Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
10/10/19
Port yn teithio i Lanfair Caereinion / Port away to Llanfair Utd (SY21 0AT)

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Lanfair Caereinion. Mae’r ddau glwb wedi cael cychwyn anodd i’r tymor a tra fod Llanfair yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gynghrair gynta’ o’r tymor cafodd Port eu 3 phwynt cynta’ mewn gêm bisâr yn erbyn Rhuthun. Gwerth nodi fof y clwb o’r canolbarth wedi sicrhau buddugoliaeth dda dros Llangefni yng Nghwpan Nathaniel MG ar ddiwrnod agoriadol y tymor. Mae Llanfair ar ddau bwynt yn dilyn dwy gêm gyfartal sy’n eu gadael un safle yn is na Port.
Bydd cefnogwyr Port yn edrych ‘mlaen i ymweld â Cae’r Mownt unwaith eto am gêm fydd yn hynod o bwysig i’r ddau glwb wrth i’r frwydr am bwyntiau barhau. Mewn gemau yn erbyn Y Rhyl, Penrhyncoch a Bwcle dim ond colli o drwch blewyn oedd hanes Llanfair. Bydd y ddau rheolwr, Rhys Stephens a Sion Eifion, wedi pwysleisio pwysigrwydd y gêm wrth i’r ddau glwb geisio codi allan o’r pedwar isa’.
O safbwynt Port, roedd yr ymdrech i wasgu’r 3 phwynt cynta’ yn cynnig gobaith am greu ‘chydig o fomentwm wrth fynd ymlaen. Pe byddai’n bosib’, byddai Sion Eifion yn croesawu un darn o lwc, sef cael carfan lawn i ddewis ohoni! Pennau fyny a dal i frwydro, wnaiff i’r llanw droi. C’mon Port!!
Un darn o gydnabyddiaeth haeddiannol wythnos hon oedd enwi'r chwaraewr canol cae talentog, Jay Gibbs yn ‘Tîm yr Wythnos’ y JD Cymru Leagues.

On Saturday Port will travel to Llanfair Caereinion. Llanfair Utd, like Port, are having a difficult start to the season. Whereas Port manged to pick up their first win of the season in somewhat bizarre circumstances, Llanfair are still searching for their first league 3pts. They did however inflict a 3-1 defeat on Llangefni Town in the Nathaniel MG Cup. Otherwise, they have picked up points in two drawn games which leaves them one place below Port in the table.
Port supporters will look forward to visiting Mount Field again, knowing that it will be another vital fixture for both clubs in the battle for points. Llanfair have been edged out in several games with odd goal defeats to Rhyl, Penrhyncoch and Buckley. Both managers Rhys Stephens and Sion Eifion will have their players well primed as to the importance of this fixture.
Port, having squeezed out that first 3 points against Ruthin Town, must now look to build on and develop some momentum to hopefully start a run where points are being picked up regularly. It would certainly be a welcome change for Sion Eifion to know that he is able to have a full squad available for selection. Just now it’s a case of heads up, battle on to make the tide turn. C’mon Port!!
One welcome piece of recognition this week was the inclusion of talented midfielder Jay Gibbs in the JD Cymru Leagues Team of the Week. Well done Jay!!
08/10/19
Ail-dîm yn croesawu Bae Cinmel / Reserves at Home on Friday

Bydd yr ail gêm gyghrair rhwng Port a Bae Cinmel yn cael ei chwarae nos Wener (11 Hydref) ar Y Traeth, gyda’r gic gynta’ am 7.30pm .Cafodd Port fuddugoliaeth o 2-0 yn y gêm oddi cartref a byddant yn gobeithio am ganlyniad tebyg eto er mwyn cadarnhau eu safle ar frig y tabl.

