - gan bwysleisio nad oes angen bod yn unigolyn camera profiadol, “Y cyfan sydd angen ydy golwg hir o’r gêm heb yr un ‘close-up’. Fedrwch chi helpu tybed? Os nad ydych am wneud yn rheolaidd byddai gwneud nawr ac yn y man yn help mawr. Os fedrwch chi helpu, cysylltwch â Phil neu Gerallt neu ar ddiwrnod gêm gyda un o’r tîm reoli. Many supporters will have noticed the video camera being used from the gantry at the Traeth. It is Gareth Parry’s idea to video matches so that he can use it during training sessions. “I find it useful to make coaching points with the players actually seeing themselves in action rather than trying to explain by word of mouth only,” he says. He is looking for volunteers to man (or woman) the camera. He is keen to stress that being an experienced cameraman is not essential, “All that is needed is a long view of the game with no close-ups required. Do you think you can help out? Even on an occasional basis it could be a tremendous help.” If you are able to -get in touch with Phil or Gerallt or with one of the management team on match days. 03/09/11 Darren Jones yn gadael / Darren Jones to leave ![]() Cynt bu Darren yn chwarae dros Bethesda a Glantraeth. Hefyd ymddangosodd y cyn brentis gyda Manchester City dros Bangor yng Nghwpan UEFA yn erbyn Stardid, Yugoslavia yn 2003. Hefyd mae wedi cynrychioli Ynys Môn yn Gemau’r Ynysoedd. Mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda i Darren at y dyfodol. Left sided defender Darren Jones is to leave the club. Darren who joined Porthmadog FC in the summer of 2010 has found the pressure of work and business commitments such that he feels unable to give 100% -the only way he knows- to training and to playing week in week out. Gareth Parry, thanking Darren for his contribution to the club, added, “I especially want to thank Darren for the way in which he played through injury, towards the end of last season, when the club had a lengthy injury list and but for the dedication of players such as him we would have found it very difficult to put a team on the pitch at times. He has also been a strong, valuable personality within the changing room.” Darren previously played for Bethesda and Glantraeth. The former Manchester City apprentice appeared in a UEFA Cup tie for Bangor against Startid of Yugoslavia in 2003. He has also represented Ynys Môn in the Island Games. All at the club wish Darren well in the future. 01/09/11 Gêm rhyngwladol Cymru v Denmarc / Wales v Denmark U-17 international ![]() Cynhelir yr ail gêm ar gae Llandudno, Parc Maesdu, ar y Sul canlynol sef dydd Sul, 11 Medi gyda’r gic gyntaf y tro yma am 12.30pm. Bydd mynediad am ddim i’r ddwy gêm. Derbyniwyd y wybodaeth hon gan Angela Roberts yn rhinwedd ei swydd fel swyddog cyswllt gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, ei gemau rhyngwladol cyntaf. Felly cefnogwch Cymru ac Angela! ![]() The second game between the two countries will be played at Llandudno Town’s Maesdu Park on the following Sunday, 11 September with the kick off at 12.30 pm. Admission will be free to both games. Information supplied by Angela Roberts in her first international venture as liaison officer so support Wales and Angela! 31/08/11 Cefn cant y cant ar y Traeth / Perfect Cefn visit the Traeth ![]() Y tro diweddaf i’r ddau glwb gyfarfod oedd tua ddiwedd tymor 2010/11 mewn gêm o giciau hir uniongyrchol gyda’r Derwyddon yn fuddugol oherwydd dwy gôl Andrew Swarbrick yn erbyn un Marcus Orlik. Ar eu ymweliad diwethaf â’r Traeth, yng ngêm gyntaf tymor 2010/11, cyfartal di-sgôr oedd hi. Gobeithio y tro yma y gwelwn dipyn o basio da a phêl-droed sy’n deilwng o’ gorau yng Nghynghrair Huws Gray. Bydd y Derwyddon heb yr amddiffynnwr Ashley Wilson a gafodd gerdyn coch unigol yng ngêm ddiwethaf y Derwyddon yn erbyn Conwy. Ond yn eu carfan bydd sawl un â ymunodd dros yr haf gan gynnwys eu prif sgoriwr Paul Speed, yr ymosodwr Jon Rush sy’n ail ymuno â’r clwb, y chwaraewr canol cae Tom McElmeel a chyn amddiffynnwr Port, John Keegan. Ymysg y garfan ers llynedd mae’r profiadol Mark Harris ac Adam Hesp sydd a thafliad mawr a allai greu problemau. Tra bod Gareth Parry i Port yn wynebu’r dewis anodd arferol rhwng