Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
19/08/22
CWPAN Y GYNGHRAIR HAEN 2 / TIER 2 LEAGUE CUP

Bydd Port yn chwarae Derwyddon Cefn ar Y Traeth yn Rownd 1 o gystadleuaeth newydd Cwpan y Gynghrair.
Bydd y gystadleuaeth newydd hon yn nychwyn ym mis Medi ac yn cynnwys 32 o glybiau Haen 2.
Bydd y gystadleuaeth yn rhannu gogledd a de ar y cychwyn tan bydd yr enillwyr yn y ddwy ardal o Gymru yn cael eu penderfynu.
Wedyn bydd enillwyr y Gogledd yn chwarae enillwyr y de mewn ffeinal i benderfynu pencampwyr cynta’ Cwpan y Gynghrair Haen 2.
Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 2/3/4 Medi.

Port have been drawn at home to Cefn Druids in Round 1 of a new League Cup competition.
The new competition, which kicks off on the opening weekend of September, will see the 32 Tier 2 clubs enter at the first round stage.
The competition will be regionalised with the draw split into northern and southern sections until the two regional winners are confirmed.
The winners of the northern section will then take on the winners of the southern section and become the first Tier 2 League Cup champions.
. The ties will be played over the weekend 2nd/3rd/4th September.
19/08/22
Llongyfarchiadau Ifan / Congrats Ifan

Mae Ifan Emlyn, chwaraewr canol cae Port, wedi’i enwi yn Tîm yr Wythnos JD Cymru Leagues am y cyfnod 12/08/22 i 14/08/22. Mae ifan wedi cael cychwyn arbennig i’r tymor wedi bod yn chwaraewr allweddol yn y 3 gêm gynghrair a chwaraewyd hyd yma y tymor hwn. Coronodd berfformiad gwych yn Penrhyncoch gyda gôl hwyr a seliodd y fuddugoliaeth.

Port midfielder Ifan Emlyn has been named in the JD Cymru Leagues team of the week for 12/08/22 to 14/08/22. Ifan has had a great start to the season featuring prominently in the 3 league fixtures played to date. He capped a great performance at Penrhyncoch with a late goal to seal an impressive victory with a late goal.
19/08/22
Croeso Gethin / Welcome to the Traeth Gethin

Gyda’r ffenest drosglwyddo yn cau ar ddiwedd y mis, mae Craig Papirnyk wedi cyhoeddi fod Gethin Willimas wedi ymuno â’r clwb. Bu Gethin yn Academi Dinas Bangor ac, yn 16 oed, cyfranodd at lwyddiant Carfan Ddatblygol Bangor yn ennill Cynghrair Datblygol Cymru. Ymunodd eto gyda prif garfan Bangor pan oedd yr Archentwr Hugo Colace yn rheoli’r clwb. Croeso i’r Traeth Geth.

The transfer window will be closing at the end of the month so Craig Papirnyk has stepped in and announced the signing of Gethin Williams. Gethin is a Bangor City Academy product and at the age of 16 he was part of the successful Bangor Development squad that won the Welsh Premier Development League. He late re-joined Bangor as a senior player under Argentinian manager Hugo Colace. Welcome to the Traeth Geth.
18/08/22
Rhagolwg / Preview: Bae COLWYN Bay V Port Sat /Sad 2.30pm

Y Sadwrn diwetha’ roedd Treflyn yn adrodd am gêm a chwaraewyd mewn tywydd trofannol, tra 10 diwrnod yng nghynt noson o wynt a glaw dychrynllyd oedd hi ar Y Traeth. Beth tybed ydy’r rhagolygon at y Sadwrn nesa’ pan fydd Port yn teithio i Ffordd Llanelian (LL29 8UN) i chwarae Bae Colwyn?
Er fod y tywydd yn anwadal, un peth sicr ydy fod gêm anodd yn wynebu carfan Craig Papirnyk pan fyddant yn cyfarfod tîm Steve Evans.
Daw Y Bae i’r gem hon ar gefn buddugoliaeth o 6-1 oddi cartref yn Nhreffynnon, clwb a orffennodd yn y 4ydd safle y tymor diwethaf. Rhwydodd James Kirby, blaenwr profiadol y Bae, ddwywairh iddynt, a bydd yn bendant yn un i gadw llygad arno. Chwaraewyd gêm Treffynnon o flaen torf o 870.
Er yn dal i setlo fewn ar lefel uwch, cafodd Port hefyd fuddugoliaeth dda iawn ar y ffordd. Ond pnawn Sadwrn fydd y prawf mwya’ hyd yma ond hefyd yn gêm i bawb edrych ymlaen ati, rhwng dau glwb blaengar sy’n cael cefnogaeth dda.
Bydd yn sialens gall Callum Parry a Rhys Alun groesawu, dau flaenwr sydd eisoes yn canfod y rhwyd ar y lefel uwch, ac hefyd i’r garfan gyfan. Bydd yn sialens fawr i amddiffyn a gadwodd lechen lân yn Penrhyncoch â llongyfarchiadau i Iddon Price (llun) yn cael ei enwi yn chwaraewr y gêm gan Radio Aber.
Gêm Fawr.
C’mon Port!!


Last Saturday Treflyn’s opening remarks were “.... supporters witnessed a match...... in tropical conditions” while, 10 days earlier, it was a case of “.... a night of high winds and driving rain.” What can we expect this coming Saturday when Port travel to Llanelian Road (LL29 8UN) to take on Colwyn Bay?
. The weather may be unpredictable but what is eminently predictable is that it will be a very tough game for Craig Papirnyk’s squad as they take on rivals managed by Steve Evans.
. The Bay come into this game on the back of a 6-1 away triumph at Holywell, a club that finished last season in 4th spot in the Cymru North. The Bay’s experienced striker James Kirby netted two of these goals and will no doubt be one to watch. The Holywell game was played in front of an 870 crowd.
. But Port, despite having to find their feet at a higher level, also recorded an excellent victory on the road.This, however, will be their toughest test so far but also an exciting prospect when two progressive, well supported clubs go head to head in a clash for supporters to savour.
It will also be one to savour for Port’s strike force of Callum Parry and Rhys Alun who are already finding the net at a higher level and indeed for the whole squad. This will be a big challenge for a Port defensive formation that kept a clean sheet at Penrhyncoch, with Iddon Price (inset) named MoM by Radio Aber for the game.
Big Game
C’mob Port!!.
15/08/22
JD Cymru North: 12/13 Awst/ August

Ar ddiwedd y trydydd cyfres o gemau, Bwcle ydy’r unig glwb efo record cant y cant. Bydd Port yn hapus efo eu hail 3 phwynt ar y ffordd, gyda 3 gôl a llechen lân yn sicrhau y 3ydd safle yn y tabl. Dyddiau cynnar ond cychwyn boddhaol iawn.
Y canlyniad mwyaf arwyddocaol oedd y fuddugoliaeth o 6-1 oddi cartref I Fae Colwyn yn Treffynnon, ac o ystyried y gwrthwynebwyr gallai fod, er mor gynna,r yn arwydd ar gyfer y râs am dyrchafiad eleni. Roedd yna fuddugolaethau da hefyd i Brestatyn yn Cegidfa a’r Wyddgrug yn Gresford. Ennillwyr eraill oedd Derwyddon Cefn, Llandudno a Llanidloes yn cael eu pwyntiau cynta’.

. Matchday 3 ended with only one 100% record. Buckley Town who notched their third win at Ruthin Town. Port will be pleased with a 2nd three points on the road and 3 goals and a clean sheet means they are in 3rd spot in the table. Early days but a more than satisfactory start.
The most significant result was a 6-1 away win for Colwyn Bay at Holywell which, considering the strength of the opposition, must, even at this stage, be a promotion pointer. There was a good win for Prestatyn at Guilsfield and Mold at Gresford. Other winners were Cefn Druids, Llandudno, and for Llanidloes getting their season off the mark at Chirk.
11/08/22
Penrhyncoch v Port Sad / Sat 13 /08/22 2.30pm

Cae Baker, Penrhycoch (SY23 3EH) bydd lleoliad gêm Port pnawn Sadwrn. Hon fydd y gynta' o ddwy gêm yn olynol ar y ffordd, gyda’r unig gêm ar Y Traeth y mis yma yn dod ar Awst 26 pan fydd y Wyddgrug yma.
Yn dilyn y golled hwyr, hwyr i Gresffordd rhaid i Port aros 10 ddiwrnod cyn dychwelyd i’r cae sydd yn sefyllfa bell o fod yn ddelfrydol yr amser yma o’r tymor. Er waetha’r siom o golli adra roedd yna ddigon i blesio Craig Papirnyk mewn gêm a chwaraewyd mewn tywydd ofnadwy. Roedd perfformiadau tri o’r newydd ddyfodiaid yn galonogol iawn; Morgan Jones (llun) yn cael gêm arbennig yn y gôl, gyda Harri Hughes ar yr ochr chwith a Nathan Williams yng nghanol yr amddiffyn hefyd yn dal y llygad.
Dydy Cae Baker byth yn lle hawdd, a bellach mae Gari Lewis yn ôl yn rheolwr. Yn eu hunig gêm gynghrair hyd yma cafodd Penrhyncoch gwell lwc na Port yn erbyn Gresffordd, yn cael y gorau ohoni mewn buddugoliaeth o 1-0. Cafodd eu gêm gynghrair arall yn Bae Colwyn ei hail drefnu i fis Tachwedd gan osgoi siwrnai o 170 milltir bob ffordd yng nghanol wythnos!
Gyda Penrhyncoch hefyd allan o Gwpan Nathaniel MG, yn colli 0-2 i Bwcle, bydd y ddau glwb yn awyddus i gychwyn ar rhediad cyson o gemau cynghrair.
C’mon Port!!


On Saturday Port will be away to Penrhyncoch (SY23 3EH) at Cae Baker. This is the first of consecutive games on the road, with the only other home August fixture scheduled to be the visit of Mold Alex to the Traeth on 26th August.
Following their added time loss to Gresford, Port have had to wait 10 days to get back in action which, at this stage of the season, is hardly ideal. Despite the disappointment there were pluses to be taken from an exciting encounter played in some very wild weather. Craig Papirnyk will be pleased with the form shown on the night by 3 of his summer signings; Morgan Jones (inset) putting in a great performance in goal while Harri Hughes, on the left side, and Nathan Williams in central defence also catching the eye with their contributions.
A visit to Cae Baker is never easy and the Roosters now have Gari Lewis back as manager. Their only league fixture was also a visit from Gresford, with the mid-Wales club coming out on top in another 1-0 result. Their other scheduled league fixture against Colwyn Bay has been switched to a date in November which means that the Roosters avoided an 170 mile round trip in midweek.
With Penrhyncoch also out of the Nathaniel MG Cup, going down 0-2 at home to Buckley, both teams will be keen to get back to league action and a consistent run of games.
C’mon Port!!
10/08/22
Cofio Awst 15 1992 / Remembering August 15th 1992

Diolch i Dylan Ellis am gyfraniad diddorol ar y Trydar yn tynnu ein sylw at ddathlu 30 o flynyddoedd ers gem agoriadol Cynghrair Konica Cymru gyda Port yn un o aelodau gwreiddiol y gynghrair genedlaethol ar 15fedAwst 1992. Roedd y gêm rhwng Port a Llanelli ar Y Traeth. Llanelli wnaeth ennill 2-1 gyda Joe Gaffey yn rhwydo gôl Port ar y diwrnod cynta’ hwnnw.
Roedd gan Dylan ei hun hefyd gyfraniad pwysig i’r cyfnod, fel Golygydd y Rhaglen.
Isod gweler y garfan ar y dydd ac mae’n cynnwys rhai o enwau mawr y clwb.
Y rheolwr yn 1992/93 oedd Meilir Owen a fu yn rheolwr am y ddau tymor cynta’. Gorffen yn 9fed wnaeth Port yn 1992/93.

