Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
29/06/21
TOCYN TYMOR / SEASON TICKETS 2021/2022

Oedolion £60
Pensiynwyr £36
Am fwy o fanylion cysylltwch â Dylan:
rees48wesla@gmail.com

Adults £60
Senior Citizen £36
For more information contact Dylan:
rees48wesla@gmail.com
26/06/21
Cefnogwyr yn ôl / Supporters return

Heddiw, gyda’r cefnogwyr yn ôl ar Y Traeth, ymatebodd Port drwy guro Y Waun o 4-1. Matty Jones arweiniodd y ffordd gyda hatric oedd yn cynnwys dwy gic o’r smotyn a Jamie McDaid cafodd y llall.

Today’s visit to the Traeth by Chirk AAA marked the return of supporters and Port celebrated with a 4-1 win. Matty Jones led the way with a hat-trick. two of which came from the spot, with Jamie McDaid also on the scoresheet.
25/06/21
Trefn mynediad i gêm yfory / Arrangements for supporter entry tomorrow

Oherwydd diffyg amser ni allwn roi tocynnau ar gyfer y gêm yfory.
Felly bydd mynediad ar sail y cyntaf i'r felin. Fedra ni ddim caniatáu mwy na 100 o gefnogwyr i'r gêm erbyn Y Waun.
Cic gyntaf am 2yp
++Ar yr achlysur hwn fyddai'n bosib i gefnogwyr CHIRK AAA peidio â theithio i'r gêm.++

Due to the short time frame we are unable to issue tickets for tomorrow's game
. Therefore entry will be on a first come first serve basis. We are not allowed more than 100 supporters in the ground.
++On this occasion would supporters of Chirk AAA FC please not travel as we do not want you to have a wasted journey.++
Kick off 2pm
24/06/21
Gêm Ail-dîm / Reserves in action

Rhwydodd Rhys Hughes unig gôl y gêm wrth I Ail-dîm Port sicrhau buddugoliaeth dros Y Wanunfawr mewn gêm gyfeillgar ar Y Traeth nos Fercher.

Rhys Hughes netted the only goal of Wednesday night’s friendly match to give Port a 1-0 win over Waunfawr at the Traeth,
24/06/21
Gêm yn erbyn Dolgellau / Port visit Dolgellau.

Cyfartal oedd y gêm gyda Dolgellau. Rhwydodd Rhys Alun ddwywaith yn y gêm gyfeillgar rhwng Port a Dolgellau. Sgoriodd James Morgan hefyd, gyda’r 4ydd gôl yn un i rhwyd eu hun a gwneud y sgôr terfynnol yn 4-4.

Rhys Alun netted twice in Tuesday night’s draw with Dolgellau. James Morgan also found the net with the 4th goal being an own goal to make the final sgore 4-4
Cywiriad / Correction
24/06/21
Gêm gynghtair gynta y tymor / Opening day fixture

Mae gêmau agoriadol yn yr Ardal NW wedi eu cyhoeddi gyda Port yn torri tir newydd wrth ymweld â Saltney ar Sadwrn agoriadol y tymor. Bydd y gynghrair yn cychwyn ar Sadwrn, Gorffennaf 31.

The Ardal NW league opening day fixtures have been released with Port breaking new ground with an opening day visit to Saltney. The league will start on Saturday, 31st July.
21/06/21
BINGO yn ôl / BINGO’S Back

Bingo @ CPD Porthmadog FC Bingo yn ôl bob nos Lun yn Clwb y Traeth
BINGO nos Lun yn Clwb Pêl-Droed Porthmadog HENO am 8yh!! Croeso i bawb.



Bingo returns. It will be held as usual on Monday evening at the clubhouse.
Monday night BINGO at Porthmadog Football Club THIS EVENING. Eyes down at 8pm!! All welcome.
21/06/21
Adroddiad Paps am y paratoadau cyn-dymor /Craig’s pre-season update

Isod mae craig Papirnyk yn edrych yn ôl ar paratoadau’r cyfnod cyn-dymor a datblygiad y garfan sy’n cynnwys perfformiadau llawn addewid gan aelodau o’r Ail-dîm.

