![]() |
![]() |
![]() |
|
|||
12/08/10 Y tymor newydd yn cychwyn ddydd Sadwrn / The new season starts on Saturday ![]() Bydd gan y ddau glwb rheolwyr newydd gyda Gareth Parry a Huw Griffiths ill dau yn dod a nifer o chwaraewyr newydd i fewn. Mae newid llwyr wedi bod yn hanes y Derwyddon gyda nifer fawr o wynebau newydd efo profiad yn UGC. Rhain yn cynnwys Warren Duckett, y chwaraewr canol cae o’r Bala, a Chris Melia, blaenwr o Gaersws. Bydd Aden Shannon yn dychwelyd i’r Traeth yng nghrys y clwb lle greodd argraff fawr wrth gychwyn ei yrfa yn UGC. Mae Huw Griffiths wedi arwyddo nifer o’i gyn clwb yn y Trallwng gan gynnwys y golwr David Maguire a’r blaenwr Marc Griffiths. Y newid mwyaf i’r Derwyddon ydy’r symudiad cyffrous i’r Graig, y cae newydd sbon. Mae’r cyfan yn gwneud y gynghrair newydd yn ddiddorol ac yn anodd i ddarogan beth wnaiff ddigwydd. Mae Port yn wynebu cychwyn anodd iawn i’r tymor. Ar ôl y Derwyddon mae gemau yn erbyn Llandudno a Bwcle, dau o geffylau blaen llynedd, ac ymweliad Rhyl yn dilyn ar ddechrau Medi. Yn ei brofiad cyntaf o eistedd yn sedd y rheolwr bydd Gareth Parry heb ei gapten Ryan Davies a’r blaenwr newydd Craig Roberts, y ddau a gwaharddiadau ers y tymor diwethaf. Hefyd ni fydd Dan Pyrs, un o lwyddiannau y tymor diwethaf, ar gael. Mae’r tîm reoli newydd o Gareth Parry a Campbell Harrison wedi bod yn brysur iawn ers eu hapwyntiad ac mae yna arwyddion o newidiadau mawr yn steil y chwarae. Gwelwn ni chi ddydd Sadwrn ar y Traeth, ar ddechrau tymor a allai fod yn un cyffrous a diddorol. The season of change kicks off on Saturday with the visit of Cefn Druids. The new mix of six former WPL clubs, the top seven from the Cymru Alliance and the three promoted clubs give us an interesting Huws Gray Alliance cocktail. Both clubs are also much changed since last season with new managers Gareth Parry and Huw Griffiths bringing in new recruits. It is virtually all change at Cefn with a large number of new faces with WPL experience including former Bala midfielder Warren Duckett and former Caersws forward Chris Melia. Aden Shannon will be making a quick return to the Traeth now in the shirt of the club with whom he made his first WPL impact. Huw Griffiths has also raided his former club Welshpool and his signings include keeper Dave Maguire and forward Marc Griffiths. The most important change of all at Cefn will be the exciting move to their new ground, The Rock. All this makes the matches interesting and difficult to predict. Port face a difficult start to the season with further challenging games following the Druids visit with two of last season’s CA front runners, Llandudno and Buckley, being followed by a visit from favourites Rhyl. Gareth Parry in his first taste of management will also be without captain, Ryan Davies, and newcomer Craig Roberts who have suspension hangovers from last season. He will also be without Dan Pyrs,, one of last season’s successes, who is unavailable. The management team, of Gareth Parry and Campbell Harrison, have worked extremely hard since their appointment and all the signs are that there will be a considerable change in style of play. See you at the Traeth on Saturday for the beginning of what could be an interesting and exciting season. 11/08/10 Croeso i Cara-Lou / Welcome Cara-Lou Mae’r rheolwr Gareth Parry wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn arwyddo chwaraewyr ac yn sicrhau newydd dyfodiaid i’r Traeth. Ond yr wythnos hon mae wedi arwyddo un newydd llawer pwysicaf ar ei aelwyd ei hun, gyda Cara-Lou yn cyrraedd ar gontract oes! Llongyfarchiadau i Gareth a’i wraig ar enedigaeth eu plentyn cyntaf merch fach, Cara-Lou. Manager Gareth Parry has spent the last few weeks signing players and bringing in newcomers to the Traeth. This week he has made a far more important signing in his own household and we can announce the arrival of Cara-Lou who is on a lifetime contract. Our warmest congratulations to Gareth and his wife, on the arrival of their first child, daughter Cara-Lou. 11/08/10 Jamie McDaid yn arwyddo / Jamie McDaid signs Mae Jamie McDaid, yr asgellwr ifanc addawol, wedi arwyddo i Port. Chwaraewr crefftus sy’n medru trin y bêl yn dda, creodd dipyn o argraff ar bawb sydd wedi ei weld yn ystod y gemau cyn dymor. Yn bwysicach gwnaeth argraff fawr ar y rheolwr gyda’i rhediadau twyllodrus, a’i chwarae hyderus. Sgoriodd ddwywaith yn ystod y gemau cyn dymor. Mae dau o’r chwaraewyr arwyddwyd ar ddechrau’r tymor wedi newid clybiau. Mae’r amddiffynnwr ifanc, Dylan Williams, a ymddangosodd fel eilydd yn UGC llynedd, wedi arwyddo i Benrhyndeudraeth. Mae’r blaenwr Carl Threadgill, a sgoriodd yn rheolaidd i’r ail dîm llynedd, wedi ail ymuno â Llanystumdwy. Young winger Jamie McDaid has signed for Port. A very skilful clever ball player who has plenty of pace he has made quite an impression on all who have seen him during pre-season games. More importantly he has made a great impression on manager Gareth Parry with his tricky running and confident play. He has found the net on two occasions in pre season games. Two players who were signed by Port have decided to switch clubs. Defender, Dylan Williams, who made several sub WPL appearances last season has joined Penrhyndeudraeth. Forward Carl Threadgill a regular scorer for the reserves has returned to Llanystumdwy. 06/08/10 Gareth yn edrych ymlaen at y tymor newydd / Gareth’s thoughts on the season ahead ![]() With the new season only a week away, the new manager shares his hopes for the battle to regain our place in the Welsh Premier. The core of last season's team is still at Y Traeth but this season Gareth Parry wants to place more of the emphasis on young local talent. Read the article in full. 05/08/10 Cwblhau arwyddo pedwar / Four more signings completed ![]() Mae Iwan Williams, a chwaraeodd hefyd i’r Drenewydd, wedi ail ymuno o Llanfairpwll lle gafodd dymor arbennig yn 2009/10 yn sgorio 18 o goliau. Mae’r amddiffynnwr Geraint Mitchell yn dychwelyd o Langefni a’r chwaraewr ochr chwith, Barry Evans yn ail ymuno o Bwllheli clwb yn y Welsh Alliance. Y pedwerydd i arwyddo ydy Jonathan Saddler, sgoriwr rheolaidd i Caernarfon Wanderers yn ystod y tymhorau diweddar. Mae’r pedwar wedi chwarae nifer o gemau ymarfer i’r clwb. ![]() Iwan Williams, who also played for Newtown, has rejoined from Llanfairpwll where he scored 18 goals in an