Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Cymru North

Chwiliwch y safle / Search the website

 Gartref / Home  Newyddion / News  Gemau / Fixtures  Canlyniadau / Results  Adroddiadau / Reports  Lluniau / Photos  Chwaraewyr / Players  Hanes / History  Cyfeiriadau / Directions  Siop / Shop  Archifau / Archive  Y Tabl / The Table  Trafod / Discussion  Academi / Academy  Ystadegau / Statistics  Erthyglau / Articles  Cysylltiadau / Links
29/08/19
Darbi Gwynedd: golwg ymlaen / Gwynedd Derby: a preview

Noddwr/Match Sponsor: R J WILLIAMS, Honda/Isuzu Talsarnau

Diwrnod Darbi Gwynedd fydd hi pnawn Sadwrn pan fydd Bangor yn ymweld â’r Traeth. Bu’n haf tymhestlog yn Nantporth gyda chwmwl du cosb y Gymdeithas Bêl-droed yn hongian uwch eu pennau. Erbyn hyn setlwyd y mater gyda phanel annibynnol yn eu clirio o’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Da iawn wir!! Golyga hyn y medrwn ganolbwyntio ar y bêl-droed yn unig.Dros yr haf dychwelodd Stephen Vaughan Jnr. o glwb Mosta yn Melita i reoli Bangor unwaith eto, Bu hefyd newid sywleddol yn y garfan, gyda’r mwyafrif o garfan llynedd yn gadael. Yn eu lle daeth chwaraewyr hollol newydd, gyda nifer wedi dod drosodd o’r Eidal. Felly gallwn ddisgwyl enwau egsotig fel Gabriele Brino, Francesco Di Crescenso, Piero Cauterucci a Nicolas Delvecchio yn ymddangos ar Y Traeth pnawn Sadwrn. Y blaenwr Ashley Ruane ydy un o’r ychydig sydd a phrofiad blaenorol o bêl-droed yng Nghymru.
Ond mae’n amhosib anwybyddu materion oddi ar y cae yn llwyr, gan fod yna berchennog newydd ar y ffordd mae’n debyg. Serafino, cerddor amlwg o’r Eidal, sydd yn debyg o brynu’r clwb. Fo ydy tad Francesco Serafino, un o’r chwaraewyr newydd. Hefyd mae yna Gyfarwyddwr Pêl-droed o’r Eidal Max Leghissa.
Yn ôl at bêl-droed, cychwynnodd tymor y Dinasyddion gyda gêm gyfartal ddi-sgô yn erbyn Conwy od nos Fawrth cawsant fuddugoliaeth o 3-1 dros Bwcle gyda Azizou Zoumbare yn sgorio dwywaith
Gêm anodd i chwilio am eich pwyntiau cynta’ -ond C’mon Port!!

On Saturday it’s Gwynedd Derby Day with Bangor City the visitors to the Traeth. It has been a summer of turmoil at Nantporth as the dispute with the FAW hung as a dark cloud over the club. The matter has now been resolved, with the independent tribunal clearing the club of the charges laid against them.
Good ! that means we can concentrate on football matters exclusively. The summer also saw Stephen Vaughan Jnr returning from Maltese club Mosta, to the manager’s chair at Nantporth. This has ushered in root and branch changes of playing personél at the club. Most of last season’s squad have moved on and replaced by new exotic sounding names, from Italy in particular. Names such as Gabriele Brino, Francesco Di Crescenso, Piero Cauterucci and Nicolas Delvecchio fill their 2019/20 squad. Striker Ashley Ruane is one of the few names with previous experience of the Welsh Pyramid.
We cannot, however entierly dismiss off-pitch events as there is a takeover nearing completion, with Italian musician Serafino, and father of one of the club’s new players Francesco Serafino, reportedly the mystery benefactor. There is also a new Director of Football from Italy; Max Leghissa.
Back to football, the Citizens’ season began with a goalless draw at Conwy followed by a 3-1 victory over Buckley with Azizou Zoumbare scoring two.
A difficult game to be looking for the first points but C’mon Port!!
29/08/19
AIL-DÎM oddi cartre’ nos WENER / RESERVES away on FRIDAY

Bydd yr Ail-dîm yn teithio i chwarae Prestatyn nos Wener (30 Awst). Y gic gynta’ am 8 o’r gloch.

Porthmadog Reserves travel to Prestatyn on Friday (30 august) for a League fixture. The kick off will be at 8pm.
26/08/19
GêM OFF =Ail-dîm yn chwarae nos Fercher / GAME OFFReserves at home on Wednesday

GOHIRIWYD y GÊM HON
Bydd yr Ail-dîm adre nos Fercher (Awst 28) ar Y Traeth gan anelu i adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd yn erbyn Nantlle Fêl nos Wener. Yr ymwelwyr fydd Ail-dîm Bangor a ydd y gic gynta’ am 7.30pm.
C’mon Port!!

THIS GAME HAS BEEN POSTPONED
The Reserves will be at the Traeth on Wednesday evening (Aug 28) when they will look to build on last Friday’s victory at Nantlle Vale. They take on Bangor City Res and the kick off will be at 7.30pm.
C’mon Port!!
27/08/19
Carwyn yn ymuno â’r Bermo / Carwyn signs for Barmouth

Mae’r amddiffynwr, Carwyn Jones wedi penderfynu gadael y clwb ac ail ymuno efo un o’i glybiau blaenorol, Bermo a Dyffryn. Ymunodd Carwyn â Port dros yr haf o glwb Aberystwyth a chynt bu gyda Penrhyncoch.
Dymuna’r clwb ddiolch i Carwyn a dymuno’n dda iddo at y dyfodol.

Defender Carwyn Jones, who joined Port from Aberystwyth Town, has decided to re-join one of his former clubs Barmouth and Dyffryn. Carwyn spent most of last season at Penrhyncoch.
The club thanks him and wishes him well for the future.
25/08/19
Draw Wythnosol 34 / Weekly Draw 34

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 34 yw Rhif 42 FAITH HARMSWORTH yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
,br> The "Weekly Draw" winner for week 34 is No. 42 FAITH HARMSWORTHwinning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
23/08/19
Ail-dîm y Ennill / Reserves bounce back!