Craig Papirnyk takes a very positive look at how pre-season is developing

Craig Papirnyk It has been a great to have football back albeit without supporters, we have been Training since early May and the lads have been putting in the work leading up to the friendly games, the squad is starting to shape up and more will be revealed in time, the Traeth has had a lot of work and credit to the hard working volunteers for this, putting in so much work through a pandemic is undoutedbly an amazing achievement by all thoes invloved and i hope the supporters are happy when they are finally allowed back in and see the improvements at the ground.
To date we have played and beaten Llanrhaeder 2-0 , Menai Tigers 5-1, Llangefni 3-1 and Rhyl 1879 3-1 and i have been pleased with how the lads have performed and the results have all been positive which even in friendly games is important, we have been able to rotate players so that they are not being overloaded so early on during pre-season which will help with injury prevention but at the same time ensuring the players are getting the maximum output during these games.
I have particularly been impressed with some of the reserve lads who have come in and done extremely well, took on the information we ask of them and given the quality needed during some of these games.
We are rebuilding a team and all of the boys so far have come in and taken on board how we want to play and what are objectives are for the coming season. I am very pleased with how we are looking at this stage in pre-season, We are half way through now with the league date nearing closer we will start to progress more with the intensity and quality that will ensure we are fully ready for the season start date on July 31st.
We have had a number of new faces come in and all will be revealed in time, my message to the supporters is that we cant wait to get you back at the Traeth and we are looking good for the season ahead.
There is no doubt about how tough the season ahead is going to be and we are certainly making sure we are ready for the challenges ahead, our preparations to date have been very good, however we will always look to improve and set high Standards in everything we do as a Group.
I am hoping for some good news soon regarding supporters back at the Traeth and it will be great to see those familiar faces once again getting behind the team.

Come on Port !
Paps
20/06/21
Port yn Rhyl / Port away at Rhyl

Sicrhaodd Port fuddugoliaeth o 3-1 oddi cartref yn Y Rhyl. Y sgorwyr oedd: Jamie McDaid, Ben Fisher a Rhys Alun. Da gweld nifer o chwaraewyr yr Ail-dîm yn derbyn y cytle I wneud eu marc.
Diolch I clwb Rhyl am y coreso cynnes arferol.

Port played their first away friendly visiting Rhyl on Saturday. They recorded a 3-1 win. The scorers for Port were Jamie McDaid, Ben Fisher and Rhys Alun A feature of this season’s friendlies has been the use of reserve players who have performed so well.
Thanks, to Rhyl for the usual warm welcome.
20/06/21
Cwpan Cynghrair Lock Stock / Lock Stock League Cup Draw

Daeth yr enwau o’r het ar gyfer Cwpan Lock Stock Cynghrair yr Ardal North. Bydd Port oddi cartref yn erbyn Llandudno Ablion yn y Rownd 1af. Caiff y gêm ei chwarae ar gae Maesdu arr ddyddiad i’w drefnu.

The draw for the Lock Stock Ardal League Cup has been made. In the 1st Round Port have been drawn away to Llandudno Albion. The game will be played at the Maesdu Ground on a date to be arranged.
16/06/21
Ail-gêm Gyfeillgar / 2nd Pre-season friendly

Cafodd Port fuddugoliaeth o 3-1 yn eu hail gêm baratoi. Yr ymwelwyr â’r Traeth oedd Llangefni.
Y sgorwyr i Port oedd Marcus Banks, Ifan Emlyn a Matty Jones.
Diolch i glwb Llangefni a diolch am y cyfle i gael mwy o amser ar y cae.

Port recorded a 3-1 win in their preparaotary game with Cymru North visitors Llangefni Town.
Marcus Banks, Ifan Emlyn and Matty Jones netted for Port.
Thanks to Llangefni as the game provided players with further important minutes on the pitch.
05/06/21
Gêm ymarfer gwerthchweil / Good pre-season workout

Dychwelodd pêl-droed i’r Traeth ond, ar y funud, yn dal heb gefnogwyr yn bresennol. Llwyddodd Port a Llanrhaeadr yn eu hamcan i barhau a'u paratoadau at y tymor newydd hir ddisgwyledig, a chael munudau ar y cae wedi’r toriad hirfaith.
Er nad y canlyniad sydd o’r pwys mwya’, ar gyfer y record Port cafodd y fuddugoliaeth a hynny o 2-0. Rhys Alun ac Iddon Price oedd y sgorwyr.

