Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
24/08/11
I Lanrhaeadr-ym-Mochnant am y tro cyntaf / Our first time in Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Llanrhaeard-ym-Mochnant Daeth ychydig o realaeth yn ôl i’r gynghrair wedi trydedd rownd gemau HGA . Ar ôl pythefnos o sgorio uchel a chanlyniadau yn union yn ôl disgwyl, cafodd y ceffylau blaen neges na fyddai’r cyfan yn y tymor yn dilyn cynllun hwylus. Ychydig byddai wedi rhagweld fod Cei Conna yn colli ar Lannau Dyfrdwy o dair gôl a mai Cefn a Conwy fyddai’r unig glybiau a record o dair buddugoliaeth, na chwaith fod Llanrhaeadr yn sicrhau eu pwynt cyntaf yn Cegidfa. Ond prin y medrau fod yn sioc i Port fod Llandudno yn gosod sialens gref a hynny er waethaf iddynt godi ond un pwynt o’u dwy gêm gyntaf.
Felly peidiwch cymryd dim oll yn ganiataol ydy’r neges wrth i Port deithio i Llanrhaeadr am y tro cyntaf i gae a fu’n destun apêl yn yr haf cyn i’r clwb gymryd eu lle yn yr HGA. Hon fydd eu gêm gyntaf adref wedi iddynt chwarae tair gêm oddi cartref. Sgoriwyd 11 gôl yn eu herbyn yn y ddwy gêm gyntaf ond dangoswyd cymeriad wrth sicrhau gêm gyfartal 1-1 nos Fawrth gyda Jamie Evans yn sgorio i’r Llan. Rheolwr y clwb ydy Mario Laquinta ac enillodd y clwb ddyrchafiad o Gynghrair Spar y Canolbarth.
Mae’r ysbryd a ddangosodd Port nos Fawrth yn mynd peth o’r ffordd i wneud yn iawn am golli dau bwynt nos Fawrth. Ychydig o dimau Port yn y blynyddoedd diwethaf byddai wedi brwydro yn ôl yn y ffordd yma a mynd yn agos i gipio’r tri phwynt at y diwedd. Byddant hefyd wedi dysgu fod rhaid ennill yr hawl i chwarae’r gêm basio arferol ac yn ymwybodol nad Llandudno fydd yr unig glwb i fod yn drefnus, yn roi sialens gorfforol ac yn llenwi canol y cae.
I ddefnyddwyr Sat Nav : Cod Post cae Llanrhaeadr ydy SY10 0LG. Mae’r cae yn y pentref ar y dde ar ôl yr ysgol.

The third round of HGA games has brought a dose of reality to the league. After the high scoring and predictability of the first two rounds, potential front runners found that not everything will go to a set plan. Few would have predicted that Connah’s Quay would be beaten by three clear goals that Conwy and Cefn would be the only clubs with three straight wins, or that Llanrhaeadr would win their first point at Guilsfield. Port however could not have been surprised by the strength of Llandudno’s challenge and that despite the fact that they had only picked up one point from their first two games.
So take nothing for granted is the watchword as Porthmadog pay their first visit to the Recreation Field, Llanrhaeadr the ground which was the subject of an appeal during the summer before the club was allowed to take their place in the HGA. This will be club’s first home game having played all three previous games away from home. They conceded 11 goals in their first two games but bounced back for a 1-1 draw on Tuesday with Jamie Evans scoring for Llan. They are managed by Mario Laquinta and gained promotion from the Spar Mid Wales League.
The spirit shown in last Tuesday’s draw will go some way to compensate for dropping two points. Few Port teams in recent seasons would have fought back from a two goal deficit putting their opponents to the sword in the closing stages. They will also have learned that they will have to earn the right to play their passing game with Llandudno not the only opponents this season who will be organised and pose a strong physical challenge and put numbers in midfield.
For Sat Nav users the Llanrhaeadr –ym-Mochnant ground Post Code is SY10 0LG. The ground is on the right after the school.
24/08/11
Mervyn Williams yn ymuno â’r tîm reoli / Mervyn Williams joins management team

Mae Gareth Parry wedi apwyntio’r golwr profiadol Mervyn Williams yn ychwanegiad at ei dîm reoli. Rôl Mervyn fydd cynorthwyo Richard Harvey, a gan mai Richard yw’r unig golwr yn y garfan bydd Merfyn hefyd yn chwarae os bydd yna angen. Croeso i Mervyn, er iddo eisoes helpu yn y rhan olaf o’r tymor diwethaf. Bydd Mervyn yn cynorthwyo ar yr ochr ffysio a bydd ei fab Dan hefyd yn helpu. Mae Mervyn wedi cadw gol i Port yn Uwch Gynghrair Cymru yn nhymor 1995/96 ac eto yn 2004/05.

Gareth Parry has added to his management team, appointing experienced keeper Mervyn Williams as his goalkeeping coach. Mervyn’s role will be to assist Richard Harvey and also provide cover for Richard who is the only keeper in the squad. We welcome Mervyn to the club though in fact he was already assisting towards the end of last season. In addition Mervyn will be able to double up as a physio with his son Dan also helping out. Mervyn has kept goal for Porthmadog in the WPL during seasons 1995/96 and again in 2004/05.
23/08/11
Adam Hall yn arwyddo / Adam Hall signs for Port

Cwblhaodd Adam Hall ei drosglwyddiad o Bwllheli i Borthmadog ddydd Gwener diwethaf mewn pryd i chwarae ei gêm gyntaf dros y clwb yn yr HGA yn erbyn Rhos Aelwyd. Daeth i’r cae fel eilydd ar ôl 67 munud. Bu’n ymarfer gyda’r clwb dros yr haf a chwaraeodd mewn nifer o gemau cyn dymor gan greu argraff dda ar y rheolwr Gareth Parry. Mae yna feddwl uchel o’r chwaraewr canol cae ac mae’n un arall o hogiau da lleol i ychwanegu at y garfan. Yn gyn chwaraewr ifanc gyda’r Wolves arwyddodd i Aberystwyth yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol gan chwarae un gem fel eilydd i’r clwb hwnnw yn 2008/09 yn erbyn Cei Conna.

Adam Hall completed his transfer from Pwllheli to Porthmadog on Friday in time to make his HGA debut for the club last Saturday at home to Rhos Aelwyd. Adam came on as a 67th minute substitute. He has trained with the club during pre-season and made several appearances in the friendly matches, creating a good impression on manager Gareth Parry. Adam Hall is a highly regarded midfielder and another good local player to add to the squad. He is a former Wolves youth player who also signed for Aberystwyth Town during his time at university making one substitute appearance for that club against Connah’s Quay in 2008/09.
22/08/11
Academi Port i gael gweinyddwr newydd / Port Academy has a new administrator

Mae gan Academi Porthmadog weinyddwr newydd. Bydd Sian Thomas yn cymryd drosodd wrth Eddie Blackburn. Mae Sian yn fam i un o chwaraewyr Dan-12 yr Academi ac mae’n adnabyddus yn y cylchoedd sy’n ymwneud a phêl-droed yn lleol. Meddai Eddie am ei olynydd, “Rwyf wedi siarad gyda Sian wythnos diwethaf ac mae’n llawn cyffro am obeithion yr Academi ac yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r dyfodol hwnnw. Mae wedi bod yn brysur dros yr haf yn cysylltu gyda pobl ac eisoes wedi dewis cynorthwyydd i’w helpu gyda materion dydd i ddydd.”
Mae’n dda gwybod fod yr Academi llwyddiannus hon mewn dwylo diogel. Nan Williams fydd y cynorthwyydd sydd a mab yn chwarae i’r grwp Dan-11. Estynnwn croeso cynnes i Sian a Nan a dymunwn yn dda iddynt yn eu rôl newydd. Mae’n dda deall fod yna wirfoddolwyr brwdfrydig yn dal i ddod ymlaen, a sydd am weld CPD Porthmadog yn llwyddo. Rhown wahoddiad i’r gweinyddwyr newydd i ddefnyddio’r wefan ar gyfer hysbysu trefniadau ac i gyhoeddi canlyniadau gemau ac adroddiadau. Ychwanegodd Eddie (a bydd mwy gennym i ddweud amdano gyda hyn) “Byddaf bob amser ar gael i helpu Sian pan fydd yna alw.”

