Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier

Chwiliwch y safle / Search the website

Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Ail Dîm / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
31/07/08
Gêm gyfeillgar arall / Another friendly match

Mae Paul Whelan wedi trefnu un gêm gyfeillgar arall cyn y tymor newydd, yn erbyn Llanrug Unedig o Gynghrair y Welsh Alliance. Bydd y gêm ar y Traeth nos Fercher nesaf (6 Awst) gyda’r gig gyntaf am 7pm.

Paul Whelan has organized one more friendly match before the new season, against Llanrug United of the Welsh Alliance League. The game will be played on the Traeth next Wednesday night (6 August) with kick off at 7pm.
31/07/08
Yn galw ar lumanwyr! / Calling all linesmen!

Mae Port yn apelio am lumanwyr ar gyfer gêm Dydd Sadwrn ar y Traeth yn erbyn Rhuthun. Os ydych chi’n lumanwr, ac eisiau ychydig o brofiad o redeg y lein cyn y tymor newydd, ffoniwch Mei Parry ar 07787750885.

Port are appealing for linesmen for Saturday’s match on the Traeth against Ruthin Town. If you’re a linesman, and want some experience of running the line before the new season, give Mei Parry a bell on 07787750885.
29/07/08
Croeso i Mel Jones / Welcome to Mel Jones

Croeso i’r Traeth i is-reolwr newydd Port, Mel Jones. Bydd Mel, sydd yn hyfforddwr profiadol, yn cynorthwyo Paul Whelan. Cynt, Mel oedd â chyfrifoldeb am Academi clwb Bangor. Yn dilyn ymadawiad Paul Davenport o Fangor, tua diwedd 2005, cymerodd yr awenau, dros dro, ar Ffordd Ffarar cyn i Clayton Blackmore gael ei benodi i swydd y rheolwr. Mae gan Mel gymwysterau hyfforddi uchel ac yn dal trwydded ‘A’ UEFA.

A warm welcome to the Traeth is extended to Paul Whelan’s assistant, Mel Jones. Mel is an experienced coach who has been the Academy boss at Bangor. Following the departure of Paul Davenport, he was placed in temporary charge as caretaker manager at Farrar Road until Clayton Blackmore took over the manager’s job. He is a well qualified coach holding an UEFA ‘A’ Licence.
29/07/08
Gêm Gyfeillgar nos Iau / Friendly on Thursday

Bydd Port yn chwarae Bethesda , y tîm a enillodd y Welsh Alliance y tymor diwethaf, mewn gêm gyfeillgar nos Iau, 31 Gorffennaf. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar gae Bethesda gyda’r gic gyntaf am 7pm.

Port have arranged another friendly to be played on Thursday (July 31st) against last season’s Welsh Alliance champions Bethesda Athletic. The game will be played at Bethesda’s ground and the kick off will be at 7pm.
29/07/08
Mwy wedi arwyddo / More players sign

Mark ThomasMae enwau’r ddau chwaraewr canol cae, Gareth Parry a Mark Thomas, wedi’u hychwanegu at yr wyth sydd eisoes wedi arwyddo ar gyfer tymor 2008/09. Hefyd mae chwaraewr canol cae arall, Richie Owen, wedi arwyddo i’r clwb am y trydydd tro. Bu gyda’r clwb am gyfnod hir o dan Viv ac Osian ac hefyd ymunodd â’r clwb am gyfnod byr y tymor diwethaf cyn iddo ddychwelyd i Glantraeth.

The two central midfield players, Gareth Parry and Mark Thomas, have added their names to the eight who have already signed for season 2008/09. Another midfielder, Richie Owen has signed for Port for the third time. He first played for a lengthy period under Viv and Osian and then last season he returned to the club for a short period during the January window only to return to Glantraeth after a brief stay.
28/07/08
Kehoe yn arwyddo / Kehoe signs

Steve Kehoe (www.welsh-premier.com)Mae Porthmadog wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae Steven Kehoe o Langefni wedi iddo ymddangos ym mhob un o’r gemau cyfeillgar hyd yn hyn. Ymunodd â Llangefni yn 2007 ar ôl treulio cyfnodau gyda Rio Grande Redmen, Pittsburgh Riverhounds a Cincinnati Kings tra’n astudio gradd ym Mhrifysgol Rio Grande a gradd feistr ym mhrifysgol Cleveland State. Y tymor diwethaf, roedd yn rhan allweddol o garfan Cefni, gan wneud 30 ymddangosiad yn y gynghrair a sgorio 3 o goliau.

Porthmadog have signed midfielder Steven Kehoe from Llangefni, who has appeared in all this summer's pre-season friendlies. He joined Llagefni in 2007 after spells with Rio Grande Redmen, Pittsburgh Riverhounds and Cincinnati Kings while studying for a degree at Rio Grande University and a masters degree at Cleveland State university. Last season he was virtually ever-present for Cefni, notching up 30 league appearances and scoring 3 goals.
24/07/08
Marwolaeth Dewi Rowlands / Death of Dewi Rowlands

Mae gwefan CPD Bala yn adrodd am farwolaeth Dewi Rowlands. Mae Dewi hefyd yn gyn chwaraewr i Port. Roedd yn amddiffynnwr canol i’r clwb yn y Cymru Alliance yn ystod yr 80au a hefyd yn ystod tymor cyntaf Cynghrair Cymru (1992/93) gan ymddangos 30 (+2) o weithiau yn ystod y tymor hwnnw. Roedd Dewi yn un o bedwar brawd a gynrychiolodd clwb Y Bala. Bu farw dros y penwythnos ar ôl dioddef salwch creulon. Estynnwn ein cydymdeimlad fel clwb a’r teulu yn eu galar.