Stephen Owen (gk), Gareth Jones, Steve Smith, Dewi Rowlands, Colin Saynor, Aled Owen, Joe Gaffey, Geraint Jones, Allan Jones, Nigel Smith, Gary Emberton. Eilyddion / Subs: Selwyn Jones, Mark Bennett.

Thanks to Dylan Ellis for an interesting Twtter contribution drawing attention to 30th anniversary of Port’s opening game as founder members of the Konica League of Wales on 15th August 1992. The game was against Llanelli and played at the Traeth. It resulted in a 2-1 victory for Llanelli. Port’s opening day scorer was Joe Gaffey.
Dylan was heavily involved on that day as the Matchday Programme editor.
Above can be seen the squad for the game and it contains some great names from the club’s history.
The club in 1992/93 were managed by Meilir Owen who served during the first two seasons of the new national league and Port finished in 9th place in a 20 club league.
05/08/22
RHYS & CALLUM: yn teithio i Iwerddon / off to Ireland

CANLYNIAD: IWERDDON 2-1 CYMRU NORTH
Chwaraeodd Callum Parry y gêm gyfan a fuodd yn anlwcus i weld ergyd ganddo yn taro’s postyn yn yr hanner cynta’. Daeth Rhys Alun o’r fainc ar 56 munud.

Does dim gêm i Port y penwythnos hwn ond bydd dau o’r garfan ddim yn cael cyfle i segura.
Mae’r ddau flaenwr Callum Parry a Rhys Alun wedi’u dewis i fod yn rhan o garfan y Cymru Leagues a fydd yn teithio i chwarae yn yr Iwerddon y penwythnos yma.
Llongyfarchiadau i’r ddau am sicrhau profiad diddorol a gwerth chweil.
Mae’r ddau yn sgorwyr rheolaidd: Rhys, gyda 23 gôl, oedd prif sgoriwr Port y tymor diwetha tra roedd Callum yn rhwydo 26 gôl i Llanrwst ac yn barod mae wedi rhwydo ddwywaith yn ei 3 gêm dros Port.
Bydd y gêm rhwng y ddwy garfan yn un gyfeillgar i baratoi at Gwpan Rhanbarthau UEFA ac yn cael ei chwarae yn Stadiwm Turners Cross, sef cartre’ clwb Cork City.
Y Cymru North fydd yn cynrychioli Cymru yn y tournament go-iawn ym mis Hydref gan chwarae yn Grwp 4 gyda Sweden , Y Weriniaeth Czech a Gogledd Iwerddon (Gogledd Iwerddon fydd y lleoliad ar gyfer y gemau)


RESULT: IRELAND 2-1 CYMRU NORTH
Callum Parry played the full 90 mins and was unlucky to see a first half shot strike the post. Rhys Alun came on after 56 mins.

No game for Port this weekend but two members of the squad will see action.
Forwards Callum Parry and Rhys Alun, who have both been selected as members of the Cymru Leagues squad, will be travelling this weekend to play in Ireland.
Congratulations to both players on gaining what will be an interesting and worthwhile experience.
Both are proven goal scorers: Rhys was Port’s top scorer last season with 23 goals, while Callum netted 26 for Llanrwst and has already found the net twice since joining Port.
The game between the two squads is an UEFA Regions Cup Friendly and will be played at the all-seater Turners Cross Stadium, the home of Cork City FC
The Cymru North will be representing Wales in the tournament proper in October. Wales will be in Group 4 with Sweden, Czech Republic and Northern Ireland (who will host the games)
03/08/22
GEMAU Nos FAWRTH / MIDWEEK MATCHES

Roedd nos Fercher yn noson brysur gyda 7 o gemau ymlaen. Un nodwedd o’r gemau yma oedd fod gymaint ohonynt yn rhai agos iawn, Y gemau yng Nghaergybi a’r Waun, yn erbyn Conwy a Chegidfa, yn gorffen yn gyfartal 1-1. Canlyniad da i’r Waun sydd newydd cael eu dyrchafu, a hynny yn erbyn un o’r clybiau allai ennill ddyrchafiad.
Roedd y gemau yn Port, Prestatyn a Rhuthun a un gôl yn unig yn eu gwahanu oddi wrth yr enillwyr Gresffordd, Bwcle a Derwyddon Cefn. Y tri cartref yno yn colli. 5 gem felly a 5 canlyniad agos yn argoeli am dymor o frwydro dygn gyda ‘chydig iawn yn gwahanu’r timau.
Yr eithriadau oedd Llandudno a’r Wyddgrug, gyda’ un o’r ffefrynnau am y teitl, Llandudno, yn curo Treffynnon o 3-0 tra roedd 4 gôl yn gwahanu’r Wyddgrug a Llanidloes. Y Wyddgrug yn gwneud yn iawn am golli o’r union sgôr pnawn Sadwrn.

Tuesday night was a busy night of fixtures with 7 games being played. One feature of these games is that so many of them were really close affairs. The games at Holyhead and Chirk were level at 1-1 against Conwy Borough and Guilsfield respectively. That was an excellent point for promoted Chirk AAA against serious promotion candidates.
The games at Port, Prestatyn and Ruthin ended in odd goal defeats for the home teams against Gresford, Buckley and Cefn Druids respectively. Five games, five close results would suggest that the season is going to be a bit of a slog with so little to separate the teams.
Llandudno and Mold Alex were the exceptions, with promotion favourites Llandudno beating Holywell by three clear goals, while last Saturday’s 4-0 losers Mold Alex became 4-0 winners at home over Llanidloes.
01/08/22
Cai yn ôl yn y gorlan / Cai back in the fold

Roedd Craig Papirnyk yn hapus iawn I gyhoeddi heno fod Cai Jones yn ôl ar Y Traeth gan gymryd y llwybr cyfarwydd sy’n cysylltu’r Traeth gyda’r Oval. Yn hogyn lleol nid oes angen ei gyflwyno i ffyddloniaid Y Traeth, erbyn hyn yn flaenwr profiadol gyda llwyth o gemau Cymru Premier yn rhan o’r CV. Bydd yn ychwanegiad gwerthchweil i garfan sydd yn dod i delerau gyda ail sefydlu ei hun yn y Cymru North.


Craig Papirnyk was pleased to announce tonight that Cai Jones is back at the Traeth. He takes the well-trodden return path from the Oval to the Traeth. The local boy needs no introduction to the Traeth faithful, now an experienced forward with a large number of Cymru Premier appearances under his belt, he will provide a huge boost to the squad as the club gets to grip with re-establishing itself in the Cymru North.
31/07/22
Port yn ôl ar Y Traeth / Port v Gresford at the Traeth: Nos Fawrth / Tuesday 8pm

Bydd Port yn croesawu Gresffordd I’r Traeth ar gyfer gêm gartref gynta’r tymor nos Fawrth gyda’r gic gynta’ am 8 o’r gloch
Bydd Port yn mynd i’r gem hon ag agwedd tipyn gwahanol yn dilyn y perfformiad ail hanner yn Llanidloes, yn brwydro nol i sicrhau’r 3 phwynt mewn diweddglo dramatig. Nid yw ail addasu i lefel uwch ar ôl dyrchafiad yn fater hawdd, a bydd rhaid i’r broses barhau ar y Traeth nos Fawrth. Bydd y goliau gan ddau chwaraewr newydd, Alex Boss a Callum Parry yn siwr o blesio Craig Ppairnyk, a hefyd gweld Rhys Alun yn canfod y rhwyd eto yn syth.
Cychwynodd Gresffordd y tymor drwy golli 1-0 yn erbyn Penrhyncoch ond maent drwodd i Rownd 2 Cwpan Nathaniel MG yn curo’r ‘cerdyn gwyllt’, Dinbych o 1-0.
Wrth fynd i’r gem nesa’ hon bydd gan Port deimlad o fusnes i’w orffen gan y tro diwetha’ i’r ddau gyfarfod ‘nol 2019 yn Clappers Lane. Collodd Port o 7-1.
Dim eto os gwelwch yn dda!! C’mon Port!

Port will welcome Gresford Athletic to the Traeth for the first home game of the season on Tuesday evening with an 8pm kick off.
Port will approach the game in a very different frame of mind following the tremendous fight back at Llanidloes to secure the 3pts in a dramatic finale. Re-adjusting and finding your feet after promotion is not an easy process and that must now continue at the Traeth on Tuesday. Goals from the new signings, Alex Boss and another from Callum Parry, will please Craig Papirnyk as will Rhys Alun getting off the mark again.
Gresford started their league campaign with a 1-0 defeat at Penrhyncoch but are through to Round 2 of the Nathaniel MG Cup with a 1-0 win against wildcard holders Denbigh Town.
As they enter this game Port will perhaps feel that they have some unfinished business with Gresford for the last time the two met at Clappers Lane, Port suffered a disastrous 7-1 defeat.
No repeats on Tuesday please!! C’mon Port!
30/07/22
NATHAN WILLIAMS: yn ymuno o Gonwy / joins from Conwy Borough

Mae Craig Papirnyk wedi gwneud ychwanegiad i’w garfan gyda Nathan Williams yn arwyddo i'r clwb o Gonwy lle bu yn rhan o’u garfan am nifer o dymhorau ers ymuno o glwb Caernarfon. Roedd yn aelod o'u carfan yn erbyn Y Waun yng Nghwpan Nathaniel MG Rownd 1 pnawn Sul. Gall Nathan chwarae mewn safleoedd amddiffynnol ar draws y cefn. Cynt bu hefyd gyda CPD Llanberis.
Croeso Nathan

In a further addition to his squad Craig Papirnyk has signed Nathan Williams who joins from Conwy Borough where he has spent several seasons since joining from Caernarfon town. He was part of their squad against Chirk AAA last Sunday in the 1st Round of the Nathaniel MG Cup. Nathan is a versatile defender who can play anywhere across the back four. He also previously represented CPD Llanberis.
Welcome Nathan
28/07/22
James v Paul

Roedd dau gyn aelod o garfan Port llynedd yn gwrthwynebu eu gilydd neithiwr yn Nhywyn. Eisoes diolchwyd I James Moragn am ei gyfraniad sylweddol a neithiwr yn aelod o garfan Bermo, y gwrthwynebwyr, roedd Paul Lewis, un arall a wnaeth cyfraniad mawr I’r ymderech am ddyrchafiad.
Chwaraeodd Paul 27 (+7) o gemau gan sgorio 10 gôl a hynny’n cynnwys un yn y ffeinal. Diolch Paul a phob lwc ‘nol gyda dy glwb lleol.
Y sgôr oedd 1-3 i’r Bermo a diddorol nodi fod cyn chwaraewr i Port, Meilir Ellis yn y gôl i’r Bermo.

