Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
28/2/02
Dim Gem / No game.
Mae wedi ei gadarnhau na fydd gan Port gem y dydd Sadwrn hwn, Mawrth 2il. Gyda Trallwng yn chwarae yng Nghwpan Cymru ar fawrth y 9fed, pan roedden i fod i chwarae Porthmadog, mae'n bosib mae'n gem nesaf fydd ar ddydd mercher Mawrth 13 pan fyddwn gartref yn erbyn Caergybi.

It has been confirmed that Porthmadog do not have a game this coming Saturday, March 2nd. With Welshpool playing in the Welsh Cup on March 9th when they were scheduled to play Porthmadog. It is possible that our next match will be on Wednesday March 13 when we at home to Holyhead.
26/2/02
Jon-Jo Dann.
Arwyddwyd Jon-Jo Dann, blaenwr o glwb Kendal Town yn Adran Gyntaf Cyngrhair yr Unibond, ar gyfer y gem yn erbyn Gresford ddydd Sadwrn, Chwefror 23ain. Cynt bu yn brentis gyda clwb Wigan Athletic am dair blynedd cyn cael ei ryddhau yn 1999. Roedd angen ymosodwr newydd oherwydd y prinder goliau diweddar ac yr anaf i Carl Owen, y prif sgoriwr eleni.

Striker Jon-Jo Dann was signed from Kendal Town, of the Unibond League First Division, in time for the League match against Gresford Athletic on Saturday, February 23rd. He was previously a trainee with Nationwide Second Division club, Wigan Athletic for three years and was released in 1999. The signing became necessary due to the recent goal famine and the injury to leading scorer Carl Owen.
8/2/02
Chris Short.
Mae Port wedi arwyddo Chris Short, amddiffynwr o Ddinas Bangor. Bydd y clwb o Gyngrhair Cymru yn dal i gadw'r chwaraewr wedi ei gofrestru. Mae Short hefyd yn gyn-chwaraewr i Gaernarfon a hefyd Conwy -pan oeddynt yng Nghyngrhair Cymru. Arwyddwyd Joe Cooper hefyd, chwraewr canol-cae 19 oed, o glwb Caer yn y Nationwide Conference. Dywedodd, y rheolwr, Viv Williams, fod yn angenrheidiol i gryfhau'r garfan gan fod y clwb yn wynebu cyfnod prysur iawn o hyn i dddiwedd y tymor gyda'r posibilrwydd o orfod chwarae dwy gem bob wythnos.

Defender Chris Short has signed for Porthmadog from Bangor City -who will however retain the player's registration. Short was formerly on the books of Caernarfon Town and also previously appeared for Conwy Utd -during their period in the League of Wales. Port have also signed Joe Cooper, a 19 year old midfielder, from Nationwide Conference club Chester City. Manager Viv Williams said that it was important to increase the size of the squad in view of the numerous committments facing the club with the likelihood of there being two games a week from now to the end of the season.
2/2/02
Archwyliad / Inspection.
Dydd Iau, Ionawr 24ain, ymwelodd swyddogion Cyngrhair Cymru - cadeirydd Iwan Jones (cyn-gyfarwyddwr clwb Port), ysgrifennydd John Deakin ac aelod o'r bwrdd Keith Harding Y Drenewydd - a'r Traeth i wneud asesiad o'r gwaith sydd angen er mwyn cyfarfod a gofynion y Gyngrhair. Yn ol y disgwyl, bydd eu hadroddiad yn gofyn am gynnydd yn y nifer o seddau yn yr eisteddle, ehangu ystafell newid yr ymwelwyr, ystafell i'r dyfarnwr a'i gynorthwywyr a ffens o gwmpas y safle.
Dywedodd ysgrifennydd y clwb, Gerallt Owen, ei fod yn hyderus y bydd y cyfan yn ei le erbyn y dyddiad tyngedfennol yn yr wythnos gyntaf ym Mai. Bydd angen i'r clwb osod 250 o sedddau yn yr eisteddle ac ehangu'r ystafell newid trwy gynnwys ystafell bresennol y dyfarnwr. Roedd cynrychiolwyr y Gyngrhair yn cydsynio a'r bwriad i osod portacabin ar gyfer y dyfarnwr a'i ddau gynorthwydd.
Eisioes, mae'r defnyddiau ar gael ar gyfer y ffens allanol ac mae ceisiadau wedi eu gwneud i'r awdurdod lleol a'r cyrff chwaraeon perthnasol ar gyfer grantiau i wneud y gwaith.Gobeithir, hefyd, gael cymorth grwpiau o wirddfoddolwyr ar gyfer rhai o'r gofynion.
Dywedodd Gerallt Owen, 'Mae'r gofynion yn rhesymol ac yn rhai y gellir eu cyflawni ac rwyf yn hyderus fydd popeth yn ei le mewn pryd. Bydd angen trefniadaeth dda ac, wrth gwrs, arian a byddwn yn hapus i glywed oddi wrth unrhyw un a fedrith ein cynorthwyo.'