The return fixture between Port Reserves and Kinmel Bay will be played on Friday (11 October) evening at the Traeth. Kick off 7.30pm. Port were 2-0 winners in the away meeting and will be hoping for a similar result on Friday to consolidate their position at the top of the table.
07/10/19
Port drwodd yn y Cwpan Ieuenctid / Port go through in FAW Youth Cup

Sicrhaodd y tîm Dan 19 eu lle yn ail rownd Cwpan Ieuenctid Cymru gyda buddugoliaeth o 6-3 dros Phoenix Penmaenmawr ar Y Traeth pnawn Sul. Rhwydodd Kiran Jones dwywaith gyda Morgan slater, Berian Rhys, Ethan jones a Rhodri jones yn sgorio gôl yr un. Llongyfarchiadau hogia’!
Rownd 2 Port v Y Drenewydd SUL Tachwedd 3ydd 1.30pm


The U19s secured their place in Round 2 of the FAW Youth Cup with a 6-3 victory over Penmaenmawr Phoenix at the Traeth on Sunday, Kiran Jones scored twice for Port and the other goals were scored by Morgan Slater Berian Rhys Ehtan Jones and Rhodri Jones.Well done lads!
Round 2 Port v Newtown Sunday 3rd November
06/10/19
Draw Wythnosol 40 / Weekly Draw 40

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 40 yw Rhif 43 KATH PARRY yn ennill gwobr o £75!!! Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com


The "Weekly Draw" winner for week 30 is No. 43 KATH PARRY winning the £75 prize!!! Congratulations!! Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
03/10/19
Cefnogwch DANNY GOSSETT / Support DANNY GOSSETT

Bydd casgliad er budd Danny Gosset (Bala Town) yn caei wneud yn y gêm ar Y Traeth pnawn Sadwrn rhwng Port a Rhuthun. Mae Danny yn brwydro Non-Hodgkin Lymphoma a gofynnwn yn garedig i gefnogwyr gefnogi a chyfrannu at yr achos teilwng hwn. Diolch yn Fawr.

There will be a bucket collection in support of Bala Town player Danny Gossett in the game at the Traeth on Saturday between Port and Ruthin Town, Danny has been diagnosed with Non-Hodgkin Lymphoma and we ask supporters to show their support by contributing to the collection. Thank you.
03/10/19
Port yn croesawu Rhuthun / Port welcome Ruthin to the Traeth

Noddwr / Match Sponsor: DARLUN Home Design Studio

Pnawn Sadwrn byddwn yn croesawu i’r Traeth ein cyfeillion o Rhuthun. Er iddynt newid eu tîm reoli dros yr haf mae’r clwb o Ddyffryn Clwyd wedi dal i gael ‘run math o gychwyn solat sydd wedi bod yn nodwedd o’u perfformiadau dros sawl tymor diweddar. Mae eu record hyd yma yn dangos mor anodd ydynt i’w curo. Er mai ond mewn 3 o’u 9 gêm llwyddodd y clwb godi’r 3 phwynt, maent wedi sicrhau 4 gem gyfartal, ond yn colli i’r Rhyl a Bae Colwyn. Newyddion drwg hefyd ydy fod y blaenwr peryglus Llyr Morris wedi cychwyn y tymor ar dân unwaith eto ac yn barod wedi rhwydo 7 gôl.
Ar y llaw arall, mae gan Port broblemau amlwg yn y cefn gyda Llanrhaeadr yn rhwydo 4 gwaith y Sadwrn diwetha. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iddynt gadw pethau’n dynn a dal ‘mlaen i ennill pwynt lle nad yw’n bosib’ sicrhau buddugoliaeth. Ni fu’n bosib cael pedwar sefydlog yn y cefn ers cychwyn y tymor ac mae colli Ifan Emlyn yn ei rôl o flaen y pedwar wedi effeithio amddiffyn a gadwodd 13 llechen lân y tymor diwetha’. Ond mae yna ddigon o ddoniau yn y clwb i droi y gornel arbennig yma, a dangoswyd yn erbyn Prestatyn fod yr ysbryd yno hefyd.
Ymlaen mae Canaan!! C’mon Port!

