Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
03/10/19
ANGEN DYFARNWYR / BECOME a REFEREE

Mae angen mawr am recriwtio mwy o DDYFARNWYR i gynnal y gêm yn lleol a dros yng Gymru. Yn barod gwelwyd ormod o lawer o gêmau yn cael eu gohirio am nad oes dyfanrwyr ar gael. Bydd hyn yn rhwystr i ddatblygiad y gêm yng Nghymru ac yn effeithio ar bleser y rhai sy’n dilyn y gêm.
BETH AMDANOCH CHI? OES GENNYCH AWYDD BOD YN DDYFARNWR?
Mae yna gyrsiau ar gael AR-LEIN, cyrsiau y cewch eu dilyn ar amser a fydd yn gyfleus ichi.
Cwrs Uwch: £80 (i gynnwys cit llawn)-tua 10 awr o ddysgu ar-lein ac UN diwrnod o sesiynau ymfarerol.
Cwrs Arweinyddion: £20 (2-3 awr o wersi ar-lein. Hyn yn caniatáu i ymgeiwyr llwyddianus ddyfarnu gemau ieuenctid.)
Gwybodaeth ar gael: www.becomearef.wales

Football in Wales badly needs to increase its recruitment of Referees. Already too many matches in all parts of the country are being postponed due to a lack of referees. This is having a detrimental effect development and enjoyment our game.
CAN YOU HELP? COULD YOU BECOME A REFEREE?
There are courses available and you can take the course at a time and a place that suits you as the courses are ONLINE
Advanced course - £80 (including full kit and accessories (approx. 10 hours on-line learning time, plus attendance at a one day practical session)
Leaders Award- £20 (approx. 2-3 hours on-line learning time and allows successful candidates to Referee junior football).
Information is available at www.becomearef.wales
03/10/19
Draw Wythnosol 44 / Weekly Draw 44

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 44 yw Rhif 69 JOSIE HAVELOCK n ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 44 is No. 69 JOSIE HAVELOCK winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
01/10/19
Dydd y Cofio / Remembrance Day

CPD Porthmadog v Corwen FC
Bydd yna foment o dawelwch cyn bob gêm yn y JD Cymru Leagues yfory I anrhydeddu Dydd y Cofio

There will be a moment's silence before all JD Cymru Leagues ties tomorrow to honour Remembrance Day.
31/10/19
Croesawu CORWEN i’r Traeth / Port home to Corwen

Noddwr y Gêm / Match Sponsor: Hayden E Willliams Surveyor

Ar Sadwrn 2 Tachwedd byddwn yn croesawu Corwen i’r Traeth. Cawsant gychwyn anodd i’r tymor yn dilyn sicrhau dyrchafiad o gynghrair ardal Wrecsam y tymor diwetha’. Fel Port, ni gafodd Corwen fuddugoliaeth yn ystod Awst a Medi ond wedyn cafwyd buddugoliaeth dda oddi cartref yng Nghonwy ar 16ed Hydref.
Bydd y ddau glwb yn edrych i adeiladu ar fuddugoliaethau er mwyn troi’r tymor a dianc o’r safleoedd ar y gwaelod, a hynny mor fuan a phosib. Mae mis Hydref wedi bod yn fis tipyn gwell i Port yn sicrhau dwy fuddugoliaeth yn y gynghrair ac un gêm gyfartal a hefyd llwyddiant yng Nghwpan Cymru. Mae 4 gêm ddi-guro yn rhediad i adeiladu arno.
Y tro diwetha’ i Port chwarae Corwen mewn gêm gystadleuol oedd nôl yn 1999/2000 pan dreuliodd y clwb o Sir Ddinbych dymor yn y Cymru Alliance. Tymor anodd bu hwnnw, a gwnaeth Port y dwbl drostynt. Roedd y gemau hynny yn gofiadwy am i Viv Williams rhwydo hatric draw yng Nghorwen a dwy gôl arall yn eu herbyn ar y Traeth.
Yn ddiweddar gadawodd Danny Jellicoe a Tommy Mutton y clwb a cymrodd Nick Jones drosodd yn rheolwr dros dro. Erbyn hyn apwyntiwyd cyn is-reolwr Port, Sion Tudor i’r swydd. Mae carfan Corwen hefyd yn cynnwys Eilir Edrwrds, Dale Davies a Joe Williams, tri o gyn chwaraewyr Port.

