Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
06/08/21
Rhys wrthi eto / Rhys strikes again.

Tarodd Rhys Hughes eto heno ar Y Traeth yn dilyn ei sbloets 7 gôl ar Y Morfa drwy rhwydo ddwywaith cyn hanner amser. Hyn yn rhoi Ail-dîm Port 2-0 ar y blaen i Llandudno a dyna sut y gorffenodd ar ddiwedd y 90 munud.

Rhys Hughes’s scoring spree goes on. Following up his 7 goal splosh of last week at Y Morfa with two more by half-time at Y Traeth sending Port in at the interval 2-0 up against Llandudno. That is how the score remained at the end of the 90 mins.

B. Roberts, M Roberts, Carwyn Foster, Sol Kempster, O Laurie, A Jones (L Williams 62’), C O’Hara (M Rowlands 90) (, Rhys Hughes, T Foskett (B Hughes 70’), C Pritchard (R Jones 90), P Lewis (G Griffith 45)
. 05/08/21
Y Felinheli v Port: Tlws CBDC / FAW Trophy

Yn dilyn y fuddugoliaeth ar ddiwrnod agoriadol y tymor yn Saltney, roedd yn siom fod y gêm ddilynol gyda Nantlle Fêl wedi’i gohirio. Ond bydd rhaid i bawb ymdopi a hyn tra fod y pandemig yn parhau.
Gêmau Cwpan bydd y ddwy nesa’ gan gychwyn gyda ymweliad a Chae Seilo , Y Felinheli ar gyfer 2il Rownd Tlws CBDC.
Tra fod Port ond wedi chwarae dwy gêm gystadleuol, hon fydd y bumed i’r tîm cartref. Maent eisoes wedi chwarae dwy gêm Cwpan JD Cymru a hefyd Rownd 1 o’r Tlws: gêm a enillodd Y Felinheli o 4-0 dros Llanystumdwy. Sadwrn nesa’ fydd y 4ydd tro i’r Felin gael mantais o chwarae adre’ mewn gêm gwpan ac maent wedi cadw llechen lân yn y 3 flaenorol – sialens felly i Matty Jones, sydd wedi cychwyn y tymor ar dân i Port.
Cyfartal fu eu dwy gêm yn yr Ardal NW. Yn y gêm agoriadol 1-1 oedd y sgôr yn Rhostyllen a neithiwr 2-2 adre’ i Lanrwst. Felly 5 gem heb golli yw eu record hyd yma.

Bydd yr AIL-DÎM hefyd yn chwarae. Bydd ei gem adre ar Y Traeth nos yfory (Gwener) yn croesawu Ail-dîm LLANDUDNO> Cic Gynta’ 7.30pm Cefnogwch yr hogia’ C;mon Port!!

Following their impressive opening day performance at Saltney it was disappointing to have the follow-up game against Nantlle Vale postponed. But this is something all clubs have to be prepared for as the pandemic persists.
The next two games will be cup-ties, starting with next Saturday’s visit to Cae Seilo, Y Felinheli, for a 2nd Round FAW Trophy match.
Port have so far played two competitive fixtures, while our opponents have already played 5 times, having been twice involved in the JD Welsh Cup and also Round 1 of the Trophy where they beat Llanystumdwy by 4 clear goals. Saturday’s game will be their 4th cup-tie where they have enjoyed home advantage. Also they have yet to concede a goal in any of their previous 3 ties – a suitable challenge for striker Matty Jones who has started the season on fire for Port.
In their opening Ardal NW fixture Y Felinheli drew away at Rhostyllen and followed this up with another share of the spoils at home to Llanrwst. That makes it an unbeaten 5 match run.

The RESERVES also play this weekend. They will be at home tomorrow night (Friday) to LLANDUDNO RES.
Kick off 7.30pm. Support the boys!! C’mon Port!!
05/08/21
Dyddiad newydd i gêm / New date for Nantlle Vale fiture

Mae'r gêm gynghrair rhwng PORT a Nantlle Fêl wedi'i hail drefnu ar gyfer nos Fawrth Medi 7fed am 7.30yh.
Noddir y gêm gan I.J. PLASTERING, Porthmadog

The league match between PORT and Nantlle Vale has been rescheduled for Tuesday 7th September at 7.30pm.
Match sponsored by I.J. PLASTERING, Porthmadog
31/07/21
Buddugoliaeth i’r Ail-dîm / Big win for Reserves