y record ddiweddar orau a chadw pawb yn y garfan o 16 yn hapus. Cefnogwch yr hogiau ddydd Sadwrn! Cefn Druids will arrive at the Traeth on Saturday able to boast a 100% record in the four games of the current season and deservedly sitting on the top of the table. This will be their first away fixture of the season. Port, also unbeaten, come to this important test on the back of two drawn games and though under no illusions about the size of the task will be keen to return to winning ways. These two clubs last met towards the back end of last season in a game dominated by route one football with the Druids edging it by two Andrew Swarbrick goals to one by Marcus Orlik. Let’s hope this time round we can look forward to good passing football with some quality worthy of the best in the HGA. The Druids will be without defender Ashley Wilson who received a straight red card in the club’s last game at home to Conwy United. They will however have in their line-up several new signings who joined over the summer including leading scorer Paul Speed, returning striker Jon Rush, midfielder Tom McElmeel and former Port defender John Keegan. Amongst their line-up from last season they have the experienced Mark Harris and long throw expert Adam Hesp who will pose all the usual problems. Gareth Parry will face the weekly selection dilemma of striking a balance between form and maintaining a happy 16-man squad. Get behind the lads on Saturday! 31/08/11 Cynghrair Dan-19 Pump yn gwneud cais / Five clubs apply for New U-19 league 5 tîm sydd wedi gwneud cais i ymuno â chynghrair newydd Dan-19 yr HGA ar gyfer 2011/12. Y clybiau ydy Derwyddon Cefn, Fflint, Cei Conna, y Rhyl a Ruthin. Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Sul neu yng nghanol wythnos gyda 2 Hydref yn ddyddiad posibl i gychwyn y gynghrair. Bydd angen i bob chwaraewr arwyddo ffurflenni ieuenctid y Gymdeithas Bêl-droed. Mae CPD Porthmadog wedi penderfynu peidio gwneud cais ar gyfer 2011/12 gyda swyddog o’r clwb yn dweud, “Y tebygrwydd ydy mai chwech neu saith clwb ar y gorau fydd yn y gynghrair newydd gan rhoi rhaglen o ddeuddeg gêm. Gan nad oes gennym ail dîm mae’n annhebygol y gallwn ddenu chwaraewyr gyda nifer mor fychan o gemau. Byddai wedi bod yn fwy synhwyrol i gael Cynghrair Dan-19 i’r Gogledd yn cynnwys clybiau o’r Uwch Gynghrair ac yr Huws Gray gan rhoi’r posibilrwydd o gael 12 neu 13 o glybiau. Wedyn byddech yn sôn am 22 neu 23 o gemau o safon uchel ac yn erbyn clybiau cryf. Mae’r hogiau eisiau chwarae’n rheolaidd ac yn aml maent yn barod i fynd i lawr lefel i sicrhau hyn.” “Byddwn yn cadw golwg ar y datblygiadau ac efallai y byddwn yn ymuno ymhellach ymlaen os bydd strwythur call a chynaliadwy yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf .” Five Teams have applied to enter the new HGA -19 League 2011/12. They are Cefn Druids, Flint, Connah’s Quay, Rhyl and Ruthin. With fixtures to be played on Sunday or midweek a provisional starting date of 2 October has been pencilled in. All players will be required to sign FAW Youth forms. Porthmadog FC have decided not to enter a team this season. A club official stating, “It appears that the eventual league may consist of six or seven clubs. On the best scenario therefore a schedule of 12 games. With no reserve team to draw on ... it seems unlikely that players could be attracted by such a paltry number of games. It would make more sense to have a North Wales U19 League, consisting of clubs from both the WPL and the HGA in one league, giving a potential league of 12 or 13 clubs. You could then be talking of 22 or 23 high quality games against decent opposition. Players want to play regular football and are often prepared to step down a level to find it.” “We will watch developments and may join at a later stage if a sensible and sustainable structure develops in the years to come.” 29/08/11 Diolch a llongyfarchiadau i’n Noddwyr / Diolch a llongyfarchiadau i’n Noddwyr ![]() Mae CPD Porthmadog, sydd hefyd yn sefydliad amlwg yn yr ardal gyda hanes yn estyn yn ôl i’r 1880au neu'n gynharach, yn falch o barahau â'u cysylltiad gyda chwmni pwysig, sy'n gwneud cyfraniad amgylcheddol sensitif i economi’r