On Saturday we will be welcoming Ruthin Town to the Traeth. Despite a change of management team over the summer, the Vale of Clwyd club have made the kind of solid start that has been such a feature of their performances over recent seasons. They lie firmly in mid-table in 8th spot.Their record shows that they are not an easy team to beat. Though they have only been able to pick up the 3 points on three occasions, they have however also picked up points from 4 drawn matches. Their only losses came against Rhyl and Colwyn Bay. The bad news for Port is that prolific striker Llyr Morris is on form and has already found the net on 7 occasions.
On the other hand Port’s defensive frailties have been clear, conceding another 4 goals at Llanrhaeadr last Saturday which makes it hard to hold on for a point when a win seems unlikely. It has not been possible to keep a settled back four from the start of the season and losing Ifan Emlyn from his key role in front of a back four has had a detrimental effect on a defence which kept 13 clean sheets last season. But there is enough talent in this squad to turn the corner and it was clearly shown in the preformance against Prestatyn that the spirit is there too.
C’mon Port!!
03/10/19
Port ar Youtube / Port on Youtube

Cofiwch wylio y fideo gan Dylan Elis ‘Tu ôl i’r Gôl, Llanrhaeadr’ a gwrandewch hefyd ar ei gyfweliad gyda’r rheolwr Sion Eifion -gonest fel arfer sydd ar gael isod.



Take a look at Dylan Elis’s view from 'Behind the Goal at Llanrhaeadr' on the club’s Youtube.com site. Above is an interview in Welsh with manager Sion Eifion
01/10/19
Dave Jones yn trafod cychwyn siomedig Port / Dave Jones on Port’s poor start

Am asesiad di-duedd, chytbwys a diolch byth optimistaidd o sefyllfa bresennol Port cymrwch olwg yma ar farn sydd gan y sylwebydd craff ar bel-droed yn y gogledd, Dave Jones ar ei Flog.

For an unbisaed, balanced assessment and thankfully optimistic view of Port’s current position take a look here at what Dave Jones, the most experienced commentator on football in the north of Wales, has to say on his Blog.
.
30/09/19
CWPAN CYMRU Rownd 1 / JD WELSH CUP Round 1

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het heddiw ar gyfer rownd 1af Cwpan JD Cymru, a bydd Port yn teithio i LANBERIS. Bydd gemau’r rownd gynta’ yn cael eu chwarae ar Sadwrn 19 Hydref.

The draw was made today for the first round of the JD Welsh Cup and Port have been handed a trip to LLANBERIS. The matches will be played on Saturday 19th October.





30/09/19
Cwpan Ieuenctid Cymru / FAW Youth Cup on Sunday

Bydd tîm Ieuenctid Port yn chwarae Penmaenmawr Phoenix yn Rownd 1 Cwpan Ieuenctid Cymru pnawn Sul nesa’ (Hydref 6ed). Bydd y gic gynta’ am 1.30pm.Amdani hogia'!

Port’s Youth Team will take on Penmaenmawr Phoenix in Round 1 of the FAW Youth Cup, next Sunday (6th October) at the Traeth. Kick off will be at 1.30pm. C'mon Port!
29/09/19
Draw Wythnosol 39 / Weekly Draw 39

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 39 yw Rhif 110 SUE BROWN yn ennill gwobr o £75!!! Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 39 is No. 110 SUE BROWN winning the £75 prize!!! Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
29/09/19
Gwefan Ffwtbol Cymru fyny / Cymru Football website up and running

Mae’r wefan newydd bellach wedi cyrraedd lle cewch ganlyniadau, y tabl a’r rhestr gemau i’r Cymru Leagues i gyd ar CymruFootball.Wales

The new website is up and running and you can now find results, table and fixtures for all Cymru Leagues on: CymruFootball.Wales
28/09/19
TOTE MEDI / SEPTEMBER TOTE

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis MEDI oedd 22 + 40. Roedd 2 enillydd (hyn i'w gadarnhau) John Parry, Penygroes ac Iwan Parry, Talsarnau, yn rhannu gwobr o £250. Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener nesa’.
Amlenni Tote ar gael o Siop Pikes, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the SEPTEMBER TOTE were 22 + 40. There were 2 winners, John Parry, Penygroes,and Iwan Parry, Talsarnau, sharing a prize of £250. This to be confirmed. Any claims must be made by 8pm next Friday.
Tote envelopes available from Pikes Newsagents, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
27/09/19
Buddugoliaeth hwyr i’r Ail-Dîm / Late win for Reserves

Rhwydodd Sion Jones ym munud ola’r gêm i sicrhau buddugoliaeth i’r Ai-dîm t o 4-3 dros Llanrug. Aeth yr ymwelwyr 2-0 ar y blaen yn yr hanner cynta diolch i goliau gan Matthew Phillips a Michael Owen.
Yn gynnar yn yr ail hanner sgoriodd Morgan Slater dros Port i’w gwneud yn 1-2 ond yn fuan wedyn rhwydodd Rhodri Jones ddwywaith Port i’w rhoi 3-2 ar y blaen. arô1)ô 70 munud sgoriodd Michael Owen ei ail gôl i ddod a Llanrug yn ôl yn gyfartal. Ond Port cafodd y gair ola’ wrth i Sion Guto Jones sicrhau y fuddugoliaeth hwyr o 4-3 i Port.
Da iawn hogia’.

