Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
23/8/05
Cynghrair dan-21 / Under-21 League


Cafodd y gynghrair newydd ergyd cyn i’r tymor ddechrau ar Fedi 21 gyda’r newyddion siomedig fod Aberystwyth yn tynnu allan.
"Pe byddai’r gemau dan-21 yn cael eu chwarae ar yr un diwrnod â gemau’r tîm cyntaf, byddai wedi bod yn ddelfrydol” meddai Emyr James, un o gyfarwyddwyr y clwb.
"Byddai’n rhaid i’r pwyllgor weithio ar ganol wythnos i gyflawni fwy o gemau a hefyd byddai’r clwb yn gorfod talu costau teithio, goleuadau a chostau eraill.
"Mae gennym Academi dda ac felly rym wedi penderfynu, am y tymor hwn, tynnu allan o’r gynghrair."
Bydd penderfyniad Aberystwyth yn golygu mai dim ond chwe chlwb fydd yn y gynghrair newydd yn adran y Gogledd sef- Port, Bangor, Caernarfon, Cei Conna, Y Drenewydd a TNS.

The new Under-21 floodlit league suffered a set-back before their season is due to kick-off on September 21st with the disappointing withdrawal of Aberystwyth "If the clubs played Under-21 fixtures on the same days as the first team, the league would be ideal," said Black & Greens' director Emyr James.
"The committee would have to work mid-week on yet more fixtures, the club would lose out on costs for floodlights, transportation and other costs.
"We feel we have a good academy set-up and have withdrawn from this season's league."
This decision leaves the Northern section of the league with just six clubs –Port, Caernarfon, Bangor, Connah’s Quay, Newtown and TNS.
15/8/05
Yr Ail Dîm / The Reserves


Dechreuodd tymor yr ail dîm ar y Traeth ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Biwmares. Yn anffodus, yng Nghynghrair Gwynedd mae'r tîm yn chwarae unwaith eto er gwaetha'r ffaith mai nhw oedd y pencampwyr llynedd. Mae'n biti nad yw tîm llwyddiannus llynedd yn cael cyfle i ddatblygu eu hunain ymhellach ar lefel uwch.

The reserves' season kicked off at Y Traeth on Saturday with a comfortable 3-0 victory against Biwmares. Unfortunately, the team will again be playing in the Gwynedd League despite being last season’s champions. It's a shame that last year's successful team will not have the chance to develop themselves further at a higher level.
15/8/05
Cwpan y Gynghrair Loosemore's / Loosemore's League Cup


Airbus fydd gwrthwynebwyr Port yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair (Loosemore) ddydd Sadwrn (Awst 20) ar ôl iddynt guro Derwyddon Cefn yn y rownd ragbrofol o 5-2. Cyfartal 2-2 oedd y sgôr ar ôl 90 munud ond yn yr amser ychwanegol collodd y Derwyddon ei ffordd yn llwyr a gadael i Airbus sgorio dair gwaith.

Airbus will be Port’s opponents in the first round of the Loosemore League Cup next Saturday (August 20th) after they gained a 5-2 victory at Cefn in the preliminary round. The scores were level at 2-2 after 90 minutes but the Druids collapsed in extra-time and conceded three more goals with Airbus securing the visit to the Traeth.
8/8/05
Gem Bury i fwrdd / Burry match off


Ni fydd Port yn chwarae Bury nos yfory (Awst 9fed) ac yn lle’r gêm hon fyddant yn teithio i Fodedern am gêm gyfeillgar sydd i gychwyn am 6.45 pm.
Bydd yr ail dîm yn chwarae Llanrug ar y Traeth yr un noson i gychwyn am 7 pm.

Port will not meet Bury tomorrow August 9th at the Traeth. This game has been replaced with a friendly at Bodedern tomorrow night (August 9th) with a 6.45 kick off.
The reserves play Llanrug at the Traeth tomorrow (August 9th) k.o. 7pm.
29/7/05
Lee Webber


Mae’n edrych yn debyg fod arhosiad Lee Webber yn Y Trallwng yn mynd i fod yn un hynod o fyr. Gyda Lee, amddiffynnwr canol allweddol y llynedd, ar ei ffordd yn ôl i’r Traeth, gallwn edrych ymlaen at ei weld yn adfer ei bartneriaeth lwyddiannus gyda Ryan Davies. Bydd hyn yn rhyddhad i’r cefnogwyr gan fod perfformiadau a brwdfrydedd Lee yn ei wneud yn ffigwr poblogaidd ar y Traeth.