A delegation of League of Wales officials - chairman Iwan Jones( former Port director), secretary John Deakin and board member Keith Harding of Newtown - carried out an initial assessment of the Traeth on Thursday January 24th. As anticipated,their report will ask for increased seating, an enlarged away dressing-room, a new match officials' accomodation and perimeter fencing.
Port secretary, Gerallt Owen, said that he was confident that, with good organisation, all the demands can be met by the deadline of the first week in May. The club will need to install 250 tip-up seats in the stands and the away changing room can be extended by incorporating the present match officials' room. The League of Wales delegation agreed to the plan of erecting a portacabin for the match officials.
The materials for the ground perimeter are already on site and bids for grant aid, to ensure that the work can be carried out, have been made to appropriate local authorities and sports bodies. It is also hoped that voluntary groups of workers can come together to put certain things in place.
Gerallt Owen said, 'The list of demands are reasonable and achievable and we are confident that we can get there. The whole operation will take some organising and funding - and we are looking for help from anyone who can support us.'

(From the Cambrian News)
29/1/02
Gêm Ffwrdd / Game Off
Cafodd y gêm oedd i fod i gael ei chwarae yn y gynghrair llif-oleuadau hen ei galw ffwrdd oherwydd gormod o ddwr ar y cae.

The game that was due to be played in the floodlit-league tonight has been called off due to a waterlogged pitch.
27/1/02
Amddiffynnwr newydd / New Defender
Mae adroddiadau wedi ymddangos yn y wasg leol yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu fod Port ar fin arwyddo amddiffynnwr newydd. Yn ôl y Cambrian News, mae'r amddiffynnwr hwn ar hyn o bryd yn chwarae yng Nghynghrair Cymru.

There have been reports in the local press during the last week indicating that Port are on the verge of signing a new defender. According to the Cambrian News the defender is currently playing for a League of Wales club.
25/1/02
Chwaraewr newydd arall! / Another new player!
Mae Lee Cox, chwaraewr canol cae/blaenwr, wedi ymuno a Port yr wythnos hon. Fel Greg Price a ymunodd yr wythnos diwethaf mae yn ymuno o Witton Albion o adran gyntaf Cyngrhair Unibond. Ymddangosodd Cox yn y fuddugoliaeth, o dan y llifoleuadau, yn Rhydymwyn yr wythnos diwethaf ac roedd ymysg y sgorwyr. Ni fydd ar gael yn ystod y bythefnos nesaf oherwydd trefniadau gwyliau.

Lee Cox a midfield/forward has joined Porthmadog. Like the other recent newcomer Greg Price he joins from, Unibond Div 1 club, Witton Albion. Cox appeared for Port in the Floodlit League match at Rhydymwyn last week and was amongst the goalscorers in a 4-1 win. Due to holiday arrangements he will not be available for the next two weeks.
19/1/02
Golwr Newydd / New Goalie
Mae Port wedi arwyddo golwr newydd, sef Greg Price. Chwaraeodd Greg ei gêm gyntaf i'r clwb yn y Gynghrair llif-oleuadau yn erbyn Rhydymwyn, lle gwneth ddigon i berswadio Viv i'w arwyddo i'r Tim Cyntaf. Mae Greg wedi cael profiod blaenorol gyda Witton Albion. Mae Viv wedi datgan ei obaith i arwyddo chwaraewr arall yn y dyfodol agos.