Port will be at home again on Saturday for another significant fixture in the battle to climb the league. Corwen will be the visitors and they have had a difficult time after securing promotion to the Cymru North from the Wrexham area Welsh National League. Like Port they were without a win in August and September but then chalked up a good win away at Conwy on October 16th.
Both clubs will be looking to build on victories to turn around their season and escape from the relegation spots as soon as possible. Port have found some form in October with two league wins and a draw to go with last Tuesday’s Welsh Cup win. A 4-match unbeaten run is a change in fortunes which they will seek to continue.
The last time the two clubs met in a competitive match was back in 1999/2000 when Corwen spent a season in the Cymru Alliance. That proved to be a very tough season for the Denbighshire club with Port completing a double over them. The games were notable for a Viv Williams hat-trick in the away win, followed by a brace at the Traeth.
The club have recently parted with their management team of Danny Jellicoe and Tommy Mutton. Nick Jones took temporary charge of the team but their new man in charge is former Port assistant manager Sion Tudor. His Corwen squad contains former Port players; Eilir Edwards, Dale Davies and Joe Williams.
See you Saturday. C’mon Port!!
30/10/19
Cwpan Ieuenctid Cymru Round 2 / FAW Youth Cup Round 2

Bydd tîm Ieuenctid Port yn chwarae eu gêm yn 2ail Rownd Cwpan Ieuenctid yn erbyn Y Drenewydd pnawn Sul nesa (3ydd Tachwedd). Sicrhaodd Port eu lle yn yr 2ail Rownd gyda buddugoliaeth o 6-3 dros Penmaenmawr Phoenix â’r Drenewydd yn curo Bow Street.
Bydd y gic gynta’ am 1.30pm. CANLYNIAD: Port 0-5 Y Drenewydd

The Port Youth team will play their tie in the 2nd Round of the FAW Youth Cup against Newtown, on Sunday (3rd November). Port reached the 2nd Round by beating Penmaenmawr Phoenix by 6-3 while Newtown beat Bow Street.
The game will kick off at 1.30pm. RESULT Port 0-5 Newtown
27/10/19
Gêm Gwpan nos Fawrth / JD Welsh Cup-tie on Tuesday

Erbyn hyn mae Andrew Howard, Pennaeth Cystadlaethau y Gymdeithas Bêl-droed, wedi cadarnahau dyddiad ac amser gêm Cwpan Cymru gyda Llanberis.
“Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar nos Fawrth 29 Hydref ar Y Traeth, Porthmadog o dan y llif oleuadau gyda’r gic gynta’ am 19.30 a hynny yn unol â rheolau’r gystadleuaeth.”
Golyga hyn fod y gêm wedi’i symud i’r Traeth yn dilyn gohirio ddwywaith yn Llanberis.
Dylai gefnogwyr nodi na fydd Clwb y Traeth yn agor tan ar ôl 7pm. Hyn oherwydd digwyddiad arall wedi'i drefnu yn Y Clwb rhwng 2pm a 7pm.
OND bydd y CANTÎN yn agor o 6.30pm ymlaen lle bydd Bwyd, Te a Choffi ayb ar gael.
Cawn eich gweld ar Y Traeth nos Fawrth. Byddwch yno C’mon Port!!

The date has now been confirmed, by Andrew Howard, Head of Competitions FAW, regarding the JD Welsh Cup=tie with CPD Llanberis
“The match will be played on Tuesday 29th October, at Y Traeth, Porthmadog, under floodlights with a 19:30 kick-off, in accordance with competition rules.”
It means that as the game has been postponed on two occasions it is then played on the opposition ground.
Supporters should note that the Clubhouse will not be open until after 7pm. There has been a long standing booking between 2pm and 7pm.
Howver the Canteen will be open at 6.30pm to provide supporters with food . snacks tea, coffee etc.
See you all at the Traeth. C’mon Port!!
26/10/19
Draw Wythnosol 43 / Weekly Draw 43

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 43 yw Rhif 24 ARWEL OWEN yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 43 is No. 24 ARWEL OWEN winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
26/10/19
TOTE HYDREF / OCTOBER TOTE

