Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
12/07/11
Enillwyr y Tote Misol a Draw Wythnosol / Monthly Tote and Weekly Draw winners

Y ddau rif lwcus yn y Tote Misol am fis Mehefin oedd 5 a 10. Roedd yna dri enillydd, bob un yn derbyn gwobr o £96-67. Yr enillwyr oedd: JW Roberts, Y Ffor. Wini Jones, Chwilog a Megan Owen Cricieth.
Enillwyr diweddaraf y Draw Wythnosol yw: Wythnos 22: Rhif 46 Meryl Pike. Wythnos 23: Rhif 48 Myfanwy Shakespeare. Wythnos 24: Rhif 50 Martin Rookyard. Wythnos 25: Rhif 243 Jimmy Havelock. Wythnos 26: Rhif.227 Nigel Shingler. Wythnos 27: Rhif 34 Heather Jones.

The winning numbers drawn in the Monthly Tote for June were numbers 5 and 10. There were three winners each collecting a prize of £96-67. The lucky winners are: JW Roberts Four Crosses. Wini Jones, Chwilog and Megan Owen Cricieth.
The latest weekly draw winners are: Week 22: No. 46 Meryl Pike. Week 23: No. 48 Myfanwy Shakespeare. Week 24: No. 50 Martin Rookyard. Week 25: No.243 Jimmy Havelock. Week 26: N0.227 Nigel Shingler. Week 27: No.34 Heather Jones.
07/07/11
Cyfarfod pwysig nos Fawrth / Important meeting on Tuesday

Hyn i atgoffa cefnogwyr fod yna gyfarfod pwysig iawn, un a allai benderfynu cyfeiriad y clwb i’r dyfodol, i’w gynnal yng Nghlwb y Traeth, nos Fawrth, 12 Gorffennaf am 7 o’r gloch.
Wrth annog bobl i fod yn bresennol dywedodd y cadeirydd, Phil Jones, “Rym yn hollol ymrwymedig i’r clwb ac yn bwriadu mynd am ddyrchafiad eleni OND mae gwir angen mwy o gymorth. Edrychwn ar y cyfarfod fel cam positif i symud y clwb ymlaen ac rwy’n gweld y sefyllfa yn gyfle da i fwy o gefnogwyr ddod yn rhan o weithgarwch y clwb. Nid argyfwng ariannol ydy hwn ond angen mwy o wirfoddolwyr i sicrhau nad yw’r gwaith o rhedeg y clwb o ddydd i ddydd yn disgyn ar ysgwyddau rhy ychydig. Mae’r clwb yn rhan o’r gymuned a gofynnwn i fwy o aelodau o’r gymuned i fod yn rhan weithredol o’r clwb. Bydd yna groeso cynnes yng Nghlwb y Traeth ar 12 Gorffennaf am 7 o’r gloch i’r rhai ohonoch sydd a lles clwb yn agos at eu calon.”
Eisoes dangosodd y bwrdd eu hymrwymiad drwy caniatáu arwyddo chwech o chwaraewyr newydd i gryfhau’r sialens am ddyrchafiad a rwan mae yna alwad i’r gweddill ohonom chwarae ein rhan.
I wirfoddoli neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phil Jones ar 07816213188 / 01766 523186 neu philjones.portfc@yahoo.co.uk

Supporters are reminded that a very important meeting, one which could decide the future direction of the club, is being held at the Traeth Clubhouse on Tuesday, 12 July at 7pm.
Urging people to attend chairman Phil Jones explained, “We are fully committed to the club, and intend to give promotion a real go this season, but we badly need more help. We see the meeting as a positive act to move the club on and I see it as a great opportunity for people to get involved. This is not a financial crisis it is a crisis of the manpower to ensure that the day to day running of the club does not fall on just a few. The club belongs to the community and we urge more members of the community to become involved. Anyone who has Porthmadog’s future at heart is cordially invited to the clubhouse on July 12, from 7pm.”
The board has already shown its commitment by sanctioning six new signings to strengthen the promotion challenge so now it is up to the rest of us to play our part.
To volunteer, or for further Information, contact Phil Jones 07816213188 / 01766 523186 or philjones.portfc@yahoo.co.uk
08/07/11
Noddwyr CA i barhau yn 2011/12 / CA sponsors to continue for 2011/12

Mae’r Cymru Alliance wedi cyhoeddi fod y cyfan o noddwyr y tymor diwethaf wedi cytuno i noddi’r gynghrair unwaith eto yn ogystal â’r amrywiol wobrau eraill.
Unwaith eto Huws Gray ydy prif noddwyr cynghrair a fydd eto eleni eto yn cael ei galw yn Gynghrair Huws Gray. Bydd y cwmni deunyddiau adeiladu hefyd yn noddi cwpan y gynghrair sef Cwpan Huws Gray.
Yr un noddwyr fydd i weddill y gwobrau. Rheolwr y Mis – Chwaraeon Teejac, Chwaraewr y Mis – Tlysau Charisma, Clwb y Tymor – Turner Peachey.

