Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Ail-dîm / Reserves  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
28/04/16
Cyrsiau Pêl-droed ar Y Traeth / Football courses at The Traeth

Bydd dau gwrs o ddiddordeb i rhai sy’n gwirfoddoli i glybiau lleol yn cael eu cynnal ar Y Traeth ar ddechrau mis Mai. Ceir y wybodaeth am wneud ceisiadau ar wefan gyrsiau y Gymdeithas Bêl-droed.
Cymorth cyntaf: 3 Mai. Amser: rhwng 6.30pm a 9.30pm Pris: £25 www.fawcourses.com/
Lles a Diogelu Plant: 5 Mai Amser: rhwng 6.30pm a 9.30pm. Pris:£25 www.fawcourses.com/

Two courses, which will be of interest to many involved with local football, are to be held at The Traeth, Porthmadog during early May. Application information can be found on the FAW Courses website.
FAW First Aid Award: 3 May Time: 6.30pm – 9.30pm Cost: £25 www.fawcourses.com/
FAW Safeguarding Award: 5 May Time 6.30pm-9.30pm Cost: www.fawcourses.com/
25/04/16
Cam mlaen i Penrhyncoch / Penrhyncoch take a step closer

Mae CPD Penrhyncoch wedi symud cam arall tuag at ddyrchafiad wrth i’w cae bellach gyrraedd criteria’r HGA. Hefyd caewyd y bwlch ar y top wrth i’r clwb o ardal Aberystwyth guro Trefaldwyn pnawn Sadwrn, tra fod ei prif gwrthwynebwyr Trefyclo yn colli ym Machynlleth.

Penrthyncoch FC moved a step close to promotion when Cae Baker met the HGA criteria. They also closed the gap at the top of the table with a win over Montgomery while their main rivals, Knighton slipped up at Machynlleth.
24/04/16
Port yn Treffynnon /Port travel to Holywell

Pan fydd Port yn teithio i Dreffynnon nos Fercher, bydd yna 22 o ddyddiau wedi mynd heibio ers iddynt chwarae ei gêm ddiwethaf! Achoswyd hyn gan y nifer fawr o gemau sydd gan rhai clybiau i’w chwarae cyn diwedd y tymor ond mae hyn yn bell o fod yn ddelfrydol, yn enwedig â gêm yn erbyn Y Derwyddon yn aros i’w chwarae ar 2 Mai. Gallai hon fod yn un bwysig iawn.
Bydd y ddau glwb yn dod i’r gêm hon, nos Fercher, ar ôl colli adref o 2-0 i Gaersws, â’r clwb o’r canolbarth yn brwydro’n galed i gadw ei lle yn yr HGA. Felly nos Fercher, bydd Port a Threffynnon yn awyddus i godi eu gêm a gorffen y tymor ar nodyn cadarnhaol. Gyda’r gêm eisoes wedi’i gohirio ddwywaith gobeithio fydd y tywydd yn parhau yn sych ar gyfer y drydedd ymgais. Bydd y gic gyntaf ar Ffordd Halkyn am 7.45pm. Amdani Port!

When Port travel to Holywell on Wednesday for a 7.45 kick off, 22 days will have elapsed since they last played a game!! The fixture pileup and postponements has brought this about but it is hardly a satisfactory situation, with a key fixture at home to Cefn Druids awaiting us on Monday, May 2nd.
Both clubs will come into this game having fallen victims of the Caersws fight to save their HGA status. In their most recent games both Port and Holywell went down by 2-0 at home to the mid-Wales club and will be looking to avoid ending the season on a low note. After two postponements let’s hope the dry weather continues and it will be a case of third time lucky at Halkyn Road. C’mon Port!
21/04/16
Pwy ddaw fyny? / Who comes up?

