Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
27/11/25
CPD LLANGEFNI: Ardal NW: Sat / Sadwrn: Y Traeth: 2.30pm.


Noddwr y Gêm / Match Sponsor: WILLIAM ALUN HUGHES
Noddwyr y Bêl/ Match Ball Sponsors: BLOCK FOIL, Manchester & IOAN W JONES

Bydd Port yn dychwelyd at y Gynghrair pnawn Sadwrn gyda ymweliad Llangefni â’r Traeth a’r gic gynta am 2,30pm.
Gêm gystadleuol allweddol fydd hon rhwng yr ail a’r trydydd yn y tabl, hyn yn dilyn buddugoliaeth Bnagor 1876 dros Llangefni yn Nantporth, neithiwr. Hyn yn rhoi Bangor 1876 ar frig y tabl.
Cynt, roedd y clwb o’r Ynys wedi torri ar rhediad o golli tair gêm yn olynol drwy sicrhau buddugoliaethau dros Mynydd Isa a Prestatyn.
Daw Port i’r gêm hon yn dilyn buddugoliaeth gyffrous ac hwyr iawn yng Nghwpan Cymru. Yn ei sylwadau yn dilyn y gêm honno roedd Chris Jones, er yn canmol ysbryd a dyfalbarhad y garfan, yn dymuno ei gweld yn cychwyn gemau ynghynt ac yn fwy pwrpasol.
Bydd cefnogwyr, ar ôl gweld Liam Morris yn cymryd ei ddwy gôl mor wych, yn gobeithio gweld fwy o ’run fath eto pnawn Sadwrn.
Bonws o rhyw fath ydy na fydd rhaid inni ddiodde ciciau o’r smotyn ar y diwedd pnawn Sadwrn!
C’mon Port!!

Port return to the League on Saturday for a vital fixture when they welcome Llangefni to the Traeth for a 2.30pm kick off. The game sees 2nd in the table play 3rd. This follows Llangefni’s defeat last night at Nantporth, which puts Bangor 1876 back in top spot.
Previous to this, the Ynys Môn club had broken a run of 3 straight league defeats with a wins over Mynydd Isa and promotion rivals Prestatyn.
Port come to this game on the back of an exciting late, late win in the Welsh Cup. Chris Jones’, in his post match analysis, praised the admirable spirit and the willingness of the squad to keep going but on the other hand he noted Port’s slow start as a concern which they need to work on.
The way Liam Morris took his debut goals against Port Talbot leaves supporters hoping for more when he lines up on Saturday.
One thing to be sure of, there will be no penalty shoot out on Saturday!
C’mon Port!!
LLUN/PHOTO: Rhys Alun: a gtreodd y cyfle i Liam Morris i rhwydo'r gôl holl bwysig / who released Liam Morris for last Saturday’s winner
26/11/25
CYFARFOD BLYNYDDOL: Sadwrn 11 am / ANNUAL GENERAL MEETING: Saturday 11 am


CPD Porthmadog Bydd Cyfarfod Blynyddol y clwb yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn nesaf, Tachwedd 29ain. am 11yb yng Nghlwb Pêl-Droed Porthmadog.
Croeso i bawb!!

Reminder of the AGM on Saturday morning 11am.
Porthmadog Football Club hereby give notice of the club's Annual General Meeting to be held nexy Saturday 29th November at 11am in the clubhouse at Y Traeth.
Everyone welcome!!
24/11/25
Enwau allan o'r het / JD Welsh Cup Draw


Bydd yr enwau'n cael eu tynnu allan ar gyfer Rd 4 Cwpan Cymru JD nos Iau am 8yh ar RedWall+

The JD Welsh Cup Round Rd 4 draw will be broadcast on RedWall+ at 8pm on Thursday 27 November.
24/11/25
** CLWB 100 ** CLWB 100 **CLWB 100**


ENILLWYR TACHWEDD / NOVEMBER WINNERS

1af/st £100 -Rhif/No 57 LUCINDA COGGINS
2ail/nd £60 -Rhif/No 9 TRACEY WILLIAMS
3ydd/3rd £40 -Rhif/No 42 DILWYN PARRY


Llongyfarchiadau / Congratulations
23/11/25
MWY O DDRAMA’R GWPAN!! / CRAZY CUP RUN CONTINUES!!


CBDC / FAW Yn dilyn buddugoliaethau o’r smotyn yn Rownd 1 a 2 o Gwpan Cymru, cafodd y cefnogwyr brofiad a oedd yn gymharol ddigynnwrf wrth gyrraedd y 4ydd Rownd! Y cyfan oedd angen y tro yma; gôl yn yr 83ydd munud i ddod â’r sgôr yn gyfartal a wedyn un arall yn dilyn ar 90’ + 6’ i sicrhau’r fuddugoliaeth. Prin werth cynhyrfu yn ei gylch!!
A dyna ichi gêm gynta’ i LIAM MORRIS, y dwbl o’r fainc i ddwyn y fuddugoliaeth. Rhys Alun, hefyd yn dod o’r fainc, yn agor amddiffyn cadarn a chreu’r cyfle am y gôl fuddugol a hyn yn dilyn rhediad arall eto gan Danny Brookwell, ac o’r diwedd, yn dwyn ffrwyth a gwneud sgôr yn gyfartal.
Darllenwch Adroddiad Treflyn adroddiad
Trwodd i’r 16 ola’ i Port a'r pencampwyr TNS yn disgyn allan. Rhyfeddol!!
C’mon Port!!