The Bala Town website reports the death of Dewi Rowlands. Dewi also represented Porthmadog. He was a central defender in the Cymru Alliance during the late 80’s and also represented the club in the inaugural season (1992/93) of the then League of Wales. He made 30 (+2) appearances during that season. Dewi was one of four brothers to represent Bala during the 70’s and early 80’s. He passed away during the last weekend after suffering a cruel illness. We extend our deepest sympathy to the family in their sad loss.
22/07/08
Carl Jones yn ail arwyddo / Carl Jones signs

Carl JonesCarl Jones ydy’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo am dymor 2008/09. Mae’r chwaraewr addawol o Lanbedrog wedi chwarae 18 (+19) gêm yn UGC ond y tymor diwethaf dechreuodd ond 5 o gêmau i Port gan ddod o’r fainc 10 gwaith. Mae’n chwaraewr talentog iawn gan ddangos dawn arbennig wrth gynrychioli tîm Dan 16 Cymru. Bu’n chwaraewr dan hyfforddiant gyda chlwb Caerdydd ac edrychwn ymlaen i’w weld yn datblygu i’w lawn botensial.

Carl Jones is the latest player to sign for the 2008/09 season. The very promising young player from Llanbedrog has so far appeared 18 (+19) times in the WPL, but last season only started 5 games for Port coming from the bench in a further 10 games. He is a very talented young player and showed outstanding ability for Wales at U 16 level. A former Cardiff City trainee we look forward to see him developing his full potential.
22/07/08
Paul yn ymuno â’r Trallwng / Paul joins Welshpool

Paul RobertsAr ôl methu cytuno ar delerau gyda Port, mae’n ymddangos fod Paul Roberts yn ymuno â’r Trallwng. Ymddangosodd i’r clwb o’r canolbarth ddydd Sadwrn gan sgorio tair gôl yn y fuddugoliaeth dros Penrhyncoch. Paul oedd prif sgoriwr Port pan ail ymunodd at y tymor diwethaf yn taro cefn y rhwyd 13 o weithiau cyn y Nadolig ond ar ôl troad y flwyddyn ychwanegodd ond un gôl arall a honno yn y gêm gyfartal ar Y Traeth yn erbyn Cei Conna. Daeth i’r amlwg am y tro cyntaf fel chwaraewr ifanc gyda Port cyn arwyddo contract proffesiynol gyda Wrecsam. Chwaraeodd y rhan fwyaf o’i yrfa lwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru gyda chlwb Bangor.

Having failed to agree terms with Porthmadog, it now appears that Paul Roberts will be joining Welshpool Town. Paul played for the mid Wales club on Saturday scoring three times in the win over Penrhyncoch. He rejoined Port last season and was the leading scorer, scoring 13 goals before Christmas but only once, in the home draw against Connah’s Quay, after the turn of the year. He first came to prominence as a teenager with Porthmadog before signing professional terms with Wrexham. He played the bulk of his very successful WPL career with Bangor City.
16/07/08
Dymuniadau gorau a diolch Carl / Best wishes and thanks Carl

Carl OwenBydd tymor 2008/09 yn cychwyn heb Carl Owen mewn crys Port. Er eu bod yn siomedig tu hwnt i weld chwaraewr y tymor yn gadael Y Traeth, bydd y cefnogwyr yn dymuno pob llwyddiant iddo wrth iddo geisio sefydlu ei hun gyda chlwb sydd ymysg y tri uchaf yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd y cadeirydd, Phil Jones, yn siarad dros bawb yn y clwb pan ddywedodd, “Rwy’n dymuno’r gorau i Carl. Mae wedi gwasanaethu’r clwb yn wych ac mae hefyd yn berson dymunol iawn. Er ein bod yn drist i’w weld yn gadael, deallwn yn iawn ei fod yn gweld Y Rhyl yn sialens newydd a gobeithio y bydd yn cael cyfle rheolaidd yn y tîm.”
Cafwyd llygedyn o obaith efallai nad ydy Carl wedi chwarae ei gêm olaf i Port pan ddywedodd y cadeirydd hefyd, “Mae o ’di dweud os na fydd pethau yn gweithio iddo yn Y Rhyl, Port ydy’r unig glwb yr ystyriai ddod yn ôl iddo.”
Mae record Carl yn dweud y cyfan sydd angen amdano. Treuliodd y rhan helaethaf o wyth tymor ar Y Traeth gan chwarae 121 (+14) gêm UGC. Roedd yn brif sgoriwr dri tymor yn olynol rhwng 2002/05 a 2006/07. Daeth ei dymor gorau yn 2005/06 pan sgoriodd 16 o goliau cynghrair. Cafodd ei gyfanswm gorau yn 2002/03 yn sgorio 26 o weithiau wrth i Port ennill dyrchafiad o’r Cymru Alliance gyda Carl yn chwaraewr allweddol yn y llwyddiant hwnnw. Er nad oedd y tymor diwethaf yn un o’i orau o ran goliau, roedd ei weithgarwch yn y blaen, yn dal y bêl a dod â chwaraewyr eraill i’r gêm, yn ffactor cyn gryfed ag y u drwy gydol ei amser gyda’r clwb. Cafodd Carl yr anrhydedd o gynrychioli tîm lled broffesiynol Cymru yn 2004 a sgoriodd yn y fuddugoliaeth dros Lloegr. Dymuniadau gorau Carl a diolch.