Port have signed a new goalie, Greg Price. Greg played a trial match for Port against Rhydymwyn in the floodilt league, where he did enough to impress Viv to sign him for the first team. Greg has gained previous experience with Witton Albion. Viv has also expressed his intention to sign another player in the near future.
15/1/02
Dyrchafiad / Promotion
Dim ond dau glwb o'r Cymru Alliance sydd wedi gwneud cais am ddyrchafiad i'r Cynghrair Cenedlaethol, sef Port a Llangefni. Gallai hyn olygu fod gorffen yn yr ail safle yn ddigon i hawlio'r dyrchafiad os byddai'r Trallwng neu Cemaes yn gorffen yn y safle uchaf. Mae dyrchafiad yn ddibynnol ar i'r meysydd basio rheolau'r Gynghrair Genedlaethol. Y gobaith yw y bydd gwaith caled Bob a Robin ar y cyfleusterau, yn ddigon i sicrhau hyn.
Mae'r Ail dim hefyd yn gobeithio ennill dyrchafiad i Gynghrair Gwynedd, ag yn un o'r ceffylau blaen ar hyn o bryd. Eisoes, mae sôn am sefydlu trydydd tîm yng Nghynghrair Caernarfon a'r cylch os bydd yr ail dim yn llwyddiannus.

Only two teams from the Cymru Alliance, Port and Llangefni, have applied for promotion to the League of Wales. This could mean that a second spot finish might be enough to secure promotion, if Welshpool or Cemaes finish in first place. Promotion to the League of Wales depends on the ground passing League of Wales criteria. It is hoped that the hard work Bob and Robin have put in will be enough to bring the facilities up to scratch.
The Second Team are also hopeful of gaining promotion to the Gwynedd League, and are amongst the front-runners at present time. There are already plans to set up a third team in the Caernarfon and District League if the reserves are successful.
13/1/02
Aelod newydd o'r Bwrdd / New member of the Board
Yn ystod yr wythnos, roedd yn dda gan y clwb gyhoeddi fod cyfarwyddwr newydd i ymuno a'r bwrdd, sef Phil Jones, dyn busnes lleol, adnabyddus. Phil ydy perchennog siop Kaleidoscope ym Mhorthmadog ac mae'n gefnogwr brwd o'r clwb. Bydd y ffaith ei fod wedi cytuno i ymuno a'r bwrdd yn cael croeso cyffredinol.

The club were pleased to announce, last week, that a new director has been co-opted on to the board, namely Phil Jones a well known local businessman. Phil, who owns and runs the Kaleidoscope store in the town, has been a keen supporter, and has now agreed to join the board. He will surely be a great addition to the club.
13/1/02
Is-gadeirydd yn gadael / Vice-chairman leaves
Adroddwyd, yn rhaglen ddydd Sadwrn, fod Clive Hague, is-gadeirydd y clwb, wedi ymddiswyddo. Dywedodd Clive mai pwysau cynyddol yn ei waith,yn ogystal a galwadau teuluol sydd yn bennaf i gyfri am ei benderfyniad. Yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb, bu yn gyfrifol am droi'r Noson Fingo a'r Sel Gist Car wythnosol yn ffynonellau ariannol holl bwysig i gynnal y clwb. Er fod ei waith bob dydd wedi golygu ei fod yn treulio llawer o'i amser tu allan i'r ardal, llwyddodd i wasgu i benwythnos yr hyn fyddai'n llenwi wythnos i'r mwyafrif. Bydd ei golli yn ergyd drom i'r clwb. Mynegodd y rheolwr, Viv Williams, ei siom o glywed am ymadawiad Clive gan ei fod yn sylweddoli yr ymdrech gyson y rhoddwyd ganddo a gan y cyfarwyddwyr i gyd. Apeliodd am gymorth ymarferol gan eraill, er mwyn ysgafnhau y baich ar yr ychydig gweithgar.