Sicrhaodd yr Ail-dîm y Dwbl i Port ar Sadwrna agoriadol eu cynghreiriau. Cafwyd buddugoliaeth sylweddol ar Y Morfa dros Ail-dîm Conwy. Erbyn hanner amser roedd tîm ifance Aaron Lee Rickards 6-0 ar y blaen gyda’r blaenwr Rhys Hughes yn rhwydo 4 gwaith; Cian Pritchard a Leon Williams cafod y gwyliau eraill.
Yn yr ail hanner aeth Rhys Hughes a chyfanswm ei goliau i 7 gyda Rhodri Jones a Matthew Roberts hefyd yn canfod y rhwyd. Y canlyniad oedd Conwy 1-11-Port

The Reserves made it a Port opening day double with a convincing victory over Conwy Borough Res in a League fixture, away at Y Morfa. By half-time Aaron Lee Rickards’ Development squad were 6-0 up with striker Rhys Hughes having netted four times. The other goals coming from Cian Pritchard and Leon Williams.
Rhys Hughes took his tally to 7 goals by the final whistle. Rhodri Jones and Matthew Roberts also got on the scoresheet to make the final score. Conwy Borough Res 1-11 Port Res.

Fynlay Joe Burt, Aron Huw Jones, Matthew W Roberts, Carwyn Foster, Sol Kempster (Capt), Oliver Laurie, Leon Williams, Guto Griffith, Rhys Hughes, Marcus Rowlands, Cian Pritchard, Eilyddion/ Subs Kierran Dukes, Rhodri Jones, Lewis Jones. Adam Griffiths, Aaron Jones.
31/07/21
Gêm nos Fawrth wedi gohirio / Tuesday’s game OFF

Mae gêm nos Fawrth rhwng PORT a Nantlle FÊL wedi cael ei gohirio oherwydd Prawf Covid positif yng nghlwb Y Fêl.
Bydd y gêm yn cael ei haildrefnu yn o fuan.

Tuesday's home match between PORT and Nantlle Vale has been called off due to a positive Covid Test in the Vale camp
The match will be rescheduled at a later date
. 30/07/21
Julian yn ôl /Julian’s Back!!

Bydd y newyddion fod Julian Williams i ddychwelyd yn cyffroi ffyddloniaid y Traeth. Bu gyda’r clwb am 4 tymor rhwng 2015 a 2019 cyn symud i Fae Colwyn. Mae ganddo rhestr o goliau gwych i’w enw a hefyd hatric yn erbyn Llanfair Utd mewn 11 munud. Bydd yn dychwelyd i’r clwb lle rhwydodd 47 gwaith mewn 92(+15) o gêmau.
Wrth groesawu Julian yn ôl mae Craig Papirnyk yn diolch i Craig Hogg a chlwb Bae Colwyn am eu cydweithrediad.

The news that Julian Williams is to return to the club will fill the Traeth faithful with excitement. Julian was at the Traeth for 4 seasons between 2015 and 2019 before leaving for Colwyn Bay. Scorer of spectacular goals he netted an 11 minute hat-trick against Llanfair utd in 2016 and now returns to the club where he netted 47 times in 92(+15) appearances
As he welcomed Julian back to the Traeth Craig Papirnyk thanked Craig Hogg and the Colwyn Bay club for their co-operation.
29/07/21
Saltney Town (CH4 8UB) v Port

Yn dilyn y fuddugoliaeth yng Nghwpan JD Cymru bydd sylw’r clybiau yn troi at Sadwrn agoriadol yr Ardal NW
Bydd Port yn torri tir newydd wrth iddynt deithio i gartre’ Saltney Town, y cyn glwb o gynghrair ardal Wrecsam. Mae clwb y ffîn efo Lloegr yn chwarae yn SANDY LANE yn y Ganolfan Gymdeithasol CH4 8UB
Fel Port, cafodd Saltney lwyddiant yn Rownd Rhagbrofol y Gwpan gyda buddugoliaeth glir o 3-0 dros Brickfield Rangers, clwb arall o’r Ardal NW.
Fel llawer o wrthwynebwyr y tymor hwn, bydd Saltney yn newydd o ran lleoliad a chynnwys y tîm. Gorffen yn 8fed yng Nghyngrhair Wrecsam wnaeth Saltney yn y Tabl diwethaf ond, fel y mwyafrif o glybiau, byddant wedi cryfhau wrth edrych ymlaen I sialensau y gynghrair newydd.

