Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
31/05/11
Bickerstaff i reoli Llandudno / Bickerstaff to manage Llandudno

Allan Bickerstaff Mae Allan Bickerstaff, a dreuliodd tymor 2007/08 yn is-reolwr ar Port, wedi’i apwyntio’n rheolwr ar Llandudno lle bydd yn cymryd lle Grant Montgomery. Adroddwyd am ei apwyntiad ar wefan Huws Gray heddiw. Llynedd bu Allan Bickerstaff yn hyfforddwr ar Llangefni a chynt ar Airbus. Yn 2008/09 arweiniodd clwb y Rhyl i bencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru.

Allan Bickerstaff, who served a season as Port assistant manager in 2007/08, has been appointed manager of Llandudno Town where he will succeed Grant Montgomery. His appointment has been reported on the Huws Gray Alliance website. Allan Bickerstaff was coach at Llangefni last season and earlier at Airbus. In 2008/09 he led Rhyl to the WPL title.
29/05/11
Golwg yn ôl dros y tymor / A look back at the season

CPD Porthmadog Gyda’r llwch bellach wedi setlo ar dymor 2010/11 mae’n bosib edrych yn ôl a gweld lle mae’r clwb wedi cyrraedd. Roedd y cefnogwyr yn ymwybodol o gychwyn y tymor mai tymor o ddatblygiad oedd hwn i fod, wedi nifer o dymhorau o frwydro yng ngwaelodion UGC. Roedd Gareth Parry a Campbell Harrison yn sylweddoli fod absenoldeb tîm ieuenctid/ail dîm yn golygu na fyddai’n bosib sicrhau Trwydded Ddomestig y tymor hwn.
Cliciwch yma i ddarllen mwy.

With the dust having settled on the 2010/11 campaign it is possible to take stock and see where we are at. Supporters were aware from the start of the season that this was to be a development season coming on the back of several years of struggle near the bottom of the WPL. With the lack of a youth/reserve team this season Gareth Parry and Campbell Harrison knew that the club could not qualify for a Domestic Licence.
Click here to read more.
23/05/11
Gwobrau tymor 2010/11 yr HGA / HGA Season 2010/11 Awards

Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League Llongyfarchiadau i Steve Walters o Aelwyd y Rhos sydd wedi’i enwi yn rheolwr y flwyddyn Chwaraeon Teejac yr HGA. Aeth Steve a’r clwb i’r 4ydd safle ar ddiwedd eu tymor cyntaf yn ôl yn y gynghrair wedi iddynt sicrhau dyrchafiad.
Gary O’Toole, prif sgoriwr y gynghrair, ydy chwaraewr y tymor Charisma yr HGA.
Isod gwelir tîm y tymor yr HGA gyda’r tîm yn cael eu ddewis drwy bleidleisiau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr yn ystod y tymor. Mae’r tîm wedi’u osod yn ôl patrwm 4-4-2.
Dave Jones (T/llwng/C/gidfa) : Mark McGregor (Cei Conna), Adam Hesp (Derwyddon) John Davies (Fflint), Ben Collins (Cei Conna): Darren Thomas (Llangefni), Brad Maylett (Rhyl), Graham Evans (Caersws), Chris Williams (Rhyl): Gary O’Toole (Cei Conna), Mike Burke (Rhos Aelwyd).

Congratulations to Steve Walters of Rhos Aelwyd who has been named the Teejac Sports HGA manager of the season. Steve led Rhos to a fourth placed finish in their first season back in the league after promotion.
The HGA’s leading scorer Gary O’Toole was named Charisma Trophies Player of the season.
Below is the HGA team of the season with the team selected by votes received from opponents during the season. The team is set out in 4-4-2 pattern.
Dave Jones (W/pool/Guilsfield) : Mark McGregor (Connah’s Quay), Adam Hesp (Druids) John Davies (Flint), Ben Collins (Connah’s Quay): Darren Thomas (Llangefni), Brad Maylett (Rhyl), Graham Evans (Caersws), Chris Williams (Rhyl): Gary O’Toole (Connah’s Quay), Mike Burke (Rhos Aelwyd).
21/05/11
Ail-agor ffenestr cofrestru chwaraewyr / Re-opening of player registration window

Mae’r HGA wedi cyhoeddi fod ffenestr gofrestru’r FAW yn ail agor ar 8 Mehefin. Mae’n ychwanegu y bydd ffurflenni ar gael o ddechrau mis Mehefin gyda ysgrifenyddion y clybiau â’r hawl i’w arwyddo o’r 3 Mehefin -sef 5 diwrnod cyn eu cyflwyno. Felly gellir disgwyl dipyn o brysurdeb wrth i glybiau symud i geisio cryfhau eu carfannau yn barod at y tymor newydd.

The HGA has announced that the FAW player registration window re-opens on 8 June. It further says that forms will be available at the beginning of June and can be signed by club secretaries from the 3 June, five days before submission. So early June will no doubt see a flurry of activity as clubs seek to strengthen their squads for season 2011/12.
18/05/11
Penycae yn aros cadarnhad am ddyrchafiad / Penycae await promotion confirmation

Penycae Mae’n debygol o gael ei gadarnhau y bydd Penycae yn chwarae yn yr HGA tymor nesaf. Mae’r fuddugoliaeth o 1-0 yn Owrtyn neithiwr yn eu gwneud yn bencampwyr Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam). Mae cae’r clwb eisoes wedi pasio’r archwiliad swyddogol. Bydd eu dyrchafiad yn golygu fod yna dri chlwb o ardal Wrecsam -Derwyddon Cefn, Rhos Aelwyd a rwan Penycae- i gyd o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd, ac i gyd yn chwarae yng Nghynghrair Huws Gray y tymor nesaf.