Carl OwenSeason 2008/09 will begin without Carl Owen in a Port shirt. Though obviously hugely disappointed to see their player of the season leave the Traeth, supporters will wish Carl every success as he seeks to establish himself with a top three WPL club.
Port chairman Phil Jones spoke for everyone at the club when he said, “I wish Carl all the very best. He has been a fantastic servant of this club and is a genuinely nice guy. Though we are sad to see him go, we understand that he sees Rhyl as a fresh challenge and we hope he gets the chance to play regularly.”
The chairman gave a glimmer of hope that Carl has not played his final game for Port when he revealed, “He told me, if things don’t work out, Port is the only club he’d come back to.”
Carl’s record for the club speaks for itself. He has spent the best part of eight seasons here and played 121 (+14) WPL games. He was top scorer during three consecutive WPL seasons between 2004/05 and 2006/07. His best scoring season came in 2005/06 when he scored 16 goals in the league. But his best tally of all came in the Cymru Alliance promotion season of 2002/03, scoring 26 goals and was a key player throughout that memorable season. Though last season was not a vintage one for him as far as goals were concerned, his work rate was as high as ever with his ability to hold the ball up front and bring other players into the game a key feature as it has been throughout his period with the club. Carl also won Welsh semi-professional honours in 2004 and scored in the victory over England. Best wishes and thanks, Carl.
15/07/08
Dau arall yn arwyddo / Two more sign for new season

Mae dau o chwaraewyr rheolaidd llynedd wedi arwyddo i Port at y tymor nesaf. Arwyddodd Marcus Orlik yr wythnos diwethaf. Sgoriodd Marcus 9 gôl o ganol cae yn Uwch Gynghrair Cymru llynedd. Mae’r chwaraewr 22 oed wedi datblygu yn chwaraewr peryg iawn o giciau rhydd o gwmpas y bocs a sgoriodd dwy gôl arbennig o giciau gosod yn erbyn Hwlffordd a Port Talbot y tymor diwethaf. Mae’r golwr Richard Harvey hefyd wedi arwyddo a dathlodd mewn steil yn Nefyn ddydd Sadwrn yn arbed cic o’r smotyn yn ystod yr ail hanner.

Marcus Orlik  Richard Harvey

Two of last season’s regulars have signed again for the club. Marcus Orlik, who scored 9 WPL goals from midfield and established himself as a dead ball specialist around the box including two super strikes last season to score against both Haverfordwest and Port Talbot, has put pen to paper. Richard Harvey has also signed. The keeper celebrated his decision in style at Nefyn saving from the penalty spot in the second half.
10/07/08
Maxwell ddim yn dod! / Maxwell not for Traeth

Does dim syndod fod swyddogion y clwb wedi methu cadarnhau fod Layton Maxwell, chwaraewr canol cae, i ymuno â Phorthmadog gan fod y chwaraewr wedi symud i fyw i Gaerdydd! Adroddir heddiw ei fod yn ymarfer gyda Port Talbot ac yn barod i chwarae i’r clwb hwnnw mewn gêmau cyfeillgar. Tybed ai’r gwir ydy fod rheolwr newydd Caernarfon, David Rowe, wedi cymysgu’r ddau Port?

It is hardly surprising that club officials were not prepared to confirm an interest in former Caernarfon Town midfielder Layton Maxwell as the player has been reported to be now living in Cardiff! He is also reported to have been training with Port Talbot and will be playing for them in a pre-season friendly. Is it just a case of the new Caernarfon manager, David Rowe, getting his Ports crossed?
10/07/08
Gêm gyfeillgar arall / A first home friendly

Rhuthun fydd y gwrthwynebwyr cyntaf o’r tymor i Borthmadog ar Y Traeth. Bydd y gêm yn erbyn y clwb o’r Cymru Alliance, sydd yn cael ei reoli gan Adie Jones, ar ddydd Sadwrn, 2 Awst. Nid yw amser y gic gyntaf wedi’i gadarnhau eto ond yn debygol o fod am 2.30 pm.

