Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
31/03/11
Rownd cynderfynol Cwpan Iau ar y Traeth / NWCFA Junior Cup Semi at the Traeth

Bydd rownd cynderfynol Cwpan Iau yr Arfordir yn cael ei chwarae ar y Traeth pnawn Sadwrn nesaf, 2 Ebrill, rhwng Pwllheli a Bae Trearddur gyda’r gic gyntaf am 2 o’r gloch. Yn chwarae i’r clwb o Ynys Môn fydd Asa Thomas ymosodwr 19 oed sydd wedi gwneud enw iddo’i hun yn sgorio 78 o goliau yn ystod y tymor hwn.
Bydd y rownd cynderfynol arall rhwng Nefyn a’r Parlwr Du.

The semi-final of the North Wales Coast Junior Cup will be played at the Traeth on Saturday, 2 April between Pwllheli and Trearddur Bay with a 2 pm. kick off. On view for the Anglesey club will be Asa Thomas a striker who has made himself quite a reputation scoring a remarkable 78 goals during the current season.
The other semi final will be between Nefyn Utd and Point of Ayr.
31/03/11
Rhagolwg: v Caersws / Preview: v Caersws

Pnawn Sadwrn bydd dau o gyn glybiau UGC yn cyfarfod ar y Rec yn Caersws gyda’r ddau glwb yn chwilio am fwy o gysondeb yn eu chwarae. Bydd Port yn awyddus i gael gêm rhwystredig nos Fawrth allan o’u system wedi iddynt fethu troi pwysau cyson yn goliau. Roedd Gareth Parry yn siomedig iawn gyda’r perfformiad, “Hwn oedd y perfformiad salaf ers dipyn. Dangoswyd diffyg dychymyg wrth geisio torri drwy amddiffyn Rhuthun a dweud y gwir roedden nhw a fwy o awch ac awydd ar y noson.”
Os ydy Port i daro ’nol bydd rhaid iddynt eu wneud gyda charfan braidd yn denau. Bydd y capten Ryan Davies ddim ar gael na chwaith Rhys Roberts a Richie Owen. Mae Craig Roberts a Jamie McDaid allan ac anafiadau a newyddion drwg pellach yw fod Carl Owen ac anaf i’w gefn ac yn amheus iawn ar gyfer ddydd Sadwrn. Felly dim ond 11 o’r garfan o 18 fydd ar gael gyda Gareth Parry ei hun ac yr is-reolwr Campbell Harrison ar y fainc.
Yn ystod mis Mawrth mae Caersws wedi wynebu gemau anodd yn chwarae Derwyddon Cefn, y trydydd yn y tabl, ddwywaith a hefyd Cei Conna sy’n ail. Un pwynt adref yn erbyn Cefn a gafwyd o’r tair gêm. Yn ystod y mis hefyd cafwyd dwy fuddugoliaeth adref ar y Rec dros Rhos Aelwyd a Phenrhyn-coch. Ond colli fu eu hanes yn Rhaeadr, a hynny o 3-0 -un o siocs y tymor.

On Saturday the two former WPL clubs will meet at the Recreation Ground, Caersws and both will be looking for greater consistency in their play. Port will be eager to get last Tuesday’s frustrating defeat out of the system after failing to turn constant pressure into goals. Gareth Parry was extremely disappointed with the performance, “It was our poorest performance for some time. We lacked imagination to break down the Ruthin defence and to be honest they wanted it more than we did on the night.”
If Port are to bounce back they will have to do it with a depleted squad. Captain Ryan Davies, together with Rhys Roberts and Richie Owen are unavailable. Craig Roberts and Jamie McDaid are out with injuries and further bad news is that Carl Owen, suffering from a back injury, is also very doubtful. The team will therefore be down to an absolute bare bones with 11 squad players only available. On the bench will be Gareth Parry himself, together with assistant manager Campbell Harrison.
During March Caersws have faced a tough programme of matches playing third placed Druids twice and also second in table Connah’s Quay . They managed a home point from these games with a 1-1 draw with Cefn Druids. They have also gained home wins against Rhos Aelwyd and Penrhyn-coch. They have also been at the wrong end of one of the season’s surprise results going down 3-0 at Rhayader.
31/03/11
Boskin yn ôl ar y Traeth / Boskin back at the Traeth.

Mae Richard Hughes i ddychwelyd i’r Traeth. Arwyddodd Richard cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau. Chwaraeodd Richard 67 (+27) o gemau UGC dros Port rhwng 1994 a 2008 ac mae wedi cytuno i ddychwelyd i gynorthwyo’r clwb ar gyfnod pan mai nifer o anafiadau wedi taro. Yn anffodus nid yw Richard ar gael ddydd Sadwrn yng Nghaersws neu fyddai wedi mynd yn syth i’r garfan. Rheswm ychwanegol am ei arwyddo ydy’r ffaith nad yw Carl Owen, Rhys Roberts a Darren Gowans yn gymwys i chwarae yn y rownd cynderfynol yn erbyn Bwcle.
Estynnwn groeso cynnes iawn i Richard a fu yn chwaraewr poblogaidd iawn ar y Traeth. Mae’n cael ei gofio am y gôl holl bwysig yn erbyn Rhyl yn gêm olaf 2007/08. Hon oedd y gôl a sicrhaodd fod Port yn cadw eu lle yn UGC.

Defender Richard Hughes makes a surprise return to the Traeth signing before the transfer deadline. Richard who made 67 (+27) WPL appearances for Port between 1994 and 2008 has agreed to return as cover at a time when something of an injury crisis has struck. Unfortunately Richard will not be available for the Caersws game on Saturday or he would have gone straight into the squad. An added reason for the signing is that three cup-tied players Carl Owen, Rhys Roberts and Darren Gowans will not be available for the 13 April semi-final against Buckley Town.
A warm welcome is extended to Richard, always a popular player at the Traeth, but best remembered for his match winning goal against Rhyl to retain WPL status in the final game of the 2007/08 season.
29/03/11
Cymdeithas yr Arfordir i golli clybiau Fflint / NWCFA to lose Flintshire clubs.

Mewn adroddiad ar wefan swyddogol Cynghrair Clwyd dywed fod yna newid i fod i ffiniau cymdeithasau’r gogledd gyda chlybiau tu fewn i ffiniau Sir Fflint yn trosglwyddo o Gymdeithas yr Arfordir i Gymdeithas y Gogledd Ddwyrain.
Yn ôl y wefan cadarnhawyd hyn gan Lywydd yr FAW, Mr. Phil Pritchard mewn cyfarfod o bwyllgor llywio Cynghrair Clwyd ar 17 Mawrth. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad a wnaed gan gyngor yr FAW ar 14 Mawrth, 2011 ac yn effeithiol o’r 1 Awst 2011.
Mae’n awgrymu i Gynghrair Clwyd rannu’n ddwy gynghrair –un yn ardal Sir Ddinbych a’r llall yn ardal Conwy. Mae’r wefan yn dweud, “Mae hyn yn dilyn penderfyniad a wnaed y tymor diwethaf i ganiatáu i’r Welsh Alliance ffurfio ail adran, ac felly yn symud Cynghrair Clwyd i lawr o Lefel 4 i Lefel 5.” Caniatawyd y datblygiad yma yn hwyr iawn a cafodd effaith ddifrifol ar Gynghrair Gwynedd hefyd.
A fydd y penderfyniad yn effeithio’r 4 clwb o Sir Fflint yn y Welsh Alliance –Treffynnon, Maesglas, Helygain a Thref Cei Conna. pedwar yma ? Rwan ydy’r amser o ofyn y cwestiynau er mwyn osgoi problemau annisgwyl yn y dyfodol.
Mae swyddogion Cynghrair Clwyd yn bwriadau cyfarfod â’r FAW a’r ddwy gymdeithas ardal gan fod nifer o’u clybiau wedi dychryn wrth glywed am benderfyniad yr FAW.