It is likely to be confirmed that Penycae will play in the HGA next season. Their victory by 1-0 at Overton last night means that they are champions of the Welsh National League (Wrexham area). They have already passed the official ground inspection. Their promotion will mean that there three Wrexham area clubs –Cefn Druids, Rhos Aelwyd and now Penycae- within a few miles of each other and all playing in the Huws Gray Alliance next season.
16/05/11
Mwy o faterion dyrchafiad / More promotion matters

Gyda’r tymor drosodd mae dyrchafiad o’r o Gynghrair Spar y Canolbarth yn ddibynnol bellach ar ganlyniad apêl gan Llanrhaeadr-ym-Mochnant i’r FAW. Mae’r apêl yn erbyn penderfyniad Cynghrair Huws Gray i wrthod dyrchafiad iddynt am nad yw’r cae yn cyrraedd safonau’r HGA. Gyda rhediad hwyr sicrhaodd Llanrhaeadr mai nhw ac nid Aberriw oedd pencampwyr Cynghrair Spar. Mae cae Aberriw, sydd yn ail, wedi pasio’r archwiliad yn barod.
Methodd cae Llanrhaeadr archwiliad gan swyddogion Huws Gray gan nad oes lle dan do i 110 o gefnogwyr. Ond mae’r clwb yn honni fod ganddynt eisteddle i 52 ac hefyd lle sefyll dan do i 60 arall ar feranda y pafiliwn. Bydd rhaid aros rwan i weld beth fydd canlyniad yr apêl.

With the season over promotion from the Spar Mid-Wales League will now depend on the result of an appeal to the FAW by Llanrhaeadr-y- Mochnant. This is against the HGA’s decision to refuse them promotion because their ground does not meet the standards set by the HGA . A late Llanrhaeadr run meant that they pipped Berriew to the Spar League title. Berriew in second place have already passed their ground inspection.
The Llanrhaeadr ground has failed the inspection by HGA officials as it does not provide covered accommodation for 110 supporters. The club claim that they have a stand with 52 seats and can provide covered standing for 60 people on their pavilion veranda. WE shall have to await the outcome of the appeal.
15/05/11
Dan-14 yn methu’r glwyd olaf / U-14’s go down at final hurdle

Disgyn ar y glwyd olaf oedd hanes hogiau Dan-14 yr Academi heddiw. Wedi mynd drwy’r tymor yn ddiguro collwyd yn ffeinal Cwpan Academi Cymru yn y Drenewydd. Er waethaf mynd ar y blaen o 1-0 daeth Prestatyn yn eu holau ac wedyn mynd ymlaen i ennill o 3-1. Eironi’r sefyllfa oedd fod Port wedi curo Prestatyn ynghynt yn y tymor ond mae’n bwysig cofio mai gêm rhwng dau dîm llwyddiannus iawn oedd hon a’r gêm honno ym Mhorthmadog oedd yr unig tro i Brestatyn gael eu trechu y tymor hwn.
Estynnwn ein llongyfarchiadau i Brestatyn ar eu buddugoliaeth a llongyfarchwn ein hogiau ni hefyd a’u hyfforddwr Gwyn Ellis ar dymor rhagorol. Rhaid dal ati tymor nesaf eto i fynd un cam ymhellach.

It was a case of falling at the final hurdle for the Academy U-14s. Having gone through the season unbeaten they went down in today’s Welsh Academies Final at Newtown. Despite going 1-0 ahead Prestatyn recovered and went on to win by 3-1. Ironically the unbeaten Port side had defeated Prestatyn earlier in the season but it is important to realise that this was a game between two highly successful teams as that defeat at Porthmadog was the only setback suffered by Prestatyn this season.
Our congratulations go to the Prestatyn Academy on their victory and congratulations also to our lads and their coach Gwyn Ellis on what has been an outstanding season. Forward now to more hard work next season and aim to go one better.
12/05/11
Pump o Port yng Ngemau'r Ynysoedd / Five from Port in island Games

Darren Gowans Mae Rhys Roberts, Darren Gowans, Richie Owen, Gareth Owen a Richard Hughes wedi’u henwi mewn carfan o ddeunaw o chwaraewyr i chwarae dros Ynys Môn yng Nghystadleuaeth Rhyngwladol NatWest yr Ynysoedd. Hefyd yn y garfan mae Iwan Williams (Llandudno) cyn flaenwr i Port . Oherwydd anaf mae chwaraewr rheolwr Port, Gareth Parry wedi tynnu yn ôl o’r garfan.
Bydd Ynys Môn yn Grwp B gyda Gibraltar, Alderney ac hefyd Ynys Wyth lle mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal eleni.
Yn ddiweddar curodd Gibraltar Ynysoedd y Farro o 3-0 mewn gêm gyfeillgar a nhw aeth a’r fedal aur yng ngemau 2007 ond curwyd hwy gan Ynys Môn yn 2009 o 3-1.

