Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gêmau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
25/7/01
Gêm ffwrdd / Game off.
Gohuriwyd y gêm rhwng Bae Colwyn a Porthmadog a oedd i gael ei gynnal ar nôs Iau Gorffrnnaf 26. Roedd nifer o chwaraewyr Port methu chwarae oherwydd gwaith a gwyliau. Roedd y Bae yn gymharol hapus oherwydd eu bod eisoes wedi chwarae unwaith yn ystod yr wythnos, ag yn mynd i chwarae dwy gêm eto wythnos nesaf. Mae gêm gyfeillgar gartref Port yn erbyn Amlwch yn mynd ymlaen heb newid p'nawn Sadwrn am 2:30pm.

The match between Colwyn Bay and Porthmadog which was due to be played on Thursday July 26th has been cancelled. Porthmadog had a number of players unavailable due to work and holiday commitments, Bay were quite happy as they have played once this week and have two matches again next week. Porthmadog's home friendly with Amlwch on Saturday goes ahead k.o. 2.30pm
15/7/01
Rhestr Gêmau / Fixture list.
Mae’r rhestr gemau nawr wedi ei ddiweddaru hyd at Sadwrn, Medi 29. Mae’r manylion llawn nawr i’w cael ar restr gemau’r tymor newydd.

The fixture list has now been confirmed up until Saturday, September 29. The full details are now to be found on the new season’s fixture list.
12/7/01
Ymarfer cyn-dymor / Pre-season Training.
Dechraewyd ymarfer cyn-dymor ar Ddydd Mawrth Mehefin 10fed. Derbyniodd Viv Williams fod hyn ychydig yn hwyrach na’r tymor diwethaf, ond nododd fod cyfran fawr o’r garfan yn rhan o dim Ynys Môn yn y gemau rhyng ynysoedd ag eisoes wedi chwarae nifer o gemau. Roedd oleiaf tri wyneb newydd yn bresennol yn y sesiwn ymarfer cyntaf, ond roedd Viv yn amharod i enwi enwau ar y pwynt hwn.

Pre-season training was kicked off on Tuesday July 10th. Viv Williams acknowledged that this was rather later than last season but pointed out that a large section of the squad are part of the Anglesey side in the Inter Island games and have played a number of games already. At least three new faces attended the first training session but Viv was unwilling to name names at this stage.
9/7/01
Rhestr gemau’r tymor / Season’s fixture list.
Mae’r rhestr gemau ar gyfer chwech wythnos gyntaf y tymor wedi eu cyhoeddi gan bwyllgor y Cymru Alliance. Bydd Port yn agor y tymor gyda gêm gartref yn erbyn Bae Cemaes ar Sadwrn Awst 18. Y nôs fercher ganlynol bydd Llandudnon gwneud y daith i’r Traeth. Y daith oddi-cartref gyntaf fydd hono i Fflint ar Sadwrn Awst 25. Fe ddawn a manylion am gemau pellach mor a phosib.

The Cymru Alliance comittee have published the fixture list for the first six weeks of the season. Port will open their season with a home fixture against Cemaes Bay on Saturday August 18. The following Wednesday night will see Llandudno make a visit to y Traeth. The first away trip of the Season will be to Fflint on Saturday August 25. We’ll bring you further details as soon possible.
4/6/01
Mwy o gemau cyfeillgar cyn-dymor / More pre-season frendlies.

Holl gemau cyfeillgar / All friendlies
Dyddiad / date Gwrthwynebwyr / Oponents
19/7/01 Bethesda (Away)
26/7/01 Colwyn Bay (Away)
31/7/01 Rhyl (Away)
4/8/01 Flexys Cefn Druids (Home)
8/8/01 Bangor (Home)
11/8/01 Caernarfon (Home) OFF


22/6/01
Gêmau cyfeillgar cyn-dymor / Pre-season frendlies.
Mae Port wedi trefnu tair gêm gyfeillgar yn erbyn gwrthwynebwyr o Gynghrair Cymru mewn paratoad at y tymor newydd. Bydd y gemau hyn yn dechrau ar Sadwrn Awst 4ydd gyda gêm yn erbyn Flexys Derwyddon Cefn. Bangor fydd y gwrthwynebwyr ar nôs fercher, Awst 8fed, tra byddant yn croesawu ennillwyr y Cymru Alliance, Caerfnarfon ar Sadwrn, Awst 11eg. Bydd y tair gêm yn cael ei chwarae ar y Traeth, Porthmadog. Mae disgwyl y bydd mwy o gêmau cyfeillgar yn cael eu trefnu yn y dyfodol agos.

