- CPD Porthmadog FC - Newyddion / News
Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
13/07/18
Tâl Mynediad 2018/19 / Admission Prices 2018/19

Bydd y Clwb yn cynyddu y tal mynediad i gemau cartref y tymor newydd hwn, a hynny am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd!
Y gost i oedolion fydd £6, dinasyddion hyn a’r anabl yn £3.50, pobol ifanc rhwng 12 a 16 oed yn £1 ac am ddim i’r rhai o dan 12 oed.
Wrth gyhoeddi’r newyddion dywedodd llefarydd, ”Nid yw’r tal mynediad wedi codi ers 90egau’r ganrif ddiwethaf ac fel y gwyr pawb mae gorbenion wedi cynyddu yn sylweddol gan gynnwys yswiriant, gwres a golau, cynnal a chadw ac ymlaen. Mae’r costau o gadw safonau cyfleusterau hanfodol fel y maes, ystafelloedd newid ac yn y blaen hefyd yn eitemau drud. Yn barod ‘rydym yn wynebu costau oddeutu £40,000 i wella draeniau’r cae a hyd at £15,000 dim ond i wella cawodydd yr ystafelloedd newid.”
Dros y 14 mlynedd ddiwethaf buddsoddodd y clwb oddeutu £500,000 ar wella a datblygu cyfleusterau ar y Traeth. “Yn wahanol i mwyafrif o glybiau yn y pyramid Cymreig ‘rydym yn berchnogion ar ein cae a stadiwm, sefyllfa braf ond costus!” ychwanegodd.

The Club has announced its first increase in its admission prices since the 1990’s for the forthcoming season.
Adult prices will be £6, senior citizens and the disabled £3.50, 12 to 16 year olds will pay £1 and for those under 12 years of age it will be free.
A spokesperson for the club said, “We have kept the admission prices at the same level for over 20 years but as everyone knows overheads such as insurance, heat and light, general maintenance and so on have increased substantially on a regular basis. As one of the few clubs at this level in the Welsh pyramid that owns its own ground and stadium we are continuously faced with costs to maintain and improve facilities for players and spectators. We are currently facing potential expenditure of £40,000 to improve the pitch’s drainage as well as a bill of £15,000 to bring shower facilities in the dressing rooms up to standard.
“Over the last 14 years the club has invested around £500,000 in improving and developing facilities at the Traeth.”
12/07/18
Blaenau Ffestiniog 4 Reserves 1

Chwaraeodd yr Ail-dîm ei gêm gyfeillgar gyntaf neithiwr yn erbyn Blaenau ar Gae Clyd a oedd yn edrych ar ei orau. Roedd Blaenau yn eu hwyliau ar ôl curo Machynlleth o 7-0 pnawn Sadwrn ac aethant ymlaen i guro’r Ail-dîm o 4-1. Sion Parry sgoriodd i Port gyda chic o’r smotyn ar ôl 30 munud, Erbyn yr hanner amser roedd y tîm cartref 3-1 ar y blaen. Ychwanegwyd un gôl arall yn yr ail-hanner. Sgorwyr Blaenau oedd David Copsey, Joe Dukes, Tom Hughes a gôl i rhwyd ei hun.
Bydd tîm ifanc Port yn chwarae eto pnawn Sadwrn ar Y Traeth yn erbyn Nantlle Fêl. Cic gyntaf am 2.30pm

The Reserves played their first pre-season fixture last night against Blaenau with Cae Clyd looking at its best. Blaenau were full of confidence after beating Machynlleth 7-0 last Saturday and they went on to beat our Reserves 4-1. For Port, Sion Parry netted from the penalty spot after 30 mins, By half-time Blaenau were 3-1 ahead and went on to add a fourth in the second period. Blaenau scorers were David Copsey, Joe Dukes, Tom Hughes and an own goal.
Port’s young reserves will be in action again on Saturday at the Traeth against Nnatlle Vale. Kick off 2.30pm.
11/07/18
CPD LLANUWCHLLYN v CPD PORTHMADOG Newid Dyddiad / Change of date.

Mae yna ddyddiad newydd ar gyfer y gêm gyfeillgar cyn-dymor yn CPD Llanuwchllyn. Chwaraeir y gêm nos Wener nesaf, Gorffennaf 13, gyda’r gic gyntaf am 7.15pm.