Football returned to the Traeth today albeit without supporters. Both Port and Llanrhaeadr achieved the aim of gaining valuable preparation and minutes on the pitch after such a lengthy break.
Though results are of less importance, for the record Port gained a 2-0 victory. Rhys Alun and Iddon Price got their names on the scoresheet,
05/06/21
Llanrhaeadr ar y Traeth / Port v Llanrhaeadr

Bydd Port yn chwarae eu gêm gyfeillgar gynta’ pnawn ‘ma ar Y Traeth. Yr ymwelwyr fydd clwb Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Meddai Craig Papirnyk, « Edrych ‘mlaen i groeasawu Mark Griffiths a Llanrhaeadr i’r Traeth heddiw, diwrnod perffaith am gêm. Siomedig y bydd rhaid i gefnogwyr aros tan ddydd Llun!!"

Port will play their first pre-season friendly this afternoon at the Traeth. The visitors will be Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Manager Craig Papirnyk says, “Looking forward to welcoming Mark Griffiths and Llanrhaeadr to the Traeth today, perfect day for it. Just a shame supporters have to wait ‘til Monday!!”
04/06/21
Gwrthwynebwyr newydd / Fixture change

Mae’r rheolwr Craig Papirnyk wedi trefnu gwrthwynebwyr newydd ar gyfer y gêm gyfeillgar i’w chwarae ar Y Traeth ar Sadwrn 3ydd Gorffennaf
Bydd Port yn chwarae gwrthwynebwyr o’r Cymru Premier sef Derwyddon Cefn. Bydd y gic gyntaf am 2 o’r gloch.

Manager Craig Papirnyk has secured new opponents for the friendly to be played on Saturday, July 3rd. at the Traeth.
Port will now take on Cymru Premier club Cefn Druids. Kick-off will be at 2pm.
02/06/21
Hysbysebu’ch Cwmni / Advertising Opportunity

Oes gen eich busnes chi ddiddordeb cael hysbysfwrdd ar ochor y cae tymor nesa?
Mae ‘na gyfleon ichi hysbysebu eich cwmni ar un o gaeau mwyaf deniadol Cymru.
Hefyd mae yna gyfleoedd hysbysebu a noddi eraill ar gael.
++Am fwy o fanylion cysylltwch â Dylan: 07900512345++
Cefnogwch eich cymuned

Would your business be interested in a Perimeter Advertising Board next season?
An opportunity exists for you to advertise your company at this attrative ground and community hub.
There are many advertising or sponsorship opportunities available?
++For more information contact Dylan: 07900512345++ Support your community.
24/05/21
Gêmau cyn dymor Ail-dîm / Reserve Team Friendly Fixtures

Bydd tymor yr Ail-dîm yn cychwyn ar Sadwrn 31 Gorffennaf. Bellach bydd cynghrair yr Ail-dîmau yn dod o dan y Gymdeithas Bêl-droed. Mae’r rheolwr Aaron Lee Rickards yn aros i wybod am y clybiau eraill fydd yn cystadlu yn y gynghrair newydd hon.
++Sylwer oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fydd yn bosib i gefnogwyr fod yn bresennol yn y gêmau++.

25 Mai/ May Prifysgol Bangor University Adra / Home
28 Mai / May Pwllheli Res Adra / Home (i’w gadarnhau / to be confirmed)
2 Mehefin / June Bodorgan Adra / Home
1 Mehefin / June Aberffraw Oddi Cartre ’/ Away
17 Mehefin/June Bala Town Res Oddi cartre’/ Away
23 Mehefin / June Nefyn Adra / Home
3 Gorffennaf / July Bodorgan Oddi cartre ’/ Away
15 Gorffennaf/ July Bala Town Res Adra / Home

The Reserve League, now under the auspices of the FAW, starts on Saturday 31st July. Manager Aaron Lee Rickards awaits confirmation regarding the composition of the League
. ++Please note that, under covid restrictions, supporters cannot currently attend matches++
. 21/05/21
Gêmau cyn-dymor / Pre-season fixtures

Mae Craig Papirnyk wedi rhyddau y rhestr o gêmau cyfeillgar cyn-dymor.Mae’r rhestr yn cynnwys nifer o gêmau diddorol a digon i sicrhau sialens i’r chwraewyr wrth baratoi at y tymor newydd.
Mae Radcliffe, tynnu yn ôl a'r gêm wedi'i chanslo
++Sylwer oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fydd yn bosib i gefnogwyr fod yn bresennol yn y gêmau++.

