Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
12/07/17
Teithio i Lerpwl / Away at South Liverpool

Pnawn Sadwrn bydd Port yn torri tir newydd wrth deithio i De Lerpwl ar gyfer eu 3edd gêm cyn dymor. Mae’r clwb yn chwarae yn Adran Un o Gynghrair Gorllewin Caer. Y tymor diwethaf gorffen yn 3ydd oedd eu hanes tu ôl i’r pencampwyr Newtown a Mossley Hill Athletic. Mae’r clybiau eraill sy’n chwarae yn yr un gynghrair yn cynnwys Vauxhall Motors, Heswall a West Kirby. Bydd y tîm o Lerpwl yn dechrau’r cyn-dymor gyda tair gêm yn erbyn gwrthwynebwyr o’r HGA. Y Sadwrn diwethaf curwyd South Liverpool 4-3 gan Treffynnon a’u gêm, yn dilyn ymweliad Port, fydd un yn erbyn Gresffordd.
Mae’r cae -North Field- yn Jericho Lane, Otterspool. Y Côd Post i ddefnyddwyr Sat Nav ydy L17 5AR. Mae gwefan y clwb yn dweud fod yna barcio ar gael ar y gwair yn y North Field yn Jericho Lane. Am fwy o wybodaeth ewch i www.southliverpoolfc.com/how-to-find-us/
Cic gyntaf 3pm.

On Saturday Port break new ground when they travel to South Liverpool for their 3rd pre-season fixture. The South Liverpool club play in the West Cheshire League Division One. Last season they finished in third spot behind champions Newtown and Mossley Hill Athletic. Other clubs featuring in this league include Vauxhall Motors, Heswall and West Kirby. South Liverpool start the pre- season with games against three HGA clubs. Last Saturday Holywell played South Liverpool winning by 4-3 and following the Port game Gresford Athletic will be the next opponents.
The ground, The North Field, is in Jericho Lane, Otterspool. For Sat Nav users the postcode is L17 5AR. The club website states that a grass parking area is available at The North Field, Jericho Lane on match days. For further details you can check on www.southliverpoolfc.com/how-to-find-us/
Kick off 3pm.
10/07/17
Julian yn arwyddo / Julian signs again

Mae Julian Williams wedi arwyddo ail ar gyfer tymor 2017/18.
Meddai Craig heddiw, “Rwy’n gwybod fod llawer o gefnogwyr yn poeni nad oedd Julian ar y rhestr o chwaraewyr wedi ail arwyddo a gyhoeddwyd ychydig o wythnosau ‘nol. Bellach mae wedi arwyddo, a bydd yn aros gyda’r clwb am y tymor. Cychwynnodd pnawn Sadwrn gyda hatric, y cyntaf o nifer!!
Rwy’n siwr fydd yn ‘hit’ mawr inni eto, gan sgorio mwy na’r tymor diwethaf. Mae’n fwy awyddus nag erioed a dangosodd hyn pnawn Sadwrn yn Y Bermo. Bydd gan Julian rhan enfawr wrth helpu ni i lwyddo y tymor hwn.”
C’mon Port!

Julian Williams has joined the list of retained players for 2017/18.
Craig Papirnyk says today, “I know some supporters were concerned that Julian Williams was not on our retained list a few weeks back, however, Julian has now signed and will remain a Porthmadog player this season, Julian got off the mark the weekend with a Hat-trick, the 1st of many !!
“I am certain that he will be a massive hit for us again and will score more than last season . He is hungrier than ever and this showed Saturday at Barmouth . Julian is going to play a massive part in helping us achieve our success this season.”
C’mon Port!
10/07/17
Iwan yn ôl! / Iwan’s back!

Mae Iwan Lewis yn dychwelyd i’r Traeth yn dilyn tymor gyda Caersws.
Meddai Craig Papirnyk heddiw, “Rwy’n hapus fod Iwan wedi penderfynu ail ymuno o Gaersws. Cafodd dymor da yno ac mae nifer o glybiau wedi bod yn awyddus i’w arwyddo gan ei fod yn uchel ei barch ymysg ei gyd chwaraewyr a llawer o glybiau eraill.
“Cafodd nifer o cynigion i’w hystyried ond mae’n teimlo mai Port yw’r clwb iddo ac rwy’n hapus ei fod am ddychwelyd.
“Mae ganddo ddigonedd o ynni a mae ei gêm wedi datblygu ymhellach yn ystod y tymor diwethaf wrth iddo sgorio nifer o goliau o ganol cae ac rwy’n mawr obeithio y wnaiff hyn barhau i’r tymor sy’n dod. “Byddwn yn ceisio adeiladu ar safle’r tymor diwethaf a bydd Iwan yn bendant yn cryfhau’r garfan ac yn help inni llwyddo.”
Croeso’nol i’r Traeth Iwan! C’mon Port!

Craig Papirnyk has announced the signing and return of Iwan Lewis from Caersws.
Commenting today Craig said, “ I am pleased that Iwan has decided he wants to re-join after spending a season back with Caersws. Iwan impressed last season and has been sought after this pre-season , he is highly rated amongst his peers and many other clubs.
“He has had numerous offers to consider but he believes that Port is the club for him , and I am delighted he wants to return .
“He has energy in abundance and has developed his game further this past season by getting on the scoresheet on several occasions from midfield and I hope he will continue his goal scoring for us this season .
“We are looking to build on last season’s position and Iwan will definitely improve our squad particularly centrally and help us success this season.” Welcome back to the Traeth Iwan! C’mon Port!
09/07/17
Gêm gyntaf ar y Traeth / First fixture @Traeth

Yn dilyn gêm baratoi dda yn y Bermo pnawn Sadwrn bydd Port adref am y tro cyntaf NOS FAWRTH pan fydd Llanuwchllyn yn ymweld â’r Traeth. Clwb sy’n chwarae yng Nghynghrair y WNL yn ardal Wrecsam ydy Llanuwchllyn. Cawsant dymor ardderchog llynedd yn gorffen yn y 3ydd safle tu ôl i glwb Queen’s Park a sicrhaodd ddyrchafiad a Brickfield yn ail. Cafwyd gêm rhwng y ddau glwb ar gae 3G Maes Tegid Y Bala gyda Port yn ennill, a hynny yn ôl ym mis Tachwedd.
Bydd y gic gyntaf am 7.30pm

