Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
08/01/23
Rhys Alun yn gadael Y Traeth / Rhys Alun joins Caernarfon Town


Mae Rhys Alun i adael Y Traeth gan dderbyn y cynnig i ymuno â CPD Caernarfon.
Mynegodd Craig Papirnyk ei siom fod y clwb i golli Rhys ond roedd yn deall fod y siawns i chwarae yn y Cymru Premier yn un rhy dda i’w wrthod. Roedd yn diolch i Rhys am bob cyfraniad wrth iddo ddatblygu ei gêm gyda Port i fod yn chwaraewr arbennig. Diolchodd iddo am ei ran wrth sicrhau dyrchafiad y tymor diwethaf.
Bydd pawb yn y clwb am ddymuno’n dda i Rhys am y cyfraniad a wnaeth ac am y pêl-droed cyffrous a gafwyd ganddo. Yn brif sgoriwr y tymor diwetha’ gyda 23 gôl ac ar y blaen eto y tymor hwn gyda 7 gôl.
Pob lwc Rhys

Rhys Alun is to leave Port and sign for neighbours Caernarfon Town.
Manager Craig Papirnyk has released the following statement regarding his departure:
"We are extremely disappointed to be losing Rhys Alun to Caernarfon Town, the chance to play WPL was too much of a pull for Rhys to turn down. I would like to thank Rhys for everything, he’s developed with us and been a great player, particularly last season in our quest for promotion. All the best Rhys Alun !"
All at the club will wish to thank Rhys for his tremendous contribution, and for the exciting way he has played his football. Top scorer last season with 23 goals and leading score this time round with 7 goals.
Best of luck Rhys
06/01/23
TRI YN YMUNO / THREE NEW SIGNINGS


Mae Craig Papirnyk wedi cyhoeddi fod tri chwaraewr yn ymuno â’r clwb wrth iddo baratoi ei garfan at ail hanner y tymor.
GERWYN WILLIAMS, blaenwr a sgoriwr cyson yn yr Ardal North East ac yn ymuno o glwb Dolgellau.
CAIO HUGHES, chwaraewr canol cae ymosodol â llygad am gôl, yn yuno o CPD Y Felinheli.
GRUFF ELLIS, chwaraewr amddiffynnol neu canol cae addawol, sy’n ymuno o CPD Caernarfon.
Croeso i’r Traeth hogia’

Manager Craig Papirnyk has announced three January signings as he moves to strengthen his squad for the second half of the season.
GERWYN WILLIAMS, a striker and regular goalscorer in the Ardal North East, joins from Dolgellau AA.
CAIO HUGHES, an attacking midfielder with an eye for goal, joins from CPD Y Felinheli.
GRUFF ELLIS, a promising defender who can also play in midfield. Joins from Caernarfon Town.
Welcome to the club all three.

Mwy o Fanylion / More info
GERWYN WILLIAMS Blaenwr ydy Gerwyn Williams, ac yn ymuno o glwb Dolgellau lle bu’n sgoriwr rheolaidd. Y tymor hwn mae wedi bod yn un o brif sgorwyr yr Ardal North East yn rhwydo 17 gôl mewn 16 o gemau. Disgrifiodd Craig Papirnyk Gerwyn yn dalent prin a all ddatblygu, yn weithiwr caled gyda record sgorio wych dros y ddau dymor diwetha’. Chwaraeodd ei gêm gynta' dros Port yn erbyn Llandudno
CAIO HUGHES Chwaraewr canol cae ymosodol sydd a llygad am gôl. Mae Caio yn ymuno o CPD Y Felinheli. Ymysg ei gyn glybiau hefyd mae Llanrug a Chaernarfon. Dywedodd Craig amdano ei fod yn chwaraewr talentog llawn ynni fydd yn gyffaeliad i’r garfan.Chwaraeodd ei gêm gynta' dros Port yn erbyn Llandudno ar Y Traeth.
GRUFF ELLIS: Chwaraewr addawol 18 oed. Gall chwarae yn y cefn neu yng nghanol cae ac mae'n ymuno o glwb Caernarfon lle roedd yn rhan rheolaidd o Garfan Ddatblygol y clwb. Mae Craig yn ei weld yn chwaraewr addawol sydd hefyd yn lleol i glwb Port. Mae’n edrych ymlaen i’w weld yn datblygu wrth gael cyfle yn gêm yr oedolion. Gwnaeth ei ymddangosiad cynta i'r clwb o'r fainc yn erbyn Llandudno.