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis HYDREF oedd 10 + 31. Nid oedd enillydd (hyn i'w gadarnhau) Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener nesa’.
Bydd y wobr o £260 yn cael ei ychwaegu at gyfanswm mis Tachwwedd
Amlenni Tote ar gael o Siop Pikes, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the OCTOBER TOTE were 10 + 31. There were NO winners, This to be confirmed. Any claims must be made by 8pm next Friday.
The £260 prize will be added to November's total.
Tote envelopes available from Pikes Newsagents, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
26/10/19
Gêm yn Llanberis wedi gohirio / Welsh Cup=tie off again

Unwaith eto bu’n rhaid gohirio’r gêm Gwpan a oedd fod I’w chwarae yn Llanberis heddiw.

The Welsh Cup tie to be played at Llanberis today has had to be postponed
25/10/19
Podlediad yn edrych ymlaen at gêm Llanberis / Podcast looking ahead to the Llanberis match

Dyma'r podlediad diweddaraf i gael ei recordio gan Dylan Elis yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Llanberis yng Nghwpan Cymru ac yn trafod y tymor hyd yma. Yn ymuno â fo yn y stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth (!!) mae Simon Brooks a Rhydian Morgan. Cliciwch isod i wrando ar y podlediad.



Here's the latest podcast to be recorded by Dylan Elis looking ahead to the match againt Llanberis in the first round of the Welsh Cup and discussing our start to the season. Joining him in the studio in Penrhyndeudraeth (!!) are Simon Brooks and Rhydian Morgan. Click above to listen to the Welsh-language podcast.
25/10/19
Croeso i'r Clwb Gwern / Welcome to the club Gwern

Mae’n bleser gan y clwb groesawu ein Ffisio Newydd, Gwern Dafydd, i Port. Bydd yn ymuno fel rhan o bartneriaeth gyffrous sydd wedi ei sefydlu rhwng y clwb â chwmni Ffisiotherapi Eryri, sydd â chlinig yng Nghaernarfon.
Highslide JS

The club are pleased to welcome our new Physio, Gwern Dafydd, to Port. He joins as part of an exciting new partnership which has been formed between the club and Caernarfon based Eryri Physiotherapy.
22/10/19
Rownd 2 Cwpan Cymru / Welsh Cup Round 2

Bydd Port yn wynebu Gresffordd, gwrthwynebwyr o gynghrair JD Cymru North, yn ail rownd Cwpan Cymru, hynny yw os byddwn yn llwyddo trechu Llanberis yn y gêm sydd wedi ei had-drefnu ar gyfer dydd Sadwrn. Tynnwyd yr enwau ar gyfer rownd 2 yn fyw ar YouTube a chyfryngau cymdeithasol ddydd Llun.

Port will face JD Cymru North opponents, Gresford Athletic, in the second round of the Welsh Cup, that is if we manage to beat Llanberis in the re-arranged first round tie on Saturday. The second round was drawn live on YouTube and social media on Monday.
22/10/19
Morgan Jones yn ymuno â Pwllheli ar fenthyg / Morgan Jones joins Pwllheli on loan

Mae Morgan wedi ymuno â Phwllheli tan ddiwedd y tymor i gael munudau gwerthfawr ar y cae a mwy o brofiad. Er y bydd yn chwarae i Bwllheli, bydd yn dal i ymarfer efo ni bob wythnos gan ein bod yn teimlo fod hynny’n bwysig i’w ddatblygiad. Mae’n golwr ifanc talentog gyda dyfodol ardderchog o’i flaen ond rydym yn teimlo mai dyma’r symudiad cywir iddo yn y tymor byr.

Morgan has joined Pwllheli until the end of the season to get some much needed minutes and further experience. Although playing for Pwllheli, he will continue to train with us every week as we feel that's important for his development. He's a talented young goalkeeper with a fantastic future ahead of him but we feel this is the right move for him in the short term.
21/10/19
Ail-drefnu gêm Llanberis / Llanberis match rescheduled

Mae wedi'i gadarnhau y bydd ein gêm yng Nghwpan Cymru yn erbyn Llanberis yn cael ei chwarae dydd Sadwrn nesa (26ain) am 2pm ar faes Ffordd Padarn. Dylai cefnogwyr nodi y bydd Marathon Eryri hefyd yn cael ei gynnal yn Llanberis ddydd Sadwrn, felly bydd rhai ffyrdd ar gau, a lleoedd parcio yn brin.
Ar ôl i'r enwau ddod allan o'r het heddiw 'ma, mae'r ddau dîm yn gwybod bellach mai gêm gartref yn erbyn Gresffordd fydd yn disgwyl y buddugwyr yn y rownd nesa.