Noson dda i’r Ail-dîm gan wneud yn iawn am y golled Nos Fercher yn Llanberis a churo Nnantlle Fêl o 4-1 ar Faes Dulyn heno. Rhwydodd Sion Guto ddwywaith i Port gyda Math Roberts a Sion Jones hefyd yn sgorio
Noson dda hefyd i Tom Hughes a gyfranodd at 3 o’r 4 gôl.gyda Math Roberts yn cynorthwyo Sion Guto ar gyfer ei gôl gynta’.
Llongyfarchiadau i Matty Barley a enwyd yn Chwaraewr y Gêm.
Bydd yr Ail-dîm yn chwarae eto nos Fercher, y tro yma ar Y TRAETH gan groesawu Ail-dîm Bangor. Y gic gynta’ am 6.30pm.

Well done to the Reserves who bounced back tonight and recorded a convincing 4-1 victory at Nantlle Vale’s Maes Dulyn tonight. Sion Guto ntted two of the Port goals with Math Roberts and Sion Jones were also on the scoresheet.
It was a good night for Tom Hughes who provided the assist for 3 of the 4 goals while Math Roberts assisting for Sion Guto’s first goal.
Congratulations to Matty Barley who was named Man of the Match.
The Reserves will be in action again next Wednesday 28 August when they take on Bangor City Res at the TRAETH, Kick off 6.30 pm.
22/08/19
Taith i Fwcle / Port travel to Buckley

Bydd Port yn teithio i Fwcle pnawn Sadwrn, gan chwilio am bwyntiau i roi cychwyn i’w tymor yn y gynghrair. Y Sadwrn d’wetha mewn gwynt cry’, a arweiniodd at gêm ddigon blêr, methwyd cymryd nifer o gyfleoedd da yn yr ail hanner.
Nid lle hawdd i godi pwyntiau fydd Globe Way, a hynny yn erbyn clwb a gafodd y gorau o’r ddwy gêm gynghrair yn ein herbyn y tymor d’wetha’. Bwcle cymrodd 4 pwynt o’r ddwy gêm. Pan gyfarfu’r ddau ar Y Traeth ym mis Ionawr, rhannwyd y pwyntiau gyda gôl hwyr, hwyr gan Gruff John yn dod â’r sgôr yn gyfartal ar 3-3. Enillodd Bwcle y gêm draw yn Sir y Fflint o 2-1. Ond, ar y llaw arall Port cafodd lwyddiant yn y gêm yng Nghwpan y Gynghrair, a hynny o 3-1 gyda Ifan Emlyn, Joe Chaplin ac Iwan Lewis yn sgorio.
Mae’n ymddangos fod Bwcle wedi cadw mwyafrif carfan llynedd, a felly byddwn unwaith eto yn cyfarfod â’r amddiffynnwr allweddol Chris Roberts a’r blaenwr Jake Roberts a rhwydodd ddwywaith ar Y Traeth.
Mwynhewch y daith draw at y ffin a C’mon Port!!

Port travel to Buckley on Saturday seeking to put points on the board after drawing a blank last weekend at the Traeth. Adapting to the strong blustery wind, combined with a failure to take their second-half chances contributed to the defeat.
Globe Way will not be the easiest place to pick up points, against a club who enjoyed a good first season back at Tier 2 level in 2018/19. It would be fair to say that Buckley enjoyed the better of last season’s league encounters taking 4 points from the two games. When the two clubs last met back in January at the Traeth the points were shared, though it took a late, late goal from Gruff John to level the scores at 3-3. Buckley were winners at Globe Way by 2-1. On the other hand, when the two clubs met in the League Cup at the Traeth, Port were clear winners by 3-1, with Ifan Emlyn, Joe Chaplin and Iwan Lewis on the scoresheet.
The Flintshire club have retained most of last season’s squad and we can expect to see key defender Chris Roberts and Jake Roberts, a forward threat who scored twice at the Traeth, in their line-up.
Enjoy the journey to Globe Way and C’mon Port!!
21/08/19
Ail-dîm yn colli yn Llanberis / Reserves lose opening fixture

Gyda’r rheolwr Aaron Rickards yn ail-wampio’r tîm gyda nifer dda o chwaraewyr Newydd collodd yr Ail-dîm heno o 5-1
Aeth Port 2 gôl i lawr yn gynnar gyda Kurt Hellfield sgorio’r ddwy. Ychwanegwyd gôl gan Jon Custer cyn yr hanner. Rhwydodd y Darans ddwy arall yn yr ail hanner gyda Hellfeld yn cwblhau ei hatric. Roedd yna gôl gysur i Port gyda Math Roberts yn rhwydo o'r smotyn yn hwyr yn yr ail hanner.
Bydd yr Ail-dîm oddi cartref nos Wener yn chwarae Nantlle Fêl 6.30pm.

With new manager Aaron Rickards setting about a re-vamp with many new players, the Reserves went down by 5-1 tonight in their first fixture of the season.
They went behind to two early goals by Kurt Hellfeld for Llanberis. Jon Custer then added a 3rd before half-time. There were two more for the Darans in the second-half with Hellfeld completing his hattrick. A late penalty from Math Roberts provided a second-half consolation for Port.
The Reserves will be away on Friday playing Nantlle Vale. 6,30pm
20/08/19
Diolch i Reilffordd Ffestiniog! / Thanks to the Ffestiniog Railway

Diolch i Reilffordd Ffestiniog ac Eryri a hefyd Spooners am eu croeso cynnes arferol wrth i’r Chwaraewyr a’r Tîm Rheoli ddod ar eu hymweliad blynyddol. Mwynhawyd brecwast a hefyd y cyfle i dynnu lluniau. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.