After last Saturday’s JD Welsh Cup win attention now turns to the League and the opening day fixtures in the Ardal NW.
Port will break new ground as they travel to the home of former Wrexham area league club, Saltney Town. The Saltney ground is in SANDY LANE at the Community Centre CH4 8UB
The border club also enjoyed success in the Qualifying Round of the Welsh Cup with a convincing 3-0 away victory over fellow Ardal NW club Brickfield Rangers.
Like many of this season’s league opposition, Saltney will be something of an unknown quantity. They finished in 8th spot in the final Wrexham Area table but will have strengthened in anticipation of the challenges ahead in the new league.
28/07/21
Tymor yr Ail-dîm yn cychwyn / Season starts for Reserves

Bydd tymor yr Ail-dîm yn cychwyn ddydd Sadwrn nesa Gorffennaf 31 gyda gêm oddi cartref yn erbyn CONWY. Bydd y gic gyntaf am 6 pm
Isod gweler y clybiau sy'n chwarae yn y Gynghrair Ail-dimau Gogledd Orllewin.

Bala Town, Conwy Borough, CPD Porthmadog, Denbigh Town, Nantlle Fêl, Holyhead Hotspur, Holywell Town, Llandudno, Llangefni Town, Llanrwst United, Prestatyn Town, St Asaph City.

The season commences for the Reserves on Saturday, July 31 with a 6 pm kick-off. They will be away against Conwy Borough Res.
Above are the clubs competing in the Reserve League North West.
28/07/21
Croeso Lewys Turner / Lewys Turner signs

Mae Craig Papirnyk wedi croesawu’r amddiffynnwr 21 oed Lewys Turner i’r clwb. Mae’n ymuno â Port o glwb Rhuthun. Amddiffynnwr canol tal a chry’ydy Lewys, sydd hefyd yn gallu chwarae yng nghanol y canol cae. Chwaraewr ifanc llawn potensial a wnaiff ddatblygu wrth gael profiad gyda Port.


Defender Lewys Turner joins the club from Ruthin Town. Craig Papirnyk says of him: – “Lewys is a big, strong Centre half who can also play central midfield, i am happy to have Lewys here, a Young player with huge potential to develop and grow with us.Welcome Lewys.”
28/07/21
Y Tirmon Alex Evans yn gadael y Traeth / Groundsman Alex Evans leaves the Traeth

Gyda’r tirmon Alex Evans yn gadael Y Traeth mae’r cadeirydd Phil Jones wedi estyn diolchiadau ar ran y clwb i un sydd wedi gwneud cyfraniad holl bwysig er nad yw’r cefnogwyr yn aml yn ei weld.
“Hoffai’r clwb ddiolch yn fawr iawn i Alex Evans am ei wasanaeth fel tirmon a dymuno phob lwc iddo yn ei swydd newydd llawn amser gyda Clwb Golff Maesdu yn Llandudno.
“Mae Alex wedi bod yn dod i’r Traeth ers pan oedd yn 13 oed, yn dysgu ei grefft gan ei dad, ac yn ei helpu mwy a mwy fel ath y blynyddoedd ymlaen, a phedair mlynadd yn ôl fe gymerodd drosodd y gwaith yn llwyr. Dwi’n siwr y bydd pawb wedi edmygu ei linellau syth a phatryma’ cymleth dros y cyfnod yma, a bydd mawr golled ar ei ôl.
Pob lwc Alex”

Highslide JS Highslide JS Highslide JS

With groundsman Alex Evans leaving the Traeth, chairman Phil Jones extends a sincere thank-you on behalf of the club to one who has made a vital but often unseen contribution..
“The club would like to extend a huge thank you to Alex Evans for his great work as groundsman and to wish him well in his new full-time duties with the Maesdu Golf Club in Llandudno.
“Alex has been coming to the Traeth since he was 13 years old, learning his craft from his father and going on to help him more and more as the years went by. Four years ago he took complete charge himself. I’m sure that everyone has admired the straightness of his lines and the complex patterns he has used over time and there will be a huge loss when he leaves.
Best of luck Alex”
26/07/21
Ysgrifennydd Diwrnod Gêm / Match Day Secretary

Hoffai'r clwb groesawu Osian Ellis fel Ysgrifennydd Diwrnod Gêm y clwb.
Mae hon yn swydd bwysig iawn ag Osian fydd yn gyfrifol am ddiweddaru'r system comet yn ystod gemau cartref, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cefnogwyr drwy y Cymru Football App.
Diolch yn fawr Osian.