Mehfin /June 5 LLANRHAEADR (Adre / Home)
Mehefin /June 15 LLANGEFNI (Adre / Home)
Mehefin / June 19 RHYL (Oddi cartref / Away)
Mehefin / June 23 DOLGELLAU (Oddi cartref / Away)
Mehefin / June 26 Y WAUN / CHIRK (Adre / Home)
Gorffennaf / July 3 RADCLIFFE (Adre / Home) (CANSLWYD / CANCELLED)
Gorffennaf / July 7 BAE COLWYN BAY (Oddi cartref / Away)
Gorffennaf / July 10 CONWY (Oddi cartref / Away)

Craig Papirnyk has released the above list of pre-season friendlies. There are some interesting games ahead which will provide his squad with some serious challenges and great preparation
. Over the border visitors Radcliffe FC have withdrawn from the fixture.
++Please note that, under covid restrictions, supporters cannot currently attend matches++
20/05/21
Diolch Gwirfoddolwyr / Thanks Volunteers

Hoffai'r clwb ddiolch i bawb ddaru wirfoddoli fel stiwardiaid dros y deuddydd yn Ysbyty Alltwen. Bu’r cynllun yn llwyddiant mawr.
Cafodd 1200 rhwng 18 a 29 oed eu brechiad cyntaf yn ystod y ddau ddiwrnod.
Diolchiadau arbennig i’r Sergeant Colin Jones o Heddlu’r Gogledd am ei arweiniad ac am sicrhau fod yna goffi a thê ar gael. Diolch hefyd i staff cegin yr ysbyty am baratoi lluniaeth.
Y gwirfoddolwyr oedd Bethan & Aled Price, Emrys Griffiths, Dylan Rees, Rob Bennett, Keith Jones, Richard Jones, Andy Unwin, Peter Jones, Carys Griffiths, Gilly Brown, Gerallt Owen a Clive Hague.
Gwnaeth y gwirfoddolwyr fwynhau’r profiad gan deimlo eu bod ywedi gwneud cyfraniad at y gymdeithas leol.

Highslide JS Highslide JS


The club would like to thank all the volunteer stewards over the 2 days at Ysbyty Alltwen. The project proved a great success as over 1200 came for their COVID vaccine Hospital.
1200 18/29 year olds received their first dose over the 2 days.
Special thanks go to Sergeant Colin Jones, North Wales Police, for his leadership & guidance, and ensuring the volunteers were kept going with tea & coffee. Thanks also to the Catering staff at Ysbyty Alltwen for providing lunch and biscuits for afternoon tea.
The volunteers were Bethan & Aled Price, Emrys Griffiths, Dylan Rees, Rob Bennett, Keith Jones, Richard Jones, Andy Unwin, Peter Jones, Carys Griffiths, Gilly Brown, Gerallt Owen and Clive Hague.
All the volunteers enjoyed the experience and felt that their efforts had contributed to helping the local community.
16/05/21
Colli newyddiadurwr safonol / The Passing of a dedicated sports journalist

Hoffai Clwb Pêldroed Porthmadog estyn ei cydymdeimlad dwysaf â theulu Keith Evans a fu farw dros y penwythnos. Bu Keith Evans yn newyddiadurwr chwaraeon i’r Daily Post a’r Cambrian News am ddegawdau, ac mae ei erthyglau wedi croniclo hanes pêl droed yn yr ardal.
Bu cyn ysgrifennydd y clwb Gerallt Owen yn gweithio yn agos a Keith am flynyddoedd, gan ddweud “Er yn newyddiadurwr penigamp a thrwyn am stori, yn gyntaf ac yn olaf roedd Keith yn wr bonheddig a’i wybodaeth o bêldroed lleol yn ddi-ail. Yn ystod y tymor ni fyddai yr un nos Sadwrn heb alwad gan Keith yn holi am hanes gemau Port ar gyfer y papur fora Llun. Bydd colled ar ei ôl.”
Ategodd Gareth Williams, a ddilynodd Gerallt yn gyswllt y clwb efo Keith Evans, yr hyn a fynegodd Gerallt amdano. Ychwanegodd Gareth, “Am 8 o’r gloch ar ei ben bob nos Sadwrn roedd yn amser Keith Evans yn ein ty ni. Dyna pryd yr holodd am hynt a helynt y gêm pnawn Sadwrn cyn mynd ati i gyflwyno adroddiad cwbl broffesiynol a theg o’r gêm ar gyfer y wasg leol. Yn wir mae pêl-droed yn yr ardal yn ddyledus iawn i Keith Evans am ei gyfraniad enfawr.”
Ar ran y clwb estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Mrs Evans a’r teulu ar yr adeg drist hon.

