Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Academi / Academy
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
25/09/10
Port i chwarae Bala nos Fawrth / Port to play Bala on Tuesday

Bala Gan nad oes gemau canol wythnos eleni, gyda’r Gynghrair Undebol lawr i 16 o glybiau, mae’r rheolwr Gareth Parry wedi symud i drefnu gêm gyfeillgar ar gyfer nos Fawrth nesaf. Bydd Port yn croesawu Bala i’r Traeth ar Fawrth, 28 Medi gyda’r gic gyntaf am 7.45 pm. Gyda Port heb ail dîm eleni mae Gareth Parry yn gweld y gêm yn gyfle pwysig i rhai o’i garfan gael amser ar y cae. Bydd hefyd yn gyfle i Rhys Roberts, a arwyddwyd yn diweddar, i gael ychydig o ymarfer cyn y gêm yn erbyn Conwy yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn.

With no midweek games this season as the Alliance has been reduced to 16 clubs Gareth Parry has moved to arrange some midweek action for next Tuesday. Port will entertain Bala Town in a friendly match on Tuesday (28 September) with a 7.45 pm kick off. Without a reserve team this season Gareth Parry sees a game like this as an important opportunity for some of his squad to get some game time. It will also give new signing Rhys Roberts some match practice ahead of Saturday’s Welsh Cup 2nd Round tie at Conwy.
24/09/10
Rhagolwg: v Llangefni / Preview: v Llangefni

Llangefni Gyda’r ddau glwb wedi tan gyflawni yn y gynghrair hyd yma fydd Gareth Parry a Lee Dixon yn gweld y gêm hon yn gyfle i roi cychwyn go iawn i’w tymor. Ar ôl methu ennill yr un gêm gynghrair mae Port wedi ennill dwy gêm gwpan, ac yn edrych i adeiladu ar hyn pan yn ymweld a Chae Bob Parry ddydd Sadwrn. Cafodd Llangefni fuddugoliaeth dda iawn yn Llandudno ond ar wahân i hynny, a buddugoliaeth yng Nghwpan Cymru, maent wedi siomi’r cefnogwyr, ac roedd colli adref ddwywaith yn erbyn Rhuthun yn dipyn o syndod. Ond gan fod y mwyafrif o garfan llwyddiannus llynedd yn dal efo Llangefni mae’n ddoeth cymryd na fyddant yn hir iawn cyn codi eu gêm. Mae Darren Thomas a Marc Evans yn sgorwyr cyson a bydd Ywain Gwynedd a Steve Kehoe, cyn chwaraewyr Port, yn awyddus i guro eu cyn glwb!
Bydd cefnogwyr Port yn gobeithio fod y fuddugoliaeth dda yn y Fflint yn arwydd fod pethau ar i fyny. Yn ystod y pythefnos ddiwethaf mae Marcus Orlik -cyn chwaraewr i Langefni- wedi sgorio pedair gôl. Ar wahân i’r methiant o flaen gôl cafwyd llawer o chwarae da y tymor hwn, a gyda Paul Roberts yn y garfan, mae yna rheswm arall i obeithio fod Gareth Parry yn datrys y problemau.
Cod post LL77 7RP, UK –jyst rhag ofn!!

Both clubs have underachieved in the league this season so both Gareth Parry and Lee Dixon will see this game as an opportunity to kick start their league season. Port, without a league win so far, have gained two straight wins in cup games and will hope to build on these successes when they visit Cae Bob Parry next Saturday. Llangefni have an excellent win at Llandudno under their belts but, that and a Welsh Cup victory apart, they have disappointed their supporters, with home cup and league defeats to Ruthin a major surprise. But Llangefni have available most of last season’s title winning squad so we would be wise to assume that they will soon snap out of their current disappointing form. Darren Thomas and Marc Evans are proven goal scorers and former Port players Ywain Gwynedd and Steve Kehoe will be eager to put one over their former club.
Port supporters hope that the good win at Flint is a sign that they are turning the corner. Marcus Orlik, a former Llangefni player, has netted four times in the last two games. The missing goals apart, there has been some good build up play and with the addition of Paul Roberts there is another reason that for hoping that Gareth Parry is sorting out the problems.
Just in case the post code is LL77 7RP, UK !!
22/09/10
Cais am Grant i gyflogi Rheolydd Busnes / Club seek funding for full-time Business Manager