The Cymru Alliance have announced that new deals have been agreed with all of last season’s sponsors and they will once again provide sponsorship for the league and its various awards.
Huws Gray will once again be the main sponsors of the league, again to be known as the Huws Gray League. The building supplies company will also sponsor the league cup –the Huws Gray Cup.
The league’s other awards will have the same sponsors. Manager of the Month – Teejac Sports, Player of the Month – Charisma Trophies, Club of the Season – Turner Peachey.
27/06/11
Proffiliau’r chwaraewyr newydd / Profiles of new players

Mae proffiliau’r chwech newydd ddyfodiad wedi’u hychwanegu at y wefan. Gellir ddod o hyd iddynt o dan -Chwaraewyr/Players.

The player profiles for the six newcomers have been added to the website. They can be found under -Chwaraewyr/Players.
25/06/11
Pedwarawd Cefni yn arwyddo i Port / Cefni four sign for Port

Marc 'Loggs' Evans Mae pedwar o chwaraewyr o Langefni yn arwain rhestr y newydd ddyfodiaid i’r Traeth. Mae tri o’r pedwar sef Steve Kehoe, Graham Austin a Marc ‘Loggs’ Evans wedi chwarae i Porthmadog yn UGC yn flaenorol ac mae gan y pedwerydd Darren Thomas brofiad yn UGC gyda Llangefni. Newydd ddyfodiad eraill ydy Dean Garmey -amddiffynnwr/canol cae- sydd yn ymuno o Gaergybi. Dion Donohue, ymosodwr ochr chwith o Bodedern, sy’n cwblhau rhestr bresennol Gareth Parry. Disgrifir y chwaraewr ifanc, a oedd yn yr un garfan Ysgolion Cymru Dan-18 a Cai Jones a Jamie McDaid, yn “un at y dyfodol.”
Bydd y chwaraewyr newydd rhyngddynt yn cryfhau pob adran. Mae Steve Kehoe yn chwaraewr canol cae cadarn a sgoriodd nifer o goliau cofiadwy yn ei dymor blaenorol ar y Traeth yn 2008/09 a bydd Marc Evans a Darren Thomas yn ychwanegu cyflymder a goliau. Chwaraeodd Evans 11 gêm ar fenthyg dros Port yn 2009/10 tra sgoriodd Thomas 13 o goliau yn ei un tymor UGC yn 2007/08 dros Llangefni. Treuliodd Graham Austin 12 tymor ar Ffordd Talwrn lle roedd yn gapten y glwb. Ar ôl iddo newid o ganol y cae datblygodd yn amddiffynnwr dibynadwy sydd â throed chwith ardderchog . Chwaraeodd 6 gêm UGC dros Port yn 2003/04 ac mae ganddo brofiad yn UGC hefyd gyda Bae Cemaes a Chonwy. Bydd Dean Garmey yn cynyddu’r opsiynau yn y cefn tra fod Dion Donohue yn chwaraewr ifanc addawol iawn a gaiff pob cyfle i ddatblygu ei gêm ar y Traeth.
Bydd proffiliau y chwaraewyr newydd yn cael eu hychwanegu’n fuan.

Four Llangefni players head Gareth Parry’s list of signings for the new season. Three of the four Steve Kehoe, Graham Austin and Marc ‘Loggs’ Evans have all previously appeared for Porthmadog in the WPL and the fourth is winger Darren Thomas who has previous WPL experience with Llangefni. Another newcomer is Dean Garmey defender/midfield who joins from Holyhead Hotspur. Gareth Parry’s current list is completed with the addition of Dion Donohue who joins from Bodedern. Dion a promising left sided attacker is described by Gareth Parry as “one for the future” and was a member of the same Welsh Schools U-18 squad as Cai Jones and Jamie McDaid.
The newcomers will, between them, provide added strength to all departments. Steve Kehoe is a constructive midfielder who scored some impressive goals in a previous season at the Traeth in 2008/09 while it is hoped that Marc Evans and Darren Thomas will add pace and goal power up front. Evans made 11 WPL loan appearances for Port in 2009/10 while Thomas scored 13 goals in his one WPL season in 2007/08 and was leading scorer for the island club last season. Graham Austin has spent twelve seasons at Talwrn Road where he was club captain. He has become a strong reliable defender with an excellent left foot after making the switch from midfield to defence. He played 6 WPL games for Port in 2003/04. He also has WPL experience with Cemaes Bay and Conwy United. Dean Garmey will increase the options at the back while Dion Donohue is a highly rated young player who will be given every opportunity to develop at the Traeth.
Player profiles for newcomers will be added shortly.
25/06/11
Chwaraewyr yn arwyddo ar gyfer 2011/12 / Players commit to Port for 2011/12

