Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
31/08/17
Dim Gemau / No Games

Bydd yna ddim gemau HGA y penwythnos yma, penwythnos rhyngwladol. Pawb yng Nghaerdydd felly at Cymru v Awstria!! C’mon Cymru!!
Gêm nesaf Port fydd oddi cartref yn erbyn Caersws ar 9 Medi. Gêm gartref nesaf fydd yn erbyn Dinbych ar 16 Medi.

There will be no HGA games this weekend, the international weekend. So it’s everyone off to Cardiff for Wales v Austria!! C’mon Cymru!!
League action will resume on 9 September with Port’s next game away at Caersws and then Denbigh will visit the Traeth on 16 September.
28/08/17
Dylan yn diolch am gefnogaeth busnesau lleol / Dylan thanks local businesses for their support

Mae swyddog marchnata y Clwb am ddiolch i’r holl fusnesau a chyrff sydd wedi noddi neu hysbysebu efo’r clwb eto eleni.
“Heb os mae’r tymor hwn yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus a gawsom fel clwb yn denu nawdd a hysbysebion” meddai Dylan Rees.
“Bellach mae dros 180 o fusnesau lleol yn ein cefnogi yn ogystal a nifer o unigolion sydd yn noddi chwaraewyr, gemau, peli ac yn y blaen. Tybiaf ein bod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus yn y gynghrair mor belled a mae’r gefnogaeth yn y cwestiwn a hynny er gwaethaf y ffaith mai tref fach yw Porthmadog”. Cyfeiriodd at y niferoedd a ddaeth i’r Traeth ar gyfer tair gem gyntaf y tymor hwn.
“Mae 1,063 o bobol wedi mynychu y 3 gêm ac, wrth gwrs, mae’r rhain wedi prynu rhaglenni a gweld yr holl hysbysfyrddau o gwmpas y maes sydd yn cyfiawnhau ffydd yr hysbysebwyr yn y clwb. Dros y tymor daw rhai miloedd i wylio’r gemau ac hefyd defnyddir y clwb cymdeithasol gan rhai cannoedd yn ystod y flwyddyn ar gyfer partiion, cynhadleddau a chyfarfodydd”.

The Club’s Marketing Officer, Dylan Rees, has thanked all those businesses and individuals that have supported the club again this season through sponsorship and advertising.
“Without doubt this has to be one of the most successful seasons yet in securing sponsorship and advertising” said Dylan “with over 180 businesses now supporting us.
“We have got to be one of the most successful in the league in this respect, despite the fact that Porthmadog is a small town.”
He referred to the fact that during the first three home games this season 1,063 people have attended and many will have bought the match programme and all would have seen the advertising boards around the ground.
“This, we hope, justifies these businesses’ faith in us and gets them a return on their investment. Over the season several thousand people attend our games and, of course, there are those that use the social club for parties, meetings and conferences.”
27/08/17
Cwpan Nathaniel MG Rownd 1 / Nathaniel MG Cup Round 1

Noddwr/Sponsor: Tanronnen Inn Beddgelert
Cwpan Nathaniel MG Nos Fawrth, gyda ymweliad Caergybi i’r Traeth, bydd Port yn chwarae eu trydedd gêm mewn wythnos. Ar ôl casglu 7 pwynt o’u pedair gêm gynghrair bydd yna newid cystadleuaeth a chwarae Rownd 1af Cwpan Nathaniel MG. Y tro diwethaf i Port chwarae yn y gystadleuaeth hon Cwpan Word oedd yr enw. Rhyw fath o Gwpan Cynghrair y Welsh Prem ydy hon ond efo ‘chydig o ychwanegiadau ac mae Port a’r Hotspyrs yn rhan o’r ychwanegiadau yna! Bydd y ddau glwb yn awyddus i ennill lle yn y rownd nesaf gan obeithio am glwb Welsh Prem.
Mae Caergybi wedi cael cychwyn ardderchog i’r tymor, a nhw ydy’r unig glwb yn dal efo record 100%. Ennill tair gêm, am eu bod wedi methu allan ar un gêm oherwydd problem Rhaeadr yn tynnu allan o’r HGA. Daeth eu buddugoliaeth orau ar yr Oval yn curo Caernarfon o 2-1.
Heb amheuaeth bydd hon yn gêm anodd eto ond wedi chwarae Caernarfon a’r Rhyl dros gyfnod o bedwar diwrnod mae’r garfan yn dechrau arfer â gemau anodd! Dysgwyd o’r gemau yma fod Port hefyd yn gallu achosi problemau i’r goreuon.
Cafwyd sylw gan Craig Papirnyk ar Y Trydar ar ôl gêm ddydd Sadwrn yn dweud llawer o wirionedd “Pan fod pwynt ddim yn ddigon yn erbyn tîm da, yna da chi’n gwbod eich bod yn gwneud rhywbeth yn iawn” Roedd pnawn Sadwrn yn un da eto i ddau chwaraewr newydd, gyda Ifan Emlyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr a Joe Chaplin, yn y blaen, yn profi y gall fod yn un o arwyr y Traeth fel rhai o’r sêr sydd wedi chwarae yn y blaen sgorio dros Port yn y gorffennol. Cefnogwch yr hogiau nos Fawrth. Cic gyntaf 7.45 pm. C’mon Port!!