It is reported on the Clwyd League’s official website that there will be a change to area association boundaries in north Wales. It states, “That all clubs that currently reside in Flintshire will be part of the NEWFA as from 1st August 2011.”
According to the website FAW President Mr Phil Pritchard has confirmed this at the Clwyd League's Management meeting on 17th March. This follows a decision made by the council of the Football Association of Wales on 14th March 2011 and will take effect from 1st August 2011.It further instructs that the Clwyd League should split into two leagues one in the Denbighshire area and one in the Conwy area.
The website points out that, “This follows hard on the heels of last season's decision to allow the Welsh Alliance to form a new second division, thus relegating the whole Clwyd League down from Level 4 to Level 5” This development was allowed at a very late stage and also had serious implications for the Gwynedd League.
Does the new stipulation also affect the four Flintshire clubs in the Welsh Alliance: Holywell Town, Greenfield, Halkyn and Connah’s Quay Town? Questions need to be asked now to avoid some unwanted surprises later.
The Clwyd League officers are planning to meet with the FAW and both area associations, as many clubs are understandably concerned and alarmed at FAW decision.
28/03/11
Mwy o’r Academi / More from the Academy

Roedd y tîm Academi yn chwarae ddoe (27 Mawrth) yn erbyn y Seintiau Newydd. Y newyddion da, o safbwynt Porthmadog, ydy fod yr hogiau Dan-14 wedi ennill eto i gadw eu record 100%. A hynny o 4-1. Meddai Eddie Blackburn, Gweinyddwr yr Academi, “Mae’r canlyniad hwn bron y sicr o’u rhoi yn rownd wyth olaf Cwpan Academi Cymru. Maent ar ben eu grwp, gyda dwy gêm mewn llaw o’r clybiau agosaf.” Yn y gemau Dan-12 a Dan-16 Y Seintiau oedd yn fuddugol o 6-0 a 5-0.
Nos Fercher, 30 Mawrth bydd y tîm Dan-12 yn chwarae eu gem olaf yn erbyn Llandudno ar y Traeth ac mae Eddie yn annog cefnogwyr i droi allan a dangos eu hochr. Mae o’n dweud, “Mae’r hogiau yma yn haeddu cefnogaeth, llawer ohonynt yn chwarae yn uwch na’u grwp oed oherwydd diffyg chwaraewyr yn yr oed Dan-12, ac er eu bod yn colli bob wythnos byddant yn dal i wenu ac yn dod i’r ymarfer gan weithio’n llawn calon. Felly beth amdani? Fyddwch chi yna yn bloeddio dros yr hogiau nos Fercher? Y gic gyntaf am 7 pm.

The three Academy teams played games against The New Saints yesterday (27 March). The day’s really good news, from a Porthmadog perspective, was another win for the U-14s keeping up their 100% record by winning 4-1. The Academy Administrator, Eddie Blackburn, reports, “This result almost certainly means that they will qualify for the quarter finals of the Academies' Cup competition, having gone top of their group with two games in hand on the chasing pack.” The U12s and U16s though ended in wins for TNS by 6-0 and 5-0 respectively.
On Wednesday 30 March the U12s are due to play their remaining game against Llandudno U12s on the Traeth. Eddie urges supporters to turn out in strength for this game. He says “These boys deserve a lot of support, many of them are playing out of their age group due to a lack of U12 players and although being beaten every week they come up smiling and turn up for training and games and put their heart and soul into everything they do. So how about it? Can we count on your cheers and encouragement for these boys?” Kick off is at 7 pm.
27/03/11
Rhagolwg: v Rhuthun / Preview: v Ruthin Town

Rhuthun Noddwr: Balfour Beatty/ Brodyr Jones
Fuoch chi i’r Traeth yn ddiweddar? Os na ydy’r ateb byddwch wedi colli sawl sioe o goliau gan fod y tîm wedi bod yn creu ac yn cymryd eu cyfleoedd ar y Traeth yn ogystal ac oddi cartref. Beth am ddod am dro i’r Traeth nos Fawrth?
Dim ond ychydig iawn yn ôl gwnaeth y ddau glwb gyfarfod yng Nghwpan y Cynghrair a Port enillodd, yn reit gyfforddus ar y noson, gyda Craig a Paul Roberts yn rhwydo. Bydd y tîm ar gyfer nos Fawrth yn cael eu gryfhau gan fod Rhys Roberts, Darren Gowans a Carl Owen yn gymwys y tro hwn ac yn y garfan, er fod Carl wedi ei dynnu o’r cae yn fuan yn erbyn Llangefni ac anaf i’w gefn.
Byddai edrych ar y canlyniadau diweddar yn siwr o wneud Port yn ffefrynnau i gipio’r pwyntiau ond ar ôl siociau nos Wener medrwn gymryd dim yn ganiataol. Bydd Rhuthun yn cael hyder o berfformiad nos Wener yn curo’r Fflint o 1-0 a bydd angen gofal gan nid hawdd ydy cael buddugoliaeth ar Gae’r Castell. Bydd eu rheolwr profiadol Adie Jones yn siwr o sicrhau fod Rhuthun yn barod am y sialens y tro yma hefyd. Hon oedd y fuddugoliaeth gyntaf i Rhuthun ers diwrnod cyntaf y tymor pan gurwyd Llangefni yn Ffordd Talwrn. Mae eu record dros y tymor yn dangos 5 buddugoliaeth a 4 gêm gyfartal allan o 23 o gemau.

Match Sponsor: Balfour Beatty / Jones Brothers
Have you been to the Traeth lately? Well if you haven’t you’ve been missing some goal feasts as the team have been creating and taking their chances at home as well as on the road. You should consider paying a visit on Tuesday evening.
These two clubs met only a short time ago in the League Cup and Port were comfortable winners on the night with goals from Craig and Paul Roberts. The team for Tuesday’s encounter will be strengthened from that meeting as the cup-tied trio of Rhys Roberts, Darren Gowans and Carl Owen should be available for selection, though Carl had to be withdrawn early in the second half against Llangefni with a back injury.
Recent form would undoubtedly make Port strong favourites for the three points but nothing can be taken for granted as Friday’s shock results reminded everyone. Ruthin will no doubt be buoyed by Friday’s 1-0 win at Flint, never an easy place to come away with the points, and their experienced manager Adie Jones will ensure that they are up for this encounter also. This was their first away league win since the season’s opening day when they won at Llangefni. Their overall league record for the season shows 5 wins and 4 draws in 23 games played.
27/03/11
Canlyniadau nos Wener yn creu sioc / Shock results on Friday

Mae Port wedi elwa o fuddugoliaeth Llandudno, o 3-0, dros Rhos Aelwyd, nos Wener. Golyga hyn fod Port yn symud fyny un lle i chweched yn y tabl. Hyn gan fod eu gwahaniaeth goliau bellach yn well nag un Rhos Aelwyd. Cafwyd sioc mewn dwy o’r gemau gyda Rhaeadr, gwrthwynebwyr Port o wythnos yn ôl, yn curo Caersws o 3 -0. Rhaid fod dwy gol hwyr Rhaeadr, yn erbyn Port, wedi profi’n ysbrydoliaeth! Cafwyd y sioc arall gan gwrthwynebwyr nesaf Port, sef Rhuthun, yn sicrhau buddugoliaeth annisgwyl o 1-0 yn Fflint. Hon oedd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers diwrnod cyntaf y tymor. Penrhyn-coch enillodd y gêm arall o 2-1 yn y Trallwng.