The pre-season friendly away at CPD Llanuwchllyn has been brought forward to next Friday (July 13), The kick off will be at 7.15pm.
10/07/18
Port 4 Llandyrnog 1

Buddugoliaeth o 4-1 i Port dros Llandyrnog ar gae 4G Maes Tegid, Y Bala heno.
Aeth Port ar y blaen ar ôl 21 munud pan rhwydodd Julian Williams gyda ergyd o 21 llath. Ond daeth Llandyrnog yn ôl gyda Luke Appleby yn dod â’r sgôr yn gyfartal 1-1. Gyda hanner amser yn agosáu aeth Port yn ôl ar y blaen. Cic gornel Sion Edwards creodd y cylfe i Warren Duckett sgorio. Dal yn 2-1 i Port ar yr egwyl.
Nid oedd ychwanegiad at y sgôr tan 63 munud pan beniodd Dale Davies, y blaenwr a arwyddwyd o Brickfield, groesiad Gruff John i’r rhwyd i’w gwneud yn 3-1. Aeth yn 4-1 ar ôl 83 munud gyda Rob Evans yn sgorio. Dyna oedd y sgôr terfynol. Diolch i Llandyrnog am y gem baratoi a diolch i’r Bala am eu croeso.

A win for Port against Llandyrnog United tonight on the 4G pitch at Maes Tegid.
Port went ahead after 21 minutes with Julian Williams finding the net with a shot from 20 yards. But a goal from Llandyrnog’s Luke Appleby levelled the scores. With half-time approaching Port got themselves back on front. It came via a Sion Edwards corner with Warren Duckett applying the finish touch. That is how the xcore remained at the interval with Port 2-1 ahead.
There was no addition to the score until the 63rd minute when summer signing from Brickfield Rangers, Dale Davies met a Gruff John cross to make it 3-1 to Port. It became 4=1 on 83 minutes with Rob Evans the scorer. That is how it ended with players having amother good workout. Thanks to our opponents on the night, Llandyrnog United, and to Bala Town for hosting the game.
08/07/18
Gemau canol wythnos / Midweek fixtures.

Bydd y Tîm Cyntaf a’r Ail-Dîm yn chwarae yn ystod yr wythnos hon.
Bydd y Tîm Cyntaf yn teithio I’r Bala nos FAWRTH nesaf (10 Gorffennaf) I chwarae Llandyrnog ar y cae artiffisial yn Maes tegid, Y Bala.
Bydd y gic gyntaf am 8 pm.
Pob hwyl i’r Ail-Dîm sydd newydd eu ffurfio ac yn chwarae eu gêm cyn-dymorg gyntaf nos FERCHER (11 Gorffennaf). Eu gwrthwynebwyr fydd Blaenau Ffestiniog ar Gae Clyd. Bydd y gic gyntaf am 6.45pm.

Both the First team and the Reserves will be in pre-season action during midweek.
The First Team travel to Bala next TUESDAY evening (10 July) where they will play Welsh Alliance club, Llandyrnog United, on the artificial surface at Maes Tegid. The kick off will be at 8pm.
Best of luck to the newly formed Reserves who will open their pre-season next WEDNESDAY evening (11 July) with an away fixture against Blaenau Ffestiniog at Cae Clyd. The kick off will be at 6.45pm.
07/07/18
Port 2 Llangefni 0

Cychwynnodd Port eu paratoadau at y tymor newydd gyda buddugoliaeth dros Llangefni. Daeth y clwb o Ynys Môn yn agos iawn i sicrhau dyrchfiad o’r Welsh Alliance y tymor diwethaf cyn colli allan i Gonwy.
Chwaraewyd y gêm ar gae Y Traeth sydd wedi’i losgi gan yr haul crasboeth. mewn cyfnod lle mae’r tymheredd wedi parhau yn agos iawn at y 30 gradd. Roedd yn gyfle i waredu peth o’r gwe pry cop a gasglwyd dros y cyfnod diweddar a hynny ar gae heb flewyn glas i’w weld.
Ar ôl cyfnod hir o chwilio am y gôl gynta aeth Port ar y blaen diolch i gôl Iwan Lewis. Gwnaeth gôl hwyr Meilir Williams sicrhau y fuddugoliaeth.Nos Fawrth nesa’ bydd Port yn chwarae Llandyrnog ar Faes Tegid Y Bala.

Highslide JS
Y Traeth: llun/photo Simon Brooks


Port made a winning start to their pre-season preparations today against a i Welsh Alliance side Llangefni that fought a close promotion battle with Conwy Borough last season.
The game was played on a sun baked Traeth where temperatures for the past month have rarely been much below 30 degrees. This was an early opportunity to get rid of the rust accumulated during the summer break on what was a matching rust coloured Traeth with hardly a green blade of grass in sight.
It was Iwan Lewis who eventually broke the deadlock putting Port ahead and then late on Meilir Williams clinched the victory. Port will now take on Llandyrnog on Tuesday evening at Bala’s Maes Tegid.
06/07/18
Gemau Cyn-dymor yn cychwyn / Pre=season fixtures commence