Two members of last season’s squad were in opposition last night at Tywyn. We have thanked James Morgan for his substantial contribution and, in the opposition camp last night for Barmouth, was Paul Lewis, who also made a considerable contribution to the promotion effort.
Paul made 27 (+7) appearances scoring 10 goals including one in the final. Thanks Paul and best of luck back with your local club.
The Score was 1-3 to Barmouth and, of interest to Port supporters also, former keeper Meili Ellis kept goal for the winners.
28/07/22
JD CYMRU NORTH: Cychwyn y tymor yn Llanidloes / League campaign begins at Llanidloes (SY18 6AS)

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i gae Victoria i chwarae Llanidloes, gêm agoriadol y JD Cymru North.
Bydd Port yn edrych i godi eu gêm yn dilyn siom y canlyniad yn Rownd 1 Cwpan Nathaniel MG yn Rhuthun. Roedd Llani, ar y llaw arall, yn mwynhau llwyddiant yn yr un gystadleuaeth oddi cartref yn Pontardawe, clwb o’r Cymru South.
Y tymor diwetha’, un safle uwch ben y tri isa’ oedd Llanidloes, yn 12fed, a bydd y gêm yn llinyn mesur da i Craig Papirnyk a’i dîm wrth geisio ail sefydlu eu hunain ar v lefel uwch. Wrth i nifer o wynebau newydd ddal i geisio addasu i’r garfan ac i un neu ddau o chwaraewyr nad oedd ar gael nos Wener ail ymddangos, gobeithiwn am 90 munud sy’n debycach i’r 45 cynta yn Rhuthun, nac i’r ail. Nodyn cadarnhaol ar y noson oedd fod y blaenwr newydd Callum Parry wedi canfod y rhwyd ar ei ymddangosiad cynta’ i’r clwb.
Tipyn o coup i’r Daffs dros yr haf oedd ail arwyddo eu cyn seren Jamie Breese, un a gafodd gyfnod ardderchog ar yr Oval cyn symud yn ôl i’r canolbarth. Gall fod yn un i gadw llygad arno.
C’mon Port!


On Saturday Port travel to the Victoria Ground to take on Llanidloes Town in the opening J D Cymru North fixture.
Port will be looking to raise their game after a disappointing result in the 1st Round of the Nathaniel MG Cup at Ruthin. Our opponents on Saturday, meanwhile, enjoyed success away at Cymru South club Pontardawe Town.
Last season Llanidloes finished one place above the bottom 3 in 12th spot and will provide a good pointer for Craig Papirnyk and his squad as they start to re-acclimatise at a higher level. With several new faces continuing the fitting in process and one or two who didn’t appear at Ruthin perhaps returning, let’s hope for 90 minutes which are closer to the opening 45 at Ruthin rather than the second.A plus on the night was that new striker Callum Parry found his range, hittimg the net with a debut goal.
Over the summer the Daffs made something of a coup re-signing former star, Jamie Breese, a player who enjoyed several excellent seasons at the Oval. So he could be one to watch.
C’mpn Port!!
28/07/22
TOCYN TYMOR 2022/23 / SEASON TICKET 2022/23

TOCYN TYMOR 2022/23 / SEASON TICKET 2022/23

Oedolion:- £72.00
Dinesydd Hyn:- £48.00
Gemau Cynghrair yn unig

Adults:- £72.00
Senior Citizens:- £48.00
League matches only

Cysylltwch / Contact : DYLAN rees48wesla@gmail.com
25/07/22
PENWYTHNOSs o gemau CWPAN / NATHANIEL MG Round 1 WEEKEND

Ym mhenwythnos cynta’r tymor roedd yna 8 gêm yn cynnwys clybiau’r Cymru North yng Nghwpan Nathaniel MG. Nid yn annisgwyl bu’n noson anodd i Port oddi cartref yn Rhuthun ac, er iddynt cyrraedd yr hanner un gôl ar y blaen, bu’r ail hanner yn wahanol gan ildio 4 gôl heb fedru ymateb. Un nodyn positif oedd gôl i’r blaenwr newydd, Callum Parry, ar ei ymddangosiad cynta’
Am y clybiau eraill a sicrhaodd ddyrchafiad, colli oedd hanes Y Wyddgrug o 3-2 a ddaeth hefyd yn erbyn gwrthwynebwyr cry’, sef Treffynnon. Cafodd Y Waun, enillwyr yr Ardal NE, lwyddiant yn curo Conwy gyda unig gôl y gêm.
Roedd dau glwb o’r CN a gemau yn erbyn clybiau o’r ‘Ardal’ a tra gollodd Dinbych i Gresffordd o un gôl, llwyddodd Caersws i guro Prestatyn ar giciau o’r smotyn. Taith i Bontardawe cafodd Llanidloes, gwrthwynebwyr nesa’ Port, ond yn llwyddo i scrhau budduugoliaeth o 2-1 dros y clwb o’r Cymru South.
Roedd hefyd buddugoliaethau i Llandudno a Bwcle.

The opening weekend of the season saw 8 matches involving Cymru North clubs in the Nathaniel MG Cup. Not unexpectedly, it proved to be a difficult night for Port away to Ruthin Town and, though they turned around 1-0 to the good, they suffered in the second period, yielding four times without reply. One positive was a debut goal for new striker Callum Parry.
For the other promoted teams, Mold Alex lost by the odd goal to equally strong opposition at home to Holywell. Chirk AAA, the Ardal NE winners, fared better beating Conwy Borough by the only goal of the game.
Two CN clubs faced Ardal League opposition and, while Denbigh lost narrowly to Gresford, Caersws got thorough in a penalty shoot-out with Prestatyn. Port’s next opponents. Llanidloes faced Cymru South opposition and travelled down to Pontardawe returning winners by 2-1.
There were also wins for Llandudno and Buckley Town.
22/07/22
Diolch James / Thanks James

Mae’r amddiffynnwr canol, James Morgan, yn gadael y clwb. Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr at dymor llwyddianus. Ymunodd o Tywyn Bryncrug ar gychwyn y tymor diwethaf gan chwarae 22 (+6) gêmau cynghrair a chwpan. Bob amser yn beryg yn y bocs o giciau chornel a rhydd, sgoriodd 3 gôl.
Pob lwc at y dyfodol James


The central defender James Morgan is to leave the club. He made a valuable contribution to a successful season. He joined from Tywyn Bryncrug at the start of last season making 22 (+6) league and cup appearances. A threat at set pieces he chipped in with 3 goals.
All the best for the future James.
21/07/22
Cwpan Nathaniel MG Cup Rd 1 @ RHUTHUN

Mae pêl-droed yn ôl a bydd Port yn cymryd eu lle yn Haen 2. Bydd yna wyrhnos arall i aros tan fydd y gêm gynghrair gynta’ ond NOS WENER bydd Port yn ymweld â’r Cae Coffa yn Rhuthun (LL15 1PH) ar gyfer Rownd 1 Cwpan Nathaniel MG gyda’r gic gynta am 7.45pm.
Bydd y gêm yn cynnig sialens ddigon anodd i Port yn erbyn clwb a gafodd dymor da yn 2021/22 yn gorffen yn y 5ed safle mewn cynghrair gystadleuol. Cafodd Rhuthun lwyddiant yn y gemau cyfeillgar gyda buddugoliaethau da dros Airbus a Vauxhall Motors.
Mae’r ddau glwb wedi cryfhau eu carfannau yn barod at y tymor newydd. Mae’r gwynebau newydd yn Rhuthun yn cynnwys dau hen wyneb, gyda Ilan Hughes a Gwion Owen yn dychwelyd i’r clwb ac un gwyneb newydd ydy Rob Owen ymosodwr 6tr 5mod a ddisgleiriodd yn ystod y cyfnod cyn dymor.
Edrych, gwnaeth Craig Papirnyk, i gryfhau ei opsiynau o flaen gôl gyda Meilir Williams yn ôl a Callum Parry, a sgoriodd yn rheolaidd i Lanrwst y tymor diwetha’, yn ymuno. Daeth Morgan Jones yn ôl i lenwi’r bwlch a adawyd gyda ymddeoliaid Paul Pritchard.
Rwan mae’r tymor go-iawn yn cychwyn a bydd Port yn camu fyny o Haen 3 ac yn barod am y sialens.

Football’s back and Port will be taking their place at Tier 2. Another week to wait for the opening league fixture but FRIDAY sees Port visit the Memorial Grounds at Ruthin (LL15 1PH), for Round 1 of the Nathaniel MG League Cup and a 7.45pm kick-off.
The game represents a difficult challenge for Port, facing a Ruthin team who are coming off the back of a successful 2021/22 season where they finished in 5th place in a competitive league. The Denbighshire club have enjoyed a good pre-season with good wins over Airbus and Vauxhall Motors.
Both clubs have strengthened their squads ahead of the new season. Ruthin’s acquisitions include two former players in Ilan Hughes and Gwion Owen who will add much to the squad and a 6ft 5 in striker in Rob Owen who has impressed in pre-season.
Craig Papirnyk has looked to further increase his goal power with the returning Meilir Williams and Callum Parry, a regular scorer for Llanrwst last season, both signing. He has looked to another former player, Morgan Jones, to take over from the retiring Paul Pritchard between the sticks.
Now the real season starts and Port take the step up from Tier 3, ready to take up the challenge.
21/07/22
HARRI HUGHES: yn ymuno / joins Port

Harri HughesCroeso hefyd i Harri Hughes sy’n ymuno o Dyffryn Nantlle. Yno chwaraeodd 23 o gemau cyngrhair Ardal NW yn 2021/22 gan sgorio 7 gôl. Denodd sylw fel asgellwr cyflym â throed chwith beryg iawn. Cynt hefyd roedd yn aelod o Garfan Ddatblygu Dinas Bangor a tra yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, efo’r Met. Wedi cynrychioli Ysgolion Cymru Dan 16 a Dan 18 a hefyd Colegau Cymru.

We welcome Harri Hughes, who joins Port from Nantlle Vale where he played 23 Ardal Nprth West league matches last season scoring 7 goals. Comes with a reputation as a pacy winger with a dangerous left foot. Also played for the Bangor City Development Squad and, whilst a student in Cardiff, for the Met. He has represented Wales schools at U-16 level, also Welsh Schools U-18 and Welsh Colleges U-18.
21/07/22
CAI HENSHAW: 'nol ar Y Traeth / back at the Traeth

Cai HenshawCroeso ‘nol i’r clwb i Cai Henshaw. Mae Cai yn ail ymuno o CPD Penrhyndeudraeth. Ymosodwr a digon o gyflymdra a oedd yn rhan o garfan llwyddianus Ail-dîm Port o dan Sion Eifion. Yn ogystal a Penrhyn mae Cai wedi chwarae dros Blaenau Amateurs, Nantlle Vale ac Academi Bala.

Cai Henshaw returns to the club from CPD Penrhyndeudraeth. A pacy striker who was part of the highly successful Port Reserves team under Sion Eifion. In addition to Penrhyn Cai has also appeared for Blaenau Amateurs, Nantlle Vale, and the Bala Academy.
Welcome back Cai


20/07/22
GETHIN MAXWELL: yn ymuno o CPD Llanberis / joins from CPD Llanberis

Gethin MaxwellMae Craig Papirnyk wedi ychwanegu mwy o brofiad i’w garfan gyda’r chwaraewr canol cae creadigol Gethin Maxwell yn ymuno o CPD Llanberis.
Cychwynnodd Gethin ei yrfa gyda chlwb Dina Caer a wedyn, tra yn fyfyriwr yn y Brif Ddinas, chwarae i Met Caerdydd. Cynrychiolodd Ysgolion a Cholegau Cymru ac, yn ogystal a CPD Llanberis, mae ei gyn glybiau yn cynnwys Glantraeth a Chonwy.
Croeso i’r Traeth Gethin.

Craig Papirnyk adds an experienced creative central midfielder to his squad, signing Gethin Maxwell from CPD Llanberis.
Gethin began his career at Chester City and played for Cardiff Met whilst studying at Cardiff University. He represented Wales Schools and Colleges.and in addition to Llanberis, his previous clubs include Glantraeth, Conwy Borough.
Welcome to the Traeth Gethin.
17/07/22
DIOLCH i’n 4 PRIF NODDWYR / THANKS to our 4 MAIN SPONSORS

Mae'r clwb yn hapus i gyhoeddi bod AGWEDDAU ERYRI, COLIN JONES (ROCK ENGINEERING), RHEILFFYRDD FFESTINIOG AC ERYRI a REGENT wedi cytuno i fod ein prif noddwyr am y tymor 2022/ 2023
. Bydd yn grêt gweld logo ein pedwar prif noddwyr lleol yn cael lle amlwg ar dudalen cartref y wefan unwaith eto. Mae hyn yn newyddion arbennig o dda i'r clwb wrth i ni baratoi am sialens newydd yng Nghyngrair JD Cymru North.
Hoffai'r clwb ddiolch i Andrew Kime, David Jones / Richard Owen, Clare Britton / Osian Hughes a Peter Evans am eu cefnogaeth parod unwaith yn rhagor.