ardal. Mae ymchwil annibynnol yn dangos fod y ddwy reilffordd yn cyfrannu £15 miliwn i’r economi leol ac yn creu mwy na 350 o swyddi yn y cylch. Dymunwn weld llwyddiant ‘Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri’ yn parhau, ac i’r cysylltiad rhwng dau sefydliad uchelgeisiol brofi’n ffrwythlon i Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a hefyd i CPD Porthmadog. It is excellent news that ‘Ffestiniog Railway’ will continue as the club’s main sponsors for season 2011/12. They are now known as ‘Ffestiniog and Welsh Highland Railways’. We congratulate our sponsors on what has been a historic year with the ‘Welsh Highland Railway’ reaching all the way to Porthmadog following clearance, drainage and ballasting works by contractors, tracklaying by volunteers , replacing the missing bridges, installing the flat crossing over the Cambrian Coast line and building road crossings. This finally enabling through services to operate between Blaenau Ffestiniog and Caernarfon. Porthmadog FC, themselves a long established institution in the area -with a history stretching back to the 1880’s or possibly earlier-, are pleased to be associated with this important organisation, one which makes an environmentally-sensitive contribution to the economy of the area. Independent research shows that the two railways generate over £15 million for the local economy each year and create more than 350 jobs in the surrounding area. We wish the ‘Ffestiniog and Welsh Highland Railways’ continued success and hope that the association with Porthmadog FC will prove fruitful for both ambitious organisations. 26/08/11 Cynllun newydd Gwobrau Chwarae Teg / Fair Play Award scheme to be introduced ![]() Amcan y cod ydy annog ymddygiad da, codi ymwybyddiaeth o neges ‘Chwarae Teg’ ac ysbrydoli chwaraewyr, clybiau a chefnogwyr i helpu lledaenu’r neges er budd pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru. Mae’n pwysleisio cyfrifoldeb pawb am ddelwedd y gêm. Mae’n annog chwarae’r gêm yn deg, dangos Parch at wrthwynebwyr, cyd-chwaraewr, dyfarnwyr a swyddogion gan ymwrthod ag agweddau negyddol fel cyffuriau a hiliaeth. Bydd y gwobrau'n cael eu rhoi ym mhob adran o’r cynghreiriau sydd a chysylltiad uniongyrchol â’r Gymdeithas. Bydd pob enillydd ar ba bynnag lefel yn y pyramid yn derbyn y wobr ariannol. Bydd yr arian yn mynd, er enghraifft, at offer neu welliannau i’r caeau. Bydd rhaid i’r enillwyr anfon anfoneb neu amcan bris at y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer yr offer neu’r gwaith i’w wneud. The FAW is to introduce a Fair Play Award Scheme to encourage clubs, players and supporters to follow the FAW Fair Play Code. The aim of the code is to encourage good behaviour, raise awareness of the ‘Fair Play’ message and to inspire players, clubs and supporters to take an active role in promoting this message for the benefit of football at every level in Wales. It emphasises our collective responsibility for the image of the game. It encourages playing the game fairly, showing Respect for opponents, team-mates, referees, officials and spectators and the rejection of the negative aspects such as drugs and racism. The awards will be made in each division of the directly affiliated leagues. Each winner regardless of level in the Pyramid shall receive a monetary incentive. This prize money is to go towards, for example, equipment or ground improvements. The winning clubs must provide the FAW with an invoice or quotation for the equipment or for the work to be carried out. 25/08/11 HGA yn cael caniatad / HGA receives go ahead ![]() Bydd rhaid i chwaraewyr, yn ôl rheolau newydd y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer 2011/12, gofrestru i glybiau ar ffurflenni ieuenctid. The FAW have given the HGA permission to start a U-19 league. HGA officials have received verbal acknowledgement that they can introduce a U-19 league for the current 2011/12 season. The league will now await the return of application forms before fixtures and a starting date can be confirmed. Players taking part in this competition will, according to new FAW rules for 2011/12, have to register for clubs on youth forms. |
|||
|