Carl Owen Mae Gareth Parry wedi bod yn brysur yn adeiladu ar gyfer y tymor newydd. Eisoes mae chwech o garfan llynedd wedi arwyddo eto i’r clwb gyda mwy am wneud yn ystod yr wythnos nesaf. Y chwaraewyr sydd wedi arwyddo’n barod ydy’r amddiffynwyr Rhys Roberts a Ryan Davies, chwaraewyr canol cae Gareth Jones Evans a Darren Jones yn ogystal a’r blaenwyr Carl Owen a Craig Roberts.
Bydd rhai yn gadael y clwb. Mae’r pedwar na fydd yn arwyddo eto yn cynnwys Mike Foster, a oedd i gymryd yr awenau gyda’r ail dîm, Richie Owen , Gareth Owen a Darren Gowans. Mae Gareth Owen a Richie Owen wedi penderfynu symud ymlaen gyda ymrwymiadau teulu a gwaith y prif rhesymau am eu penderfyniad. Dywedodd Gareth Parry, “Carwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r ddau am eu ymroddiad i’r clwb ac i mi drwy gydol y tymor. Yn barod mae dau neu dri o glybiau am eu harwyddo a ble bynnag yr awn bydd eu clybiau newydd yn cael chwaraewyr profiadol o safon.”
Mae Gareth Parry yn dweud fod Darren Gowans wedi cael y cyfle i wthio ei hun i Gynghrair Cymru gyda Aberystwyth ac mae’n ychwanegu “Rwy’n dymuno’r gorau i Darren gan ddiolch iddo am ei ymdrechion dros y clwb ers ymuno o Langefni ym mis Tachwedd y llynedd.”

Gareth Parry has been busy re-assembling his squad for the new season. Six of last season’s squad have already signed again with others expected to add their names to the retained list sometime during the week. The players who have already committed themselves to Port are defenders Rhys Roberts and Ryan Davies, midfielders Gareth Jones Evans and Darren “Chicken” Jones together with forwards Carl Owen and Craig Roberts.
Some players will be leaving the club. Those who will definitely not be signing again are long serving defender Mike Foster, who had been expected to take over a revived reserve team, together with Richie Owen, Gareth Owen and Darren Gowans.
Both Gareth Owen and Ritchie Owen have decided to move on with.family and work commitments being the main reasons for both leaving. Gareth Parry said, “I would like to take this opportunity to thank both of them for their undoubted commitment to me and the club throughout last season. There are already 2-3 clubs after their signatures and wherever they end up their new clubs will be acquiring two quality experienced players.”
Gareth Parry reports that Darren Gowans has been offered the opportunity to push his way into the Welsh Premier with Aberystwyth adding, “I wish Darren all the best and thank him for his efforts since signing from Llangefni in November last year.”
15/06/11
Cyfarfod cefnogwyr bellach ar 12 Gorffennaf / Supporters meeting switched to 12 July

CPD Porthmadog FC Mae newid i ddyddiad y cyfarfod agored i gefnogwyr . Fe’i gynhelir bellach ar nos Fawrth, 12 Gorffennaf yng Nghlwb y Traeth i gychwyn am 7.00 o’r gloch. Bydd hwn yn gyfarfod pwysig iawn a byddai’r cyfarwyddwyr yn gwerthfawrogi presenoldeb nifer dda o gefnogwyr yno. Darllenwch y cefndir i alw’r cyfarfod hwn ar yr eitemau blaenorol o newyddion ‘Cyfarwyddwyr yn galw cyfarfod cefnogwyr’ a ‘Galwad dyngedfennol am fwy o wirfoddolwyr’.