Last season’s Port skipper, Lee Webber appears to be set to make his stay at Welshpool a very brief one. Lee, a linchpin of a strong defensive formation, is Port bound once more to resume his successful defensive partnership with Ryan Davies. This will be a relief to Port supporters as Lee’s enthusiastic performances make him a popular figure at the Traeth.
29/7/05
Lloyd Edwards


Llongyfarchiadau i Lloyd Edwards am gael ei gyhoeddi’n chwaraewr y flwyddyn yn Nghynghrair Gwynedd am dymor 2004-05 yn y Cyfarfod Blynyddol diweddar yn Rhosgadfan. Cafodd Lloyd le ym mhrif garfan Port tuag at ddiwedd y tymor ond, yn ystod gweddill y tymor, bu’n chwaraewr canol cae allweddol i’r Ail Dîm a enillodd y Bencampwriaeth.

Congratulations to Lloyd Edwards on being hailed the Gwynedd League’s player of the season, for 2004-05, at the league AGM at Rhosgadfan recently. Lloyd, who forced his way into the first team squad towards the end of the season, was a key midfield link in the Reserves’ championship winning team of last season.
25/7/05
Cynghrair dan-21 / Under-21 League


Bydd Port yn un o’r saith clwb fydd yn chwarae yn y gynghrair newydd. Y clybiau eraill yn adran y gogledd fydd Aberystwyth, Bangor, Caernarfon, Cei Conna, TNS a’r Drenewydd. Bydd yna ganiatâd i’r clybiau ddefnyddio hyd at dri o chwaraewyr hŷn ym mhob gêm. Bydd yna adran o’r gynghrair hefyd yn cael ei chwarae yn y de. Bydd enillwyr y ddwy adran yn cyfarfod i benderfynu’r bencampwriaeth.
Bydd y gêmau cyntaf yn cael eu chwarae ar nos Fercher Medi 21ain pan fydd Port yn teithio i Barc Latham i gyfarfod Y Drenewydd. Ar nos Fawrth, Hydref 3ydd bydd Port yn croesawu’r Cofis i’r Traeth ac wythnos yn ddiweddarach, Hydref 11eg, byddant ar Ffordd Ffarar i gyfarfod Dinas Bangor.

Port will be one of seven clubs taking part in the inaugural league. The other clubs in the northern division will be Aberystwyth, Bangor, Caernarfon, Connah’s Quay, Newtown and TNS. Up to three over age players will be allowed to play for each team. There will also be an under-21 league for southern clubs. The winners of the Northern and Southern division will meet to settle the championship.
The league programme commences on Wednesday, September 21st when Port travel to Latham Park to meet Newtown. On Tuesday October 3rd Port will entertain Caernarfon on the Traeth and the following Tuesday, October 11th will play Bangor City at Farrar Road.
25/7/05
Les Davies


Cadarnhawyd fod Les Davies, sydd wedi bod yn ymarfer gyda Port yn ddiweddar, wedi arwyddo i’r clwb. ’Roedd yn y garfan a chwaraeodd gêm gyfeillgar ym Mae Trearddaur yn erbyn Caergybi ac fe sgoriodd un o’r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth o 2-0. Mae Les yn frawd i Ryan, amddiffynnwr canol Port. Dechreuodd 26 o gemau i Fangor y tymor diwethaf ac ymddangosodd 6 o weithiau fel eilydd. Mae’n chwaraewr canol cae ymosodol a sgoriodd 9 o goliau yn y gynghrair a’r cwpanau yn ystod 2004-05. Bu’r chwaraewr ugain oed yng ngharfan broffesiynol dan-21Cymru nifer o weithiau y llynedd. Mae’n chwaraewr cyffrous a bydd yn gaffaeliad mawr i Port yn ystod y tymor i ddod. Disgrifia’r cyd-rheolwr Viv Williams arwyddo Les fel ‘dipyn o coup i’r clwb’. Ychwanega Viv am Les Davies, "Mae ganddo sgiliau nad oes gennym ar hyn o bryd ac mae’n barod i ddysgu”. Dywedodd hefyd ei fod yn edrych ar ymosodwr ac amddiffynnwr sydd wedi eu cymeradwyo i’r clwb.
Hefyd arwyddwyd Rhys Roberts amddiffynnwr a ymddangosodd i Langefni yn y Cymru Alliance yn ystod 2004-05. Bwriad arwyddo Roberts ydy llenwi lle Lee Webber sydd wedi arwyddo i’r Trallwng.

