Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cynghrair Undebol Huws Gray Alliance League

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
19/02/14
Sylwadau Gareth / Gareth’s Views

Gareth Parry Wrth edrych yn ôl ar y gêm gwpan gyffrous, dywedodd Gareth Parry, “Ro’n i’n falch iawn na adawodd yr hogiau i’w pennau fynd i lawr ar ôl mynd dwy gôl tu ôl. Yn lle hynny, aethant ati i frwydro nol a sicrhau buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn tîm da.
“ Ond ddylai’r fuddugoliaeth fod wedi bod yn un fwy cyfforddus. Da ni’n dal i switsio ffwrdd yn y bocs ar adeg ciciau gosod. Er nad yw’n gwrthwynebwyr yn creu nifer fawr o gyfleoedd, mae’n nhw’n dal i sgorio yn ein herbyn ac eto da ni’n ddim yn cymryd ffracsiwn bach o’r cyfleoedd da ni’n eu creu. Ein teimlad ni oedd fod ein lwc yn bownd o newid, ac i raddau dyna ddigwyddodd wrth i Drefynwy fethu cyfle da ar yr eiliad olaf, cyfle a fyddai wedi mynd a ni i loteri ciciau o’r smotyn. Sgoriwyd tair gôl arbennig o dda. Roedd foli Carl angen sgil arbennig ac roedd y ddwy arall yn dilyn symudiadau gwych lawr y dde.
“Rhaid rhoi diolch mawr i’r rhai a weithiodd mor galed i baratoi’r cae mewn amgylchiadau anodd. Does dim llawer o glybiau fedrai alw ar y math yma o gefnogaeth. Diolch hefyd am y gefnogaeth o gwmpas y cae yn ystod y gêm. Roedd hyn yn cael ei werthfawrogi gan y chwaraewyr.”

Commenting on last Saturday’s exciting Welsh Cup tie, Gareth Parry said, “It was great that the lads did not let their heads go down after going two goals behind, fighting back to earn themselves a deserved win against a strong team.
“But the win should have been more comfortable than it turned out to be. We are still switching off at vital moments in set pieces. Our opponents only create a few chances yet are scoring against us while we are creating plenty of chances but don’t take even a small fraction of them. We have always felt that our luck had to turn and to an extent it did when a late chance which could have taken us into the lottery of a penalty shoot-out was missed almost with the last kick of the game. But I was pleased with the quality of our three goals. Carl’s volley was a very difficult skill and the other two resulted from a great build up down the right.
“I have to thank the team who put in such hard work getting the pitch ready for the game in such difficult circumstances. Not many clubs would be able to call on such support. The support around the ground was also great on the day and the players really appreciated it.
19/02/14
Gemau Mawrth/Ebrill / March/April fixtures

Mae’r rhestr gemau ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill wedi’u hadrefnu. Gwelir isod.

8/3 Port v Rhayader
15/3 Penrhyncoch v Port
22/3 Port v Llanrhaeadr
29/3 Port v Penycae
5/4 Port v Derwyddon Cefn Druids
12/4 Port v Llanidloes

The fixtures for March and April have been revised as above. All are Saturday dates
19/02/14
Gôl Craig / Craig’s winner

Craig Papirnyk Pum munud ar ôl dod i’r cae dyma Craig Papirnyk yn troi croesiad isel i gornel y rhwyd a’r gôl honno ar ôl 95 munud setlodd y gêm. Ond tu ôl i’r gôl mae yna stori.
Aeth Gareth Parry ymlaen â’r hanes, “Nid oedd disgwyl i Craig chwarae pnawn Sadwrn gan ei fod yn gweithio. Ond gyda charfan fechan a Neil Thomas wedi’i wahardd a minnau ond ar gael mewn argyfwng, gofynnais i Craig ddod i’r Traeth ar ôl gwaith –efo cit. Roedd ar ôl hanner amser pan gyrhaeddodd, newidiodd yn syth a chychwyn cynhesu. Pan alwais o mlaen ar ddechrau’r amser ychwanegol nid oedd modd rhagweld beth oedd i ddigwydd! Mae’n haeddiannol fod ei gôl gyntaf i’r clwb yn troi allan i fod yr un sy’n ennill y gêm.
“Mae Craig wedi gwneud cyfraniad mawr i’r clwb nid yn unig ar y cae ond hefyd yn y cefndir yn helpu gyda’r ymarfer ac yn cynorthwyo chwaraewyr unigol. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo.”

Five minutes after coming on the pitch Craig Papirnyk turns a low cross into the corner of the net and the 95th minute goal delights the home supporters and turns out to be the winner. But behind it is a story.
Gareth Parry takes it up, “Craig was not meant to play at all on Saturday, he was unavailable due to work commitments. But with a small squad and with Neil Thomas suspended and though I was on the bench myself I knew I would only come on in an emergency. So I asked Craig to turn up at the ground after work, with his kit. It was after half-time when he arrived and immediately changed and began warming up. When I brought him on at the start of extra-time I could not have predicted the kind of impact he was about to make! It is great that his first goal for the club should also prove to be a match-winner.
“Craig has made a significant contribution since joining the club not only his good run of recent games but more so his work behind the scenes, assisting with the coaching side and helping individual players. I am very grateful for his support.”
18/02/14
Adroddiad teg / Excellent Report

Cewch ddarllen adroddiad teg iawn o’r gêm yng Nghwpan Cymru, a chwaraewyd pnawn Sadwrn diwethaf, ar wefan newydd sbon Trefynwy ar www.monmouthtownfc.com

You can read an excellent and very fair report of last Saturday’s Welsh Cup tie on Monmouth Town’s brand new website on www.monmouthtownfc.com
17/02/14
Y Traeth yn curo'r dilyw! / The Traeth beats the floods!