After nerve wracking penalty wins in Round 1 and 2 of this season’s JD Welsh Cup, Port supporters were treated to an almost leisurely entry into Round 4. All that was needed this time round was an 83rd minute equaliser and a 90’ + 6’ winner, hardly worth biting your nails over!!
And what a debut for Chris Jones’ latest signing, LIAM MORRIS, whose debut double from the bench snatched the victory. Rhys Alun, who also came from the bench, opened the tight defence to provide the opportunity for the winner, with this coming after yet another Brookwell break which had finally borne fruit to supply the equaliser.
Read Treflyn’s full Match Report adroddiad
It is through to the last 16 for Port while top club TNS bite the dust. Crazy!!
C’mon Port!!
23/11/25
Chwaraewr Mis Hydref / October Player of the Month


Josh Cooke - CPD Porthmadog Llongyfarchiadau i JOSH COOKE, dewis y cefnogwyr yn Chwaraewr Mis HYDREF
Mae Josh yn cael tymor arbennig a’i arbediadau o’r smotyn yn sicrhau ein bod yn symud ymlaen a cael rhediad da yng Nghwpan Cymru.
Yn ogystal gwnaeth Josh arbediad cwbl rhyfeddol i gadw’r sgôr yn gyfartal yn erbyn Bwcle gyda Josh ei hun yn disgrifio’r arbediad fel y gorau iddo wenud erioed.
Bydd Joshyn derbyn poteli Mws Piws, llun gan Jeff Guile wedi’i fframio a plac gan Teledu Port TV

Congratulations to JOSH COOKE, the supporters’ choice as Player of the Month for OCTOBER.
Josh is having an outstanding season and his penalty shoot-out performances have been key to Port’s successful Welsh Cup run.
He also made a totally remarkable and outstanding save against Buckley, a save which Josh himself described as “ ...by far the best save I’ve ever made.”
Josh will receive bottles of Purple Moose, a framed picture by Jeff Guile and a plaque by Teledu Port TV.
23/11/25
Arden Gisbourne: Yn gadael / leaves


Mae’r blaenwr ifanc, Arden Gisbourne, wedi gadael y clwb ac arwyddo i Bethesda gan wneud ei ymddangosiad cynta yn y golled o 2-0 yn Llanelwy. Rhwydodd Arden ddwywaith i Port, un mewn gêm gynghrair a’r llall yng nghwpan JD Cymru.
Pob lwc Arden.

Young forward Arden Gisbourne has left the club and signed for Bethesda Ahletic, making his debut in the 2-0 defeat to St Asaph. Arden netted twice for the club, 1 league and 1 Welsh Cup goal.
Best of luck Arden.
20/11/25
PORT TALBOT: Sadwrn / Sat: Cwpan JD Cymru / JD Welsh Cup: Y Traeth 2.00pm


Noddwr y Gêm / Match Sponsor: DEWI I ROBERTS: Adeiladwyr / Building Contractors.
Noddwyr y Bêl/ Match Ball Sponsors: BLOCK FOIL, Manchester and KATE & ROB BENNETT

CBDC / FAW Bydd Port yn croesawu clwb Tref Port Talbot i’r Traeth pnawn Sadwrn ar gyfer y gém yn 3edd Rownd Cwpan Cymru gyda’r gic gynta am 2 o’r gloch.
Aeth 15eg mlynedd heibio ers i’r ddau gyfarfod ddiwetha’pan oedd Port a Port Talbot yn dal yn Uwch Gynghrair Cymru.
Cyrhaeddodd Port Talbot y Rownd yma diolch i fuddugoliaeth o 3 1 dros ei cymdogion a’i gelynion pennaf, Afan Lido, a hyn ar ól curo Blaendulais Onllwyn yn y rownd flaenorol.
Yn y South Wales Premier League mae clwb Tref y Dur erbyn hyn ac yn y 4ydd safle ar hyn o bryd. Yn ddigon rhyfedd dim ond 7 gém gynghrair maent wedi chwarae y tymor hwn ond yn dal yn ddiguro. Ei blaenwr Jordan Edwards ydy prif sgoriwr y gynghrair gyda 10 gôl mewn 7 gêm.
Port Talbot hefyd ydy deiliaid Cwpan Amatur y Dragon Signs yn curo Penygraig United mewn ffeinal rhwng dau glwb o Dde Cymru.
Prin fod angen atgoffa cefnogwyr o ddwy gém wych o gyffrous lle bu’n rhaid disgwyl i giciau o’r smotyn cyn sicrhau mynediad Port i 3edd Rownd y gystadleuaeth. Serenodd Josh Cooke yn y gemau yna yn erbyn Dinbych a Bwcle gyda perfformiadau arwrol.
Gall eich nerfau gymryd mwy o hyn? Byddwch yn barod am fwy o gyffro pnawn Sadwrn.
C’mon Port!!

