![]() |
![]() |
![]() |
|
|||
14/02/11 Dyddiad Newydd i gêm Penrhyn-coch / New date for Penrhyn-coch match ![]() Chwaraeir pedair gêm arall yn yr HGA ar yr un noson, gan gynnwys y gêm rhwng Rhyl a Chei Conna, cyntaf ac ail yn y tabl, i’w chwarae ar y Belle Vue. Penderfynwyd hefyd y dyddiad ar gyfer y cyntaf o gemau rownd gynderfynol Cwpan Huws Gray rhwng Caersws a Cegidfa. Bydd y ddau glwb yn chwarae eu gilydd ar gae newydd y Derwyddon, sef Cae’r Graig ar nos Fercher, 9 Mawrth. Ar nos Fawrth 23 Chwefror bydd Port yn chwarae Rhuthun am le yn y rownd gynderfynol arall. A new date has been named for the postponed Penrhyn-coch fixture on 29 January, when Cae Baker was unplayable because of a hard frost. The game will now be an evening fixture on Tuesday, 15 March. Four other HGA fixtures have been fixed for the same evening including a table topper between Connah’s Quay and Rhyl on the Belle Vue. The date for the first of the League Cup semi finals between Caersws and Guilsfield has also been decided. The two clubs will meet on Wednesday, 9 March at the new Cefn Druids ground, The Rock Port will meet Ruthin next Tuesday, 23 February for a place in the other semi-final against Buckley Town. 13/02/11 Ystadegau pnawn Sadwrn / Some Saturday Stats Yn ystod yr egwyl hanner amser yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy tynnodd Phil Jones y cadeirydd hapus (gyda’r fantais yn 2-1!!) sylw at ystadegyn diddorol iawn am yr 11 a gychwynnodd y gêm yn erbyn Cei Conna. Roedd pob un ohonynt yn siaradwr Cymraeg rhugl. Hyn yn dweud wrthym fod y fro Gymraeg yng Ngwynedd a Môn yn dal yn gryf a fod Gareth Parry yn benderfynol o roi cyfle i’r gorau o’r hogiau lleol i chwarae ar y lefel yma. Peidiwch poeni, Ryan, Carl, Craig ayb does dim ‘English Not’ ar y Traeth! Ystadegyn arall o ddiddordeb ydy fod pedwar o’r 11 o Dan 21 oed. Jamie McDaid (16), Cai Jones (17), Gareth Jones Evans (18) and Jack Jones (20). Arwydd iach iawn ar gyfer y dyfodol. During half-time at Deeside Stadium the delighted Chairman Phil Jones, basking in a 2-1 lead over the league leaders, pointed out an interesting fact about Saturday’s starting line-up at Connah’s Quay. Each one of them is a fluent Welsh speaker. This tells us of the strength of the language in its Gwynedd and Anglesey heartlands and of the way in which Gareth Parry is setting about giving the best of local players their opportunity for a good standard of football. Don’t worry Ryan, Carl, Craig etc there’s not an ‘English Not’ at the Traeth! Another point of interest is that four of the starting line up were Under-21. Jamie McDaid (16), Cai Jones (17), Gareth Jones Evans (18) and Jack Jones (20). This is a very healthy sign for the future of the club. 11/02/11 Carl yn ôl ar y Traeth / Carl’s back at the Traeth ![]() “Mae Carl wedi’i arwyddo er mwyn cryfhau ein carfan o chwaraewyr,” meddai Gareth Parry heddiw. “Nid yw’n dod i gymryd lle neb, gan fod ein system o chwarae yn caniatáu inni ddefnyddio’r blaenwyr sydd gennym hefyd. Mae’n chwaraewr sy’n cynnig gymaint inni ac mae’n dda gennym ein bod wedi lwyddo i’w ddenu yn ôl i’r Traeth yn wyneb cystadleuaeth wrth glybiau oedd yn barod i gynnig gwell telerau ariannol iddo. Mae hyn yn arwydd o deyrngarwch Carl. Ond fydd Carl ddim ar gael yfory yn Cei Conna am fod ganddo anaf i’w droed ond disgwylir iddo fod yn holliach erbyn y gêm ar y Traeth yn erbyn y Trallwng. With the final details now completed Carl Owen has returned to the Traeth after three seasons away first at Rhyl then at Airbus. This can be taken as a