Bydd Port yn cychwyn ei paratoadau cyn-dymor gyda gêm pnawn ‘fory (Sadwrn) ar Y Traeth, pan fydd Llangefni yn ymweld â’r Traeth. Llynedd daeth Llalngefni yn agos iawn at ennill dyrchafiad I’r Cymru Alliance a byddant felly yn cychwyn y tymor hwn yn ffefrynnau I adennill eu lle y tymor nesaf. Bydd felly yn brawf da I Port. Bydd y gic gyntaf am 2.30pm.
Tri diwrnod ar ôl hynny, ar nos Fawrth, Gorffennaf 10fed, bydd Port yn chwarae eto. Mae Llandyrnog hefyd yn chwarae yn y Welsh Alliance. Bydd y gêm hon yn cael ei chwarae ar Maes Tegid Y BALA. Y gic gyntaf am 8 o’r gloch.

Port commence their pre-season games on Saturday when Llangefni Town will be the visitors to the Traeth. Llangefni were pipped to the Welsh Alliance title last season by Conwy Borough, so will start favourites to win promotion back to the Cymru Alliance this time. It will therefore be a good early test for Craig Papirnyk’s squad. Kick off will be at 2.30pm.
Three days later, on Tuesday, July 10th, Port will be in action again when their opponents will be another Welsh Alliance club, Llandyrnog, United, will provide the opposition with this game being played Maes Tegid, BALA. Kick off here will be at 8pm.
01/07/18
Hwyl i’r plant -gwyliau’r haf / Fundays -school holidays

Atgoffir Rhieni a’u Plant am y dyddiau o hwyl a gynhelir ar Y Traeth yn ystod gwyliau’r haf.
Hwylddyddiau Haf CPD Porthmadog yn cychwyn dydd Llun 23 o Orffennaf. Pob dydd Llun, Mawrth a Mercher tan ddechrau mis Medi, rhwng 9yb a 5yp. Ar gyfer bechgyn a merched rhwng 6 a 11oed. Darperir brecwast a chinio ysgafn. Digon o weithgareddau beth bynnag fydd y tywydd.
Cysylltwch â GETHIN JONES ar 07974033552 neu gl-jones@hotmail.co.uk

Parents and chidren are reminded of the Summer Holiday Fundays at the Traeth.
‘Fundays’ start on Monday 23 July. Every Mon, Tues and Wed until school restarts in September. Catering for 6 to 11 year old boys and girls. Light breakfast and lunch provided. Activities organised by professionals indoor or outdoor dependent on weather.
Contact GETHIN JONES at 07974033552 or gl-jones@hotmail.co.uk.
30/06/18
Tote Mis Mehefin / June Tote

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis Mehrfin oedd 5 a 28. Dim enillydd am yr ail fis yn olynol. Bydd y wobr £568 yn cael ei ychwanegu at cyfanswm mis Gorffennaf.
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 6fed o fis Gorffennaf. Bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael ei tynnu nos Wener, 27ain o fis Gorffennaf, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan
Gwobr dda mis nesaf -ewch amdani !!.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the June TOTE were 5 and 28. No winners.The prize £568 will be added to the July total.
Any claims must be made by 8pm on Friday, 8th July,. The next Tote will be drawn on Friday, 27th July at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan
Bumper Prize next month. HAVE a GO !!.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
26/06/18
Sion Edwards yn arwyddo am dymor arall / Sion Edwards back for another season

Newyddion gwych heno fod Sion Edwards wedi arwyddo am dymor arall. Ers I Craig Papirnyk ddod a Sion i’r Traeth mae wedi bod yn ddylanwad positif ar y garfan ifanc gan ddod a’i brofiad mawr o’r gêm. Chwaraeodd fel cefnwr ac ar yr asgell ac roedd ei groesiadau cywir bob amser yn fygythiad ar y gôl. Mae’n rhan allweddol o’r garfan ac roedd ei ergyd o 40 llathen ar y Belle Vue yn un o uchafbwyntiau’r tymor diwethaf.

Highslide JS
Sion Edwards yn ailarwyddo / Sion Edwards stays


It is excellent news this evening that Sion Edwards has signed up for another season. Since Craig Papirnyk brought him to the Traeth he has had a very positive influence on the young squad bringing with him his great experience in the game. Whether as a wing back or out an out winger his pin-point crosses from the left wing bring with them a constant goal threat. He is a key part of the squad and his goal from 40 yards at the Belle Vue is one of the outstanding memories of last season.
26/06/18
LANSIO LLYFR yn Clwb y Traeth / BOOK LAUNCH at the Traeth Clubhouse