The Porthmadog Academy has a new administrator. Taking over the role from Eddie Blackburn will be Sian Thomas. Sian is the mother of one of the Academy’s U-12 players and she is well known in local football circles. Eddie said of his successor, “I have spoken to her this last week and she is excited about the prospects for the Academy and eager to become a part of that future. She has been busy contacting people over the summer and has already found a partner to assist in the day to day matters,”
It is good to know that this successful Academy is in a safe pair of hands. Assisting will be Nan Williams whose son plays for the U-11s. We extend a warm welcome to Sian and Nan and wish them well in their new roles. It is good to see that the supply of club volunteers has not entirely dried up and that there are still enthusiastic individuals who are keen to see Porthmadog FC succeeding. We invite the new administration to use this website to inform players of arrangements and also for results and match reports. Eddie (of whom we shall have more to say soon) adds “I shall always be available to Sian if she needs a helping hand now and again.”
21/08/11
Llandudno ar y Traeth nos Fawrth / Llandudno at the Traeth on Tuesday

Llandudno Nos Fawrth -23 Awst- bydd Llandudno yn ymweld â’r Traeth. Enwyd Llandudno gan llawer i fod ymysg y ceffylau blaen eleni. Wedi sicrhau trwydded ddomestig llynedd byddant yn edrych i efelychu’r llwyddiant yma ar y cae hefyd. Apwyntiwyd Allan Bickerstaff, hyfforddwr a rheolwr uchel ei barch (cynt gyda Airbus, Port a Rhyl), i edrych ar ôl y tîm. Un pwynt o gêm gyfartal adref yn erbyn Rhuthun oedd y cychwyn a gafodd Llandudno a wedyn colli o unig gôl y gêm yn Penrhyn-coch. Ond mae llawer wedi cael Cae Baker yn faes anodd i sicrhau tri pwynt. Dros yr haf mae Llandudno wedi colli’r ymosodwr Iwan Williams i Gei Conna a’r trefnydd canol cae, Ryan Williams, i’r Rhyl. Bydd nifer o garfan llynedd eto yn ymddangos i glwb y Maesdu gan gynnwys –Lee Thomas, Joe Morgan, Danny Hughes a Sean Eardley.
Wedi chwarae dau glwb sydd yn cael eu ystyried ymysg y rhai gwan y tymor hwn bydd Llandudno yn cynnig prawf go iawn. Llynedd cwblhaodd y clwb o arfordir y gogledd y dwbl dros Port felly dyma gyfle i dalu’r pwyth. Daeth naw gôl yn y ddwy gêm gyntaf a chwech o chwaraewyr yn barod wedi sgorio sy’n argoeli’n dda. Does yna yr un gôl yn erbyn wedi dod o chwarae agored hyd yma ond byddai’n dda torri ar y rhediad o goliau o’r smotyn! Peth prin yn yr HGA ydy gemau canol wythnos felly gobeithio cawn dorf dda i ddilyn y cychwyn addawol a gêm deniadol.

Tuesday evening (23 August) sees Llandudno visit the Traeth. Llandudno are many people’s tip for potential front runners this season. Armed with a domestic licence last season they are looking to add on the pitch progress to match developments off it. They have appointed Allan Bickerstaff, a highly respected coach and manager (formerly with Airbus, Port and Rhyl), to look after team affairs. The Maesdu club picked up a point at home against Ruthin, before going down to the only goal of the game against Penrhyn-coch. But as many clubs have found Cae Baker is not the easiest of places to visit and come away with three points. Over the summer Llandudno have lost striker Iwan Williams to Connah’s Quay and midfield organiser Ryan Williams to Rhyl. Many of last season squad -Lee Thomas Joe Morgan, Danny Hughes and Sean Eardley- will again feature for them.
After taking on two clubs who many regard among the weaker clubs this season, Llandudno will provide a sterner test. Last season the north coast club completed a double over Port so this is an occasion to look to restore the balance. Nine goals in two outings with six different players already having found the net is a promising start. No goals have been conceded in open play so far but two games and two penalties conceded is a sequence to break on Tuesday! A midweek game is a rare event in the HGA so let’s hope that the good start brings a good turnout for what should be an attractive fixture.
19/08/11
HGA yn gofyn caniatâd i gynnal Cynghrair Dan-19 / HGA seeks approval for U-19 League

Huws Gray Alliance Cynhaliwyd cyfarfod o rhai clybiau sy’n aelodau o’r HGA neithiwr (18 Awst) yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, Cei Conna i drafod y posibilrwydd o ffurfio Cynghrair Dan-19. Ar gais y clybiau trefnwyd cyfarfod hwn. Mae’r drafodaeth hon yn dilyn ymlaen o benderfyniad blaenorol clybiau’r gogledd sydd yn Uwch Gynghrair Cymru i ffurfio Cynghrair Dan-19. Y chwe clwb fydd yn y gynghrair honno ydy: Airbus, Prestatyn Town, Bala, Bangor, TNS ac Aberystwyth.
Yn 2011/12 bydd trefn yr Academi yn cael ei ymestyn i gynnwys yr oed Dan-19. Er waethaf y ffaith nad ydynt yn derbyn nawdd i gynnal eu academïau mae pump o glybiau HGA wedi parhau i’w cynnal ar gost eu hunain sef: Derwyddon Cefn, GAP Cei Conna, Llandudno, Rhyl a CPD Porthmadog.
Penderfyniad y cyfarfod oedd gwneud cais at y Gymdeithas Bêl-droed i gychwyn Cynghrair Dan-19. Deallwn fod Cyngor y Gymdeithas yn cyfarfod ddydd Llun nesaf. Os bydd yna ganiatâd byddai’n bosibl cychwyn ym mis Medi ar bnawniau Sul.

A meeting of some of the member clubs of the HGA was held last night (18 August) at Deeside Stadium, Connah’s Quay to discuss, at the request of clubs, the possibility of forming a U-19 League. This follows on from an earlier decision to form a U-19 League for northern clubs who are members of the WPL. The six clubs who will form this league are Airbus UK Broughton, Prestatyn Town, Bala Town, Bangor City, The New Saints and Aberystwyth Town.
The Academy system will be extended this season to the U-19 level. Despite not receiving grant aid to run their Academies, five HGA clubs have continued to maintain Academies at their own cost: Cefn Druids, GAP Connah's Quay, Llandudno Town, Rhyl FC and CPD Porthmadog.
Last night’s meeting decided to seek FAW permission to start a U-19 League this season. It is understood that the FAW Council meets on Monday. If permission is granted the League could commence during September with Sunday the favoured day for playing matches.
18/08/11
Yr Academi yn paratoi at y tymor / The Academy prepares for the season

Er fod yr Academi wedi bod ar wyliau dros yr haf mae’r Cyfarwyddwr a’r staff gweinyddol wedi bod yn brysur ac yn barod am bob sialens sydd i ddod. Wedi i’r treialon cael eu cynnal arwyddwyd 54 o chwaraewyr. Mae nifer o chwaraewyr eraill, oedd yn methu dod i’r treialon, wedi dangos diddordeb a byddant yn cael eu hasesu yn ystod y sesiynau hyfforddi cyntaf. Wedyn bydd y niferoedd terfynol yn cael eu penderfynu erbyn 1 Medi.
Bydd y sesiynau hyfforddi yn cychwyn ar nos Wener, 19 Awst pan fydd y garfan Dan 11 yn cyfarfod o dan lygad barcud y cyfarwyddwr Mel Jones. Wedyn dydd Llun (er waethaf cystadleuaeth wrth y syrcas am gaeau Clwb Chwaraeon!) bydd yr hogiau Dan 12, Dan 14 a Dan 16 yn cyfarfod am 6.30 pm. Bydd y rhestr gemau yn cael ei osod ar y wefan unwaith y derbynnir hwy gan yr FAW.

