Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
10/08/17
Y Tymor yn Cychwyn / Season Kicks-off : Noddwyr/Sponsors Toyota Harlech

Gyda’r paratoadau drosodd mae’r tymor go iawn yn cychwyn gyda ymweliad Gresffordd â’r Traeth. Gwnaeth y clwb o ardal Wrecsam synnu llawer gyda’u perfformiadau y tymor diwethaf ond erbyn diwedd y tymor cafodd y clwb eu haeddiant yn sicrhau y 3ydd safle yn ytabl. Unwaith eto y tymor hwn Steve Halliwell, Rheolwr y Tymor yn yr HGA bydd yn eu harwain.
Fel pob clwb mae Gresfordd wedi cryfhau eu carfan ac un o’r chwaraewyr newydd ydy Joe Williams a fu ar y Traeth llynedd.
Chwaraewyd tair gêm rwng y ddau glwb llynedd gyda Gresffordd yn cael y gorau ohoni yn y gynghrair gan wneud y dwbl dros Port. Yng Nghwpan Cymru Port aeth a hi ar ôl ciciau o’r smotyn a perfformiad arwrol gan Tyler French.
Yn dilyn nifer o berfformiadau cyn dymor da iawn daw’r cyfle i dalu’r pwyth am y ddwy gêm a gollwyd yn y gynghrair ond disgwyliwn gêm gystadleuol agos iawn. C’mon Port.

With the preliminaries over the season starts in earnest with the visit of Gresford Athletic. The Wrexham area club were perhaps the surprise package of the season but in the end few would deny that they well deserved the 3rd place spot. They will be led again by Steve Halliwell the HGA’s Manager of the Season.
Like all clubs Gresford have added to their squad and one of their newcomers is Joe Williams who was at the Traeth last season.
The two clubs played each other three times last season with the Wrexham club completing the a league double over Port. The clubs also met in the Welsh Cup with Port this time coming out on top after a penalty shoot-out memorable for Tyler French’s three heroic saves.
Following some excellent pre-season performances It will be the opportunity to wipe out the memory the double league defeats in what should be a competitive and close contest. C’mon Port.
08/08/17
Newid i Gwpan y Pathfinders / Change to Pathfinders Cup

Mae gan Port wrthwynebwyr newydd yng Nghwpan y Pathfinders nos yfory (Mercher) ar y Traeth. Bu’n rhaid i Gorwen, y gwrthwynebwyr gwreiddiol, dynnu nol o’r gêm ar y funud olaf. Ond gan fod i’r gêm le pwysig yn rhaglen mis Awst ar y Traeth mae Craig Papirnyk wedi symud yn syth i ddod o hyd i glwb arall ar gyfer y gêm.
Meddai Craig pnawn ‘ma, “Diolch byth mae Bermo wedi camu i’r adwy, a medrwn chwarae Cwpan y Pathfinders, gêm o bwys i’r clwb ac i’r Pathfinders ifanc sy’n ymweld â ni.
“Rwy’n ddiolchgar i Carl Ryan a Paul Lewis am gamu fewn ar y funud olaf a threfnu carfan i deithio i’r Traeth”
Mae’r clwb yn ddiolchgar iawn i glwb Y Bermo am ymateb mor gadarnhaol ac yn arwydd o’r berthynas dda sy’n bodoli rhwng y ddau glwb.
Felly Port v Bermo cic gyntaf am 7.30pm.

Port have new opponents for tomorrow night’s (Wednesday) Pathfinders Cup at the Traeth. Original opponents Corwen FC have had to pull out of the fixture at a very late stage. But as the game has an important place in Port’s build up to the new season manager Craig Papirnyk moved quickly to find alternarive opponents.
Craig said this afternoon, “Thankfully Barmouth have stepped in at such short notice so that we can play in the Pathfinders Cup which is important to the club and to the visiting Pathfinders.
“I'd like to thank both Carl Ryan and Paul Lewis for stepping in last minute and arranging a squad to travel tomorrow evening.”
The club are very grateful to the Barmouth club for their positive response and is a sign of the excellent relations between the two clubs.
So its Port v Barmouth for the Pathfinders Cup. Kick off 7.30pm.
06/08/17
Cwpan Pathfinders / Pathfinders Cup (09/08/17)

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddwn yn croesawu’r Pathfinders i’r Traeth. Dros gyfnod o nifer o flynyddoedd bu’r pobl ifanc yn ymweld â Chricieth gan wersylla yn yr ardal. Mae yna berthynas wedi datblygu rhwng y clwb a’r Pathfinders gyda’r cefnogwyr lleol yn edrych ymlaen at yr hwyl a’r brwdfrydedd mae’r ieuenctid yn eu ddangos.
Unwaith eto eleni bydd y ddau dîm yn cystadlu am Gwpan y Pathfinders. Y gwrthwynebwyr y tro yma fydd CPD Corwen.Mae Corwen yn chwarae yn y WNL yn ardal Wrecsam. Gorffen yn y 5ed safle oedd ei hanes yn 2016/17 ond ar yr un nifer o bwyntiau a gafodd ein gwrthwynebwyr diweddar, Llanuwchllyn, mewn gêm gystadleuol. Y chwaraewr profiadol Danny Jellicoe ydy rheolwr Corwen a gwyneb cyfarwydd yn eu carfan ydy Eilir Edwards.
Dyma’r gêm cyn dymor olaf gyda’r gic gyntaf am 7.30pm.