Mae yna gryn edrych ymlaen at noson fawr yn y Clwb Pêl-droed ar y Traeth pan fydd lansiad llyfr newydd yr awdur a’r academydd Seimon Brooks.
Ond i gefnogwyr Y Traeth mae’n llawer mwy nac awdur nac academydd mae’n gefnogwr brwd ond yn fwy fyth Seimon ydy ceidwad y faner sydd yn yn ymddangos o Sadwrn i Sadwrn lle bynnag a phryd bynnag fydd Port yn chwarae at hyd y gogledd.
Cofiwch y dyddiad nos FERCHER, GORFFENNAF 4ydd am 7 o'r gloch a chroeso cynnes iawn i holl ffans Port.
Y llyfr ydy ‘ADRA: Byw yn y Gorllwein Cymraeg. Cyhoeddwyr: Y Lolfa.
Mae’r llyfr yn bwrw golwg ar Porthmadog y dref a Porthmadog y clwb pêl-droed. Yn y llyfr cawn rannu profiad Seimon y dyn dwad a chawn hanesion am rhai o bobl Port fel y cefnogwr ffyddlon Dilwyn Parry.
Yn ystod cyfnod ysgrifennu’r llyfr roedd yr awdur yn Gadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, tref a chymuned sy’n wynebu heriau dyrys, tref ac economi cyflogau isel ac yn colli bobol ifanc.
Yn y llyfr cewch ddarllen ymateb unigryw yr awdur i’r gymysgfa hon.Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i’r Clwb Pêl-droed.

Highslide JS
Adra: Byw yn y Gorllewin Cymraeg gan Simon Brooks


The above announces a Book Launch at the Clubhouse of author and academic Simon Brooks’s new book, written in Welsh, which looks at Porthmadog the Town and Porthmadog the Football Club through the eyes of a committed fan. The launch takes place on Wednesday. 4th July at 7pm and there will be a warm welcome for all fans.
20/06/18
Cyfleoedd Hysbysebu a Noddi / Advertising and Sponsorship opportunities

Mae cyfleoedd hysbysebu a noddi ar gael ar gyfer y tymor newydd i unigolion a busnesau.
Bu nifer o ddatblygiadau pwysig ar Y Traeth dros y tymhorau diwethaf gyda’r cyfleusterau modern sydd yno yn cael defnydd gydol yr wythnos. Hefyd gwelodd y clwb gynnydd arwyddicaol yn y gefnogaeth i gemau cartref.
Mae yna gyfleoedd gwerthchweil i fusnesau lleol ac unigolion
Hysbyseb yn y rhaglen
Noddi Pel
Noddi Gêm
Hysbysfwrdd ar ochor y cae
A llawer mwy....
Am fwy o fanylion cysylltwch a Dylan Rees Swyddog Marchnata rees48wesla@gmail.com

Interested in advertising and sponsorship opportunities for the new football season?
There have been many important developments at the Traeth over recent seasons with increasing use of the modern facilities at the ground throughout the week. The club has also seen a significant increase in support in home matches.
There are worthwhile opportunities for local businesses and individuals
Programme advertising
Match Ball sponsorship
Match sponsorship
Perimeter advertising board
And more...
Contact Dylan - Marketing Officer rees48wesla@gmail.com
18/06/18
Dan Dascalu yn ymuno / Dan Dascalu signs

Dan Dascalu Mae Craig Papirnyk wedi arwyddo ei 4ydd chwaraewr newydd o’r haf wrth ddod â Dan Dascalu, chwaraewr ifanc ganol cae, i’r Traeth o CPD Llanuwchllyn.
Bu yn rhan o Academi clwb Y Bala am nifer o flynyddoedd ac roedd hefyd yn rhan o Garfannau Datblygol Cenedlaethol ar lefel oed cyn cael ei alw i garfan Academi Cymru a deithiodd i Weriniaeth yr Iwerddon yn 2016.Chwaraeodd i dîm Cymru Dan 18 gyda Ifan Emlyn Yn 16 oed cafodd gytundeb tîm cyntaf gan y rheolwr Colin Caton.
Wrth groesawu Dan i’r clwb dywedodd Craig:
“ Mae Dan yn chwraewr ifanc addawol iawn ac rwy’n hapus iawn i’w ddenu i’r Traeth. Mae’n ifanc ac yn dalent cyffrous a fu gynt ar gytundeb ar Faes Tegid cyn symud i’r Llan.
“Mae’n bêl-droediwr clyfar a daw a dipyn o greadigrwydd i’n chwarae ymosodol. Gall chwarae mewn unrhyw safle ar draws canol y cae.
“Croeso i’r Traeth Dan.”