Port will welcome Port Talbot Town to the Traeth on Saturday in the 3rd Round of the JD Welsh Cup. 15 years have passed since the two clubs last met and that was a Welsh Premier League fixture at the Traeth.
Port Talbot reached this round with a convincing 3-1 win over local rivals Afan Lido in Round 2, this having defeated Seven Sisters Onllwyn in the previous round.
The Steeltown club now play in the South Wales Premier League. They are in 4th spot in the table, strangely having only played 7 league games so far this season. They remain unbeaten in their league. Their striker Jordan Edwrads leads the league’s goalscorers with 10 goals in the 7 games.
The club are the current holders of the Dragon Signs Amateur Cup beating Penygraig United in an all southern final.
Port have progressed to this 3rd round tie via two highly exciting penalty shoot-outs against Cymru North opposition. Keeper Josh Cooke starred in those tense battles performing heroically against both Denbigh and Buckley.
Can your nerves take another dose of this? Come prepared for more cup excitement on Saturday. C’mon Port!!
Llun / Photo: Cai Jones: a chwaraeoedd y tro y tro diwetha’ i’r ddau glwb gyfarfod a fo yn ddeunaw oed / who, as an 18 year old, played in the last game between the two clubs.
19/11/25
LIAM MORRIS yn ymuno / LIAM MORRIS signs for Port


Mae Chris Jones wedi symud i gryfhau ei opsiynau ymosodol wrth arwyddo Liam Morris o glwb Bangor 1876. Ymysg ei glybiau blaenorol mae Hotspyrs Caergybi, Llangefni a Conwy.
Mae gan Liam record sgorio ardderchog gyda pob un o’i glybiau blaenorol ac hefyd wedi cyfrannu nifer o goliau pwysig i Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd. Bydd yn ychwanegiad ardderchog i'r garfan wrth i'r frwydr am ddyrchafiad gynhesu.
Croeso i’r Traeth Liam

Chris Jones has moved to strengthen his forward options with the signing of Liam Morris from Bangor 1876. His previous clubs also include Holyhead Hotspur, Llangefni and Conwy Borough.
Liam has an excellent scoring record at all his previous clubs and has also netted important goals for Ynys Môn in the Island Games. He will be an excellent addition to the squad as the promotion battle hots up
Welcome to the Traeth Liam
14/11/25
Newid i’r Rhestr Gemau / Fixture re-arranged


Bydd Port yn chwarae eu gêm oddi cartref i BAE TREARDDUR ar ddydd Sadwrn 6ed Rhagfyr am 2.30pm. Mae Trearddur yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Nantporth, Bangor.

The League have announced that Port will play their away fixture with TREARDDUR on Saturday, 6th Decamber with a 2.30pm. Trearddur play their home game at the Nantporth Stadium, Bangor.


13/11/25
PORT v PORT TALBOT: ychydig o’r hanes / PORT v PORT TALBOT: a bit of history


Bydd Port heb gêm y Sadwrn nesa’ wedynyn wynebu Port Talbot yn 3ydd Rownd Cwpan JD Cymru. Y tro diwetha i’r ddau gyfarfod oedd yn ôl yn nhymor 2009/10 â’r ddau glwb ar y pryd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae’r ddau felly wedi gweld newid mawr, gyda Port bellach yn y 3ydd haen â Port Talbot wedi syrthio yn is i’r 4ydd Haen. Ond gobeithio, gyda’r ddau yn brwydro am le yn 4ydd Rownd y gystadleuaeth, mai i fyny mae golygon y ddau.
Ar eu hymweliad diwetha’ â’r Traeth, Port Talbot enillodd o 1-0 gyda Martin Rose yn sgorio’r yr unig gôl. Isod gweler y ddau dîm ar y diwrnod, 17 Ebrill 2010.
Tymor 2009/10 oedd y tymor ola’ cyn i’r Uwch Gynghrair newid i fod yn gynghrair 12 clwb â Port yn un o’r clybiau a gollodd eu lle diolch i’r newid hwnnw gan disgyn i’r Cymru Alliance. Ar y llaw arall roedd Port Talbot yn un o’r prif glybiau gan orffen yn y 3ydd safle yn 2009/10, tu ôl i’r pencampwyr TNS. Diddorol nodi cafodd Port gêm gyfartal y tymor hwnnw gyda TNS, 1-1 oedd y sgór!
Atgofion da o’r cyfnod â’r croeso cynnes oedd pob amser yn ein haros ar ymweliadau â Victoria Road. Edrychwn ymlaen i groesawu Port Talbot 2025 i’r Traeth.