Yn eirionig, gyda'r holl drafod am y posib o gael cae 3G yma, ein gêm ar Y Traeth oedd un o'r unig gemau ar gae traddodiadol gafodd ei chwarae Sadwrn diwethaf. Fel sydd wedi'i son yn barod, mae hyn yn glod mawr i'r gwirfoddolwyr sy'n edrych ar ôl y maes. Mae'r lluniau isod yn dangos pa mor agos i'r Traeth ddaeth llif yr afon Glaslyn dydd Sadwrn - mae'r llun ar y chwith yn dangos y dŵr yn gorchuddio darn helaeth o'r Traeth Mawr, tra ar yr un adeg fod maes y Traeth yn edrych mewn cyflwr gwych (dde).

Highslide JS
Llifogydd ar y Traeth Mawr / Floods on the Traeth Mawr
   Highslide JS
CPD Porthmadog v Monmouth Town

With all the talk about us possibly getting a 3G pitch, it's quite ironic that our game at Y Traeth was one of the only games to survive the bad weather on Saturday. Rightfully the volunteers who tend the pitch have been widely praised for their efforts. The photos below show how close the Afon Glaslyn's floodwater got to the Traeth ptich on Saturday. The left photo shows floodwater covering much of the Traeth Mawr area, while at the same time, the Traeth football pitch looks in amazing condition (right).

17/02/14
Ryan dros Gymru / Ryan represents Wales

Llongyfarchiadau i Ryan Jones a chwaraeodd dros Gymru yn y gêm rhyngwladol Academi yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Waterford ddydd Sul. Mae’r blaenwr ifanc ar fenthyg gyda Porthmadog ar hyn o bryd o glwb Y Bala. Y Weriniaeth enillodd y gêm o 3-2 gyda Ryan yn sgorio’r gôl gyntaf i Gymru gyda chic o’r smotyn. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Port yng Nghonwy gan ddod i’r cae fel eilydd yn yr ail hanner.

Congratulations to Ryan Jones who appeared for the Wales U18s in the Academy international against the Republic of Ireland in Waterford on Sunday. The young forward is currently on-loan with Porthmadog from Bala Town. The Republic ran out winners by 3-2 with Ryan scoring the first Wales goal from the penalty spot. He made his Porthmadog debut at Conwy when he came on as a second half substitute.
16/02/14
Buddugoliaeth fawr / A Big win

Trefynwy / Monmouth Os nad oeddech chi yno fe golloch wledd – gêm gwpan draddodiadol wych, ac un o’r gemau gorau imi weld ar y Traeth ers llawer blwyddyn. Trefynwy yn mynd dwy gôl ar y blaen gyda Port yn gorfod brwydro yn ôl i sgorio tair gôl, bob un ohonynt yn goliau o safon uchel gyda’r drydedd yn dod pum munud i mewn i’r amser ychwanegol.
Cafwyd berfformiad carfan gyfan gan Port gyda phob un o’r 14 a ddaeth i’r cae yn cyfrannu’n sylweddol. Roedd yn dda fod Port ar eu gorau ar y diwrnod gan fyddai unrhyw beth llai wedi arwain at fethiant yn erbyn tîm talentog y clwb o Sir Fynwy. Cafwyd cystadleuaeth frwd rhwng dau dîm a ddaeth i’r cae a’r bwriad i chwarae gêm basio ddeniadol. Roedd cefnogwyr Trefynwy yn iawn i dynnu sylw at berfformiad Jack Allerdice, sgoriwr eu dwy gôl, a chwaraeodd yn wych drwy gydol y gêm.
Ond er y safon arbennig a gafwyd gan y chwaraewyr ar y cae, seren y sioe ddoe oedd y Traeth ei hun. Gyda gweddill caeau’r gogledd yn mynd o dan y don o law parhaus, serennodd y Traeth am ddwy awr ac, er gwaetha’r tywydd, yn edrych yn barod am fwy. Dyna beth ydy pwyntio bys dirmygus at gaeau artiffisial a gwneud safiad dros gaeau gwair! Clod felly i Phil a’i dîm am eu gofal dros y cae, nid dros y penwythnos hwn yn unig ond ar hyd y blynyddoedd.
Dangosodd y canlyniad hefyd y cyfeillgarwch sy’n bodoli mewn camp mor gystadleuol â phêl-droed. Diolch am y negeseuon a lifodd i mewn ar y trydar wedi’r gêm wrth rheolwyr, chwaraewyr swyddogion a chefnogwyr, i gyd yn anfon eu cyfarchion a’u dymuniadau gorau. Diolch ichi i gyd. Yn y rownd nesaf bydd Port yn ymweld â’r Drenewydd neu Treffynnon yn yr wyth olaf ar 1af Mawrth.