It was reported in Saturday's match programme that club vice-chairman Clive Hague, had resigned from his post with immediate effect. Clive cited increased work and family commitments as his main reason for ending his connection with the club. In his years with the club, he has been instrumental in setting up the Bingo Club and the weekly Car Boot Sale which have developed into vital sources of finance for the club. Despite working away from the area for a number of years, his committment has always been 100% cramming more into a weekend than many could into a whole week. His loss will be a big blow to the club. Manager Viv Williams said that he was saddened to hear of Clive's departure as he realised how much effort was put in by him and all of the directors. He urged others to get involved in practical ways to ease the burden on the few.
6/12/01
Welsh Football
Bydd y prif 'spotlight' yng nghylchgrawn Welsh Football y mis hwn yn cael ei roi ar Borthmadog. Bydd copiau o'r cylchgrawn i'w cael yn siop y clwb yn y dyfodol agos, ar gost o £2.

The main spotlight in this month's Welsh Football Magazine will be on Porthmadog. Copies of this magazine will be on sale at the Club Shop in the near future, at the cost of £2.
2/12/01
Gêm Ffwrdd / Game Off
Galwyd y gêm rhwng Llanfairpwll a Port (1/12/01) i ffwrdd oherwydd gormod o ddwr ar y cae yn dilyn wythnos o law trwm. Nid oes dyddiad arall wedi cael ei bennu ar gyfer ad-drefnu'r gêm hyd yn hyn.

The game between Llanfairpwll and Port (1/12/01) was called off due to a water-logged pitch after a week of heavy rain. No date has been set for the game to be rescheduled yet.
8/11/01
Rheolwr y mis / Manager of the month
Mae rheolwr Port, Viv williams, wedi cipio gwobr rheolwr y mis yn yr Huws Gray Fitlock Cymru Alliance am fis Hydref. Estynnodd Port ei rhediad di-guro yn y gynghrair i naw gêm yn ystod y mis, gan hefyd sicrhau safle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn dilyn buddigoliaeth o 3-1 yn erbyn Dinbych.

Porthmadog's Viv Williams has scooped the October manager of the month award in the Huws Gray Fitlock Cymru Alliance. Porthmadog extended their unbeaten league run to nine games during the month and also secured a Welsh Cup 3rd Round spot following a 3-1 win over Denbigh Town.
3/11/01
Davenport
Yn bresennol yn y gem rhwng Port a Buckley heddiw oedd Peter Davenport, rheolwr y Bangor. Roedd yn amlwg wedi cymryd mantais ar Sadwrn di-gêm Bangor i gael gwybodaeth am wrthwynebwyr ei dim yng Nghwpan Cymru. Mai si hefyd fod gan Davenport ddiddordeb mewn arwyddo un neu ddau o chwaraewyr Port.

Present at the game between Port and Buckley today was Peter Davenport, Bangor City manager. It was clear that he had taken advantage of the gap in Bangor's fixtures to get information on his club's opponents in the Welsh Cup. There is also talk that Davenport is interesed in aquiring the signature of one or two of Port's players.
1/11/01
Gêm Bangor / The Bangor Match
Mae CPD Porthmadog wedi cadarnhau y bydd y gêm fawr yn nhrydedd rownd cwpan Cymru yn erbyn Bangor sy'n cael chwip o dymor yng Nghyngrair Cymru yn cael ei chwarae ar Sadwrn, Tachwedd 17. Dywedodd ysgrifennydd y clwb Gerallt Owen fod opsiynnau eraill wedi eu trafod gyn gynnwys y nos Wenner cynt. "ond, roedden ni a Bangor yn teimlo mai Dydd Sadwrn oedd yr opsiwn gorau," nododd.
Bydd ticedi yn costio £4 i oedolion a £2 i blant a phensiynnwyr, ond bydd pawb yn bresynnol yn derbyn 'vouchers' fydd yn caniatau iddynt weld gêm gartref nesaf Port am £2 a £1.
Mae'r clwb eisoes wedi dechrau ar y gwaith o wneud trefniadau ar gyfer gêm fydd yn un o'r mwyaf pwysig yn y rownd yn y gogledd gan fod y ddau glwb wedi cael dechreuadau calonogol iawn iw tymhorau. "Dennodd y gêm ddiwethaf o bwys cymharol i gael ei chwarae ar y Traeth rhwng Port a Bangor dorf o 2,900 sydd yn parhau yn record yng Nghyngrair Cymru," ychwanegodd Owen. "Felly mae'n bwysig ein bod yn sicrhau fod yr holl drefniadau yn cael ei cwblhau mor fuan a phosib. Rydym nawr yn chwilio am noddwyr i'r gêm a'r peli ar gyfer yr achlysur ag os oes unrhyw fusnesau lleol sydd a diddordeb mae croeso iddynt gysylltu a mi ar 01766 512991. Rydym yn credu, o ganlyniad i'r dorf ddisgwyliedig a'r posibilrwydd o sylw gan y cyfryngau bod hwn yn gyfle euraid i noddwyr."