Ychydig bellach sydd yn weddill o’r tymor hwn a Chaernarfon yn debygol o orffen ar y brig ond gyda penderfyniad yr apêl i wrthod y drwydded yn dipyn o syndod ac yn newid deinamig yr HGA yn llwyr. Hefyd mae ein diddordeb yn troi at y cwestiwn o bwy ddaw i fyny. Erbyn Chwefror 1af dim ond dau glwb –Llangefni a Rhuthun- oedd wedi cyrraedd y criteria ar gyfer ennill dyrchafiad.
Er mwyn sicrhau eu lle yn yr HGA bydd rhaid i Langefni orffen yn y safle cyntaf, neu ail yn y Welsh Alliance. Mae’n bosib i’r clwb o Ynys Môn wneud hyn ond mae gan Bae Trearddur, Cyffordd Llandudno a Glantraeth hefyd siawns, a felly bydd rhaid dal i aros a gweld. Gyda’i cyfleusterau da bydd yna groeso ‘nol i Llangefni.
Bydd yn anodd i Rhuthun sicrhau dyrchafiad o’r WNL eleni ond mae FC Nomads, Brymbo a Queen’s Park yn dal yn y ras ond nid yw ‘run o’r tri wedi cyrraedd y criteria, a bydd rhaid apelio cyn Ebrill 30 a gorffen yn gyntaf neu ail yn y tabl. Yn y Canolbarth rhwng Trefyclo a Penrhyncoch mae’r frwydr, ond eto bydd angen iddynt gael eu cyfleusterau wedi’u hail asesu. Trefyclo sydd ar y blaen ond ar ôl gemau neithiwr (Mercher) mae Penrhyncoch wedi cau’r bwlch, a hefyd ganddynt dwy gêm mewn llaw.
Mae’r cyfan felly yn dal yn agored ac yn ddibynnol ar gyrraedd y criteria, neu fydd un neu ddau o clybiau yn cadw eu lle yn yr HGA.

With little left of the current season and Caernarfon Town looking set to be champions, though the FAW appeals decision to refuse a licence has put the cat amongst the pigeons, interest also turns to promotion matters. By the first deadline on February 1st only two clubs had achieved the required criteria for promotion to the HGA –Llangefni Town and Ruthin Town.
To achieve promotion Llangefni will need to finish in at least second place in the Welsh Alliance. They can achieve this but Trearddur Bay, Llandudno Junction and Glantraeth are all in with a shout so it remains a case of wait and see. With their good facilities Llangefni would be a welcome addition to the HGA.
Ruthin are less unlikely to gain promotion from the WNL but FC Nomads, Brymbo and FC Queen’s Park have all applied and remain in the race for the WNL title. These clubs however failed to meet the criteria, so will need to appeal and meet the criteria before April 30th. They will also need to finish in first or second place in the table.
In Mid-Wales it lies between Knighton and Penrhyncoch, both of whom will need to have their facilities reassessed. Knighton are currently in the top spot but Penrhyncoch closed the gap after last night’s (Wed) games and also have two games in hand.
It all remains wide open and, if the criterion is not met, it could mean survival for one or two clubs battling for survival at the bottom of the HGA.
20/04/16
Gêm Ail-dîm ffwrdd / Reserve match OFF

Bu’n rhaid gohirio’r gêm Ail-dîm yn erbyn Dinbych heno gyda Port yn methu codi tîm. Ymddiheuriadau i’n gwrthwynebwyr.

Tonight’s reserve match at Denbigh is Off as Port disappointingly have been unable to raise a team. Apologies to our opponents.
16/04/16
Ail-dîm gêm Adre / Reserves at Home

Bydd yr Ail-dîm yn chwarae Ail-dîm Bae Colwyn ar y Traeth am 2.30pm heddiw (16 Ebrill) mewn gêm wedi’i hadrefnu.