Highslide JS Highslide JS

The club wishes to thank the Ffestiniog Railway and Spooner’s Café Bar for their usual warm welcome, as the players and management team made their morning visit for breakfast and the annual photo shoot. The visit was much enjoyed by all.
18/08/19
NEWYDDION AIL-DÎM / RESERVE NEWS

Bydd yr AIL-DÎM yn cychwyn eu tymor Nos Fercher nesa (21 Awst) gan ymweld â LLANBERIS lle bydd y gic gynta am 6.30pm.
Byddant yn chwarae eto Nos Wener (21 Awst), y tro yma yn chwarae Nantlle Fêl gyda'r gic gynta eto am 6.30pm
Mae'n bosib’ ichi helpu’r Ail-dîm drwy noddi chwaraewr am y tymor am £20 y chwaraewr. Bydd enwau'r noddwyr yn cael ei rhestru yn y rhaglen.
Os oes gan rhywun ddiddordeb cysylltwch a CLIVE HAGUE ar ddiwrnod gêm, ar 07500118533 neu drwy ebost: haguejanclis@aol.com

The RESERVES will get their season up and running on Wednesday evening (21 August) when they travel to LLANBERIS for a 6.30pm kick off.
They will play again on Friday (23 August) with another away fixture ahainst NANTLLE VALE and another 6.30pm kick off.
You could assist the reserve team by sponsoring a player this season for £20 a player. All the sponsors will be acknowledged in our match programme.
If interested please contact CLIVE HAGUE on matchdays, by phone 07500118533 or by email: haguejanclis@aol.com
< 16/08/19
Gohirio gêm Ail-dîm / Reserve game OFF

Oherwydd y glaw trwm, gohiriwyd y gêm rhwng Ail-dimau Pwllheli a Port a oedd i’w chwarae heno yn Pwllheli.
Pêl-droed haf unrhywun??

Tonight’s Welsh Alliance Reserve League fixture, at Pwllheli, between Pwllheli and Port has been postponed due to the incessant rain.
Summer football anybody??
16/08/19
Jay yn ôl ar y Traeth / Jay returns

Symudodd Sion Eifion yn gyflym i arwyddo JAY GIBBS mewn pryd i chwarae gêm gynghrair gynta’r tymor yfory ar Y Traeth yn erbyn Conwy. Treuliodd Jay dau gyfnod gyda’r clwb y tymor diwetha’ a rhwng y ddau gyfnod bu gyda Llandudno. Ymddangosodd 18 o weithiau dros Port gan sgorio 4 gôl.
Sylw y Sion Eifion hapus oedd, “Bydd cael Jay yn ôl am y tymor yn dipyn o hwb i bawb yn y clwb. Mae wedi cael haf ffantastig yng Ngemau’r Ynysoedd a bellach, ar ôl cymryd seibiant, mae’n gyffrous am ddychwelyd i chwarae.
“Gyda’i ddoniau, ei brofiad a’i awydd naturiol i ennill, disgwyliwn iddo fod yn arweinydd ar y cae eleni. Mae pawb yn edrych ymlaen i’w gael yn ôl ar Y Traeth. Croeso Jay”

Highslide JS

Manager Sion Eifion pulled off a coup with the signing of JAY GIBBS ahead of the opening league fixture with Conwy Borough tomorrow. Jay returns to the club after spending two separate spells at the Traeth last season with a short stay at Llandudno in-between. He appeared 18 times scoring 4 goals.
A delighted Sion Eifion commented "Having Jay back for the season ahead is a big boost to everyone at the Club. He's had a fantastic Summer at the Island Games and. after having some time off, is excited to get going again with his football.
“With Jay's quality, his experience and his natural drive to win, we expect him to become a real leader in our team this season. We're all look forward to having him back at the Traeth! Croeso Jay!"
14/08/19
Port yn croesawu Conwy i’r Traeth / Conwy Borough visit the Traeth

Isod gweler sylwadau Dave Jones ar ei wefan nwsport.co.uk lle mae’n enwi Conwy fel y clwb fedrai achosi sioc y tymor hwn. Mae’n farn yn un i sylwi arni gan fod Dave Jones yn sylwebydd sydd wedi ennill cryn dipyn o barch.
Pnawn Sadwrn bydd Conwy yn ymweld â’r Traeth ac felly yn barod i gynnig sialens go-iawn i garfan Sion Eifion. Bydd y garfan gyfan yn ymwybodol iawn o’r cyfle i glirio o’r co’ berfformaid a oedd dipyn yn is na’r disgwyl. Yn ffodus efallai gêm gwpan oedd hon ac yn gyfle i chwythu ffwrdd ychydig o’r gwe pry cop sydd wedi hel dros yr haf. Ond pnawn Sadwrn bydd y frwydr am y pwyntiau yn cychwyn go iawn. Bydd cael cychwyn da y tro yma yn fater o bwys Dyma’r cyfle felly i ddangos y cymeriad ac ysbryd sydd yn y garfan. Dydy un canlyniad gwael ddim yn gwneud tîm gwael, a dyma felly bydd y cyfle i wneud yn iawn. C’mon Port!!

“I’m going for Conwy Borough, who have come up with some cracking signings, largely under the radar, including Liam Morris, last term’s top-marksman for Welsh Alliance champions Llangefni Town and a hero for the Ynys Mon men’s Inter-Island Games winners.
“Sean McCaffery, Harry Galeotti, Dafydd Jones, Huw Shaw, Craig Whelan and Moses Barnett have also landed at Y Morfa – some really good captures there – while the prolific Corrig McGonigle remains on board.”

On his nwsport.co.uk website Dave Jones, the highly respected commentator on football here in the north, made the above comments regarding Conwy Borough who are his ‘dark horses’ for the season in the Cymru North League.
The Morfa club, who visit the Traeth on Saturday, can be expected to provide a stern test for Sion Eifion’s squad, who will be all too aware of the need to wipe out memories of last Saturday’s well below pâr performance at Flint. Fortunately, perhaps, that was a Cup game and a chance to blow away a few cobwebs before the battle for league points begins at the weekend. The need for a good start suddenly takes on a whole new dimension. It will be the perfect opportunity to show that the squad has the character and spirit to get the show on the road. One bad result does not make a poor team and this is time to wipe out the memory of a bad day at the office. C’mon Port!
14/08/19
DIM BINGO / NO BINGO

Ni fydd yna sesiwn Bingo yn Y Ganolfan nos Wener (16/7/19) yma oherwydd y Ffair Grefftau sydd yn dechra bore Sadwrn.