Gwynedd Mae'r clwb yn paratoi cais i'w gyflwyno i Gronfa CIST Gwynedd am grant tuag at y costau o gyflogi person llawn amser i redeg ochr busnes y cwmni. Bellach mae trosiant y clwb oddeutu £170,000 y flwyddyn ac fe gaiff hyn oll ei gynhyrchu drwy ymdrechion gwirfoddolwyr, y mwyafrif ohono o dan oruchwyliaeth criw bychan o gyfarwyddwyr. Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd y Clwb datblygwyd sawl ffynhonnell incwm dros y blynyddoedd o'r sesiynau bingo wythnosol yn y Ganolfan i'r sêl cist car tymhorol, y clwb cymdeithasol, sydd yn bendant wedi ennill ei blwyf ers yr agoriad ym mis Medi 2007, i'r amrywiaeth o fentrau unigol eraill.
"Bellach mae'r holl waith a chyfrifoldebau yn rhoi pwysau ar ein gwirfoddolwyr" medd y Cadeirydd Phil Jones sydd hefyd yn un o'r gwirfoddolwyr. "Mae gennym dros 30 o wirfoddolwyr sydd yn gweithio'n gyson i'r clwb ar sawl lefel ond os ydym am wneud chwarae teg â’u ymroddiad a'u ymdrechion mae'n hanfodol sicrhau adnodd llawn amser a all gydlunio’r holl waith a chynnig cefn gadarn iddynt. Felly yr wythnos nesaf byddwn yn cyflwyno cais i Gronfa CIST Gwynedd am grant tuag at gyflogi person llawn amser dros gyfnod o 30 mis i ddatblygu ein ffynonellau incwm a sefydlu rhai newydd.
“Fel clwb 'rydym yn glynu i'r athroniaeth traddodiadol o roi cyfle i cyn gymaint a phosib o chwaraewyr lleol, rhedeg y clwb ar sail busnes cymunedol cadarn, chwarae rhan amlwg o fewn y gymdeithas a buddsoddi unrhyw elw mewn gwella cyfleusterau ar y Traeth a datblygu talentau lleol drwy yr Academi. Ers 2004 buddsoddwyd dros £300k mewn gwella cyfleusterau ar y Traeth a datblygu elfennau masnachol i greu incwm".

It was announced today (Wednesday 22nd. September) that the club intends to submit an application to the CIST Gwynedd fund to financially support the appointment of a full time Business Manager. The Club's turnover in its last financial year was £170,000, all of which is raised through the committed efforts of volunteers under the auspices of a handful of dedicated volunteer directors. A spokesman said that a number of successful income streams had been established over the years from the weekly bingo sessions at the Ganolfan to the seasonal car boot sale and the highly successful social club which opened in September 2007.and the comprehensive variety of other ventures like the weekly draw, monthly tote, raffles and so on.
"Despite the enthusiasm of the 30 or so volunteers who give so much of their time on a weekly basis throughout the year,” said Chairman, Phil Jones, himself one of these volunteers “ensuring the sustainability of these ventures is a huge task. It is essential that we secure a full time resource to take some of the pressure off them and offer practical and down to earth support. Therefore, we are submitting an application to CIST Gwynedd for part funding which will help us employ a full time business professional over a period of at least 30 months who can lighten their load but, more importantly, help to develop new funding streams.
“As a Club we are committed to our traditional philosophy of making sure talented local players are given the opportunity to perform at the highest level. The club is run on strong and secure business lines, we play our full part within the community and that surpluses, where they are available ,are reinvested in our infrastructure at the Traeth including our Academy set up and the development of young local talent. Since 2004 over £300k has been invested in upgrading and developing new and better facilities at the stadium and to establish new income generating schemes."
22/09/10
Rheolwr Busnes: Angen eich cymorth / Business Manager: Your help needed

Bydd Cronfa CIST Gwynedd yn edrych am brawf pendant bod cefnogaeth eang i'r cynllun Gwahoddir aelodau a chefnogwyr i gefnogi y symudiad hwn. Felly gwahoddir e-bost neu lythyr o gefnogaeth gan ymwelwyr â Gwefan Port, a hynny o bedwar ban byd. Dylid gwneud hyn erbyn dydd Mawrth nesaf, y 28 o Fedi fan hwyraf.
e-bost at dafyddwynjones@tiscali.co.uk neu Dafydd Wyn Jones, Llys Gwilym, Llan Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4NY. Dylid nodi y bydd y Clwb ei hun yn cyfrannu yn sylweddol tuag at y swydd hon.

The CIST Gwynedd Fund will look for confirmation that there is comprehensive support within the community for this initiative and members and supporters are respectfully asked to put pen to paper to support this move. This can be done by sending a brief e-mail or hard copy letter to - dafyddwynjones@tiscali.co.uk or Dafydd Wyn Jones, Llys Gwilym, Llan Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4NY.
This should be done by Tuesday 28th September at the latest. It should be noted that the Club itself intends to make a substantial financial contribution to this post.
20/09/10
Rhys yn dychwelyd i’r Traeth / Rhys back at the Traeth

Rhys Roberts Yn dilyn tymor i ffwrdd o’r Traeth mae Rhys Roberts i ddychwelyd i’r clwb lle bu yn aelod rheolaidd o’r amddiffyn rhwng 2005 a 2009, gan chwarae 123 (+1) o gemau UGC. Yn haf 2009 gadawodd Porthmadog i ymuno â Airbus, lle aeth ymlaen i chwarae 24 (+1) o gemau UGC i glwb y Maes Awyr. Yn ystod ei bedwar tymor ar y Traeth ffurfiodd bartneriaeth amddiffynnol llwyddiannus gyda’r capten Ryan Davies.
Gan i Rhys fod ar gytundeb gyda Airbus ni fydd yn gymwys i chwarae i Port tan ddiwedd mis Medi ond bydd ar gael ar gyfer y gêm yng Nghwpan Cymru yng Nghonwy ar 2 Hydref. Hefyd gan iddo chwarae yng Nghwpan y Gynghrair dros Airbus ni fydd hawl iddo chwarae dros Port yng Nghwpan Huws Gray.
Roedd y rheolwr chwaraewr Gareth Parry yn hapus iawn fod Rhys i ddychwelyd gan ei ddisgrifio’r trosglwyddiad yn, “Newydd da iawn i’r clwb.”

