Porthmadog
CPD Porthmadog FC
Noddwyd gan / Sponsored by Cymru1.net
Uwchgynghrair Cymru / Welsh Premier


Gartref / Home
Newyddion / News
Gemau / Fixtures
Canlyniadau / Results
Adroddiadau / Reports
Lluniau / Photos
Chwaraewyr / Players
Hanes / History
Cyfeiriadau / Directions
Siop / Shop
Archifau / Archive
Rheolwr / Manager
Trafod / Discussion
Eilyddion / Reserves
Dan-21 / Under-21
Erthyglau / Articles
Cysylltiadau / Links
Port v Hwlffordd / Haverfordwest 25/02/06 (English)

Edrych ymlaen
Er bod deuddeg gêm o’r tymor yn dal i’w chwarae, mae Osian a minnau yn edrych ymlaen yn barod gan weithio ar ein cynlluniau ar gyfer y tymor nesaf. Ein gobaith yw sicrhau bod nifer o’r garfan bresennol yn arwyddo cytundebau hirach a fydd yn eu cadw ar Y Traeth tan 2007 fan leiaf. Mae’r mwyafrif i weld yn ddigon hapus i wneud hyn a mae hynny’n gychwyniad da i’n cynlluniau tymor hir. Yn ogystal, bwriadwn edrych am chwaraewyr newydd i gryfhau’r garfan. Nid yw’n bosibl bob amser arwyddo’r chwaraewyr y dymunwn gyda rhai yn gweld y pellter teithio i Borthmadog yn ormod. Mae Porthmadog fel Hwlffordd, ein gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn, yn bell i’r gorllewin a mae rhai chwaraewyr, ond nid y cyfan diolch byth, yn amharod i deithio mor bell.

Chwaraewyr ifanc
Drwy’r adeg byddwn yn cadw llygad allan am chwaraewyr, rhai ifanc lleol neu rhai profiadol. Mae’r chwaraewyr ifanc a ddaeth o’r ail dîm yn gwneud yn dda ond nid yw’n bosib’ eu cynnwys am gêm gyfan. Mae angen eu meithrin yn amyneddgar tra ar yr un adeg gwneud yn siwr nad ydynt yn digalonni. Pan fyddant yn cael y cyfle, mae yna beryg’ iddynt ymdrechu gormod i greu argraff gan geisio rhoi’r bêl fydd yn rhwygo’r amddiffyn yn lle chwarae pêl syml ac effeithiol.

Cryfhau’r Garfan
Dydd Sadwrn, gwelwyd John Gwynfor Jones yn dychwelyd i’r Traeth. Bydd y chwaraewr poblogaidd hwn yn gyffeiliad inni yn ystod yr wythnosau nesaf. Hefyd gwnaeth Jason Sadler ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm adref. Estynnwn groeso i’r ddau. Y newyddion am anaf Aled Rowlands –ydych chi’n dal i’w gofio tybed- yw ei fod wedi derbyn y law driniaeth ar ei ben glin ac wedi cychwyn rhedeg rhywfaint. Gobeithiwn ei weld yn yr ymarfer at y tymor nesaf ym mis Gorffennaf. Byddai fel arwyddo chwaraewr newydd pe byddem yn cael Aled, gyda’i brofiad, yn ôl yn holliach.

Trefn y Gêmau
Mae’r holl drafferthion ynghylch y gêmau sy’n weddill wedi’i setlo gyda chymorth ysgrifennydd y gynghrair. Gyda’r gynghrair yn anfodlon i weld y tymor yn cael ei ymestyn, golyga hyn fod y clybiau yn wynebu cyfnod trwm o gêmau ond o leiaf mae’r cyfan wedi dod i drefn heb ffrae. Ein gêm nesaf fydd yr un yn erbyn Llanelli ar ddydd Mercher Mawrth 8fed. Dylai hon ddenu cefnogaeth dda gan fod yn gêm a ddylai apelio gydag un o’r ddau dîm proffesiynol sydd yn y gynghrair yn ymddangos. Hefyd bydd dau o gyn chwaraewyr Porthmadog sef Dyfan Pierce a Neil Thomas yng ngharfan Llanelli. Gobeithio cawn weld torf dda i’r gêm hon ar Y Traeth o dan y goleuadau.

Daliwch i gredu.
Port v Haverfordwest 25/02/06

Looking Ahead
Despite there being twelve games left of the present season both Osian and I are already working on our plans for next season. We are keen to secure many of the players in the current squad on longer contracts which will see them staying at the club until at least 2007. Most of the players seem happy to stay and that is a good start for our ongoing plans and added to that we are looking for new players to strengthen the squad. Getting a particular player is not always possible, for potential players have in the past sited the travelling distance to Porthmadog as one reason for not joining us. Porthmadog just like last Saturday’s opponents, Haverfordwest, are at the end of a geographical line and some players, thankfully not all, are not prepared to do the travelling involved.

Young players
We are constantly looking at possible players both young up and coming local players and more experienced players. The young lads who are coming through from the reserves are doing well but it is not possible to give them a whole game. They need to be nurtured patiently but at the same time not dishearten them. When they get a chance there is a tendency to get too uptight in an attempt to impress and try the killer ball when a simple ball would be more effective.

Strengthening the Squad
Saturday saw John Gwynfor Jones return to Y Traeth, a popular player he will be a big asset to us in the coming weeks. Jason Sadler made his home debut as sub on Saturday. We welcome both of them. On the injury front Aled Rowlands, remember him, has had his knee operation and has started some running. We are hopeful that he will be fit and ready for pre-season training in July. As an experienced WPL player he could be like a new signing for us if he fully regains his fitness.

Fixtures
All the congestion surrounding the remaining fixtures has now been sorted out with the help of the league secretary. With the league unwilling to see an extension to the season this has meant clubs being forced into a heavy schedule of fixtures but it seems that everything has now been sorted out amicably. Our next home fixture is against Llanelli on Wednesday, March 8th. This is an attractive encounter with Llanelli who are the league’s second pro club and have two former Porthmadog players, Neil Thomas and Dyfan Pierce, in their ranks. Hopefully a midweek match under the lights will draw a decent crowd.

Thanks for your continued support.
Porthmadog

Cymru1.net

Cysylltwch â ni / Contact us