The open meeting for supporters will now be held at the Traeth Clubhouse on Tuesday 12 July to commence at 7.00 pm. This is a vitally important meeting and a good turnout of supporters would be much appreciated. You can read the background to the calling of the meeting on previous news items ‘Board call open meeting of supporters’ and ‘Crucial call for more volunteers’
15/06/11
Mwy o gemau cyn dymor / More pre-season fixtures

Gareth Parry Mae Gareth Parry wedi cyhoeddi gweddill ei raglen o gemau cyn dymor gyda gemau wedi’u trefnu yn Nefyn a Llanfairpwll o’r Welsh Alliance a wedyn gorffen gyda gêm ar y Traeth yn erbyn y clwb Uwch Gynghrair – Airbus. Y rhaglen gyfan ydy:
16/07/11 Porthmadog v Pilkingtons 2.30 pm
19/07/11 Nefyn v Porthmadog 7.30pm
26/07/11 Porthmadog v Caernarfon 7.30 pm
30/07/11 Porthmadog v Bala 2.30 pm.
02/08/11 Llanfairpwll v Porthmadog 7.30pm
06/08/11 Porthmadog v Airbus 2.30pm
Ar hyn o bryd mae Gareth Parry yng Nghaerdydd yn cwblhau ei Drwydded ‘A’ UEFA hyn ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth pellach ar yr anaf dymor hir i’w ffêr. Dros y dyddiau nesaf medrwn ddisgwyl gyhoeddiad ganddo ynglyn â chwaraewyr sydd yn ail arwyddo i’r clwb a hefyd nifer o chwaraewyr newydd sy’n ymuno o’r newydd. Daw’r cyfan i’r amlwg pan fydd y gwaith papur wedi’i gwblhau. Cyhoeddodd y rheolwr hefyd fod ymarfer i gychwyn ar 5 Gorffennaf.

Manager Gareth Parry has announced the rest of his pre-season schedule with further games arranged at Nefyn and Llanfairpwll of the Welsh Alliance and a home game against WPL club Airbus. The full programme of pre-season games is:
16/07/11 Porthmadog v Pilkingtons 2.30 pm
19/07/11 Nefyn v Porthmadog 7.30pm
26/07/11 Porthmadog v Caernarfon 7.30 pm
30/07/11 Porthmadog v Bala 2.30 pm.
02/08/11 Llanfairpwll v Porthmadog 7.30pm
06/08/11 Porthmadog v Airbus 2.30pm
At the moment Gareth Parry is in Cardiff completing his UEFA ‘A’ Licence after undergoing further surgery on his long term ankle injury. Over the next few days we can expect his announcement on the Porthmadog retained list and the new players he is bringing into the club. All will be revealed when all the paper work is completed. The manager has also announced that training for the new season will commence on the 5 July.
15/06/11
HGA yn cyhoeddi rhestr gemau 2011/12 / HGA announce fixtures for 2011/12

Cynghrair Undebol Huws Gray / Huws gray Alliance Mae swyddogion Huws Gray wedi symud yn sydyn iawn i gyhoeddi’r rhestr gemau ar gyfer 2011/12.Bydd y tymor yn cychwyn ar Sadwrn 13 Awst pan fydd Port yn ymweld a Chae Bob Parry i chwarae Llangefni, clwb sydd yn gweld llawer o newid dros yr haf yn dilyn apwyntiad cyn rheolwr Bethesda Mark Poole i swydd y rheolwr ar Ffordd Talwrn. Yn dilyn fydd yna ddwy gêm ar y Traeth. Bydd Rhos Aelwyd, newydd ddyfodiad llynedd a orffennodd yn 4ydd da yn y gynghrair, yn ymweld ar Sadwrn 20 Awst a Llandudno fydd yr ymwelwyr ar nos Fawrth 23 Awst ar gyfer y gêm a nodwyd ar gyfer ganol wythnos ar ddechrau’r tymor. Ar y Sadwrn olaf o Awst byddwn yn ymweld â’r Rec, cae pencampwyr Cynghrair Spar y Canolbarth, Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Ni fydd gêm eleni ar Wyl San Steffan ac yn Maesdu, cae Llandudno, bydd y gêm dros y Flwyddyn Newydd a hynny ar Llun 2 Ionawr. Bydd rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair yn Llanrhaeadr ar Sadwrn, 15 Hydref. Y bwriad presennol ydy gorffen y tymor ar Sadwrn, 24 Mawrth ond os gawn dywydd tebyg i’r llynedd bydd hyn yn newid mae’n siwr!