Port benefited from Llandudno’s 3-0 win over Rhos Aelwyd on Friday as it means that they have moved up another place in the table to 6th. Their goal difference is now marginally superior to that of Rhos Aelwyd. Two of the other results on Friday produced surprises with Port’s opponents of a week ago, Rhayader Town, inflicting a 3-0 defeat on Caersws. Those two late goals against Port must have inspired them! Port’s next opponents, Ruthin Town, also pulled off a shock by defeating Flint by 1-0, for their first away win since the opening day of the season. The other result, on the night, was a 2-1 win for Penrhyn-coch at Welshpool.
24/03/11
Gareth Parry yn edrych at y tymor nesaf / Gareth Parry already planning for next season

Gareth Parry Er ei fod yn hapus iawn gyda’r rhediad diweddar ac yn arbennig safon y perfformiad neithiwr yn erbyn Llangefni, mae’r rheolwr yn barod yn edrych at y tymor nesaf ac yn gosod mwy o’r sylfeini i roi sialens am ddyrchafiad. Dywedodd, “Rwy’n barod yn edrych i gryfhau’r garfan at y tymor nesaf ac am weld rhai wynebau newydd yn dod i fewn.”
“Mae’n siomedig fod hwn wedi bod gymaint o dymor ‘stop,start’ gan fy mod yn grediniol y bysan yn agos i’r brig heblaw am hynny. Mae yna lawer o botensial yn y garfan yma.”
Am y datblygiad diweddar dywedodd, “Dwi wedi bod yn gwneud llawer o waith efo siâp yr amddiffyn ac mae hyn wedi gwella perfformiadau yn sylweddol. Mae’n braf hefyd gweld y gwaith ’da ni ’di gwneud ar giciau cornel yn talu inni mewn gemau. Dwi’n falch o’n gweld hefyd yn cymryd ein cyfleoedd –er y gallent fod wedi sgorio 20 gol rhwng y gêm neithiwr ac un pnawn Sadwrn!!

While obviously pleased with the recent run of form, and in particular the quality of the performance against Llangefni last night, the manager is already eyeing next season and laying further foundations for a promotion challenge. He says “I am already looking to strengthen the squad for next season and look to bring in some new faces.”
“It is disappointing that this season has been such a stop start one for us, as otherwise I feel sure we would be mounting a challenge at the top. There is a great deal of potential in this squad.”
Of recent progress he said, “We have put in a great deal of work on our defensive shape and this has improved our performances considerably. It is also good to see the work we have put in to corners and set pieces coming off in matches. I am pleased also to see us at last taking our chances, though looking at the chances we created last night and last Saturday we could have scored 20 goals between the two games!!
21/03/11
Newyddion diweddaraf yr Academi / Latest from the Academy

Academi / Academy Ddydd Sul teithiodd y timau Dan-14 a Dan-12 i Cefn Mawr i chwarae gemau yn erbyn Academi Derwyddon Cefn. Cymysg oedd y canlyniadau . Colli o 7-1 oedd hanes y tîm Dan-12, tîm oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr o’r garfan Dan-11. Ennill o 7-0 gwnaeth y tîm Dan-14 ac yn dal i ennill er eu bod heb tri o’u chwaraewyr rheolaidd a oedd yn chwarae mewn rownd derfynol y cwpan i Porthmadog Juniors. Yn anffodus oherwydd salwch ac anafiadau nid oedd yn bosib rhoi tîm Dan-16 ar y cae. Meddai Eddie Blackburn, ”Mae’n debyg bydd rhaid inni ildio’r pwyntiau gan fod rownd yr wyth olaf yn agos iawn a does yna ddim Sul gwag gennym.”
Sul nesaf (27 Mawrth) bydd y tri tîm Academi adref yn erbyn TNS gyda’r gic gyntaf am 11am. “Piciwch i lawr” meddai Eddie, “gallaf eich sicrhau fydd y profiad yn un pleserus iawn.”

On Sunday the U-14s and U12s travelled to Cefn Mawr to play matches against their counterpartsfrom Cefn Druids. The results were mixed. The U-12s, who had to include many of the U-11 squad, went down by 7-1. The U14s, despite missing three regulars who were playing a cup final with Porthmadog Juniors, continued their good run winning by 7-0. Unfortunately due to player unavailability, through illness and injury, it was not possible to field an U-16s team. Eddie Blackburn added, “We will probably have to forfeit that game as the deadline for the quarter finals is looming and there are no more free Sundays.”
Next Sunday (27 March) the three Academy teams are at home to TNS with the kick off at 11 am. “Why not come along,” says Eddie. “I can assure you the experience for you would be well worthwhile.”
21/03/11
Gemau Tarian Tom Yeoman / Tom Yeoman Shield Games

Chwaraeodd yr hogiau Dan-11 gemau Tarian Tom Yeoman yn erbyn Bangor o dan y goleuadau ar y Traeth nos Wener. Er mai colli y pedair gêm oedd yr hanes yn erbyn tîm cryf Bangor sydd wedi perfformio’n dda yn y gystadleuaeth eleni. Y sgoriau oedd: 1-2, 1-4, 0-4 and 0-5.
Er waethaf hyn roedd Eddie Blackburn, Gweinyddwr yr Academi , yn hapus gyda’r perfformiad, “Nodwedd dda o’r noson oedd y pêl-droed deniadol a chwaraewyd gyda’n hogiau ni yn pasio i draed ac yn rhedeg i wagle i dderbyn pêl. Yn y gêm gyntaf a welais dim ond perfformiad arbennig gan golwr Bangor a’n rhwystrodd rhag sicrhau buddugoliaeth. Newyddion da hefyd ydy, y bydd y mwyafrif o’r chwaraewyr yma yn ddigon ifanc i chwarae yn yr un grwp oed y tymor nesaf. Mae hyn yn arwyddo’n dda ar gyfer 2011/12.
Roedd Eddie hefyd yn llawn canmoliaeth i waith yr hyfforddwr, Mel Jones, “Fo sydd wedi cymryd y grwp ifanc yma o chwaraewyr ‘cic a chwrs’ a’u troi yn ddwy uned a’r gallu i chwarae pêl-droed.”
Agwedd bleserus arall o’r noson oedd y nifer dda iawn o rieni a ddaeth i gefnogi ac yn mwynhau’r profiad.

The U-11s played a Tom Yeoman Shield game against Bangor under lights at the Traeth last Friday. Though all four games were lost against what is a good Bangor side who have a enjoyed a good Shield competition. The scores were 1-2, 1-4, 0-4 and 0-5.
Despite this Administrator Eddie Blackburn declared himself pleased commenting, “A feature of the evening was the attractive football played by our boys with the ball being passed to feet and players running into space to receive passes. In the first game I saw only a brilliant display by the Bangor keeper prevented Port from achieving a win. Good news also is that most of these boys can play in the same age group next season and this augurs well for season 2011/12.”
Eddie was full of praise for the work of coach Mel Jones, “He deserves the credit for taking this very young group of boys playing ‘kick and rush’ football and moulded them into two cohesive outfits playing football.”
Another good aspect of the evening was the sizeable crowd of parents present to enjoy the experience.
21/03/11
Rhagolwg: v Llangefni / Preview: v Llangefni

Llangefni Un pwynt ac un lle sy’n gwahanu Port a Llangefni yng nghanol y tabl ond bydd y ddau glwb yn edrych i godi pwyntiau i wella’u safleoedd erbyn diwedd y tymor. Yn ystod mis Mawrth mae’r clwb o Ynys Môn wedi ennill dwy a cholli dwy ond, yr un fath a Port, yn medru brolio buddugoliaeth ar Lannau Dyfrdwy dros Cei Conna y clwb sy’n brwydro am y teitl. Ond dros y tri mis diwethaf mae Llangefni wedi sgorio’n drwm a Darren Thomas a Marc Evans yn canfod y rhwyd yn rheolaidd. Gall amddiffyn Port felly ddisgwyl prawf pendant nos Fercher.
Mae Port heb golli gêm yn ystod y mis yn ennill dwy a dwy yn gyfartal. Dwy waith hefyd yn ystod y mis rhwydwyd pum gol mewn gêm. Nodwedd o gemau Port yn ddiweddar ydy goliau Rhys Roberts. Mae wedi canfod y rhwyd mewn pedair o’r pum gêm ddiwethaf gan sgorio chwe gôl yn ystod y rhediad.
Y gêm hon ydy’r peth agosaf at gêm ddarbi i’r ddau glwb y tymor hwn, er fod y rhestr gemau heb gydnabod y ffaith. Gan fod nifer o’r chwaraewyr ar y ddwy ochr wedi bod yn gysylltiedig gyda’r ddau glwb bydd yna ychydig o fin ychwanegol i’r gêm.