Ruthin Town will be Porthmadog’s first opponents of the season at the Traeth. The game against the Cymru Alliance club, managed by Adie Jones, will be on Saturday, August 2nd. The kick off time has yet to be confirmed but likely to be at 2.30 pm.
09/07/08
Wynebau newydd / New Faces

John RowleyBellach mae’r clwb yn medru cadarnhau fod y sibrydion yn wir ac mae’r blaenwr 27 oed, John Rowley, wedi ymuno â Phorthmadog o Gaernarfon. Gyda’r newyddion fod Carl Owen wedi gadael i ymuno â’r Rhyl, bydd y trosglwyddiad yn sicrhau fod gan y rheolwr, Paul Whelan, opsiynau newydd yn y blaen. Ymunodd John â chlwb yr Oval o Lanberis ar gyfer tymor 2005/06 gan dreulio tri tymor yno. Chwaraeodd 60 (+ 20) o weithiau i Gaernarfon gan sgorio 16 o goliau. Y tymor diwethaf oedd ei orau yn sgorio 8 gôl mewn 26 gêm. Arwydd o’i agwedd dda at y gêm oedd ei barodrwydd i chwarae yn y gôl i’r Cofis mewn argyfwng. Gwnaeth hyn ddwywaith gan gynnwys un yn erbyn Porthmadog.
Un arall sydd ar ei ffordd i’r Traeth ydy Chris Jones a fu hefyd am dymor ar yr Oval. Asgellwr chwim sydd â llygad am gôl, treuliodd y tymor diwethaf gyda Llangefni. Mae’r chwaraewr 22 oed, a enillodd gapiau i Gymru Dan 19 a Dan 20, wedi cael profiad yn y gêm broffesiynol gyda Leeds a Bournemouth a hefyd wedi chwarae i Limerick yng Nghynghrair Iwerddon. Mae wedi ymddangos 54 (+4) o weithiau yn Uwch Gynghrair Cymru gan sgorio 9 gôl.

Chris JonesClub officials are finally able to announce that the strongly rumoured signing of Caernarfon striker John Rowley has now been completed. With the departure of Carl Owen, the new arrival will bolster manager Paul Whelan’s striking options. The 27 year old striker has spent three seasons at the Oval after joining from Llanberis for season 2005/06. He has made 60 (+ 20) WPL appearances for Caernarfon scoring 16 goals with a best of eight in 26 appearances last season. A sign of his wholehearted approach to the game is his two emergency appearances in goal for the Canaries, one of which was against Porthmadog.
Chris Jones, another former Caernarfon player, has also been recruited. A tricky winger with an eye for goal, he spent last season with Llangefni. The 22 year-old is a former Wales U19 and U20 cap who has professional experience with Leeds and Bournemouth and also played for Limerick in the League of Ireland. He has appeared 54 (+4) in the WPL, scoring 9 goals.
08/07/08
Symudiadau Chwaraewyr / Comings and Goings

Carl OwenGellir disgwyl newyddion am symudiadau chwaraewyr yn fuan iawn. Deallwn fod un chwaraewr, sydd wedi bod yn darged gan Port yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi arwyddo ond mae’r clwb yn aros am gadarnhad fod y ffurflenni wedi eu derbyn gan awdurdodau’r gynghrair. Disgwylir hefyd i chwaraewr ganol cae arwyddo yn ystod y dyddiau nesaf. Ond nid yw’r clwb yn barod i gadarnhau’r stori, a ryddhawyd gan wefan y welsh-premier, yn awgrymu fod Layton Maxwell ar ei ffordd i’r Traeth.
Cafwyd cadarnhad heddiw fod ymosodwr Port, a chwaraewr y flwyddyn 2007/08, Carl Owen yn symud i’r Rhyl lle bydd yn ymuno â chyn hyfforddwr Port, Allan Bickerstaff.

News of player movements is imminent. One player who has been a Port target for some weeks has now signed but confirmation that the transfer is complete is now awaited. A second signing - a midfield player- is also expected to be confirmed shortly. However the club is not confirming a story which appeared on the welsh-premier website with new Caernarfon manager suggesting that Layton Maxwell was on his way to Port.
It was confirmed today that Port striker, and 2007/08 Player of the Season, Carl Owen, has signed for Rhyl, where he’ll join ex-Port coach Allan Bickerstaff.
07/07/08
Yucatan ar y Traeth Nos Wenner / Yucatan on the Traeth on Friday Night

YucatanNos Wener nesaf (11/7/08) bydd y grwp lleol Yucatan yn cynnal gig yng nghlwb y Traeth. Mae'r grwp wedi eu canmol yn fawr gan DJ Radio Cymru a Radio 1 Huw Stevens a'u cymharu gyda'r grwp Sigur Ros o Wlad yr Ia. Byddant yn cael eu cefnogi gan Yr Ods a’r DJ o Borthmadog, Dyl Mei. Bydd y drysau’n agor am 8pm a’r pris mynediad yw £5 a bydd yn bosibl talu wrth y drws ar y noson.

Next Friday night (11/7/08) local group Yucatan will hold a gig at the Traeth Clubhouse. The group has received great praise by Radio Cymru and Radio 1 DJ Huw Stevens and compared with acclaimed Islandic group Sigur Ros. They will be supported by Yr Ods and Porthmadog DJ, Dyl Mei. The doors open at 8pm and the entry price is £5 and you can pay at the door on the night.
07/07/08
Rhestr gemau’r Ail Dîm yn Awst / Reserve fixtures for August

Bydd gemau Cynghrair Gwynedd i’r Ail Dîm yn cychwyn gyda dwy gêm adref ar 9 Awst pan fydd Port yn croesawu Bodedern, ac ar y nos Fawrth (12 Awst) Llangefni fydd yr ymwelwyr i’r Traeth. Gwelir isod y rhestr gemau ar gyfer mis Awst. Mae gan y gynghrair noddwyr newydd ar gyfer 2008/09 a bydd y gynghrair yn cael ei galw'n Gynghrair Pêl Droed Teejac.com Gwynedd.

