Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Y Gynghrair / The League
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
8/5/99
Cwpan i Port / Port win the Cup
O'r diwedd mae Port wedi ennill tlws! Curodd Port, Rhydymwyn o 4-2 yn rownd derfynol cwpan y gynghrair. Darllenwch yr adroddiad ac edrychwch ar y lluniau o'r dydd mawr!

At last Port have won some silverware! Port beat Rhydymwyn 4-2 in the final of the league cup. Read the report and view the photos of the big day!

31/4/99
Cur Pen i Hyde / A dilema for Hyde.
Bydd Adam Hyde, chwaraewr cannol cae Port, yn gwynebu'r broblem o orfod penderfynnu lle bydd yn chwarae Dydd Sadwrn nesaf. Bydd Port yn chwarae yn rownd derfynnol cwpan y gyngrair, ond ar yr un pryd fydd Amaturiaid y Blaenau, ei ail glwb, yn chwarae gem holl bwysig yn erbyn Llanfairfechan. Bydd ennill y gem honno yn golygu dyrchafiad i dim cartref Adam i gynghrair Gwynedd.

Adam Hyde, Port's midfeild player, will have to face the dilema of having to decide where he will play next Saturday. While Port will be playing in the final of the League Cup, Blaenau Amateurs, his second club, will be playing an all important game in the Vale of Conwy league against Llanfairfechan. Winning that game will mean promotion for Adam's home town club to the Gwynedd League.

24/4/99
Dyddiad Newydd i’r Rownd Derfynnol. / New Date for Cup Final.
Mae dyddiad rownd derfynnol Cwpan y Gynghrair wedi cael ei ad-drefnu, a bydd nawr yn cael ei chwarae yn BRYMBO ar Ddydd Sadwrn yr 8fed o Fai. Bydd yr ail-chwarae os oes angen hynny yn cymryd lle y dydd Mawrth canlynnol ar gae Flexis Cefn Druids.

The date of the final of the League Cup has been re-aranged, and the game will now be played in BRYMBO on Saturday the 8th of May. The re-play if needed will then take place on the following Tuesday at Flexis Cefn Druids’ ground.

24/4/99
Rhediad da i’r Ail Dim. / Good Run for Resurves.
Mae ail dim Port wedi profi rhediad da o fuddigoliaethau yn ystod yr wythnos hon gan ennill tair gem o fewn 8 diwrnod yng Nghyngrair Caernarfon a’r Cylch. Cafwyd buddigoliaeth dda heddiw o bedair gôl i ddim yn erbyn y Waunfawr, tra curwyd eilyddion Penrhyndeudraeth ddwy waith yn gynharach yn yr wythnos.

Port’s Reserves are in the middle of a very good run after winning three matches in eight days in the Caernarfon and District League. They had a good win at home today by four goals to one against Waunfawr, while Penrhyndeudraeth Reserves were beaten twice earlier in the week.

18/4/99
Gobaith am Gwpan./ Hope for Silverware.
Mae gobeithion Port o gael rhywbeth i ddangos am y tymor hwn yn parhau yn fyw, ar ôl mynd trwadd i gem derfynnol cwpan y gynghrair lle y byddant yn herio Rhydymwyn. Sicrhawyd hyn gan fuddigoliaeth Port o bum gôl i ddim yn y rownd gyn derfynnol yn erbyn Croesoswallt. Bydd y rownd derfynnol yn cael ei chwarae yn Llandudno ar Ddydd Sadwrn Mai y cyntaf.

Port's hopes of having something to show for their season are still alive, after going through to the final of the league cup where they will face Rhydymwyn. This was secured by their impressive win in the semi-final where they won by five goals to one against Oswestry. The game will be played at Llandudno on Saturday the first of May.

13/4/99
'Eilyddion' yn colli / 'Reserves' loose
Bwcle 3-2 Port. Gan fod ail chwarae y gêm go-gynderfynnol yn erbyn Croesoswallt mewn dau ddiwrnod, cafodd y rhan fwyaf o'r tim cyntaf eu gorffwys ar gyfer y gêm yma - yr olaf yn y gynghrair y tymor yma. Chwaraeodd Richard Harvey ei gêm gyntaf yn y gôl, tra sgoriodd Jason Jones yn ei gêm gyntaf er dau dymor.

Buckley Town 3-2 Port. As the semi-final replay against Oswestry Town is in two days time, the majority of the first team were rested for this game - the last in the league this season. Richard Harvey had his debut in goal, while Jason Jones scored in his first game for two years.

3/4/99
Banks yw'r gorau! / Banks is best!
Mewn pleidlais ar gyfer cefnogwyr Porthmadog, a gafodd ei gynnal cyn y gêm heddiw yn erbyn Croesoswallt, Chris Banks a enillodd y wobr am chwaraewr y tymor. Y canlyniadau yn llawn oedd:
1) Chris Banks
2) Richard Hughes
3) Campbell Harrison

In a poll held by Porthmadog supporters, which was held before today's match against Oswestry Town, Chris Baks was voted the season's best player. The full results were:
1) Chris Banks
2) Richard Hughes
3) Campbell Harrison

30/3/99
Dau flaenwr yn gweithio i Port / Two strikers work for Port
Mae Gavin Allen a Deiniol Graham wedi eu cyflogi i weithio i Port ar y cynllun Pêl-droed yn y Gymuned. Yn barod mae Gavin Allen yn gweithio ar y cyd gyda chyngor Gwynedd, tra bydd Deiniol Graham yn dechrau gweithio i’r cynllun yn fuan. Ar hyn o bryd mae Allen wedi arwyddo i Aberystwyth tra fod Graham gyda Bae Colwyn.
Yn ogystal a hyn, mae Collin Hawkins yn obeithiol o arwyddo blaenwr/wyr newydd cyn dechrau y tymor nesaf.

Gavin Allen and Deiniol Graham have been employed to work for Port on the Football in the Community scheme. Already Gavin Allen is working in conjunction with Gwynedd council, while Deiniol Graham will start with the scheme in the near future. At present Allen is signed for Aberystwyth while Graham is with Colwyn Bay.
As well as this, Collin Hawkins is hopeful of signing a new striker/s before the start of next season.

