Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
21/04/17
Stat Diddorol / An interesting Statistic

Mae Gerallt Owen, hanesydd y clwb, wedi tynnu ein sylw i ystadegyn diddorol iawn. Mae’n dweud:
“Roedd y fuddugoliaeth ddiweddar o 3-2 dros Dinbych yn dod a nifer buddugoliaethau Port ers 1945 i 1,000. Dros y cyfnod chwaraewyd 2158 o gemau cynghrair ac, erbyn hyn, yn dilyn y fuddugoliaeth dros Cegidfa, yn dod â’r cyfanswm i 1001. Chwaraewyd y gemau yma yng Nghynghrair Cymru y Gogledd (erbyn hyn y Welsh Alliance), y Cymru Alliance, Uwch Gynghrair Cymru ac un tymor yng Nghyghrair Caernarfon a’r Cylch."

Club historian Gerallt Owen has drawn our attention to a very interesting statistic. He says:
“Our recent 3-2 win at home to Denbigh Town was Porthmadog FC's 1000th League win since 1945. In that time Port have played 2158 League matches and have now won 1001 with our recent win at Guilsfield. Those games have been played in the Welsh League North Div 1, which then became the Welsh Alliance League, the Cymru Alliance, the League of Wales and one season in the Caernarfon and District League.”
19/04/17
Agoriad swyddogol Canolfan Sgiliau Osian Roberts ar y bocs / Official opening of Osian Roberts Skills Centre on the box

Bydd rhaglen cylchgrawn 'Heno' ar S4C yn recordio agoriad swyddogol y Ganolfan Sgiliau rhwng 4pm a 6pm dydd Gwener yma, 21af o Ebrill. Caiff yr eitem ei darlledu ar y rhaglen fyw am 7 o'r gloch. Croeso i bawb.

S4C's nightly magazine problem 'Heno' will be recording the official opening of the Skills Centre between 4pm and 6pm this Friday, 21st of April. The item will be broadcast as the programme goes live at 7pm. Everyone welcome.
18/04/17
OSIAN i agor y GANOLFAN SGILIAU / OSIAN to open SKILLS CENTRE

Caiff ‘Canolfan Sgiliau’ Clwb Pêl-droed Porthmadog ei hagor yn swyddogol dydd Gwener yma y 21ain o Ebrill am 4 o’r gloch y prynhawn gan Reolwr Cynorthwyol Tim Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, OSIAN ROBERTS, a’r Aelod Seneddol dros Dwyfor/Meirionnydd, LIZ SAVILLE-ROBERTS. Mae croeso I pawb ei fynychu.
Penderfynodd y Clwb alw’r fenter yn ‘Canolfan Sgiliau Osian Roberts’ fel teyrnged i’w cyn reolwr a fu’n rhan allweddol o lwyddiant y tim cenedlaethol yn ystod pencampwriaeth EURO 2016. Cyn ymadael â’r ardal i ymuno gyda Thim Hyfforddi Cymdeithas Pêl-droed Cymru, rheoli tim pêl-droed Porthmadog yng Nghyngrair Cymru oedd swyddogaeth Osian.
Sefydlwyd y Ganolfan Sgiliau gan y Clwb Pêl-droed ar ôl derbyn grantiau gan cronfa ‘Aggregate Levy Fund’ Llywodraeth Cymru a Chwmni Magnox, yn ogystal a chyfraniad ganddo ei hun. Fe’i agorwyd ar gyfer cyrsiau diwedd mis Medi llynedd ac mewn cydweithrediad a darparwyr lleol fel Coleg Meirion Dwyfor, Addysg Oedolion Cymru a Chyngor ar Bopeth fe gynhaliwyd sawl cwrs yno. Erbyn diwedd Mawrth ‘roedd 43 wedi dilyn cyrsiau TG, 12 wedi mynychu cwrs busnes, 11 person diwaith wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau gwaith ag amryw wedi derbyn cyngor proffesiynol gan Cyngor ar Bopeth. Yn ogystal mae Adran ‘Peldroed yn y Gymuned’ yn rhedeg cyrsiau llythrennedd a rhifedd gyda nifer o ysgolion cynradd lleol a rhai degoedd o fyfyrwyr ifanc wedi elwa o’r ddarpariaeth.

The Porthmadog Football Club’s ‘Skills Centre’ will be officially opened this Friday 21st of April at 4pm by the Assistant Manager of the Welsh Football team, OSIAN ROBERTS, and MP for Dwyfor/Meirionnydd, LIZ SAVILLE ROBERTS and everybody is welcome.
The Club had decided to name the initiative the ‘Osian Roberts Skills Centre’ to acknowledge the contribution its former manager made in making the Welsh national team one of the success stories of the EURO 2016 tournament in France. Before leaving the area to take on one of the top coaching jobs in Welsh football one of Osian’s last roles was as manger of Porthmadog FC in the Welsh Premiership.
The Skills Centre was established with financial support from the Welsh Government’s ‘Aggregate Levy Fund’, Magnox’s Socio Economic Fund and a contribution from the Club itself. It was opened for courses at the latter part of September last year and a positive working relationship has been established with training and other providers such as Coleg Meirion Dwyfor, Adult Learning Wales and Citizen’s Advice. By the end of March this year 43 people had undertaken IT courses, 12 had been on a business course, 11 unemployed people had received employability training and several individuals had received professional advice from Citizen’s Advice. The Club’s own ‘Football in the Community’ programme has undertaken a number of ‘Literacy and Numeracy’ courses with a substantial number of local primary schools.
18/04/17
Cyrsiau TG yn ail gychwyn / IT courses re-start

Bydd cyrsiau TG yn ail gychwyn yng Nghanolfan Sgiliau Clwb Pêl-droed Porthmadog dydd Mawrth nesaf 25ain o Ebrill. Os am le neu fwy o wybodaeth cysylltwch a dafyddwynjones@hotmail.co.uk 01766 76 2775/ 07810057444 neu Wendy Cleaver yng Ngholeg Meirion Dwyfor at 01341 422 827 Estyniad 8418.

