Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
4/12/00
Pugh yn holliach / Pugh fit again
Mae'r ymosodwr Steven Pugh yn gobeithio y bydd yn gallu dychwelyd i'r tîm erbyn y penwythnos nesaf, pan fydd Port yn wynebu sialens galed ar yr Ofal, Caernarfon. Mae'r anaf i linyn ei âr, wedi golygu fod tymor Pugh prin wedi cychwyn - dim ond awr o bêl-droed mae wedi chwarae hyd yn hyn y tymor hwn!

Sticker Steven Pugh hopes he'll be able to make his return to the team ready for next Saturday, when Port will face a difficult challenge at the Oval, Caernarfon. An injury to his hamstring has meant that Pugh's season has yet to get off the ground - he has only managed to play an hour of football so far this season.
2/12/00
Gêm ffwrdd / Game off
Cafodd gem heddiw yn erbyn Brymbo Broughton ei galw i ffwrdd ond hanner awr cyn y chwiban gyntaf. Ar ôl glaw trwm yn ystod y bore, nid oedd gan y dyfarnwr unrhyw opsiwn ond galw'r gêm i ffwrdd.

Today' match against Brymbo Broughton was called off only a half hour before the scheduled kick-off time. Heavy rain during the morning left the referee with little alternative but to call the game off.
18/11/00
Hwyl Fawr Nigel / Good Bye Nigel
Mae wedi cael ei gadarnhau fod Nigel Barry wedi symud i'r clwb o Ynys Môn, Glantraeth. Bydd yn golled fawr gweld chwaraewr, sydd wedi bod yn gyson yn un o'r tri gorau i wisgo'r crys coch a du dros y pum mlynedd diwethaf, yn gadael y clwb. Roedd ei gyfraniad yng nghanol y cae bob amser yn gyson, a'i ffitrwydd bob amser yn dda. Bydd y cefnogwyr i gyd yn gweld eisiau un o'u ffefrynnau.

It has been confirmed that Nigel Barry will be joining the club from Anglesey, Glantraeth. It will be a great loss to see a player, who's been consistently one of the top three to wear the red and black shirt over the last five seasons, leaving the club. His performances in mid-field were always consistent and his fitness was always good. The Port faithful will miss one of their favourites.
18/11/00
Newid Gemau / Fixture Changes
Mae nifer o newidiadau wedi digwydd i'r rhestr gemau dros yr wythnosau nesaf - manylion llawn ar y dudalen gemau. Un o'r newidiadau mwyaf syfrdanol yw cais Caernarfon i symud y gêm oedd wedi ei threfnu at wyl San Steffan i'r Dydd Sadwrn blaenorol. Mae hyn yn golygu symud y gêm o un o'r dyddiau gorau yn y flwyddyn am dorfeydd i un o'r Sadyrnau gwaethaf. Nid yw'r newid hwn wedi cael ei gadarnhau yn derfynol eto.

There have been many changes to the fixture list over the coming weeks - full details on the fixtures page. One of the most noted of these changes is Caernarfon’s request to move the game scheduled for Boxing Day to the previous Saturday. This means moving the game from one of the best days of the year for attracting a crowd to one of the worst Saturdays. This fixture change has not yet been agreed upon finally yet.
17/11/00
Gem i ffwrdd. / Game Off
Mae'r gem fory yn erbyn Glantraeth wedi cael ei ohurio oherwydd gormod o ddwr ar y cae.

Tomorrow's game against Galentraeth has been cancelled due to a water-logged pitch.
16/11/00
Newyddion Chwaraewyr / Player News
Mae ymosodwr Bangor, Carl Owen wedi arwyddo i Port yn ystod yr wythnos er mwyn cryfhau'r llinell flaen. Ond, bydd yn parhau ar lyfrau Bangor, ac yn dilyn ei gôl yn erbyn Aberystwyth yng nghanol wythnos, mae'n bosib y bydd yn cadw ei le tim cyntaf yn Bangor.
Mae'n bosib y bydd Nigel Barry yn gadael y Traeth er mwyn ymuno a Glantraeth. Mae'n anhapus ei fod wedi treulio cymaint o amser ar y fainc hyd yn hyn y tymor yma. Byddai ymadawiad chwaraewr o safon Nigel yn golled fawr i'r garfan wedi ei gyfraniad cyson yng nghanol y cae dros y blynyddoedd.