There will be no Bingo at Y Ganolfan this Friday evening (16/7/19) due to the Craft Fair, which starts on Saturday morning.
11/08/19
Tymor yr Ail-dîm yn cychwyn / Reserves season starts Friday

Bydd tymor yr Ail-dim yn cychwyn nos Wener gyda gêm yn Pwllheli. Mae ganddynt gyfnod prysur iawn ac erbyn diwedd Awst byddant wedi chwarae 5 o gemau.Pob lwc hogia’! C’mon Port!!
Dyma gemau Awst:

Nos Wener 16 Awst Pwllheli vs Porthmadog 6.30pm
Nos Fercher 21 Awst Llanberis v Porthmadog 6.30pm
Nos Wener 23 Awst Nantlle Fêl vs Porthmadog 6.30pm
Nos Fercher 28 Awst Porthmadog v Bangor 6.30pm
Nos Wener 30 Awet Prestatyn v Porthmadog 8pm

The Reserves start their 2019/20 campaign on Friday with a visit to Pwllheli. They have a busy August period and by the end of the month they will have played 5 league fixtures.Good luck lads C’mon Port!!

Below are the August fixtures:
Friday 16 August Pwllheli v Porthmadog 6.30pm
Wednesday 21 August Llanberis v Porthmadog 6.30pm
Friday 23 August Nantlle Vale v Porthmadog 6.30pm
Wednsday 28 August Porthmadog v Bangor 6.30pm
Friday 30 August Prestatyn v Porthmadog 8pm.
11/08/19
Draw Wythnosol 32 / Weekly Draw 32

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 32 yw Rhif 19 HYWEL EVANS yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 32 is No. 19 HYWEL EVANS winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
09/08/19
Diolch i’r Noddwyr ac Hysbysebwyr / Thanks to our Sponsors and Advertisers

Gyda balchder a llawer o bleser mae’r clwb yn gallu cyhoeddi fod AGWEDDAU ar ERYRI, COLIN JONES (Rock Engineering), a RHEILFFORDD FFESTINIOG ac ERYRI yn parhau fel cyd noddwyr ar gyfer tymor 2019/20. Dymuna’r clwb ddiolch iddynt am eu haelioni.
Mae'r clwb hefyd am ddiolch i'r holl hysbysebwyr a noddwyr eraill am eu cefnogaeth parod ar gyfer tymor 2019/20. Cefnogwch y busnesau hyn.
Heb y gefnogaeth ni fyddai’n bosib cynnal clwb llwyddianus ar y lefel yma.

The club is pleased and proud to announce that ASPECTS OF SNOWDONIA, COLIN JONES (ROCK ENGINEERING) and FFESTINIOG AND WELSH HIGHLAND RAILWAYS will continue to be joint main sponsors for the 2019/20 season. The club would like to thank them for their continued sponsorship.
The club also wish to thank all our advertisers and sponsors for their great support once again as we look ahead to the 2019/20 season. Please support these businesses.
Without their support it would not be possible to maintain a successful club at this level
07/08/19
Cwpan Nathaniel MG Rd 1 / Away at Flint

Pnawn Sadwrn bydd Port yn teithio i’r Fflint ar gyfer gêm yng Nghwpan Nathaniel MG. Yn dilyn gorffen yn 2il a 3ydd yn y gynghrair llynedd, sicrhaodd y ddau glwb eu lle yn syth yn ail rownd y gystadleuaeth.
Er nad oedd y ddau glwb yn ddewis llawer i orffen mor uchel yn y tabl, gwnaeth y ddau wrth sefyll sialens clybiau mwy ffasiynol a brwydro am yr ail a 3ydd safle tu ôl i Airbus.
Gemau reit agos bu rhwng y ddau dros y blynyddoedd, a dyna oedd yr hanes y tymor diwetha’ hefyd, gyda’r ddwy gêm yn gorffen yn gyfartal.. Ar Gae y Castell daeth gôl Sion Edwards â’r sgôr yn gyfartal 1-1 wedi i’r Fflint fynd ar y blaen yn gynnar diolch i gôl bisâr i’w rhwyd eu hun gan Port. Yn y gêm ar y Traeth, tro Port oedd hi i fynd ar y blaen gyda dwy gôl gan Shaun Cavanagh ond, yn yr ail hanner, daeth Gerard Kinsella â’r gêm yn gyfartal gan sgorio ddwywaith hefyd.
Daeth Niall McGuiness, rheolwrY Fflint a nifer o wynebau newydd i’r clwb dros yr haf. Yr enwau yn cynnwys yr amddiffynnwr Tony Hartley o Cammell Laird yn ogystal a Tony Davies, Danny Andrews a Nathan Brown. Bydd y gic gynta am 2.30pm.
Wrth i‘r cyfnod cyn-dymor ddod i ben, mae’n amser dymuno ‘Pob lwc’ i Sion Eifion a’r wynebau newydd i gyd, yn eu gêm gystadleuol gynta’. C’mon Port!!

On Saturday Port visit Flint for a tie in this season’s re-vamped Nathaniel MG Cup. After finishing 2nd and 3rd respectively in last season’s HGA, both Flint and Port earned themselves a bye into the 2nd Round.
Though they were hardly everybody’s favourites for a high finish last season, the pair saw off many of the fancied clubs to battle it out for the places behind eventual winners, Airbus.
Games between the two clubs are usually tight affairs and last season was no exception with both games ending in draws. At Cae y Castell, Sion Edwards levelled the scores at 1-1 after a bizarre own goal had given the Silkmen an early lead. In the return fixture, it was Port who went 2 up through Shaun Cavanagh in the opening half, but Gerard Kinsella’s 2nd half brace made the scores level
Manager Niall McGuiness has been recruiting over the summer and among the players brought in are defender Tony Hartley from Cammell Lairds well as Tony Davies, Danny Andrews and Nathan Brown.
Kick off will be at 2.30, pm.
Now that the pre-season period is over, it is time to wish Sion Eifion and the new faces at the club, the very best of luck in their first competitive match. C’mon Port!
04/08/19
Port yn croesawu’r Hotspyrs / Hotspurs on Tuesday

Nos Fawrth bydd Port yn croesawu Hotspyrs Caergybi i’r Traeth am y gêm gyn-dymor olaf.
Bydd y gic gyntaf am 7.30pm.
Gyda’r Hotspyrs yn paratoi i ad-ennill ei lle ar yr Ail Haen bydd y gêm hon yn brawf da i Port.

