Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
26/04/11
Angen am is reolwr i’r ail Dîm / Reserve Assistant required

Mae Haydn Jones, a oedd wedi’i enwi yn is-reolwr i gynorthwyo Mike Foster gyda’r Ail Dîm, wedi cychwyn ar ei ddyletswyddau gyda Ail Dîm Bangor. Cafodd ddechrau da, gyda’r tîm sy’n chwarae yng Nghynghrair Gwynedd, yn curo Ail Dîm Caergybi. Mae hyn yn gadael Port a swydd wag a hynny cyn i bêl cael ei chicio ac maent yn chwilio am is reolwr newydd yn barod ar gyfer tymor 2011/12.

Haydn Jones, who had been named as Mike Foster’s assistant in the new reserve set up, has now taken up duties as manager of the Bangor City Reserves. He has made a winning start with the team who play in the Gwynedd League defeating Holyhead Reserves. This has left Port with a vacancy before a ball has been kicked and they are actively looking for a replacement ready for the 2011/12 season.
24/04/11
Llongyfarchiadau Cei Conna / Congratulations to Connah’s Quay

Cei Connah / Connah's Quay Cei Conna ydy pencampwyr Cynghrair Huws Gray am 2010/11. Roedd y pwynt a gafwyd mewn gêm gyfartal gyda Derwyddon Cefn yn ddigon i sicrhau’r teitl gan fod y Rhyl wedi colli adref yn erbyn y Fflint. Llongyfarchwn hwy ar eu tymor llwyddiannus. Bydd rhaid i’r clwb aros tan 28 Ebrill i weld os ydy eu hapêl yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i wrthod Trwydded Ddomestig. Canlyniad yr apêl fydd yn penderfynu os gaiff y clwb ddychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru.

Gap Connah’s Quay are the Huws Gray Alliance Champions for 2010/11. The point gained in the goalless draw against Cefn Druids was enough to give them the title as Rhyl suffered a home defeat against Flint. We extend our congratulations on their successful season. The club will now have to wait until 28 April, when their appeal against the Domestic Licence decision will be heard. The outcome will decide whether the club can return to the WPL next season.
22/04/11
Rhagolwg gemau’r Pasg 2 / Preview of the Easter matches 2

Rhuthun Gêm arall oddi cartref fydd ar Llun y Pasg, y tro yma yn Rhuthun. Mae chwarae dwy gêm mewn tridiau yn gosod straen pellach ar chwaraewyr sydd wedi bod ac anafiadau ers sawl wythnos ac eto yn dal ati i chwarae. Pe byddai’r ymweliad â Rhuthun wedi bod ychydig o wythnosau yn ôl ni fyddai wedi achosi fawr o bryder, ond profodd yr ymweliad â’r Traeth yn drobwynt yn nhymor y clwb o sir Ddinbych. Aeth Rhuthun ar y blaen yn yr hanner cyntaf ac wedyn dal ymlaen gyda pherfformiad amddiffynnol ardderchog yn cael ei drefnu gan Shaun Williams a Mark Entwistle yn y canol i sicrhau’r fuddugoliaeth o 1-0. Hwn oedd cychwyn y rhediad sydd wedi ymestyn i 5 buddugoliaeth yn olynol gan gynnwys un dros Derwyddon Cefn yn y trydydd safle.
Mae Kevin Garland, yr ymosodwr corfforol a sgoriodd yr unig gôl ar y Traeth, wedi bod yn canfod y rhwyd yn rheolaidd. Cafodd Adam Jenkins ei arwyddo o Cegidfa ym mis Mawrth a wedi iddo greu argraff ar y Traeth mae wedi mynd ymlaen i gyfrannu at adfywiad Rhuthun.
Os ydy Port i ddod a rhediad Rhuthun i ben, bydd angen iddynt ddangos fwy o ddychymyg wrth ymosod na ddangoswyd ar y Traeth. Os cawn gymaint o’r meddiant ac a gafwyd ar y Traeth a’u ddefnyddio yn fwy creadigol mae’n bosib wedyn agor amddiffyn Rhuthun a sicrhau y tri phwynt.

It will be another away day on Monday, this time at Ruthin. Playing two games in three days will place a further strain on players who have been carrying injuries for several weeks and yet continuing to play. The visit to Ruthin would have held few fears had it been made some weeks ago but the visit to the Traeth proved a turning point in the Denbighshire club’s season. They went ahead in the first half and held on with an excellent defensive performance marshalled by central defenders Shaun Williams and Mark Entwistle to secure a 1-0 win. This was the start of an excellent run of form for Ruthin which has seen them go on to complete five straight league victories including a win over third placed Cefn Druids.
Bustling striker Kevin Garland, who scored the only goal of the game at the Traeth, has been finding the net regularly. The March signing from Guilsfield, Adam Jenkins, who impressed at the Traeth, has also contributed to the Ruthin revival.
If they are to put a stop to this Ruthin run, Port will need to show more imagination in attack than was shown on the Traeth. But if they get more of the plentiful possession they enjoyed last time round, and this time use it more creatively, there is no reason to suppose that they can’t break down the Ruthin defence and pick up the three points.
21/04/11
Gemau dros y Pasg / Easter Fixtures

Ymddiheuriadau am y camgymeriad ar y wefan ynglyn a threfn y gemau dros y Pasg.
Sadwrn, 23 Ebrill Rhos Aelwyd v Port
Llun, 25 Ebrill Rhuthun v Port

Apologies for the error on the website concerning the order of matches over Easter.
Saturday, 23 April Rhos Aelwyd v Port
Monday 25 April Ruthin Town v Port
21/04/11
Rhagolwg Pasg 1 / Easter Preview 1