outstanding season in 2009/10. Defender Geraint Mitchell returns from Llangefni and left sided player Barry Evans rejoins from Welsh Alliance club Pwllheli. The fourth signing is that of Jonathan Saddler a regular scorer for Caernarfon Wanderers in recent seasons. All four have played a number of pre-season games for the club. 05/08/10 Rownd gyntaf Cwpan Huws Gray / Draw for the Huws Gray Cup ![]() Bwcle v Y Trallwng Caersws v Llandudno Derwyddon Cefn v Rhydymwyn Cegidfa v Rhaeadr Llangefni v Rhuthun Penrhyncoch v Y Rhyl Rhos Aelwyd v Cei Conna Port will be away at Flint in the first round of the League Cup, a competition which like the league itself is now being sponsored by Huws Gray and will be known as the Huws Gray Cup. The games will be played on Saturday 18 September. The remainder of the draw is:- Buckley Town v Technogroup Welshpool Caersws v Llandudno Cefn Druids v Rhydymwyn Guilsfield v Rhayader Town Llangefni Town v Ruthin Town Penrhyncoch v Rhyl Rhos Aelwyd v Gap Connah’s Quay 04/08/10 Port yn hysbysebu am reolwr i’r ail dîm / Port to advertise for a new reserve manager ![]() Dylai rhai sy’n awyddus i gael eu ystyried am swydd y rheolwr gysylltu gyda’r ysgrifennydd, Gerallt Owen, ar 07920025338. Mae’r clwb hefyd yn dweud fod Mel Jones, ac eraill sy’n hyfforddi yn yr academi, yn barod i gynorthwyo’r rheolwr newydd. Mae’r clwb hefyd wedi trefnu fod ymarfer i’r ail dîm yn cychwyn ar nos Fawrth 10 Awst am 7 o’r gloch ar y Traeth. Dylai unrhyw chwaraewr sydd yn awyddus i gael prawf i’r tîm gysylltu â’r ysgrifennydd Gerallt Owen ar 07920025338. Mae Gareth Parry, rheolwr y tîm cyntaf, yn annog chwaraewyr i ddod i’r ymarfer ac yn pwysleisio’r berthynas agos rhwng y tim cyntaf a’r ail dîm. “Rwy’n edrych ymlaen i weld y chwaraewyr gorau yn curo ar ddrws y tîm cyntaf,” gan ychwanegu “rwy’n hapus i roi cyfle i unrhyw chwaraewr ifanc addawol.” Cafwyd problemau ers i Adrian Jones rhoi’r gorau i’r gwaith mis diwethaf gyda rhai o garfan y llynedd yn mynd i glybiau eraill, a hyn yn ychwanegu at broblemau unrhyw rheolwr newydd. Ond mae Cynghrair Gwynedd yn cadarnhau na fydd Port yn cael eu cynnwys yn y rhestr gemau tan mis Medi er mwyn iddynt gael cyfle i roi trefn ar bethau. Porthmadog FC’s search for a reserve team manager continues and they will now advertise for a manager or player/manager. A club statement says, “Porthmadog FC Academy Director Mel Jones was thought to be taking charge but he feels doing both roles would be too much at this time. Candidates wishing to be considered for the manager’s job should contact club Secretary Gerallt Owen on 07920025338. The club also states that Mel Jones and other Academy coaches have indicated their willingness to assist the successful candidate. The Club have announced that training for the Reserves will start on Tuesday August 10th at Y Traeth at 7pm. Any players wishing to trial for the team are urged to attend the first training session, or to contact club Secretary Gerallt Owen on 07920025338. First team manager Gareth Parry urged any players to attend training underlining the close relationship between the first team and the Reserves. “The best players will hopefully be knocking on the door of the first team,” he said, adding “I am happy to give promising youngsters a chance” Problems have arisen since the departure of Adrian Jones last month and a number of last season' playing squad have already found new clubs which makes things harder for any new manager. The Gwynedd League have confirmed that Porthmadog will be allowed until the beginning of September to sort themselves out before being issued with fixtures. 03/08/10 Dwy gêm gyfeillgar yn weddill / Two pre-season matches left ![]() Wedyn, nos Iau, byddant yn ymweld a Wern Mynach, cae clwb y Bermo. Iolo Owen a Steve Smith, deuawd cyfarwydd iawn i gefnogwyr Port, fydd yng ngofal y tîm cartref. Cafodd y Bermo dymor llwyddiannus yn y Welsh Alliance yn 2009/10 gan orffen yn y 4ydd safle. Bydd y gêm yn cychwyn am 6.30 pm. Ddydd Sadwrn fydd Port yn ymweld â Dinbych am yr olaf o’r gemau paratoi -cyn i gemau go iawn Cynghrair Huws Gray gychwyn pan fydd Derwyddon Cefn yn ymweld â’r Traeth. Collodd Dinbych eu lle yn y Cymru Alliance y llynedd -prin yn wobr deg am orffen yn y 10fed safle. Yn eu gêm gyfeillgar ddiweddaraf, 1-0 oedd hi i Ddinbych dros Rhydymwyn –un o’r clybiau fydd yn cymryd eu lle yng Nghynghrair Huws Gray. Bydd y gêm yn cychwyn am 2.30 pm. Tonight (Tuesday) Port will hold a training session, before the final two preparatory games. The training session will provide Gareth Parry and Campbell Harrison with an opportunity apply some of the lessons learnt during the previous five pre-season friendlies. Then on Thursday they visit Barmouth’s Wern Mynach ground where they will face a team managed by Iolo Owen and Steve Smith, a duo well known to Porthmadog supporters. Barmouth ended last season in a creditable 4th place in the Welsh Alliance table. The game will kick off at 6.30 pm. On Saturday Port visit Denbigh’s Central Park for the final pre-season fixture before the Huws Gray Alliance begins in earnest with a visit from Cefn Druids. Denbigh were relegated from last season’s Cymru Alliance –not the reward a club expects for finishing in 10th place. In their last pre-season match Denbigh defeated Rhydymwyn one of the clubs who will replace them in this season’s Huws Gray Alliance. The game will kick off at 2.30 pm. 31/07/10 Rhestr enillwyr y Tote a’r Draw Wythnosol / Latest Tote and Weekly Draw winners Tote Misol Tynnwyd Tote Misol Clwb Cymdeithasol CPD Porthmadog nos Wener diwethaf, 30 Gorffennaf. Y rhifau a dynnwyd oedd 23 a 36. Nid oedd neb â’r rhifau lwcus yna, felly bydd cyfanswm o £345 yn mynd ymlaen i’r Tote ym mis Awst. Oherwydd fod y Ffair Grefftau flynyddol yn cael eu chynnal yn y Ganolfan ni fydd Tote Awst yn cael ei dynnu tan 3 Medi. Draw Misol Enillwyr y wobr o £100 yn y draw wythnosol: Wythnos 29 Rhif 57 Margaret Hughes, Wythnos 30 Rhif 248 Dilwyn Jones ac Wythnos 31 Rhif 10 George Anderson. Monthly Tote The Porthmadog Football Social Club July Tote was drawn at Y Ganolfan on Friday 30th July. The numbers drawn were 23 & 36. Subject to clarification, there were no entries matching these numbers and the prize pool of £345 will be carried over to the August Tote, which because of the Craft Fair taking place at Y Ganolfan will be drawn on Friday 3rd September. Weekly Draw The latest winners of the £100 prize in the Porthmadog Football Club weekly draw are: Week 29 Number 57 Margaret Hughes, Week 30 Number 248 Dilwyn Jones and Week 31 Number 10 George Anderson. 