GERWYN WILLIAMS: is a striker who joined Port in January 2023 from Dolgellau AA where he was a regular goalscorer. One of the Ardal North East’s leading scorers who in the current season has 17 goals in 16 matches to his name. Craig Papirnyk describes him as a raw but rare talent a hard-working forward with an impressive goalcoring record over the past two seasons at Dolgellau.Made his Port debut against Llandudno at the Traeth.
CAIO HUGHES: is an attacking midfiellder with an eye for goal. He joins from CPD Y Felinheli. Other former clubs include Llanrug and Caernaron Town. Craig welcomes a talented player to the Traeth who will bring a lot of energy to the team.He made his debut at the Traeth against LLandudno.
GRUFF ELLIS Gruff is an 18 year-old defender or midfielder who joins from Caernarfon Town where he was a regular in their Development Squad. Craig sees him as an up and coming talent who is local to the club, and looks forward to seeing him develop in the senior game. Made his Port debut from the bench against Llandudno.
04/01/23
LLANDUDNO: Nos Wener / Friday night football: Y Traeth 7.30pm.


Noddwyr y Gêm / Match Sponsors: Belyn Financial Services
Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsors: Heler Foods Packing
Bydd Llandudno yn ymweld â’r Traeth Nos Wener gyda’r gic gynta am 7.30pm.
Bydd y clwb sydd yn y 3ydd safle yn nhabl y Cymru North yn edrych i gynnal eu sialens am ddyrchafiad, a hyn yn dilyn colli yn erbyn Y Wyddgrug yn eu gêm ddiwetha’ Er iddynt goli ddwywaith yn eu 4 gêm ddiwetha; rhwng y ddwy golled cawsant fuddugoliaethau sylweddol yn rhwydo 6 yn erbyn Y Waun a 5 yn erbyn Caergybi. Ymysg eu sgorywr oedd cyn chwaraewyr Port, Joe Chaplin a Julian Williams.
Draw yn Nhreffynnon dioddefodd Port eu hail golled o 4 gôl mewn 3 gêm’; hyn yn dra gwahanol i’w record amddiffynnol yng nghynt yn y tymor.Ond yn y gêm gyfatebol rhyngddynt â Llandudno cafodd Port eu canlyniad gorau o’r tymor yn curo o 1-0 gyda Rhys Alun (llun) yn rhwydo unig gôl y gêm.
Byddai canlyniad tebyg nos Wener yn dderbyniol iawn!
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022.

Llandudno will be the visitors to the Traeth on Friday evening with a 7.30pm kick off.
The Cymru North’s 3rd placed club will be looking to keep up their promotion challenge after suffering a home defeat to Mold Alex last time out. This was their 2nd defeat in the last 4 games. In between those defeats they gained high scoring victories; netting 6 at Chirk and 5 against Holyhead. Among the Maesdu club’s goal-scorers were former Port players, Julian Williams and Joe Chaplin.
At Halkyn Road, Port conceded 4 goals for a second time in 3 games; this in stark contrast to their early season defensive form. In the corresponding fixture at Llandudno, Port achieved their best result of the season, picking up a valuable 3 points thanks to a 1-0 victory with Rhys Alun (inset) netting the all-important winner. A repeat performance would be more than welcome on Friday.
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022
03/01/23
Adrefnu gêm Derwyddon / Druids game re-arranged


Mae yna ddyddiad newydd i gêm Derwyddon Cefn v Port
Dydd Sadwrn 4ydd Mawrth am 2 o’r gloch.