Sion Guto Jones netted a goal in the 90th minute to give the Reserves a 4-3 win at the Traeth tonight over Llanrug United. The visitors had gone into a 2-0 first half lead thanks to goals from Matthew Phillips and Michael Owen.
Morgan Slater reduced the arrears early in the 2nd period and two further goals in quick succession from Rhodri Jones put Port 3-2 ahead. But on 70 minutes Mark Jones netted his second for Llanrug to bring the scores level, Port left it until the final minute to net their 4th and the last gasp winner.
Well done lads.
24/09/19
Uchafbwyntiau Port v Prestatyn / Port v Prestatyn highlights

Isod, mae uchafbwyntiau gêm Port yn erbyn Prestatyn oedd yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen Sgorio ar S4C. Bydd gemau o JD Cymru North a JD Cymru South yn cael eu dangos yn rheolaidd ar y rhaglen eleni, bob nos Lun am 5.35pm.



Above are highlights of Port's match against Prestatyn, which were filmed for S4C's Sgorio. JD Cymru North and JD Cymru South matches will be given regular coverage on the programme this year, which is aired every Monday at 5.35pm,
22/09/19
Port yn Llanrhaeadr / Port away at Llanrhaeadr

Wrth edrych ar dabl y Cymru North mae record dau glwb yn y denu ein sylw. Y ddau ydy’r clybiau bydd yn chwarae ei gilydd pnawn Sadwrn nesa’; Port a Llanrhaeadr. Y tymor diwetha’ gorffennodd Llanrhaead yn y 12fed safle ond y tymor yma mae’r clwb o’r canolbarth wedi cychwyn ar dân. Er yn colli eu gêm gynta’, enillwyd y 4 nesa’ gan guro Cegidfa oddi cartre’ a dilyn hyn gyda buddugoliaeth dros Y Rhyl. Maent bellach wedi ennill 5 o’u wyth gem gan gynnwys buddugoliaeth dda o 4-2 oddi cartre’ yn Bwcle y Sadwrn diwetha’. Hyn yn eu codi i’r 3ydd safle.
O dan Marc Griffiths mae’r clwb wedi bod yn datblygu’n gyson ac eleni yn bygwth gadael eu marc ar y gynghrair. Eisoes mae Matty Williams, Iwan Matthews a Marc Griffiths ei hun, i gyd wdi bod yn sgorio.
Da bydd cael ymweld a Llamrhaeadr, yn ôl ar eu cae cartref ac yn y pentre’ unwaith eto. Hyn yn dilyn tymor yn chwarae yn Llansantffraid.
Llynedd gwnaeth Port y dwbl dros Llanrhaeadr ond bellach mae canlyniadau y tymor hwn wedi creu newid sylweddol yn safle’r ddau glwb. Bydd rhaid i Port adeiladu ar berfformiad cry’ yn erbyn Prestatyn y Sadwrn diwetha’ gan ddefnyddio’r perfformiad hwnnw yn gatalydd i ddechrau codi pwyntiau. C’mon Port!!

Looking at the current league table, the two clubs whose performances raise more than an eyebrow are Port and Llanrhaeadr. Last season the mid-Wales club finished in 12th place in the HGA but this season they have made a flying start to life in the re-vamped Cymru North winning 4 of their first 5 games which included impressive results, winning away at Guilsfield and a 2-1 win over Rhyl. Currently they have taken maximum points in 5 of their 8 games including a fine 4-2 win at Buckley last Saturday. This win lifts them into 3rd spot. With Llanrhaeadr now back at their home ground after a season playing at Llansantffraid, we all look forward to the visit on Saturday.
Port completed the double over Llanrhaeadr last season but the contrasting starts to the season this time makes Port the underdogs. But last Saturday’s performance against high flying Prestatyn must now act as a catalyst to a revival in fortunes. C’mon Port!!
22/09/19
Camerau SGORIO ar y Traeth / SGORIO cameras at rhe Traeth

Roedd camerau SGORIO ar y Traeth pnawn Sadwrn a bydd y gêm rhwng Port a Prestatyn yn cael ei dangos ar y rhaglen uchafbwyntiau nos yfory LLUN am 5.35pm.