The IT courses at Porthmadog Football Club’s ‘Skills Centre’ will resume next Tuesday 25th. of April. To book or for further information contact dafyddwynjones@hotmail.co.uk 01766 76 2775/ 07810057444 or Wendy Cleaver at 01341 422 827 Extension 8418
12/04/17
DIWRNOD MAWR Y TRAETH / PORT’S BIG DAY

Cynhelir agoriad swyddogol y Ganolfan Sgiliau yn y Traeth am 4 o’r gloch y prynhawn dydd Gwener nesaf 21ain o Ebrill. Y gwahoddedigion fydd OSIAN ROBERTS, Dirprwy Reolwr Tim Cenedlaethol Cymru a LIZ SAVILLE ROBERTS yr Aelod Seneddol lleol.
Mae croeso cynnes i pawb o’r cefnogwyr fynychu’r seremoni. Yn dilyn yr agoriad bydd seremoni cyflwyno gwobrau’r Academi ac wedyn sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda Osian.
Yn dilyn hyn oll, o gwmpas 7 o’r gloch yr hwyr bydd noson cyflwyno gwobrau y tîm cyntaf a’r tîm o dan 19 oed. Bydd hyn yn arwain at noson gymdeithasol gyda’r timau hyn – gyda cyfle i’r cefnogwyr gymysgu gyda’r chwaraewyr a’r rheolwyr.

The official opening of the Club’s Skills Centre will be undertaken by Wales assistant manager OSIAN ROBERTS and local MP, LIZ SAVILLE ROBERTS next Friday, 21st of April at 4pm.
All our supporters are cordially invited. After the ceremony there will be an Academy presentation ceremony, followed by a Question and Answers session with Osian.
At about 7pm the First Team and Under 19’s presentation evening will commence, followed by an informal social evening when supporters can mix with the players and management.
12/04/17
Tocynnau Talwrn / Radio Cymru recording @Traeth

Bydd Radio Cymru yn recordio noson y Talwrn nos Fawrth nesaf 18ed o Ebrill am 7yh yn y Clwb Cymdeithasol. Mae tocynnau, sydd yn RHAD AC AM DDIM, ar gael yn SIOP EIFIONYDD. Neu cysylltwch a dafyddwynjones@hotmail.co.uk neu ffoniwch 07810057444

FREE tickets for the BBC Radio Cymru recording of popular programme 'Talwrn y Beirdd' at the Traeth Clubhouse next Tuesday evening 18th of April 7pm, a competition between bards, are now available at SIOP EIFIONYDD or by contacting dafyddwynjones@hotmail.co.uk or phone 07810057444
12/04/17
Talwrn y Beirdd ar y Traeth / BBC to record at the Cubhouse

Bydd BBC Radio Cymru yn recordio ei rhaglen hynod boblogaidd ‘TALWRN y BEIRDD’ yn y Clwb Cymdeithasol ar nos Fawrth 18fed o Ebrill am 7 o’r gloch. Bydd mynediad yn RHAD AC AM DDIM.
Ar y noson bydd Y TIR MAWR yn herio BRO ALAW ac i ddilyn Y Llew Coch a Phenllyn yn herio eu gilydd. Croeso Cynnes i bawb.

This is to let supporters know that the BBC will be recording their popular radio programme ‘Talwrn y Beirdd’ at the Traeth Clubhouse on Tuesday, 18th April to commence at 7pm. Entry is free. “Talwrn y Beirdd” is a contest between teams of bards and is unique to Wales.
10/04/17
Ysgol Bêl-droed Y Pasg / Easter Soccer School starts

Bydd Ysgol Bêl-droed Y Pasg ar Y Traeth yn cychwyn yfory (11 Ebrill).
Bydd sesiynau pellach yn cymryd lle ar Ebrill 13eg, 18fed, ac 20fed.
Gwybodaeth: GETHIN JONES 07974033552 neu GI-jones@hotmail.co.uk

The Easter Soccer School starts tomorrow (11 April) at the Traeth between 10am and 1pm.
Further sessions will take place on April 13th, 18th and 20th.
Information: GETHIN JONES 07974033552 or GI-jones@hotmail.co.uk
13/04/17
Gêm ola’r Tymor / Season’s Last Hurrah

Bydd Port yn teithio i Penrhyncoch pnawn Sadwrn yn benderfynol o orffen y tymor ar nodyn uchel a gan wybod fydd buddugoliaeth yn sicrhau y 4ydd safle. Bydd y tîm cartref yr un mor benderfynol i fynd am y triphwynt er mwyn sicrhau eu lle yn y gynghrair.
Cafwyd dau o berfformaiadau gorau’r tymor yn erbyn Dinbych a Cegidfa. Yn ogystal ac ennill y gemau cawsom bêl-droed ardderchog. Cafwyd perfformiadau unigol da ond yn bwysicach, perfformiad tîm cyfan gyda phawb yn cyfrannu at ddwy fuddugoliaeth yn olynol.
Hon fydd y gêm olaf i Penrhyncoch hefyd, tra fod gan y ddau glwb oddi tanynt, Llanfair a’r Wyddgrug, dwy gêm yn weddill. Felly aiff y frwydr i’r diwedd un a thu hwnt.
Y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod roedd angen gôl hwyr Iddon Price i sicrhau gêm gyfartal. Mae 7 o gemau Penrhyn wedi gorffen yn gyfartal a mae ganddynt record amddiffynnol dda. Felly disgwyliwn brawf anodd eto. C’mon Port!

Port will travel to Penrhyncoch on Saturday determined to finish the season on a high and knowing that a win will ensure a 4th place finish. The home team will be equally determined to go for a victory which, in their case, will remove some of their relegation fears.
In their last two games Port have turned in their best performances of the season. Not only did they defeat Denbigh and Guilsfield but played some excellent football. There were many good individual performances but above all it was the great all round team performance which gave Port successive wins.
For Penrhyncoch it will also be the final fixture, whereas Llanfair and Mold immediately below have two more games remaining. The settling of the final relegation spots will go to the wire and beyond and Penrhyn will be looking for three important points. All to play for therefore.
The last meeting between the two clubs ended in a draw with Port needing a 88th minute equaliser for a share of the points. In fact the Roosters have drawn 7 of their games this season and also have good defensve record. All in all it could be another tough challenge on Saturday. C’mon Port!!
10/04/17
Tymor Dan 19 yn gorffen ar nodyn uchel / U19 season ends on a high

Bu’r tymor yn fedydd tân i garfan Dan 19 Port yng Nghynghrair Datblygol Uwch Gynghrair Cymru. I Sion Eifion a’i garfan ifanc byddai jyst cwblhau gemau’r tymor, a cadw’r garfan efo’i gilydd wedi bod yn gryn lwyddiant.
Llwyddodd Sion i wneud llawer mwy na hyn, a ddoe roedd yn medru trydar, “Anodd, ond tymor o ddysgu i fy hogiau Dan 19 eleni. Dechrau’r tymor wrth golli 11-0 a gorffen heddiw gyda buddugoliaeth o 1-0.”
Tymor a gychwynnodd yn gadael tomen o goliau i’w rhwyd yn gorffen gyda Sion Eifion yn troi ei garfan ifanc iawn yn uned gystadleuol. Daeth y llen i lawr ar y tymor gyda buddugoliaeth yn Conwy, gêm gyfartal ar Y Traeth yn erbyn Y Bala a cholli o 3-2 yn Y Rhyl mewn gêm gystadleuol iawn. Ni gyrraeddwyd y pwynt yma heb waith caled ac ymdrech fawr yn erbyn clybiau â phrofiad eang ar y lefel yma.
Erbyn hy gall y prif hyfforddwr edrych ymlaen at y tymor nesaf, gan wybod ei fod ef a’i chwaraewyr wedi defnyddio’r gwersi caled a dysgu ohonynt, a Sion yn trydar, “Yr hyn a ddaw, daw ond mae’n amser cyffrous yn y clwb i bêl-droed ieuenctid. Methu aros am y tymor nesaf!” C’mon Port!

