Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
23/08/21
Oddi cartref yn Rownd 4 / Away in Round 4

Bydd Port oddi cartref yn erbyn CEFN ALBION yn Rownd 4 o’r Tlws Amatur CBDC. Bydd hon yn dipyn o brawf i Port gan mai Cefn Albion oedd enillwyr y Tlws yn 2018/19.
Chwareir y gêmau yn rownd 4 ar Sadwrn, 11eg Medi.

Port have been drawn away to Ardal North East club CEFN ALBION in Round 4 of the FAW Amateur Trophy. This will be a tough test for Port facing the 2018/19 winners of the Trophy.
The games in Round 4 will be played on Saturday, September 11th.
22/08/21
Port v Llanrwst: Nos Fawrth / Tuesday

Noddwyd / Sponsored: Er Cof am MEIRION PARRY / In memory of MEIRION PARRY
Noddwr y Bêl / Match ball sponsor: H E Williams Syrfeiwr Siartriedig / Chartered Surveyor

Nos Fawrth nesa’, yn dilyn dwy fuddugoliaeth cynghrair oddi cartre’ dros Saltney a Blaenau Ffestiniog, bydd Port yn chwarae eu gêm adre’ gyntaf, pan fydd Llanrwst yn ymweld â’r Traeth.
Mae Llanrwst hefyd wedi cychwyn y tymor yn gry’ ac maent eto i golli ar ôl 3 gêm gynghrair sydd yn ei rhoi yn yr 3ydd safle mewn tabl sydd, ar hyn o bryd, heb lawer o arwyddocâd, gan fod gymaint o gêmau cwpan wedi digwydd ar draws yr ychydig o gêmau cynghrair.
Cafodd y clwb o Ddyffryn Conwy fuddugoliaethau dros Llay Welfare a Llandudno Albion a hefyd sicrhau pwynt yn Y Felinheli. Pnawn Sadwrn yn y Tlws CBDC, roedd angen adfywiad hwyr arnynt i guro Gwalchmai o 4-3 ar bod i lawr o 3-1.
Bydd gêm nos Fawrth yn brawf da i’r ddau glwb ac yn arwydd o’r math o dymor gallwn ddisgwyl wrth edrych ymlaen. Mae Port wedi sgorio 8 gôl heb ymateb yn eu dwy gêm gynghrair, tra yn y 6 gêm gwpan a chynghrair a gafwyd hyd yma, maent wedi sgorio 23 o goliau, tra’n gadael ond dwy i fewn a chadw llechen lân mewn pedair ohonynt.
Edrychwn ymlaen at gêm gynghrairar Y Traeth. C’mon Port!!

On Tuesday evening, having gained away league wins at Saltney and Blaenau Ffestiniog, Port play their first home league game of the season, when Llanrwst Town visit the Traeth.
Llanrwst have also made a good start to the season and they are unbeaten in their 3 league fixtures to date, which puts them in 3rd place in a table which does not have too much relevance at this stage of a league season, interspersed, as it is, with numerous cup-ties.
The Conwy Valley club have recorded wins over Llay Welfare and Llandudno Albion and also picked up a point at Y Felinheli. In their FAW Trophy tie they needed a late revival to make up a 3-1 deficit to beat Gwalchmai 4-3.
Tuesday night’s game will provide a good test for both sides and provide a pointer to the season ahead. Port have scored 8 goals without reply in their two league fixtures and overall in their 6 league and cup matches have scored 23 goals while conceding only twice and also keeping 4 clean sheets.
Looking forward to the first home league game. C’mon Port!!
19/08/21
Trawsnewid y Brif Eisteddle / Transforming the Main Stand

Bydd y cefnogwyr hynny sydd eisoes wedi dychwelyd i’r Traeth yn tystio i’r trawsnewidiaeth sydd wedi digwydd i’r Brif Eisteddle.
Mae bellach yn gwbl addas i gofio cyfraniad enfawr Dafydd Wyn Jones; un a fu’n byw ‘CPD Port,’ un â ganddo weledigaeth ac un a weithiodd yn ddiflino dros y clwb fel Cyfarwyddwr a Thrysorydd. Enwyd yr eisteddle yn ‘Eisteddle Dafydd Wyn’.
Mewn erthygl yn Rhaglen y Clwb mae Gerallt Owen yn croniclo’r gwaith a gyflawnwyd ar Y Traeth yn ystod y cyfnod clo gan grwp bychan o gyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr gan gynnwys y gwaith a gymrodd lle ar y Brif Eisteddle. Roedd hyn yn un o brif amcanion y clwb o gychwyn y cyfnod.
Roedd y gwelliannau a amlinellir gan Gerallt yn cynnwys ail orchuddio tu allan yr adeilad, gwella’r strwythur gan gynnwys cynllun y grisiau i fyny i’r eisteddle a gosod ramp newydd i hwyluso mynediad i gefnogwyr anabl. Yn ystod yr wythnosau diwethaf ychwanegwyd seddau newydd.
Yn ogystal hefyd, gosodwyd ffenestri newydd a hyn i gyd yn trawsnewid yr hen eisteddle a oedd yn dangos ei hoed, i fod yn Brif Eisteddle inni fod yn falch ohoni.