Huws Gray officials have moved smartly to give early notice of the fixtures for 2011/12. The season commences on Saturday, 13 August when Port visit Cae Bob Parry to take on Llangefni a club that is undergoing considerable change over the summer following the appointment of new manager Mark Poole who managed Bethesda last season. This game is followed by two home fixtures. Last season’s newcomers Rhos Aelwyd, who will be aiming to repeat or even improve on their excellent 4th place finish last season, will visit the Traeth on Saturday 20 August and on the following Tuesday 23 August, Llandudno will be the visitors for the scheduled early season midweek fixture. The last Saturday in August will see us on the road to the Recreation Ground of Spar Mid Wales champions, Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
No game has been scheduled for Boxing Day this season and the New Year fixture will be at Maesdu where Port will play Llandudno on Monday 2 January. The first round of the League Cup will be played on Saturday 15 October when Port will pay a second visit to Llanrhaeadr. Currently the season is scheduled to finish on Saturday 24 March but given a repeat of last winter that will no doubt be subject to change!
14/06/11
Mike yn tynnu allan o reoli’r Ail Dîm / Mike pulls out as Reserve team manager

Mike Foster Cadarnhaodd y clwb fod Mike Foster wedi penderfynu peidio cymryd swydd rheolwr yr ail dîm ar gyfer y tymor newydd. Rhesymau personol a theuluol sydd tu ôl i benderfyniad Mike ond mae’n amlwg hefyd fod methu dod o hyd i is-reolwr i’w helpu wedi cyfrannu at ei benderfyniad. Bydd hyn yn golygu fod y bwriad i adfer yr ail dim at y tymor hwn mewn perygl gwirioneddol o fethu. Bu’n rhaid tynnu allan o Gynghrair Gwynedd yn hwyr iawn haf diwethaf a’r gobaith oedd fod penodiad buan Mike yn gyfle iddo ddenu carfan gystadleuol ar gyfer y tymor newydd. Ond bellach mae’n rhaid dechrau o’r dechrau heb neb amlwg i gymryd y swydd.
Dywedodd Gerallt Owen, ysgrifennydd y clwb, “Mike oedd y dewis perffaith ar gyfer y swydd, digon o brofiad ac yn un y medrau’r hogiau ifanc edrych i fyny ato. Hefyd roedd yn barod i ennill cymwysterau hyfforddi ac yn medru chwarae yn ôl y galw. Mae’n siomedig ond rym yn deall ei rhesymau o wybod am ei amgylchiadau.”
Er waethaf hynny nid yw’r newyddion i gyd yn ddrwg gan fod Academi’r clwb yn gorfod cael tîm Dan 19 yn rhan o drefn newydd yr Academi. Credir y bydd yna rhaglen o tua 20 o gemau gan yr Academi a byddant hefyd yn medru chwarae yn Nghwpan Ieuenctid Cymru a Chwpan Ieuenctid y Gogledd. Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar ddydd Sul neu yng nghanol wythnos. Ychwanegodd Gerallt, “Ein gobaith ydy sicrhau, drwy dîm yr Academi, gyfleoedd i chwaraewyr ifanc lleol. Hwn fydd y tymor cyntaf i dîm Dan 19 fod yn rhan o strwythur yr Academi a’r gobaith yw, iddo lenwi’r bwlch mawr sydd wedi bodoli rhwng y tîm Dan 16 a charfan y prif dîm.

Porthmadog FC have confirmed that Mike Foster has decided not to become manager of their reserve team for the forthcoming season. Foster has cited personal and family reasons for his decision but difficulties in obtaining an assistant to help is also known to have contributed to his decision. This puts the club’s hopes of fielding a Reserve team this season in grave jeopardy. The club were forced to withdraw from the Gwynedd League late in the day last summer and had hoped that the early appointment of Foster would have given him time to attract a competitive squad for the new campaign. The club is now back to square one with no obvious candidate to take on the role.
Club Secretary Gerallt Owen said “Mike was the perfect candidate for the job, loads of experience which young players could look up to, keen to take the necessary qualifications and also able to play when needed. It's disappointing that it has turned out this way but we perfectly understand his reasons given his particular circumstances”.
All is not lost however as this season the club’s Academy will have to run an U19 team as part of the Academy set-up. It is believed that up to 20 games will be scheduled for the Academy team and that they can also play in the Welsh Youth Cup and North Wales Youth Cup. All games will be either on Sunday or midweek. Owen added “We are hoping to provide opportunities for young players locally through our Academy team. This will be the first season for an U19 team within the Academy structure and we are hopeful that it can fill the gaping hole that has existed between our U16 side and our first team squad”.
12/06/11
Cyfarwyddwyr yn galw cyfarfod cefnogwyr / Board call open meeting of supporters