It has been confirmed that Les Davies, who has been training recently with Port, has now signed for the club. He was a member of the squad who played at Trearddur on Friday in the friendly game against Holyhead and scored one of the goals in the 2-0 victory. He is a brother of Port’s central defender Ryan. He started in 26 league games last season for Bangor City and appeared on six occasions as substitute. He is an attacking midfielder who scored 9 league and cup goals during 2004-05. The twenty year old was a member of the Wales under-21 professional squad on several occasions last season. He is an exciting player and should be an important acquisition to the Port squad. Joint-manager Viv Williams has welcomed him aboard and described his signing as a coup for the club. Viv added ‘He has attributes that we haven’t got and is willing to learn’. He also said that he is looking at a defender and striker recommended to the club.
Another recent signing is Rhys Roberts, a defender who played last season for Llangefni in the Cymru Alliance. Roberts has ostensibly been signed to replace Lee Webber who has signed for Welshpool.
22/7/05
Cynhebrwng Bob / Bob's Funeral


Roedd eglwys Sant Ioan, Porthmadog yn orlawn ddoe (Gorffennaf 21ain) ar gyfer cynhebrwng Bob Havelock -gyda llawer mwy eto tu allan yn gwrando ar y gwasanaeth dros yr uchelseinydd. Dyma dystiolaeth o’r hoffter a’r parch oedd gan bobl Port tuag at ‘Bob Stesion’. Bob oedd cadeirydd y clwb rhwng 1995 a 2003 pryd y gorfodwyd iddo ymddiswyddo oherwydd cyflwr ei iechyd. Cyn hynny, bu’n is-gadeirydd rhwng 1986 a 1995. Cyfrannodd Bob yn fawr at fywyd ei dref fabwysiedig yn enwedig y clwb pêl droed ar ôl dod i dafarn hynod y Stesion o’i dref enedigol Northampton.
Cymerwyd y gwasanaeth angladdol gan y Rheithor, y Parch. Aled Jones Williams a rhoddwyd y deyrnged gan Iwan Vaughan Jones (Maxwell), un o gynghorwyr Cymdeithas Pêl Droed Cymru ac a rhagflaenodd Bob fel cadeirydd Port. Yn y deyrnged, cymerodd Iwan yr esiampl o’r asgwrn cefn sydd yn rhedeg drwy bob tîm llwyddiannus gan ddangos fod gan Bob y nodweddion cymeriad i gyflawni pob un o’r tasgau. Roedd yn gallu rheoli fel golwr da, yn daclwr cadarn fel amddiffynnwr canol dibynadwy, yn greadigol fel chwaraewr canol cae ac yn rhoi’r bêl yn y rhwyd fel blaenwr gwerth ei halen.
Yn fwy na dim, cofir Bob, gan gefnogwyr pêl droed, am y modd y gwnaeth ofalu dros y Traeth. Tra fo pobl eraill yn torri eu lawntydd ac yn trin eu gerddi, roedd Bob yn trin y Traeth. Fel canlyniad, ystyrir y Traeth yn un o’r goreuon yn Uwch Gynghrair Cymru. Roedd Bob hefyd yn allweddol i’r ymdrech o sicrhau fod y gwelliannau yn cael eu cwblhau ar y Traeth er mwyn i Port fedru dychwelyd i’r Uwch Gynghrair. Er ei fod wedi derbyn llaw driniaeth fawr, mewn dim roedd Bob yn ôl ar y Traeth ac yn beryg bywyd i bawb nad oedd yn tynnu eu pwysau. Roedd yna yn adeiladu ar ei gost ei hun, yn clirio ac yn gwella’r cyfleusterau. Roedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Y Traeth ac yn gweld ei rôl yn un o sicrhau fod y Traeth yn aros yn ganolfan pêl droed i’r cenedlaethau sydd i ddod. Diolch am bopeth Bob.
Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Josie a’r teulu.