30/3/99
Hwyl i’r ddau o Sweden / Good-bye to the Swedes
Ar ddydd Llun, gadawodd Mats a Matias Pehrson Port i ddechrau y tymor newydd i’w clybiau yn ôl yn Sweden. Bydd cefnogwyr Port yn dymuno pob lwc iddynt yn y tymor newydd, a diolch am eu cyfraniad drwy’r tymor.

On Monday, Mats and Matias Pehrson left Port to start the new season with their clubs back home in Sweden. Port’s fans will wish them well in their new season, and thank them for their contribution throught the season.

29/3/99
Chwaraewyr newydd ar eu ffordd? / New signings in the offing?
Mae si ar lêd fod Porthmadog ar fin arwyddo dau chwaraewyr newydd. Mae’n bosib y bydd cyfle am swydd gyda’r cynllun pêl-droed yn y gymuned yn gymorth i ddennu chwaraewyr o safon i’r Traeth.

There are rumours that Porthmadog are about to sign two new players. It is possible that a chance of a job with the football in the comunity scheme will help to attract quality players to the Traeth.

20/3/99
Y Brodyr Pehrsson yn gadael. / The brother’s Pehrsson leave
Bydd yr efeilliaid o Swedn, Matts a Matias Pehrsson yn chwarae ei gem olaf dros y clwb dydd sadwrn nesaf i ffwrdd yn ebyn Brymbo Brychdyn. Byddant wedyn yn dychwelyd ar ddydd Llun i Swedn ar gyfer y tymor newydd yno sydd yn cael ei chwarae yn ystod yr haf.

The twins from Sweden, Matts and Matias Pehrsson will be playing their last game for the club next Saturday away against Brymbo Braughton. They will then return on Monday to Sweden to prepare for the new season over there which takes place over the summer.

20/3/99
Hawkins yn Ymddiheuro. / Hawkins makes an apology
Gwnaeth colin Hawkins ymddiheuriad ddoe yn y rhaglen ar gyfer y gem yn erbyn Dinbych am sylwadau a ymddangosodd o dan ei enw yn y ‘Daily Post’. Roedd y dyfyniad ganddo yn dweud ei fod yn edrych ymlaen am ddiwedd y tymor, a bod dim gan y clwb i chwarae am. Dywedodd bod y sylwadau hyn wedi cael ei cymryd allan o’u cyd-destyn, a mae ei bwynt oedd bod chwaraewyr ar yr ymylon a chwaraewyr ifanc yn mynd i gael cyfle rwan gan nad oedd dim yw chwarae am.

Colin Hawkins apologised in yesterday’s match programme for the game against Denbigh about comments that were attributed to him in the ‘Daily Post’. The quote said that the sooner the season would be over the better as they had nothing to play for. He said that these remarks had been taken out of context, and that his point was that he would give fringe players and youngsters a chance as there was nothing to play for.

3/3/99
Pêl-droed yn Gymuned yn ymestyn i Rhyl/ Football in the community extends to Rhyl.
Cafoedd ei gyhoeddi heddiw ar 'Wales Today' fod Port wedi dod i gytundeb efo Cyngor Dinbych i ymestyn y cynllun 'Pel Droed yn y Gymuned', sydd eisioes wedi bod yn llwyddiannus ym Mhorthmadog a Bangor yno. Y gobaith yw y bydd y cynnllyn, sydd yn dysgu pobl ddi-waith i ddod yn hyfforddwyr pel-droed, yn cael ei sefydlu yn y Rhyl yn y dyfodol agos.

It was anounced today on 'Wales Today' that Port have come to an agreement with Denbyshire Council to extend the 'Football in the Community' scheme, which has already proved very succesfull in Porthmadog and Bangor. The hope is that the scheme, which teaches young un-employed people to become football coaches, will be established in Rhyl in the near future.

28/2/99
Llygaid barcud yr Hawk yn darganfod 2 chwaraewr newydd. / Hawk's Eagle eyes spots 2 new prospects.
Yn ystod ei ddydd Sadwrn rhydd yr wythnos diwethaf, achubodd Colin Hawkins ar y cyfle i fynd i chwylio am dalent newydd. Profodd ei daith yn llwyddiannus wrth iddo ddod o hyd i ddau chwaraewr newydd - ymosodwr a chwaraewr cannol cae, ac mae'n gobeithio y bydd yn gallu eu harwyddo yn ystod yr wythnos nesaf. Gan na fydd Port yn cael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor, y gobeithio yw y byddant yn gallu rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc rhwng nawr a diwedd y tymor.

During his free Saturday last week, manager Colin Hawkins took the opportunity to go in search of new talent. His search proved to be fruitfull as he found two promising players - a midfeilder and a striker, which he hopes to sign before the end of next week. As Port will not be promoted at the end of the season, the hope is that they will be able to test out young players between now and the end of the season.

11/2/99
Cyhuddiad arall i Colin. / The 'Hawk' is charged again.
Mae Colin Hawkins wedi cael ei gyhuddo unwaith eto o ddod a'r gem i anfri ar ol sylwadau a wnaethwyd ganddo mewn rhaglen yn gynharach yn y tymor. Mae Colin eisioes wedi cael dirwy o £100 am sylwadau a wnaeth yn rhaglen gyntaf y tymor. Mae'n bosib rwan y bydd Hawkins yn gorfod talu dirwy o £400 a gafodd ei ddal yn ol yn dilyn ei sylwadau cyntaf.

Colin Hawkins has been charged once again with bringing the game into distripute after comments made by him in the club's programme earlier in the season. The 'Hawk' has already been fined £100 for comments made by him in the first programme of the season. It is possible that he will now be made to pay the other £400 that was suspended after the first ofence.

8/2/99
Dim Esgyniad / No Promotion
Ni fydd Port yn esgyn i Gynghrair Cymru hyd yn oed os byddant yn ennill y gynghrair undebol. Nid yw'r Traeth ar hyn o bryd yn cyrraedd y gofynnion angenrheidiol er mwyn derbyn mynediad i'r gynghrair genedlaethol gan nad oes, ymysg pethau eraill digon o seddau yn yr eisteddle. Y gobaith yw y bydd y flwyddyn ychwanegol yn y Cymru Alliance yn rhoi digon o amser i'r grantiau sydd eu angen i wellau'r cyfleusterau gael eu rhoi mewn lle.

