Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Penderfyniadau dadleuol Dyfarnwr / Refereeing controversy

Saesneg / English

Barn: Ni fu’r fath ddadlau ar Y Traeth ynglŷn â phenderfyniadau dyfarnwr a’r hyn a welwyd ddydd Sadwrn. Yn achos y penderfyniad mwyaf dadleuol, mae’r llun yn dangos presenoldeb amddiffynnwr ond unwaith i Carl Owen roi’r bêl heibio i Ged McGuigan roedd bron yn sicr y byddai wedi sgorio i rwyd wag. Does dim amheuaeth mai tacl gwbl sinigaidd ‘broffesiynol’ oedd hon ac yr unig gosb addas oedd cerdyn coch. Nid oedd y chwaraewr mewn crys glas mewn sefyllfa i rwystro Carl Owen rhag sgorio. Gellir mesur, o adwaith y dorf syfrdan, fod y penderfyniad yn un hollol anghywir. Torf gymharol dawel ydy un Y Traeth ond ddydd Sadwrn roeddynt wedi’u cythruddo gan y fath annhegwch. Nid oedd cerdyn melyn yn ymateb digonol i drosedd a oedd yn rhwystro gôl sicr. Gwnaeth methu yr un penderfyniad yma effeithio holl benderfyniadau Mr Morgan am weddill y gêm. Y penderfyniad amlwg arall a gafwyd yn anghywir oedd dyfarnu cic o’r smotyn a wedyn peidio dangos unrhyw fath o gerdyn am drosedd o lawio bwriadol. Erbyn y diwedd, roedd hyd yn oed llawer o’r penderfyniadau bychan yn anghywir gyda’r dyfarnwr yn yr amgylchiadau wedi colli ei allu i weithredu. Ar ddiwedd y gêm, safai’r cefnogwyr cartref o gwmpas yn trafod ond yn methu deall yr hyn yr oeddent wedi eu weld.

Gareth Williams




Carl Owen - eiliad cyn iddo gael ei dynnu i'r llawr gan Ged McGuigan. Mae'r llun yn un gwael ond mae'n dangos yn glir mai McGuigan oedd yr amddiffynnwr olaf a dylai felly fod wedi cael y cerdyn coch.   Carl Owen a second before he was pulled to the ground by Ged McGuigan. The photo is out of focus but clearly shows that McGuigan was the last defender and therefore should have been shown the red card.


Viewpoint: I cannot remember such controversy over refereeing decisions at the Traeth as we saw on Saturday. The photo shows the lead up to the first controversial incident. It shows the presence of a defender but once Carl Owen had pushed the ball past Ged McGuigan, it was a racing certainty that he would score into a totally open goal. There is no question that this was a cynical, professional foul and the only proper punishment was a red card. The blue shirted defender was never in a position to prevent Carl Owen from scoring. It can be gauged from the reaction of the crowd, as they looked on unbelievingly, that this decision was completely incorrect. The normally placid Traeth crowd was seething with indignation at such an unfair decision. A yellow card was not the appropriate response to a foul which prevented a certain goal. This decision seemed to affect the whole of Mr Morgan’s refereeing for the remainder of the game. The most obvious of his other errors was the decision to award a penalty for a deliberate hand ball and then not to give a red card or indeed any kind of card. But there were a series of decisions some quite small where it was clear that the referee had, in the circumstances, lost his ability to act appropriately. At the end of the game, home supporters stood around in groups discussing, but unable to comprehend what they had witnessed.

Gareth Williams
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us