The club would like to welcome Osian Ellis as the club new Match Day Secretary.
Osian's job is very important and his role is to update the live comet feed during home games keeping the supporters updated via the Cymru Football App.
Welcome aboard Osian and thank you.
26/07/21
LLANBÊR yn Rownd 1/ It’s the DARANS

Adra eto i Port. Yn Rownd 1 o Gwpan JD Cymru, CPD Llanberis bydd yr ymwelwyr â’r Traeth.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Gwener neu Sadwrn, Awst 13/14.
Yn y Rownd flaenorol curodd Llanberis clwb Dyffryn Nantlle yn dilyn ciciau o’r smotyn.
Cyfarfu’r ddau hefyd yn y Gwpan yn 2019/20 gyda Port yn ennill 7-0.

Another home draw for Port. In Round 1 of the JD Welsh Cup, CPD Llanberis will be the visitors to the Traeth.
The game will be played on Friday/Saturday August 13th/14th
In Round Q2, Llanberis defeated Nantlle Vale after a penalty shoot-out
. The two clubs also met in the Welsh Cup in 2019/20 when Port were 7-0 winners.
25/07/21
Ychwanegu at y Garfan / More signings

Cyhoeddwyd tri newydd ddyfodiad pwysig cyn y gêm yng Nghwpan JD Cymru gyda Mountain Rangers.
Dewi Thomas:Chwaraewr canol cae sydd yn ail-ymuno â Port o glwb Amlwch ar ôl cyfnod byr ar Y Traeth cynt.
Y blaenwr John Littlemore cyn chwaraewr Met Caerdydd sydd yn ail-ymuno o glwb Conwy.
Matthew Jones ymosodwr a sgoriwr rheolaidd yw’r 3ydd i Craig Papyrnik arwyddo ac yn dod o glwb Llanerchymedd
Croeso i’r tri chwaraewr

Dewi Thomas John Littlemore Matthew Jones


Here are Craig’s comments as he welcomes three more signings
Dewi Thomas – it is great to have Dewi back with us, a strong, athletic player who can play in a variety of positions, Dewi is a great addition to the squad and i am pleased to have him back at the club.

John Littlemore – John is another who returns to the club, he is a hard working forward who has a great work ethic, i am looking forward to working with him more this time round.

Matty Jones – i am very pleased Matty has signed for the club, he is what you call an out an out striker, a typical No.9, during pre-season he has scored plenty and impressed with every game and Training session we have had. I am looking forward to seeing Matty develop with us and he is one that will score lots of goals this season.

A warm welcome to all three
23/07/21
Ail-dîm yn ennill gêm gyfeirllgar / Friendly win for Reserves

Hatric i’r ymosodwr Rhys Hughes sicrhaodd fuddugoliaeth i’r Ail-dîm mewn gem gyfeillgar gyda’r Bontnewydd.
4-1 oedd y sgôr terfynnol gyda Garret Keck hefyd yn canfod y rhwyd.

A hatrick for striker Rhys Hughes helped the Reserves win their friendly fixture with Y Bontnewydd.
The final score was 4-1 with Garrett Keck also netting.
22/07/21
DIOLCH I'N NODDWYR A HYSBYSEBWYR / THANKS TO OUR SPONSORS AND ADVERTISERS 2021/2022

Ar drothwy tymor newydd hoffai'r clwb ddiolch i'n prif noddwyr AGWEDDAU ERYRI, COLIN JONES (ROCK ENGINEERING), REGENT a RHEILFFYRDD FFESTINIOG AG ERYRI am eu cefnogaeth parod unwaith yn rhagor.
Hefyd diolch i'n holl noddwyr ag hysbysebwyr yn y rhaglen, cerdyn rhestr gemau, hysbysfyrddau a noddwyr gemau a peli.
Plîs cefnogwch y busnesau hyn, heb y gefnogaeth yma ni fyddai'n bosib cynnal clwb ar y lefel yma.

On the eve of a new season the club would like to thank our main sponsors ASPECTS OF SNOWDONIA, COLIN JONES (ROCK ENGINEERING), FFESTINIOG AND WELSH HIGHLAND RAILWAYS and REGENT for their willing support once again.
Also thanks to all our sponsors and advertisers in the programme, fixture card, advertising boards, match and ball sponsors.
Please support these businesses, without their support it would not be possible to maintain a club at this level.
Newyddion cyn 22/07/21
News before 22/07/21

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us
<