Port will not gain promotion into the League of Wales even if they win the Cymru Alliance. The Traeth does not currently reach the necessary criterea to play in the national league as there is, amongst other things, not enough seats in the ground. The hope is that the extra year in the alliance league will give them enough time to put in place the grants needed to improve the facilities.

30/1/99
Digwyddiadau’r Dydd / The day’s Events
Er ei bod yn edrych bod gobeithion Port o esgyn i’r Gynghrair Genedlaethol wedi pylu yn ddiweddar aeth dau ganlyniad o’i plaid heddiw wrth i Flexis Cefn Druis a Glantraeth golli. Collodd Glantraeth o 3-1 yn erbyn ei prif elynion Bae Cemaes, tra collodd Cefn yn anisgwyl iawn o’r un sgor wrth deithio i Rhythun sydd ar y pen anghywir i’r gynghrair.

Despite the fact that it looks increasingly unlikely that Port will gain promotion back into the League of Wales at the end of the season, two results went very much in their favour today as both Glantraeth and Flexis Cefn Druids suffered defeats. Glantraeth lost by 3-1 to their neighbours from Cemaes Bay, while Cefn very surprisingly lost from the same scoreline as they travelled to Rhuthin who are on the wrong end of the table.

30/1/99
Pêldroed yn y Gymuned / Football in the Community
Mae’r cynllun pêldroed yn y gymuned sydd yn cael ei redeg gan Paul Osahan yn mynd i ehangu yn fuan i gynnal cyrsiau ym Mangor. Bydd y cynllun yn cael ei redeg mewn cydweithrediad a chlwb rygbi Bangor sydd a diddordeb mewn dechrau cyrsiau tebyg mewn rygbi. Eisioes mae 10 o bobl wedi dangos diddordeb mwn ymuno a’r cynllun hwn. Mae hyn yn ychwanegol i’r deunaw sydd eisioes yn cymryd rhan yn y cynllun ym Mhorthmadog. Mae cynlluniau ar waith hefyd i ehangu i gynnig cyrsiau yn aberystwyth a Rhyl.

The football in the community project ran by Paul Osahan will expand shortly to offer courses to people in Bangor. The scheme will be ran in association with Bangor rugby club who are also interested in offering similar courses in Rugby. 10 people have already shown interest in joining this scheme. This is on top of the 19 who are already taking part in the courses offered at Porthmadog. There are also plans to expand the scheme further by offering courses in both Aberystwyth and Rhyl.

30/1/99
Chwaraewr Newydd / New signing
Mae Port wedi arwyddo Jason Hardy sydd yn dod o ardal Manceinion er mwyn cryfhau’r garfan. Mae Jason yn amddiffynnwr chwith sydd hefyd efo profiad mewn chwarae yng nghannol cae. Daeth i gysylltiad a Port trwy Paul Osahan, arweinydd y cynllun Pêldroed yn y gymuned.

Port have signed Jason Hardy, who is from the Manchester area to strengthen their squad. Jason is a left sided defender who also has experience in playing in Midfeild positions. He came in touch with Port through Paul Osahan, the leader of the Football in the Community scheme.

23/1/99
Hawkins yn cael ei Yrru i Ffwrdd / Hawkins Sent Off
Cafodd Colin Hawkins ei yrru i’r eisteddle gan y dyfarnwr yn y gem heddiw rhwng Port a Fflint ar ol cegau ar y dyfarnwr. Dangosodd Hawkins yn glir ei fod yn anhapus gyda nifer o’i benderfyniadau yn ystod y prynhawn. Mae’n bosib y bydd yn cael ei dirwyo am ei ymddygiad.

Colin Hawkins was sent to sit in the stand by the referee during today’s game between Port and Flint after complaining continuously. Hawkins was clearly unhappy with many of the decisions and made this clear to the ref. It is possible that he will now be fined for his behaviour.

17/1/99
Ocsiwn / Auction.
Bydd Ocsiwn yn cael ei gynnal i godi arian i'r clwb nos Iau nesaf (Ionawr 21) yn Neuadd y Lleng Brydeinig ym Mhorthmadog. Ymysg yr eitemau fydd yn cael ei gwerthu bydd y sgidiau a wisgodd Craig Bellamy pan sgoriodd y gol i Gymru i guro Denmarc flwyddyn dwythaf. Hefyd crysau rygbi Llanelli a Caerdydd wedi cael ei harwyddo, yn ogystal a hyn bydd yn CD's wedi ei arwyddo gan Bryn Terfel.

An auction to raise money for the club will be held in the British Legion Hall in Porthmadog next Thursday Night (January 21). Amongst the items going under the hammer will be the boots that Craig Bellamy wore when he scored that goal for Wales to beat Denmark last year. Also signed Cardiff and Llanelli rugby shirts are up for grabs, aswell as CD's signed by Bryn Terfel.

17/1/99
Chwaraewr Newydd / New Signing
Mae Port wedi arwyddo chwaraewr newydd er mwyn cryfhau'r garfan. Arwyddwyd Darren Thomas o Gaergybi, sydd yn amddiffynwr, yr wythnos dwythaf. Daeth ymlaen fel eilydd ddoe yn y gem yn beryn Rhuthin.

Port have signed a new player to strengthen their squad. Darren Thomas was signed from Holyhead last week and is a defender. He came on as sub during yesturday's match against Rhuthin Town.

5/1/99
Lightning DOES strike twice!
Ymddiheuriadau am yr oedi diweddar yn y gwasanaeth. Y rheswm yw fod ein cyfrifiadur wedi cael ei ddifrodi gan fellten - am yr ail flwyddyn yn olynol.

Appologies for the recent delay in service. The reason for this if that our computer has been damaged by a lightning strike - for the second year running.

5/1/99
Foster a Roberts yn gadael / Foster and Roberts leave
Cadarnhawyd heddiw fod Mike Foster, cefnwr chwith Port, wedi gadael y clwb i ymuno a Aberystwyth am £1000. Bydd ymadawiad Foster yn golled fawr i'r clwb - ef yw'r unig chwaraewr presennol sydd wedi bod gyda Port ers y tymor cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol.
Yn ogystal a Foster, mae'r blaenwr ifanc, Paul Roberts hefyd wedi gadael i ymuno a Bangor. Bydd Roberts hefyd yn gadael ei swydd lawn amser gyda'r 'Pel-droed yn y Gymuned', a gobeithia'r clwb gael olynudd iddo'n fuan.