Highslide JS Highslide JS

PORTHMADOG: Richard Harvey, Euron Roberts, Mike Foster, Dan Pyrs, Ryan Davies, John Keegan, Chris Jones, Rob Evans, Cai Jones (Steve Jones 83'), Marcus Orlik, Gareth Parry (Aden Shannon 72'). Subs not used: Jac Jones, Dylan Williams (y), Meilir Elis (y). Yellow: Marcus Orlik 41', Aden Shannon 79'.
PORT TALBOT: Lee Kendall, Lee de Vulgt, Scott Barrow, Gareth Phillips (Karl Lewis 52'), Matthew Rees, Lee Surman, Lee John (Matthew Thompson 74'), Lloyd Grist, Martin Rose, Liam McCreesh, Daniel Thomas. Subs not used: John Wonnacott, Chris Silva(y). Attendance: 223.


Highslide JS

After a free Saturday Port will then face Port Talbot Town in the 3rd Round of the JD Welsh Cup. The last time the two clubs met was back in season 2009/10 when both were in the Welsh Premier League.
Both clubs have therefore seen better days with Port now in the 3rd Tier of Welsh football while the decline has been even more severe for the Steeltown club who are now playing in Tier 4. But the fact that they will be contesting for a place in Round 4 of the competition is a sign that both have their eyes on moving back up the pyramid.
On that last visit to the Traeth, Port Talbot were the winners by 1-0 with Martin Rose scoring the only goal of the game. Above are the teams on that day 17th April 2010.
The 2009/10 season was the last before the league was reduced to 12 clubs and Port fell victim to that change and were relegated to the Cymru Alliance. Port Talbot on the other hand were a top side at the time and finished the season in 3rd spot behind the champions TNS. Interestingly Port held TNS to a 1-1 draw in that season!
Victoria Road was a ground where Port supporters always received the warmest of welcomes. We look forwrad to welcoming the Port Talbot of 2025 to the Traeth.
10/11/25
Diddordeb NODDI PÊL tymor yma?? / Interested in MATCH BALL SPONSORSHIP this season??


Gyda cyhoeddusrwydd yn y rhaglen, ar yr uchelseinydd, y cyfryngau cymdeithasol a tocynnau i'r gêm.
***Cefnogwch y Clwb***
Cysylltwch â Dylan am fwy o fanylion: cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com<


With publicity in the match programme, tannoy announcement, social media coverage and tickets to the match.
***Support the Club ***
Contact Dylan for more information: cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com
09/11/25
Gém gyfartal i Port / Port held to a draw


Josh Cooke - CPD Porthmadog Ar ddiwrnod o gemau cyfartal yn yr Ardal NW (5 allan o 7) roedd angen goliau hwyr i’r ddau geffyl blaen, Port a Bangor 1876 fedru sicrhau pwynt. Collodd y ddau y cyfle i ennill mantais ar eu gilydd yn y rás am ddyrchafiad a hefyd agor ymhellach y fantais dros y gweddill.
Trearddur a Pwllheli oedd unig enillwyr pnawn Sadwrn gyda Llangefni hefyd yn sicrhau 3 phwynt nos Wener gan godi i’r 3ydd safle a torri mantais Port o 7 pwynt i'r chwech presennol.Mae buddugoliaeth Trearddur yn eu codi yn 5ed.
Dros y 4 wythnos nesa bydd 3 Sadwrn yn cael eu neilltuo i gemau cwpan gan wthio’r Gynghrair holl bwysig i’r sedd gefn.
Am yr ail benwythnos yn olynol chwarae yn erbyn 10 dyn gwnaeth Port am gyfnod hir. Yn wahanol i’r profiad yn Stadium Glannau Dyfrdwy, ddoe roedd amddiffyn trefnus penderfynol NFA yn broblem anodd. Heblaw am arbediad gwych Josh Cooke o’r smotyn, efallai mae colli fyddai’r hanes
Darllenwch Adroddiad Treflyn adroddiad
Roedd yn un o’r dyddiau lle, er waetha’ pob ymdrech, roedd pethau’n gwrthod clicio.
Mae fyny ac i lawr a chanlyniadau annisgwyl i gyd yn rhan o dymor arferol pél-droed ac wedi Sadwrn ffwrdd bydd y garfan yn ail gydio i groesawu Port Talbot yn 3ydd Rownd Cwpan JD Cymru
Ar nodyn calonogol, da oedd gweld Josh Banks yn dod i’r cae fel eilydd, yn dilyn anaf cyfnod hir, a mawr oedd y croeso gan gefnogwyr. Croeso 'nol Josh!!
C’mon Port!!

On a day of draws in the Ardal NW (5 out of 7) both front runners, Port and Bangor 1876, needed a late equaliser each to pick up a point. Both clubs spurned the opportunity to gain an advantage on each other in the promotion race and also to further open up the gap on the rest of the challengers.
Trearddur and Pwllheli were the only Saturday winners with Llangefni picking up 3 points on Friday evening. Llangefni, now 3rd, reduced Port’s advantage from 7 points to six. Trearddur’s win moves them up to 5th spot.
Over the next 4 weeks three Saturdays of the all important league programme make way for Cup ties. For the 2nd consecutive weekend Port played against 10 men for a long period. They took full advantage at Connah’s Quay but yesterday they found NFA’s organised defence a huge problem. In fact it took another top penalty save from Josh Cooke to avoid a loss.
Read Treflyn’s full Match Report adroddiad
It was one of those days where, despite all the effort, things refused to click.
Shocks, off days, ups and downs are all part of a season’s football so after a free Saturday it will be Port Talbot in Round 3 of the JD Welsh Cup. A positive for Port, and much to the delight of the home support, was the return of Josh Banks making a late sub appearnce, his first of the season. Welcome back Josh! C’mon Port!!.
08/11/25
GÊM YMLAEN / GAME ON!!