If you weren’t at the Traeth yesterday then you missed a treat –a classic cup-tie and one of the best games at the Traeth for several seasons. Monmouth Town went ahead by two goals and Port had to fight back to score three times. Each was a goal of quality with the winner coming five minutes into extra-time.
It was a squad performance from Port with all of the 14 who appeared on the pitch playing a significant part. It was just as well that Port were at their best as anything less would have meant defeat at the hands of a talented Monmouth team. It was a keen competitive game between two sides intent on playing an attractive passing game. The Gwent club’s supporters were right to draw attention to the play of Jack Allerdice, who in addition to scoring twice gave an excellent all round performance.
Despite the quality and excitement of the game itself the real star of the show has to be theTraeth pitch itself. With other north Wales pitches disappearing beneath the waves of the never ending rain the Traeth sailed its way through two hours of football and at the end looked still ready for more. It really was the Custer’s Last Stand of grass pitches while at the same time pointing a finger of contempt in the direction of the plastic version! Praise indeed for the care Phil and his team have taken of the pitch, not only over this weekend but over many, many years.
The game also reflects the friendship that exists between clubs in what is a competitive sport. The club is appreciative of all the messages and best wishes which flowed in on twitter after the game from managers, players, officials and supporters of rival clubs. In the next round Port will visit either Newtown or Holywell on 1st March.
15/02/14
Gêm YMLAEN! / Game ON!

Yn dilyn arolwg o’r cae bore’ma mae’r gêm yng Nghwpan Cymru ar Y Traeth heddiw YMLAEN. Cic gyntaf am 2.30pm.

After an early morning inspection today’s Welsh Cup tie at the Traeth is ON. Kick off 2.30pm.
14/02/14
Archwiliad o’r Cae / Pitch Inspection

Y Traeth Cynhelir archwiliad o’r Traeth bore ‘fory rhwng 7.30am a 7.45am. Yn dilyn diwrnod sych ddoe cafwyd mwy o law trwm yn ystod y pnawn heddiw a gyda mwy eto yn cael ei addo bydd angen archwiliad.
Dywedodd y cadeirydd Phil Jones, “Gan fod y dyfarnwr ym Manceinion trefnwyd i swyddog lleol i wneud yr archwiliad cynnar ac rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ei gydweithrediad.
“Os fydd y gêm yn mynd yn ei flaen, ychwanegodd, gobeithio y cawn gefnogaeth dda, a hynny’n rhannol i dalu costau pedwar swyddog -gyda rhai ohonynt y teithio o bellter!!!”

A pitch inspection will be made tomorrow morning at the Traeth between 7.30am and 7.45am. A dry day yesterday has been followed by further rain this afternoon and with further rain forecast an inspection has been deemed necessary.
Chairman Phil Jones said, “As the appointed official is in Manchester we have arranged for a local referee to carry out the early inspection and are very grateful for his co-operation.
“If the game goes ahead, he added, we are hoping for good support -if only to pay for four officials some of whom are travelling from afar and will all need to be recompensed!!”
13/02/14
Diweddaraf o’r Traeth /Traeth Update

Daeth y Traeth drwy’r storom a’r gwyntoedd mawr sydd wedi achosi gymaint o ddifrod ar hyd yr ardal. Ni fydd yr ychydig ddifrod a gafwyd yno yn peryglu’r gêm fawr ddydd Sadwrn.
Bu peth difrod i’r gantri deledu ond bydd hwn yn cael ei drwsio cyn ddydd Sadwrn. Mae un o gysgodfeydd y chwaraewyr wrth ymyl y cae wedi chwythu drosodd ond, gyda help, caiff ei ail osod bore Sadwrn. Os ydych ar gael dewch i roi cymorth. Eisoes mae lle i ddiolch i Robin Roberts am symud y goeden a ddisgynnodd ar y ffens.
Y newyddion am y cae yn ôl y cadeirydd Phil Jones: “Er fod y cae yn wlyb ar ôl y glaw does dim dwr yn sefyll arno ac yn fy marn i does yna ddim peryg i’r gêm. Yn wir byddai angen glaw o faint Beiblaidd i wneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen rwan i groesawu clwb Trefynwy i’r Traeth.”

The Traeth survived the storm and gale force winds which caused a great deal of damage throughout the area. The ground did suffer a small amount of damage but nothing which will pose a threat Saturday’s important Welsh Cup tie at home to Monmouth Town.
There has been some damage to the TV Gantry which will be put right before Saturday. One of the dug-outs has blown over but will be back in place before the game especially if we get some help on Saturday morning with the lifting. Many hands as they say. Thanks are already due to Robin Roberts who has removed the tree which came down on the perimeter fence.
As to the pitch, Chairman Phil Jones reported, “While the pitch is wet after all the rain, there is no standing water and in my opinion it would take rain of biblical proportions to put the game in jeopardy. We are looking forward to welcoming all at Monmouth Town to the Traeth.”
12/02/14
Mynd am y Gwpan (eto!) / Up for the Cup (again!)