It is with sadness that Porthmadog Football Club learns of the passing of former Daily Post and Cambrian News sports reporter Keith Evans. His coverage of local sport in the north west of Wales has entertained and informed countless sports fans for many years.
Former Porthmadog Secretary Gerallt Owen remembers with fondness the weekly telephone conversations with Keith recounting the teams exploits at home and away. “First and foremost Keith was a real gentleman, but his knowledge of local football was second to none, Saturday night was never without a call from Keith to provide details for his Monday match reports.” Owen added “He will be sadly missed”
Gareth Williams, who followed Gerallt as Port’s link with Keith Evans, agrees totally with Gerallt’s tribute saying, “Bang on 8 o’clock on a Saturday night was Keith Evans time in my house; the time he received details of the afternoon’s game before going on to apply his professional skills to preparing a balanced and fair report for the local press. He added, “Football in this part of Wales owes Keith Evans a huge debt of gratitude.”
The club extends their condolences to his wife and the rest of the family at this sad time.
21/04/21
Angen stiwardiaid at glinig Brechu / Stewards required at Vaccination Clinic

Mae’r clwb wedi derbyn cais wrth y Bwrdd Iechyd i helpu stiwardio adeg y clinigau brechu yn Ysgyty Alltwen ar Gwener/Sadwrn/Sul 14/15/16 MAI gan gynorthwyo efo parcio, rhoi cyfarwyddiadau, cyngor ac yn y blaen. Bydd y clinigau i rhai rhwng 18 a 29 yn cael eu cynnal o 8.00am hyd at 6.00pm.
Y shifftiau i’r gwirfoddolwyr:
Bydd yn bosib torri’r cyfnodau i 3 shifft 7.30 i 11,00, 11,00 i 2.30 a 2.30 i 6.00
Neu 2 shifft 7.30 i 12,30 a 12.30 i 6.00
Os ydych yn barod i wirfoddoli cysylltwch efo Clive Hague ar 07562641203 (ar tecst fyddai orau) neu ar e-bost: haguejanclis@aol.com
Bydd Clive angen gwybod eich Enw, Manylion cyswllt a’r dyddiau ac amserau yr ydych yn barod i wirfoddoli.
Diolch ichi rhag blaen.

The club have received a request from the local Health Board, to help in providing volunteer stewards, to help with car parking, directions, advice etc at Ysbyty Alltwen for vaccination clinics, for those who are 18 to 29 year old, on Friday/Sat/Sun 14/15/16 May. The clinics are scheduled to run from 8.00am to 6.00pm.
The shifts for volunteers:
This could be broken down to 3 shifts 7.30 to 11.00, 11.00 to 2.30 and 2.30 to 6.00.
Or 2 shifts 7.30 to 12.30 and 12.30 to 6.00.
Clive Hague has agreed to be the contact for people who want to volunteer.
Contact number 07562641203, preferably by text, or email haguejanclis@aol.com
Clive will need name, contact details, and day & times that volunteers will commit to.
Thanks for your support.
12/05/21
BINGO NOS LUN / MONDAY NIGHT BINGO

Bingo @ CPD Porthmadog FC Ni fydd Bingo nos Lun yng nghlwb cymdeithasol y Traeth yn dechrau tan Mehefin 14eg.
Ar hyn o bryd mae llawr y clwb cymdeithasol yn cael ei adnewyddu yn dilyn llifogydd mis Ionawr.
Rydym yn edrych ymlaen i groesawu aelodau hen a newydd mis nesaf.

The Monday evening Bingo at the Traeth clubhouse will not restart until Monday June 14th. The clubhouse floor is in the process of being replaced following the flooding in January.
We apologise for any inconvenience caused and look forward to seeing members old and new next month.
08/05/21
Paul Pritchard i ymuno â Chaergybi / Pritch leaves for Holyhead

Paul Pritchard Newyddion siomedig i ddilynwyr Port wrth i’r golwr talentog Paul Pritchard benderfynu gadale y clwb.
Meddai Craig Papirnyk, “Mae Caergybi wedi cynnig amdano ac mae wedi penderfynu gadael. Er fy mod yn hynod siomedig rwy’n ddiolchgar ei fod wedi ymuno â ni tri tymor yn ôl.
“Mae Paul yn golwr grêt ond hyd yn oed yn well person, bu yn hollol onest efo mi o’r cychwyn cynta’ ac rwy’n parchu ei benderfyniad i chwarae yn agosach i’w gartref gan roi mwy o amser i’w deulu.”
Ymunodd â’r clwb yn 2018 gan roi gwasanaeth gwych. Bydd yn cael ei gofio gan y ffyddloniaid am nifer o arbedion arbennig iawn ac am gamp arbennig yn cadw 16 llechen lân mewn gêmau cynghrair a chwpan yn ystod tymor 2018/19.
Diolch Pitch a phob lwc.

