Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Osian yn galw am reol 'un chwaraewr, un clwb' /
Osian calls for 'one player, one club' rule.

Saesneg / English

Osian RobertsMae cyd-reolwr Porthmadog, Osian Roberts wedi galw am reol 'un chwaraewr, un clwb' yn Unwchgynghrair Cymru.

Mae Osian yn wyllt bod y chwaraewr canol cae Neil Thomas wedi ei wahardd am dair gêm ar ôl cael ei anfon o’r cae tra’n chwarae i Llanrug yn y Welsh Alliance.

"Mae hon yn golled fawr i ni" meddai. "Cafodd yr hogyn ei anfon i ffwrdd tra’n chwarae i glwb arall ond Port fydd yn gorfod talu’r pris.

"Mae o allan am dair gêm i Llanrug, ac mae hynny’n golygu y gallai ymestyn i chwech neu wyth o’n gemau ni."

Mae Roberts yn dweud bod y sefyllfa’n "hollol annerbynniol" a bod yn rhaid i’r Gymdeithas Bêl-droed weithredu.

"Mae o fel bod rhywun yn chwarae i Lerpwl un diwrnod ac wedyn yn troi allan i Celtic y diwrnod wedyn! " ychwanegodd.

"Byddai hyn ddim yn digwydd ar y lefel uchaf a dwi ddim yn gweld pam mai’n digwydd yn Uwch-gynghrair Cymru a chynghreiriau cysylltiedig."

Mae nifer o chwaraewyr y lefel uchaf hefyd yn ymddangos i dimau Cymru Alliance a Welsh Alliance a bu’n rhaid i Afan Lido dalu’n ddrud llynedd wedi iddynt golli triphwynt a syrthio o’r gynghrair, am roi gêm i Leigh Shrimpton oedd wedi cael ei anfon o’r cae mewn gêm cynghrair Sul.

Mae’r Gymdeithas hefyd mewn dadl gyda Cynghrair Caernarfon a’r Cylch sy’n gweithredu rheol 'un chwaraewr, un clwb' gan eu bod yn credu bod y rheol o fantais iddynt, ond yno mae’r rheol wedi gorfodi Caernarfon i dynnu allan o’r gynghrair dan-21.

O wefan welsh-premier.com

English

Osian RobertsPORTHMADOG joint manager Osian Roberts has called for a 'one-player, one-club' rule in the Welsh Premier.

Roberts is annoyed that midfielder Neil Thomas must serve a three-match ban after being sent off while playing for junior club Llanrug in the Welsh Alliance.

"This is a big loss for us," he said. "The lad was sent off playing for another club but we will bear the loss.

"He's out for three matches for Llanrug, and that means it could stretch to six or eight games for us."

Roberts says the situation is "totally unacceptable" and that the FAW must act.

"It's like someone playing for Liverpool and then turning out for Celtic the following day!" he added.

"It just wouldn't happen at top level and I don't see why this type of thing is occurring in the Welsh Premier and its associated leagues."

A number of top flight players also double up in the Cymru Alliance and Welsh Leagues and Afan Lido paid a high price last season when they were deducted three points and relegated, after fielding the ineligible Leigh Shrimpton who had been sent off in a Sunday League game.

The FAW is also in dispute with the Caernarfon & District League who operate a 'one-player, one-club' rule in the belief it is in their best interests, but which forced Caernarfon Town to withdraw from the Under-21 league.

From the welsh-premier.com website

Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us