This is the time of year we welcome the Pathfinders to the Traeth. This camp for young people has been held for many years at Cricieth and a special relationship has built up between the young Pathfinders and CPD Porthmaodg. Their annual visit to the Traeth is one which local supporters look forward to for the fun and enthusiasm these young people bring.
Again this year the Pathfinders Cup is up for grabs! This year’s opponents will be Corwen FC who play in the Wrexham area WNL. They finished in 5th place last season on the same number of points as recent opponents Llanuwchllyn who gave us a tough challenge. The club are managed by the experienced Danny Jellicoe and a familiar name in their squad is former Port regular Eilir Edwards.
This is the final pre-season fixture and kicks off at 7.30pm.
05/08/17
Noddi Tracwisgoedd / Sponsoring Matchday Tracksuits

Mae Port yn chwilio am noddwyr i’w Tracwisgoedd newydd smart. Gyda Agweddau ar Eryri, Colin Jones Rock Engineering a Rheilffordd Ffestiniog eisoes yn cefnogi fel Prif Noddwyr dymuna’r clwb glywed oddi wrth unrhyw fusnes sydd hefyd am ei cefnogi.
Mae’r clwb yn ddiolchgar iawn i’r bunesau hynny sydd wedi hysbysebu yn y Rhaglen Swyddogol neu ar y Byrddau Hysbysebu o gwmpas y cae.
Os oes gan eich cwmni ddiddordeb mewn noddi’r Trackwisgoedd, cewch drafod gyda’r Swyddog Marchnata. Dylan Rees ar 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

Port are looking for sponsors for their smart looking new Matchday Tracksuits. With Aspects of Snowdonia, Colin Jones (Rock Engineering) and Ffestiniog Railway already on board as our Main Sponsors the club would like to hear from any business that wishes to back the club in this way.
The club are also very grateful to the many local businesses who have supported the club again this year, by taking a space in the Match Programme or an advertising board at the Traeth.
If your company is interested in sponosring the Tarcksuits you can discuss the matter with Marketing Officer, Dylan Rees on 07900512345 or rees48wesla@gmail.com
04/08/17
Jake ac Iwan yn arwyddo / Jake and Iwan sign

Mae Craig Papirnyk wedi arwyddo Jake Jones ac Iwan Lane.
Mae Jake, sydd wedi creu argraff dda yn ystod y cyfnod cyn dymor yn ymuno o Gei Conna ac fel Leon Doran, bu’n chwarae i dîm llwyddianus Coleg Cambria.
Meddai Craig amdano, “Chwaraewr ifanc, lleol, talentog o Ben Llÿn sydd a dyfodol arbennig o dda o’i flaen. Mae ei allu i gario’r bêl mewn safleoedd ymosodol yn arbennig, a mae ganddo dechneg ardderchog am hogyn 18 oed. Rwy’n edrych ymlaen i’w weld yn datblygu yn ystod y tymor.
Mae Iwan Lane yn adnabyddus i bawb yn Port ac yn ymuno â’r clwb o Benrhydeudraeth. Meddai Craig amdano, “Mae Iwan hefyd wedi creu argraff yn ystod y cyfnod cyn-dymor. Gan ei fod yn chwaraewr lleol mae’n adnabod y chwaraewyr yn y garfan yn dda. Gall chwarae mewn nifer o safleoedd a bydd hyn yn fanteisiol iawn inni yn ystod y tymor.”
Ychwanegodd, “Rwy’n hapus iawn gyda’r garfan ac mae Iwan Lewis a Gruff John, y ddau efo anaf i ddod yn ôl. Mae’r niferoedd sydd gennym yn rhoi cryfder inni at y gemau sydd i ddod o wythnos i wythnos.

Craig Papirnyk has announced the signing of Jake Jones and Iwan Lane.
Jake who has impressed during pre-season joins from Connah’s Quay where like Leon Doran he appeared for a sucessful Coleg Cambria team.
Craig says of him, “Jake is a young local (Pen Llyn) talented player who has a bright future ahead of him. His ability to carry the ball in attacking positions is very good and he is technically excellent for an 18yr old , I am looking forward to seeing him develop over the season for us.”
Iwan Lane well known to all at Port joins the club from Penrhyndeudraeth. Craig says of him, “Iwan has also impressed during pre-season , he is a local lad and knows the players in the squad , he can play in various positions and it his versatility that will be a plus for us this season.”
He adds, “Overall I am really happy with the squad, we have Iwan Lewis and Gruff John who are currently injured but we have strength in numbers and that is vital if we are going to compete week in week out this season.
04/08/17
Port i ddefnyddio Rhifau Carfan / Port to use Squad Numbers

Y tymor hwn bydd carfan Port yn defnyddio rhifau carfan. Gweler isod:
Mae'r cit cartref newydd wedi cyrraedd ac yn edrych yn dda gyda enwau'r chwaraewyr ar y cefn.

This season Port will use Squad Numbers. They can be seen below:
The new home kit has arrived and looks great with the players’ names on the back

SQUAD NUMBERS 2017/18
1. Richard Harvey
2. Gruff John Williams
3. Josh Banks
4. Ceri James
5. Dan Roberts
6. Gareth Jones-Evans
7. Chris Jones
8. Iddon Price
9. Joe Chaplin
10. Julian Williams
11. Robert Evans
13. Tyler French
14. Stephen Bratt
15. Jake Jones
16. Iwan Lane
17. Iwan Lewis
18. Ifan Emlyn
19. Sion Bradley
20. Leon Doran
22. Cai L Jones
23. Mei Williams
03/08/17
Gêm Gyfellgar / Friendly v Penycae

Pnawn Sadwrn bydd Port yn ymweld â Cae Afoneitha i chwarae clwb Penycae.Hon fydd yr olaf ond un o’u gemau paratoi. Y tymor diwethaf, 10fed oeddynt yng Nghynghrair ardal Wrecsam. Bu Penycae yn Nghynghrair Huws Gray am ddau dymor rhwng 2014-15. Ar ôl gorffen yn 10fed yn 2013-14 collodd Penycae eu lle yn y tymor canlynol. Enillodd y clwb barch llawer am eu gwaith caled yn gwella’r cae a’u cyfleusterau oddi ar y cae. Bydd Port yn edrych ymlaen i ymweld ac Afoneitha i barhau a’u paratoadau ar gyfer y tymor newydd.
On Saturday Port visit Penycae’s Afoneitha Road Ground for their penultimate pre-season fixture. Last season they finished in 10th spot in the Wrexham area Welsh National League. Penycae spent two seasons in the Huws Gray Alliance between 2013-15. After a creditable 10th place finish in 2013-14 the Wrexham area club were relegated the following season. The club earned the respect of many for the way they improved their hard work improving their pitch and clubhouse faclities. Port look forward to visit Afoneitha and continue their preparations.
03/08/17
Pêl-droed yn y Gymuned ar Newyddion 9 / Football in the Community on S4C’s 9 o’clock news