It's been confirmed that our Welsh Cup match against Llanberis has been rescheduled for next Saturday (26th), 2pm at their Ffordd Padarn ground. Supporters should note that the Snowdonia Marathon is also being held in Llanberis on Saturday, therefore there will be some road closures and parking spaces will be at a premium.
Following today's next round draw, both teams know that a home tie against Gresford Athletic awaits the winner of Saturday's match.
20/10/19
Ysgol Bêl-droed Hanner Tymor / Half Term Soccer School

Cynhelir YSGOL BÊL-DROED Haner-Tymor ar Y Traeth ar Hydref 28. Hydref 30 a Tacchwedd 2.
10am- 3pm (Gollwng am 9am ar gael)
6-12 mlwydd oed
Dewch a Dillad Cynnes,Côt Law, Pecyn bwyd a digon o diod
Cost £15
I archebu lle cysylltwch â GETHIN ar 07974033552


There will be a Half-Term SOCCER SCHOOL at the Traeth on October 28th, 30th & 1st November
10am -3pm (Drop off from 9am available)
6-12 years old
Bring warm clothing, Rain coat, Packed lunch and plenty to drink
Cost £15
To book contact GETHIN on 07974033552
20/10/19
Ail-dîm adre’ i Llanbêr / Reserves play Llanberis Res on Friday OFF OFF

Bydd Ail-dimau Port a Llanberis hefyd y cyfarfod yr wythnos hon. Bydd y gêm gynghrair yn cael ei chwarae ar Y Traeth nos Wener nesa’, Hydref 25, gyda’r gic gynta’ am 7.30pm. Gobeithio am well lwc gyda’r tywydd!! Cefnogwch yr hogia’!.

The Reserve teams of Port and Llanberis are also scheduled to meet this week. The league fixture will be played at the Traeth next Friday 25th October with a 7.30 kick off. Let’s hope for better luck with the weather!! Support the lads!
20/10/19
Cyfweliad Paul Pritchard / Paul Pritchard’s interview

Ar wefan Cymru Football cewch gyfweliad diddorol Jamie Thomas gyda’r golwr Paul Pritchard. Mae Paul yn sôn am y siom ar gychwyn y tymor ond yn dangos hyder yn y garfan a’r tîm reoli i sicrhau fod y clwb yn troi’r gornel. Gwelwch y cyfweliad ar Cymru Football

The Cymru Football website Jamie Thomas has an interesting interview with our Keeper Paul Pritchard. Paul talks about Port’s start to the season but also his confidence that Port has the talent and experience to turn the corner. You can find it on Cymru Football
20/10/19
Draw Wythnosol 42 / Weekly Draw 42

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 42 yw Rhif 82 JANE FELLCUOTT yn ennill gwobr o £75!!
Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 42 is No. 82 JANE FELLCUOTT winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
19/10/19
Gêm wedi’i GOHIRIO / Today’s game is OFF

Bu’n rhaid gohrio’r game Gwpan yn Llanberis heddiw. Siomedig ond fawr o syndod yn dilyn y dilyw!!

Today’s Cup-tie at Llanberis has been postponed. Disappointing but not surprising given the heavy rain.
18/10/19
Gohirio Gêm yr Ail Dîm Heno / Tonight's Reserve Fixture Postponed

Mae gêm ddarbi'r ail dîm heno yn erbyn ail dîm Pwllheli wedi cael ei gohirio yn dilyn glaw trwm.