The funeral took place yesterday (July 21st) of Bob Havelock –Bob Stesion- chairman of Porthmadog FC from 1995 until 2003 when, for health reasons, he was forced to resign. Bob had previously been vice-chairman from 1986 – 95. The fact that St John’s Church was packed, with many more listening to the service being relayed outside, was the clearest sign of the affection and respect in which he was held by the people of his adopted town of Porthmadog. A native of Northampton, he settled in Porthmadog and was the licensee of the Station Inn –the pub on the platform- and contributed to the life of the town, especially the local football club.
The service was conducted by the Rector, the Rev Aled Jones Williams and the tribute was given by Iwan Vaughan Jones (Maxwell) a Welsh FA councillor who preceded Bob as chairman of the local club. In his tribute, Iwan took the example of the essential spine of a successful football team and showed that Bob possessed all the characteristics of that spine. He commanded like a good goalkeeper, he tackled hard like a dependable centre-half, created like a central midfielder and scored goals regularly as a striker.
Above all else, it is for his tending of his beloved Traeth that Bob will be remembered by football followers in Porthmadog. Other people tend their lawns and their gardens while Bob tended the Traeth. The playing surface was always amongst the best in the Welsh Premier. Bob was also key to the ground improvements which ensured that Port were able to return to the top flight of Welsh soccer. Though he had undergone major surgery, he was in no time down at the Traeth building at his own expense, clearing and improving the facilities. He was also a trustee of the Traeth who saw his roll as safeguarding the ground for future generations to enjoy it as a football ground as he had done. Thanks for everything Bob.
We extend our sincere sympathy to Josie and all the family.
20/7/05
Amseroedd cychwyn gemau paratoi / Pre-season kick-off times


Iau / Thu 28/7/05 Port v Caer / Chester 7.30pm
Sad / Sat 30/7/05 Bae Colwyn Bay v Port 3pm
Maw / Tue 2/8/05 Glantraeth v Port 7.30pm
Sad / Sat 6/8/05 Preston v Port 3pm
Maw / Tue 9/8/05 Port v Bury 7pm
19/7/05
Colli Bob / Ex-Chairman's death


Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn y newyddion am farwolaeth Mr. Bob Havelock, cyn-gadeirydd CPD Porthmadog. Bu farw bore Sul diwethaf. Roedd Bob yn 65 oed ac wedi ymladd y cancr ers peth amser. Cynhelir y cynhebrwng ddydd Iau, Gorffennaf 21ain yn Eglwys Sant Ioan, Porthmadog am 1.30p.m. Cyhoeddir gwerthfawrogiad llawn o gyfraniad Bob Havelock i bel droed ym Mhorthmadog ar y safle hwn yn fuan.

It is with great regret that we record the sad news of the death of ex Porthmadog Chairman Mr Bob Havelock who died on Sunday morning. He was 65 years old and had been fighting cancer for some time. His funeral will be held on Thursday, July 21st at St John's Church, Porthmadog at 1.30pm. A full appreciation of Bob Havelock’s remarkable commitment to Porthmadog football will appear on this site at a later date.
19/7/05
Gem Caergybi / Holyhead Fixture


Mae problem wedi codi ynglŷn â chae Caergybi ar gyfer y gêm gyfeillgar sydd i’w chwarae nos Wener nesaf, Gorffennaf 22ain. Deallir nad yw’r cae yn barod i gêm gael ei chwarae arno eto.

A problem has arisen regarding the friendly to be played at Holyhead on Friday next, July 22nd. We understand that their pitch is not ready for a game to be played.
19/7/05
Ad-drefnu Gem / Fixture Change


Bydd Grange Quins yn un o saith o glybiau Uwch Gynghrair Cymru a fydd yn chwarae yn Rownd gyntaf Cwpan Cymru. Byddant yn cyfarfod Penrhiwceibr ar Fedi’r 10fed. Roedd Port i fod i ymweld â’r brif ddinas i gyfarfod Grange Quins ar y dyddiad hwn ond rŵan bydd yn rhaid adrefnu’r gêm. Ni fydd Port yn cymryd rhan yng Nghwpan Cymru tan yr ail rownd.