Disappointing news for Port followers as talnted keeper Paul Pritchard decides to leave the club.
Criag Papirnyk said, “Holyhead have come in for Pail and he has decided to leave. Although I am gutted Pritch is leaving I am thankful to him for joining us a few seasons ago.
“Paul is a great keeper but a better person, who has been honest with me from day one and I completely respect and understand his decision to play closer to home and give more time to his family.”
A key signing in 2018, Paul has given the club great service and will be remembered by the Traeth faithfull for some truly memorable saves and for his outstanding achievement keeping 16 league and cup clean sheets in 2018/19.
Thanks and all the best Paul.
08/05/21
Y clwb yn Cadw’r Drwydded / Club retains Licence

CBDC / FAW Daeth newyddion da ddoe fod Port i gadw y Drwydded Haen 2 ar gyfer tymor 2021/22. Gwnaed y penderfyniad gan Gorff Trwyddedu CBDC yn y cyfarfod ddoe.
Meddai Craig Papyrnik wrth dderbyn y newyddion, “Llongyfarchiadau i’r clwb a da iawn i’r holl wirfoddolwyr am gadw a chynnal y Drwydded Haen 3.”
Mae gan y gwirfoddolwyr pob rheswm i deimlo’n falch o’r penderfyniad. Bu yn amser anodd i bob clwb yn ceisio cynnal safonau yn erbyn cefnlen COVID-19. Ond yn ychwanegol at hynny cafodd Port ergyd enfawr y llifogydd difrifol a darodd y Traeth. Er waetha’ hyn cyflawnodd Phil Jones a’i dîm o wirfoddolwyr wyrthiau yn cyflwyno gymaint o welliannau ar Y Traeth fel bydd cefnogwyr yn gweld wrth i bêl-droed ddychwelyd.
Gall y sylw droi bellach i faterion ar y cae wrth i bêl-droed gystadleuol ddychwelyd ym mis Gorffennaf.

The FAW Tier 2 First Instance Body meeting yesterday have awarded Port their Tier 2 License for season 2021/22
A very pleased manager, Craig Papirnyk, said “Congratulations to the club and well done to all you volunteers for maintaining the Tier 2 licence. “
The volunteers have every reason to feel proud at the decision. It has been a difficult time for all clubs attempting to maintain standards against a COVID-19 backdrop. In addition to COVID, Port received a massive hit from the serious flooding suffered at the Traeth. Despite all this, Phil Jones and his team of volunteers have performed miracles at the Traeth as supporters will find out when football finally returns to the Traeth.
Attention will now trun to on field matters as we look forward to a July commencement of competitive football.
05/05/21
Siôn Jones i adael Y Traeth / Siôn Jones to leave the Traeth

Mae rheolwr yr Ail Dîm, Aaron Rickards, wedi rhyddau y newyddion fod ei is-reolwr Siôn Jones i adael y clwb.
Meddai Aaron, “Mae galwadau newydd yn ei swydd yn ei gwneud yn anodd iddo deithio i Port yn wyrhnosol ac o’i rhan o mae’r amseriad wedi gweithio’n dda gan ei fod wedi derbyn cynnig clwb Llangefni o swydd rheolwr eu hail dîm..
“Bydd Siôn yn gadael gyda phob dymuniad da a diolch iddo am ei gymorth dros y ddwy flynedd ddiwetha’ (yn ystod y tymor ac yn y cyfnod clo) ac rwy’n siwr ei fod o'n teimlo yr un fath am y gefnogaeth a gafodd gan y clwb.”
Ar rhan y clwb, ychwanegodd Craig Papirnyk ei ddymuniadau gorau i Siôn gan ddiolch iddo am ei ymroddiad a’i gefnogaeth i Aaron.
Isod gweler datganiad Siôn.

Reserve team manager, Aaron Rickards has announced that his assistant Siôn Jones will be leaving the club.
Aaron said,”” New work commitments have made it difficult for him to travel down to Port every week and the timing has worked well for him, as he has been offered the Llangefni Town Reserves manager’s job.
“Sion goes with my best wishes and has been a great help for the past 2 years (season and lockdown) and I’m sure his feelings are returned towards the club.”
First team manager Craig Papirnyk on behalf of all at the club added his best wishes, thanking Siôn for his committment to the club and his support of Aaron.
Below is Sion's statement
05/05/21
Datganiad Siôn / Statement from Siôn.