Rhos Aelwyd Bydd Port yn chwarae dwy gêm oddi cartref dros y Pasg sydd yn rhywfaint o siom gan fod Port mewn ardal dwristaidd ac yn gweld cynnydd yn y gefnogaeth i gemau ar Wyliau’r Banc.
Mae’r gemau hefyd yn erbyn y ddau glwb sydd a’r record diweddar orau yn y gynghrair. Ddydd Sadwrn bydd Port yn ymweld â Pharc Ponciau i chwarae Rhos Aelwyd clwb sydd wedi cael tymor arbennig yn dilyn eu dyrchafiad i’r HGA. Yn dilyn rhediad yn cynnwys pedair buddugoliaeth yn olynol a buddugoliaeth o 4-2 dros y Rhyl mae’r clwb bellach yn y pedwerydd safle yn y tabl Yn y gêm gyfatebol cafwyd un o’r gemau gorau ar y Traeth y tymor hwn gyda’r ddau dîm yn ceisio chwarae gêm basio. 2-1 i Port oedd y sgôr ar y diwedd mewn gornest agos. Mae ymosodwr Rhos sef Mike Burke wedi sgorio 27 o goliau y tymor hwn ac yn un o’r blaenwyr mwyaf peryglus yn y gynghrair. Er iddo adael y cae ar ôl 56 munud ar y Traeth roedd wedi dangos digon yn yr hanner cyntaf i brofi ei ddawn, yn enwedig pan yn gwrth ymosod.
Bydd Port yn awyddus i anghofio’r stranciau gwyllt a ddioddefwyd y Sadwrn diwethaf a chanolbwyntio ar y math o bêl-droed a chwaraewyd yn rownd cynderfynol yn erbyn Bwcle. Gyda Paul Roberts a Marcus Orlik yn sgorio’n rheolaidd mae’n bosib y gwelwn gêm gyffrous ddydd Sadwrn.
Parc Ponciau ydy’r cae yn Stryd Clark, Rhosllanerchrugog, Wrecsam. Cod Post; LL14 1RT.

Rhuthun Porthmadog have to play two away matches over Easter which is very disappointing for a club in a tourist area where in the past larger than normal gates have been attracted during Bank Holiday periods.
The two games are also against the form teams of the HGA. On Saturday Port visit Ponciau Park to take on Rhos Aelwyd who must have exceeded even their own expectations after being promoted to the HGA. Their recent run of form has brought them four straight victories including an outstanding 4-2 win at the Belle Vue last week and this has lifted them to fourth place in the table. The corresponding match between Port and Rhos Aelwyd was one of the best games of the season at the Traeth with two teams looking to play a passing game. The game ended 2-1 in Port’s favour in a close contest. Rhos have one of the league’s most dangerous strikers in Mike Burke who has scored 27 league and cup goals this season. Though he had to leave the field at the Traeth after 56 minutes he had done enough in the opening half to prove that he is quite a handful especially on the break.
Port will be eager to get the shenanigans suffered at Cefn out of the system and concentrate on playing the kind of football they showed in the League Cup semi-final against Buckley. With both Paul Roberts and Marcus Orlik both scoring regularly we could be in for another exciting game on Saturday.
The ground is at Ponciau Park, Clark Street, Rhosllanerchrugog,Wrexham. Post Code for Sat Nav LL14 1RT.
20/04/11
Archebwch y North Wales Football Post / Get your North Wales Football Post

Mae menter newydd arbennig wedi’i threfnu ar gyfer clybiau a chefnogwyr pêl-droed yn y Gogledd. Cylchgrawn newydd ar-lein fydd y North Wales Football Post yn cael ei olygu gan Ethan Jones a drefnodd yr ymgyrch ddiweddar yn erbyn pêl-droed haf. Bydd y cylchgrawn yn ymddangos pob pythefnos ac mae’r cyntaf yn barod ac ar gael. O sylwi ar safon y rhifyn cyntaf ni fydd yna brinder o danysgrifwyr!
Meddai’r golygydd Ethan Jones, “Bydd y byd pêl-droed yn y gogledd i gyd yn cael sylw o Uwch Gynghrair Cymru i lawr at Gynghrair Sul Môn a Gogledd Gwynedd a Chynghrair Haf Llandyrnog. Bydd y cylchgrawn yn rhoi braslun o’r gemau ym mhob cynghrair yn ogystal a rhestr gemau, newyddion a straeon. Bydd yna adroddiad arbennig o un gêm i gynnwys cyfweliadau, hanes a mwy!”
“Bydd y cylchgrawn yn rhad ac am ddim ac yn cael ei roi at ei gilydd gan grwp o gefnogwyr brwdfrydig. Ein prif amcan ydy cynyddu sylw’r cyfryngau o bob gynghrair yn y gogledd.”
Y cyfan sydd angen i wneud er mwyn derbyn y gwasanaeth hwn ydy e-bostio northwalesfootballpost@hotmail.co.uk gan fynegi eich dymuniad i dderbyn a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at y rhestr, a byddwch yn ei dderbyn yn syth i’ch blwch e-bost. Cafodd y rhifyn cyntaf ei yrru ar Llun 18 Ebrill.

A great new facility for clubs and football followers in the north of Wales has been launched. It is the ‘North Wales Football Post’ and will be an online magazine edited by Ethan Jones who recently led a campaign against the introduction of summer football. The magazine will be published fortnightly and the very first issue is already available and judging by the standard set in that issue there will be no shortage of subscribers!
The editor Ethan Jones says, “It will cover the whole of North Wales’ football scene, everything from the Welsh Premier League down to the North Gwynedd & Anglesey Sunday League and Llandyrnog & District Summer League. The magazine will include a summary of each league’s action, fixtures and news as well as numerous other features and stories. These features will include a featured match in each issue, a featured club with interviews and history and much more!
“The magazine will be free and enthusiastically put together by a group of North Wales football fans. Our primary aim is to increase the media coverage of EVERY league in North Wales.”
All you need to do to subscribe to this new service is email northwalesfootballpost@hotmail.co.uk and state your intention to subscribe, you will then be added to our subscriber list and receive every issue direct to your inbox! The first issue was sent out on Monday (18th April).
20/04/11
Dan 14 yn y rownd cynderfynol / U-14s semi final opponents

Wern Mynach Bellach mae hogiau’r academi Dan-14 wedi clywed pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru. Academi Aberystwyth fydd eu gwrthwynebwyr mewn gêm fydd yn cael ei chwarae ar gae niwtral ar 1 Mai. Mae’r ddau glwb yn ffafrio Cae Wern Mynach, yn y Bermo fel yr un mwyaf derbyniol i chwarae’r gêm. Nid oes penderfyniad terfynol eto, ond deallir fod yr awdurdodau yn ystyried yr awgrym, a pan fydd y penderfyniad wedi ei gymryd caiff ei bostio yma ar y wefan.