Porthmadog FC has confirmed that it's eagerly awaited Welsh Cup 3rd round match against League of Wales high flyers Bangor City will be played on Sat. Nov 17th. Club Secretary, Gerallt Owen said that alternatives had been considered including playing on the previous Friday evening. "However both ourselves and Bangor felt Saturday would be the best option," he added.
Ticket prices will be £4 for adults and £2 for senior citizens, but alll spectators will be offered a voucher allowing them to watch Porthmadog's next home match at a reduced rate of £2 and £1.
The club has already started work on detailed arrangements for the match which will be the most high profile of the round in the north seeing as both clubs have had such encouraging starts to the season. "The last match of comprable significance played at Y Traeth between Porthmadog and Bangor drew 2,900 spectators which is still a League of Wales record," added Owen. "Therefore we have to ensure that all arrangements are undertaken as soon as possible. We are looking for both match and ball sponsors for the occasion and if any local businesses are interested they are welcome to contact me on 01766 512991. We believe that given the anticipated attendance and potential media coverage this is a golden opportunity for a sponsor."
1/11/01
Calendr yn gwerthu'n dda / Calendar goes down well
Mae Gerallt Owen wedi adrodd fod calendr 2002 unigryw y clwb sydd yn tanlinnellu timau, digwyddiadau a personoliaethau pwysig o hanes y clwb dros yr 117 mlynedd diwethaf eisoes yn gwerthu yn eithriadol o dda, a nid yn unig bobl leol sydd wedi dangos diddordeb, gyda galw o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gyda un cais yn dod o Awstralia.

Gerallt Owen has reported that the club's unique 2002 calendar highlighting teams, events and personalities from the club's illustrious 117 year history was already selling extremely well with not only local people showing interest but demand from all over Wales and beyond, with one request from Australia.
28/10/01
Gwelliannau i'r cae / Ground improvements
Mae gwaith wedi dechrau ar addasu'r stand tu ôl i'r gôl i fod yn eisteddle. Hwn yw'r cam diweddaraf yng nghynllun Bob a Robin i wella cyfleusterau'r Traeth er mwyn cyraedd y safonnau Cynghrair Cymru. Byddai'n ofynnol iddynt gyraedd y safonnau hyn pe byddent yn ennill dyrchafiad i'r Gynghrair.

Work has started on refurbishing and placing seats in the Town End stand. This is the latest step in Bob and Robin's plan to improve the facilities at y Traeth to meet the criteria set by the League of Wales. This criteria would have to be met if Port gained promotion to the League.
28/10/01
Ar y brig. / Top of the League
Helpodd y fuddigoliaeth yn erbyn Airbus ddoe i godi Port i frig y Cymru Alliance, wedi i'r Trallwng gael gêm gyfartal yn erbyn Buckley. Port bellach ye'r unig dim yn y gynghrair sydd yn ddi-guro, gyda'r rhediad da yn parhau. Maent yn gwynebu sialens fawr y penwythnos hwn, gyda gêm oddi-cartref yn erbyn Buckley.

Yesterday's victory against Airbus was enough to raise Port to pole position in the Cymru Alliance, as Welshpool could only manage a draw against buckley. Port are now the only team in the league who remain unbeaten, with the good run continuing. They face a tough challenge on the weekend, away against Buckley Town.
Newyddion cyn 28/10/01
News pre 28/10/01

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us