Wrth ymadael a’r clwb mae Siôn Jones wedi rhyddhau y datganiad hwn.
“Gyda chalon drom mae’n rhaid imi adael y clwb gan fod trefniadau gwaith newydd wedi’i gwneud yn amhosib’ imi deithio ganol wythnos i Port ar gyfer gêmau ac ymarfer.
“Gallaf ddweud yn sicr fy mod wedi mwynhau bod yn rhan o’r clwb dros y blynyddoedd diwetha, a derbyn croeso gan bawb a theimlo fel un ohonoch
“Mae gweithio gyda’r bwrdd a’r staff hyfforddi mae wedi bod yn gymorth mawr yn fy natblygiad. Mae cael bod yn rhan o glwb mawr a phroffesiynol fel Port wedi bod yn ddylanwad ar fy nyfodol fel hyfforddwr.
"Diolch yn arbennig i Aaron am roi cyfle imi ddechrau fy nhaith fel hyfforddwr. Rwyf wedi dysgu gymaint wrth hyfforddwyr y clwb.
“Wrth edrych ymlaen rwyf wedi cael cynnig swydd rheolwr ail-dim Llangefni ac wedi ei dderbyn gan fod yn bosib imi weithio o gwmpas y galwadau gwaith. Diolch hefyd i’r clwb am ariannu fy natblygiad fel hyfforddwr”

Pob lwc a phob dymuniad da Siôn.

On his departure from the club Siôn Jones has released this statement
“It's with a heavy heart I have to leave as new work arrangements have made it impossible to travel to Port midweek for training and games.
“I can honestly say I've loved being part of the club the last few years, welcomed in by everyone involved and made to feel like one of your own.
“Working with the board and the coaching staff it has been a huge help in my development to be part of a huge and professional club like Port and hopefully put me in good shape for my future coaching.
Special thanks to Aaron for giving me the opportunity to begin my coaching journey and I have learnt so much from all coaches at the club.
“Going forwards I have been offered the managers job at Llangefni Town Reserves and have accepted as I can work the club around working commitments. Also big thank you to all at the club for the funding to help me progress as a coach.”

Thanks and best wishes Siôn.
26/04/21
Edrych ymlaen at ail-gychwyn / Looking forward to the return of Football

CBDC / FAW Bydd cystadleuthau Cwpan Y Gymdeithas Bêl-droed yn cychwyn yn fuan yn 2021/22. Cawn edrych ymlaen at gêm gystadleuol gynta’r tymor ar Sadwrn, 24 Gorffennaf pan fydd Port yn ymuno a Cwpan JD Cymru yn Rownd Gymhwyso 2
Yn y tymor sydd i ddod bydd Port hefyd yn cystadlu am Gwpan Amatur CBDC gan ymuno ar gyfer Rownd 2. Chwareir y rownd yma ar Sadwrn, 7 Awst.
Bydd yr Ardal North yn cychwyn ar Sadwrn, 31 Gorffennaf.

FAW Cup competitions are set to make an early start in 2021/22. It is likely that Port’s first competitive fixture will be on Saturday, 24th July when they enter the JD Welsh Cup at Quaylifying Round 2.
In season 2021/22 Port will also enter the FAW Amateur Trophy. They will join at the Round 2 atage and this round is set to be played on Saturday, 7th August.
The Ardal League season will commence on Saturday, 31st July.
21/04/21
Angen stiwardiaid at glinig Brechu / Stewards required at Vaccination Clinic

Mae’r clwb wedi derbyn cais wrth y Bwrdd Iechyd i helpu stiwardio adeg y clinigau brechu yn Ysgyty Alltwen ar Gwener/Sadwrn/Sul 14/15/16 MAI gan gynorthwyo efo parcio, rhoi cyfarwyddiadau, cyngor ac yn y blaen. Bydd y clinigau i rhai rhwng 18 a 29 yn cael eu cynnal o 8.00am hyd at 6.00pm.
Y shifftiau i’r gwirfoddolwyr:
Bydd yn bosib torri’r cyfnodau i 3 shifft 7.30 i 11,00, 11,00 i 2.30 a 2.30 i 6.00
Neu 2 shifft 7.30 i 12,30 a 12.30 i 6.00
Os ydych yn barod i wirfoddoli cysylltwch efo Clive Hague ar 07562641203 (ar tecst fyddai orau) neu ar e-bost: haguejanclis@aol.com
Bydd Clive angen gwybod eich Enw, Manylion cyswllt a’r dyddiau ac amserau yr ydych yn barod i wirfoddoli.
Diolch ichi rhag blaen.

