Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Newi Cefn Druids 14/01/06 (English)

Canlyniadau Diweddar
Cawsom rediad gwael o ganlyniadau yn ddiweddar ac oherwydd hyn mae’r pedair gêm nesaf yn allweddol. Mae NEWI a Cwins y Grange - adref ac i ffwrdd - yn dimau sydd oddi tanom yn y tabl ac mae’r daith i Port Talbot, er ei bod yn anodd, heb fod yn un amhosibl inni gael rhywbeth allan ohono. Rym mewn sefyllfa anghyfforddus o agos at waelod y tabl ar hyn o bryd ac wedi colli presenoldeb un neu ddau o chwaraewyr. Dal allan mae Ryan Davies ac rydym wedi methu ei daldra a’i bresenoldeb yn y cefn. Cafodd un neu ddau o’r ail dîm gyfle yn y tîm cyntaf a hynny heb i ‘run ohonynt adael neb i lawr.

Cryfhau
Edrychwn i gryfhau’r garfan ac rydym wedi rhoi rhybudd 7 niwrnod ar ddau chwaraewr ond bydd yn rhaid aros i weld beth fydd yn digwydd yn ystod y dyddiau nesaf. Mae angen ychydig o brofiad arnom a hefyd y gallu i wneud cyfraniad i’r clwb. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn arwyddo chwaraewyr o’r Cymru Alliance a wedyn yn eu datblygu a mae hyn wedi talu ffordd inni. Tuedda chwaraewyr â phrofiad yn Uwch Gynghrair Cymru ofyn am ormod o arian. Mae’n anodd i glwb bychan gystadlu mewn cynghrair mor gystadleuol lle mae llawer o glybiau yn gwario arian cymharol fawr. Rhaid inni aros yn bositif.

TNS
Cawsom wers yn TNS lle roedd y tîm cartref yn eithriadol ar y diwrnod gan chwarae gêm â thempo uchel. Ond beth am rai o’r goliau? Roedd un yn gic dros ysgwydd gan amddiffynnwr canol a daeth un arall o wyneb Jiws yn dilyn bloc amddiffynnol ardderchog. Un o’r pethau bychan da a ddaeth o’r golled oedd y presenoldeb uchel yn yr ymarfer yn ystod yr wythnos - a sesiwn arbennig o dda. Mae hwyliau’r garfan yn dal yn bositif. Mae gennym hyder ein bod am droi’r gornel a sicrhau lle eleni eto yn y Cwpan Cenedlaethol. Ar ein dydd, medrwn berfformio’n dda fel y dangoswyd wrth guro’r Rhyl a chael gêm gyfartal yn erbyn TNS.

Cefnogaeth
Mae’r gefnogaeth a dderbyniodd y chwaraewyr oddi wrthych chi y cefnogwyr wedi bod yn ardderchog gyda’r bloeddio a’r canu yn gymorth mawr i’r chwaraewyr ddal ati.

Daliwch i gredu.
Port v Newi Cefn Druids 14/01/06

Recent Results
We are on a poor run of results at the moment and the next four games are pivotal to our season. NEWI, Grange Quins -home and away- are both teams below us in the table and the trip to Port Talbot next week will be difficult but it should not be impossible to get something out of it. We are in an uncomfortable position at the moment far too close to the bottom of the table for comfort. We have missed one or two players. Ryan Davies remains out and we missed his height and presence in defence. One or two of the reserves have been given their chance and have not let anybody down.

Strengthening
We are looking to strengthen the squad and 7 days notice has gone in for a couple of players. We will have to wait and see what happens to those over the next few days. We need a little experience but also ability, someone who can come in and do a job in the team for us. Over the past few years we have tended to shop in the Cymru Alliance and bring players through. This has served us well. Experienced Welsh Premier players tend to ask for too much money. We are a small club trying to compete in a competitive league where a lot of clubs are spending a lot of money. We have to remain positive.

TNS
We learnt a lesson at TNS and they were exceptional on the day, playing a high tempo game. But some of the goals they scored! A speculative overhead kick by a central defender and one deflected off Jiws’ face after an excellent defensive block. One of the small positives to come from the game is that training in the week was well attended and the session was excellent. The mood in the camp remains positive that we can achieve our goal of Premier Cup qualification again this season. On our day we can play well and compete. We have beaten Rhyl and drawn with TNS.

Support
The support the players receive from the supporters has been excellent with the songs and the chants certainly helping to keep the players going.

Keep it up.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us