One point and one place separate Port and Llangefni in mid-table but both clubs will be looking to pick up points to improve their positions before the end of the season. During March the Anglesey club have won two and lost two of their games and they like Port can boast a win on Deeside against title challengers Connah’s Quay. Llangefni have scored freely over the last three months and Darren Thomas and Marc Evans have been finding the net regularly. The Port defence can therefore expect a stern test.
Port are unbeaten during the month, winning two games and drawing the other two. Twice during the month they have netted five goals in a game. A feature of the play over the last few weeks are the number of goals scored by Rhys Roberts. He has found the net in four of the last five games scoring six goals during the sequence.
This game is the nearest thing to a local derby for both clubs this season although the fixture list surprisingly failed to recognise this fact. Several players in both teams have been associated with both clubs and this will also add a little extra bite to the contest.
20/03/11
FAW yn cyfarfod cynrychiolwyr y gogledd / FAW meets representatives in the north

Yn ogystal a phenderfynu gwneud dim am bêl-droed ail-dîm roedd yna eitemau eraill yn cael eu trafod yn y cyfarfod rhwng yr FAW a’r Cynghreiriau Uniongyrchol a’r Cymdeithasau Ardal.
Trafodwyd criteria ar gyfer caeau yn y Cynghreiriau Uniongyrchol. Yr unig ddatblygiad a wnaed oedd clywed fod yr FAW yn mynd i gyflwyno dogfen drafft i’w thrafod ar rhyw adeg yn y dyfodol ac wedi’i gynnwys yn y ddogfen hon bydd cynnig i’r ail haen gael Trwydded Ddomestig –ond nid yr un fath a fersiwn yr Uwch Gynghrair.
Mewn gair ni fi unrhyw ddatblygiad ers i’r FAW wrthod y cytundeb a luniwyd, ynglyn â chaeau, rhwng yr HGA a Chynghrair Cymru (y De) a hynny bedwar mis yn ôl ym mis Tachwedd 2010. Ar y pryd dywedodd yr FAW fod is bwyllgor o’r Pwyllgor Domestig yn mynd i ystyried pa gamau i gymryd i symud y cynghreiriau yn agosach at y criteria a ddefnyddir gan UGC. Yr oedi yma yn awgrymu nad oes gan yr FAW fawr o ddiddordeb yn y rhannau o’r pyramid sydd yn is nag UGC.
Un eitem na drafodwyd, ac mae gwefan swyddogol yr HGA yn cyhoeddi hyn mewn llythrennau bras, “DIM CYFEIRIAD AT BÊL-DROED HAF YN Y CYFARFOD.” Ydy hyn i’w gymryd fel gweithred ddoeth? Doedd yr un o’r cynrychiolwyr felly yn ystyried fod angen trafod y pwnc mwyaf dadleuol ym mhêl-droed Cymru ar hyn o bryd. Gallai eu distawrwydd adael i’r newid, sydd yn cael ei arwain gan John Deakin, ddatblygu gyda chanlyniadau tyngedfennol i weddill y pyramid.
I gasglu, bu yna ddim gweithredu ynglyn â phêl-droed ail dîm yn y gogledd, bydd yna fersiwn o’r Drwydded Ddomestig i gynghreiriau’r ail rheng rhyw adeg yn y dyfodol pan wnaiff y FAW benderfynu ddod a pethau at eu gilydd, bu sgwrsio cyffredinol am y pyramid ond dim wedi’i benderfynu ac i gloi ar Bêl-droed Haf tawelwch obry. Cyfarfod reit gynhyrchiol felly!!

In addition to the decision not to make any new provision at all for reserve football there were other items up for discussion at the FAW Meeting with Directly Affiliated Leagues and Area Associations.
Ground Criteria within Directly Affiliated Leagues was discussed. The only progress made was that the FAW will present a draft document at some future date and included in this document would be a proposal for tier two to have a domestic licence -but not the same as the WPL version.
In other words no progress has been made since the FAW decided to overrule the agreement reached between the two feeder leagues (HGA and Welsh League South) on ground criteria four months ago -back in November 2010. The FAW stated at that time that a sub-committee of the FAW domestic committee will be considering what changes are required to move the leagues nearer to the Welsh Premier league criteria. But it appears that in those 4 months nothing has happened. All of which leads us to ask whether the FAW have any interest in the pyramid below WPL level.
One item not discussed and the HGA official website announces it in block capitals “NO MENTION OF SUMMER FOOTBALL AT THE MEETING.” Are we therefore to regard this as a wise move? Did none of the parties involved consider that the most contentious issue currently in Welsh football was worth an airing? Their silence might well allow the Deakin-led move to Summer Football to develop and that with catastrophic results for the remainder of the pyramid.
To sum up there was no action on reserve football, there will be a feeder league version of Domestic Licence sometime in the future when the FAW get their act together, general discussion but no action on the pyramid and finally nothing at all was said about summer football. Seems to have been a productive meeting then!!
17/03/11
Dim cynlluniau am gynghrair i Ail Dimau / No plans for Reserve league

FAW Cynhaliwyd y cyfarfod disgwyliedig -nos Lun 14 Mawrth- rhwng yr FAW, y Cynghreiriau a Chysylltiad Uniongyrchol (gan gynnwys yr HGA) a Chymdeithasau Lleol.
Eitem o diddordeb i Borthmadog oedd yr un yn ymwneud â phêl-droed ail dîm gan fod y clwb newydd benderfynu adfer yr ail dîm wedi blwyddyn o absenoldeb. Nid yw canlyniad y drafodaeth yn sioc, o ystyried record gweinyddwyr pêl-droed yng Nghymru ar bob lefel. Dywed gwefan yr HGA “Dim newidiadau yn cael eu rhagweld i sefyllfa bresennol ail dimau yn strwythur y pyramid.”
Dyna ni felly gwneud dim unwaith eto. Rhaid derbyn fod pêl-droed ail dîm a datblygiad chwaraewyr ifanc ar ôl oed academi ddim yn uchel ar flaenoriaethau’r FAW, nac i’r rhai sydd a chyfrifoldeb dros ddatblygu pêl-droed yn eu hardaloedd. Felly does yna ddim bwriad i sefydlu cynghrair ail dimau o’r safon angenrheidiol. A ydym i gymryd yn ganiataol felly na fydd Porthmadog yn cael yr hawl i ymgeisio am le yn Uwch Gynghrair Ail Dimau Clwyd yr unig ddewis addas sydd ar gael ar hyn o bryd?

The awaited meeting between the FAW and the Directly Affiliated Leagues (including the HGA) and Area Associations took place on Monday 14 March.
An item of interest to Porthmadog was that regarding the future of Reserve Football in North Wales and follows on from the recent decision of the club to revive the reserve team after an absence of one season. The result of the meeting’s deliberations is eminently predictable, given the track record of Welsh football administrators at all levels. The HGA website reports “No changes envisaged to the current situation with Reserve teams in the pyramid structure.”
So there we are much ado about nothing as usual. Can we assume therefore that Reserve football, and the development of young players post Academy in North Wales is not high on the FAW list of priorities or for others entrusted with the development of the game at regional level and that they have no interest in establishing a reserve league of a suitable standard. Are we to also assume that Porthmadog, should they apply, would again be refused right of entry to the only current suitable league, the Clwyd Premier Reserve League?
17/03/11
Rhagolwg: v Rhaeadr / Preview: v Rhayader