On Tuesday evening Port will welcome Holyhead Hotspurs to the Traeth for the final pre-season fixture.
The kick off will be at 7.30pm.
With the Hotspurs keen to regain their place at Tier 2 this could be a good test for Port.
04/08/19
Ail-dîm yn Ennill / Win for Reserves

Buddugoliaeth dda i’r Ail-dîm pnawn Sadwrb dros Bro Goronwyd sy’n chwarae yng Nghynghrair Gwynedd. Y sgôr terfynol oedd 4-1.
Y sgorwyr i Port oedd Arwyn Jones, Tomos Hughes, Celt Jones a Sion Guto. Diolch i Bro Goronwy a phob dymuniad da am y tymor.

A good win for the Reserves on Saturday over Gwynedd League club, Bro Goronwy. The final score was 4-1.
The Port scorers were Arwyn Jones, Tomos Hughes Celt Jones and Sion Guto. Thanks to Bro Goronwy and best wishes for the season ahead.
04/08/19
Draw Wythnosol 31 / Weekly Draw 31

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 31 yw Rhif 74 SIMON BROOKS yn ennill gwobr o £75!!!
Llongyfarchiadau!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 31 is No. 74 SIMON BROOKS winning the £75 prize!!!
Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
01/08/19
Ail-dîm yn croesawu Bro Goronwy / Reserves home Saturday

Bydd yr AIL-DÎM yn parhau a’u paratoadau at y tymor newydd gyda gêm gyfeillgar ar y Traeth pnawn SADWRN yn erbyn Bro Goronwy o Gynghrair Gwynedd.
Cic gynta’ am 2 o'r gloch

The RESERVES continue their preparations for the new season with a home fixture on SATURDAY against Gwynedd League club Bro Goronwy.
Kick off at 2 pm
29/07/19
Cwpan Pathfinders Cup 7pm HENO / TONIGHT

Nos Fercher nesa’ cawn y pleser eto eleni, o groesawu’r ‘Pathfinders’ i’r Traeth. Maent yma ar eu ymweliad blynyddol i’w gwersyll yng Nghricieth.
Ers sawl blwyddyn bellach, y gêm am GWPAN y PATHFINDERS sy’n dod â’r llen i lawr ar y cyfnod cyn dymor ac ei godi ar y tymor newydd.
Y tymor diwetha’ cafodd Llandudno fuddugoliaeth o 1-0 i godi’r gwpan.
Daeth un o fuddugoliaethau mwyaf nodweddiadol Port yn 2014, pan gurwyd Salford City 5-3 ar giciau o’r smotyn wedi i’r sgôr orffen ae 2-2 ar ddiwedd yr amser ychwanegol. Ôl nodyn i’r hanes yma ydy fod Salford eleni, wedi ennill dyrchafiad i Gynghrair 2 o Gynghrair Lloegr!
Y tro hwn ein cymdogion o Flaenau Ffestiniog fydd y gwrthwynebwyr gyda’r gic cynta’ am 7 o’r gloch.
Cafodd yr Amaturiad dymor arbennig yn 2018/19 wrth iddynt adfer eu lle yn Welsh Alliance 1. Dros yr haf bu’r rheolwr, Ceri Robets, yn ychwanegu at ei garfan, a bydd y gem hon yn brawf iawn cyn i’r tymor newydd gychwyn. I lawer bydd y gêm yn dod ac atgofion o’r brwydrau a fu rhwng y ddau glwb yn darbis ‘Dolig y gorffennol.

Next Wednesday evening we have the pleasure once again this year, of welcoming the Pathfinders to the Traeth. They will be on their annual camp at Cricieth.
For several seasons now playing for the Pathfinders Cup against selected opponents has brought down the curtain on pre-season and lifted it on the new season.
Last season Llandudno gained a narrow 1-0 victory to lift the trophy.
One of Port’s most notable wins came in 2014, when they defeated Salford City by 5-3 on penalties after the score stood on 2-2 following extra time. Footnote to this story is that Salford last season gained promotion to League 2 in England.
This season it is our near neighbours Blaenau Ffestiniog who will provide the challenge for the Pathfinders Cup. Kick off 7pm.
The Amateurs will visit on the back of a great 2018/19 season which saw them, regain their place in Welsh Alliance 1. Over the summer, manager Ceri Roberts has been busy strengthening his squad. So we can prepare ourselves for a stiff test in a game which will bring back memories for many of past derby games.
30/07/19
Gêm gyfeillgar ar Y Traeth / Port to play Holyhead Hotspurs

Nos Fawrth nesa’ (Awst 6ed ) bydd Port yn croesawu Hotspyr Caergybi i’r Traeth am gêm gyfeillgar ychwanegol.
Bydd y gic gynta’ am 7,30pm

. Next Tuesday, 6th August, Port will welcome Holyhead Hotspyrs to the Traeth for an extra friendly pre-season fixture.
The kick off will be at 7.30pm.
28/07/19
Draw Wythnosol 30 / Weekly Draw 30

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 30 yw Rhif 104 BETHAN JONES yn ennill gwobr o £75!!! Llongyfarchiadau!
Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 30 is No. 104 BETHAN JONES winning the £75 prize!!! Congratulations!!
Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
26/07/19
TOTE GORFFENNAF / JULY TOTE

Y rhifau lwcus yn y TOTE mis GORFFENNAFoedd 36 + 37. Nid oedd enillydd (hyn i'w gadarnhau), Bydd rhaid gwneud unrhyw gais erbyn 8 y.h. nos Wener nesa’. Bydd y wobr £550 yn cael ei ychwanegu at gyfanswm mis Awst.
Bydd y rhifau ar gyfer y Tote nesaf yn cael ei tynnu nos Wener, 30ain o fis Awst, yn sesiwn Bingo misol Clwb Cymdeithasol, Clwb Pêl-Droed Porthmadog yn Y Ganolfan.
Amlenni Tote ar gael o Siop Pikes, Y Ganolfan, Clwb Pêl-droed Porthmadog neu Dylan 07900512345.