After a season away from the Traeth, Rhys Roberts returns to the club where he was a regular for four seasons between 2005 and 2009, making 123 (+1) WPL appearances. In summer 2009 he left Porthmadog to join Airbus and went on to make a further 24 (+1) WPL appearances for the Airfield club. During his four seasons at the Traeth he formed a highly successful defensive partnership with Port skipper Ryan Davies.
Because he was a contracted player at Airbus, Rhys will not be eligible to play for Port until the end of the month, however he will be eligible for the Welsh Cup-tie at Conwy on 2 October. Also, as he has already played for in the WP League Cup for Airbus, he will not be able to represent Port in the Huws Gray Cup.
Player manager Gareth Parry described himself delighted at Rhys’s return and as “Good news for the club.”
20/09/10
Steve Jones yn gadael Port / Steve Jones to leave Port

Steve Jones Mae’r chwaraewr ifanc canol cae, Steve Jones, wedi penderfynu gadael y clwb er mwyn sicrhau’r cyfle i chwarae’n rheolaidd. Bu Steve gyda’r ail dîm am nifer o flynyddoedd a chwaraeodd 1 (+11) o gemau UGC dros y ddau dymor diwethaf. Yn ystod y tymor hwn ddaeth i’r cae ar dri achlysur fel eilydd ond cafodd hi’n anodd i ennill lle rheolaidd oherwydd y chwarae cyson, yng nghanol cae Port, gan rhai fel Dan Pyrs, Darren Jones a Jack Jones.
“Rwy’n siomedig i weld Steve yn gadael y clwb,” meddai’r rheolwr Gareth Parry, “Mae’n hogyn efo agwedd ardderchog, ac wedi ymroi’n gyson ers ddechrau’r tymor. Mae wedi ymarfer yn galed ac roedd yn bleser i’w gael yn y sesiynau hyfforddi gan iddo a bob amser geisio cyflawni’r hyn a ofynnwyd iddo wneud. Mae’r ffaith nad oes gennym ail dîm wedi golygu nad oedd yna gemau ymarfer iddo fedru gwthio am le yn yr unarddeg oedd yn cychwyn. Ble bynnag aiff Steve bydd y clwb hwnnw yn cael chwaraewr canol cae gweithgar, cystadleuol ac rwy’n dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”

Steve Jones, Porthmadog FC midfielder, has decided to leave the club in search of more regular football. Steve has been with the reserves for a number of years and has made a 1 (+11) WPL appearances for the first team over the past two seasons. During this campaign he has made 3 substitute appearances but has found it difficult to break into the team on a regular basis due to consistent performances by the likes of Dan Pyrs, Darren Jones and Jack Jones in the Port midfield.
Port FC manager Gareth Parry said, “I am sad to see Steve leave the club. He is a great lad and I cannot fault his commitment since the beginning of the season. He always trained hard and was a pleasure to have in training as he would always endeavour to carry out what was asked of him. The fact that we haven't got a reserve side this year hasn't helped as Steve could have gained the match practice needed for him to push for a place in the starting 11. Wherever Steve decides to go, they will be acquiring a very competent, competitive midfielder, and I wish him all the best".
20/09/10
Rhaglen Academi yn cychwyn / Academy programme gets underway

Cafodd chwaraewyr ifanc Port a Llandudno fuddugoliaeth yr un wrth i rhaglen yr academi gychwyn bore ddoe (Sul). Porthmadog oedd yn fuddugol o 6-2 yn y gêm dan-14 ond Llandudno aeth a hi o 4-2 yn y gêm Dan-16.
Bydd manylion llawn yn ymddangos ar dudalen yr Academi pan fyddant ar gael.
Deallwn fod gweinyddwr yr Academi, Eddie Blackburn, yn yr ysbyty ac mae pawb yn y clwb yn dymuno’n dda iddo.

Honours were even when the season’s academy programme got underway yesterday (Sunday) with matches at U-14 and U-16 against Llandudno. The Porthmadog U-14s won their game by 6-2 while Llandudno were the winners by 4-2 at U-16 level.
Full details will appear on the Academy Page once they are available.
Academy administrator Eddie Blackburn is in hospital and everyone at the club wishes him well.
18/09/10
Rhif un eto i cpdporthmadog.com ! / Y Daily Post yn enwi gwefan CDP Porthmadog yn rhif un / Porthmadog FC's website named number one by the Daily PostNumber one again for porthmadogfc.com !