Port have arranged three pre-season friendlies against opposition from the League of Wales in preparation for the forthcoming season. These fixtures will commence on Saturday August 4th with a match against Flexys Cefn Druids. The opponents on August 8th (Wednesday night) are Bangor City, while Cymru Alliance champions Caernarfon Town will be the visitors on Saturday August 11. All three matches are to be played at y Traeth, Porthmadog. It is expected that more friendly matches will be arranged in the near future.
22/6/01
Y garfan yn ail-arwyddo / The squad re-sign.
Mae Viv Williams wedi ail arwyddo carfan bresennol gyfan Port ar gyfer y tymor nesaf. Ond, fel mae Viv eisoes wedi datgan, bydd yn chwilio am un neu ddau chwaraewr i gryfhau’r garfan. Mae hefyd amheuon os fydd yr amddiffynnwr Campbell Harrison, a fu allan am ran helaeth o ddiwedd y tymor diwethaf oherwydd firws, yn ad-ennill ei ffitrwydd o gwbl yn ystod tymor 2001/02.

Viv Williams has re-signed the full current Port squad for the new season. But, as Viv has already indicated he will be on the look out for one or two new players that would strengthen the squad. There are also some doubts if the defender Campbell Harrison, who was out for a considerable part of the end of last season due to a virus, will re-gain his fitness to figure at all in the 2001/02.
11/6/01
Gwobr i'r ail dim / Trophy for the second team
Ennillodd eilyddion CPD Porthmadog gwpan y TGWU. Cynhaliwyd y rownd derfynnol, rhwng Port a Dyffryn Nantlle, ym Mhenygroes. Y sgor terfynnol oedd 1-0 i Port, gyda Idan Williams yn sgorio'r unig gol ar ol 43 munud.

The reserves have won the TGWU cup. The final, between Port and Nantlle Vale, was heald at Penygroes. The final score was 1-0 to Port, with the only goal coming after 43 minutes from Idan Williams.
11/6/01
Rhaglen y flwyddyn! / Programme of the Year!
Llongyfarchiadau i Gerallt Owen, golygydd rhaglen CPD Porthmadog, am ennill gwobr cylchgrawn 'Welsh football'. Ennillodd y rhaglen wobr gyntaf 'rhaglen y flwyddyn' ar gyfer Cymru Gyfan.

Congratulations to Gerallt Owen, CPD Porthmadog's programme editor, for winning 'Welsh football' magazine award. The programme won 'programme of the year' for the whole of Wales.
24/5/01
Hyfforddi plant lleol / Coaching local youngsters
Bydd Viv Williams a Osian Roberts yn cymryd rhan mewn cynllun i hyfforddi plant lleol ar Ddydd Mawrth Mai 29 a Mercher Mai 30. Cynhelir y sesiynnau hyfforddi fel rhan o gynllyn Sgiliau Peldroed yn y Gymuned y clwb, ac mae croeso i ferched a berchgyn dros chwech oed gymryd rhan yn y sesiynnau ar y Traeth a gynhelir rhwng 10yb a 3yh. Ceir manylion pellach yn swyddfa Sgiliau Peldroed yn y Gymuned neu drwy ffonio (01766) 512 395.