In a re-arranged fixture Port Reserves will be at home to Colwyn Bay Res at the Traeth this afternoon. Kick off 2.30pm.
15/04/16
Edrych yn ôl ar y Tymor / Review of the season

Gyda’r clwb heb gêm arall tan 27 Ebrill ac ond dwy yn weddill y tymor hwn, efallai bod hi’n gyfle i fwrw golwg yn ôl ar y tymor.
Byddai’n deg dweud mai tymor o dan gyflawni fu’r tymor hwn, er fod yna gyfnodau lle bu safon y pasio a’r symud a’r adeiladu o’r cefn yn ardderchog. Ond yn anffodus heb y goliau roedd y chwarae yma’n haeddu. Sawl tro mae Port wedi ymosod y ddi-baid am yr hanner awr cyntaf o gemau ond eto yn methu sgorio ac, yn rhy aml, y tîm arall yn manteisio drwy torri’n sydyn a chanfod y rhwyd.
Hefyd collwyd nifer o gemau o un gôl yn unig –ddwywaith yn erbyn Caernarfon a hefyd mewn gemau fel y rhai yn Y Fflint Gresffordd a Chegidfa.
O’r 28 gêm gynghrair eleni mae Port wedi ennill 13 ond yn colli un gêm yn fwy na hynny. Yn rhyfeddol efallai dim ond un gêm gyfartal fu drwy’r tymor! Pe byddai ond rhyw ychydig o’r gemau yma wedi gorffen yn gyfartal byddai Port yn brwydro i orffen yn y pump uchaf. Mae Iddon Price Iwan Lewis, Josh Banks, Gruffydd John Williams, Richard Harvey a Cai Jones i gyd wedi dechrau dros ugain o’r gemau cynghrair yn ystod y tymor. Siom hefyd bu’r ddwy gystadleuaeth Gwpan.
Julian Williams ydy’r prif sgoriwr gyda 11 o goliau ac, er nad yw’n nifer fawr, yn eu mysg mae sawl gôl gofiadwy yn enwedig cracyr o gôl yn yr Oval. Heb os mae’r tîm wedi methu goliau Josh Davies y tymor hwn. Yn 2014/14 rhwydodd 21 o goliau cynghrair ond yn 2015/16 mae wedi cario anaf drwy’r tymor ac yn dechrau ond 8(+9) o weithiau ond eto yn llwyddo i sgorio 6 gôl.
Gadawyd cefnogwyr ar y diwedd efo teimlad braidd yn siomedig. Ond wrth edrych ymlaen mae cnewyllyn tîm da yma’n barod a pe fyddai’n bosib ychwanegu rhyw dri o chwaraewr profiadol, allai pethau fod tipyn yn wahanol y tymor nesaf.

With no more fixtures until 27 April and just two games of the 2015/16 season remaining it might be a good time to take stock.
It would be fair to say that this has been a season of under achievement. There have been times, when the quality of the passing and movement and general approach play has been excellent but, too often without bringing any end product in terms of goals. How many times have Port absolutely dominated the opening half hour of games yet fail to score and too often as a result going behind after being hit on the break.
Many games have been lost by the odd goal, twice against league leaders Caernarfon, Flint, Gresford and Guilsfield. A look at the results with 28 games played shows that Port have won 13 of their league games with one more game lost at 14 but only one game has been drawn all season. Had just a few of these defeats been turned into draws then Port could now be challenging for a top five finish. Iddon Price Iwan Lewis, Josh Banks, Gruffydd John Williams, Richard Harvey and Cai Jones have all started 20+ league games this season. Both Cup competitions also proved to be a disappointment.
Julian Williams is the leading scorer on 11 goals and, though not prolific, has scored some memorable goals especially his super strike at the Oval. We have undoubtedly missed Josh Davies’s goals this season. In 2014/15 he played in all 30 league games netting 21 league goals, whereas in 2015/16 he has carried an injury throughout, managing only 8 (+9) starts yet still scoring on six occasions.
Supporters this season have been left with a feeling of what might have been. The nucleus of a good sided already exists and should the club be able to recruit two or three experienced players then next season could see Port challenging nearer the top of the table.
13/04/16
Adrefnu gemau / Rearranged Fixtures

Mae’r gêm rhwng Treffynnon a Port sydd i’w chwarae ar gae Ffordd Helygain wedi’i adrefnu ar gyfer nos Fercher, 27 Ebrill gyda’r gic gyntaf am 7.45pm.
Er fod y gemau tîm cyntaf y prysur dod i ben mae yna ddigon o gemau Ail-dîm yn weddill gan gynnwys gêm heno yng Nghaergybi gyda’r gic gyntaf am 7.45. Isod hefyd gweler y gemau nesaf i’r Ail-dîm.