Port players Rhys Roberts, Darren Gowans, Richie Owen, Gareth Owen, and Richard Hughes have all been named in an 18 player Ynys Môn squad to represent the island in next month's 14th NatWest International Island Games. Also included in the squad is former Port forward Iwan Williams (Llandudno), Due to injury Port player-manager Gareth Parry has withdrawn from the squad.
Ynys Mon will compete against Gibraltar, Alderney and the host island, the Isle of Wight, in Group B of the football competition.
Gibraltar recently beat the Faroe Islands 3-0 in a friendly at home and were Island Games gold medallists in 2007, but Ynys Mon beat them 3-1 in 2009.
11/05/11
Gemau terfynol Academi Cymru / Welsh Academy Finals Day

Prestatyn Sul nesaf, 15 Mai, bydd Academi Porthmadog unwaith eto yn cael eu chynrychioli ar ddiwrnod Rowndiau Terfynol yr Academi. Bydd rowndiau terfynol Dan-12, Dan-14 a Dan-16 yn cael eu chwarae ar Barc Latham, Y Drenewydd. Yn dilyn eu buddugoliaeth o 4-0 dros Aberystwyth yn y rownd cynderfynol a chwaraewyd yn y Bermo ar 1 Mai bydd Academi Port yn chwarae Prestatyn yn y ffeinal ar ddydd Sul, 15 Mai. Y Sul diwethaf sicrhaodd Prestatyn eu lle yn y ffeinal drwy guro Academi gryf Casnewydd o 3-2 mewn gêm a chwaraewyd ar gae Parkhall, Croesoswallt.
Eisoes mae Port a Phrestatyn wedi chwarae eu gilydd yn ystod y tymor ac yn ôl ym mis Tachwedd Port oedd yr enillwyr mewn gêm agos o 3-2. Yn ystod tymor 2010/11 mae’r tîm Dan-14 wedi aros yn ddiguro gyda ond un gêm gyfartal –yn erbyn Airbus- canlyniad a wnaed yn iawn amdano pan wnaeth y ddwy Academi gyfarfod yn rownd yr wyth olaf. Mae eu buddugoliaethau yn cynnwys un o 13-0 yn ogystal a buddugoliaeth o 7-0 ac un arall o 6-2. Y garfan a sicrhaodd le iddynt yn y ffeinal oedd: Dafydd Jones, Rhodri Evans, Dylan Sweeney, Gwynant Parry, Nathan Palmer, Steffan Owen, Tomos Owen, Llion Owen, Tomos Saynor, Leo Smith, Meilir Williams, Guto Roberts, Jordy Wood, Cameron Jones, Sion Bradley, Harri Griffiths.
Y gemau i’w chwarae ddydd Sul fydd:
Dan-12: Casnewydd v Airbus
Dan-14: Porthmadog v Prestatyn
Dan-16: TNS v Bangor

Next Sunday, 15 May, will see the Porthmadog Academy once again represented at the Academies Finals Day. The Finals at U-12, U-14 and U-16s will once more be played at Latham Park, Newtown. Following their 4-0 semi final win over Aberystwyth at Barmouth on 1 May the Port Academy U-14s will meet Prestatyn in the final on Sunday 15 May. Last Sunday Prestatyn qualified for the final with a 3-2 semi final victory over the strong Newport County Academy in a game played at Park Hall, Oswestry.
Port and Prestatyn have already met this season and on that occasion, back in November Port were winners by 3-2 in a close contest. The Port Academy U-14s are unbeaten during the season winning eight of their nine games and drawing once –against Airbus- a result which they righted when the two academies met again in the quarter finals. Their wins include a 13-0 win as well as one of 7-0 and another by 6-2. The semi-final winning squad was Dafydd Jones, Rhodri Evans, Dylan Sweeney, Gwynant Parry, Nathan Palmer, Steffan Owen, Tomos Owen, Llion Owen, Tomos Saynor, Leo Smith, Meilir Williams, Guto Roberts, Jordy Wood, Cameron Jones, Sion Bradley, Harri Griffiths.
The games to be played on Sunday are:
U-12: Newport County v Airbus
U-14: Porthmadog v Prestatyn
U-16: TNS v Bangor
11/05/11
Timau'n mynd i fyny a lawr / Promotion and relegation

Conwy Gyda thymor yr HGA drosodd mae’n bosib edrych a gweld y clybiau sy’n debyg o gael eu dyrchafu a’r rhai fydd yn mynd i lawr. Conwy sydd wedi ennill y ras yn y Welsh Alliance gan orffen yn uwch na Caergybi a hefyd wedi pasio eu hail archwiliad. Felly y cyn glwb o Uwch Gynghrair Cymru sy’n debygol o ennill dyrchafiad.
Y sefyllfa yng Nghynghrair ardal Wrecsam ydy fod Penycae, sydd wedi pasio’r archwiliad, yn ffefrynnau i ennill dyrchafiad. Yn y trydydd safle mae clwb Venture sydd hefyd wedi pasio archwiliad. Coedpoeth sydd yn yr ail safle ond heb wneud cais am ddyrchafiad.
Aberriw neu Llanrhaeadr-Ym-Mochnant fydd yn ennill dyrchafiad o Gynghrair Spar y Canolbarth. Mae Aberriw wedi pasio’r archwiliad tra fod Llanrhaeadr wedi methu archwiliad terfynol o’r cae yr wythnos ddiwethaf ond yn apelio i’r FAW.
Rhydymwyn, Rhaeadr a’r Trallwng fydd yn colli eu lle yn yr HGA.

With the HGA season now over we can look at promotion and relegation issues. Conwy United have won the Welsh Alliance title race ahead of Holyhead and have passed their second inspection so the former WPL club look likely to be promoted.
In the Welsh National League (Wrexham area) Penycae, who have passed the inspection, look favourites for promotion while in third spot are Venture who have also passed an inspection. Coedpoeth in second place have not applied for promotion.
From the Spar Mid-Wales League Berriew or Llanrhaeadr -y-Mochnant will be promoted. Berriew have passed their inspection while Llanrhaeadr failed their final pitch inspection last week but are believed to be appealing to the FAW.
The relegated clubs will be Rhydymwyn, Rhayader and Welshpool.
08/05/11
Bloedd o orffennol Cwpan Cymru / Welsh Cup blast from the past