Viv Williams and Osian Roberts will take part in a plan to coach local youngsters on Tuesday May 29 and Wednesday May 30. The training sessions are run as part of the club’s Soccer Skills in the Community scheme, and girls and boys aged six years and above are welcome to take part in the sessions held at y Traeth between 10 am and 3pm. For further information, drop by at the Soccer Skills in the Community office, or phone (01766) 512 395.
21/5/01
Chwaraewr y Flwyddyn - Eilyddion / Reserves Player of the year
Llongyfarchiadau i Emyr Jones ar gael ei ddewis yn chwaraewr y flwyddyn yr ail dim gan y cefnogwyr. Yn dilyn ei berfformiadau cyson i’r eilyddion, gwnaeth Emyr nifer o ymddangosiadau i’r tim cyntaf gan sgorio deg gôl iddynt. Does fawr o syndod felly iddo ennill y wobr hon. Gorffennodd tri chwaraewr yn gyfartal yn yr ail safle yn y bleidlais sef Dyfan Pierce, Gareth Pritchard a Dylan Pritchard.

Congratulations to Emyr Jones on being voted player of the year for the second team by the supporters. Following a string of good performances for the reserves, Emyr made a number of appearances for the first team, scoring 10 goals for them. It’s little wonder therefore that he won this award. Three players finished in equal second place in the vote - Dyfan Pierce, Gareth Pritchard and Dylan Pritchard.
9/5/01
Dim gêm yn Glantraeth? / No match at Glantraeth?
Mae'n ymddangos na fydd Glantraeth yn gallu cwblhau ei gemau oherwydd yr holl ohiriadau fel canlyniad i'r tywydd drwg a chlwy'r traed a'r gennau y tymor. Gan nad yw'n bosib iddynt ennill dyrchafiad, a'i bod wedi ennill y pwyntiau angenrheidiol i osgoi'r gwymp, ni fydd y gynghrair yn rhoi pwysau arnynt i gwblhau ei gemau. Mae'n debygol felly na fydd Port yn gorfod chwarae ei gêm olaf, oddi-cartref yn Glantraeth.

It seems likely that Glantraeth will be unable to finish their fixtures due to the string of postponements forced by the poor weather and foot and mouth disease. Since it is impossible for them to gain promotion, and they have picked up the points necessary to avoid relegation, the league will not be putting any pressure on them to fulfil their fixtures. It's likely that Port will not have to play their remaining fixture, away at Glantraeth.
5/5/01
Martin - Chwaraewr y Flwyddyn / Martin - Player of the Year.

Cafodd amddiffynwr Port, Martin Jones, ei enwi'n chwaraewr y flwyddyn gan y cefnogwyr cyn y gêm heddiw yn erbyn Lex. Mae Martin yn amddiffynwr cadarn, ond nid oes dwy waith fod ei allu i ysbrydoli'r tim wedi helpu iw wneud yn ffefryn gan y dorf yn ystod ei dymor cyntaf ar y Traeth. Llongyfarchiadau Mart!

Port defender, Martin Jones, was named the supporters' player of the season before today's game against Lex. Martin is a strong defender, but there is little doubt that his ability to raise the spirits of the team helped to make him the supporters favourite during his first season at y Traeth. Well done Mart!
5/5/01
Ail wobr Rheolwr y mis i Viv / Viv wins second Manager of the Month Award.
Llongyfarchiadau i Viv a'r chwarawyr ar ennill unwaith eto gwobr rholwr y mis am berfformiadau'r clwb yn ystod mis Ebrill. Ennillwyd bob un a'r gemau cynghrair ag eithrio gêm gyfartal oddi-cartref yn Buckley. Yn ogystal, fe enillodd Port o 10-0 yn erbyn Treffynnon yn cyfnod hwn.

Congratulations to Viv and the lads for once again winning the 'Manager of the Month' award for their performances during April. All league matches were won, with the exception of an away draw at Buckley. During this period, Port also won by 10 goals to nill against Holywell.
30/4/01
Llangefni ar y Traeth? / Llangefni at y Traeth?
Mae sibrydion yn awgrymu y bydd Llangefni yn cwblhau eu gemau ar y Traeth. Nid yw'r clwb o Fôn yn cael chwarae gartref oherwydd clwy traed a'r gennau. Roedd son y byddent yn chwarae yng Nghaernarfon, ond mae'n anhebyg y byddent yn mwynhau chwarau "gartref" ar faes eu prif wrthwynebwyr!