Phil Jones Mae cyfarwyddwyr y clwb yn trefnu Cyfarfod Cyhoeddus Agored i'r holl gefnogwyr i gychwyn am 7 o'r gloch nos Fawrth y 12 Gorffennaf yn Clwb y Traeth. Pwrpas y cyfarfod ydy ceisio datrys y diffyg help a chefnogaeth i gynnal y clwb o ddydd i ddydd.
Wrth ymateb meddai’r cadeirydd, Phil Jones, "Mae'r neges yn glir ni all y criw bach sydd yn ceisio cynnal y clwb wneud hynny mwyach os mai'r nod yw adennill ein safle yn Uwch Gynghrair Cymru neu, hyd yn oed aros yng Nghynghrair Huws Gray. Bydd RHAID cael mwy o ddwylo i ymgymryd a sawl tasg neu bydd rhaid torri'r got i siwtio'r brethyn.”
Gwahoddir pawb sydd a dyfodol y clwb yn agos i'w calon i'r cyfarfod ar y 5 Gorffennaf."
I wirfoddoli neu am fwy o wybodaeth - Phil Jones 07816213188 / 01766 523186 philjones.portfc@yahoo.co.uk

The Board of Directors is organising an open public meeting for all its supporters at the Clubhouse on Tuesday 12 July at 7pm. The meeting is being called with the aim of tackling the lack of help and support to run the club on a day to day basis.
Responding to this critical situation chairman Phil Jones said, "The message is clear the small band of volunteer workers cannot sustain the club even at its current level and certainly cannot achieve our main aim of returning to the Welsh Premiership. We must have more volunteers to come forward to undertake a number of tasks, some quite menial and not too time consuming but which we cannot undertake because of our other responsibilities.
Everyone who has the club's future at heart is cordially invited to the clubhouse on the 5 July".
To volunteer or for further Information - Phil Jones 07816213188 / 01766 523186 philjones.portfc@yahoo.co.uk
12/06/11
Galwad dyngedfennol am fwy o wirfoddolwyr / Crucial call for more volunteers

CPD Porthmadog FC Mae Clwb Pêl-droed Porthmadog wedi cyrraedd croesffordd lle y gall unai adennill ei le ar y safon uchaf yng Nghymru neu fe fydd yn aros yng Nghynghrair Huws Gray am flynyddoedd i ddod. Neu, hyd yn oed fe all ddisgyn i'r drydedd lefel a Chynghrair y Lock, Stock Welsh Alliance fel eraill o'r cewri a fu unwaith yn sefydlog yn Uwch Gynghrair Cymru.
Dyma neges noeth a diflewyn ar dafod y Cadeirydd, Phil Jones yr wythnos hon. "Yn 1996 'roedd y clwb yn wynebu mynd i'r wal oherwydd problemau ariannol. Daeth amryw o wirfoddolwyr newydd i'r adwy a llwyddiant a chynnydd fu hanes y clwb ers hynny. Ond bellach NID SEFYLLFA ARIANNOL sydd yn bygwth dyfodol y clwb ond y DIFFYG HELP yw'r broblem.
“Ers 2004 buddsoddwyd dros £300k yn gwella cyfleusterau ar y Traeth ac fe lwyddwyd i gael dau ben llinyn ynghyd pob blwyddyn. Mae sefyllfa ariannol y clwb bellach yn un teilwng iawn gyda mantolen gref y gallai unrhyw fusnes fod yn falch ohoni. Ond mae'r bwrdd cyfarwyddwyr bellach i lawr i bump aelod. Mae sawl ffynhonnell incwm unai wedi diflannu, fel y sêl cist car a'r marci a'r bar symudol, neu o dan bwysau cynyddol. A'r broblem fawr yw DIFFYG CYRFF A CHEFNOGAETH hyd yn oed i ymgymryd a'r tasgau mwyaf elfennol.
'Rydym yn disgwyl iawndal sylweddol am golli tir a busnes y sêl cist car oherwydd y ffordd osgoi ond nid tan 2012 ar y cynharaf. Ein bwriad fydd buddsoddi mewn gwella cyfleusterau ar y Traeth a sefydlu mentrau ddaw a incwm parhaol ond heb ormod o waith i'r gwirfoddolwyr fel gosod paneli solar ar y toeau a gwerthu'r trydan i'r Grid Cenedlaethol."
Mae’r neges yn glir os ydym am weld y clwb yn aros ar y lefel bresennol neu well fyth yn adennill lle yn yr Uwch Gynghrair bydd rhaid i llawer mwy ohonom rhoi YCHYDIG o’n hamser i’w wneud yn bosib. Mae’n rhaid fod yna nifer ar gael sydd a chyfraniad gwerthfawr i’w rhoi –rwan yw’r amser i ddod ymlaen.