It has been a tough baptism season for the Port U19s in the Welsh Premier Development League. For Sion Eifion and his young squad, just fulfilling their fixtures and keeping the squad together would have been a massive achievement.
He has certainly exceeded that and was able to twitter yesterday, “Tough, but a huge learning curve for my @Porthacademy 19s this year. Started the season with a 11-0 defeat. Finished today with a 1-0 win.”
A season which started shipping goals ended with Sion Eifion turning his very young squad into a competitive outfit. The season concluded with a win at Conwy Borough, a draw at home to Bala and a narrow 3-2 defeat at Rhyl. That is a true achievment and has not been arrived at without considerable hard work and effort against clubs well experienced at this level.
The head coach is now able to look ahead to next season in the knowledge that he and his players will put the hard lessons learned to good use with Sion on twitter able to say, “Whatever will be, this is only the start of an exciting time at the club for youth football. Can't wait for next year!” C’mon Port!
06/04/17
Rhagolwg: Cegidfa / Preview: Guilsfield

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Cegidfa a dwy gêm o’r tymor yn weddill. Daw atgofion diflas o’r tro diwethaf i’r ddau gyfarfod, pan lwyddodd y tîm o’r canolbarth droi o fod gôl tu ôl i ennill 5-1 yn yr ail hanner. Bydd Port felly yn awyddus i wneud yn iawn am yr hullef hwnnw.
Bydd y fuddugoliaeth dros Dinbych y penwythnos diwethaf yn rhoi dipyn o hyder i Port, hyder sydd wedi bod ar goll dros yr wythnosau diwethaf. Yn ystod awr ddiwethaf y gêm gwelwyd pêl-droed gorau’r tymor yn troi mantais o ddwy gôl i Ddinbych yn fuddugoliaeth hwyr i Port.
Y tymor diwethaf gorffennodd Cegidfa yn y 4ydd safle ond ni gafwyd yr un llwyddiant y tymor hwn. Ar ôl y fuddugoliaeth o 5-1 dros Gresffordd neithiwr maent yn yr 8fed safle gan ddod a rhediad gwael i ben; yn colli tair allan o bedair gêm. Os ydy Port am adennill y 4ydd safle fydd angen anelu at dwy fuddugoliaeth yn y gemau sy’n weddill i gadw Fflint a Chaersws draw. C’mon Port.

On Saturday Port travel to Guilsfield for the penultimate fixture of the season. Memories of the last meeting between the two clubs at the Traeth back in September are still the stuff of nightmares, when the mid-Wales club turned a one goal deficit at the interval into a 5-1 victory. Port will therefore travel to Guilsfield keen to make amends for this shocker.
Last weekend’s win over Denbigh Town will give Port the confidence that has been lacking over recent games. During the last hour of the game they played some of their best football of the season coming back from a 2-0 deficit to win the game in added time.
The Guils have not enjoyed the same success as last season when they finished 4th in the table. Currently they are in 8th place following last night’s 5-1 demolition of Gresford which brought an end to a poor run of recent form, losing three out of four.
If Port are to regain the 4th spot they will need to win their last two games to stave off Flint and Caersws. C’mon Port!
04/04/17
Pwy aiff lawr? / Who goes down?

Mae pencampwriaeth yr HGA wedi’i benderfynu ers wythnosau, gyda Prestatyn ben a ‘sgwyddau uwch bawb arall. Ond ar ben arall y tabl, mae’r frwydr i osgoi y cwymp yn bell iawn o gael ei setlo.
Gallai pedwar clwb fynd lawr gyda posibilrwydd bychan o 5 clwb yn ymadael â’r HGA, hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau’r broses drwyddedu. Os digwydd i 5 fynd lawr mae’n nos ar y pump isaf presennol. Yn fwy tebyg fydd y penderfyniadau trwyddedu yn golygu 3 neu 4 yn ymadael â’r HGA. Gall felly fod yn frwydr i’r pen rhwng Bwcle, Llanfair, Conwy, Y Wyddgrug a Penrhyncoch; â’r ansicrwydd yn parhau i’r gêm olaf.
Gall Port fod â rhan yn y penderfyniad terfynol gan fod ein gêm olaf ar Gae Baker, gyda’r triphwynt yn holl bwysig i Penrhyncoch, sydd a’r siawns orau i aros yn yr HGA. Bydd gemau mewn llaw yn allweddol; Conwy efo ond un gêm yn weddill â’r gêm honno yn erbyn Y Wyddgrug sydd â tair ar ôl. Bydd gan Llanfair obaith i osgoi’r cwymp gan fod ganddynt 5 gêm yn weddill ond mae’n edrych yn ddrwg ar Bwcle yn y gwaelod, gyda dwy gêm oddi cartref yn Treffynnon a Chaernarfon i ddod. Digon o densiwn felly cyn i Llanfair â’r Wyddgrug chwarae eu gemau olaf ar 22 Ebrill.