clear sign of the determination of manager Gareth Parry to build a team able to challenge for a return to the WPL. “We are bringing Carl back to strengthen to our squad of players”, said Gareth Parry today. “He is not coming to replace anybody, as the front players we have can all be accommodated in the system we use. He is a player who can offer the club so much and we are pleased to have secured his signature in the face of stiff competition from clubs who were able to offer him better financial terms than we could. This is a sign of Carl’s commitment.” But Carl has picked up a foot injury, for which he is receiving treatment, and will not be available for tomorrow’s visit to Connah’s Quay. However he is expected to have recovered in time for the home game against Welshpool. 11/02/11 Carl Owen –yr ystadegau / Carl Owen-the stats ![]() Ymddangosodd 174(+39) o weithiau yn UGC gan sgorio 64 o goliau. Yng nghrys Port mae wedi chwarae 121(+14) o gemau UGC ac yn sgorio 47 gôl. Ei dymor gorau yn UGC oedd yn 2005/06 pan sgoriodd 16 gôl mewn 25 o gemau. Yn ogystal mae wedi chwarae yn UGC i Fangor a Rhyl ac yn mwyaf diweddar i Airbus lle sgoriodd 15 o goliau mewn 42(+1). Yn ystod ei gyfnod gyda Port enillodd gap i dîm lled broffesiynol Cymru a sgoriodd yn y fuddugoliaeth dros Lloegr yn haf 2004. Croeso adref Carl! Carl Owen’s return to the Traeth will be welcomed by all supporters as he has an outstanding record for the club. In his 8 seasons at the Traeth he scored 118 goals in all competitions with his best season being the Cymru Alliance winning season of 2002/03 when he scored 26 goals. He has made 174(+39) WPL career appearances scoring 64 goals. In a Port shirt he has 121(+14) WPL appearances to his name scoring 47 goals. His best WPL season came in 2005/06 when he scored 16 goals in 25 appearances. In addition he has made WPL appearances for Bangor and Rhyl and most recently Airbus, for whom he made 42(+1) WPL appearances scoring 15 goals. During his time at Port he also won Welsh semi-professional honours scoring in the win over England in the summer of 2004. Welcome home Carl! 11/02/11 Cwrs i Ferched i hyfforddi pêl-droed / Course for female football coaches Cynhelir Cwrs 15 awr yn darparu cyflwyniad sylfaenol i drefnu ymarferion pêl-droed mewn amgylchedd sy’n hwyl ac yn ddiogel efo pwyslais ar ddatblygu sgiliau. Bydd y cwrs yn arwain at Ddyfarniad Arweinwyr Pêl-droed yr FAW. Cwrs fydd hwn ar gyfer i ferched ddatblygu sgiliau fel hyfforddwyr pêl-droed. Ni fydd tâl am y cwrs a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Aberconwy ar yr 20 a 27 Chwefror rhwng 10.00am a 5.00pm. Am fwy o fanylion cysylltwch â seth.jones@conwy.gov.uksethseth.jones@conwy.gov.uk A 15 hour course providing a basic introduction to the organisation of football practices in a fun, safe environment with an emphasis on skill development leading to the award of the FAW Football Leaders Award. This will be a course for females interested in football coaching. There will be no fee for the course and it will be held at the Aberconwy Leisure Centre on the 20th and 27th of February from 10.00am to 5.00pm. For further details contact seth.jones@conwy.gov.uk 10/02/11 Oes yna awydd am weld bêl-droed haf? / Summer football anyone? ![]() Dyma rybudd pendant awdur yr erthygl “... i mi y prif ddadl yn erbyn pêl-droed haf ydy natur elitaidd y cynnig i Gymru. Dywedodd ysgrifennydd y gynghrair John Deakin, sydd yn gefnogwr tymor hir o bêl-droed haf , ‘... dyma’r peth gorau allai ddigwydd i’r gynghrair.’ A dyna chi mewn 12 gair ydy calon y broblem”. Mae’n ychwanegu rhybudd un arall, “Mae Uwch Gynghrair Cymru ond a chonsyrn am Uwch Gynghrair Cymru.” Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl yn llawn. There is pressure from some in authority for a switch to so-called summer football. In the Talking Point article in Saturday’s match programme a timely warning is given of the far reaching effects of such a proposal. All in Welsh football need to sit up and take notice or decisions will be pushed through which could radically change the face of Welsh football without a whimper being raised against it. Here is the stark warning by the author “… for me the main bugbear against summer football is the elitist nature of the proposal for Wales. Welsh Premier secretary John Deakin, a long-time supporter of a summer switch, recently said, ‘... it would be the best thing that could happen to the league.’ And there in 12 words is the crux of the problem.” He adds another warning, “The WPL is only concerned about the WPL” Click here to read the whole article. 10/02/11 Rhagolwg: v Cei Conna / Preview: v Connahs Quay ![]() Bydd ddim angen atgoffa Port o’r peryglon a ddaw o gyfeiriad Gary O’Toole ar ôl ei hat tric arbennig ar y Traeth ychydig wythnosau yn ôl. Y goliau yna oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau glwb ar y dydd a bydd sicrhau na chaiff le i dorri tu ôl i’r amddiffyn yn flaenoriaeth ddydd Sadwrn. Ond mae gan Gei Conna nifer o chwaraewyr peryglus eraill fel James Petrie a James McIntosh sy’n golygu fydd angen i amddiffyn Port fod ar eu gorau ddydd Sadwrn. Newyddion da i Port ydy fod y tri a waharddwyd Ryan Davies, Rhys Roberts a Marcus Orlik ar gael eto. Hefyd, ar y dystiolaeth o’i ymddangosiad byr ddydd Sadwrn, mae Craig Roberts yn adennill ei ffitrwydd ar ôl cyfnod hir allan. Mae Darren Gowans hefyd wedi gwella o anaf gan sgorio ddydd Sadwrn ar ôl dod i’r cae fel eilydd. Un arall sydd wedi bod yn canfod y rhwyd yn ddiweddar ydy’r chwaraewr ifanc Jamie McDaid. Sgoriodd Jamie y gôl gyntaf holl bwysig yn erbyn Rhydymwyn i gapio wythnos ardderchog iddo ar ôl iddo sgorio hat tric i Ieuenctid yr Arfordir. Bydd gêm ddydd Sadwrn yn dipyn o brawf ond hefyd yn gyfle i fesur datblygiad, a hynny yn erbyn y tîm gorau yn y gynghrair. Saturday’s 4-0 victory over Rhydymwyn will give Port a much needed lift as they prepare to travel to the Deeside Stadium to take on league leaders Connah’s Quay. A midweek win over Flint extends the Nomads lead at the top to 8 points. This also marks a run of 7 successive wins and once again it was the league’s leading scorer Gary O’Toole, with a brace, who secured the points. Port will need no reminding of the dangers posed by Gary O’Toole following his fine hat-trick at the Traeth just a few weeks ago. Those goals were the difference between the two teams on the day and denying O’Toole the space to break behind the Port defence will be a priority on Saturday. But the Nomads have other dangermen like James Petrie and James McIntosh which means that the Port defence will need to be at their best. Good news for Port is that the suspended trio Ryan Davies, Rhys Roberts and Marcus Orlik will be available again. On the evidence of last Saturday’s brief appearance Craig Roberts is getting back to form and fitness following his long injury lay off. Darren Gowans is also returning to fitness coming on as substitute and scoring late on against Rhydymwyn. Another who has been in the goals recently is 17 year old Jamie McDaid who scored the vital first goal last Saturday to cap an excellent week which saw him score a hat-trick for the Coast U-18s. All in all it will be a testing time on Saturday but will provide a valuable opportunity to measure the progress being made and that against the best team in the league. 