Bangor City striker, Carl Owen has signed for Port during the week to strengthen the front line. But, he will remain on Bangor's books, and following his goal against Aberystwyth in mid-week, it's possible he will keep his place in the Bangor first team.
It's possible that Nigel Barry will be leaving the Traeth to join Anglesey club, Glantraeth. He's unhappy that he has spent so much time on the bench this season. The departure of a player of the standard of Nigel would be a big loss for the squad after his contribution in the mid-field over the years.
12/11/00
Diwedd gyrfa Viv / End to Viv's career
Mae'n ymddangos fod gyrfa hynod lwyddiannus Viv fel chwaraewr wedi dod i ben yn dilyn cyngor gan ei Ffisiotherapydd oedd yn ofni y byddai dal ati i chwarae yn gallu creu niwed parhaol i'w gefn. Mae Viv eisoes wedi bod allan o'r gêm ers sawl wythnos yn dilyn dioddef o Slip-disc. Dywedodd am y penderfyniad yma - 'Mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i rywun sydd wedi chwarae a charu’r gêm am yr holl flynyddoedd.' Uchafbwynt gyrfa Viv fel chwaraewr oedd ei gyfnod gyda Bangor pan chwaraeodd yn erbyn Athletico Madrid. Yn ôl sawl adroddiad yn ystod y cyfnod, roedd y clwb o Sbaen yn awyddus i’w arwyddo yn dilyn ei berfformiadau yn eu herbyn.

It seems that Viv's successful career as a player has come to an end. This is what he had to say in his programme notes - ' I have been advised by both my doctor and physiotherapist to give up football to avoid more permanent damage to my back. It's a very difficult decision for someone who has played and loved the game for so many years.' Viv had been out for the last couple of weeks after suffering a slip-disc. This decision will bring to an end a career that peaked during his time at Bangor City when they played against Athletico Madrid. Reports at the time suggested that the Spanish giants had made an offer for his signature after his performances against them.
12/11/00
Marc Lloyd-Williams ar y ffordd nôl? / Marc Lloyd-Williams on way back?
Mae rheolwr Porthmadog Viv Williams, wedi cadarnhau ei fod wedi ymchwilio i'r posibilrwydd o weld Marc Lloyd-Williams yn dychwelyd i'r Traeth. Nid yw Lloyd-Williams wedi cuddio'r ffaith ei fod yn anhapus yn ei glwb presennol, York City. Ond mae'n ymddangos ei fod wedi cael cynnig, gan glwb arall o Gynghriar Lloegr, a allai weld ei yrfa broffesiynol yn parhau. Mae Viv, er hynny, yn hyderus y bydd yn gallu dennu ymosodwr arall, sydd mewn trafodaethau efo fo ar hyn o bryd, i'r Traeth.

Port manager Viv Williams has confirmed that he made an approach with a view to attract Marc Lloyd-Williams back to the Traeth. Lloyd-Williams has not tried to hide his unhappiness at his current club, York City. But, it seems he has received an offer from another English League club that could see him extend his professional career. Viv is however confident that he can persuade another striker, who he is in talks with at this point in time, to join the club.
6/11/00
Gem Llandudno / Llandudno Match.
Bydd gem Port yn erbyn Llandudno yng Nghwpan y Gynghrair, a ohuriwyd oherwydd y tywydd drwg dydd Sadwrn diwethaf, nawr yn cael ei chynnal ar Ddydd Sadwrn, Tachwedd 11.

Port's game against Llandudno in the League Cup, that was postponed because of the bad weather last Saturday, has now been re-aranged for Saturday, November 11.
1/11/00
Cymysgwch am gem Caernarfon. / Confusion on Caernarfon match.
Mae ansicrwydd os bydd gem gartref Port yn erbyn Caernarfon, oedd fod i gymryd lle ar Ddiwrnod San Steffan. Mae Pwyllgor Rheoli'r Gynghrair wedi datgan y dylai holl gemau'r gynghrair sydd wedi eu trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw gael eu gohirio. Er hynny, mae pwyllgor Port yn awyddus i'r gem fynd yn ei blaen, a byddant yn ceisio cadarnhau hyn gyda Chaernarfon.