The HGA title has been a foregone conclusion for weeks, with Prestatyn head and shoulders above the rest. But at the other end of the table the relegation battle is anything but done and dusted and will surely go down to the wire.
There is a strong possibility that four clubs will be demoted, or even a slight chance of five, dependent upon the licensing decisions. If five are demoted then the present bottom five looked doomed. On the other hand licensing decisions could mean four or perhaps three clubs are demoted. In that case it will be a real dogfight with Buckley Town, Llanfair, Conwy Borough Mold and Penrhyncoch all involved. The uncertainty could persist beyond the end of the season.
Port could be involved, in that their last game of the season is at Cae Baker against Penrhyncoch and the three points at stake could be vital for the mid-Wales club though they are probably in the strongest position to survive. Games in hand could prove vital; Conwy have just one game remaining against relegation rivals Mold who have three to play. Llanfair could yet survive with five games still to play but things look bleak for Buckley, whose two remaining games are on the road at Holywell and Caernarfon.There is therefore still much to play for before the final curtain comes down on 22 April.
01/04/17
Gwobr Fawr yn y Tote / Bumper prize in March Tote

Y rhifau lwcus yn Tote mis Mawrth oedd 8 ac 15. Roedd un enillydd sef Ken Jones o’r Bala yn ennill £990. Llongyfarchiadau i Ken!
Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener, 7 Ebrill a bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael eu tynnu nos Wener, 28 Ebrill, yn sesiwn Bingo wythnosol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Kaleidoscope, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the Porthmadog Football Social Club monthly Tote for March were 8 and 15. There was one winner Ken Jones, Bala who collects a prize of £990. Congrats Ken!
Any claims must be made by 8pm on Friday 7 April. The next Tote will be drawn on Friday, 28 April at the weekly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Kaleidoscope, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345.
30/03/17
Julian yn ôl / Julian’s back

Heno mae Craig Papirnyk wedi datgelu fod Julian Williams wedi penderfynu dychwelyd i’r Traeth.
Meddai Craig, “Bydd yn dychwelyd â tair gêm yn weddill gan ychwanegu y bygythiad o goliau i’r llinell flaen. Julian yw ein prif sgoriwr a daw yn syth i fewn i’r garfan pnawn Sadwrn. Bydd y newyddion yn codi ysbryd pawb.”
Ymunodd Julian a chlwb Bae Colwyn, sy’n chwarae yn Adran 1af y Gogledd o Gynghrair Evostik, yar ddiwedd mis Ionawr ond bydd ei benderfyniad i ddychwelyd yn rhoi hwb i bawb ar y Traeth. Croeso yn ôl Julian!

A delighted Craig Papirnyk has announced that Julian Williams has decided to return to the Traeth.
Speaking tonight he says, “Julian will return with the 3 games remaining and will add that goal threat we know he brings, he's still our top scorer and he will come straight into Saturday’s squad . It's a great lift for us!”
Julian joined Evostik First Division North club Colwyn Bay at the end of January but has now made the decision to return to the Traeth. Welcome back Julian!
30/03/17
Tom Clarke yn gadael / Tom Clarke leaves the club.

Mae Tom Clarke wedi penderfynu dychwelyd at glwb Glantraeth.
Meddai Craig papirnyk heno, “Roedd Tom yn teimlo y dylai fynd yn ôl i’r clwb a rhoddodd gyfle iddo y tymor diwethaf, gan ei bod yn dioddef rhestr hir o anafiadau.”
Ychwanegodd, “Doeddwn i ddim yn hapus i weld o’n gadael ond gan nad oedd ar gytundeb mae gando hawl i adael. Rwy’n dymuno’n dda iddo.”

Tom Clarke has decided to go back to Glantraeth to finish the season off.
Craig said tonight, “ Tom felt like he owed Glan as they gave him his chance last season , they're struggling with injuries and have a lot of games to play”
He added “I was not happy to see him leave but unfortunately non-contract players can make decisions to leave quite easily . I wish him all the best.”
29/03/17
Rhagolwg: Dinbych / Preview: Denbigh Town

Gyda’r tymor presennol yn tynnu tua’r terfyn croesawn Dinbych ar gyfer gêm olaf o’r tymor ar y Traeth. Mae Dinbych yn yr 8fed safle yn union hanner ffordd. Mewn cymhariaeth â’r tymor diwethaf llwyddianus iawn siomedig braidd fu y tmor hwn. Ond ar hyn o bryd mae Dinbych ar rhediad da wedi ennill eu 4 gêm ddiwethaf yn olynol a hyn yn cynnwys buddugoliaeth o 3-1 dros y pencampwyr Prestatyn a 4-1 dros Fflint. Daw bygythiad wrth Jake Eyre ac Alan Bull ydy eu prif sgorwyr.
Y tro diwethaf i’r ddau glwb gyfarfod roedd yna gyfanswm o 10 gôl. Roedd Port yn 5-1 ar y blaen ar yr hanner cyn i Ddinbych frwydro yn ôl i 6-4. Yn y gêm honno sgoriodd Josh Davies 4 gôl.
Yn ddiweddar bu pethau ar i lawr i Port yn colli 4 o’r 5 gêm ddiwethaf a bydd angen adfywiad pnawn Sadwrn er mwyn cadw lle yn y 5 uchaf. C’mon Port.

The end is nigh for the current season as it winds to a close and, for the final game at the Traeth, we welcome Denbigh Town. Denbigh are in 8th place in the table which is exactly the halfway mark. Following on from last season’s success, this season has been, in comparison, a disappointment though recent form has been impressive. Denbigh are on a run of four straight wins which include a 3-1 victory over champions Prestatyn and a 4-1 win over Flint. In Jake Eyre and Alan Bull they possess plenty of goal threat.
The last time the two met it was something of a goal feast with 10 goals. Port were 5-1 up at half-time with Denbigh fighting back for a 6-4 final score. It was memorable also for 4 goals from Josh Davies.
Port have suffered a recent slump with four defeats in the last five games and will be looking for a revival in fortunes to ensure a top five finish. C’mon Port!
29/03/17
Cosb i Penrhyncoch / Points deducted

Cosbwyd CPD Penrhyncoch drwy dynnu 3 pwynt oddi arnynt am gynnwys chwaraewr anghymwys yn y tîm yn ystod un gêm. Bydd hyn yn eu tynnu agosach at 4 gwaelod y tabl.

Penrhyncoch, our opponents in the last game of the season on 15 April, have been deducted 3 points after admitting to playing an ineligible player in one match. This will draw them into the relegation dog fight.
29/03/17
Adrefnu gêm Penrhyncoch / Rearranged fixture

Adrefnwyd y gêm yn Penrhyncoch ar gyfer Sadwrn 15 Ebrill gyda’r gic gyntaf am 2.30 pm.