There is a new date for the game Cefn Druids v Port
Saturday 4th March, kick off at 2pm.
30/12/22
TREFFYNNON / HOLYWELL TOWN: Llun / Mon 2.00pm Halkyn Road Ground (CH8 7TZ).


Roedd mawr angen y fuddugoliaeth adra i Gonwy cyn y daith i Dreffynnon ar gyfer gêm anodd pnawn Llun, gyda’r gic gynta am 2 o’r gloch.
Mae’r clwb o Sir y Fflint yng nghanol rhediad arbennig sef 9 buddugoliaeth yn olynol ac, i ganfod y tro diwetha’ iddynt golli, rhaid edrych yn ôl i’r 3ydd Medi. Yn y gêm ar y Traeth, o flaen torf dda o 348, daeth gwyr y ffynnon yn ôl o ddwy gôl i lawr ar hanner amser i gipio 3 phwynt gyda buddugoliaeth o 3-2, a hynny efo 10 dyn am yr 20 munud ola’.
Gêm o ddwy hanner oedd honno gan ddangos gallu Port ond hefyd yr anawsterau maent yn cael wrth geisio reoli gêm ac amddiffyn mantais. Ond dangosodd y perfformiad i guro Conwy, mewn tywydd dychrynllyd, gyda’r amddiffynwyr Nathan Williams (llun) ac Iddon Price yn cyfrannu dwy o’r dair gôl, fod yna ysbryd a phenderfyniad yn y garfan, a bydd wir angen hwnnw yn Nhreffynnon.
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022

Following on from a much-needed win at home to Conwy Borough, Port will travel to Holywell for a difficult league fixture on Monday with a 2pm kick off.
The Flintshire club are in the midst of an outstanding run of 9 straight league wins and, to find their last league defeat, we have to search back to the 3rd of September. At the Traeth, in front of a 348 crowd, they recovered from a 2-0 deficit at half-time, to record a 3-2 win, despite playing with 10 men for the final 20 minutes.
That really was a game of two halves, showing clearly the ability in the Port squad but also that they find game management and defending a lead, a problem. The spirit in the squad, however, enabled them to overcome some dreadful weather conditions to get back to winning ways against Conwy, with defenders Nathan Williams and Iddon Price(inset) contributing two of the three goals. That spirit and determination will be very much in demand next Monday at Holywell.
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022
23/12/22
CONWY BOROUGH: Y Traeth. Dydd Mawrth yr Wyl / Holiday Tuesday ***1.30pm***


NADOLIG LLAWEN I BAWB / HAPPY CHRISTMAS to ALL

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i’r Traeth / The club looks forward to welcoming you to the Traeth.

Ar ddydd Mawrth yr Wyl croesawn clwb Conwy i’r Traeth. Cic gynta' 1.30pm. Bydd y gêm hon yn rhan o ymgyrch y JD Cymru Leagues, ar y cyd efo Shelter Cymru, NO HOME KIT, gyda chefnogwyr drwy Gymru yn cael eu hannog i wisgo ail neu trydydd cit y clwb.
Ar y cae bydd hon yn gêm o bwys i’r ddau glwb. Mae record ddiweddar y ddau glwb wedi bod yn siomedig. Un buddugloiaeth sydd gan Port yn eu 6 gêm ddiwetha’ tra, un fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal ydy record Conwy yn yr un nifer o gemau.
Yn ddigon eironig daeth unig fuddugoliaeth Port ar Y Morfa yn erbyn Conwy diolch i goliau hwyr iawn Jamie McDaid.
Yn eu gêm ddiwetha’ colli oedd hanes Port draw yn Cegidfa o 4-0 gyda Conwy hefyd yn colli a hynny o 3-2 yn erbyn Prestatyn.,br> Gallwn ddisgwyl tipyn o frwydr am y pwyntiau pnawn Mawrth, wrth i’r ddau glwb geisio osgoi cael eu tynnu i’r frwydr i aros yn y Cymru North.
C’mon Port!!
YMA o HYD 1872-2022