On Tuesaday evening it will be a third game in a week for Port with the visit of Holyhead Hotspurs to the Traeth, After collecting 7 points from their first four league games there will be a change of competition with a first round tie in the Nathaniel MG Cup. When Port last took part in this competition it was known as the Word Cup. It is a sort of Welsh Premier League Cup with add-ons and both Port and Hotspurs are a part of those add-ons. Both clubs will be looking to gain a place in the next round in the hope of having a tilt at a Welsh Prem opponent.
The Hotspurs have had a great start to their season and they are the only club in the HGA table with a 100% record still intact. They have only played three games, having to miss out once due to Rhayader’s withdrawal. Their most notable victory came at the Oval, beating Caernarfon by 2-1.
No doubt this will be another difficult game but having played Caernarfon and Rhyl in the space of four days the squad are getting used to tough games. These games also suggest that Port will present tough opposition for any club in the HGA.
Craig Papirnyk said it all with his Twitter comment after last Saturday’s game, “When a point isn't enough against a good side you know you're doing something right.”
Saturday was a another good day for two newcomers with Ifan Emlyn again showing his worth in midfield and up fron Joe Chaplin is proving why he will become a Traeth hero in the same mould as some of the star strikers who have scored for fun. Support the lads on Tuesday. Kick off 7.45pm. C’mon Port!!
25/08/17
Gemau Medi Dan 18 / U18s September Fixtures

Sion Eifion Y tymor hwn bydd tîm Dan 18 Port yn chwarae yn Adran Ieuenctid Cynghrair Dyffryn Clwyd. Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar bnawn Sul os na chyhoeddir yn wahanol. Isod gwelir gemau Medi.
Bydd 10 o glybiau yn y Gynghrair: Cae Glyn, Caergybi, Llanberis, Cyffordd Llandudno, Llafairpwll, Mynydd Tigers, Penmaenmawr Phoenix, Bae Penrhyn, Rhuddlan a Porthmadog.
Meddai’r Prif Hyfforddwr Sion Eifion, wrth edrych ymlaen at y tymor newydd, “Rwy’n hyderus iawn y gallwn roi sialens go iawn am y Gynghrair hon, gyda talentau ifanc lleol wedi ymuno â’r clwb dros yr haf. Mae’r cyfnod cyn dymor wedi bod yn addawol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi ychwanegiad cyffrous i’r tîm hyfforddi bydd yn cryfhau ein strwythur. C’mon Port!”
Cewch fwy o wybodaeth am Gynghrair Dyffryn Clwyd ar http://www.vccfl.co.uk/

Medi 17 / Sept 17th Mynydd Tigers v Porthmadog
Medi 24 /Sept 24th Porthmadog v Penmaenmawr Phoenix

This season Port’s U18s will play in the Vale of Clwyd U18s Youth Division The games will be played on Sunday afternoons with kick off at 2pm unless otherwise stated. Above are the September fixtures.
The league has 10 participating clubs. They are: Cae Glyn, Holyhead Hotspur, Llanberis, Llandudno Junction, Llanfairpwll, Mynydd Tigers, Penmaenmawr Phoenix, Penrhyn Bay, Rhuddlan and Porthmadog.
U18s Head Coach Sion Eifion looking forward to the new season said, "I'm more than confident that we can mount a real challenge in this League with some real young local talent having joined the side over the summer. Pre-season has been impressive and am looking forward to announce some exciting additions in terms of coaching staff early next week which will only strengthen our structure. C'mon Port!"
You can find more about the Vale of Clwyd league on http://www.vccfl.co.uk/
25/08/17
Tote mis Awst / August Tote