It is rumoured that, in order to complete their fixtures, Llangefni will play their remaining "home" fixtures at y Traeth, Porthmadog. The Anglsey club has been unable play at home due to foot and mouth. It has been reported that Caernarfon have already offered the Oval, however Llangefni may not relish playing "home" games at the ground of their nearest opponents!
6/4/01
Rheolwr y Mis / Manager of the Month.
Mae rheolwr Port Viv Williams wedi cael ei enwi, ychydig yn hwyr, fel rheolwr y mis y Cymru Alliance am fis Chwefror ar ol ennill 3 gêm Gynghrair yn olynol. Fe drechodd Port Gaergybi yn rhwydd o 3-0 gan hefyd fwynhau buddigoliaethau yn erbyn Halkyn a Treffynnon heb adael unrhyw goliau i mewn. Llongyfarchiadau Viv.

Porthmadog manager Viv Williams has belatedly been named Cymru Alliance manager of the month for February after a hat-trick of impressive league wins. The Traeth side romped to a 3-0 home success against Holyhead Hotspurs and also enjoyed victories at Halkyn and Holywell without conceding a goal. Congratulations Viv.
3/4/01
Cwpan Arfordir y Gogledd / North Wales Coast Cup.
Cadarnhawyd y bydd Porthmadog yn chwarae yn erbyn Caergybi (am y trydydd tro y tymor hwn) oddi-cartref ar Sadwrn 7fed o Ebrill yng Nghwpan Her Arfordir y Gogledd. Os byddwn yn llwyddiannus byddwn yn chwarae Cei Cona o'r Gynghrair Genedlaethol ar y Traeth un ai ar Ddydd Mawrth neu Fercher, 10 neu 11 o Ebrill. Byddwn hefyd gartref y Sadwrn canlynol (14/4/01) yn erbyn Treffynnon yn y gynghrair.

It has been confirmed that Porthmadog will play Holyhead Hotspurs (for the third time this season) away this coming Saturday April 7th in the North Wales Coast Challenge Cup. If we are successful we will play Connah's Quay Nomads from the League of Wales at Y Traeth, either on Tuesday or Wednesday 10th or 11th April. We are also at home on Saturday April 14 to Holywell Town in the League.
31/3/01
Newyddion Gêmau / Match Information.
Mae'n debygol mae'n gwrthwynebwyr dydd Sadwrn nesaf (7/4/01) fydd Caergybi, a hynny mewn gêm cwpan y gynghrair wedi ei had-drefnu. Gohiriwyd y gêm hon ar fwy nag un achlysur o herwydd Clwy'r Traed a'r Gennau. Mae posib er hynny, y bydd pwyllgor y gynghrair yn gorchymyn yn hytrach fod gêm gynghrair i gael ei chynnal. Gwyliwch y gofod hwn am fanylion pellach.

It is likely that our opponents next Saturday (7/4/01) will be Holyhead Hotspur in a re-arranged league cup fixture. This fixture has been postponed more than one occasion due to the Foot and Mouth crisis. There is a possibility however that the League committee might sanction for a league match to take place in stead. Watch this space for further details.
21/3/01
Gêm Ffwrdd / Game Off.
Cafodd gêm heno yn erbyn Rhuthun ei galw i ffwrdd yn dilyn archwyliad o'r cae am 3:30 oherwydd fod gormod o ddwr ar y cae.

Tonight's game against Rhuthun was called off following an inspection of the pitch at 3:30 because of a waterlogged pitch.
20/3/01
Bob yn ymddiswyddo / Bob quits.
Mae Bob Havelock wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y clwb, ond bydd yn parhau yn ei safle fel cyfarwyddwr. Fe ddaeth yr ymddiswyddiad ar ?l iddo fynegi anhapusrwydd ynglyn a phwysau a roddwyd ar y clwb i chwarae gartref yn ystod yr argyfwng traed a genau. Dywedodd ei fod yn gweithredu er mwyn dangos ei gefnogaeth i'r ffermwyr. Ymateb Steve Williams, ysgrifennydd y gynghrair i safbwynt Bob oedd 'We sympathise with the needs of clubs, but we have a league to run.' Bydd colli cadeirydd mor weithgar a Bob yn ergyd fawr i'r clwb, bydd y newyddion fod Bob yn parhau'n gyfarwyddwr efallai'n llihau'r effaith.