Mae gwefan cpdporthmadog.com yn falch iawn o gael ein henwi yn wefan orau clybiau pêl-droed y gogledd! Yn ei erthygl ar blog y Daily Post ddoe, roedd y gohebydd Dave Jones yn adolygu gwefannau clybiau pêl-droed ac unwaith eto mae gwefan Porthmadog wedi dod i'r brig! Dros y blynyddoedd mae safon cyffredinol gwefannau clybiau'r gogledd wedi gwella'n sylweddol, gyda gwefannau fel Citizen's Choice Bangor yn ffynhonnell wych o newyddion. Mae felly yn fraint i ni gael ein henwi yn rhif un. Yn ôl Dave Jones, "Tymor ar ôl tymor mae [gwefan Porthmadog] yn destun balchder i bêl-droed Cymru."
Meddai Emyr Gareth, sy'n gyfrifol am y wefan ar y cyd gyda Iwan Gareth a Gareth Williams, "Fel cefnogwr selog o Port ers bron i ugain mlynedd, mae'n braf cael cyfrannu i'r clwb. Wedi dweud hynny, mae diweddaru'r wefan yn cymryd oriau bob wythnos ac felly mae'n grêt cael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled."

Porthmadogfc.com is proud to be named the best football website in the north! In his article in yesterday's Daily Post blog, football correspondent Dave Jones reviews football websites and once again Porthmadog's website is named the best! Over the years the general standard of northern clubs' website have improved significantly, with websites like Bangor's Citizen's Choice being great sources of news. It is therefore a great honour to be named number one. According to Dave Jones, "Season after season [Porthmadog's website] does Welsh football proud."
Emyr Gareth, who runs the website along with Iwan Gareth and Gareth Williams, commented "As a regular Port supporter for nearly twenty years, it is great to be able to contribute to the club. Having said that, updating the page takes hours each week so it's great to be recognised for all the hard work."
17/09/10
Y Chwaraewyr i helpu yn y Ganolfan / Players to help at the Ganolfan

Y Ganolfan Bydd yr enw sydd gan glwb Porthmadog fel clwb cymunedol yn derbyn ychwanegiad wrth i’r chwaraewyr chwarae rhan yng ngweithgareddau’r clwb gan gynnwys rhai codi arian. Heno (nos Wener) bydd grwp o chwaraewyr yn y Ganolfan lle cynhelir y Noson Bingo bwysig. Mae’r noson gymdeithasol hon yn derbyn cefnogaeth y cyhoedd ac dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn fodd i gofi arian i’r clwb.
Meddai’r rheolwr Gareth Parry, “Rwy’n ei gweld hi’n bwysig iawn i’r chwaraewyr weld dros eu hunain y gwaith caled sydd yn mynd ymlaen tu ôl i’r drysau er mwyn cynnal clwb ar y lefel yma.” Bydd y chwaraewyr yna heno i gynorthwyo gyda’r gwaith ac yng ngeiriau’r rheolwr, “I ddangos ei gwerthfawrogiad o’r holl waith mae’r gwirfoddolwyr yn eu wneud.”
Mae’n fwriad i gael gwahanol grwpiau o chwaraewyr i fod yn bresennol ac i gynorthwyo yn fisol o rwan tan y Nadolig.

The reputation Porthmadog FC enjoys as a community club is to be further enhanced through a greater involvement of players in the activities of the club, including the all important fund raising. Tonight (Friday) will see a group of players at the Ganolfan, the venue of the club’s all important Bingo Evening. This social evening, always well supported by the public, has for many years been an important fund raiser for the football club.
Manager Gareth Parry says, “I think it is very important for the players to see the hard work that goes on behind the scenes to ensure that that the club can operate at this level.”
The players will be there tonight to assist in the work and in the manager’s words, “Show their appreciation of the work of the club’s volunteers.” This is not to be a one off event but will involve groups of players attending, and lending support, on a monthly basis between now and Christmas.
17/09/10
Fflint yng Nghwpan Huws Gray / Flint in the Huws Gray Cup

Fflint / Flint Er nad yn flaenoriaeth, o’i gymharu â’r gynghrair, mae’r angen am fuddugoliaethau yn dilyn cychwyn siomedig i’r tymor yn rhoi pwysigrwydd mwy i’r gêm yng Nghwpan y Gynghrair ddydd Sadwrn. Gan fod y gêm yn erbyn Fflint yfory yn cael ei dilyn gan gêm yn erbyn Llangefni, y Sadwrn canlynol golyga hyn fod tîm Gareth Parry yn wynebu’r cyntaf a’r ail yn nhabl 2009/10 y Cymru Alliance, a hynny o fewn wythnos i’w gilydd.
Mae Fflint wedi cychwyn y tymor gyda dwy fuddugoliaeth adref a cholli’r ddwy oddi cartref. Yn ei gêm gynghrair ddiwethaf cawsant fuddugoliaeth glir o 4-1 dros Bwcle. Eisoes mae prif sgoriwr llynedd Shaun Beck wedi bod yn canfod y rhwyd. Sgoriodd 4 mewn buddugoliaeth o 5-1 yng Nghwpan Cymru dros Llandyrnog a hefyd pedair hyd yma yn y gynghrair.
Bydd y fuddugoliaeth o 5-1 yn y gwpan dros wrthwynebwyr o gynghrair is hefyd yn rhoi hwb i Port a hefyd presenoldeb profiadol Paul Roberts yn y llinell flaen. Byddant am geisio ymestyn y math o chwarae a gafwyd yn yr 20 munud olaf yn Carno i’r 90 munud cyfan. Y tro diwethaf i Port chwarae gêm gystadleuol ar Gae Castell oedd yn erbyn Cei Conna yn Uwch Gynghrair Cymru. Y Cod Post i rhai sy’n teithio i Fflint gan defnyddio Sat Nav ydy CH6 5PJ.

