Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
28/10/21
Rhagolwg / Preview: Port v Llay Welfare

Noddywr / Match Sponsors: TOYOTA HARLECH
Pnawn Sadwrn bydd Port yn ôl ar y Traeth ac yn croesawu Llai am gêm gynghrair. Mae’r clwb o ardal Wrecsam ar rhediad da ac heb golli yn eu 4 gêm ddiwetha; yn ennill 2 a 2 yn gyfartal. Mae’r rhediad yn cynnwys rhoi cweir 8-1 i glwb Dinas Llanelwy.
Rhybudd amserol i amddiffyn Port, mae dau o flaenwyr Llai, Jon Taylor a Tom Wells ymysg y 6 prif sgorwyr yr adran.Mae’r ddau wedi rhwydo 9 gôl yr un y tymor hwn. Yn wir mae Llai wedi sgorio 33 o goliau yn y gynghrair sydd ond 2 yn brin o gyfanswm Port.
Rhwydodd Wells y Sadwrn diwetha’ wrth i Llai ddal Llanuwchllyn i gêm gyfartal, a hynny yn y diwedd diolch i gôl gan Ryan Goodhead yn y 96ed munud.
Ar hyn o bryd mae ein gwrthwynebwyr yn yr 8fed safle yn yr ANW yn ennill 5 a dwy yn gyfartal.
Felly gallwn ddisgwyl sialens anodd pnawn Sadwrn wrth i’r frwydr am y safleoedd ucha’ ddal i boethi.
C’mon Port

On Saturday Port are back at the Traeth when they welcome Llay Welfare. The Wrexham area club are in a good run of form and are unbeaten in their last 4 games, winning two and drawing two. That run includes an 8-1 drubbing of St Asaph City.
A timely reminder to the Port defence is that two Llay strikers, Jon Taylor and Tom Wells, figure in the top six leading goalscores in the ANW. Both have netted 9 league goals this term. The club have scored 33 goals in the league this season: just 2 fewer than Port.
Wells netted in Llay’s top performance last weekend, sharing the points with Llanuwchllyn with Ryan Goodhead netting a 96th minute equaliser against our promotion rivals.
They lie in the 8th place in the ANW table having won 5 games and drawn two.
So another tough challenge can be expected on Saturday as th promotion race hots up.
C’mon Port!!
27/10/21
Marcus yn ngharfan Futsal Cymru / Euro Futsal place for Marcus

Mae Marcus Banks wedi cael ei ddewis i gynrychioli tîm Futsal Dynion dan 19 oed Cymru ac yn chwarae mewn gemau yn rownd rhagbrofol Grwp A yr Ewros yn San Marino.

Gêm 1: 03.11.2021 1600 yn erbyn Andorra
Gêm 2: 04.11.2021 1900 yn erbyn San Marino
Gêm 3: 06.11.2021 1500 yn erbyn Estonia

Llongyfarchiadau Marcue a phob lwc

Marcus Banks has been selected to represent the Wales Men’s National Futsal Under-19 Squad for the Under-19 Futsal EURO Preliminary Round Group A Mini-Tournament in San Marino.

MD1: 03.11.2021 1600 vs. Andorra
MD2: 04.11.2021 1900 vs. San Marino
MD3: 06.11.2021 1500 vs. Estonia

Congrats Marcus and best of luck
26/10/21
Yn Brymbo / At Brymbo

Yn Brymbo pnawn Sadwrn dangosodd y garfan Y CERDYN COCH i Hiliaeth.. Hefyd yn Brymbo cyflwynwyd Tlws Clwb y Mis gyda’r cadeirydd, Phil Jones a'r ysgrifennydd Chris Blanchard yn derbyn ar ran y clwb..

Highslide JS Highslide JS


Highslide JS

At Brymbo on Saturday players showed the RED CARD to Racism
At Brymbo also the Club of the Month award was presented, with chairman, Phil Jones and club secretary Chris Blanchard, accepting on behalf of Port.