Craig Papirnyk has made his fourth new signing of the summer bringing in young midfielder Dan Dascalu from WNL club Llanuwchllyn FC
A product of the Bala Town Academy he was involved in age-group National Development Squads and was called up to the Wales Academy squad in 2016, travelling to play the Republic of Ireland.Played for the Wales U18s with Ifan Emlyn As a 16 year-old he was given a first-team contract by manager Colin Caton
Welcoming Dan to the club Craig says:
“Dan is a player with lots of promise and I’m pleased to announce him as a Port player. He’s a young and exciting talent who also signed a contract with Bala Town FC before moving to Llan.
“He’s a very clever footballer and will bring more creativity to our attacking play. He’s versatile and can play in any position through midfield.
“Welcome to the Club Dan. “
16/06/18
Rhestr Gemau 2018/19 / The Fixtures are OUT

Bydd Port yn cychwyn tymor 2018/19 oddi cartref yn Penrhyncoch ond y newydd mawr yw y gêm ar Y Traeth ar Wyl San Steffan. Bydd Port adre ar 26 Rhagfyr yn croesawu Bangor am y gêm ddarbi fawr.
I weld y rhestr gemau cliciwch yma
Dyma’r gemau fydd yn cychwyn y tymor

!!/08/18 Penrhyncoch v Port
18/08/18 Port v Prestatyn
21/08/18 Bangor v Port

Port will start the 2018/19 season with a visit to Penrhyncoch on August 11. The big news is the Boxing Day clash with Bangor City to be played at the Traeth. The opening fixtures can be seen above.
To view the full list of fixtures click here

14/06/18
Gemau Cyn-dymor yr Ail-Dim / Reserves Pre-season fixtures

Sion Eifion Mae Sion Eifion eisoes wedi trefnu nifer o gemau i’r Ail-dîm sydd i’w adfer ar gyfer tymor 2018/19. Bydd y gêm gyntaf ar Gae Clyd yn erbyn Blaenau Ffestioniog ar nos Fercher 11 Gotffennaf, Dyma’r rhestr llawn:
Nos Fercher 11 Gorffennaf: Blaenau Ffestiniog oddi cartref 6.45pm

Sadwrn 14 Gorffennaf: Dyffryn Nantlle Adre 2,30pm.
Nos Fercher 18 Gorffennaf: Waunfawr Adre 7pm
Sadwrn 28 Gorffennaf: Cefn Mawr Rangers (ail-dîm) Adre 2,30pm
Nos Fawrth 31 Gorffennaf: Llandudno Dan 19 Adre 7pm.

Mae Sion Eifion yn adeiladu ei garfan ac wedi arwyddo Aled Williams, capten y tîm Dan 18 llynedd, y golwr Morgan Jones a’r prif sgoriwr Rhys Hughes. Roedd hafyd yn hapus iawn i arwyddo ei hyfforddwr Sion Parry, y tro yma fel chwaraewr hefyd!
Ychwanegodd Sion Eirian, “Anodd credu fod o’n dal ond yn 21 oed ac yn dal mor awyddus i dyfu fel chwaraewr.”

Sion Eifion has already arranged several pre-season games for the Reserves -starting with a game against Blaenau Ffestiniog at Cae Clyd on July 11th. Below is the full list:

Weds 11th July- 6.45pm Blaenau Ffestiniog FC (Away)
Sat 14th July- 2.30pm Nantlle Vale FC (Home)
Weds 18th July- 7pm Waunfawr FC (Home)
Sat 28th July- 2.30pm Cefn Mawr Rangers Res (Home)
Tues 31st July- 7pm Llandudno U19s (Home)

Sion Eifion has already signed up last season’s U18s skipper Aled Williams, keeper Morgan jones and top scoer Rhys Hughes. He was also delighted to be able to sign his assistant coach Sion Parry but this time as a Player as well!
Added Sion, “Hard to believe that he's only 21! Still hungry to learn and grow as a player!”
13/06/18
Dale Davies yn ymuno / Craig signs Dale Davies

Heno mae Craig wedi arwyddo Dale Davies blaenwr sydd wedi cynrychioli Brickfield Rangers yn ystod y tymhorau diwethat, a chyn hynny hynny CPD Corwen. Daeth yn agos iawn i helpu’r clwb o ardal Wrecsam i sicrhau dyrchafiad l’r HGA y tymor diwethaf ond i’r clwb golli allan i Bwcle ar y diwedd un. Isod gwelir ymateb Craig i’r trosglwyddiad.

Highslide JS
Croeso Dale Davies / Welcome Dale Davies


Tonight Craig has secured the signatue of Dale Davies a striker who has represented Brickfield Rangers over the last few seasons having previously been at Corwen. He came close to helpimg the Wrexham area club to a place in the Huws Gray Alliance last season, only to see them pipped at the post by Buckley Town at the final hurdle.