The League Cup maybe something of a side issue compared with the League but, the fact that Port need to string some victories together after a disappointing start, gives tomorrow’s game extra importance. As Port’s game against Flint, last season’s runners-up, is followed by the current champions Llangefni next week, it means further stern tests for Gareth Parry’s team.
Flint have started their league programme with two home victories and two defeats on the road. Their last league outing was a clear cut 4-1 victory over Buckley Town. Last season’s leading goal scorer Shaun Beck has been on target already netting 4 times in Saturday’s 5-1 Welsh Cup win at Llandyrnog and 4 times in the league.
Port will also take heart from a 5-1 Welsh Cup win against lower league opposition and from the addition of the experienced Paul Roberts to the front line. They will aim to extend the type of football played in the final 20 minutes at Carno to the whole of the 90.
The last time Port played a competitive match at Cae Castell was in the WPL against Connah’s Quay Nomads. For travelling supporters using Sat Nav the Cae Castell postcode is CH6 5PJ.
14/09/10
Taith i Gonwy yng Nghwpan Cymru / A trip to Conwy in the Welsh Cup

Cwpan Cymru - Conwy Utd v Porthmadog - Welsh CupTynnwyd yr enwau o’r het ar gyfer ail rownd Cwpan Cymru yn y Drenewydd heno yn ystod hanner amser y gêm ryngwladol lled-broffesiynol rhwng Cymru a Lloegr. Oddi-cartref fydd Port unwaith eto, y tro yma yn erbyn Conwy sy’n chwarae yn adran gyntaf cynghrair y Welsh Alliance. Bydd Port yn ymweld â’r Morfa ar ddydd Sadwrn 2 Hydref.

The draw was made for the second round of the Welsh Cup in Newtown tonight during half time of the Semi-Professional international between Wales and England. Port will be away from home once again, this time against Conwy who play in the Welsh Alliance first division. Port will visit the Morfa on Saturday 2 October.
14/09/10
Gareth yn gweithio tuag at trwydded-A UEFA / Gareth works towards the UEFA A-licence

Ar hyn o bryd mae'r rheolwr, Gareth Parry, yn mynychu'r cyrsiau angenrheidiol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer trwydded-A UEFA. Y drwydded-A yw cymhwyster uchaf ond un ar gyfer hyfforddwyr - y cam nesaf fyddai'r drwydded 'Pro'. Un o ofynion trwyddedu Uwch-gynghrair Cymru yw fod gan rheolwr bob clwb drwydded-A.
Hefyd yn mynychu'r cyrsiau gyda Gareth mae rhai o enwau mawr y byd pêl-droed - gan gynnwys capten Cymru, Craig Bellamy; cyn-chwaraewr rhyngwladol yr Almaen, Dietmar Hamann; a ennillydd cwpan-y-byd 1998, Marcel Desailly. Fel y dywed Gareth, "Gobeithio bydda i'n gallu defnyddio rhywfaint o be dwi'n ddysgu i wella perfformaidau'r tim!"

Highslide JS
Ymgeiswyr am drwydded-A UEFA / The UEFA A-licence candidates
   Highslide JS
Gareth Parry a Ioan Llewelyn gyda Marcel Desailly / Gareth Parry and Ioan Llewelyn with Marcel Desailly


The Porthmadog manager, Gareth Parry, is currently attending the required courses to gain his UEFA A-licence. The A-licence is the second highest qualification available to football coaches - the next step would be the 'Pro' licence. One of the requirements of the Welsh Premier's new club licence is that all coaches must hold an A-licence.
Also attending the courses with Gareth are some of world football's biggest names - including Wales captain, Craig Bellamy; former German international Dietmar Hamann; and 1998 world cup winner Marcel Desailly. As Gareth says, "Hopefully I can use some of what I'm learning in order to improve the team's performances!"
10/09/10
Paul yn ôl ar y Traeth / Paul back at the Traeth

Paul Roberts Mae Paul Roberts i ddychwelyd i’r Traeth am ei bumed cyfnod gyda’r clwb lle gychwynnodd ei yrfa, ac mae i’w gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yng Nghwpan Cymru yn erbyn Carno yfory. Cafodd Paul ei rhyddhau gan y Drenewydd ar ddiwedd mis Awst a bydd rwan yn dychwelyd i’r clwb a adawodd ym mis Ionawr 2010. Cafodd ei recriwtio gan Darren Ryan fel rhan o’r ymgais i gadw statws UGC y clwb o’r canolbarth. Yn ystod ei gyfnod byr yn y Drenewydd sgoriodd 8 gôl mewn 19 gêm.
Y ffaith ei fod wedi profi ei allu i sgorio gyda chyfanswm o 147 o goliau yn ystod ei yrfa yn UGC, mewn 288 (+59) o gemau, sydd wedi perswadio’r rheolwr, Gareth Parry, i ddenu Paul yn ôl i’r Traeth. Bydd chwaraewr â’r y math yma o record efallai y medru rhoi’r goliau sydd wedi bod yr un peth ar goll o’r perfformiadau yn wythnosau cyntaf y tymor.

