Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Tabl / The Table
Trafod / Discussion
Ail Dîm / Reserves
Ystadegau / Statistics
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
| Bangor (h) | Airbus Broughton (h) | Caernarfon (h) | Newi Cefn Druids (a) | Caernarfon (a) |
| Caernarfon (h) | Newi Cefn Druids (a) | Cei Conna / Connah's Quay (a) |
| Derwyddon Cefn / Cefn Druids (h) |
Rownd Gyn-derfynol Cwpan Academi Cymru Dan-14 / U-14 Welsh Academy Cup Semi Final

Porthmadog ... 0		Derwyddon Cefn Druids ... 3

Sicrhaodd y ddwy gôl a ddaeth yn chwarter awr gyntaf yr ail hanner mai Derwyddon 
Cefn oedd yn rheoli’r rownd cyn derfynol o Gwpan Academi Cymru ar y Traeth neithiwr 
(11 Mai). Yn yr hanner cyntaf hogiau Port oedd yn bygwth fwyaf ond yn methu cymryd 
mantais o nifer o cyfleoedd a grëwyd gyda chwarae celfydd. Ond er fod y ddau golwr 
wedi gorfod gwneud arbediadau da, di-sgôr oedd hi ar yr hanner. O ddechrau’r ail 
hanner cyflymodd y Derwyddon eu gêm gan ymosod yn fwy uniongyrchol a wneud defnydd 
da o’r gwynt cryf. Pum munud i fewn i’r ail hanner aethant ar y blaen diolch i bêl 
dda o ganol cae gyda’r ymosodwr yn cymryd y cyfle yn dda. 10 munud yn ddiweddarach 
daeth yr ail gôl i’r Derwyddon yn dilyn symudiad da gyda’r bêl yn cael ei phenio 
i’r rhwyd o 10 llathen. Daliodd hogiau Port i frwydro a chyn y diwedd llwyddo i 
greu un neu ddau o gyfleoedd eu hun yn erbyn tîm mawr a chryf y Derwyddon. Ond 
noson yr hogiau o Wrecsam oedd hon gyda trydedd gôl yn dod yn yr amser ychwanegol 
o ergyd wych o 30 llathen. Pob hwyl i’r Derwyddon yn y Ffeinal. 

Two goals in the 15 minutes immediately after half-time put Cefn Druids in control of 
last night’s (May 11) Welsh Academies Cup semi-final at the Traeth. In the opening 
half the Port youngsters had been the more threatening and will rue the fact that they 
failed to take advantage of the chances which they created resulting from some good 
approach play. Though both keepers had to pull off some smart saves it remained 
scoreless at half-time. From the start of the second period the Druids upped the pace 
and made good use of the stiff breeze on their backs to launch more direct attacks. 
Five minutes into the second period a fine through ball split open the home defence 
and was well taken by the Druids front man to open the scoring. 10 minutes later they 
added a second thanks to a slick move finished with a good header from 10 yards. To 
their credit the Port lads stuck to their task against a big forceful Druids outfit, 
but though they came back to create a few late chances this was the Druids’ night. 
They added a third with a powerful 30 yard strike in injury time. Best of luck to Cefn 
in the final.


Rownd Gyn-derfynol Cwpan Academi Cymru Dan-16 / U-16 Welsh Academy Cup Semi Final

Connah's Quay Nomads ... 1		Porthmadog ... 3
				Iwan Lane '55
				Cai Jones '67, '90.