The postponed fixture at Penrhyncoch has been re-arranged for Saturday, 15 April with a 2.30pm kick off.
25/03/17
Ysgolion Pêl-droed y Pasg / Easter Soccer Schools

Mae Port yn y Gymuned yn cynnal Ysgolion Pêl-droed ar Y Traeth yn ystod gwyliau’r Pasg ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mawrth 11eg a Dydd Iau 13eg o Ebrill
Dydd Mawrth 18fed a Dydd Iau 20fed o Ebrill
10 am -1 pm £7 y person. Age 6-11

Dewch yn eich gwisg pêl-droed a dewch a dillad cynnes pecyn bwyd hefyd.
Bydd yr hyfforddiant gan staff cymwysiedig, proffesiynol.
I SICRHAU LLE (nifer yn gyfyngiedig)
GETHIN JONES 07974033552 neu GI-jones@hotmail.co.uk

Port FC in the Community will hold a Soccer School at the Traeth during the Easter holidays on the following dates:
Tuesday 11th and Thursday 13th of April.
Tuesday 18th and Thursday 20th of April.
10 am – 1pm £7 per person. Oed 6-11

Come in your football kit and bring warm clothing and a packed lunch.
Coaching will be by Professional, Qualified Coaches
TO BOOK (limited places)
GETHIN JONES 07974033552 or GI-jones@hotmail.co.uk
23/03/17
Ymweliad Gibbo â’r Traeth / A Groundhopper’s Visit

Os hoffech chi ychydig o ddarllen gwerthchweil, darllen sydd a CPD Porthmadog yn y canol, cliciwch ar y blog arbennig yma: gibbos92.wordpress.com Mae’n mynd a ni yn ôl i’r gêm ddarbi rhwng Port a Chaernarfon ym mis Awst. Yna cewch dipyn mwy na sylwadau am y gêm, hanes diwrnod allan i grwp o ‘sboncwyr caeau’ os ydy hynny’n addas am groundhopper! Clywn am daith o 120 o filltiroedd i weld gêm yn y gogledd orllewin, gan gymryd golwg ar y dref a’i hanes, y tafarnau a’r bwytai. Ceir sylwadau doniol, tafod yn y boch, am y lle ac am eu hunain, a byddwch wrth eich bodd yn darllen am y drafodaeth ynglyn â lle i fynd ar y dydd, gyda Gibbo yn dweud, “For me, there was only going to be one winner and that was Porthmadog”. Neu eto “Y Traeth is a cracking little ground” a “Porthmadog are a great little club and definitely worth a visit if you are ever in that part of the world.” Ond llai o’r bach plîs!
Mae yna oriel luniau dda iawn hefyd, gyda baner Seimon mewn dau ohonynt. Cawn syniad o’r hyn sy’n gyrru’r ‘groundhopper’ i deithio i bob cwr, a gorau oll dwedwn i os wnaiff mwy o ddilynwyr y gêm droi at bêl-droed go-iawn, a throi cefn ar gêm y sglein artiffisial, y prisiau afresymol a’r heip. Mwynhewch y darllen.

If you would like a good read with a CPD Porthmadog involvement try this really brilliant blog gibbos92.wordpress.com. The blog takes us back to the local derby between Port and Caernarfon at the Traeth last August. But it is far more than an account of a football match, it is a groundhopper’s 120 mile day trip to north west Wales; takes a look at the town its pubs and its history. There are some great tongue in cheek comments and don’t we just love it when Gibbo, following the ‘where to go’ debate says, “For me, there was only going to be one winner and that was Porthmadog”. Or again, “Y Traeth is a cracking little ground” and “Porthmadog are a great little club and definitely worth a visit if you are ever in the part of the world.” Hey less of the little!
There is a good picture gallery as well with even Simon’s flag captured in two of them. We get a good insight into the way groundhoppers think and operate and indeed the more of us who turn to ‘real’ football the better before the polished, sanitised, expensive, over-glamourised version overtakes us all. Enjoy it.
22/03/17
Gohirio gêm Penrhycoch / Game OFF

Bu’n rhaid gohirio’r gêm, a oedd i’w chwarae heno yn Penrhynoch, oherwydd cyflwr Cae Baker yn dilyn y glaw trwm.

Tonight’s game against Penrhyncoch has been postponed as the Cae Baker ground is waterlogged.
21/03/17
Gwaith ffordd i effeithio'r daith nol o Penrhycoch / Roadworks affect return journey from Penrhyncoch

Deallwn bydd gwaith ar yr A 487 rhwng Porthmadog ac Aberystwyth yn effeithio taith chwaraewyr a chefnogwyr yn ôl o’r gêm rhwng Penrhyncoch a Port nos yfory (22 Mawrth).
Bydd y ffordd AR GAU yn Derwenlas, i’r de o Fachynlleth, rhwng 8 pm a 6.30 am y bore wedyn. Yn anffodus bydd y daith yn ôl yn cael ei dargyfeirio drwy Llangurig, Llanidloes, Caersws a Cemaes Road; taith o 96 milltir o Benrhyncoch i Borthmadog. Bydd hyn yn ychwanegu 40 milltir at y daith adref.
Dywedodd Craig hefyd fod yna farc cwestiwn ynglyn a chyflwr y cae, felly edrychwch ar y wefan a’r Trydar am y wybodaeth ddiweddaraf.

It has come to light that work being carried out on the A 487 road between Porthmadog and Aberystwyth could seriously affect the return journey of players and supporters from the Penrhyncoch v Porthmadog game tomorrow night (22 March)
The road will be CLOSED at Derwenlas south of Machynlleth at 8pm and remain closed until 6.30 am on the following morning. Unfortunately there is no reasonable diversion and the suggested route is via Llangurig, Llanidloes. Caersws and Cemaes Road, a journey of 96 miles from Penrhyncoch to Porthmadog. The detour will mean an additional 40 miles.
Craig reports that at the moment there is a question mark over the state of the pitch so please check on this website and on Twitter.
20/03/17
Cefnogi’r Cais i sicrhau grantiau ar gyfer datblygu’r Ganolfan Sgiliau / Supporting the Club’s attempts to secure grant aid to develop the Skills Centre

Mae’r Clwb am atgoffa y rhai hynny sydd yn gefnogol i’r ymgais i geisio sicrhau grantiau ar gyfer datblygu y Ganolfan Sgiliau at y Traeth bod angen iddynt arwyddo y ffurflen bwrpasol cyn gynted a phosib gan bod rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn dyddiad olaf y mis hwn. Mae ffurflen ar gael oddiwrth dafyddwynjones@hotmail.co.yk neu ffonio 01766 76 2775 / 07810057444, gan rhai o’r gwirfoddolwyr neu Siop Kaleidoscope. Y mwyaf o enwau a gesglir y goreu!