31/07/10 Canlyniad Etholiad Cyngor y Gymdeithas Bêl-droed / Election of representatives to FAW Council Canlyniad y pleidleisio am ddau gynrychiolydd Cymdeithas yr Arfordir ar Gyngor Cymdeithas Pêl-droed Cymru: Ron Bridges Glannau Dyfrdwy 24 pleidlais Iwan Jones Prestatyn 19 pleidlais Bob Paton Glan Conwy 9 pleidlais Felly methodd Bob Paton, sydd yn is-gadeirydd Cynghrair Undebol Huws Gray, ennill lle ar y cyngor yn yr etholiad tair blynedd. O’r 30 clwb â hawl i bleidleisio 26 a dychwelodd eu papurau pleidleisio mewn pryd. The result of the voting for the two North Wales Coast representatives on the F A of Wales Council:- Ron Bridges Deeside 24 votes Iwan Jones Prestatyn 19 votes Bob Paton Glan Conwy 9 votes Bob Paton, who lost out in the triennial FAW elections, is .the Huws Gray Alliance League vice Chairman. Of the 30 clubs entitled to vote only 26 member clubs returned their ballot forms on time. 29/07/10 Gêm yn erbyn Dinbych ar 7 Awst / Denbigh game on 7 August Dylai cefnogwyr nodi fod yna newid pellach yn nyddiad y gêm yn erbyn Dinbych. Bydd y gêm hon yn cael ei chwarae ar bnawn Sadwrn 7 Awst yn Ninbych gyda’r gic gyntaf am 2.30 pm. Supporters should note that the Denbigh game is subject to a further switch and will now be played on Saturday 7 August at Denbigh with a 2.30 pm kick off. 28/07/10 Ail lansio’r Gynghrair Undebol / Cymru Alliance relaunched ![]() Wrth gyhoeddi’r cytundeb dywedodd Steve Williams, Cadeirydd y Gynghrair, “Cawsom gytundeb hir dymor sydd wedi bod yn werthfawr i’r ddwy ochr a rym yn gwerthfawrogi nid yn unig haelioni Huws Gray ond hefyd y bwriad i wella ar y cytundeb presennol. “Mewn cyfnod anodd, ansicr mae’n rhyddhad inni fedri sicrhau cytundeb am dair blynedd. Bydd y math yma o sicrwydd yn ein galluogi i weithredu cynlluniau fydd yn gwella a datblygu’r gynghrair.” Dywedodd Terry Owen, prif weithredwr Huws Gray, fod y cytundeb newydd yn achos dathlu i’r ddwy ochr. “Gobeithio fydd ein ymroddiad pellach i Gynghrair Huws Gray yn ein galluogi i ni gyd i gyflawni ein hamcanion.” “Yn naturiol ddigon fel cwmni a phrif swyddfa yn Llangefni edrychaf ymlaen i weld a fydd tîm y dref yn cadw’r teitl. Ond pan ychwanegir timau o safon y Rhyl, Porthmadog, Cei Conna a Derwyddon Cefn at gynghrair gystadleuol, mae’n addo bod yn frwydr cyffrous am y teitl y tymor hwn. The Cymru Alliance has announced a major re-launch and will now be known as the Huws Gray Alliance with the League Cup becoming the Huws Gray Cup. Today’s press release issued by the league and the sponsors says “Huws Gray and the Cymru Alliance League are delighted to announce that North Wales’ premier building materials centre will continue their long-running sponsorship of North Wales’ premier football league for a further three years up to the end of season 2012-13” With Huws Gray and the Cymru Alliance both celebrating their 20th birthdays, and major changes taking place in the Welsh football pyramid, it has been deemed a good opportunity to extend the sponsorship agreement. Announcing the agreement, the League Chairman Steve Williams said, “We have enjoyed a mutually beneficial partnership with Huws Gray for many years, and appreciate their generosity in not only extending but enhancing the current agreement.” “In these difficult and uncertain times, it is a great relief for us to be able to secure a three year deal. Such security will enable us to implement plans to further develop and improve the league.” Huws Gray’s Managing Director Terry Owen believes that the new deal should be a cause of celebration for both parties. “We hope that our increased commitment to the Huws Gray Alliance will help us all to achieve our aims.” “Naturally, with Llangefni being home to Huws Gray’s Head Office, I’ll look forward to seeing if the town’s team can retain the title this season. However, when you add the calibre of Rhyl, Porthmadog, Connah,s Quay and Cefn Druids to an already competitive league, it promises to be a very tough and exciting race for the title this season.” 27/07/10 Cynghrair Gwynedd i’r Ail Dîm / Reserves settle for Gwynedd League O’r diwedd mae yna newyddion da i’w gyhoeddi ynglyn â’r Ail Dîm. Hyn yn dilyn haf tymhestlog o frwydro i gael yr hawl i’r ail dîm symud i chwarae yng Nghynghrair Clwyd i Ail-dimau. Yn ogystal collwyd y tîm reoli. Ar hyn o bryd mae’r clwb yn sgwrsio gyda rheolwr newydd ac o bosib cynorthwywr hefyd. Mae’r clwb hefyd wedi penderfynu gollwng yr apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod iddynt chwarae yng Nghlwyd, ac wedi derbyn lle yng Nghynghrair Gwynedd am 2010/11. O ganlyniad i golli gwasanaeth Adrian Jones a Bleddyn Williams nid oes unrhyw sesiynau ymarfer wedi’u cynnal ac oherwydd yr ansicrwydd mae nifer o chwaraewyr llynedd wedi arwyddo i glybiau eraill. Felly bydd gan y rheolwr newydd broblem wrth geisio ail adeiladu’r garfan. Bydd dyddiadau ymarfer yn cael eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf ac anogwn chwaraewyr i ddod i’r sesiynau. Mae Cynghrair Gwynedd yn mynd i roi amser i’r Ail Dîm ddod i drefn a ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y rowndiau cynnar o gemau. After a traumatic close season in which the club has fought to move it's Reserve team into the Clwyd Reserve League and endured the loss of its management team, at last the club has good news to announce regarding the Reserve team. The club is currently in negotiations with a new manager and potential assistant. However the club has dropped it's appeal against it's exclusion from the Clwyd League and has accepted a spot in the Gwynedd League for season 2010-11. With the loss of Adrian Jones and Bleddyn Williams from the management team and no training sessions held so far a number of last season's squad have drifted away and signed for other clubs and therefore the new manager will have a difficult rebuilding job to do. The club will announce dates for training sessions in the next few days and players are urged to attend when they are confirmed. The Gwynedd League have agreed to allow the Reserves more time to sort their difficulties out and will they not be included in the first few rounds of fixtures. 