07/02/11 Newidiadau i'r Maes Parcio / Changes to car park Mae’r lluniau’n dangos y gwaith sydd yn cael ei wneud ar Faes Parcio’r Traeth, y ffordd newydd sy’n arwain i’r cae a’r gwelliannau i’r maes ymarfer. Mae angen y newidiadau yma oherwydd y gwaith adeiladu’r ffordd osgoi. Mae’r clwb yn ymddiheuro am y diffyg lle i barcio tra fod y gwaith yn cael ei gwblhau. Pan fydd y gwaith wedi gorffen bydd llefydd parcio ychwanegol tu ôl i Eisteddle Pen y Dre a hefyd tu ôl i’r gôl agosaf at y cae ymarfer. Oherwydd anghenion y ffordd osgoi bydd peth o dir y clwb yn cael ei golli ond er gwaetha’r gwaith bydd mynediad i’r Traeth yn cael ei sicrhau bob amser. The photographs show the work being carried out on the Traeth Car Park, the new roadway leading into the ground and improvements to the training pitch. These changes are necessary because of the construction of the Porthmadog By-pass. The club apologises for the limited parking available while work is being carried out. When work is completed there will be additional parking space behind the Town End Stand and behind the nearer goal on the training pitch. The requirements of the by-pass mean that we lose some of our land but, despite the work, access to the Traeth will be maintained at all times. 06/02/11 Hat tric i Jamie / Hat-trick for Jamie ![]() Congratulations to Jamie McDaid whose brilliant hat trick on Wednesday at Llandudno secured the Coast U-18’s a 4-2 victory over their North East Wales counterparts. Jamie got off to a flying start netting after only two minutes. After a second Coast goal the North East team then cut the deficit but it was Jamie, with a run half the length of the field, who put the Coast further ahead on 58 minutes. Jamie’s hat trick goal came a minute from time to cap what Coast team manager Chris Morrell described as an outstanding man of the match performance. 05/02/11 Gohirio gemau'r Academi 6/2/11 / Postponement of Academy Matches 6/2/11 Mae holl gemau Academi Porthmadog wedi cael eu gohirio fory (6/2/11). All of tomorrow’s (6/2/11) Porthmadog Academy matches have been cancelled. 03/02/11 Rhagolwg/Preview: v Rhydymwyn / Noddwyr/Sponsors Pike’s Newsagents ![]() Eu hymweliad diwethaf â’r Traeth oedd y tymor diwethaf yn 3ydd Rownd Cwpan Cymru pan enillodd Port o 3-1 gyda Jack Jones, Marc Evans a Paul Roberts yn sgorio. Pan wnaeth y ddau gyfarfod ynghynt yn y tymor, yn Rhydymwyn, Port eto oedd yn fuddugol diolch i goliau, Iwan Williams, Jamie McDaid a Paul Roberts. Os ydynt i ail adrodd y llwyddiant yma bydd rhaid ei wneud heb y capten Ryan Davies, Marcus Orlik a Rhys Roberts gan fod y tri yn dal i aros i gael gwared o’u gwaharddiadau am un gêm. Mae Rhydymwyn wedi chwarae dwy gêm yn ystod mis Ionawr. Cawsant dri phwynt adref yn erbyn Rhaeadr gyda’i prif sgoriwr Tom McElmeel yn sgorio o’r smotyn i sicrhau’r fuddugoliaeth. Hefyd rhoddodd Rhyd gêm galed iawn i Cefn, y clwb sy’n drydydd yn y tabl, cyn colli o 1-0 diolch i gôl Matty Hurdman. Mae’r tymor hwn wedi bod yn un rhwystredig iawn i chwaraewyr a chefnogwyr ond gobeithio erbyn hyn fod y gwaethaf o’r tywydd tu ôl inni a medrwn codi ein lleisiau dros yr hogiau ddydd Sadwrn a gweld buddugoliaeth werthfawr. Rhydymwyn are the visitors to the Traeth on Saturday. Port will be looking to break a disappointing sequence of three