Porthmadog Football Club has reached a crossroads whereby it can either reclaim its position in the Welsh Premier League or consolidate in the Huws Gray Alliance for years to come. Or it could even drop to the third tier and the Lock, Stock Welsh Alliance League. This is the stark and forthright message from club Chairman Phil Jones this week. "In 1996 we nearly went to the wall for financial reasons but a number of new volunteers became involved and since then the club has developed rapidly and solidly. The problem now IS NOT FINANCIAL but the LACK OF HELP and support to run the club on a day to day basis.
Since 2004 £300k has been spent on improving facilities and we have managed to steer clear of financial problems by breaking even or generating small profits every year. Our balance sheet is one that most local businesses would be more than pleased with. But the board of directors is now down to 5 members and several of our income streams have either disappeared like the car boot sale, marquee hire and outdoor bar service or are under great pressure because of a LACK OF HELPERS.
We are awaiting a compensation settlement for loss of land and the car boot sale business, as a result of the by-pass work, but this will not happen until well into 2012. Our aim will be to use these funds to further enhance facilities at the Traeth or establish new income generating streams that will not put pressure on our volunteers and provide permanent income for the club. One such project we are actively discussing is placing solar panels on our roofs and sell on the electricity generated to the National Grid."
The message is clear if we wish to maintain a club at the current level, or better still regain our place at the top table, many more of us will have to give a LITTLE of our time to make it possible. There must be many out there who have a worthwhile contribution to make –now is the time to come forward.
12/06/11
Port oddi cartref yn Cwpan Huws Gray / Port away in League Cup

Ddydd Sadwrn tynnwyd yr enwau ar gyfer Cwpan Huws Gray ac fel llynedd mae Port oddi cartref. Bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle cynnar iddynt ymweld a chae’r newydd ddyfodiaid Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bydd Cegidfa, deiliad y gwpan, yn wynebu ymweliad anodd â’r Belle Vue yn y Rhyl. Dyma weddill y gemau:
Fflint v Caersws
Penrhyn-coch v Rhuthun
Llandudno v Gap Cei Conna
Penycae v Llangefni
Conwy v Derwyddon Cefn
Buckley Town v Rhos Aelwyd
Nid yw dyddiad y gemau wedi’i gyhoeddi eto.

The draw for the first round of the Huws Gray Cup was made on Saturday and as was the case last season Port have received an away draw. The competition will provide them with an early season visit to the ground of league newcomers Llanrhaeadr-ym-Mochnant. The cup holders Guilsfield will face a difficult visit to the Belle Vue, Rhyl. The rest of the draw is:
Flint Town United v Caersws
Penrhyncoch v Ruthin Town
Llandudno v Gap Connahs Quay
Penycae v Llangefni Town
Conwy United v Cefn Druids
Buckley Town v Rhos Aelwyd
No date has been announced for the playing of these games.
12/06/11
Cyfarfod Blynyddol yn Llangefni / AGM at Llangefni

Cynghrair Undebol Huws Gray / Huws gray Alliance Cadarnhawyd dyrchafiad Penycae, Conwy a Llanrhaeadr-ym-Mochnant yng nghyfarfod blynyddol Huws Gray yn Llangefni ddydd Sadwrn. Lawr yng Nghynghrair Spar y Canolbarth bydd y Trallwng a Rhaeadr ond oherwydd adrefnu bydd Rhydymwyn yn chwarae yng Nghynghrair ardal Wrecsam.
Enwyd Llandudno yn glwb y flwyddyn a Rhyl casglodd y wobr am chwarae teg a hefyd am rhaglen y tymor.
Cyhoeddwyd fod y rhestr gemau i’w threfnu am y tymor cyfan. Yn gynnar yn y tymor bydd yna gêm ganol wythnos ac un arall yn ystod cyfnod y Nadolig. Hefyd ni fydd yna gemau cynghrair ar ddyddiau rownd gyntaf ac ail rownd cwpan y gynghrair.

The promotion of Penycae, Conwy United and Llanrhaeadr-ym-Mochnant was confirmed at the AGM of the Huws Gray Alliance held at Llangefni on Saturday. Welshpool and Rhayader have been relegated to the Spar Mid-Wales league and as a result of restructuring of area associations Rhydymwyn will play in the Wrexham area league.
Llandudno were named the club of the season and Rhyl collected the fair play award and also best programme award.
On fixtures it was announce that the fixture list would be produced for the whole season. There would be an early season mid week game and one game during the Christmas holiday period. Also there will be no league games on the conference dates for the first two rounds of the league cup.
07/06/11
Dim toriad i bump o Port / No break for Port five

Ddydd Sul bydd bêl-droed yn ôl i bump o chwaraewyr Port. Bydd Rhys Roberts, Darren Gowans, Richie Owen, Gareth Owen a Richard Hughes yn bwrw ‘mlaen a’u paratoadau ar gyfer Gemau’r Ynysoedd ar Ynys Wyth wrth i garfan Ynys Môn chwarae TNS ar gae Parkhall Croesoswallt. Pnawn Sul nesaf, 12 Mehefin, bydd y gic gyntaf am 2.00 o’r gloch.
Mae TNS hefyd yn paratoi at gychwyn cynnar i’r tymor yng Nghwpan Ewropa ar diwedd mis Mehefin.
Eisoes mae Ynys Môn wedi chwarae gêm baratoi yn erbyn tîm dewis Arfordir y Gogledd. Cyfartal 1-1 oedd y gêm honno gyda Jamie McDaid yn sgorio i’r Arfordir.