It was confirmed today that Mike Foster, Port's left back, had joined Aberystwyth for a fee of £1000. Foster's departure will be a big loss for the club - he is the only player who is ever pressent since the first season in the League of Wales.
As well as Foster, the young striker, Paul Roberts has also left, to join Bangor City. Roberts will also leave his work as a full time 'Football in the Community' officer, and the club hopes to name his replacement as soon as possible.

19/12/98
Aber â diddordeb yn Paul Roberts / Aber show an interest in Paul Roberts
Mae Aberystwyth wedi rhoi rhybydd 7 diwrnod i Port eu bod am siarad efo’r blaenwr Paul Roberts. Mae gan Aber broblem gyda ymosodwyr gan fod Gavin Allen a Ryan Nichols wedi eu hanafu. Roedd Meirion Appleton (rheolwr Aber) yn Mostyn y penwythnos diwethaf i weld Paul yn chwarae. Ar hyn o bryd mae Paul yn llawn amser gyda Port, felly nid oes sicrwydd y bydd arian Safeway yn ddigon i’w ddarbwyllo i symud i’r de.

Aberystwyth have given Port a 7 day notice that they intend to speak to striker Paul Roberts. Aber presently have a striker crisis, with both Gavin Allen and Ryan Nichols out injured. Meirion Appleton (the Aber manager) was at Mostyn last weekend to watch Paul play. Presently Paul is a full time professional with Port, so there is no certainty that the Safeway money will be enough to lure him southwards.

4/12/98
Parry'n Gadael /Parry Leaves
Mae amddiffynwr Porthmadog, James Parry wedi dychwelyd iw hen glwb Holyhead Hotspur. Er, nad yw James wedi chwarae llawer i Port ers iddo ymuno ar ddechrau'r tymor, bydd ymadawiad chwaraewr mor addawol yn golled fawr.

Porthmadog defender, James Parry has returned to his old club, Holyhead Hotspur. Despite the fact that James has not apeared very often for Port, it will be a great loss for the club to lose such a promising player.

28/11/98
Dirwy i’r ‘Hawk’ / The ‘Hawk’ Fined
Fe ymddangosodd Colin Hawkins a Golygydd y Rhaglen, Gerallt Owen, o flaen gwrandawiad o’r Gymdeithas Bel-Droed yn Llandudno neithiwr, mewn cysylltiad a sylwadau a wnaed gan y ddau yn rhaglen Port (gêm Cefn Druids - 22/8/98). Rhoddwyd dirwy o £500 i Hawkins, ond cafodd £400 ei ohirio. Derbynniodd Gerallt Owen gerydd gan y Gymdeithas am y sylwadau a wnaethwyd ganddo.

Colin Hawkins and Programme Editor, Gerallt Owen both faced a Football Association of Wales hearing in Llandudno last night concerning comments made in the Porthmadog match programme (against Cefn Druids - 22/8/98). Hawkins was given a £500 fine, £400 of which is suspended, while Gerallt Owen was reprimanded by the FAW for his comments.

28/11/98
Humphries yn ol i Gemaes / Humphries returns to Cemaes
Mae chwaraewr canol cae Porthmadog - Steve Humphries, wedi gadael y Traeth i symyd yn ol i'w gyn glwb - Bae Cemaes. Nid oedd Humphries yn nhim Colin Hawkins yn gyson y tymor hwn, gan mai ei fod wedi arwyddo i Gaernarfon yn ogystal, ac felly nid oedd ar gael yn aml.

Porthmadog's midfielder - Steve Humphries, has left the Traeth to rejoin his former club - Cemaes Bay. Humphries hasn't been a regular starter in Colin Hawkins' side as he is also signed for Caernarfon, and was often unavailable.

22/11/98
Hawkins ac Owen o flaen eu 'gwell' / Hawkins and Owen face the FAW
Dydd Gwener nesaf, yn Llandudno, bydd Colin Hawkins a Gerallt Owen (ysgrifennydd y clwb) yn gorfod gwynebu yr FAW ynglun a sylwadau honedig a wnaed yn rhaglen y clwb. Gallwch ddarllen y sylwadau gan Hawkins yn y rhan 'Erthyglau / Articles'.

Next Friday, in Llandudno, Colin Hawkins a Gerallt Owen (the club secretary) will have to face the FAW to answer charges that they brought the game into dissrepute in an article in the club's programme. You can read Hawkins' comments in the 'Erthyglau / Articles' section.

17/11/98
Port ar 'Gol' / Port on 'Gol'
Mae gem gyfeillgar, rhwng Port a Llanfairpwll (17/11/98 - 7:30pm), wedi cael ei threfnu er mwyn i'r ddau chwaraewr o Swedn gael ymarfer, ac hefyd fel bod rhaglen deledu 'Gol' yn gallu cael lluniau ar gyfer eu rhaglen bnawn Sul. Bydd eitem ar 'bel-droed yn y gymdeithas' yn ogystal a'r efeilliaid o Sweden i'w gweld ar Gol Sul nesaf.

A friendly match, between Port and Llanfairpwll (17/11/98 - 7:30pm), has been aranged so that the two Swedish players are able to get some match practice, and also for the 'Gol' television programme to film for their Sunday afternoon programme. An item on the 'football in the community' as well as the Swedish twins can be seen on Gol next Sunday.

11/11/98
Dysgu gyda Port! / Learn with Port!
Ynghyd a'r cynllun 'Pel Droed yn y Gymuned' mae Port yn cynnig cyrsiau i unrhywun sydd a diddrdeb mewn pel-droed. Gellir ennill cymhwyster Arweinydd Peldroed (Football Leader) drwy gymryd rhan yn y cwrs. Hefyd, Trwydded Hyfforddi ' C ' EUFA, a fydd yn galluogi rhywun i hyfforddi chwaraewyr ar draws y byd. Cymhwyster arall yw'r NVQ 2 mewn Chwaraeon a Hamdden, sy'n cael ei dderbyn mewn amryw o feusydd tu allan i'r byd pel-droed.

Alongside the 'Football in the Comunity' scheme, Port now offer courses to anyon wit han interest in football. Football Leader qualification can be gained by taking part in the course. Also EUFA 'C' coaching certificate, which would allow someone to coach anywhere in thee world. Another qualification that can be gained is the NVQ 2 in Sports and Leasure.