The club have received a request from the local Health Board, to help in providing volunteer stewards, to help with car parking, directions, advice etc at Ysbyty Alltwen for vaccination clinics, for those who are 18 to 29 year old, on Friday/Sat/Sun 14/15/16 May. The clinics are scheduled to run from 8.00am to 6.00pm.
The shifts for volunteers:
This could be broken down to 3 shifts 7.30 to 11.00, 11.00 to 2.30 and 2.30 to 6.00.
Or 2 shifts 7.30 to 12.30 and 12.30 to 6.00.
Clive Hague has agreed to be the contact for people who want to volunteer.
Contact number 07562641203, preferably by text, or email haguejanclis@aol.com
Clive will need name, contact details, and day & times that volunteers will commit to.
Thanks for your support.
14/04/21
Tymor 2021/22 i gychwyn yn gynnar / Season 2021/22 to make an early start

CBDC / FAW Mae Bwrdd Cynghreiriau Cenedlaethol CBDC wedi cadarnhau bydd tymor 2021/22 yr Ardal Leagues yn cychwyn ar Sadwrn, 31 Gorffennaf
. Cymerwyd y penderfyniad hwn yn dilyn cyngor Cynllun Rheoli Covid-19 y Llywodraeth sydd yn cygnghori mae y gwanwyn a’r haf sydd yn cynnig y gobaith gorau i chwarae pêl-droed gan fod lefelau’r haint yn is a hefyd bydd mwy o bobl wedi derbyn y brechlyn. Mae’r cynllun hefyd yn dangos fod yna bosibilrwydd i 3ydd ton o’r haint ddod yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae CBDC am wneud y mwya’ o’r cyfleon i chwarae gymaint o gêmau a phosib cyn i’r bygythiad posib hwn amharu ar y tymor.

The FAW ) National Leagues Board has confirmed that the Ardal Leagues will make a start for the 2021/22 season on Saturday, 31 July
. The decision to start earlier has been taken following guidance that has been issued in the Welsh Government Coronavirus Control Plan, which advises that ‘spring and summer give us hope of more freedom, as rates of infection fall and more people are vaccinated.’ The Control Plan also details that ‘scientific modelling from a range of sources points to the very high likelihood of a third wave of infections later this year
.’ Therefore, the FAW is looking to maximise the playing opportunities where possible in the 2021/22 season, whilst taking into account the possible threat of further interruptions to competitions.
10/04/21
Gweithgareddau awyr agored / Outdoor Activities

CBDC / FAW Croesawyd penderfyniad Llywodraeth Cymru (ar 9 Ebrill} i ganiatáu gweithgareddau awyr agored i hyd at 30 o oedolion. Bydd caniatâd i hyn gychwyn o’r 26 Ebrill {yn lle y 3 Mai}.
Golyga hyn y gall clybiau geisio caniatâd i chwrae gemau cyfeillgar o 26 Ebrill ymlaen gan gadw at y rheol 30-person.
Yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth bydd CBDC yn adolygu ei threfniadau.

The Football Association of Wales has welcomed the 9 April news from the Welsh Government, that outdoor activity for up to 30 adults can now restart from 26 April instead of the previously set date of 3 May
. This will mean that clubs can seek permission to play friendly matches within the 30-person limit as and from 26 April.
Following the Government’s deision the FAW is reviewing its protocols.
06/04/21
Nwyddau’r clwb ar werth yn PIKES / Club Merchandise on sale at PIKES

Newyddion da i gefnogwyr!!
Cewch bellach bicio i SIOP PIKE'S, Stryd Fawr, Porthmadog a phrynu rhai o nwyddau’r clwb.
Hetiau a chapiau amrywiol, sgarffiau, bathodynnau ac yn y blaen.
Diolch i Meryl Pike am ei chydweitrediad hael.

Highslide JS Highslide JS Highslide JS


Good news for Supporters!!!
They will now be able to get their club merchandise at PIKE’S NEWSAGENTS, High Street, Porthmadog.
Bobble, beanie and bucket hats, baseball caps, scarves, club pennants and pin badges.
Thanks to Meryl Pike for her co-operation and generosity.
Newyddion cyn 06/04/21
News before 06/04/21

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us
<