The winning numbers in the JULY TOTE were 36 + 37. There was no winner, this to be confirmed.The prize of £550 will be added to the August total.
Any claims must be made by 8pm next Friday. The next Tote will be drawn on Friday, 30th August at the monthly Porthmadog FC Social Club Bingo held at Y Ganolfan.
Tote envelopes available from Pikes Newsagents, Y Ganolfan, Porthmadog F C Clubhouse or Dylan 07900512345
24/07/19
Golwg ymlaen at Penrith / Looking ahead to Penrith

Taith bell i Port dros y penwythnos, yn torri tir newydd gyda gêm yn Penrith. Taith o 192 milltir, gan fynd i fyny’r M6 i Cumbria. Yn ôl yr AA Route Finder bydd yn cymryd 3awr a hanner.
Clwb sy’n chwarae yn y Northern League ydy Perith, cynghrair a enillwyd y tymor diwetha’ gan Dunston UTS. Ymysg y clybiau eraill yn y gynghrair mae Bishop Auckland, un o gewri’r gêm amateur hanesyddol yn Lloegr, yn ymddangos, ac yn ennill yn Wembley nifer o weithiau, Hefyd yn chwarae yn y gynghrair yn y Gogledd Ddwyrain o Loegr mae clybiau fel Hebburn United, Stockton Town, Shildon a North Shields.
Fel Port, mae gan Penrith hanes sy’n ymestyn yn ôl ymhell, yn eu hachos nhw i’r flwyddyn 1894. Daeth un o’u llwyddianau mwyaf yn 1981/82 wrth iddynt gyrraedd 2ail rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Caer (clwb yng Nghyngrair Lloegr ar y pryd) yn Rownd 1.
Mae Adran 1 o’r Northern League yn yr 8fed haen o Byramid Lloegr. Mae gan y gynghrair hanes balch o fod yr ail gynghrair hyna’ yn y byd pêl-droed sy’n dal i fodoli.. Mae gan Adran 1, 20 o glybiau.
Mae Penrith wedi chwarae 5 gêm cyn dymor hyd yma, ennill 2, colli 2 a nos Fawrth ddiwetha’, gem gyfartal gyda Cleaton Moor Celtic.
Bydd y daith hefyd yn gyfle i Sion Eifion, “Edrych ymlaen i’r trip i’r gogledd a dal fyny efo Andy Coyles (rheolwr) dros y penwythnos!"

A long away trip for Port next weekend, breaking new ground to play Penrith FC. It will be an 192 mile journey taking us along the M6 to Cumbria. Accordning to the AA Route Finder it will take 3 and a half hours.
Penriih play in the Northern League, a league won last season by Dunston UTS. Other clubs in the league include Bishop Auckland famed for their Wembley victories in the days of the old FA Amateur Cup. Also playng in this league in the North-East are clubs like Hebburn Town, Stockton Town. Shildon and North Shields.
Like Port ,Penrith FC have a long history, with theirs dating back to 1894, but one of their greatest achievements came in 1981/82, when they reached the 2nd Round of th English FA Cup having beaten Chester City, then a Footbali league club, in the 1st round.
Penrith play in Division One of the Northern League which is the 9th tier of the English League system. The league has the proud record of being the 2nd oldest football league in the world still in existence. Division One has 20 clubs.
Penrith have played 5 pre-season games to date winning 2, losing 2 and a draw last Tuesday with Cleator Moor Celtic.
Manager Sion Eifion says of the trip, “Looking forward to a trip up north and a catch up with Andy Coyles (manager) this weekend!
25/07/19
Ail-dîm yn ennill / Win for Reserves

Cafodd yr Ail-dîm fuddugoliaeth neithiwr o 2-0 dros Teigrod Ogwen.
Y sgorwyr oedd M Roberts a Kurt Williams

The Reserves gained a 2-0 win over Ogwen Tigers at the Traeth last night.
Scorers were M Roberts and Kurt Williams
24/07/19
J D Cymru North ydy’r enw dwyieithog / It’s JD Cymru North

Heddiw (dydd Mercher 24ain o Orffennaf) cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru frand newydd a bargen nawdd ar gyfer y ddwy haen uchaf o bêl-droed domestig Dynion Cymru.
Bydd 45 clwb yn dod o dan hunaniaeth newydd: Cynghreiriau Cymru.
‘Cymru North’ fydd yr enw yn lle Cynghrair Huws Gray
‘Cymru South’ yn lle a Chynghrair De Cymru
‘Cymru Premier’, yw’r enw newydd ar Uwch Gynghrair Cymru
Bydd JD yn parhau eu cefnogaeth o bêl-droed domestig yng Nghymru drwy noddi’r dair gynghrair fydd bellach yn cael ei hadnabod fel JD Cymru Premier, JD Cymru North a JD Cymru South.
Bydd y system enwi ddwyieithog newydd yn rhoi ‘Cymru’ wrth galon pêl-droed yng Nghymru.
Yn ogystal â’r system enwi newydd, mae brand gweledol newydd wedi’i greu ar gyfer y cynghreiriau.
Bydd saith cenhinen pedr, bob un yn cynrychioli’r saith cynghrair y 3 haen uchaf pêl-droed domestig Cymru, yn dod at ei gilydd i greu logo pêl drawiadol.