11/11/98
Chwaraewyr Newydd o Sweden. / New Signings from Sweden
Mae Port wedi arwyddo dau efaill, Matts Pethersen (o Hertzoga BK - adran 1af) a Mattheus Pethersen (o Kil AIK - 3ydd adran) o Sweden er mwyn cryfhau'r tim. Ymddangosodd y ddau mewn gem gyfeillgar a chwaraewyd tu ol i ddrysau caedig yn erbyn Biwmaris, ag fe sgoriodd un ohonnynt 4 gol, wrth i Port ennill o 6 gol i ddim. Mae'r ddau yn aros am ganiatad rhyngwladol felly ni fyddant ar gael i chwarae yn erbyn Buckley Dydd Sadwrn.

Port have signed twins, Matts Pethersen (from Hertzoga BK - division 1) and Mattheus (form Kil AIK - division 3) from Sweden in an effort to strengthen the side. Both players appered for Port in a friendly played behind closed doors against Beaumaris. One of them scored 4 as Port went on to win by 6 goals to nill. The pair are awaiting international clerance and will therefore be unavailable for Saturday's match against Buckley.

1/11/98
Safle Port y gorau ar y we?! / Port site best on web?!
Mae tudalen we CDP Porthmadog yn falch iawn i dderbyn gwobr "y Ddraig Aur" yn y categori chwaraeon. Yn ol Cyber Cymru, mae'r wobyr yn cael ei rhoi i "safleoedd dwyieithog sydd yn arbennig o dda, fel arfer safleoedd cwmnïau neu gymdeithasoedd ydyn nhw, ac yn wasanaeth mawr i'r gymuned Gymreig."

The CPD Porthmadog web-site is proud to receive the "Golden Dragon" award in the sports category. According to Cyber Cymru, the award is given to "bilingual (Welsh & English) sites of particular note, usually they are the sites of companies or social organizations, and a great service to the Welsh community."

24/10/98
Trefyclawdd yn gadael y gynghrair / Knighton withdaw from league
Cafodd gem Porthmadog heddiw ei gohirio - nid o achos y tywydd drwg, ond am fod y gwethwynebwyr - Trefyclawdd - wedi gorfod tynny allan o'r gynghrair. Daeth y clwb i'r penderfyniad yma oherwydd trafferthion i gael tim o safon i chwarae. Mae clwyed fod tim yn cau i lawr yn ddigalon iawn i holl gefnogwyr pel-droed.

Porthmadog's match today was cancled- not due to the bad weather, but due to the fact that their opponents - Knighton - had withdrawn from the league. The club came to this decision because they had trouble in getting enough good players to play for them. It is always sad news to football supporters when a club closes down.

17/10/98
Amheuaeth ynglyn a Foster / Uncertainty surrounds Foster
Mae amheuaeth os fydd Mike Foster bellach yn gadael Port i arwyddo dros Aberystwyth. Mae'n debyg fod gan Aber drafferthion yn cael digon o arian i dalu am Foster. Yn ol Colin Hawkins, roedd y ddau glwb wedi cytuno ar yr arian, ond bellach mae'n debyg fod Aber am ohirio'r symud am gyfnod.

Uncertainty surrounds the transfer of Mike Foster from Port to Aberystwyth. It seems that Aber have monetary difficulties, and are un able to meet the transfer fee. According to Colin Hawkins, the two clubs had agreed a fee, but it now seems that Aber want to put the transfer 'on hold'.

10/10/98
Olly Hall’n symud i Loegr? / Olly Hall to move to England?
Mae Oliver Hall, sydd wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Port y tymor yma, yn mynd i gael treial gyda un o glybiau Cynghrair Nationwide yn Lloegr. Nid yw enw’r tim wedi ei ddatgelu eto.

Oliver Hall, who has been one of Port’s best players this season, is to have a trial with a Nationwide League club in England. The club’s name hasn’t be revealed yet, but Hawkins says
"Oliver Hall has been the subject of an inquiry by a full time club and may play in their reserve side this week,"

10/10/98
Pres am Foster / Fee for Foster
Yn ôl Colin Hawkins yn y Chronicle roedd yn rhaid iddo adael i Mike Foster symyd i Aberystwyth gan fod Aber yn cynig cymaint o arian. Gallai Foster fod wedi gadael am ddim pan fyddai ei gytundeb wedi dod i ben, felly roedd rhaid i Port gymryd yr arian. Er fod telerau personol wedi cael eu cytuno, a’r ddau glwb wedi cytuno, mae ychydig o faterion eraill i’w setlo cyn i’r symudiad gael ei gadarnhau.

According to Colin Hawkins in the Chronicle he had to let Mike Foster leave for Aberystwyth as they were offering so much money.
"We are currently in a transitional period, and the fact of the matter is that the club could not afford to lose the kind of money being offered for Mike,"
Foster could have left for nothing once his contract was up, so Port had to take the money:
"Mike could walk out of the Traeth under the Brosnan ruling at the end of his contract and there is nothing we could do about it." There are still contractual discussions to be finalised, but the clubs have agreed, and the Foster has agreed personal terms with Aberystwyth.

4/10/98
Foster i adael? / Mike Foster to leave?
Mae'n edrych yn debygol y bydd Mike Foster yn gadael Port i ymuno gyda Aberystwyth. Foster, sydd yn amddiffynwr, yw yr unig chwaraewr i chwarae i Port yr holl amser ers iddynt ddechrau yng Nghynghrair Cymru. Cafodd ei weld yn gem Aberystwyth ddydd Sadwrn ac yn ol y son mae wedi arwyddo iddynt. Nid oes son os bydd Port yn cael arian amdano - mae Foster ar gytundeb ar y Traeth.

It looks likely that Mike Foster will leave Port to join Aberystwyth. Foster, who plays in defence, is the only player to have stayed with Port ever since their first season in the League of Wales. He was spotted in Aberystwyth's game on Saturday, and according to the gossip he has signed for them. It is not known if Port will receive any money for him - Foster is under contract at y Traeth.

1/10/98
Thomas junior wedi mynd / Thomas junior leaves
Mae Aaron Thomas, mab Mickey y cyn chwaraewr cenedlaethol, sydd wedi dangos addewid wrth chwarae ychydig gemau i Port, wedi arwyddo i Aberystwyth. Bydd hyn yn siom fawr i'r tim gan fod gobaith i Aaron fod y Paul Roberts newydd.