Cafwyd sylw cenedlaethol gwerth chweil i waith Uned Peldroed yn y Gymuned Newyddion 9yh BBC/ S4C y Clwb.
Recordiwyd eitem go sylweddol gan BBC Cymru ar gyfer Newyddion 9 S4C nos Fercher (2ail o Awst) a oedd yn canolbwyntio ar y gwaith mae Gethin Jones a’i dim yn wneud trwy gyflwyno sgiliau llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion ysgolion cynradd yng Ngwynedd. Maent yn gwneud hyn trwy ddefnyddio y diwydiant peldroed fel cyfrwng sydd yn ymddiddori’r disgyblion ac yn eu ysbrydoli i gymeryd rhan yn y gwersi.
Bellach mae 322 o ddisgyblion a 13 ysgol wedi elwa o’r ddarpariaeth. Arwahan i gyfweliadau gyda Gethin a’i gyd hyfforddwr Alun, ‘roedd y disgyblion hefyd yn llawn brwdfrydedd ac yn barod iawn i genhadu! Diolch hefyd am gyfraniad gwerthfawr gan Eleri Davies, Pennaeth Ysgol y Gorlan, Porthmadog. Os oes ysgol o fewn Gwynedd sydd heb ddefnyddio’r gwasanaeth mae ar gael am ddim hyd at Chwefror 2018. Cysylltwch a Gethin ar 07974033552 neu gl-jones@hotmail.co.uk

S4C’s 9 o’clock news provided worthwhile national coverage to the work of the Club’s Football in the Community team.
BBC Wales recorded a substantial item for the S4C 9 o’clock news on Wednesday (2nd of August) that highlighted the work Gethin Jones and his Football in the Community team are undertaking with local schools presenting literacy and numeracy training in a less formal way by using the football industry as the vehicle to interest and enthuse the participants.
Since March 322 pupils and 13 schools have benefited. Apart from interviews with Gethin and colleague Alun, there was no lack of enthusiasm or shyness from the young participants who were quite willing to promote the course!
Thanks also to head of Ysgol y Gorlan, Tremadog, Eleri Davies for her very articulate endorsement of the project. For any school within Gwynedd that has not taken advantage of the project it is available FREE until February 2018. Contact Gethin on 07974033552 or gl-jones@hotmail.co.uk
01/08/17
Y clwb yn chwilio am Ffotograffydd / Club looking for a Photographer

Mae Port yn chwilio am ffotograffydd i’r clwb gall fod yn rhywun ifanc sydd yn edrych i ddatblygu neu efallai ffotograffydd profiadol sy’n dymuno gwneud y gwaith o rhan diddordeb.
Meddai Craig Papirnyk, “Gall hwn fod yn gyfle delfrydol i rhywun ifanc sydd eisiau adeiladu portffolio ac ennill profiad.
Os ydy’r cyfle hwn o ddiddordeb i chi cysylltwch efo Craig ar 07737993880 or cppaps@hotmail.com am fwy o wybodaeth.

Port are looking for a club photographer, either someone young who is aspiring to be one or someone with lots of experience who does it as a hobby.
Manager Craig Papirnyk said “I believe that this could be the ideal opportunity for someone young who is looking to build a portfolio and gain experience.
If this opportunity interests you contact Craig on 07737993880 or cppaps@hotmail.com for more information please.
01/08/17
Noddi Peli / Match Ball Sponsors

Mae’r clwb chwilio am Noddwyr Peli ar gyfer dwy gêm Gwpan. Y gemau ydy yr un yng Nghwpan Nathaniel MG ar 29 Awst pan fydd Hotspyrs Caergybi yn ymweld â’r Traeth.
Hefyd y gêm Cwpan Huws Gray, yn erbyn ein cymdogion Caernarfon, fydd yn cael ei chwarae ar Sadwrn, 21 Hydref.
Bydd enwau’r noddwyr yn cael eu cynnwys yn y rhaglen ac yn derbyn cyhoeddusrwydd ar y dydd pan fydd y gêm yn cael ei chwarae.
Cost: £40 y gem.
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi cysylltwch â’r Swyddog Marchnata Dylan Rees ar 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

The club is looking for Match-Ball Sponsors for two Cup-ties. The games concerned are the Nathaniel MG Cup game on 29 August when Holyhead Hotspurs visit the Traeth.
Also the Huws Gray Cup-tie against local rivals Caernarfon Town on Saturday, 21 October. The sponsors’ names will be included in the match programme and will publicised on the day of the game.
Cost: £40 a game.
If you are interested in sponsoring please get in touch with Marketing Officer Dylan Rees on 07900512345 or rees48wesla@gmail.com
31/07/17
Cwmni Bwydydd Harlech yn Noddi’r tîm Dan18 / Harlech Frozen Foods sponsor the U18s

Hoffai Academi Dan18 CPD Porthmadog ddiolch yn fawr i’w noddwyr Cwmni Bwydydd Harlech am eu cefnogaeth hael. Yn y llun gwelir Cyfarwyddwr y Cwmni, Andrew Foskett yn cyflwyno un o’r Crysau Polo newydd i gapten y tîm Morgan Jones. Bydd Cwmni Bwydydd Harlech, sydd wedi ennill nifer o wobrau am safon eu gwasanaeth, yn noddi Crysau Polo’r garfan, a bydd rhain yn yn cael eu gwisgo gan y chwaraewyr ar adeg gemau yn ystod y tymor.
Diolch i Gwmni Bwydydd Harlech, un o nifer o gwmnïau lleol sy’n cefnogi’r clwb yn ystod tymor 2017/18
Highslide JS

The CPD Porthmadog Academy U18s would like to thank their new sponsors Harlech Frozen Foods for their generous support. Pictured is Harlech Frozen Foods director, Andrew Foskett, presenting U18s captain Morgan Jones with his Matchday Polo Shirt. The award winning food company will sponsor the squad Polo shirts worn in all matches during the current 2017/18 season.
The support from Harlech Foods and a number of other local companies is very much appreciated.
30/07/17
Helpu’ch Clwb / Helping your Club