Grange Quins are one of seven Welsh Premier clubs to be drawn to play in the first round of the Welsh Cup. They will play at home against Penrhiwceibr Rangers on September 10th. Port were due to visit the capital city on that date to meet Grange Quins and this fixture will now have to be re-arranged. Port will not be involved in the Welsh Cup until the 2nd round.
19/7/05
Gemau'r Ynysoed / Island Games


Osian Roberts cyd-rheolwr Port oedd yn hyfforddi carfan Ynys Môn yng Ngêmau’r Ynysoedd yn Shetland yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Ar ôl gorffen yn drydydd yn eu grŵp, curodd y Monwysion Saarema, ynys yn y Baltig, o 3-2 am y pumed lle yn y gystadleuaeth. Yn eu gêmau grŵp, cawsom ddwy gêm gyfartal ddi-sgor yn erbyn Gronland ac hefyd Ynysoedd Gorllewin yr Alban. Cafwyd buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Ynysoedd Erch (Orkney) ac un o’r sgorwyr oedd Gareth Parry, chwaraewr canol cae Port. Eu gêm grŵp olaf oedd yr unig dro iddynt golli a hynny o 3-0 yn erbyn Guernsey. Mae’n amlwg felly mai diffyg goliau yn eu gêmau grŵp oedd eu problem – a tybed lle glywsom am broblem tebyg o’r blaen!
Shetland oedd enillwyr y twrnament yn curo Guernsey yn y ffeinal.

Port’s joint-manager, Osian Roberts was in charge of the Ynys Môn squad at the Island Games taking place in Shetland during the past week. After finishing third in their group the Ynys Môn team defeated the Baltic island of Saarema by 3-2 and gain the fifth spot in the tournament. In their group matches they played scoreless draws against Greenland and also against the Western Isles. They gained a victory by 2-0 in their clash with Orkney with Port midfielder, Gareth Parry, scoring one of the goals. They slumped to their only defeat by 3-0 in their final group match against Guernsey. Clearly their problem in the group games was a lack of goals –now where have we heard of a similar problem!
Shetland were the winners of the tournament defeating Guernsey in the final.
7/7/05
Roc a'r Rali / Rock and Rally


Bu’r diwrnod arbennig ar y Traeth yn llwyddiant ysgubol gyda’r Rali Hen Geir yn denu digon o ddiddordeb er waetha’r tywydd cymysglyd. Hon yw’r drydedd Rali Flynyddol ac yn ddigon siŵr mae’r digwyddiad wedi ennill ei blwy fel un o’r atyniadau canol haf ym Mhorthmadog. Yn ôl ei arfer, denodd Bryn Fôn y torfeydd gyda 700 yn mynychu y cyngerdd nos ac roedd pob tocyn wedi’u werthu er mwyn ei weld yn rhannu llwyfan gyda’r band lleol hynod boblogaidd sef Frizbee. Noson ragorol a phunt neu ddwy i’r coffrau.

 
© Martin Rookyard

The big day at the Traeth proved to be an outstanding success with the Vintage cars, despite the mixed weather, attracting plenty of interest from aficionados and also from the more casual visitor. This is the third annual Vintage Car Rally and the event is rapidly establishing itself as an essential part of midsummer in Porthmadog. As ever, Bryn Fôn attracted the crowds with 700 attending the evening concert with every ticket sold to see him share the stage with the very popular local band Frizbee. An excellent night and a pound or two in the coffers as well.
7/7/05
Gemau Diddorol / Interesting Matches


Yn ogystal ag wynebu TNS yng ngêm gynghrair gynta’r tymor, erbyn diwedd Medi bydd Port hefyd wedi chwarae Bangor a’r Rhyl. Felly erbyn Medi’r 24ain bydd Port wedi cyfarfod tri ucha’r gynghrair yn 2004-05 - dechrau anodd iawn i’r tymor. Hefyd yn ystod Medi bydd yr hogiau yn ymweld â’r brifddinas i chwarae’r newydd ddyfodiad Grange Quins ar Fedi 10fed. Ar Sul, Medi’r 4ydd bydd Port yn chwarae gêm adref yn erbyn Port Talbot - y diwrnod ar ôl y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd.
Bydd y gemau dros ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd unwaith eto eleni yn gemau darbi Bae Ceredigion yn erbyn Aberystwyth gyda Port yn ymweld â Choedlan y Parc ar ŵyl San Steffan ac Aber yn ymweld â’r Traeth ar Ionawr 2ail. Bydd gemau darbi Gwynedd yn Ffordd Ffarar yn erbyn Bangor ac ar yr Oval yn erbyn y Cofis ill dau yn cael eu cynnal ar Nos Wener - Bangor ar Chwefror 3ydd a Chaernarfon ar Dachwedd 18fed. Un clwb sydd wedi bod yn denu sylw yn ystod y misoedd diwethaf ydy Llanelli gyda chonsortiwm newydd wedi dod yn berchnogion ar y clwb ac yn dod â saith o chwaraewyr llawn-amser i mewn. Bydd Port yn ymweld â Llanelli ar Ragfyr 3ydd.