Paul Roberts returns to the Traeth for a fifth spell at the club where he started his career, and will be included in the squad for tomorrow’s Welsh Cup-tie at Carno. He was released by Newtown at the end of August and now returns to Port the club he left in January 2010. He was recruited by Darren Ryan as part of the mid-Wales club’s battle to retain WPL status. During his brief spell at Newtown he scored 8 goals in 19 appearances.
The fact that he is a proven goalscorer with a career WPL record of 147 goals in 288 (+59) appearances has persuaded manager Gareth Parry that Paul will be the player to end the goal famine, an ingredient that has been the missing from the team’s play in the early weeks of the season.
09/09/10
I Carno yng Nghwpan Cymru / Welsh Cup visit to Carno

Mae Carno’n chwarae ar Gae Ty Brith. Dilynwch yr A 470 drwy Llanbrynmair ac wrth gyrraedd pentref Carno o’r gorllewin mae’r cae tua hanner ffordd drwy’r pentref ar yr ochr dde. Mae o wrth ymyl y ffordd ac yn agos i’r ganolfan gymdeithasol. Y cod post i ddefnyddwyr Sat Nav ydy SY17 5LH.
Yn Nghynghrair Spar y Canolbarth, sydd ar yr un lefel â’r Welsh Alliance, mae Carno’n chwarae. Yn y seithfed safle mae’r clwb ar hyn o bryd, yn ennill dwy a cholli dwy o’u gemau gan ennill adref 4-2 ddydd Sadwrn diwethaf. Daeth 301 o gefnogwyr i gêm ddiweddar rhwng Carno a Llanidloes sydd yn arwydd o ddiddordeb mewn pêl-droed sy’n bodoli yn y canolbarth.
Ar un adeg Carno oedd canolfan cwmni byd enwog Laura Ashley ac, yn ogystal a bod yn ganolbwynt cynhyrchu’r deunyddiau, dyma hefyd y lle y rhoddwyd Laura Ashley i orffwys.
Pan fydd Carno yn edrych ar dabl Cynghrair Huws Gray byddant yn siwr o weld y gêm hon yn groen banana posib. Felly bydd cymryd y gêm yn unrhywbeth yn llai nag o ddifri yn gam peryg iawn.
Bydd Craig Roberts yn methu’r gêm ond fydd Geraint Mitchell ar gael eto yn dilyn gwaharddiad. Bydd rhaid aros i weld os ydy Gareth Parry wedi gwella digon i gael rhan yn y gêm.

Carno play at Ty Brith Field. Following the A 470 through Llanbrynmair and when approaching the village from the western end, the ground is roughly half way through the village on the right hand side. It is adjacent to the A 470 near the community centre. For Sat Nav users the Post Code is SY17 5LH.
Carno play in the Spar Mid Wales League, a league, which is on par with the Welsh Alliance. They are currently placed 7th having won two and lost two of this season’s games -winning 4-2 at home last Saturday. A guide to the potential interest in football in mid-Wales is shown by the reported gate of 301 at this season’s game between Carno and Llanidloes.
The village was once the centre of the world famous Laura Ashley Company and, as well as being the place where these fabrics were manufactured, it is also the last resting place of Laura Ashley herself.
Carno may well view the current HGA table and consider this game a potential banana skin, so any underestimation of the task ahead, as always, carries a mighty risk.
Craig Roberts will miss the game but Geraint Mitchell will be in contention after suspension. We will have to wait and see whether Gareth Parry has recovered sufficiently to play a part.
08/09/10
Un tro da yn mynd yn bell / One good turn deserving of another

Aeth un tro da yn bell iawn i CPD Porthmadog wrth i Balfour Beatty a’r Brodyr Jones (Peirianneg Sifil), y bartneriaeth sy’n adeiladu ffordd osgoi Porthmadog gan sicrhau bod clwb y dref yn edrych ar ei gorau drwy noddi’r cit newydd.
Fel yr eglura Hefin Lloyd Davies, dirprwy reolwr y project, “Pan roedden ni heb le i sefydlu safle dros dro, ar gychwyn y gwaith ar y ffordd osgoi, bu’r clwb yn dda iawn inni. Cawsom ddefnyddio’r maes parcio a’r cyfleusterau - a dyma ein dull ni o dalu yn ôl.”
Diolchodd Phil Jones, cadeirydd y clwb, i’r bartneriaeth am eu haelioni.
Meddai, “Bydd y ffordd osgoi, ar ôl ei orffen, o fudd i’r ardal ac mae’r hogiau ar y safle yn gwneud gwaith da iawn. Rydym yn falch iawn fod y bartneriaeth wedi penderfynu ein cefnogi.”