Following an excellent work out at Barmouth on Saturday, Port play their first home pre-season fixture when Llanuwchllyn will be the visitors to the Traeth on TUESDAY evening. Llanuwchllyn play in the Wrexham area WNL Premier League and enjoyed an excellent season in 2016/17 finishing in third place behind promoted FC Queen’s Park and runners-up Brickfield Rnagers. The two clubs played each other last November on the 3G pitch at Maes Tegid, Bala with Port running out winners on the night.
Kick off 7.30pm.
05/07/17
Gemau cyntaf i’r Tîm Cyntaf a Dan18 / Footie’s back for Firsts and U18s

Mae pêl-droed yn ôl pnawn Sadwrn, a lle gwell i gychwyn nac wrth y môr yn Y Bermo ar faes archdderchog Wern Mynach.Cafodd clwb Y Bermo dymor anodd yn 2016/17 yn gorffen yn 14eg yn Adran Gyntaf y Welsh Alliance.
Bydd Port yn paratoi am dymor fydd yn gosod dipyn o brawf arnynt, gan fod Cynghrair Huws Gray y tymor hwn y cryfaf a welwyd erioed.Mae Craig Papirnyk wedi sicrhau fod y mwyafrif o’r garfan a orffennodd yn y 4ydd safle wedi arwyddo eto a hwnnw oedd y canlyniad gorau i’r clwb ers 2011/12. Ychwanegwyd y sgoriwr cyson Joe Chaplin i’r garfan a sicrhawyd hefyd fod Siôn Bradley, a greodd gryn argraff tra ar fenthyg y tymor diwethaf, hefyd yn arwyddo i Port.
Bydd y gic cyntaf pnawn Sadwrn am 2.30 pm.
Bydd y tîm Dan 18 hefyd yn cchwyn eu tymor oddi cartref yn Llanerch Banna (Penley) gyda'r gic gyntaf am 2pm. Y tymor hwn fydd y tîm Dan 18 yn cystadlu yng Nghynghrair, Dan 18, Arfordir y Gogledd

Footie’s back on Saturday and where better to start pre-season than by the sea at Barmouth on the excellent Wern Mynach surface. Barmouth had a tough season in 2016/17 finshing in 14th place in the Welsh Alliance, Division1.
Port will start their preparations for what is going to be a really testing season, in what is probably the strongest ever Huws Gray Alliance line-up. Craig Papirnyk has secured the signatures of most of last season’s squad that finished in 4th place the club’s best finish since 2011/12. To that squad he has added Joe Chaplin a striker with a proven goal scoring record and secured the signature of on loan Siôn Bradley, who has already made a big impression at the Traeth.
Saturday’s game will kick off at 2.30 pm
The U18s, who will play in the North Wales Coast his season, will also be in action on Saturday, playing at Penley with a 2pm kick off.
04/07/17
Paratoi at y tymor newydd / Pre-season preparations

Gyda Craig a’r hogiau yn cyfarfod bore Sadwrn diwethaf, mae’r paratoadau at y tymor newydd wedi cychwyn o ddifri. Roedd yn dda clywed fod y chwaraewyr a’r tîm reoli wedi’u plesio’n arw gan gyflwr y Traeth. Clustnodwyd £6.000 ar gyfer y gwaith ar y cae a bydd Phil a’r Bwrdd yn hapus gyda’r ymateb ffafriol, a fod y buddosiad sylweddol wedi’i gyfiawnhau, gyda’r cyfan yn dod i’w le er waetha’r diffyg glaw ar un cyfnod.
Bydd y paradoadau yn cymryd cam arall pnawn Sadwrn nesaf (8 Mehefin) pan fydd y tîm yn chwarae’r gêm gyn-dymor gyntaf yn Y Bermo. Bydd y gêm gartref gyntaf tri diwrnod yn ddiweddarach pan fydd Llamuwchllyn yn ymweld â’r Traeth.

With Craig and the boys meeting up on Saturday, pre-season preparations are now well and truly underway. It was great to hear that management and players were well pleased with the condition of the Traeth playing surface. With £6,000 being earmarked for work on the pitch, Phil and the Board will be pleased with so many favourable comments and that the investment has been justifed with all turning out well despite the lack of rain at one stage.
Preparations will step up another gear next Saturday (8 July) when the team play their first pre-season fixture at Barmouth. The first home game will follow three days later when Llanuwchllyn visit the the Traeth.
30/06/17
Un Enillydd i’r Tote! / One Tote Winner!

Y rhifau lwcus yn Tote mis Mehefin oedd 2 ac 19. Roedd un enillydd sef Ceinwen Davies, Chwilog yn ennill £590.
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 7 Gorffennaf a bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael eu tynnu nos Wener, 28 Gorffennaf, yn sesiwn Bingo wythnosol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly Tote for June were 2 and 19. There was one winner, Ceinwen Davies, Chwilog who collected a prize of £590.
Any claims must be made by 8pm on Friday 7 July. The next Tote will be drawn on Friday, 28 July at the weekly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345.
27/07/17
Gweithdy Tendro yng Nghlwb y Traeth 3/7/17 / Tendering Workshop at Traeth Clubhouse 3/7/17

Mae Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd yn cynnal gweithdy Llogi Offer a Chyfarpar Cyffredinol ac Offer a Weithredir gan Gontractwyr yng Nghlwb Cymdeithasol y Traeth nos Lun nesaf. Bydd y gweithdy’n rhoi:-
-Cymorth a chanllawiau am y broses dendro, sut i osgoi’r camgymeriadau cyffredin mewn tendro a sut i ymgymryd â’r systemau tendro’n electronig (gan swyddog Busnes Cymru).
-Cyfle i gwrdd â’r prynwyr i drafod a gofyn cwestiynau technegol ynglŷn â gofynion y gwasanaeth.
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 1pm a 4pm ar 3 Gorffennaf 2017 yng Nghlwb Pêl Droed Porthmadog gyda chofrestru am 12:45 (bydd te a choffi ar gael).
Os ydych yn dymuno mynd i’r gweithdy, cysylltwch â Cyngor Gwynedd erbyn dydd Mercher 28 Mehefin 2017 ar caffael@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01286 679 213.