Rhaeadr Bydd Port yn teithio i’r canolbarth ddydd Sadwrn i gyfarfod y clwb sydd ond un lle yn uwch na gwaelod y tabl. Nid yw wedi bod yn hawdd i Rhaeadr ers dychwelyd i’r HGA, yn ennill ond dwy o’u 21 gêm gynghrair. Maent wedi colli eu naw gêm gynghrair ddiwethaf ac heb ennill ers curo Rhuthun ar 30 Hydref.
Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod oedd ar 1 Tachwedd 1997/98 gyda’r ddau yng Nghynghrair Cymru. Port oedd yn fuddugol o 3-1 gyda Nigel Barry, Tony Draper a Mike Davies y sgorwyr. Aeth pethau ar i lawr i Rhaeadr wedi iddynt ddisgyn o Gynghrair Cymru yn 2001/02 ac yn 2006 daeth y clwb i ben. Yn 2007/08 ail gychwynnwyd y clwb gyda Dylan McPhee ( hefyd yn gyn chwaraewr Caerfyrddin, y Drenewydd a Chaersws) yn rheolwr â’r tymor diwethaf enillwyd dyrchafiad i’r HGA.
Yn eu tair gêm ddiwethaf mae Port wedi sicrhau dwy gêm gyfartal oddi cartref a buddugoliaeth ar y Traeth. Ac yn bob un o’r tair gêm cafwyd chwarae da iawn am gyfnodau. Dyma gêm byddai disgwyl i Port eu hennill ac os byddant yn cymryd eu cyfleoedd a gwneud i’r bas olaf gyfri dyna ddylai ddigwydd. Ond gall pêl-droed fod yn gêm ddigon rhyfedd a bu mwy nac un sioc yn yr HGA y tymor hwn.
Mae’r Weirglodd i ffwrdd o Stryd y Gorllewin yn Rhaeadr. LD6 5BP. Dilynwch yr A470 i ganol Rhaeadr a trowch i’r dde wrth y cloc i gyfeiriad Cwm Elan am 300 metr cyn troi i’r chwith i Water Lane (bydd yna arwyddion i’r cae).

Port travel to Rhayader on Saturday to take on the club who lie one place off the bottom of the table. They have not enjoyed the best of times since returning to the HGA winning only two of their 21 games. They have suffered 9 consecutive league defeats and their last win was on 30 October when they beat Ruthin.
The last time these two clubs met was on 1 November back in season 1997/98 with both clubs in the League of Wales. Porthmadog ran out 3-1 winners. The scorers for Porthmadog were Nigel Barry, Tony Draper and Mike Davies. Things went downhill for Rhayader after dropping out of the League of Wales in 2001/02 culminating in the club going out of existence in 2006.The club was reformed for 2007/08 with Dylan McPhee (who also played for Carmarthen, Newtown and Caersws) in charge and last season gained promotion to the HGA.
Recent Port form shows two away draws and a home win and in each of those games they played very well in parts. This is a game Port would be expected and, if they take their chances and make the final ball count it is what should happen, but football can be a funny old game and there have been plenty of shock results in the HGA this season.
The Rhayader ground is ‘Y Weirglodd’ off West Street, Rhayader. LD 6 5 BP. Follow the A470 to Rhayader Town Centre, turn right at clock towards Elan Valley road for 300 metres, turn left into Water Lane(ground will be signposted).
17/03/11
Gemau Academi dros y penwythnos / Academy action over weekend

Academi / Academy Bydd yn gemau Academi dros y penwythnos. Y cyntaf i chwarae bydd yr hogiau ieuengaf Dan-11 yn Tarian Tom Yeoman.
Nos Wener, 18 Mawrth: Dan 11 v Bangor ar y Traeth cic gyntaf 7 pm.
Bore Sul, 20 Mawrth bydd y tri grwp oed, Dan 12, Dan 14 a Dan 16 yn chwarae. Byddant oddi cartref yn cyfarfod Derwyddon Cefn.

The Academy returns to football action over the weekend and the U-11s will be first up in the Tom Yeoman Shield on Friday evening.
Friday 18 March: U-11s vs Bangor at the Traeth kick off 7 pm.
On Sunday morning, 20 March the three age groups, U 12, U14 and U 16, will also be in action. They travel to take on Cefn Druids.
14/03/11
Gareth Parry yn croesawu newyddion yr ail dîm / Gareth Parry welcomes the return of the reserves

Gareth Parry Mae Gareth Parry yn hapus iawn fod y cyfan yn disgyn i’w le a fydd gan Port ail dîm ar gyfer y tymor nesaf.
“Heb ail dîm mae gweithio gyda charfan o 18 chwaraewr yn anodd a does yna ddim cyfle i chwaraewr adfer ei ffitrwydd wedi anaf. Bu gwneud newidiadau cyson i’r tîm yn un o ffeithiau bywyd trwy gydol y tymor. Hyn er mwyn cadw’r garfan i gyd yn hapus a hefyd yn angenrheidiol i gadw pawb yn ffit.”
“Bydd yr ail dîm yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc lleol i greu argraff ac mae esiampl Cai Jones, Gareth Jones Evans a Jamie McDaid yn dangos nid yw oed yn rhwystr, os ydy chwaraewr yn ddigon da mae o ddigon hen i gael y cyfle."
“ Yn fwy na dim rwy’n hapus fod Mike, gyda’i brofiad arbennig, yn mynd i ofalu am yr ail dîm a fod Haydn yn mynd i’w gynorthwyo. Mae Mike, Campbell a fi wedi chwarae yn yr un tîm dros Port ac wedi gweithio’n agos yn ystod y tymor hwn . Da ni’n rhannu yr un weledigaeth ac yn benderfynol o gael y ddau dîm i weithio’n agos gyda’i gilydd,”

Gareth Parry has expressed himself delighted that arrangements are being put in place to revive the reserve team for next season.
“Working with a squad of 18 players has brought its problems when there is no reserve team to allow players to regain fitness following injury. Player rotation has been a fact of life throughout this season. The need to keep the whole squad happy has necessitated this as well as being essential to keep the whole squad fit.”
“The reserves will give young local players the opportunity to impress as the example of Cai Jones, Gareth Jones Evans and Jamie McDaid shows, age is no barrier, and if a player is good enough he is old enough and he will be given an opportunity.”
“Above all I am pleased that Mike, with his tremendous experience, will take charge of the reserves and that Haydn has agreed to assist him. Mike, Campbell and I have all played in the same Port team and we have worked closely together this season. We share the same vision for the club and are determined both teams will work closely together.”
14/03/11
Ail Dîm yn ôl at 2011/12 / Reserves back for 2011/12

Mike Foster Bydd cefnogwyr wedi’u plesio gyda’r newyddion am adfer yr ail dîm at y tymor nesaf. Yn gyfrifol am y drefn newydd fydd Mike Foster. Daw Mike a’i brofiad enfawr i’r gwaith o reoli’r ail dîm. Mae 412(+13) o gemau UGC sy’n dyddio nol i ddiwrnod cyntaf Cynghrair Cymru yn ei roi yn nawfed yn y rhestr am y nifer o gemau a chwaraewyd ers cychwyn UGC. Er iddo fod dan hyfforddiant gyda chlwb Tranmere, a threulio un neu ddau o cyfnodau byr gyda chlybiau eraill, Port o’i gorun i’w sodlau ydy Mike. Dangosodd ymroddiad fel chwaraewr a dewrder yn ei fywyd personol sydd yn ei wneud yn ddewis delfrydol i arwain chwaraewyr y dyfodol. Bydd un arall o hogiau Port, sef Haydn Jones, yn cynorthwyo Mike.
Y bwriad yw i’r ail dîm ddefnyddio chwaraewyr ifanc lleol gan gynnwys rhai o’r chwaraewyr ifanc da sy’n cael eu datblygu yn Academi Porthmadog a’u helpu i gamu ymlaen i’r lefel nesaf. Bydd hefyd yn sicrhau carfan o chwaraewyr cymwys ar gyfer cystadlaethau Dan-19, Cwpan ieuenctid Cymru a Chwpan Ieuenctid Gogledd Cymru. Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau ieuenctid yn rhan o’r Drwydded Ddomestig.
Bydd y clwb yn aros am benderfyniad y cyfarfod rhwng yr FAW a Chymdeithasau a Chynghreiriau’r Gogledd, lle bydd dyfodol ail dimau yn cael ei drafod, cyn penderfynu lle fydd yr ail dîm yn chwarae y tymor nesaf. Ond mae Cynghrair Gwynedd ,lle mae’r ail dîm wedi chwarae am nifer o flynyddoedd, wedi mynegi parodrwydd i’w derbyn yn ôl.