The club is happy to announce that ASPECTS OF SNOWDONIA, COLIN JONES (ROCK ENGINEERING), FFESTINIOG AND WELSH HIGHLAND RAILWAYS and REGENT have agreed to be our main sponsors for the 2022/2023 season.
It will be great to see the logos of these four sponsors feature prominently on the website's home page once more.
This is extremely good news as we prepare for life in the JD Cymru North League. It is a vote of confidence in the club by four promiment local businesses at such a difficult time.
We would like to thank Andrew Kime, David Jones / Richard Owen, Clare Britton / Osian Hughes and Peter Evans for their continued support.
14/07/22
Gêm LLANGEFNI i ffwrdd / LLANGEFNI game off

Mae’r gêm a oedd i’w chwarae ar Y Traeth nos yfory (Gwener) wedi’i chanslo.
Nu fu'r chwilio am wrthwynebwyr funud ola’ yn llwyddiant. Felly DIM GÊM heno.

The game due to be played tomorrow night (Friday) at the Traeth against Llangefni has been cancelled.
The search for alternative opponents was not successful. .So NO GAME tonight.
14/07/22
Dim AIL-DÎM yn 2022/23 / No Reserve Team for 2022/23

Yn anffodus bydd yn rhaid i'r clwb gyhoeddi na fydd Aîl Dîm y tymor nesaf.
Mae'r sefyllfa hon wedi codi oherwydd, er gwaethaf ymdrechion gorau'r cyfarwyddwyr, nid ydym wedi gallu penodi rheolwr.
Nid oedd y rhai hynny a ddangosodd ddiddordeb, yn gallu llunio tîm rheoli.
Roedd gemau cyfeillgar cyn dymor wedi'u trefnu yn y gobaith y byddai penodiad yn cael ei wneud.
Diolch i waith caled Sol Kempster, mae'r gemau hyn wedi, a byddant yn cael eu chwarae.

It is with considerable regret that we have to announce that there will not be a reserve team next season.
This situation has arisen because, despite the directors best endeavours, we have been unable to appoint a manager.
Those parties who did show an interest were unable to put together a management team.
Pre-season friendlies had been arranged in the hope that an appointment would be made. Thanks to Sol Kempster's hard work these matches have, and will be played.
13/07/22
Port 1-2 Dolgellau

Colli oedd hanes Port neithiwr yn y gêm gyfeillgar gyda Dolgellau. Rhwydodd y blaenwr Gerwyn Williams ddwywaith i glwb yr Ardal NE, gan rhoi mantais iddynt, mantais a gadwyd tan y toriad. Er i Cian Pritchard gael gôl yn ôl i Port yn yr ail hanner, Dolgellau aeth a hi ar y diwedd y 90 munud o 2-1.

There was a defeat for Port in last night’s friendly with Dolgellau AAFC. Two first-half goals from striker Gerwyn Williams gave the Ardal NE club the advantage which they still held at the interval. Port fought back during the second period but though they reduced the deficit with a goal from Cian Pritchard the win went to Dolgellau by 2-1.

CANLYNIAD AÎL-DÎM / RESERVES RESULT: Bontnewydd 4-2 Port (Sol Kempster, Bedwyr Hughes)
11/07/22
NANTLLE VALE: GÊM WEDI’I CHANSLO / FRIENDLY CANCELLED

Dylai cefnogwyr nodi fod y gêm Gyfeillgar a oedd i’w chwarae ar nos Fawrth, 19 Gorffennaf gyda Nantlle Fêl, wedi ei CHANSLO.
Y gêm oddi cartre nesaf fydd yr un yng Nghwpan Nathaniel MG gyda RHUTHUN ar nos Wener 22 Gorffennafgyda’r gic gynta’ am 7,45pm

Supporters should note that the Friendly fixture with Nantlle Vale due to be played on Tuesday 19 July has been CANCELLED.
The next away game will now be the Nathaniel MG Cup tie with RUTHIN TOWN on Friday 22 July with a 7,45 kick off.
11/07/22
DWY GÊM GYFEILLGAR AR Y TRAETH / TWO HOME FRIENDLIES THIS WEEK

Bydd gan Port dwy gêm adra ar y Traeth wythnos yma NOS FAWRTH a NOS WENER.
Bydd TOCYNNAU TYMOR ar werth y ystod y ddwy gêm

12/07 DOLGELLAU 7.30pm
15/07 LLANGEFNI 7.45pm

Port will play home friendlies this week on TUESDAY and FRIDAY evenings.
SEASON TICKETS will be on sale at both games
11/07/22
DEWI THOMAS: yn gadael / leaves club

Dymuna’r clwb a’r cefnogwyr ddiolch i Dewi Thomas am ei gyfraniad i’r frwydr am ddyrchafiad y tymor diwetha’.
Roedd ei allu i chwarae mewn nifer o safleoedd gwahanol yn arbennig o ddefnyddiol. Mae Dewi yn gadael i ymuno gyda Llangefni gyda phob dymuniad da.


The club and supporters thank Dewi Thomas for his great contribution last season to the promotion challenge.
His versatility as a player proved to be a tremendous asset.
Dewi leaves with the best wishes of all at the Traeth to join Llangefni Town,
10/07/22
Aberystwyth Town 2 Porthmadog 0

Alex Darlington oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau ar Goedlan y Parc gyda dwy gôl yn deillio o giciau cornel. Daeth y gynta ar ôl 5 munud. Ymatebodd Port gyda ymdrech gan Josh Banks a wedyn foli dros y bar gan Meilir Williams. Roedd angen arbediad da i gadw ergyd Jonathan Evans (Aber) allan ac roedd Iwan Lewis hefyd yn agos. 10 munud cyn yr hanner amser daeth ail gôl Aber i’w gwneud yn 2-0 wrth iddynt fynd am y toriad.
CafoddPort fwy o’r gêm yn yr ail gyfnod ac aeth Meilir Williams yn agos eto o sefyllfa dda. Stuart Rogers oedd y nesa i fygwth iddynt tra ergydiodd Steff Davies yn erbyn y postyn i’r tîm cartre’. Dal ati i fygwth o giciau rhydd a chornel wnaeth Aber ac aeth Sam Litchfield yn agos gyda dau beniad.
Dal yn 2-0 ar y diwedd oedd hi i glwb y Cymru Premier.

Alex Darlington made the difference at Park Avenue with two close range goals, both of which came as a result of set pieces. The first came after just 5 minutes of play. Port responded through Josh Banks and later Meilir Williams who volleyed over. For Aber Jonathan Evans was denied by a good save and Iwan Lewis shot wide. The second Aber goal came 10 minutes before the interval to make it 2-0.
Port enjoyed more of the game in the second-half and Meilir Williams again went close shooting wide when well placed. Stuart Rogers was next to threaten for Port. Steff Davies for the home team fired a low shot against the post Aber remained a threat from set pieces and in injury time Litchfield twice went close with headers.
It ended in a 2-0 win for the Cymru Premier club.
Diolch i wefan Aber / Thanks to the Aber website
08/07/22
CALLUM PARRY : yn ymuno o Lanrwst / joins Port from Llanrwst

Mae’r clwb wedi arwyddo Callum Parry o glwb Llanrwst. Mae’r blaenwr 23 oed o Drefriw wedi bod yn sgoriwr hynod o drwm a chyson dros y tymhorau diweddar. Cafodd dymor ardderchog yn 2021/22 yn yr Ardal NW yn sgorio 26 o goliau, a bydd cefnogwyr Port yn cofio am ei ddwy gôl ar Y Traeth i sicrhau buddugolieth o 2-0 i’r clwb o Ddyffryn Conwy.
Mae Callum hefyd wedi cynrychioli Bae Colwyn a Hotspyrs Caergybi. Fel Meilir Williams, roedd Callum yn rhan o garfan y Cymru North yn yr ‘UEFA Regions Cup.’
Croeso i’r Traeth Callum.

The club have announced the signing of Callum Parry from Llanrwst United. The prolific 23-year-old striker from Trefriw had an excellent 2021/22 season in the Ardal NW, netting 26 times. Port supporters will recall that his goals gave the Conwy Valley club a 2-0 win at the Traeth last season.
Callum has also played for Colwyn Bay and Holyhead Hotspur. Like Meilir Williams he was part of the Cymru North squad in the UEFA Regions Cup squad last season.
Welcome to the Traeth Callum
07/07/22
Gemau Cyfeillgar nesa’ / Upcoming Friendlies


CANLYNIADAU / RESULTS
Aberystwyth Town 2 (Alex Darlington 2) CPD Porthmadog 0
Menai Bridge Tigers 2-2 Ail-Dîm PORT Reserves (Rhys Hughes & Sol Kempster)


Sadwrn: ABERYSTWYTH v Port @ Coedlan y Parc (SY23 1PG) 2.00pm
Gwener: MENAI BRIDGE TIGERS v Ail-dîm Port @Treborth 7.00pm

Saturday: ABERYSTWYTH v Port @ Park Avenue (SY23 1PG) 2.00pm
Friday: MENAI BRIDGE TIGERS v Port Reserves @ Treborth 7.00pm
05/07/22
LLANRUG v PORT

Cychwyn gwych i Port heno gyda Rhys Alun yn eu rhoi ar y blaen ar ôl 3 munud gyda chic rhydd. Ond ni arweiniodd hyn at fwy o goliau yn yr hanner cynta gyda’r tim carref yn cadw’r sgôr ar 1-0. Roedd yr ail hanner yn stori wahanol. Dyblwyd y fantais 5 munud fewn i’r ail-hanner gyda seren ifanc y tymor diwetha’, Cian Pritchard, yn rhwydo.
Yn fuan wedyn aeth y sgôr yn 4-0 gyda Meilir Williams yn sgorio ddwywaith, cyn mynd ymlaen i gwblhau hatric gyda gôl o’r smotyn. Ychwanegodd Jamie McDaid y 6ed ar 79 munud.
Cafodd Llanrug y gair ola’ gyda gôl o’r smotyn.
Sgôr Terfynol: Llanrug 1-6 Port
CANLYNIAD AIL-DÎM: Blaenau Ffestinog 3-4 PORT ( Sol Kempster, Zak Pike, Pavlov, Ian Brown.)

Port got off to a flying start at Llanrug tonight with Rhys Alun firing them ahead with a free kick after just 3 minutes. But the start did not lead to further goals with the home team keeping the scores at 1-0 up to half-time. Into the second period which was a different story with the young star of last season, Cian Pritchard, doubling the lead on 50 mins.
Soon after Port were 4-0 up with Meilir Williams scoring twice before going on to complete a hat-trick from the penalty spot. Jamie McDaid then made it 6-0 on 79 mins.
Llanrug then got the final word scoring from the panalty spot.
Result: Llanrug 1-6 Port.
RESERVES RESULT: Blaenau Ffestinog 3-4 PORT ( Sol Kempster, Zak Pike, Pavlov, Ian Brown.)
05/07/22
STEPHEN ‘MIDGE’ WILLIAMS: yn ymuno â’r tîm hyfforddi / joins management team

Gyda Alun Winstanley yn cymryd y penderfyniad anodd i adael tîm hyfforddi Craig Papirnyk, mae Paps bellach wedi apwyntio Stephen ‘Midge’ Williams i gymryd y swydd.
Yn 'hogyn lleol' sy’n adnabod y clwb yn dda iawn, mae Craig yn ei weld yn ffitio’n berfffaith ar gyfer y rôl. Mae’n ymuno o glwb Caernarfon lle bu’n rhan o dîm hyfforddi’r Academi ac yn fwy diwedddar yn hyffoddi’r garfan Dan 19 sy’n chwarae yn Uwch Gynghrair Datblygu Cymru.
Mae Craig yn edrych ymlaen i weithio gyda Stephen ac i’r egni newydd a'r brwdfrydedd bydd yn dod i’r swydd.
Wrth ymuno dywedodd Steve fod y cyfan wedi symud yn gyflym iawn ac roedd yn benderfyniad anodd i adael yr Oval, Ond roedd yn edrych ymlaen at y rôl newydd a’r dasg o baratoi at dymor heriol gan ail sefydlogu’r clwb yn y Cymru North.
Mae Steve yn ymgeisydd Trwydded ‘A’ UEFA.
Croeso Steve!