Aaron Thomas, son of former Welsh international Mickey, who has shown much promise in his apearances for Port, has signed for Aberystwyth. This will be a huge dissapointment for the team, as it was hoped that he would become the new Paul Roberts.

19/9/98
Hawkins a Owen i ymladd y cyhuddiadau / Hawkins and Owen to fight the charges
Mae Colin Hawkins a Gerallt Owen wedi dweud eu yn barod i ymladd y cyhuddiadau o ddod a anfri ar gem. Yn ôl y Western Mail mae Colin Hawkins wedi dweud mewn llythyr i’r gymdeithas Bêl Droed "I believe shambolic is a fair description of the present situation, and therefore I have no charges to answer." Gwadodd Gerallt Owen , golygydd y rhaglen, mai fo oedd wedi ysgrifennu y sylwadau, ac felly nad oedd unrhyw achos iw ymateb.

Colin Hawkins and Gerallt Owen have said that they are ready to fight the charges of bringing the game into distribute. The Western Mail have quoted Hawkins as saying, in a letter written to the Football Association, "I believe shambolic is a fair description of the present situation, and therefore I have no charges to answer". Gerallt Owen, the programme editor, denied that he had written the article, and that there is therefore no case to answer.

18/9/98
Chwaraewr Tramor Arall / Another Foreign Player
Mae Port wedi arwyddo Jimmy Larue, sydd yn dod o’r Unol Daliaethau ar ôl iddo gael treial llwyddiannus yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Rhyl yn gynharach yr wythnos hon. Daeth Larue, sydd yn 24 oed, i Gymru i chwilio am ei wreiddiau yn ardal Blaenau Ffestiniog. Mae’r chwaraewr wedi dod i gysylltiad â’r clwb trwy Paul Osahan, rheolwr y cynllun ‘Pêldroed yn y Gymuned’, a fuodd yn hyfforddi am gyfnod yn yr Unol Daliaethau.

Port have signed Jimmy Larue, who comes from the United States following his successful trial in the friendly against Rhyl earlier on this week. Larue, who is 24 came to Wales to search for his ancestry in the Blaenau Ffestiniog area. His link with the club came about through Paul Osahan, the manager of the ‘Football in the Community’ scheme, who had a spell as a coach in the United States.

14/9/98
Thomas junior wedi mynd? / Thomas junior leaves?
Mae'n bosib bod Aran Thomas, mab Mickey, wedi gadael Port. Yn ôl y sôn fe sgoriodd i eilyddion Llandudno dros y penwythnos. Nid yw wedi chwarae i Port ers dod ymlaen fel eilydd yn erbyn Dimbych, a byddai'n golled fawr os byddai'n gadael.

It is possible that Aran Thomas, sun of Mickey, has left Port. Apparently he scored for Llandudno reserves over the weekend. He hasn't played for Port since coming on as a substitute against Denbeigh, and it would be a great loss if he were to leve.

9/9/98
Dechrau i’r Eilyddion Newydd / Start for New Reserves
Mae wedi cael ei gadarnhau y bydd eilyddion Port yn cael eu hadfer i chwarae yng Nghynghrair Caernarfon a’r ardal. Y gobaith yw y bydd lle i chwaraewyr ifanc addawol, ynghyd a chwaraewyr mwy profiadol sydd am dorri i mewn i’r tim cyntaf, yn yr eilyddion newydd. Bydd y tim yn cael ei reoli gan Paul Osohan a John Williams sydd yn dychwelyd i’r clwb.

It has been confirmed that Port reserves have reformed to play in the Caernarfon and District league. The hope is that there will be places for promising young players, as well as more experienced players on the fringe of the first team, in the new reserves. The team will be managed jointly by Paul Osohan and John Williams who returns to the club.

9/9/98
Hawkins yn gwilltio’r FAW / Hawkins angers the FAW
Mae Cymdeithas bêl-droed Cymru wedi cyhuddo rheolwr Port - Colin Hawkins - o ddwyn anfri ar y gêm yn dilyn sylwadau a wnaed yn rhaglen y clwb (gêm Cefn Druids - 22/8/98). Galwodd Hawkins yr FAW yn "shambolic" am y ffordd y cafodd mater diarddel Glyn Ebwy ei drin.

The Football Association of Wales has charged Port manager - Colin Hawkins - with bringing the game into disrepute following comments he made in the club programme (Cefn Druids game - 22/8/98). Hawkins called the FAW "shambolic" for the way they dealt with the expulsion of Ebbw Vale.

29/8/98
Chwaraewr Cenedlaethol yn arwyddo / International player signs
Yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Dimbych heddiw cafodd chwaraewr cenedlaethol Nigeria - Emmy Ernesto ei gêm gyntaf i Port. Mae Emmy wedi chwarae 47 gwaith i Nigeria gan gynnwys yn ystod cwpan y Byd 1994 yn yr UDA.
Yn ogystal a’r chwaraewr newydd yma, mae’n bosibl y bydd Kenny Dixon a Jason Joyce yn dychwelyd i’r Traeth yn ystod dyddiau nesaf. Er mwyn cael lle i’r garfan fawr mae gobaith y bydd ail dim yn cael ei sefydlu i chwarae yng nhynghrair Caernarfon a’r ardal y tymor hwn.

In today’s 1-1 draw against Denbigh Town Nigerian international - Emmy played his first game for Port. Emmy Ernesto has played 47 times for Nigeria, including playing in the 1994 World Cup in the USA.
As well as this new signing, it is possible that Kenny Dixon and Jason Joyce will return to the Traeth in the next few days. To accommodate this large squad it is hoped that a new second team will be set up to play in the Caernarfon and District league this season.

27/8/98
Bangor yn Gynddeiriog / Bangor’s Bombshell
Daeth y newyddion fod Paul Roberts wedi gadael Bangor er mwyn dychwelyd i Port mewn cytundeb llawn-amser fel ergyd annisgwyl i Bangor wrth i’r clwb baratoi am eu gêm yng Nghwpan Ennillwyr y Cwpannau yn erbyn Haka o’r Findir. Yn ôl King roedd Roberts, yn ran bwysig iawn o’i gynlluniau wrth i Bangor geisio gwir-droi y ddwy gôl o fantais sydd gan y tim o Ffindir ar ôl y cymal cyntaf. Mae ysgrifennydd Bangor, Alun Griffiths, yn archwylio y mater cyn penderfynnu os yw’r clwb yn mynd i gymryd unrhyw gamau pellach. Yn ôl Port mae pob dim yn iawn gan fod Paul wedi arwyddo i’r ddau glwb o dan reolau dau glwb yr FAW.