The reserves' derby match tonight against Pwllheli reserves has been called off after heavy rain.
17/10/19
Cwpan JD Cymru Rownd 1 / JD Welsh Cup Round 1 KO 2pm

Bydd ein sylw yn troi at rhamant y Gwpan pnawn Sadwrn. Byddwn yn cymryd y daith fer i Ffordd Padarn, cartre’ CPD Llanberis, ar gyfer Rownd 1 Cwpan JD Cymru.
Hwn fydd y tro cynta’ am 27 mlynedd i’r ddau glwb gyfarfod mewn gêm gystadleuol. Rhaid mynd yn ôl at dymor 1991/92 am y gêm honno ar 7fed Medi 1991. Gêm yng Nghwpan Cymru oedd honno hefyd. Port oedd yn fuddugol y tro yna o 2-1 ac yn sicrhau lle yn yr 2ail Rownd. Sgoriwyd goliau Port gan Stuart Williams a Geraint ‘Siops’ Jones. Diddorol nodi mae Locomotif Llanberis oedd enw’r clwb ar yr adeg honno!
Ar ôl ennill, aeth Port allan yn yr 2ail rownd, yn colli o 3-1 ar Ffordd Farrar yn erbyn Bangor.
Clwb yn Adran 1 y Welsh Alliance ydy Llanberis ac ar hyn o bryd maent yn union yng nghanol y tabl yn yr 8fed safle yn ennill 4 gêm ac wedi colli 4 gêm.Cyrhaeddodd Llanberis y rownd hon drwy guro Llanelwy o 3-1. Bu cryn gysylltiad rhwng clwb Llanberis a Port yn y cyfnod pan oedd dau o hoelion wyth pêl-droed y Darans, Colin a Terry Saynor, yn chwarae dros Port.
Mae gemau cwpan yn wahanol ac mae’n beryg ceisio eu darogan ond gall Port fynd i’r gêm hon mewn dipyn gwell hwyliau yn dilyn tair gêm heb golli gyda 7 pwynt wedi’u codi. C’mon Port!!
Diolch i Gerallt Owen am y ffeithiau hanesyddol.

Our attention now turns to the romance of the Cup and on Saturday Port will make the short journey to Ffordd Padarn, the home of CPD Llanberis, for Round One of the JD Welsh Cup.
This will be the first competitive meeting between the two for 27 years.
We have to go back to season 1991/92 for that game, the 7th September 1991. That too was a Welsh Cup Round One tie and Port ran out winners by 2-1 to gain a place in the 2nd Round. The scorers for Port were Stuart Williams and Geraint ‘Shops’ Jones. Interesting to note that the club was then known as Locomotive Llanberis!
For the record Port went out in the 2nd Round losing 3-1 at Ffarrar Road.
Llanberis play in Division One of the Welsh Alliance and currently lie bang in mid-table iin 8th place having won 4 games and lost 4. They reached the 1st Round by beating St Asaph 3-1 in the previous round. A strong connection exists between the two clubs with Darans legends, Colin and Terry Saynor having also played for Port.
Cup ties are unpredictable and different but Port will take heart from a revival of fortunes, unbeaten in 3 games, picking up 7 points in the process. C’mon Port!!
Thanks to Gerallt Owen for the historcal info.
16/10/19
Ail-dîm yn croesawu Pwllheli / Reserves home on Friday

Bydd gan yr Ail-dîm gêm nos Wener, pan fydd Ail-dîm Pwllheli yn ymweld â’r Traeth am gêm Gynghrair. Cefnogwch yr hogia’ wrth iddynt geisio parhau a’u rhediad da yn y gynghrair. Bydd y gic gynta’ am 7,30pm.

The Reserves will be in action on Friday when Pwllheli Res will be the visitors to the Traeth for a League fixture. Support the lads as they look to continue their run of league victories. Kick off 7.30pm.
15/10/19
Cydymdeimlad / Condolences

Fel clwb, anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf i ddau o hoelion wyth y clwb - Phil Jones, ein Cadeirydd a’i frawd, Rich ar golli ei mam yn gynnar bore ma. Roedd hi’n 91 oed.