With Alun Winstanley taking the difficult decision to leave Craig Papirnyk’s management team, Paps has now appointed Stephen ‘Midge’ Williams to take up the role.
A 'local boy' who knows the club very well, Craig sees him as a perfect fit for the role. He joins from Caernarfon Town where he was part of the Academy coaching team and latterly coach to the Canaries U19 Development Squad, playing in the Welsh Premier Development League.
Craig looks forward to working with Steve and to the energy and enthusiasm as well as the quality he will bring to the role.
Steve added that the whole thing had moved very quickly but that it had not been an easy decision to leave the Oval. But he was now looking forward to start work and prepare for a testing season for the club back in the Cymru North and looking to re-establish themselves at this level,
Steve is an UEFA ‘A’ licence candidate.
Welcome to the Traeth Steve!
04/07/22
John Littlemore yn gadael / John Littlemore is to leave the club


Bydd John Littlemore yn gadael y clwb yn dilyn tymor lle chwaraeodd rhan bwysig yn y garfan a sicrhaodd ddyrchafiad. Chwaraeodd 20 (+16) o gemau gan sgorio 8 gôl gan gynnwys ‘cracer’ o 4ydd gôl ar y diwrnod cofiadwy hwnnw yn Y Bermo. Diolch John a dymuniadau gorau I’r dyfodol wrth bawb ar Y Traeth.
Wrth ymadael mynegodd John y pleser a gafodd wrth gynrychioli’r clwb mewn tymor arbennig. Diolchodd hefyd i Craig Papyrnyk gyda gair ‘special’ i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth wych drwy gydol y tymor.

John Littlemore is to leave the club after playing an important part in the promotion winning side of last season. He made 20 (+16) appearances scoring 8 goals including the 4th -a cracker- on that memorable day at Barmouth. Thanks John and best of luck at your next club.
Announcing that he was moving on John said, “Been a pleasure to represent this great club and being part of a successful team last season. Would like to thank Craig Papirnyk and everyone involved at the club, a special mention to the supporters who have been incredible all season and stuck with us throughout. Diolch.”
02/07/22
Llanrug nos Fawrth / Llanrug on Tuesday


Bydd Port yn chwarae Llanrug nos Fawrth nesa 5 Gorffennaf oddi cartref ar Gae Eithin Duon (LL55 4AU)
Cic Gynta am 7 o'r gloch

Port will be away to Llanrug (LL55 4AU) next Tuesday July 5th on their Eithin Duon ground.
Kick off 7pm.
02/07/22
CPD Bangor 1986 4- 4 Porthmadog


Mewn gêm gyfeillgar a sgôr uchel yn Treborth bu Port ar y blaen i CPD Bangor 1876 o 2-0, 3-1 a 4-3 ond daeth y tîm cartre’ yn ôl gan sicrhau gêm gyfartal ar ddiwedd y 90 munud.
Rhys Alun, prif sgoriwr Port y tymor diwetha’, agorodd y sgorio ar ôl 16 munud gyda Alex Boss, yn ei gem gynta’, yn dyblu’r fantais dwy funud yn ddiweddarach.
Torrwyd y fantais i Fangor gan Jamie Petrie ond i Dewi Thomas rhwydo’r 3edd i Port a’i gwneud yn 3-1 ar henner amser.
Ond yn gynnar yn yr ail hanner, sgoriodd chwaraewr ar dreial gyda Bangor ddwywaith, un gyda ergyd o tua 25 llathen, a hyn yn gwneud y sgôr yn gyfartal 3-3. Ond mewn dwy funud roedd John Littlemore wedi rhoi Port ar y blaen eto 4-3 ar 68 munud.Ond Bangor gafodd y gair ola gyda peniad Cian Williams yn ei gwneud yn gyfartal ar ddiwedd y gêm. Gêm gyffrous a gwerthfawr i’r ddau glwb.

In a high scoring first pre-season fixture for both clubs at Treborth, Port were ahead of CPD Bangor 1876 at 2-0, 3-1, and 4-3 but the home side came back on each occasion and at the end of the 90 minutes secured a 4-4 draw.
Last season’s top scorer Rhys Alun opened the scoring for Port on 16 minutes and new signing Alex Boss doubled their advantage two minutes later. Two goals from a Bangor Trialist, one a 25 yard effort, brought the scores level early in the second period only for John Littlemore to make it 4-3 for Port on 68 minutes. But the advantage only lasted for two minutes as a Cian Williams header brought the scores level and that is how a valuable and entertaining game ended.
01/07/22
Cynghrair Chwarae Teg Nationwide / Nationwide Fair Play League


CBDC / FAW Ar ôl derbyn Tlws Chwarae Teg am y record ddisgyblu orau yn yr Ardal Northern, cafodd Port eu henwi yn enillydd yn Gwobrau Chwarae Teg Blynyddol Nationwide y gorau yn yr Ardal NW.
Mewn darn ar wefan CBDC, adroddir fod yr enillwyr ym mhob un o’r Cynghreiriau Cenedlaethol yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 a thlws wedi iddynt gasglu y nifer lleia’ o bwyntiau disgyblaeth yn ystod y tymor.
Mae Cynghrair Chwarae Teg cwmni Nationwide yn cadarnhau pwysigrwydd parch ar, ac oddi ar y cae, gan annog torri ar gam ymddwyn ar y cae ar draws y cynghreiriau.
Mae’r tablau yn cael eu penderfynu ar y nifer o gardiau mae chwaraewyr a swyddogion yn eu derbyn. Bydd yna 4 pwynt am bob cerdyn melyn a 10 neu 12 o bwyntiau yn ddibynnol ar y math o gerdyn coch.
Record Port ydy’r gorau o dipyn yn y 7 cynghrair gan iddynt dderbyn ond 19 cerdyn melyn a DIM un cerdyn coch.
Sylw balch Craig Papirnyk oedd, “....unbelievable achievement that, credit to the boys for their outstanding disciplinary record !!”
Me hyn efallai’n profi fod yn bosib cael llwyddiant ar y cae heb esgeuluso disgyblaeth dda.

Having already picked up the Fair Play Trophy for the best disciplinary record in the Ardal Northern, Port have now been named by the FAW as a winner in the annual Nationwide Building Society Fair Play Awards as being best in the Ardal NW for 2021/22.
The FAW website reports “The winners in each of the National Leagues will receive a £1000 cash prize and a trophy after accumulating the least amount of disciplinary points throughout the course of the season.
“The Nationwide Building Society FAW Fair Play initiative reinforces the importance of mutual respect on and off the pitch, encouraging a reduction in on-field misconduct ... across the Cymru Leagues, Adran Leagues and Ardal Leagues.
“The tables are determined based on players and team officials receiving red and yellow cards. A club receives 4 points for every yellow card and 10 or 12 points depending on the type of red card offence.
Port’s record is by far the best in all 7 leagues with no red cards and only 19 yellows.
Proud manager Craig Papirnyk, commented “....unbelievable achievement that, credit to the boys for their outstanding disciplinary record !!”
It all goes to show that on-field success can go hand in hand with good discipline.
01/07/22
Gêm Gyfeillgar Gynta’ / First Pre-season Friendly

Yn dilyn toriad hynod o fyr, ‘fory, (Sadwrn), bydd Port yn chwarae eu gêm gynta’ I baratoi at tymor newydd. Chwaraeir y gêm yn TREBORTH, Bangor (LL57 2RQ) yn erbyn CPD Bangor 1876.
Bydd yn gêm ardderchog i’r ddau glwb wrth iddynt baratoi ar gyfer bywyd yn dilyn dyrchafiad. Bydd Bangor 1876 yn chwarae yn yr Ardal North ac yn debygol o fod yn gosod sialens arall am ddycrchafiad pellach.
Bydd y gic gynta am 2.30pm.

Following a very short summer break, Port will be back in action tomorrow (Sat) for the opening pre-season fixture at TREBORTH, Bangor (LL57 2RQ) where they will take on CPD Bangor 1876
. The game will provide an excellent preparation for both clubs as they both prepare for life following promotion. Bangor 1876 will be playing in the Ardal North when the season starts and are likely to be strong challengers for a further promotion.
Kick off will be at 2.30pm.
30/06/22
Ail-dîm angen RHEOLWR / RESERVES: MANAGER needed

Mae’r clwb yn dal i chwilio am am Reolwr i’w Ail-dîm,
Bydd y swydd hon yn gyfle da i gael profiad o reoli ac hyfforddi carfan sydd wedi cael llwyddiant yn ystod y tymhorau diweddar.
Cafodd nifer o’r garfan brofiad o chwarae yn y tîm cynta yn ystod 2021/22.
Os oes gennych ddiddordeb cofiwch fod amser yn brin a bydd rhaid gwneud penderfyniadau yn fuan iawn.
Am fwy o wybodaeth a trafod y swydd cysylltwch a ysgrfennyd y clwb Chris Blanchard ar crb.58@hotmail.com neu 07583817519

The club are still looking for a Reserve team Manager.
This represents a good opportunity to gain experience as a manager and coach of a squad which has done well in recent seasons.
A number of last season’s squad were given opportunities to experience first team football by Craig Papirnyk.
If you are interested then time is running out and decisions will have to be taken.
For more info and an informal discussion contact club secretary Chris Blanchard as soon as possible on crb.58@hotmail.com or 07583817519.
29/06/22
Cyhoeddi’r RHESTR GEMAU / FIXTURES announced

Bydd Port yn cychwyn y tymor yn y Cymru North gyda gêm oddi cartre yn LLANIDLOES Isod mae’r rhestr gemau hyd ddiwedd Awst
Dros ‘Dolig bydd Port yn croesawu Conwy i’r Traeth
Bydd y tymor yn cychwyn gyda Rownd 1 Cwpan Nathaniel MG ar 22 Gorffennaf yn erbyn Rhuthun gyda’r gic gynta’ am 7,45pm.

30/07 Llanidloes (a) (Sad / Sat)
03/08 Gresffordd (h) (Mercher / Wed)
13/08 Penrhyncoch (a) (Sad / Sat)
20/08 Bae Colwyn Bay (a) (Sad / Sat)
26/08 Y Wyddgrug / Mold (h) (Gwener / Fri)
29/08 Y Waun / Chirk AAA (a) (Llun / Mon)

Port will start the Cymru North season with an away fixture at LLANIDLOES
Above are the July / August league games:
The Christmas Holiday fixture will see Port at home to Conwy Borough
The Nathaniel MG Cup tie will open the season on FRIDAY 22nd July against Ruthin Town with a 7.45pm kick off.