Y newyddion da, er waetha’r problemau llifogydd yng nghynt yn yr wythnos, mae gêm heddiw gyda NFA am 2.30pm YMLAEN.
Unwaith eto mae’r Traeth wedi dangos y gallu rhyfeddol i oresgyn trafferthion ac mae’n barod am y gêm.
Gwelwn i chi am 2.30pm.
C;mon Port!!

The good news, despite the flood problems earlier in the week, today’s game against NFA is on at 2,30pm.
The Traeth has once again lived up to its reputation for having great powers of recovery,
See you at 2,30pm
C’mon Port!!
06/11/25
NFA: Sadwrn / Saturday: Ardal NW: Y Traeth 2.30pm


Noddwyr y Gêm / Match Sponsors:WIRRAL SUPPORTING PORT- CLIVE & MARY JAMES
Noddwyr y Bêl: : BLOCKFOIL MANCHESTER & DEWI ROBERTS ADEILADWYR /BUILDING CONTRACTORS

Bydd Port yn croesawu NFA i’r Traeth pnawn Sadwrn ar gyfer gêm yn yr Ardal NW gyda’r gic gynta am 2.30 o’r gloch.
Cafodd y clwb p’r Rhyl fuddugoliaeth o 3-1 y Sadwrn diwetha’ yn erbyn y newydd ddyfodiaid Mynydd Isa. Yn eu gêm cynt, oddi cartref yn Penmaenmawr, colli fu eu hanes a hynny ond yr ail golled iddynt yn y gynghrair.
Er hynny mae NFA yn cael ail dymor da yn Haen 3. Maent yn y 5ed safle un pwynt y tu ôl i Llangefni a dau yn llai na Phrestatyn.
Yn y gêm gynta erioed rhwng y ddau glwb, y tymor diwetha’, Port oedd yr enillwyr o 5-2 ond roedd yn gêm wych i’w gwylio gyda’r NFA yn cyfrannu’n fawr ac yn chwarae pêl-droed cyffrous ymosodol. Bydd yn brawf arall ac yn gêm allweddol eto i Port, ond un lle allwn ddisgwyl pêl droed efo dipyn o gyffro. Gobeithio ar ddiwedd y 90 bydd gan Port 3 phwynt arall.
C’mon Port!!
SYLWCH: Mae’r Traeth wedi diodde’ o lifogydd diweddar. Bydd y newyddion diweddara’ ar gael ar Facebook, ‘X’ ac ar y wefan hon.

The Ardal NW programme continues, weather permitting, on Saturday when NFA of Rhyl will be the visitors to the Traeth for a 2.30pm kick off.
NFA come to the Traeth on the back of a 3-1 victory over newcomers Mynydd Isa but surprisingly in their previous away fixture they were beaten by the other newcomers Penmaenmawr. This was even more surprising considering that it was only the 2nd league defeat of the season for the Rhyl based club.
Overall however NFA are enjoying a second successful season at Tier 3. They are in 5th spot a point behind Llangefni and only two less than 3rd placed Prestatyn.
In the very first meeting between the two clubs at the Traeth last season Port ran out 5-2 winners. It was an entertaining game with the young NFA side contributing substantially with some quality flowing football.
It will be another test and another key game for Port on Saturday but one where we can look forward to some entertaing football. Hopefully also there will be another 3 points at the end of the 90 mins.
C’mon Port!!
NOTE: The Traeth has suffered during recent flooding. Look out for latest updates on Facebook, ‘X’ and this website
03/11/25
CHWARAEWR Y MIS / PLAYER OF THE MONTH


Cyfle i gefnogwyr bleidleisio ar gyfer Chwaraewr y Mis - Hydref! Y bleidlais yn cau 4/11/2025 am 7yh.

Vote for your choice of October's Player of the Month! Voting closes 4/11/2025 at 7pm.
02/11/25
PORT YN TARO 7 / 7-UP FOR PORT


Diwrnod da i Port ar Lannau Dyfrdwy gan cymryd mantais llawn o’n gwrthwynebwyr 10 dyn i ganfod y rhwyd 7 gwaith gyda Sam Reynolds, Danny Brookwell a Dan Atkins i gyd yn sgorio ddwywaith.
Cymrwyd mantais hefyd o’r ffaith fod Bangor yn chwarae gêm gwpan gan ddychwelyd i frig yr ANW.
Mae’r fuddugoliaeth hefyd yn ychwanegu ychydig at ein stats gwahanieth goliau ac yn bwysig wrth i’r ras am ddyrchfiad fynd yn ei blaen.
Yn ddiddorol nodi fod y 6 ucha yn y tabl, heblaw am Bangor, wedi chwarae 10 gêm gynghrair ac yn gwneud cymharu canlyniadau yn haws. Sylwn hefyd fod gwagle o 7 pwynt bellach rhwng Port a Prestatyn y clwb yn y 3ydd safle.
Syndod y byd nid Port oedd sgorwyr ucha’r dydd gan i Llai guro Llanelwy o 9-1!
Darllenwch Adroddiad Dylan adroddiad
C’mon Port!!