Highslide JS

Those supporters who have already returned to the Traeth will no doubt have been impressed with work carried out on the Main Stand.
It now represents a fitting tribute to the memory of Dafydd Wyn Jones who ‘lived Port FC’, a man with a vision, who worked tirelessly for the club as Treasurer and Director. The Main Stand will be known as ‘Eisteddle Dafydd Wyn’.
Gerallt Owen, writing in the Match Programme, says that this was an objective of the “…small group of dedicated club directors and volunteers …. whom he says “… have not let this sustained period of footballing inactivity … pass them by.”
The improvements included, “Externally cladding the stand has been done and improvements to the structure and layout of steps to the stand, including a new ramp for disabled access. have all been completed. New seats have been fitted in the last week or so.
“New windows were also fitted to transform the previously old stand, which was showing itsage,into an impressive main stand.”
19/08/21
PORT v TYWYN BRYNCRUG: Nos Wener / Friday

CBDC / FAW Noddwyr / Sponsors: CARIAD CARE HOMES
Yn dilyn y fuddugoliaeth gynghrair dros ein cymdogion Blaenau Ffestiniog bydd sylw’r garfan yn troi unwaith eto at gystadleuaeth gwpan.. Y tro yma Tlws CBDC fydd y gystadleuaeth: a chyn I’r ysgolion ddychwelyd at eu desgiau, byddwn yn y 3edd Rownd.
Mae’r fuddugoliaeth yn y rownd ddiwetha’ yn Y Felinheli yn golygu fod Tywyn Bryncrug yn dod i’r Traeth nos WENER. Yng Nghynghrair Haen 4 y Canolbarth mae’r clwb o Dde Gwynedd yn chwarae.ond maent wedi curo dau glwb o gynghrair Ardal North East, Lefel 3 i gyrraedd y 3edd Rownd. .
Roedd un gôl yn ddigon i guro Panparcau yn y Rownd 1af tra yn yr Ail Rownd cafwyd buddugoliaeth glir o 3 gôl dros Bow Street. Cryn lwyddiant felly i’w cyd reolwyr newydd, Nick Williams a Matthew Jones.
Chwareir y gêm NOS WENER o dan y goleuadau, gyda’r gic gynta’am 7.30pm.
.
. Following on from their 4-0 victory over neighbours Blaenau Ffestiniog it is cup action once more for Port. This time it is the FAW Amateur Trophy and even before school’s back we are already in Round 3 of the competition. .
Port’s win in the last round at Y Felinheli brings to the Traeth our next opponents who will be Tywyn Bryncrug. The south Gwynedd club play in the Tier 4 Mid Wales League but have reached this round with good wins over two Tier 3 Ardal North East clubs. .
In Round 1 they won away at Penparcau by the only goal of the game. And the club, under the new joint management of Nick Williams and Matthew Jones, then went on to put out another Aberystwyth area club, beating Bow Street by 3 clear goals. .
The Round 3 game will be played under lights on FRIDAY evening with the kick off at 7.30pm.
18/08/21
TYWYN BRYNCRUG: NOS WENER / FRIDAY

Cefnogwyr Nodwch
Bydd Rownd 3 Tlws CBDC rhwng Port a Tywyn Bryncrug FC yn cael ei chwarae nos WENER nesa’, 20 Awst
Cic gynta’ am 730pm.