There is confusion surrounding Port's home match against Caernarfon that was to take place on Boxing Day. The League's management comity has decided that all matches scheduled for that date should be cancelled. Port's board are however keen for the match to go ahead as planned and will seek to confirm this with Caernarfon.
14/10/00
Anaf Pugh'n gwaethygu. / Pugh's injury worsens.
Cafwyd ergyd i siawns Pugh o ddychwelyd i'r tim cyntaf, yn ystod sesiwn ymarfer, cyn y gem holl-bwysig heddiw yn erbyn y Drenewydd wrth iddo dori lawr tra'n rhedeg gan waethygu ei anaf i linyn ei âr. Nid yw Pugh wedi chwarae ers y gem yn erbyn Caregybi yn rownd gyntaf y gwpan ac mae'n ymddangos y bydd allan am gyfnod hyd yn oed yn hyrach rwan. Hefyd allan o'r tim ar gyfer y gem mae'r ymosodwr Mark Owens sydd wedi mynd ar wyliau.

Pugh's chances of returning to the first team were dealt a heavy blow, during a training session, before the all-important game today against Newtown, as he broke down worsening his hamstring injury. Pugh hasn't played sine the Welsh Cup first round match against Holyhead, but it now seems that he'll be on the sidelines for an even longer period. Also out of the team for the game will be stricker Mark Owens who's on holiday.
5/10/00
Pugh yn ffit ond Joyce yn gadael. / Pugh is fit but Joyce leaves.
Mae Steven Pugh yn gobeithio y bydd yn ffit i chwarae unwaith eto ar ol dioddef anaf i linin ei âr dros fis yn ôl. Mae'r anaf wedi golygu ei fod wedi methu'r dair gem ddiwethaf. Mae Steve yn gobeithio bod yn ol erbyn y gem holl-bwysig wythnos i ddydd Sadwrn yn erbyn y Drenewydd yng Nghwpan Cymru. Yn y cyfamser mae amddiffynnwr Port Jason Joyce wedi gadael y clwb gan dychweldyd i Gaergybi.

Steven Pugh is hopefull that he will be fit again to play after suffering a hamstring injury over a month ago. The injury has put him on the sidelines for the last three matches. Steve hopes he will be back in time for the all-important match against Newtown in the Welsh Cup a week on Saturday. In the mean-time Port defender Jason Joyce has left the club to re-join Holyhead Hotspur.
5/10/00
Anafiadau / Injuries.
Doedd chwaraewr Reolwr Port Viv Williams ddim yn bresennol ar gyfer gem neithiwr yn erbyn Llangefni a hynny am ei fod wedi dioddef o slip disc. Bydd hyn yn ei roi allan o'r tim am amser sylweddol. Allan o'r tim hefyd oherwydd anaf mae Dafydd Evans.

Port player-manager Viv Williams was not present for yesterday night's match against Llangefni after he suffered a a slip disc. This will put him on the sidelines for a considerable period. Dafydd Evans is also out due to injury.
1/10/00
Foster yn dychwelyd / Fozzy returns.
Mae cyn ffefryn y Traeth, Mike Foster, wedi dychwelyd i'r clwb ar ol absenoldeb o bron i dymor a hanner. Mae hyn yn dilyn cyfnod yn Aberystwyth, ac yn fwy diweddar Bangor, lle mae wedi bod ers dechrau'r tymor. Er iddo gael ei eilyddio yn ei gem gyntaf yn ol, bydd yn sicr o gryfhau'r tim.

Ex Traeth favourite, Mike Foster, has returned to the club after an absence of a season and a half. This follows a spell in Aberystwyth, and more recently Bangor City where he has been since the start of the season. Despite being substituted in his return debut, his presence will surely strengthen the team.
24/9/00
Drenewydd yn y gwpan / Newtown in the Cup
Mae Port wedi derbyn gêm annodd iawn yn rownd nesaf cwpan Cymru. Gwobr y tim am guro Caergybi y penwythnos diwethaf yw gêm gartref yn erbyn y Drenewydd o gynghrair Cymru. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Sadwrn 14/10/00.

Port have been handed a tough draw in the next round of the Welsh Cup. The team's reward for beating Hollyhead in the last round is a home game against Newtown of the League of Wales. The game will be played on Saturday 14/10/00.
30/8/00
Gem i ffwrdd / Game off.
Cafodd y gem oedd i gymryd lle heno yn erbyn Llangefni ei rhoi i fwrdd ar y funyd olaf ar ol i dim Llangefni oedd eisoes ar ei ffordd i lawr i Borthmadog glywed y newyddion syfrdannol fod fod gwraig eu golwr wedi marw yn sydyn a hithau ond yn 26 oed ag yn disgwyl babi. Mae'n cydymdeimlad llwyr gyda'r teuly a thim Llangefni.