Mewn brwydr galed rhwng dau dîm talentog, ar gae’r Oval, Caernarfon 
llwyddodd tîm Dan-16 Porthmadog ennill lle yn Ffeinal Cwpan Academi Cymru 
drwy guro eu cyfoedion o Gei Conna o 3-1. Ond nid yw’r sgôr yn dweud y stori 
gyfan gan ni ddaeth 3ydd gôl Port tan 3 munud i mewn i amser anafiadau pan 
gymerodd Cai Jones fantais o bêl dda i fewn i’r blwch o’r dde i daranu’r bêl i 
gefn y rhwyd o 15 llath. Roedd Port wedi cychwyn y gêm yn dda Iwan ac am yr 
ugain munud agoriadol wedi edrych yn debycach i agor y sgorio ond gyda 25 munud 
wedi mynd manteisiodd Cei Conna ar gamgymeriad yn y cefn i agor y sgorio. O hyn 
ymlaen tan hanner amser hogiau Cei Conna oedd yn rheoli ac yn edrych yn debygol 
o sgorio eto. Ond daeth Port allan ar ôl yr egwyl yn benderfynol o ddod a’r sgôr 
yn gyfartal. Daeth y cyfle ar ôl 55 munud wrth i amddiffynnwr lawio’r bêl gan 
rhoi cic o’r smotyn i Port. Tarodd Iwan Lane y bêl i’r rhwyd gyda ergyd gywir. 
Er fod y chwarae yn mynd o un pen i’r llall ar ôl 67 munud Port sgoriodd yr ail 
gôl holl bwysig wrth i Cai Jones basio’n gelfydd i roi’r Jac Jones gweithgar 
drwodd i guro golwr Cei Conna gyda ergyd dda. Port oedd ar y blaen am y tro 
cyntaf ond roedd y deg munud olaf yn llawn tensiwn wrth i Cei Conna ddal i 
frwydro -tan i Cai Jones sgorio trydedd gôl Port a gwneud y fuddugoliaeth yn 
sicr.

Porthmadog: Meilir Ellis, Rhys Jones, Carwyn Jones, Ryan Jones, Iwan Lane (c), 
Ezra Warren, Cai Jones, Gareth Stewart, David Copsey, Jac Jones, Gethin Jones, 
Sion Jones, Mark Jones, Dion Inch.

In a hard fought semi-final, between two talented teams at Caernarfon Town’s 
Oval ground Porthmadog U-16’s secured a place in the Welsh Academies Final by 
defeating their Connah’s Quay counterparts by 3-1. The score line does not tell 
the whole story as the third Port goal came deep into injury time when a cross 
from the right was played into the box for Cai Jones to settle the game with a 
powerful strike. Port had started the game well and for the first 20 minutes 
looked the more likely to open the scoring but after 25 minutes the Nomads took 
advantage of an error to open the scoring. From then on to half time the Nomads 
took charge and might have increased their lead. But straight from the start of the 
second period Port piled on the pressure and when a Nomads defender handled in the 
box Iwan Lane levelled the scores with a well struck 55th minute spot kick. Play 
was end to end but with 67 minutes gone Cai Jones slipped the ball through for the 
hard working Jac Jones to burst into the box and take his chance well putting Port 
in the driving seat. The final ten minutes was full of tension as the Nomads fought 
hard to get back on level terms and this continued until Cai Jones finally made the 
game safe.

Porthmadog: Meilir Ellis, Rhys Jones, Carwyn Jones, Ryan Jones, Iwan Lane (c), 
Ezra Warren, Cai Jones, Gareth Stewart, David Copsey, Jac Jones, Gethin Jones, 
Sion Jones, Mark Jones, Dion Inch.


Cwpan Academi Cymru Dan-12 / U-12 Welsh Academy Cup Quarter Final

Derwyddon Cefn Druids  ... 1		Porthmadog ... 4
					Jordy Wood
					Meilir Williams (2)
					David Owen

Aeth y tîm Dan-12 drwodd i rownd gynderfynol y gystadleuaeth gyda perfformiad 
ardderchog yn Cefn Mawr. Ar ôl dim ond 10 munud sgoriodd Jordy Wood o 
groesiad Steffan Owen i’w rhoi ar y blaen. Dwy funud yn ddiweddarach sgoriodd 
Meilir Williams yr ail yn codi’r bêl dros y golwr ar ôl derbyn pas Liam 
Murphy. Er eu bod yn edrych y tîm cryfaf ni ychwanegwyd gôl arall tan dwy 
funud i fewn i’r ail hanner pan rhwydodd David Owen y dilyn croesiad arall 
gan Steffan Owen.  Am gyfnod wedyn bu Ifan Williams, golwr Port, yn brysur 
wrth i Cefn wthio mlaen  a 15 munud o’r diwedd fe cawsant eu gôl. Ond 
ymatebodd Port gyda ail gôl Meilir Williams gan wneud y gêm yn ddiogel.
				  