The Highways and Municipal Department of Gwynedd Council will be holding a Hire of General Plant and Equipment and Contractor Operated Equipment workshop at the Traeth Social Club next Monday night. This workshop will give:-
-Support and guidance regarding the tender process, how to avoid the general mistakes in tendering and how to use the electronic tendering systems (by a Business Wales officer).
-An opportunity to meet the buyers to discuss and ask technical questions regarding the service requirements.
The workshop will be held between 1pm & 4.50 on 3 July 2017 at Porthmadog Football Social Club with registration at 12:45 (tea and coffee will be provided).
If you wish to attend contact Gwynedd Council via e-mail to procurement@gwynedd.llyw.cymru or call 01286 679 213 no later than Wednesday 28 June 2017.
22/06/17
PECYNNAU HYSBYSEBU A NODDI 2017/2018 / ADVERTISING & SPONSORSHIP PACKAGES 2017/2018

Ar gael i fusensau ac unigolion mae cyfleoedd hysbysebu a noddi bydd yn cefnogi clwb sydd yn brysur iawn yn y gymuned leol. Yn ogystal â’r tîm cyntaf mae yna Academi fawr sydd erbyn hyn yn agor y drysau i bêl-droed merched. Mae’r uned Pêl-droed yn y Gymuned wedi bod yn gweithio’n galed mewn ysgolion yn cynnig profiadau addysgol a chwaraeon. Isod gweler y pecynnau sydd ar gael:
HYSBYSFWRDD O GWMPAS Y CAE
£120 am fwrdd 8’ x 2’ (Gallwn drefnu Cynhyrchu yr Hysbysfwrdd am gost ychwanegol ‘UNWAITH AC AM BYTH’ AM £80). Y gost flynyddol o hynny ymlaen fydd £120 + TAW y flwyddyn
RHAGLEN Y GEMAU (Maint A5 a’r hysbyseb mewn lliw A5)
. ¼ tudalen £70 + TAW; ½ tudalen £110 + TAW; tudalen Llawn £180 +TAW
NODDI GEMAU A PHELI: Noddi gêm: £70 + TAW; Noddi Pêl: £40 + TAW ;Pecyn noddi gêmau a phêl.
Y CERDYN RHESTR GEMAU: £60
NODDI ACADEMI Y CHWARAEWYR IFANC (Dros 100 o chwaraewyr ifanc) £1,000 y Flwyddyn. Logo eich busnes ar y crysau a phob llenyddiaeth/poster
NODDI Y TIM O DAN 18 OED: £500 y flwyddyn. Eich logo ar y crysau cartref a rhai gemau ffwrdd. Daw y pecynnau arbennig gyda phob cefnogaeth er mwyn cydnabod y cyfryw e.e. tocynnau am ddim i’r gemau, gwahoddiad i ddigwyddiadau, eich crybwyll ym mhob llenyddiaeth, safle we, rhaglen gemau, facebook a trydar ayb.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Dylan ar 07900512345 neu rees48wesla@gmail.com

Available for businesses and individuals are advertising and sponsorship opportunities which will support a club which is very active in the local community. As well as the first team there is a large Academy with a girls section also starting up. The Football in the Community sector has been heavily involved with local schools, providing educational as well as sporting activities. Below are the packages available.
ADVERTISING BOARDS AROUND THE GROUND
£120 for an 8’ x 2’ BOARD (We can arrange the production of the board at an additional ‘ONE OFF’ cost of £80+VAT). The annual cost from then on remains at £120 + VAT
MATCH PROGRAMME (Size A 5 with adverts in colour). ¼ page £70 + VAT; ½ page £110 +VAT Full Page £180 +VAT
MATCH AND BALL SPONSORSHIP: Match Sponsorship £ 70 + VAT; Ball Sponsorship £ 40 + VAT; Match and Ball Sponsorship Package £100 + VAT
FIXTURE CARD: £60
SPONSORSHIP OF THE YOUNG PEOPLE’S ACADEMY (100+ Players): £1,000 per annum. Your company’s logo on all shirts and literature/posters
SPONSORSHIP OF THE UNDER 18’s TEAM: £500 per annum. Your company’s logo on both home and away strips. All sponsors will have access to specific packages to recognise their support e.g. free match tickets, invitation to hospitality events, mentioned in all literature, web site, match programme, facebook, twitter etc.
For more information contact Dylan on 07900512345/ rees48wesla@gmail.com
21/06/17
Mwy o wybodaeth: Swydd Hyrwyddo Canolfan Sgiliau / More Information: Skills Centre Marketing Post

-Prif nod y swydd yw helpu darparwyr hyfforddiant lleol a’r Clwb i lenwi y Ganolfan Sgiliau a’r Clwb Cymdeithasol gyda rhaglen o hyfforddiant, cynhadleddau a chyflwyniadau. Byddem yn targedu unigolion, grwpiau penodol a busnesau’r ardal.
-25 awr yr wythnos, oriau hyblyg yn dibynnu ar ddefnydd o’r canolfannau. CYFLOG £1,000 y mis, £12,000 y flwyddyn (£9.23 yr awr). Pedair wythnos o wyliau y flwyddyn yn ogystal a gwyliau banc. -Cytundeb 3 blynedd. Gall gychwyn ar yr hwyraf diwedd mis Gorffennaf eleni.
-Gweithio o’r Ganolfan ond bydd angen ymweld a cholegau lleol, mudiadau gwirfoddol ac yn y blaen. -Helpu’r Clwb a’r darparwyr i ddynodi galw am gyrsiau, hyfforddiant ayb, eu trefnu ar y cyd a sicrhau y niferoedd trwy ddefnyddio rhwydweithiau a chyfryngau cymdeithasol y Clwb a’r darparwyr yn ogystal a pharatoi ‘flyers’ a posteri a’u dosbarthu o gwmpas yr ardal. Caiff cefnogaeth dyddiol a rheolaidd un o gyfarwyddwyr y Clwb.
-Cyfrifoldeb dros agor a chau y canolfannau a sicrhau bod yr holl offer fydd y darparwyr angen ar gael ac yn gweithio yn effeithiol.
-Cyfrifol am dderbyn ‘bookings’, trefnu’r ystafelloedd ac anfonebu’r cyrff/unigolion/busnesau perthnasol. Sicrhau bod y rhain yn cael eu talu’n brydlon.
SGILIAU ANGENRHEIDIOL
Cyfathrebydd da, trefnydd effeithiol a gweinyddwr/wraig taclus.
Sgiliau TG o safon. Trwydded yrru lan. Yn barod i weithio oriau hyblyg
Gwybodaeth am y ddarpariaeth hyfforddiant a’r darparwyr sydd yn weithredol yng Ngwynedd a thu hwnt