Lluniau/ Photos Dylan Elis
26/10/21
Yr ifanc yn disgleirio eto / Youth shine again

Mae chwaraewyr ifanc yr Ail-dîm yn dal i greu argraff wrth i Craig Papirnyk rhoi’r cyfle iddynt gyda’r garfan gynta’. Yn barod roedd Sol Kempster a Cian Pritchard a’r golwr Brad Roberts wedi cychwyn gêmau.
Gyda chymysgfa o anafiadau a diffyg argaeledd nifer o chwaraewyr profiadol, mae’r rheolwr wedi roi ei ffydd yn nhrefn datblygol y clwb; sefyllfa sydd yn siwr o roi boddhad i Aaron Lee-Rickards, rheolwr yr Ail-dîm.
Cychwynodd Sol Kempster a Rhys Hughes y gêm draw yn Brymbo gyda Cian Pritchard, Callum Jones, Aron Jones a Carwyn Foster yn dod o’r fainc a chyfrannu at y fuddugoliaeth. Carwyn yn dilyn ôl troed ei dad: Mike Foster. Sylw, Teflyn Jones, sylwebydd gemau’r wefan, oedd, “Bu Port yn ddigon dewr i ddod a nifer o eilyddion ymlaen gyda phob un ohonynt yn rhoi perfformiadau i’w canmol.”
Yn amlwg roedd Treflyn wedi’i blesio’n fawr gyda ymddangosiad 20 munud Aron Jones. Meddai, “Cafwyd perfformiad 20 munud i ddenu’r llygad gan Aron Jones, dyna ichi addewid! Nid yn unig yn chwarae’n dda ond hefyd trawodd ergyd a oedd yn haeddu gôl ond cafodd ei rwystro gan arbediad a ddisgrifiodd fy nghyd deithiwr Morris, yn gywir, fel un ‘rhyfeddol’.
Felly edrychwn ymlaen i weld mwy o’r hogyn o ‘Stiniog

Highslide JS

The young Reserve team players continue to make their mark when given first team experience by Craig Papirnyk. Already Sol Kempster, Cian Pritchard and keeper Brad Roberts have made first team starts.
With a mixture of injuries and the unavailabilty of senior players, the manager has put his trust in the club’s development system, a situation which must give great satisfaction to Reserve team manager Aaron Lee-Rickards.
Sol Kempster and Rhys Hughes started at Brymbo while Cian Pritchard, Callum Jones, Aron Jones and Carwyn Foster all came off the bench to play their part in the win. Carwyn following in the footsteps of father, Mike. Our website match reporter, Treflyn Jones, said of their performances “Port bravely made several substitutions with every single one of them producing praiseworthy performances.”
Treflyn Jones, was clearly very impressed with Aron Jones’ 20 minutes at Brymbo, commenting:
“A truly eye-catching cameo was supplied over the space of 20 minutes by Aron Jones. What a prospect! Indeed, he not only played well but he thundered a goal-worthy shot on target only to be thwarted by a save which my travelling companion, Morris, most accurately described as ‘astonishing’”.
We will look forward to seeing more of this. Ffestiniog youngster

LLun / Photo Dylan Elis
24/10/21
Newid (2) i’r Rhestr Gêmau / Fixture Change (2)

Dylai cefnogwyr nodi y newid isod I’r rhestr gêmau.
Bydd y gêm gartref gyda Y FELINHELI yn ymweld â’r Traeth yn cael ei chwarae ar NOS WENER 5ed TACHWEDD
.. Bydd y gic gynta’ am 7.45pm.

Supporters should note the following fixture change
The home fixture when Y FELINHELI visit the Traeth will switch to FRIDAY night 5th NOVEMBER
Kick-off will be at 7.45pm.
24/10/21
Newid (1) i’r Rhestr Gêmau / Fixture Change (1)

CBDC / FAW Mae’r gêm ANW oddi cartref yn Rhydymwyn a oedd I’w chwarae ar 13/11/21 wedi’I gohirio a caiff ei hadrefnu I ddyddiad arall.
Ar Sadwrn 13/11/21 bydd y gêm rhagbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru a Belarws yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd.
DIM ESGUSOGION !! Cefnogwch y WAL GOCH
Amdani Cymru

The away fixture to Rhydymwyn on 13/11/21 has been postponed.The game will be re-arranged to a later date.
The game clashes with the important World Cup Qualifier between Wales and Belarus on that date.
NO EXCUSES NoW!! Get behind the RED WALL
C’mon Wales
21/10/21
Rhagolwg / Preview: BRYMBO v Port