Trefynwy / Monmouth Pnawn Sadwrn, am y trydydd tro, ceisiwn chwarae’r gêm yn 4ydd Rownd, Cwpan Cymru yn erbyn Trefynwy. Y tro yma ar y Traeth gan obeithio fydd y cae yn cadarnhau ei enw da am guro’r glaw. Bydd yr enillwyr yn sicrhau lle yn wyth ola’r gystadleuaeth ac yn ymweld â’r Drenewydd neu Treffynnon.
Y tro diwethaf i Port wneud hyn oedd yn nhymor 2006/07. Yn dilyn curo Bangor 2-0 yn y rownd flaenorol, llwyddwyd i gyrraedd yr wyth olaf mewn gêm gyffrous ar y Traeth. Y gwrthwynebwyr ar y diwrnod hwnnw oedd TNS. Gyda’r sgôr yn 2-2 ar ddiwedd amser ychwanegol, aeth Port ymlaen i ennill ar giciau o’r smotyn. Ryan Davies sgoriodd y ddwy gôl i Port a wedyn ymlaen i ennill gyda ciciau o’r smotyn o 3-2 gyda Carl Owen, Marcus Orlik a Mike Foster yn rhwydo.
Ymweld â Chaerfyrddin nesaf ac unwaith eto, gyda’r sgôr ar 1-1, roedd angen ciciau o’r smotyn. Ond y tro yma ni chafwyd ddiweddglo hapus a cholli o 4-3 oedd yr hanes. Roedd ein rheolwr Gareth Parry yn rhan o’r rhediad hwnnw yn ogystal a Carl Owen a Richard Harvey o’r garfan bresennol. Os ydy’r dylwythen deg garedig yn gwrando, ein dymuniad ydy buddugoliaeth heb i’r nerfau gynhyrfu mewn cystadleuaeth ciciau o’r smotyn!!
Mae’n gwrthwynebwyr wedi bod ar rhediad da yng Nghynghrair Cymru (y de) ac mewn safle i wneud sialens am y teitl. Yn dilyn buddugoliaeth 3-2 oddi cartref dros Goytre United yn eu gêm ddiwethaf maent yn y 4ydd safle yn y tabl. Yn ddiweddar ychwanegodd Trefynwy y chwaraewr canol cae, Corey Jenkins i’w carfan a hynny ar fenthyg o Gaerfyrddin. Hyn yn dilyn arwyddo Julian Alsop blaenwr cryf, profiadol sydd wedi chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Abertawe a Cheltenham. Gall eu rheolwr Steve Jenkins alw ar gymysgedd o brofiad a ieuenctid ac yn ddiweddar mae’r cyn chwaraewr ifanc gyda Aston Villa, Dan MacDonald wedi bod ymysg y goliau ac yn cael ei gefnogi gan Nick Harrhy, sydd a llawer o brofiad yn UGC.
Y tywydd ydy’r ffactor na ellir ei reoli a rhaid croesi bysedd unwaith eto, gan obeithio fydd y Traeth yn byw fyny i’w record dda, a bydd y gêm yn mynd yn ei blaen. Tri chynnig i Gymro!

On Saturday a third attempt will be made to play the Welsh Cup 4th Round tie and this time it will be at the Traeth so let’s hope the ground can live up to its reputation for beating the rain. The prize for the winners is a place in the quarter finals of the competition and a visit to Newtown or Holywell.
The last time Port achieved this was back in season 2006/07, when having put out Bangor City in the previous round by 2-0, they reached the quarter finals in a thrilling contest at the Traeth. Their opponents that day were TNS and, with the score at 2-2 at the end of extra-time, Port took the tie on penalties. Ryan Davies scored twice for Port who went on to win the penalty shoot by 3-2 with Carl Owen, Marcus Orlik and Mike Foster netting.
A visit to Carmarthen followed and again penalties were needed with the scores level on 1-1 at the end of extra-time. This time there was no happy outcome for Port as they went down by 4-3 on penalties. Manager Gareth Parry took part in that Welsh Cup run as did Carl Owen and Richard Harvey of the current squad. If the good fairy is listening we would like a win on Saturday but without a nerve jangling penalty shoot-out!
Our opponents have been going well in the Welsh League (south) competition and are still well placed for a title challenge. Following their 3-2 away win against Goytre United they are in 4th place in the table. Midfielder Corey Jenkins has been a recent addition to their squad, on loan from Carmarthen. This follows another recent signing –the powerful striker Julian Alsop. The experienced striker’s former clubs include Swansea and Cheltenham. Manager Steve Jenkins can call on a mixture of youth and experience and in recent matches, former Aston Villa trainee, Dan MacDonald has been amongst the goals, backed by experienced former WPL player Nick Harrhy.
Its fingers crossed time now and we must hope that the Traeth maintains its excellent record and the weather allows us to get this game played on Saturday.
11/02/14
Hunlle’r Ysgrifennydd Cynghrair /A League Secretary’s nightmare

Glaw Trwm /Heavy Rain Mae’r tywydd ers troad y flwyddyn wedi bod yn hunllef i pob ysgrifennydd cynghrair. Gyda phob gêm yn cael eu gohirio ar 1 Chwefror roedd cyfanswm o 28 o gemau wedi’u gohirio hyd at y dyddiad hwnnw. Wedyn Sadwrn diwethaf (8 Chwefror) cafodd tair gêm gynghrair arall eu gohirio ac un gêm yng Nghwpan y Gynghrair. Roedd Port hefyd fod i chwarae Derwyddon Cefn ar y dyddiad hwnnw.
Sadwrn nesaf bydd Porthmadog yn croesawu Trefynwy i’r Traeth ar gyfer y gêm yn Rownd 4 Cwpan Cymru, gêm sydd eisoes wedi’i gohirio ddwy waith. Golyga hyn fod y gêm yng Nghynghrair Huws Gray yn erbyn Llanidloes yn cael eu hychwanegu at y rhestr gynyddol o gemau sy’n aros i’w hadrefnu. Os wnewch fwrw golwg ar y rhestr gemau ar wefan swyddogol Huws Gray fe welwch hefyd fod unrhyw gemau ar gyfer Mawrth wedi’i tynnu oddi yna.