Mae’n swydd ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am weithio yn rhan amser (er bod potensial i’r oriau gynyddu gyda llwyddiant y gwaith) neu person ifanc brwdfrydig sydd am sefydlu gyrfa ym maes marchnata a/neu gweinyddu.
Os oes gennych ddiddordeb CYSYLLTWCH a dafyddwynjones@hotmail.co.uk neu ffoniwch 07810057444

-The main aim of the post is to help local training providers and the Club to fill its Skills Centre and Clubhouse with courses, presentations and conferences. This will mean preparing a comprehensive programme of regular training at both venues. Individuals, groups and businesses will be targeted.
-25 hours per week, flexible hours dependent on the use of the centre. SALARY £1,000 per month, £12,000 per annum (£9.23 per hour). 4 weeks holiday per annum as well as bank holidays.
-3 year contract that can start as early as the end of July.
-The person will be working from the Skills Centre but it will also involve visiting training providers, voluntary groups and organisations etc. The Officer will help training providers and the Club to identify the demand for courses and training provision, assist with their organisation and target potential users. This can be done by utilising the social media networks of the Club and providers, preparing and distributing flyers, posters, other promotional material, organising ‘Open Days’ and making direct contact with groups. He/she will be supported on a daily basis by one of the Club’s directors.
-Responsible for opening and closing the venues and ensuring that the required equipment and facilities are in good working order
-Take and confirm all bookings, make all the necessary arrangements, invoice those that hire the venues and ensue these are paid.
REQUIRED SKILLS
Good communicator, efficient organiser and a tidy, effective administrator
Good quality IT skills, clean driving licence and prepared to work flexible and, sometimes, unsociable hours.
A generally good understanding of the organisations that offer training and skills development within Gwynedd and beyond
This is an ideal post for someone that wants to work on a part time basis (although the potential exists for the hours to be increased dependent on the success of the work) or an enthusiastic young person that wants to establish and develop a career in marketing and/or administration.
If interested CONTACT dafyddwynjones@hotmail.co.uk or on 07810057444
20/06/17
Diolch Teulu’r Rookyards / Thanks again Rookyard Family

Unwaith eto mae’r clwb yn ddyledus iawn i Deulu’r Rookyards am rodd arall i goffrau’r clwb. Mae Maria, Martin a Simon wedi gwneud amryw o gyfraniadau tebyg dros y blynyddoedd. Rwy’n siwr na fydd gwahaniaeth gan Martin a Simon imi ddweud mai Maria ydy’r cefnogwr pêl-droed yn y teulu ac yn ffan enfawr o glwb Port.
Yn anffodus yn dilyn problemau iechyd hir-dymor nid yw Maria wedi gallu ymweld â’r Traeth yn y blynyddoedd diweddar. Ond er waethaf hyn mae ei diddordeb yn y clwb wedi aros gymaint ac erioed, ac unwaith neu ddwy bob blwyddyn mae Martin a Simon yn cael ei gyrru ar bererindod i’r Traeth er mwyn iddi glywed yn uniongyrchol y datblygiadau diweddaraf.
Er nad ydynt yn ffans mawr o bêl-droed mae Martin a Simon wedi gwneud nifer fawr o ffrindiau ar Y Traeth a mae Martin bob amser yn barod i ddefnyddio ei sgiliau elecronic i ddatrys unrhyw broblem sydd wedi codi. Diolch i’r tri, ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu i’r Traeth.

Once again the club is indebted to the Rookyard Family for another very generous donation to club funds. Maria, Martin and son Simon have made many such donations over the years. I’m sure that Martin and Simon won’t mind us saying that Maria is the football fan of the household and in particular a huge Port supporter.
Unfortunately, owing to long standing health problems, Maria has been unable to visit the Traeth in recent years but this has not diminished her interest in the club and several times a year Martin and Simon are dispatched on a pigrimage to the Traeth so that she can hear from them, first hand, how things are progressing.
Though not huge football fans themselves, Martin and Simon have made many, many friends at the Traeth who look forward to meeting up with them. Martin is also always ready to use his professional skills when any electronic problems arise. Thanks all and we look forward to welcoming you to the Traeth during the new season.
15/06/17
Penodi Swyddog Hyrwyddo y Ganolfan Sgiliau/Appointing a Marketing Officer to Promote the Skills Centre

Cyhoeddwyd bod y Clwb am benodi swyddog i hyrwyddo Canolfan Sgiliau Osian Roberts a'r Clwb Cymdeithasol ar gyfer hyfforddiant, cyfarfodydd a chynadleddau. Sicrhawyd cyllid oddiwrth Cronfa CIST Gwynedd a all fod am gyfnod o 3 blynedd. Ers agor y Ganolfan Sgiliau diwedd mis Medi llynedd trefnwyd nifer o gyrsiau o bob math yno gyda dros 100 o bobol yn eu mynychu.
Nod y swydd hon fydd ceisio ehangu'r defnydd yn sylweddol yn ogystal a'r clwb cymdeithasol. Ers agor y clwb hwnnw yn 2007 bu cryn ddefnydd ohono gan amryw o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yn ol Dafydd Wyn Jones, un o gyfarwyddwyr y clwb, "'Rydym yn edrych am berson sydd a gwybodaeth a chefndir yn y maes hyfforddiant a all gydweithio gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant, sydd a sgiliau trefnu a chyfathrebu da. Ac, wrth gwrs, sgiliau TG addas".
Mae'n swydd 25 awr yr wythnos gyda oriau gwaith hyblyg. Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais cysylltwch a dafyddwynjones@hotmail.co.uk neu ffoniwch 07810057444.