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Brymbo ar gyfer gêm gynghrair ANW. Hon fydd yr ail dro y tymor hwn i Port ymweld a Cae’r Crick gan yma hefyd chwaraewyd gêm Tlws CBDC gyda Cefn Albion. Gobeithio y cawn berfformiad gwell y tro yma, a hefyd canlyniad gwell yn dilyn y siom yn Llandudno yn Rownd 1 Cwpan y Gynghrair y Sadwrn diwetha’. Ar ôl gêm gynghrair gyfartal yn erbyn Dinbych bydd sicrhau y 3 phwynt yn bwysig y tro hwn.
Mae Brymbo ar rhediad siomedig iawn ar hyn o bryd yn colli bob un o’u 5 gêm ddiwetha’. Colli 3-1 i Llanuwchllyn, y clwb ar ben y tabl, oedd eu hanes y penwythnos diwetha’. Ar hyn o bryd maent yn y 10fed safle yn y tabl sy’n siom ar ôl cychwyn da i’r tymor gan arwain y tabl am gyfnod.
Mae Cae’r Crick yn rhan o ganolfan chwaraeon yn College Hill, Tanyfron, Wrecsam LL11 5TF
Amdani! C'mon Port!

On Saturday Port will travel to Brymbo for an ANW fixture. This will be their second visit of the season to ‘The Crick’, Brymbo, as it was also the venue for the FAW Trophy tie with Cefn Albion. Hopefully there will be a much-improved display on this occasionand a positive result following last Saturday’s League Cup disappointment against Llandudno Albion.
Brymbo are in a poor current run of 5 straight league defeats. Last time out they were beaten 3-1 at home to league leaders Llanuwchllyn. They lie in 10th spot in the table, a disappointment following a decent start to the season which made them early season leaders.
The Crick Ground is part of a sporting complex at College Hill, Tanyfron, Wrexham LL11 5TF
C'mon Port!
16/10/21
RYDYM ANGEN EICH HELP / WE NEED YOUR HELP

Gyda gwaith adnewyddu Stadiwm y Traeth bellach bron wedi ei gwblhau a’r rhan nesaf o’r gwaith - yr amddiffyn rhag llifogydd - ar fin cychwyn, y sialens nesaf i’r clwb oddi ar y cae yw un o brinder cyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr. Fel y gwyr nifer o gefnogwyr mae y clwb wedi colli sawl swyddog blaenllaw yn y ddwy flynedd diwethaf.
Bellach mae cyfartaledd oeddran yr unigolion sydd yn rhedeg y clwb o ddydd i ddydd yn 64 ac mae yr amser wedi cyrraedd i recriwtio rhai eraill i helpu symud y clwb ymlaen. Nid oes rhwystr oedran i estyn cymorth i’r clwb, ond wrth edrych ar y tymor hir mae denu unigolion iau yn hanfodol. Ymunodd llawer o’r rhai sydd yn helpu yn bresennol yn eu 30au neu 40au.
Byddai faint o ymroddiadad y gallwch wneud i fyny i’r unigolyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Y prif ffocws fyddai ar ddiwrnod gêm, ond byddai cymorth ar adegau eraill yn hynod ddefnyddiol hefyd.
Nid oes dim wedi newid gyda ymroddiad y cyfarwyddwyr presennol, ond maent angen help ar fyrder ac mae rhaid i’r broses ddechrau yn awr. Os yda chi awydd rhoi help llaw yna cysylltwch a cyfarwyddwyr y clwb; Richard Jones neu Dylan Rees drwy ebost neu ffôn.

Manylion cyswllt:
Richard Jones 07423189011 neu richard.powell.jones@btinternet.com
Dylan Rees 07900 512345 neu rees48wesla@gmail.com




Highslide JS

With major improvements to the Traeth Stadium now almost complete and the next critical phase - the flood defences - about to begin, the next challenge the club faces off the pitch is that of personnel. Many of our supporters will be aware that we have lost several club stalwarts in the last couple of years.
With the average age of those running the club on a day to day basis being 64, the time has arrived to recruit both new directors and new volunteers. There is no age barrier for either role, indeed with age comes knowledge and experience. However, when looking at the medium to long term future of the club there must be a pathway for new blood. Many of the current incumbents were in their 30’s or 40’s when they first became involved.
The extent of your involvement would be totally up to the individual, dependent of course on their circumstances. The main focus would be on match day, but certainly not exclusively.
The current board members are fully committed to the club, but this process must start now. If you would like to help the club then please contact club directors Richard Jones or Dylan Rees by email or phone.