The U-12’s reached the semi-finals of the competition with another excellent 
performance at Cefn Mawr. After only 10 minutes they went ahead with Jordy 
Wood converting a Steffan Owen cross. Two minutes later Meilir Williams added 
a second with a chip over the keeper after receiving from Liam Murphy. The 
continued to dominate but did not score again until two minutes after the 
break when David Owen netted following another Steffan Owen cross. Cefn then 
pushed forward more giving Port keeper Ifan Williams far more to do and with 
15 minutes left they scored to cut the deficit. But as the home side pushed 
forward Port responded with another Meilir Williams goal to make the game safe.

Gêm Academi Gyfeillgar Dan-14 / U-14 Academy Friendly Match


Derwyddon Cefn Druids … 2		Porthmadog …. 3
					George Sutherns
					Aron Griffiths
					James Rankin 

Trefnwyd y gêm hon ar y funud olaf ac o’r herwydd  roedd y tîm Dan 14 yn brin o 
rhai o’r chwaraewyr arferol. Felly cafodd pedwar eu cyfle cyntaf i’Academi. 
Roedd tempo cyflym i’r gêm gyda Port y mynd â’r gêm i wrthwynebwyr a’u curodd 
4-0 yn ddiweddar. Gwobrwywyd eu hymdrech ar ôl 10 munud pan saethodd George 
Sutherns yn bwerus i’r rhwyd ar ôl derbyn pas Aron Evans. Daeth yr ail pan g
urodd Aron Griffiths amddiffynnwr  ar y chwith gan saethu yn uchel i’r rhwyd. 
Daeth y drydedd o gic gornel Cain Thomas i’r postyn agosaf lle roedd James 
Rankin i rwydo gyda foli. Roedd diffyg eilyddion yn golygu fod hogiau Port yn 
dechrau blino tra roedd Cefn yn medru newid eu chwaraewyr. Daeth Cefn fwy i’r 
gêm a llwyddo i dynnu dwy gôl yn ôl. Ond dal allan am y fuddugoliaeth gwnaeth 
Port. Rhaid tynnu sylw at berfformiad George Sutherns yn arwain y lein a hefyd 
Callum Evanson, Josh Rankin, James Rankin a Cain Thomas yn chware i’r Academi am 
y tro cyntaf. Ond rhaid pwysleisio mai buddugoliaeth tîm oedd hwn. Da iawn 
hogiau.

For this hastily arranged match Porthmadog U14s found themselves short of some 
regular players and debuts were handed to four boys new to the Academy. The game 
itself was played at a great tempo and Porthmadog showed their intent to take the 
game to Druids who had beaten them 4-0 a few weeks ago. Their efforts were 
rewarded after 10 minutes when George Sutherns latched onto a through ball played 
from midfield by Aron Evans and unleashed a fierce shot that left the Druids’ 
goalkeeper with no chance. A second goal came when Aron Griffiths picked up the 
ball on the left, beat his defender and from a tight angle lashed the ball high 
into the Druids’ net. The third goal came from a corner taken by Cain Thomas 
towards the near post where James Rankin met it perfectly and unleashed an 
unstoppable volley into the back of the net. The lack of substitutes began to show 
as the Porthmadog lads began to tire and Druids who were able to rest their boys by 
changing personnel came more into the game and clawed back two goal Port. managed 
to hold out for a very well deserved victory. Special mention must be made of 
George Sutherns for the way he led the line and Callum Evason, Josh Rankin, James 
Rankin and Cain Thomas who all started for the first time. But I must stress that 
this was a team victory, well done all the lads.
Chris Jones. Head Coach Porthmadog Academy Under 14s.