A YDYCH YN MEDDWL Y GALLWCH WNEUD RHYWBETH YCHWANEGOL I HELPU’R CLWB?
‘Rydym ar drothwy tymor newydd ac mae cyffro yn yr awyr. Ond, wrth gwrs, mae CPD Porthmadog yn fusnes cymunedol sydd angen ei gynnal dros 52 wythnos pob blwyddyn. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth a’ch ymroddiad ond efallai bod ffyrdd arall na wyddoch amdanynt y gallwch helpu’r clwb.
Y tro nesaf y dewch i gêm beth am ddod a ffrind neu deulu
A wyddoch am ein ‘Draw wythnosol’ lle mae cyfle i ennill £100 pob wythnos? I ymuno mae’n costio £1 yr wythnos ac fe ellir trefnu debyd uniongyrchol trwy’r banc. Cefnogwch y clwb am cyn lleied a £1 yr wythnos gyda chyfle i ennill gwobr ariannol.
Mae o hyd angen am wirfoddolwyr unai tu ol i’r lleni neu ar ddyddiau gemau. Gallwch ymrwymo i chyn lleied neu cyn gymaint o amser a allwch afforddio – mae amryw o gyfleon lle allwch ddatblygu eich sgiliau mewn sawl maes o stiwardio i waith bar/cantin/ cadw y cae yn daclus ac mewn cyflwr da/helpu i drefnu nosweithiau a digwyddiadau yn y clwb cymdeithasol neu’r stadiwm/gweinyddol/ariannol/marchnata a hyrwyddo….mae llu ohonynt. Ymunwch a’r 30+ y teulu sydd wrthi yn gwirfoddoli ar hyn o bryd! A allwch fanteisio ar un o’n cyfleon hysbysebu neu a wyddoch am fusnes fyddai a diddordeb mewn gwneud hynny boed yn hysbysfwrdd, noddi gem/pel ayb?
A ydych yn meddwl trefnu parti ar gyfer dathlu rhyw achlysur arbennig? Cofiwch am ein clwb cymdeithasol sydd yn eistedd 100 yn gyfforddus a chefndir llwyddiannus o gynnal partiion, priodasau, bedydd a nosweithiau adlonol. Mae cegin 5* foethus ar gael hefyd. Am fwy o fanylion cysylltwch a dafyddwynjones@hotmail.co.uk neu 07810057444

ASK NOT WHAT YOUR CLUB CAN DO FOR YOU BUT WHAT YOU CAN DO FOR YOUR CLUB
A new season is upon us with great excitement in the air. But Porthmadog FC is a community owned business that has to survive 52 weeks of the year. We value your support and commitment but there may be other ways that you are unaware of that you can help the club
Next time you come to a game, bring a friend or family
Do you know that we have a ‘Weekly draw’ with £100 in prize money up for grabs every week. To become a member of the weekly draw it costs £1 per week and can be arranged via direct debit. Support the club with a chance to win a prize.
We also need volunteers, be it behind the scenes or on match days. You could commit to as little or as much time as you want – there are many opportunities that could also develop your skills from stewarding to bar, canteen work/helping keep our field in good shape/help to organise events at our clubhouse or at the stadium/administration/financial/marketing and promotion……there are a range of possibilities. Join our already 30+ volunteer family!
Can you take advantage of one of our advertising opportunities or do you know of a business that would be interested in taking an advertising board, match or ball sponsorship etc?
Thinking of organising a party to celebrate a special event? Book our marvellous clubhouse that can seat 100 comfortably and has a long and successful track record of hosting anniversaries, birthdays, weddings, christenings and entertainment events. A 5* state of the art kitchen is available.
There are many more ways that you can help or you may know of someone else that would be interested in doing so. Ask any official or contact dafyddwynjones@hotmail.co.uk or 07810057444.
30/07/17
Pwy ddaw yn lle Rhaeadr? / Who comes in for Rhayader?

Bydd penderfyniad Rhaeadr i dynnu allan o Gynghrair Huws Gray ar y funud olaf yn achosi problem fawr i swyddogion y Gynghrair. A fydd y Gynghrair yn ail adrodd eu penderfyniad gan ddyrchafu’r ail glwb, fel ddigwyddodd yn achos Cyffordd Llandudno a gymrodd lle Glantraeth?
Os fydd yr un fath yn digwydd bydd Carno yn cael eu dyrchafu o Gynghrair Spar y Canolbarth. Mae Carno wedi cyrraedd y criteria anghenrheidiol i sicrhau dyrchafiad.
Os ydy Carno yn methu derbyn,y dewis arall posib fyddai i Llanfair gadw eu lle n yr HGA, gan nad oeddynt yn y tri isaf llynedd. Hefyd mae Llanfair yn glwb sydd wedi gweithio’n galed iawn i wella cyfleusterau.
Sefylla cwbl annerbyniol fyddai ceisio llusgo ‘mlaen gyda 15 clwb. Mewn cynghrair sy’n cryfhau’n flynyddol ac y denu fwy o gefnogwyr, rhaid cadw’r nifer ar 16 clwb.
Camgymeriad wedi' cywiro. Port yn chwarae Corwen ar 9 Awst!!!! Ymddiheuriadau!
The withdrawal of Rhayader from the 2017/18 Huws Gray Alliance at a very late stage will cause some confusion and a problem for the League’s Administration. Will we now have a repeat of events following Glantraeth’s decision not take up their place in the HGA with officials looking to second place Llandudno Junction?
If that proves to be the case then Carno FC will gain promotion from the Spar Mid-Wales League. Carno, our friendly opponents on 9 August have already passed the ground criteria.
Should Carno be unable to accept the alternative would be to reprieve 12th placed Llanfair United allowing them to remain in the HGA as they did not finish in the bottom three. Llanfair are also a club who have worked hard to improve their facilities.
The worst case scenario would be for the league to blunder on with 15 clubs. This would hardly be satisfactory for rapidly strengthening league which is looking particularly strong ahead of the 2017/18 season.
Error in this article has now been removed. Port will of course play Corwen on 9 August!!!! Apologies!
29/07/17
Tote mis Gorffennaf / July Tote