Bangor Troednodyn diddorol i fuddugoliaeth Llanelli dros Bangor yng Nghwpan Cymru heddiw yw fod yn dod a rhediad rhyfeddol tîm Neville Powell i ben, rhediad sy’n ymestyn yn ôl i 6 Tachwedd 2006, pan gollwyd gêm yng Nghwpan Cymru am y tro diwethaf. Ar y Traeth ddigwyddodd hynny pan enillodd Port o 2-0. Y sgorwyr ar y dydd oedd ein rheolwr Gareth Parry a’r amddiffynnwr canol Rhys Roberts. Daeth y ddwy gôl o ganlyniad i giciau cornel Chris Evans.
Mae’r adroddiad am y gêm yn dweud, “Roedd Gareth Parry yn haeddu’r gol gan ei fod ar ben ei gêm yn rheoli canol cae a’i basio o’r safon uchaf.”
Mae’r adroddiad hefyd yn ychwanegu ”Ymddiswyddodd rheolwr Bangor, Clayton Blackmore, ar ôl buddugoliaeth gyfforddus Port.”
Tîm Port ar y diwrnod oedd Richard Harvey: John G Jones, Ryan Davies, Rhys Roberts, Mike Foster: Danny Hughes Paul Friel (Richard Hughes 90'), Gareth Parry, Chris Evans (Gareth Caughter 81')): Carl Owen (Jason Sadler 90'), Les Davies. Viv ac Osian oedd y tîm reoli.
Nid yw colli heddiw yn tynnu oddi wrth tymor gwych Bangor ac estynnwn ein llongyfarchion i’n cymdogion.

An interesting footnote to today’s Welsh Cup victory by Llanelli over Bangor is that it marked the end of a remarkable run by Neville Powell’s team which stretches back to 6 November 2006 when they last suffered a defeat in the Welsh Cup. That happened at the Traeth when Port ran out winners by 2-0. The scorers on the day were our present manager Gareth Parry and our central defender Rhys Roberts. Both goals resulted from corners by Chris Evans.
The match report of the game says, “It was just that Gareth Parry was the scorer as he was in outstanding form throughout, controlling midfield and his passing was of high quality.”
The report also adds, “Bangor City's Clayton Blackmore resigned as manager of the club following Porthmadog's comfortable victory.”
The Port team on the day was: Richard Harvey: John G Jones, Ryan Davies, Rhys Roberts, Mike Foster: Danny Hughes Paul Friel (Richard Hughes 90'), Gareth Parry, Chris Evans (Gareth Caughter 81')): Carl Owen (Jason Sadler 90'), Les Davies. Viv and Osian were the Port management team.
Today’s result does not detract from a remarkable season and we congratulate our Gwynedd neighbours.
06/05/11
Y ffordd i stadiwm Derwyddon Cefn / The route to CefnDruids Ground

O’r A55 trowch i’r chwith yn Llangollen a dros y bont, troi i’r dde tuag at Trefor. Wedi 4.5 milltir trowch i’r dde B5096/ King Street- Ewch ar y B5096 am 0.9 milltir a cymryd y gyntaf i’r chwith ar ôl Somerfield i Rock Road. Ewch heibio Marcher Chemicals ar y chwith ac mae’r ffordd sy’n arwain at y cae 100 llath ar y chwith.
Cyfeiriad a Cod Post ydy: The Rock, Rock Road, Rhosymedre,Wrecsam. LL14 3YF

From A5 Turn left in Llangollen across bridge turn right onwards Trevor. After 4.5 miles turn right on to B5096/King Street - Follow B5096 for 0.9 miles and take first left after Somerfield supermarket on to Rock Road. - Go past Marcher Chemicals on the left and the approach road to the stadium is approximately 100 yards on the left.
Address and Post Code are: The Rock, Rock Road, Rhosymedre,Wrexham. LL14 3YF
06/05/11
Tote Misol Ebrill / Monthly Tote for April

Tote Misol
Un enillydd sydd i’r Tote Misol -a hwnnw i’w gadarnhau- sef H Humphreys, Penrhyndeudraeth a £600 ydy’r wobr. Y rhifau lwcus ydy19 a 20. Dylai unrhyw ceisiadau eraill gael eu gwneud cyn 8.00 o’r gloch heno, nos Wener 6 Mai. Draw Wythnosol
Enillwyr diweddar y wobr o £100 yn draw wythnosol CPD Porthmadog ydy: Wythnos 1 Wendell Owen, Croesoswallt (rhif 78). Wythnos 15 Eifion Pugh Higher Kinnerton ( Rhif 600). Wythnos 16 George Anderson Talsarnau (Rhif 10). Wythnos 17 Megan Roberts Penrhyndeudraeth (Rhif 136).

Monthly Tote
Subject to confirmation there is one winner, H Humphreys of Penrhyndeudraeth, of the April Tote £600 prize. The winning numbers are 19 & 20. Any further claims should be made prior to 8.00pm tonight Friday 6th May. Weekly Draw
The latest winners of the £100 prize in the Porthmadog Football Club Weekly Draw are Week 14 No 78 Wendell Owen, Oswestry, Week 15 No 60 Eifion Pugh, Higher Kinnerton, Week 16 No 10 George Anderson, Talsarnau, Week 17 No 136 Megan Roberts Penrhyndeudraeth.
04/05/11
Rhagolwg: Ffeinal Cwpan Huws Gray / Preview: Huws Gray Cup Final