The Academy U-14s now know their semi-final opponents in the Welsh Academies Cup. They have been drawn to play Aberystwyth Town Academy on a neutral ground on May 1st. Both Port and Aberystwyth have come out in favour of Barmouth’s Wern Mynach Ground as a suitable venue for the game. This request has been given a preliminary yes but a final decision will be announced as soon as it is available.
19/04/11
Phil yn ymddiheuro / Phil regrets

Belle Vue Yn dilyn mynegi ei bryder ynglyn â chyflwr cae ‘Y Graig’ yn Cefn a’r penderfyniad i chwarae ffeinal Cwpan Huws Gray yno, mae cadeirydd Port Phil Jones yn awyddus i egluro nad oedd ganddo unrhyw fwriad i awgrymu fod ysgrifennydd y gynghrair Chas Rowlands, na Bwrdd y Gynghrair yn dweud nad oedd y cyfleusterau ar y Belle Vue o’r safon priodol. Mae’n ymddiheuro yn llwyr os rhoddwyd yr argraff yna, ac yn cytuno fod y penderfyniad wedi ei wneud am nad oedd clubhouse ar y Belle Vue ac am y rheswm yna yn unig.
Mae Phil Jones hefyd yn dweud, “Yr hyn roeddwn am bwysleisio oedd fod gan glwb y Rhyl ystafell ddigonol ar gyfer croesawu’r timau a chyflenwi’r bwyd ar ôl y gêm. Gwnaed hyn yn llwyddiannus wedi’r gêm gyn derfynol rhwng Bangor a Chei Conna yng Nghwpan Cymru ac felly byddai’r cae yn addas ar gyfer ffeinal Cwpan Huws Gray.”

Following the expression of his worries at the current state of the Rock Ground in Cefn and the decision to play the Huws Gray Cup final there, Port Chairman Phil Jones wishes to point out that he had no intention of implying that either league secretary Chad Rowlands, or the League Board were in any way suggesting that the facilities at the Belle Vue were sub-standard. He apologises unreservedly if it was thought that this was the case and agrees that the league had made their decision on the grounds that the Belle Vue did not have a clubhouse and on that premise alone.
Phil Jones however says, “What I wanted to emphasise was that the Rhyl club does have facilities for the provision of after match hospitality and meals and had done so successfully following the Welsh Cup semi-final between Bangor and Connah’s Quay and therefore could have been a suitable venue for the final.”
18/04/11
Pryderon am leoliad y Ffeinal / Concerns over Cup Final venue

Phil Jones Mae amheuon mawr wedi’u mynegi ynglyn a phenderfyniad Cynghrair Huws Gray i chwarae rownd derfynol Cwpan Huws Gray ar Y Graig, cae Derwyddon Cefn. Er gwaethaf y cyfleusterau ardderchog sydd ar Y Graig mae hefyd yn wir i ddweud fod yna broblemau difrifol gyda’r cae ei hun sy'n perswadio llawer i ddweud fod y cae chwarae ar hyn o bryd ymysg y gwaethaf yn y gynghrair. Nid yw clwb Port yn gweld unrhyw fai ar y Derwyddon, sydd a llawer mwy o rheswm am deimlo’n siomedig fod yna gymaint o broblemau cychwynnol gyda’r cae.
Dywedodd Phil Jones, cadeirydd Port, “Pan siaradais gyda ysgrifennydd y gynghrair, Chas Rowland, ar Y Graig ddydd Sadwrn roedd yn amlwg fod yna broblemau mawr gyda’r cae ond roedd y swyddog yn amharod i hyd yn oed ystyried yr angen am newid lleoliad y rownd derfynol.”
Deallwn fod y gynghrair yn y lle cyntaf wedi bwriadu chwarae’r rownd derfynol yn Maesdu, Llandudno ond doedd y cae ddim ar gael ar y dyddiad. Meddai Phil Jones, “Roedd clwb y Rhyl, sydd a rhai o’r cyfleusterau gorau yn y gogledd, yn barod i groesawu’r rownd derfynol i’r Belle Vue. Pan awgrymais i un o swyddogion y gynghrair y byddai’r Bell Vue y math o gae i chwarae gêm bwysig arno ac yn un delfrydol ar gyfer y rownd derfynol cefais fy synnu gan yr ymateb. Dywedwyd nad oedd swyddogion y gynghrair yn ystyried y cyfleusterau yn addas ar gyfer y rownd derfynol oherwydd diffyg clwb a bar ar y Belle Vue. Felly dydi cae sy'n addas ar gyfer gemau Ewropeaidd, ac yn ddewis gan yr FAW i chwarae rownd cynderfynol Cwpan Cymru rhwng Bangor a Chei Conna ddim yn ddigon da ar gyfer Cwpan Huws Gray. Syfrdanol!”
O lai o bwys, ond yn dal yn wir ydy’r ffaith fod Y Graig yn daith o 25 munud o Cegidfa tra fod taith o awr a hanner yn wynebu cefnogwyr Port, cefnogwyr sydd wedi teithio mewn niferoedd drwy gydol y tymor.