The Club would like to remind those that support its attempts to secure grant aid towards developing the Skills Centre project that, if they haven’t already done so, could they sign the relevant form. The closing date for applications is the 31st of this month. If you want a copy of the relevant form please contact dafyddwynjones@hotmail.co.uk or telephone 01766 76 2775 / 07810057444. It is also available from some of the Club’s volunteers or at Kaleidoscope, Madoc Street. The more signatures the better!
17/03/17
Rhagolwg / Preview: Gresfordd

Gydag ond pedair gêm o’r tymor yn weddill bydd Port yn teithio i Gresffordd pnawn Sadwrn. Mae’r clwb o Wrecsam wedi cael tymor da iawn ac yn y 3ydd safle yn y tabl. Ar ôl bod ar rhediad o chwe buddugoliaeth yn olynol mae Gresffordd wedi colli eu dwy gem ddiwethaf yn erbyn Caersws a Prestatyn. Ond ers i Steve Halliwell gymryd yr awenau yn Clappers Lane mae Gresffordd wedi bod dringo’r tabl ac wedi mwynhau tymor arbennig. Cychwynnodd Halliwell ei gyfnod fel rheolwr gyda dwy gêm ar y Traeth gyda Port yn ennill y gêm gwpan ond Gresffordd yn sicrhau 3 phwynt yn y gêm gynghrair, diolch i gôl hwyr Jack Challinor.
Gyda Port yn y 5ed safle a 5 pwynt tu ôl i Gresffordd, bydd angen iddynt godi eu gêm yn dilyn colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf. Byddant yn awyddus i wneud yn iawn yn dilyn colli yn erbyn Caersws y Sadwrn diwethaf, wrth i’r clwb o’r canolbarth sgorio ddwywaith yn yr amser ychwanegol. Felly amdani Port!

With just four games of the season remaining Port travel to third placed Gresford Athletic on Saturday. Following a run of six straight wins Gresford have lost their last two matches against Caersws and Prestatyn. The Wrexham area club have, however, had a great season and have enjoyed a great run of form since Steve Halliwell was promoted to the role of manager. His first two games in charge were both at the Traeth back in November. Port were winners of the Welsh Cup tie on penalties but Gresford won the league encounter thanks to a late goal from Jack Challinor.
With Port in 5th place five points now separate the two clubs and to maintain a fifth place or better Port will need to shake off recent form of three league defeats in the last four games. They will be especially eager to put things right after seeing three points disappear in added time against Caersws. So C’mon Port!
12/03/17
Y Clwb Pêl-droed yn mynd yn ddiwylliannol / Port FC goes cultural

Bydd BBC Radio Cymru yn recordio ei raglen hynod boblogaidd ‘TALWRN y BEIRDD’ yn y Clwb Cymdeithasol ar nos Fawrth 25ain o Ebrill. Bydd mynediad yn RHAD AC AM DDIM ond bwriadai’r clwb argraffu tocynnau maes o law er mwyn sicrhau bod pawb sydd a gwir ddiddordeb yn cael sedd.
Am fwy o wybodaeth dafyddwynjones@hotmail.co.uk neu ffonio 07810057444 / 01766 76 2775

BBC Radio Cymru will be recording one of its most popular programmes, “Talwrn y Beirdd”, at the Traeth Clubhouse on Tuesday evening 25th. of April with free entry. However, the Club will be issuing tickets to make sure everyone with a real interest can book their seats. “Talwrn y Beirdd” is a contest between teams of bards and is unique to Wales. The series is one of the most popular on Welsh radio. At times It can be serious but mostly it is very light hearted covering a multitude of issues especially current events and affairs.
More information from dafyddwynjones@hotmail.co.uk or telephone 07810057444 / 01766 76 2775
09/03/17
Rhagolwg /Preview: Caersws

Caersws Byddwn yn croesawu Caersws i’r Traeth pnawn Sadwrn. Yn dilyn y gêm hon, does ond un gêm arall ar ôl ar Y Traeth y tymor hwn. Fel bob amser, byddwn yn disgwyl gêm gystadleuol. Mae’r ddau glwb eisoes wedi cyfarfod ddwywaith, gan sicrhau buddugoliaeth yr un. Enillodd Port yn gyfforddus o 4-0 yng nghwpan Cymru gyda’r Sws yn talu’r pwyth yn ôl ar Y Rec o 3-1.
Roedd gan Caersws gêm yng nghanol wythnos, yn colli gartref o 3-0 yn erbyn Penrhyncoch ac yn gorffen y gêm gyda 9 chwaraewr yn unig yn dal ar y cae. Cafodd Will Thomas a Paul Grant gardiau coch. Bu Caersws ar rediad anodd o gemau yn ddiweddar yn chwarae’r tri uchaf yn y gynghrair; yn colli mewn brwydrau agos yn erbyn Prestatyn a Caernarfon ond, yn curo Gresffordd o 5-3. I danlinellu anghysondeb Caersws y tymor hwn, collwyd yn Rhuthun o 6-1.
Cymysg bu canlyniadau diweddar Port hefyd. Cafwyd perfformiad amddiffynnol cry’ yng Nghaergybi ond methu creu fawr ddim ym mhen arall y cae. Gyda 5 gêm yn weddill rhaid edrych i glosio at Fflint a Gresfordd gan gadw’r pwysau ar Gresffordd, ein gwrthwynebwyr y Sadwrn nesaf.
Erbyn hyn mae Gareth Jones Evans wedi derbyn llaw driniaeth i’w droed. Dymunwn yn dda iddo, gan edrych ymlaen at ei weld yn ôl ar ddechrau’r tymor nesaf. C’mon Port!

Caersws were in league action in midweek going down 3-0 at home to mid-Wales rivals Penrhyncoch and had just 9 players on the pitch at the end of the 90 minutes. Both Will Thomas and Paul Grant received their marching orders. Our opponents have had a tough run of fixtures recently, playing the top three in the league; going down in close games to Prestatyn and Caernarfon but but gaining a good 5-3 win at Gresford. Underlining the inconsistency of Sws performances they went down 6-1 at Ruthin.
Port’s recent form has also been very mixed. There was a good defensive performance at Holyhead in the League Cup but few chances were created at the other end. With 5 games left Port will be looking to close the gap on the two clubs above them and a win will put pressure on 3rd placed Gresford who will be our opponents next weekend.
We wish Gareth Jones Evans a good recovery following his operation for a long term ankle injury and look forward to seeing him back in top form next season. C’mon Port!
We welcome Caersws to the Traeth on Saturday for a league fixture. After this game we have just one fixture remaining at the Traeth before the curtain comes down for another season. The old rivals from Welsh Prem days always provide a competitive game. The two clubs have already met twice this season, sharing the spoils. Port were comfortable 4-0 winners in the Welsh Cup tie at the Traeth with the Sws winners at the Rec by 3-1.
08/03/17
Datblygu’r Ganolfan Sgiliau a’r Ddarpariaeth Hyfforddi / Developing the Skills Centre and Training/Skills Opportunities