SGORIO cameras were at the Traeth on Saturday and the Port v Prestatyn game will be shown on their highlights programme tomorrow MONDAY@ 5.35pm.
21/09/19
Ail-dîm yn ennill yn Bae Cinmel / Reserves win at Kinmel Bay

Tri phwynt i’r Ail-dîm heddiw yn Bae Cinmel diolch i ddwy gôl hwyr Sol Kempster a Rhodri Jones yn ei gwneud yn 2-0 i Port. Mae’r fuddugoliaeth yn eu cadw yn yr ail safle, pwynt tu ôl i Ddinbych.
GÊM NESA’ i’r AIL DÎM: Nos Wener nesa Medi 27 am 7,30pm. Ar y Traeth v Llanrug Utd

Two late goals by Sol Kempster and Rhodri Jones gave the Reserves the three points in a 2-0 win at Kinmel Bay this afternoon. The win keeps them in 3nd place a point behind Denbigh Town.
NEXT MATCH for RESERVES: Next Friday 27th September Kick off 7.30pm At the Traeth v Llanrug Utd
22/09/19
Draw Wythnosol 38 / Weekly Draw 38

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 38 yw Rhif 154 RICHARD JONES yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 38 is No. 154 RICHARD JONES winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
20/09/19
Paps yn ôl ar y Traeth / Paps back at the Traeth

Cyhoeddodd Cadeirydd y Clwb, Phil Jones, heddiw bod Craig Papyrnik yn dychwelyd i’r clwb rhagblaen er mwyn cefnogi Sion Eifion, y rheolwr newydd.
Yn ol Sion “Rwyf wrth fy modd bod Craig yn dychwelyd atom. Mae ganddo wybodaeth a phrofiad eang o’r clwb a’r Gynghrair arbennig yma. Bu’n gychwyn caled iawn i’r tymor ac ni fuom ar ein goreu ond gobeithiwn ‘rwan y bydd y datblygiad hwn yn gatalydd a all wella ein sefyllfa. Croeso ‘nol Paps!’”
“Penderfyniad caled iawn oedd gadael y clwb ym mis Ebrill ac mi ddyfarais hynny. Mae’r clwb yn agos iawn at fy nghalon ac edrychaf ymlaen i gydweithio gyda Sion fel y gallwn anelu at amseroedd gwell” medd Craig
“Heb os ac onibai mae gennym rhai o’r chwaraewyr goreu yn y Gynghrair ac bydd yn bleser cydweithio gyda hwy eto.
Bu’n gychwyn anodd iawn i Sion a’r hogia, nid Gynghrair hawdd mo hon, ond mae’n amser i ni gyd ddod ynghyd er mwyn sicrhau mai dim ond un ffordd sydd i fynd, a hyna yw i fyny!”

Chairman Phil Jones announced this morning that Craig Papyrnik will be returning to the club as of today to help new manager, Sion Eifion.
Sion said "I'm delighted that Craig has agreed to return to the club to work alongside myself. He knows the club inside out and his experience in this league is exactly what we need to get ourselves back to winning ways. It's been a tough start to the season and results haven't been good enough but we're all hopeful that Craig's return will be a catalyst for better times ahead. Croeso ‘nol Paps!!"
‘I am really pleased to be back at the club, the decision to leave back in April was a really tough one and I have since regretted it. The club holds a special place in my heart and I will give everything now to help bring back more successful times.
I am really looking forward to working with the lads and helping them back to winning ways, i have the chance to help get the team back on track and we have a great squad with some of the best players in the league in it and it is full of potential.
It’s been a very difficult start to the season for Sion and the lads but now is the time to come together as one and make sure we start going in the right direction and that’s back up the league table.’
COME ON PORT!

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us