Serious concerns have been expressed at the Huws Gray Alliance decision to play the final of the Huws Gray Cup at the Rock, the ground of Cefn Druids. Despite the excellent facilities found at the Rock it is also true to say that the club have had serious problems with the new pitch prompting some to say that, as things currently stand, it is one of the poorest surfaces in the league. The Port club attach no blame to the Cefn club who have more reason than most to feel disappointed that there are such teething troubles with surface.
Port chairman Phil Jones said today, “I spoke to league secretary Chas Rowland at the Rock on Saturday, when it was clear that there were problems with the surface, but he appeared reluctant to even consider that a change of venue was needed.”
We understand that the League had in the first instance intended the final to be played at Llandudno’s Maesdu Ground but the club were unable to make their ground available. Phil Jones said, “The Rhyl club, who have some of the best facilities in North Wales, had made their Belle Vue Ground available should it be required for the final. When I approached a league official suggesting that this was a ground with a surface conducive to playing good football and would be an ideal place for the final I was staggered by the response. I was told that Alliance officials did not consider the Belle Vue facilities good enough for the final because there was no clubhouse with bar facilities. A ground good enough for European football and also the Welsh FA’s choice for the semi-final between Bangor and Connah’s Quay lacks the facilities to put on the Huws Gray Cup Final. Amazing!”
Of less importance perhaps, but nevertheless true, is that the Rock is 25 minutes away from Guilsfield while for Porthmadog supporters, who have travelled in numbers throughout the season, would face a journey of an hour and a half to Cefn Mawr.
18/04/11
Carl yn cwblhau marathon Llundain / Carl completes the London Marathon

Llongyfarchiadau i Carl Owen ar lwyddo i gwblhau Marathon Llundain ddoe (dydd Sul). Llwyddodd i gwblhau’r cwrs 26 milltir o hyd mewn ychydig llai na phump awr – 4:58:20. Roedd yn rhedeg i godi arian i Diabetes UK er cof am ei dad yng nghyfraith Stephen, a fu farw yn 1995 yn dilyn brwydr hir â diabetes math un. Dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi noddi Carl drwy fynd i’r wefan www.justgiving.com/Carl-Owen. Da iawn Carl!

Congratulations to Carl Owen on successfully completing the London Marathon yesterday (Sunday). He completed the 26 mile course in just under five hours – 4:58:20. He was running in aid of Diabetes UK in memory of his father in law Stephen, who died in 1995 after a long battle with diabetes type one. It’s not too late to sponsor Carl by visiting the website www.justgiving.com/Carl-Owen. Well done Carl!
14/04/11
Y ffeinal ar y Graig / The final on the Rock

Y Graig / The RockYn dilyn y fuddugoliaeth wych yn erbyn Bwcle ddoe, bydd Port yn wynebu Cegidfa yn rownd derfynol Cwpan Huws Gray. Cyhoeddwyd heddiw mai ar gae Cefn Mawr, Y Graig, fydd y gêm yn cael ei chynnal - ar Sadwrn, 7fed o Fai. Hwn fydd ail ymweliad Port â'r Graig o fewn tair wythnos gan mai Derwyddon Cefn fydd ein gwrthwynebwyr dydd Sadwrn hwn. Bydd Gareth Parry yn gobeithio y bydd y canlyniadau da yn erbyn Cegidfa yn parhau - mae Port wedi ennill y ddwy gêm hyd yn hyn gan sgorio 7 gôl ac heb ildio un.

Following yesterday's fantastic win over Buckley, Port will face Guilsfield in the Huws Gray Challenge Cup final. It was announced today that the final will be played at Cefn Druid's ground, the Rock - on Saturday, 7th May. This will be Port's second visit to the Rock within three weeks as Druids are our opponents this coming Saturday. Gareth Parry will hope that the team's great form against Guilsfield will continue - Port have won both games so far this season and have scored 7 goals without reply.
12/04/11
Peth aros / Some delays

Gan na fydd rhai o gyfranwyr y wefan ar gael dros y dyddiau nesaf fe allai fod peth aros cyn i’r newyddion ymddangos ar y wefan.

As some website contributors are away for the next few days there might be some delays in the updating of the site.
12/04/11
Golwg ymlaen at y gem yn Cefn / Look ahead to the game in Cefn

Y Graig / The Rock Pnawn Sadwrn bydd Port yn ymweld a stadiwm newydd Derwyddon Cefn am y tro cyntaf. Y tro diwethaf i ddau o gyn glybiau UGC gyfarfod oedd yn ôl ym mis Awst yn y gêm gyntaf o’r tymor. Di-sgôr oedd hi ar y Traeth. Ychydig fyddai’n rhoi pres ar inni gael canlyniad tebyg y tro yma gan i’r Derwyddon dreulio’r rhan fwyaf o’r tymor ymysg y tri uchaf a dros y saith i wyth gêm ddiwethaf mae Port wedi canfod y rhwyd yn amlach nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y tymor.
Wedi brwydro gyda Rhyl a Chei Conna drwy’r tymor mae tîm Huw Griffiths wedi colli tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf. Er waethaf hyn aeth y Derwyddon drwy fis Mawrth heb golli gêm ac Adam Hesp, un o’u chwaraewyr mwyaf addawol, oedd Chwaraewr Charisma am fis Mawrth. Ni fydd Carl Owen ar gael i Port gan ei fod yn rhedeg yn Marathon Llundain ond bydd Rhys Roberts a Darren Gowans (os yn ffit) yn ôl wedi’r gêm gwpan.
Bydd y ddau dîm yn chwilio am y pwyntiau ddydd Sadwrn, Cefn yn awyddus i gadw at y trydydd safle ar ddiwedd y tymor a Port yn anelu at fuddugoliaeth er mwyn gorffen yn y chwech uchaf.
Y cae newydd ydy Y Graig, Rock Road, Rhosymedre, Wrecsam ar Cod Post ydy LL 14 3YF.