The weather since the turn of the year has been a total nightmare for all League Secretaries. The complete wipe-out of Saturday's (Feb 1st) fixture list made it TWENTY EIGHT games postponed up to that point of the season. Then last Saturday (Feb 8) threemore league games were washed out in addition to a League Cup tie. Port were also due to play Cefn Druids on that date.
Next Saturday Porthmadog will be at home to Monmouth Town in the twice postponed Welsh Cup 4th Round tie. That of course means that the scheduled HGA home game against Llanidloes now joins a growing list of games to be rearranged. If you check out the fixture list on the Huws Gray Alliance website you will also see that any fixtures for March have been removed.
09/02/14
Conwy nos Fawrth / Conwy on Tuesday

Bwrdeistref Conwy Borough Os fydd duwiau’r tywydd yn caniatáu bydd Port yn teithio i’r Morfa nos Fawrth i chwarae Conwy mewn gem gynghrair. Ers y tro diwethaf i’r ddau gyfarfod mae Conwy wedi newid eu rheolwr gyda Darren Moss yn dod i sedd Chris Herbert sydd bellach yn Cei Conna. Yn ddiweddar mae’r rheolwr newydd wedi bod yn brysur yn cryfhau ei garfan gyda’r amddiffynnwr Matty Pierce yn ymuno o Fwcle a’r chwaraewyr canol cae Ian Willis o Congleton a Ed Moss o Fae Colwyn yn dilyn. Wedyn yn y dyddiau diwethaf ail ymunodd Des Desormeaux a Chonwy o Gei Conna.
Mae Conwy yn cael tymor da ac yn y 3edd safle tu ôl i’r Derwyddon a Chaernarfon. Ar eu hymweliad â’r Traeth yng nghanol mis Hydref sicrhaodd goliau hwyr, dwy gan Aden Shannon ac un gan Matty Holt, y fuddugoliaeth o 4-3. Cynt roedd Port mewn sefyllfa gref 3-1 ar y blaen ac ond 10 munud yn weddill. Llynedd aeth y golau allan yn llythrennol ar y Morfa, gobeithio eleni cawn gêm ddisglair a ddim glaw!

If the weather gods approve Port will travel to Conwy on Tuesday night to take on the Borough in a HGA match. Since the last meeting between the two clubs there has been a change of manager at the Morfa with Darren Moss taking over from the departed Chris Herbert. In recent weeks the new man has been very busy strengthening his squad bringing in defender Matty Pierce from Buckley and he followed this by signing midfielders Ian Willis from Congleton Town and Ed Moss from Colwyn Bay. Then in the past few days the experienced Des Desormeaux returned to the club from Connah’s Quay.
Borough have had a good season and are in third place behind the Druids and Caernarfon. When they visited the Traeth in mid-October two goals from Aden Shannon and one from Matty Holt all in the last 10 minutes, snatched a late, late 4-3 win after Port had looked in a totally dominant position midway through the second half. Last season the lights went literally out at the Morfa so let’s hope all is bright and beautiful this time and above all no rain!
08/02/14
Gohirio’r gêm gwpan / Cup tie OFF

Gohiriwyd y gêm yn erbyn Trefynwy a oedd i’w chwarae heddiw yng Nghwpan Cymru oherwydd glaw trwm dros nos. Bydd y gêm bellach yn cael ei chwarae ar y Traeth y Sadwrn nesaf.

Today’s Welsh Cup tie at Monmouth has been postponed. Heavy overnight rain proved to be the final straw. The tie now switches to the Traeth next Saturday.
07/02/14
Arolwg o’r cae / Pitch inspection

Bydd yna arolwg o’r cae yn Nhrefynwy bore ‘fory am 8am. Yn ôl yr adroddiadau mae’r cae yn dal yn wlyb gyda peth dwr yn sefyll arno. Felly rhaid disgwyl tan bore ‘fory -ond mae’r rhagolygon yn awgrymu glaw trwm dros nos.

There will be a morning pitch inspection at Monmouth tomorrow at 8am. Reports suggest that the pitch is very wet with some standing water. So it’s still a case of wait and see but heavy overnight rain is forecast.
05/02/14
Richard yn ôl / Richard’s return

Richard Harvey Da ydy cael croesawu Richard Harvey yn ôl i’r garfan. Gan ei fod wedi dioddef anaf tymor hir i’w glin a’i gefn mae wedi methu chwarae ers iddo orfod tynnu allan o’r gêm yn erbyn Rhydymwyn ar yr hanner, a hynny yn ôl yn Ebrill 2013. Rwan mae Richard yn aros am law driniaeth a hynny yn annhebygol o ddigwydd tan yr haf.
Er waethaf hyn mae wedi penderfynu dychwelyd i’r garfan gan fod Jamie Hulse hefyd wedi’i anafu. Roedd Richard ar y fainc yng Nghaernarfon a prin yn disgwyl cael ei hun ar y cae am y cyfan o’r ail hanner! Wedyn gyda Gareth Barker hefyd allan roedd yn dechrau yn y fuddugoliaeth dros Llandudno ac yn cwblhau’r 90 munud heb ildio gôl.