Highslide JS
Y Cadeirydd, Phil Jones, a’r ysgrifennydd Gerallt Owen gyda cynrychiolwyr y bartneriaeth. / Chairman, Phil Jones and secretary, Gerallt Owen together with partnership representatives.


It was a case of one good turn deserving another with Balfour Beatty and Jones Bros (Civil Engineering), the partnership building the Porthmadog bypass, ensuring the town’s football team will be cutting a dash this season with a kit sponsorship deal.
Hefin Lloyd-Davies, partnership deputy project manager, explains: “When we first came to Porthmadog to start work on the bypass we had nowhere to put our temporary site establishment and the football club was very good to us. We approached them and asked if we could use their car park and facilities and they were great about it. This is our way of repaying everyone involved.”
Phil Jones, chairman of CPD Porthmadog, thanked the partnership for its generosity.
He said: “The bypass will benefit Porthmadog once it is built and the lads on-site are doing a great job. We are pleased the partnership has chosen to support us.”
07/09/10
Enillwyr y Tote a’r Draw Wythnosol / Tote and Weekly Draw winners

Tote Misol
Y rhifau lwcus yn tote misol clwb cymdeithasol CPD Porthmadog am fis Awst ydy 2 a 27. Mae yna dri enillydd i’w cadarnhau a bydd y tri yn derbyn £233 yr un. Adrian Rimmer, Megan Owen a Ceinwen Davies. Os oes rhywun arall yn hawlio’r wobr, dylech wneud cais cyn 8.00pm nos Wener 10 Medi.
Draw Wythnosol
Enillwyr y wobr o £100 yn y draw wythnosol CPD Porthmadog ydy Wythnos 35, Rhif 31 Phil Jones, Wythnos 36, Rhif 41 Gwyn Davies.

Monthly Tote
The winning numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly tote for August are 2 & 27. Subject to confirmation there are 3 winners who each receive £233, Adrian Rimmer, Megan Owen & Ceinwen Davies. Any further claims must be made by 8.00pm on Friday 10th September.
Weekly Draw
The latest £100 winners in the Porthmadog Football Club weekly draw are Week 35 No 31 Phil Jones, Week 36 No 41 Gwyn Davies.
06/09/10
Anaf Craig i’w gadw allan am dipyn / Craig out for several weeks

Bydd Craig Roberts, a adawodd y cae yn erbyn y Rhyl ddydd Sadwrn wedi iddo dderbyn anaf a, allan am chwech i wyth wythnos. Edrychai’r anaf yn un digon drwg ar y pryd ond dywedodd y rheolwr, Gareth Parry, “Bu’n rhaid i Craig fynd i’r ysbyty dros y Sul ac mae’r archwiliad meddygol yn dangos ei fod wedi anafu’r gewynnau yn ei ben glin. Gall hyn feddwl ei fod allan am dipyn.”
Cyn chwaraewr i Fangor, ymunodd Craig â Port o Fethesda yn yr haf. Dim ond ym Mwcle wythnos diwethaf dychwelodd Craig i bêl-droed yn dilyn gwaharddiad a gariwyd drosodd o’r tymor diwethaf.
“Mae’n siomedig iawn i Craig,” ychwanegodd Gareth Parry, “gan iddo ddangos addewid mawr yn ei ddwy gêm gyntaf i’r clwb.”

Craig Roberts, who left the field on Saturday against Rhyl, will be out for six to eight weeks. The injury appeared quite serious at the time but manager Gareth Parry reports, “Craig has attended hospital over the weekend and the medical examination reveals that he has damaged his knee ligaments. This means that he will not play again for several weeks.”
A former Bangor City player, Craig joined Porthmadog in the summer from Bethesda. Craig only resumed playing last week at Buckley after serving a two match suspension carried over from last season.
“It is very disappointing for Craig,” added Gareth Parry, “as he has shown great promise in his first two games for the club.”
06/09/10
Dau yn gadael y garfan / Two leave the squad

Meilir Elis Mae dau o chwaraewyr ifanc y garfan wedi gadael Porthmadog. Ymunodd Meilir Elis, cyn golwr ifanc yr academi, a chlwb Bermo a Dyffryn o’r Welsh Alliance gan arwyddo ar 19 Awst. Dangosodd Meilyr dipyn o gymeriad pan fu’n rhaid iddo ddod i’r cae ar y Gnoll yng Nghastell Nedd a chwarae mewn safle allan o’r gôl. Y llall sydd wedi gadael ydy Mark Bridge, asgellwr cyflym a ymunodd â Dolgellau, sydd yn chwarae yn Nghynghrair Spar y Canolbarth. Arwyddodd i’w glwb newydd ar 31 Awst. Mae’r clwb yn diolch i’r ddau ac yn dymuno’n dda iddynt.
Mae colli aelodau ifanc o’r garfan yn anorfod wrth i ganlyniadau colli’r ail dîm ddechrau brathu.