Cegidfa / Guilsfield Chwaraeir Rownd Derfynol Cwpan Huws Gray pnawn Sadwrn ar Y Graig, cae Derwyddon Cefn. Daw’r gystadleuaeth hon, ar ddiwedd tymor lle mae’r ddau glwb heb weld llwyddiant yn y gynghrair, ac felly’n gyfle i Port neu Chegidfa orffen y tymor ar nodyn uchel a chodi cwpan.
Os record y ddau glwb yn y gynghrair sydd i benderfynu canlyniad y gêm Port fydd y ffefrynnau er waetha’r ffaith fod wythfed yn y tabl yn is na fyddai Port wedi gobeithio amdano, mae’n dal pum safle’n uwch na Chegidfa, er i’r clwb o’r canolbarth orffen yn gyfforddus uwch na’r tri yn y gwaelod. Yn y gynghrair cwblhaodd Port y dwbl dros Cegidfa. Ar bnawn niwlog yn y canolbarth cafwyd brwydr agos iawn ond Port aeth a hi diolch i ddwy gôl yn yr ail hanner. Tra ar y Traeth cafwyd buddugoliaeth fwy swmpus o 5-0 gyda tair o’r goliau yn dod yn hwyr iawn. Gyda Cegidfa yn methu sgorio yn un o’r ddwy gêm y profiadol Paul Roberts gyda tair gôl dros y ddwy gêm a nid yr addawol Ross Frame enillodd brwydr yr ymosodwyr.
Ond gêm yn sefyll ar ei phen ei hun ydy hon ar Y Graig, lle mae’r gemau blaenorol yn cyfrif am ddim. Mae ffactorau eraill hefyd yn dylanwadu fel y rhestr hir o anafiadau mae Port wedi dioddef yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y diweddaraf ydy’r capten Ryan Davies yn tynnu llinyn y gar yn erbyn Caersws ac yn annhebygol o chwarae a Craig Roberts hefyd yn hercian o’r cae. Bydd bysedd y cefnogwyr wedi croesi yn y gobaith o weld Gareth Jones Evans, y chwaraewr canol cae allweddol, yn ddigon iach i gael rhan yn y ffeinal. Cafodd Gareth Parry broblemau tebyg wrth enwi tîm cyn y rownd cynderfynol a bydd am weld ysbryd tebyg a ddangoswyd y noson honno.
Ni fu Cegidfa yn brin o ysbryd chwaith ac maent yn gyson wedi perfformio i safon uwch na’r disgwyl fel y gwnaethon llynedd wrth gadw eu lle yn yr HGA a synnu nifer. Cyrhaeddon nhw’r ffeinal drwy guro Rhayader a Rhos Aelwyd a wedyn Caersws yn y rownd gynderfynol diolch i goliau Richard Astley a Ross Frame.
Dewch inni obeithio am gêm dda a’r tîm iawn yn ennill!

Y Graig / The Rock The Huws Gray Cup Final will be played on Saturday on the Cefn Druids ground, The Rock. This competition, coming at the end of a season where league success has eluded both clubs, gives Port and Guilsfield the chance to end their season on a high note and pick up some silverware.
If league form was the deciding factor then Port would start favourites despite the fact that 8th spot was lower than they might have hoped for as Guilsfield finished their season in 13th place but nevertheless comfortably above the bottom three. In the league Port completed the double over their mid-Wales opponents. On a foggy day in Guilsfield the two clubs fought out a close contest with two second half goals giving Port the three points whilst at the Traeth the score line of 5-0 was clear cut but three of those goals came very late in the game. With Port keeping two clean sheets it was the experienced Paul Roberts who won the battle of the strikers netting three times over the two games while promising young Guilsfield forward Ross Frame missed out.
But this game at The Rock is a one off and the kind of game where the form book goes out of the window. Other factors also come into play like Port’s growing injury list which has plagued the club over the last few weeks. Skipper Ryan Davies pulled a hamstring against Caersws and must be unlikely to play a part. Craig Roberts limped off in the same game and supporters will have fingers crossed that key midfielder Gareth Jones Evans has recovered sufficiently to play a part. Gareth Parry had similar problems fielding a team before the semi-final so will look for the same spirit that produced a fine performance on the night.
Guilsfield have never been short of spirit either and are a club who have consistently punched above their weight retaining their place in the HGA last season against many people’s expectations. They reached this final with wins over Rhayader, Rhos Aelwyd and then Caersws in the semi final thanks to goals from Richard Astley and Ross Frame.
Let’s hope for a good game and the right result!
03/05/11
Gwobrau ddiwedd tymor / End of season awards

Ddydd Sadwrn ar y Traeth daeth y llen i lawr ar yrfa nodedig Mike Foster yn y tîm cyntaf gyda’i gyd chwaraewyr yn ffurfio llinell i’w anrhydeddu a’i groesawu i’r cae. Er na chafodd fuddugoliaeth yn ei gêm olaf bu diweddglo addas ac haeddiannol wrth i’r cefnogwyr ei ddewis yn chwaraewr y tymor am 2010/11. Roedd wrth gwrs yn fwy na phleidlais am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y tymor hwn ond hefyd am gyfraniad anhygoel dros gyfnod o ddau ddegawd i CPD Porthmadog. Diolch Mike ac edrychwn ymlaen i’w weld yn cyfrannu o’i brofiad hir at ddatblygiad chwaraewyr ifanc yr ail dîm.
Gareth Jones Evans, yn ei dymor cyntaf ar y Traeth, oedd dewis ei gyd chwaraewyr fel chwaraewr y tymor y chwaraewyr, sydd yn deyrnged uchel iawn i chwaraewr ifanc a greodd argraff fawr iawn ers ymuno a Port o Bwllheli.
Paul Roberts casglodd gwobr y prif sgoriwr gyda cyfanswm ardderchog o 24 gôl mewn 28 gêm ym mhob cystadleuaeth, a 18 gôl yn ei 22 gêm gynghrair –ei gyfanswm gorau dros Port.
Dangosodd y capten Ryan Davies a’r rheolwr Gareth Parry, ar ran y chwaraewyr, eu gwerthfawrogiad o staff tu ôl i’r llen yn y clwb. Derbyniodd Phil Jones anrheg ar ran y bwrdd gweithgar. Gwnaed sylw arbennig o waith Phil ac Ian Foulkes yn tendio’r cae sydd a’r wyneb gorau yn y gynghrair. Roedd y cae ddydd Sadwrn yn edrych cystal a chae ar ddechrau’r tymor, sydd yn glod i’w sgiliau a’u gwaith cyson. Cyflwynwyd blodau i Enid Owen a Jane Roberts am eu gwaith cyson o wythnos i wythnos yn cyflawni dyletswyddau angenrheidiol i rhediad y clwb ac hefyd i Hannah a ddaeth a’i sgiliau proffesiynol at wasanaeth y clwb wrth drin anafiadau’r chwaraewyr.