On Saturday Porthmadog pay a first visit to the new Druids stadium, The Rock. The last time these two former WPL clubs met was in the season’s opener at the Traeth back in August. That game ended in a goal less draw. Few would bet on a repeat score line this time round with Cefn Druids having spent most of the season in the top three and with Port scoring more freely over the last seven or eight games than at any time during the season.
Having chased Rhyl and Connah’s Quay all season Huw Griffiths’ team have not been in the best form just recently losing three of their last four league games. However they went through March unbeaten and, one of their brightest young prospects, Adam Hesp won the Charisma Trophies Player of the Month award for March. Carl Owen will be missing for Port as he takes part in the London Marathon but Rhys Roberts and Darren Gowans (if fit) can return after being ineligible for the League Cup semi-final.
Both teams will be playing for pride on Saturday with Cefn aiming to remain in third place when the season ends while Port will be aiming to win as many games as possible still looking for a respectable top six finish. The new ground is The Rock, Rock Road, Rhosymedre, Wrexham and the all important post code for Sat Nav users is LL14 3YF.
12/04/11
Carl yn rhedeg ym Marathon Llundain / Carl runs in London Marathon

Marathon Bydd Carl Owen, blaenwr Port, yn rhedeg ym Marathon Llundain ddydd Sul, 17 Ebrill. Hon fydd y unfed tro ar hugain i Marathon Llundain gael ei threfnu. Bydd y ras yn cychwyn yn ne Llundain, ym Mharc Greenwich, ac yn dilyn y ddwy ochr o’r Afon Tafwys, am 26 milltir, cyn gorffen ym Mharc St James. Pob lwc ddydd Sul Carl, pan fydd yr holl ymarfer yn talu ar ei ganfed.

Porthmadog striker Carl Owen will be taking part in Sunday’s (17 April) 2011 London Marathon. This will be the 31st London Marathon. The marathon covers 26 miles straddling both sides of the River Thames, commencing in Greenwich Park, in South London, and will finish in St James’ Park. Best of luck on Sunday Carl, when all that training pays off.
11/04/11
Rhagolwg: v Bwcle / Preview: v Buckley

Bwcle / Buckley Ni fydd angen atgoffa Port fod Bwcle wedi’u curo ddwywaith y tymor hwn yn y gynghrair. Byddant felly yn awyddus i osgoi colli’r drydedd pan fydd y ddau yn cyfarfod nos Fercher yn rownd cynderfynol y gwpan ar gae’r Belle Vue, Y Rhyl.
Tra fod chwarae Port yn ddiweddar wedi amrywio rhwng y da, y gwael a’r cyffredin mae eu gwrthwynebwyr wedi ennill pedair gyda un yn gyfartal o’u chwe gêm ddiwethaf. Mae eu record yn drydydd tu ôl i’r Rhyl a Llandudno dros y chwe gêm. Mae’r rhediad yma yn cynnwys y dwbl dros Derwyddon Cefn sydd yn drydydd yn y tabl. Anghyson fu Port ond er waethaf hyn mae’r record dros yr un cyfnod yn dangos tair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal. Ni fu’r nifer fawr o anafiadau yn help i greu cysondeb yn y chwarae. Rhaid gobeithio fod chwaraewyr allweddol fel Marcus Orlik, Ryan Davies a Gareth Jones Evans wedi gwella o’u anafiadau cyn nos Fercher a fod y rhai hynny sy’n cario anafiadau yn medru chwarae rhyw ran hefyd. Gan eu bod hefyd heb Rhys Roberts, Darren Gowans a Carl Owen, sydd ddim yn gymwys, roedd yn hwb i weld Jamie McDaid yn ôl yn yr ail hanner ddydd Sadwrn ac yn ei hwyliau gorau.
Gan fod y ddau glwb yng nghanol y tabl bydd y gêm hon yn cynnig cyfle i ennill cwpan ar ddiwedd y tymor.

Port will not need reminding that Buckley have already completed a league double over them and will be eager to avoid a three match whitewash when the two clubs meet in the Cup Semi-final at Rhyl’s Belle Vue Ground on Wednesday evening.
While Port’s recent form has varied between the good, the bad and the indifferent Wednesday’s opponents on have won four and drawn once in their last six games. This makes them, over six games, one of the league’s form teams behind only Rhyl and Llandudno. This run includes a double over third placed Cefn Druids. Meanwhile Port have been very inconsistent but nevertheless have won three and drawn one over the same period. A lengthy injury list has not helped to produce consistency. Port must hope that key players Marcus Orlik, Ryan Davies and Gareth Jones Evans report fit and that some carrying injuries are at least able to play some part on Wednesday. As they will also be without the cup-tied three of Rhys Roberts, Darren Gowans and Carl Owen, the sight of Jamie McDaid returning in good form in the second half on Saturday was a silver lining.
Both clubs are in mid table and will see this game as a chance to push for some silverware at the season’s end.
10/04/11
Dan 14 yn mynd drwodd / Academy U-14s go through

Llongyfarchiadau i’r hogiau Dan 14 am gyrraedd rownd cynderfynol Cwpan Academi Cymru ar ôl buddugoliaeth o 3-2 yn Airbus heddiw (10 Ebrill). Roedd y ddau wedi cyfarfod wythnos diwethaf ac mewn gêm glos gorffennodd yn 1-1 ac agos oedd hi heddiw eto. Mae’r chwaraewyr ifanc addawol yma a record diguro am y tymor hyd yma, a dymunwn yn dda iddynt yn y rownd cynderfynol. Nid yw’r manylion am y gêm hon ar gael eto ond unwaith y byddant i law cawn eu postio ar y wefan.
Roedd yr hogiau dan 16 yn chwarae hefyd ac yn gwybod bod rhaid sicrhau buddugoliaeth i gyrraedd yr wyth olaf ond er eu bod wedi brwydro’n galed Airbus aeth a hi o 2-0. Da iawn am dymor da hefyd.

Congratulations to the Academy U-14s who have secured a place in the semi-final of the FAW Academy Cup with a 3-2 victory at Airbus today (Sunday 10 April). The two sides had played a 1-1 draw last week, so a close contest had been expected. These promising young players have remained unbeaten throughout the season and we wish them well in the semi-final. Details of this game are not yet available but will be posted once they become available.
The U-16s were also in action at Airbus and progress to the last eight depended on a victory but though put in a good performance they went down to the Airbus U-16s by 2-0. Well done lads on a good season.
09/04/11
Diweddaraf am yr Academi / Academy latest

Llongyfarchiadau i’r tîm Dan-14 sydd wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Academi Cymru ac wedi cael tymor ardderchog. Bydd yr hogiau yn chwarae’r gêm chwarteri yfory (10 Ebrill) yn Airbus. Medrau fod yn dipyn o gêm gan i’r ddau dîm chwarae gêm gyfartal 1-1 wythnos ddiwethaf. Pob lwc hogiau!
Mae gan y tîm Dan-16 gêm bwysig hefyd yn Airbus. Os ydy’r hogiau yma i gael siawns o gyrraedd yr wyth olaf bydd rhaid iddynt ennill hon. Bydd y tîm Dan-12 yn cwblhau eu tymor gyda gêm yn Rhyl.
Ymddiheurwn fod yr eitem yma mor hwyr yn ymddangos ond mae’r wybodaeth newydd ddod i law.