Highslide JS
Agoriad Swyddogol Canolfan Sgiliau Osian Roberts / Osian Roberts Skills Center Official Opening

The Club intends to appoint a Marketing Officer with the responsibility of promoting the Osian Roberts Skills Centre and social club so that more courses, meetings and conferences can be held at the Traeth. A potential 3 year financial package has been secured from the CIST Gwynedd fund. Since the Skills Centre was opened last September a variety of courses have been held with well over 100 people attending them.
The aim of this post is to greatly increase the use of both the Skills Centre and clubhouse to accommodate a much larger number of courses, meetings and conferences. Since the clubhouse was established in 2007 it has been used extensively by many organisations, public, private and voluntary. According to Club director, Dafydd Wyn Jones, "We are looking for a person with a good knowledge and background in skills development and training and who can work with local colleges and other training providers. This person will also have good IT ,organisational and communication skills".
The post is 25 hours per week with flexible hours depending on use of the facilities. For more information and an application form contact dafyddwynjones@hotmail.co.uk or 07810057444.
14/06/17
Rhestr Gemau wedi cyrraedd / Fixtures announced

Cymru Alliance Bydd Port yn cychwyn y tymor newydd gyda chyfres o gemau anodd ym mis Awst. Yn dilyn y gêm ar Y Traeth yn erbyn Gresffordd ar y diwrnod agoriadol, bydd Port yn ymweld â Chyffordd Llanduno ar 19 Awst. Bydd Darbi Gwynedd, yn erbyn Caernarfon, yn dilyn ar Y Traeth ar nos Fawrth, 22 Awst ac i gwblhau ychydig o ddyddiau anodd, bydd Y Rhyl ar Y Traeth ar Sadwrn, 26 Awst.
Unwaith eto, fel llynedd, bydd y Derby ‘Ddolig rhwng Caernarfon a Port yn cael ei chwarae ar yr Oval ar bnawn Mawrth, 26 Rhagfyr.
Mae rhestr lawn o gemau ar y wefan.

Port will start the new season with a difficult set of August fixtures. Following the home fixture against Gresford on the opening day they will visit promoted Llandudno Junction on 19 August. The Gwynedd Derby against Caernarfon at the Traeth will follow on Tuesday evening, 22 August and to complete a tough few days Rhyl will visit the Traeth on Saturday, 26 August.
The Christmas Holiday Derby on Tuesday, 26 December will like last season be played at the Oval.
The full list of matches is available on the fixtures page.
14/06/17
Cyfleoedd Hysbysebu / Advertising Opportunities

Mae ein Swyddog Marchnata, Dylan Rees, wedi rhoi ei ymgyrch hysbysebu a noddi blynyddol ar y gweill. Fel arfer mae digon o arlwy ar gyfer busnesau a chyrff lleol sydd eisiau hyrwyddo eu busnesau.
hysyseb yn y rhaglen
noddi gemau a pheli
hysbysfyrddau o gwmpas y cae
noddi chwaraewyr ac yn y blaen.
Heb gefnogaeth ein busnesau lleol byddai'n ddu iawn arnom. Felly os yr ydych yn gefnogwr sydd yn ymwybodol o fusnes neu gorff fyddai a diddordeb, cysylltwch a Dylan. Cofiwch ein bod wedi ennill tlysau 'Clwb y Flwyddyn' a 'Rhaglen y Flwyddyn' yng nghyfarfod blynyddol yr Huws Gray yn ddiweddar.
Os yr ydych yn fusnes/gorff lleol, neu hyd yn oed unigolyn sydd am fanteisio ar y cyfle cysylltwch a rees48wesla@gmail.com neu ffonio 07900512345.

Our Marketing Officer, Dylan Rees, has this week embarked on his usual annual campaign to secure sponsorship and advertising for the Club. A range of opportunities are available:
adverts in the match programme
perimeter hoardings
match/ball/player sponsorship and so on
Without the valuable support from local businesses the Club would find it very hard to compete at the level it does. If you are a supporter who knows of a business or organisation that would be interested in advertising or sponsorship please get in touch with Dylan. He'll do the rest! Remember that we won the 'Best Club' and 'Best Programme' awards at the recent Huws Gray AGM.
If you are a local business or organisation that would like to take advantage of this opportunity to promote yourself to thousands of people on a regular basis contact rees48wesla@gmail.com or phone 07900512345
11/06/17
Gêm Agoriadol y Tymor / Season’s opening game

Gresffordd Cyhoeddwyd gêm agoriadol y tymor heddiw, gan cynnig blas o’r hyn sydd i ddod mewn cynghrair sydd yn sicr o fod yn un anodd iawn y tymor nesaf.
Bydd Port yn cychwyn gartref ar Y Traeth yn erbyn Gresffordd, tîm fydd yn sicr o rhoi prawf anodd inni. Cafodd y clwb o ardal Wrecsam dymor ardderchog yn 2016/17 gan orffen yn y 3ydd safle gyda’i rheolwr Steve Halliwell yn cael ei enwi yn Rheolwr y Tymor. Chwaraeir y gêm ar Sadwrn 12 Awst.
Gwnaeth y ddau glwb gyfarfod 3 gwaith y tymor diwethaf. Enillodd Port y gêm yng Nghwpan Cymru yn dilyn ciciau o’r smotyn, diolch i berfformiad arwrol y golwr Tyler French. Ond Gresford a gafodd y fuddugoliaeth yn y ddwy gêm gynghrair, felly rhywbeth i’w brofi i Port ar ddechrau’r tymor!
Meddai Craig Papirnyk, wedi’i gyffroi gan y newyddion cynnar am y gemau sydd i ddod, “Caernarfon gartref yng Nghwpan y Gynghrair, torf fawr a gobeithio buddugoliaeth!! Gresffordd gartref hefyd, anodd, ond rwy’n hyderus y medrwn gychwyn gyda budugoliaeth” C’mon Port!

The season’s opening day fixtures for the HGA have been announced giving us a taster of what is to come in what is expected to be an even tougher Huws Gray Alliance.
Port have been handed a home fixture against Gresford Athletic who will be testing opponents. Gresford, managed by Steve Halliwell who has been named Manager of the Season, finished in a highly creditable 3rd place last season. The game will be played on Saturday 12 August.
The two clubs met three times last season. Port won the Welsh Cup tie in a penalty shoot-out thanks to Tyler French’s trio of super saves. Gresford came out on top in the League, completing the double over Port, so there will be something to prove on the opening day!
Craig Papirnyk, excited by all the early fixture news says, “Caernarfon home league cup , bumper crowd and hopefully a win for us !! Gresford home opening fixture also , tough but confident we will start off with a win.” C’mon Port!
10/06/17
Gwobrwyon y Cyfarfod Blynyddol / AGM Awards

Cafodd y clwb ei gwobrwyo ddwywaith yng Nghyfarfod Blynyddol yr HGA yn Y Wyddgrug heddiw.Trwy bleidlais ei chyd glybiau dewiswyd Port Yn Clwb y Tymor -pluen yn het y clwb.
Hefyd derbyniodd rhaglen y clwb ail wobr pan gafodd ei enwi yn ‘Rhaglen y Tymor’ gan yr HGA. Llongyfarchiadau i Steve Thomas Treffynnon-Chwaraewr y Flwyddyn a steve Haliwell Gresffodd-Rheolwr y Flwyddyn.