9/08/08 -2.30pm Porthmadog v Bodedern
12/08/08 -7.30pm Porthmadog v Llangefni
16/08/08 – 2.30pm Porthmadog v Beaumaris
20/08/08 -6.30pm Barmouth & Dyffryn United v Porthmadog
23/08/08 – 2.30pm Rhiwlas v Porthmadog
25/08/08 (Bank Holiday Monday) -2.30pm Porthmadog v Llanystumdwy
30/08/08 -2.30pm Gaerwen v Porthmadog

The Reserves commence the new season with two home fixtures. They entertain Bodedern in the first game of the season on Saturday August 9th and then on Tuesday August 12th Llangefni are the visitors to the Traeth. Above is the list of fixtures for the month of August. The league also has new sponsors for 2008/09 and will be known as the Teejac.com Gwynedd Football League.
04/07/08
Maxwell ar ei ffordd i Port? / Maxwell on his way to Port?

Yn ôl adroddiad ar wefan y Welsh-Premier, mae rheolwr newydd Caernarfon, David Rowe, yn dweud fod y chwaraewr canol cae Layton Maxwell “ar fin ymuno â Phorthmadog.” Bydd yn rhaid aros i weld os ydy’r sibrydion, sydd wedi bod o gwmpas yn ystod y dyddiau diwethaf, yn wir nes fydd y clwb yn gwneud datganiad ynglyn â chwaraewyr newydd yn ystod yr wythnos nesaf. Mae’r angen am chwaraewr canol cae profiadol yn siwr o fod yn flaenoriaeth gan Paul Whelan ac os fydd y trosglwyddiad yn cael ei gwblhau medrwn ddweud y gallai Layton Maxwell lanw’r bwlch o ran profiad a hefyd o ran sgiliau rheoli gêm a phasio cywir.

The Welsh-Premier site reports today (Friday) that Layton Maxwell, according to new Canaries' boss David Rowe, “is on the verge of a move to Porthmadog.” We shall have to wait until the club’s expected statement concerning new signings is made next week to see if indeed this rumour, which has been circulating in recent days, turns out to be true. The need for an experienced midfielder is certain to be a priority for new manager Paul Whelan and should the report turn out to be true and a deal is completed then Leighton Maxwell fills the bill in terms of experience and has the ability to control games and distribute accurately from central midfield.
03/07/08
Ryan a Rhys wedi arwyddo contractau newydd / Ryan and Rhys sign new contracts

Ryan DaviesRhyddhawyd y datganiad canlynol gan Gerallt Owen ar ran y clwb heddiw:
Mae Porthmadog yn falch o gyhoeddi fod capten y clwb Ryan Davies wedi arwyddo contract a fydd yn ei gadw gyda’r clwb am dymor 2008/09. Roedd sibrydion wedi cysylltu Ryan gyda chlwb Bangor ond mae wedi penderfynu aros yn Port. Hefyd yn arwyddo am flwyddyn arall mae’r amddiffynnwr canol arall, Rhys Roberts, a fu yn gapten llynedd pan roedd Ryan allan o’r tîm oherwydd anaf drwg. Yn amlwg, roedd Paul Whelan wedi’i blesio gan benderfyniad y ddau i arwyddo am y tymor gan ddweud “Rwy’n hapus iawn fod y ddau yn aros ar Y Traeth gan eu bod yn chwaraewyr pwysig i’r clwb.”
Dechreuwyd ymarfer nos Fawrth a bydd sesiynau pellach heno (nos Iau) a ddydd Sadwrn. Disgwylir erbyn hynny y bydd mwy o newyddion am chwaraewyr yn arwyddo gyda’r rhan fwyaf o garfan llynedd yn hapus i wneud hynny gyda dau neu dri o wynebau newydd hefyd yn barod i ymuno. Gellir disgwyl cyhoeddiad pellach yr wythnos nesaf.

Rhys RobertsGerallt Owen the Porthmadog secretary has released the following statement on behalf of the club:
Porthmadog are pleased to announce that last season's team captain Ryan Davies has signed a new 1 year contract to keep him at the club for the 2008-2009 season. Speculation had linked the centre-half with a move to Bangor City but Ryan has decided to stay. Also signing a one year deal is fellow centre half Rhys Roberts who deputised as captain during Davies' extended spell out with injury last season. Paul Whelan commenting on these two early signings said, "These are two important players at the club and I am very pleased that both have committed to staying with Porthmadog".
Training started on Tuesday and further sessions tonight (Thursday) and on Saturday will see many further signings with most of last season's squad happy to sign again but with two or three new faces also ready to join. Further announcements will be made next week.
02/07/08
Mwy o feirniadu ar y rhestr gêmau 2008/09 / More dissatisfaction with 2008/09 fixtures.