Y rhifau lwcus yn Tote mis Gorffennaf oedd 11 ac 14. Roedd un enillydd sef M E Jones, Stryd Madog, Porthmadog yn ennill £292.
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 4ydd Awst a bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael eu tynnu nos Wener,25 Awst, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly Tote for July were 11 and 14. There was one winner, M E Jones, Madog Street, Porthmadog who collected a prize of £292.
Any claims must be made by 8pm on Friday 4th August. The next Tote will be drawn on Friday, 25 August at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345.
23/07/17
Ysgolion Pêl-droed Haf / Summer Soccer School

Bydd Pêl-droed yn y Gymuned, Porthmadog yn cynnal cyfres o Ysgolion Pêl-droed mewn tri lleoliad yn ystod y Gwyliau Haf, Dolgellau, Tywyn ac Y Traeth Porthmadog,

Dolgellau (Canolfan hamdden):- Dydd Llun Awst 7fed, 14eg a 21ain
Tywyn (Canolfan Hamdden):- Dydd Mawrth Awst 8fed, 15fed a 22ain
Y Traeth Porthmadog: Dydd Mercher Awst 9fed, 16eg a 23ain
I archebu lle ffoniwch 07974033552 neu e-bost gl-jones@hotmail.co.uk
Cost: £10 y dydd. Amser: 10am – 1pm. Oed: 6 - 12 oed
Cofiwch ddod a bocs bwyd!

Highslide JS
  Highslide JS

Porthmadog’s Football in the Community are organising a series of Summer Football Schools at three venues, Dolgellau, Tywyn and Y Traeth Porthmadog.

Dolgellau Leisure Centre Monday. August 7th, 14th 21st
Tywyn Leisure Centre: Tuesday. August 8th, 15th 22nd
Y Traeth Porthmadog; Wednesday. August 9th,16th, 23rd
Cost: £10 per day Time:10am – 1pm. Age 6-12 years
Bring your own packed lunch
To book phone 07974033552 OR e-mail gl-jones@hotmail.co.uk
23/07/17
Dwy gêm gyfeillgar wythnos hon / Two more friendlies this week

Bydd gan Port dwy gêm gyfeillgar yn ystod yr wythnos. Chwaraeir y ddwy ar y Traeth. Nos Fawrth byddwn yn croesawu ein cymdogion o Bwllheli, tra pnawn Sadwrn bydd FC Oswestry Town, o Groesoswallt ar y Traeth.
Y tymor diwethaf gorffennodd Pwllheli yn 13eg yn y tabl a bydd y gêm yn gyfle gan adeiladu ar y perfformiad addawol iawn a gafwyd yn erbyn Y Bala. Cyfle hefyd am ymarfer ychwanegol gan fod y cyfnod diweddar wedi’i effeithio gan anafiadau a chwaraewyr ddim ar gael. Bydd y gic gyntaf am 7.30pm.
Llynedd teithiodd Port i Groesoswallt ar gyfer gêm cyn dymor yn erbyn y clwb sy’n chwarae yn y North West Counties League a rwan tro clwb y ffin ydy ymweld â’r Traeth. Y tymor diwethaf enillwyd y North Wales Counties League gan glwb Widnes, gyda’r clwb o Groesoswallt yn y 15fed safle mewn cynghrair o 22 clwb. Clybiau eraill sydd yn y cynghrair hon yn cynnwys City of Liverpool a St Helens. Bydd y gic gyntaf am 2.30pm.

Port have two further friendlies scheduled for this week. Both will be played at the Traeth. On Tuesday they entertain neighbours Pwllheli, while on Saturday, FC Oswestry Town will be at the Traeth.
Last season Pwllheli finished in 13th place in the Welsh Alliance and this game will provide an opportunity to build on the strong performance against Bala. It will also provide extra preparation following a period where injuries and unavailability have caused problems. The kick off will be at 7.30pm.
Last season Port travelled to Oswestry to take on the North West Counties club in a pre-season encounter and now the Border club return the compliment. The North West Counties League was won last season by Widnes with FC Oswestry finishing 15th in a 22-club league. Other clubs who play n this league include City of Liverpool and st Helens Town. The kick off will be at 2.30pm.
22/07/17
Leon Doran yn arwyddo / Leon Doran signs

Heddiw mae Craig Papirnyk wedi arwyddo yr amddiffynwr ifanc Leon Doran. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros y clwb yn y Bermo gan greu argraff yn syth. Heddiw (Sadwrn) chwaraeodd ei gêm gyntaf ar Y Traeth yn erbyn gwrthwynebwyr cryf ac unwaith eto creu argraff. Yn ogystal rhwydodd y gôl a ddaeth a’r sgôr yn gyfartal am y pnawn. Hogyn o Lanrwst mae’n ymuno o Cei Conna lle hefyd chwaraeodd i dîm Coleg Cambria a enillodd Ffeinal Genedlaethol Colegau Dan 19 yn 2015.
Croeso i’r Traeth Leon. C’mon Port!

Highslide JS
Leon Doran yn arwyddo / Leon Doran signs

Manager Craig Papirnyk today completed the signing of defender Leon Doran. Leo made his Port debut at Barmouth where he put in an impressive performance. Today (Saturday) Leon made his home debut and against strong opposition again impressed. He capped his home debut with a coolly taken side footer to level the score. Leon from Llanrwst joins Port from Connah’s Quay Nomads where he also played for the Coleg Cambria team which won the U19 National Colleges Final in 2015.
Welcome to the Traeth Leon. C’mon Port!
21/07/17
Tocynnau tymor ar gael / Season Tickets available

Cewch brynu eich Tocyn Tymor pnawn yfory (Sadwrn) pan fyddant ar werth yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Bala. Bydd y tocynnau yn rhoi mynediad i’r holl gemau cynghrair Huws Gray ar Y Traeth yn ystod tymor 2017/18.
Prisiau: Oedolion: £60. Pensiynwyr: £30.
Hefyd medrwch gasglu eich cerdyn rhestr gemau fydd yn rhoi rhestr lawn o gemau Port am y tymor 2017/18.