The Football Association of Wales has today (24 July) announced a new brand identity and sponsorship deal for the top two tiers of the men’s domestic game.
Forty-five clubs will come together under a new identity: the Cymru Leagues.
‘Cymru North’ will be the new name for the Huws Gray Alliance
‘Cymru South’ replaces Welsh League Division 1
The Welsh Premier League.will now be known as ‘Cymru Premier’
All three leagues coming under the FAW’s jurisdiction for the first time.
The news on league sponsorship is that JD Sports will continue their support of Welsh domestic football by becoming the title sponsor of all three divisions, which will be known as the JD Cymru Premier, JD Cymru North and JD Cymru South, with JD Cymru Leagues becoming the overarching name for the leagues.
The new bilingual naming system places ‘Cymru’ at the heart of Welsh football.
Also the Daffodil will be the new visual identity for the leagues.
Seven daffodils, each representing one of the seven leagues of Welsh domestic football’s top three tiers, form the logo.
21/07/19
Gem Gyfeillgar Ychwanegol / Extra friendly fixed

Trefnwyd gêm gyfeillgar ychwanegol ar gyfer nos Fawrth, 23 Gorffennaf, gyda Mynydd Llandygai sy’n chwarae yn Adran 1 y Welsh Alliance.
Bydd y gic gynta’ am 7.30pm.
Bydd yr AIL-DÎM yn croesawu Teigrod Ogwen i'r Traeth nos Fercher 24 Gorffennaf.7.30pm.

An extra friendly fixture has been fixed for next Tuesday evening (23 July) at the Traeth with Welsh Alliance One club, Mynydd Llandygai the visitors.
The game will kick off at 7.30pm.
The RESERVES welcome OGWEN TIGERS to the Traeth on Wednesday, 24 July 7.30pm.
21/07/19
YSGOL BÊL DROED YR HAF / SUMMER SOCCER SCHOOL

Pob Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener.
Yn ystod gwyliau’r haf
Y Traeth Porthmadog Ll49 9PP
10yb- 3yh
6-12 mlwydd oed
Dewch a Dillad Cynnes, Pecyn bwyd a digon o diod
Ar gael gollwng am 9am yn cynnwys Brecwast

Every Monday, Wednesday and Friday
During the school holidays
Y Traeth Porthmadog Ll49 9PP
10am -3pm
6-12 years old
Bring warm clothing, Packed lunch and plenty to drink
Drop off at 9am available to include breakfast
21/07/19
Draw Wythnosol 29 / Weekly Draw 29

Enillydd y "Draw Wythnosol" am wythnos 29 yw Rhif 46 MERYL PIKE yn ennill gwobr o £75!!! Llongyfarchiadau! Cefnogwch y Clwb - Ymunwch a'r "DRAW WYTHNOSOL" Siawns i ennill £75 am £1 yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Enid Owen 07901876120 neu Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com

The "Weekly Draw" winner for week 29 is No. 46 MERYL PIKE winning the £75 prize!!! Congratulations!! Support the Club - Join the " WEEKLY DRAW" £1 weekly for your chance to win £75!!
For more information contact Enid Owen 07901876120 or Dylan Rees 07900512345 / rees48wesla@gmail.com
20/07/19
Gêm yn Carno wedi’i chanslo / Carno game OFF

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl bu’n rhaid gohirio’r gêm yn erbyn CPD Carno heddiw. Ymddiheurwn i Carno am y newid hwyr a'r anghyfleustr mae hyn yn achosi.

As a result of unforeseen circumstances, today’s fixture with CPD Carno has to be postponed. Apologies to all at Carno for the inconvenience this late change brings.
19/07/19
GOHIRIO GÊM / GAME OFF

Mae gêm gyfeillgar yr AIL-DÎM heno (Gwener) ar Y Traeth yn erbyn CPD Aberffraw wedi’i gohirio.

The RESERVES pre-season fixture tonight (Friday) at the Traeth against CPD Aberffraw has been called off.
17/07/19
Ail dîm yn chwarae heno / Reserves play tonight

Mae gan yr AIL-DÎM gêm gyfeillgar heno (Mercher) ar Y Traeth. Yr ymwelwyr fydd CPD BODORGAN. Cic gynta’ 7.45pm
Ai;-dîm yn ennill 3-1 Guto Gwenallt (2) a Ben Williams

The RESERVES have a pre-season fixture tonight (Wednesday) at the Traeth. The visitors are CPD Bodorgan. Kick off 7.45pm.
Reserves win 3-1. Guto Gwenallt (2) and Ben Williams
17/07/19
CPD Carno v Port

Ty Brith, â’i llethr adnabyddus, fydd y lle i Port chwarae eu gêm gynta’ oddi cartre’ yn y cyfnod cyn dymor eleni . Bydd tîm Sion Eifion yn teithio i chwarae’n ffrindiau yn CPD Carno. Cyfarfu’r ddau glwb nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwetha’ ac edrychwn ymlaen at y gêm pnawn Sadwrn. Bydd y gic gynta’ am 2.30pm
Mae Carno yn chwarae yng Nghynghrair y Canolbarth, a llynedd gwanaethant orffen yn y 7fed safle.

Ty Brith and its famous slope will be the setting for Port’s first away trip of this pre-season. Sion Eifion will take his team to play our friends at Carno. The two clubs have played each other on several occasions during pre-season over recent years, and we look forward to the visit on Saturday Kick of is at 2.30pm.
Carno play in the Mid-Wales League and last season the finished in 7th place.
16/07/19
Gethin Thomas yn ymuno / Gethin Thomas signs

“Mae’r clwb yn hapus iawn i groesawu chwaraewr ifanc talentog arall i’r clwb,” meddai Sion Eidion heno wrth groesawu Gethin Thomas i’r Traeth.
Mae Gethin yn hogyn o Lanrug ond sydd wedi chwarae, ers yn ifanc, i Academi Bangor. Yn 19 oed mae eisoes wedi chwarae nifer o gemau tîm cynta i glwb Nantporth.
Chwaraewr canol cae ydy Gethin ond hefyd yn medru chwarae mewn nifer o safleoedd eraill.
Ychwanegodd Sion Eifion amdano, “ Bu Geth efo ni drwy’r cyfnod cyn dymor ac wedi creu argraff gyda’i barodrwydd i weithio ac efo’i ddoniau.
“Cafodd dipyn o brofiad ar y lefel yma llynedd gyda Bangor. Yn chwaraewr ifanc 19 oed gallwn edrych ymlaen i’w weld yn datblygu efo ni yn Port Croeso iti i Port Geth!”