Supporters should note
The FAW Trophy 3rd Round tie between Port and Tywyn Bryncrug FC will be played next FRIDAY, 20 August.
Kick off at 7,30pm.
16/08/21
Taith i Fwcle / Away at Buckley

CBDC / FAW Yn 2ail rownd Cwpan JD Cymru, bydd Port yn teithio i chwarae Bwcle, gyda’r gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 3/4/5 Medi.
Cafodd y clybiau o adrannau uwch y pyramid osgoi eu gilydd mewn penderfyniad dadleuol gan CBDC sydd yn gwneud i ffwrdd a’r syniad o ‘lwc’ a fuodd yn ran sylfaenol o dynnu enwau o’r het yn y gorffennol.
Ond gall Port ystyried i lwc wenu arnynt wrth iddynt o leiaf osgoi rhai tebyg i Cei Conna a’r Seintiau!!

In Rownd 2 of the JD Welsh Cup Port have been drawn away to Buckley Town with the games being played on the weekend of the 3/4/5 of September.
The most senior clubs were seeded in what might be considered a controversial FAW decision to do away with the concept of the ‘luck of the draw’ which has been part and parcel of cup draws of the past.
Port can however consider that they have had quite a piece of luck to avoid the likes of TNS and Connah’s Quay Nomads.
15/08/21
Blaenau Ffestiniog v Port

Nos Fawrth nesa,’ gyda’r gic gynta am 6.30pm, chwareir y ddarbi y bu aros mawr amdani, rhwng Amaturiaid y Blaenau a Port. .Dylai cefnogwyr sylwi ar y newid yn y dyddiad.
Y Sadwrn diwetha’ sicrhaodd Blaenau eu pwyntiau cynghrair cynta’ gyda gêm gyfartal 2-2 oddi cartre yn erbyn St Asaph. Yn wahanol iawn i Port, hon oedd y 3edd gêm gynghrair o’r tymor i’r Amaturiaid. Colli oedd eu hanes adre i Brymbo, a hynny o 3-2, ac mewn gêm oddi cartre’ collwyd yn Llanuwchllyn, clwb sydd wedi cael cychwyn da i’r tymor.
Un peth sy’n sicr, mewn gêm ddarbi o flaen torf sylweddol, nid record flaenorol y ddau glwb sydd yn cyfri ond yr hyn sy’n digwydd ar Gae Clyd ar y noson, gyda’r pwyntiau yn siwr o fynd i’r tîm sydd yn cadw eu pennau ac yn cymryd eu cyfleon.
Cefnogwch yr hogia’!!!

The much-awaited derby encounter between Port and Blaenau will be played next Tuesday with a 6.30pm kick-off. Supporters should note the switch in dates
. On Saturday the Amateurs picked up their first league point of the season with a 2-2 away draw at St Asaph. Unlike Port, who have been busy playing cup-matches, Blaenau were already playing their third league match of the season. Previously they had suffered a home defeat by the odd goal in 5 to Brymbo and followed by an away defeat to a strong Llanuwchllyn side.
One thing is certain; where local rivalry is paramount the form book goes out of the window and with a big crowd anticipated at Cae Clyd on Tuesday, it will be a case of keeping a cool head in the face of what could be an edgy evening.
Support the lads!!!
14/08/21
Gêm Ail-dîm ddydd Sul / Sunday fixture for Reserves

Bydd yr Ail-dîm yn chwarae ddydd Sul yn erbyn Llanrwst ar Barc Gwydir. Bydd y gic gyntaf am 2.30pm.

Colli am y tro cynta’ y tymor hwn oedd hanes yr Ail-dîm ar Barc Gwydir. 3-0 oedd y sgôr terfynol, gyda Kelly rhwydo ddwywaith i’r tîm cartre’ a McBreeze yn sgorio o’r smotyn.

The Reserves will be in action on Sunday against Llanrwst Res at Parc Gwydir. Kick off will be at 2.30pm.

The Reserves suffered their first defeat of the season at Parc Gwydir. The final score was 3-0 to the home team with K Kelly netting twice and McBreeze scoring from the penalty spot.
12/08/21
Y Darans yng Nghwpan JD Cymru / JD Welsh Cup Round 1

Noddwyr/Sponsors: Cefnogwyr Port / Port Supporters
Gêm Gwpan fydd yn wynebu Port eto pnawn Sadwrn yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn Y Felinheli mewn gêm efo digon o gyffro. Y tro yma Rownd 1 o Gwpan JD Cymru fydd ar y Traeth, gyda CPD Llanberis yn ymweld am yr ail dro yn olynol yn y gsytadleuaeth hon.
Cyrhaeddodd Llanbêr y rownd yma drwy ennill dwy gêm rhagbrofol; yn curo Llanrug mewn darbi lleol o 4-2 a wedyn ennill eto yn erbyn Nantlle Fêl yn dilyn ciciau o’r smotyn.
Yn dilyn ail wampio’r Pyramid cafodd Llanberis eu hunain yn Haen 4, a hynny oherwydd fod mesuriadau’r cae ar Ffordd Padarn ychydig o fetrau yn rhy gul. Golyga hyn eu bod yn chwarae y tymor yma yn Prif Adran y Gorllewin o Gynghrair yr Arfordir.
Daw y Darans i’r gem hon ar gefn fuddugoliaeth ysgubol o 7-1 dros CPD Penrhyn neithiwr (Mercher) yn rhybudd amserol.
Er waetha hyn!! edrychwn ymlaen i groesawu’r Darans a’u cefnogwyr i’r Traeth pnawn Sadwrn!!