Congratulations to the U-14s who have reached the quarter finals of the Welsh Academies Cup. They have enjoyed an excellent season. They will play their quarter final tomorrow (Sunday, 10 April) at Airbus. This could be quite a game as the two teams played out a 1-1 draw last weekend. Best of luck lads!
The Under-16s are also in action tomorrow, 10 April, also at Airbus. They have an important must win game if they are to stand a chance of qualifying for the quarter finals. The U-12s complete their season with an away game at Rhyl.
We apologise that this item appears at a very late stage but the information has only come to hand.
08/04/11
Un arall ar y rhestr anafiadau / Another player joins the injury list

Ryan Davies Pan oedd o’n meddwl na fedrai’r sefyllfa waethygu ymhellach derbyniodd Gareth Parry, sydd yng Nghaerdydd ar gwrs Trwydded ‘A’ UEFA, y newyddion fod Ryan Davies wedi’i ychwanegu at y rhestr faith o anafiadau. Rwan bydd rhaid i Port fyw mewn gobaith fod Ryan, yn ogystal a Gareth Jones Evans a Marcus Orlik, yn gwella digon i chwarae yn erbyn Bwcle nos Fercher . Meddai’r rheolwr, “Rhai wythnosau yn ôl pan gawsom waharddiadau daethant i gyd efo’u gilydd ac, wedi osgoi gormodedd o anafiadau, mae gennym gymaint bellach fel ei bod yn broblem fawr i rhoi un ar ddeg o chwaraewyr holliach ar y cae.”

Just when he thought things could not get any worse Gareth Parry currently attending his UEFA A-licence course in Cardiff received the news that captain, Ryan Davies, has been added to the lengthy injury list. Port must now hope that Ryan together with Gareth Jones Evans and Marcus Orlik will have recovered sufficiently to play in Wednesday’s semi-final. The manager remarked “When we had players suspended they came in threes and, having avoided too many injuries for most of the season, now we have so many that putting eleven fit players on the pitch is a huge problem.”
07/04/11
Gwelliannau i'r Maes Parcio / Car Park Improvements

Wedi ychydig o broblemau parcio yn ystod gemau diweddar wrth i’r gwaith ar y ffordd osgoi fynd yn ei flaen, fel y gwelwch chi o’r llun hwn dylai pethau fod yn well ar gyfer ymweliad Rhaeadr ddydd Sadwrn. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r contractwyr wedi creu llefydd parcio ychwanegol o amgylch y cae ymarfer.

Highslide JS


After experiencing some parking problems during recent matches as the work on the by-pass proceeds, but as you can see in this photo, things should be better for the visit of Rhayader this Saturday. Over the past few weeks, the contractors have created additional parking spaces around the training pitch.
07/04/11
Argyfwng anafiadau yn gwaethygu / Injury crisis worsens

Marcus Orlik Mae talcen caled yn wynebu Port ddydd Sadwrn gyda’r rhestr hir o anafiadau wedi tyfu ers ymweld â Chaersws. Y newydd da yn gyntaf bydd Ryan Davies, Rhys Roberts a Richie Owen ar gael unwaith eto ac hefyd Darren Gowans a adawodd y cae yn hwyr ddydd Sadwrn. Ond bydd Euron, Craig a Jamie allan ac mae Gareth Owen wedi dioddef a’i gefn ac heb ymarfer wythnos hon. Y newyddion am Marcus Orlik a Gareth Jones Evans, y ddau wedi anafu ddydd Sadwrn, yw eu bod yn annhebyg o allu chwarae cyn y rownd gynderfynol nos Fercher.
“Ar y mwyaf y tymor hwn da ni wedi osgoi problemau mawr efo anafiadau -tan rwan,” meddai’r rheolwr Gareth Parry. “ Ond bellach mae’n broblem roi un ar ddeg ar y cae. Rhaid imi gadw un llygad hefyd ar nos Fercher a rownd cynderfynol y gwpan. Mae’n debyg bydd rhaid inni ddisgwyl i wneud yn siwr fod Marcus a Gareth (J E) yn ffit erbyn hynny, “ ychwanegodd Gareth.
Y cefndir i hyn wrth gwrs yw fod Rhys Roberts Darren Gowans a Carl Owen yn anghymwys i chwarae yn erbyn Bwcle.
“Mae Carl ar gael at ddydd Sadwrn ond oherwydd trafferthion efo’i gefn mae wedi methu cwblhau yr un o’r gemau diweddar. Bydd yn rhedeg yn Marathon Llundain ac mae ymarfer dyddiol ar ffordd darmac wedi golygu nad yw’r cefn yn cael cyfle i wella. Bydd Darren Jones sy’n aros am law driniaeth hernia eto yn cael rhan ddydd Sadwrn a bydd Richard Hughes, a arwyddwyd fel chwaraewr wrth gefn, ar y fainc.