Port chairman, Bob Havelock has resigned from his post, but will retain his position as a club director. His resignation came after he had expressed his opposition to the pressure put on the club by the league to fulfil their home fixtures during the Foot and Mouth crisis. He said that was acting to show his support for the local farmers. The response of league secretary, Steve Williams to Bob's standpoint was 'We sympathise with the needs of clubs but we have a league to run.' To lose such a committed chairman will be a big blow for the club, the news that he will remain a director will soften the blow.
20/3/01
Ansicrwydd am Rhuthun / Question mark over Rhuthun
Mae ansicrwydd ynglyn a gêm Rhuthun sydd i fod i gael ei chynnal ar nos fercher (21/3/01). Yn dilyn apel gan gyngor Gwynedd i ohirio pob gêm ar gaeau sy'n ffinio tir amaethyddol, fe fydd cyfarfod heno gyda swyddogion y Gynghrair ac mae'n bosib fydd pob gêm gartref ar y Traeth yn cael eu gwahardd nes diwedd yr anghydfod traed a'r genau. Ni fydd Port yn Chwarae gartref yn erbyn y Fflint y Sadwrn hwn (24/3/01). Yn hytrach, mae'n debygol y byddant yn chwarae oddi-cartref yn erbyn Trallwng.

There is uncertainty surrounding the Rhuthun match that is was to be played on Wednesday night (21/3/01). Following an appeal with Gwynedd Council to cancel every game on fields adjoining farmland, a meeting with officials from the league will take place tonight and it is possible that all games at y Traeth will be banned until the end of the foot and mouth outbreak. Port will not play at home against Flint this Saturday (24/3/01). It is likely that Port will be playing away against Welshpool.
17/3/01
Gêm Ffwrdd / Game Off.
Cafodd gêm heddiw (17/3/01) ei gohurio yn dilyn eira trwm dros nos a orchuddiodd gae Brymbo o dan 6 modfedd o eira.

Today's match (17/3/01) was cancelled following heavy overnight snowfall that left the Brymbo pitch under 6 inches of snow.
15/3/01
Newidiadau i gemau / Fixture changes.
Mae clwy'r traed a'r genau wedi arwain at newidiadau pellach i restr gemau Port yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae gêm wedi ei threfnu yn erbyn Rhuthun ar y Traeth nos Fercher nesaf (21/3/01). Ond, mae ychydig ansicrwydd ynglyn a'r penwythnos (24/3/01) gyda'r gêm oedd wedi ei threfnu'n wreiddiol yn erbyn y Trallwng yn cael ei gohurio oherwydd clwy'r traed a'r genau. Mae'n debygol nawr mai Fflint fydd y gwrthwynebwyr, ag hynny ar y Traeth. Ceir manylion llawn am y newidiadau ar y dudalen Gêmau.

The foot and mouth disease has lead to further changes to Port's fixture list during the next few weeks. A game has been arranged against Rhuthun on Y Traeth next Wednesday night (21/3/01). There is however some uncertainty surrounding the weekend (24/3/00) with the scheduled game against Welshpool being cancelled due to the foot and mouth disease. It now looks likely that Fflint will be the opponents in a match at home at y Traeth. Full details can be found on the Fixtures page.
12/3/01
Colin Webster
Cafwyd munud o dawelwch, cyn y gêm dydd Sadwrn yn erbyn Cemaes, i gofio am Colin Webster un o'r 'Busby Babes' a fu farw yn ei gartref yn Abertawe ar Ddydd Gwyl Ddewi yn 68 mlwydd oed. Bu yn aelod o dim Port am ddau dymor yn ystod 'oes aur' y chwedegau -cyfnod Mel Charles. Roedd yn chwaraewr rhyngwladol ac yn aelod o dim Cymru a gyrhaeddodd rownd yr wyth-olaf yng Nghwpan y Byd yn Sweden yn 1958. Disgrifiwyd ef fel blaenwr dawnus a allai chwarae mewn unrhyw safle yn y llinell flaen.