Cwpan Academi Cymru Dan-16 /  U-16 Welsh Academy Cup Quarter Final

Derwyddon Cefn Druids …. 2	Porthmadog …. 3
				Jac Jones (2)
				Dylan Williams (p)

Aeth Port Dan-16 drwodd i’r rownd gynderfynol diolch i gôl, gan Jac Jones, pum munud 
cyn ddiwedd yr amser ychwanegol. Cefn ddechreuodd orau gan fynd ar y blaen ar ôl dim 
ond 5 munud ond yn raddol daeth Port fwy i’r gêm gyda Jac Jones yn dod â’r sgôr y 
gyfartal ar ôl 25 munud. Ond yn dilyn blerwch yn amddiffyn Port aeth Cefn yn ôl ar y 
blaen cyn yr egwyl. Ar y cyfan Port oedd yn rheoli yn yr ail hanner a daeth Dylan 
Williams â’r sgôr yn cyfartal gyda cic o’r smotyn. Aeth y gêm wedyn i amser 
ychwanegol a torrodd Jac Jones i lawr y cae i roi’r fuddugoliaeth i hogiau Port. 
Enillodd y tîm Dan-16 pob un o’u gemau grwp a gwnaethant yn dda iawn i guro tîm cryf 
y Derwyddon a oedd cynt wedi’u curo o 3-0 mewn gêm cynghrair.

A goal in extra-time by Jac Jones with only 5 minutes remaining secured Port’s place 
in the semi-final. Cefn had started the brighter and went ahead after only 5 minutes 
but Port gradually got themselves back into the game with Jac Jones scoring after 25 
minutes to level the scores. Sloppy defending allowed Druids back into the lead just 
before the interval. Port were mainly in control in the second period and levelled 
the scores thanks to a penalty by Dylan Williams. This took the game into extra-time 
and Jac Jones’ break away goal gave Port the victory. The U-16’s remained unbeaten 
through their group matches and did well against a strong Druids team who had 
previously beaten them in a league match by 3-0.


Gemau Cwpan / Cup Matches, 22/03/09:

Dan / Under 14:

Porthmadog ... 3	Caernarfon ... 0
Tomos Llewelyn Jones
Aron Griffiths
George Sutherns

Chwaraewyd Cwpan yr Academi ar y brif gae ar Y Traeth. Sul, 22 
Mawrth 2009.
O’r cychwyn gwnaeth y tîm Dan 14 yn fawr o’u cyfle i chwarae ar 
gae mawr Y Traeth gan ddefnyddio’u asgellwyr yn dda a gorfodi 
Caernarfon i amddiffyn. Roedd Aron Griffiths yn rhedeg canol y cae 
a George Sutherns yn gweithio’n galed, yn arwain y llinell flaen 
yn dda iawn. Roedd hi ddim yn syndod felly pan aeth Port ar y blaen 
diolch i gôl ardderchog gan Tomos Llywelyn Jones yn reoli’r bêl ar 
ei frest cyn ei tharo i gornel y rhwyd gyda’i droed chwith. 
Yn yr ail hanner crëwyd nifer o gyfleoedd a wedyn ei gwastraffu – 
neu cael eu harbed gan golwr ardderchog Caernarfon. Ond o’r diwedd 
cafodd ei guro ar ôl 50 munud diolch i gôl ardderchog gan Aron 
Griffiths a dorrodd i lawr y chwith cyn saethu i gornel uchaf y 
rhwyd. Pum munud yn ddiweddarach roedd y gêm yn ddiogel pan 
sgoriodd George Sutherns. Gêm yw mwynhau oedd hon wedi’i chwarae 
mewn ysbryd ardderchog. Diolch i Terry Williams am  y ffordd y 
gwnaeth ddyfarnu’r gêm a diolch hefyd i’r panel o ddyfarnwyr sydd 
yn sicrhau fod yna gyfle i’r hogiau gael chwarae. Diolch hefyd am y 
gefnogaeth o’r eisteddle sydd yn cael eu werthfawrogi gan y timau 
a’r hyfforddwyr.