27/07/10 Newid i gêm Dinbych / Denbigh game switched ![]() Bydd y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Llanfairpwll yn dal i gael ei chwarae ar y Traeth ond ni fydd gêm arall yn cael ei chwarae yno tan y gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Derwyddon Cefn. Hyn er mwyn rhoi cyfnod o seibiant i’r cae. Porthmadog's home friendly against Denbigh Town to be played on 3 August has been switched to Denbigh. There was concern for the Traeth pitch following the torrential rain on Saturday during the match against Airbus which saw serious damage to the pitch in the first game of the season played on it. This following extensive work carried out on the pitch by Phil and his team. Saturday’s home game against Llanfairpwll will go ahead, but then the next game will be the first game of the season against Cefn Druids so that the pitch can have a period to recover. 25/07/10 Wythnos brysur i ddod / A busy week ahead Mae wythnos brysur yn wynebu Porthmadog gyda tair gêm wedi eu trefnu. Nos Fawrth byddant yn teithio i Aberystwyth (7.30) clwb a orffennodd 2009/10 gyda rhediad gwych o dan Alan Morgan eu rheolwr newydd. Ers hynny mae wedi cryfhau ei garfan, felly bydd yna brawf llym i garfan Gareth Parry sydd yn y broses o gael eu hadeiladu. Ar dystiolaeth ddydd Sadwrn, yn erbyn Airbus, mae partneriaeth Gareth a Campbell wedi bod yn brysur yn datblygu gêm basio’r garfan. Gan ystyried fod Airbus ymhellach i fewn i’w paratoadau, ac wedi chwarae nifer o gemau cyfeillgar, roedd perfformiad ddydd Sadwrn yn un gobeithiol iawn. Ar wahan i’r pum munud gorffwyll, pan collwyd tair o goliau, roedd Port yn edrych cystal ac Airbus ac yn chwarae llawer o bêl-droed deniadol. Mae Gareth Parry yn dweud ei fod yn hapus iawn gyda safon ac ymroddiad y chwaraewyr lleol mae’n datblygu. Hefyd yn ystod y dyddiau nesaf mae’n gobeithio cyhoeddi bod un neu ddau arall wedi ymuno gyda’r clwb. Yn ystod gweddill yr wythnos byddant yn ymweld â Nefyn (6.30) y clwb o’r Welsh Alliance sydd yn cael ei reoli gan John Gwynfor Jones, cyn seren Port. Wedyn ddydd Sadwrn bydd Llanfairpwll (2.30) yn ymweld â’r Traeth. Mae’r clwb o’r Ynys hefyd yn y Welsh Alliance yn dilyn y newidiadau mawr yn y pyramid. Porthmadog have a busy week ahead with three games lined up. On Tuesday they travel to Aberystwyth (7.30) a club who ended the 2009/10 season on a roll under new manager Alan Morgan. Morgan has further strengthened his squad so they will certainly provide Gareth Parry’s transitional squad, one in progress of being built, with a stern test. On the evidence of Saturday’s performance at home to Airbus the Parry/Harrison coaching team have been busy working on their passing game. Considering that Airbus are probably more advanced in their preparation, having played a number of friendlies already, Saturday’s performance was very encouraging. The five minutes of madness apart, when they conceded they three goals, Port matched a strong Airbus outfit and played some attractive football. Gareth Parry has declared himself well pleased with the standard and level of dedication of the local players he seeks to develop. He also hopes to announce further additions to his squad during the next few days. During the remainder of the week on Thursday they will visit Welsh Alliance Nefyn (6.30) managed by former Port stalwart John Gwynfor Jones and on Saturday will be welcome Llanfairpwll (2.30), who lost their place in the Cymru Alliance as a result of the major pyramid reshuffle. 23/07/10 Gareth Parry yn arwyddo pedwar / Gareth Parry announces four new signings Mae Gareth Parry wedi cyhoeddi fod pedwar chwaraewr newydd wedi arwyddo i’r clwb, y pedwar wedi chwarae i Bethesda yn ystod 2009/10. Mae Richie Owen yn dychwelyd i glwb Port am ei bedwerydd cyfnod. Ymunodd y chwaraewyr ochr chwith profiadol â’r clwb am y tro cyntaf yn 2002. Mae Richie wedi chwarae 129 (+27) o gemau UGC i Borthmadog, Bangor a Chaernarfon. Meddai Gareth Parry amdano, “Richie ydy’r chwaraewr mwyaf amryddawn yn y garfan a gallai hyn brofi’n holl bwysig. Yn chwaraewr di-lol y gellir dibynnu arno i berfformio’n gyson, a gwelwn ef yn aelod pwysig o’r garfan am y tymor sydd i ddod.” Un arall sy’n dychwelyd i’r clwb ydy’r amddiffynnwr canol Gareth Owen a chwaraeodd chwe gêm UGC i Port yn 2008. “Mae Gareth yn daclwr caled, hen ffasiwn tebyg iawn i Lee Webber, meddai Gareth Parry “a gyda gemau yn y Gynghrair Undebol yn debyg o fod yn fwy corfforol gall ei gyfraniad yn y cefn brofi’n allweddol. Mae wedi bod yn chwaraewr cyson iawn ac mae ei ddewis yn ‘Tîm y Gynghrair’ am bedair blynedd yn olynol yn brawf o hyn.” Ymosodwr tal cyflym ydy Craig Roberts sydd wedi cynrychioli Bangor mewn 9 (+21) o gemau UGC rhwng 2000 a 2003. Bu Craig yn darged i rheolwyr blaenorol y clwb ac mae Gareth yn hapus iawn ei fod wedi llwyddo i’w arwyddo. “Mae’n ticio nifer o focsys pwysig –yn lleol, yn gyflym, ffit ac yn medru chwarae yn y blaen, canol cae neu allan ar yr asgell. Dyma’r math o rinweddau mae Campbell a minnau yn edrych amdanynt i adeiladu ar garfan llynedd. Amddiffynnwr ochr chwith ydy Darren Jones (sydd yn cael ei adnabod fel ‘Chicken’), cyn brentis gyda Manchester City a chwaraeodd i Fangor yng nghwpan UEFA, yn 2003, yn erbyn Startid yn Iwgoslafia. Meddai ei reolwr newydd amdano, “ Chwaraewr cadarn, parod i ymosod a llawn ysbryd ydy Chicken a fydd hyn yn gaffaeliad i’r clwb. Bydd yn siwr o fod yn ffefryn gyda chefnogwyr a bydd ei agwedd yn bwysig yn yr ystafell newid.” Manager Gareth Parry has announced his first new signings with four players who represented Bethesda in 2009/10 joining Porthmadog. Richie Owen, an experienced left sided defender well known to Porthmadog supporters, returns for his fourth stint with the club having first joined in 2002. Richie has made 129 (+27) career WPL appearances for Port, Bangor and Caernarfon. Gareth Parry says of him “Richie is probably the most versatile of all squad members and this could prove vital. He is a solid “no-frills” player who can be depended on to produce consistent performances and we see him as a vital member of the squad for the season ahead.” Another player who returns to the club is central defender Gareth Owen who made six WPL appearances for Port in 2008. “Gareth is a tough tackling ‘old fashioned’ centre half in the mould of Lee Webber”, said Gareth Parry. “With