It will be more Cup-action for Port next Saturday and, following a 2-1 win in an exciting game at Y Felinheli, attention will now turn to the JD Welsh Cup Round 1 tie with CPD Llanberis the visitors to the Traeth, at this stage, for the 2nd successive time.
The visitors have reached this round after winning two qualifying rounds with a 4-2 win over local rivals Llanrug Utd and a penalty shoot-out needed to overcome Tier 3 opponents Nantlle Vale.
Following the re-vamp of the Welsh Pyramid, Llanberis found themselves in Tier 4 due to ground criteria which deemed their pitch a few metres too narroaw. This means that this season they are playing in the North Wales Coast West Premier Division
Llanberis come into this cup-tie on the back of a 7-1 victory over CPD Penrhyn last night (Wed), to give a timely warning.
Despite this!! we look forward to welcoming the Darans and their supporters to the Traeth on Saturday.
11/08/21
Da iawn Marcus! / Well done Marcus

Llongyfarchiadau i Marcus Banks sydd wedi’i ddewis i garfan Futsal dan 19 oed Cymru. Bydd hwn yn gam mawr yng ngyrfa llawn addewid y chwaraewr canol cae. Mae hwn yn glod i pellach i dalent yr hogyn o Bwllheli a eisoes gafodd ei ddewis i garfan ymarfer Academiau Cymru. Pob lwc Marcus

Congrats to Marcus Banks who has been named in the Wales U19 Futsal squad. This marks a further step forward in the development of the talented midfielder. Marcus, from Pwllhei has previously been called up to train with the Wales Academy squad. Good luck Marcus
10/08/21
Clwb yr Amaturiaid yn colli arweinydd / Blaenau lose a stalwart

Yn dilyn y newyddion trist fod clwb Amaturiad y Blaenau wedi colli Andrew Roberts, un a fu yn gadeirydd ac ysgrifennydd ac a weithiodd yn ddiflino dros y clwb, bydd y gêm rhwng Blaenau a Port ar Gae Clyd bellach yn cael ei chwarae ar nos Fawrth 17 Awst yn lle nos Fercher 18 Awst.
Mae pawb ar Y Traeth yn estyn eu cydymdeimlad a theulu Andrew a gyda clwb Y Blaenau.

Following the sad news of the loss of Blaenau Amateurs many-time chairman & secretary, Andrew Roberts, a stalwart who's tireless service to the club will never be forgotten, the match between Blaenau Amateurs and Porthmadog at Cae Clyd has been moved from Wednesday to Tuesday 17th August 6.30.
All at the Traeth extend their sincere conolences to Andrew’s family and to the Blaenau club.
10/08/21
Llongyfarchiadau Nathan / Congrats Nathan

Newyddion gwych i Nathan Craig yn cael ei enwi y CYFLWYNWR PÊL-DROED HWYL AM y flwyddyn 2021. Gwobr sy’n gyflwnyedig gan McDonalds.
Wrth ei waith o ddydd i ddydd mae Nathan yn brysur efo’i gwmni ‘Pêl-droed Nathan Craig’ sy’n cyflwyno plant ardal Caernarfon i’r pleser sydd i gael o chwarae’r gêm ac yn sicrhau hyfforddiant o safon iddynt.
2021 ydy’r 14eg tro i’r Gwobrau Pêl-droed y Gwreiddiau CBDC gael eu cyflwyno ac mae cwmni Nathan yn enillydd yn un o’r chwe ardal y Gymdeithas.
Cyhoeddir yr enillwyr cenedlaethol yn ystod seremoni a gynhelir yn yr Hydref.