Sunday will see more early action for five Port players. Rhys Roberts, Darren Gowans, Richie Owen, Gareth Owen and Richard Hughes will continue their preparations for the Island Games on the Isle of Wight when the Ynys Môn squad take on TNS at the Parkhall ground in Oswestry next Sunday, 12 June, with a 2.00 pm kick off.
TNS themselves are preparing for the start of their Europa Cup campaign at the end of June.
Ynys Môn have already played one preparatory game against a North Wales Coast Select team. This game ended all square 1-1 with Jamie McDaid scoring the equaliser for the Coast.
03/06/11
Llun yn sicrhau dyrchafiad / Photo secures it for Llanrhaeadr

Llanrhaeadr Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac nid Aberriw bydd yn cael eu dyrchafu o Gynghrair Spar y Canolbarth i’r HGA. Adroddir ar wefan ‘My Welshpool’ fod y clwb wedi derbyn arwydd answyddogol fod pwyllgor apêl yr FAW wedi gwyrdroi penderfyniad gwreiddiol archwilwyr yr HGA i wrthod trwydded i’r clwb am nad oedd ganddynt ddigon o gysgod dan do i gefnogwyr.
Adroddir fod llun yn dangos feranda’r pafiliwn gyda mwy na digon o le i gyfarfod â’r gofynion yn dystiolaeth allweddol.
Disgwylir y bydd dyrchafiad Llanrhaeadr, Conwy a Penycae yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod blynyddol yr HGA. Ar 11 Mehefin.

Llanrhaeadr-ym-Mochnant and not Berriew will be promoted from the Spar Mid-Wales League to the HGA. The ‘My Welshpool’ website reports that the club have been given the unofficial nod that the FAW appeals committee has overturned an original HGA inspectors’ decision to refuse the club a license on the grounds that there were insufficient covered spectator areas.
It is reported that a photograph showing that their covered pavilion veranda could hold more than the required number of standing spectators proved to be the decisive piece of evidence.
The promotion of Llanrhaeadr, Conwy United and Penycae will be confirmed at the Huws Gray AGM on 11 June.
02/06/11
Gemau cyfeillgar cyn dymor / Pre-season friendly fixtures

Lee Webber - nol yn 2003! / back in 2003! Mae’r clwb wedi cyhoeddi tair o gemau cyn dymor a bydd yna fwy i ddilyn unwaith fydd y dyddiadau a threfniadau wedi eu cadarnhau. Bydd y cyntaf o’r gemau yn erbyn Plkingtons, clwb o St Helens sydd yn chwarae yng adran gyntaf Cynghrair Sir Gaer. Cyn gapten Port, Lee Webber ydy is-reolwr Pilkingtons. Ar yr un diwrnod, hefyd ar y Traeth, bydd Penrhyndeudraeth yn chwarae Ail Dîm Pilkingtons gyda’r gic gyntaf am 12.00 o’r gloch.
Mae dwy gêm arall wedi’u trefnu. Byddwn yn croesawu’r cymdogion o Gaernarfon i’r Traeth a hefyd Bala o’r Uwch Gynghrair.. Dyma’r rhestr hyd yma:
16/07/11 Porthmadog v Pilkingtons 2.30 pm
26/07/11 Porthmadog v Caernarfon 7.30 pm
30/07/11 Porthmadog v Bala 2.30 pm.

The club has announced three pre-season frendlies and more will follow once the dates and arrangements have been confirmed. The first of these games will be against Pilkingtons FC of St Helens who play in the First Division of the Cheshire League. Assistant manager of the club is former Port skipper Lee Webber. On the same day and also at the Traeth, kicking off at 12.00 pm, Penrhyndeudraeth will play the Pilkingtons Reserves.
Two other games have been arranged. We welcome our near neighbours Caernarfon Town to the Traeth followed by WPL club Bala Town. The current list is:
16/07/11 Porthmadog v Pilkingtons 2.30 pm
26/07/11 Porthmadog v Caernarfon 7.30 pm
30/07/11 Porthmadog v Bala 2.30 pm.
Newyddion cyn 02/06/11
News before 02/06/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us