There was a minute's silence before Saturday's game against Cemaes in memory of Colin Webster one of the 'Busby Babes' who died at his home in Swansea on St. David's Day at the age of 68. He played for two seasons for Porthmadog during the 'Golden sixties' - the Mel Charles era. He was a Welsh international and a member of the team that reached the World Cup quarter-final in Sweden in 1958. He was a talented player who could play anywhere in the front line.
11/3/01
Port yn chwarae yn erbyn eu dymuniad / Port play against their wishes
Bu datganiad cyn gêm y penwythnos yn erbyn Bae Cemaes, ei bod wedi ei chynnal yn groes i ddymuniadau swyddogion y clwb, yn dilyn pwysau gan y Gynghrair, a hynny er agosrwydd y Traeth i dir amaethyddol. Mae'n debygol hefyd y bydd Port yn wynebu Dinbych ar y Traeth n?s Fercher nesaf.

It was announced that the weekend?s match against Cemaes Bay was played against the wishes of the club's directors, following pressure from league officials, despite the proximity of y Traeth to agricultural land. It is also likely that Port will face Denbigh at y Traeth next Wednesday night.
8/3/01
Gêm Cemaes 'mlaen / Cemaes Game On
Mae'n ymddangos bydd gêm gartref dydd Sadwrn, yn erbyn Bae Cemaes yn mynd yn ei blaen wedi'r cyfan. Roedd datganiad yn gynharach yr wythnos hon wedi awgrymu na fyddai gemau ar gaeau oedd yn agos i dir fferm (fel y Traeth) yn cael eu caniatau oherwydd argyfwng clwy traed a'r genau.

It seems likely that Saturday's match at home to Cemaes Bay will take place after all. Announcements earlier in the week had said that games on fields adjoining farmland (such as y Traeth) would not be allowed due to the foot and mouth crisis.
4/3/01
Clwy traed a'r gennau / Foot and Mouth Disease
Mae peryg bydd clwy'r traed a'r genau yn cael effaith fawr ar gemau Port y tymor hwn. Cyhoeddwyd y bydd gemau ar gaeau wrth dir fferm yn cael eu gohurio, gan olygu na fydd gemau ar y Traeth. Dyma oedd un o'r rhesymau pam y gohuriwyd gêm nos Fercher yn erbyn Bae Cemaes. Hefyd, mae timau Ynys Mon wedi eu gwahardd rhag chwarae'n gyfangwbl - rhywbeth fydd yn sicr i orfodi estyniad i'r tymor.

The foot and mouth crisis is likely to have a severe effect on the fixtures of Port this season. It has been announced that all matches on fields adjacent to farmland should be cancelled, thus putting the Treath out of action. This was one of the reasons for the postponement of Wednesday night's match against Cemaes Bay. Also, all Anglesey teams have been barred from playing, something that will surely warrant an extension to the season.
24/2/01
Gêmau hyd ddiwedd y tymor/ Fixtures up to end of season
Mae'r rhestr gemau nawr wedi cael ei ddiweddaru hyd at ddiwedd y tymor ar ein tudalen Gêmau. Ond mae ansicrwydd yngl?n a dyddiad gêm Port yn erbyn Caergybi yng Nghwpan Her Arfordir y Gogledd, gyda'r gêm wedi ei threfnu ar yr un diwrnod a gêm gynghrair i ffwrdd yn Brymbo (17/3/01). Gwyliwch y gofod hwn am fanylion pellach.

The fixture list for the remainder of the season has now been updated on our Fixture Page. But, there remains confusion regarding the date of Port's match in the North Wales Cost Challenge Cup, with the match due to take place on the same date as Port's league match away at Brymbo (17/3/01). Watch this space for further details.
7/2/01
Gêm Ffwrdd / Game Off
Cafodd gêm heno (nos Fercher) rhwng Port a Bae Cemaes ei gohurio oherwydd fod y cae dan ddwr, ar ol archwyliad am 11 o'r gloch y bore ma. Nid oes dyddiad wedi ei drefnu ar gyfer ail chwarae'r gêm hyd yn hyn.