The Academy has been in Summer recess but the Director and Office Staff have been active and are ready for new challenges ahead. After holding trials in June a total of 54 players were signed, with many more expressing their interest but unable to attend trials. These latter will be assessed by coaches at the early training sessions and squad numbers finalised, hopefully by the 1st. September.
Early training get togethers will start on Friday 19 August when the U11s will assemble, once again under the watchful eye of the Director, Mel Jones. Then on Monday (despite competition for the Clwb Chwaraeon Fields from a Circus!) theU12s, U14s, U16s, will meet at 6.30 pm to start their season. The fixture list has not yet been received from the FAW but, as soon as it is available, it will be posted on the website.
17/08/11
Croesawu Rhos Aelwyd i’r Traeth / Welcoming Rhos Aelwyd to the Traeth

Rhos Aelwyd Yn dilyn y fuddugoliaeth gyfforddus dros Llangefni ddydd Sadwrn diwethaf mae gan Port ddwy gêm ar y Traeth mewn 4 diwrnod. Y gyntaf bnawn Sadwrn gydag ymweliad Rhos Aelwyd a bydd Llandudno yn dilyn nos Fawrth. Creodd y clwb o ardal Wrecsam dipyn o syndod y tymor diwethaf yn gorffen yn y pedwerydd safle yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr HGA.
Bu nifer o newidiadau yn y clwb ers hynny, y pwysicaf o'r rhain oedd ymadawiad Steve Walters, rheolwr llwyddiannus y llynedd, sydd bellach yn hyfforddi Bwcle. Yn cymryd lle Walters mae cyn-amddiffynnwr profiadol Cefn, sef Aled Rowlands. Dau ymadawiad pwysig arall ydy’r ddau ymosodwr Mike Burke a Jon Rush. Mae Burke wedi ymuno â Bwcle a Rush yn ôl gyda’r Derwyddon. Llwyddwyd i gadw’r chwaraewr canol cae allweddol, Steve Powell a dreuliodd ran o’r haf ar brawf gyda Crewe. Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith y newidiadau yma gan mai'r unig dystiolaeth hyd yma ydy’r golled ar ddiwrnod agoriadol y tymor yn erbyn Conwy y clwb a sicrhaodd ddyrchafiad at y tymor hwn.
Er bod llynedd wedi yn un llwyddiannus i Rhos colli fu eu hanes yn y ddwy gêm yn erbyn Port. Roedd yn gêm agos ar y Traeth gyda gôl Marcus Orlik a gôl i’w rhwyd eu hunain yn ddigon i rhoi’r fuddugoliaeth o 2-1. Mae llawer wedi newid ar y Traeth ers llynedd hefyd ac er fod y fuddugoliaeth ddydd Sadwrn yn ddigon cyfforddus roedd yn anorfod yn dioddef o’i gymharu â uchaf bwyntiau y gemau cyn dymor. Ond os medrwn sgorio pump (yn cynnwys hat-tric gwych Jamie McDaid) heb danio’n llwyr mae’n awgrymu fod yna newid enfawr ers llynedd pan gafwyd gymaint o drafferth i sicrhau’r triphwynt holl bwysig mewn gemau roeddem wedi dominyddu.

Following the comfortable victory over Llangefni last Saturday Port have two games at the Traeth within four days starting with the visit of Rhos Aelwyd on Saturday and followed by that of Llandudno on the Tuesday. The Wrexham area club were perhaps the surprise package of last season. In their first season following promotion they recorded an excellent fourth place.
Since then there have been numerous changes at the club, not least of which is the departure of last season’s successful manager Steve Walters, now a coach at Buckley. Rhos have replaced him with the experienced former Cefn Druids defender Aled Rowlands. Two other major departures are strikers Mike Burke and Jon Rush. Burke is now with Buckley and Rush has returned to the Druids. They have however managed to retain midfielder Steve Powell who spent part of the summer on trial with Crewe Alex. What effect these changes have it is too early to say as all we have to go on is the opening day defeat which Rhos suffered at the hands of promoted Conwy United.
Though last season was a successful one for Rhos they suffered double defeats at the hands of Port. It was a close contest at home but a Marcus Orlik goal followed by an own goal proved enough to edge a 2-1 win. There have been many changes at the Traeth too since the two clubs last met and though last Saturday’s win was comfortable enough it was inevitable that it would suffer in comparison with the high points of pre-season. But if we can score five (including a fine Jamie McDaid hat trick) without firing on all cylinders then it suggests that there has been a huge change from some of last season’s struggles to clinch the all important three points.
16/08/11
Ail Rownd Gymhwyso Cwpan Cymru / Welsh Cup 2nd Qualifying Round

Daeth yr enwau o’r het ar gyfer ail rownd gymhwyso Cwpan Cymru. Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar 3/4 Medi. Dyma’r gemau sy’n cynnwys clybiau Gwynedd.
Bermo v Penarlâg
Caernarfon v Penmaenmawr
Caernarfon Wanderers v Bethesda
Llanllyfni v Venture Community
Nefyn v Llandrindod
Tywyn v Pen-y-bont ar Wy
Bydd clybiau Huws Gray yn dod i fewn yn Rownd 1 a chwaraeir y gemau ar 1 neu 2 Hydref.

The draw has been made for the Welsh Cup 2nd Qualifying round. The games will be played on 3 or 4 September. Here are the games involving Gwynedd clubs.
Barmouth v Hawarden Rangers
Caernarfon v Penmaenmawr
Caernarfon Wanderers v Bethesda
Llanllyfni v Venture Community
Nefyn v Llandrindod
Tywyn v Newbridge on Wye
Huws Gray Alliance clubs will enter in Round 1 and those games will be played on 1 or 2 October.
15/08/11
Grahame Austin yn cael ei anrhegu / Grahame Austin presented by former club

Graham Austin Mae Grahame Austin cyn gapten Llangefni, a bellach un o ychwanegiadau pwysig Gareth Parry dros yr haf, wedi cael ei wobrwyo gan y clwb o Ynys Môn i nodi 12 mlynedd o wasanaeth. Dywed gwefan clwb Llangefni:
“Ymunodd Austin â’r clwb yn 1999 yn 1999 ac enillwyd y Welsh Alliance yn y tymor cyntaf ac roedd yn chwaraewr allweddol wrth i Llangefni orffen yn yr ail safle yn y Cymru Alliance yn 2001 a 2002. Fo hefyd oedd capten y clwb a enillodd y Cymru Alliance yn 2008 ac eto yn 2009.”
Mae hyn yn dweud llawer am Grahame a hefyd am y meddwl uchel oedd gan ei gyn glwb ohono.

Former Llangefni captain Grahame Austin and now one of Gareth Parry’s notable summer signings, has been presented for his 12 year service to the Llangefni club. The Llangefni club website says:
“Austin, who joined the club in 1999 won the Welsh Alliance League in his first season, and was a key player when the club finished runners up in the Cymru Alliance in 2001 and 2002. He captained the club to the Cymru Alliance league title in 2008 and again in 2010.”
This says much about Grahame and the high esteem in which he is held by his former club.
15/08/11
Penwythnos y goliau / A goal spree weekend

Goliau / Goals Sgoriwyd 34 o goliau ar benwythnos cyntaf yr HGA, cyfartaledd o ychydig dros pedair gôl y gêm! Roedd tri o’r clybiau a sgoriodd yn drwm yn chwarae oddi cartref. Penrhyn-coch cafodd y canlyniad gorau un yn sgorio chwech heb ymateb yn Penycae. Sgoriwyd dwy o goliau Penrhyn gan y profiadol Glyndwr Hughes sydd wedi chwarae 281 (+71) o gemau UGC dros Aberystwyth gan sgorio 102 o goliau. Sgoriwyd hat tric yn yr ail hanner gan Gary O’Toole prif sgoriwr 2010/11 wrth i’r pencampwyr Cei Conna sgorio chwech yn yr ail hanner yng Nghaersws, a fydd yn siomedig iawn i ildio cymaint adref. Cafwyd dwy hat tric arall, Jamie McDaid i Borthmadog a Paul Speed yn ei gêm gyntaf dros Derwyddon Cefn. Cafodd chwech o glybiau buddugoliaethau ar y penwythnos cyntaf sef Penrhyn-coch, Cei Conna, Derwyddon Cefn, Port, Rhyl a Conwy yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr HGA.