Craig said of the new addition to his squad:
“I am very pleased that he has chosen Porthmadog to further develop his career as there were offers from other CA clubs but thankfully Dale wanted to join us at Port.
“We recently have lost two attacking players so an opportunity within the squad has opened and we have swiftly moved to sign Dale, who we identified as a key target and replacement for what we have lost in Cai Jones.
“He will no doubt strengthen our attacking line-up and bring something different to what we already have.
“Dale he has plenty of experience playing in the WNL with a proven goal scoring record over the years.
“He has been a key player for Brickfield and their success in the last few seasons, Scoring important goals and leading their attacking line, he has a keen eye for goal and an extremely hard working attitude.
“Dale is a big strong lad , powerful in the air, works hard for his team and shows a great attitude when on the field. He will be a great addition to our squad.
“Dale will wear the number 31 and I’m really looking forward to seeing him develop on the pitch with us this season.
“Welcome to Port Dale !"
13/06/18
Pob lwc Cai a Sion / Best of luck to Cai and Sion.

Cai Jones Lle mae un drws yn cau mae un arall yn agor a dyna sut y bu ar Y Traeth. Gyda’r blaenwyr talentog Cai Jones a Sion Bradley yn gwneud y penderfyniad anodd i adael a phrofi eu hunain ar lefel Uwch Gynghrair gyda Caernarfon sydd newydd ennill dyrchafiad. Mae’r ddau wedi dod fyny drwy Academi Port ac mae’r clwb yn falch iawn o’u llwyddiant yn y gêm. Mae pawb yn dymuno’n dda iddynt a phob llwyddant i’r dyfodol.
Mewn pêl-droed rhaid i bawb symud ymlaen ac edrych i ddrws arall agor. Mae Craig yn symud i ganfod chwaraewyr i lenwi’r lle gwag ac eisoes wedi arwyddo Dale Davies, blaenwr o Brickfield sydd hefyd yn edrych i gamu fyny i lefel uwch.

It has been a case of one door closing and another one opening at the Traeth. With talented forwards Cai Jones and Sion Bradley making the difficult decision to leave the club to prove themselves at Welsh Premier level with newly promoted Caernarfon Town. Both players are products of the Port Academy and the club is proud of the huge strides they have made in the game All at the Traeth wish them well and every success in the future
In football we all move on and look for another door to open. Craig has already made a move to seek replacements and the first of these is Dale Davies a striker from Brickfield who is also seeking to make a step up.
12/06/18
Lluniau o'r noson wobrwyo / Photos from the presentation night


Highslide JS
Prif sgoriwr : JOE CHAPLIN : Top Scorer
  Highslide JS  
Chwaraewr y cefnogwyr : SION BRADLEY : Supporters player of the season
Highslide JS  
Chwaraewr y chwaraewyr : TOMOS EMLYN : Players Player
Highslide JS  
Chwaraewr y rheolwr : JULIAN WILLIAMS : Managers Player of the season
Highslide JS
CAI JONES

11/06/18
AIL DÎM i PORTHMADOG / A RESERVE TEAM for PORTHMADOG

Welsh Alliance Gall y tymor nesaf fod yn un cyffrous iawn i chwaraewyr ifanc y clwb wrth i Sion Eifion fynd a hwy gam ymhellach ymlaen yn eu datblygiad. Y tymor nesaf mae’r clwb yn anelu i gael tîm i chwarae yng Nghynghrair Ail Dimau y Welsh Alliance. Bydd y Gynghrair yn cyfarfod yn fuan i ystyried y cais. Y bwriad ydy chwarae gemau Ail Dîm ar Nos Wener o dan y goleuadau neu ar bnawn Sadwrn.
Mae Sion Eifion yn edrych ymlaen i’r sialens:
“ Rwy’n falch iawn ein bod am chwarae yng Adran Ail Dimau y Welsh Alliance. Ar ôl ennill y Gynghrair Dan 18 y tymor diwethaf mae’r hogiau yn fwy na pharod i gamu fyny i’r lefel nesaf o bêl-droed. Bydd gan y gynghrair hon dimau cyffrous a fydd yn rhoi sialens newydd ac yn hwb i’w datblygiad. Eisoes mae nifer o’r chwaraewyr ifanc wedi arwyddo at y tymor nesaf.
“Bydd y chwaraewyr y byddaf yn arwyddo i gyd yn gymwys felly i chwarae i’r tîm cyntaf pan fydd yr amser yn iawn.Rwy’n hapus hefyd fod yr ail dîm a'r tîm cyntaf yn mynd i weithio’n agosach nag erioed y tymor nesaf. Rwy’n edrych ymlaen i gychwyn ar y gwaith gan obeithio am dymor arall llwyddianus, i’r hogia’. C’mon Port!"