Great news for Port’s major summer signing Nathan Craig named North Wales Coast FUN FOOTBALL PROVIDER of 2021 presented by McDonald’s.
Nathan’s day job involves his grassroots football coaching organisation ‘Pel-droed Nathan Craig’ which provides an outlet for the enthusiasm of youngsters for football in the Caernarfon area and provides them with excellent coaching opportunities.
2021 celebrates the 14th annual FAW Grassroots Football Awards, presented by McDonald’s and Nathan’s organisation has been selected a winner in one of six area associations.
The National winners will be announced at the FAW Grassroots Football Awards that will be held in the Autumn
09/08/21
Tywyn Bryncrug yn Tlws CBDC / Tywyn Bryncrug in the FAW Trophy

Yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 dros CPD Y Felinheli yn 2ail Rownd Tlws CBDC mae Port wedi sicrhau gêm ar Y Traeth yn y 3edd Rownd pan Tywyn Bryncrug fydd yr ymwelwyr
Enillodd Tywyn Bryncrug eu lle yn y rownd hon gyda buddugoliaeth glir o 3-0 dros Bow Street. Roedd hon yn fuddugoliaeth gwerthchweil I’r clwb sy’n chwarae yng Nghynghrair Gorllewin y Canolbarth.
Chwaraeir y gêm ar Sadwrn Awst 21.

Following their 2-1 win over CPD Y Felinheli in the 2nd Round of the FAW Trophy Port have been drawn at home to Tywyn Brycrug in the 3rd Round of the competition.
Tywyn Bryncrug gained a convincing 3-0 victory away at Bow Street in the 2nd Round and this was a notable win for the tier 4 Mid-Wales West club.
The tie will be played on Saturday, 21 August.
08/08/21
Cronfa Trychinebau UEFA / Port to benefit from the UEFA Disasters Fund


Mae Gerallt Owen, mewn erthygl i Rhaglen y Clwb, wedi datgelu sut y bu’r clwb yn llwyddianus wrth wneud cais am arian Cronfa Trychinebau UEFA.
Defnyddir yr arian i gwblhau gwaith sylweddol i geisio gwneud y cae yn ddiogel yn erbyn llifogydd y dyfodol. Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu gatiau ar ddrysau’r ystafelloedd newid i rwystro’r llif, a hefyd yr ystafell groeso.Bwriedir adeiladu wal isel o gwmpas y stafell groeso gan hefyd codi lefel llawr sied y tractor a codi’r portocabin sydd wrth y maes parcio.
Roedd angen y gwaith yma oherwydd y llifogydd difrifol a gafwyd yn dilyn Storm Christoph yn ôl ym ms Ionawr. Bu’n rhaid ail osod llawr y stafell groeso a thrwsio’r concrît oddi tano. Peintiwyd a glanhawyd yn drwyadl yr ystafell gyfan gan gynnwys y bar a’r selar a gosod shutters i’r bar.
Gobeithio’n wir fydd y gwaith i rwystro effaith llifogydd y dyfodol yn llwyddiant.
Yn ei nodiadau i’r Rhaglen tynnodd yr Ysgrifennydd, Chris Blanchard, sylw at un elfen a gododd ei galon yn ystod y trafferthion, sef yr ysbryd cymunedol a welwyd. Hyn yn gwneud i Chris nodi gymaint, ers iddo symud yn barhaol i’r ardal, y mae’n gwerthfawrogi’r ysbryd yma, nodwedd meddai na fyddai wedi ei weld yn ei hen ardal.

Writing in the Match Programme Gerallt Owen reveals that “… the club have been successful in an application to the UEFA Disasters Fund.” The money, he adds, “ … will be used to carry out significant work to try and flood proof the ground against future flooding. “This work will include floodgates on all doors into the changing rooms and hospitality suite, the erection of a small retaining wall around the hospitality suite, raising the floor level to the tractor shed and raising the portacabin next to the car park.”
This work was made necessary due to the serious flooding at the Traeth caused by Storm Christoph back in January< with Gerallt stating that “.. not for the first time the hospitality suite was flooded and as a result significant work was needed to replace the flooring and repair the concrete beneath. The whole room including the bar and cellar has been thoroughly cleaned and painted and new bar shutters have been installed.”
Let’s hope that this preventive scheme brings the desired results and the disastrous effects of flood water can be significantly reduced.
Club Secretary Chris Blanchard, in his programme notes, pointed to a ‘silver lining’ in all this; “…the response of the local community was tremendous”, he says “and a little humbling.
“Since moving permanently to this area it is this sense of community which I love the most and could never have hoped for back in my old “stomping ground”.
Newyddion cyn 08/08/21
News before 08/08/21

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us
<