straight defeats while the visitors will be searching for their first league win of the season on the road. Their last visit to the Traeth was in last season’s Welsh Cup 3rd Round when Port ran out winners by 3-1 with Jack Jones, Marc Evans and Paul Roberts scoring. In their previous meeting this season at Rhydymwyn, Port took the three points thanks to goals from Iwan Williams, Jamie McDaid and Paul Roberts. If they are to repeat these wins they will need to do it without the services of skipper Ryan Davies, Marcus Orlik and Rhys Roberts who are still waiting to get rid of their one match suspensions. Rhydymwyn have played two fixtures in January. They picked up three points in a home win over strugglers Rhayader with leading scorer Tom McElmeel scoring the winner from the spot. They then ran third placed Cefn Druids very close going down by only a single Matty Hurdman goal. The stop start season has been frustrating for players and supporters alike. Let’s hope that the worst of the bad weather is behind us and that we can cheer the lads to victory on Saturday. See you down at the Traeth. 02/02/11 Tote mis Ionawr / January Tote Bydd y wobr o £318 yn y Tote Misol ar gyfer mis Ionawr yn cael ei wthio ymlaen i’r Tote ar 25 Chwefror gan nad oedd un o’r cynigion yn cyfateb â’r rhifau a dynnwyd, sef 1 a 5. Os ydych chi eisiau hawlio’r wobr, rhaid i chi wneud erbyn 8.00pm ddydd Gwener 4 Chwefror. The £318 prize in the Monthly Tote for January will be rolled over to February 25th as, subject to verification, none of the entries matched the numbers drawn, 1 & 5. Any claims must be made by 8.00pm on Friday 4th February. 02/02/11 Newid dyddiad Rhuthun / Date change Ruthin Mae’r gêm yn erbyn Rhuthun wedi’i symud ymlaen 24 awr a bydd yn cael ei chwarae ar y Traeth ar 23 Chwefror am 7.30pm. Addaswyd yr eitemau newyddion blaenorol a’r rhestr gemau. The game against Ruthin Town has been moved forward 24 hours and will now be played on Wednesday, 23 February at 7.30pm. Previous news items and the fixture list have been updated. 01/02/11 Port yn ennill gêm gyfeillgar / Port win high scoring friendly ![]() Enillodd Port gêm llawn goliau a cafodd y ddau dîm ymarfer da ar ôl cyfnod heb gemau. Daeth tair gôl yn yr wyth munud cyntaf . Paul Roberts, gyda pheniad wrth y postyn cyntaf ar ôl dau funud, sgoriodd y gôl gyntaf a Gareth Owen hefyd yn penio cic gornel Richie Owen i ychwanegu’r yr ail ar ôl 7 munud. Munud yn ddiweddarach daeth Llanfairpwll yn ôl gyda chic rhydd yn mynd heibio pawb a tharo’r postyn cefn ac i’r gôl. Daeth y drydedd i Port ar ôl 24 munud, eto o gic gornel gan Richie Owen gyda Gareth Owen yn penio ei ail. 3-1 oedd hi ar yr hanner. Roedd yna ddwy gôl mewn dwy funud ar ôl pum munud o’r ail hanner. Sgoriodd Llanfairpwll ei hail a chododd Marcus Orlik y bêl yn wych dros y golwr i wneud y sgôr yn 4-2 i Port. Yn ystod y 7 munud olaf cafwyd 4 gôl arall. Llanfairpwll ar ôl 83 munud pan darwyd y bêl i’r rhwyd wedi iddi ddod yn ôl o’r trawst. Sgoriodd Craig Roberts i Port 2 funud yn ddiweddarach ond gyda 3 munud ar ôl sgoriodd yr ymwelwyr eto i’w gwneud yn 5-4. Yn y funud olaf sgoriodd Paul Roberts ei ail, a chweched Port wrth daro gic gornel Cai Jones i’r rhwyd gydag ochr ei droed. Porthmadog 6 Llanfairpwll 4 Port won this high scoring friendly which provided a good work out for both sides. Three goals came in the first 8 minutes all from set pieces. Paul Roberts near post header after 2 minutes opened the scoring with Gareth Owen adding a second again from a Richie Owen corner after 7 minutes. A