Highslide JS
Mike Foster
   Highslide JS
Gareth Jones Evans
   Highslide JS
Paul Roberts
   Highslide JS
Enid Owen


Mike Foster brought the curtain down on his distinguished first team career at the Traeth on Saturday with his team mates lining up to honour and greet him as he entered the field of play. His final afternoon did not end in victory but ended with the suitable and well deserved climax of being voted the supporters player of the year for 2010/11. It was more than a vote for this season but a vote of appreciation for the best part of two decades of fantastic service to CPD Porthmadog. Thanks Mike and we look forward to your contribution passing on your wealth of experience to the young players of the reserves.
Gareth Jones Evans, in his first season at the Traeth, was voted by his own team mates the players’ player of the year which is a huge tribute to a young player who has made such an impression since joining Port from Pwllheli.
Paul Roberts picked up the top scorer award with a splendid overall return of 24 goals in 28 starts and 18 league goals in 22 starts his best scoring season for Port.
Captain Ryan Davies and manager Gareth Parry on behalf of the players showed their appreciation of the back-room staff at the club with Phil Jones receiving on behalf of a hard working board. Special mention was made of Phil’s work, together with Ian Foulkes, tending the best playing surface in the league. The pitch on Saturday looked as good at the end of the season as it did at the beginning, a tribute to their skill and hard work. Bouquets were presented to Enid Owen and Jane Roberts, for their contributions week in week out as vital back room staff, and also for Hannah who has brought her professional skills to the club and to the treatment of player injuries.
04/05/11
Diolch yn fawr Bermo / Our thanks to Barmouth

Y Bermo / Barmouth Mae hyfforddwr y tîm Dan 14, Gwyn Ellis, am ddiolch o galon i Glwb y Bermo ar ran Academi Porthmadog am y croeso cynnes ddydd Sul.
“Roedd y cae yn edrych yn ardderchog a'r hogia yn gwerthfawrogi cael chwarae ar gae cystal. Rwy'n sicr bod hyn wedi ein helpu i chwarae'r pêl-droed deniadol â arweiniodd at y fuddugoliaeth.
“Diolch arbennig i Will Huntley Cadeirydd y Bermo, a oedd yno yn edrych ar ôl pawb a hyd yn oed dod a sglodion i holl chwaraewyr a hyfforddwyr y ddau glwb ar ôl y gêm. Rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn, yn enwedig o gofio bod gêm wedi bod ar y cae y diwrnod cynt a dwy gem i ddilyn y diwrnod wedyn gydag un ohonynt yn gêm fawr i'r clwb. Hon yn penderfynu os mai Bermo neu Cyffordd Llandudno oedd yn disgyn o'r Gynghrair! Nid Bermo aeth i lawr chwaith felly roedd pawb yn hapus!”

Gwyn Ellis the U-14s coach wishes to thank the Barmouth club on behalf of the Porthmadog Academy for their warm welcome on Sunday.
“The pitch looked great and the lads appreciated playing on such a good surface. I’m sure this helped them play the attractive football which gave them the victory.
“A special thank you to Will Huntley the Barmouth chairman who looked after everyone even bringing the players and coaches of both clubs a feed of chips after the game! We appreciate all of this very much especially bearing in mind that a game was played on this pitch the previous day and two more to follow on the Monday and one of these was very important for the Barmouth club. It would decide whether Barmouth or Llandudno Junction would be demoted. In the end Barmouth will not go down so it was happy days all round!
01/05/11
Dan 14 Port 4 v Aberystwyth 0 / Port U14s 4 Aberystwyth 0

Perfformiad ardderchog gan yr hogia yn yr hanner cyntaf, Meilir Williams yn agor y sgorio gyda gol wych ar ôl 5 munud yna Tomos Saynor yn ychwanegu i'r sgôr i'w gwneud hi'n 2 - 0 o fewn y deng munud cyntaf ac yna eto o fewn hanner awr i'w gwneud hi'n 3 - 0 ar yr egwyl. Jordie Wood wedyn yn sgorio yn yr ail hanner i'w gwneud yn 4 - 0 yn y diwedd. Edrych ymlaen nawr i'r ffeinal yn y Drenewydd ar 15 Mai yn erbyn Prestatyn neu Casnewydd.
Squad / Carfan
Dafydd Jones, Rhodri Evans, Dylan Sweeney, Gwynant Parry, Nathan Palmer, Steffan Owen, Tomos Owen, Llion Owen, Tomos Saynor, Leo Smith, Meilir Williams, Guto Roberts, Jordy Wood, Cameron Jones, Sion Bradley, Harri Griffiths.