Y rhifau lwcus yn Tote mis Awst oedd 25 ac 29. Roedd un enillydd sef M Humphreys, Tremadog, yn ennill £300.
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 1 Medi a bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael eu tynnu nos Wener, 29 Medi, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly Tote for August were 25 and 29. There was one winner, M, Humphreys, Tremadog who collected a prize of £300.
Any claims must be made by 8pm on Friday 1st September. The next Tote will be drawn on Friday, 29th September at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345.
24/08/17
Rhyl yw’r ymwelwyr / Rhyl are the visitors

Rhyl Pnawn Sadwrn bydd Port yn parhau gyda’r rhediad o gemau anodd gyda’r Rhyl yn ymweld â’r Traeth. Bydd y tîm, sydd newydd golli eu lle yn UGC, yn awyddus i ddringo ‘nol yn syth. Cyfartal oedd eu dwy gêm gyntaf yn erbyn Cegidfa a Threffynnon ond wedyn nos Fawrth sgoriwyd chwech yn erbyn y newydd ddyfodiaid FC Queen’s Park.
Mae eu hymweliad â’r Traeth yn dod ac atgofion am rhai o’r gemau pwysig a chwaraewyd rhwng y ddau glwb yn y gorffennol. Bydd pob cefnogwr Port a oedd yn bresennol ar y diwrnod yn cofio’r gêm epig honno yn 2008 pan oedd angen curo’r Rhyl i aros yn UGC. O drwch blewyd daeth y fuddugoliaeth, gyda Richard Hughes yn sgorio’r unig gôl ar ôl 53 munud. Dyna hefyd gêm olaf Viv Williams yn rheolwr y clwb. Ynghynt yn 2004, mewn gêm arall ddiwedd tymor, sicrhaodd Y Rhyl y triphwynt oedd angen i ennill pencampwriaeth yr UGC. Dathlu bu hanes Y Rhyl o flaen torf o 800+. Mae’ debyg fod y traddodiad yn parhau gyda Niall MvGuiness, rheolwr Y Rhyl yn ateb ar wefan swyddogol yr HGA am y cae roedd yn edrych ymlaen i ymweld, atebodd fel hyn, “Rhaid imi ddweud Porthmadog, rwyf heb reoli yno eto ac mae set-up da yno. Rwy’n cofio fel hogyn bach tu ôl y gôl y flwyddyn yr enillon ni UGC ar ddiwrnod ola’r tymor.”
Bydd Port yn awyddus i ddod dros y siom o golli i Gaernarfon yn sydyn. Wedyn bydd y chwaraewyr yn sylweddoli bod y perfformiad wedi bod o safon uchel. Roedd y ddwy gôl, gan Cai a Julian, yn ddigon gwych i ennill Cwpan y Byd!! Gall Craig Papirnyk deimlo’n falch iawn o’r perfformiad yn unigol ac fel tîm. C’mon Port!

On Saturday Port continue their run of difficult fixtures with the visit of Rhyl to the Traeth. Newly relegated Rhyl will be one of the favourites for a quick return to the Welsh Prem and will prove testing opponents. They started their season with draws against Guilsfield and Holywell but struck form with a bumper 6-1 rout of newcomers FC Queen’s Park.
Their visit to the Traeth brings back memories of some important fixtures between the two clubs. Port supporters, present on the day, will hardly have forgotten that epic contest back in 2008 when Port needed to beat Rhyl in the last match of the season to remain in the Welsh Prem. They did so by the skin of their teeth hanging on at the end after Richard Hughes had given them a 53rd minute lead. That game also turned out to be Viv Williams’ last as Port manager. Earlier, in the final game of 2004, Rhyl gained the 3 points needed to clinch the WPL title. That game was also played at the Traeth in front of an 800+ crowd with the Rhyl travelling support celebrating in style. It appears that the tradition is alive and well, with Rhyl manager, Niall McGuiness when asked, on the Huws Gray official website, for the ground he looked forward to visiting. He said, “Would have to say Porthmadog I am yet to manage there and it’s a lovely set-up, always remember being a fan as a little boy behind the goal as well, the year we won the Welsh Premier League there on the last day of the season.”
Port will be eager to forget the disappointment of the defeat at home to Caernarfon. But once the initial disappointment is behind them they will realise what a fine performance they put in. Two goals worthy of winning the World Cup let alone a HGA league fixture. Craig Papirnyk can take real heart from the way his team performed both individually and collectively. C’mon Port.
23/08/17
Gemau Academi / Academy fixtures.