Contact details.
Richard Jones 07423189011 or richard.powell.jones@btinternet.com
Dylan Rees 07900 512345 or rees48wesla@gmail.com

14/10/21
Rhagolwg / Preview: Llandudno Albion v Port

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Llandudno I chwarae’r Albion ar Barc Maesdu, y cae 3G maent yn rhannu gyda chlwb tref Llandudno, Yn dilyn cyfres o 4 gêm gynghrair yn olynol, gêm yn Rownd 1 Cwpan Cynghrair Ardal Northern Lock Stock fydd hon. .
Hyd yma mae 5 gêm wedi eu chwarae yn y gystadleuaeth, gyda Nantlle Fêl, Dinas Llanelwy, Llai, Rhostyllen a Saltney eisoes wedi sicrhau eu llefydd yn yr Ail Rownd.
Tymor cymysglyd mae’r Albion wedi cael hyd yma, yn colli 3 gêm yn y gynghrair ond hefyd yn sicrhau 3 buddugoliaeth. Y penwythnos diwetha colli oedd ei hanes o 5-0 i Llanuwchllyn y clwb yn yr ail safle yn yr Ardal NW. Ond y Sadwrn cynt dim ond ar ôl ciciau o’r smotyn y llwyddodd Y Wyddgrug i fynd drwodd yn ei herbyn yn Tlws CBDC. .
Ond ar y Traeth roedd neb yn llwyddo i ganfod y rhwyd yng nghêm fawr y dydd. Roedd sylw Treflyn yn ei Adroddiad ar y gêm yn berthnasol iawn; “...rhaid dweud fod methu creadigrwydd Julian Williams a Marcus Banks yn golled fawr.” I’r enwau yma medrwn ychwanegu rhai Ifan Emlyn a Jamie McDaid, y ddau yn methu’r gêm drwy anaf.
Byw mewn gobaith y caiff Craig Papirnyk ddewis tîm o garfan lawn gyda hyn. Ond tra yn aros i hyn ddigwydd da gweld y ffordd mae talent ifanc yr Ail-dîm yn dod i’r adwy ac roedd perfformiad yr amddiffynnwr ifanc Sol Kempster yn erbyn Dinbych, yn tanlinellu hyn.
Y Cwpan! Ewch amdani! C’mon Port! .

On Saturday Port will travel to Llandudno to take on the Albion, a club which ground shares the artificial pitch at Maesdu Park with Llandudno Town. Following a run of 4 consecutive league fixtures it will be a Round 1of the Lock Stock Ardal Northern League Cup on Saturday.
Five ties have already been played with Nantlle Vale, St Asaph City, Llay Welfare, Rhostyllen and Saltney Town having already secured a place in Round 2 of the competition.
The Albion have had a mixed season with 3 wins and 3 defeats in the league programme to date and lie in 10th spot in the table. Last weekend they suffered a 5-0 defeat at the hands of 2nd placed Llanuwchllyn but the previous Saturday ran Mold Alex close in the FAW Trophy going out only after a penalty shoot-out.
Meanwhile at the Traeth it was stalemate in last Saturday top of the table clash. Treflyn put his finger on a significant matter with his match report comment “… it must be said that the absence of the creative duo of Julian Williams and Marcus Banks was sorely missed.” To that creative list can be added Ifan Emlyn and Jamie McDaid who have both missed out with fairly long term injuries.
Let’s hope that the injury concerns will soon be behind us and a full strength squad will be available to Craig Papirnyk. In the meantime the young reserves are doing an excellent job of supplementing the senior squad as underlined by Sol Kempster’s excellent defensive perfomance against Denbigh.
Up for the Cup. C’mon Port!!
11/10/21
CLWB y MIS / CLUB of the MONTH

Mae’n werth cyhoeddi’r datganiad isod o eiddo Cynghrair yr Ardal Northern a rhyddawyd ar ei gwefan swyddogol wrth iddynt wobrwyo CPD Porthmadog yn Glwb y Mis am Awst.

Porthmadog are the club of the month for August. The award is made based on among other things the club’s disciplinary record, COVID protocol and communication.
Porthmadog will receive a memento and have one of their games sponsored by Lock Stock the league’s official sponsor.


When CPD Porthmadog were named Club of the Month for August this complimentary statement was released by the Ardal Northern on their official website.
08/10/21
Phil ar ‘AR y MARC / Phil on Radio Cymru

Phil Jones Roedd yn dda clywed ein cadeirydd Phil Jones yn ei hwyliau ar AR y MARC heddiw ac yn edrych ymlaen at gêm fawr y pnawn rhwng Port a Dinbych gyda Dylan Jones. Hefyd ar y rhaglen ac yn cynrychioli Dinbych oedd cyn chwaraewr Port Owain Roberts. I gwblhau y cysylltiad ‘Portaidd’ y panelwyr heddiw oedd cyn rheolwr Port Meilir Owen a cyn chwaraewr i’r clwb Owain Tudur Jones.