Supporters will be pleased with the news that next season will see the restoration of the reserve team. In charge of the new set up will be Mike Foster. He will bring his vast experience to bear on the important duties of reserve team manager. 412 (+13) WPL appearances dating back to day one of the then League of Wales; place him 9th on the all-time appearances list. Though he was a trainee at Tranmere and spent one or two brief periods elsewhere, Mike is Port through and through and his dedication as a player and the courage he has shown in his personal life make him an ideal choice to lead the future players of Porthmadog. He will be assisted by another former Port player, Haydn Jones.
It is intended that the newly formed second team will consist of young local players and this will enable some of the excellent young players being developed by the Port Academy to bridge the gap to senior football. It will also provide the club with a pool of U-19 players which will allow the club to once more take part in the FAW Youth Cup and the North Wales Youth Cup which are essential planks in the club’s Domestic Licence application for next season.
The club will await the outcome of the proposed meeting between the FAW and the Directly Affiliated Leagues and Area Associations, where the future of reserve teams is to be discussed, before deciding where the new reserve team will play. They have however been assured that the Gwynedd League, where the reserves have played for many seasons, are prepared to accept them back.
13/03/11
Rhagolwg: v Penrhyn-coch / Preview: v Penrhyn-coch

Penrhyn-coch Nos Fawrth bydd Port yn ymweld a Phenrhyn-coch i chwarae ei gêm gynghrair canol wythnos gyntaf o’r tymor. Bydd rhwydo pum gwaith yn ogystal a pheidio ildio gôl yn dod a hyder yn ôl i dîm sydd wedi tangyflawni’n ddiweddar. Ond mae’r ffaith fod angen teithio yng nghanol wythnos yn dod a phroblemau. Meddai Gareth Parry wrth edrych ymlaen, “Fydd Darren Gowans ddim ar gael wrth inni deithio i Benrhyn-coch gan na fydd yn medru cyrraedd mewn pryd ac yn dilyn cerdyn arall ddydd Sadwrn (yn Fflint) mae Rhys yn debygol o dderbyn gwaharddiad ddwy gêm.
Mae canol tabl yr HGA, o dan y tri uchaf, yn le cystadleuol iawn a gall unrhyw un o wyth clwb, gan gynnwys Port a Penrhyn-coch, gyrraedd y 4 neu 5 uchaf os y cawn rhediad da.
Mae tymor Penrhyn-coch wedi bod yn hynod am fuddugoliaethau dros rhai o dimau cryfaf yr adran. Ar Gae Baker cawsant dwy fuddugoliaeth dros y Rhyl a hefyd curo Derwyddon Cefn sy’n drydydd. I’r gwrthwyneb, pythefnos yn ôl collwyd adref o 4-2 yn erbyn Cegidfa un o ond dwy gêm a gollwyd ar Gae Baker y tymor hwn. Roedd y gêm ar y Traeth rhwng y ddau glwb yn un gystadleuol gorfforol a gallai gêm nos Fawrth fod yr un fath.

On Tuesday Port visit Penrhyn-coch for their first league midweek encounter of the season. Netting five times and keeping a clean sheet on Saturday will bring renewed confidence to a team that has underachieved recently. The fact that it is a midweek clash brings its own problems. Manager Gareth Parry looking ahead says, “Darren Gowans is unavailable when we travel to Penrhyn-coch as he won’t be able to get there on time and, following another booking on Saturday (in Flint), Rhys is likely to receive a two match ban.”
Mid table, below the top three, in the HGA has become a very crowded place and any of 8 clubs, including both Port and Penrhyn-coch, could if they put a good run together challenge for a place in the top four or five.
Penrhyn-coch’s season has been remarkable for their performances against the top sides in the league. They have twice defeated league leaders Rhyl at Cae Baker and also beaten third placed Cefn Druids. In contrast a fortnight ago they suffered one of only two home defeats by 4-2 to Guilsfield. The corresponding game at the Traeth was a close physical encounter at it could be a case of more of the same on Tuesday.
10/03/11
Newid dyddiad gêm Rhuthun / Ruthin fixture change

Rhuthun Bydd y gêm gynghrair yn erbyn Rhuthun, a oedd i’w chwarae ar y Traeth ar nos Fercher, 6 Ebrill, yn symud i’r wythnos flaenorol i nos Fawrth, 29 Mawrth gyda’r gic gyntaf am 7.30 pm.

The home league fixture against Ruthin has been brought forward from Wednesday, 6 April and will now be played during the previous week on Tuesday evening, 29 March with a 7.30 pm kick off.



10/03/11
Rhagolwg: v Cegidfa / Preview: v Guilsfield

Cegidfa / Guilsfield Noddwr/Match Sponsor: Snowdonia Press
Gwelodd y cefnogwyr a deithiodd i’r Fflint ddydd Sadwrn y gorau a’r gwaethaf o Port. Cafwyd dwy gôl o’r safon uchaf yn ystod perfformiad hanner cyntaf ardderchog. Perfformiad a ddylai fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth cyn cyrraedd yr hanner. Ond cafodd boddhad y tîm rheoli ei leihau wrth weld Fflint yn sgorio ddwywaith o giciau rhydd i ddod a’r tîm cartref yn ôl i’r gêm. Er waethaf hyn rhoddodd gôl arall, wedi’i chreu yn gelfydd, y fantais yn ôl i Port. Ond yn y diwedd dim ond pwynt a gafwyd mewn perfformiad a addawodd gymaint yn yr hanner cyntaf.
Ddydd Sadwrn byddwn yn croesawu Cegidfa, clwb a chwaraeodd Port ddiwethaf pan oeddem ar ganol rhediad da yr hydref. Ar y dydd y tîm o’r canolbarth yn wrthwynebwyr brwd, a bu’n rhaid brwydro’n galed i sicrhau’r tri phwynt, a hynny diolch i goliau gan Iwan Williams a Paul Roberts yn yr ail hanner. Mae Paul erbyn hyn wedi sgorio 8 gôl mewn 13 gêm. Bydd Cegidfa, o dan ei rheolwr Russell Cadwallader, yn rhoi sialens gorfforol cryf, yn cau lawr yn gyflym gan anelu i wrth ymosod drwy'r blaenwr ifanc Ross Frame. Yn ddiweddar cawsant gemau cyfartal yn erbyn Llandudno a Bwcle a curwyd Caersws i gyrraedd ffeinal cwpan y gynghrair.
Wedi’r fuddugoliaeth yn Cegidfa yn ôl ym mis Tachwedd, cyn i’r rhew a’r eira darfu gymaint ar y tymor, roedd Port yn 6ed yn y tabl. Erbyn hyn maent yn y 10fed safle a byddan yn awyddus iawn i sicrhau tri phwynt ddydd Sadwrn gan ail adrodd y math o chwarae a gafwyd yn yr hanner cyntaf yn Fflint dros y 90 munud cyfan.