You will be able to purchase your Season Ticket when they will be on sale at Saturday’s friendly against Bala Town. The tickets will provide supporters with entry to all Huws Gray Alliance matches at the Traeth during the 2017/18 season.
Prices: Adults: £60. Pensioner: £30
You can also pick up your fixture cards giving you the full list of Port fixtures for the 2017/18 season.
20/07/17
Y Bala ar Y Traeth / Bala visit the Traeth

Pnawn Sadwrn bydd Y Bala deiliaid Cwpan Cymru yn ymweld â’r Traeth. Gan fo Y Bala wedi eisoes wedi chwarae gêm gymhwyso Cwpan Europa yn ogystal a nifer of gemau paratoi yn erbyn gwrthwynebwyr o Ogledd Iwerddonyn golygu bod y clwb ymhell ymlaen yn eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd. Felly bydd gêm pnawn Sadwrn yn un hynod o anodd a Port hefyd wedi cael eu trafferthu yn ddiweddar gan nifer fawr o anafiadau a chwaraewyr ddim ar gael. Edrychwn ymlaen at y cyfle i groesawu Colin Caton a’i garfan i gêm ddarbi cyn-dymor. Cic gyntaf 3 o'r gloch

On Saturday Welsh Cup winners Bala Town visit the Traeth. The fact that Bala played an Europa Cup qualifier and a series of pre-season fixtures against irish League opposition means that their preparations for the new season are at a very advanced stage. All this means that Saturday’s game will be a stiff test for Port whose recent preparations have been interrupted by injuries and unavailability. We look forward to welcoming Bala and Colin Caton for this pre-season derby match.Kick off 3pm.
20/07/17
Port i chwarae Pwllheli / Port to play Pwllheli

Mae Craig wedi ychwanegu Gêm gyfeillgar yn erbyn Pwllheli at nos Fawrth nesaf 25 Gorffennaf gyda’r gic gyntaf am 7.30pm.
Meddai Craig, “ Mae nifer o chwaraewyr wedi bod yn absennol yn ystod y bythefnos ddiwethaf ac mae’n bwysig i wneud fyny am hyn.”

Craig has added an extra pre-season fixture, playing Pwllheli at the Traeth on Tuesday 25 July with a 7.30pm kick off.
Craig added, “We have had many players absent this past two weeks through illness , injuries and holidays so it's important that they make up the lost time with additional minutes on the pitch .”
19/07/17
Partneriaeth gyda Chwmni Seren / Club’s new partnership with Seren

Os oes gennych ddillad neu decstiliau nad ydych angen mwyach dewch a hwy i lawr i’r Traeth. Mae Cwmni Seren, yr elusen o Flaenau Ffestiniog sydd yn cefnogi pobol ag anableddau dysgu, sydd hefyd a siop ddodrefn yn yr hen ‘Drill Hall’ yn Stryd yr Wyddfa, wedi gosod banc dillad ger y prif fynedfa. Bydd yn talu i’r Clwb am y dillad a thecstiliau fydd yn dderbyn. Peidiwch a’u llecho felly troiwch eich hen ddillad yn arian i’r clwb!

If you have any clothes or textiles that you no longer want, bring them down to the Traeth. Seren, the charity from Blaenau Ffestiniog that supports people with learning disabilities and also has a furniture store in the old ‘Drill Hall’ in Snowdon Street, has located a clothing bank by the main entrance. It will be paying the Club for all clothing and textlies donated. Therefore, do not throw your unwanted clothes away turn them into much needed cash for the club!
19/07/17
Dan 18 yn ennill / U18s win

Cafodd y tîm Dan 18 fuddugoliaeth o 2-0 dros Mynydd Tigers neithiwr ar Y Traeth. Eu gêm gartref cyn dymor gyntaf.

The U18s played their first home pre-season fixture at the Traeth last night and ran out 2-0 winners over Mynydd Tigers.
18/07/17
Pêl-droed yn y Gymuned yn llwyddiant / Football in the Community a story of Success

Ysgol / School Mae 322 o ddisgyblion ysgolion cynradd Gwynedd bellach wedi mynychu cwrs Llythrennedd a Rhifedd Cynllun Pêl-droed yn y Gymuned CPD Porthmadog ers ei gychwyn ym mis Mawrth eleni. Mae 13 ysgol wedi cymryd rhan. Mae’r cwrs yn un a gynhelir dros 5 wythnos, 2 awr ar y tro a’r nod yw gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd y disgyblion trwy ddefnyddio pêl-droed fel cerbyd i ennyn eu diddordeb.
Cynhelir pob sesiwn olaf o’r bump yn stadiwm CPD Porthmadog lle caiff y mynychwyr gyfle i weld sut mae menter busnes gymdeithasol lleol yn rhedeg. Cefnogwyd y fenter yn ariannol gan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ‘Comic Relief’, Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Chynllun ‘Mynediad i Addysg’ Prifysgol Bangor. O fis Medi ymlaen bydd y cynllun yn ail ddechrau gan dargedu ysgolion eraill a dros 300 o ddisgyblion ychwanegol. Os oes ysgol nad yw eto wedi derbyn y gwasanaeth mae croeso iddynt gysylltu gyda Gethin Jones ar 07974033552 neu gl-jones@hotmail.co.uk
Yn y cyfamser mae’r uned, mewn cydweithrediad a chefnogaeth ariannol Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, wedi cychwyn cynllun sydd yn targedu merched ifanc fel y bont i gymryd rhan mewn pêl-droed. Bellach mae 20 o ferched rhwng 9 a 12 oed yn hyfforddi ar y Traeth pob nos Fercher. Yr wythnos hon targedir oedran rhwng 5 a 8 oed gan obeithio cyrraedd yr un niferoedd. Ar ol yr haf caiff y cynllun ei ehangu i drefi eraill fel Blaenau Ffestiniog a Dolgellau. Er mai prif nod y cynllun yw cael mwy o ferched ifanc i gymryd rhan mewn pêl-droed a’u gwneud yn iachac,h gobaith y Clwb yw gweld timau merched yn cael eu sefydlu ar gyfer chwarae pêl-droed cystadleuol.
Fel nad yw hyn yn ddigon mae’r Clwb hefyd yn cynnal 10 o Ysgolion Pêl-droed yn ystod yr haf gan ganolbwyntio ar Porthmadog, Dolgellau a Tywyn!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a – Gethin Jones 07974033552 neu gl-jones@hotmail.co.uk