Rhestr llawn o'r gemau i'w weld ar tudalen 'Gemau' / Full list of fixtures on 'Fixtures' page.
27/06/22
NOSON o DDATHLU / AN EVENING of CELEBRATION

Cafwyd noson i ddathlu diwedd tymor a’r llwyddiant a ddaeth i garfan CPD Porthmadog ar ddiwedd mis Mai. Mae’r Clwb ‘nôl yn Haen 2 o bêl-droed Cymru.
Arweiniwyd y noson gan Dylan Ellis. Cafwyd anerchiad gan Sol Kempster ar ran yr ail dim a siaradodd Craig Papirnyk ar ran y tîm cyntaf.
Rhoddwyd clipiau fideo fyny ar y sgrîn sef uchafbwyntiau y tymor drwy lens ‘Tu ôl y Gôl’ ac wrth gwrs ymdrech Sgorio o’r diwrnod bythgofiadwy yn Bermo.
Noddwyd tri o’r tlysau gan TELEDU PORT TV sef ‘Tlws Morgan a Llew Ellis’ ar gyfer ‘Chwaraewr y Chwaraewyr’, ‘Tlws Evie ac Eluned Morgan’ yn cofnodi Chwaraewr y Cefnogwyr a ‘Thlws Teulu Morgan’ i’r Prif Sgoriwr.
Aeth y tri yma i RHYS ALUN yn dilyn ymdrechion y tymor.
Rhoddodd Craig ‘Tlws y Rheolwr’ i IFAN EMLYN ond, oherwydd salwch, nid oedd yn gallu bod yn bresennol.
Un arall nad oedd yna oedd Paul Pritchard er mwyn cael ei anrhegu wedi i’w yrfa ddod i ben yn y gêm yn y Bermo.
Cyflwynwyd plac i’r garfan er mwyn cofnodi y fuddugoliaeth yn Bermo.
Aeth gwobr Chwaraewr mis Mai i Euron Roberts wedi perfformiadau gwerthchweil yn y gemau tyngedfennol ar ddiwedd y tymor. Da ti Euron.
Gyda’r Ail Dîm, cyflwynwyd ‘Tlws y Prif Sgoriwr’ i Rhys Hughes, ‘Chwaraewr y Chwaraewyr’ oedd Cian Pritchard. Guto Griffith gafodd bleidlais y rheolwr ond ‘roedd yntau yn absennol hefyd a Sol Kempster oedd ‘Clubman’ y flwyddyn.

Y Rhestr / Full List
Tlws Morgan a Llew Ellis Chwaraewr y Chwaraewyr / Players’ Player – Rhys Alun
Tlws Evie ac Eluned Morgan: Charaewr y Cefnogwyr / Supporters Choice - Rhys Alun
Tlws Teulu Morgan: Prif Sgoriwr / Top Scorer - Rhys Alun
Tlws y Rheolwr / Manager’s Player: Ifan Emlyn

Yr Ail Dim / Reserves
Prif sgoriwr / Top Scorer - Rhys Hughes
Chwaraewr y chwaraewyr / Players’ Player - Cian Pritchard
Chwaraewr y Rheolwr / Manager’s Player: – Guto Griffith
Clubman - Sol Kempster

Highslide JS   Highslide JS
Highslide JS   Highslide JS

The success that came at the end of May for CPD Porthmadog was celebrated in style on Friday evening. The club are back at Tier 2 of Welsh Football!!
The evening was compered by Dylan Ellis. Sol Kempster gave the address on behalf of the Reserves, while Craig Papirnyk did the honours for the first team.
Three of the trophies were sponsored by TELEDU PORT TV – the Morgan and Llew Ellis Trophy for the Players’ Player; the Evie and Eluned Morgan Trophy for the Supporters Player and the Morgan Family Trophy for the Top Scorer.
These three trophies went to RHYS ALUN; a reward for his season long efforts.
Craig named IFAN EMLYN as Manager’s Player but due to illness was unable to be present.
Another who wasn’t present was Paul Pritchard to receive an award to mark his retirement following the game at Barmouth.
A Plaque was presented to members of the squad to mark the victory at Barmouth.
Video clips were shown of the season’s highlights via the lens of ‘Tuôl i’r Gôl’ and also Sgorio’s highlights of that memorable day at Barmouth.
The May Player of the Month went to Euron Roberts for his excellent performances in those key end of season matches. Well done Euron.
The Reserves Top Scorer award went to Rhys Hughes, Players’ Player to Cian Pritchard and the Manager’s Award to Guto Griffith -who was also absent- while Sol Kempster took the Clubman Award

Lluniau ac Adroddiad: Dylan Ellis / Photos& Report: Dylan Ellis.
22/06/22
MORGAN JONES: yn ôl ar Y Traeth / returns to the club

Mae’r golwr ifanc Morgan Jones yn dychwelyd i’r Traeth o CPD Penrhyndeudraeth.
Gwnaeth Morgan ei farc gyda charfan Ail-dîm Port a cafodd gymaint o lwyddiant yn gwneud y dwbl yn 2018/19 o dan Sion Eifion. Aeth ymlaen i gynrychioli’r tîm cynta’ yn ystod 2019/20.
Gyda Paul Pritchard yn galw digon ar ei yrfa arbennig mae gan Morgan y cyfle rwan i sefydlu ei hun rhwng y pyst ar y Traeth, gan ddilyn olion troed cyfres hir o golgeidwaid ardderchog.
Croeso nol Morgan.

The club have announced that goalkeeper Morgan Jones is to return to the club from CPD Penrhyndeudraeth.
Morgan made his mark in the successful league and cup winning Port Reserves squad of 2018/19, coached by Sion Eifion and went on to make his first team debut for Port in season 2019/20.
With Paul Pritchard calling it a day on his brilliant career, Morgan now has the opportunity to establish himself between the sticks at the Traeth and follow in the footsteps of a long line of excellent keepers.
Welcome back Morgan
22/06/22
RHUTHUN yn Cwpan MG / RUTHIN TOWN in MG Cup

Nodwch y dyddiau yma:.
Cwpan Nathaniel MG Rownd 1af ar Gwener 22 Gorffennaf pan fydd Port oddi cartref yn RHUTHUN .
Rhestr gemau JD Cymru North a'r JD Cymru South yn cael eu cyhoeddi am 10 y bore ar 29 Mehefin.
Cynghrair y JD Cymru North a’r JD Cymru South yn cychwyn ar 30 Gorffennaf
Gwpan Nathaniel MG Rownd 2 ar Sadwrn 6ed Awst

Note these Key dates for the start of the 2022/23 campaign.
Port's Nathaniel MG Cup First Round tie take place on Friday, 22nd July and Port will be away to RUTHIN TOWN.
The JD Cymru North and JD Cymru South fixtures will be released at 10am on 29 June .
The JD Cymru North and JD Cymru South seasons kick off Saturday 30th July
Nathaniel MG Cup 2nd round ties are on the Saturday 6th August.
21/06/22
ALEX BOSS: wedi arwyddo / signs for the club

ALEX BOSS yw’r ail chwaraewr i ymuno â’r clwb ar gyfer 2022 /23. Mae’n ymuno o glwb Caernarfon.
Er i’w gyfleoedd fod braidd yn brin ar yr Oval y tymor diwetha’ mae’n chwarawr canol cae neu asgellwr cyflym, cyffrous a chlyfar ar y bêl. Mae’n chwaraewr adnabyddus i gefnogwyr Port. Bydd yn ychwanegiad gwych i’r garfan.
Treuliodd gyfnod yn Academi Wrecsam gan wedyn ddatblygu ei yrfa yn nhîm Dan 19 llwyddianus Dinas Bangor. Chwaraeodd i glwb Bangor a hefyd Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru.
Croeso i’r Traeth Alex.

The club have announced their 2nd signing of the summer with ALEX BOSS joining the club from neighbours Caernarfon Town.
Though his opportunities with the Oval club have been limited, Alex is an exciting, clever, pacey midfielder and wide man who will be well-known to Port supporters. He wil be a greatl addition to the squad.
Having spent time at the Wrexham Academy he developed with a successful Bangor City U 19 team. Played for Bangor in the Welsh Prem and also for Aberystwyth Town.
Welcome to the Traeth Alex.
19/06/22
Port yn cael eu Gwobrwyo / Port receive awards at AGM

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ardal Northern, a gynhaliwyd yn Y Bala brynhawn Sul, derbyniodd y clwb siec am £500 am ddod yn ail yng Nghynghrair Gogledd Orllewin.
Hefyd derbyniodd y clwb y Tlws Chwarae Teg am y record ddisgyblu orau yn nhymor 2021/22
Hyn yn goron ar dymor llwyddiannus, ac yn glod i’r garfan a’r arweiniad a gafwyd gan Paps a’i staff, yn mynd tymor cyfan heb yr un cerdyn coch.

At the Ardal Northern AGM held at Bala on Sunday afternoon, Port were awarded £500 for finishing runners up in the North West League.
The club also received the Fair Play Trophy for the best disciplinary record in the 2021/22 season.
These awards crown what has been a very successful season, earning the squad deserved praise for going the entire season without picking up a red card and for the ledership shown by Paps and his staff.
18/06/22
SWYDD: Rheolwr Ail-dîm / VACANCY: Reserve Team manager

Mae'r clwb yn chwilio am reolwr i'r ail dîm. Oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd bwysig hon. Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â ysgrifennydd y clwb, Chris Blanchard: crb.58@hotmail.com neu 07583817519

Hoffem ddiolch i Mike Foster, sydd wedi ymddiswyddo oherwydd pwysau gwaith. Hoffwn ddiolch i Mike am ei ymdrech a dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.


A vacancy has arisen for the position of Reserve team manager. For further details and an informal discussion please contact club secrerary Chris Blanchard: crb.58@hotmail.com or 07583817519

We would like to thank Mike Foster who has resigned due to work commitments, for his efforts and wish him all the best in the future
18/06/22
Gemau Cyfeillgar / Pre-Season Games

02/07/ CPD BANGOR 1876 v Port @ 2.30pm
09/07/ ABERYSTWYTH v Port @ 2pm
15/07/ Port v LLANGEFNI @ 7.45pm
19/07/ NANTLLE VALE v Port @ 7.00pm
17/06/22
ALUN WINSTANLEY: yn gadael y Traeth / to leave the club

Mae Alun Winstanley wedi gwneud penderfyniad hynod o anodd i adael y clwb. Gyda chryn siom bydd pawb yn gysylltiedig â’r clwb yn derbyn y newyddion ac yn awyddus iawn i ddiolch i Alun am ei gyfraniad pwysig mewn tymor rhyfeddol.
Isod gweler datganiad Alun a hefyd ymateb Craig i’r newyddion.

Assistant manager Alun Winstanely has made the difficult decision to leave the club. It is with great regret that all involved at the club will recieve the news and thank him for his important contribution in what has been a remarkable season.
Below is Alun’s statement and also Craig’s response.