minute late and a Llanfairpwll free kick beat everyone and went into the net off the back post. In the 24th minute Port added a third again from a Richie Owen corner with Gareth Owen scoring his second to make it 3-1 at half time. There were two goals in two minutes five minutes into the second period. Llanfairpwll scored their second and Marcus Orlik for Port lobbed the Llanfair keeper with a fine effort to make the score 4-2. In the last 7 minutes there were four more goals. Llanfairpwll scored in the 83 minute when the ball bounced back off the bar and the rebound was netted. Port replied two minutes later through Craig Roberts but Llanfair cut the deficit to 5-4 with three minutes left. Paul Roberts scored his second and Port’s sixth in the final minute when he side footed Cai Jones’ corner into the net. 01/02/11 Rownd Cynderfynol Cwpan Huws Gray / Huws Gray Cup semi-final ![]() The winners of the game between Porthmadog and Ruthin Town, to be played on Wednesday 23 February, will meet Buckley Town in the semi-final of the Huws Gray Cup. The other semi-final will be a mid-Wales affair between Caersws and Guilsfield. The dates and venues of these games are yet to be decided. 31/01/11 Dyddiad newydd Cwpan y Gynghrair / New date for League Cup-tie Mae’r gêm yng Nghwpan y Gynghrair rhwng Port a Rhuthun, a ohiriwyd ddwywaith, wedi’i hadrefnu i nos Fercher, 23 Chwefror ar y Traeth gyda’r gic gyntaf am 7.45 pm. Mae’r gemau eraill yn ystod mis Chwefror wedi’u cadarnhau a does yna ddim newidiadau pellach. The twice postponed League Cup-tie between Porthmadog and Ruthin Town has been rearranged for Wednesday, 23 February at the Traeth with a 7.45 pm kick off. The other matches to be played during February have now been confirmed and remain unchanged. 30/01/11 Port v Llanfairpwll nos Fawrth / Port v Llanfairpwll on Tuesday ![]() Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig iawn i’r staff hyfforddi ac i’r chwaraewyr gyda’r cyfnod o dywydd drwg a gohiriadau yn ymestyn dros dau fis. Gohiriwyd holl gemau’r HGA ddydd Sadwrn gan wneud i’r penderfyniad i beidio chwarae’r gêm yng Nghwpan y Gynghrair yn erbyn Rhuthun nos Fercher ddiwethaf, pan oedd y rhagolygon yn dda, edrych fel colli cyfle. With yet another game falling foul of the weather, manager Gareth Parry has arranged a training match against Welsh Alliance Division 1 club Llanfairpwll. The game will be played on Tuesday evening (1 February) at the Traeth with a 7.30 pm kick off. It has been a very frustrating time for coaching staff and players alike with the stop start –mainly stop - period now extending over two months. The bad weather ruled out all HGA games last weekend and the decision not to rearrange the League Cup tie against Ruthin for last Wednesday, when there was a forecast break in the bad weather, must be seen as a missed opportunity to reduce the fixture backlog. 30/01/11 Ffurfio Grwp Cefnogi’r Academi / Academy Support Group formed Mae grwp rieni (yn bennaf y cynrychioli’r plant dan 11) wedi’i ffurfio gyda anogaeth y Cyfarwyddwr, Mel Jones, a’r Gweinyddwr, Eddie Blackburn, ac wedi dod at eu gilydd i greu Grwp Cefnogi’r Academi. Mae’r grwp yn bwriadu trefnu digwyddiadau cymdeithasol i godi arian, chwilio am Noddwyr ac yn ceisio rhai o’r tasgau sy’n angenrheidiol os ydy’r Academi yn mynd i oroesi a datblygu. Os ydych yn rhiant ac yn awyddus i gefnogi neu derbyn fwy o wybodaetn cysylltwch â Sian Thomas, thomasgardening@tiscali.co.uk A group of parents (mostly representing the under 11s) have, with the guidance of Academy