The game that was to take place tonight against Llangefni was postponed at the last minute after the Llangefni team, which was already on it's way down to Porthmadog, heard the shoking news that the wife of their goal-keeper had died suddenly at the age of 26 whilst expecting a baby. Our thoughts are with the family and the Llangefi team.
20/8/00
Mwy o Nawdd / More Sponsorship.
Mae Port wedi derbyn mwy o nawdd sylweddol ar gyfer eu crysau oddi cartref. Yn ymddangos ar ail grysau'r tim o'r tymor hwn ymlaen bydd enw'r actor a'r diddanwr Mici Plwm sydd eisoes yn gyfarwyddwr a cefnogwr ffyddlon. Hyd y gwyddom hwn yw'r tro cyntaf i actor gael ei enw ar grys tim pel-droed.

Port have received substantial sponsorship for their away strip. Appearing on their shirts from this season onwards will be the name of the Actor and entertainer Mici Plwm who is already a director and keen follower of the club. As far as we know, this is the first time for the name of an actor to sppear on the front of a football team's shits.
8/8/00
Chwaraewyr yn Gadael / Players on way out.
Mae’n ymddangos y bod tri o chwaraewyr Port yn ymuno a Glantraeth cyn dechrau’r tymor newydd. Simon Flower yw un o’r chwaraewyr fydd yn cael ei drosglwydd ar ôl methu sicrhau ei le yn y tim cyntaf yn dilyn arwyddo Warren Gibbs a Ryan Davies. Y ddau arall yw’r chwaraewyr sydd heb gymryd rhan yn y gemau cyn-dymor, sef Lee Dixon a Danny Glyn Roberts. Mae’r tri trosglwyddiad yn debygol o gael eu cwblhau cyn y penwythnos.

It appears as if three Port players will be joining Glantraeth before the start of the season. Simon Flower is one who is going to be transfered after failing to secure a first team spot following the arrival of Warren Gibbs and Ryan Davies. The two others are players who have not featured pre season, namely Lee Dixon and Danny Glyn Roberts. All three transfers are likely to be completed before the weekend.
7/8/00
Anaf Nigel Barry / Nigel Barry’s injury.
Mae’n ymddangos y bydd Nigel Barry allan o’r tim cyntaf am fis yn dilyn yr anaf a ddioddefodd yn y gem gyfeillgar yn erbyn Conwy dydd Sadwrn diwethaf. Meddyliwyd i ddechrau fod Nigel wedi tori un o’i assennau, ond y newyddion diweddaraf yw ei fod wedi rhwygo cyhyr yn ei stumog. Mae Nigel yn un o berfformwyr mwyaf cyson Port, a bydd ei absenoldeb o’r garfan yn ergyd fawr i Port ar ddechrau’r tymor newydd. Bydd yr anaf hefyd yn golygu na fydd Nigel yn ail-adrodd ei record, y tymor diwethaf, o fod yr unig chwaraewr i chwarae ym mhob gêm.

It now seems that Nigel Barry will be sidelined from the first team for a month after sustaining an injury in Port’s friendly encounter with Conwy United over the weekend. It had been thought that he had broken one of his ribs, but the latest news is that he had ripped a stomach muscle. Nigel is one of Port’s most consistent performers, and his absence from the squad will be a big blow for Port at the start of the new season. The injury will also mean that Nigel will not be repeating his record last season of being the only player to play in every match.
5/8/00
Nawdd gan Allports / Sponsorship by Allports.
Mae Clwb Pel-droed Porthmadog yn falch o gael cyhoeddi pecyn nawdd sylweddol fydd yn rhoi enw siop sglodion Allports ar flaen crysau’r tim cyntaf. Mae’r nawdd hwn yn ran o gytundeb tymor hir efo’r busnes sydd wedi ennill y wobr o Siop Sglodion orau Cymru yn y gorffennol.

Porthmadog football club is proud to announce a substantial sponsorship pack edge which will put the names of Allports fish and chips on the first team’s shirts. This sponsorship is part of a long-term agreement with the business that has, in the past, won the award for best Fish and Chips shop in Wales.
Newyddion cyn 5/8/00
News pre 5/8/00

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us