20/4 Dinbych /D’bigh v Port 7.30pm
23/4 Glan Conwy v Port 2.30pm
25/4 Llanrug v Port 6.30pm
30/4 Port v Llandyrnog 2.30pm

The game between Port and Holywell Town will now be played at Halkyn Road on Wednesday 27 April with a 7.45pm kick off. Let’s hope its third time lucky!
Though the first team fixtures are running out there remain plenty o reserve team fixtures. Tonight they play at Holyhead ko 7.45. The next batch of fixtures is noted above.
12/04/16
Colli Ishmael Jones / The Passing of Ishmael Jones

Bu farw aelod arall o dim amatur adnabyddus a llwyddiannus CPD Porthmadog o’r 50egau y ganrif ddiwethaf yn ddiweddar. ‘Roedd Ishmael Jones yn 92 oed ac yn byw yn Llanbedr ger Harlech. Ef oedd cefnwr chwith digyfaddawd y tîm hwnnw a enillodd Cwpan Amatur Cymru yn 1956 a 1957 yn ogystal a Cwpan Amatur Gogledd Cymru dros yr un cyfnod. ‘Roedd ganddo daran o ergyd gyda’i droed chwith ac yn chwaraewr corfforol a chaled. Ymestynnwn ein cydymdeimlad â’i deulu. Cynhelir y gwasanaeth yng Nghapel Salem, Llanbedr am 10 o’r gloch y bore dydd Sadwrn 16 o Ebrill.

Another of the famous and successful Porthmadog Amateur side of the 1950’s has sadly passed away. Ishmael Jones of Llanbedr near Harlech was 92 years old. He was one of the kingpins of the side that won the Welsh Amateur Cup in 1956 and 1957 as well as the North Wales Amateur Cup in both years. He was a solid, uncompromising left back who had a thunderous shot. Our thoughts are with his family. Ishmael will be laid to rest at Capel Salem, Llanbedr at 10am on Saturday 16th. of April.
09/04/16
Gohirio gêm eto / Game OFF again

Gêm heddiw wedi’i gohirio yn dilyn 12 awr o law cyson yn Nhreffynnon â’r cae dan ddwr. Tymor anghredadwy!

Today’s game at Holywell has been postponed. The pitch is waterlogged following 12 hours of persistent rain. Unbelievable season!
08/04/16
Canslo gêm Ail-dîm / Reserves game OFF

Bu’n rhaid gohirio gêm yr Ail-dîm a oedd i’w chwarae ar Y Traeth pnawn Sadwrn (9 Ebrill). Isod gweler y neges a dderbyniodd ein ysgrifennydd oddi wrth clwb Bae Colwyn. Hefyd neges Ron Bridges, ysgrifennydd y Welsh Alliance, yn cadarnhau fod y gêm wedi’i chanslo.

Saturday’s (9 April) Reserves fixture has been called off. Below is the e-mail received by our secretary from Colwyn Bay FC to say that they would not be fulfilling the fixture. Also below is Welsh Alliance secretary Ron Bridges’ confirmation that the game had been cancelled.

“We are not playing against you mate as the league told us that you were playing Meliden so I allowed some of my players to go with the 1st team and the youth team."
From Ron Bridges: “I have check(ed) with Eric Wyn Jones and he informs me that your match With Colwyn Bay Saturday has been cancelled. Sorry for the late information on this.”
07/04/16
Rhagolwg: v Treffynnon / Preview: Holywell