322 Gwynedd primary school pupils have now completed a 5 week, 2 hours per week Literacy and Numeracy course organised by Porthmadog Football Club’s ‘Football in the Community’ programme. Since it started in March 13 local schools have been participating. The aim of the project is to help improve students’ literacy and numeracy skills by using football as the vehicle to interest them.
The fifth session is always held at the Traeth stadium where the youngsters can see for themselves what is entailed financially and administratively in running a social enterprise business. The project induced financial support from the Community Foundation in Wales, ‘Comic Relief’, Gwynedd Community Housing and Bangor University’s ‘Access to Education’ programme. From September onwards another 300 + pupils will be targeted. Any school that has not been involved in the project to date can learn more by contacting Gethin Jones on 07974033552 or gl-jones@hotmail.co.uk
And the Unit has recently, in corporation and with the financial backing of the Football Association of Wales Trust, established a programme of soccer training for young girls. 20 girls between 9 and 12 train at the Traeth every Wednesday evening. This week girls between 5 and 8 are being targeted and it is hoped to reach the same number of regular participants. After the summer girls in other towns like Dolgellau and Blaenau Ffestiniog. Although the main aim of the project is to get girls involved in improving their health and fitness generally by playing regular football the Club would also like to see Ladies teams being established to participate in competitive soccer.
As if all this was not enough the Football in the Community team will also be running 10 soccer schools throughout the summer holidays in Porthmadog, Dolgellau and Tywyn!
For more information contact – Gethin Jones on 07974033552 or gl-jones@hotmail.co.uk
16/07/17
Newyddion Gwych am Noddwyr / Fantastic News on Sponsorship

Colin Jones Engineering Cyhoeddwyd y newyddion da bod dau brif noddwr y clwb am barhau gyda’u cefnogaeth eleni......ac fe ychwanegwyd un newydd atynt! Yn ôl Swyddog Marchnata’r clwb, Dylan Rees, mae AGWEDDAU ERYRI a RHEILFFYRDD FFESTINIOG ac ERYRI wedi ymrwymo i’r nawdd eto ac bydd cwmni Colin Jones (ROCK ENGINEERING Ltd.) yn ymuno a nhw am y tymor.
“’Rydym yn hynod ddiolchgar i Andrew Kime o Agweddau Eryri, Clare Britton a Helen Williams o Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri am eu cefnogaeth parod. Diolchwn hefyd i David Jones a Richard Owen o gwmni Colin Jones am ymuno a nhw” medd Dylan.
Yn sgil y newyddion bendegedig yma cyhoeddwyd hefyd bod pob hysbyseb yn y rhaglen swyddogol a’r cerdyn gemau eisoes wedi eu llenwi a hynny rhai wythnosau cyn dechrau’r tymor newydd. Bellach mae 180 o fusnesau, y mwyafrif helaeth ohonynt yn rhai lleol, yn cefnogi’r clwb trwy hysbysebu. “Heb os ac onibai mi fyddai yn anodd iawn i’r clwb gystadlu ar y lefel yr ydym heb y gefnogaeth parod yma. Gobeithio yn wir y gall ein cefnogwyr ddefnyddio gwasanaethau y busnesau hyn fel cydnabyddiaeth am eu cefnogaeth hwy i’r clwb” ychwanegodd Dylan.
Brysiodd i ategu bod rhywfaint o ofod ar gyfer hysbysfyrddau o gwmpas y cae yn dal ar ôl a bod croeso i unrhyw fusnes lleol sydd a diddordeb am brynu gofod 8’x2’ am £100 y tymor gysylltu ag o ar 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

The very good news has been announced that the Club’s two main sponsors are to continue again with their financial support for the forthcoming season............and will be joined by another, third, main sponsor! According to the Club’s Marketing manager, Dylan Rees, ASPECTS of SNOWDONIA and the FFESTINIOG and WELSH HIGHLAND RAILWAYS have agreed to continue with their support with Colin Jones (ROCK ENGINEERING Ltd) coming on board as a third main sponsor.
“We are grateful to Andrew Kime of Aspects of Snowdonia, Clare Britton and Helen Williams of the Ffestiniog and Welsh Highland Railways for their willing support. And, also thanks to David Jones and Richard Owen of Colin Jones (Rock Engineering) for showing faith in the club.” said Dylan.
Adding to this good news Dylan has also announced that all adverts for the match programme and fixture card have also been secured and this with some weeks to go before the start of the season. 180 businesses, the vast majority of them local, now support the club through advertising. “Without this support” aid Dylan “there is no way we would be playing at the level that we are. We hope that our supporters acknowledge this support by using the services of these businesses wherever they can”.
He also added that there are some spaces left for advertising boards around the ground and any business that would be interested in taking an 8’x2’ board for £100 per season should contact him on 07900512345 or by e.mail at rees48wesla@gmail.com
16/07/17
Port yn teithio i Cefn / Port travel to play Cefn Druids

Nos Fercher bydd Port yn teithio i chwarae eu trydydd gêm cyn dymor yn erbyn Derwyddon Cefn. Yn dilyn eu dyrchafiad o’r HGA diogelodd y Derwyddon eu lle yn yr Uwch Gynghrair gan orffen yn yr 8fed safle a naw pwynt uwchben y clybiau ar y gwaelod. Byddant yn edrych rwan i wthio ‘mlaen gan gadarnhau eu safle ymhellach yn yr Uwch Gynghrair. Felly bydd yn gêm anodd nos Fercher. Bydd y gic gyntaf ar gae Y Graig am 7.45pm.
Cofiwch hefyd bydd hogiau’r Academi Dan 18 ar Y Traeth nos Fawrth yn erbyn Mynydd Tigers am 7 o’r gloch