Dyma’r rhestr gyntaf o gemau
Sul 3 Medi 2017 Llandudno vs CPD Porthmadog U12, U14, U16
Sul 10 Medi 2017
CPD Porthmadog vs Caernarfon U12, U14, U16
Sul 17 Medi
CPD Porthmadog vs Bala U12, U14, U16
Sul 1 Hydref 2017
Bangor vs CPD Porthmadog U12, U14, U16
Bydd yr ail rhestr o gemau yn cael ei gyhoeddi ar Llun, 9 Hydref 2017.
Bydd gemau cyfeillgar yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.
Rhieni a Gwarchodwyr cysylltwch â hyfforddwr eich gr?p oed os oes gennych gwestiynau ynglyn a’r gemau neu Colin Dukes, Gweinyddwr yr Academi.

Here are the first round of Academy fixtures
Sunday 3rd September 2017-
Llandudno vs CPD Porthmadog U12, U14, U16
Sunday 10th September 2017-
CPD Porthmadog vs Caernarfon Town U12, U14, U16
Sunday 17th September 2017-
CPD Porthmadog vs Bala Town U12, U14, U16
Sunday 1st October 2017-
Bangor City vs CPD Porthmadog U12, U14, U16
The second phase of fixtures will be released on Monday 9th October 2017
Friendly fixtures will be arranged when required as mentioned during registration
Parents/Guardians any questions regarding the fixtures please contact the relevant lead coach or Academy Administrator- Colin Dukes.
22/08/17
Crysau cartref newydd ar gael / New Home shirts available

Bydd y crysau cartref newydd ar gael yn Siop y Clwb ar Y Traeth yn ystod y game yn erbyn Caernarfon nos yfory a Rhyl pnawn Sadwrn.
Pob maint o grysau ar gael; i blant 2 oed i fyny at maint mawr oedolion 2XL Pris: Oedolion - £30. Plant a Ieuenctid: £25.

Highslide JS
Crys Cartref 2017/18 / HOME Shirt 2017/18


The new home shirts will be available at the Club Shop at the Traeth during the games against Caernarfon tomorrow night and Rhyl on Saturday.
All sizes are available from 2 years in juniors up to 2XL large adults.
Cost: Adults - £30. Children and Youths £25.
20/08/17
Darbi Gwynedd nos Fercher / Gwynedd Derby on Wednesday

Caernarfon Noddwyr y Gêm: Agweddau Eryri / Match Sponsors: Aspects of Snowdonia

Er mai ond dwy gêm o’r tymor sydd wedi mynd, dim ond Port a Chaergybi sydd wedi ennill y ddwy (Fflint ond wedi chwarae un gêm). Hyn yn arwydd pellach o natur gystadleuol yr HGA y tymor hwn. Bydd Caernarfon yn yn teithio nos Fercher yn benderfynol o wneud yn iawn am golli adref i Gaergybi.
Y Cofis sydd wedi cael y gorau o’r gemau Darbi dros y blynyddoedd diweddar a rhaid edrych yn ôl i 2008 am fuddugoliaeth gynghrair i Port dros yr hen elyn. Felly bydd nos Fercher yn gyfle arall i ysgwyd yr hwdw arbennig yma i ffwrdd. Bydd gan y Cofis eu bygythiadau arferol; Darren Thomas a Jamie Breeze yn y blaen a Nathan Craig sy’n gallu taro o rhywle.
Ond mae Port hefyd yn gallu bygwth, gyda Joe Chaplin wedi setlo’n dda ac wedi canfod y rhwyd yn ein dwy gêm. Dwy yr un hefyd i Sion Bradley a Meilir Williams i roi hyder i ddau chwaraewr ifanc addawol (Hogia’ Blaenau!!). Tu ôl i’r blaenwyr mae Ceri James a Cai Jones, a’r ddau ar eu gorau y Sadwrn diwethaf.
Bydd Dan Roberts ar gael ar ôl gorffen ei waharddiad ond, dal i aros mae’r clwb i’r gwaith papur rhwng FA Lloegr a Chymru gael ei gwblhau, er mwyn i Tom Taylor gael chwarare. Bydd Caernarfon heb Danny Brockwell a gafodd gerdyn coch yn erbyn Caergybi.
Hon ydy’r gêm mae’r cefnogwyr yn edrych ‘mlaen ati a gobeithio cawn dorf fawr i weld beth fydd yn siwr o fod yn gêm dynn unwaith eto. C’mon Port!