It has been good to welcome Richard Harvey back to the squad. Richard has a long standing hip and back injury and has been unable to play since he had to pull out of the Rhydymwyn game at half-time and that was back in April 2013. Richard is awaiting surgery and that seems unlikely to take place until the summer.
Despite this he decided to make himself available to the club again when Jamie Hulse became unavailable through injury. On the bench at Caernarfon three weeks ago Richard could hardly have anticipated that he would be in the action for the whole of the second half. Then, with Gareth Barker also out, he started the game at Llandudno ending up on the winning side and also keeping a clean sheet!!
04/02/14
Canlyniad Bermo / Barmouth Result

Buddugoliaeth o 1-0 i Port gyda gôl i Eilir Edwards ar ôl 14 munud. Roedd yn gyfle da i’r ddau glwb gael ymarfer mewn sefyllfa gêm ar ôl i’r ddau fethu gemau yn ddiweddar yn dilyn y tywydd gwlyb. Ond er waetha’r holl law roedd y Traeth yn edrych yn dda -hyd yn oed ar ddiwedd y gêm.

A 1-0 win tonight for Port with Eilir Edwards scoring a simple tap-in after 14 minutes. It was a good workout for both squads. Both clubs needed this as they have had games postponed in recent weeks. The Traeth despite the wet weather looked in good shape even at the end of the game.
03/02/14
Ymarfer ar Barc y Ddraig / Training at Dragon Park

Er i’r gêm rhwng Port a Threfynwy gael ei gohirio bnawn Gwener, gan fod y tîm wedi archebu i aros mewn gwesty ar y nos Wener, roedd yn rhy hwyr i ganslo. Felly i lawr i’r de aeth yr hogiau! Ond aeth y cyfan ddim yn wastraff gan i’r tîm gael y cyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau ardderchog ym Mharc y Ddraig -Canolfan Ddatblygu’r Gymdeithas Bêl-droed yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn. Hoffai’r clwb ddiolch i Sarah Williams, yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed a’r Gymdeithas Bêl-droed am ganiatáu i Port ddefnyddio eu cyfleusterau. Dyma’r llun o’r hogiau ym Mharc y Ddraig a roddodd Rhys Roberts ar ei gyfrif Twitter wrth iddo ffarwelio â gweddill y garfan.

Highslide JS

Although the clash between Port and Monmouth was called off on Friday afternoon, as the team had booked into a hotel on the Friday night, it was too late to cancel. So the lads decided to make the trip down south any way! But it didn’t go entirely to waste as the team had the opportunity to use the excellent facilities at Dragon Park – the FAW’s Development Centre in Newport on Saturday. The club would like to thank Sarah Williams, The Welsh Football Trust and the FAW for allowing Port to use the facilities. Above is the picture of the lads at Dragon Park Rhys Roberts posted on his Twitter account as he bid farewell to the rest of the squad.
03/02/14
Gêm nos yfory / Friendly tomorrow night

Gan fod y ddwy gêm ddiwethaf wedi’i gohirio mae Gareth Parry wedi mynd ati’n sydyn a threfnu gêm gyfeillgar at nos yfory (Nos Fawrth, 3 Chwefror) yn erbyn Y Bermo. Bydd y gêm ar y Traeth gyda’r gic gyntaf am 7.30pm.

With their last two games being postponed, Gareth Parry has hurriedly arranged a friendly fixture for tomorrow evening (Tuesday, 3 February) against Barmouth. The game will be played at the Traeth kick off 7.30pm.
02/02/14
Rhys yn ymuno â Chaergybi / Rhys signs for Hotspur

Rhys Roberts Mae Rhys Roberts wedi ymuno â Campbell Harrison yng Nghaergybi. Yn gyn gapten y clwb bu’n rhaid i Rhys rhoi’r gorau i bêl-droed am gyfnod oherwydd ymrwymiadau eraill a oedd yn gwneud yn anodd iddo deithio i ymarfer ac i gemau. Bydd felly yn ymuno a chlwb sy’n agos at ei gartref. Bu Rhys yn ffefryn mawr ar y Traeth ac mae pawb yno yn dymuno’n dda iddo at y dyfodol ac yn diolch iddo am ei holl ymroddiad. Yn ystod y penwythnos ymunodd Rhys a’r garfan i lawr ym Mharc y Ddraig, Casnewydd i ffarwelio a’i gyfeillion.
Mae Sion Kyle, a ymunodd a Port ym mis Hydref o Wlad Belg, bellach wedi ymuno a CPD Glantraeth

Rhys Roberts, who has been a firm favourite at the Traeth over many seasons, has signed for Campbell Harrison at Holyhead. Rhys, former club captain, gave up football for a time due to other commitments which meant that he was unable to spend the time needed to travel from his Anglesey home. He has now decided to sign for a club which is closer to home. Rhys joined the squad at Dragon Park, Newport this weekend to bid his farewells. All at the Traeth thank him for his high level of commitment over the years and wish him well in the future.
Sion Kyle who joined Port in October from Belgian football has now signed for Glantraeth FC.
01/02/14
Cwpan Cymru Rownd 5 / Welsh Cup Draw

Port yn yr het am Rownd 5 o Gwpan Cymru!! Bydd enillwyr y gêm rhwng Trefynwy a Porthmadog yn teithio i’r Drenewydd neu Treffynnon ar 1 Mawrth.Isod y gemau eraill yn y rownd.