Ers ei agor ddiwedd mis Medi llynedd mae’r Ganolfan Sgiliau ar y Traeth wedi mwy na ennill ei phlwy fel gwasanaeth hyfforddi ar gyfer y gymuned. Cynhaliwyd tri cwrs Technoleg Gwybodaeth llwyddiannus rhwng dechrau Hydref a’r Nadolig llynedd a’r un yw’r sefyllfa ers ail ddechrau’r rhaglen ym mis Ionawr. Bellach ychwanegwyd pedwerydd cwrs ar fore Llun. Mae 43 o bobl wedi cymryd y cyfle i ddatblygu eu sgiliau technegol. Yn ogystal, mae Addysg Oedolion Cymru (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr cynt) yn rhedeg cwrs 10 wythnos sydd yn helpu pobl diwaith i ddatblygu eu sgiliau er mwyn gwella eu siawns o sicrhau swydd. Mynychir y cwrs gan 11 o bobol.
Mae Cyngor Ar Bopeth yn cynnig cyngor amrywiol a chyfrinachol ar pob math o bynciau pob bore Mercher.
Ar y 31ain o Fawrth cynhelir cwrs un dydd i fusnesau ar ddefnyddio y cyfryngau cymdeithasol i farchnata eu gwasanaeth a’u nwyddau a’r gobaith yw y bydd yn un o nifer o gyrsiau caiff eu darparu ar gyfer busnesau lleol. Mae’r cwrs a gynhelir at y 31ain o Fawrth eisoes wedi ei lenwi.
Yn sgîl y llwyddiant hwn bwriadai’r Clwb yn awr gyflwyno cais am grantiau ar gyfer helpu datblygu y gwasanaeth a’r arlwy dros y blynyddoedd nesaf gyda’r nod o helpu cyn gymaint a phosib o bobl leol i ddatblygu eu sgiliau a gwella eu cyfleoedd gyrfaol. Ond os am lwyddo bydd angen cefnogaeth ein cefnogwyr ac eraill yn yr ardal. I’r perwyl hwn, paratowyd ffurflen arbennig a gofynir i’r rhai sydd yn awyddus i gefnogi’r fenter, yn ogystal a’i teuluoedd a’u ffrindiau, i arwyddo honno. Caiff hon ei ddosbarthu yn ystod ein gêm yn erbyn Caersws ddydd Sadwrn gan rhai o wirfoddolwyr y clwb, mewn siopau lleol ac mae ar gael hefyd yn electroneg oddiwrth dafyddwynjones@hotmail.co.uk 01766 76 2775 neu 07810057444

Since it opened its doors last September the Traeth’s Skill Centre is already proving in demand with local people. Three IT courses were held between the beginning of October and Christmas last year and the new programme, launched in January, is just as successful. Indeed another IT course has been added every Monday morning since last month. 43 have registered for these courses over the period. Adult Learning Wales (previously the Workers Education Association) has started a 10 week course to help unemployed people develop skills that can assist them in securing a job. 11 people are currently attending.
Citizen’s Advice hold regular confidential advice sessions on a range of issues every Wednesday morning between 10am and 1pm.
Scheduled for the 31st. March is a one day course for businesses that want to promote their goods and services through using social media and is already filled. This, hopefully, will be the first of many opportunities aimed at local businesses.
As a consequence of this demand the Club is now preparing a grant application to help secure funding that will help to develop more comprehensive training services and target more people looking to enhance their career opportunities within the area that are looking to develop and enhance their skills. If it is to succeed then the help of its supporters is essential. A special form has been produced to show support for the project and all that supporters need to do is to sign their names and addresses and encourage friends and family to do so also. No other commitment! The forms will be available at the game against Caersws on Saturday from some of the Club’s volunteers, local shops or electronically from dafyddwynjones@hotmail.co.uk 01766 76 2775 or 07810057444
07/03/17
Agoriad Swyddogol y Ganolfan Sgiliau, Canolfan Osian / Official Opening of the Skills Centre

Cyhoeddwyd bod agoriad swyddogol y Ganolfan Sgiliau wedi ei drefnu ar gyfer Gwener 21ain o Ebrill a hynny gan Osian Roberts, Dirprwy Reolwr Tim Peldroed Cenedlaethol Cymru. Yn wir penderfynodd y Clwb ei fod am enwi’r ganolfan ar ol ei gyn reolwr a ‘Canolfan Sgiliau Osian Roberts’ fydd yr enw newydd o hynny ymlaen.
Yn ôl y Cadeirydd, Phil Jones, “‘Roedd cyfnod rheolaeth Osian a Viv Williams ar y Traeth yn un o’r rhai mwyaf cyffrous yn ein hanes. Ac fe sefydlwyd safonau a phroffesiynoldeb sydd wedi parhau hyd heddiw. ‘Roedd yn amlwg adeg hynny y byddai Osian yn gwneud marc ar y byd pêl-droed yng Nghymru ac, bellach, mae ei enw i lawr mewn hanes ein cenedl”.
Cyhoeddir mwy o wybodaeth am yr achlysur maes o law.

It has been announced that the official opening of the Skills Centre at the Traeth will be undertaken on Friday 21st April by Wales assistant manager, Osian Roberts, a former manager at the Club. In fact the Club has resolved that the centre be named ‘The Osian Roberts Skills Centre’.
Chairman Phil Jones said, “Probably one of the most exciting periods in our history was when we had Osian and Viv Williams as a management team at the Club. A thoroughly professional attitude was established based on proper coaching and skills development. Gladly this attitude prevails today. It was obvious at that time that Osian would make a significant mark and contribution to football in Wales and he has secured his place in the history of our nation”.
There will be more information available about the arrangements soon.
DWJ
04/03/17
Sion, Chwaraewr y Mis / Sion, Player of the Month

Llongyfarchiadau mawr i Sion Bradley sydd wedi’i enwi yn Chwaraewr y Mis yn Nghynghrair Huws Gray am fis Chwefror.Noddwyr y wobr ydy Gwaith Brics Wrecsam. Cafwyd perfformiadau arbennig gan Sion yn ystod y mis gan ennill iddo y nifer fwyaf o enwebiadau chwaraewr. Mae’r chwaraewr ifanc o Flaenau Ffestiniog ar fenthyg o Fangor ac yn barod yn ffefryn ar Y Traeth gyda’i berfformiadau bywiog, dawnus. Dal Ati Sion!!
Yn anffodus oherwydd rheol bisâr sy’n rhwystro chwaraewyr sydd wedi chwarae yng Nghwpan Cynghrair y WPL, i chwarae yng Nghwpan Cynghrair Huws Gray, nid oedd Sion ar gael i chwarae yn y gêm yng Nghaergybi!!
Llongyfarchiadau hefyd i Steve Halliwell o Gresffordd yn Rheolwr y Mis. Mae ganddo record arbennig er cymryd yr awenau ar Clappers Lane.