An excellent performance in the opening half with Meilir Williams opening the scoring with a great goal after only 5 minutes and Tomos Saynor added a second making it 2-0 inside the first ten minutes. He scored another before the half hour mark was reached making it 3-0 at the interval. Jordie Wood netted another in the second half to make the final score 4-0. We now look forward to the final on 15 May against either Prestatyn or Newport to be played at Newtown.
Gwyn Ellis.
03/05/11
Newid mawr i’r North Wales Football Post / Big change at North Wales Football Post

Wedi ond un rhifyn o’r North Wales Football Post –a hwnnw’n un da- mae yna newid mawr i’r gwasanaeth.
Medd y golygydd Ethan Jones, “Bydd yna newid i’r gwasanaeth. Oherwydd cynnydd mewn galwadau gwaith ac amgylchiadau eraill bydd rhaid gohirio cyhoeddi’r NWFP am y dyfodol y gellir ei rhagweld.”
Aeth ymlaen i ddweud, “Rwy’n credu fod gwefan yn ddull gwell gan fydd yn rhoi gwasanaeth tebyg –gyda’r unig gwahaniaeth fydd eich bod yn derbyn y newyddion a’r rhestr gemau ac yn y blaen fel maent yn digwydd yn lle pythefnos yn ddiweddarach. Bydd cynnwys y wefan yr un fath gyda rhai eitemau newydd fel fforwm.
“Rwyf yn ddigon hapus i greu gwefan gyda fydd yn rhoi yr un math o wasanaeth –ond heb ei gyfeirio i’ch blwch e-bost.”

After just one –excellent- edition the North Wales Football Post has made a drastic change to its service.
Editor Ethan Jones says; “There will be a change in the service of the North Wales Football Post.Due to vastly increased work commitments and other circumstances the publication of the NWFP will have to be postponed for the foreseeable future.”
He goes on to say, “I believe that a website will be a better approach as it will give you all pretty much the same thing - with the only difference being that you will get news, results & fixtures etc when they happen instead of 2 weeks later! The website will contain all the current features of the NWFP and also new features such as forums etc
“I am happy to set up a website that will provide exactly the same service - just not to your inbox!!”
01/05/11
Dan-14 yn y ffeinal / U-14s through to final

Buddugoliaeth ardderchog i’r hogiau Dan-14 yn rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru a chwaraewyd y bore yma ar gae Wern Mynach, Y Bermo. Curwyd Academi Aberystwyth o 4-0. Yn ddiguro y tymor hwn, mae’r grwp yma o chwaraewyr ifanc talentog drwodd i rownd derfynol Cwpan Academi Cymru sydd i’w chwarae ar 15 Mai o bosib yn y Drenewydd.
Llongyfarchiadau i’r hogiau ac i’w hyfforddwr Gwyn Ellis ar y newyddion ffantastig yma. Cewch fwy o fanylion am y fuddugoliaeth unwaith y byddant i law.

The Academy U-14s gained an outstanding victory in this morning’s Welsh Academies Cup semi final played at the Wern Mynach Ground, Barmouth. They defeated the Aberystwyth Academy by 4-0. Unbeaten this season this talented group of young players will now play the Welsh Academies Cup Final on 15 May possibly at Newtown.
Congratulations to the lads and to their coach Gwyn Ellis on this fantastic news. More details will be posted as soon as they become available.
27/04/11
Cic gyntaf ddydd Sadwrn 1pm / Saturday kick off 1 pm

Gair i atgoffa cefnogwyr fod yr hysbys sydd ar dudalen flaen y wefan ers pythefnos yn gywir ac mae am 1 o’r gloch fydd y gêm ar y Traeth yn erbyn Caersws yn cychwyn.

Supporters are reminded of an early start on Saturday. The ‘next home game’ box on the website home page for the past fortnight is correct and the game really does kick off at 1 pm. The visitors to the Traeth for the final League game of the season will be Caersws.
28/04/11
Apel Cei Conna yn methu / Nomads appeal fails

Cei Connah / Connah's Quay Mae apêl Cei Conna yn erbyn gwrthod eu cais am Drwydded Ddomestig wedi methu. Cadarnhawyd hyn heddiw ac mae’n siom fawr i’r clwb. Golyga hyn mai yn yr HGA fydd y clwb yn chwarae eto tymor nesaf. Ar apêl mae Lido Afan wedi sicrhau trwydded, ac os byddant yn parhau yn yr ail safle yng Nghynghrair Cymru (y de) byddant yn cymryd lle Hwlffordd yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

The Connah’s Quay appeal against the refusal to award them a Domestic Licence has failed. This has been confirmed today and is a major disappointment for the club. It means that the Nomads will be playing in the HGA again next season. Afan Lido have been awarded a Licence on appeal and should they remain in second place in the Welsh League (south) then they will take the place of Haverfordwest in the WPL.
28/04/11
Rhagolwg: v Caersws / Preview: v Caersws

Caersws Noddwyr y gêm: Rheilffordd Ffestiniog
Caersws fydd yn ymweld â’r Traeth ddydd Sadwrn pan ddaw’r llen i lawr ar tymor 2010/11 yng Nghynghrair Huws Gray. Y cyfan fyd ar ôl i’w benderfynu wedyn fydd tynged Cwpan Huws Gray ar 7 Mai.
Wedi’r dwbl oddi cartref ardderchog dros y Pasg bydd Port yn awyddus iawn i dalu’r pwyth am y gurfa a cawsant yng Nghaersws ychydig wythnosau yn ôl. Bydd buddugoliaeth i un o’r ddau glwb yn golygu gorffen yn y 6ed safle gan fod y Fflint a Bwcle wedi cwblhau eu rhaglen gynghrair o 30 gêm. Mae Port a Chaersws wedi ennill 14 o gemau yr un yn ystod y tymor gyda’r clwb o’r canolbarth yn sicrhau 10 o’r buddugoliaethau yma adref ar y Rec. I’r gwrthwyneb mae record oddi cartref Port yn rhagori ar eu record ar y Traeth.
Bydd Port yn edrych i barhau â’r gwelliant yn y record sgorio gyda 32 o goliau wedi dod yn y 12 gêm ddiwethaf. Sgoriwyd 5 gôl mewn gêm dair gwaith yn ystod y cyfnod a hefyd rhwydo 4 gôl ar ddau achlysur arall. Yn ystod y 12 gêm mae Paul Roberts, y prif sgoriwr, wedi canfod y rhwyd 11 gwaith.
Atgoffir cefnogwyr fod y gêm hon i gychwyn am 1 pm.