Alun:
‘I have made one of the hardest decisions I’ve made in football and its the difficult decision to leave the club this summer purely for personal reasons following the last 3/4 months which as you all know has been very difficult for me on a personal level, this club is special and always will be to me, I leave on very good terms and absolutely love this club’
‘I would like to thank the board for the last 2.5 years I’ve spent at this amazing club and the opportunity to be a part of the rebuilding back into tier two, which we achieved together.
‘The last 3/4 months have been the most difficult of my life and all of the players have been there for me and I will never ever forget that’
‘I will leave Port on a great note and I have to thank all of the management team, but a special mention to Paps who brought me into this amazing club, not only on football terms but personally, I’ve made good true mates in you all’
‘Lastly the FANS…Oh my god you’ve been amazing and were the 12th man getting us through many games and I can’t be prouder to see the club back where it belongs in T2. C’mon Port’
‘I will always have Port in my heart and I hope you continue the progression and take the club back to tier one where it truly belongs, Diolch my Fawr and see you soon, Alun’

Paps –
‘I would like to thank Al for all his hard work, committment andcontributions over the last 2.5 years, he has supported me whole heartedly throughout his time at the club, he has challenged me and been what every manager needs and that’s a top class assistant, he has become a friend and one I will not lose contact with’.
‘After having a heart to heart we both agreed this decision was best for everyone, although a very difficult and quite emotional one, he will leave on exceptionally good terms and I would like to personally wish him every success in the future with whatever comes his way next’.
‘All the best to you Al, an absolute gent and topman. Thanks for everything’.
Paps
16/06/22
PRISIAU ar gyfer 2022/23 / PRICES for 2022/23

Yn dilyn ein dyrchafiad i Gynghrair JD Cymru North mae cyfarwyddwyr y clwb wedi cael cyfarfod bwrdd i gynllunio ar gyfer y tymor newydd.
Yn y cyfarfod cytunwyd ar brisiau Mynediad, Tocyn Tymor a'r Rhaglen ar gyfer 2022/23.
PRISIAU MYNEDIAD -
Oedolion - £6
Dinesydd Hýn - £4
12-16 - £1.50
0-12 - Am Ddim
TOCYN TYMOR -(Gemau Cynghrair yn unig)
Oedolion - £72
Dinesydd Hýn - £48
RHAGLEN -
Yn dilyn costau cynyddol i argraffu'r rhaglen, penderfynnwyd i godi'r pris i £2.

Following our promotion to the JD Cymru North League the club directors have held a board meeting to plan ahead for the new season.
At the meeting Admission, Season Tickets and the Programme prices for 2022/23 were agreed.
ADMISSION
Adults - £ 6
Senior Citizens - £4
12-16 - £ 1.50
0-12 – Free
SEASON TICKET (League Matches only)
Adults - £ 72
Senior Citizens - £48
MATCH PROGRAMME
- Following increased printing costs, it was decided to raise the price of the programme to £2.
15/06/22
MEILIR WILLIAMS: Yn ôl ar Y Traeth / Back at the Traeth

Mae’r clwb wedi cyhoeddi fod Meilir Williams yn dychwelyd i’r Traeth o Conwy Borough. Cynt bu ar Y Traeth rhwng 2016-18.
Mae Meinir wedi mynegi ei falchder i fod yn ôl ond gan deimlo fod ganddo ‘fusnes heb ei orffen’ ers y cyfnod hwnnw ar Y Traeth.
Mae golwg ar yr ystadegau yn dweud pam fod o’n teimlo felly. Sgorio goliau pwysig o’r fainc oedd eu gyfraniad y tro yna, Er iddo ddechrau ond 9 gem fe rhwydodd 14 o goliau yn bennaf fel eilydd.
Y tro yma mae’n bwriadu dechrau’n rheolaidd yn ogystal a sgorio’n rheolaidd.
Lle bynnag mae wedi chwarae mae Meilir wedi sgorio a gyda Conwy Borough mae wedi gwneud yn y Cymru North.
Croeso Meilir


The club have announced the signing of Meilir Williams from Conwy Borough. Meilir will be returning to the Traeth having previously represented the club between 2016-18.
Happy to be making his return to the club Meilir states that he feels he has some ‘unfinished business’ from that previous period.
A look at the stats tells us why. He was more of a super sub than a regular in the starting line-up but came from the bench to score vital goals. Though he made only 9 starts he still netted 14 goals mainly as a sub.
This time he will be aiming to be a regular starter and a regular goalscorer.
Meilir has scored goals wherever he has played and at Conwy he has done it at Cymru North level.
Welcome back Meilir.
12/06/22
EURON ROBERTS: Chwaraewr Mis Mai / May Player of the Month

Llongyfarchiadau i’r amddiffynnwr Euron Roberts a ddewiswyd yn Chwaraewr y Mis am fis Mai gan y cefnogwyr.
Arwyddwyd Euron gan Craig Papirnyk ym mis Ionawr i ddod a chryfder ychwanegol i’r amddiffyn ar gyfer misoedd ola’r sialens am ddyrchafiad.
Roedd ail ymddangosiad Euron yn ‘chydig o syndod i rhai gan iddo gynrychioli’r y clwb yn flaenorol yng Nghynghrair Cymru a’r Cymru Alliance yn ôl yn cyfnod 2009-12. Ond ni fu yn hir yn profi ei werth mewn tri yn cefn a chwaraeodd rhan bwysig yn llwyddiant y clwb.


Congratulations to defender Euron Roberts who has been voted Player of the month for May by supporters.
Euron was brought back to the club in January by Craig Papirnyk to stiffen the defence as the club prepared for a final challenge for promotion.
His re-appearance was a surprise to many as he had previously represented the club in the Welsh Prem and Cymru Alliance in the period 2009-12 but he has certainly proved his worth in a strong back three which made a huge contribution to the club’s final success.
09/06/22
Paratoi at y Cymru North / Getting ready for the Cymru North

Mae swyddogion y clwb yn diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’r Traeth heddiw i helpu.

Clwb Officials wish to thank all who came to help at the Traeth today.


DiWRNOD TACLUSO
Mae’r clwb yn trefnu Diwrnod Tacluso’r Traeth.
Sadwrn yma: Mehefin 11eg 10am -1pm.
Chwynnu, strimio, sgubo
Dewch i helpu

TIDY UP @ Traeth
The club is organizing a Tidy Up Day at the Traeth
This coming Saturday 10am-1pm.
Weeding, Strimming, sweeping
Come and lend a hand
. 07/06/22
Dyddiau i’w Dathlu (2) / Days to Celebrate (2)

Mae’r teimlad braf yna’n parhau wrth edrych yn ôl ar ddiwrnod cofiadwy Ffeinal yr Ail-gyfle, a Ffeinal lle roedd y perfformiad cystal a’r achlysur gyda hatric Rhys Alun yn siwr o sicrhau lle yn y cof am flynyddoedd i ddod.
Mae’r dorf o 1,300 yn dangos, mewn oes o bêl-droed parhaus ar deledu,.fod yna awydd cry’ yn bodoli i gefnogi pêl-droed lleol
‘Da ni wedi edrych yn ôl ar un o’r gêmau sy’n allweddol yn hanes y clwb -sef yr un ar Globe Way, Bwcle a wnaeth sicrhau dyrchafiad. Gwnawn droi at y llall, a’r tro yma y lleoliad oedd Y Traeth. Hon oedd gêm ola’ tymor 2007/08 a Port wir angen 3 phwynt er mewn osgoi disgyn o’r Uwch Gynghrair.
. Ond roedd yna un broblem fawr, y gwrthwynebwyr oedd y Rhyl, un o geffylau blaen y gynghrair.ond erbyn diwedd y 90 munud trodd yr hunlle yn freuddwyd.
Yn wahanol iawn i’r Ffeinal Ail-gyfle, nid oedd hon fawr o gêm, OND i gefnogwyr Port ....
Dyna ichi ddiwrnod perffaith.i Viv Williams a.pan chwythodd Kerry Morgan ei chwiban ar y diwedd roedd i gyhoeddi fod Port yn aros fyny.
Y sgôr?
CPD Porthmadog ...1...................Rhyl FC ...0
Beth am y gem? Pa wahanieth wir! Gêm oedd hon i sicrhau lle yn yr Uwch Gynghrair. Bonws byddai gallu gorffen y tymor â sioe o bêl-droed gwych, doedd neb yn disgwyl hynny. Teimlo eich hun yn llithro i’r Cymru Alliance ac yna mwyaf sydyn pan oedd y frwydr ar fîn ei cholli cael eich llusgo nol i fyny wrth tin eich trowsus.
. Y Gôl?
Wel Richard Hughes oedd yr arwr,.yn sgorio 8 munud i fewn i’r ail-hanner ond byddai neb yn gwadu fod un o goliau hanesyddol y clwb yn un flêr ar y naw ond eto un o’r prydfertha. a welwyd ar Y Traeth!.
Ond cyn i’r cyfan ddod i ben ......
Roedd un neu ddau o eiliadau nerfus tu hwnt. Bu’n rhaid i Richard Harvey wneud arbediad syfrdanol gyda’i goes ar 90 munud, pan oedd yn edrych fod Lee Hunt yn siwr o sgorio.
Yna am y tro cynta’ ers mis Tachwedd roedd Port allan o’r 3 gwaelod.
Dyna ichi amseru perffaith!.


. That great feeling continues as we look back over the unforgettable Play-off Final, a Final where the performance more than matched the occasion and where Rhys Alun’s hat-trick was of such quality that it will remain in the memory of those who saw it for a very long time.
The massive crowd of 1,300 shows that there is an appetite for community clubs and local football even or especially in an age of wall to wall football on TV.
We have looked back at one of those games which went some way to matching the Wern Mynach Final -the promotion clincher at Globe Way, Buckley.
We turn to the other game and this time the venue was Y Traeth.
It was the final game of the 2007/08 season and Port were in serious danger of relegation from the Welsh Prem and in need of 3 points to stay up. The problem was that Rhyl, one of the top three clubs in the league, stood between Port and safety. But it was a case of alls well that ends well.
Unlike the Play-off final it wasn’t much of a game but to Port supporters.......
A perfect day for manager Viv Williams and when referee Kerry Morgan blew his final whistle it declared that Port were staying up.
. The score?
CPD Porthmadog ...1...................Rhyl FC ...0
The game? Who care's about the game? This was all about survival. It would have been great to end with a flourish of quality football but it was never going to be like that. It was more a case of being in free fall through the trap door marked 'Cymru Alliance' and then, when all seemed lost, being yanked upward to safety by the seat of your pants. This was one of the most tense afternoons ever at the Traeth.
The goal?
Well Richard Hughes was the hero scoring just 8 minutes into the second half and few would deny that one of the most important Port goals was also one of the scurffiest, beautiful goals seen at the Traeth .. ever.
Before it was all over........
There were still one or two hairy moments for Port to overcome and none more than in the 90th minute when Richard Harvey pulled off a remarkable save with his trailing leg when it seemed that Lee Hunt must score.
For the first time since about November Port were out of the bottom three.
Now that's perfect timing!.
. Port;(4-4-2) Richard Harvey, John G Jones, Ryan Davies, Richard Hughes, Mike Foster: Marcus Orlik, Gareth Parry (Mark Thomas 73'), Paul Roberts, Aled Rowlands (Barry Evans 82'); Matthew Hughes (Carl Jones 76'), Carl Owen. Yellow: Ryan Davies 31', Mike Foster 66', John G Jones 88'
04/06/22
ARDAL NORTHERN: Rhaglen Port y gorau / Port programme is best

Enwyd rhaglen Port y “Gorau yn yr Ardal Northern” am 2021/22 gan y cylchgrawn safonol WELSH FOOTBALL MAGAZINE.
Llongyfarchiadau i’r golygydd RHYDIAN MORGAN a’i dîm am yr enwebiad haeddiannol yma sydd yn wobr am waith cyson ar hyd y tymor yn cynhyrchu rhaglenni o safon.
Cewch weld yr erthygl llawn a’r sylwadau yn y copi misol diweddara’ o GYLCHGRAWN CENEDLAETHOL CYMRU sydd allan ‘rwan. Isod gweler y canlyniadau.

The Port programme has been named the ‘Best in the Ardal Northern’ for 2021/22 by the highly respected WELSH FOOTBALL MAGAZINE.
Congratulations to programmes editor RHYDIAN MORGAN and his team for this well-deserved award for consistently producing a match programme of excellent standard.
You will find the full article and comments in the current edition of the NATIONAL MAGAZINE of WALES which is out now.