Highslide JS

Congratulations to Sion Bradley, who is the Huws Gray Player of the Month for February. The award is sponsored by Wrexham Brickwork. Impressive performances from Sion have earned him the highest number of Man of the Match awards during the month. The young player from Blaenau Ffestiniog is currently on loan from Bangor City and has quickly made himself a Traeth favourite with his energetic and skilful performances. Keep up the good work Sion!
Unfortunately Sion was cup-tied and ruled out of the Legue Cup tie at Holyhead due to a bizarre ruling that players who have already played in the WPL League Cup cannot play inthe HGA League Cup!!
Well done also to Steve Halliwell of Gresford the Manager of the Month who has a remarkable record since taking over at Clappers Lane.
02/03/17
Ein gwrthwynebwyr pnawn Sadwrn / Our Cup opponents

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Gaergybi am y gêm yng Nghwpan Huws Gray. Bydd y gic gyntaf am 2 o’r gloch. Er yn cael tymor braidd yn anghyson; ar ei dydd pan yn chwarae adref maent yn wrthwynebwyr peryglus iawn. Dangoswyd hyn wrth iddynt guro Caernarfon o 3-1 yn ddiweddar er i’r Cofis fod heb eu golwr Alex Ramsey a yrrwyd o’r cae wedi 30 munud. Cafodd eu gêm yr wythnos ddiwethaf yng Nghaersws ei ohirio oherwydd cyflwr y cae. Port aeth a hi yn y ddwy gêm gynghrair rhwng y ddau glwb; 3-1 yng Nghaergybi a 3-0 ar Y Traeth. Ond gêm Gwpan fydd hon gyda’r ddau glwb yn awyddus i barhau â’u diddordeb yn y gystadleuaeth. Bydd yr enillwyr adref yn erbyn Caernarfon ar nos Fercher, 16 Mawrth.

On Saturday Port travel to Holyhead for a Huws Gray Cup tie which will kick off at 2pm. Hotspurs are having an inconsistent season but clearly on their day and on their own ground can be very difficult opponents. They proved this with a 3-1 win over Caernarfon a month ago though the Cofis had their keeper Alex Ramsey sent off after 30 minutes. Their fixture last weekend at Caersws was postponed due to a waterlogged ground. Port have won the two league encounters 3-1 at Holyhead and 3-0 at the Traeth. But on Saturday both clubs will be looking to continue their challenge for the Huws Gray Cup and look to extend interest in the current season The winners will entertain Caernarfon Town on Wednesday, 16 March.
01/03/17
Gêm Gwpan Huws Gray / Saturday’s Quarter Final

Mae yna newyddion positif am y garfan wrth inni edrych ymlaen at y gêm yng Nghaergybi. Dywedodd Craig Papirnyk:
“Bydd Gareth Jones Evans yn dychwelyd i’r garfan gan fod ei law driniaeth wedi’i ohirio ac mae Ceri James a Joe Williams wedi gwella. Roedd Tom Clarke yn ymarfer neithiwr ac heb gael unrhyw broblem gyda’r anaf i linyn y gar. Bydd hyn yn cryfhau’r garfan gan gynnig gwell opsiynau. Ond mae Gruff John yn dal i wella ond heb fod yn ddigon ffit at bnawn Sadwrn.
“Cafwyd buddugoliaeth dda iawn wrth inni ddal ati a brwydro yn erbyn Y Fflint. Roeddwn yn falch iawn o’r 11eg chwaraewr ar gael pnawn Sadwrn. Yng Nghaergybi, sydd yn le digon anodd, bydd angen dangos yr un cymeriad gan rhoi’r cyfan. Mae’n gêm sydd yn rhoi y cyfle inni groesawu Caernarfon yn y rownd cynderfynol. I wneud hyn bydd angen cymryd y cam pwysig pnawn Sadwrn. Rym wedi bod yn edrych ymlaen at y gêm ers dipyn ac mae’r hogiau yn awchu am lwyddiant y tymor hwn. C’mon PORT!!"

We have some positive squad news ahead of Holyhead fixture. Craig Papirnyk reports:
“Gareth Jones-Evans will return as his ankle operation has been postponed, Ceri James and Joe Williams are over their illnesses and Tom Clarke trained last night with no problems following on from his Hamstring strain, this will strengthen the squad really well and give us good options. Gruff John however is still struggling and will not be available for selection.
“Saturday was a great win and battling performance at Flint, I was very proud of the X1 players we had available. This coming weekend we will need to show the same character and give it our all at Holyhead, never an easy place to go. It is a quarter final with an opportunity of hosting Caernarfon for the winner at home in the semi final, so we will give everything we have to make sure we get one step closer to the final this coming weekend. We have been looking forward to this game for some time and I know the lads are hungry for some success this season . COME ON PORT !”
01/03/17
Rheswm am newid dyddiad / Reason for fixture change

Mae Craig Papirnyk wedi ymddiheurio i gefnogwyr fydd yn cael trafferth i deithio i Penrhyncoch, ar noson yng nghanol wythnos, yn dilyn adrefnu’r gêm o’r pnawn Sadwrn (25 Mawrth) i’r nos Fercher cynt, 22 Mawrth.
Eglurodd Craig, “Roedd y gêm wedi’i threfnu’n wreddiol ar yr un penwythnos a’r gêm gymhwyso Cwpan y Byd rhwng Iwerddon a Chymru ac mae nifer o chwaraewyr o’r ddau glwb yn bwriadu teithio i Ddulyn. Felly mae’r clybiau wedi cytuno i newid y dyddiad.”

Craig Papirnyk has apologised to supporters for the change of date for the Penrhyncoch fixture. He explains,
“It was scheduled for the same weekend as Ireland v Wales World Cup Qualifier on Saturday 25th March and we have a few players going over as do Penrhyncoch so we have agreed to re-arrange to switch the fixture for March 22nd, a Wednesday evening.
“I’d like to apologise to the supporters for this change as I realise it will not be easy for most of you to travel late midweek and I understand it may cause difficulties for our faithful fans to attend.”
Newyddion cyn 01/03/17
News before 01/03/17

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us