The news that Paul Roberts was to leave Bangor to re-join Port as part of a full-time contract has came as a Bombshell to Bangor as they prepare to try and overturn Finnish club, F.C. Haka’s two-nil advantage from the first leg of their Cup Winners Cup tie. Their Manager, John King said "The news was a bombshell, Roberts gave no indication to me or the club and was very much a part of my plans." Bangor City’s secretary, Alun Griffiths is investigating the situation to decide if it is necessary for the club to take further action. According to Port everything is above board as Paul has signed for both clubs under the FAW’s two club rule.

25/8/98
Paul yn dychwelyd / Roberts returns
Heddiw cafwyd y newydd syfrdanol fod Paul Roberts am ddychwelyd i’r Traeth - fel chwaraewr-hyfforddwr llawn amser! Mae Paul, a adawodd Port bron i ddwy flynedd yn ôl i Wrecsam am £10,000, yn dychwelyd i’r Traeth o Fangor ar ôl iddo ond chwarae llond dwrn o gemau cyfeillgar i’r ‘Citizens’. Bydd Paul yn cynorthwyo Paul Osahan fel hyfforddwr ar gyfer cynllun "Pêl-droed yn y gymuned" y clwb.

The shock news came today that Paul Roberts is to return to the Traeth - as a full time player-coach! Paul, who left Port for Wrexham nearly two years ago for £10,000, returns to the Traeth from Bangor after playing only a hand-full of friendlies for the ‘Citizens’. Paul will asist Paul Osahan as trainer in the club’s "Football in the community" project.

22/8/98
Cymru Alliance amdani / Port settle for Alliance
Daeth cadarnhad heddiw mai yn y Cymru Alliance y bydd Port yn chwarae ynddo y tymor i ddod. Chwaraewyd y gêm gyntaf gartref yn erbyn Flexys Cefn Druids, a’r canlyniad oedd 0-0. Nid yw’r clwb yn hapus â’r sefyllfa, ond roedd rhaid dewis chwarae yn y gynghrair is, neu bo mew peryg o beidio gael unrhyw le i chwaear y tymor hwn.

Confirmation came today that Port will play this season in the Cymru Alliance league. In their first game, against Flexys Cefn Druids, where the result was 0-0. The club is not happy at all with the situation; secretary Gerallt Owen said
"The whole ridiculous situation has been purposely drawn out by the FAW knowing they would win the war of attrition."
Manager Colin Hawkins said "What a mess and who is to blame?..... There is only one answer - the shambolic FAW who have failed to administrate Welsh football properly".

20/8/98
Dim troi ‘nôl i Port / D-Day to Port
Heddiw mae’n rhaid i Port benderfynnu pa gynghrair y maent yn mynd i ymuno a y tymor nesaf. Mae John Dekin wedi dweud nad yw’n gallu sicrhau y bydd lle i Port yng Nghyngrair Cymru, gan ei bod yn dal yn bosib y bydd y penderfyniad i ddiarddel Glyn Ebwy yn cael ei wyrdroi. Ond, mae ysgrifennydd gemau Porthmadog, Meirion Parry, yn ofni y bydd penderfynnu yn rhy fuan i ymuno a’r ‘Cymru Alliance’ yn golygu na fydd yn bosib cymryd lle Glyn Ebwy hyd yn oed os bydd y penderfynniad yn sefyll. Mae Cefn Druids, sydd fod i chwarae yn erbyn Port ar ddydd Sadwrn yn y ‘Cymru Alliance’, yn aros am y penderfyniad er mwyn gwybod os oes angen iddynt drefnu cludiant.

Port have to decide today what league they will join for the forthcoming season. John Deakin has said that he can give the club no guarantees that there will be a place for them in the League of Wales as it is still possible that the decision to expel Ebbw Vale from the league will be over-turned. But Meirion Parry, Porthmadog’s fixture secretary fears that deciding to early to join the ‘Cymru Alliance’ will mean that it will not be possible to take Ebbw Vale’s place even if their expulsion stands. Cefn Druids, who are supposed to play Port in the ‘Cymru Alliance’ on Saturday await the decision as they want to know if plans for travel to the match are necessary.

10/8/98
Cyfarfod pwysig / Important meeting
Yfory (dydd Mawrth) bydd cyfarfod rhwng cynghrair Cymru a’u cyfreithwyr yn cael ei gynal i drafod oblygiadau diarddel Glyn Ebwy a brwydr Porthmadog I gymryd eu lle.

Tomorrow (Tuesday) a meeting will be held between the League of Wales and their lawyers to discuss the implications of Ebbw Vale’s expulsion and Porthmadog’s battle to replace them.

9/8/98
Goglgeidwad newydd??!! / New Keeper??!!
Roedd chwaraewr newydd yn y gôl i Borthmadog wrth iddynt golli o 4-1 yn erbyn Aberystwyth ddoe. Ond nid oedd y golgeidwad yn rhy anhapus i ildio cymaint o goliau gan mai Stewart Kinninmonth - cyn olgeidwad Aberystwyth - oedd yn chwarae! Roedd Kinninmonth wedi gorfod chwarae am fod golwr Port, Kenny Dixon, wedi methu cyrraedd y gêm oherwydd gwaith. Ni dylid felly darllen gormod i mewn i’r canlyniad yma!

A new player was in goal for Porthmadog during their 4-1 defeat at the hands of Aberystwyth yesterday. But this keeper was not too disappointed to concede so many goals as the player in question was Stewart Kinninmonth - the former Aberystwyth goalkeeper! Kinninmonth was forced to play as Port goalie, Kenny Dixon, was unable to get to the game due to work. The result should therefore be taken with a pinch of salt!