With just two games played Port find themselves one of only two clubs remaining with two wins recorded (Flint have played just once), This is probably another sign of the competitive nature of this season’s HGA. Caernarfon will come to the Traeth on Wednesday stung by a surprise home defeat to Holyhead Hotspurs.
The Cofis have held the upper hand in derby games over recent years and we have to look back to 2008 for a league win. Wednesday night provides another opportunity to overcome this hoodoo. The Cofis will have their usual dangermen up front in Darren Thomas and Jamie Breeze and as we well know Nathan Craig can strike from anywhere.
Port can also offer their own threats and the signs are clear that Joe Chaplin is settling in well and has found the net in both our games so far. Doubles on Saturday too for Sion Bradley and Meilir Williams will give further confidence to two promising young players . Behind our front men Ceri James and Cai Jones were both looking on form on Saturday.
For Port Dan Roberts will be available again after completing his two match suspension but the club waits for Tom Taylor’s international c;learance to come through. Caernarfon will be without Danny Brockwell, red carded against Holyhead.
This is the game we all look forward too and a bumper crowd is expected and another tight contest between the Gwynedd rivals. C’mon Port!
18/08/17
Chris Jones yn gadael / Chris Jones leaves Port

Chris Jones Mae Chris Jones wedi penderfynu dod a’i ail gyfnod ar Y Traeth i ben a bydd yn arwyddo i Hotspyrs Caergybi. Dywedodd Craig Papirnyk am y penderfyniad:
“Mae Chris yn gadael ar delerau da ac yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod efo ni.
“Roedd yna rhesymau amrwyiol am ei benderfyniad ac nid yn un hawdd ond, yn y diwedd, gwnaethom gytuno mai symud ymlaen oedd y gorau iddo.
“Rwy’ am ddymuno y gorau iddo ac yn ddiolchgar am y cyfle i fod yn rheolwr ar chwaraewr o safon sydd wedi cael gyrfa arbennig o dda ym mhêl-droed yng Nghymru. Pob lwc Jonsi!”
Pob lwc i'r dyfodol i'r chwaraewr poblogaidd hwn.

Chris Jones has decided to bring his second stint at the Traeth to an end and sign for Holyhead Hotspurs. Craig Papirnyk speaking about the move said:
“Chris has left on good terms and was thankful to everyone for their support during his time with us. “There are various reasons for him leaving and it wasn't a decision taken lightly but we both agreed it was best for him to move on.
“I would like to wish him all the best and I'm thankful I got to manage a great player who has had a very good career in Welsh football. All the best Jonsey !”
All connected with the club wish this popular player all the best in the future.
17/08/17
Lluniau gêm Gresffordd / Photos from Gresford game.

Mae lluniau o’r gêm yn erbyn Gresffordd ar y wefan ‘Lluniau/Photos’. Diolch i Andrew Kime o Agweddau ar Eryri.

Photos of the Gresford game now on the website ‘Lluniau/Photos’, Thanks to Andrew Kime of Aspects of Snowdonia.
17/08/17
Teithio i Cyffordd / We travel to the Junction LL31 9NU