Bydd Port yn teithio i Dreffynnon pnawn Sadwrn ar gyfer y gêm oddi cartref olaf o’r tymor hwn. Gohiriwyd y gêm hon yn ôl ym mis Chwefror, a felly hwn fydd ein gêm gyntaf ar gae Ffordd Helygain ers y gêm honno yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru 2014 o flaen torf o dros 500. Diddorol ydy nodi mewn cymhariaeth, mai dim ond 295 welodd y DDWY gêm yn rownd cynderfynol Cwpan Cymru eleni yn y Drenewydd.
Er waethaf y siom o golli i Gaersws mae Port yn dal yn 7fed yn y tabl, un lle yn is na Treffynnon ond mae gan ein gwrthwynebwyr saith gêm eto i’w chwarae cyn ddiwedd y tymor. Mae Treffynnon -yn ôl y disgwyl- yn cael tymor da yn ôl yn y Gynghrair Undebol, ac yn siwr o fod yn wrthwynebwyr anodd pnawn Sadwrn. Gêm gyfartal yn erbyn Bwcle gafodd Treffynnon yn ei gêm ddiwethaf.
Mewn gêm gyfatebol agos iawn ar Y Traeth sicrhaodd Port fuddugoliaeth o 1-0, a bydd angen peth o’r ysbryd hwnnw os i’w Port am gael canlyniad tebyg pnawn Sadwrn. Amdani Port!

Port travel to Holywell on Saturday for their final away fixture of the current season. This game suffered a late postponement back in February which means that this will be Port’s first game at Halkyn Road since that memorable 2014, Welsh Cup quarter final clash played before a crowd in excess of 500. It is interesting to compare that attendance with the paltry 295 that four clubs could muster for the recent Welsh Cup semi-final double header at Newtown.
Despite the disappointing defeat at home to Caersws, Port currently stand one place below the Wellmen in the table, but our opponents still have seven more games to play before the season ends. Holywell have made the expected strong return to the HGA and will be difficult opponents on Saturday as Port try to forget Tuesday’s disappointment. Last time out the Wellmen were held to a draw at home to Buckley Town.
In the tight corresponding fixture at the Traeth Port battled for a narrow 1-0 win and will need something of the same spirit to achieve a result on Saturday. C’mon Port.
04/04/16
Dim Cantîn / Canteen Closed

O ganlyniad i’r gwaith ar yr estyniad i Glwb y Traeth bydd y Cantîn ynghau yn ystod y gêm yn erbyn Caersws nos yfory (nos Fawrth). Bydd yna ddim bwyd poeth ar gael ond bydd yna Te/Coffi, Crisps ayb ar gael yn Clwb y Traeth. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Due to the Building work on the extension to the clubhouse the Canteen will be closed for tomorrow evening’s (Tuesday) game against Caersws. Therefore no hot Food will be available. Hot drinks and snacks will be available from the Clubhouse. We apologise for any inconvenience.
04/04/16
Port v Caersws

Caersws Bydd Port yn croesawu Caersws i’r Traeth nos yfory ( nos Fawrth). Cafodd y gêm hon ei gohirio ‘nol ym mis Rhagfyr. Prin fyddai neb wedi darogan fod Caersws yn mynd i gael tymor mor anodd ond yn dilyn cychwyn gwael mae’r gwelliant diweddar wedi bod braidd yn hwyr. Bydd ei tynged yn ddibynnol ar y nifer o glybiau ddaw i fyny o’r cynghreiriau is. Er waethaf colli’n drwm pnawn Sadwrn, yn erbyn y Derwyddon, bydd tîm Graham Evans yn siwr o frwydro’n galed am y pwyntiau nos yfory.
Daw Port i’r gêm ar gefn pedair buddugoliaeth mewn pum gem, gan gynnwys tair gêm yn olynol heb ildio gôl. Y dilyn y fuddugoliaeth yn Rhaeadr mae Port i fyny i’r 7fed safle. C’mon Port!