Another good day for Port, taking full advantage of the 10-man opposition to find the net 7 times, with Sam Reynolds, Danny Brookwell and Dan Atkins collecting a brace each.
Port also took advantage of Bangor 1876’s cup involvement to return to the top of the Ardal NW.
The high scoring win does no harm to the club’s goal difference stats as the race for promotion continues.
Interesting to note that the top six in the table, apart from Bangor, have now played 10 games, so comparing results becomes more meaningful. We can also see that a gap of 7 points has developed between Port and 3rd placed club Prestatyn. Despite the 7 goals Port were not the highest of the day with Llay Welfare defeating St Asaph by 9-1!!
Read Dylan’s Match Report adroddiad
C’mon Port!!.
30/10/25
TREF CEI CONNAH / CONNAH’S QUAY TOWN: Sadwrn / Sat: Stadiwm Glannau Dyfrdwy / Deeside Stadium CH5 4BR: 2.00pm


Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i Stadiwm Glannau Dyfrdwy ar gyfer gêm yn yr Ardal NW yn erbyn Tref Cei Connah. Dylai cefnogwyr nodi fod y gic gynta’ am 2 o’r gloch.
Gyda Bangor 1876 yn chwarae gêm Gwpan bydd buddugoliaeth yn symud Port yn ôl i’r brig dros dro – o leia’! Bydd buddugoliaeth hefyd yn agor ychydig yn fwy ar y gwagle rhyngom ac eraill yn y râs.
Prin fydd angen atgoffa cefnogwyr fod y clwb o Sir Y Fflint wedi cymryd 4 pwynt oddi ar Port y tymor diwetha’, Nid yw’n amser felly i ymlacio yn y frwydr am ddyrchafiad.
Y penwythnos diwetha’ colli oedd hanes y clwb o Lannau Dyfrdwy yn Mynydd Isa, ond ar y llaw arall, cawsant fuddugoliaeth dda dros Llangefni yn eu gêm adra’ ddiwetha’. Werth nodi hefyd eu bod wedi cael gêm agos iawn gyda Prestatyn yn ddiweddar.
Er nad yw ein gwrthwynebwyr pnawn Sadwrn yn mwynhai cystal rhediad a gawant i orffen yn 8fed y tymor diwetha,’ byddant yn edrych i wella ar y safle 13eg presennol.
Bydd Port ar y llaw arall yn edrych i adeiladu ar fuddugoliath y Sadwrn diwetha’ gan anelu i fynd ar rhediad arall o fuddugoliaethau.
C’mon Port!!

On Saturday Port will travel to Connah’s Quay Town’s Deeside Stadium for an Ardal North West fixture. Supporters should note that this game has a 2.00pm kick off.
With Bangor 1876 playing a Cup game, a win could see Port move back to the top of the table at least temporarily. A win could also widen the gap on other tivals.
Supporters, however, will not need reminding that the Flintshire club took 4 pts from last season’s leagur encounters. No time, therefore, to relax in the promotion race.
Last weekend the Deeside club suffered a 2-1 defeat at Mynydd Isa but their last home fixture produced a good win over Llangefni and in another recent fixture they went down to a single goal defeat to Prestatyn.
Aithough Saturday’s opponents are not, to date, repeating the form of last season’s 8th place finish, they will undoubtedly be looking to improve their current 13th spot.
Port will now look to build on last Saturday’s performance to go on another winning run.
C’mon Port!!
29/10/25
DATGANIAD TÎM DATBLYGU / STATEMENT DEVELOPMENT TEAM


CPD Porthmadog Mae'r clwb yn hynod siomedig i gyhoeddi bod y Tîm Datblygu wedi gorfod tynnu allan o gynghrair yr Ail Dimau.
Yn anffodus yn ddiweddar, mae cyfres o rwystrau wedi golygu nad oedd yn bosibl parhau mwyach.
Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi rhoi o'u hamser a'u hegni dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Mae'r clwb yn parhau i ymrwymo i ddatblygu talent lleol a bydd yn parhau i gefnogi pêl-droed iau yn yr ardal.