Director, Mel Jones and Academy Administrator Eddie Blackburn, got together to form a Support Group for the Academy. They will be looking to organise social and fundraising events, search for Sponsors and generally do the jobs which are vital to the survival and progress of the Academy. If you are an academy parent and would like to give your support or would like more information contact Sian Thomas, thomasgardening@tiscali.co.uk 30/01/11 Ieuenctid yr Arfordir Dan 18 nos Fercher / NorthWales Coast U 18 take on NEWFA Nos Fercher nesaf (2 Chwefror) bydd tîm Dan 18 Arfordir y Gogledd yn chwarae ieuenctid Cymdeithas y Gogledd Ddwyrain yn Maesdu, Llandudno gyda’r gic gyntaf am 7.30 pm. Bydd rhai o chwaraewyr ifanc mwyaf addawol yr ardal yn ymddangos. Next Wednesday (2nd Feb) the North Wales Coast F.A Under 18 team take on North East Wales Under 18, at Maesdu, Llandudno with a 7.30pm kick off. Some of the most promising young players in the area will be on view. 29/01/11 Gêm Penrhyn-coch v Port wedi'i gohirio / Penrhyn-coch v Port match postponed Ar ôl archwiliad o’r maes y bore yma, penderfynwyd gohirio’r gêm ar Gae Baker yn erbyn Penrhyn-coch oherwydd yr amodau rhewllyd. Dyma’r ail gêm yn olynol i gael ei gohirio oherwydd y tywydd, ac felly bydd yn rhaid i ni aros am o leiaf wythnos am unrhyw adfywiad i’n tymor. After a pitch inspection this morning, it was decided to postpone the match on Cae Baker against Penrhyn-coch because of the icy conditions. This is the second consecutive match to fall victim of the conditions, and puts any hope of a revival on ice for at least another week. 27/01/11 Tocynnau Cymru v Lloegr / Wales v England tickets ![]() Dau gategori o docynnau sydd ar gael: Categori 1 (Oedolion £25 Pensiynwyr a phlant £15) a Categori 2 (Oedolion £15, Pensiynwyr a phlant £5). Os ydych yn awyddus i brynu tocyn cysylltwch â Gerallt Owen gan rhoi enw a chyfeiriad pob un sy’n dymuno prynu tocyn. Rhaid ichi dalu wrth gwneud eich archeb a rhaid i’ch archeb gael ei wneud cyn 14 Chwefror (mae’r FAW wedi ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol.). Cysylltwch â Gerallt Owen drwy e-bost gerallt.owen@virgin.net neu ffôn ar 07920025338. For the Wales v England Euro qualifier on March 26th the FAW are allowing fans to order tickets through the clubs. As an incentive the FAW are giving clubs a 25% commission on all their sales. Therefore if anyone wishes to go they can buy tickets through Porthmadog FC, and will be supporting their country and supporting their local club. Two categories of tickets are available Category 1 (Adults £25, OAP’s & Juniors £15) and Category 2 (Adults £15, OAP’s & Juniors £5). If any supporter wishes to purchase tickets they need to contact Club Secretary Gerallt Owen and provide the name and address of all those wishing to buy tickets. Payment must be made with the order and all orders must be made before 14 February (FAW have extended the original closing date). You can contact Gerallt Owen by e-mail gerallt.owen@virgin.net or by phone on 07920025338. 