Tonight's match (Wednesday night) between Port and Cemaes Bay has been called off due to a water logged pitch following an inspection at 11 o'clock this morning. No new date has been set for the match.
24/1/01
Ryan Davies yn gadael / Ryan Davies Leaves
Mae Port wedi derbyn y rhybudd statudol o 7 diwrnod gan Bae Cemaes ynglyn a Ryan Davies. Mae disgwyl iddo arwyddo i'r clwb o Ynys Mon cyn diwedd yr wythnos. Roedd Davies yn chwarae i Gêm aes y tymor diwethaf cyn symud i Port yn ystod yr haf. Gwnaeth 13 o ymddangosiadau yn y Gynghrair a'r Gwpan i Port, ynghyd ag un ymddangosiad fel eilydd, gan sgorio un gol. Mae'n dilyn Marc Owens yn ol i Gêm aes. Ymunodd Owens hefyd a'r clwb yn ystod yr haf ond i ail-ymuno a'r clwb o Fon yn gynharach yn y mis. Yn sicr bydd yn golled fawr i linell gefn Port i golli gwasanaeth taclwr mor gadarn.

Porthmadog FC have received the statutory 7 days notice of approach from Cemaes Bay for Ryan Davies. He is expected to sign for the Anglesey side before the weekend. Davies was with Cemaes last season before joing Porthmadog during the summer. He made a total of 13 appearances in League and Cups for Porthmadog plus one as sub, in that time he scored 1 goal. He follows Marc Owens back to Cemaes, he also joined Port during the summer only to return to the Anglesey side earlier in the month. This will definately be a big loss to Port's back-line to have lost the services of such a solid defender.
24/1/01
Gêm Caergybi / Holyhead Hotspur Match
Mae Caergybi, sydd heb chwarae adref ers mis Hydref, eisoes yn awgrymu na fydd ei gêm yn erbyn Port yn cael ei chwarae oherwydd y tywydd drwg. Mae posib felly y bydd y gêm yn cael ei had-drefnu i'w chwarae ym Mhorthmadog, un ai ar Ddydd Sadwrn neu yn ystod yr wythnos. Gwyliwch y gofod hwn.

Holyhead who have not played at home since October are already making noises that indicate that their game v Port may be victim of the weather. If that appears to be the case then the game may be switched at short notice to Porthmadog, either being played on Saturday or next midweek. Watch this space.
23/1/01
Gêmau Chwefror / February fixtures
Mae wedi cael ei gadarnhau y bydd y gêm yn erbyn Glantraeth nos y fory (Mercher 24 Ionawr) yn mynd ymlaen. Hefyd wedi ei gadarnhau, mae'r rhestr gemau ar gyfer mis Chwefror, sydd nawr i'w weld ar y dudalen Gêmau.

It has been confirmed that the game against Glantraeth tomorrow night (Wednesday 24 January) will go ahead. Also confirmed is the fixture list for February, which is now updated on the Fixtures Page.
20/1/01
Gêm Ffwrdd / Game Off.
Cafodd gêm heddiw yn erbyn Lex ei galw ffwrdd oherwydd yr amodau rhewllyd. Dyma'r ail-gem mewn wythnos i gael ei gohurio oherwydd rhew. Ond, mae gobaith yn parhau y bydd gêm yn erbyn Glantraeth, a ganslwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn cael ei had-drefnu ar gyfer Nos Fercher nesaf. Gwyliwch y dudalen Gêmau am gadarnhad.

Today's match against Lex was called off because of the freezing conditions. This is the second game this week to be cancelled due to frost. But there remains a hope that the game against Glantraeth, cancelled earlier this week, will be re-arranged for Next Wednesday night. Watch out for conformation on the Fixtures Page.
16/1/01
Gêm Ffwrdd / Game Off.
Cafodd y gêm heno rhwng Port a Glantraeth eu gohurio oherwydd fod y cae wedi rhewi. Mae gobaith y bydd yn cael ei ad-drefnu ar gyfer dydd Mawrth nesaf, Ionawr 23.

Tonight's game between Port and Glantraeth was called off due to a frozen pitch. There's hope it will be re-aranged for next Tuesday, January 23.
10/1/01
Cyngerdd canu gwlad. / Country and Western Concert.
Mae Cyngerdd gyda'r deuawd poblogaidd 'John ac Alun' wedi cael ei drefnu yn Neuadd y Lleng Brydeinig ym Mhorthmadog i gasglu arian i'r clwb. Bydd tocynnau ar gyfer y noson, ar Nos Wener Ionawr 19 yn costio ?4 - mae croeso i bawb.