games likely to be a bit more “physical” in the Cymru Alliance, his presence at the back will be of significant value to the team. Gareth has been one of the most consistent performers in the Cymru Alliance over the past few seasons. this has been acknowledged by him making the “CA Team of the Season” for the last 4 consecutive seasons.” Craig Roberts is a tall pacey striker who also has WPL experience with Bangor making 9 (+21) appearances 2000-03. . Craig has been a transfer target of previous managers at the club and Gareth is delighted to finally have secured his signature. He ticks a lot of the boxes i.e. local player, quick, fit, versatile (equally comfortable as a striker, centre mid or out wide), all of the qualities Gareth and Campbell are looking for to complement the squad from last season. Darren Jones (more affectionately know as “Chicken”) is described as a solid skilful left sided defender, a former Manchester City apprentice who played for Bangor in the UEFA Cup against Startid in Yugoslavia in 2003. His new manager says of him, “Chicken is a very committed/combative player who has a never say die attitude which will be welcomed at the club. He is sure to become a fans favourite, as well as an important figure in the changing room.” 22/07/10 Gôl Chris yn ennill y gêm / Chris scores the winner Gôl yn y funud olaf gan Chris Jones, a symudodd i Fangor o Port dros yr haf, sicrhaodd y fuddugoliaeth i’w glwb newydd dros Honka o 3-2 dros dau gymal. Hyn yn ail adrodd ei gamp yn y cymal cyntaf. Mae’r fuddugoliaeth hon yn dilyn un wych TNS dros Bohemians, y clwb o Iwerddon, yn newyddion ardderchog i bêl-droed Cymru. Tybed a wnaiff hyn arwain at alw yn yr Iwerddon am ddychwelyd i bêl-droed yn y gaeaf ac am Gynghrair 18-clwb? Dim ond gofyn. Chris Jones, Bangor’s summer signing from Porthmadog, repeated his first leg performance against Honka of Finland this time scoring a 90th minute winner. This gives a win on an aggregate of 3-2. This outstanding victory following on TNS 4-0 drubbing of Irish club Bohemians is good news for Welsh football. Will this now give rise to demands in Ireland for a return to winter football and an 18-club Irish Premier League:? Only asking. 19/07/10 Llanrug nos Fawrth ond Caernarfon ffwrdd / Llanrug friendly Tuesday but Caernarfon game off ![]() Mae’r gem yn erbyn Caernarfon, a oedd i’w chwarae ar yr Ofal nos Iau, wedi’i gohirio. Gyda gymaint o law trwm wedi disgyn yn ystod y dyddiau diwethaf nid oedd Caernarfon am chwarae ar y cae sydd wedi cael llawer o waith wedi ei wneud arno yn ystod yr haf. Port’s first pre-season game will be played at Llanrug tomorrow night (Tuesday) with a 7 pm kick off. The Welsh Alliance club is being managed by former Port skipper Aled Owen. With the squad having been preparing for several weeks now, this will give the new management team, of Gareth Parry and assistant Campbell Harrison, the opportunity to see players in a game situation. These will include the members of last season’s squad who have been retained together with several trialists. The game against Caernarfon scheduled for Thursday evening at the Oval has been postponed. Following the heavy rain which has fallen during the last few days Caernarfon officials were not prepared to risk playing on a pitch which has had so much work done to it during the summer. 19/07/10 Rhestr gemau wedi'i hail wampio ar y wefan / Revamped fixtures now on website ![]() Bellach bydd Port yn cychwyn y tymor gyda dwy gêm gartref, gan groesawu Derwyddon Cefn i’r Traeth ar 14 Awst. Mae’r gwaith ar gae Cefn yn mynd ymlaen yn dda ond ni fydd yn barod erbyn y Sadwrn agoriadol. Llandudno fydd yr ymwelwyr ar yr ail Sadwrn. Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod oedd yn rownd derfynol Cwpan yr Arfordir. Ymweliad â Bwcle fydd y gêm olaf o’r mis cyntaf. Mae gweddill y rhestr yn dilyn patrwm, gyda ychydig o eithriadau, o gem adref yn cael ei dilyn gyda gêm oddi cartref. Ond mae’r gêm ar gyfer Gwyl San Steffan yn dipyn o syndod gan mai Bwcle fydd yn ymweld â’r Traeth. Gyda chyfnod y gwyliau yn un traddodiadol ar gyfer gemau darbi ni fydd hon yn plesio yr un o’r ddau glwb. Mae’r ffaith fod Llangefni, gwrthwynebwyr darbi amlwg Port, yn ymweld â Derwyddon Cefn yn ei gwneud yn fwy fyth o syndod! Mae’n amlwg mai Port v Llangefni a Derwyddon Cefn v Bwcle fyddai orau i’r pedwar clwb. Sadwrn 2 Ebrill ydy’r Sadwrn olaf o’r tymor yn ôl y rhestr ond unwaith bydd y tywydd drwg yn dechrau brathu bydd hyn yn siwr o newid. The revamped fixture list can be seen by clicking on gemau/fixtures. Port will now start the season with two home games entertaining Cefn Druids, whose new ground will not be ready for the season’s opening on Saturday 14 August. This is followed by another game at the Traeth with Llandudno the visitors. The two clubs last met in the final of the 2010 NWC Challenge Cup. The last game of the opening month takes us to Buckley. The rest of the fixtures with a few exceptions follow a reasonable home and away pattern of matches. The fixture lined up for Boxing Day is however a source of amazement with Buckley Town visiting the Traeth. The Christmas period is traditionally a time for local derbies so this fixture will hardly please either club. The fact that Llangefni, the obvious derby game for Port, are away at Cefn Druids makes it all the more surprising! Surely switching to Port v Llangefni and Cefn Druids v Buckley is the best outcome for all four clubs. The scheduled end of the season is now 2 April. This will no doubt change as inclement weather takes its toll of the fixture list. 18/07/10 Rhestr gemau i’w hail wampio! / Fixtures back to the drawing board! ![]() “Os gwelwch yn dda anwybyddwch y rhestr gemau a anfonwyd ddoe. Bydd y rhestr yn cael ei hailwampio gan ystyried syniadau’r rhai a gysylltodd â mi ddoe. Wrth geisio plesio’r clybiau a wnaeth gais i’r gynghrair nid oedd y rhestr yn siwtio pawb (na minnau chwaith). “Mae’r gynghrair wedi ystyried sylwadau a wnaed gan y clybiau am y rhestr a bydd y rhestr yn cael ei hail wampio. Ni fydd yn cynnwys gemau canol wythnos. “Bydd angen i unrhyw glwb, sydd yn cael gêm adref pan nad yw ei cae ar gael, gysylltu gyda’i gwrthwynebwyr er mwyn ceisio newid y gêm. Os na fydd y clybiau’n cytuno bydd y gynghrair yn ystyried adrefnu’r gêm i ganol wythnos neu yn hwyrach yn y tymor. “Sylwch hefyd na