Caerfyrddin/Carmarthen neu TNS v Airbus /Bangor
Aberystwyth v Caersws
Aberdâr v Bala /Derwyddon Cefn Druids

Port still in the draw for tonight’s Welsh Cup Round 5!! The winners of the tie between Monmouth Town and Porthmadog will travel to Newtown or Holywell on 1 March.Above the other games in the round.
31/01/14
Gohirio’r gêm / Game OFF

Glaw Trwm /Heavy Rain Mae’r gêm yng Nghwpan Cymru rhwng Trefynwy a Porthmadog wedi’i gohirio gan fod y cae o dan ddwr. Y diwrnod tebygol ar gyfer yr ail drefnu ydy pnawn Sadwrn, 8 Chwefror. Golyga hyn y bydd rhaid adrefnu’r gêm yn yr HGA yn erbyn Derwyddon Cefn a oedd i’w chwarae ar y Traeth.
Gan fod y tal am y gwesty eisoes wedi’i wneud ,a dim modd derbyn ad-daliad, bydd y chwaraewyr yn dal i deithio ac mae Gareth Parry wedi sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer ar gaeau ymarfer newydd a phwrpasol y Gymdeithas Bêl-droed yn Casnewydd.

The Welsh Cup tie between Monmouth Town and Porthmadog has been postponed as the ground is waterlogged. The likely new date for playing the tie looks to be next Saturday, 8th February. If this proves to be the case then the HGA match against Cefn Druids at the Traeth will also have to be rescheduled.
The players are already committed to travel with a hotel booked and payment not refundable, so Gareth Parry has arranged for players to have a training session at the new state of the art Welsh FA training grounds at Newport.
30/01/14
Mynd am y Gwpan / Up for the Cup

Cwpan Cymru / Welsh Cup Edrychwn ymlaen at y gêm fawr pnawn Sadwrn a’r daith hir i Drefynwy ar gyfer 4ydd Rownd, Cwpan Cymru. Bydd yr enillwyr yn sicrhau lle yn wyth olaf y gystadleuaeth.
Y tro diwethaf i Port wneud hyn oedd yn nhymor 2006/07. Yn dilyn curo Bangor 2-0 yn y rownd flaenorol, llwyddwyd i gyrraedd yr wyth olaf mewn gêm gyffrous ar y Traeth. Y gwrthwynebwyr ar y diwrnod hwnnw oedd TNS. Gyda’r sgôr yn 2-2 ar ddiwedd amser ychwanegol, aeth Port ymlaen i ennill ar giciau o’r smotyn. Ryan Davies sgoriodd y ddwy gôl i Port a wedyn ymlaen i ennill gyda ciciau o’r smotyn o 3-2 gyda Carl Owen, Marcus Orlik a Mike Foster yn rhwydo.
Ymweld â Chaerfyrddin nesaf ac unwaith eto, gyda’r sgôr ar 1-1, roedd angen ciciau o’r smotyn. Ond y tro yma ni chafwyd ddiweddglo hapus a cholli o 4-3 oedd yr hanes. Roedd ein rheolwr Gareth Parry yn rhan o’r rhediad hwnnw yn ogystal a Carl Owen a Richard Harvey o’r garfan bresennol. Os ydy’r dylwythen deg garedig yn gwrando, ein dymuniad ydy buddugoliaeth heb i’r nerfau gynhyrfu mewn cystadleuaeth o’r smotyn!!
Mae’n gwrthwynebwyr wedi bod yn mynd yn dda yng Nghynghrair Cymru (y de) ac mewn safle i wneud sialens am y teitl. Yn dilyn buddugoliaeth 3-2 oddi cartref dros Goytre United y Sadwrn diwethaf maent yn y 4ydd safle yn y tabl. Yn ddiweddar ychwanegodd Trefynwy y chwaraewr canol cae, Corey Jenkins i’w carfan ar fenthyg o Gaerfyrddin. Hyn yn dilyn arwyddo Julian Alsop blaenwr cryf, profiadol sydd wedi chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Abertawe a Cheltenham. Gall eu rheolwr Steve Jenkins alw ar gymysgedd o brofiad a ieuenctid ac yn ddiweddar mae’r cyn chwaraewr ifanc gyda Aston Villa, Dan MacDonald wedi bod ymysg y goliau ac yn cael ei gefnogi gan Nick Harrhy sydd a llawer o brofiad yn UGC.
Y tywydd ydy’r ffactor na ellir ei reoli a rhaid croesi bysedd wedi holl law yr wythnosau diwethaf. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiweddaru gwybodaeth. Dilynwch ni ar y Trydar, Facebook a’r Wefan. Mae Trefynwy yn chwarae ar y Monmouth Sports Ground, Chippenham Fields NP25 3EY.