7/8/98
Glyn Ebwy allan / Ebbw Vale out
Mewn cyfarfod o glybiau Cynghrair Cymru neithiwr, cafodd Glyn Ebwy eu lluchio allan o’r gynghrair. Canlyniad y bleidlais gudd oedd 13 yn erbyn Glyn Ebwy, 2 o’u plaid a 2 yn ymatal eu pleidlais. Mae’n bosibl y bydd y clwb yn cymryd camau cyfreithiol i geisio adennill eu safle. Bydd Port yn gobeithio cael cymryd eu lle - er fod John Deakin yn dweud fod hyn yn anhebygol.

In a meeting of League of Wales last night, Ebbw Vale were thrown out of the league. The secret ballot’s result as 13 against Ebbw Vale, 2 in their favour and 2 abstentions. It is possible that the club will now take legal steps to try to regain their place. Porthmadog will hope to take their place - even though John Deakin has said that this is unlikely.

25/7/98
Ymosodwyr newydd / New strikers
Mae Port wdi rhoi gêmau cyfeillgar i ymosodwyr newydd wrth iddynt geisio canfod y gôliau a oedd mor brin y tymor diwethaf. Mae Stephen Humphreys (gynt gyda Bangor) wedi chwarae, gan sgorio dwy gôl, ond nid yw wedi arwyddo eto. Yn ogystal, mae Steven Pugh a Martin Hines wedi dychwelyd gan sgorio dwy yr un yn ogystal.

Port have given friendly games to new striker as they continue to search for the goals which were so scarce last season. Stephen Humphreys (previously with Bangor) has played, scoring two goals, but he has not signed yet. As well as this, Steven Pugh and Martin Hines have returned, both scoring two goals each.

25/7/98
Y Cyfle Olaf? / The last chance?
O’r diwedd mae Port wedi llwyddo i gasglu digon o gefnogaeth gan y clybiau i alw cyfarfod brys o’r Gymdeithas Bêl-droed. Bellach mae 25 o glybiau wedi cefnogi Port, a bydd galw ar yr LoW i newid eu penderfyniad i yrru 4 tim i lawr y tymor diwethaf. Yn ogystal a hyn, byddant yn gobeithio y bydd y cyfarfod yn penderfynnu y caiff Port gymryd lle Glyn Ebwy os bydd y tim o Flaenau Gwent yn cael eu diarddel o’r gynghrair.
Mae Colin Hawkins yn feirniadol iawn o’r gynghrair am eu penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer diarddel Glyn Ebwy. Hyn sydd i gyfri fod cymaint o ansicrwydd am bwy fydd yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor nesaf.

At last Port have collected enough support from the clubs to call an Extraordinary General Meeting of the Football Association. By now 25 clubs have supported Port, and there will be calls on the LoW to change their decision to relegate 4 teams last season. As well as this, they will hope that the meeting will decide that Port would take the place of Ebbw Vale should the team from Blaenau Gwent be thrown out of the league.
Colin Hawkins is very critical of the league for their decision to extend the deadline for expelling Ebbw Vale. This is the reason for the present uncertainty surrounding who will play in the League of Wales next season.

17/7/98
Ail gyfle? / Repreive?
Mae’n bosibl y bydd Porthmadog yn cael ail gyfle i adennill eu safle yn y gynghrair genedlaethol ar drael Glyn Ebwy. Gallai’r clwb o Went yn cael eu lluchio allan oherwydd eu trafferthion arianol. Caiff hyn ei benderfynnu mewn cyfarfod o glybiau y gynghrair - mae angen i ddau-draean o’r clybiau bleidleisio yn eu herbyn er mwyn i Glyn Ebwy gael eu lluchio allan.
Er hyn, mae amheuon wedi eu cael eu harddangos a fydd Port yn cael cymryd lle Glyn Ebwy. Dyweddodd John Deakin (ysgrifennydd y gynghrair) ei bod yn bosibl y byddai’r gynghrair yn parhau â 17 clwb yn unig.

It is possible that Porthmadog will have a second chance to regain their position in the League of Wales at the expense of Ebbw Vale. The Gwent club might be thrown out due to their financial difficulties. This will be decided in a meeting of the league clubs - two-thirds of the clubs would have to thrown against them for Ebbw Vale to be thrown out.
Even so, doubts have arisen as to whether Port will be allowed to take the place of Ebbw Vale. John Deakin (the league secretary) has said that the league might continue with only 17 clubs.

15/7/98
Chwaraewyr newydd? / New players?
Roedd amryw o chwaraewyr newydd yn cael eu gêm gyntaf i Port yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Bangor - ADRODDIAD. Olynydd posibl Kenny Dixon (os yw am adael) yw Phill Owen o Langefni a gafodd gêm addawol. Roedd dau ymosodwr newydd - Peat Thomas a Chris Barlow - ac amddifynnwr de - Dafydd Rowlands.
Ymysg y chwaraewyr a ddychwelodd ar ôl cyfnod o absenoldeb oedd Geraint ‘Siops’ Jones, sydd hefyd yn reolwr cynorthwyol, Campbell Harrison ar ôl cyfnod yn yr Eidal, a Neil Roberts yn dilyn gwella o annaf.

A number of new players were on display for Port against Bangor in the recent 2-2 draw - REPORT . A possible replacement for Kenny Dixon (if he is to leave) is Phil Owen from Llangefni who had a promising game. There were two new strikers - Peat Thomas a Chris Barlow - and a right fullback - Dafydd Rowlands.
Among the players who returned after a period of absence were Geraint ‘Siops’ Jones, who is also the assistant manager, Campbell Harrison after a period in Italy, and Neil Roberts following his recovery from injury.

13/7/98
Triniaeth Saynor. / Saynor Operation.
Mae Colin Saynor newydd dderbyn triniaeth ar ei goes. Os byddai Colin wedi cael y driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd, byddai’r rhestr aros wedi golygu bod yn rhaid iddo fod allan am y tymor cyfan. Felly, penderfynnodd Port dalu’r gost er mwyn iddo gael triniaeth breifat yr wythnos ddiwethaf. Bydd hyn yn golygu ei fod yn barod i ddychwelyd i chwarae i Port ar ddechrau tymor nesaf, ar ôl chwarae un gem yn unig i Gaernarfon.

Colin Saynor has just had an operation on his leg. If he would have had this operation on the National Health Service, due to the long waiting list he would have been ruled out for the whole of next season. So, Port decided to foot the bill so that he could receive a private operation last week. This means that he will be ready to return to play for Port at the start of next season, after playing only one game for Caernarfon .

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us