Noddwr/Sponsor: Snowdonia Press
Supporters who travelled to Flint last Saturday saw the best and worst of Port. There were two high quality goals in an outstanding first half performance, which should have meant that the game was well and truly won before the interval. The pleasure which the management team took from this type of performance will have been tempered by the way two goals were conceded from set pieces to bring the home side back into the game. Even then a well worked goal restored the lead, but in the end a point was all we got in a game which promised so much in its early stages.
On Saturday we welcome a Guilsfield, a club we visited when in the middle of our good autumn run. The mid-Wales club provided stern opposition on the day and it took a battling performance before they were eventually overcome and that thanks to second half goals from Iwan Williams and Paul Roberts (whose goal at Flint brings his season’s league tally to 8 goals in 13 starts). Guilsfield, under manager Russell Cadwallader, will provide a strong physical challenge. They will close down quickly in midfield and aim to hit on the break through Ross Frame, a young striker of quality. Recent form shows draws with Llandudno and Buckley and a win over Caersws to reach the League Cup final.
Following that win at Guilsfield, back in November just before the snow and ice struck to entirely disrupt the season, Port were in sixth spot in the table. They have now dropped to tenth and will be desperate to get back to winning ways and produce a repeat of the first half performance at Flint for the whole 90 minutes.
09/03/11
Wrecsam a Chasnewydd hefyd yn cael eu siomi / Wrexham and Newport also disappointed

Tocynnau Cymru / Wales ticketsFel yr adroddwyd ar y safle hon wythnos diwethaf, cafod ceisiadau Porthmadog a Chastell Nedd am docynnau i gêm Cymru-Lloegr eu gwrthod. Mae bellach wedi dod i'r amlwg fod mwy o glybiau yn yr un sefyllfa. Adroddodd y BBC heddiw (mwy...) fod ceisiadau Casnewydd a Wrecsam hefyd wedi eu gwrthod. Yn ôl cadeirydd Casnewydd "Mae'n draed moch llwyr. Mae gennym 500 o bobl flin iawn sydd heb docynnau, a nhw heb fod ar fai mewn unrhyw ffordd."
Mae'n glir fod y ffordd mae'r tocynnau wedi cael eu rhannu gan yr FAW yn ymddangos yn annheg i nifer o glybiau. Pennodd yr FAW ddyddiad roedd rhaid i glybiau gyflwyno eu ceisiadau am docynnau ac, er mwyn rhoi digon o gyfle i'w cefnogwyr, fe oedodd nifer o glybiau hyd y dyddiad hwnnw cyn cyflwyno eu cais. Ond gan fod y nifer o geisiadau yn fwy na'r nifer o docynnau, penderfynodd yr FAW roi blaenoriaeth i'r clybiau oedd wedi cyflwyno'u cais gynharaf - yn hytrach na rhannu'r tocynnau'n gyfartal rhwng pob clwb.

As reported on this website last week, Porthmadog and Neath's applications for tickets to the Wales-England game have been unsuccessful. It has now become apparent that more clubs are in the same situation. The BBC today reported (more...) that Newport and Wrexham's applications have also been refused. According to Newport's chairman "It is an absolute fiasco. We have 500 extremely angry people, who through no fault of their own, now do not have tickets."
It is clear the way the FAW has distributed the tickets now seems unfair to many clubs. The FAW set a deadline for the return of ticket applications and, in order to give their supporters time to apply, many clubs delayed their applications until close to the deadline. However, since the demand outstripped the number of tickets available, the FAW decided to give priority to the clubs who returned their applications first - rather than distributing the tickets amongst all clubs.
09/03/11
Cegidfa yn ffeinal Cwpan Huws Gray /Guilsfield in HGC Final

Yn rownd cynderfynol Cwpan Huws Gray, a chwaraewyd heno ( 9 Mawrth ) ar y Graig yn Cefn, curodd Cegidfa dîm arall o’r canolbarth sef Caersws o 2-0. Bydd Cegidfa yn chwarae enillwyr y gêm rhwng Bwcle a Porthmadog yn y ffeinal.
In the Huws Gray Cup semi-final played tonight ( 9 March ) at the Cefn Druids’ Rock Ground, Guilsfield beat their mid-Wales rivals, Caersws, by 2-0. They will meet the winners of the other semi-final between Buckley Town and Porthmadog.
08/03/11
Yr Academi yn croesawu'r Bala /Academy entertain Bala

Roedd Eddie Blackburn yn hapus i gael dweud rhywbeth cadarnhaol, “O’r diwedd mae rhywbeth i gyhoeddi am bêl-droed yr Academi. Y penwythnos diwethaf chwaraeodd y timau i gyd eu gemau!”
Dydd Sul croesawyd Academi’r Bala i’r Clwb Chwaraeon i chwarae’r timau Dan-12, Dan-14 a Dan-16 a cafwyd cymysgedd o ganlyniadau. Cafodd y tîm Dan-16 gêm gyfartal deilwng o 1-1 tra parhaodd y tîm Dan-14 a’u rhediad da gan guro o 4-1. Y tîm Dan-12 oedd yn wynebu y cryfaf o dimau Academi’r Bala a'r tim yn cynnwys hanner dwsin o chwaraewyr Dan-11. Cafwyd rhai cyfnodau da ond Bala aeth a hi o 5-0.
Dydd Sadwrn teithiodd yr hogiau Dan-11 i chwarae Ysgolion Sir Fflint yn y Wyddgrug yng nghystadleuaeth Tom Yeoman. Colli oedd yr hanes yn y pedair gêm ond roedd Mel Jones wedi’i blesio gyda dyfalbarhad yr hogiau yn enwedig o ystyried y bu’n rhaid idynt chwarae heb eilyddion am fod nifer o chwaraewyr yn Eisteddfod yr Urdd. “Gair o ganmoliaeth i’r hogiau Dan-11,” meddai Eddie Blackburn, “mae mwy nag 20 ohonynt yn yr ymarfer yn rheolaidd bob nos Wener a hynny er waethaf y tywydd gwlyb. Da iawn hogiau.”

A pleased Eddie Blackburn says of the Academy, “At last something positive to report on the football front. Last weekend all our football teams played their games!”
On Sunday the U-12, U-14 and U-16s entertained the Bala Academy at Clwb Chwaraeon games which produced a mixed bag of results. The U-16s came out with a creditable 1-1 draw while the U-14s continued their winning ways winning by a 4-1 margin. The U-12s took on the strongest team in the Bala Academy and despite including half a dozen U-11s they matched Bala well at times before going down by 5-0.
On Saturday the U-11s travelled to Mold on Saturday to play the Flintshire Schools in the Tom Yeoman Shield All four games were lost but Mel Jones was pleased at the dedication show by these young lads who had to play all the games without substitutes as the Urdd claimed some of our players. A word here of praise for the Under 11s. We are consistently seeing 20+ boys turning up for training on Friday evenings and we hardly seem to have had a dry one yet. Well done boys.
08/03/11
Neil Thomas yn gwella /Neil Thomas recovering

Neil Thomas Roedd yn dda gweld Neil Thomas –ar Sgorio ar S4C neithiwr- yn Dolybont lle roedd yn gwylio Hwlffordd yn curo Caerfyrddin o 2-1 mewn gêm a chwaraewyd nos Wener. Bydd cefnogwyr Port yn hapus i weld ei fod yn gwella ar ôl dioddef anaf drwg iawn i’w ben ac wedi treulio amser mewn uned gofal ddwys. Chwaraeodd Neil ,sydd o Benygroes yn wreiddiol ,i Port yn ystod tymor 2005/06

It was good to see Neil Thomas -via last night’s ‘Sgorio’ on S4C- at the Bridge Meadow Ground where he was a spectator at the Haverfordwest v Carmarthen match, played last Friday and which ended 2-1 in Haverfordwest’s favour. Pleasing to note that Neil is on the way to recovery after suffering a serious head injury and spending time in a hospital high dependency unit. Neil who is from Penygroes originally, appeared for Porthmadog in the WPL in season 2005/06.
06/03/11
Penwythnos prysur Jamie a Cai / Busy time for Jamie and Cai

Ysgolion Cymru / Welsh Schools Er fod Jamie McDaid a Cai Jones wedi chwarae i dîm Ysgolion Cymru (yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghilarni) roedd y ddau ar y fainc yn Fflint pnawn Sadwrn, wedi iddynt groesi o’r Iwerddon i Gaergybi dros nos. Mae hyn yn dweud llawer am frwdfrydedd a dyfalbarhad y ddau chwaraewr ifanc. Daeth y ddau i’r cae fel eilyddion yn y Fflint. Wedi dod ymlaen ar ôl 67 munud chwaraeodd Jamie rhan allweddol yn y gol a sgoriodd Paul Roberts gyda croesiad cywir o’r chwith.
Roedd y ddau yn y tîm a gychwynnodd y gêm yng Nghilarni ac aeth Cymru ymlaen i sicrhau gêm gyfartal 2-2 gyda’r Weriniaeth. Y Weriniaeth ydy deiliad Tarian y Canmlwyddiant. Wrth i Gogledd Iwerddon guro Lloegr ar yr un noson mae’r gystadleuaeth bellach yn un agored iawn. Bydd y gem rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu chwarae ar gae Airbus ar 14 Ebrill. Dangosir y gêm honno yn fyw ar Sky.