Brian CoyneMae Brian Coyne, rheolwr Aberystwyth wedi ychwanegu ei lais at y feirniadaeth o’r rhestr gêmau yn 2008/09. Eisoes mae Port wedi datgan eu hanfodlonrwydd â’r ffaith nad oes ganddynt gêm ddarbi dros y Nadolig a hefyd wedi cael 9 o gêmau ar nos Wener. Rhy ychydig o gêmau ar y Sadwrn ydy cwyn Brian Coyne hefyd. Dywedodd wrth y Cambrian News:
“Dwi ddim yn hapus ynglyn â chael cymaint o gêmau ar nos Wener ac ar ddydd Sul. Mae llawer o siarad wedi bod ynglyn â’r torfeydd yn gostwng ond does neb yn gwybod pryd mae’r gêmau ’mlaen. Hefyd mae disgwyl i’r chwaraewyr deithio’n bell a chwarae ar ôl diwrnod o waith. Does gennym yr un gêm ar ddydd Sadwrn ym mis Hydref! Nid yw hynny’n dderbyniol.”
Yn barod, mae Port wedi newid y gêm oedd i fod ar ddydd Gwyl San Steffan i ddydd Sadwrn, 27 Rhagfyr ac yn bwriadu gwneud mwy o newidiadau. Dyma fydd bwriad Brian Coyne hefyd. “Rwy’n mynd i wneud fy ngorau i sicrhau fod cymaint o gêmau â phosib yn cael eu newid i ddydd Sadwrn,” ychwanegodd.

Aberystwyth manager, Brian Coyne, has added his voice to the criticisms of the 2008/09 fixtures. Port have already expressed their dissatisfaction at the lack of a holiday derby game over Christmas and the fact that they have been given 9 Friday night fixtures. Too few Saturday fixtures is also Coyne’s complaint. He told the Cambrian News:
"I'm not happy about so many Friday and Sunday fixtures. There has been a lot of talk about falling crowds, but nobody knows when to go along to the games. The players are also being expected to travel long distances and perform after a full day's work.
"We have not got a single game scheduled for a Saturday in October and that has got to be wrong.
Port have already switched their scheduled Boxing Day game to Saturday, December 27th and intend to make further changes. This is also Coyne’s intention. "I'll be doing my best to get as many fixtures changed to Saturday as possible," he added.
01/07/08
Pris mynediad 2008/09 / Admission prices 2008/09

Tocyn / TicketMae’r clwb wedi cadarnhau fod y pris mynediad i gemau Uwch Gynghrair Cymru 2008/09 i aros yr un fath. Bydd pris tocynnau ar gyfer y tymor sydd i ddechrau ar 16 Awst fel a ganlyn: Oedolion £6 (£5 i aelodau), Pensiynwyr £3 (£2.50 i aelodau), Plant dan 16 oed 50c. Bydd tocynnau tymor ar gael Oedolion £70 (arbediad o £32 ar gemau cynghrair) a £35 i bensiynwyr (arbediad o £16 i’r 17 o gemau cynghrair). Ni fydd gemau cwpan yn gynwysedig yn y tocynnau tymor.

Porthmadog have confirmed that admission prices for the 2008/2009 WPL season, which starts on 16 August, will remain unchanged at £6 Adults (£5 for Members), £3 Concession (£2.50 Members) and 50p for children under 16 years old. Season Tickets are also available Adults £70 (a saving of £32 on all League games) and £35 for OAP’s a saving of £16 on all 17 League games. The season ticket does not cover Cup games.
01/07/08
Gallai marcî ateb eich problem / A marquee could be the answer to your problem

Oes gennych ddigwyddiad i’w drefnu ac yn edrych am le addas i’w gynnal? A ydych wedi ystyried marcî?
Yn y llun gwelir marcî CPD Porthmadog a gafodd ei logi i’r Arddangosfa Werdd a gynhaliwyd ar gae rygbi Bro Ffestiniog. Os ydych yn dymuno llogi’r marcî, cysylltwch â Dafydd Jones ar 07810057444.

Y Marci ym Mlaenau Ffestiniog / The Marquee in Blaenau Ffestiniog.

Do you have a special event coming up and are looking for a suitable place to hold it? Have you considered a marquee?
Pictured is Porthmadog FC's marquee which was hired out for the Green Showcase event at Blaenau Rugby Club. If you would like to hire it for an event you are organising, please contact Dafydd Jones on 07810057444.
30/06/08
Paentio a chlirio ar Y Traeth / Painting and clearing day at the Traeth

Yn y lluniau, mae rhai o’r gwirfoddolwyr a ddaeth i gynorthwyo gyda dyletswyddau paentio a chlirio sydd angen eu gwneud ar Y Traeth cyn i’r tymor newydd ddechrau. Rhoddodd y cadeirydd, Phil Jones, doriad i’r gwair ar y cae sydd wedi ei ail hadu ac yn edrych mewn cyflwr arbennig o dda. Bydd yna ddyddiau eraill o glirio a thwtio. Pam na ddowch i ymuno?

Rhai o'r helpwyr wrth eu gwaith at y Traeth / Some of the helpers at work on the Traeth. Rhai o'r helpwyr wrth eu gwaith at y Traeth / Some of the helpers at work on the Traeth.