Highslide JS

On Holiday Tuesday we welcome Conwy Borough to the Traeth for a 1.30pm kick off. This game will be part of the joint JD Cymru Leagues and Shelter Cymru NO HOME KIT Campaign with supporters in Wales urged to ‘swap their home colours for an away or third kit.’
On the pitch however it will be a key fixture for both clubs. Recent records for both have been disappointing. Port with only one win in their last 6 matches while Conwy have one win and a draw in their last six.
Ironically enough that last Port win came in a late, late victory over Tuesday’s opponents Conwy thanks to a brace from super sub; Jamie McDaid.
Last time out Port suffered a 4-0 defeat at Guilsfield while Conwy lost narrowly 3-2 at home to Prestatyn.
We can anticipate a keen holiday contest as both clubs look to avoid being drawn into a relegation struggle.
C’mon Port!!
YMA o HYD 1872-2022
19/12/22
Ymgyrch #NoHomeKit / #NoHomeKit campaign


Bydd Port yn falch o gymryd rhan yn ymgyrch #NoHomeKit y Cymru Leagues a Shelter Cymru yn ystod ein gêm gartref yn erbyn Conwy ar 27 Rhagfyr. I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch hon cliciwch yma

Highslide JS

Port will be proud to take part in the Cymru Leagues and Shelter Cymru’s #NoHomeKit campaign during our home match against Conwy Borough on 27 December. To find out more about this campaign click here
16/12/22
Gêm heno wedi'i gohirio / Tonight's game OFF


Oherwydd y tywydd mae'r gêm heno yn erbyn y Derwyddon wedi'i gohirio

Tonight's game with Cefn Druids at the Rock has been postponed. This is hardly a surprise in view of the continuing freezing temperatures.
14/12/22
Diolch i YMDDIRIEDOLAETH REBECCA / Thanks to THE REBECCA TRUST


Dymuna swyddogion y clwb ddiolch i Ymddiriedolaeth Rebecca am eu rhodd o £1200. Bydd yr arian yn mynd at welliannau i doiledau dynion yn y clwb cymdeithasol. Gwerthfawrogwn eu haelioni a'u cefnogaeth yn fawr iawn.
Elusen lleol yw Ymddiriedolaeth Rebecca sydd yn cefnogi clybiau a mudiadau lleol yn ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yn flynyddol.

Club officials would like to thank the Rebecca Trust for their generous donation of £1200. The money will go for improvements to the men's toilets in the clubhouse. The club appreciate their generosity and support.
The Rebecca Trust is a local charity which has annually supported local clubs and organisations in the Porthmadog and Penrhyndeudraeth area.
14/12/22
DERWYDDON CEFN DRUIDS: Gwener / Friday The Rock 7.30pm


Os bydd y tywydd a chyflwr y cae yn caniatau bydd Port yn teithio nos Wener i’r GRAIG, CEFN MAWR (LL14 3YF), cartre’r Derwyddon Cefn.
Mae’r clwb o ardal Wrecsam bellach yn y 4ydd safle yn y tabl ond yn dal 5 pwynt yn brin o’r ceffylau blaen. Yn eu géêm ddiwetha’ cawsant fuddugoliaeth o 6-1 dros Y Waun ac maent yn ddiguro yn eu 5 gêm ddwtha’ gan ennill 4 ohonynt.
Yn y gêm gyfatebol ar Y Traeth colli oedd hanes Port o 2-1 mewn gêm gystadleuol wrth i gôl gan Rhys Alun ei cadw yn y gêm tan i wrth ymosodiad sydyn arwain at gôl Callum Stephens a pwyntiau llawn i’r Derwyddon. Roedd Port yn haeddu rhannu’r pwyntiau ond ers hynny aeth pethau ar i lawr gan golli’r tair gêm nesa’. Ynghynt yn y tymor cafywd buddugoliaeth o 3-1 dros dîm ifanc y Derwyddon yng Nghwpan y Gynghrair.
Bydd angen dechrau codi pwyntiau eto os ydy Port i rwystro y llithro lawr y tabl gan ddychwelyd at y math o ganlyniadau addawol a gafwyd ynghynt yn y tymor. C’mon Port!!
YMA o HYD 1872-2022