fydd y gemau dros y Nadolig yn plesio pawb chwaith.” Mae’r holl sefyllfa yn atgoffa mi o un o Chwedlau Aesop am y Melinydd, ei Fab a’r Asyn sydd yn dangos ei bod yn amhosib i blesio pawb! Wedi’r cyfan beth sydd o’i le ar gem gartref ac oddi cartref bob yn ail a hyn yn galluogi’r clybiau a’r cefnogwyr i ddeall trefn syml a lle mae’n bosib i’r clybiau anelu i adeiladu cefnogaeth drwy’r giât? Dewch yn ôl John Deakin a cewch faddeuant llwyr! After waiting and waiting for the Cymru Alliance fixtures for 2010/11 and eventually they did make a brief appearance yesterday. What happens within 24 hours and after the fixtures have been placed on this website? This statement appears on the Cymru Alliance official website. “Please ignore the fixture list sent yesterday. The fixtures will be re-scheduled taking into consideration the thoughts of the clubs who contacted me. In trying to please the clubs who made requests to the league the fixtures were not to everybody’s liking (including mine). “The league has taken into consideration comments received from clubs on the fixtures. The fixtures will now be revamped. They will not include midweek games. “Any club given a home game when their ground is not available will need to contact their opposition to try and switch the fixture. If clubs do not agree, the league will consider re-scheduling the game for midweek or later in the season. Please also note that the Christmas period fixtures will not be to everybody’s liking.” It reminds me of the Aesop’s Fable of the Miller his Son and the Donkey which goes on to show that you can never please everybody. After all what is wrong with games home and away on alternate weekends so that clubs and spectators know where they stand and clubs can attempt to build their supporter base? Come back John Deakin all is forgiven! 17/07/10 Rhestr dros dro y gemau wedi’i chyhoeddi / Provisional fixture list published Mae rhestr gemau dros dro wedi’i chyhoeddi heddiw ar gyfer 2010/11. Mae datganiad swyddogol y gynghrair yn dweud “Mae nifer fawr o geisiadau gan glybiau yn awyddus i chwarae oddi cartref ar ddechrau’r tymor wedi arwain at anghyfartaledd o gemau cartref ac oddi cartref.” Y prif effaith sydd i weld ar rhestr gemau Port yw fod yna batrwm cyffredinol o chwarae dwy gêm oddi cartref yn cael ei ddilyn gan dwy gêm adref. Ar hyn o bryd mae’r dair gêm olaf o’r tymor i’w chwarae ar y Traeth. Ond mae yna hefyd rhybudd iechyd sydd yn dweud “Bydd y gemau yn cael eu cadarnhau ar adegau rheolaidd yn ystod y tymor fel y gwelir yn rheol 9e.”! Bydd Port yn agor y tymor gyda dwy gêm oddi cartref yn y Fflint ac yn Llangefni y ddau glwb uchaf yn y gynghrair y llynedd. Mae hyn yn cael ei ddilyn gan dwy gêm adref, y gyntaf yn erbyn y newydd ddyfodiaid Rhos Aelwyd ac wedyn ymweliad gan Rhuthun. Bydd y tymor yn gorffen ar 5 Mawrth os bydd y rhestr hon yn cael ei gweithredu'n gyflawn. Cliciwch ar gemau/fixtures i weld y rhestr llawn A provisional Cymru Alliance fixture list has been published today. An official league statement says that “Due to the number of requests from clubs who wanted to play away at the start of the season there is an imbalance of home/away games.” The main effect this appears to have on Port fixtures is that they appear to follow a general pattern of two away games being followed by two home games. The last three games of the season are set to be at home. However there is a health warning which states that “Fixtures will be confirmed at regular intervals throughout the season as per league rule 9e” ! Port open the season with visits to Flint and Llangefni, the top two of last season’s Cymru Alliance. This is followed by home games against CA newcomers Rhos Aelwyd and by the visit of Rhuthin. If the current list was operated as it stands the season would finish on 5 March. Click on gemau/fixtures to see the full list 17/07/10 Huws Gray i noddi’r Gynghrair Undebol eto / Huws Gray to continue CA sponsorship ![]() Mae noddwyr eraill y gynghrair yn cynnwys Charisma Trophies cefnogwyr rhaglen Chwaraewr y Mis a Turner Peachey yn cefnogi cynllun Chwaraewr y Flwyddyn. Bydd y chwilio am noddwr i Gwpan y Gynghrair yn parhau. Huws Gray will be once again be the main sponsor of the Cymru Alliance for season 2010/11. Officials say that Huws Gray have been very loyal to the league and they thank once again for their continual support. Further sponsorship for 2010/11 announced today includes the Player of the Month programme which is being sponsored by Charisma Trophies and the Club of the Season by Turner Peachey. The search for a League Cup sponsor will continue. 17/07/10 Enillwyr y Draw Wythnosol / Latest Weekly Draw Winners Enillwyr diweddaraf y wobr o £100 yn draw wythnosol CPD Porthmadog ydy: Wythnos 24, 127 Thaworn Williams, Wythnos 25, 25 Anne Thomas, Wythnos 26, 12 Lewis Edwards, Wythnos 27, 11 Clive Hague, Wythnos 28, 224 Peter Havelock. Defnyddiwch y manylion isod i gael cyfle i ennill yr arian. Ffurflen Gais / Application Form ![]() ![]() The latest winners of the £100 prize in the Porthmadog Football Club Weekly Draw are: Week 24, 127 Thaworn Williams, Week 25, 25 Anne Thomas, Week 26, 12 Lewis Edwards, Week 27, 11 Clive Hague, Week 28, 224 Peter Havelock. Use the detalis above for a chance to get your hands on the money. 15/07/10 Chris yn rhwydo yn Ewrop / Chris scores in Europe ![]() Congratulations to former Port forward, Chris Jones, who scored Bangor’s only goal in an outstanding Europa Cup performance against Finnish club Honka. The Finnish side went ahead in first half but also missed a penalty. Chris scored his vital away goal after 58 minutes and Bangor held on for a 1-1 draw. The 2nd leg will be played, in a week’s time, at Wrexham. 15/07/10 Gemau diwrnod agoriadol y tymor / Opening day fixures Dyma’r gemau ar gyfer diwrnod agoriadol y tymor ar 14 Awst –a dyna’r cyfan y cewch ar hyn o bryd! Here are the fixtures for the opening day of the season on Saturday 14th. August and that’s your lot for the moment! Bwcle / Buckley Town v Caersws Fflint / Flint Town United v Porthmadog Cegidfa / Guilsfield v Derwyddon Cefn Druids Llandudno v Y Trallwng / Technogroup Welshpool Llangefni Town v Rhuthun Rhos Aelwyd v Penrhyncoch Rhydymwyn v Cei Conna / Gap Connahs Quay Rhyl v Rhaeadr / Rhayader Town 14/07/10 Gemau cyfeillgar yn dechrau'r wythnos nesaf / Pre-season starts next week Yr wythnos nesaf, bydd Port yn dechrau cyfres galed o 8 gêm gyfeillgar o fewn tair wythnos gyda ymweliadau i Lanrug ar nos Fawrth nesaf a gêm sydd newydd ei chadarnhau ar yr Ofal yng Nghaernarfon nos Iau nesaf. Y gobaith yw trefnu un gêm olaf cyn y tymor newydd ddydd Sadwrn 7 Awst. Next week, Port embark on a gruelling series of 8 pre-season matches in the space of three weeks with visits to Llanrug next Tuesday evening and a recently confirmed match at the Oval in Caernarfon next Thursday night. It is hoped that one last match will be organized on Saturday 7 August in readiness for the new season. 