Match Sponsors: Ffestiniog Railway
Caersws are the visitors to Traeth on Saturday when the curtain comes down on the 2010/11 HGA season. All that will be then left to decide will be the Huws Gray Cup on 7 May.
Fresh from an excellent away Easter double Port will be keen to avenge the heavy defeat suffered at the Recreation ground a few weeks ago. A win for either club will give them a 6th place finish as Flint and Buckley have already completed their 30 game league programmes. Both Caersws and Port have won 14 league games this season with 10 of the Caersws wins coming at the Recreation Ground. By contrast Port have a better away record than they have at the Traeth.
Port will look to continue their much improved goal scoring record of 32 goals in the last 12 games scoring five goals on three occasions and hitting the back of the net four times in another two games. During that 12 game spell leading goal scorer Paul Roberts has netted 11 times.
Supporters are reminded that this game will kick off at 1 pm.
26/04/11
Cadarnhau rownd cynderfynol Dan-14 / U-14s semi confirmed

Wern Mynach Mae dyddiad a lleoliad rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru wedi’i chadarnhau. Chwaraeir y gêm yn erbyn Aberystwyth ar gae Wern Mynach yn y Bermo ddydd Sul nesaf (1 Mai) gyda’r gic gyntaf am 11.30 am. Mae’r grwp addawol yma yn haeddu cefnogaeth dda ac os medrwch fod yn y Bermo ddydd Sul dylech gael gwledd o bêl-droed.
Mae gan y ieuenctid yma record dda iawn mewn cystadlaethau cenedlaethol . Nhw oedd enillwyr Tarian Tom Yeoman –cystadleuaeth genedlaethol i’r oed Dan-11- pan oeddent yn y grwp oed yna yn 2008/09 a’r tymor diwethaf nhw oedd enillwyr Cwpan Academi Cymru o dan 12. Rwan gyda record ddiguro y tymor hwn mae’r hogiau angen un buddugoliaeth arall i gael ymddangos mewn ffeinal unwaith eto eleni.
Pob dymuniad da i’r hogiau ac i’w hyfforddwr Gwyn Ellis.

The date and venue for the Academy U-14s semi final has now been confirmed. As previously suggested the game against the Aberystwyth Town Academy will be played at Barmouth’s Wern Mynach Ground next Sunday (May 1st) with the kick off at 11.30 am. This excellent group of young players deserve good support and if you can get to Barmouth on Sunday you could be in for a treat.
These youngsters have a proven track record of success. They were the winners of the Tom Yeoman Shield -the national tournament for U-11s- when they played in that age group in 2008/09 and last season they won the Welsh Academies Cup at U-12 level. Now after an unbeaten season they are one step away from another final.
We wish them and their coach Gwyn Ellis well in Sunday’s semi-final.
26/04/11
Sioe Deithiol yr FAW– Arfordir y Gogledd / FAW Roadshow - North Wales Coast

FAW Cyflwyno Cynllun Strategol arfaethedig ar gyfer pêl-droed yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi datblygu Cynllun Strategol. Fel Cymdeithas, rydym yn ceisio sylwadau a meddyliau ein Haelodau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru.
Bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn cynnal sioe deithiol gan roi’r cyfle i bawb weld manylion presennol y cynllun a gofyn cwestiynau neu gyflwyno ymholiadau.
Bydd y sioe deithiol yn cael ei chynnal gan Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus y Gymdeithas. Bydd Jonathan Ford, Prif Weithredwr y Gymdeithas, yn amlinellu’r sefyllfa ar hyn o bryd cyn mynd ati gyda Ian i ateb cwestiynau’r gynulleidfa am y Cynllun Strategol.
Bydd sioe deithiol Arfordir Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yng NGHLWB PEL DROED LLANDUDNO, Builder St West, Llandudno ar dydd Mercher, 4 Mai 2011.
Bydd y drysau’n agor am 7pm a’r prif gyflwyniad yn dechrau tua 7.30pm.
Dyma gyfle i bawb sydd â diddordeb ddysgu am gynlluniau’r Gymdeithas ac i ofyn unrhyw gwestiynau am y cynlluniau hyn, neu am bêl-droed yng Nghymru yn gyffredinol.

Presentation of the proposed Strategic Plan for football in Wales.
The FAW has developed a Strategic Plan and are seeking the views and thoughts of our Members and the public in general. This is your opportunity to attend a roadshow in your area to hear the details of the plan, provide input or comments and to raise any questions you have.
The roadshow will be hosted by Ian Gwyn Hughes, Head of Public Affairs. Jonathan Ford, Chief Executive, will outline the current thinking and alongside Ian, will take questions from the audience in relation to the Strategic Plan.
The North Wales Coast roadshow will be held in LLANDUDNO FC CLUBHOUSE, Builder St West, Llandudno on Wednesday, 4th May 2011.
Doors will open at 7 pm with the main presentation starting around 7.30 p.m. This is an opportunity for all interested parties to learn about the Association’s plans and to raise any questions in relation to those plans or Welsh football in general.
Newyddion cyn 26/04/11
News before 26/04/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us