On Wednesday Port travel to play a third pre-season fixture away to Cefn Druids. Following promotion from the HGA the Druids secured their place in the WPL with a creditable 8th place finish and 9 points above the drop zone. They will be looking to push on again this season and consolidate themselves as a WPL club. We can therefore expect a tough workout on Wednesday evening when there will be a 7.45pm kick off atthe Rock.
Note also that the lads of the Academy U18 will play at the Traeth on Tuesday evening at 7pm against Mynydd Tigers.
14/07/17
Canslo’r gêm yn Lerpwl / South Liverpool Cancelled

Bu’n rhaid i’r clwb ganslo’r gêm gyfeillgar a oedd i’w chwarae pnawn yfory yn erbyn South Liverpool oherwydd i gynifer o chwaraewyr dynnu allan oherywdd salwch, anafiadau a gwyliau.
Mae Craig Papirnyk yn egluro:
“Fedrai ddim coelio ein lwc ar y funud. Mae gennym 13 o chwaraewyr sydd ddim ar gael at ‘fory am rhesymau dilys salwch, anafiadau a gwyliau.
“Roeddwn wedi gobeithio y byddem yn ok ond gyda mwy o anafiadau yn dod ar ôl nos Fawrth mae ein niferoedd yn isel iawn.
“Bu’n rhaid imi felly ganslo’r gêm yfory yn erbyn South Liverpool.”
Ar lefel bersonol bu’n adeg anodd i Craig yn colli ei lys frawd yn ifanc. Estynnwn, fel clwb, ein cydymdeimlad â Craig a’r teulu yn ei colled fawr.

The club has reluctantly been forced to cancel tomorrow’s fixture at South Liverpool resulting from a mixture of illness injury and unavailability.
Manager Craig Papirnyk explained:
“I cannot believe our luck at the moment. We have 13 unavailable tomorrow for genuine reasons , illness, injuries and some away.
“I was hoping we would be OK but after picking up more knocks on Tuesday we are down to bare numbers. “I have had to with deep regret therefore cancelled tomorrow's game at South Liverpool.”
On a personal level it has been a difficult time recently for Craig, losing his step brother at a young age. We as a club can only extend to him and his family our sincere sympathies.
13/07/17
Hogiau dan 18 yn chwarae Blaenau / U18s play Blaenau

Chwaraewyd yr ail gêm cyn dymor i’r hogiau Dan 18 ar Gae Clyd heno. Er waetha’r canlyniad o 2-0 i Blaenau Ffestiniog roedd yn berfformiad calonogol iawn gan yr hogiau ifanc yn erbyn tîm o’r Welsh Alliance. Chwaraewyd y gêm mewn tri cyfnod o 30 munud. Aeth Blaenau ar y blaen ar ôl 8 munud ond dal i chwarae pêl-droed o safon gwnaeth hogiau ifanc Port. Bydd yr hyfforddwr Sion Eirian wedi’i blesio gan y nifer o gyfleon a crewyd a’r ffordd wnaeth yr hogiau chwarae;r gêm. Roedd dim ychwanegiad at y sgôr yn yr ail gyfnod ond rhwydodd Blaenau eu hail ar ôl 66 munud.

The U18s played their second pre-season fixture and despite going down by 2-0 they gave an excellent account of themselves against a senior Blaenau team. The game was played in three periods of 30 minutes. Blaenau went ahead after 8 minutes but the Port boys continued to play some quality passing football. Coach Sion Eirian will be pleased with the number of chances created and the way they approached the game. There was no addition to the score during the second period of 30 mins. Blaenau netted their second after 66’.
13/07/17
Dan 18 yn chwarae heno / U18s play tonight

Bydd tîm Dan18 Port yn chwarae eu hail gêm gyn dymor heno (13/7) yn erbyn Blaenau Ffestiniog ar Gae Clyd, Cic gyntaf am 6.30pm.

Port U18s play their 2nd pre season fixture tonight (13/7) against Blaenau Ffestiniog at Cae Clyd. Kick off 6.30pm.
12/07/17
Ifan Emlyn wedi arwyddo / Ifan Emlyn has now signed

Mae’r chwaraewr ifanc talentog 19 oed, Ifan Emlyn Jones, wedi arwyddo i Port, yn ymnuno o glwb Bangor lle roedd yn aelod o'r garfan Dan 19 llwyddianus.
Yn siarad heddiw dywedodd Craig Papirnyk amdano:
“Mae Ifan wedi creu argraff wrth ymarfer a mwy fyth felly yn y gêm yn Y Bermo ac adref i Llanuwchllyn. “Mae’n chwaraewr technegol talentog gyda troed chwith ardderchog ac, am chwaraewr ifanc, mae’n siarad yn dda iawn ar y cae.
“Bydd yn ychwanegiad ardderchog i’r garfan. Cynt bu yn yr Academi efo ni ac mae’n dda ei gael yn ôl yma, lle bydd yn cael profiad o bêl-droed tîm cyntaf.
“Heb os bydd yn ‘hit’ gyda ni a mae ganddo’r sgiliau i fod yn chwaraewr canol cae gwych. Rwy’n hapus iawn ei fod wedi ymuno gyda’r clwb.”
Mae Ifan wedi cynrychioli Academi Dan 18 Cymru a Colegau Cymru Dan 18. C’mon Port!

Young 19 year-old midfielder Ifan Emlyn Jones has now signed for Port joining from Bangor City where he was a member of the club’s successfol U19s squad. Speaking today manaer Craig Papirnyk saidof him:
“Ifan has impressed during training and even more so in both games at Barmouth and home to Llanuwchlyn.
“He is a very technically gifted player with a lovely left foot and he talks extremely well on the pitch for a young man.
“He has joined us from Bangor and will be a great addition to the squad. He previously represented our Academy and it's nice to have him back at Port were he will now develop his senior experience with us.
“I have no doubts that he is going to be a hit for us , he has all the right attributes to become a fantastic midfielder and I'm delighted he's joined the club.”
Ifan was a member of Wales Academy U18 squad and has represented Welsh Colleges U18s.Come on Port!
Newyddion cyn 12/07/17
News before 12/07/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us