In a rare midweek fixture Port entertain Caersws tomorrow (Tuesday) evening. This fixture was originally scheduled for mid-December. Few would have predicted that the visitors would find themselves in a tough relegation fight this season but they have never recovered from a poor start and though their form has picked up it has all come rather late. How many drop out of the HGA will depend on what happens elsewhere in the feeder leagues but despite their heavy defeat on Saturday we can expect Caersws to continue to battle for survival.
Port will look to continue their good recent run of four wins in five matches and three consecutive clean sheets. Saturday’s win lifts them to 7th place. C’mon Port!
02/04/16
Gêm Ail-dîm ffwrdd / Reserves game OFF

Bu’n rhaid gohirio’r gêm Ail-dîm yn erbyn Ail-dîm Bae Trearddur heddiw gyda pyllau dwr ar y cae.

Today’s Reserves game against Trearddur Bay Res has been postponed with standing water on the pitch.
31/03/16
Rhodd hael arall / Another generous gift

Arian / Money Mae’ r clwb wedi derbyn rhodd arall arbennig o hael. Y tro yma rhodd o £2,000 gan Meirion Evans, Terfynau.
Dywedodd y cadeirydd Phil Jones, “Rym yn ddiolchgar iawn i Meirion am ei haelioni. Mae wedi cefnogi’r clwb ers blynyddoedd lawer ac wedi dilyn y tîm oddi cartref yn rheolaidd yn ogystal a gemau ar Y Traeth. Mae wedi noddi’r clwb mewn nifer o ffyrdd ac wedi bod yn amlwg i gefnogwyr wrth iddo helpu yn nghantîn y clwb ar bnawn Sadwrn.
“O gofio hyn nid yw’n syndod fod Meirion wedi gofyn inni ddefnyddio’r arian i brynu offer at y gegin newydd, a dyna fydd yn digwydd. Dylai ‘r cyfan fod yn ei le erbyn dechrau’r y tymor nesaf.”
Diolch yn fawr Meirion.

The club has received another substantial gift. The donor this time is Meirion Evans of Terfynau.
In thanking Meirion for his extremely generous donation of £2,000 the club chairman, Phil Jones, said, “We would like to thank Meirion for his generosity. He has been a long time supporter of the club and a regular at matches both home and away. He has sponsored the club in various ways in the past and has been a familiar face in the club’s canteen.
“No surprise therefore that Meirion wishes the money he has donated to be used to equip the kitchen in the new development and that should be ready for the beginning of next season. The club will gladly respect his wish.”
A big thank you to Meirion.
30/03/16
Rhagolwg: v Rhaeadr / Preview: v Rhayader (LD6 5BP)

Rhaeadr Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Rhaeadr ar gyfer gêm sydd wedi cael ei hadrefnu. Yn wreiddiol roedd y gêm hon fod i’w chwarae ar 5 Rhagfyr ond mewn gaeaf mor wlyb roedd y cae dan ddwr. Gyda chwe gêm yn weddill mae’r clwb o’r canolbarth ar waelod y tabl ac yn edrych ar eu ffordd yn ôl i Gynghrair Spar. Dim ond tair gêm allan o 24 mae’r clwb wedi ennill y tymor hwn ond gair o rybudd daeth un o’u tair buddugoliaeth ar Y Traeth o 1-0 yn y gêm gyntaf o’r tymor. Fe gofiwch efallai mai Asa Hamilton sgoriodd y gôl holl bwysig honno –cyfle i Asa wneud yn iawn am hynny pnawn Sadwrn!! Y tymor diwethaf cafodd Port fuddugoliaeth dda o 4-1 ond colli oedd yr hanes ar Y Weirglodd ar y ddau ymweliad blaenorol, felly medrwn gymryd dim yn ganiataol mewn pêl-droed.
Mae Rhaeadr ar rhediad gwael yn colli eu chwe gêm ddiwethaf tra fod Port yn chwilio am eu 4ydd buddugoliaeth mewn pum gêm. Amdani Port!