As a club, we send our deepest condolences to our Chairman, Phil Jones & his brother, Rich following the loss of their mother earlier this morning. She was 91 years old.
14/10/19
Cant Tommie / Tommie’s Century

Grêt i fod yn Stadium Dinas Caerdydd neithiwr i weld Cymru yn cael gêm gyfartal gyda Croatia ond gwych hefyd gweld Tommie Collins yn cael cydnabyddiaeth yno ar ei record arbennig yn cwblhau ei ganfed taith yn dilyn Cymru i gemau oddi cartref. Cwblhawyd y cant yn Trvana wythnos ddiwetha’ yn gweld Cymru yn chwarae Slofacia.
Moment o falchder i Tommie ac i’w deulu a'i ffrindiau. Grêt hefyd oedd ei weld ar y sgriniau mawr yn y Stadium!!
Highslide JS

Great to be at the Cardiff City Stadium last night to see Wales get a 1-1 draw with Croatia and to to see and hear Tommie Collins being recognised for his amazing record of 100 away days following Wales worldwide. The 100th came when he followed Wales to Trnava last week for the game against Slovakia.
A proud moment for Tommie and for his family and friends. Great to see him on the big screens at the Stadium!!
14/10/19
Draw Wythnosol 41 / Weekly Draw 41

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 41 yw Rhif 88 IAN JONES yn ennill gwobr o £75!!! Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 41 is No. 88 IAN JONES winning the £75 prize!!! Congratulations!! Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
13/10/19
Dau gant Ceri / Ceri’s double century

Diwrnod arbennig i Ceri James wrth I Port ymweld â Llanfair pnawn Sadwrn. Hon oedd ei 200fed gêm mewn crys Port. Ymunodd â Port am y tro cyntaf yn nhymor 2009/10 gyda’r clwb yn dal yn yr Uwch Gynghrair. Wedyn, yn dilyn cyfnod yn Seland Newydd dychwelodd i’r Traeth yn 2012 gan chwarae i’r clwb yn y Cymru Alliance, a rwan yn y Cymru North. Mae wedi rhoi gwasanaeth gwych i’r clwb, yn chwaraewr canol cae llawn sgil a creadigrwydd ac yn fwy diweddar yn amddiffynnwr canol. Yn wir roedd ei berfformiad yn Llanfair yn gwbl nodweddiadol ohono yn cyfeirio’r gem o’r cefn ac wedyn, pan ddaeth y pwysedd a’r panig tuag at y diwedd, cadw ei ben a gweld Port drwodd at y triphwynt.
Cyflwynwyd potel o bybls i Ceri cyn y gêm gyda swyddogion y clwb, Clive Hague a Rob Bennett yn gwneud ydyletswydd hapus. Diolch Ceri.
Highslide JS

The visit to Llanfair on Saturday marked a special day for Ceri James as it was his 200th appearance in a Port shirt. First joined Port in season 2009/10 while the club was in the WPL. Then following a spell in New Zealand, he returned to the club in 2012 playing in the Cymru Alliance and now the Cymru North. He has given the club tremendous service as a highly skilled, creative midfielder and latterly as a central defender. The game at Llanfair was another typical Ceri James performance, directing operations from the back and, when the pressure was on towards the end he kept his cool to see the game through.
Ceri was presented with a bottle of bubbly ahead of the game. Club officers Clive Hague and Rob Bennett performed the happy duty. Thanks Ceri.
12/10/19
Penrhyncoch ar y Traeth / Penrhyncoch at home

Noddwyr / Match Sponsors: TANRONNEN INN BEDDGELERT
CPD Penrhyncoch fydd yr ymwelwyr nesa’ â’r Traeth ar nos Fawrth nesa’ 15 Hydref gyda’r gic gynta’ am 7.30pm. Llynedd llwyddodd y clwb o’r canolbarth i osgoi disgyn o drwch blewyn mewn diweddglo cyffrous aeth i’r diwrnod ola’r tymor.Y tymor hwn mae’r clwb wedi manteisio ar y ddihangfa honno drwy achosi dipyn o sioc gyda’i canlyniadau cadarnhaol.
Bu clwb Cae Baker bob amser yn anodd i’w curo adra’ neu oddi cartra’ ond llynedd llwyddodd Port wneud y dwbl drostynt yn y Cymru Alliance.. Y tro yma mae’r cyfan yn wahanol iawn gyda Penrhyncoch yn hedfan yn uchel yn y 6ed safle ac yn ennill 6 o’u 10 gêm. Y Sadwrn diwetha’ dod o’r tu ôl i guro Bwcle o 2-1. Cawsant hefyd fuddugoliaethau dros Llanrhaeadr, Gresffordd a Bae Colwyn a gêm gyfartal ddi-sgôr ar y Belle Vue. Bydd y canlyniadau yma yn rhoi hyder i Penrhyn wrth deithio i’r Traeth. Yn eu carfan yn dal i fod, mae’r enwau cyfarwydd profiadol fel Jon Foligno, Sion ac Owain James ac Antonio Corbisiero.
Daeth cyfnod hir di-ffrwyth Port i ben gyda buddugoliaethau gefn wrth gefn a bydd hyn yn rhoi hyder ifddynt at y sialems nos Fawrth. Gwelwyd arwyddion o hyn pnawn Sadwrn gyda chwarae celfydd yn creu digon o gyfleoedd. Cam arall sydd angem bellach, ydy cymryd cyfartaledd uwch o rhain. C’mon Port!!