In today’s Huws Gray Alliance AGM held in Mold, the Porthmadog club won two of the Annual Awards. Port were voted Club of the Season by the other league members, which is always a great compliment.
The club programme also picked up its second award being named the ‘Best Programme of the Season’ by the HGA.
Congrats also to Steve Thomas, Holywell Town -Player of the Season and to Steve Haliwell, Gresford Athletic -Manager of the Season.
10/06/17
Cofis yn Cwpan y Gynghrair / Cofis in League Cup

Bydd Port yn chwarae Caernarfon yn Rownd 1af Cwpan Huws Gray. Tynnwyd yr enwau heddiw yng Nghyfarfod Blynyddol y Cymru Alliance yn Y Wyddgrug. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Y Traeth ar Sadwrn 21 Hydref.

Port have been drawn to meet Caernarfon in the first round of the Huws Gray League Cup. The draw was made this afternoon during the Cymru Alliance AGM held at Mold Alex. The game is to be played at the Traeth on Saturday 21 October.
09/06/17
Y rhaglen orau / Best programme

Mae rhaglen Port wedi cael ei henwi yr orau yng Nghynghrair Huws Gray yng Ngwobrau Blynyddol ‘Welsh Football Magazine’. Sylw golygydd y cylchgrawn, David Collins, oedd:
“Dim syndod gweld y cyn enillwyr Porthmadog yn dod i’r brig o ganlyniad i’r amrywiaeth yn y cynnwys.”
Gyda Gerallt Owen, golygydd y rhaglen ers blynyddoedd lawer, yn dod a’i gyfnod yn y swydd i ben (egwyl cyn dod yn ôl??) mae’r wobr yn goron ar ei gyfnod yn y gwaith yn cyhoeddi rhaglen o safon yn rheolaidd. Llongyfarchiadau Gerallt.
Yr enillwyr dros Gymru gyfan oedd clwb Y Barri yn gorffen o flaen Airbus a’r Bala gyda rhaglen Port yn 6ed.

In the annual Welsh Football Magazine programme awards the CPD Porthmadog programme has been placed No 1 in the Huws Gray Alliance with magazine editor David Collins saying:
“It’s no surprise seeing former winners Porthmadog coming out on top by virtue of the range of content included.”
With long-time programme editor Gerallt Owen calling it a day on his time in the role (for the present??) this is a fitting tribute for the immense work he has put in, bringing out a professional publication on a regular basis. Congrats Gerallt.
Barry Town Utd were the overall winners ahead of Airbus and Bala Town with the Port programme placed 6th.
08/06/17
Joe Chaplin yn arwyddo / Joe Chaplin signs

Joe Chaplin ydy’r wyneb newydd cyntaf ar Y Traeth yr haf yma wrth i Craig Papirnyk arwyddo’r blaenwr 24 oed. Mae gan Joe record ardderchog o flaen gôl yn rhwydo 16 gôl mewn 20 gêm i Gonwy y tymor diwethaf.
Meddai Craig, “Rwy’n hapus iawn i arwyddo Joe, mae record dda ganddo a bydd yn ychwanegu peryg o flaen y gôl. Rwy’n gyffrous iawn wrth edrych ymlaen a’i weld yn tyfu efo ni yn ystod y tymor. Rwy’n siwr y cawn goliau gan Joe, a gall hyn wneud y gwahaniaeth inni y tymor hwn.”
Bu Joe yn Met Caerdydd rhwng 2011 a 2014 gan chwarae iddynt yng Nghynghrair Cymru y de ac yn rhan o dîm a sicrhaodd dau ddyrchafiad yn olynnol gan symud y clwb o Adran 3 i Adran 1. Pan symudodd yn ôl adref, wedi iddo orffen ei radd, ymunodd â Glan Conwy a wedyn Conwy. Arwyddod i Llandudno yn Ionawr 2017 ond dychwelodd i Gonwy i gwblhau’r tymor.
Chwaraeodd ar lefel Dan 16 i Llandudno gan ennill dau gwpan Arfordir y Gogledd. Rhwystrwyd ei ddatblygiad gyda’r tîm cyntaf yn Maesdu pan torrodd ei ffêr a wedyn adawodd i fynd i’r Coleg.
Ychwanegodd Craig, “Mae’r garfan yn dod at eu gilydd yn dda. Joe ydy’r gwyneb newydd cyntaf ond rwy’n gobeithio ychwanegu un neu ddau arall o safon tebyg.. Rwy’n hyderus fod gennym y garfan i wthio ymlaen o’r tymor diwethaf ac i anelu’n uwch. Hon yw’r garfan gryfaf imi gael, a rhaid inni sicrhau llwyddiant i’r clwb. Bydd y gynghrair yn anodd ond mae dyddiau cyffrous o’n blaen!” C’mon Port!


Highslide JS
Joe Chaplin yn arwyddo / Joe Chaplin signs

Joe Chaplin becomes the first new face of the summer at the Traeth as Craig Papirnyk completes the signing of the 24 year striker. Joe comes with an excellent strike record netting 16 times in 20 appearances for Conwy Borough last season.
Craig says, “I am delighted to have signed Joe, he is highly rated and has the quality in front of goal that we need. I am excited about his prospects and I'm looking forward to seeing him grow with us this season. I am certain he will get the goals that could be the difference for us this year.”
Joe attended University at Cardiff Met between 2011 and 2014 and played for the then Welsh Football League outfit as they won back-to-back promotions from Division Three to Division One. On moving back home, following the completion of his degree, he played for Glan Conwy before joining Borough. He signed for Llandudno in January 2017 but he later returned to finish the season with Conwy.
He also played at U16 level for Llandudno, winning two North Wales Youth Coast Cups with the club. His break into the first team at Maesdu didn’t materialise as he suffered a broken ankle and subsequently moved to the Met.
Craig added, “The squad is coming together really well. Joe is the first new face in, but I hope to add another couple of the same quality in due course. I am however confident that we have the players at the club now to push on from last season and aim higher. The squad is the strongest it's been and we have to now ensure we bring success to the club. The league is going to be difficult but exciting times are ahead for us.”C’mon Port!
07/06/17
Arwyddo ar gyfer 2017/18 / Signing on for season 2017/18