With an injury list that has grown since the visit to Caersws, Port face a difficult task ahead of Saturday’s game. The good news first Ryan Davies, Rhys Roberts and Richie Owen will be available again as will Darren Gowans injured on Saturday. But Euron Roberts, Craig Roberts and Jamie McDaid are out and Gareth Owen is suffering from a back injury and has failed to train this week. Marcus Orlik and Gareth Jones Evans, both picking up injuries on Saturday, are unlikely to play until Wednesday’s semi-final.
“In the main this season we have avoided large numbers of injuries all at once –until now that is” said a concerned Gareth Parry. “Now we are having difficulty putting eleven fit players on the pitch and I also have to keep one eye on Wednesday’s semi and make sure that Marcus and Gareth (J E) are fit for that game,” he added.
The background to this of course is that Rhys Roberts, Darren Gowans and Carl Owen are all cup-tied for the Buckley semi-final.
Carl Owen will be available on Saturday but due to back problems he has failed to complete any recent games. He will be running in the London Marathon and regular running on tarmac roads does not give his back injury an opportunity to heal. Darren Jones who is awaiting a hernia operation is once again expected to be involved on Saturday and Richard Hughes, signed as back-up, will be on the bench.
07/04/11
Rhagolwg: v Rhaeadr / Preview: v Rhayader

Rhaeadr Noddwr y Gêm: Portmeirion
Mae anghysondeb rhai o’r perfformiadau diweddar yn sicr o fod yn rhoi cur pen i Gareth a Campbell! Er eu bod heb nifer o chwaraewyr allweddol yng Nghaersws roedd y garfan yn lled debyg i’r un a gafodd fuddugoliaeth dda yng Nghei Conna. Beth felly sydd i gyfri am y gwahaniaeth? Yn erbyn Rhuthun yn methu sgorio er yn cael llwythi o feddiant, tra yng Nghaersws yn gadael y gwrthwynebwyr i sgorio pedair gôl mewn 27 munud . Ond cyn hynny yn curo Llangefni o 4-1. Dyma’r math o amrywiaeth y mae’r tîm reoli am osgoi.
Er fod Port wedi sgorio pum gôl yn Rhaeadr, a hynny ond tair wythnos yn ôl, medrau’r clwb o’r canolbarth fod yn wrthwynebwyr peryglus ddydd Sadwrn. Wedi iddynt sgorio dwy gôl hwyr yn erbyn Port rhoddwyd sioc i Caersws –ie Caersws- gyda churfa o 3-0. Wedyn wythnos diwethaf cafodd Rhyl ugain munud pryderus iawn cyn dianc o’r Weirglodd gyda buddugoliaeth fain iawn o 2-1.
Gyda’r rhestr anafiadau yn tyfu mae Port yn wynebu brwydr anodd ddydd Sadwrn a bydd rhaid i’r un ar ddeg sydd ar y cae fod ar eu gorau.

Match Sponsor: Portmeirion
The inconsistency of some recent performances must be driving Gareth and Campbell nuts! Despite the absentees at Caersws the squad was not too dissimilar from the one that won so well at Connah’s Quay. So how do we explain the difference? Against Ruthin we fail to score despite getting unlimited possession, at Caersws we concede 4 goals in the space of 27 minutes but previously, at home, we totally outplay Llangefni. This is the kind of variety the management team can do without.
Though Port scored five goals at Rhayader only 3 weeks ago, Rhayader on Saturday could be dangerous opponents. Since they scored two late goals against Port they have shocked Caersws –yes Caersws- with a 3-0 beating and then went on to give Rhyl an anxious final 20 minutes before the league leaders exited the Weirglodd with a narrow 2-1 win.
With a growing injury list Port face an uphill battle on Saturday and the eleven who are able to take the field will need to be at their best.
04/04/11
Newyddion gwell am Euron / Better news of Euron

Mae’n dda clywed fod y newyddion yn llawer gwell ynglyn ag Euron. Pnawn Sadwrn yr ofn oedd ei fod wedi torri’i ffêr. Ond bellach mae Euron yn medru dweud, “Falch iawn fy mod i heb dorri asgwrn ond mae'n edrych yn debyg iawn fy mod yn mynd i fod ar fagla am wsos o leia.”
Ond mae’n cadarnhau yr hyn a ofnwyd, “Ni fydd yna ddim mwy o gicio pêl tymor yma chwaith.... newyddion da i'r gynulleidfa a oedd yn gorfod 'dycio' pob tro roeddwn yn clirio'r bel!!”
Mae Euron am ddweud gair wrth yr hogia, “Diolch am edrych ar fy ôl pan wedi dod i ffwrdd oddi ar y cae” ac wrth y cefnogwyr, “ Fyddai yno i gefnogi hefo chi o hyn allan. Gwelwn ni chi yn fuan.”
Cymer ofal Euron ac mae’n dda clywed dy fod mewn hwyliau da. Tyrd yn ôl yn gryfach y tymor nesaf a’n gorfodi ni gyd i ddycio eto!

It is good to hear that the news concerning Euron is far better. On Saturday afternoon the fear was that he had broken his ankle. But euron can now say “Glad that I haven’t broken a bone but it looks as though I’m going to be on crutches for a week at least.”
But he confirms what we had feared, “There will be no kicking the football this season either..... good news for spectators who had to duck every time I cleared the ball!!”
Euron has a word for the lads, “Thanks for looking after me when I had to leave the field” and to supporters he says,”I’ll be with you to support from now on. See you soon.”
Take care Euron and its good to hear that you are in good spirits. Come back stronger next season and make us duck again!
02/04/11
Euron yn yr ysbyty / Euron taken to hospital

Euron RobertsEstynnwn ein dymuniadau gorau at Euron Roberts a ddioddefodd anaf drwg i’w ffêr yn ystod hanner cyntaf y gêm yn Caersws pnawn yma. Galwyd ambiwlans i’r cae ac aed ac Euron mewn cryn boen i ysbyty Bronglais, Aberystwyth gan dybio ei fod wedi torri’r ffêr. Deallwn bellach mai rhwygo ligamentau ei ffêr yn ddrwg iawn a wnaeth Euron ac mae’n mynd i fethu gweddill y tymor. Er fod hynny yn achosi problem arall i’r garfan, dymuniad y clwb ydy gweld Euron yn gwella’n dda ac yn edrych ymlaen iddo chwarae eto y tymor nesaf.
Ni chafwyd fawr o lwc yng Nghaersws gyda Marcus Orlik yn hercian i’r bws ar ôl y gêm. Anaf i’w ffêr gafodd Marcus hefyd a bu’n rhaid iddo adael y cae ar ôl awr. Wedyn munudau cyn y chwiban olaf tynnodd Darren Gowans llinyn y gar. Bu’n rhaid i Darren Jones ddod i’r cae fel eilydd er yn aros i fynd i’r ysbyty i gael triniaeth hernia. Ac yn ychwanegol at hyn i gyd mae Craig Roberts, Jamie McDaid a Carl Owen yn dal allan. Er fod y tri nad oedd ar gael heddiw yn dod yn ôl at gem Rhaeadr mae gêm Bwcle yn dipyn o gur pen gan, yn ychwanegol at anafiadau, mae Carl Owen, Rhys Roberts a Darren Gowans yn anghymwys i chwarae yn y gwpan.