Despite appearing for Wales Schools U-18s on Friday evening (against the Republic of Ireland in Killarney) Jamie McDaid and Cai Jones were on the bench at Flint on Saturday, having crossed by boat from Ireland to Holyhead overnight. This speaks volumes for the enthusiasm of these two young players. Both made substitute appearances at Flint. Jamie came on in the 67th minute to create an 80th minute goal for Paul Roberts with his chase and accurate low cross.
Both players were in the Welsh starting eleven which earned a creditable 2-2 draw with the Republic, -the holders of the Centenary Shield. With Northern ireland defeating England on the same evening the competition has been thrown wide open. The game between Wales and Northern Ireland, to be played at the Airbus ground on 14 April, will be shown live on Sky.
04/03/11
Castell Nedd heb docynnau hefyd / Neath also without tickets

Mae cefnogwyr Castell Nedd fel rhai Port heb docynnau ar gyfer y gem rhwng Cymru a Lloegr. Heddiw rhyddhawyd y datganiad hwn gan glwb Castell Nedd:
“Cawsom ein hysbysu gan yr FAW na fyddant yn medru cyflenwi’r tocynnau archebwyd gan glwb Castell Nedd, na chwaith gan glybiau eraill yng Nghymru, oherwydd nifer y ceisiadau. Rhannwn siom ein cefnogwyr am y sefyllfa, a byddwn yn gofyn am ad-daliad wrth yr FAW a hynny mor fuan a phosib. Bydd pob cefnogwr sydd wedi talu am docyn yn derbyn ad-daliad llawn.”
Er nad ydym yn sicr sawl clwb sydd wedi ei effeithio gan hyn ond mae’n debyg fod yna nifer yn yr un sefyllfa.

Supporters of Neath have, like those of Porthmadog, found themselves ticketless for the Euro qualifier against England. Neath have issued a statement saying:
"We have been notified by the FAW that they will be unable to issue tickets purchased through Neath FC, along with other Welsh clubs, due to over subscription. We share the disappointment of fans in this situation and will resolve to get the money refunded from the FAW as soon as possible. All fans who had ordered and paid for tickets will get a full refund."
The extent of the problem is not known at this stage but it is very likely that there are more clubs out there in a similar position.
03/03/11
Rhagolwg: v Fflint / Preview: v Flint

Fflint Mae’n rhaid fod y canlyniadau cymysg ers canol Ionawr yn benbleth i’r tîm rheoli a’r cefnogwyr fel eu gilydd. Yn ystod y cyfnod cafwyd tair buddugoliaeth a cholli pedair. O graffu’n agosach gwelir fod 14 o goliau wedi’u sgorio yn ein herbyn yn y 4 gêm a gollwyd ( Cei Conna, Llandudno, Trallwng a Bwcle). Roedd nifer o’r goliau yn ganlyniad i camgymeriadau amddiffynnol.
Yn y tair buddugoliaeth (Rhydymwyn, Cei Conna a Rhuthun) ar y llaw arall, dim ond un gôl a ildiwyd ac heb ildio’r un gôl mewn dwy o’r gemau -a dim blerwch chwaith. Wrth edrych at y gêm ddydd Sadwrn bydd gan y rheolwr benderfyniadau anodd wrth ddewis yr amddiffyn.
Eisoes mae’r ddau glwb wedi cyfarfod ddwywaith eleni gyda'r un canlyniad, buddugoliaethau o 2-1 i Port yn y gynghrair a hefyd cwpan y gynghrair. Dau ganlyniad agos iawn sydd yn awgrymu gêm anodd eto ddydd Sadwrn. Ar Gae’r Castell mae Fflint wedi ennill 7 o’i 10 gêm gynghrair gan sgorio 27 o goliau. Ei prif sgoriwr ydy Shaun Beck sydd wedi sgorio 13 o goliau cynghrair a fo rhwydodd iddynt ar y Traeth. Sgoriodd Marcus Orlik ddwywaith ar ein ymweliad diwethaf â’r Fflint –yng nghwpan y gynghrair- tra ar y Traeth ar ôl mynd ar y blaen, diolch i Cai Jones, roedd angen gôl funud olaf gan Rhys Roberts i sicrhau’r tri phwynt. Bydd Cai Jones a Jamie McDaid ar ddyletswydd rhyngwladol Dan-18 yn Killarney.
Mae angen perfformiad da ddydd Sadwrn i chwythu rhai o’r cymylau a gasglodd ar ôl colli dwy gêm adref yn olynol.

The mixed bag of results since mid January must be as baffling for the management team as it has been for supporters. During the period there have been three wins and four losses. A closer examination shows that 14 goals were conceded in those 4 defeats (Connah’s Quay, Llandudno, Welshpool and Buckley). Many of those goals were frustratingly the result of defensive errors.
In the three wins however (Rhydymwyn, Connah’s Quay and Ruthin) only one goal was conceded which means that two clean sheets were kept and no defensive blunders. So ahead of Saturday’s visit to Flint, the make up of his defence will be far from a straightforward decision for manager Gareth Parry.
The two clubs have already met twice this season and both games, league and league cup, ended with identical 2-1 wins for Port. The closeness of those two results means that this will be yet another difficult game on Saturday. At Cae’r Castell Flint have won 7 of their 10 league games and scored 27 goals. Their leading scorer Shaun Beck has scored 13 league goals and it was Beck who netted for them at the Traeth. Marcus Orlik scored twice on our last visit to Flint -in the league cup- while at the Traeth, despite going ahead thanks to a Cai Jones goal, it needed a last minute strike from Rhys Roberts to secure the win. Cai Jones and Jamie McDaid will be missing on Saturday on U-18 international duty in Killarney.
A good performance is needed on Saturday to blow away some of the blues brought on by successive home league defeats.
02/03/11
Datganiad y clwb ynglyn a Tocynnau Rhyngwladol / Club statement International Tickets

Tocynnau Cymru / Wales tickets Heddiw mae’r FAW wedi ein hysbysu fod cais y clwb am docynnau rhyngwladol ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr wedi methu. Mae hyn oherwydd fod gymaint o alw wedi bod am docynnau a hyn er i gais y clwb gyrraedd yr FAW cyn y dyddiad cau.
Dosbarthwyd y tocynnau yn ôl y drefn y derbyniwyd y ceisiadau ac ymddangosir nad oedd cais Porthmadog yn ddigon agos i’r blaen i sicrhau tocynnau. Mae’r clwb yn ymddiheuro yn fawr ond mewn gwirionedd mae’r hyn sydd wedi digwydd tu allan i reolaeth y clwb. Bydd yr arian yn cael ei ddychwelyd yn llawn a bydd ar gael drwy gysylltu â Gerallt Owen ar 079200 25338

Today the FAW have informed us that the clubs application for tickets for the forthcoming Wales v England World Cup qualifier has been unsuccessful. This is due to the strong demand for tickets and despite the application being with the FAW before the closing date.
Applications have been dealt with by the FAW on a first come first serve basis and it appears Porthmadog FC's application was not near enough the front to secure tickets. The club sincerely apologises for this but in large part it was beyond it's control. Full refunds of moneys is available by contacting Gerallt Owen on 079200 25338
Newyddion cyn 02/03/11
News before 02/03/11

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us