Cyffordd Llandudno Junction Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Cyffordd Llandudno ar gyfer gêm gartref gyntaf Cyffordd yn yr HGA. Er waethaf iddynt golli eu gêm gyntaf yn erbyn Airbus, dim ond gôl Steve Tomassen ar ôl 57 munud oedd yn rhannu’r ddau glwb ar y diwedd. Felly bydd neb yn disgwyl gemau hawdd wrth ymweld â Cae Arriva y tymor hwn.. Roedd colli o un gôl yn unig yn siwr o blesio’r rheolwr Iain Bennett ac yn rhoi hyder i’r clwb cyn y gêm gartref gynta’. Un chwaraewr fydd angen cadw llygad arno ydy Dean Seager, blaenwr sydd wedi achosi problemau i Port yn y gorffenno tra efo Llandudno.
Bydd Port, ar y llaw arall, yn edrych i adeiladu ar y fuddugoliaeth y Sadwrn diwethaf ac ar y perfformiadau da a gafwyd yn y cyfnod cyn dymor. Er yn hapus â’r triphwynt byddant yn edrych am berfformiad llawn hyder y tro yma. Er iddynt fod i lawr i 9 dyn am 25 munud olaf, roedd Gresffordd yn dal yn y gêm tan yn hwyr iawn. Gyda Gruff John, Iddon Price ac Iwan Lewis i gyd efo anafiadau, mae’r newyddion fod Craig wedi arwyddo Tom Taylor amddiffynnwr o safon yn rhoi hyder i bawb. C’mon Port.

On Saturday Port travel to Llandudno Junction for for what will be the Junction’s first HGA home game at their Arriva Flyover Ground. Despite losing in their first experience at this level to Steve Tomassen’s 57th minute goal, the closeness of the result suggests that the newcomers will be no pushover this season. Going down by only a single goal against Airbus, one of the favourites for promotion, must have pleased manager Iain Bennett and willl give them confidence as they approach their first home game. One who will need watching from a Port point of view is striker Dean Seager as they know from past experience how dangerous the former Llandudno Town forward can be.
Port will be looking to build on their opening day victory and some good pre-season performances. However while pleased with the three points last weekend they will look for a mor fluent performance this weekend. Despite being down to 9 players for the last 25 minutes, Gresford remained in the game almost to the end. With Gruff John, Iddon Price and Iwan Lewis all out through injury Craig’s landing of highly regarded defender Tom Taylor gives the whole club a boost. C’mon Port.
15/08/17
Tom Taylor yn ymuno / Craig signs Tom Taylor

Er i Port rhwystro’r gwrthwynebwyr rhag sgorio y Sadwrn diwethaf mae Craig Papirnyk wedi arwyddo Tom Taylor, amddiffynwr canol a chwaraeodd i Shawbury United yn y Midland Premier League y tymor diwethaf. Mae Tom, o Llanddona, Ynys Môn, hefyd wedi chwarae dros Glantraeth a Chaernarfon a fo oedd capten tîm pêl-droed Ynys Môn yn gemau Gotland.
Meddai Craig am y chwaraewr newydd, “Rwy wedi bod yn edmygwr o Tom ers amser hir ac wedi ceisio ei ddenu i’r Traeth o’r blaen. Bydd rhai yn cofio iddo chwarae ychydig o gemau cyn dymor dros Port yng nghyfnod Gareth Parry ond oherwydd galwadau gwaith ni arwyddodd i’r clwb ar y pryd.
“Rwy’n wirioneddol edrych ‘mlaen i’w weld yn chwarae inni ac yn falch ei fod wedi penderfynu mai Port yw’r clwb iddo, er i nifer o glybiau eraill ddangos diddordeb ynddo. Bydd Tom yn gwisgo crys rhif 26. “Yn fy marn i mae Tom yn amddiffynwr ardderchog sydd a’r doniau i fod yn un o’r goreuon yn y gynghrair. Mae’n chwaraewr deallus, yn dechnegol dda ac yn cryf yn yr awyr ond mwy na dim mae’n arweinydd ac yn enillydd!
“Rhaid aros am ganiatâd rhyngwladol ac rwy’n gobeithio bydd Cymdeithasau Pêl-droed Cymru a Lloegr yn prosesu’r cais cyn y penwythnos.”
“Croeso i Port Tom” meddai Craig gan ychwanegu, “Da ni wedi arwyddo amddiffynwr canol gwych!”