27/01/11 Rhagolwg: v Penrhyn-coch / Preview: v Penrhyn-coch ![]() Profodd Penrhyn-coch eu hunain yn wrthwynebwyr anodd iawn drwy gydol y tymor ac mae eu record ddiweddar yn adlewyrchu hyn. Sicrhawyd gêm gyfartal dda yn Llandudno, diolch i gôl Chris Wilkins, a’r wythnos cynt dod yn ôl i sicrhau gêm gyfartal 3-3, yn erbyn Rhuthun, ar bod ar ei hol hi o 3-0. Cawsant ganlyniadau arbennig wrth sicrhau dwy fuddugoliaeth dros Rhyl eleni. Enwyd eu rheolwr Kevin Jenkins yn rheolwr y mis am fis Hydref. Unwaith eto fydd gan Gareth Parry broblemau wrth i Ryan Davies, Rhys Roberts a Marcus Orlik fethu’r gêm ar ôl derbyn gwaharddiad o un gêm. Ond fydd Danny Gowans, a oedd i fethu gêm Rhuthun, yn ôl yn y garfan. Bydd yr absenoldebau yn rhoi cyfle prin i Gareth Owen. Dywedodd y reolwr amdano, “Mae Gareth wedi bod yn anffodus i beidio chwarae mwy oherwydd y bartneriaeth arbennig rhwng Ryan a Rhys. Mae’n werth nodi fod Gareth wedi gweithio’n galetach na neb wrth ymarfer ac mae’n haeddu cyfle.” Bydd yna gyfle hefyd i aelodau eraill o’r garfan denau wedi dau fis heb fawr ddim pêl-droed. Côd post i ddefnyddwyr Sat Nav: SY233EL Currently Penrhyn-coch stand one place and one point ahead of Port in the HGA table. On their last visit to Cae Baker, Port snatched a late 1-0 Welsh Cup win. The October clash between the two clubs at the Traeth ended all square in a physical encounter short on entertainment value. Penrhyn-coch have proved difficult opponents throughout the season and their recent record bears this out with a good draw against Llandudno last weekend, thanks to a Chris Wilkins goal, and the previous week coming back from being three goals down at Ruthin to level things at the end. Their stand out results of the season have been two excellent home wins over Rhyl. Their manager Kevin Jenkins was manager of the month for October. Manager Gareth Parry once more faces selection problems with Ryan Davies, Rhys Roberts and Marcus Orlik missing out due to a one match suspension. Danny Gowans, who was cup-tied for the Ruthin gam,e comes back into the squad. It will also mean a rare opportunity for Gareth Owen of whom the manager said, “Gareth has been really unfortunate not to have played more games this season due to the excellent defensive partnership of Rhys and Ryan. It is worth noting that Gareth has worked harder than anyone in training and deserves to be given a chance.” The situation will also provide an opportunity for other members of the bare bones squad after two months with virtually no football. Post Code for Sat Nav users is: SY233EL. 23/01/11 Lluniau o'r eisteddle newydd / Photos of the new stand 26/01/11 Ymarfer yr Academi yn ail gychwyn / Academy Training restarts Mae Academi Porthmadog wedi ail gychwyn y sesiynau ymarfer ers y penwythnos diwethaf. Cychwynnodd y sesiynau ar gyfer y rhai Dan 11 ar nos Wener, 14 Ionawr ac maent yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Glaslyn gan ddechrau am 6.30 pm. Mae’r ymarfer i’r rhai Dan 12, Dan 14 a Dan 16 hefyd wedi ail gychwyn ac yn cael ei gynnal yn y Clwb Chwaraeon ar fore Sul am 10.30 am. Yn ystod gweddill y tymor 2010/11 bydd gwybodaeth am gemau’r Academi ac unrhyw wybodaeth arall pwysig yn cael ei roi ar wefan Porthmadog –adran yr Academi a weithiau hefyd yn y Newyddion cyffredinol. Dylai chwaraewyr yr Academi edrych allan am y wybodaeth yma. Bydd Academi Porthmadog yn edrych i recriwtio chwaraewyr newydd ym mhob grwp oed. Dylai chwaraewyr a diddordeb mewn ymuno gysylltu efo Mel Jones ar 07595151988. Porthmadog Academy training sessions have restarted since last weekend. Sessions for Under 11s started on Friday night, 14 January and are being held at Canolfan Glaslyn starting at 6.30 pm. Under 12s, Under 14s and Under 16s training have also restarted and are held at Clwb Chwaraeon Madog on Sunday mornings at 10.30 am. Academy players should look out for this information. Porthmadog Academy will be looking to recruit new players in all age groups. Players interested in joining up should contact Mel Jones on 07595151988. |
|||
|