We extend our best wishes to Euron Roberts who suffered a nasty ankle injury during the first half at Caersws this afternoon. An ambulance was called to the ground and he was taken in considerable pain to Bronglais Hospital, Aberystwyth with a suspected broken ankle. We now understand that it is not in fact a break but an extremely nasty case of torn ankle ligaments, which mean that he will be out for the remainder of the season. Though this will cause further problems for the squad our main concern is that Euron recovers well and that he can look forward to playing again next season.
Luck seems to be in short supply at this moment as Marcus Orlik hobbled on to the bus after the game. He also suffered an ankle injury and had to be replaced on the hour. Then minutes before the final whistle Darren Gowans pulled a hamstring. Darren Jones was pressed into action as a substitute today but he will enter hospital very shortly for a hernia operation and Craig Roberts, Carl Owen and Jamie McDaid remain injured. Though the three unavailable players return on Saturday the cup semi-final with Buckley is a major headache as in addition to the growing injury list Rhys Roberts Darren Gowans and Carl Owen are all cup-tied.
03/04/11
Trearddur yn ennill ar y Traeth / Trearddur win at the Traeth

Sicrhaodd Bae Trearddur eu lle yn rownd derfynol y Cwpan Iau yr Arfordir gyda buddugoliaeth o 3-1, ar y Traeth pnawn Sadwrn, dros ail dîm Pwllheli. Rhwydwyd dwy o goliau’r Bae gan eu prif sgoriwr Asa Thomas ac y llall gan Carl Hagan. Byddant yn cyfarfod y Parlwr Du yn y rownd derfynol.

Trearddur Bay secured a place in the final of the NWCFA Junior Cup with a 3-1 win over Pwllheli Reserves, at the Traeth on Saturday. Record scorer Asa Thomas scored twice for the Bay and Carl Hagan got the other. They will meet Point of Ayr in the final.
02/04/11
Enillwyr Tote Misol a’r Draw Wythnosol mis Mawrth / Tote and Weekly Draw winners for March

Tote Misol
Y rhifau a dynnwyd yn Tote Misol Clwb Cymdeithasol CPD Porthmadog ym mis Mawrth oedd 2 & 22. Nid oedd unrhyw enillydd (i’w gadarnhau) a bydd y wobr o £300 yn cario drosodd i Tote Mis Ebrill.
Draw Wythnosol
Enillwyr diweddar draw wythnosol CPD Porthmadog ydy:
Wythnos 8: Rhif 185, Alan Williams Porthmadog. Wythnos 9: Rhif 153, Brenda Evans Gellilydan. Wythnos 10: Rhif 32, Ceri Roberts, Porthmadog. Wythnos 11: Rhif 151, John Parry, Penygroes. Wythnos 12: Rhif 61, Glyn Pritchard Cricieth.

Monthly Tote
The numbers drawn in the March Porthmadog Football Social Club monthly tote are 2 & 22 Subject to verification there were no winners. The £300 prize money will be rolled over to the April Tote draw.
Weekly Draw.
The latest winners in the Porthmadog Football Club weekly draw are:
Week 8: No.185, Alan Williams Porthmadog. Week 9: No 153, Brenda Evans Gellilydan. Week 10: No 32, Ceri Roberts, Porthmadog. Week 11: No 151, John Parry, Penygroes. Week 12: No 61, Glyn Pritchard Cricieth.
01/04/11
FAW yn cyflwyno criteria drafft / FAW present draft Ground Criteria

Mewn cyfarfod, ar 14 Mawrth, rhwng yr FAW a’r Cynghreiriau Cyswllt Uniongyrchol trafodwyd y criteria ar gyfer caeau. Hysbyswyd y cyfarfod fod yr FAW yn bwriadu cyflwyno dogfen drafft ar gyfer lefel 2. Mae’r gymdeithas wedi symud yn gyflym, a bellach mae’r gynghrair wedi derbyn y ddogfen drafft sydd hefyd wedi’i gyrru at y clybiau er mwyn iddynt roi eu sylwadau.

At a meeting held between the FAW and the Directly Affiliated Leagues on 14 March Ground Criteria within Directly Affiliated Leagues was discussed. The FAW informed the meeting of its intention to present a draft document for tier two. The association has moved promptly and the league has now received the draft document and has circulated it to the clubs for observations.
01/04/11
Cai yn chwarae yn erbyn Lloegr / Cai plays against England

Wythnos diwethaf roedd yr ymosodwr ifanc, Cai Jones, yn rhan o dîm Dan-18 Ysgolion Cymru yn erbyn Lloegr. Chwaraewyd y gêm ar Barc Huish, sef cae Yeovil y clwb o Adran Un Cynghrair Lloegr, o flaen torf o 6,000. Nid oedd llawer rhwng y ddau dîm ar y noson ond Lloegr sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 53 munud. Daeth Cymru yn agos i wneud y sgôr yn gyfartal munudau’n ddiweddarach ond llwyddodd amddiffynnwr Lloegr achub y dydd drwy benio’r bêl yn erbyn trawst ei hun. Roedd Jamie McDaid yn y tîm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ond ni chwaraeodd y tro yma oherwydd anaf.

Highslide JS
Llun / Picture: www.welshsfa.co.uk


Cai Jones was again in the Wales Schools U-18 team last week. He appeared against England in a game played in front of 6,000 spectators at League One club Yeovil Town’s Huish Park. It proved to be a close contest with England scoring the only goal of the game after 53 minutes. Wales came close to an equaliser minutes later when an English defender cleared with a header against the underside of his own bar. Jamie McDaid, who played against the Republic of Ireland, missed out on this occasion, through injury.
Newyddion cyn 01/04/11
News before 01/04/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us