Sion Bradley Mae Craig Papirnyk wedi cyhoeddi y rhestr chwaraewyr fydd yn aros gyda’r clwb gan ychwanegu enw Sion Bradley a oedd ar fenthyg o Fangor y tymor diwethaf ond sydd erbyn hyn yn arwyddo I Port ar gyfer 2017/18.
Meddai Craig, “Rwyn falch iawn i gyhoeddi mae chwaraewr Port ydy Sion Bradley bellach. “Mae’n newyddion ardderchog i’r clwb ac imi yn bersonol. Rwy wedi edmygu Sion ers amser ac wedi dilyn ei ddatblygiad ers oedd yn ifanc iawn. Mae’n grêt i fedru ei alw yn chwaraewr Port.
“Daeth atom yn Ionawr a roedd yn ‘hit’ yn syth. Derbyniodd digon o gyn igion eraill ond efo Port mae o am fodac rwy’n edrych ymlaen i weithio efo fo am flynyddoedd i ddod. Yn sicr bydd safon ei chwarae yn gymorth wrth inni edrych am lwyddiant.
“Yn ogystal a Brads gwelir isod y rhestr o chwaraewyr eraill sydd yn aros gyda’r clwb. Mae pawb yn barod ac yn edrych ymlaen at ymdrechu dros y clwb. Cafwyd cyflwyniad i’r chwaraewyr neithiwr ac roedd yn lwyddiant mawr gyda pawb gyffrous ynglyn â’r cynlluniau.
“Mae’r clwb mewn safle da ac ar y 1 Gorffennaf byddwn yn barod ar gyfer tymor sy’n cynnig y sialens mwyaf erioed yn y Cymru Alliance.”

Chwaraewyr sy'n Aros / Retained list:
Gruffydd Williams
Chris Jones
Daniel Roberts
Iddon Price
Robert Evans
Richard Harvey
Josh Banks
Steve Bratt
Ceri James
Tyler French
Meilir Williams
Gareth Jones-Evans
Cai Jones

Craig Papirnyk has announced his retained list from 2016/17 with the additional news that Sion Bradley, last season’s loan signing from Bangor, is now a Porthmadog player for 20017/18.
Said Craig, “I am really pleased to announce Sion Bradley will be a Porthmadog Player this season.
“It's great news for the club and for me personally , I have long been an admirer of Sion and watched him develop from a young age , to now call him our player is great.
“He came in last January and was a huge hit, he has had no shortage of offers but Porthmadog is where he wants to be and I'm looking forward to working with him for years to come. His quality will help in our search for success I have no doubt about it.
“In addition to Brads signing below is the retained player list , all the lads are really committed and are looking forward to this coming season. We had our player presentation last night and it was a great success with everyone excited with the plans moving forward.
“We are in a great position and come July 1st we will hit the ground running in preparation for what is going to be the most exciting and challenging season in the Cymru Alliance to date !!"


06/06/17
Newid i’r rhestr gemau / Pre-season change

Mae yna newid i’r rhestr gemau cyn-dymor. Bydd y gêm ar Y Traeth yn erbyn CPD Llanuwchllyn yn cael ei chwarae ar nos Fawrth, 11 Gorffennaf gyda’r gic gyntaf am 7.30pm.

There has been a change to the pre-season fixture schedule. The game at the Traeth against WNL(Wrexham area) club Llanuwchllyn will be played on Tuesday, 11 July with a 7.30pm kick off.
05/06/17
Gethin yng Ngharfan Cymru / Gethin in senior squad

Gethin Jones Enwyd Gethin Jones, amddiffynnwr Everton a cyn aelod o Academi Port, yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer gêm gymhwyso Cwpan y Byd yn Serbia. Yn ystod y tri mis diwethaf mae Gethin, o Borthygest, wedi creu argraff tra ar fenthyg gyda Barnsley o’r Bencampwriaeth. Roedd hefyd yng ngharfan Cymru a fu’n paratoi yn Portiwgal.
Llongyfarchiadau mawr a pob lwc i Gethin wrth bawb yn CPD Porthmadog. Eisoes mae wedi bod yn gapten Cymru Dan 21. Dymunwn yn dda iddo wrth iddo gymryd y cam nesaf yn ei yrfa bel-droed.

Everton defender, and former Port Academy member, Gethin Jones has been named in Chris Coleman’s squad for the World Cup Qualifier in Serbia.During the last 3 months Gethin, from Borthygest, has impressed whilst on loan with Championship club Barnsley. He was also in the Wales squad who did their preparation in Portugal.
Huge congratulations and best of luck from all at CPD Porthmadog to Gethin who has already captained the Wales U21s and we wish him well as he moves to the next step in his career.
05/06/17
Y dyfodol yn addawol i Bêl-droed Ieuenctid / Bright future for Youth Football

Sion Eifion Erbyn hyn mae’r hyfforddwr Sion Eifion Jones wedi dod i ganlyniad ynglyn a dyfodol pêl-droed ieuenctid y clwb. Mae’n dweud:
“Rwy’n hapus i gyhoeddi y byddwn yn chwarae yng Nghynghrair Dan 18 Arfordir y Gogledd y tymor nesaf. Mae’r pendefyniad hwn wedi’i werthuso’n drwyadl ac o ystyried yn ofalus, teimlwn mai hwn ydy’r gorau inni ar y foment hon.
“Mae’n gynghrair gystadleuol lle gall yr hogiau ddal i ddatblygu ac hefyd chwarae efo clybiau eraill ar y Sadwrn. Y bwriad hefyd ydy cael y mwyafrif o’n chwaraewyr ifanc yn chwarae i glybiau lleol, er mwyn cael profiad o chwarae ar lefel hÿn.
“Yn amlwg ein prif fwriad ydy datblygu’r hogiau ifanc i chwarae i brif dîm Port a, phan fyddant yn barod, rwyn si?r bydd Craig yn fwy na pharod i roi’r cyfle iddynt.
“Unwaith eto bydd y gemau yn cael eu chwarae ar bnawn Sul gyda rhai hefyd yng nghanol wythnos ar Y Traeth o dan y goleuadau.
Mae gennyf nifer o gemau cyn dymor amrywiol, cyffrous wedi’u trefnu.