Saturday is the big one with a long trek to Monmouth in the 4th Round of the Welsh Cup. The winners will secure a place in the quarter finals of the competition.
The last time Port achieved this was back in season 2006/07, when having put out Bangor City in the previous round by 2-0, they reached the quarter finals in a thrilling contest at the Traeth. Their opponents that day were TNS and, with the score at 2-2 at the end of extra-time, Port took the tie on penalties. Ryan Davies scored twice for Port who went on to win the penalty shoot by 3-2 with Carl Owen, Marcus Orlik and Mike Foster netting.
A visit to Carmarthen followed and again penalties were needed with the scores level on 1-1 at the end of extra-time. This time there was no happy outcome for Port as they went down by 4-3 on penalties. Manager Gareth Parry took part in that Welsh Cup run as did Carl Owen and Richard Harvey of the current squad. If the good fairy is listening we would like a win on Saturday but without a nerve jangling penalty shoot-out!
Our opponents have been going well in the Welsh League (south) competition and are still well placed for a title challenge. Following their 3-2 away win against Goytre United last Saturday they are in 4th place in the table. They have added to their squad during the week bringing in midfielder Corey Jenkins on loan from Carmarthen. This follows another recent signing –the powerful striker Julian Alsop. The experienced striker’s former clubs include Swansea and Cheltenham. Manager Steve Jenkins can call on a mixture of youth and experience and in recent matches former Aston Villa trainee Dan MacDonald has been amongst the goals, backed by experienced former WPL player Nick Harrhy.
The weather is the unknown factor and after weeks of wet weather we must keep our fingers crossed. We will attempt to bring up to date information as soon as we receive it. Check on Twitter, Facebook and the Website. Monmouth Town play at the Monmouth Sports Ground, Chippenham Fields NP25 3EY.
29/01/14
Y Ffordd ymlaen / The Way ahead

Y Traeth “Os fedrwn ni lwyddo gallai hyn fod y peth mwyaf sydd wedi digwydd i’r clwb hwn erioed,” dyna oedd neges trysorydd y clwb Richard Jones pan ddangoswyd y cynlluniau newydd i gefnogwyr a cynghorwyr tref a sirol yng Nghlwb y Traeth.
Amlinellwyd y syniad tu ôl i’r project gan Phil Jones gan ddweud fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn raddol. “Bydd y wedd gyntaf yn cynnwys cae 3G ac eisteddle gyda ystafelloedd newid. Mae oes yr eisteddle presennol wedi dod i ben a rhaid cael un newydd. Bydd hyn i gyd yn angenrheidiol os ydym i adennill ein lle yn yr Uwch Gynghrair. Mae angen cryfhau ein rôl yn y gymuned a sicrhau cyfle i ail dîm, i ieuenctid, i ferched ac i ddatblygu chwaraeon i’r anabl yn ogystal a holl grwpiau oed ein Academi. Medrwn hefyd gynnwys y gymuned ehangach wrth i Goleg Meirion Dwyfor ddefnyddio’r cyfleusterau.
“Wrth symud ymlaen gall cyfleusterau 5-bob ochr a 7-bob ochr i’r gymuned yn gyffredinol ddod a incwm i’r clwb.”
Rheolwyd y project hyd yma gan Dafydd Wyn Jones oedd yn pwysleisio fod grantiau ar gael ar gyfer projectau cymunedol ac eisoes nodwyd nifer o ffynonellau posib. “Mae’r clwb wedi trafod gyda nifer o gyrff gan gynnwys Yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed a hefyd Adran Datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd. Ni fyddwn yn cael ateb ynglyn a’n ceisiadau am arian grant tan mis Tachwedd 2014 a felly ni fyddwn yn medru symud ymlaen cyn 2015. Mae’r cynllunio a chostio wedi mynd yn eu flaen a hynny yn broffesiynol.”
Ychwanegodd y cyfarwyddwr Clive Hague, “Mae’r ffordd osgoi wedi newid wyneb y cae yn gyfan gwbl a does yna ddim dewis arall. Y cynllun hwn ydy’r unig ffordd i sicrhau fod pêl-droed yn cael ei chwarae ar y Traeth yn y dyfodol.”

“This could be the biggest thing to happen to this club ever if we can pull it off,” was the message club treasurer Richard Jones gave when plans were exhibited to interested supporters, town and county councillors at the Traeth Clubhouse.
The thinking behind the project was outlined by Phil Jones, who said that the proposed changes will be a phased development.
“The first phase will be for a 3G pitch and a new stand with changing facilities. The current stand is dilapidated and must be replaced. All of this is essential if we are to regain our place in the Welsh Prem. The club needs to strengthen its community role and provide opportunities for reserve and youth teams, girls and women’s and disability teams as well as our Academy age group teams. A wider community can be involved with Coleg Meirion Dwyfor able to use the facility. “If we can develop five and seven-a-side pitches for general community use these can also be an income source for the club.”
The project this far has been managed by Dafydd Wyn Jones who stressed that funding is available for community projects and several sources have already been identified. “Discussions have already taken place with several bodies including the Welsh Football Trust and the Economic Development Department of Gwynedd Council. But we will not know if our bids to a variety of grant sources have been successful until November 2014 so we cannot expect to move forward on this project until 2015. But the work of planning and costing is being carried out professionally.”
Director Clive Hague added, “The by-pass has totally altered the ground surface. There is no alternative and this scheme is the only way to guarantee that football will still be played here in the future”
Newyddion cyn 29/01/14
News before 29/01/14

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us