Thirty four goals were scored on the opening weekend of the HGA season, an average of just over 4 goals a game! Three of the day’s high scores were achieved by away clubs. Penrhyn-coch had the best result scoring six without reply at Penycae. Two of Penrhyn’s goals were scored by the hugely experienced Glyndwr Hughes who has made 281 (+71) WPL appearances for Aberystwyth scoring 102 goals. A second half hat trick by Gary O’Toole, last season’s HGA top scorer, gave the champions Connah’s Quay a flying start at Caersws who will be very disappointed at their second half capitulation after a goalless first half. Jamie McDaid for Port and Paul Speed for Cefn Druids were the other players to record hat tricks. Six clubs recorded opening day victories Penrhyn-coch, Connah’s Quay, Cefn Druids, Porthmadog, Rhyl and promoted Conwy United.
11/08/11
Clive Williams yn dod ar fenthyg / Clive Williams comes in on loan

Clive Williams Mae Gareth Parry wedi cadarnhau ei fod wedi arwyddo Clive Williams, amddiffynnwr, ar fenthyg am y tymor, o Fangor. Mae’r chwaraewr ugain oed o Benygroes yn gyfforddus mewn unrhyw safle ar draws y cefn neu yng nghanol y cae yn chwarae o flaen y pedwar yn y cefn. Bu ar gytundeb gyda Bangor lle enillodd dau o fedalau Cwpan Cymru ac ymddangosodd 14 (+21) o weithiau i’r clwb yn UGC. Dechreuodd fel ymosodwr ond newidiwyd y chwaraewr ifanc, a gafodd dreialon gyda Leeds United, i’w safle presennol yn yr amddiffyn ac yn rhoi cyfar ardderchog mewn nifer o safleoedd.Meddai Gareth Parry amdano, “Mae o’n ticio pob bocs am y math o chwaraewr ’da ni am i weld yn y clwb.”

Gareth Parry has now confirmed that he has has brought in defender Clive Williams on a season’s loan from Bangor. The 20 year old utility player can play anywhere across the back four or as a holding midfielder. A contracted player with Bangor he has won two Welsh Cup winners medals and has made 14 (+21) WPL appearances. The young player from Penygroes who has had trials for Leeds United was converted from striker to defender and provides excellent cover in many positions.Gareth Parry says of him, “He ticks all the boxes for the type of player we want to see at the club.”
10/08/11
Iwan yn arwyddo i Gei Conna / Iwan moves to Connah’s Quay

O ddiddordeb i gefnogwyr Port ydy symudiad Iwan Williams, cyn chwaraewr ar y Traeth, o Landudno i’r pencampwyr Cei Conna. Bu Iwan yn chwaraewr ifanc gyda Port cyn treulio cyfnodau gyda’r Drenewydd a Llanfairpwll. Dechreuodd tymor 2010/11 yn ôl ar y Traeth cyn symud i Llandudno yn ystod y tymor.

Of interest to Port supporters is former Traeth player Iwan Williams’ recent move from Llandudno to HGA champions Gap Connah’s Quay. Iwan started as a youth player at Porthmadog to where he returned after spells at Newtown and Llanfairpwll. He started last season, 2010/11, back at the Traeth before a mid-season move to Llandudno.
09/08/11
Edrych ymlaen at dymor yn cychwyn yn Llangefni / Look ahead to a season starting at Llangefni

Llangefni Mae’r rhaglen gemau wedi sicrhau dychweliad buan i Ffordd Talwrn i’r pedwar a symudodd i’r Traeth dros yr haf. Bu llawer o fynd a dod rhwng y ddau glwb dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r canlyniad fod gymaint a saith o garfan bresennol Port wedi chwarae i Llangefni ar un adeg. Hefyd mae gan Llangefni rheolwr newydd yn Mark Poole yn ogystal a newidiadau mawr i’r garfan. Bydd hyn i gyd yn gwneud gêm ddydd Sadwrn yn wahanol iawn i’r gemau blaenorol rhwng y ddau glwb. Y tymor diwethaf sicrhaodd Port y dwbl dros Llangefni.
Dydy gemau cyn dymor ddim o hyd yn arwydd dibynadwy o’r hyn y medrwn ddisgwyl yn ystod y tymor ond mae ennill gemau a sgorio goliau yn brafiach na cholli a methu sgorio. Uchafbwyntiau y cyn dymor ar y Traeth oedd y perfformiadau yn erbyn Bala ac Airbus ac yn fwy na dim y math o chwarae a gafwyd. Bydd y cefnogwyr yn awyddus i weld sialens am y teitl eleni, tra fydd y tîm reoli yn edrych ddim pellach na chychwyn da.
Bydd yr HGA yn gynghrair anodd eleni gyda ceffylau blaen llynedd –Cei Conna, Rhyl a Derwyddon Cefn- yn debyg o orffen yn uchel eto. Bydd Llandudno, gyda’r Drwydded Ddomestig yn y bag, yn disgwyl bod ymysg y goreuon, tra medrai Caersws, yn ôl yr hyn a ddangoswyd wrth wneud dwbl hwyr dros Port y tymor diwethaf, fod yn fygythiad eleni. Roedd tîm Mickey Evans yn creu argraff gyda’u cyflymder wrth ddefnyddio holl led y cae. Bydd yna eraill mae’n siwr fel Fflint neu Bwcle os cawn nhw gychwyn da yn medru bod yn agos i’r brig, a gall rhywun hollol annisgwyl hefyd wneud marc. Dyna pam mae cychwyn da yn medru bod o’r pwys mwyaf.

A quirk of the fixture list has produced a quick return to Talwrn Road for the four who switched from Llangefni to the Traeth over the summer. There has been much to-ing and fro-ing between the clubs over the years which means that as many as seven of the current Port team have also appeared for Llangefni at one time or another. There is also a new manager in Mike Poole in place at Llangefni and a major upheaval in playing personnel. All of this makes Saturday’s fixture a bit of an unknown quantity. Last season Port did the double over Llangefni.
Pre-season matches are often unreliable pointers to the outcome of the new season but winning games and scoring goals is preferable to not winning and not scoring. The highlights of the Traeth pre-season have been the performances against Bala and Airbus and above all the style of play shown. Supporters will be hoping for a serious challenge for the title this season while the management will look no further than securing a good start.
The HGA will be a tough league with last season’s top three of Connah’s Quay, Rhyl and Cefn Druids again likely to challenge at the top. Llandudno, with a Domestic Licence up their sleeves, will also expect to be there or thereabouts and Caersws, based on what was shown in a late season double over Port, could be a real threat this season. Mickey Evans’ charges looked impressive with pacy attacks while making good use of the whole width of the pitch. There will be others like Buckley or Flint who, given a good start, could also find a place at the top table, plus there is always the possibility of another dark horse emerging. That is why a flying start could prove such a big advantage.
09/08/11
Tri yn gadael y clwb / Three players leave the club

Jack Jones Cyhoeddodd y clwb heddiw fod tri o chwaraewyr yn gadael. Paul Roberts, Jack Jones a Dion Donohue ydy’r tri. Dim ond yn ystod yr haf ymunodd Dion Donohue â’r clwb ond gallai fod ar ei ffordd i ail ymuno a chlwb Bodedern.
“Carwn ddiolch i Paul a Jack am eu cyfraniadau i’r tîm yn ystod 2010/11 sef y cyfnod pan rwyf wedi bod yn rheoli’r clwb,” meddai Gareth Parry. Hefyd dymunai swyddogion y clwb ddiolch i’r ddau am eu gwasanaeth gan ddymuno’n dda iddynt i’r dyfodol.

The club have announced today that three players will be leaving. They are Paul Roberts, Jack Jones and Dion Donohue. The latter only joined this summer and could be on his way to re-joining Bodedern his former club.
Gareth Parry said, “I’d like express my personal thanks to both Paul and Jack for their contributions to the team during season 2010/11 when I have been the club manager.” Club officials also extend their thanks to both players for their services and wish them well in the future.
06/08/11
Carl Owen y diweddaraf / Carl Owen update

Derbyniodd Carl Owen driniaeth heddiw i osod platiau yn y goes a dorrodd yng Nghaergybi nos Iau. Arweiniodd y dacl ar Carl i’r dyfarnwr rhoi cic o’r smotyn. Mae’r ymatebion cyntaf i’r anaf wedi bod yn ffafriol a’r dyddiad targed sydd wedi’i awgrymu ar gyfer ail afael yn yr ymarfer yw naw wythnos. Dymuniadau da wrth bawb ar y Traeth i Carl ac edrychwn ymlaen i dderbyn mwy o newyddion cadarnhaol.

Carl Owen, whose leg was broken in a tackle at Holyhead resulting in the award of a penalty kick, was operated on today to insert plates in his broken leg. The initial response to this serious injury has been favourable with a target date of 9 weeks being suggested for a return to training. Supporters at the Traeth send their best wishes to Carl and look forward to receiving more positive news in due course.
04/08/11
Carl yn torri ei goes / Carl suffers broken leg

Carl Owen Difethwyd y gêm yng Nghaergybi heno wrth i’r blaenwr Carl Owen ddioddef anaf drwg iawn. Tua ugain munud i fewn i’r gêm torrwyd coes Carl Owen mewn tacl drom. Stopiwyd y gêm am 20 munud tra roedd Carl yn derbyn triniaeth ar y cae cyn gael ei gludo i’r ysbyty. Er y byddai Gareth Parry wedi dymuno gweld y gêm yn cael ei gohirio’n syth aeth y gêm yn ei blaen er nad oedd fawr o awydd gan neb o Port. Gorffennodd y gêm yn gyfartal 2-2.