Weather and ground conditions permitting Port will travel to THE ROCK, CEFN MAWR (LL14 3YF) home of Cefn Druids, on Friday evening for a Cymru North fixture.
The Wrexham area club are now up to 4th place in the table but remain 5 points adrift of the top three. Last time out they were 6-1 winners over Chirk AAA and are unbeaten in their last 5 fixtures; winning 4 of them.
In the corresponding fixture at the Traeth, Port went down to an odd goal defeat in what was an even contest with a Rhys Alun goal keeping Port on level terms, until a breakaway Callum Stephens goal sent the Druids home with all 3 points. Port were unfortunate not to share the points but since then their form has been in decline with 3 defeats. Earlier in the season Port recorded a 3-1 win over a youthful Druids team in the League Cup.
A return to picking up points is now urgent if Port are to stop the slide down the table from their promising progress earlier in the season.
C’mon Port!!
YMA o HYD 1872-2022
09/12/22
CEGIDFA / GUILSFIELD: Nos Fawrth / Tues 7.30pm (SY21 9ND)


Cymru Leagues Gan fod y rhestr gemau wedi’i throi ar gyfer ail hanner y tymor mae Bwcle, ein gwrthwynebwyr 3 wythnos yn ôl, yn ymweld â’r Traeth pnawn Sul.
Yn y gêm gyfatebol ar y Globe Way, Bwcle sicrhaodd y fuddugoliaeth a 3-1 a byddant yn cyrraedd y Traeth yng nghanol rhediad llwyddianus, sydd wedi eu codi i’r chwe ucha’ yn y tabl.
Mae Port, erbyn hyn, gwir angen y pwyntiau, yn dilyn rhediad diweddar siomedig iawn, gan gynnwys colli’n drwm yng Nghegidfa nos Fawrth. Mae’r canlyniadau diweddar yma wedi gadael cefnogwyr yn gofyn beth sydd wedi digwydd i garfan a sicrhaodd perffomiadau addawol a canlyniadau calonogol ynghynt yn y tymor. Bydd ymweliad clwb ar rhediad da yn golygu fod rhaid i Port godi eu gêm er mwyn sicrhau canlyniad.
Amdani i dorri’r rhediad gwael.
C’mon Port!!

A quick turnaround of matches as the fixture list is reversed for the second half of the season, brings Buckley Town to the Traeth for SUNDAY afternoon fixture.
The Bucks were 3-1 winners at Globe Way 3 weeks ago and they will arrive at the Traeth on Sunday in very good form, form which has put them in 6th spot in the table.
Port are badly in need of points and needing a result to break the recent string of poor outcomes especially that defeat at Guilsfield on Tuesday. These results have left supporters wondering what has happened to squad that produced the promising early season results. A visit from an in-form team means that Port will need to raise their game considerably.
Let’s break the sequence. Go for it!
C’mon Port !
09/12/22
Llongyfarchiadau Meilir / Congratulations Meilir.


Y blaenwr Meilir Williams ydy dewis y cefnogwyr ar gyfer Chwaraewr y Mis am Dachwedd. Rhwydodd gôl wych ar y Traeth yn erbyn Cegidfa, gyda foli i’w chofio am hir. Aeth y gôl hon â’I gyfanswm i 4 gôl am y tymor hyd yma. Dychwelodd Meilir i’r Traeth o Gonwy ar gychwyn y tymor hwn.
Longyfarchiadau Meilir.