Penrhyncoch will be the next visitors to the Traeth for a midweek fixture next Tuesday 15th October with a 7.30pm kick off. The mid-Wales club narrowly escaped relegation last season, retaining their place on the last day of the season in a rousing finale. This season Penrhyncoch have certainly capitalised on their great escape to get off to a flying start to the season.
The Roosters have always been a hard nut to crack both home and away but in the Cymru Alliance last season Port performed the double over the Roosters. But this time it will be a very different story with Penrhyncoch flying high in 6th place, having won 6 of their 10 games. Last Saturday they came from behind to record a 2-1 win over Buckley, They also have wins over Colwyn Bay, Llanrhaeadr and Gresford and have also held Rhyl to a goalless draw at the Belle Vue. All of this will give Gari Lewis’s squad plenty of confidence as they travel to the Traeth. They have an experienced squad with familiar names like Jon Foligno, Owain and Sion James and Antonio Corbisiero remaining regulars. Yet another testing game!
Port’s barren spell has come to an end with back to back victories and this will give increased confidence to face Tuesday’s challenge. There were signs of this on Saturday with the creative play providing the front men with some decent opportunities. The next step will be to take a higher percentage of these chances. C’mon Port!!
11/10/19
Ail-dîm yn parhau a’u rhediad / Reserves continue their winning run

Mae rhediad yr Ail-dîm yn parhau gyda’u 6ed buddugoliaeth yn olynol a’r dwbl dros Bae Cinmel.
Cafodd Port eu dal allan gyda Jordan Worthington yn sgorio gôl gynnar dros y Bae. Parhaidd y fantais a barhaodd tan 21 munud gyda Tom Hughes yn dod a’r sgôr yn gyfartal. Pedwar munud yn ddiweddarach a roedd Tom wedi cwblhau hatric!! Daeth yr ola’ o’r smotyn.Tua diwedd yr hanner ychwanegodd Matthew Roberts y 4 ydd a Rhodri jones y 5ed, cyn i Math Robert s ei gwneud yn 6-1 ar yr hanner gyda cic rhydd o 18 llath.
Tarodd Bae Cinmel yn ôl yn yr ail hanner gyda goliau gan Andrew Booker a Connor Roberts i’w gwneud yn 6-3. Ond Tom Hughes cafodd y gair ola’ gyda’i 4ydd o’r noson gan wneud y sgôr terfynol yn 7-3.

The Reserves continued their winning run completing the double over Kinmel Bay and make it 6 wins in a row.
The Bay however caught Port out with an early goal from Jordan Worthington giving them a lead which they held until the 21st minute. Tom Hughes netted the equaliser and then went on to complete a hat-trick in the space of just 4 minutes!! The third coming from the penalty spot. Further goals for Port came towards the end of the half from Matthew Roberts and Rhodri Jones with Math Roberts’s 18-yard free kick made it 6-1 at the interval.
In the 2nd half Kinmel Bay hit back with goals from Andrew Booker and Connor Hughes to make it 6-3. But Tom Hughes had the last word with his 4th of the evening to make the final score 7-3.

Carfan / Squad Kai Williams, Tomos Hughes, Ryan Williams, Sol Kempster©, Tyler Rolffe, Berian Rhys, Ethan Jones, Rhodri Jones, Math Roberts, Rhys Alun Williams, Matthew W Roberts. Eilyddion / Subs: Tomos Roaney, Sion Wyn Jones, Adam Griffiths,. Celt Jones.
Newyddion cyn 11/10/19
News before 11/10/19

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us