Two young squad players have left Porthmadog. The former academy goalkeeper Meilir Elis has joined Welsh Alliance club Barmouth and Dyffryn, signing on 19 August. Meilyr earned considerable praise last season when he had to come on as an outfield player at the Gnoll, Neath giving a really committed performance. The other to leave is Mark Bridge, a speedy winger, who has joined his home town club Dolgellau who play in the Spar Mid-Wales League. He signed for his new club on 31 August. Both players are leave with the club’s thanks and best wishes for the future.
The loss of young squad players comes as the inevitable fall out resulting from the loss of a reserve team.
05/09/10
Cyflwyno’r cit oddi cartref / Presentation of the new away strip

Highslide JS
Noddwyr CPD Porthmadog - Rheilffordd Ffestiniog Railway - Porthmadog FC sponsors
Cyn cychwyn y gêm yn erbyn y Rhyl ddydd Sadwrn derbyniodd cadeirydd y clwb, Phil Jones, wisg las newydd, oddi cartref, y clwb. Cyflwynwyd y cit newydd gan Chris Parry, cynrychiolydd Rheilffordd Ffestiniog, sef cyd noddwyr y clwb ar gyfer tymor 2010/11.
“Rwy’n arbennig o hapus, meddai Phil Jones, “fod cwmni mor uchel ei barch a sydd â chysylltiadau lleol cryf, a’i enw hefyd bob amser yn cael ei gysylltu’n agos ac enw tref Porthmadog, wedi cytuno i fod yn gyd noddwyr y clwb. Fy ngobaith yw y bydd Rheilffordd Ffestiniog a’r clwb pêl-droed yn elwa o’r cysylltiad hwn.”
Am y tro cyntaf ar y Traeth ddydd Sadwrn gwelwyd y cit yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gêm yn erbyn y Rhyl un o geffylau blaen y gynghrair. Nid oedd yn bosib sicrhau buddugoliaeth i ddathlu’r achlysur, ond ar y dydd bu’n rhaid bodloni gyda pherfformiad cyffredinol derbyniol iawn.

Prior to Saturday’s game against, Rhyl Porthmadog Chairman Phil Jones officially received the club’s new sky blue away strip. The kit presentation was made by Chris Parry, the representative of the 2010/11 joint sponsors, the Ffestiniog Railway.
Phil Jones said, “I am delighted that such a reputable company, with such a strong local identity, whose name is synonymous with that of the town of Porthmadog, has agreed to become co-sponsors of the club. I hope that both the Ffestiniog Railway and the football club will derive mutual benefits from this association.” The new kit was unveiled for the first time at the Traeth for Saturday’s clash with league front runners Rhyl. It was not possible to ensure a win to celebrate the unveiling but on the day we had to be satisfied with a good general performance.
05/09/10
Cofio Hadyn Jones / Tribute to Haydn Jones

Haydn Jones Cynhaliwyd munud o dawelwch cyn cychwyn y gêm ddydd Sadwrn yn arwydd o barch i Hadyn Jones, un o chwaraewyr mwyaf dawnus y gogledd yn ystod yr 1960au. Roedd yn addas mai ar achlysur gêm rhwng Rhyl a Phorthmadog y talwyd y deyrnged hon gan fod Hadyn Jones wedi chwarae i’r ddau glwb. Chwaraewyd gêm dysteb i Haydn ar yr Oval yn 2007 ar ôl darganfod fod ganddo gancr a chlefyd motor niwron. Roedd chwaraewyr Porthmadog a Rhyl yn ogystal a Chaernarfon a Bangor yn cymryd rhan yn y gêm honno. Bu farw nos Fawrth ddiwethaf yn Ysbyty Gwynedd wedi salwch creulon.
Cafodd Haydn, pan yn ifanc, dreialon gydag Arsenal, ac ymysg ei glybiau mae Wrecsam, Caernarfon, Bangor, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Rhyl a Bethesda. Daliodd i chwarae tan yn 40 oed.
Cynhelir y cynhebrwng canol dydd, ddydd Llun yn Amlosgfa Bangor. Estynnir cydymdeimlad a theulu Haydn.

A minutes silence was held before Saturday’s kick off as a mark of respect to Hadyn Jones one of North Wales’s most accomplished footballers of the 1960’s era. It was fitting that this tribute was paid prior to the game between Porthmadog and Rhyl, as Haydn Jones played for both clubs. Both Rhyl and Porthmadog together with Caernarfon and Bangor were involved in a special testimonial match for Haydn at the Oval in 2007 after he had been diagnosed with cancer and motor neurone disease. He died at Ysbyty Gwynedd on Tuesday night after a long illness.
Haydn who had trials with Arsenal in his youth represented Wrexham, Caernarfon, Bangor, Porthmadog, Pwllheli, Blaenau Ffestiniog, Rhyl and Bethesda and continued playing until aged 40.
His funeral will be held on Monday at 12 noon in Bangor Crematorium. The Porthmadog club extends its sympathy to Haydn’s family.
Newyddion cyn 05/09/10
News pre 05/09/10

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us