Highslide JS

"We're delighted to add another quality young player to our squad!” said manager Sion Eifion tonight as he announced the arrival of Gethin Thomas at the Traeth.
. Gethin, from Llanrug, joins the club from Bangor City where he has figured since a young age at the City’s Academy. Although only 19 years old, he has already made a number of first team appearances for the Nantporth club.
Gethin plays mainly in midfield but is also able to fit in in a numberof other positions.
Sion Eifion added, “Geth has been with us throughout pre-season and has impressed us with his work ethic and his ability.
“He's also gained some valuable experience at this level last season with Bangor. At only 19 years of age, we look forward to watching him grow and develop further with us at Port. Croeso i Port Geth!"
13/07/19
Arwyr Pêl-droed Llyn / Football Legends of Llyn

Am ychydig o ddarllen diddorol mewn cyd-destun CPD Porthmadog beth am fwrw golwg ar gwefan arbennig Dave Jones ‘Chwaraeon y Gogs’? Gwefan sydd yn rhoi sylw eang i chwaraeon yn y gogledd.
Yno cewch y gyfres FOOBALL LEGENDS of LLYN. Mae’r tri cynta yn y gyfres eisoes i’w gweld ar y wefan gyda’r tri â chysylltiad agos iawn gyda clwb Port.
Y cynta o’r tri oedd yr amddiffynwr John Gwynfor Jones, ffefryn y cefogwyr, a dreuliodd 5 tymor cofiadwy ar y Traeth. Yn dilyn John Gwynfor cawsom amddiffynwr arall, sef Mike Foster, un a fu’n gefnwr chwith arbennig, yn gapten ac un a chwaraeodd mwy an 400 o gemau UGC yn ystod ei yrfa.. Yn cwblhau’r triawd mae Sion Parry, blaenwr sydd wedi ymuno a phrif garfan y clwb ond cynt mae ganddo record sgorio aruthrol.
Bellach mae Paul Roberts blaenwr a sgoriwr heb ei ail wedi'i ychwanegu at y rhestr.
Cewch wledd ar wefan Dave Jones nwsport.co.uk

Looking for a good interesting read in a CPD Porthmadog context? Then take a look at Dave Jones’s Grassroots North Wales website which covers all sports in the north of Wales.
There you will find a series on the FOOBALL LEGENDS of LLYN. The first 3 legends have already been covered and all three have a close link to the Porthmadog club.
First up was defender John Gwynfor Jones a true fan’s favourite who spent five memorable seasons at the Traeth. Following John Gwynfor came another defender, former Port left back Mike Foster who piled up in excess of 400 WPL appearances. Completing the trio was Siôn Parry, a striker who has recently become a part of Port’s senior squad but prior to this has a quite phenomenal scoring record.
Paul Roberts goalscorer supreme has now been added.
Check them out and much more on Dave’s website nwsport.co.uk
10/07/19
Cynghrair Ail-dimau y Welsh Alliance / Welsh Alliance Reserve League

Mae gemau’r Ail-dîm ar gyfer mis Awst wedi’i cyheoddi. Bydd yna 16 o glybiau yn y gynghrair y tymor nesa’ gyda Bangr yn ymuno.
Awst 16 Pwllheli v Port 6.30pm
Awst 21 Llanberis v Port 6.30pm
Awst 23 Nantlle Fêl v Port 6.30pm
Awst 28 Port v Bangor 7.30pm

The Reserve team fixtures for August have been released. The League next season will comprise of 16 clubs as Bangor City have now joined.
16 /8/19 Pwllheli v Port 6.30pm.
21/8/19 Llanberis v Port 6.30pm
23/8/19 Nantlle Vale v Port 6.30pm
28/8/19 Port v Bangor 7.30pm
08/07/19
Math yn ymuno â’r brif garfan / Math signs for senior squad

Highslide JS
Math Roberts ydy’r 3ydd aelod o garfan llwyddianus yr Ail-dîm i gamu fyny i’r brif garfan. Bydd yn dilyn Sion Parry a’r golwr Morgan Jones sydd eisoes wedi ennill dyrchafiad.
Hogyn lleol o Gricieth, bu Math yn gefnogwr brwd o’r clwb ers blynyddoedd a da ydy gweld y math yma o frwdfrydedd yn cael ei wobrwyo.
Ni fydd unrhyw un a’i gwelodd yn chwarae, yn synnu dim at y penderfyniad yma.
Roedd y rheolwr Sion Eifion yn hael ei ganmoliaeth i’w chwaraewr ifanc.
“Mae Math wedi plesio’n arw yn yr ymarferion cyn dymor ac yn llawn haeddu ei gyfle yn y brif garfan.
“Chwaraeodd rhan fawr yn nhymor lwyddianus yr Ail-dîm llynedd a rwan mae’n barod i gymryd y cam llawn i fyny. Ac mae’n wych i fedru rhoi’r cyfle hwn i hogyn lleol.
“Gall chwarae mewn safleoedd ar draws y canol cae a bydd ei egni a’i frwydfrydedd yn gymorth mawr. Yn 19 oed, mae ganddo ddyfodol gwych o’i flaen gyda’r clwb. Croeso Math!!

Math Roberts becomes the 3rd member of last season’s highly successful Reserve team to sign senior forms. He follows Sion Parry and keeper Morgan Jones in taking this step-up.
A local boy from Cricieth, Math has been a staunch supporter of the club, and it is great to see a player who is Port through and through getting a well deserved opportunity at his local club.
Anyone who has seen him play will not be surprised at his promotion at a young age.
Manager Sion Eifion is full of praise for his young first team recruit.
"Math has done fantastically well during pre-season and forced himself into our plans and into the first team squad.
“He played a big part in a very successful season with the reserves last year and is now ready to step up full time.It's also great to be able to give a local lad the opportunity at first team level.
“He can play anywhere along the midfield and his energy and enthusiasm will be an asset to us going forward. At only 19 years of age I'm sure he'll have a fantastic future with us at the club. Croeso Math!"
Newyddion cyn 07/07/19
News before 07/07/19

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us