The club regrets to announce that the Development Team have had to withdraw from the Reserve league.
Unfortunately recently a series of setbacks have meant that it was no longer possible to continue.
We wish to thank those who have given their time and energy over the last few months.
The club remains committed to developing local talent and will continue to support junior football in the area.
27/10/25
** CLWB 100 **


ENILLWYR HYDREF / OCTOBER WINNERS

1af / 1st £100 -Rhif/No 83 ---CHRIS JONES
2ail / 2nd £60 -Rhif/No 11 ---DARRYL HANCOCK
3ydd / 3rd £40 -Rhif/No 102 ---SHARON LAND


Llongyfarchiadau / Congratulations
26/10/25
PORT YN TARO ‘NOL / PORT STRIKE BACK


Arden Gisbourne - CPD Porthmadog Gorffenodd wythnos y dair sialens anodd fel y cychwynodd, ar nodyn uchel i Port.
Seliodd tair gôl hwyr y canlyniad Nos Fawrth ond ddoe roedd y 3 gôl ail hanner yn adlewyrchu ysbryd a phenderfyniad y garfan cartre’.
A charfan ydy’r gair allweddol mewn gêm sy’n dangos gwerth y garfan mae Chris Jones yn adeiiladu ar Y Traeth.
Aeth Port ar y blaen, diolch i 6ed gôl y tymor i Shaun Cavanagh, a wedyn yr eilyddion Jonny Bravo ac Arden Gisbourne yn sicrhau’r fuddugoliaeth, y ddau yn rhwydo’n fuan ar ôl dod o’r fainc. Cymrodd Arden ei gôl 89 munud mewn steil i gadarnhau’r fuddugoliaeth yn dilyn gôl Prestatyn i wneud y sgôr yn 2-1.
Roedd yn dda gweld Bravo a Gisbourne yn cymryd eu cyfleoedd un ar un mor bwyllog. Darllenwch Adroddiad Rhydian adroddiad
C’mon Port!!

Jonny Bravo - CPD Porthmadog In a week of three difficult challenges it ended as it began on a high note for Port.
Three late goals sealed Port’s fate on Tuesday but 3 second half goals yesterday was a reflection of the spirit and determination of the home squad.
Squad is the important term as we see the value of the squad strength Chris Jones is building at the club.
Shaun Cavanagh’s opening goal, and his 6th of the season, gave Port the lead, then the super subs, Jonny Bravo and Arden Gisbourne, clinched the victory both scoring soon after their arrival from the bench.
Arden’s 89th minute superbly taken settler was his first league goal for the club, and was needed following Prestatyn’s goal which had reduced the home advantage to 2-1.
It was great to see Bravo and Gisbourne keep their cool in one on one situations.
Read Rhydian’s Match Report adroddiad
C’mon Port!!.
23/10/25
CWPAN CYMRU Rd 3 / JD WELSH CUP Rd 3


Daeth yr enwau o’r het heno ar gyfer ROWND 3
Bydd Port adra yn erbyn PORT TALBOT TOWN
Dod ac atgofion o ddyddiau Cynghrair Cymru!!
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar Sadwrn Tachwedd 22

The names have been drawn tonight for ROUND 3
Port will be at home again against PORT TALBOT TOWN
Brings back League of Wales memories!!
The game will be played on Saturday, Novenber 22
23/10/25
CPD PRESTATYN TOWN: Ardal NW: Sadwrn / Sat : Y Traeth : 2.30pm


Noddwyr y Gêm / Match Sponsors: GARY FALCONER ELECTRICALS
Noddwyr y Bêl / Match Ball Sponsors: BLOCKFOIL MANCHESTER & BELYN FINANCIAL SERVICES

Yn ôl i maes y frwydr yr Ardal NW i Port pnawn Sadwrn wrth i’r garfan wynebu eu 3edd gêm anodd mewn wythnos.
Byddwn yn croesawu Prestatyn i’r Traeth gyda’r gêm yn cychwyn am 2.30pm. Er waetha’r hyn a ddigwyddodd yn Nantporth nos Fawrth, edrych ymlaen fydd y nôd gyda dau glwb sy’n chwilio am ddyrchafiad yn mynd ben ben a’u gilydd.
Mae’r ymwelwyr yn y 3ydd safle, un pwynt y tu ôl i Port ac wedi chwarae un gêm yn fwy, Unwaith, maent wedi colli yn y gynghrair, a hynny o 4-1 yn erbyn Bangor 1876. Mae ganddynt record amddiffynol dda gyda, ar gyfartaledd, un gôl y gêm yn mynd i’w rhwyd.
Roedd Prestatyn hefyd yn chwarae yng nghanol wythnos ac yn cael buddugoliaeth dda 2-1 dros Trearddur.
Er ein bod heb gyrraedd y ddegfed gêm o’r tymor mae gan y gêm hon y potensial i ddylanwadu’n drwm ar ein tymor cyfan, a bydd buddugoliaeth pnawn Sadwrn yn hwb mawr i’r enillwyr ar gyfnod pan fydd y rhaglen gynghrair yn peidio cael ei thorri gan llu o gemau cwpan.
Dowch lawr i’r Traeth i gefnogi’r hogia’.
C’mon Port!!