Tonight’s game at Holyhead was marred by a serious injury to Port striker Carl Owen. Twenty minutes into the game Carl had his leg broken in a tackle. The game was held up for 20 minutes while Carl was treated on the pitch before being taken to hospital. Though Gareth Parry would have preferred to see the game end there and then, it did eventually continue despite the fact that no one in the Port camp had much of an appetite for the game. It ended in a 2-2 draw.
04/08/11
Airbus ar y Traeth ddydd Sadwrn / Airbus at the Traeth on Saturday

Airbus fydd yn ymweld â’r Traeth ddydd Sadwrn ar gyfer y gêm ymarfer olaf, gêm fydd yn rhoi dipyn o brawf ar Port wrth edrych ymlaen at ddechrau tymor yr HGA ar 13 Awst. Mae’r clwb o Frychdyn wedi datblygu llawer dros y tymhorau diweddar o dan Craig Harrison ac yn anlwcus i fethu toriad y chwech uchaf yn UGC y tymor diwethaf. Dyna fyddant yn anelu ato y tymor hwn ac wedi cryfhau y garfan dros yr haf, Mae Tommy Holmes amddiffynnwr profiadol wedi ymuno o TNS a’r blaenwr Mike Hayes o’r Bala. Yn ogystal hefyd Rhys Darlington a Mark Cadwallader, y ddau o’r Rhyl, a hefyd Josh Griffiths o’r Derwyddon. Y diweddaraf i ymuno ydy Andrew Worton o’r Drenewydd, Bydd y chwaraewyr yma yn ymuno a charfan sydd eisoes yn gryf yn cynnwys John Leah ac Ian Sheridan a sgoriodd hat tric i Bae Colwyn yn erbyn Port y tymor diwethaf.
Gwnaeth y ddau glwb gyfarfod mewn gêm gyfeillgar y tymor diwethaf ac Airbus oedd yn fuddugol yn ennill gêm ddifyr iawn o 5-3. Efallai ddydd Sadwrn y cawn ambell gliw am y tîm fydd yn cychwyn y gêm gynghrair yn Llangefni.

Airbus visit the Traeth on Saturday for the final pre-season game, a game which will provide Port with a stern test ahead of the start of the HGA programme on 13 August. The Broughton club have developed considerably over the past few seasons under Craig Harrison and were unlucky to miss out on the WPL top six cut last season. That will be their aim this season and they have made several important signings during the summer. Tommy Holmes, a quality defender, comes in from TNS and striker Mike Hayes from Bala. Others include the Rhyl duo of Rhys Darlington and Mark Cadwallader while Josh Griffiths joins from the Druids.The latest signing is Andrew Worton a wing back from Newtown. These players will join an already strong squad including John Leah and Ian Sheridan -who scored a hat trick for Colwyn Bay against Port last season.
Last season the two clubs met in a friendly fixture and Airbus were the winners in a very entertaining game by 5-3. Saturday might also give us more clues on Gareth Parry’s possible starting line up for the league opener at Llangefni.
03/08/11
Anaf arall i Ryan / Ryan suffers injury at Llanfairpwll

Ryan Davies Wrth iddo baratoi at y tymor newydd nid yw capten y clwb Ryan Davies yn cael llawer o lwc. Cafodd anaf yn ei gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Pilkingtons a neithiwr, wrth iddo ddychwelyd i’r tîm, daeth gwrthdrawiad a diwedd sydyn i’w ail gêm. Hyd yma dim ond ugain munud a gafwyd ganddo ar y cae. O ganlyniad i’r anaf neithiwr yn Llanfair aeth i’r ysbyty a bu’n rhaid iddo gael pwythau i’r anaf i’w wyneb. Golyga hyn bydd allan tan i’r anaf wella digon i’r pwythau gael eu tynnu.
Gyda Rhys Roberts a Graham Austin wedi chwarae rhan llawn ddydd Sadwrn a neithiwr, efallai gwelwn canol amddiffyn dros dro yng Nghaergybi nos yfory. Meddai Gareth Parry am y gêm yn Llanfairpwll “Cafodd y garfan rhybudd amserol yn yr hanner cyntaf neithiwr. Mae’n rhaid gweithio’n galed ym mhob gêm i sicrhau’r canlyniadau iawn. Gall beth ddigwyddodd fod yn fendith gan i’r neges gyrraedd adref a cafwyd ail hanner llawer gwell a mantais o chwech gôl i un.

Port skipper Ryan Davies is not enjoying the best of luck as prepares for the new season. He was injured during the opening game against Pilkingtons and last night, on his return to playing, a collision brought an abrupt end to his second game. So far this pre-season he has only managed 20 minutes on the pitch. Last night’s injury resulted in a hospital visit and the facial injury required several stitches. This means that he will be out of action until the cut has healed sufficiently for the stitches to be taken out.
With Rhys Roberts and Graham Austin already having figured on Saturday and last night we might see a more makeshift central defence at Holyhead. Gareth Parry commenting on last night’s game at Llanfairpwll said, “The team were given a timely reminder in the first half last night that we have to work hard in every game to get results. What happened could be a blessing in disguise as the message got home and things looked far better in the second half when we scored six goals and conceded only one.”
03/08/11
Chris Williams yn dod i safle Mike Foster a Cai yn symud i Gaernarfon / Chris Williams to fill Mike Foster’s role and Cai goes to Caernarfon

Chris Williams Nid tasg hawdd fydd cymryd lle Mike Foster un o gewri’r Traeth ond mae Gareth Parry i’w longyfarch am arwyddo un o’r ychydig chwaraewyr sydd a’r gallu i wneud hyn. Roedd Chris Williams yn aelod rheolaidd o dîm Caer a sicrhaodd ddyrchafiad o Adran Un Cynghrair Evo-Stik Gogledd Lloegr y tymor diwethaf gan chwarae 29 (+6) o gemau iddynt. Roedd Caer yn amharod iawn i’w rhyddhau. Ymunodd yr amddiffynnwr ifanc a’r clwb o Langefni yn haf 2010 lle fu yn rhan o’r tîm a enillodd bencampwriaeth y Cymru Alliance yn 2009/10. Hefyd yn flaenorol chwaraeodd i’w glwb cartref sef Llanfairpwll.
Gadael i ymuno â Chaernarfon fydd Cai Jones a ddatblygodd drwy Academi Port. Bydd cyn chwaraewr Dan-18 Ysgolion Cymru yn chwilio am bêl-droed rheolaidd fel blaenwr. Chwaraeodd 18 (+18) o gemau i Port llynedd ac ymddangosodd i’r clwb yn UGC hefyd. Mae clwb Port yn diolch iddo ac yn dymuno’n dda iddo ar yr Ofal.

Replacing long serving defender and Port legend Mike Foster is a daunting challenge for any player. Gareth Parry is therefore to be congratulated for bringing in one of the few defenders around with the credentials to do so. Chris Williams was a regular in Chester’s promotion winning team from Division One of the Evo-Stik Northern Premier League last season, making 29 (+6) appearances for them. Chester were very reluctant to see such a quality young defender leave. He signed for Chester from Llangefni in the summer of 2010 having been a member of their Cymru Alliance championship winning team of 2009/10. He also previously played for his home club Llanfairpwll.
Leaving to join Caernarfon will be Porthmadog Academy product Cai Jones who goes in search of a regular first team place as a striker. The Welsh Schools U-18 cap made 18 (+18) appearances for Port last season and he has also appeared for the club in the WPL. The club thanks Cai and wishes him well at the Oval.
02/08/11
Gêm heno i gychwyn am 7pm / Kick off tonight switched to 7pm

Dylai cefnogwyr sy’n teithio i Lanfairpwll heno (2 Awst)ar gyfer y gêm gyfeillgar sylwi fod yna newid yn amser cychwyn y gêm. Bydd y gic gyntaf am 7 o’r gloch.
Atgoffir chi hefyd mae ar yr hen gae, sef ‘Y Gors’ sydd yng nghanol y pentref, fydd y gêm yn cael ei chwarae.