The coming season could be an exciting one for the club’s young players as Sion Eifion takes them a step further in their development. Next season the club aims to have a team playing in the Welsh Alliance Reserve League. The League will meet shortly to look at our applicatiom for membership. The intention is to play reserve fixtures on a a Friday evening under lights and also on Saturdays.
Sion Eifion looks forward to the new challenge:
"I'm delighted that next season we could be playing in the Welsh Alliance Reserve Division. Having won the U18s league last season, the boys are more than ready to step into senior football. The league will have some exciting and challenging teams which will only aid in the development of our boys. Already several of these young players have signed up for the new season.
“It will also ensure that all players are signed as senior players for the club which means that they can all play a part at first team level if and when the time is right. I'm also excited to say that both the reserves and the first team will be working closer than ever next year. I can't wait to get started and hopefully have another successful season with the boys. C'mon Port!!”
11/06/18
CHWARAEON a HWYL ar Y Traeth / SPORTING FUNDAYS at the Traeth

Bydd Adran Pêl-droed yn y Gymuned y Clwb yn trefnu sesiynau Chwaraeon a Hwyl dros wyliau’r haf ar gyfer plant, hogiau a merched, rhwng 6 a 11 oed.
Bydd y pecyn ar gael POB DYDD LLUN, MAWRTH a MERCHER rhwng 9yb a 5yp ar gost o £20 y diwrnod sydd yn cynnwys brecwast a chinio ysgafn a maethlon. Os am fwcio tri diwrnod ar y tro bydd y gost yn £45 y pen ond bydd rhaid ymrwymo i’r trefniant hwn cyn diwedd mis Mehefin.
Cynhelir sesiynau Chwaraeon o phob math ac fe gynhelir gweithgareddau o dan do yn y Ganolfan Sgiliau os yw’r tywydd yn anffafriol.
Bydd hyfforddwyr benywaidd a gwrywaidd ar gael, wedi eu cofrestru o dan DBS, ac fe sicrheir bugeilio cyson a gofalus o’r mynychwyr.
Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly os oes diddordeb gan unrhyw riant awgrymir yn garedig y dylid sicrhau lle cyn gynted a phosib trwy gysylltu a GETHIN JONES ar 07974033552 neu gl-jones@hotmail.co.uk

Highslide JS
  Highslide JS

The Club’s Football in the Community Programme will be organising regular Sporting Fundays at the Traeth over the summer holidays that will be available to both boys and girls between 6 and 11 years of age.
These will be held every MONDAY, TUESDAY and WEDNESDAY between 9am and 5pm which will include a light and healthy breakfast and lunch. The cost is £20 per day but if 3 days are booked together it will cost a total of £45. This offer, however, is only open until the end of June.
Activities will include a variety of different sports and, if the weather is inclement, there will be fun sessions held at the Club’s Skills Centre.
A male and female coach, DBS checked, will be available to organise the activities and to ensure participants are fully looked after at all times.
Only a limited number of places are available and, therefore, any parent who is interested should contact GETHIN JONES at 07974033552 or gl-jones@hotmail.co.uk as soon as possible.
10/06/18
Sylwadau Sion Eifion am y tymor / Coach Sion Eifion looks back at the season

Mae prif hyfforddwr y tîm Dan 18, Sion Eifion Jones, yn cymryd golwg yn ôl ar dymor arbennig o llwyddianus i’w chwaraewyr ifanc. Dyma mae o’n ddweud.
“Mae’n deg dweud fod y tymor wedi bod yn llwyddiant i fy chwaraewyr Dan 18. Mae mynd o dymor anodd llynedd i wneud y dwbl eleni yn dangos yr ymdrech a’r ymroddiad a ges i gan fy chwaraewyr a oedd yn grwp arbennig i weithio efo.
“Bonws mawr arall yw fod nifer o’r chwaraewyr wedi cael profiad o gemau ac ymarfer gyda’r tîm cyntaf. Yr uchafbwynt personol imi oedd gweld Math Roberts yn chwarae ei gêm gyntaf i brif dîm y clwb. Rwy’n siwr y bydd nifer o’r garfan hon o chwaraewyr yn ei ddilyn, wrth inni ddatblygu mwy o gynlluniau cyffrous i gryfhau’r cyswllt rhwng y rhai Dan 18 a’r tîm cyntaf.
“Wrth orffen carwn ddiolch i aelodau’r clwb, y cefnogwyr, y chwaraewyr ac yn bwysig iawn fy staff o hyfforddwyr am eu cefnogaeth arbennig drwy gydol y tymor. C’mon Port!!!