Despite last Saturday’s clean sheet Craig Papirnyk has moved to increase his defensive options and today the club has signed Tom Taylor, a central defender who played last season for Shawbury United of the Midland Premier League.
Tom is from Llanddona, Anglesey and has previously played for Glantraeth and Caernarfon Town, Tom also recently captained Ynys Mon men’s football team in the Gotland games.
Craig said of his new signing, “I personally have been a long admirer of Tom’s and in recent years i have tried to get him to the Traeth, some may remember his pre-season with us under Gareth Parry but unfortunately due to work commitments at the time he couldn’t sign for the club.
“I am really looking forward to seeing him play for us and I am delighted that he’s decided Port is the right club for him , especially after receiving interest from several clubs. Tom will wear the number 26.
“Tom is an excellent defender who has every attribute to be one of the best in the league in my opinion. He is an intelligent player, technically excellent and aerially strong but most importantly he is a natural leader and winner!
“We await now confirmation of International clearance, we hope that the FA and FAW can process the move in time for the weekend.”
A delighted Craig added, “Welcome to Port Tom ! We’ve signed a fantastic centre half here!!”
11/08/17
Gerallt, Rob a Rhydian / Gerallt, Rob and Rhydian

Gerallt Owen Am y tro cyntaf ers 25 mlynedd bydd Port yn cychwyn tymor heb Gerallt Owen yn ei rôl allweddol fel Ysgriefnnydd. Mae’r clwb yn ddyledus iddo am gyfnod mor hir o wasanaeth arbennig.
Am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn roedd Gerallt hefyd yn golygu’r rhaglen, gwaith manwl yn gofalu bod pob dim yn cael eu wneud mewn da bryd. Dim yn unig golygu’r rhaglen, roedd hefyd am gyfnod yn sgwennu’r mwyafrif ei hun! Dros ei gyfnod mae’r rhaglen wedi cadw safon uchel a bob amser yn werth ei darllen. Coronwyd ei gyfnod gyda’r rhaglen yn cael ei henwi yr orau yng Nghynghrair Huws Gray am 2016/17 gan y gynghrair a gan Welsh Football Magazine.
Yn ffodus nid yw Gerallt yn bwriadu diflannu ac fe’i gwelwch o gwmpas y Traeth ar ddiwrnod gêm. Gobeithio hefyd y cawn edrych ymlaen at ddarllen mwy o’i gyfraniadau i’r rhaglen am hanes y clwb.
Erbyn hyn ry’m yn croesawu Rob Bennett yr ysgrifennydd newydd a Rhydian Morgan golygydd newydd y rhaglen. Mae gan Rob, a symudodd i’r ardal o Stockport, ddigon o brofiad o weinyddu, ac mae eisoes yn cael cyfnod cyn dymor prysur. Mae’r wên ar wyneb y Cadeirydd yn awgrymu fod pethau yn mynd yn dda i Rob. Pob lwc iddo!
Un ifanc, brwdfrydig o Lan Ffestiniog ydy Rhydian ac yn wyneb cyfarwydd ar y Traeth. Daw ei gyfle cyntaf i olygu’r rhaglen gyda ymweliad Gresffordd. Fel aelod o dîm golygyddol ‘Llafar Bro’ mae ganddo brofiad ac mae’n deall y problemau. Edrychwn ymlaen i weld y gyntaf pnawn Sadwrn!

For the first time in 25 years Port will be starting a season without Gerallt Owen in the key role of Club Secretary. The club owe him a huge debt of gratitude for such a lengthy period of outstanding service.
For most of that period Gerallt was also the programme editor -another onorous job always with a deadline loomimg. Not only did he edit the programme but wrote most of it for many years! The programme has always been a good and interesting buy and it was a just reward for all his efforts that that he crowned his final year as editor being named ‘Best Programme’ by both the Huws Gray Alliance and Welsh Football Magazine.
Fortunately Gerallt is not disappearing from the scene and will still be seen around the Traeth on match days. We can also look forward to reading more of his contributions in the programme on the history of the club.
We also welcome Rob Bennett, the new club secretary, and Rhydian Morgan the new programme editor. Rob who moved to Port from Stockport has wide administrative experience and has already had a busy pre-season. Judging by the broad smile the Chairman is wearing around the Traeth things have started really well. Good luck Rob.
Rhydian, from Llan Ffestiniog, is young, enthusiastic and a regular at the Traeth. He is having his first taste of the job preparing the programme for the Gresford game. He has plenty of experience as he is part of the editorial team which produces ‘Llafar Bro’. Looking forward to the first one next Saturday!
Newyddion cyn 11/08/17
News before 11/08/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us