Forward Meilir Williams has been voted Player of the Month for November. A super volley to score an outstanding goal against Guilsfield at the Traeth took his goal tally to 4 goals for the current season. Meilir returned to the Traeth from Conwy Borough at the start of the season.
Congrats Meiir.
04/12/22
CEGIDFA / GUILSFIELD: Nos Fawrth / Tues 7.30pm (SY21 9ND)


Cegidfa, ein gwrthwynebwyr diwetha’, fydd hefyd ein gwrthwynebwyr nesa hefyd ar Gae y Ganolfan Gymdeithasol, NOS FAWRTH gyda’r gic gynta’ am 7.30pm.
Yn y gêm ar y Traeth cafodd y clwb o’r canolbarth fuddugoliaeth hwyr iawn a felly symud un lle uwchben Port i’r 9fed safle. Yn dilyn cychwyn araf i’r tymor, bellach mae Cegidfa wedi ennill 3, a 2 yn gyfartal o’u 6 gêm ddiwetha’.
Roedd y gêm ar y Traeth yn nodweddiaol hefyd am ddwy o goliau arbennig; gôl Joe Cook i’r ymwelwyr yn troi fewn i’r gongl ucha’ a foli wych MEILIR WILLIAMS yn rhoi gôl gynnar i Port.
Y gôl hon, yn ogystal a gôl dda arall yn erbyn Bwcle, sicrhaodd i Meilir, Chwaraewr y Mis am fis Tachwedd. Yn anffodus, er safon y goliau, ni sicrhawyd pwyntiau o’r gemau yma ac mae colli 3 gêm yn olynnol yn fater o ofid. Methwyd sicrhau pwyntiau oherwydd goliau yn y munudau ola’ a hefyd ar ôl cael blaenoriaeth arwyddocaol o 2-0 mewn gemau.
Mis newydd, gêm nesa’ a sialens arall.
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022

Guilsfield, who were Port’s last opponents, are also their next opponents with a visit to the Community Centre Ground on TUESDAY EVENING for a 7.30 pm kick off.
At the Traeth, Guilsfield edged a narrow victory with a late, late winner. This win moved the mid-Wales club one place above Port in the table to 9th. After a slow start to the season the Guils have won 3 and drawn 2 of their last 6 games.
The game at the Traeth also featured two top quality goals. Joe Cook’s added time winner curling in at the top corner and MEILIR WILLIAMS’ super volley to give Port the early lead.
This goal, together with another excellent strike at Buckley, earned Meilir the Player of the Month for November. Unfortunately, these quality goals did not yield any points for Port and three straight defeats are now a cause for concern. The concern will centre on game management as another point disappeared late on and this goes with other significant early two goal leads surrendered.
New month, next game and fresh challenges.
C’mon Port!!
YMA O HYD 1872-2022
04/12/22
Cwpan y Gynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru / Welsh Blood Service League Cup


Daeth yr enwau allan ar gyfer rownd cynderfynol Cwpan y Gynghrair ym mhrif swyddfa CBDC
Port v Y Waun
Bae Colwyn v Cegidfa neu Llandudno

Ni chaiff y gemau eu chwarae tan MAWRTH 18 2023.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn y gogledd yn chwarae enillwyr y Cymru South a dyma sut ddaeth yr enwau allan yn y de.
Llansawel v Trefelin
Ynyshir v Barri

The draw has been made for the semi-finals of the Cymru North League Cup was made at FAW HQ as follows:
Port v Chirk AAA
Colwyn Bay v Guilsfield or Llandudno.

The games will not be played until MARCH 18th.2023
The eventual winners will take on the winners in the Cymru South where the draw resulted in the following:
Briton Ferry Llansawel v Trefelin BGC
Ynyshir Albions v Barry Town United
02/12/22
Dim Gemau JD Cymru North / No matches in the JD Cymru North


Cymru Leagues Nid fydd gemau yn y Cymru North dros y penwythnos
Bydd Port yn chwarae ei gêm nesa’ ar NOS FAWRTH, Rhagfyr 6ed
Cegidfa v Port Canolfan Gymunedol cic gynta’ 7.30pm. (SY21 9ND)
Bydd y 7 gêm arall yn y JD Cymru North yn cael eu chwarae ar y nos Fercher.
Bydd y gêm adra’ nesa ar bnawn SUL, 11eg Rhagfyr
Port v Buckley Town 2,30pm