Supporters travelling to Llanfairpwll for tonight’s (2 August) pre-season friendly should note that there has been a late switch in the kick off time. The game will now kick off at 7pm.
A reminder also, that the game will be played at ‘Y Gors ‘which is the old club ground and is located in the centre of the village.
31/07/11
Euron i ymuno â Pwllheli / Euron to join Pwllheli

Euron Roberts Mae Euron Roberts i adael Porthmadog ac ymuno â Pwllheli o’r Welsh Alliance. Mae clwb Porthmadog a Gareth Parry eu rheolwr am ddiolch i Euron am ei gysondeb a’i wasanaeth rhagorol yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb. “Mae wedi bod yn was ffyddlon iawn i’r clwb, meddai Gareth Parry, yn chwaraewr tîm ac yn bleser i’w gael yn garfan bob amser.” Ymunodd Euron a’r clwb ar gyfer tymor 2009/10 gan ddechrau 32 o gemau UGC yn y tymor hwnnw a 22 (+3) o gemau HGA yn 2010/11.
Dioddefodd Euron anaf drwg tua diwedd y tymor diwethaf mewn gêm yng Nghaersws ac mae hyn hefyd wedi rhwystro peth ar ei baratoadau at y tymor hwn. Bydd Pwllheli yn cael amddiffynnwr o safon, sydd yr un mor gartrefol fel cefnwr neu yng nghanol yr amddiffyn. Mae pawb yn Port yn estyn eu dymuniadau gorau i Euron at y dyfodol ac yn diolch iddo am ei gyfraniad gwerthfawr.

Euron Roberts is to leave Porthmadog and sign for Welsh Alliance club Pwllheli. The club and the manager Gareth Parry have expressed their thanks to Euron for his dedication and excellent service during his period with the club. “He has been a marvellous servant to the Port club, said Gareth Parry, and has been an excellent team player and clubman”. Euron joined Port for season 2009/10 and made 32 WPL appearances during that season and 22 (+3 ) HGA appearances in 2010/11.
Euron suffered a nasty injury towards the end of the last season, during a game at Caersws, and this has also restricted his pre-season preparations for the current season. Pwllheli will gaining a quality defender equally at home at full back and central defence and all at Porthmadog extend to Euron their very best wishes for the future and thank him for his valuable contribution.
31/07/11
Gêm gyfeillgar yng Nghaergybi nos Iau / Friendly match at Holyhead on Thursday

Caergybi / Holyhead Hotspur Mae Gareth Parry wedi trefnu gêm gyfeillgar ychwanegol ar gyfer nos Iau, 4 Awst -oddi cartref yng Nghaergybi gyda’r gic gyntaf am 7.30 o’r gloch. Pwrpas y gêm yn erbyn y clwb o’r Welsh Alliance ydy rhoi cyfle i fwy o chwaraewyr gael 90 munud llawn ar y cae cyn i’r tymor ddechrau.
Llanfairpwll nos Fawrth
Dylai cefnogwyr hefyd nodi fod y gêm yn erbyn Llanfairpwll nos Fawrth yn cychwyn am 6.30 pm ac yn cael ei chwarae ar yr hen gae sef Y Gors yng nghanol y pentref.

Gareth Parry has fitted in an extra pre-season fixture for next Thursday, 4 August with a 7.30 pm kick off at Welsh Alliance club Holyhead. The purpose being to give more players a full 90 minutes on the pitch before the season starts.
Llanfairpwll Tuesday
Supporters should also note that the game at Llanfairpwll on Tuesday will kick off at 6.30 pm and will be played in the club’s old ground – Y Gors in the centre of the village.
31/07/11
Dion yng ngharfan Cymru Dan-18 / Dion in Wales U-18 squad.

Dion Donnohue Llongyfarchiadau i Dion Donohue sydd wedi’i ddewis i chwarae mewn gêm rhyngwladol dan-18 i dîm lled broffesiynol Cymru i chwarae gweriniaeth Iwerddon. Chwaraeir y gêm nos Fercher, 3 Awst ar Gae Hotspyrs Caergybi gyda’r gic gyntaf am 6 o’r gloch. Arwyddwyd Dion o glwb Bodedern yn ystod yr haf ac mae wedi bod yn aelod amlwg o’r garfan wrth baratoi at y tymor newydd gan sgorio ddydd Sadwrn yn y fuddugoliaeth o 5-2 dros y Bala.
Mae Dion yn un o bump a chwaraewyr o glybiau Huws Gray a ddewiswyd (y lleill ydy Jamie Wynne, Shaun Tinsley ac Aled Reece o Gei Conna ac Alan Webb Llandudno) . Rheolwr y garfan ydy Terry Boyle.

Congratulations to Dion Donohue on his inclusion in the 18 player Welsh U-18 sei-professional squad to play a representative match against the Republic of Ireland. The game will be played on Wednesday, 3 August at the Holyhead Hotspur ground with a 6 pm kick off. Dion a summer signing from Bodedern has featured in the pre-season programme of games scoring in the 5-2 win over Bala on Saturday.
He is one of five HGA players included in the squad (Jamie Wynne, Shaun Tinsley and Aled Reece all from Connah’s Quay and Alan Webb Llandudno are the others) which will be managed by Terry Boyle.
29/07/11
Chris Williams yn arwyddo a 3 arall yn aros / Chris Williams signs and 3 more stay.

Chris Williams Mae pedwar chwaraewr arall wedi arwyddo yn barod am y tymor nesaf yng Nghynghrair Undebol Huws Gray. Roedd tri ohonynt yn rhan o garfan y llynedd sef Jamie McDaid, Marcus Orlik a Richard Harvey. Bydd un wyneb newydd arall yn ymuno a Port, sef y cefnwr chwith 23 oed Chris Williams, sydd yn ymuno o Gaer ac yn un arall sydd wedi chwarae i Glwb Pêl-droed Llangefni. Mae Gareth Parry yn aros am ganiatâd rhyngwladol i’w arwyddo ac yn gobeithio y bydd yn ymddangos yn erbyn y Bala y fory (dydd Sadwrn).

Four further players have signed in readiness for the forthcoming Huws Gray Alliance season. Three of them were members of last season's squad, namely Jamie McDaid, Marcus Orlik and Richard Harvey. Another new face also joins the club, in the shape of 23 year old left back Chris Williams, who joins from Chester FC, and is another player who has appeared for Llangefni Town. Gareth Parry is awaiting international clearance for the player and hopes he can appear against Bala in tomorrow’s match (Saturday).
28/07/11
Y Bala ar y Traeth bnawn Sadwrn / Bala at the Traeth on Saturday

Bala Ar ôl ennill y dair gêm gyfeillgar gyntaf yn erbyn timau o gynghreiriau is heb ildio gôl, bydd Port yn wynebu dau dîm o Uwch Gynghrair Cymru yn eu tair gêm olaf. Y cyntaf o’r timau hynny fydd y Bala yn y gêm bnawn Sadwrn cyn cyfarfod Airbus Brychdyn wythnos i ddydd Sadwrn.
Y tro diwethaf i Port wynebu’r tîm o Faes Tegid oedd yng Nghwpan Cymru ym mis Tachwedd, gan golli o un gôl i ddim mewn gêm agos a chystadleuol.
Dros yr haf, mae Colin Caton wedi mynd ati i gryfhau ei garfan, gan ychwanegu chwech o wynebau newydd. Yr amlycaf o’r rhain yw’r ymosodwr Lee Hunt, sydd wedi sgorio 123 yn ei yrfa yng Nghynghrair Cymru gan gynnwys 16 i Brestatyn y llynedd.
Bydd hwn yn brawf gwirioneddol o gryfder y garfan mae Gareth Parry wedi’i rhoi at ei gilydd, ar ôl y dechrau addawol i’r gemau paratoi.