13/07/10 Sêl Cist Car (Datganiad gan y clwb) / Car Boot Sale (Club Statement) ![]() Despite persistent false rumours to the contrary, Porthmadog FC can confirm that the long running Car Boot at Y Traeth will continue for the foreseeable future. Work on the Porthmadog by-pass on the site was due to start in July, but it looks now that it may not commence until late August or early September. As we have always said we will inform all booters and customers of developments as soon as we are aware of them. 12/07/10 Mwy o gemau cyfeillgar / More friendly matches Mae Port wedi cyhoeddi dwy gêm gyfeillgar ychwanegol cyn y tymor newydd. Bydd y gyntaf o’r rheiny gartref am 2.30pm ar 31 Gorffennaf yn erbyn Llanfairpwll, a syrthiodd o’r Cymru Alliance y llynedd oherwydd y newidiadau i’r strwythur. Bydd yr ail gêm unwaith eto ar y Traeth am 7.30pm ar y 3ydd o Awst yn erbyn Dinbych, clwb arall a ddioddefodd yr un dynged. Oherwydd y gemau ychwanegol hyn, bydd y daith i’r Bermo yn cael ei symud i 6.30pm ar 5 Awst. Cliciwch yma i weld y rhestr o'r holl gemau. Port have announced two further friendlys in preparation for the new season. The first of those matches will be at home at 2.30pm on 31 July against Llanfairpwll, who were relegated from the Cymru Alliance last season because of the change to the structure. The second match is again on the Traeth at 7.30pm on the 3rd of August against Denbigh Town, another club who suffered the same fate. Because of these additional matches, the visit to Barmouth will be switched to 6.30pm on 5 August. Click here to see the full fixture list. 12/07/10 Dim newyddion o'r hestr gemau / Still no fixtures ![]() With only 34 days until the big kick-off in the Cymru Alliance League the fixtures are still awaited with bated breath. The English League have produced theirs, the Welsh Premier have produced theirs but nothing is forthcoming from the Cymru Alliance. An e-mail to the League Fixtures secretary has received no response. This is all the more baffling as Mr Chas Rowlands the League Fixture Secretary said at the Cymru Alliance AGM on Saturday June 19th that the fixtures were almost ready "just a few tweaks" and they will be ready. Almost a month later and still no fixtures. Gerallt Owen, Porthmadog Secretary said, “We are all eager to see them so that we can get our fixture card out. Supporters have been stopping me in the street to ask when they will be out and I have no answer for them. Let’s hope that we see them this week”. As soon as we have them we will post them on the website. 09/07/10 Cynlluniau i’r Ail Dim yn cael eu rhwystro / Plans for Reserves being blocked ![]() Pan benderfynodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru nad oedd ail dimau bellach i chwarae yn dair reng uchaf y pyramid golygai nad oedd Port yn cael chwarae yng Nghynghrair Gwynedd yn 2010/11. Clod i’r bwrdd symudwyd yn gyflym i gael hyd i gynghrair addas i’w chwaraewyr ifanc. Uwch Gynghrair Ail Dimau Clwyd oedd yr ateb amlwg gan fyddai chwarae yn erbyn chwaraewyr ifanc ail dimau’r Rhyl, Prestatyn a Llandudno, ac ar gaeau arbennig o dda, yn gymorth i ddatblygu chwaraewyr ifanc. Roedd cais y clwb yn llwyddiannus a derbyniwyd hwy gan Clwyd, a hynny fisoedd yn ôl. Cadarnhawyd hyn yn ddiweddar gyda Port yn cael eu henwi gan wefan Cynghrair Clwyd yn un o 11 clwb yn yr Uwch Gynghrair i ail Dimau. Ond wedyn ffurfiwyd ail adran gan y Welsh Alliance a golygai hyn fod Cynghrair Gwynedd bellach yn 4ydd reng y pyramid ac yn medru derbyn ail dimau. Mewn ymdrech funud olaf i wneud yn iawn am golli nifer o glybiau i adran newydd y Welsh Alliance rhwystrwyd penderfyniad Porthmadog i geisio pontio’r bwlch rhwng chwarae i’r academi a symud i’r tîm cyntaf gan y Pwyllgor Cyswllt. Bwriad Cymdeithas Pêl-droed Cymru hefyd oedd i bob ail dîm chwarae mewn cynghrair i ail dimau. Deallwn fod Conwy am resymau tebyg hefyd yn gwneud apêl. It appears that Porthmadog FC, only a month before the new season starts, is being refused permission by the Gwynedd League Liaison Committee to move to the Clwyd Reserve Premier League. Port secretary Gerallt Owen says “I don’t know who the Liaison Committee is but we have not been given the opportunity to present our case and have received no official confirmation of their decision.” The club has been made aware of the decision by Clwyd League officials. But Port intends fighting the decision and will appeal to the North Wales Coast FA and if necessary to the FAW. When the FAW decided that no reserve teams would in future play in the top three tiers of the pyramid, it meant that Port could no longer play in the third tier Gwynedd League. To their credit the board moved quickly to search for a suitable league for their young players. The Clwyd Premier Reserve League seemed the obvious answer as playing against the young players of reserve teams such as Rhyl, Prestatyn and Llandudno on excellent grounds would assist in player development. An application was made and accepted by the Clwyd League authorities many months ago. This was further confirmed on the Clwyd League website with Porthmadog FC named as one of eleven clubs in the Reserve Premier League. However, the formation of a Welsh Alliance 2nd Division meant that the Gwynedd League was now in the 4th tier of the pyramid, and able to include reserve teams. In a last minute attempt to compensate for the loss of several clubs to this new Welsh Alliance 2nd Division the Liaison Committee have blocked the carefully considered decision of the Porthmadog board that moving to a reserve league was the right way to bridge the gap between the academy and the first team. It was also the FAW’s intention that reserve teams should played in a reserve league. We understand that Conwy United are also making a similar appeal. 