Photographed are some of the helpers who came along to complete some necessary painting and clearing tasks at the Traeth. The chairman, Phil Jones also gave the reseeded pitch a cut and it looks in great condition ready for the new season. There will be further days of clearing and preparing. Why don’t you come along to lend a hand?
30/06/08
Gweinyddwraig newydd i'r Academi / New Administrator for Academy

Cyhoeddodd y clwb fod Angela Roberts wedi’i phenodi i weinyddu’r Academi. Mae’n dilyn Haydn Jones yn y swydd hon. Angela fydd yn gyfrifol am yr holl waith papur sydd yn gysylltiedig â rhedeg yr Academi ac yn sicrhau amrediad da o gêmau i grwpiau oed yr Academi. Eisoes mae’r clwb wedi gosod nod uchel mewn cynllun pum mlynedd i sicrhau datblygiad talentau gorau’r ardal er mwyn iddynt ddod yn chwaraewyr tîm cyntaf. Ni wastraffodd Angela ddim amser yn mynd i’r afael â’r gwaith ac yn barod mae wedi trefnu gêmau yn erbyn Academi Aberystwyth. Trefnwyd cyfres o gêmau i’w chwarae ar 13 Gorffennaf yn y Clwb Chwaraeon. Bydd yna gêmau Dan 12, Dan 14 a Dan 16. Bydd amser cychwyn y gêmau yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

The club has announced the appointment of Angela Roberts as the new Academy administrator. She takes on the duties from the former administrator, Haydn Jones. Angela will be responsible for the paper work that goes with running the Academy and with securing fixtures for the Academy age group teams. The board have placed great emphasis on the development of the Academy and have set themselves a five year plan with the aim of developing talented local youngsters for the first team. Angela has lost no time in getting down to work, already having set up games against the Aberystwyth Academy. She has arranged a series of friendly games which will take place on July 13th at Clwb Chwaraeon. Three matches will be played at Under 12, Under 14 and Under 16 level. Kick off time will be confirmed shortly.
28/06/08
Gemau cyfeillgar cyn dymor / Pre Season friendlies

Mae’r gemau cyn dymor isod wedi eu cadarnhau. Mae’r pedair gêm oddi cartref. Bwriedir ychwanegu dwy gêm adref hefyd ond nid yw rhain wedi’u cadarnhau eto.

12/7/08 Nefyn, A, 2.30pm.
19/7/08 Llandudno, A, 2.30pm.
23/7/08 Caergybi/Holyhead, A, 7.30pm.
26/7/08 Fflint, A, 2.30pm.

The above pre-season friendlies have now been confirmed. All four are away games and two more home friendlies will be announced once these have been confirmed.
27/06/08
Newid i’r rhestr gêmau / Fixture Change

Gap Cei Conna / Gap Connah's QuayYna barod, mae yna newid i’r rhestr gêmau Uwch Gynghrair Cymru, rhestr sydd wedi bod yn achos siom i nifer o gefnogwyr. Bydd y gêm yn erbyn Gap Cei Conna, a oedd i’w chwarae ar Ddydd Gwyl San Steffan, bellach yn cael ei symud 24 awr i bnawn Sadwrn, 27 Rhagfyr gyda’r gic gyntaf am 2.30 pm. Yn ôl yr ysgrifennydd, Gerallt Owen, mae’n bosib iawn y bydd yna un neu ddau o newidiadau pellach i’r rhestr.

The WPL fixture list, which has caused some dismay amongst Port fans, is already subject to change. The switching of the Boxing Day fixture, against Gap Connah’s Quay, has already been confirmed. This game has been moved forward 24 hours to the Saturday afternoon, December 27th with a 2.30 pm kick off. Secretary, Gerallt Owen, says that there could well be one or two more changes to the list.
27/06/08
Cyfarfod Blynyddol Cynghrair Gwynedd/ Gwynedd League AGM

Cynhelir cyfarfod blynyddol Cynghrair Gwynedd yng Nghlwb y Traeth nos Wener, 27 Mehefin, am 7.30 pm. Mae’r materion i’w cadarnhau yn cynnwys dyrchafiad Rhiwlas, o Gynghrair Caernarfon, a Gwalchmai o Gynghrair Ynys Môn. Mae hefyd nifer o gynigion am newidiadau i’r rheolau i’w trafod ac mae’n bosib, hefyd, y bydd cyhoeddiad ynglyn â noddwyr newydd i’r gynghrair a’r cystadlaethau cwpan.

The Gwynedd League AGM will be held at Y Traeth Clubhouse on Friday June 27th at 7.30pm. Among the issues to be confirmed is the promotion of Rhiwlas and Gwalchmai into the League from the Caernarfon & District League and Anglesey League respectively. Various rule amendments are also up for debate and new sponsors for the League and its Cup competitions may be announced.
23/06/08
Gwaith gwirfoddol ar y Traeth / Volunteer work on the Traeth.

Y Traeth - PorthmadogMae Porthmadog yn cynnal diwrnod o waith gwirfoddol ar y Traeth y dydd Sadwrn hwn (28/6/08) ac yn chwilio am wirfoddolwyr i wneud gwaith peintio, torri gwair ac nifer o dasgau eraill i baratoi am y tymor newydd. Bydd y gwaith yn dechrau am 9am, ac mae’r clwb yn awyddus i gymaint o helpwyr a phosibl ddod draw. Hefyd, os oes gan unrhyw un strimer, a fyddai’n bosibl iddynt ddod â’r peiriant efo nhw i wneud ychydig o strimio. Bydd barbiciw’n cael ei gynnal ar ôl gorffen y gwaith a chyfle i gael cwpl o beints. I gael mwy o fanylion, ffoniwch Phil yn siop Kaleidoscope ar 01766 514343.