Canlyniadau / Results:-
Rhaglen y Flwyddyn / Programme of the year Met Caerdydd / Cardiff Met
Cymru North: Airbus
Cymru South: Goytre Utd
Ardal Northern: CPD Porthmadog
Ardal South: Cwmaman Utd
Haen 4 / Tier 4: Clydach Wasps
03/06/22
Dyddiau i’w Dathlu (1) / Days to Celebrate (1)

Mae gan gefnogwyr Port mwy na’r Jiwbili i ddathlu wrth iddynt bellach geisio gael eu traed yn ôl ar y ddaear yn dilyn y fuddugoliaeth rhyfeddol yn Ffeinal yr Ail-gyfle yn Y Bermo.
Wrth edrych yn ôl dros 20 mlynedd o hanes ein clwb, ychydig o fuddugoliaethau mor bwysig a gafwyd.
Mae’n bosib mai dim ond dwy gêm arall bu o’r un pwysigrwydd a hon. Ewch yn ôl 19 mlynedd -cyn i nifer o gefnogwyr Port ar Wern Mynach cael eu geni. Ar 19 Ebrill 2003 ar Globe Way Bwcle, sicrhaodd Port ddyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru.
Daeth y llall -Ebrill 19 eto !- yn 2008 ond nid i sicrhau dyrchafiad y tro yma ond, i gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair. Roedd angen 3 phwynt yn y gêm ola’ o’r tymor a hynny yn erbyn tîm cryf Y Rhyl, a orffennodd yn 3 ydd yn y tabl, tu ôl i Lanelli a TNS. Dewch i gael golwg ar gêm Bwcle. Y canlyniad oedd:-
Bwcle...... 2..............Porthmadog .... 3
I roi cyd-destun i’r gêm:
Roedd hon yn gêm rhwng dau dîm llwyddianus, Port heb golli mewn 27 o gêmau cynghrair tra roedd Bwcle ar rhediad o 22 gêm heb golli mewn gemau cwpan a chynghrair.
Gyda’r fuddugoliaeth hon sicrhaodd Viv Williams ac Osian Roberts ddyrchafiad Port a 4 gêm yn dal yn weddill. Ond cyn llwyddo bu’n rhaid i Port rhwydo ddwywaith yn y 12 munud ola’ o’r gêm. Roedd Richie Owen wedi rhoi Port ar y blaen yn gynnar gyda ergyd nerthol i gornel ucha’r rhwyd -rhwyd a bu angen ei hail osod cyn ail gychwyn y gêm.
. Gyda’r record diguro mewn peryg’ dyma Gareth Caughter yn croesi i’r postyn pella’ a seren y gêm, Carl Owen, yn ymestyn blaen ei droed a chanfod y rhwyd. Gyda’r sgôr yn gyfartal daeth gôl Robert Williams a’r fuddugoliaeth – o dan bwysau gan.dau amddiffynwr ergydiodd o 20 llath i gornel y rhwyd.
Roedd amser dathlu wedi cyrraedd!!
. Porthmadog: Gerard McGuigan, John G. Jones, Campbell. Harrison, Lee. Webber, Mike. Foster, Dafydd.Evans, Gareth Parry, Richie Owen, Gareth Caughter, Tony Williams (Rob Williams), Carl Owen..
Subs not used: Iwan Roberts, Ywain Gwynedd.


Port supporters have more than the Jubilee to celebrate as they still struggle to get their feet back on the ground after the remarkable Play-Off victory at Barmouth.
Looking back over the last 20 years of Port history, there have not been too many victories of such significance.
There have possibly been 2 other games which might match this one in importance, Turn your mind back 19 years, before some of the young Port supporters at Wern Mynach last Saturday were born. On the 19 April 2003, at Globe Way, Buckley, Port clinched promotion to the Welsh Premier.
. The other came, and it was the 19 April again, and the year 2008. There was no promotion at stake but rather all about keeping our place in te Welsh Prem needing 3 points from the last game of the season against a strong Rhyl side that finished in 3rd place behind Llanelli and TNS.
Let;s take a look at the Buckley game. The result was:-
Buckley Town ... 2.......Porthmadog .... 3
To give the game some context
This was a game between the form sides of the league and something would have to give. Port boasted a record of 27 games unbeaten in the league while Buckley were on a run of 22 league and cup games without defeat.
With this victory, the managerial team of Viv Williams and Osian Roberts, secured promotion with 4 games still remaining. To achieve it however they found themselves in the unlikely situation of having to score twice in the last 12 minutes in order to clinch the victory.Richie Owen had given Port an early lead with a thunderous shot from the edge of the box into the top corner of the net -a net which required running repairs as a result !
With the unbeaten record seriously under threat Gareth Caughter, in the 78th min, whipped a ball to the far post where, man of the match, Carl Owen, at full stretch,managed to toe end the ball past home keeper Turner and into the net.It was all to play for again and in the 83rd minute Robert Williams controlled a long ball out of defence and, with two defenders breathing down his neck, fired a powerful 20yd shot into the top corner of the net.
The celebrations could now begin!
Porthmadog: Gerard McGuigan, John G. Jones, Campbell. Harrison, Lee. Webber, Mike. Foster, Dafydd.Evans, Gareth Parry, Richie Owen, Gareth Caughter, Tony Williams (Rob Williams), Carl Owen.
. Subs not used: Iwan Robets, Ywain Gwynedd
. 31/05/22
Gêm ola’ PRITCH / PAUL PRITCHARD calls it a day

Cyhoeddodd Paul Pritchard ei benderfyniad i ymddeol o bêl-droed fel hyn:-
“Wel daeth yr amser imi hongian y menyg wedi 22 tymor. Y gêm ola’ -heblaw am mewn argyfwng- fydd ffeinal yr ail-gyfle, bu’n bleser pur yn chwarae i bob un o’r clybiau ar hyd y ffordd. A’r pwysica un, mi wnes ffrindiau am oes.”

Ymateb Craig Papirnyk i’r newyddion oedd:-
“ Mwynha dy ymddeoliad, bu’n bleser fod yn rheolwr arnat gyda Port a chael chwarae rhan yn dy yrfa lwyddianus. Chwaraewr gwych ond person hyd yn oed gwell. Pob hwyl mêt.”
Derbyniodd cefnogwyr Port y newyddion gyda chymysgedd o dristwch a diolchgarwch. Tristwch mai pnawn Sadwrn, ar Wern Mynach, oedd y tro ola’ i’r golwr talentog hwn gael ei weld rhwng y pyst i’r clwb, diolchgarwch am y perfformaiadau gwych a gafwyd ganddo. Yn addas iawn daeth a’i yrfa i ben drwy gadw llechen lân arall.
Dychwelodd Paul i’r clwb mis Ionawr diwetha’, a chwarae rhan bwysig wrth sicrhau dyrchafiad. Mae ei glybiau cynt yn cynnwys Caernarfon , Cei Conna, Rhyl a Chaergybi yn Pyramid Cymru ac i Warrington yn y Northern League yn Lloegr.
Diolch Paul a phob dymuniad da at y dyfodol.


Paul Pritchard has announced his retirement with these words:-
“Well my time as come to hang up the gloves after 22 seasons. My final competitive game (Unless of an emergency) will be for Porthmadog in the play off final, it’s been an absolute pleasure playing for every club along the way. Most importantly I’ve made friends for life.”

Craig Papirnyk responded to the news like this:-
“Enjoy retirement, it’s been an absolute pleasure managing you at Porthmadog and playing a part in your very successful career, Great player and an even better persom. All the best mate.”
Port supportres received the news of his decision to hang up the gloves with a mixture of sadness and gratituce. Sadness that Saturday at Wern Mynach is the last time this quality keeper will be seen between the sticks for the club, gratitude for the many superb performances. Fittingly he ends it all with a clean sheet in such an important fixture.
Paul returned to the club in January to play a key role in securing promotion. He previously represented the club from 2018/20. His previous clubs include Caernarfpn Town, Connah’s Quay Rhyl and Holyhead Hotspur in the Welsh Pyramid and Warrington Town in the Northern League.
Thanks and best wishes Paul.
. 29/05/22
CYMRU NORTH-dyma ni’n dod / GOING UP! GOING UP! GOING UP!

Pan fydd clwb yn ennill gêm ail-gyfle, does na ddim gwell ffordd i sicrhau dyrchafiad.
Dyna chi ddiwrnod! Llongyfarchiadau i Craig Papirnyk, y garfan a chafodd baratoad mor ardderchog, ac i’r tîm hyfforddi i gyd am berfformiad cofiadwy. 5 gôl o safon, gan gynwys hatric wych Rhys Alun, a wedyn y gwpan yn llawn wrth i’r eilydd John Littlemore a’r hogyn o’r Bermo, Paul Lewis, ychwanegu gôl yr un.
Ond ymdrech tîm oedd hon o Paul Pritchard yn y cefn, drwy’r amddiffyn i berfformaid creadigol arbennig Gareth Jones Evans yng nghanol cae at Rhys Alun a’r ymosod -heb anghofio’r eilyddion.

Pan fydd dau glwb, sy’n rhan hanfodol o’u cymdeithas, yn cyfarfod mewn gêm o’r pwys mwya’, mae’r cefnogwyr yn troi allan mewn niferoedd -ond roedd 1,300 tu hwnt i’n breuddwydion mwyaf eithafol.
Yn wir mae’r tymor cynta’, yn dilyn adrefnu’r Pyramid, wedi gorffen mewn tipyn o steil.
Diolch yn fawr i glwb y Bermo a Dyffryn am ei croeso a’u trefniadau arbennig o wych, gan sicrhau fod cae Wern Mynach mewn cyflwr perffaith -a diolch arbennig i’r tirmon Gareth Evans. Dyna ichi ffordd i Paul Pritchard alw digon ar ei yrfa ddisglair – hynny ydy os nad yw’n ail feddwl ar ôl llechen lân arall.
Chwaraeodd y clwb o’r canolbarth rhan bwysig yn yr achlysur, ac edrychwn ymlaen i weld Caersws, clwb a hanes a thraddodiad cyfoethog hefyd yn y Cymru North.
Cofiwch ddarllen adroddiad ardderchog Treflyn, wedyn argraffwch o, ei fframio ac i fyny ag o ar y wal. Atgofion!!
Gallwn adlesio geiriau Paps yn dilyn y gêm “Teimlad anghredadwy ac am gefnogaeth. Ddof yn ôl at eich negeseun i gyd ond rwan DATHLU.” Haeddiannol wir!!

When a club wins a play-off final there is no better way to head off for promotion.
What a day!! Congratulations to Craig Papirnyk, his well-prepared squad and his coaching team, for an unforgettable performance. Five top quality goals, which included a Rhys Alun super hat-trick of the highest quality and then, topped up close at the end, with a goal each for sub, John Littlemore. and Barmouth boy Paul Lewis.
But it was essentially a team effort, from Paul Pritchard through the defence via a great creative Gareth Jones Evans performance in midfield, to Rhys Alun and the attack, not forgetting the subs

When two genuine community clubs face each other in a game of real importance, the fans turn out in numbers but 1,300 at a Tier 3 Final surpassed even our wildest dreams.
In its very first season the FAW’s re-organised pyramid has ended in some style.
A huge thank-you to Barmouth and Dyffryn FC for their brilliant hosting, where everything was superbly organised and played on Wern Mynach’s perfectly prepared and well-manicured pitch -thanks to groundsman Gareth Evans.
What a way for Paul Pritchard to end his playing career, that is unless he is having second thoughts after yet another clean sheet.
The club from mid-Wales played a huge part in a memorable occasion. Caersws are a club with a rich history and tradition and we look forward to seeing them also back in the Cymru North very soon.
Read Treflyn’s excellent match report, print it and frame it. Memories are made of this!!
We can all echo an elated Craig Papirnyk’s comment “Unbelievable feeling … get in. Some support that ! I will get back to all the messages but now to Celebrate.” Well deserved.

Cymru1.net
<