09/07/10 Keegan yn ymuno â’r Rhyl / Keegan joins Rhyl ![]() John Keegan, a regular at the heart of the Port defence last season playing 31 of the 34 WPL games, has signed for Rhyl. Despite his solid performances throughout the season a switch to a more traditional Port policy, of developing players from North West Wales, meant that Keegan’s football future almost certainly lay elsewhere. The club thanks John for his excellent service during 2009/10 and wishes him well in the future. 06/07/10 Aden Shannon yn ymuno â’r Derwyddon / Aden Shannon joins the Druids ![]() Tomi Morgan ddaeth a Shannon i’r Traeth ar ddechrau’r tymor diwethaf ond er ei fod yn cael ei gydnabod yn sgoriwr cyson llwyddodd i rhwydo ond 3 gôl gynghrair mewn 16 (+5) o gemau. Pan gyhoeddodd y rheolwr Gareth Parry y rhestr chwaraewyr i aros gyda’r clwb roedd yn amlwg nad oedd yr ymosodwr a greodd argraff fawr gyda’r Derwyddon ar ddechrau ei yrfa yn UGC yn rhan o’i gynlluniau ar gyfer 2010/11. Dymuna CPD Porthmadog yn dda i Aden at y dyfodol. Aden Shannon has left Porthmadog and signed for Cymru Alliance rivals, Cefn Druids. The Druids website says, “Shannon joins for his second spell at the club after originally signing from Blacon Youth in the 2002/03 season. His first full season with the club saw him be the club's top scorer with 19 league goals.” Shannon was brought to Porthmadog by Tomi Morgan at the beginning of last season but despite his reputation as a proven goalscorer he managed only 3 goals in 16 (+5) WPL appearances. When new manager Gareth Parry announced his retained list it became clear that the striker, who made a big impact when he first came into the WPL with Cefn Druids, was not part of his plans for 2010/11. Porthmadog FC wishes Aden well in the future. 03/07/10 Glyn Owen: teyrnged cefnogwr / Glyn Owen: a supporter’s tribute Fel un o’r cefnogwyr hyn rwy’n sicr yn cofio Glyn. (newyddion am ei golli ar y wefan hon). Am chwaraewr! Chwaraeais efo fo yn yr ysgol ac roedd yn amhosib dwyn y bêl oddi wrtho. Cofiaf gael sgwrs am bêl-droed gyda Tommy Jones ar y pier ym Mangor (pan oedd yn ei wythdegau) a dywedodd mai Glyn oedd un o’r chwaraewyr mwyaf talentog a welodd yr ardal hon, a pan yn rheolwr yno roedd yn benderfynol o’i arwyddo i Fangor. Dyna ichi ganmoliaeth gan un o fawrion y gêm yng Nghymru. Yn ffodus mae gennyf lun clir ohono yn fy meddwl yn rhedeg efo’r bêl gan ei chuddio oddi wrth unrhyw wrthwynebydd a ddeuai’n agos ato. Rwy’n dy gofio di Glyn. Hen Gefnogwr ( ymddangosodd y deyrnged ddiffuant hon yn gyntaf ar y fforwm) I am one of those older supporters who certainly remember Glyn.(News of his passing away on this website) What a player! I played with him at school in Port and you could never get the ball off him. I remember having a chat with Tommy Jones on the pier in Bangor (when he was in his eighties) about football and he said that Glyn was one of the most gifted players he'd ever seen in these parts and was determined to get him to City when he was manager. That's some recommendation by one of the greats of Welsh football. I am fortunate in being able to recall a mental picture of Glyn running with the ball and shielding it from any opponent who came near him. I remember you Glyn. Hen Gefnogwr (this sincere tribute first appeared on the forum) 30/06/10 Colli Glyn Owen / Glyn Owen passes away Dymuna swyddogion, chwaraewyr a chefnogwyr clwb Porthmadog estyn eu cydymdeimlad llwyraf a theulu Glyn Owen, Cricieth a fu farw ar 24 Mehefin yn 76 mlwydd oed. Cofir Glyn Owen yn gynnes iawn, yn enwedig gan gefnogwyr hyn y clwb, fel un o fawrion y gêm yn lleol, yn ‘inside forward’ o’r safon uchaf, yn gyflym ac yn gelfydd ac ym marn llawer ddylai fod wedi chwarae ar lefel uwch yn broffesiynol. Enillodd 21 o gapiau i dîm amatur Cymru rhwng 1953 a 1961 ac yn gapten tîm amatur chwedlonol Port yn 1950au ac 1960au. Aeth y tîm hwnnw ymlaen i ennill Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 gan guro Peritus ac yn 1956/57 yn curo’r Derwyddon yn yr ail chwarae. Y flwyddyn ganlynol collwyd yn y rownd derfynol yn erbyn RA Tonfannau. Roedd y gemau yma yn denu torfeydd enfawr. Roedd yn oes aur y gêm amatur gyda chlybiau enwog Bishop Auckland, Crook Town, Leytonstone a Pegasus yn rheoli’r gêm yn Lloegr a’r torfeydd yn Nghwpan Amatur Lloegr yn llenwi Wembley. The Porthmadog club officials, players and supporters extend their deepest sympathy with the family of Glyn Owen of Cricieth who passed away on 24 June at the age of 76 years. Glyn Owen will be warmly remembered, especially by older supporters, as one of the Porthmadog ‘greats’ an outstandingly skilful inside forward who in the judgement of many could have played the game at a higher professional level. He won 21 Welsh Amateur caps between 1953 and 1961 and was captain of the legendary Port amateur team of the 1950s and 1960s. That team went on to win the Welsh Amateur Cup in 1955/56 defeating Peritus and in 1956/57 with a victory, after a replay, over Druids United. The following year they went down in the final against 55th RA Tonfannau. These games attracted huge crowds. It was the era of great amateur clubs with the famed Bishop Auckland, Crook Town, Leytonstone and Pegasus dominant in England and able to draw a full house to Wembley for the English Amateur Cup Final. 30/06/10 Paratoadau at y tymor newydd yn mynd yn ei blaen / Preparations for the new season going ahead. Mae paratoadau’r rheolwr newydd, Gareth Parry, ar gyfer y tymor eisoes wedi cychwyn gyda sesiwn ymarfer i’r garfan tîm cyntaf yn cael ei chynnal neithiwr (29 Mehefin) gyda un arall yn dilyn nos yfory (nos Iau). Hefyd mae yna gêm gyfeillgar arall wedi’i chadarnhau ar gyfer yr 20 Gorffennaf pan Llanrug, clwb o’r Welsh Alliance, fydd y gwrthwynebwyr. Aled Owen, cyn gapten Porthmadog, ydy rheolwr Llanrug. Cynhelir y gêm yn Llanrug gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch. Preparations for the coming season, under new manager Gareth Parry is under way. The first team had their first training session last night (29 June) with another one t0 follow tomorrow night (Thursday). Another friendly has also been confirmed for 20 June when our opponents will be Welsh Alliance clwb Llanrug. Ex-Port captain Aled Owen, is the Llanrug manager. The game will take place at Llanrug with kick-off at 7pm. |
|||
|