U18s head coach Sion Eifion Jones takes a look back at what has been an outstanding season for his young players. Here are his comments: “It's fair to say that it's been a successful season for my U18s. Going from a tough season last year to winning the double this year is credit to the effort and commitment of my players who are an outstanding group to work with.
“Another success story from the season is that many of the U18s have now gained valuable first team experience within training and games.
“The highlight for me personally was seeing Math Roberts making his senior debut for the Club. I'm sure he'll be the first of many from this cohort of players as there are exciting plans to further strengthen the link between the U18s and first team next season.
“Finally, I'd like to thank club members, supporters, players and most importantly my U18s coaching staff for their outstanding support throughout the season. C'mon PORT!! “
09/06/18
Tote Mis Mai / May Tote

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis Mai oedd 18 a 28. Dim enillydd. Bydd y wobr £280 yn cael ei ychwanegu at cyfanswm mis Mehefin.
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 15fed o fis Mehefin. Bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael ei tynnu nos Wener, 29ain o fis Mehefin, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the MAY TOTE were 18 and 28. No winners.The prize £280 will be added to the June total.
Any claims must be made by 8pm on Friday, 15th June,. The next Tote will be drawn on Friday, 29th June at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
09/06/18
Mwy o gemau / More fixtures

Mae’r ola’ o’r gemau cyn-dymor wedi cael ei chadarnhau gyda Llandudno, a charfan newydd sbon Iwan Williams, yn dod I’r Traeth ar gyfer Cwpan Her Y Pathfinders. Y gêm hon yw uchafbwynt y gemau cyn-dymor ac yn cyd-fynd â Gwersyll Blynyddol y Pathfinders yng Nghricieth.
Hefyd yng Nghyfarfod Blynyddol Cynghrair Huws Gray tynnwyd yr enwau ar gyfer Rownd 1af Cwpan Huws Gray. Bydd Port ar Y Traeth yn croesawu Bwcle sydd newydd ennill dyrchafiad yn ôl i’r HGA. Chwareir y gêm hon ym mis Hydref.

The final pre-season fixture has now been confirmed with Iwan Williams’ ‘new look’ Llandudno Town visiting the Traeth on Saturday 4th August for the Pathfinders Challenge Cup. This game is a pre-season highlight coinciding with the annual Pathfinders Camp at Cricieth.
Also the draw for the Huws Gray Cup 1st Round was made at Huws Gray Alliance AGM. Port will be at home to promoted Buckley Town with the tie to be played on a date in October yet to be confirmed.
08/06/18
NOSON WOBRWYO / PRESENTATION NIGHT

Sion Bradley Cynhaliwyd y Noson Wobrwyo’r clwb yn Clwb y Traeth heno. Gwobrwywyd chwaraewyr y Tim Cyntaf a hefyd y Tîm hynod llwyddianus Dan 18.
DAN 18
Chwaraewr y Rheolwr : ALED WILLIAMS
Chwaraewr y ChwaraewyrL SOL KEMPSTER
Chwaraewyr y tymor : SOL KEMPSTER a RHYS HUGHES
Prif sgoriwr: RHYS HUGHES
Tim 1af
Chwaraewr y rheolwr : JULIAN WILLIAMS
Chwaraewr y chwaraewyr : TOMOS EMLYN
Prif sgoriwr : JOE CHAPLIN
Chwaraewr y cefnogwyr : SION BRADLEY
Nifer mwya’ o enwebiadau ‘Seren y Gêm’: SION BRADLEY

The clud’s Presentation Evening was held tonight at the Traeth Clubhouse. Both the First Team and the highly successful U18s received their awards for the 2017/18.
UNDER 18s
Managers Player of Season: ALED WILLIAMS
Players: Players of the season: SOL KEMPSTER
Players of the season: SOL KEMPSTER a RHYS HUGHES
Top scorer: RHYS HUGHES
1st team
Managers Player of the season: JULIAN WILLIAMS
Players Player: TOMOS EMLYN
Top scorer: JOE CHAPLIN
Supporters player of the season: SION BRADLEY
Most ‘Man of the Match’ Awards: SION BRADLEY
07/06/18
GEMAU CYN-DYMOR / PRE-SEASON FIXTURES

Gorffennaf 7 Llamgefni Adre 2.30pm
Gorffennaf 10 Llandyrnog (yn Y Bala 8pm)
Gorffennaf 14 Y Bermo Oddi cartref 2.30pm
Gorffennaf 21 CEWRI PORT (Gêm deyrnged Richard Harvey) 2.30pm
Gorffennaf 24 CPD Penrhyndeudraeth Adre 7,30pm
Gorffennaf 28 Brickfield Rangers Oddi cartref 2,30pm
Awst 4 Cwpan Pathfinders Llandudno Adre 2,30pm

July 7th Llangefni FC - Home 2.30pm
July 10th Llandyrnog - Away at Bala 8pm kick off
July 14th Barmouth - Away 2,30pm
July 21st PORT LEGENDS - Home (Richard Harvey appreciation game) 2,30pm
July 24th - Penrhyn - Home 7.30pm kick off
July 28th – Brickfield Rangers - Away 2.30pm
August 4th - Home - Pathfinders Cup Llandudno Town Home 2.30pm
Newyddion cyn 08/06/17
News before 08/06/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us