On Saturday Port will travel to Rhayader for a rearranged fixture at Y Weirglodd. The game was originally scheduled for 5 December but in this wettest of wet winters the pitch was waterlogged. With just six games left to play the mid-Wales club seem set for a return to the Spar Mid-Wales League. They have won only three games out of 24 this season but, as a word of warning, one of those wins came in the first game of the season at the Traeth, when Rhayader recorded a 1-0 win to give Port’s season a disappointing start. For the record, Rhayader’s only and winning goal was scored by Asa Hamilton!! Saturday will be a good time to set that particular record straight Asa! Last season Port gained a convincing 4-1 win but they have struggled on their previous two visits to the Weirglodd and as ever with football, nothing can be taken for granted.
Rhayader are on a losing run of six games while Port are looking for a fourth win in five games. C’mon Port!
29/03/16
Dyddiad newydd i’r Derwyddon / New date for Druids game

Derwyddon Cefn Druids Yn y rhestr gemau ar wefan swyddogol Cynghrair Undebol Huws Gray gwelwn fod y gêm yn erbyn Derwyddon Cefn wedi’i hadrefnu, ac i’w chwarae ar Ddydd Gwyl Fai, sef dydd Llun, 2 Mai. Hon felly fydd gêm olaf Port yn nhymor 2015/16. Golyga hyn hefyd fydd yna fwlch o fwy na 4 wythnos rhwng y gêm yn Nhreffynnon ar 9 Ebrill a’r gêm -a allai benderfynu tynged ras Y Derwyddon am ddyrchafiad i UGC.
Roedd angen adrefnu’r gêm hon oherwydd fod rhannau helaeth o’r Traeth dan ddwr ddydd Sadwrn.

The official Huws Gray Alliance website has listed the rearranged fixture against Cefn Druids for the May Day Holiday on Monday 2nd of May. This will now be Port’s final fixture of the 2015/16 season. It also means that there will be 4 plus weeks between Port’s penultimate fixture away at Holywell Town on 9 April and, what could potentially be, a vital promotion decider for Cefn Druids.
This is a rearranged fixture following postponement last Saturday when the Traeth was waterlogged.
28/03/16
Ymddiheuriad Eddie / Eddie apologises

Gweler isod ddatganiad personol gan Eddie Blackburn, cyn Weinyddwr yr Academi, ynglyn â’r hyn ddigwyddodd yng Nghlwb y Traeth pnawn Sadwrn (26 Mawrth), gan ymddiheuro am ei ran ynddo. Datganiad personol ydy hwn, ac nid yw’n cael ei wneud ar ran y clwb.

Eddie Blackburn, former Porthmadog Academy Administrator, has made a personal statement regarding events that took place in the Clubhouse on Saturday (26 March), and apologised for his part in them. This statement is personal and not made on behalf of the club.

“I wish to apologise to Phil and the board for my unforgiveable outburst on Saturday. I realise that my language was most inappropriate and put the Porthmadog Club in a poor light. I was incensed by the behaviour of the Cefn Druids players and went to take them to task but unfortunately their attitude of no remorse and mickey taking, no apology and a total disregard for the amenities they were abusing triggered off a response that I regret with all sincerity. I also got no response from their manager who blamed Porthmadog because his boys were bored, waiting around for a decision. To me this was no excuse for their behaviour. Phil and all the board and other spectators I apologise most profusely for my language, which as anyone who knows me will realise is quite out of character, Sorry fellas, I let you down.”
27/03/16
Rhodd garedig / Generous Donation

Arian / Money Mae’r clwb wedi elwa o rhodd hael iawn gan grwp o garedigion lleol. Byddai’r clwb yn hapus i enwi’r pobl garedig yma ond maent wedi dymuno aros yn ddienw.
Mae’r cyfeillion yma wedi bod yn weithgar ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n hael at nifer fawr o achosion da ac elusennau ond y tro yma maent wedi penderfynu cefnogi gweithgaredd lleol.
Dywedodd y cadeirydd, Phil Jones, “Parchwn y ffaith nad ydy’r caredigion yma am i’w henwau gael eu cyhoeddi ond carwn ar ran y clwb ddiolch o galon iddynt am y rhodd hael hon o £1,500. Carwn iddynt wybod y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn gyfrifol ac er mwyn budd tymor hir y clwb. Bwriadwn ddefnyddio rhan o’r rhodd i helpu ariannu’r Academi fydd yn rhoi budd i a cyfle i ieuenctid yr ardal fwynhau’r gêm a a datblygu fel chwaraewyr.
“Bwriadwn, o ganlyniad i’r rhodd, ychwanegu at y cyfleusterau i’r anabl a sicrhau fod yr anabl yn medru defnyddio’r estyniad newydd pan ddaw yn fuan.“