Llannerch Banna (Penley FC) (A) 2pm - 08/07/17
Blaenau Ffestiniog (A) 6.30pm - 13/07/17
Dyffryn Nantlle (H) 7pm - 20/07/17
Fflint Dan 19 (H) 2pm - 30/07/17
Bangor Dan 19 (A) 2pm - 06/08/17

“Cyhoeddir mwy o gemau bellach ymlaen. Rwy’n gyffrous iawn ynglyn a’r tymor sydd o’n blaen a, gyda nifer o chwaraewyr yn dod drwy’r system, gallwn roi sialens go-iawn yn y gynghrair hon. Rwy hefyd yn edrych ymlaen at weld y ffyddloniaid yn ôl ar Y Traeth yn ein cefnogi!!” C’mon Port!

Coach Sion Eifion Jones has reached a decision regarding the future of the club’s Youth Team. He says:
“I am happy to announce that we will be competing in the North Wales Coast U18s League next season. This is a move that we have evaluated thoroughly and taking everything in to consideration, we feel the best move for us at this moment in time.
“This is a competitive league where the boys can continue their development whilst also participating in a Saturday senior side. The aim is to have the majority of our boys playing senior football with other local clubs to get important senior playing experience.
“Obviously, our main aim is to develop the boys in to Porthmadog first team players and am confident that if and when they are ready, Craig will give them that opportunity.
“Games will again be played on Sunday afternoons with some midweek fixtures under the floodlights at the Traeth. I can also announce some exciting pre-season fixtures against a range of opposition:

Penley FC (A) 2pm KO - 08/07/17
Blaenau Ffestiniog FC (A) 2pm KO- 15/07/17
Nantlle Vale FC (H) 7pm KO- 20/07/17
Flint Town FC U19s (H) 2pm KO- 30/07/17
Bangor City FC U19s (A) 2pm KO- 06/08/17

“More fixtures will be announced in due course. I am really excited for the season ahead and believe that, with the new boys coming through, we can mount a big challenge in this league. I also look forward to see the Port faithful supporting the young boys again this year!” C’mon Port!
02/06/17
Yr enillydd yw... / The winner is...

Diolch i'r holl gefnogwyr a bleidleisiodd dro eu hoff grys! Roedd tipyn o ddiddordeb yn y cyfle unigryw yma i'r cefnogwyr gael dewis yr ail-grys bydd y tim yn ei wisgo y tymor nesa - cafwyd 120 pleidlais i gyd. Roedd dau geffyl blaen - crys 7 a chrys 8 - ond yr ennillydd clir yn y diwedd oedd crys 8, y crys 'check', gyda 41 pleidlais!

Highslide JS
Crys 8 / Shirt 8

Thanks to all the supporters who voted for their favourite shirt! There was a lot of interest in this unique oportunity for supporters to chose the club's second-choice shirts, with 120 votes in all. And it was effectively a two horse race between shirt 7 and 8, but in the end the clear winner was shirt 8, the check shirt, with 41 votes!
30/05/17
Tote Mis Mai / May Tote

Y rhifau lwcus yn Tote mis Mai oedd 11 a 37. Nid oedd enillydd. Bydd y wobr o £290 yn cael ei gario drosodd i tote mis Mehefin pan fydd y wobr tua £630. Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 2 Mehefin. Bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael eu tynnu nos Wener, 30 Mehefin, yn sesiwn Bingo wythnosol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Ewch amdani! Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The lucky numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly Tote for May were 11 and 37. Subject to confirmation there were no winners.The prize of £290 will be carried over and added to the June Tote prize when the prize is expected to be in the region of £630. Any claims must be made by 8pm on Friday 2 June. The next Tote will be drawn on Friday, 30 June at the weekly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Have a go! Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345.
23/05/17
Helpwch ddewis y Crys Oddi-cartref / Help to choose the Away Kit

Mae’r rheolwr Craig Papirnyk yn awyddus i wneud dewis crys oddi-cartref y clwb ar gyfer 2017/18 yn agored i farn y cefnogwyr.
"Bydd yn wych cynnwys ein cefnogwyr ffyddlon wrth wneud y penderfyniad," meddai Craig. "Aethom am Wyrdd gan feddwl y fyddai’n ddewis da, a llai o siawns iddo fod yn debyg i liwiau tîmau eraill."
Felly cymrwch olwg ar y dewis da o batrymau. Gwnewch eich dewis a pleidleiswch isod.

Manager Craig Papirnyk is keen to open the choice of the club’s away kit for season 2017/18 to supporters.
"It will be great to have the involvement of our loyal supporters in making this decision," said Craig. "We have gone for Green as it would be a good choice and less likely to clash with other clubs."
So take a good look at the choice of shirts and then you can cast your vote in our poll.

Highslide JS
Crys 1 / Shirt 1
Highslide JS
Crys 2 / Shirt 2
Highslide JS
Crys 3 / Shirt 3
Highslide JS
Crys 4 / Shirt 4
Highslide JS
Crys 5 / Shirt 5
Highslide JS
Crys 6 / Shirt 6
Highslide JS
Crys 7 / Shirt 7
Highslide JS
Crys 8 / Shirt 8

Y bleidlais wedi cau! / Voting has closed!

22/05/17
Gemau Cyn-Dymor / Pre-Season Fixtures

Sadwrn 8 Gorffennaf – Y Bermo Oddi/Cartref 2.30pm
Nos Iau 13 Gorffennaf – Llanuwchllyn Gartref 7.30pm
Sadwrn 15 Gorffennaf – De Lerpwl Oddi/Cartref 3pm
Nos Fercher 19 Gorffennaf – Derwyddon Cefn Oddi/Cartref 7.30pm
Sadwrn 22 Gorffennaf – Y Bala Gartref 3pm
Sadwrn 29 Gorffennaf - Croesoswallt Gartref 2.30pm
Sadwrn 5 Awst - Penycae Oddi/Cartref 2.30pm
Nos Fercher 9 Awst – Cwpan Pathfinders Corwen Gartref 7.30pm
Sadwrn12 Awst – Tymor yn Cychwyn

Saturday July 8th – Barmouth Away 2.30pm
Thursday July 13th – Llanuwchlyn Home 7.30pm
Saturday July 15th – South Liverpool Away 3pm
Wednesday July 19th- Cefn Druids Away 7.30pm.
Saturday July 22nd – Bala Home 3pm
Saturday July 29th – Oswestry Home 2.30pm
Saturday August 5th – Pen-Y-Cae Away 2.30pm
Wednesday August 9th – Pathfinders Cup, Corwen Home 7.30pm
Saturday August 12th – League Opener !
Newyddion cyn 22/05/17
News before 22/05/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us