Having won their first three friendlies against teams from lower leagues, without conceding a goal, Port face two Welsh Premier sides in their last three matches. The first of those matches is against Bala Town on Saturday afternoon before meeting Airbus Broughton a week on Saturday.
The last time Port met the Maes Tegid side was in the Welsh Cup in November, losing by a goal to nil in a close and competitive encounter.
Over the close season, Colin Caton has been busy strengthening his squad, adding six new faces. The most high profile of those being prolific striker Lee Hunt, who’s netted 123 Welsh Premier goals in his career including 16 for Prestatyn the last campaign.
This will be a stern test of the strength of the squad Gareth Parry has assembled, after a promising start to pre-season.
23/07/11
Cofis ar y Traeth nos Fawrth / Caernarfon at the Traeth on Tuesday

Caernarfon Nos Fawrth (26 Gorffennaf, 7pm.) bydd Port yn chwarae eu trydydd gêm cyn dymor pan fydd Caernarfon yn ymweld â’r Traeth. Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod oedd ym mis Hydref 2010 yng Nghwpan yr Arfordir gyda Port yn fuddugol o 4-2 diolch i hat tric gan Paul Roberts.
Aeth dipyn o ddwr dan y bont ers hynny a llawer wedi newid er gwell ar yr Oval. Bydd hyn yn plesio pob gwir gefnogwr yn yr ardal. Unwaith eto mae yna falchder a gobaith wedi dod yn ôl i’r clwb. Daeth mwy na 200 i’w gweld yn rheolaidd y tymor diwethaf sydd yn arwydd o’r diddordeb a hefyd potensial y clwb. Erbyn hyn mae Arfon Jones a’i bwyllgor gweithgar yn gwneud y gorau o’r potensial yma.
Rheolwr y clwb o’r Welsh Alliance ydy cyn amddiffynnwr ac hyfforddwr Porthmadog, Steve Smith, a fo sydd wedi arwain yr adfywiad ar y cae gyda’r clwb yn gorffen y tymor yn y pumed safle yn y tabl. Byddant yn dechrau y tymor hwn ymysg y ffefrynnau i ennill dyrchafiad. Mae nifer o’u carfan bresennol wedi chwarae hefyd i Port gan gynnwys Ywain Gwynedd, Geraint Mitchell a Jon Peris Jones.
Yn barod mae Caernarfon wedi sicrhau buddugoliaeth o 1-0 dros Bwcle, o Gynghrair Huws Gray, a byddant felly yn gosod sialens go iawn i garfan Gareth Parry a hon wedi’i hail wampio ar gyfer y tymor newydd. Bu llawer i’w edmygu yn y ddau berfformiad a gafwyd hyd yma –edrychwn ymlaen i weld hyn yn parhau.

On Tuesday (26 July) Port will play their third pre-season friendly when neighbours Caernarfon are the visitors to the Traeth with a 7pm kick off.The last meeting between the two clubs was back in October 2010 in the Coast Challenge Cup when Port were 4-2 winners with Paul Roberts scoring a hat trick.
Much has happened at the Oval since and the all true football followers in the area will be pleased that the Cofis are very much up and running once more, with a buzz around the club and amongst its followers. A regular gate of 200+ last season shows the interest and the potential of the club. This potential is now being tapped by Arfon Jones and his hard working committee.
The Welsh Alliance club is managed by, former Port defender and coach, Steve Smith and he has led the on the field revival which saw them climb the table to complete the season in 5th place. They will start the new season amongst the promotion favourites. Several of the current Caernarfon squad have also played for Porthmadog and these include Ywain Gwynedd, Geraint Mitchell and Jon Peris Jones.
Caernarfon have already recorded a 1-0 victory over Huws Gray opponents Buckley Town and so could provide Gareth Parry’s revamped squad with a serious challenge. There has been a great deal to admire in Port’s first two pre-season fixtures let’s hope that this continues.
20/07/11
Yr enwau ar gyfer Cwpan Ieuenctid Cymru / Draw for FAW Youth Cup

Cwpan Ieuenctid / Youth Cup Pan ddaeth yr enwau allan o’r het ar gyfer rownd gymhwyso Cwpan Ieuenctid Cymru roedd Porthmadog yn un o 47 clwb a gafodd le yn syth yn y rownd gyntaf. Bydd enillwyr yr 13 gêm yn y rownd gymhwyso yn ymuno gyda’r 47 yn y rownd gyntaf. Dyma’r gemau yn adran y gogledd :
Argoed v Aberystwyth
Airbus v Rhuthun
Caernarfon v Prestatyn
Cei Conna v Caersws
Gresffordd v Fflint
Llanystumdwy v Y Drenewydd
Chwaraeir y gemau yma ar Sul, 4 Medi.

Porthmadog have drawn a bye in the qualifying round of the FAW Youth Cup. The 47 clubs who have gained a bye into the first round will be joined by the winners of the 13 games in the qualifying round. The draw for the northern section is as follows:
Argoed Utd v Aberystwyth
Airbus v Ruthin
Caernarfon v Prestatyn
Connah’s Quay v Caersws
Gresford v Flint
Llanystumdwy v Newtown
The games will be played on Sunday, 4 September.
20/07/11
John Gwynfor yn dal ati / John Gwynfor still going strong

Yn wahanol i’r adroddiad blaenorol gallwn bellach gadarnhau fod John Gwynfor yn dal i reoli clwb Nefyn. Rheolwr yr ail dîm ydy Alan Jones. Ymddiheuriadau i John –cam ddarllen y wybodaeth ar wefan Nefyn!
Pob dymuniad da i glwb Nefyn am y tymor newydd ac ar dystiolaeth gêm neithiwr allai fod yn dymor da iddyn nhw.

We can confirm that contrary to a previous report that John Gwynfor remains manager of Nefyn United. Alan Jones is in fact the reserve team manager. Apologies to John –the error resulting from a misreading of the Nefyn website!
Best wishes to Nefyn for the coming season and on the evidence of last night’s game they could be in for a good one.
19/07/11
Gêm ryngwladol Cymru Dan 16 ar y Traeth / Victory Shield international at the Traeth

Cymru Derbyniwyd y newyddon gyda chryn bleser fod gêm ryngwladol bwysig Dan-16 rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon i’w chwarae ar y Traeth. Hon fydd gêm adre’ olaf y gystadleuaeth a bydd yn cael ei chwarae ar y Traeth ar nos Fercher, 16 Tachwedd.
Daeth dreigiau ifanc Osian Roberts - mae'r capten Gethin Jones yn hogyn o Port - yn agos iawn at ennill y darian y llynedd. Hyn yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol o 4-0 dros Lloegr a gêm gyfartal yn erbyn yr Alban. Crëwyd digon o gyfleoedd da oddi cartref yng Ngogledd Iwerddon ond colli oedd yr hanes a gorffen yn yr ail safle yn y gystadleuaeth.
Rheolwr Cymru fydd Osian Roberts sy'n hen gyfarwydd â’r Traeth gan iddo hyfforddi a reoli’r clwb am 7 mlynedd cyn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Technegol yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed yn 2007. Meddai Osian “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r Traeth –fedra i ddim aros! Ces amser da iawn yn y clwb a maent yn haeddu cael gêm o bwys fel hon. Mae nifer dda o wirfoddolwyr yn y clwb sy'n gweithio tu ôl i’r llenni a byddant yn siwr o wneud llwyddiant o’r achlysur. Hefyd mae’n beth da i ardal Porthmadog gael croesawu gêm ryngwladol fydd yn cael ei darlledu’n fyw ar deledu am y tro cyntaf yn eu hanes . Rwy’n siŵr bydd y gêm yn derbyn cefnogaeth dda gan yr ysgolion lleol a chlybiau yn yr ardal.
Golyga gyhoeddiad yr Ymddiriedolaeth fod y ddwy gêm gartref eleni yn nghystadleuaeth BskyB Dan 16 yn erbyn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu chwarae yn y gogledd. Bydd y gêm yn erbyn yr Alban yn cael ei chwarae ar y Maes Awyr - sef cae clwb Airbus- ar nos Wener, 30 Medi. Bydd yr unig gêm oddi cartref yn cael ei chwarae yn erbyn Lloegr ar 20 Hydref ar gae sydd heb ei enwi eto.