Eddie Blackburn (Gyda diolch i Chris Jones)

This much postponed eliminator in the Academies’ Cup Competition was 
finally played on the main pitch on Sunday 22 March 2009.
Straight from the kick off the Porthmadog U14s settled into a 
pattern of play ideally suited to the wide open spaces of the Traeth, 
using their wide players to good effect to keep Caernarfon on the 
defensive. Aron Griffiths in particular bossed the midfield and 
George Sutherns, showing a great workrate, led the line excellently.
It was no surprise when on 25 minutes the deadlock was broken with a 
brilliantly taken goal by Tomos Llewelyn Jones. A Port. corner was 
cleared to the edge of the box where Tomos controlled the ball on his 
chest and unleashed a left foot volley that screamed into the top 
corner.
In the second half Porthmadog continued in the same vein and created 
a number of chances which were either spurned or saved by the 
excellent Caernarfon Goalkeeper who kept his side in the game on a 
number of occasions. Finally though he was beaten by a great goal from 
Aron Griffiths. Embarking on a strong run down the left Aron broke 
into the penalty box and unleashed an unstoppable drive across the 
goalkeeper into the top corner. This was after 50 minutes and 5 
minutes later the win was sealed when George got just reward for all 
his hard work by scoring the third after a goalmouth melee.
This was a very enjoyable game to watch with both sides playing 
football as it should be played in a great spirit. The game was 
further enhanced by the outstanding refereeing performance by Terry 
Williams. We are very grateful to Terry and our panel of referees who 
give up their Sunday mornings to make sure our lads get a game of 
football.
Finally may I also say that the support from the stands from parents 
and friends was very much appreciated by the boys and by the coaches.

Eddie Blackburn (With thanks to Chris Jones)


Gemau Cwpan / Cup Matches, 01/03/09:

Dan / Under 14:

Caernarfon ... 3	Porthmadog ... 1
		George Sutherns


Dan / Under 16:

Caernarfon ... 2	Porthmadog ... 3
		David Copsey
		Jac Jones
		Gareth Stewart


Gemau Cynghrair / League Matches, 22/02/09:

Dan / Under 12:

Derwyddon Cefn Druids ... 1	Porthmadog ... 3
			Meilir Williams
			David Owen
			Hari Griffiths

Dan / Under 14:

Derwyddon Cefn Druids ... 4	Porthmadog ... 0


Dan / Under 16:

Derwyddon Cefn Druids ... 3	Porthmadog ... 0



Gemau Cwpan / Cup Matches, 15/02/09:

Dan / Under 12:

Porthmadog ... 3	Caernarfon ... 2
David Owen (2)
Hari Griffiths

Dan / Under 16:

Porthmadog ... 2	Caernarfon ... 2
Carwyn Jones
Jac Jones


Gemau Cynghrair / League Matches, 08/02/09:

Dan / Under 12:

Porthmadog ... 3	Airbus Broughton ... 3
Jordy Wood
Jack Davies
Meilir Williams

Dan / Under 14:

Porthmadog ... 1	Airbus Broughton ... 3
George Sutherns

Dan / Under 16:

Porthmadog ... 1	Airbus Broughton ... 5
Dylan Williams



Gemau Cwpan / Cup Matches, 25/01/09:

Dan / Under 12:

Porthmadog .... 2	Bangor ... 2
Meilir Williams
Hari Griffiths

Dan / Under 14:

Porthmadog .... 6	Bangor ... 0
Aron Evans
Adam Davies
Raheem Rushton (3)
Aron Griffiths

Dan / Under 16:

Porthmadog ... 4	Bangor ... 4
Dylan Williams
Jac Jones
David Copsey
Carwyn Jones


Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us