Porthmadog will hold a day of volunteer work at y Traeth this Saturday (28/6/08) and are looking for volunteers to undertake tasks such as painting, grass cutting and numerous other jobs in preparation for the new season. The work starts at 9am, and the club is keen for as many helpers as possible to come along. Also, if any one has a strimmer, would it be possible for them to bring it along with them to do a bit of strimming . A barbeque will take place after the work is done and a chance to have a few beers. For further details, phone Phil at Kaleidascope on 01766 514343.
18/06/08
Trefn gemau tymor nesaf wedi'i cyhoeddi / Next season's fixtures announced

Heddiw cyhoeddodd Uwchgynghrair Cymru drefn gemau y tymor nesaf. Bydd Porthmadog yn dechrau gyda gêm anodd oddi-cartref yng Nghaerfyrddin. Gêm gyfartal 0-0 a gafwyd ar Waun Dew eleni a bydd Paul Whelan yn gobeithio gallu ysbrydoli'r chwaraewyr i berfformiad cystal os nad gwell yn ei gêm gyntaf wrth y llyw. I ddilyn y gêm yng Nghaerfyrddin, mae trefn y gemau yn golygu y byddwn yn wynebu Bangor a Chaersws ddwywaith yr un o fewn pythefnos!!
O safbwynt torfeydd ac yn ariannol, mae Port yn siomedig iawn gyda threfn y gemau dros gyfnod y Nadolig. Fydd dim gêm darbi gan ein bod yn croesawu Cei Conna ar Wyl San Steffan tra'n gwneud y gylch-daith o dros 150 milltir i lannau Dyfrdwy ar ddiwrnod Calan. Tra fod holl glybiau eraill y gynghrair wedi eu paru gyda'u cymdogion agosaf mewn gemau darbi, mae'n ymddangos fod Port a Cei Conna wedi cael eu trin fel sbarion! Yn anffodus, mae hyn yn siwr o effeithio yn ariannol ar y clwb, yn arbennig o ystyried mai Cei Conna a ddenodd un o'r torfeydd salaf y tymor (173) i'r Traeth eleni.
Yn anffodus, ar benwythnosau eraill sydd yn hanesyddol wedi denu torfeydd uwch na'r arferol, dydi'r gemau ddim yn debygol o ddenu torf fawr chwaith - er enghraifft, gêm gartref yn erbyn Hwlffordd sydd i edrych ymlaen iddi ar benwythnos y Pasg.

Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier League

Today the Welsh Premier announced next season's fixture list. Porthmadog start with a difficult game away at Carmarthen. Last season's corresponding fixture saw the teams deadlocked at 0-0 at Richmond Park - Paul Whelan will hope to inspire his team to at least as good a performance in his first game in charge. To follow the game at Carmarthen, the fixture list means that we will face both Bangor and Caersws twice in a fortnight!!
In attendance and financial terms, Port are extremely disappointed with the fixtures over the Christmas period. Port will not face a derby game - we welcome Connah's Quay on Boxing Day and make the 150 mile round-trip return to Deeside on New Year's Day. While all the other clubs in the league have been paired with their nearest neighbours in local derbys, it seems that Port and Connah's Quay have been treated as spare parts! Unfortunately, this is bound to affect the club financially, particularly when it's considered that Connah's Quay drew one of last season's poorest crowds (173) to the Traeth.
It is equally disappointing that on other weekends which have historically seen good attendances, the games are unlikely to draw in large crowds - for example, the Easter weekend sees a home game against Pembrokeshire side Haverfordwest.
15/06/08
Ffordd osgoi Porthmadog / Porthmadog by-pass

Wythnos diwethaf cynhaliodd y Llywodraeth y Cynulliad arddangosfa yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn er mwyn cyhoeddi'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer y ffordd-osgoi newydd ar gyfer Porthmadog. Bydd llwybr newydd yr A487 yn mynd ar hyd ochr y prif eisteddle o'r Traeth (gweler y llun isod). Fe fydd hi'n dal yn bosib i gerdded i'r maes ar hyd Lôn y Traeth (o Heol yr Wyddfa) ac o dan y ffordd newydd ond bydd rhaid i geir fynd ar hyd y ffordd osgoi o gyfeiriad Tremadog. Mae'r cynlluniau yn dangos y bydd rhan o'r maes parcio ar y Traeth yn cael ei golli i'r ffordd newydd - gobeithio bydd y Cynulliad yn talu i roi maes parcio newydd i'r clwb!
Os oes gan unrhywun sylwadau i'w gwneud am y cynlluniau, gallwch wneud hyn i Adran Drafnidiaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ cyn 3 Gorffennaf 2008.

Ffordd osgoi Porthmadog by-pass
 
Map llawn / Full map PDF | Dogfen Ymgynghori / Consultation Document PDF

Last week the Welsh Assembly Government held an exhibition at Glaslyn Leisure Centre in order to announce the latest plans for Porthmadog's new by-pass. The new route of the A487 will go along the main stand side of the Traeth (see the above photo). It will remain possible to walk to the ground along Lôn y Traeth (from Snowdon Street) and under the new road, however car drivers will need to go travel along the by-pass from the direction of Tremadog. The plans show that part of the Traeth car park will be lost to the new road - lets hope that the Assembly will pay for a new replacement for the club!
If anyone has any comments about the proposals, they can be made to Transport Wales, Welsh Assembly Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ.

Newyddion cyn 15/06/08
News pre 15/06/08

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us