The news that the club has been awarded the prestigious Victory Shield match between Wales and Northern Ireland has been received with delight by all at the Traeth. This fixture will be the last home game of the campaign and will be played at the Traeth on Wednesday, 16 November.
Osian Roberts’ young dragons, captained by Porthmadog youngster Gethin Jones, so nearly won the Victory Shield last season after a historic 4-0 win against England and a creditable draw up in Scotland. But despite creating several wonderful goal scoring opportunities away to Northern Ireland a narrow defeat saw the side finish the competition in runners up position.
The Welsh U-16 team will be managed by Osian Roberts.Osian is no stranger to the Traeth as he coached and managed the Porthmadog club for seven years prior to his appointment as the Welsh Trust’s Technical Director in 2007. Osian said “I’m looking forward to going back and can’t wait. I had a great time at the Club and they deserve to be rewarded with a prestigious fixture. There are many good volunteers working behind the scenes at the football club and I’m sure they will do Wales proud in staging the international. It’s also great for the area of Porthmadog to be hosting a televised International at this level, the first in their history. I’m sure the fixture will be supported well by the local schools and clubs in the area.”
The announcement made by the Welsh Football Trust means that both this year’s home fixtures in the BskyB U-16 Victory Shield Tournament with Scotland and Northern Ireland will be played in North Wales. The other home game -versus Scotland- will take place on Friday 30th September at Airbus UK Broughton’s home ground, The Airfield. Wales’ only away game this season in the Victory Shield is against England at a venue still to be decided on Friday 28th October.
17/07/11
Llongyfarchiadau Angela / Congratulations Angela

Mae ein llongyfarchion a’n dymuniadau gorau ni fel clwb yn mynd i Angela Roberts sydd wedi’i hap[wyntio yn swyddog cyswllt gweinyddol ar gyfer pêl-droed merched Cymru a bydd yn gweithio ym mhencadlys y Gymdeithas Bêl-droed yn y Bae yng Nghaerdydd. Apwyntiwyd Angela allan o nifer fawr o ymgeiswyr a bydd y swydd newydd yn cynnig cyfleoedd iddi deithio dros Ewrop. Llynedd Angela oedd yn rheoli siop y clwb wedi iddi gynt arwain cais llwyddiannus Port am Drwydded Ddomestig yn 2009/10.
Eleni bydd Nigel Shingler yn dychwelyd i reoli siop y clwb ac yn cael ei gynorthwyo eto gan Rose. Eisoes mae Nigel wedi ailstocio’r siop ar gyfer y tymor newydd ac er mae gêm cyn dymor oedd ddydd Sadwrn cafodd y ddau bnawn prysur yn y siop sy’n newyddion da.

Congratulations and best wishes of the club go to Angela Roberts who has been appointed the administrative liaison officer for women’s football at the FAW Headquarters in Cardiff Bay. Angela was selected from a large number of applicants and we wish her well when she makes her move to Cardiff. Angela’s new position will provide opportunities of travel all over Europe.Last season Angela managed the club shop having previously masterminded Port’s successful 2009/10 Domestic Licence application.
The club shop will now once more be managed by Nigel Shingler ably supported by Rose. Nigel has already restocked the shop for the coming season and despite the fact that Saturday’s game was only a pre-season friendly he had quite a busy time of it in the club shop –which is good news.
14/07/11
Dwy gêm baratoi i Port / Port play their first pre-season games

Nefyn Gyda’r paratoadau at y tymor newydd bellach wedi cychwyn bydd Port yn croesawu Pilkingtons, y clwb o St Helens, i’r Traeth ddydd Sadwrn gyda’r ymweliad blynyddol i Nefyn yn dilyn nos Fawrth. Is-reolwr Pilkingtons ydy cyn gapten Port, Lee Webber a chwaraeodd dros 100 o weithiau i’r clwb yn UGC. Mae Kenny Dixon, cyn golwr Port yn y blynyddoedd rhwng 2003 a 2008, hefyd yn chwarae i Pilkingtons.
Mae’r clwb o St Helens yn chwarae yn Adran Gyntaf Cynghrair Sir Gaer a nhw yn nhymor 2010/12 orffennodd ail yn y tabl i glwb Greenalls a hynny ar wahaniaeth goliau. Bydd y gem ddydd Sadwrn yn cychwyn am 2.15 pm.
Gyda tri chwaraewr yn dal ar wyliau a dau arall mewn priodasau bydd yna gyfle i edrych ar chwaraewyr eraill wrth iddo adeiladu’r garfan.
Llynedd roedd Nefyn yn 8fed yn nhabl Adran Gyntaf y Welsh Alliance. Mae’r clwb a fu am flynyddoedd yn cael eu reoli gan gyn gefnwr Porthmadog, John Gwynfor Jones bellach wedi apwyntio Alan Jones yn rheolwr. Bydd y gêm nos Fawrth, ar Gae’r Delyn, yn cychwyn am 6.30 pm.

Port, with pre-season preparations now having commenced, will entertain Pilkingtons FC of St Helens Saturday and this will be followed by the annual visit to Nefyn on Tuesday. Assistant manager at Pilkingtons is former Port skipper Lee Webber who made over a 100 WPL appearances for the Traeth club. Former Port keeper Kenny Dixon, during the period from 2003-08, is also a Pilkington player.
The St Helens club play in the First Division of the Cheshire League where they were the 2010/11 runners-up being pipped by Greenalls on goal difference. Saturday’s game at the Traeth kicks off at 2.15 pm.
With three players on holiday and two more attending weddings Gareth parry will take the opportunity to run the rule over other players as he assembles his squad.
Last season Nefyn United finished in 8th place in Division One of the Welsh Alliance. The club for a long period managed by another Port stalwart John Gwynfor Jones is now managed by Alan Jones. The game on Tuesday night , at Cae’r Delyn, will kick off at 6.30 pm.
14/07/11
Amser cychwyn Port v Pilkingtons / Kick off time Port v Pilkingtons

Cadarnhawyd mae am 2.15 pm bydd y gic gyntaf yn gêm yn erbyn Pilkingtons ddydd Sadwrn (16 Gorffennaf) ar y Traeth.

It has now been confirmed that the kick off on Saturday (16 July) (for the game against Pilkingtons at the Traeth) will be at 2.15 pm.
13/07/11
Cyfarfod cefnogwyr / Supporters meeting

Daeth nifer dda o gefnogwyr i gyfarfod agored y clwb nos Fawrth. Amlinellodd y cadeirydd y dewisiadau oedd yn wynebu’r clwb. Pwysleisiodd ar y gwrandawyr –nifer ohonynt yn rhai oedd eisoes yn cyfrannu at rhediad y clwb- fod dod o hyd i fwy o wirfoddolwyr yn angenrheidiol os oedd y clwb i ddatblygu. Dosbarthwyd taflen yn nodi rhestr o’r meysydd lle roedd angen cymorth yn y gobaith o dderbyn ymateb cadarnhaol gan gefnogwyr yn y cyfarfod a hefyd oddi wrth gefnogwyr yn ehangach.
Cafwyd trafodaeth i ddilyn a phwysleisiwyd eto nad problem ariannol oedd hon ond galwad i gyflawni amrywiaeth o dasgau er mwyn rhannu’r baich o drefnu clwb uchelgeisiol. Ond roedd yn argyfwng i nifer o weithwyr allweddol y clwb, wrth iddynt geisio rhannu eu hamser rhwng y clwb a cynnal eu busnesau personol.
Mae’r clwb yn awyddus i glywed wrth gefnogwyr sydd yn barod i helpu’n weddol rheolaidd gyda un neu ddwy o dasgau. Mae’r tasgau yna yn medru amrywio o farcio’r cae, torri’r gwair, trin y wyneb y cae wedi gêm, i helpu ar ddiwrnod y gêm, cynorthwyo yn y sesiynau bingo a nosweithiau coffi neu helpu i gynyddu gwerthiant y Draw Wythnosol a’r Tote Misol. Os ydych yn barod i ystyried helpu am awr neu ddwy yr wythnos byddai’n dda gan y clwb i glywed wrthych. Pam na alwch i mewn i’r siop neu cael gair efo un o swyddogion y clwb yn ystod un o’r gemau cyn dymor ar y Traeth. Byddai’n bleser ganddynt eich gweld.

Supporters responded in good numbers to the club’s open meeting on Tuesday. They heard the chairman Phil Jones outlining the choices facing the club. He stressed -to a meeting which included many who already contribute to the running of the club- that more volunteers would have to be found if the club was to develop. A list of the areas where support was needed was circulated to all present and it is hoped that this will produce a positive response from the meeting itself and also from a wider supporter base.
An exchange of views followed and it was further stressed that this was not a financial crisis but a call to carry out a variety of tasks, sharing the burden of running an ambitious club. It was becoming a major problem for several of the club’s key administrators as the burden falling on them was becoming too great as they struggled to juggle their time between the club and their own businesses.
The club would be delighted to hear from supporters who are prepared to help with one or two tasks on a regular basis. The tasks range from marking the pitch, cutting grass and replacing divots to helping out on match days, assisting on bingo nights and coffee evenings or helping to increase sales of weekly draw and monthly tote. If you feel you are able to help, even an hour or two a week, the club would like to hear from you. Why not call in at the shop or approach a club official during one of the pre-season home games? They would be delighted to hear from you.
Newyddion cyn 13/07/11
News before 13/07/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us