A concert with the popular duo 'John ac Alun' has been organised at the British Legion Hall in Porthmadog to rase money for the club. Tickets for the concert, on Friday, January 19th will cost £4 - we extend a warm welcome to all.
17/12/00
Caernarfon yn gwrthod symud. / Caernarfon refuse to move.
Mae Caernarfon wedi gwrthod symud gêm wythnos nesaf i ddydd Mercher 27 Rhagfyr. Bydd yn rhaid i'r gem, sydd yn cael ei chwarae ar y Traeth, gael ei chwarae felly ar y Dydd Sadwrn olaf cyn y Nadolig, gan effeithio'n fawr ar y dorf.
Caernarfon have refused to move the game scheduled for this Saturday to Wednesday December 27. The game, to be held at y Traeth, will therefore have to be played on the last Saturday before Christmas, effecting greatly on the gate.
17/12/00
Owens yn Gadael. / Owens leaves.
Mae'r ymosodwr Mark Owens, a ymunodd a Port ar ddechrau?r tymor o Gêm aes, wedi dychwelyd i'r clwb o Ynys Mon. Daeth hyn ar ol i Viv Williams arwyddo dau ymosodwr newydd - Carl Owen a Lewis Codey - i geisio lleddfu methiant y tim i gymryd eu cyfleon.
Striker Mark Owens, who joined Port from Cemaes Bay at the start of the season, has returned to the Anglesey club. This followed Viv Williams? signing of two new strikers - Carl Owen and Lewis Codey - to try and alleviate the team?s failure to take their chances.
11/12/00
Newid Gêmau Eto / More Fixture Changes
Gan i holl gemau dydd Sadwrn diwethaf gael eu gohurio, ag eithrio Caernarfon v Port mae'r holl gemau wedi eu had-drefnu ar gyfer y Sadwrn nesaf. Lex oedd yr unig dim nad oedd i fod i chwarae, a bydd Port felly'n teithio i Lex dydd Sadwrn yn hytrach na'r ymweliad a Glantraeth.
Mae Caernarfon wedi GWRTHOD symud y gêm ym Mhorthmadog yn ol i Wyl San Steffan, gan fynnu dylai'r gêm ddigwydd ar Sarwrn y 23ain. Ond mae Port yn ofni byddai siopa Nadolig yn effeithio ar y dorf, felly mae dyddiad arall yn cael ei ystyried, gyda Mercher 27ain yn opsiwn posib. Felly gwiliwch y gofod yma!

As all last Saturday's matches apart from Caernarfon v Port were postponed all the fixtures have been rescheduled for next Saturday. Lex were the team not playing and therefore Porthmadog will travel to Lex on Saturday rather than the scheduled visit to Glantraeth
Caernarfon Town FC have REFUSED to move the game at Porthmadog back to Boxing Day, they want the game to be played on Saturday 23rd. But Porthmadog believe Xmas shopping will severly affect the gate, so an alternative is being sought by both clubs with Wednesday 27th being one option. Watch this space!!
9/12/00
Chwaraewr Newydd / New Player
Mewn ymgais i ddod a diwedd i fethiant Port i drosi eu cyfleon, mae Viv Williams wedi arwyddo ymosodwr newydd, sef Lewis Codey. Bu Codey wrth gwrs, yn Port am gyfnod pan oedd y clwb yng Nghynghrair Cymru, ond yn fwy diweddar mae wedi bod yn aelod o garfan Bangor. Ond, cafodd ei ryddhau yn gynharach yn y tymor ar ol methu a chadw ei le yn y tim

In an attempt to bring an end to Port's failure to convert their chances, Viv Williams has signed a new striker, Lewis Codey. Codey was of course at Port for a period while the club were in the League of Wales, but has more recently been a member of the Bangor City squad. But, he was released earlier in the season after failing to keep his place in the team.
Newyddion cyn 9/12/00
News pre 9/12/00

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us