In addition to opening the season with the visit of champions TNS, Port will face tough games against Bangor City and Rhyl before September is out. This represents a very tough start to the season with games against last season’s top three. Also in September Port will visit the capital city to face league newcomers Grange Quins. On Sunday, September 4th – the day after the international between Wales and England at the Millennium Stadium - there will be a home match against Port Talbot.
The Christmas and New Year games will again be Cardigan Bay Derbies against Aberystwyth, with Port visiting Park Avenue on Boxing Day with the return at the Traeth on January 2nd. The away Gwynedd derbies will both be played on the Friday at Farrar Road on February 3rd and at the Oval against the Cofis on November 18th. A club which has attracted much attention during the close-season is Llanelli who have been taken over by a new consortium and could have as many as seven full-time players by the start of the new season. Port will meet Llanelli at Stebonheath on December 3rd.
7/7/05
Gemau Paratoi / Pre-season fixtures


Gorffennaf 22/July 22: Caergybi/Holyhead v Port (Ffwrdd/Away)
Gorffennaf 28/July 28: Port v Caer/Chester (Adre/Home)
Gorffennaf 30/July 30: Bae Colwyn/Colwyn Bay v Port (Ffwrdd/Away)
Awst 2/August 2: Glantraeth v Port (Ffwrdd/Away)
Awst 6/ August 6: Preston North End v Port (Ffwrdd/Away)
Awst 9/ August 9: Port v Bury (Adre/Home) – i'w gadarnhau / provisional.
3/7/05
Y Cwpan Cenedlaethol / The Premier Cup


Mae Bwrdd y Cwpan Cenedlaethol, mewn cyfarfod diweddar yng Nghaersws, wedi rhoi’r golau gwyrdd i’r gystadleuaeth yn 2005-06 fynd yn ei blaen ac wedi rhoi sêl ei bendith i’r cytundeb amodol . Gall Port felly edrych ymlaen i gymryd rhan yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Crafu mewn i’r gystadleuaeth yn yr unfed safle ar ddeg yn y gynghrair wnaeth Port a hyn o ganlyniad i’w diweddglo braidd yn siomedig i dymor 2004-05. Ond bu hyn yn ddigon i sicrhau lle mewn cystadleuaeth sydd yn cynnig £350,000 mewn gwobrau i’r timau llwyddiannus. Dywed Nigel Walker, Pennaeth Chwaraeon y BBC, ei fod yn hapus iawn fod y gemau i’w dangos ar deledu BBC Cymru. Hwn fydd y nawfed flwyddyn o gystadlu am y Cwpan Cenedlaethol.

The FAW Premier Cup Board has given the go-ahead to the provisional agreement with the BBC and Port can now definitely look forward to taking part in the competition for the first time. Port scraped into the eleventh league spot following disappointing performances at the latter end of the season and this has been enough to give them a place in a competition which boasts £350,000 of sponsorship money. The Head of BBC Wales Sport expressed his delight at the fact that the competition will be shown on BBC Wales television. This year’s competition will be the ninth Premier Cup.
3/7/05
Dyddiadau Cwpan Cymru / Welsh Cup Dates


Rownd Rhagarweiniol (Os bydd angen): Sadwrn, Awst 25ain 2005
Rownd Gyntaf: Medi 10fed 2005
Rownd 2; Sadwrn, Hydref 1af 2005
Rownd 3: Sadwrn, Tachwedd 5ed 2005
Rownd 4: Sadwrn, Chwefror 4ydd 2006
Rownd 5: Sadwrn, Mawrth 4ydd 2006
Rownd Cynderfynol: Sadwrn Ebrill 1af 2006
Rownd Derfynol: Sadwrn, Mai 7fed

Preliminary Round (If Required): Saturday 20th August 2005
Round One: Saturday 10th September 2005
Round Two: Saturday 1st October 2005
Round Three: Saturday 5th November 2005
Round Four: Saturday 4th February 2006
Round Five: Saturday 4th March 2006
Semi-Final: Saturday 1st April 2006
Final: Sunday 7th May 2006
Newyddion cyn 30/6/05
News pre 30/6/05

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us