The club has benefited from a most generous donation given by a group of local benefactors. We would like to name these generous people but they have expressed the wish to remain anonymous.
These benefactors have been active over a long period, having contributed to various charities and good causes but this year have decided to support a local organisation.
Chairman Phil Jones on behalf of the club said, “We respect the fact that these local benefactors do not wish to be named but would like to thank them for this very generous gift of £1,500. We would also like to inform them that we intend to use the money responsibly and for the long term benefit of the club. Part of the money will be used to help finance our Academy which gives local youngsters the best opportunity to enjoy the game and to develop as players.
“We intend also to use part of the money to further improve disabled facilities and ensure that the new developments, intended shortly at the Traeth, can be accessed by our disabled supporters."
26/03/16
Gohirio gêm / Game OFF

Gyda dwr yn sefyll ar y cae, a hynny dros eich sgidiau mewn rhai llefydd, roedd gan y dyfarnwr Andrew Harms fawr o ddewis ond gohirio gêm heddiw yn erbyn Y Derwyddon ar Y Traeth. Roedd yn rhwystredigaeth i’r ddau glwb ond weithiau rhaid rhoi fewn i’r elfennau.
Dywedodd Phil Jones, cadeirydd y clwb, “Mae bob amser yn siomedig i orfod gohirio gêm a gyda’r paratoadau wedi’u gwneud a’r rhaglenni wedi printio nid yw’n benderfyniad i’w gymryd yn ysgafn. Gyda lefel y glaw a ddisgynnodd, a hwnnw’n parhau’n drwm i fyny at 2.30pm ac ymlaen roedd yn amhosib i glirio’r dwr o’r cae. Gyda lefel uchel y dwr nid oedd fforchio yn cael unrhyw effaith gan nad oedd lle i’r dwr wyneb fynd. Roedd ei frwsio ond yn ei symud o un lle i’r llall. Deallwn awydd Cefn i chwarae’r gêm a parhau a’u hymdrech am ddyrchafiad ond yn yr amgylchiadau nid oedd dewis arall.”
Cadarnhawyd barn y cadeirydd gan Nigel Hughes, cefnogwr a phrofiad yn y maes. Fel cadeirydd pwyllgor lawntydd y clwb golff dywedodd nad oedd yn bosib gwaredu’r holl ddwr oedd yn sefyll ar y cae a byddai cychwyn y gêm yn y fath amgylchiadau yn beryglus.
Bydd y gêm yn cael ei hadrefnu yn fuan.
Highslide JS
Yn amlwg, doedd dim dewis ond gohirio / As you can see, the match had to be called off

Llun/Photo © Dylan Elis

With standing water on the pitch over boot deep in some places referee Andrew Harms had little option but to call off today’s game against Cefn Druids at the Traeth. It was highly frustrating for both clubs but there was no way of beating the elements.
Club Chairman Phil Jones, said, “It is always disappointing to have a game postponed and, with preparations made and programmes printed it is not a decision to be taken lightly. With the level of rainfall continuing up to kick off time and beyond it was not possible to clear the surface water from the pitch. With the current high water table, forking had no effect as there was no place for the water to go and brushing only moved the water from one place to another. We realise that Cefn Druids wanted to continue their promotion push but under the circumstances we were left with no alternative.”
The chairman’s views were confirmed by supporter Nigel Hughes who is also chair of the greens committee at the golf club, and he said that it was impossible to mop up the standing water on the pitch and that playing the game in these circumstances would be dangerous.
The game will be rearranged as soon as possible.
Newyddion cyn 26/03/16
News before 26/03/16

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us