Sam Reynolds - CPD Porthmadog Its a case of back in the saddle on Saturday for a third tough fixture in the space of a week.
We will be welcoming Prestatyn Town to the Traeth for a 2.30pm start . Despite last Tuesday’s events, it is still a case of looking ahead as these two promotion seekers go head to head.
The visitors lie in 3rd place just a point less than Port, having played one more game. They have been beaten only once and that was a 4-1 loss to current leaders Bangor 1876. They have a good defensive record conceding an average of a goal a game.
Prestatyn also played in midweek, recording a good 2-1 win over Port’s bogey team, Trearddur.
Though we are yet to reach double figures in games played, this is a vital fixture which many will describe as must win. That is probably over stating it but no doubt a win for either side will end a vital week with a huge boost as we move to a period when the league programme is not constantly broken up by cup games.
Get down to the Traeth the lads need your full support.
C;mon Port!!
23/10/25
***IS-LYWYDDION 2025 /2026 VICE-PRESIDENTS*** 


CPD Porthmadog Hoffai swyddogion Clwb Pêl-Droed Porthmadog ddiolch o galon i'r holl unigolion sydd wedi cytuno i fod yn Is-Lywyddion am dymor 2025-26.
Mae cefnogaeth ein Is-Lywyddion yn cael ei werthfawrogi gan gyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr y clwb, sydd yn parhau i weithio'n ddiflino i wella cyfleusterau yn Y Traeth.
Felly diolch i'r isod am eu cyfraniad a cefnogaeth unwaith yn rhagor.
A fyddai gennych chi ddiddordeb fod yn Is-Lywydd y clwb drwy rhoi cyfraniad, a felly helpu'r clwb i gynnal trwydded haen 2 a chyflawni trwydded haen 1 yn y dyfodol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dylan ar 07900512345 neu cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com

Enid Owen, Sue Brown, Eddie Blackburn, Bruno Cangini, Huw Griffith, Robert Burns, Emrys Griffith, Iorwerth Griffiths, Maria & Martin Rookyard, Bernhard Hoyler, Mike Stringer, Meirion Evans, Eifion Pugh, Clive Roberts (Lincoln), Jim Maxwell.

Club officials would like to thank all the above individuals who have agreed to be Vice Presidents for the 2025-26 season. The support of our Vice Presidents is very much appreciated by the directors and volunteers of the club, as they work tirelessly in their efforts to improve the facilities at Y Traeth.
Therefore a big thank you to all those listed.
Would you be interested in becoming a Vice President of the club by giving a contribution / donation and therefore help the club sustain a Tier 2 licence and achieve Tier 1 licence in the future.
For more information contact Dylan on: 07900512345 or cpdporthmadogfcmarketing@gmail.com
22/10/25
NOSON FAWR i HAEN 3 / A HUGE NIGHT for TIER 3


Roedd canlyniad neithiwr yn Nantporth yn siom fawr i Port ond ar y llaw arall, roedd yn wych i fod yn ran o'r achlysur arbennig o dan y goleuadau, ua gyflwynwyd mor dda.
Mae Torf o 1002 i gêm gynghrair yn y 3edd Haen yn sicr yn werth ei ddathlu mewn trefn gystadleuol lle mae rhai clybiau Haen 1 weithiau yn cael trafferth i ddenu 200 drwy’r giatiau.
Yn amlwg, pan fydd dau glwb cymunedol â chefnogaeth dda yn cyfarfod mae’r dorf yn dod, a pan fyd y gêm hefyd yn ddigon pwysig daw y cefnogwr achlysurol yna hefyd.
Bydd cefnogwr mwyaf coch a du Port yn cytuno fod yr 1876 wedi chwarae’n dda neithiwr; y pasio, y symudiadau a’r ...saethu!!
Yn eu siom, rhaid atgoffa cefnogwyr Port, tan y roced ar 82 o funudau 2-1 i lawr oedd y sgôr, ac roedd cyfleon yn dal i gael eu creu. Daeth y 3 gôl, a wnaeth y sgôr gymaint o siom ar y noson, yn y 10 munud ola’ yn ogystal a’r amser wedi’i ychwanegu.
Symudwn ymlaen rwan i sialens mawr arall pnawn Sadwrn
DARLLENWCH ADRODDIAD TREFLYN adroddiad
C’mon Port!!

The result at Nantporth last night was a big disappointment for Port but, on the other hand, it was great to be part of such a well presented occasion under the lights.
An attendance of 1002 for a Tier 3 league match is certainly something to be noted, and that in a system where some Tier 1 clubs struggle to get 200 through the turnstiles at times.
It just goes to show, when you get two well supported community clubs facing each other the support is there. When also it is important enough it will draw the casual supporter through the gate as well.
Even the most partisan Port supporter will agree that the 1876 played well last night passing, movement and.... shooting!
In their diappointment Port must remember that up until that 82nd minute rocket the scoreline read only 2-1 down with more chances being created. The 3 goals which made the final scoreline such a disappointment came in the final 10 minutes plus added time.
Move on now to another big challenge on Saturday.
READ TREFLYN’S Match Report adroddiad
C’mon Port!!
Newyddion cyn 22/10/25
News before 22/10/25

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us