Club chairman Phil Jones took part in the Radio Cymru football show ‘Ar y Marc’ today, looking ahead to this afternoon’s big game at the Traeth. Represnting Denbigh Town was former Port midfielder Owain Roberts.



07/10/21
Rhagolwg / Preview: Port v Dinbych / Denbigh

Noddwr / Match Sponsor: DarlunHome
Noddwr y Bêl / Match Ball Sponsor: Pritchard Griffiths
Pnawn Sadwrn byddwn yn croesawu CPD Dinbych i’r Traeth a hon yn sicr fydd gêm y diwrnod yn yr Ardal Northern. Bydd yna dipyn yn y fantol ond er hynny mae’n dal yn gynnar iawn i’r gêm hon fedru setlo dim.
Bydd hon yn gêm rhwng dau glwb sydd wedi arfer â chwarae ar lefel uwch gyda’r ddau yn chwilio am y cyfle cynta’ posib i adfer statws Haen 2.
Bydd hefyd yn gêm rhwng y ddau glwb sydd a’r gefnogaeth orau yn yr adran a gêm rhwng y 1af a’r Ail yn y tabl, er fod gan yr ymwelwyr gêm mewn llaw.Mae’r ddau glwb hefyd yn gynta’ ac ail yng Nghynghrair Chwarae Teg yr Ardal NW
Yn fwy arwyddocaol efallai, mae’n gem rhwng yr amddiffyn gorau yn yr adran ac yr ymosod mwyaf llwyddianus . Dim ond 5 gôl sydd wedi mynd i rhwyd Dinbych mewn 7 gêm tra fod Port wedi sgorio 33 o goliau mewn 8 gêm.
Unwaith mae Port wedi colli, tra fod Dinbych yn dal yn ddi-guro gyda’r Wyddgrug wedi eu dal i gêm gyfartal.
Dau ystadegyn arall: rhwydodd Jake Walker ddwywaith i Ddinbych i roi buddugoliaeth dros Saltney y penwthnos diwetha’ tra fod Paul Lewis wedi rhwydo yn y 3 gêm ddiwetha’ dros Port gan gynnwys 2 pnawn Sadwrn yn erbyn Rhostyllen.
Bydd hyn i gyd yn ei gwneud yn gêm na ddylech fethu.
C’mon Port!!

On Saturday we welcome Denbigh Town to the Traeth in what is undoubtedly the Ardal Northern’s Match of the Day. There is a huge amount at stake though it remains far too early in the season to settle anything.
Here we have two clubs who are used to a higher level and both are looking for the earliest possible opportunity to regain Tier 2 status.
It is a game between the two best supported clubs in the division, a game between the 1st and 2nd in the table though the visitors have a game in hand. The two clubs are also 1st and 2nd in the Ardal NW Fair Play League.
More significantly it is a game between the league’s best defence and the league’s best attack. Denbigh have conceded just 5 goals in 7 games while Port have scored 33 goals in 8 games.
Port have lost just once while Denbigh remain unbeaten dropping their only points in a draw with Mold Alex.
Here’s a couple of stats: Jake Walker netted twice to give Denbigh their win over Saltney last weekend while Paul Lewis netted twice for Port, to bring his recent goal tally to 4 goals in the last 3 games.
All of this makes it a game not to be missed.
C’mon Port!!
07/10/21
Crysau 2021-22 yn siop y clwb! / 2021-22 shirts in the club shop!

Chwilio am anrheg 'Dolig cynnar i gefnogwr Port?! Os felly, mae yna newyddion da! Mae crysau cartref ac oddi-cartref tymor 2021-22 bellach ar werth yn siop y clwb ar y we! Felly be 'da chi'n aros am?! Ymwelwch â'r siop!

Crys cartref 2020/21 / 2020/21 Home shirt Crys oddi-cartref 2020/21 / 2020/21 Away shirt

Looking for an early Christmas present for a Port supporter? If so, there's good news! Our 2021-22 home and away shirts are now available on the club's web shop! So what are you waiting for?! Visit the club shop!
Newyddion cyn 07/10/21
News before 07/10/21

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us