There will be no games in the JD Cymru North this weekend.
Port will return to Cymru North action on TUESDAY evening, December 6th.
Guilsfield v Port @Community Centre Ground k.o 7.30pm (SY21 9ND)
The other 7 JD Cymru north games will be played on Wednesday evening.
The next home game will be on SUNDAY 11th December
Port v Buckley Town k.o 2.30pm
30/11/22
Gwelliannau o gwmpas y cae / Ground improvements


Bydd cefnogwyr wedi sylwi fod y datblygiadau o gwmpas y cae yn mynd yn eu blaen. Yn ei nodiadau yn y Rhaglen mae ysgrifennydd y clwb, Chris Blanchard, yn sôn am y gwaith pwysig hwn, llawer ohono yn dal i fynd yn ei flaen.
Dros y blynyddoedd diweddar mae’r clwb wedi diodde’ oherwydd llifogydd.
Mae Chris yn dweud fod yna ddatblygiadau sylweddol wedi bod i’r amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd, gyda’r wal o flaen y Clwb wedi ei hadeiladu ac yn aros am ychydig waith gorffenedig.
Hefyd mae’r portacabin ar ymyl y cae wedi cael tro 90 gradd ac ei godi 60mm er mwyn cadw allan llifogydd posib’. Mae llawer yn aros i’w wneud ond mae’n addo i gefnogwyr y byddant yn gweld newid mawr yn ystod yr wythnosau nesa’.
. Newid arall sydd ar y gweill ydy i’r hen eisteddle wrth mynedfa’r chwaraewyr i’r cae. Bydd hwn yn cael ei droi i fod yn storfa ar gyfer offer ymarfer a gemau, gan rhyddhau lle yn yr ystafelloedd newid i greu ystafell newydd gyda chawod at yr adegau pan fydd swyddogion o rhyw gwahanol ar ddyletswydd.
Diolchodd Chris yn arbennig i Rob Bennett a Clive Hague sydd wedi bod mor allweddol i’r gwaith yma ac wedi cwblhau rhan helaeth ohono.

Supporters will have noted that developments around the ground are contnuing. In his match programmes notes club secretary Chris Blanchard draws attention to this important work some of which are ongoing.
The club has suffered serious flood damage over recent years to the Clubhouse in particular and Chris says:
“Our flood defences have made great progress, the front defence wall to the front of the of the club house has been built and we are just waiting for the coping stones to be laid to finish the work off.
“You may also have noticed that the portacabin at the side of the ground has been swung round 90 degrees and lifted 60mm to keep out potential flood water, there is still a lot to do but hopefully you will see a big difference in the coming weeks,
“Finally the small old stand next to where the players enter the field of play is being converted into a storeroom for training and matchday equipment which will free up space in the changing rooms to create a new room, complete with shower, for those times when we have officials of different genders.
“A very big thank you to both Rob Bennett and Clive Hague who have done the bulk of the work.
28/11/22
TOCYNNAU RHODD / GIFT VOUCHERS


Mae gan y clwb Docynnau Rhodd ar gael, Ar gael yn y symiau £5, £10, £20
Maent ar gael nawr ar gyfer y Nadolig, Penblwydd neu unrhyw achlysur.
Gall y tocynnau rhodd gael eu cyfnewid wrth y bar, yn y cantîn, yn y siop neu mynediad i gemau.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Dylan:
rees48wesla@gmail.com

Highslide JS

The club now have Gift vouchers available to the value of £5, £10 or £20
They are available now for Christmas, Birthdays or any occasion.
The vouchers can also be exchanged at the bar, in the canteen or shop or for entry to matches
For more information please contact Dylan:
rees48wesla@gmail.com
Newyddion cyn 28/11/22
News before 28/11/22

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us